

History of Wales / Library / Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym: the poems of Dafydd ap Gwilym (1789)
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym: the poems of Dafydd ap Gwilym (1789)
Cerddi I–XLVI
The editors’ address to the bards and lovers of Welsh poetry, then poems I to XLVI of the 1789 collection, in its own words and spelling.
Picture: The marble statue of Dafydd ap Gwilym in the Marble Hall of Cardiff City Hall · Seth Whales, Public domain · Wikimedia Commons
The Welsh
At y Beirdd, ac Ereill a Garant Farddoniaeth Cymreig
Ydym yn eich cyfarch â Gwaith yr hynod Fardd Dafydd ab Gwilym, yn y diwyg gorau a allasom ni iddo. — Y Bardd hwn, fal y gwyddoch, sydd yn haeddu yn dda ymgeledd a chadwraeth, canys pa un o’r Beirdd Cymreig sydd yn rhagori arno? Pwy burach a chyfoethocach ei iaith, lyfnach a gwastatach ei ymadrodd? Neu, pwy mwy melus ei beroriaeth nag ef? Ond gan ddarfod i’r cyfaill Gwilym Owain osod allan ei odidawgrwydd a’i gynneddfau awenyddol yn y Rhagymadrodd Seisnig, afreidiol yma ail adrodd, ond rhoddi rhyw ychydig hanes am drefn y casgliad a’r cyhoeddiad.
Corph y gwaith a ysgrifenwyd allan o lyfrau y brodyr Lewys, Rhisiart, a Gwilym Morrus o Fon, cynneddfau a godidog gampau y gwyr hynny ni’s anghofir tra bo barddoniaeth yn yr iaith Gymraeg. Pan dderyw ini gyntaf ymdrin â’r gwaith amcanasom osod allan yr amrywiaeth yn yr ysgriflyfrau; ond pan deimlasom eu pwys ac ystyriad eu hanferth rifedi fe orfu ini ymadael a’r ymgais, ac ymegnio i ddethol y darlleniad gorau o ran purdeb iaith, synwyr, a chynghanedd. Ac fe allai i ni yn hynny gamsyniad a chamfarnu mewn llaweroedd o fanau, ond boed hynny fal y mynno, gwnaethom ein gorau yn ol yr hamdden a gorphwysdra oddiwrth amcanion a swyddau rheidiol ereill. Nid yw y cynulliad yma, er ei fod yn helaeth, yn cynnwys fawr dros hanner gwaith Dafydd ab Gwilym; ag etto rhyfedd fod cynnifer wedi ymachub rhag disgyn i drigfanau anghof.
Argenfydd gwyr cyfarwydd mewn barddoniaeth laweroedd o anafau cerdd yn y gwaith, yn enwedig os barnant yn ol rheolau y pedwar-mesur-ar-hugain, mewn grym yn y ddwy ganfed ddiweddaf; ond ystyriant hwy nad chwarau teg fyddai mesur y gerdd wrth y llath nad oedd gyfreithiol yn amser y Bardd. Y mae yn ddiddadl fod y beiau, neu’r anafau hyn, yn fynych, sef tormesur, twyllodl, gormododl, twyllgynghanedd, ac ereill o is radd; ac yn ddiamau i … o naddynt ymlithro i’r gwaith wrth ei aml ddadysgrifenu; megis y dywaid y diweddar Lewys Morrus yswain, fod cywyddau Dafydd mor felus a chymmeradwy gan y gyffredin fal y medrai laweroedd eu traethu ar dafod leferydd; ac fe allai adysgrifenu rhai o ben yn fynych, ac wrth hynny colli rhai breichiau, anafu ereill, a chamosod y lleill. Dyna’r achos fod cymmaint o amrywiaeth yn y llyfrau; rhai beiau cynhenid hefyd, nid o ran anwybodaeth y Bardd, canys yr oedd yn —
“Lluniwr pob deall uniawn
A llyfr cyfraith yr iaith iawn —”
Ond gwammalrwydd a diofalwch yn y cerddi masw caruaidd, weithiau yn dibrisio cynghanedd, yn enwedig y braich cyntaf, megis “Clo a roed ar ddrws y ty”. Yr oedd awen Dafydd mor ffrochwyllt a gwibiog yn hedeg yn aml uwch ben rheolau.
Chwi welwch ddarfod ini wahanu y casgliad yn ol y defnyddiau a’r testunau, sef yn canlyn eu gilydd, canuau i Ifor Hael, Dyddgu, Morfudd, &c., ond yr ychwanegiad, a dderbyniwyd yn rhy ddiweddar i’w osod yn ei le. Er mwyn yr anhysbys mewn hanesion, defodau, ac arferion y cynamseroedd, y mae yn niwedd y llyfr hanes byr o naddynt, ac eglurhad geiriau anghyfiaith. Creffir ar ychydig amrywiaeth yr ysgrifyddiaeth yn y llyfr hwn: y mae’r golygwyr yn bwrw eu bod yn gyttun a chynneddfau’r iaith, ac mai afreidiol iddynt osod argau i gadw ac i amddiffyn y cyfryw.
Bellach y mae y cyhoeddwyr yn tynnu tua’r diwedd, ac yn dymuno i’r barddoniaeth hyrwydd lwyddiant a chroeso gan eu cydwladwyr tra parhäont ym meddiant yr iaith a dderbyniasant o enau eu hynafiaid drwy dreiglau a damweiniau rhan fawr o oed y Byd.
Llundain, Gorph. 1, 1789.
Owen Jones.
Caniadau i’w gynnorthydd Ifor Hael a’i deulu
I. Cywydd mawl i Ifor Hael
The modern Swansea edition: poem 13 ↗
Ifor aur ei fawrwriaeth,
Deg yw’r fau diagr faeth;
Dewraf wyt, a gwrddaf gwr,
Dy ddilyn dieiddilwr.
Myfi yw (ffraethlyw ffrwythlawn)
Maer dy dda, mawr yw dy ddawn;
Ys dewr lid ysdyriol ydwyd,
Ysdôr ym, ys da ior wyd.
Telais it”wawd tafawd hoyw,
Telaist ym fragawd duloyw;
Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch,—
Rhoddaf yt brif enw Rhydderch.
Cyfarf arf, eirf ni’th weheirdd,
Cyfaillt a mab aillt y beirdd.
Cadarn wawr, cedyrn wiwryw,
Caeth y gler, cywaethog lyw.
Da oedd a syber dy ach,
Duw ni fedd dyn ufuddach:
Wyt i’th fardd pellgardd pwyllgall,
Llywiwr lu, fal llaw i’r llall.
O’m iaith y rhyluniaethir
Air, nid gwael arnad y gwir;
Hyd yr ymdaith dyn eithaf,
Hyd y try hwyl hy haul haf,
Hyd yr heuir y gwenith,
A hyd y gwlych hoywdeg wlith;
Hyd y gwyl golwg ddigust,
Hydr yw, ac hyd y clyw clust;
Hyd y mae’r iaith Gymraeg,
A hyd y tyf hadau teg,—
Hardd Ifor, hoywryw ddefod,
Hir dy gledd, heuir dy glod!
II. Cennad o Faesaleg, llys Ifor Hael ym Morganwg, i Fon; yn deisyf i’w gymdeithion ei hepcor yno, o herwydd ei fawr groeso gan Ifor
The modern Swansea edition: poem 14 ↗
Cerdda was, car ddewis-ffyrdd,
Canfod gwymp uwch cein-fedw gwyrdd;
O Forganwg dwg dydd da,
I Wynedd, haelfedd hwylfa!
Ac anwyl wyd, befrnwyd byd,
Ag annerch gwlad Fon gennyd.
Dywaid o’m gwlad na’m gwadwyd,
Di ea be oa —
Diog wyf, — dieuog wyd,
A’m bod er’s talm, salm Selyf,
Yn caru Dyn uwch Caerdyf.
Nid salw na cham fy namwain,
Ac nid serch ar un ferch fain;—
Mawrserch Ifor a’m goryw,
Mwy na serch ar ordderch yw.
Serch Ifor a glodforais
Nid fal serch anfadful Sais:
Ac nid af, berffeithiaf bor,
O’i serch ef, os eirch Ifor;
Nag undydd i drefydd drwg,
Nag unnos o Forganwg. —
Pand digrif y’ ngwydd nifer,
Caru claer, nod-seuthu cler.
Goludog hebog hybarch,
Gwr fifyrf iawn ei gorph ar farch:
Campiwr aer cyflymder coeth,
Cwmpasddadl walch campusddoeth.
Carw difarw Deifr ni oddef;
Cywir iawn y cae wyr ef,
Mawr anrhydedd a’m deddyw,
Mi a gaf, o byddaf byw,
Hel a chwn, nid haelach ior,
Ac yfed gydag Ifor.
Seuthu ei geirw saethynt,
A bwrw ei weilch i’r’wybr wynt:
A cherddau cildannau’n deg,
A soios yn Maesaleg.
Chwarau ffristial, a thawlfwrdd,
Yn un gyflwr a’r gwr gwrdd.
O cai neb gytundeb coeth,
Jrhagor rhag y llaw rhygoeth,—
Rhugl a cherdd yr anrhegaf,—
Rhagor gan Ifor a gaf!
Nid hael wrth gael ei gyfri,
Nid dewr neb ond ein teyrn ni.
Nid af o’i lys, diful ior,
Nid ufudd neb ond Ifor!
III. I Ifor Hael, y bardd yn ymadaw a’i lys, i fyned i glera i Wynedd
The modern Swansea edition: poem 16 ↗
Ufudd serchogion ofeg,
Ifor teyrnaidd ior teg.
Myned fal y dymunwyf,
Ar iawn, i Wynedd yr wyf;
Nid myned, ddwyged ddigel
O ddyn, i ymdaith a ddel:
Deufis yn nwylan Dyfi,
Ni allwn fod hebot ti.
Y galon, bedroglgion bor,
Ni chyfyd,—yn iach Ifor!
Na llygad, graddwlad gmddwlych,
Na llaw, na bawd, lle ni bych!
Nid difudd rym ym yma,
Nid oedd gall, na deall da,
I neb, a garai o naw
Diodydd gwin, dy adaw.
Rhwyddyn, cyhafal Rhydderch,
Rhagod synwyr wybod serch;
Rhyfel llid, rhyw ofal lawn,
A heddwch Ifor hoywddawn.
Maith y’th ragoriaeth gerir,
Mawr ior teg y mor a’r tir:
Naf coedfedw nefau cydfod,
Nef a phresen cledren clod.
Cawn o ddawn a eiddunwyf,
Cyfoethog ac enwog wyf,
O eiriau teg, o ariant,
Ac aur coeth, fal y gwyr cant;
O ddillad, nid bwriad bai,
Ac arfau Ffrengig erfai:
Ufudd gost o fedd a gwin,
O dlysau ail Daliesin.
Tirion grair, tarian y gred,
Tydi Ifor, tad yfed;
Enw tefyrn, ynad hoywfoes,
Wyneb y rhwydd-deb a’i rhoes,
IV. I ddiolch am Fenig i Ifor Hael
The modern Swansea edition: poem 15 ↗
Tf OR ydoedd afradaur;—
O’i lys nid ai bys heb aur,
Doe’r oeddwn, gwn, ar giniaw,
I’w lys yn cael gwin o’i law, —
Mi a dyngaf a’m tafawd,
Gorau gwraig hyd Gaer Oeri,
A gorau gwr yw d’ wr di;
Tra fu’n trafaelu trwy fodd,
Trwy foliant y trafaeliodd.
Y dydd y daethum o’i dai,
A’i Fenig dwbl o fwnai;
Benthig ei Fenig i’w Fardd,
A roe Ifor oreufardd!
Menig gwynion tewion teg,
A mwnai yn mhob maneg:
Aur yn y nail], diaill dau,
Arwydd yw i’r law orau;
Ac ariant, moliant miloedd,
O fewn y llall, Pennill oedd. 1 f’ enill oedd.
Merched a fydd yn erchi
Benthig fy menig i mi;—
Ni cheiff merch er ei herchi,
Mwy na gwr, fy menig i,
Ni roddaf, — dygaf yn deg,
Rodd Ifor, rwydd ei ofeg.
Ni wisgaf faneg nigys,
O groen mollt, i grino ’mys,
Gwisgaf, ni fynaf ei far,
Hyddgen y gwr gwahoddgar:
Menig gwyl am fy nwylaw,
Ni bydd mynych y gwlych gwlaw.
Rhoddaf i hwn (gwn ei ged,
Nawdd rhugl Neuadd Rheged)
Bendith Taliesin wingost,
A bery byth, heb air bost:
I ben y bwrdd erbyn bwyd,
Yno’rel yn yr aelwyd,
Lle y trosa rhan o’m traserch,
Lle dewr mab, lle diwair merch;
Lle trig y bendefigaeth,
Yn wleddau, yn foethau’n faeth;
Yn wragedd teg eu’hegin,
Yn feirch, yn weilch, yn filgwn, yn win;
Yn Aml drwsiad, rhad rhydeg,
Yn aur tawdd, yn eiriau teg
Nid oes bren yn y Wenallt,
Na bo’n wyrdd ei ben a’i wallt,
A’i gangau yn ogyngerth,
A’i wn a’i bais yn un berth:
Pand digrif yw i brifardd
Weled hoyw gymyred hardd,
Arglwyddiaeth, dugiaeth deg,
A seiliwyd yn Maesaleg.
Menig o’i dref a gefais,
Nid fal menig sarug Sais;—
Menig pur galenig por,
Mwyngyfoeth, menig Ifor.—
Menig pendefig Dafydd,
Ifor Hael, pwy’n fwy a’i rhydd.—
Fy mendith wedi nithiaw,
I dai Ifor Hael y daw!
V. Awdl i Ifor Hael
The modern Swansea edition: poem 12 ↗
O Haelder fy Ner, fy Nudd — ar ei gyrch
Am aur, gorchaw y budd;
Arfer yw goethryw gythrudd:
Ofer un wrth Ifor udd.
O ddewrder hyder hoywdaer — ymadrodd,
A medru troi yr aer;
O fawrgyrch hylithr feurgaer:
Ofer dau wrth Ifor daer,
O ddoethineb neb nid oes ataw, — Ffranc,
Neu o Ffrainge i Fanaw,
I fwrw dadl swrth oddiwrthaw;
Ofer dri wrth Ifor draw.
O ufudd-dawd ffawd, a ffydd, — wych eiriau,
A charu ei brydydd,
Wrth Ifor euriaith Ofydd;
Ofer bedwar, roddbar rydd,
O fonedd trosedd, wr trasyth, — a ffun
A ffyniant aml dilyth;
O weilch digel wehelyth:
Ofer bump wrth Ifor byth.
O gryfder a ffer ffyrfdeyrn, — eirdeg,
Yn dwyn eurdo heiyrn;
A’i far coed i fwrw cedyrn;
Ofer chwech wrth Ifor chwyrn.
O degwch prifflwch, prafflyw — urddedig,
Bendefig ryfig ryw;
Ei fardd wyf, astrus ystryw;
Ofer saith wrth Ifor syw,
O ddysymlrwydd swydd gyfansoddwr, hardd
Enaid beirdd a’u clydwr;
O ferw brwydr i fwrw bradwr,
Ofer wyth wrth Ifor wr.
O gampau gorau a garaf, — ar wr
Eryraidd, y barnaf,
I roddi pan fai rwyddaf,
Ofer naw wrth Ifor naf.
O wychder fy ner, un arial — a Ffwg
Morganwg mur gynnal;
O fwrw dyn o fryd anial,
Ofer deg wrth Ifor dal,
VI. Molawd Ifor Hael
The modern Swansea edition: poem 11 ↗
Da rhed ar wared arw oror — olwyn,
Neu’r wylan ar rydfor;
Deuwell y rhed (buddged bor—
Diwyd wyf) dy wawd Ifor.
Os da plethiad mad ym mor, — a hir-wlych
Am berw- long, raff angor;
Gwell y plethaf, ddewraf ddor,
Gwawd y tafawd yt Ifor,
Ni thyf cae’n Llenmaen, llanw mor — rhyferthwy,
Rhwyf Arthur, neu Hector;
Mygr atteb ddihareb ddor,
Mal y tyf mawl yt Ifor.
Cyfyd yt hawddfyd, f’addien bor, — genyf,
Ac anwyl hawddamor
Cad ddychryn darf ddur-arf ddor,
Cedyrn ofn, — cadarn Ifor!
Ner byd, wryd bedeir oror — giwdawd,
A naf olygawd nef oleugor;
Neirthiad fo efo ar for, — a llawr llen,
Nen y ffurfafen i ffurf Ifor!
Newidiwr trwsiwr trysor — y moliant,
Normant glud goddiant, glod egwyddor;
Naddiad arf oergad, deirf eurgor, — Eingl gawdd;
Nawdd mur a rwyfawdd Mair ar Ifor!
Nerth braisg Ercwlf, waisgwisgi borphor, — llorsiamp,
Nudd oreugamp, naddai ragor!
Neud berth a chyngerth, wrth angor — deyrnlas,
Nid bas rygafas rywiog Ifor.
Ni byddai lle bai bell hepcor — amaw,
Ni byddwyf hebddaw, barodlaw bor:
Ni bydd anrhegydd neb yn rhagor, — nag uwch,
Ni bu ogyfuwch neb ag Ifor!
Hardd essillydd rhydd, rhodd ddidor — meddlyn;
Heilyn win Lewelyn, wawl-gylchwin ior;
Heddyw nid ydyw, didwyll ior — gwyndal
Hyfal hael ddyfal hylwydd Ifor
Hawdd ddydd, nid rhydd rwydd gyngor — ddangos;
Hawdd nos, hedd agos, hoyw eiddigor!
Hawdd ymwrdd ym mwrdd, hawddamor — beunydd,
Hawdd fydd bryd brawd ffydd, ufudd Ifor!
Hawl mawl, mal wych-dal Echdor — yn nherfysg,
Harddffysg Deifr un- ddysg a’r dew fronddor;
Hwyhais a chefais, a chyfor — durfing,
Hail diogyfyng hael-deg Ifor,
Heirdd digeirdd i feirdd fawrddor — darian-grwydr,
Hoyw franarwr brwydr Hafren oror!
Hiroesawg fu Noe, aeraesor — facwy,
Hwy, hyawdl ofwy, fo hoedl Ifor!
VII. I wallt merch Ifor Hael
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Y Fun a’r Gwallt o fanaur,
A roe lawnt ar wiail aur
Un radd a llwyn o ruddaur,
Lliw Non dan y llwyn o aur.
Gwisg angel o wallt melyn,
Yn wrydd aur am war y ddyn.
Fal goddaith yn ymdaith nos,
Yw’r llwyn uwch pryd y llinos:
Uwch feinir goldwir a gaid,
Hyd dwyraff o het euraid.
Iarlles dan gnwd o eurllin,
Banadl aur o ben hyd lin:
Lliw’r mellt goruwch y gelltydd,
Coed aur gwiw cyhyd a’r gwydd.
Bronbelau fal ip Sieb,
A droes hon dros ei hwyneb;
Gwefr o liw, neu gyfryw hvyn,
I guddio dyn deg addwyn,
Crwybr o aur pan ei cribai,
Seirian yn mysg y manaur,
Coron o wallt, cwyr neu aur;
Maner aur pan ymwenynt
Lliw tân y Gad Gamlan gynt!
Pwn mawr eo esgyll paun mai.
Mae’r pryd yn marn y prydydd,
Ac aur ar hwn pan fai’n rhydd:
Ei liw a welai luoedd;
Drwy’r byd un diareb oedd;
Ei ’leufwydd noswyl Ieuan,
A’i frig yn debig i dan.
Ni bu fodd, ac ni b’ai ferch,
Hwn sydd ar wydd i’w hannerch!
VIII. I fanaches, ni welsai ond ei hwyneb gan ei chrefydd-wisg
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Dal neithiwr, delwi wneuthum,
Drem o bell, yn drwm y bum,
Yn nhal (och na thariai’n hwy!)
Ag yn wyneb Gwenonwy.
Anfodlawn fum, gorfum ged
I’m golwg am ei gweled;
Delw eurddrych, dwyael erddrym,
Deuwell oedd pettwn dall ym!
Daroedd ni bu wisgoedd waeth,
I daehwr o hudoliaeth:
Deuliw nyf, nis dylai neb
Duaw hon; — ond ei hwyneb,
' A’i thal mi a’i dyfalwn;
(Och, Dduw Tad, na chuddiwyd hwn!)
Megis o hw; megais hd —
Myr eiry, neu faen mererid,
Mwyn y gosodes Iesu
Am eiry dal y mwrai du:
Dwyael geimion, delw gymwys,
Deurwym lan ar y drem lwys.
Diliau yw ei haeliau hi,
Dail /ab/ fal dwyael Sibli:
Muchudd deurudd, a’i dirwyn,
Main eu tro yn mon y trwyn.
Mwyalchod teg yn mylch ton,
Mentyll didywyll duon:
Dwy ffynnon wirion ’warae,
Eu dwyn uwch meindrwyn y mae;
Gwreichion aur, grechwen araul,
Gwedi rhoi mewn gwydr a haul.
Amrant du ar femrwn teg,
Fal gwenol yn fol gwaneg.
Dau afal aur, difai lun,
Dwy nobl aur dan wyneblun.
Diball rhos, dail o aur rhudd
A dorwyd yn ei deurudd:
Granau cwyr mewn gryniau calch,
Grawn gwingoed ar groen gwyngalch.
Ceirioes addfed, cwrs addfwyn,
Cwrel, lliw cnawol llwyn;
Dy / oliw grawn celyn,
Dagrau gwaed ar deg eiry gwyn.
Dail ffion grynion eu gwraidd,
Dwy ogfaenen deg fwynaidd.
Dyfelais bryd fy myd main,
Ei deurudd fal haul dwyrain:
Dwys oedd dwy wefus heddiw,
Ar enau llen o’r un lliw,
Yn gweini claer ddidaer ddadl,
A ffroenau a pher anadl:
Ac aelgeth, liw ffrwd gweilgi,
A gyrhaedd hyd ei grudd hi!
Hoyw ar fwnwgl hir feinwyn;
Golwg teg fydd gweled hyn.
Dug fy nau lygad o dwyll,
Do genyf, fal dwy ganwyll.
Gwelais wyneb glwys waneg,
A phen dyn, rudd ffion deg:
Ni weles neb wyneb iach,
Drud fudd deigr, nid oedd degach!
IX. I’r lleian
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Y Lleian ddoeth a’i lliw’n dda,
Unlliw a Non allun Anna,
Aeth y gair ym o’th garu,—
A gwir ferch, y gair a fu.
O’th gerais a maith gariad,
Caru am garu a gad.
Fy mun da yw fy ’mynedd
Am dy gael em da ei gwedd:
Och ym! on’d mwy na chwe’mis
Am danad fun, ym un mis!
Fy swydd i yw gweddiau,
Ferch wen, pa ddiben a ddaw?
Nid hawdd cael diben genyd;
Ni chair gan wen ben o’r byd.
Gwna f’anwyl, gwan wyf finnau,
Gwna un ai cael ai naccau;
Ai mynnu f f’em anwyl,
Ai rhoi nag, fy rhiain wyl!
Ai canu (er mwy cyni)
Yn iach ’y mun, wnewch a mi!
Gwedd ewyn, cyd gweddiwyf
Gadu ar Dduw rannu *rwyf;
Ac yn niwedd fy ngweddi,
Yn ol ni ddymunwn i
Ar Dduw hael ond cael, pe caid,
Fy Hun, a nef i’m Enaid!
X. I’r lleian
Not among the poems of the modern Swansea edition.
(Ov dyn lygeid-du lwyd,
Yn ddyfal a’m gwnai’n ddifwyd;
Os mi a’i car i arall,
Myn Duw gwyn mi nid wy’ gall.
Ai gwir y ferch a garaf,
Na fynni fedw hoywdw’ haf;
Ac na thewi yn y ty tau,
Wyth-Hw-ser, a’th laswyrau tau.
Crefyddes a santes wyd,
Caredig i’r cor ydwyd:
Er Duw paid a’r bara ’r dwr,
A bwrw ar gas y herwr;
Paid er Mair a’r pader main,
A chrefydd menych Rhufain.
Na fydd Leian y gwanwyn,
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn:
Dy grefydd, deg oreu-ferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy a mantell,
A gwerdd wisg a urddai well.
Dyred i’r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwydd a’r gog;
Ac yno ni’n gogenir,—
Ennill nef yn y llwyn ir!
A chadw i’th gof lyfr Ofydd,
A phaid a gormod o ffydd.
Ninnau gawn yn y gwinwydd,
Yn neutu’r allt enaid rhydd;
Duw a fyn, difai annerch,
Ar fyr, roi pardwn i’r ferch.
Ai gwaeth i ddyn gwiw ei thaid,
Yn y llwyn ennill enaid;
Na gwneuthur fel y gwnaetham,
Yn Rhufain, ac yn Sain-Siam,
XI. I yrru llatai i hudo manaches i’r llwyn
The modern Swansea edition: poem 43 ↗
Dadlittia,’r diwyd lattai,
Hwnt o’r Mars, dwg hynt i’r mai:
Gedaist, ciliaist myn Celi!
Arnaf fi mae d’ eisiau di;
Dof holion difai helynt,
Da fuost, lle gwyddost gynt.
Peraist ym fun ar ungair.—
Par ym weled merched Mair;
Dewis lun, dos yn lan falch,
Llugan lle mae rhai lliwgalch:
Cais yn y llan ag annerch,
Salw yw’r modd, selwr merch.
Dywaid glain diwyd y gler,—
Hon yw’r salm, hyn yw ’r sieler.
A chwyn maint yw’r achwyn mau,
A chais ym fanachesau,
Saint o bob lle a’m gweheirdd
Santesau hundeiau heirdd.
Gwyn eiry arial gwawn oror,
Gwenoliaid cwfeniaid cor:
Chwiorydd bedydd bob un,
I Forfudd araf eurfun.
O caf innau rhag gofal,
O’r ffriudur dyn eglur dal;
Oni ddaw er cludo clod,
Hoywne eiry, hono erod,—
Dy ddodrefnyw dy ddeudroed,
Dwg o’r cor ddyn deg i’r coed,
Car trugain cariad rhagor,
Cais y glochyddes o’r cor:
Cais frad ar yr abades,
Cyn lleuad haf, ceinlliw tes.
Un ai medr, einym adail
A’r Lleian du i’r Ilwyn dail.
Y Ferch o’r Fynachlog Faen,
Wiwdda orchwyl ddiweirchwaen;
A’i gwir fod pobl a gwerin,
A gair mall ar gwr eu min,
Yn heuru ym, yn nhor allt,
Dy gael ddyn ruddael rwyddwallt.
Och ym! o bum i ychwaith,
Erioed wen wr yd unwaith;
Od ydyn’ hwy yn d’wedyd
Arnom hyn, er na wnawn hyd:
Er bod son drwgddynion draw,
Herod wyf i’th ddiheuraw.
Y foru y gwnaf erod,
Ar gelwydd beunydd eu bod;
Imi a roddaf, em rwyddair,
Mawr llw grym a’r law a’r grair,
Na’th gefais unwaith gwiwfwyn,
Ac na’th geisiais, lednais lun.
Och ym wen! mor wych iawn wyd,
O gwn pa’m i’th oganwyd
Ni’n gwelad yn un gwely,
(F’enaid teg) nag o fewn ty,
Na than frig, wyrenig wedd,
Coed irion yn cyd orwedd:
XII. I ymddiheuro merch Ifor Hael
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Sefyll dan y cyll ein cad,
Ni bu orwedd na bwriad,
Na meddyliaid, f’enaid fain,
Bechod, mwy na rhai bychain.
Ond dychymygion dynion dig,
A cham oedd pob dychymig:
Ni wnawn oed, nag amneidiaw,
Arnad, na llygad na Ilaw,
Na moliant i’th wallt melyn,
Myn glwys Duw ni’m gweles dyn!
Dibech heb odech ydym,
Dieithr ferch fal d’ewythr sym:
Ni ddanfonaist, ddyn feinael,
Latai ym, ddyn Iwyttu ael:
Ni bu ymddiddan o’r byd,
Na rhwym, hoyw-ferch, rho’m hefyd,
Na cham serch, ni chemais i
Yn chwimwth un braich imi,
Am danad, grair ddiwair ddoeth,
Hoff eigr feingorph hoywgoeth.
Ni ’wyllysiais i geisiaw,
Dy gorph main, dro elain draw:
Pa wedd, eithr o ryfeddod,
Yth gawn, loer eglurwawn glod;
Heb fod un ddyun ddeall
Gar llaw i garu y llall
Ni bu (garu gywiroedy
Dy fin wrth fy min er ’moed;
Na’th anadl gwan per annerch,
Na’th wyneb wrth f wyneb, ferch.
Hyn i gyd, henwn un gair,
A dyngaf myn y dengair:
Myn Arglwydd yr Arglwyddi,
Cul yw’r ais na’m coelir i!
Ni’th gefais eneth gyfiawn,
Na ddo ’rioed, ddyn ddiwair iawn
Ni ddodais, un weddus-ael,
Fy mryd i gyd ar dy gael.
Ni weddai’r hyn a wyddit,
Ni chawn fod yn ordderch yt.
XIII. Marwnad Ifor Hael a Nest ei wraig
The modern Swansea edition: poem 17 ↗
Henaint, anghywraint, ing, hiraeth, — a phoen,
A phenyd fal blaensaeth!
Marw Ifor nid rhagoriaeth,
A Marw Nest mae Cymru’n waeth!
IMae’n waeth am dadmaeth, mae dor — rh’of ag ef,
Yn gyfing ym mlaen cor;
Marw Nest, mae f’arwest yn for:
Morwyn nef! marw iawn Ifor!
Goreu oedd Ifor a’i gorph syth ein rhi
Yn rhoi Deifr a’r esyth:
Ar fu ddigel wehelyth,
Ar y sydd, ac y fydd fyth!
Nid af byth o’m nyth gan wŷd, — i gerddor,
A gerddodd gylch y byd;
Ni chan fy nwy-fraich ennyd,
Ni chaf, ni feddaf hawdd fyd.
Hawddfyd a gyfyd digofaint — Calon,
hiraeth i’r fron hon, a henaint;
Herwydd wylaw gwlaw glas enaint — orchest,
Am Ifor a nest mwyfwy yw’r naint!
Hael Ddofydd tremydd hwyl trymhaint am pair,
Gweled Nest ni chair, crair gair gywraint;
Rhaglyw afael yw nea ofeiHaint, — poen,
Ceinlhw haf oroen cain llifeiriaint!
Wrth weled curiad cariad faint, am fudd,
Ag anwylyd prudd a gynheiHaint;
Nest wengoeth, winddoeth wenddaint, — ac Ifor,
A mwy na rhagor y’m anrhegaint
A lluchwin o wydr, y’m llochaint — ar hail,
A medd o íuail mwy faddeuaint
A rhuddaur a main im’ rhoddaint, — bob awr,
A hebogau mawr y’m hebygaint.
Hir ddoniau i’r ddau, hwyr ydd aint — dan gel,
I gyd ochel, neu godech-haint;
Ac undyn ydyn’, ni’m oedaint — am fudd,
Ac un ddadanudd am fudd fyddaint.
Llyw mygrgaer yn aer, ni wnaint — yn eiddil,
Anturio naw mil mewn twrw’ enaint;
Llys Faesaleg deg dygaint — hawdd amawr,
Ac ar eu heurllawr, lle mawr meddwaint.
Osai clir, yn wir, fal naint — geirw donau,
Yn llawn rhadau, yn llynau rhedaint!
Lle bydd leferydd llifeiriaint gwin-llestr,
A goleu fenestr, ag hael fwyniaint.
Llafnfriw, llwrw iawnwiw llyr enaint, — Einglgrwydr
A llew ysigfrwydr Ihosawgfraint;
Llorf Iu, led garu lledw geraint — ym mro,
Llywio Naf huno, nef i henaint!
Cywyddau i Ddyddgu
XIV. Mawl i Ieuan Gruffudd a’i ferch Dyddgu
The modern Swansea edition: poem 86 ↗
lEUAN ior gwaywdan gwiwdad,
lawn fab Gruffudd cythrudd cad;
Wyr Cyhelyn, wyn winglaer,
Llwyd unben, wyd iawn ben aer.
Y nos arall, naws arial,
Bum i’th dy, y bo’ maith dal:
Nid hawdd er bynny hyd heddiw,
Hoen wymp, ym gaffael hun wiw.
Dy aur a gawn, radlawn rydd,
Dy loyw win, dy lawenydd,
Dy fedd glwys di faddau i gler,
Dy fragod du ei friger.
Dy ferch, gan nas gordderchai,
Feinwen deg o’th faenwyn dai:
Ni chysgais, ni weais wawd,
Hun na’i dryll, heiniau drallawd.
Duw lwyd! pwy a’m dilea,
Dim yn fy nghalon nid a,
Eithr ei chariad taladwy,—
O rhoed ym oll, ai rhaid mwy?
N i’m car hon, fo’m curia haint,
Fe’m gad hun, fe’m gad henaint.
Rhyfedd yw doethion Rhufain,
Rhyfeddod pryd fy myd main!
Gwynach nag eiry gwanwyn,
Gweddw wyf o serch y ferch fwyn,
Gwyn yw’r tal dan y wialen,
Du yw’r gwallt, diwair yw Gwen,
Duach yw’r gwallt, diochr gwydd,
Na mwyalchen, na muchydd;
Gwynder disathr ar lathrgnawd,
Yn duo’r gwallt, iawnder gwawd.
Nid anhebig ddiddig ddydd,
Modd ei phryd, medd ei phrydydd,
I’r ferch hygar a garawdd
Y milwr gynt, mawlair gawdd,
Peredur, ddwys gur ddisgwyl,
Fab Efrog, gwrdd farchog gwyl;
Pan oedd yn edrych wych wawl,
Yn yr eiry, ion eryrawl:
Llen asur ger llwyn Essyllt,
Llwybr lle bu’r gwallt gwyllt
Yn lladd heb un ai luddiai;—
Mwyalch morwyn falch ar fai;
Yno yr oedd iawn arwyddion,
Pand Duw ai tal paentiad hon!
Mewn eiry, gogyfuwch lluwch llwyth,
Modd ei thal, medd ei thylwyth,
Asgell y fwyalch esgud
Megis ei hael,—megais hud!
Gwaed yr edn gwedi’r odi,
Gradd haul mal ei gruddiau hi,
Felly y mae, eurgae organ,
Dyddgu a’r gwallt gloywddu glan.—
Beirniad fum gynt, hynt hyntiaw,
Barned rhawd o’r beirniaid draw.
Anhyweth fy nihewyd,
I mi fy myw am fy myd
XV. I Ddyddgu
The modern Swansea edition: poem 87 ↗
Dyddgu diw’radwyddgamp,
Fy nghariad oleuad lamp;
Anlladrwydd, dioer, yn lledrad,
Ydoedd i mi fry o frad.
Nid wyf wr, ac nid â fyth
I geisio merch naf gwaywsyth,
Rhag fy ngalw, salw swydd,
Yn glofflwybr yn gyff’Iybrwydd.
Hyder a wna dringhedydd,
Draw a ddring uwch gwrling gwydd,
Oni ddel, hyn a ddyly,
Bob ychydig hyd frig fry;
Oddiyna y bydd anhawdd,
Disgynu rhag cynu cawdd,
Llongwyr pan y gollyngynt,
Lle gwnan’ dan hwntian dwyn hynt;
Ni bydd mod fedd salwedd som
O ben ystyllen drallom,
Rhwysgwyr merinwyr annoeth,
Rhyngthyn’ ar anoddyn noeth:
Ac i’r lan ar ddiwanfa,
Y deuan’, darogan da,
Seuthydd a fwrw pob sothach,
Heb y nod, â heibio’n iach:
Ac ergyd hefyd difai,
Yn y nod pand iawn a wnai,—
Ergyd damwain rhiain-fun,
O gant oedd ddyfod ag un:
Ergyd damwain, fun feinael,
Em deg iawn, oedd ym dy gael.
Ef eill, ddyn eiry peill-Hw,
Dy gael ddyn, wineu-ael wiw!
Ofer oll a fu er allai,
Na’th gawn, — gwyn ei fyd a’th gai!
Oni’th gaf er cerdd erddrym
Ddidranc, yn ieuange im’, ym,—
Mi a’th gaf, addwyn wyneb,
Fy Nyn, pryd na’th fynno neb.
XVI. Yr iwrch yn llatai at Ddyddgu
The modern Swansea edition: poem 46 ↗
Tydi’r Carwiwrch fifwrch-ffawdr,
Rhediad wybren, hvydwen lawdr;
Dwg hyn o lythr talythrgoeth,
Da dy naid, ar dy din noeth:
Cyflyma wyd, cofl lemain,
Negesawl cy wyddawl cain,
Rho Duw iwrch, rhaid yw erchi
Peth o latteiaeth i ti.
Grugwawl goruwch y greigwen,
Gweirwellt a bawr, gorwyllt ben:
Iolwyn gwych teuluaidd,
Llamwr allt, llym yw ei wraidd.
Llama goruwch hon llumoen.
I’r rhiw, teg ei ffriw a’i ffroen.
Fy ngwas gwych ni’th fradychir,
Ni’th ludd gwn y barwn hir,
Nod fawlgamp, na’d i filgi
Yn ol tes dy orddiwes di:
Nag ofna di saeth Hfaid,
Na chi ’n ol, o chai naid.
Fy llatai wyd anwyd-ael,
A’m bardd Ddyddgu hardd hael:
Dwg dithau, teg ei duthiad,
Y daith hon i dy ei thad.
Gochel Bull, ci coesgoch;
Ac lolydd, ci celfydd coch:
Adlais huaid a gredir,
O do’n yn d’ol, i Dowyn dir.
Ymochel rhag dy weled,
Dros fryn i lwyn rhedyn rhed:
Neidia goruwch hen adwy,
I’r maes, ac nag aros mwy; —
A chusan ym bychan beth,
Dyddgu liw gwynblu geinbleih,
Dos i’r laid dewis er lludd,
Deall afael dull Ofydd,
Debre’r nos ger Haw’r rhosydd,
Pan frig y goedwig a’r gwydd.
Cyrch yno’r Carwiwrch hynod,
Carwn dymunwn ’y mod,
Ni’th fling llaw, bydd iach lawen,
Nid a dy bais am Sais hen,
Na’th gyrn f’anwyl, na’th garnau,
Na’th gig, ni’th gaiff eiddig gau.
Duw i’th gadw, doeth geidwad,
A braich Cynfelyn rhag brad;—
Minnau wnaf, o byddaf ben,
Dy groesi bryd egroesen.
XVII. I Ddyddgu ac eraill, ei gariadau
The modern Swansea edition: poem 120 ↗
Ei serch a roes merch i mi,
Seren cylch Nant y Seri;
Morwyn wych, nid yn marn au,
Morfudd wyl, mawr feddyliau!
Cyd collwyf o wiw nwyf uthr,
Fy anrhaith a fu iawn-rhuthr.
Cyd bai brid newid ini,
Prid oedd wr priod iddi.
Eithr rhag anfodd uthr geinfyw,
Duw fry, diedifar yw!
Gwedi chariad, brad fu’r braw,
Lloer byd, rhoi llaw ar beidiaw.
O cherais wraig mewn meigoel,
Wrth lyn y porthmonyn moel,
Gwragenus esgus osgordd,
Gwraig ryw ben-aig Robin Nordd,
Elen chwanog i olud,
Fy anrhaith ar llediaith lud:
Brenhines, arglwyddes gwlan
Brethyndai bro Eithindan.—
Dyn serchog oedd raid yno,
Gwae hi nad myfi fai fo!
chymmer hon, wiwdon wedd,
Gerdd yn rhad, gwrdd anrhyddedd!
Hawdd oedd gael gafael gyfa,
Haws na dim hosanau da:
Ac os cai, liw gwynaf gwawn,
O fedlai byddaf fodlawn,
Nid ydwyf nwyf anofal,
Rho dyn, heb gaffael rhyw dal. —
Ai ar eiriau arwyrain,
Ai ar feddwl cerddgar cain
Ai ar air, cyd diheurwyf,
Ai ar ryw beth, arab wyf;
Hefyd, cyd bo fy nhafawd
I Ddyddgu yn gwên gwawd,
Nid oes ym, myn dyn o swydd,
Ond olrhain anwadalrwydd!
Gwawr brenhiniaeth, maeth a’i medd,
Y byd wyr yw’r bedwaredd.
Ni cha o’m pen cymmen call,
Hoen geirw, na hi nag arall,
Na’i henw, na’r wlad yr hanoedd,
Hoff iawn yn, na pha un oedd.
Nid oes na gwraig benaig nwyf,
Na gwr cymaint a garwyf,
A’r forwyn glaer galchglaer gylch.—
Nos da iddi nis diylch!
Ceir gair o garu’n ddiffrwyth,
Caf, nid arbedaf i bwyth,
Pe’i gwypai gobaith undyn,
Mai am dani hi mae hyn;
Pe cynddrwg ceinwen rudd-deg
Ganthi a’i chrogi, — wych reg!
Mwy lawn-bwys mau elyn-boen,
Moli a wnaf hi, nwyf boen,
Hoyw ei llun, a holl Wynedd
Ai mawl, — gwyn ei fyd a’i medd!
XVIII. I Ddyddgu
The modern Swansea edition: poem 89 ↗
Dyddgu liw dydd goleuaf,
Dy nawdd, er Unmab Duw Naf!
Deurudd Mair, o diroedd Mael,
Duon lygaid a dwyael.
Deliais nid fal ar hudoliaeth,
Dilyn serch arnad ferch faeth;
Da leddfair deulueiddferch,
Dolurus yw dal ar serch.
Deuliw barf dwfr llafarfas,
Delw glaer ar len dyli glas!
Del i’th fron dalu i’th frawd,
Dyfu yt gerdd a’i dafawd;
Dygum yt well na deugae,
Dogn mawl, da gwn y mae.
Dyn fal corfedw yn edwi,
Deune ton am danad ti!
Dyfed a wyr mai difyw
Difai ddysg, a Dafydd yw!
Difraw ddyn od deuaf ryw ddydd,
Dwf llerw, dan defyll irwydd:
Diofn eigr dwfn fynegais,
Dw’r fy mhen hyd at fy mhais;
Diofal glud a deifl gwlaw,
Dan ddwy ael wyf deunydd wylaw!
Dy fardd mad, yn anad heb,
Digroenes deigr ei wyneb!
Dyn wyf o’th serch, wenferch wawl,
Digroywaidd gwyn dagreuawl,
Dydd ermoed, deuwedd eiry min,
Dyferiog bwyll dwf eirian!
Dyddgu wawr anrhydedd-gael,
Dyn gwiw, du eiliw dy ael!
Dawn glud, pe’n rhodder yn rhad
Da holl Loegr, diell lygad,
Dielwyd rhin yn min Mai,
Dy olwg a’i dielwai.
Dyleuaf ffawd am wawdair,
Dylai fawl myn delw Fair!
Didawl i’m bron yw d’ adwyth
Didaer loer o Dudur Iwyth!
Didwf yw dad! dy gerddawr,
Didawl main ar dy dal mawr;
Dodaist wayw llon dan fron friw,
Didost ar dy fryd ydyw;
Didawl o’th gariad ydwyf,
Da dy lun, a di-dal wyf!
Dieithr cael da uthra’ cwyn,
Dylusg arnad i dewlwyn;
Dau lygad swrth yn gwrthgrif,
Diystyr gwall awyr llif!
XIX. Gwahoddiad Dyddgu i’r deildy
The modern Swansea edition: poem 88 ↗
Y Ddyn ganaid ddawn gynneddf,
Dyddgu a’r gwallt Ihwdu leddf!
Dy wahawdd, drych y tri-phKvyf,
I Ddol yr Aeron ydd wyf:
I’r bedw, nid er bwydydd,
Nid gwahawdd glwth i fwth fydd,
Nid gofwy Sais a’i gyfaillt,
Nid neithior arf barf mab aillt;
Nid tam o giniaw amaeth,
Nid i ynyd ciglyd caeth;
Nid godwy elw medelwas,
Nid o yd gloyw amyd glas.
O’s daw’r fun, i’r ystafell
O fedw ir, a fu fyd well?
Nid addawaf da ddiwedd
I’m aur, eithr eos a medd,
Tra fo’m allan dan y dail,
Cynnes fedw a’n cynail:
Lle cyrch iwrchod rhywiog ryw,
Lle can edn, lle cain ydyw!
Eos gefnllwyd ysgafnllef,
A bronfraith ddigrifiaith gref.
Naw pren teg ei hwynebpryd
Y sydd o goedydd i gyd:
Lloches adar i chwarae,
Lhvyn mwyn — llyna’r llun y mae!
I wared, yn gryn gwmpas,—
I fyny, yn glochdy glas;
O danyn’, eiddun addef,
Meillion aur, myn Myllin nef!
Lle golas hwyl, lle gwyl gwg;
Lle ger dwfr llugoer, difwg:
Lle newydd adeilwydd da,
Lle nwyf aml, lle nef yma!
Lle tew lletyau mwyeilch,
Lle mygr gwydd, lle megir gweilch.
Lle anhysbys dyrys dir,
Gwerdd dwr rhag caswr coeshir:
Lle deuddyn, llu a’n diddawr,
Neu dri, yn ennyd yr awr
Yno heno, hoen waneg,
Awn, ai nad awn, ’y Nyn deg?
Od awn,—awn, wyneb gwynloyw,
Fy Nyn lygaid gloyn gloyw w.
XX. Bwriad o garu Dyddgu, — duchan i’r Bwa Bach, — a’i aflwydd am Forfudd
The modern Swansea edition: poem 92 ↗
Ochan fi drueni drum,
O bu air na wybuum |!
Garu cyn oedran gwra,
Hocrell fwyn ddiell fain dda;
Gowir o ddawn, gywair ddoeth,
Gynil-gain gu anwyl-goeth:
Mal unwedd etifedd tir,
Gowyll foethus-ddyn gywir,
Yn gronfferf, yn ddiderfysg,
Yn gyfiawn o’r dawn a’r dysg;
Yn deg lan Indeg loywnwyf,
Yn dir gwŷdd, — enderig wyf:
Yn gariad dianwadal,
Yn lath aur, yn loyw ei thal:
Mal y mae mawl arianddeddf,
Dyddgu a’r gwallt lllwddu lleddf. —
Nid felly y mae Morfudd,
Ond fal hyn, farworyn rhudd;
Yn caru rhai a’i cerydd,
Rhyhwyr fun, a rhyhir fydd:
Yn berchenog, barch uniawn,
Ty a gwr, yn ddyn teg iawn!
Nid anfynychach im’ ffo
Am hanner nos am honno,
Rhag dyn o’i phlas dan las-wydr,
Na’r dydd wyf llamhidydd hydr.
A’r gwr dygn a’r gair digall,
Dan guraw’r llaw yn y llall,
Llef beunydd a rydd rwydd-chwant,
A bloedd am ddwyn mam ei blant.
Llwdn hirllef, llydan haerllug,
Llafur ffol yw lly fr ei ffug;
Llwfr a rhyfedd y gwneddyw,
Llefain ar riain fain ryw,
Nid dawnus, nid dianhardd,
Nid teg ei weled, nid hardd.—
Gwr yn gweiddi, gorn gwaddawd,
Ar gan fal brân am ei brawd.
Os drwg o un anhunfloedd,
Finfffug wr o benthyg oedd.
Eiddilwr am ei ddolef,
I ddiawl aed, pam i’dd wyl ef?
Y deheu ef a’i dihun,
Gan ddywedyd -“ barcud bun!””
Och! gwae ef ddolef ddylyn,
Hyder ar Dduw, o’r byd ar ddyn!
Be prynwn, befr ddiweir bwyll,
Wraig o’m hoedl, ryw gem hydwyll;
Coehwr dig, er cael awr daw,
Rhan oedd un a’i rhown iddaw;
Rhag drycced weddw dynged wae,
Ei gwr chwerw y gwyr chwarae,
Curiodd anwadal galon,
Cariad a wnaeth frad i’m bron;
Ni chyfyd ynof cof cerdd,
Gynghyd llawen ac angerdd,
Na son diddan am danyn’,
Na serch byth onis eirch bun.—
Dewis yr wyf ar ungair,
Dyddgu i’w charu, o chair.
Amryw ganiadau i Forfudd
XXI. I Forfudd pan welodd y bardd hi gyntaf, yn Rhosyr ym Mon; ac yr anfonodd ei latai a gwin iddi, a hithau a’i gwrthododd, ac yn ddirmygus ei daflu am ben y gwas
The modern Swansea edition: poem 74 ↗
Gwyl Bedr y bum ynedrych
Yn Rhosyr, lle aml gwyr gwych,
Ar drwsiad, pobl aur drysor,
A gallu Mon, gerllaw mor.
Yno dd oedd haul Gwynedd wiw
Enid unrhwysg, hynod unrhiw:
Gwenddyn fwnwglgrwn gwynddoeth,
A gwych oedd, a gwiw, a choeth,
A’r byd am ei gwynbryd gwiw
Ar ei hol eiry hoywliw:
Rhyfedd fu gan y lluoedd,
Rhodd o nef y rhyw ddyn oedd!
Minnau o’m clwyf a’m anhun,
Yn gwilio byth am gael bun.
A fu was a fai fasach
Ei fryd didwyll, a’i bwyll bach?
Gwyhais y hi heb ddichell,
O’i hol, nid buddiol, o bell:
Onid aeth dynoliaeth dwys,
I loyw lofft gain oleulwys.
Prid yr unben a’i chwenych,
Profais y gwin prifwas gwych;
Prynu, gwaith ni bu fodlawn,
Heb raid ddau alwynaid lawn.—
Dos was, o’r mydr gwmpas mau,
“Dwg hyn i’r ferch deg gynau;
“Dyfydd hyd ei hystafell
“Dywaid, henffych yn wych well.
Dos yn ei chlust a hustyng,
5 A’th ddysg, nag arbed, a thyng;—
Mwyaf morwyn y’ Ngwynedd,
“A garaf i, myn gwr a fedd!“—
Llun iawnrhyw, llyma anrheg,
“I Iti yr anwylddyn teg.“
“Pell ynfyd fydd pwyll anfoes,
“Pe rhon’ — dywaid pwy a’i rhoes? —
“Pand cyffredin y ddinas,
“Paham na’th adwaenam was?”
“Dafydd awenydd wiwnef
“Yn rhodd a’m gyrrodd ag ef,
“Lwyttu wawr, a’i latai wyf,
“Atad, ei gariad gorwyf.
' Clod y’ Ngwynedd a eddyw,
“Dowch ef, fal sain cloch yw!
' Yn ddibarch er pumarcholl,
Meddwch chwi ef, mae maddeuwch oll.“
Nid wy’ mewn bodd o’i roddion,
' Na’i win da, na’i wenwyn don.
' Ffordd o’m gwydd! ffwrdd o’m golwg!
' Cilia y dreng, rhag cael y drwg!””
Cael y claerwin o’r ddinas,
A’i dywallt y’ ngwallt y’ ngwas!
Ammarch a oedd hynny imi,
Amhorth Mair i’m hoywgrair hy!
Os o brudd i’m gwarthruddiawdd,
Isod caf adnabod cawdd!
Asur ddisglaer ei chasul,
Eisiau gwin ar ei min mul!
Pe gwypwn gwpl di letpai,
Madog Hir ’y myd a’i cai:
Hwyr y gwnai hagr westtai hy’,
Einion Dot, mewn diowtty.
Hi a wyl, yr hoyw wylan,
A’i chlust a’i llygad ach lân;
Dal iachgain, bydd mwy diolchgar
I mi byth, amheua’ ei bar,
Byth weithian pan anfonwyf
I’r fun, annyfyn o nwyf,
Llonaid llwy o ddwfr Ihnagr
Yn anrheg, bid teg, bid hagr!
XXII. I Forfudd, pan welodd hi yn nghor eglwys Bangor
The modern Swansea edition: poem 127 ↗
Y Ferch dan yr aur llathrloy w,
Fain ddigabl crwn barabl croyw;
Yn aur o’r pen bwygilydd,
Yn rhiain wiw, deuliw dydd,
Yn gwrando ar salm Balchnoe,
Y’ nghor Bangor Ddeiniol doe,
Digon i’r byd o degwch,
Eigr bryd fflur, a brad fflwch!
Weled y wenferch wiwlwys
Wi! o’r dyn, mae’n wewyr dwys
A seithochr wayw i’n saethawdd
A seithwawd cymhendawd cawdd,
Gwenwyn awch, gwn yn nychu,
Gweledigion gwlad Fon fu!
Nis tyr dim dan awyr sugnau,
Oddi mewn y galon mau;
Nis gorug gof ei guriaw,
Nis gwnaeth llifedigaeth law.
Ni wys na lliw gwiw gwawdradd,
Nad llun y dostarf a’m lladd!
Gorwyf o’m gwiwnwyf a’m gwedd,
Gorphwyll am ganwyll Gwynedd.
Gwae fi, gwewyr a’m hirbair, —
Gwyn fy myd y’ ngwiwnef Mair!
Gwydn yw gwayw deunawnych:—
Gwas prudd, wnae’r grudd yn grych.
Gwnae yn dost gwenwyn o dal,
Y gwayw Ihfaid gwall ofal,
Trwm yw ynof ei hir gadw,
Trwyddaw fy mron, friwdon fradw.—
Trefnloes fy nad cariadwy,
Tri awch saeth brawdfaeth bradwy!
YDI’R Galon bengron bach,
Ddieres chwaen ddieiriach!
A fu dryll fwy ei drallawd
Na thydi, gwehydd-dy gwawd
Palmeres, mynwes a’i maeth,
Penwyn gyhyryn hiraeth!
Gron ferwyn, rhy derwyn daer,
Cruglwyth meddyliau croywglaer:
Llonydd sydd fodd difoesach,
Llenwi y bydd, — llun wy bach!
Hon a bair cadair ceudawd,
Heno ymddiffwys gynwys gwawd:
Rhuad gwyllt ddyn, rhad gwael,
Rhyhy yn serchog, rhyhael! l
Ystyried windraul deulu,
Y ddiod fedd ddaed fu;
Un a wna anrhegfa rhawg
Hwyl berw llif hael-byrllawiawg.
A rhylew ar heolydd,
Wyneb oer yno ni bydd;
Heb ei cael, heibio ciHwyf,
Doluriau clau wneuthur clwyf.
XXIII. Yn cwyno fod ei galon yn friwedig o gariad Morfudd
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Yr ail ydyw, arf loy wdarf,
Yno dros well, sell ar farf.
Trydydd nid adnebydd neb,
Troi y dyn, trwy odineb,
I chwenychu chwaen uchel,
Dwyn y dyn gwelwyn dan gel.—
Hynny yw gwraidd ci heiniau
Hoenswydd fawr, hynny sydd fau.
Nid mwy rhyfel, dan geli,
Dyn a mil, myn Duw, na mi!
Yn caru, neshau i serch,
Er anfodd pawb, yr unferch.
Mygr wrthrych, llewyrch Hywy,
Pefr feinwyr, pawb a wyr pwy,—
Mygr hyloyw, magwyr hoywloer,
Morfudd, deg ei deurudd dioer!
Hoen teg pan fai huan taer
Ar fron olygon loywglaer:
Haelwen leddf, heilwin Iwyddferch,
Heulwen, a seren serch
XXIV. Cystudd y bardd am Forfudd
The modern Swansea edition: poem 103 ↗
Hoywdeg riain a’m hudai,
Hael Forfudd, merch fedydd Mai!
Hono a geiff ei hannerch,
Heinus wyf heno o’i serch,
Hauodd i’m bron, hon a hyllt,
Had o gariad, hud gorwyllt:
Heiniar cur, hwn yw’r cerydd,
Hon ni ad ym enwi dydd.
Hawdd y gwrendy gyhudded,
Nawdd arnaf, ni chaf ei ched!
Hudoles, a duwies deg,
Hud imi ei hadameg.
Heddwch g)da’m bun hoywddysg,
Heddyw bei cawn, dawn y dysg,—
Herwr glan, heb alanas,
Heno wyf i’w phlwyf a’i phlas.
Hi a roes, er garwloes gwr,
Hiraeth dan fron ei herwr;
Hwy trig na mor ar y traeth,
Herwr Gwen yn ei hiraeth,
Hwyr y cawn dan ei haur coeth,
Heddwch gan fy mun hoywddoeth.
Hualwyd fi, hoeliwyd f’ais;
Hual gofal a gefais
Hwyr y daw draw er hyd a Croes
Hon o Wynedd a henyw,
Hebddi ni byddaf fi byw;
Hai how, hi’m gorfu hayach,
Ha, ha, gwraig y Bwa Bach!
XXV. Gwallt Morfudd
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Doe, gwelais Ddyn lednais lan,
Deg o liw, dy’gwyl Jeuan:
Yn ddyn glaerwen ysplennydd,
Yn lloer deg, unlliw a’r dydd!
A’i chlaerwin fin chwerthinog,
A’i grudd fal rhosyn y Grog;
Aml o eurlliw, mal iarlles,
Gerllaw y tal gorlliw tes.—
Ac uwch ei deurudd rhuddaur
Dwybleth fal y dab/ o aur;
O dattodir, hir yw hwn,
Yr eiliad aur a welwn:
Plethiad ar yr iad a rydd,
A’r godiad aur egwydydd.
Esgyll archangel melyn,
Aerwy o gwyr ar eiry gwyn.
Gweled ei gwallt fal gold gwiw,
Gwiail unllath, goel unlliw:
Banhadl-Iwyn uwch yr wyneb,
Bronbelau fal si’opau Sieb.
Gwiw arwydd uwch deurudd dyn
Gwiail-didan gold ydyn’;
Copi clyd gwiwbryd gobraff,
Coed o aur rhudd c’yd a rhaff.
Pw’n ni wyr beirdd penceirddryw,
Pwy biau’r gwallt pybyr gwiw? i
Bid arnaf fi yn ddiwg
Arddel Dyn urddol a’i dwg.
XXVI. Penwisg Morfudd
The modern Swansea edition: poem 156 ↗
Heddyw y gwelaf Ddafydd,
Hawddfyd i heddyw a fydd,
Rhwng gwallt, amgutiau chwyrn,
A dwyael merch i deyrn;
Rhoi gwerth can’-punt o’r un-tal,
main ag aur mal — gywrain main ac aur mâl —
Wel dyna weled anhawdd,
I roi ar tal, o aur tawdd! I
Myn Croes Naid o fro Eidial!
A gwaed dyn! — gwiw yw y tal —
Owmal o wlad Luddiad Lyr
Yw Penwisg fy Nyn poenwyr;
Gem yw ar ddaw o gwmwd,
Ac aur Ffrainc, ne geirw ffrwd:
Ag asur ar gysur iad,
Er gwasgu camhr i’w gwisgiad.
Fflwch rhac tal, neu benial boen,
Fflwring aur, ffioyw-ring oroen:
Da lun ar ddail fflwr-de-Hs,
Ag aur berw wo Gaer Baris.
Aur loywbrin eiry oleubryd,
Anrhydedd beilch wragedd byd:
Gwae fi, Fab Fair ddiwair dda,
Ei theced, ac ni thycia!
XXVII. Uchenaid am Forfudd
The modern Swansea edition: poem 101 ↗
Uchenaid wedn aflednais,
A’m pair heb ynni i’m pais!
Uchenaid oer ryniad ran,
A dores yn bedeirran
Bron a’i dyly, bryn y dolur!.
Braidd na’m hyllt a’i gorwyllt gur.
Nythhyyth calon! bron a bryd
O’i wag ochain, ni fag iechyd,
Cyfyd rhyw son o honof,
Cyfing cawdd o uthring cof;
Cawad yw o flaen cywydd,
Cae niwl o hir feddwl fydd:
Gynhwrf mynwes, diles dwyll,
Cynnar ddiffoddwraig canwyll!
Uchenaid, Hfaid lafur,
O’i blaen a dyr maen o’r mur!
Rhiain a’i pair, gair gorwyn,
Rhuad tost yw ar byd dyn,
Ef yw gwynt hydref hoedran!
Pawb a debyg pan ddigiwyf,
Pe bai ddysg, mai pibydd wyf:
Mae o anadl mwy ynof,
Nag yngan meginau gof.
Gwaeth na gwynt helynt hydref,
O’m chwyth — y mae ’n chwith ef!
Awel gwlaw i grinaw gran,
Ni bu wenith na nithid
Wrth hon, pan fai lon o lid.
A thrist fy swydd er’s blwyddyn
Eithr Morfudd ni’m dyhudd dyn! 1
XXVIII. Yr wylan yn llatai at Morfudd
The modern Swansea edition: poem 45 ↗
Yr Wylan deg ar lanw dioer,
Unlliw a’r araf wenlloer;
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli:
Ysgafn ar don eigion wyd
Esgud edn bysgod-fwyd.
A ddygi yn ddiogan,
Llathr o glod, fy llythyr glan,
At ferch sy’ a’i serch yn saeth? —
I’m dwyfron mae gloesion glewsaeth!
Yngo’r aet, wrth yr angor,
Lawlaw a mi, lili mor.
Lhthr unwaith, llathr ei hanwyd,
Lleian yn mrig llanw mor wyd,
Cyweirglod bun cae’r glod bell,
Cyrch yst um caer ei chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigr o liw ar y gaer lan.—
Dywed fy ngeiriau Dynu —
Dewised fi, — dos at fun;
Boddia hon, haidd ei hannerch;
Bydd fedrus wrth foddus ferch.
A bydd, dywaid na byddaf,
Fwynwas caeth, fyw onis caf!
Ei charu’r wyf gwbl-nwyf nawdd,
Och wyr! erioed ni charawdd,
Na Merddin weniaethfin iach,
Na Thaliesin ei thlysach.
Och! Wylan o chei weled
Grudd y ddyn lana o gred;
Oni chaf fwynaf annerch,
Fy nihenydd fydd y Ferch!
XXIX. Arddelwi Morfudd i’r tair rhiain odidog gynt
The modern Swansea edition: poem 130 ↗
Tair gwragedd a’i gwedd fal gwawn,
A gafas yn gwbl gyhawn,
Pryd cain, pan fu’r damwain da,
A roes Duw Nef ar Efa.
Cyntaf o’r tair disglair- loy w
A’i cafas, ehudwas hoyw! —
Pohsena, ferch Bria,
Gwaisg o grair yn gwisgo gra.
A’r ail fu Diodema,
Gwiw-bryd goleu-draul haul ha’.
Trydydd fun, ail Rhun y rhawg,
Fu Elen, feinwen Fanawg;
Yr hon a beris yr ha’
A thrin rhwng Groeg a Throia,
Pedwaredd disymledd serch,
Y gain eglur-fain glaer-ferch,
Yn dyfod yn deg ddiseml,
Heb wg nod amlwg, i’r deml,
A’r lluoedd arni’n edrych,
Ar lawr disgleir-fawr, wawr wych.
I myfi daeth ymofeg,
Ymofyn, pwy yw’r dyn ât%? —
Chwaer yw hon, lon oleu-loer,
Undad a’r lleuad a’r lloer;
A nith i des ysplennydd,
A’i mam oedd wawr ddinam ddydd!
Ac o Wynedd yr henyw,
Ac wyr i haul awyr yw!
Nid gwen un wraig a’r adwaen,
Nid gwyn galch ar siamber falch faen,
Nid gwen gwelwdon anghyfuwch,
Nid gwyn ewyn llyn, na lluwch,.
Nid gwyn pryd dilys disglair,—
Wrth bryd gwyn fy myd, myn Mair!
Cyngwystl a wnawn heb gynghor
(Lliw ton geirw pan feirw ar for)
Nid byw’r cristion credadyn
A gai le bai ar liw bun!
Onid ei bod yn glodgamp,
Dyn fach yn loywach na’r lamp!
Na fid rhyfedd gan Gymro,
Alw bun o’r eiHw y bo,
Poed ar gyllell hirbell hon,
I gerdded gwaed ei galon,
A’i cymerai yn hyfryd,
A maddeu bun meddu byd!
Pa mwya’ fo fy nghyfoeth,
A’m canmawl cynhwynawl coeth.— ■
Fwyfwy y clwyfau, ar naid
Cof ynof, cyfryw enaid!
Pa les i minnau wyrda,
Maddeu’r dyn a meddu’r da?
Nid oes obaith goleuni
I’r dyn, a fo hyn na hi!
XXX. Amaethiad cariad, — aredig, hau, medi, a chywain serch Morfudd
The modern Swansea edition: poem 109 ↗
Caru bun, cyd y curiwyf,
Yn fwy, neu ddeufwy ydd wyf!
Cyfragod gariad tradof,
Crupl y cur, croyw epil cof:
Cadw a orum ceudawd
Cariad, twyllwr cnowr cnawd.
Cynnyddu cwyn a wyddiad,
Y mae i’m bron, mam y brad:
Cynt na thyfiad cariad craff,
Cangen y blin-bren blaen- braff.
Ceisio heiniar i garu,
Am briod fyth i’m bryd fu;
Rhwng dailiadaeth, gwawdfaeth gudd
Y marwfis o serch Morfudd.—
Arddwyd fy mron, ddewrion ddwys
Iawn angerdd serch yn ungwys;
Ac mae aradr, cerddgadr call,
I franaru’r fron arall.
Aswch ym calon y sydd,
A chwlltwr serch uwch elltydd.
Y gauaf, er gwiw ofal,
A welwyf dolur-nwyf dal!
Mae i’m bron ddeall, glau glwyf,
Fryd hau a llyfnhau Ihfnwyf:
Calanmai, rhag cael unmodd
Seguryd ym byd o’m bodd,
A thrimis, berf ddewis bwyll,
Gwanwyndymp, gwayw anhun-dwyll.
Ni chaf yr haf yr hoyw-ferch,
Ni chred neb brysurdeb serch!
Cadeiriodd ynof ofid,
Coetgae i’m lladd, cytgam llid.
Caeais, hoywdrais ehudrwyf,
Yn ei gylch, dyn unig wyf!
Treiddiodd serch yr hael-ferch hon,
Trefn afraid, trwy fy nwyfron.
Cyrchais, ni ohiriais hur,
Cyrchau medelau dolur;
Troes y gwynt, o bell-hynt bollt,
O ddeall r galon ddwyollt.
Trwm fu gyfrgoll yr hollfyd,
Trallod yw bardd trulliad byd:
Am y dyn ei hoedl ni’m dawr,
Ag yn addfed gynyddfawr;
A thywylîawdd gawdd gordderch,
Yn fy mhen, ddwy seren serch.
Edrychasant, lwyddiant o lun,
Ar Forfudd, araf eurfun;—
Llidiardau dagrau digrwyf,
Llygaid nofaduriaid nwyf:
Lwferau dwfr llifeiriant,
Lafurus o nwyfus nant!
Curiwyd y fron hon heno,
A dwfr glas, edifar glo:
Dan hon y mae yn gronllech,
Ni ad fy mron saldrem sech!
Drwg fu ar solf gofl gofid,
Dryghin o orllewin llid:
Addaw prif wastadlaw prudd,
O ddwyrain wybr ar ddeurudd;
Ac o gariad tad didwyll
Gwedi’r boen, gwae di o’r bwyll!
Ni ellais fron oglais frad,
Ei gywain rhwng dwy gawad,
Hoen bryd eigr, fy neigr ni ad,
Heiniar Iwyr, hun ar lygad!
Dywedwch ym enaid didwyll,
Gwae fi o’r boen, gaf ar bwyll
Syrthio o’r cariad mad maith,
A’m siomi am osymaith i
XXXI. Dieithrwch Morfudd o serch, ac yn anwadal
The modern Swansea edition: poem 157 ↗
Y Fun o Eithinfynydd,
F’enaid teg, ni fyn oed dydd,
Fain-iawn ael, fwynion olwg,
Fanwallt aur, fy anwyllt wg:
Fy ngwynfyd rhag trymfyd tranc,
Fy nuwies addfwyn ieuangc,
Fy nrych llewyrch mewn Ihwaur,
Fy rhan yw, fy rhiain aur;
Fy swllt dan sutres elltydd,
Fy serch ar hon fwyfwy sydd,
Fy nillyn mwynyn manwallt,
Fy nghrair, — ni chair yn ochr allt!
Ni chyrch hon goed y fron fry,
Ni châr a’i câr — ni chwery:
Ni chair Morfudd i chwarae,
Na chair! — caru Mair y mae,
A charu saint wych hoywrym,
A charu Duw — ni chred ym!
Ni wyr gwen, un oriog yw,
Nid edwyn mo’r od ydyw:
Nid adwaeniad odineb,
Ni fynai nyn fi na neb;
Ni fynwn innau Panwyl
Fyw oni chawn fun wych wyl!
Am bun darfu ymboeni,—
Morfudd fwyn! — marw fyddaf fi!
XXXII. Claddu y bardd o gariad
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Y Fun loywhm, fal lili
Yw’r tal, dan we aur wyt ti!
Mi a’th gerais maith gwiwrym,—
Mair deg! oes ymwared ym?
Dy dal rhag ofn dy dylwyth,
Dial parch, wyf heb dal pwyth:
Y mae genyf mau gyni,
Uchenaid tost o’th chwant ti.
O’m lleddi ammwyll wiwddyn,
Yr em wen hardd, er mwyn hyn,
Euawg i’th wnair, grair y gras,
Ymgel, wen) o’m galanas.
Minnau mewn bedd a gleddir,
Ym mysg dail a masw-goed ir:
Arlwy o fedw irion,
Yforu a gaf dan frig on;
Amdo wenwisg am danaf,
A lliain hoyw feillion haf;
Ac ysgrin, i geisio gras,
Ym o’r irddail mawr urddas;
A blodau llwynau yn len,
Ac elor o wyth gwialen.—
Y mae gwlanod y mor
A ddon’ fil i ddwyn f’elor,
Llu o goed teg, llyg ai twng,
Em hoywbryd, a i’m hebrwng:
A’r eglwys i’m o glos haf,
Yn y fanallt, ddyn fwynaf,
A dwy ddelw da i ’ddoli,
Dwy eos dail — dewis di!
Ac yno wrth gae’r gwenith
Allorau brlls, a llawr brith,
A chor, ni chae’r ddor yn ddig;
O droddail nas medr eiddig:
A brodyr, a wyr brydiaith,
Llwydion a wyr Lladin iaith;
O ran mydr o ramadeg
O lyfrau dai), lifrai deg!
Ac organ gwych y gwirgae,
A sain clych mynych y mae:
Ac yno, yn medw Gwynedd,
I mi ar bar y mae’r bedd!
Lle teg glas, matras mainc,
Llan eos, llwynau ieuaino;
A’r gog rhag f’enaid a gan
Ar irgoed fal yr organ,
Paderau, ac oriau’n gall,
A llaswyrau, llais arall;
’Fferenau, a pher annerch
A gaf fis haf, gofwy serch!—
Aed Duw, i gynnal oed dydd,
I baradwys a’i Brydydd!
XXXIII. Pererindod Morfudd i Fynyw, i geisio maddeuant am ladd y bardd
The modern Swansea edition: poem 129 ↗
Gwawr ddyhuddiant y cantref!
Lleian aeth er llu o nef,
Ac er Non, calon a’i cel,
Ac er Dewi, eigr dawel,
O Fon deg, poed rhwydd rhegddi!
I Fynyw dir, f’enaid i!
I geisio, blodau o’r blaid,
Maddeuant am a ddywaid.—
Am ladd ei gwas dulas dig,
Penydiwr cul poenedig,
O alanas gwas gwawd-ferw
Yr aeth, oer hiraeth, ar berw;
Greddf ffoes gruddiau ffuon,
Gadewis fy newis Fon;
Crist arglwydd! boed rhwydd y trai
Cas, a chymwynas Menai,
Y Traeth jIawr, goludfawr glod,
Treia, gad fyned trwod.
Y Bychan Draeth, gaeth gerynt,
Gad ym dyn gwyn hyn o hynt.
Darfu’r gweddiau dirfawr,
Digyffro fo Ertro fawr.
Talwn fferm porth Abermaw,
Ar don drai, er ei dwyn draw.
Gydne gwin, gad naw gwaneg
Dysyni i Dir Dewi deg.
A dwfn yw tonau Dyfi,
Dwfr rhyn yn ei herbyn hi.
Rheidiol, gad er d’anrhydedd
Heol i fun hael o fedd,
Ystwyth, ymhwyth, gad ym hon
Drais dew-ddwfr, dros dy ddwyfron,
Aeron ferw hyson hoywserch,
Gad trwod fy eurglod ferch.
Teifi, dw’r tyfiad eurwawn,
Gad i’r dyn gadeirio dawn:
Durfing drwy’r afon derfyn
Yr el ac y del y dyn!
Mam hirfifawd, mae ymhorfifor,
Os byw rhwng Mynyw a’r mor.
Os hi a’m lladdawdd, oes hir,
Berw hylithr, hwyr i’r holir
Maddeuant Mair, neddair nawdd,
I’m leddf wylan a’m lladdawdd!
Diau mae im’ at dihaur,
Minnau a’i maddau i’m haur
XXXIV. Morfudd yn pennu oed, heb gywiro
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Bychan oedd gan Ddianis
Am ei bryd mawr ei bris
Cellwair pob gair a garaf,
Pob gair yn gellwair a gaf.
Y hi a wnaeth, hun ei hun,
Im’ rhyw dwyll mawr er dywllun —
Doedyd, megis i hudol,
Dywmawrth y deui i’m hol:
Dywmercher, wrth dy eirian,
Y gwnai oed, loer gânaid lan!
Difiau y gosodau oed
A dywgwener deugein- oed; Iz
Os oed a wnai ddywsadwrn,
Dywsul y gosodai swrn.
Heb ddydd yn yr hir-ddydd hwn,
O ddydd i ddydd i’dd oeddwn.
O chawn ddydd, ac uchenaid,
Pob dydd yn gelwydd a gaid.
Na rho yno wyl Ddwynwen
Od oedd ffals bob dydd o’i phen!
XXXV. Gwallt Morfudd
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Mae un iarlles mewn eurllin,
Difwrn wallt o’r dafarn win;
Duw a’i lluniodd, dull enwog,
Urddol Grist ar ddelw’r Grog |!
Iesu hael a roes i hon
O degwch mwy no digon:
Mae tassel o wallt melyn,
Brig euraid, am ganaid gwyn.
Aur a gaid yn ddwy gadwyn,
A’i rhoddi’n faich i’r ddyn fwyn;
Caets euraid, fal coed eirian.
Cyfliw’r mellt, cofl o aur man.
Brig gwinwydd yn barc ynial;
Aur goron am dirion dal.
Dros ei deurudd i’w chuddiaw,
Lloweth yn ddwy- bleth a ddaw:
Aur melyn am ewyn mor;
Tresi man tros ei mynwor.
Bargod haul goruwch brig ton;
Lluryg euraid, lliw’r goron,
Canaid ei grudd dan ruddaur;
Cofl aur wen, cyfliw a’r aur.
Dyn araul lliw’r haul yr ha’,
Ffrwd enwog, a phryd Anna
To manaur yw tw’ meinwen;
Teg yw’r gwallt, nid hagr yw gwen.
Teg yw ei phen, Ddwynwen ddoeth,
O bai unawr yn beunoeth:
Myned i gribo manwallt,
Meinir wych a manaur wallt;
A’i osod mewn ysnoden,
Fal y daeth o foled wen.
Dyged y ddyn wridogwych
(Llawen yw gwedd y llwyn gwych)
Mewn gwisg nefol i’m golwg,—
F’enaid yy Fun a’i dwg!
XXXVI. Traserch y bardd am Morfudd
Not among the poems of the modern Swansea edition.
M’ yw cadr ddaear, mawr yw coedydd — byd,
Mawr yw bod yn gelfydd;
Mawr iawn yw dyfnder môr udd,
Mwy yw f erfyn am Forfudd
Tawaf tra tawyf tywyn gwmpas — haul,
Hael Forfudd gyweithas!
Ni wyr Duw i’th deuluwas
Awr draw ond wylaw gwlaw glas! î
Ni pheidiaf a Morfudd, hoff adain — serchog,
Pe’s archai Pab Rhufain;
Hoyw wawl ddeurudd haul ddwyrain,
Oni ddel y mel o’r main!
XXXVII. I Forfudd pan ymgredodd a’r bardd
The modern Swansea edition: poem 105 ↗
Gwell eniwed fifcrffed ffug,
Na sori’n wladaidd sarug;
Da fyddai i Forfudd o’i dyn,
O’r diwedd, hoen eiry dywyn,
Cred, o Luned oleuni,
A roes da ei moes i mi.
O drefn ei llaw fodrwy - faich,
O ddihewyd bryd a braich,—
Y car fi, rhi rhywogaeth,
O char yr ab ei mab maeth.
Ys gwaedwng yw os gwedir,
Ys gwyn fy myd yw, os gwir:
Ni feddais fudd o gwbl-fodd,
Erioed er pan roed y rhodd.
Cystal ei chael gan hael hwn,
Od ydyw yn rhodd didwn;
Nid gem oferedd gymhwyll,
Nid bedw glyn, nid dillyn twyll.—
Eurychwaith Mab Mair uchaf,
A’i law wnaeth trwy olew Naf!
Sel, a Duw a’i hinseiliawdd,
Yn grair, o’i neddair a’i nawdd,
Digwyn fyth, digon a fydd
O gwlm rhwng pawb a”n gilydd: •
A dwfn yr a a difyr,
Yn y tan y dyn a’i tyr!
Finnau fy nghred i f’anwyl,
A roes, i’r fun gwiwlun gwyl.—
Yn llw hydr, mewn lle hydraul,
Yn ei llaw hi, unlliw haul;
Fal y rhoed ym, o rym rydd,
Yn y dwfr o’r enw Dafydd.
Gyrddwayw o serch, iawnserch ior,
Ar garu hoen eiry goror
A doniog fu’r grediniaeth,
Da y gwn, a Duw a’i gwnaeth!
Da gwnaeth bun, a llun ei llaw;
Rhoi dyrnaid a rhad arnaw,
Rheidw perffaith-deg rhadlawn,
Rhinwedd y wirionedd iawn.
Llw i Dduw o’i llaw ddehau,
Llyna od gwn, llw nid gau:
Llawendwf yn llaw Indeg,
Llw da ar hyd ei llaw deg.
Llyfr cariad, myfi a’i cadwaf
Yn ben rhaith erbyn yr haf:—
Yn yr oerddwr yr urddwyd,
Y 11 w a roes Morfudd llwyd
XXXVIII. Tadmaeth serch Morfudd
The modern Swansea edition: poem 77 ↗
Mau Gariad mewn magwriaeth,
Mab rhyfygus moethus maeth:
Mirein- fab mawr ei anfoes,
Mein-ferch mewn traserch a’m
Mab ym heddiw, nid gwiw gwad,
Maeth rhag hiraeth yw Cariad;
Mawr o ddrwg, cilwg celi,
A wnaeth fy mabmaeth i mi:
Mynu ei ddwyn er mwyn merch,
Mynu gorllwyn i’m annerch,
Mynu rhodiaw mewn rhedyn,
Mynu i ddenu o ddyn,
Mae’n rhyfawr ym fy nhrafael,
Mynu ei gelu, a’i gael:
Meinir a wyr fy munud,
Mynu gwynfydu yn fud!
Megais, mawr guriais gariad,
Mabmaeth o brydyddiaeth brad;
Meithrin chwileryn gwyn gwar
I’m mynwes o serch meinwar,
Oer ym fagu, llysu lles,
Mehyn meinwyn i’m mynwes:
Mab rhyfedd, mi a’i profaf,
Ei foes yw hwn fis o haf.
Ni fyn cariad ei wadu,
Na’i ddangos i Hos lu;
Nid â o ardal calon,
Ni thrig ond ym mrig ’y mron:
Ni ddichon ei heddychawd,
Ni wastety gwedy gwawd;
Nid eisteddai pe bai Bab,
Ni orwedd fy niweirfab;
Ni sai, ni orsaif eurserch,
Natur gwyl am orchwyl merch.
Tyfodd ei glod hyd Teifi,
Tadmaeth serch i’r ferch wyf fi;
Mab annodd, mi a boenais,
Ei feithring sydd fyth rhwng f’ais 1
Aflonydd yw fo ’leni,
Y mab a fegais i mi.
Megais (dyn wyf cyn nwyf cain)
Anwylfab i wen aelfain;
Bychan, em eirian, i mi
Budd er magu mab iddi!
Oerfel serchawgrwydd eurfaeth
I’r ferch a’i rhoddes ar faeth,
Oni thal (llawn ofal llu
Mau fwgwth) am ei fagu!
XXXIX. Y niwl a luddiodd gywiro oed a Morfudd
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Or a’m rhiain addfeindeg
A wnaethwn yn dalgrwn deg,
I fyned wedi ymgredu
Y maith, ac oferdaith fu.
Myn’d yn gynnar i’w haros,
Egino niwl gan y nos
Tywyllawdd wybr fantellau
Y ffordd, fel pettwn mewn ffau.—
Cuddio golwybr yr wybren,
Codi niwl cau hyd y nen;
Cyn cerdded cam o’m tramwy,
Ni wehd man o’r wlad mwy:
Na gorallt fedw, na goror,
Na bronydd, mynydd, na mor,
'* Och yt niwlen felen-fawr!
Na throet ti, na therit awr:
Casul yr awyr ddulwyd,
Carthen anniben iawn wyd.
Mwg ellylldan o annwn,
Abid teg ar y byd hwn;
Fal tarth uffern-barth ffwrn-bell,
Mwg y byd yn magu o bell.
Uchel dop adar-gop-we,
Fal gweilgi, yn llenwi pob lle.
Tew wyd, a glwth, tad y gwlaw!
Tyddyn, a mam wyt iddaw.
Gwrthban drycin-wlaw trymlyd;
Gwe ddu o bell a gudd y byd,
Cnwd anhygar diaraul,
Clwyd forio rhyngof a’r haul:
Nos ym fydd dydd diferclwyd,
Dydd yn nos, pand diddawn wyd?
Tew eiry fry yn toi y fron,
Taid llwydrew, tad y lladron.
Gwasarn eira llon ionawr;
Goddaith o’r awyr faith fawr:
Ymlusgwr, bwriwr barug
’R hyd moelydd ar grinwydd grug.
Hudol egwan yn hedeg,
Hir boer-lwyth rr tylwyth teg:
Gwn i’r graig, gnu awyr gron:
Cwmwl blaenedau ceimion,
Ager o donau eigiawn,
Mor wyd o annwn, mawr iawn.”
O’m blaen ar riw, hagr-liw hyll,
Obry’n dew wybren dywyll;
Fy nhroi i fan trwstanwaith,
Fal uffern i íign-wern faith; —
Lle’r ydoedd, yn mhob gobant,
Ellyllon mingeinion gant.
Ni chawn ar wern uffernol,
Dwll heb wrysg, dywyll heb rôl,
Ni wna’ oed, anhy ydwy’,
Ar niwl maith, a’m anrhaith, mwy.
XL. Morfudd yn tori oed
The modern Swansea edition: poem 146 ↗
Deg nithiad, doe y gwneuthum
Dydd Llun, oed a bun lle bum;
Lle gwelais, hoen geirw trais trai,
Ddywsul y hi addawsai
Ddyfod i eilwydd ofyn,
Lle ni ddaeth llawen o ddyn.
Myn’d drwy gel mewn dirgeli,
O waith ’y myd, a wneuthum i
Pr nant, lle’r oedd pwyntmant per,
Ar ymswyn, cyn yr amser;
Cyn goleuddydd, gan gloddiau,
Rhag gweled y cerdded cau.
Gorphwys i lawr, mewn gwirffydd
Yv dae y ddyn pan y doe ddydd;
Llawer golwg, ddyn llawen
(Llariaidd a gweddaidd yw gwen)
O frys haf a fwriais i
Fry, oedd parth ar fro eiddi,
Tawel bryd uwch y tywyn,
Tua lle dd oedd, twyllai ddyn,
Morwyn yw, mirain awen,
Meflau i minnau amen
O rhof yn rhad, lle i’m gwadawdd
Y dwyll hon, ac nid dull hawdd. '
O’r boreu, ddyn goleu-wefr,
Hyd anterth dan y berth befr,
O anterth, pridwerth prydydd,
Hyd hanner dau amser dan haner dydd.
O hanner dydd, a honir,
Hyd brynhawn, a bery’n hir;
O brynhawn, son ddigawn syml,
Hyd y nos, hoed annisyml.
Hirwyl oedd ym ei haros,
Eurwawr hardd, ar war y rhos;
Pe bawn, myn y Pab anwyl,
Yn y llwyn, anhyall hwyl,
Cyd y bu’r gwr, cyflwr call,
Ebwch gwae wrth baich gwiail;
Gwyn ac addwyn ei hwyneb,
Gwae fi, ni welwn i neb!
XLI. I ymbil a’r don na luddia ei hynt dros Ddyfi i ymweled a Morfudd
The modern Swansea edition: poem 51 ↗
un “Y DON bengrychlon grochlais,
Na ludd, goel budd, ym gael bais,
I fyn’d draw, o daw ym dal:
Nac oetta fi, nag attal,—
Gad ardwy rhad, er Duw Rhi,
Rhwyf dyfr, rh’of a Dyfi l“
Tro drachefn, trefn trichanrwyd, *
Dy fardd wyf, uwch dwfr ydd wyd:
A ganawdd neb a genau
O fawl i’r twrf meistrawl tau,
Gymmar hwyl, gem yr heli,
1 gâmen mor gymain’ a hi?
Ni bu brifwnt blaened sugn,
Naruthr blawddrhwngdeuglawdd dygn,
Nac esgud frwydr, nac ysgwr,
Nac ysgwydd gorwydd, na gwr;
A gyff’lybwn, gan gyni,
Gref daer dôn, i’th gryfder di.
Ni bu organ, na thelyn,
Na thafawd difai-wawd dyn,
Duwies-Hw, nad gwell d’oslef,
Fordwy glas, a’th fawr-deg lef.
Ni chrair yr ail grair genyf,
A’m f’enaid, brad naid, bryd Nyf,
Yn galw ei thegwch golau,
A’i phryd teg fal y ffrwd tau.“
Dy genad, dôn loyw-gron grych,
Och! unwaith ’rwy’ o’i chwenych,
I fyned, Panwyl a’m barn,
Drwy lwyn bedw i Lanbadarn:
At ferch a’m gwnaeth,ffraethffrwythlyw,
Forwyn fwyn, o farw yn fyw!
Er hyn gwna fudd na’m Iluddych-—
Ymwan loyw-ddyfr croyw crych! \
Cyfyng genyf fy nghynghor,
Cyfeilles, marchoges mor;
Camu ydd wyd rho’f a’m cwmwd,
Attal a’th drwyn, ffrwyn y ffrwd,
Pe’i gwypid, dring ffaling-Iwyd,
Pefrain lettywraig aig wyd,
Gwobr da, pe’i gwybu’r don
Sy a’i brig dros gerrig geirwon,
Faint fy ngherydd am drigaw,
Lliwddu drom, ni’m lluddiaw draw!“
“Cyd teithum er ail Indeg,
Hyd yn dy fron, y don deg;
Na’m lladdo rhyfel gelyn,
O’m lludded i dud y Dyn,
Gwell ym fy lladd, seithradd serch,
Na’m lludd at Forfudd, Feurferch!”
XLII. Morfudd a’r bardd yn chwarau cnau i’m llaw
The modern Swansea edition: poem 95 ↗
Salw yw nghof o lyfr Ofydd,
Serchog annifeiriog fydd
Heb gael cydymaith gar llaw,
I addaw f’amcan iddaw.
Mae un mal y dymunwyf,
Brawdyn ym i brydu nwyf;
Cymhorthiad o’m cariad caeth,
Cynghcriad cangau hiraeth.—
Ni bu ddynan fechan fach,
Os mul hi, ysmalâach;
Ni wna nemawr o dwyllfreg,
Na nyni’n dau, fy nyn deg.—
Ac ymeu a ddechreuawdd,
Cynyrchiad sain cariad cawdd,—
Chwarau heb wybod baham,
Er eigr wedd, a orugam,
Cnau i’m Haw ddehau ddiwg,
I mi do’n, dyn mwyn a’n dwg;
Pys irgyll rhydd, gwydd gwilchwynt,
Pam y mau — tau orddgnau ynt?
I ddanfon ym rym rwymbleth,
O bwy eb ef? i o ba beth? i
Edrych er na laesych les,
A’i dyn fwyn a’i danfones?
Meinir un bryd a manwawn,
Morfudd deg, mawr fudd ei da, i.;
A gar hi fi, fun farddglwyf?
Car od gwn, caredig wyf;
O’m car, gad yna Em cant
Cyfnifer cof, a nwyfiant.
Dygum i’r cnau, golau goel,
Dawnus, — myn Dyn a Deinioel!
Danfones y dyn feinael,
Im’ hyn, — fal dyna Em hael!
Am eurgerdd, od ym eurgoll,
Hoen er y caen heiniar coll.
Ysgynwas wyf, ys ceinoed,
Os gwir cael, ysgwir y coed:,
Os cywydd crefydd ni’m cred,
Os cael gwir, ys cael gwared,
Oed mewn irgoed, mwyn argoel,
A fydd, onid celwydd coel.
Fflacedau, a phlu coedydd,
I gyd, gweddaidd amyd gwydd.
B’ond ballasg tew fu’r cnewyllj
Pefr benglymau cangau cyll;
Nid ananwyl dwyn annerch,
O fotymau siamplau serch.
Nis tyr min er glothineb, N
Ys go- lan wyf, nis gwyl neb:
Ni thorir, wir warafun,
A charreg, befr anrheg hun.
Minnau fy hun o’m lluniaeth
O gnau (y mab Rhad a’n gwnaeth)
Pw glwysbryd, cyn lludw glasbridd,
A dalaf bwyth ffrwyth y ffridd.
XLIII. Y cae bedw, a roes Morfudd
The modern Swansea edition: poem 94 ↗
eee y Cae mangoed,
O ryw bedwenfrig erioed;
Ennill ym fydd goedwydd ged,
O chawn elw o’i chyniled.
Er achub crefft eurychaeth,
I efail o ddail ydd aeth;
Ac ennill clod, ac annerch,
Ac a’i llaw sawduriaw serch:
A’i neddair, addfeingrair fwyn,
A nyddodd fedw yn addwyn.
A’ m cain euryches ni’m cawdd,
Em cenedl a’i hamcanawdd:
Cyflunio cae o flaenion,
Cadair fraint, y coed o’r fron.
Coedyn bach o rwym ceudawd,
Crefft ysbys rhwng bys a bawd:
Canweu yw cae na chae ceinwefr,
Cae o wallt pen bedwen befr.
Caeog wyf o frig gwiail,
Caeau y dehau a’r dail:
Fy nghae bedw da i cedwir,
O’r coed ni wnai’r hoed yn hir.
Fy mudd yw, nis maddeuaf
Fy mywyd ar hyd yr haf,
Fy mab, fy mrawd didlawd-foes,
Fy medw rhwym, fy myd a’i rhoes.
Da yw fy mron rylon rus,
Dan gae bedw dyn gwybodus:
Celfyddawd grefft brawd brudd,
Gem ir-fedw oedd gae ÎMorfudd.
Gwaith cymmen o fedwen fad,
Gweddeiddiaw gwydd a wyddiad,
Gwell ei hamcan na Sianyn
Eurych, treth fynych a fyn.
Gwydd meinion a gyfonai,
Gwyn ei fyd, a gwae na fai!
Euraw fy llaw er fy lles,
Ar uchaf fy Euryches!
XLIV. Y daran a ddychrynasai Morfudd a’r bardd
Not among the poems of the modern Swansea edition.
Mae gair i mi o gariad,
Gael is dail gwely o ’stad;
A cherdd gan fronfraith a chog,
A merch wen i’m erchwyniog.
Mynais ym dal am anhun,
Gael bod yn gywely bun,
Dan lwyn, mewn dien lannerch,
A dail mai, rhwng dwylaw merch,
Myn dyn! pan oeddem ein dau
Lawenaf, ddyn ael-winau,
Taro a wnaeth, terwyn oedd,
’Trwst taran tros y tiroedd,
A ffrydiaw croyw-wlaw creulawn,
A phoeri mellt yn ffrom iawn!
Gwylltio’r forwyn fwyn feinwen,
Gwasgu a ffo gwisg ei poen;
Ffynu’n deg. ffoen ninnau’n dau,—
ffoes hon, a ffoais innau!
Duryn Mam y Daran fflwch,
Dug warwyfa’n digrifwch:
Trwst enbyd, tristyd i’r trwyn,
Trwst mawr yn tristau morwyn,—
Torf a glyw pob tyrfa glau,
Tarw cryg yn tori creigiau! I
Taran a ddug trinoedd yn’,
’Trwst arfau wybr tros derfyn;
Tan aml a dwr tew’n ymladd,
Tian o lid, dwr tew’n ei ladd!
Clywais fry, ciliais o fraw,
Cawrlais udgorn y curwlaw;
Mil fawr yn ymleferydd
O gadwynau’r sugnau sydd.
Braw a ddisgynodd i’m bron,
Bwrw deri o’r wybr dirion
Gwyllt yr awn a’m gwallt ar wyr,
Gan ruad gyn yr awyr:
Gwiddon goch yn gweiddi’n gau,
Gwrach hagr, dan guro ei chawgiau.
Rhegain garm rhyw gwn gormes;
Rhuglgroen, yn rhoi gwlaw a gwres.
Tori cerwyni crinion
A barai gri o’r “wybr gron:
Canu trwmp o’r wybr gwmpas,
Curo gwlaw ar bob craig las.
Creglef yn drylHo creiglawr,
Crechwen o’r ffurfafen fawr:
Trwy ei hun y t’rawai hwrdd,
Tebyg i ganu tabwrdd.—
Nid gwaeth wrth fyned o’i gwal,
Er bremain o’r wybr wamal,
Oni bai faint, mewn braint braw,
Ofn deuddyn a fai’n dyddiaw.
Un dyn nid oedd ond ni’n dau,
Mewn man, fy mun a minnau;—
Breferad yr wybr ferydd,
A wnaeth ini dori dydd,
Fy nyn wen, ofni a wnai,
Awyr arw, pan weryrai:—
Drwg fu’r Daran ymanos,
Dwyn dylif, ofni dyn dlos;—
Arw floeddiast, oerfel iddi,
Am ysgar meinwar a mi!
XLV. Y ceiliog bronfraith
The modern Swansea edition: poem 39 ↗
Lle digrif y bum heddyw,
Dan fentyll y gwyrdd-gyll gwiw;
Yn gwrando, clau ddechreu dydd,
Y Ceilioff Bronfraith celfydd.
Pellenig heb pall ei anwyd,
Pell siwrneiai’r llattai llwyd;
Y ma y daeth, o swydd gaeth Gaer,
Am ei erchi o’m eurchwaer.
Cloch gywir, clych a garant,
A gyrch i nentyrch y nant;
Ei wisg oedd o’i wasg eiddil,
O flodau man- gangau mil;
A’i gasul, debygesynt,
O esgyll gwyrdd fentyll gwynt:
Nid oedd yna — Dyn mawr î
Ond aur oll yn do’r allawr,
Morfudd a’i hanfonasai,
Mydr ganiadaeth mabmaeth mai!
Minau glyw-wn mewn gloywiaith,
Ddatganu, nid methu maith
Darllain i’r plwyf, nid rhwyf rhus,
Efengyl yn ddifyngus:
Codi ar fryn, in’ yna,
Afrlladen o ddeilen dda,
Ac eos gain fain fangaw,
O gwr y llwyn gar ei llaw,
Clerwraig nant, i gant a gan;
Cloch aberth, clau a chwiban.
A dyrchafel yr aberth,
Hyd y nen uwch ben y berth:
A chywydd i’n Dofydd Dad,
A charegl nwyf, a chariad. —
Bodlon wyf i’r ganiadaeth,
Bedwlwyn o’r coed mwyn a’i maeth
XLVI. Aros Morfudd yn y llwyn
The modern Swansea edition: poem 38 ↗
Eiddun, ddewis-ferch serchawg,
Dduw Rhi! a ddaw hi yrhawg?
A ddaw i lwyn addolwy’,
Fis mai, yn fy oes mwy?
Ac os daw, fe ddaw’n ddiau
Merch i goed, —ammarch i gau.
O rai barawd i wawd wedn,
Bun gywiw, bengawedn,
Ni bu er dysgu disgwyl,
Gan serchog-was, golas gwyl,
Grefft mor ddigrif, ger llif llid,
Ag arail merch a gerid.
A rhodio, heurio hiroed,
Cilfachau cadeiriau coed;
Imal cynnydd chwareuydd chwai,
Am Iwdn gwyllt a ymlidiai
O le bwygilydd, o lid,
O Iwyn i lwyn, a’i Enid.
Ac edn bach a geid yn bwyll,
Yn ochr ’wybr yn ei chrybwyll:
Golau lais, galw ail Essyllt
A waa! y gwiw latai g wyllt,
Digrif, be gattai’r dagrau
A red, oedd glywed yn glau
Dyrain mawr aderyn mai,
Dan irfedw y dyn erfai!
Arian farchog doniog don,
Urddol air, ar ddail irion:
Hoyw erddigan a ganai,
Awr bob awr, boen fawr ban fai.
Nid ai ef, mygr-was-lef mwyn,
Arian-llais edn, o’r un-llwyn,
Meddylgar gerdd glauar glau,
Mwy nag ancr — meinion geinciau!
Da gweddai, yn medwendai mwyn,
O delai’r edn i dewlwyn;
Ar ei gred, yn gweled gwen,
Eurtrig gofl ar frig gwialen.
Teg fedwen, twf gyfoedwallt,
Twr diwael ar ael yr allt:
Tyfiad heb naddiad neddyf,
Ty ar un piler y tyf.
Tusw gwyrdd, hudolgyrdd deilgofî,
Tesgyll yn sefyll ar sofl;
Tywyll fan mursogan mai,
Tew i’r nen — rhad Duw arnai!
Corfedw diddos ei hosan,
Cyweithas gawell glas glan.
Crefft ddigrif oedd, myn y crair,
Gusanu dyn gysonair! I
Ac edrych, gwedy gwiwdraul,
Rh’om yn hun, rhwymynau haul,
Dan fantell fy niell-wraig
Trymau cainogau cain aig.
A lleddfu fy ngwedd heddyw,
Llygad glas llwygedig liw,
Oroen gem, eirian gymhwyll,
Ar y dyn a oryw dwyll!
Where these words come from
Welsh: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O grynhoad Owen Jones, a William Owen (Llundain: argraphwyd gan H. Baldwin, 1789). Scans: archive.org/details/bim_eighteenth-century_barddoniaeth-dafydd-ab-g_dafydd-ap-gwilym_1789 (the 1789 book) and archive.org/details/barddoniaethdafy00dafy (the Liverpool reprint, ed. Cynddelw, I. Foulkes, 1873)
Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.
Read Next on This Subject

Yr Hen Ogledd: The Old North, Where Welsh Poetry Was Born
From the Clyde and the Forth to the Pennines, the Britons of the North spoke the language that became Welsh. Their kingdoms, Gododdin, Rheged, Strathclyde and Elfed; their kings, Urien, Owain and Rhydderch Hael; the poets Aneirin and Taliesin; Catraeth and Arfderydd; and the Men of the North whom Wales has never forgotten.

Coelbren y Beirdd: The Letters Cut on Wood
The alphabet of the bards that Iolo Morganwg had from the old bards of Glamorgan, the wooden frame it was cut on, and what the old poets and the old word itself tell us about writing on wood in Wales.

The Mabinogi: The Books That Kept the Tales of Wales
Wales has kept its greatest stories for nine hundred years. This is how: the storytellers of the royal courts, the unknown author of the Four Branches, two great books written for two Welsh gentlemen in the fourteenth century, and a young Englishwoman at the Dowlais ironworks who learned Welsh and gave the tales to the world.

The Age of Princes
Castles, poetry and the princes of Gwynedd and Deheubarth against Norman and English power.
By Ifan Last updated
Spotted a mistake? Tell meAbout this site
Cite this page
Ifan, “Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym: The Poems of Dafydd ap Gwilym (1789): Poems I–XLVI”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/barddoniaeth-dafydd-ab-gwilym-cerddi-1-46.
Picture credits for this page (3)
- Castle Rock in Edinburgh, Din Eidyn, the stronghold of Mynyddog Mwynfawr and the Gododdin — Scglossop1 · CC BY-SA 4.0
- A page of the Red Book of Hergest (Jesus College, Oxford MS 111), written about 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- The round tower of Dolbadarn Castle beneath the mountains of the Llanberis Pass — Tilman2007 · CC BY-SA 4.0
Each picture belongs to the person named and is used under the licence shown. See every picture on the site, with its credit