History of WalesHanes Cymru / TrailsLlwybrau

TrailLlwybr

Chapel and songCapel a chân

Wales is called the land of song, and much of that song came from faith: hymns, Bible translation, revival and the eisteddfod.

This trail follows the words and music that kept Welsh alive.

Gelwir Cymru’n wlad y gân, a daeth llawer o’r gân honno o ffydd: emynau, cyfieithu’r Beibl, diwygiad a’r eisteddfod.

Mae’r llwybr hwn yn dilyn y geiriau a’r gerddoriaeth a gadwodd y Gymraeg yn fyw.

Stops on the trailArosfannau ar y llwybr

  1. Taliesin

    Court poet to Urien of Rheged, honoured for centuries as the greatest of the early bards.Bardd llys Urien Rheged, a anrhydeddwyd am ganrifoedd fel y mwyaf o’r Cynfeirdd.

  2. The first eisteddfodYr eisteddfod gyntaf

    At Christmas, the Lord Rhys hosts a contest of poets and musicians at Cardigan Castle.Adeg y Nadolig, mae’r Arglwydd Rhys yn cynnal cystadleuaeth i feirdd a cherddorion yng Nghastell Aberteifi.

  3. Dafydd ap Gwilym

    The greatest poet of medieval Wales, who wrote of love and nature with wit and daring.Bardd mwyaf Cymru’r Oesoedd Canol, a ganodd am gariad a natur yn ffraeth a beiddgar.

  4. William Morgan

    Translated the full Bible into Welsh in 1588. His prose became the standard for written Welsh.Cyfieithodd y Beibl cyfan i’r Gymraeg yn 1588. Daeth ei ryddiaith yn safon i’r Gymraeg ysgrifenedig.

  5. The circulating schoolsYr ysgolion cylchynol

    Griffith Jones begins schools that move from parish to parish, teaching many thousands to read Welsh.Mae Griffith Jones yn dechrau ysgolion sy’n symud o blwyf i blwyf, gan ddysgu miloedd lawer i ddarllen Cymraeg.

  6. William Williams Pantycelyn

    Wrote hundreds of hymns, including ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’, known in English as ‘Guide me, O thou great Redeemer’.Ysgrifennodd gannoedd o emynau, gan gynnwys ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’.

  7. Iolo Morganwg

    Stonemason, poet and inspired forger who created the Gorsedd of Bards, still part of every National Eisteddfod.Saer maen, bardd a ffugiwr dawnus a greodd Orsedd y Beirdd, sy’n dal yn rhan o bob Eisteddfod Genedlaethol.

  8. Hen Wlad Fy Nhadau

    Evan and James James of Pontypridd write the song that becomes the national anthem.Mae Evan a James James o Bontypridd yn cyfansoddi’r gân a ddaw’n anthem genedlaethol.

  9. The great revivalDiwygiad 1904

    Evan Roberts leads a religious revival that fills chapels across Wales and spreads abroad.Mae Evan Roberts yn arwain diwygiad crefyddol sy’n llenwi capeli ledled Cymru ac yn lledu dramor.

  10. Capel Celyn

    A Welsh-speaking village drowned beneath Llyn Celyn to supply Liverpool. ‘Cofiwch Dryweryn’ is still painted on walls across Wales.Pentref Cymraeg a foddwyd dan Lyn Celyn i gyflenwi Lerpwl. Mae ‘Cofiwch Dryweryn’ yn dal i gael ei baentio ar waliau ledled Cymru.