Dewi was a 6th-century monk and bishop who founded a strict monastic community at Glyn Rhosyn, where St Davids Cathedral now stands. His monks ploughed by hand, drank only water and ate bread and herbs.
His life was written down by Rhygyfarch around 1090, by which time Dewi was the most important saint in Wales. Pope Callixtus II recognised him in the 12th century, and 1 March, Dydd Gŵyl Dewi, has been celebrated as the national day for centuries.
Mynach ac esgob o’r chweched ganrif oedd Dewi, a sefydlodd gymuned fynachaidd lem yng Nglyn Rhosyn, lle saif Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Byddai ei fynachod yn aredig â llaw, yn yfed dŵr yn unig ac yn bwyta bara a llysiau.
Ysgrifennwyd ei fuchedd gan Rygyfarch tua 1090, pan oedd Dewi eisoes yn brif sant Cymru. Cydnabuwyd ef gan y Pab Calixtus II yn y ddeuddegfed ganrif, ac mae 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi, wedi’i ddathlu fel diwrnod cenedlaethol ers canrifoedd.