Print of Iolo Morganwg (Edward Williams) seated with a manuscript, by Elijah Waring

History of Wales / Library / Dagrau yr Awen: Iolo’s elegy for Lewis Hopcyn

Dagrau yr Awen: Iolo’s elegy for Lewis Hopcyn

Dagrau yr Awen: marwnad Lewis Hopcyn

Dagrau yr Awen, Iolo Morganwg’s elegy for the Glamorgan poet Lewis Hopcyn (1772), the whole poem in Welsh.

Picture: Print of Iolo Morganwg (Edward Williams) seated with a manuscript, by Elijah Waring · Elijah Waring, Public domain · Wikimedia Commons

The Welsh

Dagrau yr Awen

Neu Farwnad Lewis Hopcin. Gan Iorwerth Gwilym, ym Morganwg. 1772.

[…] Elwch mwyn […]
Heb deimlo pwys oer-ddwys aeth
Ar f'enaid, Oh mor fynych,
Mewn llawenydd gwiw-rydd gwych,
Y cyrchwn Lennyrch gorchweg
Yr Awen dirf, aren deg!
Cyni ni luddiai 'm Caniad,
Ynghadd oedd Car sar a sad;
Tefin-wych ydoedd Seiniau,
[…] eglur […]:
Fal ffrwd serchus felus fwyn,
E lifai f' awen loyw-fwyn;
Gloyw mal y plain ergain oedd,
Neu wiw-ferth haul y Nefoedd.
Pa sawl ennyd hyfryd hardd
O degwch pur a […]
A welais? per a hoyw-lon
Oedd f' oriau chweg llwyr-deg llon,
Galar nid oedd mewn golwg,
Cuddiai 'r Byd ei aethlyd wg.
Gwae byrred dielwed yw
Gorawen twyllgar hywyw,
A gwenau niwl-wedd gweinion
Y Byd anghlau brau o'r bron.
Ebrwydd mal […] Ebrill
Y ffy'r Cysgodau gau gwill;
Ie buan yn diflannu
Mae oriau'n hedd cein-wedd cu.

Galar orddisiog elyn
A ddaeth ysowaeth yn syn,
A'i lym […] yn druch
Fy nhant i […] dristwch.
Rhoed Lewis ffur (sur yw'r son,)
Wr mawr-werth gyda'r meirwon;
Rhoed Eur-fardd o Rad erfawr,
Mawr yw'r trwch! yn llwch y llawr.

Och Afar! Och ddaearu
Ein Pencerdd gwar cerdd-gar cu!
Mydrwr cain […] fab
[…] eir-wen arab.
[…] y gwiw-ddyn cleu-ddoeth,
[…] Beirddion ceinion coeth.
Bost Gwladforgan ffriw-lan fraeth
Ydoedd y Cerddwr odiaeth;
Ie Haul Deheubarth hoyw-lan
A chlod i Cymru achlan.
Ei Awen gain […] oedd,
A'i felus Gyrdd oe'nt filoedd;
Ei Arwest ydoedd eurin,
A'i fawl-wiw gainge fal y Gwin.

E' brydai yn bur wiw-deg
Odlau cymmen chwarien chweg;
Eu sain […] synhwyr-ddoeth
Oedd wyrth […] ddien ddoeth.
Rhoddai fwynder gwiw-ber gwych,
Ac enaid i' gyrdd cein-wych.
Ei gein-waith oll a gan[odd]
Mewn llengar gelfyddgar fodd:
Ei addwynion wiw ddoniau,
A'i glod a dywyna'n glau;
Mal gleiniau gloyw a gloywon,
Yn ei hardd-waith llwyr-faith llon.
Gorchanau geir-wych hynod,
Union yw eu hanian od.
Cywrein-waith lle cair rhinwedd,
Yn ei nefawl wiw-fawl wedd.

Un oedd ef heb Awen ddig,
A roddai sennau rhyddig.
Ni fedrai'r anwiw fydredd
Milawg lais […] mal y cledd,
Tra ynial yn trywanu
Y fron ysig mewn dig du;
[…] fleiddig a dig don
A geula waed y galon.
Mewn chwerwder broch ni's trochai
[…] teg […] ond chweg a chwai
A geiniai a hoyw ganiad
Glod pob Doethion mwynion mad.

Os gweithred dda folediw,
Urddain gais rhyw eur-ddyn gwiw,
A wnai gysson ddangosiad,
Yn union glaer […] ein Gwlad,
Ei huniawn fawl a honnai,
Ei gerddi chweg gwrdd a chwai,
Eur-iaith wych ei araith wen,
A'i hwyliai uchlaw'r Haulwen;
Cai ddilys […]
Yn ei eur-gan fwyn-lan fad.

Och! Angau du a chuall,
Mor yw'n gwae, mawr yw ein gwall,
O'th achos cawn fyth ochain,
Hyllt ein curiau'r muriau main;
Troest ein gwynfyd hyfryd hardd
Yn oer-gur blin a hir-gardd;
Torraist Elwch o'n Tiredd,
Trist yw'n nad, torraist ein hedd.
[…] awengar lawen,
A'r Awenydd wiw-rydd wen,
A ddygaist, anafaist ni,
[…] gannoedd rho'ist fawr Gyni.
Dygaist Brydydd gwawd-rydd gwar,
A'i hardd Awen i'r ddaear.
O'r Byd, gwae! dygaist i'r Bedd
[…] heddgar hywedd;
Gwr hynod am gywrein-waith,
[…] Fab yr Awen faith.
Oh ddigllon Gan Gwythlonedd!
[…] yn hyll […] hedd,
[…] ei ddwyn, […] ei Ddoniau,
I lawr i'r Bedd cul-wedd cau;
[…]
[…] i ddofi 'th ddig,
[…] o Hurthgennod,
[…] ni arddelw y Glod;
[…] gado'n Pencerdd gwiw-deg,
[…]
[…] wyd ti,
[…] y Byd nid arbedi;
[…] glod eglur,
[…]

Och! Lewis eir-wych lawen,
Ein parch, ein Hurddas a'n pen,
Mae penyd trwm i'n poeni,
Byd hyll y bod hebod ti.
O'th golli ochi'n uchel
Mae'r Beirddion hoff union ffel;
[…] a draidd bob Calon,
Mor irad a Rhwygiad Rhôn.
Ym' […] rhoes drwm hiraeth,
Archoll graen fel syth-flaen Saeth;
Dylif o Ffrydiau heli
A lwyda 'ngradd oer-brudd i;
Cwynfan mewn Cysteg anfad
Rwyf o'th ol, wr dol mad;
Cyllell i'm Bron oedd colli
Dy wiw-ras Gymdeithas di.
Och! p'am, wr dinam doniol,
Yr eid, heb ado ar ol
Dy lon addwynion Ddoniau,
I euro 'n Gwlad a rhin glau?
Gyd a thi, Wr mawr-fri mwyn,
E' eddyw'r Awen addwyn;
Hiraeth o'i hol a […],
Ym mhob man mewn Llan a Llys.

Brydyddion gwar, galarwch
Yn llwyr, gwaith rhoddi mewn llwch
Eich Cynnor, oedd wych gannerth
Yr Awen gain fadiain ferth.
Aeth Lewis eur-iaith lawen,
Aeth parch ein Hiaith wiw-faith wen,
Aeth Doniau, aeth Dywenydd,
Aeth yr Awen lawen wlydd,
Aeth […]
Aeth Gwr union llon i'r Llwch,
[…] Enaid pob diddanwch.
Wyla, Forganwg wiwlan,
Aeth d' Anrhydedd gloy'-wedd glan;
O llwyr-wedd, Oh! galara,
Aeth dy Gerddawr dawn-fawr da,
Aeth d' unig Fost, tost yw'r tawl
A gafas dy glod gwiw-fawl.
Gwae! darfu lon farddoni
[…] eur-wedd trwy'th Diredd di;
Y ganghenog Gynghanedd
Aeth […] a aeth i Fedd;
[…] Awen ffraw a dawes,
[…] faint ei thrym-haint a'i thres.
Mae pawb yn wir mewn hiraeth,
Gwae! ar ol y Gwr a aeth;
[…] fwyned, wr urddedig,
[…] ar ei ol ni thrig.
[…] gwar gwirion union oedd,
[…] a moesber ydoedd;
[…]
Och! […] sy'n cwyno
[…]
[…] ein Gwlad nad annedwydd,
Heb Radd […], o'i briddio sydd.
Gwae dristed Cri ei briawd!
[…] Wr oedd, Annel ei Ffawd,
[…] nawr, och! sy'n oer ei wedd
Yn y Gweryd yn gorwedd.

Truenus hyll drywaniad
Oedd i'w Feibion mwynion mad,
Ei hyrddu i'r Bedd oer-ddwys,
Eu hir Boen sy'n fawr ei bwys;
Collasant Dad call hyserch,
Daeth ynt Gysteg annheg erch.
Dagrau yn Ffrydiau digrawn,
Trist yw'r tro, sy'n llifo'n lawn
O Lygaid siriol hygar
Ei ddwy Gein-ferch wiw-serch war:
Yn aros maent mewn hiraeth,
Ar ei ol mae'n hir eu haeth;
O'i ddaearu oedd irad
Colli gwirion dirion dad.

Ei wiw-ras Berthynasau
Is tres tynn sy'n dwys dristhau;
Dwfn eu gloes fel Defni glaw,
Dan alaeth maent yn wylaw.

Gofid, a disiog Afar,
Ei Gym'dogion gwirion gwar,
O'i ddarfod y sy ddirfawr,
Mae'n irad eu nad y nawr;
Eu Colled gwn nis gellir
Fyth adrodd mewn gwiw-fodd gwir.
Beirdd Gwladforgan wiw-lan war
A wylant oll gan alar;
E gladdwyd eu pen cleu-ddoeth,
Uthred yw! a'u Hathraw doeth;
A'u Hawen a fu hoy-wiw
A gadd aethus fregus friw.
Ni chlywyd can wych loywiw,
Nac Arwest a Gorchest gwiw,
Oedd hafal i gerdd hoyw-fwyn
Lewis gerddgar foddgar fwyn,
Ond hon a ddaeth yn dyner
Gan'r Engylion tirion 'ter
I' arfoll, hywiw Eurfardd,
I Bau'r Awen hoyw-wen hardd.
Hedodd at Edyn hoyw-deg
Yr Awen ber dyner deg,
O gystuddiol […]
[…] filoedd […]
[…] melusber dyner don,
Yn dorf ffraw i groesawu
Eu hwylus Gar Lewis gu,
[…] Bro chweg a gloyw-deg […]
[…] nofio mewn Tangnefedd.
Canodd yn iach i'r Cyni
[…] ein Byd anhyfryd […]
[…] ac ing ni's clwyfant
[…] y nefawl siriawl Sant;
[…] Hiraeth cadd ei wared,
[…] ddidawl […] ged;
[…] o Rwyd Angau
[…] hedd byth i barhau;
[…] ganu'n fad Rad ei Ren
[…] berffaith fyth heb orphen.
Cenir mewn odlau ceinion
[…] glod i Lewis gu lon;
[…] Awen wen war
[…] Nghymru wiw-gu […]
[…] pob Datgeiniad
[…] yn fad.

Oesoedd pan bont yn isel
Yn eu bedd dan […]
Mal gwedd cain y Glain […]
Neu'r Haul canol-ddydd yr Haf,
[…] bydd Clod urddol […]
Bydd Senw i'w enw […]
[…]
A mawr-gof am ei Eur-[…]
Tra adnebyddir cywir […]
Yn iach, wr iawn-[…]
Yn iach Rhinwedd […] mad!
Yn iach, Gar hygar […]
Yn iach, Brydydd dedwydd […]
Yn iach, […]-weniaith!
Yn iach, Anrhydedd ein Hiaith!
Yn iach Can wiw-lan heul-wedd!
(Ochi wnawn,) yn iach ein hedd!
Yn iach Lewis wych lawen!
Tra daw Gwawl o'r nefawl Nen,
Beirdd y Byd mewn […]
A honna'th Glod, wr uniawn;
Dy Gerddi […] hygar-ddoeth,
A'th Enw gwiw a'th Awen […]
A'th Rinwedd, a'th fwynedd fyth,
A delir a Chlod dilyth.

DIWEDD.

Where these words come from

Welsh: Iorwerth Gwilym (Iolo Morganwg), Dagrau yr Awen, neu Farwnad Lewis Hopcin (1772). Scan: archive.org/details/bim_eighteenth-century_dagrau-yr-awen-neu-farwn_iolo-morganwg_1772

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Dagrau yr Awen: Iolo’s Elegy for Lewis Hopcyn: Dagrau yr Awen: The Elegy for Lewis Hopcyn”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/dagrau-yr-awen-marwnad.