Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cantref y Gwaelod hyd Ffynon Gwenfrewi

Cantref y Gwaelod, Taliesin Ben Beirdd, Cader Idris, Y “Wlad” a “Syr Oracl” and other pieces: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Rhagdraith

Nid oes genym ond hyderu y ca y darllenydd gymaint o hyfrydwch wrth ddarllen y Gyfrol hon ag a gawsom ni wrth ei chasglu a’i hysgrifenu. Y mae llawer o honi “oddiar laf ar gwlad, “heb fod yn argraffedig erioed o’r blaen; ac y mae y gweddill wedi ei loffa o weithiau awduron enwog nad allai y gweithiwr, yr hwn ydyw colofn gogoniant llenyddiaeth Gymreig, byth fforddio eu pwrcasu. Bu raid i ni aralleirio rhai pethau, megys “Ystori Cilhwch ac Olwen,” ond, wrth wneyd hyny, ein liamcan oedd ei chyfaddasu at briodiaith arferedig yr oes hon, ac ar yr un pryd gadw yn ddilwgr yr hen arddull cynwynol a phrydferth Cymreig. “Yn mhob llafur y mae elw, “meddai yr hen ddiareb; os gwir hyn, dylai fod elw mawr iawn ar y Llyfr hwn.

Y Detholydd.

Hydref 25, 1862.

Cantref y Gwaelod

Cantref y Gwaelod oedd ddarn anferth o dir yn gorwedd ar yr ochr orllewinol i Gymru, a orlifwyd gan y môr, ac a orchuddir yn bresenol gan donau cythryblus Beisfor Aberteifi (Cardigan Bay). Cymerodd hyn le tua chanol y 5ed canrif. Tywysog y Cantref y pryd hwn oedd Gwyddno Garanhir, neu hirgoes, a elwid hefyd Dewrarth Wledig, mab i Gorfyniawn ab Dyfnwal hen, brenin Gwent ab Ednyfed, ab Macsen Wledig. Yn meddiant Gwyddno yr oedd un o dri thlws ar ddeg ynys Prydain, sef “Mwy s [cawell] Gwyddno Garanhir, bwyd i ungwr a roid ynddi, a bwyd i ganwr a geid ynddi pen egorid.” Math o rwyd pysgota ydoedd hwn, a’r abwyd roid ynddi yn abl i ddigoni ungwr, ac yn foddion i ddal cynifer o bysgod ag a ddigonai gant o wŷr. Yr oedd Gwyddno yn fardd hefyd fel y cawn brofi yn ol llaw.

Gweirglodd-dir cnydfawr oedd y Cantref, llawn o ffrwythgoed a blodau, canys ymddengys fod y trigolion yn bobl foethus, ac yn ymloddesta cryn lawer ar y gwin a’r medd, cynyrch eu gwinwydd a’u gwenyn eu hunain. Pa fodd bynag, perthynai iddo un anfantais bwysig, sef ei fod yn sefyll mor isel fel yr oedd yn angenrheidiol codi gwrthglawdd rhyngddo â’r môr, rhag ei orlifo. Yn y clawdd hwn, ar gegau yr afonydd, yr oedd dorau, y rhai a gauid ar ddystlll Llanw, ac a agorid ar ddystill trai, er mwyn i’r dwfr, oedd wedi croni a Uynio, lifo allan. Swydd bwysig oedd gofalu dros y dorau hyn, oblegyd yr oedd by wyd yr holl Gantref yn crogi wrthi; ac ymddengys y byddai y tywysog yn chwillo am ŵr o sefyllfa led uchel, o ran cyfoeth ac urddas, i ymgymeryd â hi. Y drysawr yn amser Gwyddno ydoedd wr o’r enw Seithenyn ab Seithyn Seidi, tywysog Dyfed. Pa beth bynag ellir ddywedyd am waedoliaeth Seithenyn, anhawdd fuasai dychymygu person mwy anaddas nag ef i lenwi y swydd hon, oblegyd gosodir ef allan yn y Trioedd fel un o dri “Charnfeddwon Ynys Prydain.” …

Dywed y Trioedd mewn man arall y ceid yn y Cantref “un ddinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg.” “Hafan Gwyddno, yn ngogledd Cymru,” oedd”un o dair prif borthladdoedd ynys Prydain;” a chan ei bod yn sefyll yn y rhan hono o’r môr rhwng Sarn Badrig a gwlad Feirion, nid rhyfedd ei hystyried mor rhagorol. Ysgrifenwy-r darfelyddol a roddasant yr enw o Mansua i’r porthladd hwn, a dygid masnach helaeth yn mlaen rhyngddo a Llydaw a manau ereill o’r Cyfandir. Gelwid y brif-ddinas yn Gaer Wyddno, yr hon a safai ar gwr eithaf Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth; ac yma yr oedd palas y ty wysog. Dynodir y fan yn “bresenol gan adfeiHon hen furiau.

Dyna hanes byr y Cantref anffodus hwn cyn ei orlifiad; ond y mae deddfau natur yn ddigyfnewid — i fyny y dring y fiBam, i’r pant y rhed y dwfr — ac y mae trueni bob amser wrth sawdl afradlonedd. Melldith y bobl hyn fu glythineb, ac ar ŵyliau yn enwedig gollyngent y ffrwyn ar wâr blys. Un o’r gwyliau hyn, tra yr oedd pawb yn ymddigrifo mewn gwleddoedd a rhialtwch, a Seithenyn y drysawr gan wamaled ag un ohonynt, efe yn ei feddwdod a esgeulusodd gau y dorau cyn nos, a daeth y Llanw i fewn, yn cael eihyrddio gan ruthrwynt gollewinol. Goddiweddodd hwynt mor ddirybydd ag angau disyfyd; Uwyr ddinystriodd eu perllanau; dadwreiddiodd eu deri; dadsylfaenodd eu haneddau; eu gwartheg a’u hanifeiliaid a laddodd efe â blaen ewyn ei gynddaredd, a’r rhan luosocaf ohonynt hwythau a gyfarfuasant â dyfrllyd fedd. Anmhosibl dysgrifio’r cyfyngder y deffrodd llawer ohonynt ynddo o gwsg trwm meddwdod, yn cael ei drymhau gan si marwol y Úanw a’u prysur amgylchynai, a’u deffro yn y diwedd gan ryw dôn wenoer i’w sefyllfa drallodus a diymwared. Y rhai allasant ddianc a ffoisant, rhai i Feirion, rhai i Leyn, rhai i Geredigion, a phob un yn rhedeg am ei einioes i’r ucheldir agosaf ato. Erbyn tranoeth yr oedd y fangre wedi ei llwyr ddinystrio; y lasdun a’i mil myrdd p.-eswylwyr yn chwareu hyd y dolydd meillionog a’r dyffrynau toreithiog; a’r môr fel arwT buddugoliaethus yn ymorchestu yn ei fuddugoliaeth, trwy anfon ei bysg yn llengoedd i chwilio i mewn i ansawdd ei diriogaeth newydd. Pereiddgan yr eos ddylynwyd gan ysgrech annaturiol y fôr-forwyn; morloi a ymbrancient y weirglodd fras, Ue ddoe y chwareuai yr ŵyn nwyfus, a phalas tywysogaidd Gwyddno Garanhir, yn Nghaer Wyddno, a lanwyd â llymriaid a chrancod y môr. Yn mysg y rhai diangol yr oedd Gwyddno, tywysog y Cantref; ac er llawened ydoedd oblegyd ei waredigaeth o afael angau mor ddibris, yr oedd edrych ar ei dywysogaeth brydferth yn orchuddiedig â dinystr yn ofid tost iddo. Y mae diareb ar lafar gwlad tua glanau Beisfôr Aberteifi, a ddefnyddir pan fyddo gŵr mewn cyfyngder diymwared, neu pan gyfarfyddo âg aflwydd a chanddo ddim llaw yn ei ddygiad oddiamgylch, fel hyn; — “Ochenaid Gwyddno Garanhir Pan droes y don dros ei dir.”

Pa un ai Gwyddno ei hun a gyfansoddodd y ddwy linell hyn, ynte rhywun arall, nis gwyddom, ond yr oedd efe yn fardd, ac yn fardd mewn oes ar Gymru pan fyddai bron cymaint syndod gweled un o blant Ceridwen ag ydyw canfod yn yr oes hon Gymro heb honi rhy w berthynas â’r hea wrach hono. Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yr hwn a gasglwyd tua dechreu y 9fed ganrif, ceir tri dernyn o ffrwyth ei awen, sef, Cân, Foesol, Ymryson Giuyddno a Gioynah Nudd, a Cìiwynfan oherwydd Gorlifiad Gantrêr Gwaelod, Er’ mwyn cywreinrwydd, yr ydym yn cyfleu y dernyn olaf o’r rhai hyn yn ei hen wisg Gymreig:—

Pan ddaeth y môr tros Gantref y Gwaelawd

Gwyddneu a’i cant

Seithenin saw di allan ag edrych
Tjirde varanres mor maes Gwitneu rhytoea

Boed emendiceit y morwin
A hellyngaut gwydi ewyn
Ffynnawn Wenystyr mor terrwyn

Boed emendigeit y yachdeith
Ai golligaut guydi gweith
Ffynnawn Wenestyr mor diffeith

Diaspad mererit yar van kaer
Hyd ar Duw i dodir
Gnawd gwedi traaa *i anc hir

Diaspad mererit y ar van kaer
Hetiu hyt ar Duv y dadoluch
Gnawd gwedi traha attregwch

Diaspad mererit am gorchwyt heno
Ac nim hallt gorluyt

Gnawd gwedi traha tramcwyt
Diaspad mererit y ar gwineu
Kadir Kedaul Duw ae goreu
Gnawd gwedi gwedi gormod eisseu

Diaspad mererit ain lcymhell
Heno wi th vy ystavefl
Gnawd gwedi traha tranc pell

Bet seithenin synwyr van
Rhwng kaer Icenedyr a glan
Mor, maurhydic a kinran

“Seithenyn, saf allan, a gwel drigfanau cewri; — dyffrymdir Gwyddno a orchuddiwyd gan y môr. Boed melldigedig y gwrthglawdd, a ollyngodd wedi gwin, ffynonau y dyfnder mawr. Boed melldigedig geidwad y Uitddor, a ollyngodd i fewn yn y nos ffynonau yr eigion diffaeth. Llef Mererit [enw a roddid ar y gwynt gorllewinol] oddiar uclielfan y Gaer, gwrandawed Duw arni, ' Gwedi gwynfyd y daw drygfyd.' Llef Mererit oddiar uchelfan y Gaer, atolygir heddyw ar Dduw, ' Y mae diwedd ar drawsedd.' Llef Mererit a’m gorfydd heno, rhy amlwg yw yn fy nglyw, ' Gwedi trawsedd daw tramgwydd.' Llef Mererit oddiar adfeilion y gwinwydd, ' Gwedi gwastraff daw eisieu.' Llef Mererit a’m cymhell, heno wrth fy ystafell, ' 0 falchder y daw dinystr diarbed.' Boed Seithenyn wan synwyr rhwng Caer Cenedir a’r lan, pan fyddo’r môr gythryblus a chynddeiriog.”

Y mae un o feirdd godidocaf yr oes hon wedi rhoddi y geiriau canlynol yn ngenau Gwyddno Garanhir, a diameu eu bod cystal dysgrifiad o adfyd y tywysog ar y pryd a’r geiriau blaenorol o’i gyfansoddiad ef ei hunan:—

“0, DDTLIF! O, ddialedd!
Mae’n ffin bod ar fin dy fedd.
Tywod sy’n llenwi’n teiau,
A’r pysg yn gyiiiysg sy’n gwau:
Morfeirch dihefeirch, hyfion,
Llymriaid, arw haid, ’r awrhon
Sy’n heigiau’n amlhau y’mhlith
Y gweunydd fu’n dwyn gwenith;
Lle poiai defaid dofion
Yn y Ue pranciai wyn Uon,

Cynulla morgwn hyllion
A mor-gathod — syndod son!
R geir lle bu yd a gwin
Fawr grugiau o for gregin.
Hoff lysoedd a phalasau,
Gan nerth y mor certh, mawr, can,
Eu cydiawl f uriau cedyrn
Ddatodid, chwelid[yn chwym:
Ki ddorid eu gwedd eirioes,
Tan eu traed tonau a’u troes;
A’u holl stor, y mor mawrwanc,
A fyTi-ia’i wyllt far ei wanc.
O! fy ngwlad, rhaid im’ d’adu
Dan y dwr a’i donau du.
Llwybrau rodiwn, garwTi gynt,
I’m mawr dristwch mor drostynt
A lifeiria lafoerion
Oerion dig ei erwin don.

0! hen eigion creulon, cred,
Y gelyn calon galed —

Ni bu un a’i raib yn bod
Debyg mor ddigydwybod
A thydi, weilgi mawr wanc,
Didoraeth yw dy daerwanc;
Llyncu’r byd i gyd ar gais

1 dy fol mewn du falais
“Wnait unwaith, ar hynt anwar,
Hjti ni f u ddigon o far —
Llyncu mad wlad fy nhadau
“Wnait i’th grombil, gawrfil gau;
Daw amat dal diwymi, —

Dial tan — y fo dal i ti!”

Y mae cryn lawer o ami-ywiaeth barn yn mysg tianeswyT mewn perthynas i’r trycliineb auaele hwn, Dywed rhai mai traddodiad gwag a disail ydyw y cyfan. o’r un natur a Uuaws o’r ffugchwedlau rhamantus ’Cymreig hyny a elwir Mahinogion; ereill a ystyriant yr hanes yn gymysgfa o fiugiaeth {rnythoiogy) a Derwyddiaeth; a’r trydydd dosbarth a gredant fod y Trioedd a’r traddodiadau yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau diymwad. Y dosbarth cyntaf a seiliant eu barn ar yr ymresymiadau hyn:— Fod y Trioedd a soniant am dano yn gloff ac ansicr; fod arwynebedd y fan yn bresenol yn. ymresjTniad nerthol na chymerodd erioed le y fath beth a gorlifiad, — paham nad ymgiliai y môr o’r Cantref yn awr ar ddystill trai? — nad ydyw y manylydd rhyfedd hwnw, Giraldus Cambrensis, yn hanes ei deithiau trwy Gymru, 1188, yn yngan gair yn nghylch dinystr y fath le, a’i fod yn nesaf peth i anmhosibllrwydd i’r hen fwnc beidio croniclo y fath ddygwyddiad, a thynu moeswersi am farn ar annuwioldeb oddiwrth yr hanes; — nad oes dim yn y dysgrifiad a ddyry y Rhufeiniaid o Gymru, yr adeg y goresgynasant hwy ynys Prydain, yn tueddu neb i gredu fod darn mor fawr o dir wedi ei feddianu gan y môr ar ol hyny; na bod dinasoedd na phorthladdoedd o bwys yn bodoli y pryd hwnw lle y saif yn awr Feisfor Aberteifi; — na sonir gair yn nghylch y Cantref na’i ddinasoedd ardderchog yn Itinerary Antonius, na chan Ptolemaus, na Richard o Cirenester.

Davies, awdwr dysgedig y Mythoiogy ofthe Druids, ydyw arweinydd yr ail ddosbarth. Dywed ef mai yr un person ffugiol ydoedd Gwyddno Garanhir a Thegid Poel, gŵr Ceridwen, a thad tybiedig y bardd Taliesin, — etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid, gerllaw y Bala.* Olrheinia yr awdwr hwn Gwyddno a Thegid Foel hyd y diluw, a dywed mai enwau ereill oeddent ar Noa. Llong nofiadwy sydd i’w ddeall wrth “etifeddiaeth yn nghanol y llyn,” a’r Llong hon ydoedd arch Noa. Aralleg o’r dlluw ydoedd dinystr Cantref y Gwaelod, wedi ei chyfansoddi ganrifoedd cyn Cred, i ddwyn yr engraifft hono o ddigllonedd cyfiawn Duw i gyrhaedd amgyffredion a chylch dealldwriaeth yr hen Gymry.

Dosbarth y trydydd a gredant fwy neu lai o’r hanes fel y gosodasom ef i lawr yn y dechreu, ac y maent yn “unfryd unllais “o wirioneddolrwydd ff’aith y gorlifiad. Selliant eu barn ar y Trioedd, cydgasgliad ff’eithiau hanesyddol, a daeareg y man y safai y Cantref arno. Dygir y ddau flaenaf gerbron yn nes yn mlaen. Traetha daeareg ei llên yn y Sarnau a geir yn Meisfor Aberteifi. Sarn Badrig (neu Badrhwyg, medd Pennant, oherwydd nifer y llongau a ddryllid arni), yn Meú-lonydd, a ymestyna 21 milldir i’r môr, ac a welir yn sych, medd rhai, am naw milldir, a gynwys olion amlwg o hen fur neu wrthglawdd; Sarn Gynfelyu, gerllaw Aberystwyth, a gyrhaedd saith milldir i’r môr, ac yn ei phen eithaf y mae adfeilion hen Gaer, Ue yn ol Lewis Morris, yr oedd palas Gwyddno Garanhir. Y mae tair o sarnau ereill byrach, eithr yn cynwys llawn cymaint o deithi hanesyddol a’u chwiorydd liiracli ac enwocacli, sef Sarn y Bwch, yn sir Feirionydd, milidii- a haner o hŷd; Sarn Dewi, gerllaw Ty-Ddewi, chwarter milldir; a Sarn Cadwgan, milldir a haner o hyd. Hefyd, rai blynyddau yn ol, cafwyd lluaws o goed derw o dan wely y môr yn agos i geg yr athu Dysyni, un o ba rai a fesurâi chwe’ troedfedd o drweh. Oddeutu tair milldir i’r gorllewin o Aberaeron, a haner milldir oddiwrth y lan, y mae cylch crwn o furiau peryglus, a elwir gan drigolion ŷ cyrau hyny, “Eglwys y Rhiw.” Gwelodd Lewis Morys faen a gafwyd gan’ llath islaw pen llanw yn sir Aberteifi, a llythyrenau Rhufeinig wedi oll cerfio arno. Hefyd, darllenwyd papur o flaon y Oeohgical Societij, gan foneddwr o’r enw Yates, yn y flwyddyn 1832, ar y “Goedwig Danforawl,” a ddarganfyddwyd tua’r amser hwnw yn Meisfor Aberteifi. Dywedai Mr. Tates fod y goedwig hon yn ymestyn ar hŷd tueddau Meirion ac Aberteifi, ac yn cael ei gwahanu yn ddwy ran gan ymarllwysiad yr afon Dyfi. Rhyngddi â’r lan, yr oedd traeth ty wodog, a chlawdd o raian a cheryg bychain. Tu hwnt i’r clawdd hwn, yr oedd llain o fawndir, a gorchuddid y goedwig gan haen o fawndir.

Y mae gwahaniaeth bam gyda golwg ar amseriad y Gorlifiad yn mysg y sawl a’i hystyriant yn ff’aith. Wrth ganfod dystawrwydd cynifer o hen ysgrifenwyr yn ei gylch, tueddwyd rhai i gredu iddo gymeryd Ue cyn y cyfnod Crist’nogol, ac y mae hen gywydd yn MeijricJc’s Eistory of Cardigan yn dweyd yn bendant iddo ddigwydd yn 3591 o oed y byd, neu dros bedwar can’ mlynedd cyn Crist. O’r ochr arall, tnedda doabarth Uuosog i ystyried y Trioedd yn awdurdod digonol ar y pwnc; a chan fod y Triad hwn wrth law, ac o bwys i’r darllenydd gywir ddeall pa beth mewn gwin’onedd a ddywed, yr ydym yn ei ddyfynu:— “Th Charnfeddwon ynys Prydain:— Ceraint Peddw, brenin Essyllwg, a losges yn ei feddwdod yr holl ŷd yn mhell ac yn agos hyd glawr gwlad, ac o hyny dyrfod newyn bara; ail, Gwrtheyrn Gwrthenau, a roddes Ynys Daned yn ei ddiawd i Hors, am gael ymodinebu â Rhonwen ei ferch ef, a rhoddi hawl a wnaeth efo i’r mab a enid o hyny ar Goron Lloegr; ac yn un â hyny brad a chynllwyn yn erbyn cenedl y Cymry; trydydd, Seithenyn ab Seithyn Seidi, brenin Dyfed, a ollynges yn ei ddiawd y môr dros Gantre’r Gwaelod, oni chollwyd o dai a daear y maint ag oedd yno, Ue cyn hyny y caed un dinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg; a chyfoeth Gwyddno Garanhir, breninCeredigiawn, ydoedd Cantre’r Gwaelod; ac yn amser Emrys Wledig y hu hyny; a’r gwŷr a ddiangasant rhag y bawdd hyny a diriasant yn Ardudwy, a gwlad Arfon, a mynyddoedd Eryri, a llooedd ereill nad oeddent gyfanedd cyn hyny.”

Y mae amseriad y dygwyddiad yn eithaf eglur yma, eef yn “amser Emrys Wledig.” Ond pwy, a pha bryd yr amserai, y gŵr hwn? Rhaid ei fod yn rhywun enwog cyn y galwesid ei oes ar ei enw. Dyma ei fywgrafflad yn ol Williams’ Eininent Welshmen:— Mab oedd Emrys Wledig {Aureliiis Amhrosius) i Gystenyn Fondigoid, yr hwn a etholodd y Brutaniaid yn fronin arnynt wedi ymarlawiad y Rhufeiniaid â’r ynys. Cystenyn a laddwyd yn un o’i ryfeloedd â’r Ffichtiaid; a’r pryd hyny yr ocdd Emiys yn cael ei addysgu yn Llydaw {Brittany) dan ofal ew> thr iddo o’r enw Aldrawd, brenin y wlad hono. Y Brytlliiiaid, ar farwolaeth ei dad, a ddeisyfasant arno ddyfod trosodd atynt, gyda 10,000 o wŷr, i’w cjTiorthwyo i orthrechuy Oacsoniaid a wahoddasai Gwrtheyrn y soiiia, y Triad blaenorol am dano i Brydain. Cymaint ydoedd llwyddiant Emrys fel rhyfelwr, nes yi- etholodd ei gydwladwyr ef yn frenin arnynt, gan orfodi Gwrtheyrn i roddi gorllewinbarth yr ynys i fyny iddo; ac yn fuan wedi hyny, ohorwydd fod yrhen frenin trythyll a moethus yn parhau ynfradwrus yn erbyn ei wlad a’i genodl, gwnaed Emrys yn tifenin ar yr holl ynys. Dywed Brut y Breni-nocdd a GeoFi-ey o Fynwy mai Emrys a adeiladodd y Cor Gawr f Stonehenge Y, yr hwn a elwir hefyd ' Gwaiffi Emryn,' er cof am y tri chant pendefigion Prjdeinig a fradwrus lofruddiwyd mewn gwledd gan y Seison. Rhydd Geoffrey gymeriad uchel iawn iddo, a dywed mai ei wenwyno a gafodd yn y diwedd yn Nghaerwynt f Wincjiesterj, gan ffug-feddyg o Sais o’r enw Eopa, wedi ei logi i’r anfadwaith gan Pascentius, un o feibion Gwríheyrn. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 500.”

Wele brawf arall dros yr un syniad. I Wyddno Garanhir yr oedd mab o’r enw Elphin, ac efe ydoedd noddwr penaf y bardd enwog Taliesin. Talodd y bardd lawer teyrnged o fawl a pharch i’ w noddwr,a’r dernyn hwnw elwir “Dyhuddiant Elphin” o’i waith a ystyrll- yn mysg ei oreuon. Y mae yr haneswyr Cymreig bron yn ddieit hriad yn ystyried y Prif-fardd yn un o ddeiliaid y 5od cainif. Dyna ni wedi rhoddi barnau y teirblaid mor deg a diduedd ag y gallem. Ond y mae yn Ued amlwg na chymerodd y weilgi damaid mor fawr o dir oddiamom ar unwaith. Nid yw y Triad yn crybwyll ond am orHfiad un cantref, sef 625,000 o erwau facresj. Gorwedda y beisfor ar naw neu ddeg o’r cyfryw gantrefi; ac y mae yn debyg mai rhan ohono yn unig a orlifwyd yn amser Gwyddno, megys y Traeth Mawr, rhwng Lleyn a gwlad Meirion, neu yn hytrach y darn hwnw o fur rhwng trwyn Sarn Badiig ac Aberystwyth. Y mae y ffaith nad oedd y Cantref ond math o dalaeth perthynol i Geredigion, ac i’r dinystrydd ddyfod i fewn trwy esgeulusdi’a cau un o’r llifddorau, yn Safriol i’r dyb hon. Onid yw yn eithaf posibl, ac yn fwy rhesymol, ddarfod i’r gorlifiad gymeryd lle ar amrywiol amserau?

Pan ddelo Cymru mor doreithiog o ddaearegwyr ag ydy w yn bresenol o fen’dd, diameu y teflir llawer o oleuni ar bynciau o’r natui- yma; ac y mae yn rhyfeddod pa fodd na chododd o’n mysg luaws o enwogion yn y wyddon werthfawr hon, tra y meddwn gynifer o fanteision at astudio ansawdd a chyfansoddiad y ddaear. Mewn llawer ardal cyd gyferfydd jDump neu chwech o wahanol haenenau â’u gilydd; ac y mae nifer mor lluosog o’r genedl yn enill bywioliaeth wrth dreiddio i fewn i’w chloddfeydd, a dwyn oddiyno y meini gwerthfawr, o’r gareg las a ddefnyddia y bugail i adeiladu ei lluest hyd aur sir Feirionydd; ond er hyn oll, y mae yn ffaith alarus na feddwn yr un daearegwr gwerth son amdano.

Ond, heblaw Cantref y Gwaelod, y mae y môr wedi ysbeilio Cymru o aml ddarn gwerthfawr arall o dir. Dywed traddodiad ddarfod i diychineb gyffelyb oddiweddyd y traeth ty wodlyd a ijheryglus hwnw sydd yn cyrhaedd o ymyl Biwmaris hyd y Penmaen Mawr, a elwir Traeth y Lafan, neu Traeth y Wylofain, yr hwn a berthynai i dywysog o’r enw Helyg ab Gwlanog. Cymerodd y dygwyddiad le tra y cynelid gwledd fawr yn ’mhalas Helyg. Pan oedd y cwmni yn ymloddesta, tarawyd y telynor, yr hwn oedd broffwyd hefyd, â dychiyn wrth ganfod y trychineb yn dyfod o bell; ac un o’r gweision a ddygwyddai fod yn y seler ar y pryd, yn ceisio rhagor o ffrwyth y winwydden i borthi mwythau ei uwchradd, a darawyd â dychryn, ac a redai ymaith fel un gwallgof, dan waeddi, “Y môr I y môr! “Y tefynor a’r gwas hwn yn unig a Iwyddasant i ddianc i ddiogelwch; y gweddill, yn nghyda’r eiddynt, a gollwyd yn yr elfen ddinystriol. Dywedir hefyd fod darn mawr o dir wedi ei orlifo o ac fel prawf o hyny, dyfynir y beddargraff canlynol oddiar hen gareg fedd sydd yn mynwent y lle hwnw:—

“Yma mae’n gorwedd,
Yn mynwent Mihangel,
Gŵr oedd a’i anedd
Dair milldir i’r Gogledd.”

Ond yn bresenol y mae y môr o fewn tri ch’warter milldir i’r dref. Byddai trigolion yr ardaloedd hyny er’s talm yn cynuH tanwydd lawer oddeutu milldir oddiwrth y lan; eithr oherwydd eu drygsawr wrth losgi, nid oes neb yn awr yn myned i’r drafferth o ymofyn am danynt.

Dyna hyd y gwyddom yr unig draddodiadau sydd ar gael o’r môr yn cwtogi rhandiroedd Cymru; ac wrth ystyried er’s cynifer o filoedd o flynyddau y mae efe yn parhaus ymguro yn erbyn ei glanau eang a phrydferth, a chynifer o brydiau y bu yn ymgynddeiriogi mewn tymestl, gan ymddangos mor fygythiol a phe buasai am lyncu ein Tygsogaeth ardderchog i’w grombil anferth, y mae yn syndod na syrthiasai rhagor ohoni iddo yn ysglyfaeth. Yr Hwn a roddodd ei ddeddf iddo ar y cyntaf, a’i fErwynodd hefyd yn rhwymyn ei derfynau; ac ni ruthrodd efe erioed dros erchwynion ei wely heb ganiatad ei Lywodraethwr.

Taliesin Ben Beirdd

Nid oes yr un enw Cymreig mor adnabyddus i genedloedd estronol ag enw “Taliesin Ben Beiräd.” Cyfenwid ef yn “Ben Beirdd “oblegyd ei fod yn mysg y beirdd hynaf a feddwn fel cenedl; ac ar lawer o ystyriaethau yn rhagori mewn awen a gwybodau ar ei gydoeswyr — Aneuryn, Merddin, a Llywarch Hen. Arddengys yn ei weithiau y fath gydnabyddiaeth eang â chyfrinion Barddas a Derwyddiaeth, nes ydynt yn gwbl annealladwy i’r nifer luosocaf o ddarllenwyr yr oes hon; ac y mae yr hanes canlynol yn perchen llawer o’r cyfyw deithi cyfriniol. Ni byddai ond rhyfyg ynom ni amcanu deougli y fath aralleg henafol, er y tybiwn ar brydiau ein bod yn gweled trwy ei niwl a’i thywyllwch. Gwnaed y darllenydd y goreu allo ohoni. Dywed y Celtic Davies mai dyma y tamaid goreu o hynafiaeth a fedd ein llenyddiaeth; ac y mae efe, trwy Dderwyddiaeth a ffugiaeth, yn gweled y cyfan o’r hanes mor oleu a chanol dydd. Yr argyhoeddiad ar ein meddwl egwan ni, pa fodd bynag, ar ol darllen ei waith dysgedig ar y pwnc ydoedd, ei fod yn gwneud tywyllwch yn dywyllwch eithaf.

Hanes Taliesin.

Yr oedd boneddwT gynt yn Mhenllyn elwid Tegid Foel, etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid. Enw ei wraig oedd Ceridwen; ac iddynt yr oedd mab elwid Morfran ab Tegid, a merch elwid Creirfyw, yr hon oedd y fenyw decay yn yr holl fyd; eithr brawd i’r ddau hyn, a elwid Afagddu, oedd y dyn hagraf yn yr holl fyd. A Cheridwen ei fam, yn lybied na chai efe dderbyniad yn mhlith boneddigion, oherwydd ei hagrwch, oni bae arno ryw gampau neu wybodau urddasol, a benderfynodd ferwi pair o awen a gwybodau i’w mab. Cyfarwyddid hi gan lyfrau Pheryllt, a chymerodd hyn le yn amser Arthur a’i ford gron.

Yr oedd y pair hwn i ferwi yn ddidor am un dydd a blwyddyn, ac hyd oni cheid ohono dri dyferyn bendigedig o rad yr Yspryd. Rhoddwyd gofal y pair ar ŵr o’r enw Gwion Bach, mab Gwi’eng o Lanfaircaereinion, yn Mhowys; a gŵr cibddall, o’r enw Morda, oedd i wylied dros y tân, ac i ofalu na phallai y berw am yr amser penodedig. Ceridwen hithau, wrth lyfrau Astronomyddion, ac wrth oriau y planedau, oedd yn llysieua beunydd yn y meusydd o bob amryfal lysiau rhinweddol. Fel yi- oedd hi un diwrnod yn llysieua, yn mhen tua blwyddyn wedi i’r pair ddechreu berwi, damweiniodd neidio a disgyn ar fys Gwion Bach dri dyferyn rhinweddol o’r sudd berwedig, a chan mor boeth oeddent, Gwion a darawodd ei fys yn ei ben. Mor fuan ag y gwnaeth ef hyny, daeth i wybod pob peth, ac yn mysg pethau eraill ibd iddo fawr berygl oddiwrth Ceridwen; ac mewn ofn a dychryn efe a ffoes tua’i wlad ei hun. Wedi ymadael o’r tri dyferyn rhinweddol, y pair a holltodd yn ei haner, a’i gynwysiad ’gwenwynig a lifodd i aber gerllaw; a meirch Gwyddno Garanhir, yn dygwydd yfed ohoni ar y pryd, a fuont feirw; ac o hyny allan y gelwir yr aber hono, “Gwenwyn meirch Gwyddno.”

Pan ddychwelodd Ceridwen o llysieua, a chanfod ei llafur blwyddyn wedi myned yn ofer, hi a ymaflodd mewn pastynffon, ac a darawodd Morda gibddall yn ei ben âg ef, onid aeth un o’i lygaid ar ei rudd. “Paham y’m hanffurfiaist? “ebai yntau, “ni bu dy golled o’m hachos i.” “Gwir a ddywedaist,” ebai Ceridwen, “Gwion bach a’m hysbeiliodd,” a hi a brysurodd i ddilyn Gwion, yr hwn a’i canfyddodd hi yn dyfod o bell, ac a ymrithiodd yn rhith ysgafarnog, ac a redodd ymaith. Ceridwen a ymrithiodd yn Filast, ac a’i dilyuodd at fin afon. Gwion a neidiodd i’r dwfr, ac a drawsffurfiodd ei hun yn bysgodyn; hithau a ymrithiodd yn Ddyfrast, gan ei ymlid mor galed dan y dwfr nes ei orfodi i dtoi yn aderyn. Eithr ni ddiangodd efe rhag dialedd ei erlynes yn y ffurf hono chwaith, canys Ceridwen a ymrithiodd yn Farcutan, gan ei ymlid yn galetach nag erioed; a phan ar ei orddiwes, ac yntau âg ofn angau arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar lawr ysgubor. Disgynodd ar ei ben iddo, ac ymrithiodd yn un o’r gronynau. Yna ymrithiodd hithau yn lâr ddu gopog; daeth at y twr gwenith, canfyddodd ef yn mhlith y grawn, a hi a’i ìlyucodd. Dywed yi- ystori iddi fod yn feichiog arno naw mis; a phan esgorodd, nis gallai hi gael ar ei chalon ei ladd, gan mor dlws ydoedd. Yna hi a’i gwniodd mewn cwrwgl (bol croen), ac a’i bwriodd i’r môr, at drugaredd y tônau, ar y 29ain o Ebrill.

Y pryd hwnw yr oedd cored ffishing ludrj Gwyddno Garanhll’ yn sefyll ar y traeth rhwng Dyfi ac Aberystwyth. gerllaw ei gastell ef ei hun; ac yn y gored hono y delid gwerth can punt o bysgod bob nos Calanmai. l’r Gwyddno h.wn yr oedd mab a elwid Elphin, un o’r gwŷr ieuainc mwyaf anflfortunus yn y byd, yr hyn a ofidiai ei dad yn fawr, gan y tybiai iddo gael ei eni ar am- ddrwg. Trwy anogaeth ei gynghoriaid, boddlonodd Gwyddno roddi iddo dyniad y gored y flwyddyn hono, i edrych a wenai ffawd rywbryd arno, ac er mwyn bod hyny yn gynysgaeth iddo ar sryfer bywyd.

Dranoeth pan ddaeth Elphin at y gored, nid oedd yno un pysgodyn; eithr efe a welai ry wbeth wedi glynn ar bawl y gored, a beth ydoedd ond cwrwgl. Yna dywedodd un o’r coredwyr wrth Elphin, “Ni buost ti erioed mor anhapus a heno, canys ti ddinystriaist gymeriad y gored, yn yr hon y ceid gwerth can punt bob nos Calanmai.” “Efallai, ar ol y cwbl, fod cyfwerth can punt yn y cwrwgl acw,” ebai Elphin; ac efe a barodd i un o’r dynion fyned i’w geisio a’i agoryd. “wedi ei agor, beth oedd o’i fewn ond plentyn tlws odiaeth; a’r dyn a’i cyrchasai a lefodd mewn edmygedd, “Llyma Daliesin! “[gwyneb tlws— /aîV /oce]. “Taliesin bid ei enw,” ebai Elijhin, ac efe a neidiodd ar ei farch, i fyned tua chartref, ac a gymerth y plentyn wrth ei ysgil, yr hwn a farchogai mor ddiysgog a phe buasai yn y gadair esmwythaf. A’r pryd hwnw, yn ol yr Hanes. efe a gyfansoddodd gân o ddyhuddiant a moliant i’w achlesydd Elphin ab Gwyddno, a welir yn niwedd yr ysgrif hon.

Yn mhen ychydig amser wedi i’r bardd sychu y deigryn oddiar rudd ei noddwr, gofynes Gwyddno Garanhir iddo beth oedd efe, ai dyn ai yspryd. Atebodd Taliesin y gofyniad mewn cân, a deehreua trwy ddywedyd mai priffardd Elphin ydoedd, ac mai ei wlad gysefin ydoedd bro y cerubin; ac yna crwydra y greadigaeth gan ddyweyd iddo fod yn bobpeth bron, dyben yr hyn, mae yn ddiameu, ydoedd gosod allan yi- athrawiaeth iJderwyddol o drawssylweddiad. Drachefn dygodd Elphin ei gaffaeliad gydag ef i balas Gwyddno, a’r tywysog a ofynes i’w fab pa Iwyddiant a gawsai efe gyda’r gored. Atebodd Elphin iddo gael peth gwell na physgod. “Beth oedd?” ebai Gwyddno. “Bardd.” ebaiElphin. “Och! “druan, beth dâl hwnw i ti?” Yna Taliesin a atebodd, “Re dâl hwnw iddo ef fwy nag a dalodd y gored erioed i ti.” “A fedi-i di ddywedyd pa beth, a chyn fychaned wyt’” ebai Gwyddno. “Medraf fi ddwedyd mwy nag a fedri di ofjTi i mi,” ac mewn cân arall, efe a fola yr elfen dd’wfr; ac a ymhona hollwybodaeth— “canys gwn a fu ae a tydâ rhagllaw;” ac ymddigrifa eto yn athi-a-wiaeth trawseylweddiad — “teirgwaith i’m ganed, &c.”

Dyna Hanes Taliesin, fel ei ceir yn y Myfyrian Ârchainlogy, gydag ychydig gyfiiewidiadau, er mwyn y dai’Uenydd cyffredin.

Dyhuddiant Elphin

Taliesin a’i cant

Elphin deíT, taw a’th wylo —
Na chabled neb yr eiddo —
Ni wna les it’ ddrwg obeithioy
Nid a wyl dyn a’i portho—
Ni bydd coeg gweddi Cynllc —
Ni thyr a’r addawo —
Ni chaed yn nghored Wyddno
Erioed cystal a heno.

Elphin deg:, sych dy ddeurudd—
Ni weryd bod yn rhybrudd;
Cyd-dybiaist na chefaist fudd—
Ki wna les gormod cystudd;
Nae anieu wyrthiau Dofydd —
Cyd bwyf bychan, wyf gelfydd;
O foi’oedd ac o f ynydd,
Ac 0 eigion afonydd
Y daw Duw a da i ddedwydd.

Elphin, gjmeddfau dyddan,
Anwraidd* y w dy amcan;
Nid rhaid it’ ddirfawr gwynfan —
Gwell Duw na drwg ddarogan>
C’yd b’^í-yf eiddil abychan
Ar gorferw mor lydan,
Mi a wnaf yn nydd cyfran
It’ well na thrichan’ maran.f

Elphin, gyneddfau hynod,
Na sor ar dy gatîiîellld —
Gyn b’wyf wan ar lawr fy nghod,
Mae rhinwedd ar fy uhafod:
Tra b’wyf fi i’th gyfragod,
Nid rhaid it’ ddirfawr ofnod —
Ond cotta enwau’r Drindod,
Ni ddichon dim dy orfod,

Cader Idris

i’rix y rhaid hysbysu mai mynydd uchel yn sir Feirionydd ydyw Cader Idris. Ar ei grib uchaf y mae toriad yn y graig ar ffurf cader, Ue, yn ol traddodiad, y byddai Idris Gawr yn myfyrio seryddiaetb, ac yn olrbain dyrys ddeddfau ac ordinhadau y llu wybrenol. Gosodir y gwv hwn allan yn y Trioedd, gyda Gwydion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o “dri gwyn Serenyddion ynys Prydain,” gwybodaeth pa rai o ddeddfau natur oedd y fath fel y gallent ragfynegi yr hyn a ddygwyddai hyd ddydd Brawd. Pa un ai oherwydd fod iddo gorff anferth o faint, ynte oherwydd ei fawr wybodaeth a’i athrylith, y gelwid ef yn “Gawr,” nis gwyddom. Dywed un hanesydd y byddai yr hen Gymry yn galw dynion gwybodus a dysgedig yn gewri; ac y mae yn arferiad genym hyd y dydd hwn alw ein pregethwyr dyfnion, a’n hysgi-ifenwyr galluog, a phobl y teitlau, yn ddynion mawr, er na byddant ond rhyw erthylod ysgeifn, flwydion, llathen a haner o daldra; a galw dynion dienaid ac anwybodus yn gorachod, er eu bod ddwy lath o hŷd yn nhraed eu hosanau. Mae yn ddiameu fod Idris yn gawr o’r dosbarth cyntaf, gan y sieiyd hanesiaeth mor uchel am ei ddysg; a myn y wlad gredu ei fod yn gawraidd o gorph hefyd, a dygir engraifft nerthol iawn yn mlaen i brofi hyny:— Y mae tri o feini mawrion, pob un ohonynt yn amryw dunellau o bwysau, heb fod nepell o’r mynydd hwn, eilw pobl yr ardal yn “Dri Graienyn,” am i Idris, pan ar un o’i deithiau, eu teimlo yn ei esgid, ac wedi ei thynu oddiam ei droed, efe a’u bwriodd yn y fan hono. Darnau anferth ydynt wedi syrthio o’r graig gerllaw. Yn eu hymyl y mae llyn o ddwfr a elwir, “Llyn y Tri Graienyn.”

Oddeutu blwyddyn yn ol, ymddangosodd yr hanesyn canlynol yn un o gyhoeddiadau goreu ein cymydogion; a chan ei fod yn dal cysylltiad â thraddodiad pobiogaidd am y Gader, ac mor briodol i ansawdd y Llyfr hwn, rhoddwn e/eiyrhiad ohono:— “Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn. a breswylid gan ddarn o ŵr boneddig o’r enw Gruffydd, yr hwn oedd ŵr gweddw ar y’ pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn iiiecldii cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuangaf, yr hon, er mwyn h-^-ylusdod, a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei tliâd, gan nior debyg ydoedd i w diweddar fam, â’i brodyr a’i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hy-ny, a’r gwa’llt sidanog “^ arianafdd, a’r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd.

Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhy w dlws daearol arall; ac os gweddus adrodd ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy ëon a phenderfyuol.

Un haf, daeth câr i’r teulu ar ymweliad â’r Talgiyn o Loegr, gŵr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd of gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad i hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o’r ddwy ochr, dyweddiwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyiyf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Grifbn (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac i weled blwyddyn cyhyd ag oes un o’r tadau cynddiluwiaidd; ac er fod amser i’el pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddysgwyliedig i ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru, i syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn benaf oll, i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei dyb orphwydlog ef, yr oedd Cymru wedi ei clireu, fel blwch ardderchog i gynwys y diemwnt gwerthfawr. Nid oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill aty llall; eithr i’r gwrthwyneb, yr oedd ynfwy angerddol, a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd hyny ei syniadau am dani — ystyriai eibeiddgarwch yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd yr wythnos gyntaf o pnwoliad Griffin mewn rhodiana hyd fryniau a Uechweddau yr aidal, a dawnsiai Gwenlliw ar grib clogwyn ag na buasai gaf’r yn moiddio saiifru ai no; hi chwareuai ar geulan rhuallr ag y buaeai llithiiad ei throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i”r aig trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn rhedeg yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiaseut ei darbwyllo o’r perygl, ni buasai hyny ond. chwanegu ei beiddgarwch.

Ar ol treulio diwrnod yn un o’r ymgyrcliiadau hyn, yn yr hwyr cydeisteddai y cwmni oddeutu y tân, a thi’ôdd yr ŷmddyddan ar Draddodiadau Cymreig. Yn mhlith eraill, dygod’d Gwenlliw y traddodiad am Gadair Idris gerbron, 8ef, fod i bwy bynag a dreuliai noson yn y Gader i’od naill ai “yn wallgof, yn fardd, neu yn farw,” erbyn tranoeth. Dywedai ddarfod i Taliesin a Merddm fyned trwy y prawf Uymdost, a dylbd i lawr o’r mynydd yn y bore yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes “Pendefiges y Gacier,” yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyflTesydd a”i chyfeillion ei jíherswadio o annoethinebei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio, yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson apwyntiedig, gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus hono ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani bore dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a’r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du sidanaidd yn erbyn ceryg llwydion y Gader; a’r difrifohleb argraffedig ar ei gwynebpryd tiiion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu, oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlyniad, ychydig o’i chyfeillion a’i pherthynasau galarus a’i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o geryg ar lechwedd y mynydd.

Wedi adrodd y prudd-hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o’r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro annghofio ei ddyndod. Dyiynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf gyxla geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wed’yn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro hono Mrs. Hemans.

Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fynu gan “Hanes Pendefiges y Gader” — ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i’w hefelychu. Ond nid felly am y gweddill o’r cwmni; un a’i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i’w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y ìath dyb wirionffol; ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr cull am bobpeth Cymiieg, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl. Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a’i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Grifbn holl felysion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a”i hanerchodd • — “Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir;”ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o’r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd. O hyny allan, ni addurnodd gwên wyneb hawddgar Gwenlliw; hi edrychai yn synedig, fel pe buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig.

Yna daeth adeg y “Nos da’wch,” ac “Am y cynta’ i lawr yn y bore,” ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gwenlliw am ei hystafellwely. Nid oedd meddwl GriíBn chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd yn gwadu un o hoff’ dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a dyuodd ei sylw wedi cyrhaedd o hono i’w ystafell, ydoedd chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi Neu y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa gyffrous, a diolchai mai yn ystafellwely gysurus y Talglyn yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei suo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd, yn crwydro o’r naill fangre i’r Llall, a chrëu mil myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus. Ond y Ue yr ymseíŷdlai arno yn fwyaf neilhluol oedd Cader Idris. Breuddwydiai ei fod yn crwydro hŷd ei chopa yn mhlith y ceryg mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a’r aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn wâg. Eisteddai ynddi un o ymddaugosiad fenywaidd. Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos; a’i gwallt rhydd yn ymdoni o flaen yr awelon, ac un llaw iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd. Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buasent yn eu malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch íBamllyd gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, ac wed’yn (lisgynent yn îs, gan daflu eu gwawl brwmstauaidd ar y drnanes a eisteddai ei hunan yn nghanol cyuddaredd yr elfenau. Yna, ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth ar ben y mynydd — yn gesair hyrddiedig gan wynt, a’r ffurf -welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan. Clywai y breuddwydiwr leisiaii annaearol yn gymysgedig â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion o ia yn llithro heibio yn nghanol Uuwcbfeydd gwlaw a chenilusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn datguddio gwynebpryd geneth ieuanc — gwyneb Gwenlliw! — mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw, fel y deflrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau mawrion o chwys yn crogi ar ei ddwy ael. Bu yn myfyrio am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore braf — yr awyr yn las, yr adar yn llawen ganu, a’r coed a’r maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i’r ystafelljforeufwyd gyda chalon ysgafn, lle y r oedd Gruffydd a’i ddau fab a’i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau, gwelwyd fod Gwen yn absenol.

“Anfynych y mae hi yn olaf,” ebe ei thad, “anfonwch ei llawforwyn i’w hysbysu ein bod oll yn disgwyl aui dani.” Daeth y forwynig yn ol, gan ddweyd fod drws ei hystafell yn gloedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb gael un ateb.

Synasant at yr hysbysiad hwn; aethant oll i fynu ar frys, yn cael eu blaenori gan y penteulu; yr hwn a alwodd wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig, “Gwen! Gwenlliw, fy anwylyd.” Dim ateb. Torwyd y ddôr, ac yr oedd yr ystafell yn wâg, y ffenestr yn agored, a darn o riban ar yi’ astelch oddiallan wedi ei fwydo a’i ddrygliwio gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwenlliw; a chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i’r ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei “hymdaith. Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un o honynt ar lawnwaith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn syndod, nid ynganai air am enyd wrth neb.

“Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystonn,” ebai y ferch henaf. “Neithiwr! yn yr ystorm!” ebai ei thad o’r diwedd, “rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof; neu ai tric ydyw y cwbl? na, ni feddai hi galon allai gellwair yn y dull yma.”

Tra yr oedd y syfrdandod a’r penbleth hwn yn parhau, ymsaethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin gyda nerth a chyflymdra un o’r mellt a welsai yn nghwsg — ei freuddwyd — yr ymryson yn nghylch “Pendefiges y Gader,” a’r penderfyniad diysgoghwnw yn argraffedig ar ei liwynebpryd pan ymadawodd efe â hi y noson flaenorol. “Mi wnl ynmii’le y mae hi,” meddai, “ar y mynydd! ar Gader Idris yn wallgof neu yn farw cyn hyn! a minau, hurtyn, fu’r prif achos i’w hanfon yno!”

“Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon iddi fod yno? Anmhosibl!” ebai y tad.

“Y viae hi yno,” atebai Griffin, ac argyboeddiad dwfn o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais. “Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf ìljmidost o dreulio noson yn y Gader; a minau yn cysgu tra yr oedd hi yn marw yn y dymestl. Dilynwch fi yn ddioed; a dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad tw o drugaredd, yn rhy hwyr.”

Llefarai gyda’r fath awdurdod fel y lladdoddbob gwrthwynebiad yn y fan, a chyn pen pum’ munud yr oeddynt yn prysuro at pdrau y mynydd. Efe a’u blaenorai hwŷnt oll; yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed a’r ewig buan. I fynu hyd y ceryg rhyddion, heibio i’r twmpathau eithin a’r llwyni grug, heibio i’r ffiydiau sidellog a’r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig latheni islaw y Gader. Sylweddolwyd ei freuddwyd. Yno yn ei gwisg o fuslin a’i mantell fraith, wedi eu,Uygru gan y gwlaw a’r pridd, yr eisteddai Gweuluw, mor oer a’r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a’i dwylaw bychain wedi eu tŷn blethu yn eu gilydd. Gwasgodd “hi i’w fynwes mewn dull haner gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni — yr un aigraff” o gyfy’ngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddo gan ei ddychymyg mewn breuddwyd. Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y Llygad gloew bywiog megys wedi sefyll gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a’r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys 5’ plwyf, — Ue beddrod estroniaid, a’r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a doiai ar ddystawrwydd y seremoni, hyd oni ddiangodd y geiriau hyn o enau y tad:— “Gwyn ei fyd y pur o galon;” ac yr atebwyd ei ddymuniad gan “men “pawb oedd yn bresenol. Teimlai Grifibn ei galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda’i an-ç^ylyd. Daeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a’i amgylchiadau byth eu dileu.

Y “Wlad” a “Syr Oracl”

TJ>' o ddyledswyddau cywreiniaf yr bynafiaethydd ydyw oll’hain tarddiad enwau lleol; ac o dan rai amgylchiadau, y mae yn ofynol i’r dysgedigion hyn feddu darfelydd ìygadog anarferol, canys nid ellir rhoddi eglurhâd yn y byd ar ambell enw heb lusgo gair neu chwedl gerfydd eu clustiau o’r pellderoedd, ac yna eu naddu a’u tacluso modd yr edrychont yn lled drefnus, ac y caffont eu rhwth-lyncu gan y chwiHrydus a”r addolwr Rhyfeddod. Pan na fyddo darnodiad “Syr Oracl” yn ei boddloni, aiffy “Wlad” at y gwaith o ddarnodi ei hunan, ac y mae yn ddifyr sylwi ar y gwahaniaeth barn sydd rhwng y naill a’r ìlall. Y mae y blaenaf yn credu mai doethineb ydyw ei fympwy ef, a’r olaf yn tybied mai gwirionedd ydyw ei gredoau yntau. Perthyn i ddosparth y “Wlad “yr wyf fi, canys y mae yn dda genyf bobpeth poblogaidd, ac y mae yn hawddach genyf gredu tystiolaethau diymhongar fy nghydwladwnn*, na breuddwydion gwagsaw hen fynachod ffug-santeidd’iol y Canol Oesau — y mae yn wellgenyf draddodiadau Cymreig na hanesion Lladin. Gelwir ni gan yr Oraclau “yn werin anwybodus:” gadewch i hyny fod — -y mae Na-wer o ddysg neu rywbeth arall wedi gyru Uuaws o honynt hwythau yn dra ynfyd. Barned y darllenydd oddiwrth y ffeithiau canljmol pa un o’r ddwyblaid sydd deilyngaf o ymddú’ied.

Dyna darddiad yr enw Rhuthyn. Dywed y “Wlad,” yn ei dull prydferth ei hun, mai gwraig o’r enw Ruth oedd yn cadw gwesty yn yr amser gynt gerllaw pen y dref hono; a chan fod ymwel-«-yr a theithwyr yn lletya dan ei chi’onglwyd, ac mai ei thy hi oedd y mwyaf yn y di-ef (pentref y pryd hwnw), dechreuwyd galw y lle yn “Ruth Inn.” Sillebir yr enw gan y “Wlad “a’r Saeson hyd y dydd hwn yn Rhuthin; felly nid oes dim cyfnewidiad yn y gair 24 Y “wlad” a “syr oracl.”

ond fod yr ìi olaf ’wedi ei gadael allan. er mwyn arbed papur wrth ysgrifenu. Lol oedd peth. fel hyn pi nhyb Syr Oracl; yr oedd basder o’r fath yn wrthun i’r eithaf yn ei olwg. Wedi iddo gynhyrfu y llwch oddiar ei lyfrau Lladin, a manwl gyniweirio ynddynt am hen enw y Ue, cafodd nad oedd enw yn y byd arno. Pa fodd bynag, darganfyddodd mai Castell Coch yn Xgwernfor y gelwid castell Rhuthyn gynt. Eithafion anmhosibilrwydd fuasai priodoli enw presenol y dref i hen enw ei chastell; ac o ganlyniad, nid oedd dim i’w wneud ond dyfeisio gwreiddyn newydd spon, fel hyn:— Saif prif ranau y dref ar graig o dywod coch neu rhudd. Oddiwrth hyn, medd y Doethawr Oracl, y tyfodd enw y Ue yn Rhuddyn; a rhag i bobl foneddigaidd yslefrian wrth leisio y sain feddal dd, a rhag i’r gwyryfon ieuainc gael esgus i ìispian, diswyddwyd yr dd, a’i chyfnither th a deyrnasodd yn Rhuthyn yn ei lle hi. Dyna Dinbych hefyd, sillebir yr enw hwnw gan un Oracl yn “Dimbach,” gan farnu mae yn debyg nad oedd dim bachau pysgota ar -werth yno gynt. Oracl arall a’i geilw Dimbech, gan roi ar ddeall nad oedd yno bechod na’i ganlyniadau adfydus. Ond sydwer mor dra rhagorol ydyw syniad y “Wlad” ar darddiad y gair:— -Yr oedd math o ddraig neu sarflF asgellog frawychus a elwid Bych, yn llochesu tua Chastell Caledfiyn yn Rhos (enw heriafol Castell Dinbych), yr hwn a laddai ddyn ac anifail, ac a barai i’r hen dref fod yn annghyfanedd. Ki feiddiai neb a by w fyned yn agos at ffau yr angenfil dinystriol hwn, hyd onid anturiodd un o Salsbris, Lleweni, yr hwn a adwaenid yn mhlith ei gydwladwyr wrth yr enw Syr John y Bodiau, am fod iddo wyth bys a dwy fawd ar bob llaw. Y mae cerflun o hono yn yr Eglwys Wen, gerllaw Dinbych, yn bresenol, a’i ddwylaw yn ateb i’r dysgritiad uchod. Efe a ornestodd â’r Bych, a bu ymladdfa enbydus rhyngddynt — yr angenfil yn poeri tân, ac â”i gynffon anierth yn gwneud pob ymgais i orthrechu y dewrddyu cyntaf a feiddiodd ei wrthsefyll. Pa fodd bynag, llwyddodd Syr John i blanu ei waewffon o dan ei aden. Syrthiodd y bwystfil ar lawr, a chydag ysgrech ddolefus nes oedd y creigiau amgylchynol yn diaspedain, efe a drengodd. Torodd y gorchfygwr ben y bwystfil, a dygodd ef yn fuddugoiiaethus ychydig o’r fan, lle yr oedd lluaws mawr o’i gyfeillion a phobl y dref a’r ardal yn disgwyl yn bryderus am dynged yr ornes; a phan ddaeth i’w golwg, gwaeddlldd nerth ei ben, “Dm Bych.” Os oes rhyw ddyn nad all weled rheswm mewn pethfel hyn, dywedwch Y “wlad” A “syr obacl.” 25 witho am brynu spectol bren a chwilio trwyddynt am gath ddu mewn tywylJwch. Gyda llaw, oddiar yr hanesyn hwn o eiddo y “Wlad “Gymreig y sylfaeuodd y Sais ei chwedl yn nghylch “Siôr a’r Ddraig.”

Sylwer eto ar farn y ddwyblaid o barth tarddiad yr enw Beddgelert. Y Parch. P. B. Williams, mab y diweddar Barch. Peter Wiuiams (o fendigedig goffadwriaeth), a ddywedai i’r lle hwnw gael ei enwi oherwydd i ryw hen feudwy, ar ol ymgilio oddiwrth y byd, ymsefydlu yn y fan, ac adeiladu bwth; ac yn mhen enyd codwyd eglwys lle y safai preswylfa y meudwy a galwyd y lle Bwlch Cilfach Garth. Llygrwyd yr enw yn Bwlch Cilarth, a llygrwyd y gair yna drachefn yn Bethcelert. Dyna lygriad iawn; ond y mae yn rhaid iddo fyned trwy un radd arall o lygredd cyn y cyrhaedda ei berffeithrwydd llygredig presenol— Beddgelert. Yr hynafiaethydd, W. Wiuiams, Llandegai, a ddywedai i’r lle gael ei enw oddiwrth St. Celer, nawddsant Llangeler, Ceredigion. Gyda phob parch i’r ddau awdurdod blaenorol, rhaid i mi gael tarddiad eglurach. Barna Oracl arall mai ei nawddseiutio a gafodd y fan ar fynach o’r enw Celert, un o hynafiaid Serigi Wyddel, yr hwn a breswyliai yn ninas Ffaraon, heb fod nepell o Beddgelert. “Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys.” Chistfeinier ar y “Wlati “yn traetW ei Uên:— “Llywelyn Fawr a gyfaneddai yn ynys Môn, ac yr oedd iddo hafotty yn mynyddoedd Eryri, gerllaw y fan y saif yn bresenol bentref Beddgelert, lle y treuliai efe rai wythnosau yn yr haf gyda’r difyrwch o hela iwrchod, ysgyfarnogod, &c. Gan y tywysog hwn yr oedd milgi rhagorol a dderbyniasai efe yn anrheg oddiwrth ei dadyn-nghyfraith, loan, brenin Lloegr, ac enw y ci ydoedd Rilhart. Yn gyffredin dygai Llywelyn ryw ran o’i deulu gydag ef i hafota; a’r tro y cyfeirir ato yma, ei unig blentyn a’i famaeth. Cychwynodd allan i hela un bore, gan adael ei etifedd yn ngofal y forwyn hyd oni ddychwelai. Y famaeth yn llawn chwilfrydedd am weled y golygfeydd swynol oddiamgylch, a adawodd y plentyn yn ei gryd, ac a aeth allan i rodiaua [^Seisnes oedd ’hi, meddai Glasynys]. Wedi i Llywelyn a’i gymdeithion ddechreu hela, sylwyd fod Eilhart (neu Ceiert, yn ol dull pert y Cymro o swnio y gair) yn absenol a synai pawb yn fawr at ei abseuoldeb. Pa fodd bynag, dychwelodd Lly welyn a’i osgordd yn gynarach nag arfer y diwrnod hwnw, a chyrhaeddasant yr hafotty o uaen y forwyn; a phan yn ymyl cartref, wela Celert yn orchuddiedig â gwaed yn rhedeg i’w gyfarfod, dan ysgwyd ei gynflFon, a dangos pob arwydd o lawenydd ar ei ddyfodiad. Prysurodd tua’r tŷ; ac ar ol myned i fewn, O 1 oh’gfa dorcalonusl y llawr yn goch gan waed, a’r cryd a’i wyneb yn isaf, heb olwg ar y baban yn un man. Ymsaetbodd y drychfeddwl ofnadwy trwy ei enaid fod ei anwylyd wedi ei ladd, ac mai Gelert oedd y llofrudd, ac heb un foment o betrusder, dadweiniodd ei gleddyf, a throcbodd ef yn ngwaed calon y milgi diniwaid. Un ddolef, a dyna y creadur ffyddlon yn ysgerbwd. Yna codwyd y cryd, a chafwyd y plentyn yn cysgu yn dawel, a cberllaw hyny genaw blaidd anferth yn furgyn marw ar lawr mewn hyn o waed. Nid oedd gan y tywysog edifarus ddim i’w wneud ond gofidio oherwydd ei fyrbwylldra. Claddwyd Gelert yn barcbus mewn llecyn teg gerllaw, a cbodwyd tomen o geryg ar ei fedd, ac adwaenir y fan yn awr fel Bedd Gelert. Oddiar yr banesyn hwn y tarddodd y diarebion Cymreig — “Cyn dial gwybydd yr achos,” ac “Ystyr ddwywaith cyn taro unwaith,” a “Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll,” a’r wireb, “Mor edifar a’r gyŶr a laddes ei filgi.” Dichon fod y tair engraifft yma yn ddigon i brofi trarbagoriaeth y “Wlad “ar “Syr Oracl,” ac os na yrr dysg ei berchenog yn ynfyd, ei fod yn lled aml yn ei wneud yn anmboblogaidd. Yr wyf yn diolch i’r “Wlad” am arbed rhag difancoll luaws o hen hanesion a thraddodiadau gwerthfawr o’r fath yna ag y buasai “Syr Oracl “wedi eu taflu i’r cŵn er’s canoedd o flynyddau. Rhwydd hynt i chwithau gyda rhoddi ar bapur yr hyn a fu cyhyd ar Lafar Gwlad. Eich ufuddaf gydwladwr, Rhys Ddwfn.

Dalen o Gôf-lyfr y Marw

Y MAKW y cyfeirir ato yma ydyw y diweddar Mr. Evan Owen {Allen), Rhuthyn. Cawsom y fraint dro yn ol o dallu golwg tros ei weithiau aungbyhoeddedig, ac yn ddiarwybod bron glynodd y dyfjmiadau canlynol yn ein cof. Peth cyff’rous ac effeithiol ydyw edrych ar lawysgrifen y marw— y mae adgofion yn ymrithio gerbron, ac yn personoli yr ymadawedig nes y teimbr fel pe yn mhresenoldeb yspryd. Gyda’r bardd y mae yr eff’aith a’r cyffi-o h’^nw yn fwy, canys y mae ei dclryclifeddyliau ef mor anfarwôl â”r enaid a’u cynyrchodd; a bardd o’r iawn ryw oedd Auen. Gresyn na chyhoeddid ei holl weithiau, oblegyd nid ysgrifenodd efe odid ddim nad ydyw yn werth ei gyhoeddi, ac na buasai yn addui-no Llenyddiaeth unrhyw genedl dan haul.

Yr engraifft ganlynol a brawf fod ganddo ddawn barddoni ffraeth a pharod annghyffredin:— Un tro yn nghwmni cyfaill, yr oedd efe yn rriyned heibio i felin fechan a chanddryll, a safai yn ngodreu mynydd. Dymunodd y cyfaill arno wneud Englynbyr-fyfyr i’r hen sefydliad gwladaidd a diaddurn, a llifeiriodd y pedair llinell hyn tros ei wefusau mor rhwydd a’r dwfr tros gafn y felin:—

“Melin yn ngodreu moelydd — na bu un
O’i bath tiwy y gwledydd,

Ni fal hon ddigon ar ddydd
O luniaeth i’r melinydd.”

Y dernyn nesaf ar lechres ein cof a arddengys ôl llafur a chywreini-wydd athronyddol mawr:—

Yr Enaid

“Gwreichionen ANFARWOL sef anadl y Duwdod
Yn trig-o mewn marwol adeilad o g-lai;
Ymwelydd am euyd a llethrau’r byd isod,

Ond BRODOR y tiagwyddol didrai;
Gwir SYLWEDD na ddichon y llygad ei ganfod,

A BYWYD na ddichon yr angau ei ladd;
Dirgelwch na ddichon raeidroldeb ei ’nabod,

Daearol ei drigfan, ond nefol ei radd.
Peri gwerthfawr anmhrisiawl a gollwyd yn Edeu,

A gafwyd, a brjTiwyd, gan Iesu fy Nuw,
Nid âg aur, nac arian, nac ebyrth auorphen,

Ond â gwaed bendiguid ei bur galon friw.”

O ran angerdd teimlad fe ddeil y toddeidiau canlynol eu cyrmharu âg ebychiadau calon-rwygol Dewi Ŵyn yn ngafaelion ypruddglwyf:—

Myfyrdod o dan deimlad o afiechyd

“Ow! adfeilio mae peiriant dynoliaeth, —
Ow! f wrw’i olwynion i af reolaeth —
O! sicr arwydd aflwydd a dadfeiliaeth —
Poen wedi bilio penyd ehelaeth —
Loes i’r fron ddau ddigon ddaeth — Ow! gur garw,
Ow! boen dielw — Ow! benod o alaeth.

Ow! egr-wydn a chyndyn waed guriadau,
A gwaith hynod yn y gwythenau;
Pa wres, eirias ynt daeog er’s oriau?
Brwydro’n olynol — brad oer yn y Iwynau
F’enaid, ai’r nych ai finau — cyn yr hwyr
Orfydd yn Uwyr r — Duw a wyr orau.

Er y cyfan, da i ŵr yw coäo
Ei goll a’i haeddiant, ao mai gwell iddo

Gael sur gystudd, a cherydd, a churio
Ei wedd am enyd, ac nid ei ddamnio

Ys ei haeddiant; a’i suddo’n— dragywydd
I dân gwaradwydd— Duw a’n gwaredo 1”

Iarll Richmond a’r Brudiwr

Daryiid Llwyd o Fathafarn, plwyf Llanfair Cyfeiliog, ac yn meddu etifeddiaeth ar lanau y Dyfi, a gafodd yr ânrhydedd o ymweliad gan Iarll Richmond, ar gyfrif ei enwogrwydd fel Brudiwr. Yr oedd yr Iarll ar ei lîordd o Aberdaugleddyf i’r Amwy thig i ornestu â’r brenin Rhisiart III., am goron Lloegr, pan y tybiodd yn werth ei drafferth droi i ymofyn â Dafydd a fyddai ei ymgais yn llwyddianus ai peidio. Wedi i’w uchelder hysbysu ei neges, petrusai y Brudiwr roddi ateb iddo, a chynygiodd ohirio hyny hyd fore dranoeth. Pan ddeallodd gwraig Dafydd Llwyd fod ei harglwydd yn petruso ateb cwestiwn syml gŵr o urddas iarll, hi a ddechreuodd ei geryddu:— “Beth! tydi yn fardd, yn broffwyd, yn weledydd, ac yn methu rhoddi ateb i ofyniad fel yna! Dywed yn bendant wrtho y bydd iddo enill y frwydr; ac os try hyny allan yn wirionedd, dyna dy enw yn uchel ac urddasol; ac os aflwyddianus íŷdd, ni raid i ti byth ofni y dychwel efe y ffordd yma i’th gondemnio fel gau-brophwyd.” Boddlonodd hya y Brudiwr yn fawr; ac wedi i’r Iarll gael ar ddeall ei dynged, aeth i’w ffordd yn llawen. Ni raid hysbysu y gwybodus ddarfod i broff’wydohaethgyfrwysgall Dafydd gael ei chyflawni i’r liyt’hyren — syrthiodd yr ymhongar a’r creulon Rhisiart yn y frwydr; a hyny, medd traddodiad, trwy ddwylaw ein cydwladwr dewrwych Rhys abTomas; a Iarll Richmond, ŵyr i Owen Tudur o Benmynydd, Mon, a wisgodd goron Lloegr yn ei le ef, ac a alwyd wrth y teitl Harri YIL

Y Ffynonau

“i’R oedd tair non yn Ngogledd Cymru nodedig am eu teithi cyfareddol, sef Ffynon Tegla, Ffynon Gwenfrewi, a Ffynon’Elian. Un o epilion coelgrefydd ac anwybodaeth ydyw priodoli unrhyw riuau goruwclinaturiol i ffynonydd; ac oni buasai fod Pabyddiaeth wedi acMesu yr ofergoel am Efynon Gwenfrewi, ni cblywsid son am yr ysgymunbeth gwarthus hwn o fewn ein terfynau. Er cyn y diwygiad Protestanaidd dirgel-lynodd “Eglwys Rhufain wrth y drychfeddwl o nawdd ac eiriolaeth Gwenfrewi ar a thros bawb ffyddiog a ymofyneut lesâd yn y dwfr elwir ar ei henw; ac yma y bu Pabyddiaeth yn Nghymru fel boncyff, yn llechu fel marw, hyd onid elai rhuthrwyntoedd ei gauaf Protestanaidd heibio. Yn ddiweddar, oherwydd fod awyr Protestauiaeth yn myned yn anmrwd a chlauar, dechreuodd yr hen foncyff’ fiaendarddu; ac fel y mae yn alarus adrodd, chwenychodd rhai o’n cenedl ei ddail gwenwynig, ac wedi eu bwyta, y maent mor farw i ni, fel cydwladwyr a Christionogion, a phe buasent yn y bedd. Ey nghydgenedl, costiodd y rhyddid gwlaciol a chrefyddol a feddwn yn ddrud i’n cyndadau, ac a gysgwn ni tra y mae’r gelyn yn ailosod ei gadwynau gormesol? I lawr a’r mân gecriadau enwadol — i fynu â haner undeb a chariad crefyddol, ac anadled ein Protestaniaeth mor bur nes lladd holl efi-au gwenwynig Pabyddiaeth.

Ffynon Tegla

Tardda y ffynon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can’ llath oddiwrth eglwys plwyf Llandegla, sir Ddinbych. Yr oedd ei dwfr o dan nawdd a bendith y Santes Tegla, yr hon a argyhoeddwyd gan yr apostol Paul, ac a ddioddefodd ferthyrdod yn Iconium dan deyrnasiad Nero. Nid yniddengys y priodolid unrhyw rinau i’r ffynon hon ond at wella ffitiau, neu fel y gelwir yr anhwyldeb weithiau, Clwyf Tegla, ac yr oedd yn angenrhaid i’r truan claf fyned trwy yseremoniau canlynol cyn derbyn meddyginiaeth:— Dechreuid ar y seremoni wedi machlud haul. Yr oedd yn angenrheidiol i’r dyoddefydd, os gwryw fyddai, gymeryd ceiliog gydag ef— os heny w, iar a gymerai — a’r aderyn hwn a ddygai y claf mewn basged gydag ef yn ei holl symudiadau. Yn gyntaf, efe a gerddai dair gwaith o gwmpas y ffynon tan adrodd Gweddi yr Arglwydd; yna elai i’r fynwent, a cherddai dair gwaith oddeutu yr eglwys drachefn, tan ail-adrodd yr un weddi. “Wedi hyn elai i mewn i’r eglwys, gorweddai, Ti orchuddiedig â llawrlen neu garped, odditan íVrdd yr allor, hyd doriad y dydd dranoeth, a chanddo Feibl mawr dan ei ben yn ìle gobenydd. Gadawai yr aderyn yn rhydd yn yr eglwys, ac wecii iddo offrjTnu tua chwe’ cheiniog ar y bwrdd y bu efe yn cysgu tauo y noson flaenorol, dychwelai i”w dŷ ac at ei dyiwyth. Ond yr oedd un pryder yn aros eto ar ei feddwl pa un ai llwyddianus y ddefod ai peidio, sef, os na byddai i’r aderyn farw yn yr eglwys, aethai ei holl drafferth yn ofer; ac os marw a wnai y pechaberth gwirion, credid fbd yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo ef, a’r clwyfus wedi derbyn ymwared rhagllaw oddiwrth ei wasgfeuon dirdynol.

Cyfiawnder â ffydd yr oes bresenol ydyw hysbysu fod yr arferiad ryfedd hon wedi Uwyr ddaribd er ei bod ar rai ystyriaethau yn eithaf diniwaid, ac iddi mewn rhai amgylchiadau, trwy ddylanwadu ar feddwl hygoelus y dyoddefydd, fbd o les a meddyginiaeth iddo.

Ffynon Elian

Dy wed Pennant fod y ffynon hon unwaith yn enwoy am wella clefydon; ac y gellid ymgynghori yn fanteisiol trwyddi mewn arwyddion âg Elian ei nawddsant o barth lladradau, a dirgel-lochesfeydd ysbeilwyr a ffoaduriaid drygionus eraill. Pa fodd byiyag, ymddengys, trwy ryw law fedrus me’Mi cyfaredd, fod ei hetreithiau wedi e« trawsnewid o”r nodwedd gwasauaethgar hyny i fod yn niwaid ac yn felldith. Os byddai ar ryw adyn cythreuiig eisiau dial mewn rhyw ddull ar ei gyd-ddyn, prysurai tua Pfynon Elian, gosodai ei achos gerbron offeiriad dewinol y ffynon, ac yntau am ychydig arian a ffugiai gyflawni amcanion maleisus y dialydd. Gan belled ag yr ydyni yn deall. ysgrifenid enw y truan melldigedig ar ddarn o bapur, rhoddid pin ynddo, ac yna teflid ef i’r dwfr; ac o’r funud hono allan, os na ddeuai y truan i gymod â’î ddialydd, poenydid ef â thrueni ac anffawd hyd ddiwedd ei einioes helbulus; eithr os cymerai y cymod hwn le, dyddimid y felldith trwy dalu rhagor o arian i’r dewin. Mae yn ddiameu hefyd na buasai gan ei urddas dewinol unrhyw wrthwynebiad i godi y papuryn o”r dwfr, heb ganiatâd yr hwn a’i hawdurdododd i’w roddi yno, ar dderbyuiad swm go hardd o “ddelwau y brenin,” gan y blaid arall.

A fu yr ynfydrwydd uchod erioed yn llwyddianus i niweidio rhyw bersonau, sydd ofyniad rhy anhawdd i ni Y Tfyyoyw. 31 ei ateb; ond y mae yn eithaf hysbys na ^raeth i ddyn mo’r llaTver fod dau felldith na chredu ei fodfelly; a phan ga’i llawer u.n ar ddeall ei fod yn y ffynon, tybiai fod pobpeth. mewn natur a rhagluniaetb yn rhyfela yn ei erbyn. Bu hyn yn achos i ambell dddynan gwangalon roddi ei yspryd i’laM-r a disgyn i fedd anauiserol. Pe buasai rhyw allu yn y moddion yma o felldigo, yr oedd y sawl a wnaent ddefnydd o honynt yn gymaint dynladdwyr ag un drwgweithreduT a dalodd erioed am ei fai ar y crogben. Ond nid yw yn debygol yr ymddiriedai Duw gyflwr tymorol ei greâduriaid i giwed anfad cyrau ffynon ËUan. Bellach y mae yr ofergoel hon hefyd, trwy ddylanwad gwareiddiad a’r Efengyl, wedi ei Uwyr ddileu, a’r dewin naill ai oherwydd ad-dynerwch cydwybod, neu oblegyd gwaelder ariauol y gorchwyl, wedi troi at ryw ddyledswydd well neu fwy enillgar; ac nid edi’ychir ar Ffynon Elian ond fel ar ryw ffynon arall, megys “Ysten Duw i estyn dwr.”

Ffynon Gwenfrewi

Yr oedd Gwenfrewi yn byw yn y Tfed ganrif, ac yn hanu o deulu pendefiaidd. Merch ydoedd i Thewith, boneddwr urddasol a breswyliai yn y gymydogaeth Ue y saif Treííynon yn bresenol: ac yr oedd ei mam, Gwenlo, yn hanu o deulu hynafol yn sir Drefaldwyn. Ewythr iddi, frawd i’w mam, ydoerid St. Beimo, mynach a meudwy enwog yn ei ddydd, yr hwn a ymnelllduodd i Glynog yn sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach a adeiladodd eglwys yno, ac a sefydlodd fynachdy. Wedi hyny efe a ymwelodd â’i berthynasau yn sir Fflint, a chafodd ddarn o dir at adeiladu eglwys yno hefyd gan ei frawd-yn-nghyfraith, Ue yr ymgymerodd efe yn gyfan-gwbl â swydd mynach, ac y cymerth dan ei ofal ei nith Gwenfrewi. Gesyd y Pabyddion hi allan fel gwir eilun prydferthwch personol, ac yn burdeb a sancteiddrwydd wedi ymgnawdoll — ei bywyd wedi ei gyflwyno i weithredoedd da, ac yn ymlochesu rhag surdoes y byd drwgpresenol rhwngmuriau yr abades-dŷ. Y mae nerth ffydd y brodyr hyn yn eithaf hysbys; ac y mae yn ddigon naturiol meddwl y medr yr un dwylaw ag a allant “droi gwir ddwfr yn wir waed “di’awslfurfio cymeriad meny w ieuanc o fod yn rhinweddol fe ddichon i fod yn berllâith a difai, a myned trwy ryw ffllrfiau cyfrin yn mhen ugeiniau o flynyddoedd wedi ei chladdu er mwyn ei sancteiddio.

Hudodd “prydferthwcn personol “Gwenfrewi serch tywysog ieuanc o’r enw Cradog, mab i’r brenin Alen, ond yr oedd y “sancteiddrwydd “crybwylledig yn rhwystr iddo gael ad-daliad o’r serch hwnw. Ofer fu ei holl ymgeisiadau at enill calon Gwenfrewi — yr oedd hono wedi ei gosod ar wrthddrych uwch na marwol ddyn; ond y mae serch fel yr afon yn enill nerth a gwylltineb trwy rwystrau, neu fel y llysieuyn camomeil, ei wraidd yn dyfnhau ac 301 ymledu wrth ei sathru; ac yr oedd serch Cradoc wedi enill y fath nerth trwy ei rwystrau, nes goruwchlywodraethu ar ei reswm, brenin arfaethol yr enaid. Cyfarfyddodd hi wrthi ei hunan un diwrnod, a rhoddodd ei ddymuniadau ger ei bron, mewn dull nad oedd yn hollol gyson â rhinwedd, a hithau mewn dychryn a ymdrechodd ddianc ymaith. Yr oedd y siomiant hwn yn ormod i nwydau y gŵr ieuanc ei oddef — efe a’i hymhdiodd ac a’i goddiweddodd yn mhen y pantle a elwid y pryd hwnw Sychnant — dadweiniodd ei gleddyf, a chydag un ergyd torodd ei phen ymaith. Dialwyd yr adyn yn y fan — tarawyd ef i lawr yn farw, a’r ddaear ddigofus a agorodd ei safn ac a lyncodd ei gorff ysgeler. Dywed un hanesydd fod barn wedi disgyn hyd yn nod ar ei deulu, a’r unig ffordd y celent waredigaeth rhag hyny ydoedd trwy ymwehadau mynych â’r ffynon, neu âg esgyrn y sanctes yn yr Amwythig. Rhouodd y pen i lawr y llechwedd i’r Sychnant, lle y safai y capel a adeiladwyd gan Beuno Sant, a safodd yn ymyl ei furiau; a’r pryd hyny, o’r fan hono, y ffrydiodd Ffynon Gwenfrewi allan am y waith gyntaf erioed. Y mae y mwswgl oddeutu y llecyn yn beraroglus, ac ar un adeg o’r flwyddyn y mae y ceryg megys yn spotiau o waed, er cof am y dygwyddiad. Cododd St. Beuno y pen oddiar y ddaear, dygodd ef at y corph, asiodd y ddau yn nghyd yn drefnus, ac wedi iddo weddio, ymgododd y Uaddedig i fynu yn fyw; ac nid oedd arni unrhyw graith oddigerth rhyw linell wen gul o gwmpas y gwddf yn aros er tystiolaethu am y wyrth ryfeddol.

Nid yw yr hahes yn colli dim o’i deithi dychymygol wrth fyned yn mlaen. Bu Gwenfrewi fyw wedi hyn am byrmtheg mlynedd. Tynodd ei hanadl olaf yn y Gwytherin, sir Ddinbych, lle y gorphwysodd ei llwch hyd deyrnasiad Stephan, brenin Lloegr; a’r pryd hwnw, yn nghanol rhialtwch, gweddiau, a defosiynau trystfawr, symudwyd ei rhan farwol i abad-dŷ St. Pedr, yn yr Amwythig. Adgofir ei marwolaeth gyntaf gan eglwys Rhufain ar yr 22ain o Fehefin, a’i hail farwolaeth ar y 3ydd 0 Dachwedd. Bedyddiwyd cloch yn yr Amwythig ar eî hen-w, a chymerid rhan yn y seremoni gan amryw gyfoethogion. Cymerasant oll afael yn y rhaff”, enwasant yr ofîeryn, a’r offeiriad, gan ei thaenellu â dwfr sanctaidd a’i bedyddiodd yn enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân. Yna gwisgwyd hi â brethyn hardd, a chynaliwyd gwledd fawr, a derbyniodd yr offeiriad lawer o arian ar ran y gloch. Wedi ei bendithio fel hyn, yn enwedig â’r bendithion olaf, yr oedd ei chlul yn abl i lonyddu ystormydd, iachau clefydon, a gyru ymaith ysbrydion drwg. Medr yr offeiriad Pabaidd am arian wneud Gabriel o Beelzebub ei hunan.

Dywed ein hanesydd, fod sancteiddrwydd bywyd Gwenfrewi wedi ei brofi trwy wyrthiau dirif. Yr oedd bron gymaint o rinwedd i’w dderbyn oddiwrth ddyfroedd ei ffynon ag oddiwrth lyn Bethesda gynt; iacheid pob math o anhwylderau. Ar y muriau uwchben y dwfr y mae lluaws o ffyn baglan, hen gadeiriau, fec, wedi eu gadael yno yn dystion gan y rhai a dderbyniasant feddyginiaeth, a’r rhai nad oedd angen arnynt am y cyfryw ategion i ddychwelyd; ond yr ydym yn ofni nad ydyw y rhai hyn yn adlewyrchu nemawr mwy o glod ar “sancteiddi’wydd “Gwenfrewi nag ar chwedlau pen bawd yr hen Fodryb Gwen o Aberdaron. Ymddengys hefyd fod y sanctes yn meddu ysbryd llawer eangach a haelfrydicach na’r gweddill o’i chydgrefyddwjT, canys yr oedd ei charedigrwydd iachaol yr un mor agored i hereticiaid Protestanaidd ag i’r Pabyddion uniongred.

Y mae yn ddiameu fod lluaws o elfenau llesol yn perthyn i’r dwfr oer hwn fel i lawer o ddyfroedd eraill; a dywed pawb ond y sawl sydd wedi eu dallu â i’hagfarn ac anwybodaeth, nad oes dim rhagoriaeth goruwchnaturiol ar ei gyful. Nid ar genedl y Gymry y mae y cyfrifoldeb fod yr ofergoel hon yn fy w yn bresenol: o’i rhan hi buasai wedi ei chladdu er’s blynyddau yn medd gwrach y rhibin, bwciod y nos, ac adar y cyrtf. Gwyddelod a Saeson Pabyddol Lancashire ydynt yr unig ddosparth bron a ymwelent â’r lle ar ddyybenion hygoelus crefyddol; ac nid anfynych, hyd yn nod yn yr oes oleuedig hon, y gwelir hwynt hyd yr ên yn y dwfr yn gweddio, yn jTnffurfio, ac yn dwyn eu penydiau. Y mae llysieuwyr enwog wedi profi tuhwnt i bob anmheuaeth nad ydyw y mwswgl peraroglus a’r ystaeniau gwaedlyd ond pethau digon cyffredin. Ceir y cyfryw fwswgl gerllaw amryw tiynonau yn Ngogledci Cymru; ac am y tybiedig waed, y mae yn bur gyffredin yn Lapland, ac i’w gael mewn manau yn Nghymru.

Math o ysbwng melfedaidd ydyw. Geilw Linaeus ef Byssus Jojithiis.

Dichon fod ffynonau eraill yn y Dywysogaeth â thraddodiadau lled hynod yn eu cylch; ond tybiwn fod y tair y sylwasom arnynt, yn eu gwahanol nodweddau, yn cynddrycliioli y gweddill.

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Cantref y Gwaelod to Ffynon Gwenfrewi”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-cantref-y-gwaelod.