Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Ystori Doethion Rhufain hyd Sôn am Ysprydion

Ystori Doethion Rhufain and Sôn am Ysprydion: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Ystori Doethion Rhufain

Deiaclasian oeddymherawdwrynEhufain. Acwedimarw Efa, ei wraig briod ef, a gado xm mab a oedd etifedd iddo ef, efe a ddanfones i nol Saith Doethion Rhufaiît ato; sef oedd eu henwau, Banteilas, ac Wystws, a Leteilws, a Malcwidas, Cato Hen, lesse, a Marteinws. A’rgwyr hyny, wedi dyfod, a ofynasant i’r ymherawdwrpaachosy cyrchasai efe hwynt yno. “Llyma yr achos,” ebai’r ymherawdwr, “un mab y sydd i mi, a’i ro’i a wnaf i ddysgu moesau a defodau.” “Rhyngwyf fi a Duw,” ebai Banteilas, “pe rhoddit ti dy fab ataf fi, mi a ddysgwn iddo gymaint ag a wn inau, mi a’m chwech cydymaith, erbyn pen y saith mlynedd.” “le,” ebai Gwstws, “rhodder y mab ataf fi, a mi a ddysgaf iddo erbyn pen y saith mlynedd gymaint aga wn, mi a’m chwech cydymaith.” “le,” ebai Cato Hen, “herwydd y ddysg a’r athryHth a gynnero y mab, addawaf fi ei ddysgu iddo ef.” “le,” ebai lesse “os ataf finau y rhoddi di dy fab i ddysgu, minau a”i lysgaf ef goreu gallwyf.” Ac yna y cafas yr ymherawdwr yn ei gynghor roddi y mab, ar faeth, at y Saith Doethion; ac adeiladu tŷ a wnaethpwyd ar lan yr afon Deibr, mewn lle caruaidd ar ddyff’ryn gwastad sych ar Faes Rhufain; fel y b’ai ddisathr y lle hwnw. A hwy a ysgrifenasaut y Saith Celfyddyd ar y wal o bob parth i’r tŷ, ac a ddysgasant y mab onid oedd aeddfed ei synwyr, a chymhenddoeth ei barablau, ac araf-gall ei weithredoedd.

Ac yna y priodes yr ymherawdwr ymherodres wych o wlad bell, a dyfod a hi i’w lys ef. Ac ar ben talm o amser, hi a ymofyllodd â phob dyn a oedd dim plant i’r ymterawdwr; ac tm diwrnod, gofynodd i hen wrach heb un dant yn ei phen, “Er y nef, mynag i mi y gwir.” “Nid oes ìddo im mab,” ebai’r wrach. “Gwae fi ei fod heb yr un,” ebai’r ymherodres. “Ni raid i ti hyny,” ebai’r wrach, “ef a gaiff blant o honot ti, er nas caffai o arall; ao na fydd di drist, un mab y syddi’rymherawdwr, ynei ddysgu gyda Saith Doethion Rhufain.” Ac yna y daeth hi at yr ymherawdwr yn llawen, ganddywedyd wrtho, “Paham y celit ti dy blantrhagof fi?” “Nis celaf finau bellach yn hwy,” ebai’rymherawdwr, “acyforumiaddanfonaf uni’w nol ef.”

A’rnoson hono, fel yr oedd ymaba’iathrawon yn rhodio yn yr hwyr, hwy a welent yn eglurder y ser a chyffroedigaeth y sygnedd, y byddai y mab yn ŵr dienydd, onibai amddiffyn cymhenddoeth arno. A’r mab ei hun a weles hyny, ac yna. y dywed efe wi-th ei athrawon fel hyn:— “Pe amddiffynech chwi fi â’ch doethinebysaithdiwrnod cyntaf, minau a amddiffynwn fy hun yi- wythfed dydd.” Ac addo a wnaethant.

A thranoeth, wele genadau yn dyfod oddiwrth yrymherawdwr yn erchi dyfod â’r mab i’wddangosi’rymheredres newydd. Tntau a ymdrwsiodd mewn sidan, a melfed, a brethyn aur; a myned a wnaeth tua llys yr ymerawdwr a’i athrawon gydag ef. Yna, wedi ei ddyfod i’r Llys, a’i groesawu gan ei dad a’r holl foneddigion, ni ddy wed ef un gair. A drwg yr aeth gan yr ymherawdo weled ei unig fab yn fud; ac erchi ei ddwyn i’w ddangos i’r ymherodres. Pan y gweles hithau ef, hi a enynwyd o’i serch. A hi a’i dug ef i fewn ystafell ddirgeledig, a thrwy gellwair geiriau serchol yr ymddiddanodd hi âg ef, gan geisio ganddo adael llwybrau rhinwedd. A’r gwas ifanc, pan weles hyny, a adewis y tŷ iddi hi; a hithau, pan weles hyny, a roddes lef uchel, a thynu gwisg ei i”)hen, a’i fwrw i’r llawr; a chyrchu tuagystafellyrymherawdwr; arhyfedd nad oedd ysig penau ei bysedd, rhag mor ffested y maeddai ei dwy- law yn nghyd; a myned i gwyno trais a gorddwy wrth yr ymherawdwr rhay y mab, a dywedyd ei fod ef yn ceisiaw dwyn trais arni hi. Ac yna y tyngoddyr ymherawdwr y llŵ mwyaf — un a’m fudaniaeth ei fab, nad oedd waeth ganddo ei farw na’i fy w; yr ail, o achos sarhad y frenines — na byddai ei enaid ynddo yn hwy nag hyd dranoeth. A’r nos hono, y dywed yr ymherodres wrth yr ymherawdwr, “Ef a dderfydd i ti am dy fab fel y darfu gynt i’r pren pinus mawr o achos y binwydden fechan ag oedd yn tyfu yn ei ymyl, a changen o’r fawr yn llesteirio i’r fechan dyfu. Yna yr ercliis y bwrdais bioedd y gwydd i’w arddwr dori cangen y binwydden ben ag oedd yn llesteirio ar y fechan gyfodi. Ac wedi tori y gainc, y pren yn gwbl a grinodd; ac yna yr erchis ei dori oll. Megys hyn y derfydd i tithau am dy fab a roddaist i’w feithrin at y Saith Wyr Doeth, er colled i ti. Y mae ef dan gêl yn ceisio undeb y gwyr da hyn, i’th ddistryw di.”

A’r ymherawdwr a lidiodd, ac a addawodd ei ddyfetha dranoeth. Wedi treulio y dydd hwnw a’r nos hono ar ardduniant a digrifwch i’r frenhines, yn ieuenctyd y dydd dranoeth y cyfodes yr ymherawdwr, a gwisgo amdano, a chyrchu i’r dadleudy, a gofyn i’r doethion pa angau a wneid ar ei fab ef.

Yna, codes Beatilws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn:— “Arglwydd ymherawdwi’,” ebaief, “os o achos foddy fab yn fud y peri di ei roddi ef i angau, iawnach fyddai bod yn drugarog wrtho na bod yn greulon. Trymach iddo ef yr anaf nag i neb arall. Os o achos cyhuddiad yr ymherodres y peri di roi dy fab i angau, un ffunud y derfydd iti am dy fab, ag y darfu gynt i farchog boneddig am ei filgi.” “Beth oedd hyny P” ebai’r ymherawdwr. “I’mcyff’es i Dduw, nis mynegaf it’ oni roddi dy air ar arbed y mab heddyw.” “Rhof yn wn’,” ebai’r ymherawdwr, “mynag i mi y chwedl.”

“Yr oedd marchog cadarn gwych yn Rhufain, a’i lys wrth ystlys y gaer. Ac un diwi’nod yr oedd dwrdd mawr rhwng arglwyddi, a marchogion, a gwyr mawr; ac yna myned a wnaeth yrarglwyddes a’i mamaethodiben y gaer i edrych ar y chwareu, a’r holl ddynion i gyd, heb adael neb yn y palas. Eithr mab bychan oedd i’r marchog llai na blwydd, yn y gadair yn cysgu yn y neuadd, a milgi yn gorwedd ar y brwyn yn ei ymyl. A chau weryriad y meirch, ac angerdd y gwyr, a thi’wst y gwyr yn cui’o wrth y tarianau, y deffroes gwiber o wâl y dref, a chyrchu tua neuadd y marchog, ac arganfod y mab yn cysgu yn ei gawell, a dwyn hynt tuag ato. A chyn i’r sarph gael gafael yn y mab, bwrw naid o’r milgi, a gafael yn y wiber, a’r wiber ynddo yntau; a chan ei hymladd ill dau, troi o’r cawell a’i wyneb i waered, a’r mab ynddo; a’r milgi a laddodd y wiber, a’i gado yn ddrylliau yn ymyl y cawell. Yna, pan ddaeth y mamaethod i mewn, a gweled y cawell a’i wyneb i waered, a’r gwaed o bob parth iddo, myned a wnaethantdan lefain at eu harglwyddes, a dywedyd wrthi i’r milgi ladd ei hunig fab hi, yr hwn oedd yn cysgu yn y cawell. Myned a wnaeth hithau dan lefain at y marchog, gan ffusto ei dwylaw yn nghyd, a dywedyd i’r milgi ladd ei unig fab ef. A’r milgi oedd yn gorwedd yn lluddedig yn ymyl y cawell. A phan glywes y milgi ei feistr yn dyfod i fewn, codi a wnaeth i’w gyfarfod; a’r marchog a dynodd ei gledd, ac a dorodd ben y milgi oddiar ei gorph. O achos cyhuddiad y mamaethod, ac er dyddanu yr arg- Iwyddes, y marchog a droes y cawell a’i wyneb i fynu; ac yno yr oedd y mab yn holl iach, dan y cawell yn cysgu, â’r wiber yn ddrylliau mân yn ymyl. Ac yna yr ymofidiodd y marchog ladd o hono ar arch ei wraig filgi cystal â hwnw.”

Yna y dywed yr ymherawdwr na leddid ei fab ef y dydd hwnw.

Ac wedi terfyn y dadleu, i’r neuadd yr aethant; a phan oedd barod y swper, i’r byrddau y daethant bawb yn ei radd. A phan wybu yr ymherodres fod yn well gan yr ymherawdwr ymddiddan na bwyta, hi a ymddiddanodd ag ef, ac a ofynodd os rhoddwyd y mab i angau. “Na ddo eto,” ebai’r ymherawdwr. “Mi a wn,” ebai hi, “mai Doethion Rhufain a beris hyny. Un fodd y derfydd i ti o gredu iddynt hwy ag y darfu i’r baedd gwyllt a’r bugail.” “Pa fodd y bu hjmy ■'” ebai’r ymherawdwr. “Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar ro’i’r mab i angau yfory.” “Gwnaf yn wir,” ebai’r ymherawdwr.

“Llyma’r chwedl,” ebai hi. “Pren pêrffrwyth oedd mewn fforest yn Ffrainc; a baedd gwyllt oedd yn y fforest, yr hwn ni fynai ffrwyth un pren yn y coed namyn y pren hwnw. Un diwrnod, bugall a ganfu y pren, a gwelodd yr afalau yn deg arno, ac yn felusber addfed, a chynull llonaid ei arffedog a orug efe ohonynt. Ac ar hyny, dyma y baedd yn dyfod; ac ni chafodd y bugail onid encyd i ddringo i frig y pren, a’i afalau ganto; a phan welodd y baedd nad oedd afalau yno fel arfer, ffroeni ac ysgyrnygu danedd a orug, ac arganfod y bugall yn mrig y pren; a thrwy lid dechi-eu diwreiddio’r pren a orug y baedd. A phan welodd y bugail hyny, efe a ddechreuodd ollwng afalau i lawr i’r baedd. A’r baedd, wedi bwyta ei wala, a gysgodd tan y pren; a phan y gwelodd yntau ef yn cysgu efe a ddisgynodd i’r llawr, ac â’i gyllell efe a dorodd gorn gwddwg y baedd.

Pelly y derfydd i faedd Rhufain o gredu y Saith Doethion; a’th fab a ddwg ffrwyth dy ymherodraeth oddi arnat.” A’r ymherawdwr a dyngodd Iŵ mawr na byddai ei fab fy w yn hwy na thranoeth. A thranoeth, trwy ddirfawr lid, efe a ddaeth i’r dadleudy, ac ar hynt erchi dienyddio y mab.

Yna y codes Gwystws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn:— “Arglwydd ymherawdwr, nachaniataednefiti wneuthur fel y gwnaeth Ipogras am ei nai.” “Beth oedd hyny?” ebai’r ymherawdwr. “Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar amddiffyn y mab heddyw.” “Gwnaf yn wir,” ebai’r ymherawdwr.

“Llyma’r chwedl: Goreu physigwr yn y byd oedd Ipogras, a nai fab chwaer oedd iddo. A brenin Hungari a ddanfones i erchi i Ipogras ddyfod i iachau mab oedd iddo yn wan-glaf ddiobaith. A hen ŵr dall oedd Ipogras; nis gallai ef na cherdded na marchogaeth ffordd cyn belled â hyny. Ac efe a ddanfonodd ei nai ieuanc yno; yr hwn wedi dyfod i’r llys a fwriodd olwg ar y brenin ac ar y frenines ac ar y mab, ac a ddywed, ’Nis gallaf fi ei feddyginiaethu ef heb wybod yn nghyntaf naturiaeth ei dad.' Yna y dywed ei fam mai ordderch ydoedd o Iarll Nafarn. A’r meddyg ieuanc a barodd roddi cig ych ifanc wedi ei rostio i’r mab, ac efe a ddaeth yn holl iach. Wedi i’r nai ddyfod yn ol, Ipogres a ofynes iddo pa fodd yr iachaodd efe y llanc yn holl iach. ' A chig ych ifanc,' ebai y nai. ' Os gwir a ddywedi, was,' ebai Ipogras, ' o ordderchiad y caed y mab hwnw.” Gwir,' ebai’r nai. Pan welodd yr hen wr fod ei nai mor gyfarwydd ag yntau, efe a benderfynodd ei ladd. Archodd iddo ddyfod i rodio gydag ef i le disathr dirgeledig; ac yno efe a ddywedodd, ' Mi a glywaf aroglau.llysiau da;” mi a’i gwelaf hwynt,' ebai’r nai, ' a fynwch chwihwynt?” Mynaf,' ebai Ipogras, ' hwde fy llaw; arwain fi uwch eu penau.' Ac felly y gwnaeth ei nai. Ac fel yr oedd y gwas ieuanc yn gostwng ei gefn i fedi’r llysiau, tynu ei ddagr a wnaeth fpogras, a brathu ei nai o’r tu cefn iddo yn ei galon, a’i ladd yn farw. Am hyny y cablodd pawb Ipogras, ac y melldigwyd ef.

Acfelly, arglwyddymherawdwr,y’thfelldithirdithau, o pheri ro’i dy fab i angau.” “Na pharaf yn wir, heddy w,” ebai’r ymherawdwr.

A’r nos hono, ar ol swper, gofyn a wnaeth yr yrmherodres a roisid y mab i angau. “Na ddo,” ebai yntau. “le,” ebe hithau, “Doethion Rhufain a beris hyny. Un fifunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i hen ŵr da y tores ei fab ei ben.” '• Pa fodd y bu hyny?” ebai’r ymherawdwr. “Yn wir, nis mynegaf oni roddi di dy air ar ro’i y mab i angau yforu.” “Gwnaf yn wir,” ebai’r ymherawdwr.

“Llyina’i” ch.wedl,” ebai hithau: “Mi a p: lywais fod ymherawdr yn Rhufain, gwr tra chwanog i dda ìbydol, sef oedd ei enw, Grasian. Ac wedi iddo gasglu Llonaid tŵr o aur ac arian, a thlysau mawrwerth, gosodes wr o gybydd cyfoethog yn geidwad ar y tŵr hwn, tra f’ai ef yn casglu ychwaneg mewn lleoedd eraill. Ac yr gwr boneddig tlawd yn trigo yn y ddinas, a gwas ieuanc dihafarch-lym yn fab iddo. A’r gwr hwn a’i fab a ddaethant o hyd nos am ben y tŵr, ac a”i torasant, gan ddwyn Llawer o’r da yn Lladrad. A phan ddaeth y ceidwad i edrych y tvrr, canfu fod llawer o’r da wedi myned; ac yn ystrywgall, efe a osododd lud ardymheredig yn y Ue y toresid y tŵr o’r tu mewn, i edrych a allai ddal y lladron, a’u dwyn at yr ymherawdwr. Y Lladron, wedi treulio y da hwnw, a’i osod &r diroedd a phalasau teg, a ddaethant yr ail waith tua’r tŵr; ac ar ol myned i mewn, cawsant ddigon o dda. Ond wrth ddyfod aflan, a’u hyspail ganddynt, y gwr hen a syrthiodd i’r gerwyniad lud hyd at ei êu. Yna gofynodd g’ynghor gan ei fab. Y mab a ddywed: Ty nghynghor fyddai it’ dori dy ben, a’i guddio mewn rhyw le dirgel; canys os byw a fyddi, ti a boenir ac a gystuddir, a pherir i ti gyfaddef y da, a’r sawl fu gyda thi yn ei ladrata.” Och! fy arglwydd fab, nid felly y gwnei di; trugarocaf gwr yn y byd y w’r ymherawdwr; a’r da sydd genyf a roddaf i fynu iddo, a’m bywyd a gaf.' Yna y dywed y mab:— ' Mjm y Gwr y credaf iddo, nid anturiaf fi dri pheth yn hytrach na thori dy ben oddiwrth dy gorph.” Pa dri pheth yw y rhai’ny?' ebai y tad. ' Y da sydd genyf yr awr hon, a’m bywyd fy hun, a’r tiroedd a’r palasau teg a brynaist tithau.' Ac yn greulon efe a dorodd ymaith bell’ ei dad.”

“Ac felly y pâr dy fab dy ladd dithau o chwant dy deyrnas di a’th gŵeth.” “Myn fy nghred,” ebai’r ymherawdwr, “ni bydd efe byw ond hyd y bore yforu.” A thranoeth, yrymherawdwraaeth i’rdadleudy, ac archodd roddi y mab i farwolaeth yn ddiddeuair.

Yna y codes Lentiliws i fynu, acydywed; — “Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu i hen wr boneddig gynt am wraig ieuanc oedd iddo, yr hon a garai ef yn fawr.” “Beth oedd hyny!'” ebai’r ymherawdwr. “Yn wir nis mynegaf, oni roddi di dy air ar gadw y mab ieuanc heddyw.” “Gwnaf yn wir,” ebai’r ymherawdwr.

“Llyma’r chwedl,” ebai ef, “Hen wr da boneddig gynt a briodes forwyn ieuanc foneddig; ac ni bu’n hir ar ol y briodas oni fwriodd hi gariad lledradaidd ar was ieuanc oedd yn llys arglwydd cyfagos. Alú a gytunodd i gwrdd ei gordderch gelu y nos. Yna myned i’r gwely rhwng ei gwr â’r pared; a chyn gynted ag y cysgodd y gwr hen, hi a godes o’i gwely yn araf a lledradaidd, ac a wisgodd am dani, a myned yn ddystaw trwy ddrws y neuadd, ac yn gymhwys at ei gordderch. Ac ni bu hir wedi hyny nea dihuno yr hen wr, a rhyfeddu glywed ei wely yn wag o’i gymhar; a thrwy lid mawr y codes ef i fynu, a chael canwyll, ac ymofyn am dani yn mhob rhan o’r plas, eithr yn aflwyddianus. Ac efe a ddaeth at ymyl y drws, a’i gael heb un pren, a’i drosolio yn ffest â dau drosol, megys na ddo’i hi i’w dŷ ef byth. Yn mhen yr hir a’r hwyr, hi a ddaeth at y drws, ac a’i cafodd wedi ei folltio yn dŷn; ac erchi agor a wnaeth hi. ' Dyma fy ngair, nas agoraf,' ebai’r gwr, ' ac yforu, yn ngwydd dy genedl, mi a fynaf wneuthur y gyfraith arnat ti. Sef oedd y gyfraith yn yr amser hwnw, llabyddio â meini i farwolaeth. Ac wrth dalcen y tŷ, yr oedd llyn mawr o ddwfr, tua dau wrhyd o ddyfnder. Yna y dywed y wraig, ' Myn y Gwr y credaf iddo,' ebai hi, ' gwell genyf fi farw na hyny; neu yn y pysgodlyn fy moddi, na bod y dienydd hwnw arnaf.' A hi a gymerth faen mawr, ac a’i cododd ar ei hysgwydd, a’i daflu i ganol y llyn, a rhedeg i gornel i ymguddio. Pan glybu yntau y swn, daeth ar redeg i lawr o’r llofft, agores ddrws y neuadd, a rhedodd i’r llyn hyd ei wâr. Yna y rhedodd hithau trwy y drws, ac i’r llotí’t, a chan roddi ei phen trwy y ffenestr, hi a ofynodd iddo beth a wnai ef yno. ' Dy geisio di,' ebai ef. ’Yr wyf fi yma ar y llofft yn esmwyth iawn,' ebai hi. A gwylwyr y dref addaethant yno, a daliasant y gwr hen, a gwaeddodd hithau trwy y ffenestr, ' Deliwch y cydymaith yna, a gwnewch y gyfraith arno, canys nid iawn i hen wr syn o’r fath yna godi oddiwrth ei wraig briod lân a myned at buteiniaid.' Yna’r gwylwyr a’i dygasant i’r carchar; a gorfu arno ddyoddef yr angau a ddylasai hi ei ddyoddef, cyn haner y dydd íiwnw, sef ei labyddio â meini.”

“Acfelly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau am dy fab; y hi sydd gelwyddog, a’r mab y sydd wir.” “Mi a’i harbedaf ef, ynte, heddyw.”

Ac wedi darfod swper, hi a ddy wed wrtho “Mi a wn na adawodd Doethion Rhufain roi y mab i angau heddyw.” “Na ddo yn wir,” ebai yntau. “le,” ebaihi, “un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i un o ddinaswyr Rhufain am bren pêrffrwyth oedd iddo, yr hwn oedd anwyl ganddo.” “Beth oedd hyny?” ebai’r ymherawdwr. “Yn “wir nia mynegaf, oni roddi di dy air ar roi’r mab i anjîau yforu.” “Gwnaf yn wir,” ebai yntau.

“LljTna’r chwedl,” ebai hi, — “Yr oedd i wr boneddig gynt yn Rhufain, bren pêrffrwyth yn tyfu yn ei berllan, ac afallen ieuanc yn tyfu wrth fôn yr hen afallen; ac yr. oedd yn anwyl gan y gwr yr hen afallen, eithr anwylach ganddo yr un ieuanc, oherwydd ei thegwch. ' Yn wir,” ebai’r garddwr, ' pe fy nghynghor I a wnelit, ti a barit dori y pren ieuanc am ei fod yn esgjTibren lladron a dynion drwg iddynt allu yspeilio yr hen bren o’i ffrwyth; ac nid oes modd di-ingo iddo ond ar hyd y pren ieuanc” Yn wir,' ebai yntau, ’ni thorir dim o’r pren ieuanc” Boed felly,' ebai’r garddwr. A’r nos hono y daeth lladron i’r berllan, ac yspeiliasant y pren yn gwbl o’i ffrwyth, a’i adael yn 11 wm erbyn tranoeth.”

“Felly, arglwydd ymherawdr, dy fab dithau aDoethion Rhufain a’th yspeiliant er mwyn dy deyrnas, oni jíheri di ro’i dy fab i angau; yr hwn a geisiodd wneuthuB^giom a chywilydd i mi ac i tithau.” “Yn wir,” ebai’r ynnherawdr, “mi a baraf ei ro’i ef i angau yforu, a Doethion’ Rhufain gydag ef.” Bore dranoeth, efe a ddaeth i’r dadleudy mewn llid mawr, ac a barodd roddi’r mab i angau yn ddiohir, a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Malcwidas i fynu, ac y dywed fel hyn:— “Os ar anogaeth dy wraig y peridi roddi dy fab i farwolaeth, hi a’th sioma di, fel y siomodd y blaidd y bugail.” “Pa fodd y bu hjmy?” “Yn wir nis mynegaf oni roddi di dy air ar gadw y mab heddyw.” “Gwnaf yn wir,” ebai yntau.

“Blaidd creulon oedd gynt yn ceisio cyfle ar y bugail a’i anifeiliaid i’w Lladd. Êithr yn oedd cwpl o waedgwn mawr gan y bugail, pa rai a ymlidient y blaidd, pan ddelai yn agos; yntau a gynygiodd heddwch i’r bugail os danfonai y cwn yn rhwym ato ef. A’r bugail ynfyd a gredodd weniaith y blaidd a’i ffalster, ac a ddanfonodd y cwn yn rhwym iddo. Yntau yn gyflym a’u lladdes hwynt; ac yn fuan wedi hjmy, w anifeiliaid; ac o’r diwedd y bugail.” “Megys y lladdodd y blaidd y bugail a’i holl anifeiliaid, felly y lladd dy wraig dithau, o pheri roddi dy fab i angau o’i hanogaeth hi.” “Ni pharaf hyny heddy w yn wir,” ebai’r ymherawdwr.

Ac wedi swper y dywed yr ymherodres wrtho, “Megys y tyn dail a sawrau teg yr adwedd oddiwrth y bytheuaid, hyd pan gollont hwy ol y llwdn; felly y mae Doethion Rhufain i’th dynu dithau, trwy eiriau teg a pharablau g-wenieithus am dy fab di, hyd oni ch.affont dy ymherodraeth di a’th gyfoeth. Canys yr un ffuiuid y derfydd iti o gredu iddynt hwy ag y darfu gynt i Asian, ymherawdwr Rhufain.” “Beth oeddhyny?” ebai’r ymherawdwr. “Yn wir, nis mynegaf, oni roddi dy air ar roi’r mab i angau yforu.” “Gwnafynwir,” ebai’rymherawdwr, “mynega’r chwedl.”

“Yr amser yr oedd Fferyll yn Rhufain, efe a blanodd golfen yn nghanol Rhufain; ac ar ben hono yr oedd drych o gelfyddyd Igmars; ac yn ydrych hwnw y gwelai Seneddwyr Rhufain pa deyrnas bynag a fyddai’n troi yn erbyn Rhufain. Yna, yn gyflym bwy aent am ben y wlad hono, ac a’i troent tan Rufain yr ail waith. A’r golfen hono oedd yn peri i bob teyrnas ofni Rhufain yn fwy n a dim; ac am hyny y cynygiodd brenin y Pwyl beth difesur o dda i’r neb a gymerai arno fwrw y golfen hono i lawr, a thori y drych. Yna y codes dau frawd i fynu yn y fan, a ’dywedyd fel hyn:— ’Arglwydd frenin, pe caem ni ddau ibeth a geisiem genyt, ni a fwriem y golfen i’r llawr, a’r idrycli a dorem.” Beth yw hyny?' ebai’r brenin. ’Nid amgen na’n dyrchu ni mewn cyfoeth ac anrhydedd o hyn ’allan; a rhaid i ni gael cyfreidiau priodol yr awr hon, nid amgen na dau fanlaid o aur; canys chwanocaf gwr o’r byd i aur yw’r ymherawdwr.” Hyny a gewch chwi yn llawen,' ebai’r brenin. A’r awr a gawsant, a phen y daith a gyrhaeddasant; ac ar hyd nos hwy a gladdasant y ddau farilaid aur mewn dau fan gerllaw pyrth y dref yn ymyl y ffordd; ac i’r dref yr aethant y nos hono, a lletya. ■ Dranoeth.daethanti lys yr ymherawdwr,a chyfarch gwell iddo, a deisyf cael bod o wasanaeth iddo. ' Pa wasanaeth a fedrwch chwi ei wneuthur?' ebai’r ymherawdr. ' Ni a fedrwn fynegi i chwi a fo aui’ neu arian cuddiedig yn eich. “ieyrnas chwi; ac o bydd, peri i chwi eu cael hwynt olL’ ■ Ewch heno ac edrychwch erbyn yforu a oes aur neu arian i’m teyrnas I; ac o bydd, mynegwch i mi; ac o chaf hwy, mi a’ch gwnaf chwi yn anwyliaid im’.' Ac i’w llety yr aethant y nos hono. A thranoeth y mab ieuangaf a ddaeth ger bron yr ymherawdwr, ac a ddywedodd gael ohono mewn dewiniaeth wybod pa le yr oedd barilaid o aur yn ymy1 porth y dref, yn nghudd. Yna y peris yr ymherawdwr fyned i geisio hwnw; ac wedi ei gael a’i ddwyn iddo, efe y cymerth y gwas yn anwyl wasanaethwr. A thranoeth y daeth y gwas arall ger bron y rymherawdwr, a dywedyd gael ohono, ar freuddwyd, wybodaeth pa le yr oedd barilaid o aur yn nghudd, yn ymyl porth arall i’r drei. Ac wedi profi hyny, a’i gael yn wir, credu iddynt o hyny allan, a mawr fu gan yr ymherawdwr, am danynt, a’u cymeryd yn anwyliaid iddo. A’r dydd nesaf hwy a ddywedasânt fod aur o dan y golfen a gyfoethogai’r deyrnas. Yna y dywed Seneddwyr Rhufain, o ddiwreiddio’r golfen, na byddai cyn gadarned deyrnas Rhufain o hyny allan. Eithr nid adawodd chwant yr aur a’r arian i’r ymherawdwr fod wrth gynghor y seneddwyr, nes diwreiddio’r golfen a’i bwrw i lawr, a thori y drych yn llaprau. A phan ddarfu hyn, dyfod am ben yr ymherawdwr a wnaethant, a’i ddal, a’i rwŷmo, a chymheli arno yfed aur berwedig, gan ddywedyd wrtho, ' Aur a chwenychaist, ac aur a yfi.' “” Yn y modd yna, tithau a wrandewi ar Ddoethion Rhufain, y rhai a’th ddyhuddant ag euraidd barabhiu, i annghredu fy nghynghor I, am ddienyddio dy fab, hyd oni wnelont dy angau a”th addoed yn ddibris.” “Myn fy nghred,” ebai ef, “ni fydd byw y mab eithr hyd yforu.” A thranoeth y bore, efe a archodd ddienyddio y mab. Yna y cyfodes Cato Hen, wr cymhenddoeth, a dywedyd fel hyn: “Arglwydd ymherawdwr, nid yn ol ymadroddion ffals, celwyddog, a glywo dy glustiau, y dylit ti farnu; namyn trwy amynedd a cheisio gwirionedd rhwng hen ac ieuanc; ac mor gywir fydd dy wraig i ti, yr hon yr wyt yn ei charu ac yn ei chredu, ag y bu gwraig y Siryf o Lesodonia.” “Cato,” ebai’r ymherawdwr, “pa wedd fu hyny?” “Dytna fy ff’ydd, nis mynegaf, oni roddi di dy air na ddienyddir y mab heddyw.” “Na ddienyddir, myn fy nghred,” ebai ef.

Yr oedd gynt was ieuanc o Rufain yn Siryf yn Lesodonia; ac un diwrnod, yr oedd efe yn naddu paladr, a’i wraig yn cydgam ag ef, ac yntau yn chwareu â hi. Ac wrth chwareu felly, cyfarfu blaen ei gyllellâ’i Uaw hi, oni ddaeth y gwaed; a chynddrwg oedd ganddo oherwydd hyny, nes y brathodd â chyllell ei fron ei hun, ac y bu farw. Wedi gwneuthur ei gywirdeb, a gwasanaeth yn y llys, efe a ddygpwyd tua’r llan i’w gladdu; a rhyfedd’ nad ysig penau ei bysedd rhag ff”ested y maeddai ei dwylaw yn nghyd, wrth gwyno ei cholled i’w gwr; uwch oedd ei llef a’i diaspedain nag a oedd o gorn a chloch dros wyneb yr holl ddinas. Wedi claddu y gwr, ac i bawb gilio o’r eglwys, ei mam a erchis i’r weddw ieuanc ddyfod gyda hi adref. Hithau a dyngodd i’r Gwr oedd uwch ei phen, nad äi hi oddiyno oni f’ai farw. ' Nis gelli di,' ebai ei mam, ' gyflawni y gair yna; ac am hyny iawnach iti ddyfod i’th lys dy hun i gwyno dy wr, na thrigo mewn lle ofuog, unig, ac aruthr fel li-wn.” Mi a brofaf os gallwyf,' ebai hi. Yna y peris ei mam gyneu tân goleu ger ei bron, a gadaw bwyd a diod iddii’w dreulio pan ddeuai newyn ati, wrthna chyfarch. newyn o’i borthi. A’r nos hono y daeth morchog ar ei farch o’r gaer i wylied herwyr a grogesid y diwrnod hwnw. Ac fel yr oedd efe yn dysgwyl o bell ac o agos, efe a welai oleuni mewn lle nas gwelsai erioed o’r blaen. Aeth ar ei farch i edrych pa le yr oedd y goleuad, a pha achos oedd iddo. A phan ddaeth efe yn agos, efe a welai fur, a mynwent, ac eglwys; ac yn yr eglwys, dân uchel a goleu. Yna ffrwyn-gh’mu ei farch a orug wrth ystigl y fynwent, a myned i edrych pwy a welai yn yr eglwys. Ac nid oedd yno namyn un forwyn- wraig ifanc, yn eistedd uwch ben bedd newydd, a goleu a thân difwgger ei bron, a digon o fwyd a diod yn ei hymyl. A gofyn a wnaeth y marchog iddi, beth a wnai un mor ieuanc â hi mewn Ue mor ofnog â hyny ei hunan. A hithau a ddywedodd nad oedd arni ofn dim cymaint ag oediad angau i ddyfod ati. Pa achos sydd i hyny?' ebai ef. ' Claddu,' ebai hi, ' y gwr a gerais fwyaf, ac a garaf tra f ’wyf by w, yn y lle hwn Eeddyw; a digêl a dyogel genyf, y carai yntau finau yn fwy na neb, pan ddygai ef ei fywyd ei hun o’m hachos.” O, unbenes I’ ebai’rmarchog, ' pe fy nghyngor i a wnelit, ti a newidiet y meddwl yna, ac a gym’rit wr a f’ai cystal ag yntau, neu welL” Na fynaf,' ebai hi, ' myn y Gwr sydd uwch ben, wr byth ar ei ol ef.' A’r marchog a aeth tua’r crogbren; ac efe a gafodd fod un o’r cyrph wedi ei gymeryd oddiar y pren, a drwg oedd ganddo am hyny. Y gwasanaeth hwnw oedd arno i’r ymherawdwrtros ei dir; nid amgen na chadw gwyr boneddigion crogedig rhag i’w cenedl ddwyn eu cyrph i’w claddu. Ac eilwaith y daeth efe at yr unbenes, a dywedyd wrthi ladrata un o’r cyrph. gwnaf,* ebai hi, ' dyrcha di ef ar fy ysgwydd.' Ac ’wedi ei gael ar ei hysgwydd, hi a gerddoddfras-gamau gwrol, nes dyfod ag ef hyd at y crogbren. ' Och!' ebai’r marchog, ' pa les er hyny? yr oedd dyrnod cleddyf ar ben yr berw.”Taro dithau ddyrnod ar ben hwn,' ebai hi. ' Na tharawaf, i’m cyffes,' ebai ef. ' Mi a’i tarawaf,' ebai hi; a chymerth afael yn ughleddyf y marchog, a tharaw y marw lawn dyrnod yn ei ben ag ef. ' le,' ebai’r marchog. ' pa les er tiyny? yr oedd yr herwr yn fantach, wedi tori tri o’i ddanedd blaen wrth ei ddala.” Mi a wnaf hwn felly hefyd, ebai hi, ' a chymerth faen mawr, a’i godi ar ei hysgwydd, a’i daro yn erbyn eidrwyn a’iddanedd, nes eu tori hwynt yn ddrylliau mân. ' le,' ebai’r marchog, ' nid ydwyt nes; yr oedd yr herwr yn arfoel.” Mi a wnaf hwn felly hefyd,' ebai hi; a chjTneryd ei ben ef rhwng ei dwy goes, a dechreu plycio ei wallt. Ni fu na gwr yn eillio, na gwraig yn gwnio, haner can gynted ag yr oedd hi yn tyrnu gwallt ei ben ef, nes ei wneuthur yn foel o’i wegil hyd ei dalcen. Wedi hyny yr erchis hi i’r marchog ei grogi ef. ' Dyma fy nghred, nas crogaf, ac nas crogi dithau ef. Pe na f ’ai ond tydi yn y byd, ni fynwn dydi; pan fait mor angharedig i’r gwr a’th briodes di yn forwyn, ac a ddug ei fywyd o’th achos di, angharedig o beth fyddit ti i mi, heb weled golwg arnaf hyd heno. A dos di ag ef i’r lle y mynych.' Yna y cymerth hi y gwr ar ei chefn i’w gladdu ei hunan eilwaith.”

“Ym cyffes i Dduw, arglwydd ymerawdwr, cyn anghywired â hyny fydd dy wraig i tithau, yr hon yr wyt yn ei chredu, ac yn ceisio rho’i dy fab i angau o’i hachos.” “Yn wir,’i ebai’r ymherawdwr, “mi a’u cadwaf ef heddyw.” A’r nos hono yr ymherodres a ofynes i’r ymherawdwr, 03 dienyddiwyd y mab. “Xa ddo eto,” ebai yntau. '• Ni dderfydd hyny byth tra fo byw Doethion Rhufain; canys megys y tŷn y famaeth y dyn bach o’i lid a”i gyffro. trwy seinio yn ei glustiau, neu ddangos rhywbeth ffol; fellv y mae Doethion Rhufain i’th dynu dithau oddiar dy lid a’th gyffro, am fy ngwaradwydd I a’m cywilyddgau dy fab di, trwy eu gweniaith a’u hymadrodd teg. Un ffunud y derfydd i ti o’r diwedd ag y bu i’r brenin a welai trwy ei hun ei ddallu beunydd.” Pa fodd y bu hyny?” ebai’r ymherawdwr. “Yn wir, nis mynegaf it’, oni roddi dy gred ar ro’i’r mab i angau yforu.” “Gwnaf yn wir,” ebâi yntau. “Yr oedd gynt frenin ar un o ddinasoedd Rhufain; ao wedi myned yn mhell mewn oedran, efe a osodes saith o wyr cymhengall i lywodraethu y ddinas. A’r gwyr hyny a ymroddasant i gasglu aur ac arian, onid oedd gyfoethooach y tlotaf o’r saith na’r brenin ei hun, o dda parod; a gwnaethant hyny trwy gydgynghor,fel y gallent hwy’ ladd y brenin o nerth a chadernid eu da. A’r brenin a welai trwy ei hun, bair a saith droed odditano, a mygdarth mawr yn codi oddiwrth y pair; a hwnw a ddeuai yn nghylch ei lygaid i’w ddallu. Yna y danfones y brenin i bob Ue i geisio deongl i’w freuddwydion, a’r gweledigaethau a ddelynt iddo rhagllaw. A’r cenadau ar ddamwain a ddaethant at was ifanc oedd yn rhagori ar bawb mewn hysbysrwydd o ddewiniaeth a deongli breuddwydion. A’r gwas ifanc a ddaeth ger bron y brenin, ac yntau a adroddes ei freuddwydion wrtho. ' le,' ebai’r gwas, ' deongli’r breuddwyd a fedraf, a’th gynghori a wnaf; ac o byddi di wrth gynghor, ti a fyddi well; ac oni fyddi, ti a ^fyddi gwaeth. Y pair a welaist ti, a arwyddocâ ddinas; y saith troed a welaist, ydynt saith o wyr sydd â gormod o gyfoeth, ac yn darparu dy fradychu onis lleddir hwy yn ebrwydd.' Oni ni fynai’rbrenin fod wrth gynghor y gwaa, nes iddynt ei ladd ef yn nghyntaf, a dwyn y frenhiniaeth oddiarno.”

“Ac felly, ni byddi dithau wrth gynghor am dy fab a Doethion Rhufain, y rhai sydd i’th fradychu di; a’r rhai, oni leddir hwynt yn ebrwydd, a ddygant dy deyrnas oddiarnat.” “Dyma fy nghred y lleddir hwynt yforu.” A thranoeth, trwy lid mawr, efe a gyrchodd i’r dadleudy, ac a barodd grogi ei fab a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes lesse, i fyny, a dywedyd fel hyn: “Ni ddylai arglwydd fod mor anwadal a gado ei droi drwy ffalsedd a chelwydd, a thwyll; ac fel y siomes y frenines ’gynt y brenin am y marchog, felly y sioma dy wraig dithau dydi.” “Pa fodd y bu hyny?” ebai yntau. “Yn wir, nis mynegaf i ti, oni ro’i di dy gred ar gadw y mab ynfyw heddyw.” “Gwnaf yn wir,” ebai ef.

wrtho mai brenin urddedig oedd yn trigo yno. Tranoeth yr aeth efe i ymyl porth y castell. a galw y porthor ato, a gofyn iddo a fynai y brenin farchog cywir, diffals, yn ei wasanaeth. A’r porthor a ddywedodd y mynai. Ac i’r castell yr aeth, a chanmoledig a fu gan bawb, ac yn mhen amser y brenin a’i gwnaeth ef yn oruchel ystiwart dros ei holl gyfoeth; yna efe a ddywedodd wrth y brenin fod yn rhaid iddo gael ystafell mewn lle dyeithr i feddjdio yn nghylch ei swydd a’i gyfrifon. ' Cymer y lle a fynych,' ebai’r brenin. ' Dyma a fynwn I ei gael,' ebai’r marchog, ' adeilad ystafell yn ymyl eich tŵr chwi.”Da yw genyf fi hyny,' ebai’r brenin. A’r marchog a beris wneuthur ystafell iddo yn ymyl y tŵr. A’r brenin oedd yn cadw y frenines mewn tŵr cauad; a phan elai allan, doi y tŵr a wnai, a dwyn yr allwedd ganto. A’r marchog a beris i’r Tnasiwu wneuthur ffordd ddyogel iddo ef fyned i’r tŵr at y frenhines; a’r saer a wnaeth hyny. Ac fel yr oedd y marchog un diwrnod yn gwasanaethu wrth y ford, y brenin a weles y fodrwy anwylaf ar ei elw ar fys y marchog; ac yn llidiog gofynodd iddo pa le y cawsai efe y fodrwy hono. A’r marchog a dyngodd na buasai feddianus neb ar y fodrwy, eithr mai efe a’i pryuasai. Yna tewi a wnaeth y brenin nes darfod cino. Y pryd hwnw aeth i’r tŵr i ofyn y fodrwy i’r frenhines; a’r marchog a aeth o’i flaen i roi y fodrwy iddi hi; a hithau a’i dangoses i’r brenin. A’r brenin a ddigiodd wrtho’i hun am feddwl mor ddrwg o’r marchog. Yna y dywed y marchog wrth y frenines: ' Mi a âf i hela yforu gyda’r brenin, ac mi a’i gwahoddaf eu’-w frecffast; ac mi a ddywedaf wrtho ddyfod y wraig fwyaf a gerais erioed ataf o’m gwlad; a bydd di yn yr ystafell erbyn ein dyfod ni adref, ac amryfal wisgoedd am danat; ac er a gymera y brenin o gydnabod arnat ti, na chymer arnat ei adnabod ef, na’th fod wedi ei weled cyn hynyerioed.”Mi a wnaf hyny,' ebai hithau. Tranoeth aethant i hela, ac wedi darfod hela, y marchog a wahoddes y brenin i ddyfod i’w ystafell ei i/recŷast. A phan aeth i mewn, gwelai ei frenhines ei hun yn ystafell y marchog, a gofynodd iddi pa ffordd y daethai yno. ' Anhawdd imi fynegi pa sawl ffurdd ddyeithr a gerddais o’m gwlad hyd yma; ac ni wn I am le lawnach i mi fod nag yn ystafell y gŵr mwyaf a gerais i erioed; ac os bwrw cydnabod yr wyt, edrych pa le y mae yr hon yr wyt yn ei cheisio, canys ni welaist ti olwg arnaf fi erioed o’r blaen. Yna tewi a wnaeth y brenin, a meddylio na welsai efe hi erioed. Ac wedi iddynt fwyta eu hrecjfast, y cyrchodd y brenia tua’r twr i geisio deheurwydd am y -wraig, megys y cawsai am y fodrwy. A hithau a’i rhagflaenodd y ffordd nesaf, ac a roes y dillad hyny heibio, a gwisgo cartref-wisg amdani. A phan welodd y brenin hyny, digiodd wrtho ei hun yn fwy o lawer nag y darfuasai am y fodrwy. Ac ar ben ychydig o amser, y marchog a welodd nad oedd weddus iddo gadw brenhines y brenin yn ei blas ei hun; ac efe a gafodd yn ei gynghor barotoi llong fawr, a’i llanw o bob rhyw dda; ac yna efe a ddeisyfodd genad gan y brenin i fyned i ymweled â’i wlad, o achos na buasai efe yno er ys talm o amser. A’r brenin a ganiataodd iddo. Tranoeth, cyn eu cychwyn oddicartref, dyfod a wnaeth i’r eglwys at y brenin, lle yr oedd ef yn gwrando yr oíTereu, a deisyf amo ef beri i’r ofîeiriad teilwng ei briodi ef a’i ordderch cyn eu myned i’w gwlad; a’r brenin a beris eu priodi; ac ef a roes ei wraig ei hun, ar ddrws ei eglwys, heb yn wybod iddo. Wedi eu priodas, hwy a aethant i’r llong; ac ar fyr wedi hyny, yr aeth y brenin tua’r twr, ac a’i cafodd yn wag o’i frenhines, wedi ei myned gyda’r marchog.”

“Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau, o pheri ro’i dy fab i angau o’i hachos hi.” “Na pharaf yn wir heddyw,” ebai’r ymherawdwr.

A’r ymherodres a ddywed yn drist ac yn alarus wrth yr ymherawdwr, “Ef a dderfydd i ti megys y darfu gynt i ystiwart brenin y Pŵl.” “Beth oeddhyny?” ebai’r ym- ìaerawdwr. “Yn wir, nis mynegaf it’, oni roddi dy gred ar ro’i’r mab i angau yforu.” “Gwnaf yn wir,” ebai’r ymherawdwr.

“Y brenin hwnw a fagasai glefyd o’r tu fewn; ac wedi ei feddyginiaethu a’i wneud yn iach, y meddyg a erchia i’r brenin logi gwraig i gysgu gydag ef y nos hono, er ugain punt. A’r brenin a archodd i’w ystiwart ymofyn y wraig iddo. Sef a wnaeth yr ystiwart, o chwant y da, dwyn ei wraig briod ei hun i’rbrenin. Bore dranoeth, yr ystiwart a ddaeth, ac a archodd iddi godi i fynu a myned adref; a’r brenin a gododd i fynu, ac ni adawodd iddi fyned oddiyno. A’r ystiwart a ddaeth yr ail waith, ac a erchis iddi fyned adrei’ ar ffrwst; ac er hyny y brenin a’i cadwodd hi. À’r drydedd waith, yr ystiwart a ddaeth, gan ddweyd wrth ei arglwydd pa fodd y gwnaeth o chwant y da. A phan glybu y brenin ei fod mor chwanog â hyny i gyfoeth, efe a gymerth ei holl dda ef yn fforfed, a dwyn ei swydd oddiarno, a chadw ei wraig gydag ef, a’i anfon yntau i o’i frenhiniaeth ef,”

’Ac felly y derfydd i tithau, o chwant gwrando ar Ddoethion Rhufain, y rhai sydd yn nghylch dy ddileu di c’r deyrnas; ac er hyny, mi a gaf ddigon o dda gan fy nghenedl.” Yna yr ymliera-wd’wr a lidiodd yn fawr am y gair hwnw, ac a ddywed y parai ef ro’i y mab i angau bore dranoeth. A’r bore hwnw y daeth efe i’r dadleudy, ac yr erchis ro’i’r mab i angau heb ohir.

Yna y codes Martenws, ac y dywedai fel hyn: “Ef a dderfydd iti megys y darfu i hen wr da boneddig am wraig ifanc a briodes ef.” “Pa fodd y bu hyny?” ebai’r ymherawdwr. “Yn wir, nis mynegaf it’ oni ro’i di dy gred ar gadw y mab heddyw.” “Grwnaf yn wir,” ebai ef.

“Hen wr boneddig a briodes wraig ifanc. A hi a fu gywir iddo flwyddyn. Ac ymddyddan a orug â’i mam yn yr eglwys, a dywedyd ei bod hi yn caru gwas ifanc. Yna y dyed ei mam, ' Prawf anwydau dy ŵr priod yn gyntaf, a gwna di fel hyn: Tôr y coed ifainc sydd yn tyiu yn y berllan, a dod hwy ar y tân. Ac wedi darfod iddi hyny, dyma’r gŵr yn dyfod i’r tŷ, yn canfod y coed ar y tân, a gofyn pwy a’u rhoisai ar y tân. A’r wraig a ddywed mai hi a’i rhoisai, er mwyn gwneud tân iddo i ymdwymno wedi ei ddyfod adref. Tranoeth, cyfarfu ei mam a hithau yn yr eglwys, a hi a fynegodd y ddamwain iddi, ac a ddywed ei bod hi yn caru y gwas ifanc yn wastad. A’i mam a erchis iddo bron anwydau ei gŵr yi- ail waith. Ac fel yr oedd y gŵr di-anoeth yn dyf(xl o hela, a bytheuades oedd iddo, ag oedd anwylach ganddo na’r holl gŵn eraill; hono a ddaeth i’r tŷ ychydig o flaen y meistr, a’r wraig a gymerth brac o gyllell hir yn ei llaw, ac a frathodd y fytheuades drwyddi, oni bu farw, Ac y dywed hithau mai’r âst a sangasai ar bwrfffl ei phais newydd hi; ac y dywed na wnai felly mwy. A’r gwr ni ddywed mwy wrthi. A thranoeth hi a ddywed wrth eimam fel y gwnaeth, a’i bod yn caru y gwas ieuanc i maes o fesur. Gofyn a wnaeth ei mam iddi pwy oedd efe. Hithau ddywed mai yr off’eiriad plwyf ydoedd, ac nad oedd iddi hi ddiolch er ei garu. ' le,' ebai’r fam, ' prawf anwydau dy ŵ priod y drydedd waith, ac ofna yn nghyntaf rhag bod yn greulonach dig ofaint gwr hen pan ddigio na gŵr ifanc’ Ac o anog ei mam y profodd hi fel hyn: Tranoeth, yr oedd y gŵr yn gwneuthur gwledd i holl foneddigion y ddinas; ac wedi gosod pawb i eistedd, a gwasanaethu y cwrs cyntaf, sef a wnaeth hithau sefyll wrth ben y ford, a rhwymo cornel y llian wrth allwedd ei phrenfol, a dwyn rhedegfa tua’r ystlys arall i’r tŷ, a thynu y Lliain, a’r bwyd a’r ddiodoedd arno, i ganol y llawr. Ac esguso drcsti a wnaeth y gŵr, a dywedyd mai myned i nol cyllell yr oedd i gerfio y bwyd gerbron y boneddigion. Yna y rhoed lliain newydd ar y bwrdd, a dechreu y gwasanaeth o newydd. A bore dranoeth, y gŵr a ymliwiodd â hi am y tair gweithred hyny; a dywedodd hithau mai amlder o ’ddrygwaed oedd ynddi oedd yn peri iddi wneuthur hyny, ac mai nid o’i hanfodd y gwnaeth. Yna y gwr a beris gyneu tanllwytb mawr o dân, ac a beris iddi dwymo ei breichiau wrth y tân yn dda, a’u rbwbio yn ffest; ac ef a beris ollwng gwaed o’i dwy fraich, a’i adael i redeg byd oni fyddai hi yn ffentio wrth y tân, ac heb allu dywedyd dim; ac yna ef a beris ystopio y gwaed, a’i rho’i hi yn y gwely yn esmwyth. Yna hi a ddanfones at ei mam gan ddywedydddarfodi’r gwr ei lladd hi. A’i mam a ddaeth ati, ac a ddywed wrthi, ' Oni ddywedais iti nad creulonach digofaint neb na gŵr ben.' Ac yna y gofynodd ei mam iddi: ' A wyt ti yn caru y gŵr ifanc eto?” Na cbaraf fi un gŵr byth mwy.' “” Ac felly gochel dithau, arglwydd ymherawdwr, rhag credu dy wraig yn gymaint a pheri rho’i dy fab i angau o’i ’hachos hi; a bid hysbys y Uefara dy fab di yforu.” “Ni ’cbredaf hyny nes y gwelwyf,” ebai’r ymherawdwr. A’r nos fbono y mynegodd efe i’r ymherodres y llefarai y mab dranoeth. Yna cywilyddio yn fawr a wnaeth hi, yn <j. ^aint,ag na fedrodd hi ddycbymygu dim o hyny allan. A ’thranoeth, ar godiad haul, y daeth yr ymherawdwr a’i holl wasanaethwyr i’r eglwys; ac wedi’r offeren, y daeth efe i eistedd ar ben taren uchel o dir oddiar y fynwent. Yna y daeth y mab gerbron ei dad, rhwng dau o’r Doethion, a cbyfarcb gwell i’w dad, ac erchi ei felldith, o acbosa na baeddasai ef ei fâr erioed, ganddywedyd: “Fy.arglwydd dad, Goruchaf Dduw, y Gwr a ŵyr bob peth, a ddangoses yn amlwg i’m batbrawon a minau trwy arwydd y lleuad a’r seren oleu yn eu hymyl, o dywedwn I un gair o fewn y saith diwrnod diwaetbai, na ddiangwn I rhag angau cywilyddus; ac am hyny y peidiais I a llefaru. A’r ymherodres a fu i’m cybuddo I yn ffest wrthyt ti, a mi heb ei baeddu, o achos na ddjTvedais I ddrwg wrthi na’i “wneuthur, a’i bod hi megyS gelynes i mi. Eithr tebyg yw rbyngddi hi â mi ag y bu gynt rhwng marchog a’i fab ar y môr.” “Beth oedd hyny r” ebai’r jTuberawdwr.

“Marchog a’i fab oeddynt mewn ysgraff ar y môr; a dwy frân a ddaethant a gregan uwch eu penau, a disgyn ar gŵr yr ysgraff. A rhyfedd fu gan y marchog bjmy, a goiyn i’w fab: ' Yr wyt yn ysgolhaig da, a wyddost ti beth y mae’r brenin yn ei regan arnom ni?' A’r mab a ddywed ' fod y brain yn dywedyd y bydd yn dda genych chwi ddal bla’enion fy llewys tra b’wyf fi yn ymolchi, a’m. mam yn dala tywel.' A llidio a orug y marcbogam y gair hwnw, ac ymafael yn ei fab, a’i fwrw dros y bwrdd i’r môr, a myned ymaith a’i ysgraff ganto. Ac megys yr oedd Duw yn ei f ŷnu, y môr a dewlis y mab i ystlys craig oedd yn y môr; âc ar ei draed a’i ddwylo, myned o’r mab i ben y graig; a daeth. pysgodwyr heibio, a chanfod y mab yno ar farw o newyn, a’i gymeryd i mewn i’w llestr, a’i werthu i ystiwart o wlad beli er ugain punt. Ac oherwydd ei foesgarwcb a’i ddysg, efe a gafodd anrhydedd mawr. A’r amser hwnw, brenin y wlad hono oedd yn cael ei flino o achos fod tair brân yn gregan uwch ei ben ef nos a dydd heb orphwys; pa le bynag yr elai, byddai y tair brân yn ei aflonyddu yn wastaä. Yna, galw a wnaeth ei gynghoriaid, gan ddy wedyd, pwy bynag o ŵr ifanc sengi a gymerai arno dynu y brain oddiwrtho, ef a gai ei ferch ef yn briod, a haner ei frenhiniaeth gyda hi. Gyrwyd cenadau i bob lle; ac nid oeddid yn cael neb a gymerai arno wneuthur hyny. A daeth marchog gerbron y brenin, gan ddywedyd, o cwblhäi ef ei addewid. y fynai yntau y brain oddiwrtho. ’Gwnaf yn wir,' ebai’r brenin. A’r mab a ddywed: ' Lljtua yr achos y mae’r brain yn aflonyddu arnat, nid amgen nag er’s deng mlynedd neu fwy y bu newyn ar yr adar, a’rbrainieuaincmewnperyglo’u bywyd gyda hwynt; yntau a aeth i wledydd pell i geisio ymborth; ac yna y daeth brân ai-all ati hithau, ac a’i helpiodd hi i amddiffyn ei hadar; ac yn awr, wedi gwellhau y byd, a bod digon o ymborth yn mhob Ue, daeth yr hen frân yn ol drachefn; a dywed y ddwy frân arall na chaiff’ hi ddyfod; ac y mae’r tair brân wedi bwrw y mater at eich barn chwi, oherwydd eich bod yn frenin.' Yna y brenin a’i gynghoriaid” a’i barnodd hi i’r cymhar diweddaf; yr hwn a’i helpiodd hi a’i hadar pan oedd hi mewn perygl angau, ac a’i dilynodd hi o hyny hyd heddyw; ac nad oedd i’r llall ddim o honi. A’r hen frân a hedfauodd i’r naill ff’ordd ei hun, gan grio a germain; a’r ddwy frân eraill a hedasant ffordd arall yn llawen ac yn gytûn.”

“Ac yna yr oedd merch y brenin i’r mab yn briod, a haner y frenhiniaeth gyda hi. Ac un diwrnod yr oedd y brenin ieuanc yn myned trwy y sytai, ef a welai ei dad a’i fam yn myned i letya i ostri gyffredin yn nghanol y dref, yn dlodion, wedi darfod o’u da, a gorfod arnynt ado eu gwlad o eisiau da. A’r nos hono, y brenin ieuanc a ddanfones genad i beri parotoi ei frecffust ef yno erbyn naw ax y gloch. Yna y brenin a aeth i mewn ei hunan, er m-wyn cael ymddyddan â’i fam a’i dad; can’s ef a’i hadwaenai hwynt, ac nid adwaenent hwy ddim ohono ef. A phan aeth ef i mewn, nid oedd neb yn y neuadd namyn ei dad ef a’i fam yn eistedd wrth y tân. Yntau a alwodd am ddw’r i ymolchi; a’r hen farchog a godes i fynu, ac a gymerth fasn yn ei law, ar fedr dal dw’r i’r brenin, eithr nis mynodd ef; a’i fam a geisiodd ddala tywel iddo, ac nis mynodd ef. Yna, ebai ef yn llawen, tan chwerthin oddifewn, ' Llyma ddyfod yn wir a ddywedais I ar y môr, pan oedd y brain yn gregan ar gT yr ysgraff. Ac na fydded waeth genych chwi er hyny, Duw a’i troes er lles i mi; ac o hyn allan, trigwch gyda mi, i gael bara, a chig, a chwrw, a gwin, a brethyn marchnad, a sidan, a melfed, a groeso tra fyddoch chwi byw.”

“Ac felly, fy arglwydd dad, mor ufudd ag y bu hwnw i’w dad, fyddaffinau i chwithau. Ac atolwg, fyarglwydd dad, na chredwch i mi geisio treisio yr ymherodres, ond iddi jTngynyg imi yr hyn nid oedd deilwng; a phan ballais I o hyny, y tynodd hi wallt ei phen, a thynu gwaed o’i hwyneb â’i hewinedd, a’m hathrodi I wrthyt ti, a cheisio genyt fy rho’i i angau, yr hyn a ddylai hi ei gael: canys y mae gyda hi ddau ŵr mewn dillad gwragedd yn Uaw-forwynion iddi, wedi dyfod gyda hi o’i gwlad, yrhai syddyn ei hystafell hi yn wastad; ac oni byddant hwy felly, crogwch fi.”

Ac yr oeddynt megys y dy wedodd ef. Ac yna barnwyd yr ymherodres i’w llosgi. A’r mab wedi hyny a drigodd gyda’i dad mewn anrhydedd ac urddas, tra fu by w.

Ac felly y terfyna Ystori Saith Doethigft Rhufain.

Sôn am Ysprydion

(Gan Glastnys.) Nid wyf am haeru fod bwganod yn ymrithio i neb. Yr unig bethau ag y mae arnaf flys rhedeg drostynt, ydyw rhyw swp o chwedlau digrif a glywais draw ac yma. Coelied a goelio, a pheidied a beidio, ni bydd hyny yn ddim ar wyneb y ddaear gron genyf ü. A pheth arall hefyd, nid ydyw yn beth o angeni-haid fy mod I, mwy na’r hen bû-bl a glywais yn adrodd y pethau hyn, yn eu dilys gredu. Nofelau bychain, efallai, ydynt; ac er na feddant ddilysdeb gwir hanesyddol, coeliaf fod ynddynt er hyny addysg a gwir moesol. Yn awr, i ddechreu, hefog m o Fwganod Mawddwy, sef

Bwgan y Bryn

Lle rhyfedd odiaeth ydy w hen gwm cordeddog Mawddwy. Y mae ei droadau cornelog a’ilethrauglaswelltog yn addumo’r fro yn dra phrydferth. Ar waelod y cwm, y mae’r hen afon Dyn fel llinyn arian yn di-sŵn lithro yn nghanol y ceinder a’r tlysineb penaf. Yn nghwr y Pennant, wrth sawdl Bwlch y Groes, ac yn nghanol ysgethrin ddaneddog yr Aran, y mae palas a elwir y Bryn. Nid ydyw o ddim pwys ar y ddaear pwy fu yno yn byw, na pha bryd y bu’r olaf o’r teulu farw; pwy oedd ei briod, nac o ba âch y daethant — nid ydyw erbyn hyn o ddim pwys i neb, ar a wn I; ond y mae’r hyn a welodd amryw o bobl “viedd,an nhw,” yn deilwng o sylw. Yn y cyfnos du, pan fyddai hen bobl y Cwm yn eu hûn a’u heddwch, fe welodd rhai ag oeddynt yn digwydd bod allan ar yr adeg hono o’r nos,' bethau pur wrthun; ac nid neb felly yn fwy na llanc ieuanc o’r enw Deio.

Bachgen tirion a charedig oedd Deio, ac nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef; ond rywfodd neu gilydd, nid oedd yn wiw iddo fyned allan ar ol deg o’r gloch, oblegyd yr oedd rhywbeth ar gefn ceffyl gwyn yn ymddangos iddo yn wastadol. Tjn nos dydd Nadolig pan oedd yn myned i ddanfon adref eneth ieuanc (ei wraig er’s blynyddoedd bellach), pan ar Riw’r Offeiriad, dyma’r Ceffyl Gwyn yn d’od nerth y carnau ar ei ol; a phan ddaeth gyferbyn â hwynt, arafodd, a cherddodd yn amyneddgar ochr yn ochr hefo’r ddau am hir ffordd. O’r diwedd, troisant hwy i dŷ cyfaill, a da oedd gan eu henaid gael lle i ochel. Yno yr arosasant am oriau yn llawn braw. O’r diwedd, penderfynodd Deio gychwyn adref, a gadael ei gydymaith ar ei ol tan y bore. Nid oedd efe wedi gadael y tŷ neppell, nad oedd yr hen law ar gefn y Ceffyl Gwyn wedi cael trywydd arno drachefn; a thyma’r ddau yn cyd-drafaelio’n lawlaw. Bu tipyn o ymgom rhyngddynt, a gorchymynwyd i Deio gyfarfod y gŵr march gerllaw y Bryn ar noson bennodol, ac ar adeg a nodwyd. Ac ar ol hyny, ymaith â’r ceffyl a’r marchog drwy’r coed, “fel corwyut.” Y noson apwyntiedig a ddaeth, ac nis gallaf wneud yn well na dyfynu geiiiau ei fam er dangos teimladau trwmbluog y bachgen a’i rieni. “Yr oedd Deio, diiian,” ebai, “yn crynu pan yn cychwyn o’r tŷ fel dail yr aethnen. Mi eis hefog ef mor bell â’r llidiard sy’n llyned i’r ffrynt; ac yna fe aeth y creadur gwirion ei hun i lawr tan grynu i’r berllan— a chlyw-wn I ryw siffrwd rhyfedd. Ofnais unwaith fod rhywbeth wedi lladd fy machgen gwirion, oblegyd yr oedd yno’r gruddfaniadau mwyaf torcalouus a glywais erioed. Ond ar ol hir ddisgwyl, mi welwn Deio yn d’od yn ol ataf yn araf deg; a’r fynyd y daeth o fewn cyrhaedd, syrthiodd i fy mreichiau yn farw gelain. Bu arnaf fyd chwith yn ceisio ei lusgo adref, ac ni fedrai yngan gair o’i ben am hir amseroedd.” Dyna chwedl y i’am. Dywed Deio ei hun i’rhen GetîjdGwyn dd’od yno, a dangos iddo ryw ddirgelwch, ac nas gall ef byth adrodd y cyfry w wrth ungwr byw bedyddiol. Ond nid Deio ydy w yr unig un a welodd y Geffyl Gwyn yn ymyl y liryn; na choelia’i fawr. Gwelodd Jack y Cwm ef unwaith neu ddwy gefn trymwedd y nos, a dywed eraill iddynt yn aml weled rhywbeth. Yr hen Gutto, Ty-nant, coffa da am dano, a fu lawer gwaith yn ysgoi’r fan yn mhell bell, er mwyn peidio rho’i siawns i’r peth cas dd’od ar ei draws. Mynych y safai’r ddrychiolaeth ar y grisiau; bryd arall, ysgydwai y tŷ hyd ei sylfeini; ac yr oedd yno un oiîeryn i gludo glo ar y tân a fyddai yn cael ei hercyd yn ddiwêdd. Byddai hefyd mewn un ystafell yn fynychach na’r un arall; paham, nis gwn — oddieithr fod rheswm da yn peri, sef rhy w erchyllwaith ddieflig. Nid oes dadl na bu’r Bryn yn nythle pob dyhirwaith a fedrai’r Un Drwg ddyfeisio, ac nid rhyfedd ynte fod y Cryf Arfog yn gwneud ei oreu i gadw ei neuadd; ond dros ba hyd y gwna, nis gwn. Y mae Deio, fodd bynag, wedi cael Ilouydd ganddo er’s tro bellach, ac yn myned heibio’r lle yn lled ddiarswyd; ac nid oes neb yn awr yn cael ei flino yn y lle a’r fan. A gobeithio y ceir llonyddwch o hyn allan tra fo’r Ddyfi lân yn “llyfndeg redeg yn rhydd.”

BwGAn Llanegryn.

Ond pa beth oedd rhyw erthyl o fwgan fel yna i’w gyff’clybu i’r un y bu Williams y Ficer mewn ymdrech mor felltigedig ag ef? Yrwan am dani hi. Rhyw driugain a deg, mwy neu lai, o flynyddoedd yn ol, cythryblid pobl plwyf Llanegryn, Meirion, gan ryw ysgerbwd anweledig mewn modd hynod o annhrugarog. Yr oedd yr hen fachgen dyddan, duwiol, a da, Lewis Williams, o Lanfachraith, yn byw ac yn bod yn yr ardal ar y pryd livn”vr, a cîian ei fod ef pan yn fy’w yn cael ei gyfrif yn ddyn geirwir, ie. geirwir iaion. y ffordd decaf o’r haner ydyw cofnodiyr hwufyddaief yn ei ddweyd yn nghylch Y trybini y bu ynddo. Hen ŵr eithaf diofn oedd Lewis, ac ymddengys ei fod felly er pan oedd yn llefnyn. Dyivedai ei fod yn cofio unraith bod yn cynull mewn cae yn perthyn i’r tyddyn dan sylw. efe a llawer eraill hefyd; ond ar ol iddynt rwymo tua haner y cae, daeth rhywbeth anweledig i ddatod pob ysgub yn mhob ystwc, gan eu hysgrialu o g-wmpas y Ue yn dryblith-drablith. “Xid unwaith na dwywaith y gwnaed hyn,” ebe fe, “o flaen fy llygaid, ar gefn canol dydd goleu.” Aeth Le-sris William hefyd i gysgui’r tŷ ryw noson ermwyn ceisio gwastadhau. os oedd yn bosibl, y fath gynhwrf anhyfryd. Ond nid oedd dim siawns cael llonydd; yr oedd 7-/í?/í<;ôef7i ambell di’o o dau y gwely. bryd arall uwch ei ben; weithiau tua’r traed, a phiyd arall yn tynu’r gobenydd i ffwrdd: ac yn y diwedd fe ysgystiai’r holl dŷ mor gynhyrfus. fel y gorfu ar y teulu chwilio am gymhorth o le arall. Nid dyn digalon, llwfr, a gwael, oedd Lewis William; na. nid ar chwareubachy rho’ai ef y goreu iddi; ac felly fe benderfynodd wneud ail gynyg arni hi. Cymerth Pibi a chanwyll, ac i’r ystafell a flinid fynychaf yr aeth. gan feddwl treulio’r nos mewn gweddio a darllen y Gair Dwyfol; ond gwarchod pawb! yn mhell cyn haner nos, dyma yr hen gythryblwr yn dechreu arnihi,acergwaethafnaBibl,nagweddi, dechreuodd hel a thrin yn iawn.

Dyma fo’n peri i '* fab Sian bach fyned yn nghylch ei fusnes ei hun,” ac yn llenwi y Ue â drewdod mwya’f annioddefol. Yr oedd oglau mawr ar ddillad Lewis dranoeth. “Noson ofnadsan oedd hono,” meddai, “ac nis gwn yn siwr felly, pa sut y fu hi yno i gyd; ond methais, beth bynag, a gwastradedd y peth.” Âr ol hyn, awd am yr hen “Williams y Ficer, oblegyd nid oedd neb yn yr oes hono yn debyg iddo. Bu ef mewn amryw fanau yn siarad neu riiywbethhefo’rcyfiywgythryblwyranghyweithas; ac er iddo farw yn werth tua deugain mil o bunoedd, nid oddiwrth y rhai hyny y mae yn cael ei adnabod gan ei ôl-oeswyr, ond fel y dyn a fy’ddai yn “gostegu cythreuliaid.” Awd i ymofyn yr hen Ficer yno o rywle, pe dae waeth, a daeth yntau yn unol â’r cais, a bu yno helynt blin. Methai yn lân loyw landeg a chael na phen na phont ar yr Un Drwg, a dywedai ei chwaer fod ei ddillad pan ddaeth yn ei ol yn drewi yn enbydus; fod oglau brwmstanaidd ar ei gnawd am ddyddiau. Ond bu ef yn fwy fiPodus na Lewis William, oblegyd medrodd ef -wagtadhau’r cythr-wfl, ac ni bu mwyach ddim o’r twrf câs pensydfrdanol yn blino’r bobl a gyfaneddent y lle; a thyna ddiwedd Bwgayst Llanegryn, yn ol a glywais I. Bwgan Sali Minffordd, Champau Bessi Risiart.

Byddai f’ Fewyrth Tomos, Esgair Adda (un o hen deulu Mawddwy, heddwch i’w enaid), yn ddefosiynol iawn pan yn adrodd am ystumiau câs yddwy globenanhywaith hyn, Byddai drychiolaeth yn dilyn Bessi yn wastad, weithian yn weledi», ac weithiau heb fod felly. Unwaith, pan oedd yn ymyl Esgair Adda yn gofyn cymhorth y plwyf (oblegyd tad f’ Ewyrth Tomos oedd y Warden), dywedai gyda Uŵ rheglyd, os na chai yr hyn a geisiai y byddai yn edifar i’r hen ŵr cyn pen ychydig o fynydau. Dywedodd yntau yn bur ddifater wrthi, “Amser a ddengys, Bessi.” Ond cjti pen tri mynyd yr oedd y defaid yn bowlio dros y llechweddauynystrim-ystram-ystrellach, acyntori eugyddfau wrth y dwsingau; ada i galon yrhenfachgen oedd gwneud ifynu’r heddwchhefo’rgreadures ddieflig. Ond daeth ei hamser i ben (oblegyd coelid ei bod wedi gwerthu ei hun i’r diafol), a rhy w ddiwrnod fe’i cipiwyd i ffwrdd gan rywbeth, ac ymaith â hi dros lechweddi Cowrach fel “rhedynen o flaen corwynt;” a’rolwg gyntaf a gaedarni wed’ynoedd yn y gored gerllaw Mallwyd wedi marw yn gelain geg-oer; a dywedir mai golwg pur fawr oedd arei chorpwsgwrthun. A thyna ddiwedd Bessi, er ei holl ddewiniaeth.

Ond os un gâs oedd Bessi, canwaith mwy cythreulig Sali. Ni chai neb lonydd yn nghwsg nac yn effro gan yr ellylles felynddu hon. Pan oedd yn llafnes o eneth, nid oedd neb yn y cwm a hoffid yn fwy; ond ryw fodd fe aeth yn rhy lac a gwantan hefo ryw drychfil o ŵr mawr oedd yn byw heb fod neppell o’r fan. A chollodd Sali ei choron, ac er y pryd hwnw gwellfilwaith fuasai iddi ymgrogi na bod yn gorfod byw fel yr oedd hi. Troes i dir melltigedig dewinio, ac nid oedd un peth dan haul y fiFurfafen nas gwnai os medrai. Ni cheisiai wneud dim ond poeni a chythryblu pawb. Tarawai laeth ambell i fan fel na fedrent ei gorddi, gwnaent a wnelent: rho’ai hud ar ddefaid le arall, ac ni fedrai cant o fugeiliaid eu cadw ar eu cynefin: gwnai lygad-croes ar fuches fan draw, amyswynogydd fyddai’r holl dda blithion am dair blynedd o leiaf, ac odid fawr nad erthylu fyddai diwedd y trybini Llawer geneth wenithaidd iachus a wnaeth yn adyn gwelw afiach; a Uawer mam a wnaeth yn amddifad o’r rhai ag yr oedd ei chalon wedi cael ei chyplysu â hwynt. Dywedid na chysgai na dydd na nos, ond y byddai yn gwylio am ymddangosiad drychiolaethau. Ac yr oedd yn medru cael gwybod pob rhyw gynllun a wneid er mwyn ceisio cael ymwared â hi. Pan oedd dau neu dri un noson mewn tŷ tafarn yn y Ddinas wedi bwriadu myned â hiynunaflwydd cebystr i’r Amwythig, a’i dwyn dan law’r gyfraith, cafodd wybod hyn oll cyn y bore, ac yr oedd wedi peri i chwech o fustych un syrthio tros y graig; wedi medru gyru cŵn yr ail i ladd ei ddefaid o’u cyrau; ac wedi rhoi diofryd arall ar y trydydd fel na fedrai, pe caisai’r byd am ei boen, fod yn Llonydd am ddim un mynyd. Yr oedd yn meddwl pan eisteddai fod pigau eithin a di-ain yn mhob peth, ac felly yr oedd yn gorfod crwydro fel llwdn â’r bendro; eisiau cael eistedd, ac yn methu bod yn Llonydd; blino’n crwydro, ac eto nis gallai aros amrantiad yn yr imman.

Ond yr oedd gŵr cyfarwydd yn rhywle yn y Deheudir, ac ato yr aed am swyn ar gefn Sali, a chaed un ofnadwy. Dechrsuodd ei hen gydymaith (cythreulig) ei hysu a’i chigyddio yn arswydus, ac nid oedd derfyn ar ei phoenau; rhedai oddiamgylch gan waeddi’n wyllt, “Dyma fo! dyma fo 1” ac yna dyrwygai ei chnawd mewn modd mileinig Pan gaffai rywfaint o seibiant, naill ai byddai yn gweddio, neu yn tyngu, gan erfyn am ychwaneg o boenydiau croesdynns i’r adyn a’i hudodd oddiar Iwybrau rhinwedd. Ond erbyn rhyw fore, yr oedd Sali wedi croesi’r Llinell. Dywedir fod ei chorph yn ysgyrion mân — nad oedd yno fodfedd o groen cyfa, nac un asgwrn heb ei falurio. Bu ei thŷ yn annghyfanedd am hir feithion flynyddoedd, ac y “mae nhiun deyd “nad rhyw dawel iawn ydyw y lle hyd yn oed yn ein hamser ni. Cafodd Rhys y Cwm “meddan n/iii;,” afaelar raiolyfrau Sali, ondmethodda’u deall, ac felly fe ddarfu am y cwbl o swynion Sali o fewn terfynau Cwm Mawddwy.

Dyna swp o goelion mynyddig.

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Ystori Doethion Rhufain to Sôn Am Ysprydion”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-doethion-rhufain.