1457–1509Henry VIIHarri Tudur
Founder of the TudorsSylfaenydd y TuduriaidBorn at Pembroke Castle, he landed in Wales in 1485, won at Bosworth and founded the Tudor dynasty.Fe’i ganed yng Nghastell Penfro. Glaniodd yng Nghymru yn 1485, enillodd ym Mosworth a sefydlu llinach y Tuduriaid.
c. 1545–1604William Morgan
Bishop and translatorEsgob a chyfieithyddTranslated the full Bible into Welsh in 1588. His prose became the standard for written Welsh.Cyfieithodd y Beibl cyfan i’r Gymraeg yn 1588. Daeth ei ryddiaith yn safon i’r Gymraeg ysgrifenedig.
1660–1709Edward Lhuyd
Naturalist and linguistNaturiaethwr ac ieithyddKeeper of the Ashmolean Museum, who travelled the Celtic lands and showed that their languages were related.Ceidwad Amgueddfa’r Ashmolean, a deithiodd y gwledydd Celtaidd a dangos bod eu hieithoedd yn perthyn.
1683–1761Griffith Jones
Of LlanddowrorLlanddowrorHis circulating schools taught a large share of the Welsh people to read, in Welsh.Dysgodd ei ysgolion cylchynol gyfran helaeth o bobl Cymru i ddarllen, a hynny yn Gymraeg.
1714–1773Howell HarrisHywel Harris
RevivalistDiwygiwrFiery preacher of the Methodist revival who founded a religious community at Trefeca.Pregethwr tanbaid y diwygiad Methodistaidd a sefydlodd gymuned grefyddol yn Nhrefeca.
1717–1791William Williams Pantycelyn
The Sweet SingerY Pêr GaniedyddWrote hundreds of hymns, including ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’, known in English as ‘Guide me, O thou great Redeemer’.Ysgrifennodd gannoedd o emynau, gan gynnwys ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’.
1747–1826Iolo Morganwg
Edward WilliamsStonemason, poet and inspired forger who created the Gorsedd of Bards, still part of every National Eisteddfod.Saer maen, bardd a ffugiwr dawnus a greodd Orsedd y Beirdd, sy’n dal yn rhan o bob Eisteddfod Genedlaethol.
c. 1750–1832Jemima Nicholas
Jemima FawrFishguard cobbler said to have rounded up French soldiers with a pitchfork during the 1797 invasion.Crydd o Abergwaun y dywedir iddi gorlannu milwyr Ffrengig â phicfforch yn ystod goresgyniad 1797.
1771–1858Robert Owen
Of NewtownY DrenewyddPioneer of co-operation and better factory conditions, he built a model community at New Lanark.Arloeswr cydweithredu ac amodau gwell mewn ffatrïoedd, a adeiladodd gymuned ddelfrydol yn New Lanark.
1776–1805Ann Griffiths
Hymn writerEmynyddesA farmer’s daughter from Dolwar Fach in Montgomeryshire whose few hymns are among the finest religious poetry in Welsh.Merch fferm o Ddolwar Fach yn Sir Drefaldwyn y mae ei hychydig emynau ymhlith y farddoniaeth grefyddol orau yn Gymraeg.
1784–1864Mary Jones
The girl who walked for a BibleY ferch a gerddodd am FeiblA weaver’s daughter from Llanfihangel-y-Pennant who saved for six years to buy her own Welsh Bible.Merch gwehydd o Lanfihangel-y-Pennant a gynilodd am chwe blynedd i brynu ei Beibl Cymraeg ei hun.
1789–1860Betsi Cadwaladr
NurseNyrsFrom Bala, she nursed soldiers in the Crimean War, clashing at times with Florence Nightingale.O’r Bala, bu’n nyrsio milwyr yn Rhyfel y Crimea, gan anghytuno weithiau â Florence Nightingale.
1800–1893Dr William Price
Rebel doctor of LlantrisantMeddyg gwrthryfelgar LlantrisantA Chartist, druid and vegetarian doctor whose cremation of his baby son led to cremation becoming legal.Siartydd, derwydd a meddyg llysieuol yr arweiniodd ei amlosgiad o’i fab bach at gyfreithloni amlosgi.
1802–1896Lady LlanoverArglwyddes Llanofer
Augusta HallGwenynen GwentPatron of Welsh culture who championed the harp, the language and the Welsh national costume.Noddwr diwylliant Cymru a hyrwyddodd y delyn, yr iaith a’r wisg Gymreig.
1808–1831Dic Penderyn
Richard LewisHanged after the Merthyr Rising for a crime many believed he did not commit.Crogwyd ar ôl Gwrthryfel Merthyr am drosedd y credai llawer na wnaeth ei chyflawni.
1812–1888Henry Richard
Apostle of PeaceApostol HeddwchMP for Merthyr who campaigned for international arbitration and for the rights of Welsh tenants.AS Merthyr a ymgyrchodd dros gyflafareddu rhyngwladol a thros hawliau tenantiaid Cymru.
1822–1898Michael D. Jones
Father of Y WladfaTad y WladfaA Bala minister who dreamed of a Welsh-speaking homeland overseas and led the plan to settle Patagonia.Gweinidog o’r Bala a freuddwydiodd am famwlad Gymraeg dros y môr ac a arweiniodd y cynllun i wladychu Patagonia.
1839–1916Cranogwen
Sailor, poet and editorMorwr, bardd a golygyddSarah Jane Rees of Llangrannog, a master mariner’s teacher, prize-winning poet and editor of a Welsh magazine for women.Sarah Jane Rees o Langrannog, athrawes morwriaeth, bardd buddugol a golygydd cylchgrawn Cymraeg i fenywod.
1841–1903Joseph Parry
Composer of ‘Myfanwy’Cyfansoddwr ‘Myfanwy’A Merthyr boy who worked in the ironworks at ten and became the best-known Welsh composer of his age.Bachgen o Ferthyr a weithiodd yn y gwaith haearn yn ddeg oed ac a ddaeth yn gyfansoddwr Cymreig enwocaf ei oes.
1878–1951Evan Roberts
Voice of the 1904 revivalLlais diwygiad 1904A former miner from Loughor whose preaching sparked the last great religious revival in Wales.Cyn-löwr o Gasllwchwr y taniodd ei bregethu’r diwygiad crefyddol mawr olaf yng Nghymru.