

History of Wales / Library / Seren Foreu, or Canwyll y Cymry: the verse of the Old Vicar
Seren Foreu, or Canwyll y Cymry: the verse of the Old Vicar
Caniadau CV–CXIII
Poems CV to CXIII of the Vicar’s verse, in the words and spelling of the 1867 edition.
Picture: Y Neuadd, the Old Vicar’s house at Llandovery · W. Rees, CC0 · Wikimedia Commons
The Welsh
CV. Am ddiwedd y byd
Pawb sy’n chwennych dysgu’r pryd
Y daw Crist i farnu’r bvd;
Rheitach yw i bob rhai ddysgu
Ymbar’toi cyn myn’d i’w barnu.
Ffol o beth i feibion dynion
Geisio gwybod mwy nag angylion,
A deallu, wrth draws amcan,
Ddirgel fwriad Duw ei hunan.
Nid oes dyn, na diawl, nac angel,
All deallu dim o’i gwnsel,
Na’r holl fyd yn abal” daclo
Un gyfrinach a fo ganddo.
Ofer yw i nob chwennychu
Nabod dim a fo Duw’n gelu,
A mynegi, wrth draws amcan
Beth nas gwyddai Crist ei hunan.
Dysg gan Grist y poth hyspysodd,
Na chais wybod dim a gollodd,
I ni porthyn a ddadguddiodd,
I Dduw’r cwbwl nas mynegodd.
Na chais wybod tra fe’ch byw,
Ddim o ddirgol bethau Duw;
Ac oti coiai, mao ’n dJioglll
Loeu a ch’wilydd am dy drafael.
Y mae’r môr yn boddi llawer,
Sydd yn chwennychgwel’d eiddyfnder,
A’r haul wen yn dallu llygaid
Pawb a edrych arno’n ddi-raid.
Dydd y farn sydd siwr “o ddyfod,
Y pryd nid oes ond Duw’n ei wybod:
Ffol yw’r dyn a geisio dd’rogan '
Y dydd nas gŵyr ond Duw ei hunan.
D’weded pawb eu dewis chweddel,-
Nid oes dyn, na diawl, nac angel,
Wyr y dydd, na’r awr, na’r flwyddyn,
Y daw Crist i farnu arnyn’.
Gwiliwch bawb a byddwch barod,
A disgwyliwch nes ei ddyfod,
Ar y dydd a’r awr nas gwybpoch
Y daw Crist yn ddirgel attoch.
Iago a Phoder gynt ofynnodd,
I Grist cyn oi ddorchafu i’r nofo’dd,
Athro, dangos, cyn dy ddyrcha,'-
I ni’r pryd a’r dydd diwodda’.
Crist attebai oi ddisgyblion,
Nid perthynas i blant dynion,
Wyblld cwnsol y Ooruchaf,
Am y dydd a’r awr ddiwoiidaf.
Mae Duw’n cadw hynny’n ddirgel,
Iddo ei hunan yn dra diogel;
Gwiliwch bawb a byddwch barod,
Nes y del ni chaiff neb wybod.
Nid yw’r doethaf o blant dynion,
Na’r anwylaf o’r angylion,
Yn deallu hyn o amser,
Goch’lwch gredu chwedlau ofer.
Elias gynt, medd rhai,” a dd’wedai,
Y parhai’r byd chwech mil o flwydd-
Yn ol hynny fe ddiweddid, _ [au,
Drwy dân poeth, nes adnewyddid.
Dwy fil heb un gyfraith gywrain,
Dwy fil dan gyfreithiau Moesen,
Dwy fil dan Efengyl Iesu,
Os cai bara c’yd a hynny.
Tair oes meddant sydd i’r byd,
Un heb gyfraith oll i gyd,
Y llall tan drwm-lwyth gyfraith Moes-
Y drydedd tan ’r efengyl lawen. [eu
Y ddwy oes gyntaf aethant heibio,
A’r drydedd oes sy’n para etto;
Hyd pa bryd y pery weithian
Nis gŵyr neb ond Duw ei hunan.
Mil a chwechant aethant heibio,
O’r oes hon, ac ugain cryno;
Fe all pawb wrth hynny wybod,
Nad oes fawr o hon heb ddarfod.
Pawb o’r doethion a gyttuna,
Mae byrra’ yw’r oes ddiwedda’,
Os er mwyn y detholedig,
Hi fydd byrrach nid o ’chydig.
loan alwai’r oes hon yma,
Yn ei ddyddiau’r oes ddiwedda’,
Os diwedda’r amser hynny,
Y mae hi’r awrhon ar derfynu.
Diwedd pob peth sydd ynnessyd,^
Pan oedd Peder yn y pulpid;
Nid oes lun nad ydyw’r diwedd,
’Nawr wrth hynny’n agos rhyfedd.
Yn amser Paul yr oedd gan mwyaf,
Yr oes, a’r dydd, a’r awr ddiwethaf,
’Rwan yn ein hamser ninnau,
Mae’r diwethaf o’r munudau.
Y byd sydd gwedi myn’d yn gleirch-
yn,
Ac yn grippiP medd Sant Awstin:
Mae e’n cerdded ar ffyn baglan,
Nid oes nemawr iddo o ddyddiau.
Gwiliwn bawb a byddwn barod,
Mae’r dydd mawr yn agos dyfod,
Mae medd Crist ym mron y drysau,
Trwsiwn bob rhai ein lusernau.
Sicr yw y daw ar fyrder,
Ansertennop ydyw’r âmser;
Pa cyn gynted nis gŵyr undyn,
Byddwn bob awr ar ein ’rofyn.
Nid oes dyn, medd Crist ei hunan,
Wyr y dydd a’r awr yn gynghan,
Nac un angel detholedig,
Na neb ond y Tad yn unig.
Ofer yw, gan hynny, i ddynion,
Geisio maneg yr amseron,
Y mae’r Tad yn cadw’n gynghan,
Yn dra dirgel iddo ei hunan.
Etto Napier enwai’r flwyddyn,
Y gwna Duw ar bob beth derfyn,
Ac y bydd y flwyddyn hynny,
Cyn mil saith cant o oed yr Iesu.
D’weded pawb eu dewis chweddel..
Nid oes dyn, na diawl, nac angel,
Wyr yr awr, na’r dydd, na’r flwydd-
Y gwna Duw ar bob peth derfyn. [yn,
Byddwn barod bawb gan hynny,
Edifarwn heno, heddy’:
Ar y dydd a’r awr na’s gwypom,
Y daw Crist yn ddirgel attom.
Fel na ’nabu serchog Eachel,
O’i thymp’ nes myn’d ar ei thrafel,
Felly ni chaiff dynion ’nabod
Nydd yr Arglwydd nes ei ddyfod.
Pan ddaeth amser Hachel wisgi,
Ar ei phlentyn bach esgori,
Fe orfu esgori ar y bachgen,
Ar y ffordd dan fôn y dderwen.
Felly gorfydd ar y ddaear,
Sy’n beichiogi er yn gynnar,
Gwympo i esgori ar y meirw,
Pan ddel udgorn Crist i’w galw.
Fel y daeth y tân a’r brwmston,
Yn ddisymmwth ar ben Sodom,
Felly daw y dydd diwedda’,
Pan bo’r byd yn cysgu’n ’smala.
Ni ŵyr neb o’r awr na’r amser,
Byddwn bob awr ar ein pryder,
A’n lusernau yn ein dwylo,
Gyda’r merched call yn gwylio.
Mae’r arwyddion gwedi cerdded,
Y fynegodd Crist cyn blaened,
Ond bod ’chydig o’r luddewon,
Etto heb gredu’r ’fengyl dirion.
Fe ferthyrwyd’r Apostolion,
A mil miloedd o’r Crist’nogion,
Ym mhlaid y ffydd a’r Efengyl,”*
Fe ŵyr holl gred hyn yn rhygyl.
Fe ddistrywiwyd Caerusalem,
Nid oes maen ar faen lle gwelem;
Hithau’r demel fawr a losgwyd,
A’r luddewon a wasgarwyd.
F’ aeth Efengyl hygar hyfryd,
Ar farch gwynn ar draws yr holl-fyd;
Nid oes cornel dan y nefo’dd
Na bu’r Fengyl ynddo’n ryw-fodd.
Nifer mawr o Gristiau ffeilston.a
Ynghred ac anghred a godason’,
A thrwy hocced tad y celwydd,
Troisont lawer i gam-grefydd.
Rhyfel blin, rhwng Twrc a Christion,
A fu’n fynych iawn ni glywson;
Sôn mawr sydd am rhyfel etto,
Rhoed Duw hedd i’r sawl a’i cario.
Newyn mawr, a thost ddrudaniaeth,
A fu’n llawer gwlad ysowaeth;
Haint, a phla, a chwarren waedlyd,
A fu’n hwyr ar hyd yr holl-fyd.
Daear-gryn a fu or mwya’,
Nes syrthio temel fawr Diana,
A bwrw lawr y trefydd mawrion,
Tyrau a diestyll yn sebwrthon.
’R haul ecclipsodd o’r tywyllaf,
Nes myn’d y dydd yn nos gan mwyaf,
A’r môr mawr aeth dros y bryniau,
Boddodd miloedd o eneidiau.
Y mae Anghrist yntau’n rhochain,
Ys llawer dydd yn Eglwys ’Rhufain;
Ac yn mwrddro’r-' saint heb orphwyS;
Eisiau’i alw’n ben i’r eglwys.
Cariad perffaith yntau oerodd,
Ni char mab o’r tad a’i magodd,
Gwaudd”- a chwegr” syn ymsowtan,
Cas gan frawd ei frawd oi hunan.
Ffydd, ysowaeth, sy’n myn’d lai-lai,
Cred” o gryn-fyd aeth yn garrai,
Asia, Auric, GríDCla’ ffyddlon,
Sydd yrwan heb Grist’nogion.
Nid oes un o’r holl arwyddion,
Ond ymchweliad yr ludde-^on,
Na b’ont eisioes gwedi dyfod;
GwillTrn bawb a byddwn barod.
Y mae’r Barnwr mawr yn cychwyn,
Mae er’s dyddiau ar ei ’rofyn;
Fe ddaw weithian yn dra hoyw,
I roi barn ar fyw a meirw.
Mae ef gwedi hogi ei leddeu,
A golymmu ei holl saethau;
Mae ei fwa yn ei annel,
Ac yn barod myn’d i ryfel.
Mae’i fraich rymmus gwedi’i hestyn,
Mae’i angylion ar eu ’rofyn;
Fe ddaw fel y diluw tanllyd,
I roi barn ar bawb o’r holl-fyd.
O meddyliwn ninnau am wyliad,
Ac am ddisgwyl ei ddyfodiad,
A bod bawb a’n cyfri’n barod,
Ac yn daclus cyn ei ddyfod.
CVI. Cofiwch angau
Bmii yw’n hoes ac ansertennol,'-
Heddyw’n fyw, y foru’n farwol;
Gynneu’n gawr, y foru’n gelain,
Dyma gyflwr dyn a’i ddamwain.
Ni bydd yma, am ben ennyd,
Un o honnom heb ei symmud;
O meddyliwn am ein siwrnai,
Heno ysgatfydd rhaid ei dechreu.
Fel y rhed yr haul i’r hwyr,
Fel y treulia’r ganwyll gŵyr,
Fel y syrthia’r rhosyn gwynn;
Fel y diffydd tarth ar lynn;
Felly treulia. felly rhed,
Felly derfydd pobol cred,
Felly diffydd bywyd dyn,
Felly syrthiwn bob yr un.
Fel llong dan hwyl, fel posf dan sawd,
Fel saeth at nôd, fel gwalch atffawd,
Fel mwg ar wynt, fei llif ar ddw’r,
Y brysia ymaith einioes gŵr.
Fel saeth y rhed, fel post y gyrr,
Fel cŵyr y tawdd, fel iâ y tyrr,
Fel dail y syrth, fel gwellt ygwywa,
Fel tarth y trig, fel lamp y treulia.
Ni ddiflannwn fel y cysgod,
Ni Iwyr doddwn fel y man-od,
Ni ddiharffwn’ fel glaswelltyn,
Ni ddiffoddwn fel yr ewyn.
Ni cheir gweled mwy o’n hol,
Nag ôl neidr ar y ddol,
Neu ôl Llong aeth dros y tonnau,
Neu ôl saeth mewn awyr deneu.
0! gan hynny, heddyw, heno,
Moeswch i ni bawb ymg’weirio,
Fyn’d ar ffrwst, a thynnu oddi yma,
Lle na chawn o’r hir arosfa.
Mewn tai o gîai yr y’m yn trigo,i.
Tymhestl gron a bair eu syrthio;
Gwiliwn rhag i’r angau’n saethu,
A briwio’r wal tra f’om yn cysgu.
Fel y t’rewir pysg â thryfer,
Fel y saethir phesant tyner,
Fel y torrir blodau’r ardd,
Fel y lleddir gweunnydd hardd;
Felly t’rewir dyn heb wybod,
Felly saethir yn ddi-arfod,
Felly torrir gwychder dyn,
Felly’n Lleddir bob yr un.
Fel dw’r diluw ar y cyn-fyd,
Fel tân gwyllt ar Sodom aethlyd,
Fel y felften, fel y ddraig;
Fel y gwewyr blin ar wraig;
Felly’n chwyrn, ac felly’n danllyd,
Felly’n immwngc felly’n aethlyd,
Felly’n ffin, ac felly’n draws
Y daw’r angeu ar eu traws Y
Brauyw’ncnawd,abachyw’ncryfdwr,
Gwan y w’n grym, a gwael y w’n cyflwr,
Tippyn bach o groes neu gerydd,
All ein troi a’n torr i fynydd.
Gwrach all ladd y cawr â chogail,
Blewyn bach all dagu bugail,
Draen ar draws all ladd yr hwsmon,
Duw, mor ddiserth yw plant dynion.
Y gwan, y gwael, y dwl, y dall,
A ladd y cryf, a gwymp y call;
Y dreP di-barch, â maen nid mawr,
A friwia’n caer, a ddifa’n cawr.
Beth yw dyn wrth hyn ond tarth,
A mŵg, a niwl, a gwellt, a gwarth;
A gwydyr crin, a rhew, a rhosyn,
A ’sten o bridd, a gwynt, ac ewyn?
Y dewr, y doeth, y gwych, y gwalch-
aidd,
Y cryf, y call, y capten” c’ruaidd,
Ein pen, a’n pont, a’n grym, a’ngras,
Y gafodd gwymp gan angau glas.
Fel y cwymp holl ddail yr allt,
Fel y cneifla gwellai’n gwallt,
Fel y gwywa lili’r ma’s,
Fel y tyrr y gwydyr glas;
Felly gwywa, felly tyrr,
Felly craccia ’n bywyd byrr,
Felly croppir oinioes dyn,
Felly cwympwn bob yr un.
Fel tŷ bugail ein symmudir,
Fel ’sten briddlyd ein can-ddryllir,
Fel dilledyn y darfyddwn,
Fel y llwydrew y diflaunwn,
Ni chawn aros mwy na’n tadau,
Awn i’r ffordd yr aethant hwythau;
Rhaid i’n fyn’d i wneuthur cy’fri’,
A rhoi lle i eraill g’odi.
Nid oes lle in’ aros yma,
Ond dros ennyd i hafotta:
Gwedi’n gorfydd ar bawb symmud,
A myn’d i’r ffordd yr aeth yr holl-fyd.
Y mae’r angeu glas â’i fwa,
Yn ein herlid ym mhob tyrfa,
I Nid oes undyn all ddihanghyd
Rhag ei follt a’i saeth wenwynllyd.
Mae e’n ddirgel yn marchogaeth,
Ar farch glas ym mhob cenhedlaeth;
Nid oes dyn all ddiangc rhagddo,
Aed i’r wlad a’r man y mynno.
Er bod Hasaef ’n gynt na’r ewig,
Er bod Saul fel eryr ffrolig’
Er bod Jehu’n gynt nag yntau,
Ni ddihangodd un rhag angau.
Er gwroled gŵr oedd Sampson,
F’ orfu ildo i’r angau digllon;
Felly gorfydd arnom ninnau,
Pet fai ’i gryfdor yn ein breichiau.
Alexander a gongcwerodd,
Yr holl fyd, y ti’ordd y cerddodd;
Angau gwedi’r cougcwest-”sgeler,
A gongcwerodd Alexander.
Lladdodd angau bob cougcwerwr,
Lladdodd Galon’ y physigwr,
Lladdlldd Luc’- y meddyg gorau;
Pwy all ddiangc mwy rhag angau.
Fel y sathra meirch rhyfelwyr
Tan eu traed bob math o filwyr,
Felly damsinffM angau diriaid,
Y brenhinoedd fel begeriaid.
Lladdodd angau Abel wirion,
Lladdodd angau sanctaidd Aaron;
Lladdodd Cain a Cham ysgymmun,
Nid yw’r angau’n arbed undyn.
Pharao’r Brenhin, Eli’r ’fiFeiriad,
Esau’r prophwyd, Joel yr ynad,
Noah’r patriarch, a’r hen deidiau,
A ddifethwyd gan yr angau.
Fel n’ arbedai Herod greulon
Ladd y bychain fwy na’r mawrion;
Felly gwn nad arbed angau
Hen nac ieuangc, mwy nag yntau.
Pe rhoid iddo aur yn bynnau,^
Mil o wledydd a’i coronau,
Ni chaid ganddo arbed bywyd
Dyn, dros awr, pe rhoid yr holl-fyd.
Ni chaiff neb ganlyniaeth gantho,
Er ymbilian ac er ceisio;
Mwy nag y cai Pilat ddigllon
Ei ganlyniaeth gan luddewon.
^i rydd angau, pan y delo,
Awr o amser’ i ni ymg’weirio,
Nac un rhybudd o’i ddyfodiad,
Mwy na’r ci cyn lladd y ddafad.
Ond fel Lleidir fe ddaw’r angau,
Yn ddisymmwth am ein pennau,
Yr’o ni’n cysgu yn ddi-ofon,
Fel Philistiaid am ben Sampson.
Os bydd diffyg dim i’r siwrnai,
Olew i’r lamp, a gwisg i’r cefnau,
Ni chair gan yr angau melyn
Aros ini fyn’d i’w ’mofyn.
Ond fel Brenhin Babel ddiras,
Yn troi Sadrach chwip i’r ffwrnas,
Fe dry’r angau bawb y granffo,
I’r ffwrn briddlyd fel ei caffo.
Fel y daw y lleidir llidiog,
Oanol nos am ben goludog;
Felly daw yr angau i’n cyrchu,
Yn ddi-ymgais tr’o ni yn cysgu.
Fel y tery gŵr â thryfer,
Bysg tr’o ’n gorphwys yn ddi-bryder;
Felly tery angau ddyrnod,
Ar blant dynion mor ammharod.
Fel na wyr y g’lommen dynner,
Y pryd, na’r man y tery’r ffowler;
Felly’n hollol ni wyr undyn
Y pryd na’r modd y bydd ei derfyn.
Mewn un ffordd yr y’m yn d’wad
I’r byd hwn, dan wylo’n irad;
A thrwy fil o ffyrdd, heb farco,
’Rym yn myn’d i maea o hono.
Nid oes un man yn ddi-bryder,
Na ddaw’r angau glas a’i dryfer,
I roi ini ddirgel ddyrnod;
Yn mhob man, och! byddwn barod.
Wrth droi’r defaid mewn lle dirgel,
Y daeth angau am draws Abel:
Gochel dithau gael ei ddyrnod,
Wrth droi oddeutu dy ’nifeilod.
Ar y ge’nffordd, wrth siwrneia,
Y bu farw Rachel fwyna’;
Wrth siwrneia, gochel dithau,
Rhag cyfarfod â’r glas angau.
Fan oedd holl blant Job yn gwledda,
Y daeth angau ar eu gwartha’,
Nid oes gwarant gennyd tithau,
Yn dy wledd rhag dyrnod angau.
Holophernes a fu farw,
Yn ei wis? pan oedd ef meddw:
Gochel dithau yn dy feddwdod,
Rhag i angau roi it’ ddyrnod.
Belsassar, er maent oedd gantho,
A fu farw wrth garowso:
Wrth garowso gochel dithau,
Od wyt gall rhag dyrnod angau.
Fe roes angau anfad ddyrnod,
Ar y faingc i’r brenhin Herod;
Ar y faingc y dylai barnwyr
Gofio angau mawr eu hydyr.
Saethodd angau saeth wenwynllyd,
Trwy gorph Ahab yn ei gerbyd ',
Yn dy gerbyd gochel dithau,
Rhag dy daro â hollt angau.
Fe ddaeth angau megis mwrddrwr,
Am draws Eglon yn ei barlwr;*
Gochel dithau rhag y biccell,
Yr’ech yn gorphwys yn dy ’stafell.
Pan oedd Difes yn ei sidan,
(A’i phâr foethus) oll yn hedfan,
Fe ddaeth angau ac a’i lladdodd;
Gochel dithau balch ei wisgo’dd.
Gwedi i’r cerlyn” adail” llawer,
A chrynhoi dros hirfod amser;
Fe ddaeth angau ac a’i lladdodd
Cyn cael profi o’r pethau gasglodd.
ô6.
Gochel dithau’r cob” a’r cerlyn,
Sy’n crynhoi dros lawer blwyddyn,
Bhag i’r angau dy gyrhaeddyd,
Cyn cael proii dim o’th olud.
Fe ddaeth angau i drywanu
Dau fab Aaron wrth aberthu:
Wrth yr Allor dylai’r ’ffoiriad,
Oflli angau a’i ddyfodiad.
Pan oedd Sennach’rib y Brenhin
Yn y demel ar ei ddeu-lin,
Fe ddaeth angau ac a’i lladdwys;
Ofnwch angau yn yr Eglwys.
Fe roes angau frath i Zimri,
Wrth gyd-orwedd gyd â Chosbi:
Gochel dithau wrth butteinia,
Rhag i’r angau glas dy ddala.
’Nyn” dy lamp, a gwisg dy drwsiad,
Cyn del angau’n agos attat:
Gwna dy gyfrif oll yn barod,
Cyn dy alw o flaen y Drindod.
Bydd di barod, heddyw, heno,
Ag oyl’ i’th lamp, a’th wisg yn gryno,
I fyn’d o flaen dy Farnwr prudd,
Y foru o bossibl ydyw’r dydd.
Nid ŵyr Peder, ni ŵyr Pawl,
Ni ŵyr angau, ni ŵyr diawl,
Ni ŵyr Planed,” ni wyr dyn,
Na neb o’n hawr ond Duw ei hun.
’Rhyddydd,’rhyd nos, yn glaf,yniach,
Ar fôr a thir, yn fawr, yn fach, [barotl,
Mewn tref a gwlad, bawb byddwch
Ni wyddis b’le y cawn ni’r ddyrnod.
Gweithiwch bawb tro’r dydd yn para,
Cyncotto’rhaulcrynhowchy Manna:
Derbyniwch ras tr’o Duw’n ei gynnyg,
Par’towch eich rhaid cyn delo’r diffyg.
Cyn colli’r gol,'” cyn delo’r nos,
Cyn torri’r pren, cyn cwympo i’r ffos:
Cyn cau y porth, cyn myn’d i’r garn,
Cyn canu’r corn, cyn rhoddi’r farn.
Rhed am dy chwyth,” gwna waith dy
Dduw,
Dwg tfrwyth yn rhîn’ o’r goreu’iryw,
Dos chwip’-' i’r wledd a’th wisg yn
Cais dy gyfraid cyn ymado. [gryno,
CVII. Ar y flwyddyn MDCXXIX, pan oedd y llafur neu’r ŷd yn afiachus o herwydd llawer o wlaw
Duw Frenhin trugarog,
Duw Dad Hollalluog,
Duw Porthwr newynog,
Na newyna ni,
Sy’n canlyn dy fifafar
A chalon edifar,
Ar ol dy hir watwar a’th siommi.
Er mwyn dy drugaredd
Anfeidrol a’th fawredd,
Er mwyn dy wir ’Tifedd,
O dofa dy lid;
Gwrando di’n gweddi,
Gan faddeu’n drwg-nwydi,
A chymmhorth ein tlodi a’n hadfyd.
Ni a bech’som yn d’erbyn
Yn daran esgymmun,
Nes tynnu hir newyn
A niwed i’n plith;
Ac amry w ddialau
Sy’n gryddfu”n calonnau,
Heb ailael hir odde’ dy felldith.
Ni a dor’som dy gyfraith,
Oedd gyffon a pherffaith,
Do, lawer can-waith
Cyn codi o’r man;
Fel rhai a f’ai ’n tybiaid
Na b’ai gennyt lygaid,
I ganfod fileiniaid mor aûan.
Dy enw a gablasom,
Dy air a gasasom,
Dy efengyl droedasom
Yn ddibris tan dra’d;
Dy Sabbath halogwyd,
Dy demel adawyd,
Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
Ni a dor’som dy ddeddfau,
Fel pobol a dybiau
Na ddeuai dialau
Am ddilyn ffordd ddrwg;
Neu rai a f’ai ’n credu
Na b’ai gennyt allu,
I’n cospi am bechu yn gynddrwg.
Pan heliaist genhadon
I ddangos ein beion,
A’n troi i’r ffordd union
Yn dirion, yn da’r:
Ni a gausom ein clustiau
Rhag clywed eu geiriau,
Fel neidr a fyddai yn fyddar.
Gyrraist dy weision
I’n gwa’dd ni, rai deillion,
I’th swpper yn dirion,
I dario-”n dy lŷs.
Ni a ball’som a dwad,
Ni droisom i’r farchnad,
A’ Q fferem, yn anllad anhappus.
Ni fynnwn o’r manna,
Ni thrig yn ein cylla,
Ni charwn ni o’r bara
A bery dros byth;
Ond garlleg ac wyniwn,
A phanas a phompiwn,
Fel twichod” a garwn ni’n aruthr’..
Ni fynnwn ni o’r ’fengyl,
Sy’n cnoiy ni mor rhugyl,
Ni a drown ein gwegil
At hon lawer gwaith,
Ni chaiff hi’n ceryddu,
Na’n dangos na’n dysgu, [waith.
Mae’n draws yn gwrth’nebu ein drwg-
Nis gadwn i’r ’Sgrythyr
Reoli’n drwg natur,
Na’th gyfraith gymmesur
Gymhwyso mo’r traws;
Ond byw wrth ein ffansi,
A’n trachwant a’n gwegi,
Heb fynnu rheoli ein drwg-naws.
Gan hynny waith troedo
Dy gyfraith a’i gado,
Ni aethom ar ddidro,
Nid didrangc” gwae ni,
Fel defaid a redai
O’r llafur i’r ffaldau,
Ar ol llanw eu boliau, i boeni.
Mae’n gloddest a’n traha,
Fel mawrddrwg Gomorr!.ih,
Yn Llefain am wasgfa,
I wasgu ar ein cest;
Ni thaw byth o’n penau,
Nes delo dialau,
I wasgu ar ein cryliau â dirwest/
Mae pob gradd o ddynion,
Yn fychain, yn fawrion,
Yn pechu yn greulon
Yn erbyn dy Grist,
Fel pobol wrth rafifau,
A dynnai ddialau,
O’r nef am ein pennau, yn athrist.
Mae’r ’flfeiriad yn gadu,
Dy bobol i bechu,
Heb geisio eu nadu*
I ufifern ar naid;
A’r un ag a geisio,
A’r ’fengyl eu rhwystro,
Fe gaifif ei anfrio” yn ddiriaid.
Mae’n parchus reolwyr,
(Och! Dduw), yn rhy segur,
Yn goddef troseddwyr,
I drist soddi’r wlad,
Heb gospi â’r cledde’
Na’r bobol na’r beiau,
Sy’n damsing dy ddeddfau mor irad.
Mae’r bobol gyfifredin,
Fel Israel heb frenhin,
Na ’fifeiriad i’w meithrin,
Na phrophwyd ’roi maeth,
Yn byw yn anby-waith,
Fel pobol heb gyfraith,
Heb greiydd, heb obaith, ysowaith.
Mae’n rheibus swyddogion
Yn ’spoilio rhai gwirion,
Yn ewnach na’r lladron
(Llwyr edrych ar hyn)
A’r carhaid” yn bwytta
Y tlodion fel bara,
Neu’r morlll a lynca’r ’sgadenyn.
Mae’r gweision cyflogau
A’r hurwyr” yn chwarau,
Mao’r gwoithwyr yn oiste’,
Heb ostwng eu pen,
Yn tordaen,' yn blino,
Heb fynnu mo’r gweithio,
Nes delych i’w pricco
ag angen.
Mae’r tanner” a’r twccwr/
A’r bacer’ a’r bwtsiwr,
Gweydd, gôf, a thaeliwr,
A thiler,” a chrydd,
A’r hwsmyn, a’r crefiftwyr,
A’r dififrwyth uchelwyr,
Yn myn’d yn dafarnwyr digrefydd,
Mae’r gwragedd yn gado
Eu nyddiad a’n cribo,
Eu gwauad, a’n gwnio,
I dwymo dw’r,
Gwerthasant eu rhodau,
A’n cyfiaon, a’n cribau,
I brynu costrelau tafarnwr.
Mae’r mwrddrwr, a’r gwibiad,
A’r bawdy cnaf” anllad,
A’r lleidr, y gwilliad
A’r ofifeiriad flfol,
A Shini a Shangco,
A lisens i wttro,
Bur, cwrw, tobacco, heb reol.
Pe ceisiau y cythraul,
Neu’i fam godi capel,
Wrth ochr dy demel,
Er dimmai’n y dydd,
I gadw tafarndy
Cyhoeddus yng Nghymru,
Fe gai ei genhadu yn ufudd.
Duw tyred o’th arfer,
A chynghor ar fyider,
Torr lawer o’r nifer,
Sy’n ’nafu’r byd,
Cyn bwytt’ont eu gilydd,
Cyn ’nafllut y gwledydd,
Cyn llygront dy lân-grofydd hyfryd.
Mae’r gwoision mor ddainti
Na fynnant hwy gorphi’”
Ond gwyn fara’n moistri,
Nou fustro” a wnat,
A’r merched ar gyflog,
Ond odid yn feichiog,
Am flld yn rhy wresog meddant.
Mae pob rhyw o alwad
Yn ddibris am danad,
Yn ceisio eu codiad
A’n cadw eu hun;
Heb geisio d’ ogoniant
Di, Arglwydd ein Uwyddiant,
Na’th fawr-glod, na’th foliant, na’i
’mofyn.
O achos, gan hynny,
Fod pawb yn troseddu,
A phob rhai yn pechu,
A’n buchedd ar draws,
Ti geisiaist trwy fwyndra,
Ac ennyd o wasgfa,
I’n cyyffro i wella ein drwg-naws.
Yn fwyn ac yn serchog,
Fel Arglwydd trugarog,
A fâi yn dra chwannog
I’n hennill trwy deg,
Ti geisiaist yn dirion,
Trwy amiy w fendithion,
Ein tynnu i’r ffbrdd union, yn loyw-
deg.
Pan ffaelodd dy fwynder
I wella’n drwg arfer,
Bygythiaist dy gryfder,
A llwmder i’n lladd:
Hogaist dy gleddeu,
Golymmaist dy saethau,
Par’ttoist dy arfau i ymladd.
Ond wedi it’ ymg’weirio,
Rhoist rybudd cyn clwyfo,
Bygythaist cyn taro,
A’n torri i’r llawr:
Cynnygiaist in’ ffafar,
O bydllem edifar,
A ninnau’n dy watwar yn ddirfawr.
Pan welaist, Dduw cyfion,
Na thycciai bygythion,
Ti yrraist yn ìlymmion
Dy saethau i’n lladd,
A’n curo, a’n corddi,
A llawer o ’fidi,
Na allem na’n dofi na’n gwrthladd.
Gelwaist dy weision,
Mwstraist d’angylion,
A’th dri meirch mawrion,
Coch, glas, a du:
A gyrraist hwy’n ddiriaid,
A’r holl greaduriaid,
I’n plago’ fileiniaid, a’n gryddfu,
Rhoist ddu-rew digasog,
Haf poethlyd anffodiog,
Gwynt stormus ’sgethrog,
Yn scathruB ’r ŷd,
Llifeiriant i’n soddi,
A’r moroedd i’n boddi,
A chan’ rhyw ofidi i’n herlid.
Twymynnau cynddeiriog,
Drudaniaeth digasog,
Marwolaeth llym oriog
Mewn llawer man,
A heliaist i’n cyffro,
I brysurD repento,
An cathrain i’th geisio yn gyfan.
Pan gwelaist na allai
Hyn oll o ddialau,
Ein dattroi o’n beiau,
I wella ein byd,
Ti helaist drachefen
Hir newyn a chwarren,
A rhyfel aflawen i’n herlid.
Y chwarren a laddodd
Ddiarhebrwyddh o filo’dd,
Mewn amryw o leo’dd,
A gormod lid,
Nes llanw’r monwentrdd,
A thlodi’r holl drefydd,
Lle gyrraist dy gerydd i’w hymlyd.
A’r rhyfel anffodiog
A ddaeth yn ddigasog,
A’r cleddyf yn llidiog,
I’n tlodi a’n lladd;
Nes difa’n rhyfelwyr,
A’n trysor a’n llafur,
A’n hela”n ddi-gysur i ymladd.
Soddaist ein Llongau,
Diddymaist ein piotau,
Troist fin ein cleddeu,
Teflaist ni’r clawdd;
Dallaist ein doethion,
Dychrynaist ein dewrion,
Gwerthaist ni i’r cas’ion a’n ceis-
iawdd.
Y chwarren a’r cleddy’
Y wnaeth i ni grynu,
A dechireu ’difaru,
Dau foreu neu dri,
A chanlyn a chrio’
Am dynnu’r plag heibio,
Nes iti Iwyr wrando ein gweddi.
Pan tynnaist y chwarren
A’r rhyfel aflawen,
Ni droesom drachefen,
Dri chufydd i’n hol;
Pel cŵn at eu chwydfa,
I’th ddigio, a’th hela
l’n dofi a’n difa’n anffafriol.
Gan hynny di helaist
Y ’stormau a thempest,
Yng nghanol ein gloddest,
I’n cospi â gwlâw,
Nes ’nafu’n cynhaua’,
A defnydd ein bara,
A chospi’n hir draha”- â chur-wlaw.
i2 Tywalltaist dy felldith,
Mor drwm ac mor dryfrith,
Ar farlis’ a gwenith,
A phob ymborth gŵr,
Fel y gwrth’neba
’Nifeiliaid ei fwytta;
Ni phraw’r cŵn o fara’r flafurwr.
Mae’r march yn ffieiddio,
A’r mochyn yn gado
Y Llafur sy’n llwydo,
A’r egin yn llawn,
Gan gynddrwg yw relis’
Y pilcoru’ a’r barlis,
A gaed o’r annilys’ fisgawn.
O Arglwydd, ni haedd’som
Dy felldith yn gyfion,
Ar lafur o’r fisgon,
A’r fasged a ’stor,!
A newyn a nychdod,
Am hir anufudd-dod,
O ddiffyg it’ ragod ein goror.
Ein dirmyg a’n traha
Ar ddiod a bara,
A bair i ni fwytta,
Oni attal Duw,
Y ffacbys a’r callod,z
Ac ymborth ’nifeilod,
A’r crwst- ym ni’n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri
Y blawd oedd a rhuddi,»
A’r bara a’r pinni,
Ni bwriem o’n pen:
A’r begers mor foethus
Yn teru ar farlis,
Ni phrofent ond cann”” ys haeachen.
Ni fuom yn bwytta
Gormodiou o fara,
Fel pobol Gomorrah
’N camarfer eu byd,
Heb ddiolch am dano,
Na swpper na chinio,
Nes ini dy ddigio yn danllyd.
Ni fuom yn yfed,
Nes myned cyn dynned,
Na allem ni gerdded,
Na myned o’r man,
Nes arllwys ein ceudod,
Lle’r yf’som y ddiod,
Yn waeth na’r ’nifeilod aflan.
Bu deiau’n tafarnau
Yn Llawnach y Suliau,
O addolwyr y boliau,
Yn addoli diawl,
Nag oedd em heglwysydd,
O ddynion o grefydd,
I’th ’ddoli di’n ufudd, Duw nefawl.
Tair-gwaith o leia’,
Y llanwn ni’r bola,
Bob dydd pan bo byrra,
Gan bori ein bwyd,
Prin mowu chwo’ diau,
Y cofiwn ni dithau,
Am lanw ein cryliau â bras-fwyd.
Ni flinwn yn obrwydd
Yn d’ eglwys, O Arglwydd,
Er maint yw ein haflwydd,
A’n hllflyd dra: i
Ni üiuwu ni’n aros,
Mowu tafarn dros wythnos,
Er oered o’r hir-nos uua’.
Fe yf un cyn cinio,
O fir a thobacco,
Faint a ddigono
Ddeugein-nyn ar bryd;
Fe’i chwyda drachefen,
Gan dynned ei botten,
Heb feddwl am angen a gofid.
Mae’n meddwdod yn crîo,
Am newyn i’n pigo,
Mae’n gloddest yn ceisio
Dwyn prinder i’n cell,
Mae’n afrad ysowaeth,
Yn gofyn drudaniaeth,
A hir-bryd trwy hiraeth i’n cawell.
Yn gyfiawn, gan hynny,
O Arglwydd, ti elli,
A newyn ein gryddfu
Am wrthod gras,
A thorri, a difa
Cyuhaliaeth ein bara,
A pheri in’ fwytta ein carcas.
Ond, Arglwydd trugarog,
Er mwyn dy Eueiniog,
Na ddanfon yn llidiog
Hir newyn i’n Lladd;
Na nychdod i’n gryddfu,
Na phlag i’n difethu,
Na rhyfel, na chleddy’ i’n gwrthladd.
Ond maddeu yn rasol,
Ein trawsedd augyriol,
Na wna ni yn siompol,
I bobol y byd,
Ond arbed ni’n dirion,
A gwella’n harferion,
A newid ein ffinion” fywyd.
Nac edrych, Dad cyfion,
Ar drosedd dy weision,
Na’n beiau mawricn,
I’n lladd gan eu maint;
Ond edrych yn hyfryd,
Ar angau dy Anwylyd,
I ddofi dy danllyd ddigofaint.
Er mwyn ei rhinweddau,
A’i fywyd a’i angau,
A’i ’fudd-dod a’i wyrthiau,
A’i werthfawr wa’d,
Maddeu i ni baswys,
Tro ni i’r ff’ordd gymmwys,
A chadw ni yn d’ eglwys yn wastad.
Golch ein pechodau,
Yng ngwaed dy wellau,
Croeshoelia ein beiau
Yn grugiau ar dy groes,
Rhwyga’n ’bligasiwu,
A dyro i ni bardwn, [loes.
Er mwyn dy ddrud bassiwn a’th hir-
Na alw ni i gyfri’,
Am dau ein drygioni,
Na ddere i’n cospi,
Am ein gwegi a’n gwaith;
Ond arbed dy weision,
Er mwyn dy Fab gwirion,
A’th wnaeth yn dra boddlon unwaith.
A danfon dy Yspryd,
I wella’n drwgfywyd,
A’n helpu i ddychwelyd,
A chalon iach:
I’th gywir was’naethu,
A’th ofni a’th garu,
A’n rhwystro i bechu dim mwyach.
Duw, attal dy wialen,
Dad-ddigia drachefen,
Tro d’ wyneb yn llawen,
Nâ’d newyn i’n lladd,
Maddeu’n troseddau,
Gwir wella’n drwg nwydau,
Sancteiddia’r calonau sy’n d’ wrthladd.i
Duw, gwella di’r tywydd,
Bendithia di’r maesydd,
Tro’n tristwch yn wenydd,
Na uewyua ni;
Rho râd” ar y fisgawn,
Gwna’r farchnad yn gyflawn,
Diwalla ni â’th radlawn ddaioni.
Rho ymborth i’r Cristion,
Rho ogor i’r eidion,
Rho’r ’fengyl i’r gwirion
A garo’r gair;
Rho heddwch i’r deyrnas,
Ac iechyd ac urddas,
I’n pen-llywydd Charlas ddiwair.
Mil, cliTÇ’e’-chant ac ugain,
A naw mlynedd cywrain,
Medd holl ddoethion Brydain,
Oedd oedran ein Brawd,
A’n prynwr, a’n Ceidwad,
Pan gwympodd y gawad,
lanwodd y farchnad â chwyd- flawd.
CVIII. Ynghylch y cynhauaf gwlyb
Etieolwii y nefoedd,
A’r ddaear, a’r moroedd,
A’r tywydd, a’r gwyntoedd,
A’r glynnoedd, a’r gwlaw,
Clyw gwynfan tosturiol,
Ac achwyn dy bobol,
Gan dywydd dryg-hinol a hir-wlaw.
Mae’r gwynt, y mae’r tonnau,
Mae’r gwlaw a’r dialau,
A’r ser yn eu graddau,
A’r nefoedd yn grych,
Yn ymladd i’n herbyn,
Droseddwyr escymmun,
I’n plago â newyn yn fynych.
Mae’r haul oedd i’n porthi,
A gwres a goleuni,
Yn awr gwedi sorri,
Yn edrych yn sur,
Gan ballu rhoi twymder,
A gwres wrth ei arfer,
Nes pydru’r naill hanner o’n llafur.
Mae’r lleuad yn mwrno,
Fel gwraig a fai’n wylo,
Bob nos mae yn ymguddio
Mewn cwmmwl o’r gŵydd,
I ollwng ei deigrau,
Gan amled o’n” beiau,
Nes soddi’r llafuriau âg aflwydd.
Mae’r tonnau cynddeiriog,
A’r wybren gafodog,
A’r cym’lau gwlyborog,
Yn gwlawio bob awr,
Afonydd o ddrwg-fyd,
Gan gynddrwg o’n bywyd,
I’n plago âg adfyd yn ddirfawr.
Mao’r ormes” yn sathru
Y llafur sy’n tyfu,
Mao’r gwynt yn cawdelu’
A dalo o frig,
Nes iddo ddihidlo,
A mallu, egino,
Gan wlaw yn ei guro yn gyrnig.
Mae’r llafur s’eb fedi,
Yn barod i golli,
Heb dywydd i’w dorri,
Na’i daro ynghyd,
Mewn cyflwr anhygar,
Duw moes in’ dy ffafar,
I’w gwnnu’ o’r ddaear sopaslyd.
Mae’r maint sy’n ei helem,
Fel gwellt yn y dommen,
Yn ddigon aughymmen,
Yn nghwmman” y dâs,
Yn twymo, yn mygu,
Yn llwydo, yn mallu,
A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae’r maint sy’n y ’sgubor,
Gogyfer a goror,
Yn twymo heb gynghor,
Yn mygu heb gel;
Yn barod i ’nynnu,
Mab Duw dere i’n helpu,
A nâ’d di Iwyr fethu ein trafaoL
A’r maint sydd ar feder
Ein cinio a’n swpper,
Sydd g5’nddrwg ei biner,
A’i dymmer mor dost;
Ac oni chawn gennyd,
Duw grasol, gyfrwyddyd,
Fe’n plagir ni âg adfyd hir-dost.
Agor dy lygad,
O Arglwydd oin Ceidwad,
A cheufydd raor irad,
It’ weled mor hyll,
Holl ymborth Crist’nogion,
Yn pydru raor ffinion,
O eisiau cael hinon i’w gynnull.
Duw grasol tosturia,
Difwynodd ein bara,
(Hir nychdod a faga
Dan fogail dy blant;)
O ddiffyg it ’i rwystro,
A’i ddyfal fendithio,
A rhoddi rhad arno a Uwyddiant.
Duw, beth a feddyliwn,
Am had-ŷd y gwanw’n,
O ba le y ceisiwn,
Os cawn ni fyw cy’d?
Mae pawb yn achwyngar,
Ddifwyno eu holl heiniar,
Duw, dangos dy ffafar am had-ŷd.
Duw grasol tosturia,
Wrth ddefaid dy borfa,
Na thorr ffon ein bara,
I beri i ni boen;
Maddeu’n troseddau,
Gwella’n drwg nwydau,
Cysura’n calonnau di-hoen.
Gorchymyn i’r haul-wen
Ymddangos drachefen,
Gwna’r lleuad a’r seren
Yn siriol i’th saint,
Rho hinon a chysur,
I’r poenfawr lafurwyr,
A dofa dy brysur ddigofaint.
Rhwylla’r wybrennau,
Gwasgara’r cymylau,
Cerydda’r cawadau,
Cu ydwyd a rhwydd;
Gostega’r dost ormes,
Rho degwch a chras-des,
I’r Llafur anghynnes, Arglwydd.
Ond yma, Duw’r gallu,
’Rwy’n brudd yn cyffesu,
Mae’n pechod yn tynnu
’R fath ddial ar ein traws,
A’th stormydd anrasol,
A’r tywydd dryghinol,
l’n cospi dy bobol rhy-draws.
Ti lenwaist ein boliau,
Mor gyflawn â’th ddoniau,
Na chodem o’n heiste’
I ostwng ein glin.
I roddi it’ foliant,
Na chlod am ein porthiant,
Nes tynnu aflwyddiant i’n dilyn.
Yr eidion a’r asen
A edwyn eu perchen,
A’r ci fydd llawen,
Wrth ei borthi a Uaeth;
Ond pobol ddi-wybod
Ni fynnant gydnabod,
Nac adde’ mo’r Drindod eu Tad-maeth.
Tair-gwaith o leia’
Y gwas’naethwn ni’r bola,
Bob dydd pan bo byrra’,
Gan bori ein bwyd;
Ond prin mewn saith dyddiau
Y cofiwn ni dithau,
Sy’n llanw ein boliau â bras-fwyd.
Yr wy t yn ein porthi
Ag amryw ddaioni,
Fel un a fai’n pesgi’
Pascwch yn rhin;
Ni chodwn ein pennau
I wel’d, mwy nag yntau,
O ble mae’r fath ddoniau yn disgyn.
Gan hynny ti yrraist
Y storom a thempest,
I gospi ein gloddest
A dryg-hin a gwlaw;
I beri i ni ’nabod,
A gweled mai’r Drindod
Sy’n porthi ni’n wastod a’i ddwylaw.
Er maint o’r dialau
A roist am ein pennau,
I gospi ein beiau,
Gan gynddrwg y’m yn byw;
Ni buom er y conquest,
Yn byw mor anonest,
A chymmaint ein gloddest ag heddy w.
A’r storom yn chwythu,
A’r gwlaw yn ein gryddfu,
A’r llafur yn pydru
Heb adrodd ond gwir,
Yn nheiau’r tafarnau,
Yn chwydu ar Suliau,
A’th gablu ’rym ninnau, rai anwir.
Pan ddylem weddio,
A phrysur repento,
Mewn llwch, ac ymgreinio '
Am bardwn » a gras,
A’th gywir was’naethu,
’Roe’m ninnau’n dy gablu,
A’th rwygo a’th regu yn ddiras.
Pa fwynaf y ceisid
Ein troi a’n dychwelyd,
I wella ein bywyd,
A ’madael â’n bai;
Waeth-waeth y pechem
Fwy-fwy y’th ddigiem,
Saith bellach y ciliem ninnau.
Pa fwya’ o ddialau
A roid am ein pennau,
Bid newyn, bid cleddeu,
Bid clefyd, bid gwlaw;
Fwy-fwy, fel Pharao,
Yr ym yn dy gyffro,
I’n poeni a’n plagio â hir-wlaw.
Nid rhyfedd, gan hynny,
Dy fod yn ein maeddu,
Gan ddwblu a threblu *
Ein maethgen â thrwst;
Ond mwy o ryfeddod,
Na roit i ni ddyrnod,
A’n taflu i’r pwll isod yn ddi-drwst.
Duw, maddeu’n ’styfnigrwydd,
Duw dofa’th lidiawgrwydd,
Tynn ymaith ein gw’radwydd,
A’n haflwydd hir;
Rho ras i ni fedru
Fel Ninif’ ddifaru,
A’th ddyfal was’naethu yn gywir,
Duw, gwella di’r tywydd,
Bendithia di’r maesydd,
Tro’n tristwch yn wenydd,
Na newyna ni;
Rho râd ar y fisgawn,
Gwna’r farchnad yn gyflawn,
Diwalla ni â’th radlawn ddaioni.
Duw attal dy wialen,
Dad-ddigia drachefen,
Tro d’wyneb yn llawen,
N’âd newyn i’n Lladd;
Maddeu’n troseddau,
Gwir wella’n drwgnwydau,[ladd.
Sancteiddia’r calonnau sy’n d’wrth-
CIX. Byrr yw oes dyn
Fel gwennol Job mae’n hoes yn llith-
ro,
Fel rhosyn Dafydd mae hi’n gwywo,
Fel gyrfa Paul y mae’n diweddu,
Fel bwmbwl Iago mae’n diffoddi.
Fel canwyll gŵyrmae’nhoesyntreulio
Fel Llong dan hwyl mae’n myned heibio
Fel post dan sawd mae’n pedwar-
carnu,
Fel cysgod cwmmwlmae’n diflannu.
Gwan yw’n tai,' a chryf yw’n gelyn,
Byrr yw’n terem,-' siwr yw’n terfyn,
Ansertennol yw ’i ddyfodiad;
Byddwn barod yn ei wyliad.
CX. Rhybudd i Gymru i edifarhau, ynghylch yr amser yr oedd y chwarren fawr yn Llundain
Cymun, Cymru, mwrna,” mwrna,
Gad dy bochod, gwella, gwella,
Rhag rth bochod dynnu dial,
A digofaint Duw ith ardal.
Mae dy bechod wedi dringad
Cuwch a’r nef, yn crio’n irad,
Am ddialau ar dy goppa,
Mogis Sodom a Gommorah.
Mae e’n gwaeddi nos a borau,
Fel gwaed Abel, am ddialau,
Nid oes dim a stoppa ei safan,
Ond plagDuw, neu wella’n fuan.
Mae e’ gwedi ’nurddo’r ddaear,
Fel pechodau’r cewri cynnar;
Ac yn gofyn dy ddysgabo
Oddi arni neu repento/
Nid oes cornel mwy na Ninif’,
Na bo llawn o feiau aneirif;
Na cliraeh bentref, na bo pechod,
Yn swrdanu clustiau’r Drindod.
Nid oes unrhyw radd na galwad,
Na bo gwedi ymlygru’n irad,
Ac yn tynnu, fel wrth reffyn,
Blag a dial ar dy gobyn.
Mae’r pennaethiaid bob yr un,
Yn ceisio’n mawl a’n lles eu hun;
Ac heb ymgais am wir grefydd,
Moliant Duw, na lles y gwledydd.
Mae dy ’ffeiriaid hwyntau’n cysgu,
Ac yn gado’r bobol bechu;
Ac i fyw y modd y mynnon’,
Heb na cherydd na chynghorion.
Mae dy farnwyr, a’th wyr mawrion,
Yncyd-ddwyn â mwrddwyr,meddwon;
Ac yn goddef treiswyr diriaid,
’Speilio’r gweddwon a’r ymddifaid.
Mae’r swyddogion hwyntau’n godde’,
Cablu Duw a meddwi’r Suliau,
Troedio’r ’fengyl, casau’r cymmun,
Heb na chosp na cherydd arnyn’.
Mae’r sheriffaid,a’n debidion,
Yn anrheithio’r bobol wirion;
Ac wrth rym eu braint a’n swyddau,
Yn eu speilio liw dydd goleu.
Mae’r cyfoethog hwyntau’n llyngcu
Faint sy’n helw’r tlawd yng Nghymru,
Ac wrth rentu’n dost, ac occra,
Yn eu gyrru hwy’i gardotta.
Mae’r cyffredin o bob rhyw,
Yn gwneud’n ffalst, yn digio Duw:
Ynddall, yn ddwl, heb fynnu eudysgu,
Yn myn’d i’r pwll, heb oddeu nadu.
Mae pob gradd yn pechu’n rhugyl,
Ac heb wneuthur pris o’r ’fengyl,
Nac o gyfraith Duw gorucha’,
Yn addoli’r byd a”r bola.
Mae pob gradd, â rhaffau pechod,
Yn dirdynnu dial hynod,
Am eu pennau heb dosturi,
Oni thront oddiwrth eu brynti.
Mae’r fath feddwdod,mae’rfath dyngu,
Mae’r fath gamweddynot Cymru,
A’r fath wan-gred, a gau-dduwiaeth,
Na bu ’nghred o’i sut ysywaeth.
Mae’r Duw cyfion yntau’n canfod
Drwg ymddygiad pawb a’n pechod,
Ac yn rhwym wrth swydd a natur,
’Ddial ar y fath droseddwyr.
Er ys dyddiau mae’n ymhwedd,
A’th holl blant am wella’n buchedd:
Eisiau gwella, mae’n bwriadu,
Weithian ddial camwedd Cymru.
Duw a’th ddododd yn y taflau,
Duw a’th gafodd lai na phwysau;
Duw a fyn roi maethgen iti,
Oni throi oddiwrth dy frynti.
Eisiau i Gymru gym’ryd rhybudd,
Oddiwrth Loegr a’i holl gystudd,
Mae gwialen gwedi’i gwlychu,
Yn y sicc ar feder Cymru.
Y mae plâg, yn ol dy bechod,
Gwedi’i lunio gan y Drindod;
Ac yn barod ddyfod attat,
O waith cynddrwg yw’th ymddygiad.
Y mae’n crogi uwch dy gobyn,
Ddydd a nos, fel wrth edefyn,
Ac yn barod iawn i syrthio,
Oni throi di a repento.
Yr wyt tithau yn pentyrru
Plâg ar blâg, heb edifaru,
Ac yn cam-arferu’n rhyfedd
Ffafar Duw, a hir amynedd.
’Rwyt ti beunydd yn myn’d waeth-
waeth,
Ac yn pechu fwy-fwy ’sowaeth ',
’Rwyt ti’n tybied fod Duw’n cysgu,
Tra’n dy gathrain i ddifaru!
’Rwyt ti’n hwrnu “yn dy bechod,
Heb ystyried, na chydnabod,
Fod Duw’n hoyi’n llym ei gleddeu,
Yr’ech di’ hepian ar dy feiau.
Hir yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo;
Am yr echwyn ar hir scori,Q
Och! fe dal ar unwaith iti.
Lle bo Duw yn hir yn oedi,
Heb rhoi dial am ddrygioni;
Trymma’i gyd y fydd ei ddyrnod,
Pan y del i ddial pechod.
Gochel dithau ddial Duw,
Fe ddaw ar frys, er llaesed yw,
A’i droed o wlan, a’i ddwrn o blwm,
I’th daro yn ymwngc’ ac yn drwm.
Gad dy bechod, dal dy law,
Dial Duw fel hollt a ddaw;
Rhoi it’ rybudd prudd sydd raid;
Oni chym’ri rybudd paid.
Edifara’n brudd gan hynny,
Cyn del plâg i’th ardal, Cymru,
Cyn y tynno Duw ei gleddeu,
Cais ei tfafar ar dy liniau.
Os digofaiiit Duw a ’nynna,
Pwy o’r holl fyd a’i dilfodda?
Off y chwareu wyllt a ddonfyn,
Pwy a’i tynn i maos o’th dorfyu?
Os yr Arglwydd dig a ddechreu
Ladd dy ìblant, â’i follt a’i gleddeu;
Pwy all gadw rhag ei ddyrnod,
Un o’th blant, heb law y Drindod?
Gwel pa laddfa wnaeth e’n Llundain,
Er maint oedd eu cri a’n llefain:
Eisiau gwneuthur hyn mewn amser,
Fe ddifethodd fwy na’n hanner.
Cwyn gan hynny, gochel oedi,
Llwyr ymwrthod â’th holl frynti;
Llef am ras cyn del dy faethgen,
Foru ysgatfydd y daw’r chwarren.
Mae dy blâg mewn eydau lliain,
Etto’n sioppau marchants Llundain;
Fe ddaw’r plâg oddi yno i Gymru,
Os ar fyrder ni ddilaru.
Os i Gymru daw y cornwyd,
Och! mor ammharodol ydwyd,
’Fyn’d i’r barr i wneuthur cyfri’,
Heb na gwisg na dim goleuni.
Os i Gymru y daw’r clefyd,
Ofer ceisio un cyf’rwyddyd:
Nid y w’r byd yn abal p stoppi
Haint, pan helo Duw i’n cospi.
Ofer ceisio Sads a Ryw,
I wrth’nebu clofyd Duw;
Oni throi oddiwrth dy bechod,
Ni thal medswn un o’r chwilod.
Ofer cadw pyrth dy drefydd,
Fe ddaw’r píâg dros ben y gwelydd,
Ni all peics “na dwbwl canon,”
Attal plâg, os Duw a’i danfon.
Ofor rhedeg hwnt n’^ yma,
I goisio cilio rhug dy ddilâ;
Dos lle mynnech, fo fyn dyrnod
Duw, a’i farn orddiwes pechod.
Goreu cynyhor rhag y plag,
I ddyn gadw ei hun yn wag; ^
Nid rhag bwyd, ac nid rhag diod,
Ond rhag pob rhyw fath o bechod.
Os daw plag i gospi Cymru,
Fe ddaw newyn i’th gastellu,
Tristwch, cerydd, câs, ac ofan;
Ni ddaeth plag erioed ei hunan.
Fe fydd drygfyd yn dy drefydd,
Fe fydd ochain rhwng dy welydd;
Fe fydd cwynfan ym mhob heol,
Fe fydd braw ar bawb o’th bobol.
Cariad brawdol a ddiffodda,
Pob car’digrwydd a ddiflanna;
A naturiaeth a charennydd
A Iwyr gollant eu cydnebydd.
Ni ddaw’r fam i drin y ferch,
Na’r wraig ei gŵr, er maint ei serch,
Na’r chwaer ei brawd, na’r tad ei blen-
tyn;
Cas, a thrist, a thrwm yw’r cowyn.
Y mab a ladd ei dad â’i ana’l,
A’r fam ei phlant, er maint ei gofal;
A’r wraig ei gwr wrth roi uchenaid,
A’r brawd ei chwaer a’i holl gyfnesiaid
Y marw ladd y byw a’i claddo,
A’r gwan y gwych, a ddel i’w drinio,
A’r claf y iach a fo’n ei faethu,
Mor gas, mor lun yw’r plag wrth hyny.
Dyn â’r plag sy’n lladd â’i ddillad,
Fel y Basilisc â’i lygad,
Ac â’i ana’l sy’n gwenwyno,
Fel y Coccatrus y granffo.
Y plag a bair i bob cymmydog
Gasa’r llall fel ci cynddeiriog;
A chyfathrach, ffryns, a chene’l,
Gashau câr fel blaidd neu gythraul.
Hyn a bair garcharu’r cleifion,
Yn eu tai fel traitwyrs “ffeilstion,
A’i dehoryd i fyn’d allan,
I gael bwyd dros aur ac arian,
Yr aur a ladd y rhai ’i derbyniant,
Y stwff a ddifa’r maint a’i mediant;
Pan ddel plag, er maint o’r diffyg,
Ni thal arian fwy na cherrig.
Hyn a bair i’th bobl, Cymru,
Pan ddel chwarren, hir newynu;
Pan na chaffer bwyd dros arian,
Na dim cymhorth, er ei fegian.
Dy blag a ddaw yn ymwngc hefyd,
Fel y diluw ar y cynfyd;
Neu’r tân gwyllt a ddaeth ar Sodom,
Yn ddi-rybudd fel y storom.
Pan b’ech brysur yn ymdwymo,
Neu’n y tafarn yn carowso,
Neu’n cynhenu yn y farchnad,
Y daw’r plag ymwngc arnad.
Os mewn tafarn, neu y stewdy,
Os mewn marchnad neu ddadleu-dy,
Os mewn maes y’th dery’r cowyn,
Dyna’r man y bydd dy derfyn.
Yno cei di, megis ’nifail,
Farw’n ymwngc trwy fawr drafael;
Heb i undyn i weinif iti,
Na’th areilio, na’th gomfforddi.
Ni ddaw meddyg, ni ddaw ’ffeiriad,
Ni ddaw ffryns yn agos attad;
Nac un carwr o’th holl gene’l,
Mwy nag at ryw anfad “rebeL
Ni chei neb a ddel i’th drinio,
Nac i’th ystyn, na’th amwisgo,
Nac i’th arwyl,”' nac i’th gladdu,
Ond â chladdiad buwch o’r beudy.
O! pa angau, 0! pa benyd,
O! pa blag a diwedd aethlyd,
O! pa ftflldith a throm Obrten,--
Ydyw marw’n Uy’n o’r chwarren!
Hyn i g: yd a welodd Lloeger,
Yn nhref Llundain yn hwyr amser;
Hyn a weli dithau, Cymru,
Os â’th bechod ni ’madawi.
O! gan hynny, Cymru, ystyr,
Mor anhygar, mor ddi-gysur,
Mor ddi-gariad, mor aflawen,
Ydyw marw’n llyn o’r chwarren!
Dyma’r angau wyt ti’n haeddu,
Am dy bechod, Cymru, Cymru;
Dyma’r angau s’ ar dy feder,
Oni throi at Dduw ar fyrder,
Mae Duw’n disgwyl, er ys dyddiau,
Am it’ droi a gado’th feiau;
Eisiau troi, mae Duw yn barod,
A phlag i ddial dy holl bechod.
O gan hynny, Cymru, mwrna,
Gad dy bechod, edifara:
Dysg gan Ninif’ geisio heddwch,
Cyn del dial a ditfaithwch.
Cyn y tynno Duw ei gleddeu
Cais oi heddwch ar dy liiiiau:
Bhy ddiweddar it’ ymbilian,
Gwedi tynno ei gleddyf allan.
Cwynnp i lawr wrth draed dy Brynwr,
Fel Magdalen wyla’r hallt-ddw’r;
Sych â’th wallt ei ddwy droed rasol;
Fe ddiddana’r edifeiriol.
Cyfod allor megis Dafydd,
Offrwm iddo yspryd cystu(hl:
Deisyf arno stoppi’r-' angel,
Oydd ar feder lladd dy gono’l.
Mwrn mewn sach fel pobl Ninif’,
Tro oddiwrth dy foiau aneirif;
Duw nowidia’th farn a’th fordid,
Off tydi nowidi’th fywyd.
Tramwy i’r demel nos a dydd,
Megis Aaron mwrna’n brudd;
Llef am ras ar Grist dy Geidwad,
Cyn y delo’r cowyn arnad.
Cur dy ddwy-fron yn gystuddiol,
Fel y Publican ’difeiriol:
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Cyn y’th dorrer flfwrdd â’r clefyd
Bwytta beunydd fara dagrau,
Megis Dafydd am dy feiau;
A gwna’th weli’r nos yn foddfa,
Cyn i’r chwarren wyllt dy ddifa.
Saf fel Moesen yn yr adwy,
Lle mae’r plag ar feder tramwy:
Cais gan d’Arglwydd droi’i ddigllon-
Felly dengys it’ drugaredd. [edd,
Megis Phine’s cymmer siaflyn,
Lladd y rhai sy’n perir cowyn,
Cospa â’r gyfraith afreolaeth,
Duw a’th geidw rhag marwolaeth,
Gado Sodom, tynn i Zoar,
Gochel ddistryw, bydd edifar:
Gwrando’r angel sy’n rhoi roybudd,
Cyn y del y plag i’th drefydd.
Gado’r moch a’r bobl feddwon,
Fel y gadai’r mab afradlon;
Tynn i dŷ dy dad rhag newyn,
Cyn dy dorri lawr â’rcowyu.
Tymn fol Peder i ryw gornel,
Wyla’n chwerw dros dy gene’i;
Y mae’r ceiliog yn dy gollo,
Cais drugaredd cyn dy blago.
Gwna dy gownt a’th gyfri’n barod,
Cyn dy fyn’d o flaon y Drindod;
’Nyn” dy lamp, a gwisg dy drwsiad,
Cyn y delo’r chwarron attad.
Chwyrn yw’r chwarron pan y dolo,
Ni ry amser it’ ymg’won’io:
Bydd barodol yn oi gwiliad,
Büb yr awr cyn deio attad.
Os ymgVeiria Cymru i farw,
Ac i fyn’d at Dduw yn hoyw,
Cynta’ i gyd i Dduw dy spario,
A rhoi hoedel hir it’ etto.
Duw fo grasol wrthyd Oymru,
Duw rho ras it’ edifaru,
Duw’th achubo rhag y chwarren,
Duw ro iti flwyddyn lawen.
CXI. Arall, ynghylch y chwarren
L
Cymru, Cymrit, mwrna, mwrna,
Cwyn fel Ninif’, edifara;
Gwisg dy sach, cyhoedda ympryd,
Llef am ras, a gwella’th fywyd.
Y mae Lloeger, dy chwaer hyna’,
Yn dwyn blinder tost a gwasgfa,
Dan drom wialen y Duw cyfion,
Sy’n ei maeddu yn dra chreulon.
Y mae’r plag yn difa ei phobioedd,
Fel tan gwyllt y ddo’i o’r nefoedd,
Ac fel goddaith ar sych fynydd,
Yn goresgyn ei holl drefydd.
Maent hwy’n meirw yn ddi-aros,
Wrth y miloedd yn yr wythnos,
Ac yn cwympo ar eu gilydd,
Yn gelanedd mewn heolydd.
Nid oes eli, nid oes metswn,
Nid oes dw’r, na deigrau miliwn,
All ei ddiffodd, och! na’i laesu,
Ond trugaredd Duw a’i allu.
Y mae Llundain fawr yn mwrno,
Fei Caersalem, gwedi’i hanrheithio;
Nid oes dim ond ochain ynddi,
Cwynfan tost, a llef annigri’.
Mae’r fath alar, mae’r fath dristwch,
Mae’r fath gwynfan a thrafferthwch,
Mae’r fath wewyr a’r fath ochain,
Ni bu’r fath erioed yn Llundain.
Mae pob gradd yn gwel’d yr angau,
Ger ei bron yn cwnnu cleddeu,
Ac yn disgwyl heno, heddy’,
Am y cart i’w dwyn i’w claddu.
Y mae’r gwyr yn gwel’d eu gwragedd,
A’n plant anwyl yn gelanedd:
Yn y tai yn dechreu sowso,
Heb gael undyn i’w hamwisgo.
Y mae’r gwragedd hwythau’n ochaia,
Wel’d eu gwyr a’n plant yn gelain;
Ac heb feiddio myned allan,
Yn gwall-bwyllo’n ffin gan ofan.
IL
Mae’r ymddifaid bach yn gwaeddi,
Yn y tai heb neb i’w porthi;
Ac yn sugno brest-' eu mammau,
Gwedi marw er ys tridiau.
Nid oes cymhorth, nid oes cysur,
O’r nef, o’r ddae’r, o’r môr, na’r awyr,
O’r dre’, na’r wlad, o’rmaes, na’rwin-
Llan,
O’r llan, na’r llys, o’r gaer, na’r gorlan.
Y mae’r iach yn gwel’d y trwclau,
A fai gynt yn dwyn tommennau,
Heb ddwyn dim, o’r goleu i’w gilydd,
Ond y meirw i’r monwentydd.
Mae’r rhai byw yn hanner marw,
Cyn del arnynt wŷn na gwaew,
Wrth wel’d cymmaint yw’r dialau,
Sy’n digwyddo am eu pennau.
Ni cheir rhydd-did i fyn’d allan,
Ni cheir bwyd i mewn dros arian;
Ni cheir trammwy at un Cristion,
Ni cheir ’madael â’r rhai meirwon.
Yn y tai mae’r plag a’r cowyn,
Yn yr hewl, mae’r cri a’r newyn;
Yn y maes mae’r cigfrain duon,
Hwythau, ’n pigo llygaid cleifion.
Y mae ’sowaeth, Duw a dynion,
“Wedi gado’r rhai’n yn dlodion;
Heb rhoi help na swccwr iddyn’,
Yn eu nychdod tost a’n newyn.
Mae Duw’n chwerthin am eu pennau,
Ac â’i fys yn cau ei glustiau:
Ac heb wrando gweddi can’-mil,
Eisiau gwrando llais ei ’fengyl.
Y mae dynion anrhugarog,
Yn eu ffoi fel cŵn cynddeiriog;
Gwell yw ganddynt weled gwiber,
Yn y wlad na gweled Lyndner.
“Waith bod dyn a’r plag yn ’nurddo”
Pob rhyw un a ddel i’w drinio:
Ac yn lladd â gwynt ei ddillad,
Fel y Basilisc â’i lygaid.
Ni faidd tad fyn’d at ei blentyn,
Na gwraig drin ei gŵr â’r cowyn,
Na ffrynd wel’d ei flfrynd â’r clefyd,
Heb fawr beryg’ am ei fy wyd.
Y mae’r fam yn lladd â’i chusan
Ei hanwylyd blentyn bychan;
Ac heb wybod yn andwyo,
ffwn â’r plag, tra fyddo’n sugno.
Y mae’r tad yn lladd â’i ana’l,
Ei blant anwyl yn ddi-attal;
Ac fel Coccatris” gwenwynllyd,
Yn ddi-son yn dwyn eu bywyd.
Y mae’r plentyn a glafychwys
Yntau’n lladd ei fam a’i magwys;
Ac o’i anfodd yn inffecto,'-
Yr holl dylwyth lle bo’n trigo.
Maent hwy’n meirw yn ddisymmwyth,
Gwyr a gwragedd, plant a thylwyth:
Wrth y pum’-cant yn y noswaith,
Nes myn’d Lluudam megis anrhaith.
Mae’r fath wylo, mae’r fath ochain,
Ym mhob cornel yn dref Llundain;
Ni bu ’rioed o’i fath yn Eama,
Gynt gan Eachel a’i chyfuesa’.
Mae’r offeiriaid a’r pregethwyr,
Yn galaru maes o fesur,
Werd eglwysydd, lle’r oedd miloedd.
Fel Uuestai heb ddim pobloedd.
Mae’r marsiandwyr o mawr a’n siop-
Llawn o frethyn aur, a laesau, [pan
Heb gael gwerthu dim o’r llathaid,
I roi bara i’r prentisiaid.j
Y mae’r crefftwyr hwyntau’n ochain,
Gwedi gweithio pethau cywrain,
Heb gael undyn idd eu prynu,
Ac yn barod i newynu.
Mae lletty-wyr y gwyr mawrion,
A’r arglwyddi, a’r marchogion;
A’n hostriau mawr yn wâg,
Heb neb ynddynt ond y plag.
Y mae’r water-men a’r porters,
A”r carniswyr’ oll, a’r haliers,
Heb gael lle i ennill dimai,
I roi bara yn eu pounau.
Mae’r farchnadfa, lle’r oedd llafur,
Cig a physgod, tu hwnt i fesur;
A phob moethau o’r danteithia’,
Heb na chig, na blawd, na bara.
Y mae llawer oedd yn ceisio,
Ouails, a pheasants, idd eu cinia,
’Nawr yn chwennych torri’n newyn,
Ar Ewr Jon a hen ymenyn.
Lle’r oodd beunydd ûl o fadau,
Yn dwyn ymborth heb law llongau,
Nid oos hoddyw hwnn yn dwad
O flawd cawl, dros aur i’r farchnad.
Lle’r oedd llewndid o bob ffrwytbi,
Ag oedd dae’r a dw’r yn rhoddi;
Nid oes heddyw ond y newyn,
A’r drudaniaeth,' waith y cowyn.
Hyn a barodd ein hen draha,
A’n gloddineb, a’n putteindra,
A’n gau-dduwiaeth, a’n cas feddwdod,
A dirmygu’r gair yn wastod.
Dyma wobor, dyma ffrwythau,
Dyma gyflog ein pechodau;
Dyma’r fathgen- dost haeddasom,
Am y bryntni gynt a wnaethom.
Dyma fel y gall Duw cyfion,
Dynnu lawr y trefydd mawrion
Mewn byrr ennyd am anwiredd,
A’n darostwng am eu balchedd.
Dyma fel y gall Duw blygu,
Pobol drawson a f’o’n pechu;
Ac heb wneuthur pris o’i ddeddfau,
A’n committo dan law’r angau.
Pan yr helodd Duw’r fath wialen
Ar y bobl dda o Lundain,
Mae arnaf ofn y daw y cleddy’,
Ar y bobl ddrwg o Gymru.
Hyn haeddasom er ys dyddiau,
Hyn a ddylem bawb ei adde’:
Cyfiawn yw Duw a diarg’oedd,
Yn ei ffyrdd a’i holl weithredoedd.
Ni hauasom bob diffeithder,
Gynt rhwng cwysau anghyfiawnder,
’Ey’m ni’n medi ac yn casglu
Y crop a ddygodd pechod ini.
Dyma’r dial gynt addawodd
Duw ei anfon ar y bobloedd,
Nas gwas’naethant â’n holl galon,
Ac na chadwent ei orch’mynion.
Dyma’r fathgen a gaiff Cymru,
Eisiau gwella a ’difaru,
A chymmeryd rhybudd tyner,
Oddiwrth blag a dial Lloeger.
Pan na chym’rai pobl Juda
Rybudd prudd oddiwrth Samaria;
Duw roes Juda i gaethiwed,
Fel Samaria dan law’r Syriaid.
Oni chymmer Cymru warning,
Oddiwrth Loegr yn ddi-daring;
Mae arna’i ofn y daw dial,
Ar y Cymry, a phla anial.
Pan y gwlawiodd Duw gorucha’,
Dân ar Sodom a Gomorrah,
Ni ddiffoddodd o’i lid tanllyd,
Nes difethi Zeboim hefyd.
Pan yr helodd Duw y chwarren,
I dir Lloeger ac i Lundain,
Mae arna’i ofn tost na laesa
’Eplag, nes deli ’mwel’d â Chambria.
Os pan helodd Duw y cleddeu,
I Germania a’i chyffiniau;
Eisiaui’rFfrangcodgym’rydrhybudd,
R’ aeth y cleddyf trwy’n holl drefydd.
Eisiau i Loeger gym’ryd warning,
Oddiwrth Bohemia, Ffraingc a Flush-
Y mae Duw yn cospi Lloeger, [ing,
Yn saith gwaeth nag un o’r nifer.
Oni chymmer Cymru rybudd,
Oddiwrth Loeger drist a’i chystudd;
Mae arna’ i ofn gwel’d ar fyrder
Blag yng Nghymru’n waeth na Lloeger
0, gan hynny, Gymry, mwrna,
Gâd dy bechod, edifara;
Dysg gan Ninif’ geisio heddwch,
Cyn del dial a diffeithwch.
Cur dy ddwy’fron, wyla’r hallt-ddw’r,
Golch dy wisg yng ngwaed dy Brynwr;
Llef am ras, a gâd dy frynti,
Cyn dialer dy ddrygioni.
Cyn y tynno Duw ei gleddeu,
Cwymp yn isel ar dy liniau;
A chais ras a ffafar gantho,
Cyn i’r angau dig dy daro.
Ofer crio gwedi’th glwyfer,
Ofer ymbil gwedi’th faruer,
Ofer ceisio torri’r wialen,
Gwedi rhodder iti’r faethgen.
Cwyn, gan hynny, gochel oedi,
Brysia’n esgud, gâd dy frynti:
Gwel y farn sydd uwch dy gobyn,
Tro, cyn caffo arnat ddisgyn.
CXII. Gweddi Eglwyswr, wrth ymweled â’r cleifion yn amser y chwarren
Dltw Dad, gwel mor beryglus
Yw swydd dy was trafaelus,
Sydd yn myned, ana’ a haf,
At bob dyn claf gwrth’nebus.
Nid oes na gwr na bachgen,
Bid glaf o’r froch neu’r chwarren,
Neu ryw glefyd a fo gwaeth,
Nad wyf fi gaeth i’w olren.
Os gwres, os gwayw poethlyd,
Os chwys, os twymyn awchlyd,
F’ orfydd myned uwch ei ben,
Bid glaf o’r chwarren waedlyd.
A hyn sydd dra echrydus,
I galon egwan glwyfus,
Sydd heb bŵer “ganddo ei hun
I ochel twymyn awchus.
Gan hynny, ar f’ unig helpwr,
A’m Ceidwad a’m ditfynwr,
Sy’n rheoli’r rhain i gyd,
’Rwy’n crio’m mhryd am swccwr.
O Arglwydd mawr, ti elli
Fy nghadw’n iach, os mynni,
Khag yr heiutiau hyn i gyd,
Fr maint o’n bryd”' i’m llyngcu.
Ac oni byddi holpwr,
I’m cadw rhag cyfyngdwr,
Nid oes le im’ ddiangc mwy,
Ond ildio i nhwy fel gwan-wr.
Gan hynny, Duw’r holl allu,
Os d’wyllys sy’n cenhadu,
Cadw fi dy waelaf was,
Rhag heintiau cas i’m cyrchu.
Tydi fy Nuw sy’n clwyfo,
Tydi sydd yn elio;
Tydi sy’n lladd ac yn bywhau,
Tydi a gei’n correcto.
Gan hynny, tanna’n rasol,
Dy aden yn dosturiol;
N’âd i glwyf neu glefyd cas
Ymlynu â’th was daearol.
n.
Duw, ’r hwn a gedwaist Aaron,
Yn iach yng nghanol cleifion,
Cadw finnau’n rasol rhag
Yr haint a’r plag echryslon.
Ti gedwaist Abodnego,
Yng nghanol fham, heb dwymno;
Cadw tiuuau ynghanol plag,
Er Iesu, n’âd f’ andwyo.
Ti gedwaist Ddaniel hefyd
O safn y llew uowyullyd;
Cadw finnau, Arglwydd Dduw,
Rhag haint, i fyw mewn iochyd.
Ac felly mi’th folianna,
Mewn ìlann,” a Llys, a thyrfa;
Ac a roddaf, tra ynnwy’ chwyth,
It’ ddiolch byth o’r mwya’.
Fel Aaron yn y gangell,
Fel Danieryn y ’stafell;
Ac fel Dafydd, tra f’wyf byw,
Bendithiaf Dduw, fy nghastell.
CXIII. Cynghor i’r claf
Pan y’th d’rawer gynta’ â chlefyd,
Ystyr o b’le daeth mor danllyd,
A phwy helodd glefyd attad,
A phaham ei dodwyd arnad.
Duw ei hun sy’n danfon clefyd
Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd;
A”m ein beiau mae’n ei hela,
I geisio genym droi a gwella.
Edifarha am dy feiau,
Deisyf bardwn ar dy liniau,
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Fe’th gysura yn dy glefyd.
Os ’nynnodd llid dy Dduw yn d’erbyn,
Nes rhoi arnat glefyd ’sgymmun,
Gwaed yr Oen a’th reconseila,
Deigrau hallton a’i dad-ddigia.
Gostwng iddo, mae’n drugarog;
Cais ei ras, fe’i rhy yn serchog;
Edifara, yntau faddeu;
Wyla di, tosturia yntau.
Addef iddo dy gamweddau,
Barn dy hunan am dy feiau,
Cwymp o’i flaen, a deisyf bardwn,
Ti gai ras ac absoluwsiun.
Tro di atto, fe a’th dderbyn,
Er ei ddigio, rhy dy ganlyn,
A phan gwello hallton ddeigrau,
Fe bair laesu dy flinderau.
Duw ei hun sy’n danfon clefyd,
Cennad Duw yw nychdod aethlyd,
Oddiwrth Dduw y daw clefydion,
Ni all neb ond Duw eu danfon.
Nid o’r moroedd, nid o’r mynydd,
Nid o’r ddae’r,' na’r aer, na’r corsydd,
Y daw clefyd ar blant dynion,
Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion.
Gwres, a gayw, crach, cornwydon,
Cryd, a haint, a syndra calon,
Nychdod, nodau,'* mall, diflanniad,
Sy’ oddiwrth Dduw ei hun yn dwad.
Ni all emprwyr mawr yr holl-fyd,
Ddanfon haint, na thynnu clefyd:
Nid oes neb a’i tynn na’i ddanfon,
Ond Duw mawr, y Barnwr cyfion.
Nidaiffclefyd ffwrdd wrthbwyntment
Leo, nac Antwn, Cat, na Chlement,
Witch, na dewin, swyn, na phlaned,
Nes cennado Duw ei fyned.
Os o swrffet, os o anwyd,
Neu dŷ afiach y ce’st glefyd,
Duw ei hun sydd yn dy daro,
Pa fodd bynnag daethost iddo.
Nid wrth ddamwain, nid wrth fforten,
Nid wrth dreiglad lloer na seren,
Y daw clefyd, mawr na bychan,
Ond wrth bwyntment Duw ei hunan.
Na chais edrych, fal dyn ynfyd,
Trwy ba fodd y daeth y clefyd:
Gwell it’ edrych tua’r nefoedd,
Ar dy Dduw a’r Uaw a’th d’rawodd.
Duw a’th d’rawodd, Duw a’th wella,
Duw a’th glwyfodd, Duw’th elia;
Duw sy’n cospi y gnawd diriaid,
Duw iacha dy gorph a’th enaid.
Derbyn gennad Duw’n roesawgar
Ymddwyn dano’n ddioddefgar;
Neb a garo Duw fe’i cospa,
Pob mab anwyl fe’i gwiiilenna.
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl;
Ffol a wingad ar ben swmbwl;
Duw a’th d’rawodd mor ddolurus,
Ofer it’ wrth’nebu ei ’wyllys.
Yr ail ran
Yr achos o glefyd
Am ein pechod a’n drwg fywyd,
Y mae Duw yn danfon clefyd;
Ac yn gryddfu meibion dynion,
Am droseddu ei orch’mynion.
Darn o gyflog pechod aethlyd,
Ydyw nychdod ac afiechyd;
Pechod ddygodd, wrth ei gynffon,
Bob rhyw glefyd ar blant dynion.
Torri’r Sabboth, tyngu’n rhugyl,
Casau’r eglwys a’r efengyl,
Disang ’ffeiriaid a swyddogion,
A bair lawer o glefydion.
Meddwdod, maswedd, a phutteindra,
Rhegu, loettran, a lladratta,
Gwledda, gloddest, treisio tlodion,
Sy’n dwyn clefyd a thrallodion.
Os ce’st glefyd, o daeth cnofa,
Pechod helodd hwn i’th ddala,
Ac a barodd i Dduw ddigio,
A rhoi’r clefyd hwn i’th daro.
Chwilia’n fanol dy gydwybod,
A chais gwrdd â’th ffiaidd bechod:
Llwyr groeshoelia dy anwiredd,
Ac ymbilia am drugaredd.
Os ’difaru am dy feiau,
A llwyr droi at Dduw yn foreu,
Fe faddeua Duw dy bechod,
Ac a’th dynn i maes o’th nychdod.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Dofi’th boen, â gwella’th gysur;
Cais yn daer esmwythder gantho,
F’ all ei roi yr awr y mynno.
Pa ryw bynnag yw dy ddolur,
Fe all Duw ostegu ei wewyr,
A’th iachau y modd y mynno,
Bid e’r dolur mwyaf fytho.
Fe iachaws y claf o’r parlys,
Gwraig o’r lacs,-' a’r crippil ’nafus,
Job o’i grach, a Naaman glawrllyd,
A’r rhai cleifion o bob clefyd.
N.
Nid yw clefyd ddim ond cennad,
Wrth arch Duw sy’n dwad attad,
Fe ladd, fe haid, pan archo ei berchen»
Fe ddaw, fe â, fel gwas y capten.
O! gan hynny galw’n daerllyd,
Ar dy Dduw sy’n danfon clefyd,
Cais ei nawdd or mwyn dy Brynwr,
Di gei gantho help a swccwr.
Where these words come from
Welsh: Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry; sef Gwaith Prydyddol y Parch. Rhys Prichard, M.A., gynt Ficer Llanymddyfri; ynghyd a nodiadau eglurhaol, a bywgraphiad yr awdwr, by the late Rev. Rice Rees, B.D., of St David’s College, Lampeter; third edition (Wrexham: Hughes and Son, 56 Hope Street; London: Simpkin, Marshall and Co., 1867). Scan: archive.org/details/serenforeuneugan00pric
Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.
Read Next on This Subject

A Nation of Readers: How the Welsh Bible Taught Wales to Read
From William Morgan’s Bible of 1588 and the little Bible of 1630 to Griffith Jones’s circulating schools, Madam Bevan, Thomas Charles and the Sunday schools: how the Welsh learnt to read in their own language and became one of the most literate peoples in Europe.

The Welsh Not: How They Tried to Wipe Out Our Language, and How Wales Fought Back
For four hundred years the men who ruled Wales from London treated Welsh as something to be got rid of. An Act of Parliament shut it out of the courts, a government report called it a ‘vast drawback’, and schools hung a block of wood round the necks of children who spoke it. Wales refused to let it go.

The Cymry and the Lost Tribes of Israel: A Famous Old Belief About Welsh Beginnings
For three hundred years Welsh scholars and preachers looked for the beginnings of the Cymry in the Bible: in Gomer son of Japheth, in Hebrew words they heard in Welsh, and at last in the lost tribes of Israel, carried off by Assyria. The Black Obelisk and the house of Omri, the Cimmerians, Charles Edwards, Theophilus Evans, a table of Welsh and Hebrew words, and what the name Cymry really means.

Tudor and Stuart Wales
A Welsh king, union with England, a Bible in Welsh, civil war and the first chapels.
By Ifan Last updated
Spotted a mistake? Tell meAbout this site
Cite this page
Ifan, “Seren Foreu, or Canwyll y Cymry: The Verse of the Old Vicar: Poems CV–CXIII”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/seren-foreu-caniadau-105-113.
Picture credits for this page (4)
- Tŷ Mawr Wybrnant, near Penmachno, where William Morgan, the translator of the Welsh Bible, was born — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
- Members of Cymdeithas yr Iaith protest for the Welsh language outside the Post Office in Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- King Jehu, ‘son of Omri’, kneels before Shalmaneser III of Assyria, on the Black Obelisk from Nimrud,… — Steven G. Johnson (British Museum) · CC BY-SA 3.0
- The Great Gatehouse of Raglan Castle — Bob McCaffrey · CC BY-SA 2.0
Each picture belongs to the person named and is used under the licence shown. See every picture on the site, with its credit