Henry Pegram's marble statue of Llywelyn ap Gruffudd in the Marble Hall of Cardiff City Hall

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Llewelyn, ein Llyw Olaf, rhan 1

Llewelyn, ein Llyw Olaf: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Henry Pegram's marble statue of Llywelyn ap Gruffudd in the Marble Hall of Cardiff City Hall · 14GTR, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Llewelyn, ein Llyw Olaf: Bywgraffiad

Gelwid Llywelyn ab lorwerfh, oherwydd ei ddoethineb fel lly wodraethwr a’i fedr fel rhyfelwr, yn Lly welyn Fawr. Wyi’ iddo ef oedd Llywelyn ab Gruffydd, neu, fel y gelwir ef yn gyffredin, “Llewelyx eix Llyw ola’;” ’am mai efe oedd yr olaf yn llinach hir y brenhinoedd a’r ty wysogion fuont yn llawio teyrnwialen y Cymry, ac yn amddiffyn eu hiawnderau, yn erbyn rhuthriadau parhaus estrongenedl drahaus ac anniwall. Er mwyn iawn ddeall cymeriad a chysylltiadau ein harwr, rhaidinidroi dalen neu ddwy yn ol yn hanes ei deulu. Bu ei daid, Llewelyn ab Iorwerth, yn dywysog ar Wynedd, a’r rhan fwyaf o’r Deheubarth, am y cyfnod hirfaith o chwech a deugain o flynyddau; a’i fywyd yn un benod fawr o ryfeloedd, — yn wi’thrych dygasedd a gelyniaeth y Saeson, a brad a chynllwynion rhai eiddigeddus ac annoeth o’i genedl ei hun. Yn’^ei ieuenctyd, priododd Tangwystl, merch Llywarch Goch, arglwydd cantref y Rhos. Y cantref hwn a gy- Dwysai yr holl wlad rhwng yr afonydd Conwy, Aled, a’r Clwyd, â’r mor, O’r briodas yna, bu un ferch o’r enw Gwladus, yr hon a briodes Syr Ralph Mortimer; a mab dibris a dewr o’r enw Gruffydd, yr hwnoedd tad ein harwr. Tangwystl a fu farwyn fuan ar ol genedigaeth y plant hyn, a Llewelyn ab lorwertb a ail-briodes gyda Joan, merch. loan, brenin Lloegr. O’r briodas hon y deilliodd Dafydd ab Llewelyn, olynydd ei dad yn nhywysogaeth Cymru. Dadblygwyd allan ëon Gruffydd pan oddd yn bur ieuanc; acfel y gallai arfer eihun iddyledswyddaumllwrathywysog, ei dad a’i gosodes yn rhaglawar gantref Ardudwy, yn Meirionydd; ac oddiwrth y ffaith hon gellid casglu niai GruOydd oedd anwylun ei dad yr amser hwn, a’i olynydd bwriadedig i’r orsedd, eithr trwy ei ymddygiad anffodua canlynol, efe a gollodd ffafr ei riant, ac aberthodd ei fraint fel olynydd iddo. Ymdorodd ei yspiyd anniwall allan mewn gwrthryfel agored, gan hawlio y cantref yn eiddo iddo ei hun, yn hollol annibynol ar un awdurdod uwch. Gorchymynodd ei dad iddo ddyfod ger ei fron ef, a rhoddi cyfrifo’i oruchwyliaeth, ond ni chydsyniodd Gruffydd. Yna Llewelyn a arweiniodd fyddin gref i fyned yn erbyn ei fab anufudd; a Grufîydd, yntau a gasglodd wŷr ar fedr anturio brwydr; ond yn ffodus, cymodwyd y ddau tra yr oedd y pleidiau rhyfelgar yn ngwydd eu gilydd, ac ar fin ymladd. Y mae pob lle i gredu mai ffug oedd yr adgymodiad hwn, o du y tad; nid anghofiodd efe byth amryfusedd Gruffydd, a chymerodd oddiarno bob hawl i gantref Ardudwy. Pa fodd bynag, cafodd drachefn ly wyddiaeth adran o’r fyddin Gymreig, yn mha sefyllfa yr hynododd efe ei hun fel dyn galluog a dewr, hyd oni ddygodd ei yspryd gwrthnysig ef eilwaith dan wg ei dad, a bu yn ngharchar o’r herwydd am chwe’ blynedd. Pan ryddhawyd ef, yr oedd yn amlwg i bawb fod Dafydd, ei frawd, wedi enill oddiarno ei enedigaeth-fraint.

Gruffydd a briododd Sina, merch Caradog ab Thomas, gor-wyres i’r enwog < )weu Gwynedd; ac y mae hanesyddiaeth yn cyfeirioatbedwaro’upiant, sef, Owen, Llewelyx, Dafydd, a Eoderick. Treftadaeth Gruiîydd oeddynt y pedwar cantref, Rhos, Rhufoniog, Tegengl, a Dyffryn Clwyd; ac yn ystod carchariad ei dad, a’i frawd Owen, Llewelyn oedd prif feddianydd y cantrefi hyn.

Llewelyn ab Iorwerth pan heneiddiodd, a barodd i’w benaethiad, a”i arglwyddi, ei gyfarfod ef yn Ystrad Pflyr; ac yno talu eu gwarogaeth iddo ef, a’i fab Dafydd, fel ei olynydd yn y Dywysogaeth. Boddlonai yn olyniaeth hon y brenin Harri III yn awr, a’r blaid.”^eisnig-Gymreig, neu y Dic Sion Dafyddion, canys yr oeddynt hwy yn cancro eu cenedl yn mhell cyn i Glanygors eu bedyddio â’r enw, na thuchanu eu mursendod; tra yr oedd plaid gref araÚ yn cydymdeimlo â’r anfibdus Gruifydd, yn edmygu ei berson hardd, ac yn galaru ei gyflwr diraddiol, a phan ddaeth angau yn mlaen i ddiosg Llewelyn oddiwrth ei swyddaua a’i ofalon daearol, bu cryn gynhwrf yn y wlad, a bron n thorodd allan yn oddaeth o wrthryfel o blaid Gruiîydd’ Nid y styrid Dafydd ond haner Oais, ac yr oedd y drychfeddwl o haner esirondib/ii yn eistedd yn nghadair Cadwaladr Fendigaid, bron lladd pob Cymro twymgalon a gwladgarol. Credai pawb mai offeryn fyddai yn Ilaw y teyrn tieisnig i boeni y Cymry, a diff’odd y wreichionen olaf o dân cysegredig rhyddid a gyueuai yn eu mynwesau. Pa un ai Llewelyn cyn marw ddododd Gruffydd yn ngharchar er mwyn sicrhau yr olyniaeth i Dafydd, ynte Dafydd ei hun ar ei esgyniad i’w swydd, nis gwyddis; modd bynag, yn ngharchar tan grafangau ei frawd yr oedd Grudd, ac Owen ei fab hynaf gydag ef, — sefyllfa druenus i’r eithaf i dywysog ieuanc dewr, o deimladau rhyddid-garol fel yr eiddo ef, — ac yn garcharor hefyd tan law brawd! 0 ran hyny, gelyniaeth Ijrodyr oedd yr elyniaeth greulonaf yn m’blith yr hen dywysogion Cymreig; hon oedd wrth wraidd eu holl ymladdau ynfyd yn eu plith eu hunain; hon, fel ellylles hagr ei gwedd, a yfodd waed goreu ein cyndadau; ac fel y dangosir cyn diwedd ein herthygl, hon a fu y prif achlysur yn y diwedd i’r genedl golli ei hannibyniaeth.

Er fod Gruffydd yn ngharchar, cynyddu yr oedd ei blaid yn y wlad, ac yn ei plith lawer o wyr mawr, yn eglwysig a gwladol. Esgob Bangor, a Syr Ralph Mortimer — brawdyn-nghyfraithGrurydd,aymdrechasanttrwyresymaucedyrn ddarbwyllo y tywysog i ryddhau ei frawd, ond yn ofer. Yna yr Esgob a ysgymunodd Dafydd; a brysurodd i Lundain er gosod yr achos o flaen y brenin. Digwyddai fod ymrafael ar y pryd rhwng ybrenina’r tywysog Cymreig. Disgwylid y buasai hyn yn fauteisiol i’r ymdrafodaeth, gan i’r brenin ddyfod i lawr i’r Amwythig, ar fedr cospi ei nai ystyfnig; ac yno iddo dynu cytundeb gyda Sina, priod Gruffydd ac amryw foneddigion, yn cynnwys os talai Gruffŷdd warogaeth gyflawniddo ef, y rhyddheid ef o garchar, ac yr adferid ef i’w dreftadaeth, Eithr nid oedd hyn oll ond malais Harri, er mwyn ychwanegu’r anghydfod rhwngyddwyblaidGymreig,a rhoddi cyieusdra iddo ddwyn ei amcanion trawsfeddianol oddiamgylch. Yn Ue cosbi Dafydd adgymododd ag ef; acyn lle rhyddhau Gruff’ydd, arddymuniady tywysog, cymerodd ef a’i fab Owen gydag ef i Lundain, gan eu carcharu yn y Tvvr. Fel yna y byddai breninoedd Lloegr yn cyflawni cytundebau; ac yr oedd bai ar y Cymry os dychwelent hwythau yr echwyn adref? Peth fel dilledyn oedd cyfiawnder yn nhyb Harri, — i’w roi a’i ddiosg fel y byddai amgylchiadau’n galw; a chadwyd Gruffydd yn ngharchar am ddwy flynedd yn mhellach. Y mae’r meddwi yn clafeiddio wrth fyfyrio ar gyflwr y boneddwr ieuanc h’wn, yn dihoeni ei ddyddiau goreu rhwng muriau carchardy, yn alltud oddiwrth ei gyfiawn hawliau fel tywysog ei anwyl wlad, — adgofion am yr hon a surent ei fyiyrdodau y dydd, ac a lonent ei freuddwydion y nos; — fei ervrmewn cawell. wedi trethu ei h.oll gyneddfau i ddyfeisio gwaredigaeth, a sugna ei waed ei hun gan ddewis angau yn hytrach na chaethiwed. Ac fe ddaeth yr ymwai’ed prudd. Tjn noson, efe a rwymodd ddillad ei wely wrth eu gilydd, a dechreuodd ddisgyn wrthynt o’i garchar-ystafell uchel: ond gan ei fod yn ddyn trwm a chorphorol, torodd ei raff, a syrthiodd yntau ddegau o latheni iffos islaw, lley cafwyd ef yn y bore yn hollol farw, a’i ben wedi ei wthiobron i’w gorph. A dyna ddiwedd tad ein harwr.

Gallesid disgwyl y buasai’r ddamwain alarus hon yn meddalu hyd yn nod galon Harri III., ac yn ei dueddu i ollwng yn rhydd Owen, mab y trengedig; ond, nid felly, y brenin a barodd roddi gwyiiadwriaeth ddyfalach arno, rhag y llwyddasai ef yn yr hyn y bu ei dad mor aflwyddianus. Gallesid hefyd ddisgwyl y buasai Dafydd yn ddedwydd wedi cael ymwared o’i wrth-ymgeisydd. Eithr gwrthbrofir hyn gan ffeithiau tanllyd gweddill ei oes. Mewn ymrafaeliou parhaus gyda’r Saeson, mewn anghariad rhan luosog o’i genedl ei hun, a gwaed ei frawd yn llefain yn nglust ei gydwybod, y treuliodd Dafydd ab Llewelyn relyw ei fywyd. Ac yn mhen dwy flynedd ymollyngodd ei gyfansoddiad tan bwys ei drallodion, a hyrddiwyd ef, ar ol ei frawd, gan y darfodedigaeth tros drothwy amser. Bu farw yn ddiblant yn ei balas gerllaw Aber, sir Gaerynarfon, a chladdwyd ef yn mynachlog Conwy.

Yna bu penbleth am olynydd iddo. Yn ol deddf olyniaeth disgynai’r Dywysogaeth i feddiant Syr Ralph Mortimer, yr hwn a briodasai Gwladus merch Llewelyn ab Iorwerth. Ond y Cymry ni fynent fod tan ei awdurdod ef, gan ei fod yn hanu o estron genedl; a’i deimladau a’i ragfarnau, wrth gwrs natur, yn Seisnig. O ganlyniad, yn lled ddibetrus, dodwyd ei hawliau ef o’r neilldu, a phenodwyd ar Owen a Llewelyn, meibion hynaf yr anffodus Grufîydd. Ymddengys i galon y brenin ymdoddi o’r diwedd tuag at Owen, ac iddo ei dderbyn fel anwylddyn i’w lys, lle y bu am yspaid mewn parch a ffafr uchel gan bawb; ond pan glybu am y digwyddiadau diweddar yn Nghymru, ymneillduodd o Loegr, a chyrhaeddodd adref yn ddyogel. Llewelyn, cyn ei ddyrchatiad. a drigfanai yn Maesmynan, sir Ffiiiit, areietifeddiaethdreftadol, yn cynwys cantrefi Tegeugl, DyiirynClwyd,Ehos,aEhuibniog, — yr holl wlad rh-wng Conwy a’r Dyfrd-wy, yr hon feddiant a ddaliasai, er jîwaethaf y di-weddar dywysog ar y naill law. a brenin Lloegr ar y Llall, fel y dyn rhwng y llewpart â’r morflaidd tra y cnoent hwy eu gilydd, yntau a ga’i lonyddwch.

Pan gymerth y tyrrysogion ieuainc awenau y llywodraeth mewn Uaw, yr oedd y genedl mewn cyflwr truenus i’r eithaf,— yn gruddfan tan gyfreithiau gorthrymus eu gelynion, heb aidd nac yspryd i fasnachunac amaethu; wedi eu hyspeilio o borfeydd eu hanifeiliaid, ac yn grwydriaid adfydus hyd y moelydd diffaith, tra yr oedd difrod yn gor- wedd ar eu dyffrynaumaethilawn, agorthrwm yn mathrueu tywysogaeth hardd a’u hannibyniaeth hên. Yr oedd llaw traflod mor drwm ar fawrion ag ar dlodion y tir — ary gwyr llên fel y gwyr Heyg. Dywed Mathew Paris fod Esgob Ty Ddewi wedi tori ei galon; ac Esgob Llandaf wedi galaru ei hunan yn ddall; tra yr oedd Esgobion Bangor a Llanelwy, o herwydd tlodi y wlad, yn gorfod cardota eu Uuniaeth o fanau eraill.

Ar farwolaeth Dafyddyroedd y ddwy wlad mewn rhyfel a’u gilydd, a’r Saeson yn fuddugol bron yn mhob man; felly un o weithredoedd cyntaf y ty wysogion ieuainc oedd ceisio heddwch costied a gostio, a chawsant ef o’r diwedd gyda”r telerau celyd canlynol:— Colli eu hawl am byth i’w pedwar cantref treftadol, sef Rhos, Tegengl, Dyffryn Clwyd, aPihufoniog; cadw mil o wyr traed. aphedwar-arhugain o wyr meirch, wedi eu dilladu a’uharfogi i fod yn barod ar bob achlysur i wasanaethu ybrenin,ynXghymru neu ar eu cyffiniau; yr oedd yr holl farwniaid i dalu eu gwarogaeth i freninLloegr, ac nid i’r tywysogion Cymreig, fel cynt; os byddai iddynt dori yr amodau hyn, atafaelid eu meddianau, a chollentbobenwohawl ar y ’dy wysogaeth Gogledd Cymru. Wedi iddynt arwyddo y cytundeb hwn, caniatawyd iddynt faddeuant a hawl i’w tywysogaeth, eithr yr oeddynt i’w dal trwy ffafr brenin Lloegr am byth. Y brenin a roddodd y cantrefi uchod i Avr o’r enw Allan de Zouch, i’w trin ar hyd breichiau, am y swm o 1.100 o forciau; gan adael iddo wneud y geiniog uchaf o honynt trwy eu hail osod; a phrofodd Allan ei hun yn feistr caled i’w denautiaid Cymreig — yn eu hardrethu’n uchel, ac yn disgwyl medi lle nis Laiiasai. Yn ychwanegol at hyn, y brenin a drethodd y pedwar cantref yn drwm, er mwyn ei alluogi ef i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yr oedd eu cyd genedl yn y rhanau eraill o’r whid yn gweled eu cystudd, eithr nis gallent estyn ymwared iddynt gan mor luddiedig eu nerth, a diry wledig eu hyspryd.

Ond tra yr oeddynt fel hyn yn nyfnderau anobaith, wele ddiafl ymryson brodyr yn dyfod yn mlaen gan gythryblu eu teimladau, a’u deffro o’u hunlle annaturiol. Nis gallai Owen, y tywysog hynaf, oddef rhanu y swydd o dywysog gyda Llewelyn, ac wedi iddo Iwyddo i hudo Dafydd ei frawd i’r un bwriad âg ef, y ddau a arweiniasant fyddin gref i’r maes yn erbyn eu brawd. Brwydr faiîh a gwaedlyd fu y frwydr annaturiol hon, ond y gwrthryfelwjT a Iwyr orchfygwyd, a’u dau benaeth a ddaliwyd ac a garcharwyd am yspaid hirfaith yn Nghastell Padarn, wrthdroed y Wyddfa; a thrwy hyn, Llewelyn a adawyd yn unig feddianydd gweddillion yr hen deyrnas Frutauaidd.

Yn awr yr oedd cleddyf y Oymry o’i wain, a’uteimladau rhyfelgar wedi dadebru; a pheuderfynasant daro’r gormesydd, ac ymegnio unwaith yn rhagor i dynu eu hunain o grafangau yr estron. Pan welsant eu perygl, y gwelsant hefyd ddaioni undeb a brawdgarwch. Agorasaut eu Hygaid ar y’gamdriniaeth a dderbyuient oddiar hiw y tywysog Iorwerth, mab y brenin, yr hwn a drigianai yn Nghaerlleon ar y pryd, ac a wasanaethai fel ystiwart y’ brenin yn Nghymru, ac fel penaeth arglwyddi rheibus y’ Cytiiniau. Gwelent fod eu tiroedd yn cael eu trawsfeddianu oddiarnynt trwy anghyfiawnder am y troseddau lleiaf; a phan gwynent o’i herwydd, ni chaent gan y llys yeisnig ond gwatwaredd. Cyd-osodasant eu cwynion ger bron Llewelyn, gan ddeisyf arno gymeryd eu hachos mewn llaw, a thyngu wrtho mai gwell ganddynt farw ar y’ maes na dwyn eu penyd yn rahellach. Fel y gallesid disgwyl, dorbyniodd y tywysog eu cynygion yn ddibetrus; ac mewn dull cysegredig tynghedodd ef a hwythau i’w gilydd y’ buasent yn gwaredu eu gwlad neu yn trengu yn yr ymgais. Y mae yn anhawdd darnodi tywysogaeth Cymru yn y cyfnod hwn, ond y mae pob lle i gasglu nad ydoedd nemawr mwy’ na siroedd presenol Mon ac Arfon; gau fod Trefaldwyn, a rhan isaf sir Ddinbych a Fflint, yn nwjdaw arglwyddi gelynol i Llewelyn, a chynwysai y’ pedwar cantref tan Allan de Züuch y gweddill o’r siruedd olaf; yr oedd y brenin -wedi gwthio ei diriogaetti hyd yn nod mor bell a sir Feirionydd, canys un o weithredoedd cyntaf Llewelyn i roddi ysgogiad yn y penderfyniad uchod oedd adgymeryd y sir hono. Ond y mae’n ddiamheu fod yn y cyngrair luaws o arglwyddi dylanwadol o barthau eraill Cymru.

Ar ol sicrhau Meirionydd a chanolbarth Gwynedd, ymdeithiodd i Geredigion, gan ddarostwng yno feddianau y tywysog Torwerth, a chantref hefyd yn sir Faesyfed, o’r enw Gwrthiynion.

Yn haf y flwyddyn hon, efe a wnaeth ymgyrch ar Powys, y rhan o’r wlad a berthynai i Gruffydd ab Gwenwynwyn, er dial ar y gŵr hwnw ei amryfusedd yn ymuno â’r Saeson. Cymerodd ei feddianau bron heb wi’thwynebiad; a rhoddoddhwynti’wswyddogion milwrol. Dangosai hyn ei ddigybydd-dod; ac enynai serch yn y cyfryw swyddogion tuag ato. Pan glybu y brenin am ei rwysg annisgwyliadwy, efe a anfonodd fyddin fawr gyda’r mûr i Ddeheudir Cymru, i gynorthwyo ei ffyddloniaid oeddynt yno eisoes. Y fyddin fre’niol a wrchaeodd gastell Dinefwr; eithr Llewelyn a ymosododd arni, ac a’i gorchfygodd, gau ladd 2,000 o’i nifer. Yna efe a ddiffeithiodd “sir Benfro, gan chwalu castelli Abercorran, Llanstepban, Maenclochog, ac Arberth; a dychwelodd gydag yspail lawer i’r Gogledd. Cynyrfodd y llwyddiaut hwn holl gynddareddytywysoglorwerth, ac arfaethai yntau gyfarfod Llewelyn ar ei ffordd adref, a gwneud hafog erchyllyn ei fyddin. Ond er fod gan Iorwerth yspryd uchel, isel iawn oedd ei bwrs ar y pryd; ac yr oedd ei dad yn anfoddlon, ac yn wir yn alluog, i’w helpio. Yn ngwyneb y pethau hyn, efe a apeliodd at Iarll Cernyw, ei ewŷthr, am fenthyg arian, yr hwn a feuthyciodd iddo 40,000 o forciau. Ond erbyn cael yr arian, yr oedd y gauaf ar ei warthaf — y gwiawogydd wedi disgyn; yr âfonydd wedi chwyddo tros eu glanau, gan orchuddio y morfeydd, a gwenu’n di’ahaus ar ei yspryd balch a’i arian echwyn. Ychydig o rwyddinebgafodd yntau gyda chosbi y dewrion. Erbyn hyn, yr oedd yspryd gwladgar a dialgar wedi disgyn yn helaeth ar Gymry y Deheudir cystal a’r Gwyneddwyr; a’r naill ormes ar ol y llall yn cenhedlu dygasedd yn eu calonau tuag at eu gorthrymwyr — gormes a fuasai yn cynyrchu gwroldeb yn mynwesau llyfriaid wrth natur. Yr oedd pob cwmwd a phentref yn afon gwyr i gynorthwyo yn y gwaith, cysegredigyn eutyb bwy, oysysgubo’r wlad yn lân oddiwrth eillion ysgymun. Chwyddodd byddin Llewelyn i faiutioli dirfawr; ŷn ol Wan-ington i’r rhif anhygoel o 60,00, a 1,000 o wyr meirch; nes y daeth porthiant y fath lumawr, mewngwladfynyddigfel Oymru, a than ddiflPyg cludiaeth yr oes hono, yn bwnc pwysig i’w Chadly wydd. Er goddiweddyd y rhwystrau hyn, efe a ranodd ei fyddin yn ddwy adran, ac a ymdeithiodd gyda hwynt i’r Cyffiniau, gan anrheithio o bobtu’r Dyfrdwy hyd i byrth Caerlleon; ac Iorwerth, y tywysog Seisnig, yn ymgilio o’i flaen fel cangen grin o liaen y llifeiriant; er fod Grufîydd ab Madog, o Ddinas Bran, arglwydd Powys Fadog, wedi bradychu ei genedl, ac mewn undeb âg ef. Yna’r tywysog Cymreig a drodd ei wyneb eilwaith tua’r Deheudir, ac yno wedi meistroli amrai gantrefi, a meddianu dau gastell, dychwelodd i Wynedd. Ar ei ddychweliad, amcanodd Iorwerth ei luddias; eithr gorfu arno wed’yn encilio mewn ffrwst a chywilydd; a chafodd Llewelyn gyfleusdra i gosbi y bradwr Gruffydd ab Madog, trwy anrheithio ei feddianau.

Yn nechreu’r flwyddyn hon, ymosododd ar Gastell Dyganwy, ar fin yr afon Conwy, yr hon oedd y safle gadarnaf a feddai’r Saeson yn Nghymru; ac ar ennilliad pa un y gwyddai’r tywysog Cymreig yn dda yr oedd tynged rhyddid ei wlad yn troi. Nid ymddengys i’r ymosodiad hwn fod yn llwyddianus; ond, i’r gwrthwyneb, bu yn foddion i ddeff’ro y brenin Harri o’i syrthni, yn nghylch symudiadau y Cymry — iddo alw at ei wasanaeth ei holl a’dgyfnerthion rhyfelgar, yn wyr o bob cŵr i’r deyrnas, ac yntau ei hun yn gadlywydd arnynt; ac yn AYyddelod mewn Llongau, i ymosod yn y’ cyfamser ar Ynys Môn a’r parthau mordirol. Yr oedd y’ brenin a’i lu i gychwy-n o Gaerlleon ar yr lleg o Awst; a byddin arall, tan lywyddiaeth Iarll Caerloeyw, igychwyn o Bristol am y Deheudir, yr un diwrnod; fel y byddai gan y Cymry dri man i’w wylio, ac y sicrheid eu darostyngiad, sef y’ brenin o Gaer, Iarll Caerloyw o’r Deheudir, a’r Gwyddelod o Fôn.

Er mor gyfrwysgall y’ cynllun, diweddodd yn hynod o anffodus. Pan ddealludd Llewelyn am y’ gadlynges Wyddelig, danfonodd nifer o longau i’w chyfarfod, a gorfu ar hono ddychwelyd yn fry.siog a drylliog i’r Ynys Werdd. Trwy rhyw gamddealltwriacîth, ni chychwynodd Iarll Caeiloyw i’w ymgyrch o gwbl. Ac nid esgeulusodd y iywysog ychwaith ddarpar ar gyfer y brenin. Cyn dyfodiad HaiTl, Llewelyn a barodd ddinystrio y melinau, a dryllio y pontydd, a chodi y gwarchae arDyganwy; yna, gan yru yr anifeiliaid o”i flaen tros y Gonwy, ymgiliodd i Eryri. Gwthiodd y brenin mor beli â’r afon hono, a chafodd y wlad yn ddiffaethwch noethlwm; a chyn pen ychyciig wythnosau, o herwydd fod ei wyr yn marw o newyn, ac yn disgjm yn ysglyfaeth i ruthriadau ffyrnig a sydyn y Cymry, gorfu arno ymgilio yn ol i’w wlad mewn gwarth a chywilydd, Effeithiodd caledi a gwarth y cadgyrchiad hwn gymaint ar gyfansoddiad y brenin, nes ei dallu i dwymvn poeth, yn mha un y parhaodd am hir amser; ac i’w fab Iorwerth benderfynu ymwrthod a’i feddianau yn Nghymru am byth, a rhoddi ei ddeibaid i fynu fel pobl anorchfygadwy. Caulyuiad arall i’r aiiwydd Seisnig uchod: Gruffydd ab Madog, gŵr dewr a chall, ond Ued brin yn y nwyddau gwerthfawr o egwyddor a chydwybod, yn gweled nad oedd ybrenin yn ahh’w amddiffyn ef a’ifeddianau rhageielynion, a droes yn ei garn, gan ddarostwng i Llewelyn, tyngu llw o ffyddlondeb iddo, a chyflwyno ei holl alluoedd rhyfelgar at ei wasanaeth.

lS’id oedd yn naturiol y buasai’r fath lu buddugoliaethus yn aros yn segur; o ganlyniad, aethant i’r Deheudir drachefn. Tno, Llewelyn, a gafodd warogaeth holl arglwyddi y wlad hono; ac wed’yn ymosododd yn ddioed ar y Cyffiniau. Daeth ar draws byddin Seisnig, yr hon a enciliodd o’i flaen tua Chastell (enw yr hwn ni roddir, ond tybir ei fod o fewn cyfoeth Iarll Caerloew,) ar fedr amddiffyn ei hun rhag ei herlynwyr mewn man cul a chorslyd. Ond y Cymry a ddanfbnasant nifer o wyr i dori cyfarfod a hwynt; a’r encilwyr a gawsant eu hunain mewa magl, gan gyfarfod gelynion Ile y disgwylient gyfeillion. “Ac jmo,” medd Mathew Paris, “megys rhwng dau faen melin, hwy a orthrechwyd, ac a Iwyr ddrylliwyd, ac a laddwyd â galanasdra mawr. Yn y frwydr hon, syrthiodd nifer dirfawr o’r Saeson, ac yn eu plith luaws o bendefigion.”

Yr oedd Ffawd erbyn hyn yn gwenu ar y Cymry yn mhob man. Yr oeddynt yn nerthol am eu bod yn unol, ac yn unol am eu bod yn nerthol. Ac er mwyn planu yn ei fyddin dduwioJfryJi’dd âchysegredigrwydd ei hachos, Llewelyn a’u hanerchodd yn y geiriau enaid-gynhyrfiol a ganlyn:— “Hyd yn hyn Arglwydd Dduw’r lluoedd a’u cynorthwyodd; canys amlwg yw i bawb nas gellir priodoli ein llwyddiant i’n dewrder ein himain, ond i flFafr Duw; yr hwn a all arbed gydag ychyduj cystal â chyda Uuaws. Canys pa fodd y gallasem ni, bobl dlodion, weiniaid, ac an-ymladdgar, wrth ein cydmaru â’r Saeson, feiddio gwrthsefyll y fath gadarn allu, oni buasai nawdd Duw ar ein hachos? Canfu ei lygaid Ef ein trallod, a pha fodd y poenydid ni gan Geoffrey de Langley, ac offerynau creulawn eraill o eiddo y brenin, a Iorwerth ef fab. Hwy a’n bradychasant yn ein diniweidrwydd. O hyn allan, gan hyny, y mae pob peth a feddwn yn y fantol. üs syrthiwn i ddwylaw ein gelynion, nid oes trugaredd i’w ddisgwyl. Byddwn bur i’n gilydd. Yn unol, yr ydym yn anorchfygadwy. Chwi a welwch pa fodd yr ymddyga’r brenin at ei iddeiliaid ei hun — fel y mae’n ysglyfio’u meddianau, yn tlodi eu teuluoedd, ac yn chwerwi eu teimladau. A erbyd efe, gau hyny, nyni! wedi ini ei cynddeiriogi gymaint eisoes, a phan ddarffo ini ddwyn i ben ein bwriadau rhyfelgar presenol! Na wna; ei amcan fydd ein dileu oddiar lechres bodolaeth. O ganlyniad, onid gwell ini farw yn y frwydr, a myned at Dduw, na byw ar drugaredd ansefydloggelyn; ac yn y diwedd, hwyrach, drengu yn waradwyddus trwy ddwylliw ysgymun y dihenyddwr i”' Dengys yr araeth uchod dueddfryd grefyddol y Cymry yn yr oes hono, onide ni buasai Llewelyn yn eu hanerch yn y cyff’wng pwysig hwnw â geiriau ditlas ganddynt. Gwyddai yn dda pa rai oedd eu teimladau cryfaf, ac apeiiai at y cyfryw. A’r geiriau hyn yn merwino eu clustiau, marweiddiai ofn yn eu mynwesau, a phob rhwystr a ddiflanai oddi ger eu bron megys mwg. Llwyr ddarostyngasant sir Benfro; a daethant o hyd i halen — nwydd gwerthfawr yr oeddymt wedi dyoddef llawer o’i eisiau er y pryd y dinystriasai Harri eu gweithydd yn sir Gaerlleon.

Ond tra yr oedd y Cymry’ yn ymlawenhau yn eu llwyddiant, Harri a adferwyd o’i dwymyn, ac enynwyd ei lid wrth ganfod rhwysg ei elynion. Daeth mor bell a Chaer, a’r cynhauaf oedd hi; eithr ni Iwyddodd mewn dim ond mewn llosgi’r cnydau.

Ac ynawr, daw Llinell gwerthfawr yn nghjTneriad Llewelyn i’r golwg. Er ei fod yn gadarnach nay erioed, er fod pendefigion ei wlad tan Iŵ o Ifyddlondeb iddo, a’r werinbobl yn ei ddaru addoli; a llawer haner buddugoliaeth yspai’l rhyfel yn ei feddiant; eto, er hyn oll, cawn ef yn cynyg telerau lieddwclii’r brenin Seisnie:. Oddiar serch at ei wyr, y rhai oeddynt wedi.sorphen eu gwaith pwrcasol o adfeddianu rhyddid eu gwlad; ac oddiar ei gallineb, yn hyderu y gallai gael telerau anrhydeddusach iddo ei hun a’i wlad, o herwydd ei gryfder presenol, mae’n ddiau y cynygiodd efe yr heddwch hwn. Pa fodd bynag, nacaodd y hi’enin; ac nid oedd gan Llewelyn ond gwneud y goreu o’r gwaethaf — rhyfel.

Rhyfelar y Cyffiniau yn chwilfriwio cestyll yr arglwyddi Nomianaidd, yn diffaethio eu meddianau. ac yn lladd pob Sais fel pe buasai bryf dystrywgar a diles. Yn mhlith arglwyddi y Cyffiniau y pryd hwnw yr oedd pendefignewydd ddyfod o Germani, o’r enw Jacobus de jEndelia [^Äudlei/, medd Powell, merch yr hwn a briododd Gruffydd Maelawr]: gŵr cyfoethog a chadarn ydoedd, a daeth yntau i mewn am ran o ddialedd y Cymry. Yntau a ddanfonodd i’w wlad, ac a gafoddlu mawr o wyr arfog y rhai a ryfelent ar feirch gorchuddiedig â dur. Y rhyfelwyr hyn a ymosodent ar y Cymry, y rhai nid oeddynt yn adnabod y dull newydd hwn o elynion, a buan y gorfodid hwy i encilio. Pa fodd bynag, y Cymry a gynllwynasant eu galanas. Aethant eilwaith i gyfoeth Audley, a daeth y marchogion allan fel o’r blaen i’w cosbi; a’r Cymry a ffugiasant ddianc gan hudo eu hymlidwyr i fan cyfyng, corslyd, ac anghysbell. Yno troisant arnynt a thrywanu eu ceflfylau, a gwneud y marchogion yn ddim amgen na gwyr traed, a thrwy hyny hawdd fu eu gorddiwes. Pan nad oedd ond gŵr yn erbyn gŵr, Uwyr orthrechwyd y Germaniaid, a chol] asant nifer mawr o wyr.

Fel hyn, yr oedd y naill ddi? wyddiad ar ol y Llall yn pwyso ar wynt y brenin; a thueddwyd ef o’r diwedd i wneud cadoediad ara un flwyddyn gyda’r Cymry. Neiuduodd ar farchog o’r enw Padrig de Canton i gyfarfod dirprwrwyr Cymreig ynnhrefCaerfyrddin, er mwyn Uawnodi a selio y cytundeb hwn. Dafydd, brawd Llewelyn, yr hwn a ryddhesid yn ddiweddar o garchar, a gynrychiolai ei frawd yn y Uawnodiad. Deauodd y dirprwywyr Seisnig fod gosgorddlu Dafydd yn wauach na’r eiddynt hwy. 0 ganlyniad, Padrig a’i wyr a lechasant yn fradwrus ar fin ffordd y Cymry, ac a ruthasant yn sydyn arnynt gan ladd Lawer o honynt cyn y gallent drefnu eu hunain i frwydr. Und cafwyd trefn cyn hir, a’r bradwyr oll bron a gyfarfuont a’u gwobr gyfiawn, ac yn mhllth y cwympiedig yr oedd.Padrig ei hun. Dengys y ffaith hon y fath bobl iselwael, ìiymddiried, ac annynol oedd gan eia cyndadau i ymwneud â hwynt; ac nid rhyfedd fod holl adnoddau dialeddol eu heneidiau yn berwi allan yn eu herbyn. Ac igoroniyrhollanferthwch, Harri yn lle cosbi gweddillion y dialedd hwn, o herwydd iddynt h’chwino ei gynieriad ef fel brenin, a ffromodd yn aruthr wrth Llewelyn, am i’w wyr ef feiddio amddiffyn eu bywydau eu hunain. a chosbi cynllwynion dyhirod.

Yna, digwyddodd mân frwydrau, yn mha rai yr oedd y Cymry bron yn ddieithriaid yn fuddugol; achyn pen ychydig íisoedd, gymaint oedd doethineb calon Llewelyn, fel yr ail gynygiodd delerau heddwch; y rhai a wrthodwyd gan y brenin. Yr oedd y barwn Noi-manaidd, a chefnder Llewelyn, Syr Roger Mortimer, mewn lle poeth rhwngtân y Cymry a’r Saeson. Ammheuid ei gywirdeb weithiau gaa yrolaf, a gorfodid ef i dalu gawrogaeth wasaidd i’r brenin; bryd arall, byddai Lleweljni yn ei gosbi am ry w anffyddlondeb i’w achos yntau. Yr oedd Mortimer wedi digio Llewelyn; ac yntau a arweiniodd fyddin gref yn erbyn un o’i gastellau, ac wedi dinystrio y lle, ymgiliodd ychydig o’r neilldu. Yn y cyfamser, daeth Mortimer gyda byddin o wyr a gasglasai gan ei gymydogion barwnol; ac fel gwir arwr gosododd ei hun yn yr adfail castell digysgod hwn. Dychwelodd Llewelyn yn fuan at y murddyn, a darparodd at y dasg rwydd o orchfygu a dal ei gefnder diamdditfyn. Eithr pan ganfu Mortimer yr ynfydrwydd o ddal ymosodiad yn y fath le, gyda gradd helaeth o hunan hyder danfonodd at y tywysog am ganiatad i ymadael. Yr ydym yn gweled y wên gellweirus a chwareuaiarwynebprydeinharwr wrth foneddigaidd ganiatau y fath ddymuniad gwynebgaled. Nid oedd ei galon dyner ef yn gweddu i’r oes galon haerllug hono. Yr oedd yn rhy dda i’w genedlaeth. Nid gwr rhyfel ydoedd; er iddo ar draws ei anian gyllawni gwrhydri ar faes ygwaedfuasai’n anrhydedd igymeriadau Alexander a Bonaparte. Mewn oes dawel a heddychol y cawsem weled gwir deithi ei enaid yn y golwg; ni ryfeddasem ei weled yn urddasoli cystadleuon amaethyddol â’i bresenoldeb; neu yn llywydd mewn Eisteddfod, neu un o gyfarfodydd y Wyddon Gymdeithasol. Fel yr oedd, rhaid ini edrych arno fel cawrfil yn y weilgi, neu lefiathan mewncoedwig, yn byw mewnelfenanghydnaws a’i natur. Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod pwysig yn my wyd ein harwr. cyfnod a effeithiodd yn fawr ar y gweddill o’i fywyd, sef y tair blynedd y bu efe mewn cyngrair gyda Simon de Montforte’. Ffrancwr o genedl oedd Simon, a chvmerodd ei dad ran fiaenllaw yn erlidiad gwaradwyddus y Ŵaldensiaid tniain. Daeth trosodd i’r wlad tion, a chafodd iarllaeth Leicester. Yr oedd plaid luosog yn Lloegr y piyd hwnw a goleddent y syniadau mwyaf annheyrngaroi. Montforte oedd pen y blaid hon, er y rhagrithiai gariad mawr at y brenin, ac er ei fod yn un o anwyliaid ei lys. Yr oedd yn naturiol i’r blaid tion ymgynesugyda’r Cymry; am fod Harri yn elyn gan y naill fel y llall. Gwnaed’cyngrairrhwngLleweiyn a ptienaeth y blaid hon, yn mha un y sicrheid i’r blaenaf annibyniaeth ei Dywysogaeth. Eithr nid oedd pleidwyr Montforte yn hollôl aeddfed i ddechreu ar eu gwaith; felly Llewelyn am yspaid a weithredai ei hunan. Cyn bod Gwyliau’r Nadolig bron drosodd, efe a ruthrodd ar y Cyffiniau Seisnig gyda thri chant o wyr meirch a 30,000 o wyr traed, a ctian anrheithio y wlad mor bell a “Wigmore, cymerth feddiant ar ddau gastell perthynol i’r anlwcus Syr Roger Mortimer. Cynullodd y boneddwr hwnw luaws mawr o wyr, a chymeroddllawerysgannesle; weithiauLlewelynynfuddugol, weithiau Mortimer. Y tywysog, pa fodd bynag, o’r diwedd a gafodd y goreu; ac oddiyno ymdeithiodd tua iarllaeth Caerlleon, a gwnaeth anrhaith fawr ar gyfoeth Iorwerth.

Wrth glywed am rwysg Llewelyn, dychrynodd y brenin Harri, a danfodd am ei fab Iorwerth o Ffrainc, lle yr ymddifyrai y gŵr ieuanc ei hunan y pryd hwnw gyda gwrolgampau a twrnament, difyrion rhyfelgar ei oes. Mae’n ddiamheu hefyd fod sibrwd am amcanion Montforte a’i ddilynwyr, gan i Iorwerth ddwyn trosodd gydagef gant o farchogion, i gymeryd lle, mae’n ddiddadl, y pendefigion anfoddog Seisnig.

Ar ei laniad yn Mhrydain, mab y brenin yn ddiatreg a ymdeithiodd tua Chymru. Ond yr oedd y Cymry wedi gwneud mawr waith cyn y cyrhaeddodd. Yr oeddynt wedi cymeryd castell Dyserth, a chadarnfa Dyganwy. Felly Dyganwy a syrthiodd, yr hon a fu unwaith yn gastell a ptialas i Malgwyn Gwynedd, a llinach tywysogion Cymru am oesoedd, ond a chwilfriwiwyd gan fellten yn nyddiau Cynan Tindaethwy; yr hon a adeiladwyd dractiefn gan Harri III, yn 1245, ac wedi bod am ddeunaw mlynedd yn ogof ellyllon i’r Cymry, hi a ddinystriwyd gan dywysog ei gwlad ei hun, ac yn awr saif ei gweddillion yn nghanoly dyffryn paradwysaidd hwnw fel colofn halen, a’i cherig rhyddion fel meirwon di-fedd.

Ar ddynesiad Iorwerth a’i lu, Llewelyn a ymneillduodd tros y Gonwy, ac ni buasai dim ond gwallgofrwydd yn tueddu neb i ymosod arno yn Eryri. Bu tad Iorwerth mor garedig wrtho a galw’n swyddogol arno adref rhag y torasai ei galon yn ngwyneb y fath allwyddiant. Dim ond i Llewelyn encilio tros y Gonwy, a dodi ei wyr ei hun mewn dyogelwch, gofalai deddfau anian am ryfela hefo’i elynion. Yr oedd Llewelyn yn gryfach yn awr nag erioed. Gruffydd ab Gwenwynwyn, arglwydd Powys, a adawodd y Saeson, ac a ddychwelodd at ei ddyledwyddau tuag at ei wlad. Efe a ymosododd ar Gastell Wyddgrug, cadarnle olaf y Saeson ar gyffiuiau Gogledd Cymru, aca’i llwyr ddinystriodd, fel nad oes y dydd hwn gymaint ag un o geryg ei adfeiHon yn aros. Yr oedd y Cyffiniau Seisnig erbyn hyn yn hollol ddiamddiffyn; a phob argoel fod annibyniaeth Cymru wedi ei sefydlu am byth.

Bellach, ymgasglodd y gwaed drwg Seisnig at ei gilydd; ac wele Simon de Montforte, iarll Leicester, yn ben ar wrthryfel nerthol. Efe a ddanfonodd ei ddau fab gyda byddin luosog i Gymru, i gynorthwyo Llewelyn ar y Cyffiniau. Cymerasant gastell Maesyfed, a gwnaethant alanasdra mawr, er fod Mortimer ac arglwyddi eraill, â’u holl egni yn eu gwrthwynebu. Pan glybu y tywysog Iorwerth am rwysg a llwyddiant anarferol y cyngreiriaid, efe a brysurodd tua maes y frwydr. Cymerodd Gastelli Hay, Huntingdon, a Brycheiniog oddiarnynt, trwy nad oedd gwarchluoedd y cyfryw fanau ond ychydig a gweiniaid. Erbyn iddo ddyfod i’r lle olaf, cyrhaeddodd Mortimer ato am ddyogelwch, wedi ffoi yn afreolaidd o flaen Llewelyn a’i gyfeilhon. Llu o Gymry hefyd, tan dyWysiad William de Berkley, a aethant i Avlad yr Hâf, ac a anrheithiasant am yspaid yn ddiwrthwyuebiad, ond yn y diwedd, gja’wyd hwy ymaith gyda galanastra mawr, a’u Uywydd a laddwyd. Dywed Warrington, oddiar awdurdod Cymer, fod cadoediad wedi cymeryd lle rhwng y brenin a’r cyngreiriaid, yn yr hwn gytundeb y gelwid Llewelyn yn gyngreiriad Simon de Montforte, ac y maddeuid iddynt bob troseddau; eithr Carnhuanawc, gyda llawer mwy o resymoldeb, a ddyys’ed mai ar ol marwolaeth Montforte y cymerodd cadoediad o’r fath le, ac iddo gael ei ddwyn oddiamgylch trwy offerynoliaeth Ottobonus, swyddog y Pab yn Nghymru; a’r llysgenadwr Ffrengig.

Pafoddbynag, hynsydd sicr, fod Harri a’ifablorwreth wedi eu dai yn garcharorion gan Montforte, yn mrwydr Lewes; ac yna yr oedd y rhan fwyaf o Loegr tan awdurdod y gwrthiyfel’ttT. Ei elynion cryfaf bellach oeddynt arglwyddi Normanaidd y Cyffiniau, ac yn ben arnynt hwy yr oedd Syr R. Mortimer. Ar ol cryn lawer o fân frwydrau gorfu iddynt hwythau ymostwng; er i’r Pab yn y cyfamser fygwth Llewelyn ag ys? ymundod onid ymneillduaio’rcyngrair. Yr arglwyddiNormanaidd a addawsant roddi eu cyfoeth a’u castelli i iarll Leicester, a padael y deymas am un flwyddyn. Ac yn ystod y flwyddyn hon Llewelyn a Leicester a gytunasant, yn nhref Hereford, i fod mewn heddwch parhaol a’u gilydd.

Ond tra yr oedd ein hanvr ar y naill law yn chwanegu cryfder, ar y llall yr oedd yn gwanychu. Daeth Diafol y gelyniaeth brodyr yn mlaen drachefn, a thueddodd Dafydd ab Gruffydd i adael achos ei wlad a’i frawd, ac ymuno a’u gelynion. I’a un ai yn íTurf cenfigen, ynte rhyw anghydwelediad ar faterion gwladol. yr ymrithiodd y “diafol” y waith hon, nis gwyddis. Cymerodd Dafydd swydd yn myddin arglwydd Audley, a’r barwniaid Cyffiniol, y rhai yn dra naturiol a anghofiasaut eu hadduned o adael y wlad am flwyddyn; eithr gorchfygwyd y fyddin hono gerlla-w Caerlleon gyda cholled fawr.

Ymddengys maimewu rhyw ddull lled drwsgl a didrefn y gofalai Montforte am ei Iwyddiant a’i ysbail rhyfel. Iorwerth y tywysog a ddiangodd o’i afael, ac a ymuuodd ag arglwy-ddi haner gorchfygedig y Cyffiniau, y rhai ar ei ddyfodiad a gymerasant galon, ac yn fuan yr oeddynt yn feistriaid ar yr holl wlad rhwng Hereford’a Chae’rlleon. Yna rhuthrasantmor äymig ac annysgwyliadwy ar Montforte a’i fyddin, mewn lle a elwid Eyesham, fel nad oedd gan y gwrthryfelwr ddim i’w wneud ond naill ai disgyn i ddwylaw ei elynion neu ff’oi am ddyogelwch at Llewelyn. Tra yn aros gyda Llewelyn y waith hon yr addawffdd Moidfortt ei ferch, Eleanor, iddoyn aranj; ac yngweithredu fel brenin Lloegr, addawudd adfer iddo ei holl freintiau fel ty wysog Cymru, ac anrhegodd ef hefyd a chantrefi yr Eglwyswen, gerllaw Gwrecsam, ac Ëllesmere yn sir Amwythig; a chastelliMatilda, sir Drefaldwyn; Llâneurgain, a Threfaldwyn, Ar ol hyn Llewelyn a ruthrodd gyda rhan o’i fyddin i Forganwg; tra yr ymunodd y rhan arall gyda gwyr Leicester, er mwyn ei dynu allan o’i drybini, a’i gynorthwyo i dori drwy rengau y brenin. Ond ymddengys fod y dduwies Ffawd wedi ei adael, ac yn lle dryllio rhengau y gelyn gorfu arno ffoi o’u blaen i’r Casnewydd. Yno, drachefn, gwarchaewyd ef; ac i ochelyd gorchfygiad gwaradwyddus enciliodd yn nyfnder nos ystormus, a chyrhaeddodd derfynau Llewelyn yn ddihangol. Tma y bu am yspaid yn ddyogel; ond gan nad oedd dull y Cymry’ o fyw yn dygyraod â’i wyr, sef yn benaf ar gig a llaeth heb ond ychydigo fara, yr oedd ei rengau yn teneuo yn barhaus trwy angau ac enciliaeth. Er mwyn cadw y gweddill, gorfu arno ymadael; ac wedi wythnosau o ffin deithio trwy’ goedwigoedd a ffyrdd anhygyrch, cyrhaeddodd ei hen wersyll yn Hereford. Pa fodd bynag, trwy or-lafur ac iselder yspryd yn fuan ar ol hyn efe a fu farw; a’i blaid, i ba un yr oedd yn fywyd ac enaid, a fu farw bron gydag ef. Bu brwydr Evesham yn achlysur rhyddhâd y brenin, a’i adferiad i’w holl urddau cynhenid; a’r barwniaid yn mhlaid ddiweddar Montforte, wedi rhoddi arfau i lawr a ffugiasant deyrngarwch.

Cafodd y teyrn Seisnig yn awr hamdden i adfyfyrio ar y rhan bwysig a gymerasai Llewelyn yn y gwrthryfel diweddar; a phenderfynodd y cawsai yntau yn awr deimlo holl bwys ei ddialedd. Gyda’r bwriad hwn, daeth gyda byddin gref i’r Amwythig. Ond Llewelyn, heb gyngreiriad, ac yn rhy wan o hono ei hun i wrthsefyll byddin alluog y brenin, a dybiodd mai doethach cynyg telerau heddwch, a thrwy gyflafareddiad Ottobannus, cenhadwry Pab yn y llys Cymreig, penderfynwyd ar y cytundeb manteisiol canlynol, yr hwn a ddengys fod yn hawddach cael gwaeth i/arri’ na’i well:— Fod yr holl diroedd ar y naill ochr fel y llall i gael eu hadferyd; fod deddfau a defodau y Cyffiniau i aros fel yr oeddynt; fod i Harri ganiatau i ’Llewelyn a’i olynwyr am byth Dywysogaeth Cymry; fod iddynt ddwyn y teitlau o dywysogion Cymru, a derbyn gwarogaeth y barwniaid Cymreig oddigerth yr eiddo Meredydd ab Rhys o’r Deheubarth, yr hwn oedd i wriogaethu i’r brenin. Ỳ brenin hefyd a ganiataodd i Llewelyn feildiant ar y Pedwar Cantref. Yn gyfnewid am y breintiau hyn yr oedd yn rhaid i’r tywysog Cymreig ystyried brenin Lloegr fel ei frenin ef, a thalu gwarogaeth iddo, yn oi arferiad yr hen dywysogion Cymreig; a thalu y swm o 20,000 o forciau mewn arian. Y cytundeb a dynwyd yn Nghastell Trefaldwyn, a lawnodwyd gan y brenin ei hun, ac a gadarnhawyd ar ran y Pab gan ei genhadwr. Wrth syllu ar sefyllfa annibyniaeth Gymreig, yn ycyfnod hwn, gallesid brudio hir oes iddo, ac fod ei ddydd drwg yn mhell; ond cyffelyb ydoedd i bren yn ysgwyd ei gangau irion yn y gwynt tra’r oedd y dorlau odditano yn ymollwng tua’r dibyn erchyll islaw, Y flwyddyn hon yr oedd heddwch wedi ei adferyd trwy holl derfynau y lly wodraeth Seisnig, a’r ty wysog Iorwerth, gan nas gallai fyw allan o sŵn tincian arfau, a aeth i wlad Canaan, i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yn ei absenoldeb, aeth pedair neu bum mlynedd heibio yn heddychol a dedwydd iawn ar y Cymry, ac ni chymerodd’ ddim pwysig le hyd Yn y flwyddyn hon y bu farw Harri III., wedi teyrnasu am 56 o flynyddau; ac er iddo ymladd Uawer o frwydrau gyda’n cenedl ni, yn ystod ei deyrnasiad hirfaith, eto, nid ymddengys fod y gwaith o’u darostwng nemawr pellach yn mlaen ar ddydd ei farwolaeth nag ydoedd ar ddydd ei goroniad. Gyrwyd gyda phob brys am y ty wysog Iorwerth i gymeryd gorsedd ei dad. Eithr gan y byddai o angenrheidrwydd rai misoedd cyn y gallai ddychwelyd, apwyntiwyd rhaglawiaeth; ac un o weithredoedd cyntaf y rhaglawiaeth hon oedd, gwysio Llewelyn i Drefaldwyn i dalu gwarogaeth iddi, ac i gydnabod ei hawdurdod. Yntau ni chymerodd y sylw fleiaf o’r alwad — yn gweled mae’n debyg nad oedd waeth iddo dori yr amodau heddwch yn fuan, gan y byddai Iorwerth, oddiar ei anian ryfelgar, a’i gasineb tuag at y Cymry, yn sicr o -wneud hyny vn hwyrach.

Ond cyrhaeddodd Iorwerth, a choronwyd ef yn Llundain gyda rhwysg ac urddasolrwydd mawr; brenin Scotland a dug Llydaw, fel deiliad iddo, yn gweinyddu ar yr achlysur. Gwysiwyd Llewelyn yntau i gyflawni yr un warogaeth yn yr Amwythig; eithr efe a nacaodd adael ei deymas a dodi ei hun yn nwylaw teyrn mor elynol, oni roddid gwystlon am ei ddyogelwch. Y gwystlon, medd Cymer, a hawliai Llewelyn y tro hwn oeddynt Edmwnd brawd y brenin, iarll Caerloew, a Phrif Gangheflydd Lloegr. Y mae yn anmhosibl peidio caru ei wladgarwch, ac edmygu ei gallineb, yn gwrthod cydsynio â’r wys sarhaus hon. Beth, Llewelyn, yr hwn oedd bywyd rhyddid ei wlad ar y pryd, a’r hwn a brofodd mor fynych wagder a thwyll y cyfamodau Seisnig, yn anturio ei einioes yn nwylaw ei archelyn Iorwerth ’t Iorwerth! yr hwn a lochesai yn ei lys frodyr gwrthryfelgar Llewelyn, sef Dafydd a Eoderic! — Mab Harri III., yr hwn a fradychasai Gruffydd ab Iorwerth, tad ein harwr, ac a fu yn achlysur o’i ddiwedd truenus! Yr oedd hyd yn oed y Pab bydol-elwgar yn gorfod cyfaddef fod doethineb mewn gwrthod gwneud y fath aberth; a rhoddes orchymyn i Archesgob Canterbury nad ysgymunai y tywysog Cymreig.

Tair gwaith yn mhellach, medd Rymer, y gwysiwyd ef; eithr nid oedd modd ei argyhoeddi nad ei íagiu oedd yr amcan. Ac er mwyn dangos i’r byd nad ei amcan ef oedd enyn rhyfel, danfonodd lythyr gyda mynachod Conwy ac Ystradfflur at Archesgobion Canterbury a Llundain, cynghorwyr ybrenin, yncwynofodlorwerth yn Uochidafydd ei frawd a Gruffydd ab Gwenwynwyn; eithr os enwai y brenin rhyw delerau a Ue y gallai ef eu derbyn yn ddyogel, ei fod yn foddlon i ddyfod a thalu ei warogaeth iddo. Yr oedd dystawrwydd Iorwerth i’r cynygion hyn yn awgrymu i Llewelyn fod tymhestl yn darllaw, ac yn hwyr neu yn hwyrach yr ymdorai gyda chynddaredd arswydus ar ei wlad ac yntau. Adwaeuai gymeriad ei elyn yn rhy dda i dybied am foment yr anghofiai gosbi; o ganlyniad, dechreuodd ymbarotoi ar gyfer y gwaethaf. Cofus gan y darllenydd ei fod wedi ei ddyweddio gyda merch i iarll Leicester, ac er fod y boneddwr hwnw wedi marw yr oedd ei blaid, er yn ddystaw, eto yn Uuosog yn Lloegr. Mewn sicrwydd y byddai cydweithrediad y blaid hon yn gymhorth mawr iddo yn ei gyfwng presenol, ac yn ddiau oddiar serch tanbaid at y foneddiges ieuanc, penderfynodd fod i’r briodas gymery’d lle yn uniongyrchol. Ÿ pryd hwn, yr oedd y ddyweddi yn trigo yn nghrefydd-dŷ Montargis, Ffrainc; a Llewelyn a ddanfones at frenin y wlad hono yn gofyn iddo anfon Eleanor de Montforte i Gymru i briodi. Cydsyniodd y teyrn hwnw; a chychwynodd y ddywediedig a’i brawd, offeiriad ieuanc o’r e iw Amaury, ar eu mordaith tua Chymru. Ond pan oedd eu Llong yn neshau tuag Ynysoedd Scilly, wele bedair o longau rhyfel Iorwerth yn eu cyfarfod, ac yn dwyn y Llestr trwy drais i borthladd Bristol, a’u cymeryd hwythau oddiyno i Iys y brenin. Y brenin, yn lle rhoddi y forwyn Ieuanc ar unwaith i ddwylaw ei chariad yn ol deddfau bonedcligeiddrrydd yr oes hono, a’i cadwodd yn y llys i weinyddu ar y frenhines; a’i brawd a garcbarodd efe am amrai flynyddau — yn nghyntaf yn Nghastell Corfe, a thrachefn yn yr eiddo Sherburne; ac yn y diwedd rhyddhawyd ef trwy i’r Pab ei hawlio fel ei gaplan, ac wedi iddo yntau ei hun dyngu llŵ yr ymadawai â’r deyrnas, ac na chymerai byth ran yn ei gwladlywiaeth.

Ar ol y fath weithred elynol o eiddo Iorwerth, yr oedd pob ffug wedi ei dynu oddiar ei fwriadau. Ni buasai heddwch bellach ond rhith, a phrofodd pob cais tuag ato yn oferedd a difrod ar amser. Penderfynai Iorwerth yn awr gyflawni prif amcan ei fywyd, sef Uwyr ddarostyngiad y genedl Gymreig. Ond, tra yr oedd yn darparu at hyn, Archesgob Canterbury ac amryw esgobion ac arglwyddi eraill a atolygasant arno gael caniatad i geisio dwyn y Cymry i heddwch cyn apelio at y cledd. Gyda’r bwriad hwn, yr archesgob a ddaeth i Gymru; eithr cyn iddo gyrhaedd yr oedd Llewelyn wedi agor y rhyfelgyrch, trwy anrheithio y Cyffiniau; a dyma Ddechreuad y Diwedd. Nid oedd gan y cenhadwr hedd ond dychwelyd yn waglaw. Ar gyfarfyddiad y Senedd, rhoddes adroddiad o’i genadwri ger eu bron, yr hyn a gynhyrfodd eu holl nwydau dialgar; deddfasant yn y fan fod treth o’r 15fed yn cael ei gosod ar bob eiddo symudadwy trwy Loegr oll,er mwyn codi arian i alluogi’r brenin yn ei waith o ddarostwng y Cymry. Yn y cyfamser, Llewelyn a amlygodd drachefn ei barodrwydd i fyned naill ai i Groesoswallt neu’r Amwythig a rhoddi gwarogaeth i’r brenin; ond ar y telerau y cydnabyddid y cytundeb a wnaed rhwngHarri III. ag yntau, ac hefyd y rhyddheid Eleanor de Montforte a’i gosgorddion, “y rhai.” meddai, “agedwir genych yn groes i ddeddfau moesgarwch cenedloedd.” Ond gwrthodwyd y ceisiadau rhesymol hyn gyda dirmyg; ac mewn uchel lys cyfraith, yn ngwydd y teyrn Seisnig a’i gynghorwyr, barnwyr y Goron, a lluaws o esgobion, ieirll, a barwniaid, darlleuwyd yr holl ymdrafodaeth trosodd, a chyhoeddwyd Llewelyn yn deyrnfradwr, yn euog o derfysgu’r heddwch a wnaed rhyngddo â’r diweddar frenin, ac o anrheithiadau ar y Cyffiniau. Penderfynwyd hefyd ar ei ddorostwng gyda phob brys, trwy alw ar ddeiliaid milwrol y Goron i gyfarfod yn Worcester yr hâf dilynol gyda meirch ac arfau priodoi i gychwyn ar ryfelgyrch i Gymru. A thra y byddai’r rhyfelgyrch yn cael ei ddwyn oddiamgylch, tre’fnwyd fod i’r Cyffiniau gael eu gwarchod yn dda; fod i’r brenin omedd i’w ddeiliaid yn Lloegr, Iwerddon, a Guiene (yn Ffrainc), eu cyflenwi a lluniaeth, neu unrhyw nwydd defnyddiol arall tan y perygl o gael eu hystyried yn elynion i’r brenin, a’u cosbi yn gyson â hyny. Nid oedd awdurdodau eglwys Rhufain ychwaith yn ddystaw yn y cyfwng pwysig hwn. Arfer y Butain bob amser, pan ddigwyddai cweryl rhwng ei chariadon oedd ochri gyda’r blaid gryfaf a chyfoethocaf; mor debyg i butain! Danfonodd Àrchesgob Canterbury lythyr at Llewelyn yn mha un y bygythid ef gyda’r dialeddau trymaf, onid ymostyngai; ac yn mhen ychydig amser, ysgymunwyd ef, a dodwyd ei holl feddianau tan felldith.

Yn gynar yn y gwanwyn, Iorwerth a ddanfones gatrawd o dri chant o wŷr meirch i luddias rhuthriadau y Cymry ar y Cyffiniau. Apwyntiodd Syr Roger Mortimer yn gadben milwrol iddo yn siroedd Amwythig a Hereford; a neillduodd Mehefin laf yn ddiwrnod i’w wŷr ei gyfarfod ef yn Worcester. Nid arbedai Iorwerth unrhy w foddion, pa mor anweddus ac isel bynag, tuag at ddwyn ei fwriadau i ben. Profai hanesyddiaeth mai yn ymraniadau y Cymry yr oedd eu gwendid, a rhoddodd ei holl falais ar waith i fegino annghydfod rhwng eu penaethiad. Danfonodd at Iarll Warwick, ei gadlywydd yn sir Gaerlleon; ac at Payen de Chaworth, swyddog cyffelyb ynNeheudir Cymru, yn peri iddynt gyhoeddi heddwch i bob arglwydd a ymostyngai i’w awdurdod. Bu y cynygiad hwn yn abwyd llwyddianus, canys Rhys ab Meredydd, Gruffydd ab Meredydd, Cynan ab Merydydd, a Khys Windawd, arglwyddi cedyrn yn y Deheubarth, a droisant eu cefnau ar y Tywysog, ac a ymunasant â’r Saeson. Bu hyn yn angau i achos Llewelyn yn y parthau hyny, canys dilynwyd y gwŷr dylanwadol hyn yn eu hanwladgarwch gan y mân arglwyddi cymydogol; syrthiodd castell Ystradwy, ac ymwthiodd y gelynion mor bell ag Aberystwyth, Ue yr adeiladasant gastell.

Yr oedd yr ystorm erbyn hyn yn dechreu ymdori ar ein hanffodus dywysog, a haul annibyniaeth y genedl yn gogwyddo at fachlud; ac ni bydd genym bellach, er mor annifyr y gwaith, ond cofnodi digwyddiadau pruddaidd y machludiad hwn, a gwylio symudiadau Llewelyn ddewr hyd yr awr felltigedig hono y syrthia efe yn ysglyfaeth i gynllwyuion bradwyr. Yn fuan ar ol y Pasg, Iorwerth a ymadawodd o Lundain am ororau Cymru, er mwyn rhagddarparu pethau. Trefnodd fod i lyngea y Pum Porthladd Diffynol fyCinque Portsj gydweithredu ar y môr, ac ymosod ar Ynys Môn, gan mai oddiyno y cai’r Cymry y rhan fwyaf o’u lluniaeth yn amser rhyfel. Anfonodd fyddin heiyd i’r Deheubarty!, i adgyfnerthu Payen de Chaworth, fel y gallai hwnw wthio yn mlaen i’r Gogledd; a thrwy hyn y byddai gan Llewelyn dri ymosodiad i’w gwylio ar unwaith. Nid oedd y cynllun hwn yn wreiddiol i Iorwerth, canys ei dad o’i flaen a’i defnyddiasai ugain mlynedd yn ol gydag aflwyddiant truenus; gwyn fyd y Cymry pe gallesid dweyd yr un peth am ei ffrwyth y tro hwn. 0 flaen byddin luosogy Deheudir, Rhys abMaelgwn a gwyr Geneu’r Glyn, yr unig ffyddloniaid yn y cŵr hwnw, a giliasant i “Wynedd, gan adael eu tir yn ddiffaeth. Gauafodd Iorwerth ar Forfa Caer — yno yr oedd ei brif wersyll, eithr ei wŷr a dreiddiasent amryw filldiroedd yn mhellach i’r wlad, ac a adeiladasent gastell yn Fflint. Oddiyno aethant gan belled a Rhuddlan, ac adgyweirio y castell hwnw hefyd a wnaethant.

Yn yr haf, y brenin yn gweled fod y Cymry wedi gadael y Perfeddwlad, a orymdeithiodd mor bell a’r afon Gonwy. Yr oedd Llewelyn wedi croesiyr afon hono o’i flaen, ac yn ymlechu yn nghadarnfeydd Eryri; ac er holl gynddaredd a chryfder y brenin y tro hwn eto ni feiddiai efe groesi yr afon a ddywedasai gynifer o weithiau wrth drais a gorthrwm “hyd yma yr ewch a dim yn mhellach,” A diau pe buasai ein harwr wedi darparu ar gyfer porthiant ei wŷr lluosog, trwy ddwyn digon o luniaethgydag ef o’r iseldiroedd cyn encilio, y cawsai drachefn y pleser o weled byddin fostfawr y Sais yn dihoeni gan afiechyd a newyn, ac yn gorfod dychwelyd yn ol i’w gwlad mewn gwarth k chywilydd. Ond fel ì)u’r anffawd, nid oedd ganddo ef a’i wŷr ond ychydig iawn o luniaeth ar eu cyfer eu hunain, a’r lluaws ffoaduriaid oedd tan eu nawdd. O ganlyniad, dechreuodd newyn hylldremu yn eu hwynebau; a thra yr oedd Mon yn nwylaw’r gelyn, a’r Iseldiroedd wedi eu hanrheithio ganddo, a’i lynges yn gwibforio hyd y glenydd, er atal pob cymhorth o Ffiainc ac Iwerddon, daeth’cyfyngder mawr yn Eryri; a thybiodd Llewelyn mai y llwybr doethaf fyddai dyfod i ryw f’ath o heddwch. Gwyddai mai anfanteisiol iawn iddo ei hun fyddai’r cyfryw heddwch o angenrheidrwydd, onide, ni dderbynid hwy gan y blaid wrthwyneblll. Cydsyniodd y brenin i dderbyn ei gynygiad ar y telerau fod iddo roddi ei hun ar ei “diriondeb ef. Nid oedd ond tiriondeb creulawn i’w ddisgwyl oddiar ei law; ac er mor anhawddidywysogfel Llewelyn ymostwng, eto, yr oedd gwaredigaeth ei gydwlad-wyr newynog yn galw am iddo wneud hyny; ac awgryma llawer hanesydd fod ei eerch anorchfygol at y garcharedig Eleanor de Montforte yn ei ddirgel gyfeirio at ffafr Iorwerth, fel yr unig Iwybr y gallai gael gafael ar obaith ei lygaid. Felly penderfyllwyd ar y telerau canlynol: Fod i’r tywysog ryddhau ei holl garcharorion rhyfel, a thalu i’r brenin ddeng mil a deugain o forciau. Fod i bedwar cantref y Perfeddwlad gael eu rhoddi i fynu i’r brenin a’i hiliogaeth tros byth. Fod pleidwyr y Saeson i gael eu hadferyd i’r hoirteddianau oedd eiddynt ar ddechreu y rhyfel. Fod i’r tywysog gadw meddiant o Ynys Mon, a thalu i’r brenin fil oforciau bob blwyddyn am dani; eithr os byddai efe farw yn ddiepil fod i’r Ynys syrthio i feddiant y brenin a’i etifeddion hyd byth. Fod i’r holl farwniaid Cymreig ddal eu tiroedd tan y brenin, oddieithr pum arglwydd Eryri, y rhai oeddynt i arddel Llewelyn fel penteyrn am ei oes ef. Fod i Llewelyn ddyfod i Loegr bob Nadolig i dalu gwarogaeth i’r brenin; ac fod iddo, mor fuan ag y cai ryddhâd oddiwrth ei ysgymundod, ddyfod i Ruddlan ac ymostwng ger bron ei orchfygydd; a myned i Lundain ar amser penodedig i gyflawni defod gyffelyb yno wed’yn. Am ei oes ef yr oedd yr enw 0 Dyysog Cymru igael eiarddel; ac arolhyuy, yr oedd pum’ barwn Eryri i ddal eu tiroedd tan y brenin. Er mwyn sicrhau cyflawniad yr amodau hyn, yr oedd y Tywysog i roddi yn wystlon ddeugain o brif bendefigion Gwynedd. Fod iddo bob blwyddyn, gyda deugain o foneddigion gymeryd Llw i gadw yr amodau hyn; ac os byddai iddo mewn un modd ballu cyilawui yrhyn a addawsai, fod y boneddigion hyny yn rhwym trwy eu Uwon i ymadael ag ef, a phleidio’r brenin. Fod iddo ryddhau ei frawd Owen o garchar, ac adferyd iddo ei feddianau; talu mil o forciau yn y flwyddyn i’w frawd Roderic; a phum’ cant morci’w frawd Dafydd. Dyma y cyfeiriad cyntaf a geir at Roderii — wedi dianc o garchar yn nwylaw Llewelyn yr ydoedd yn awr, ac ymuno a’r Saeson. Yr oedd Dafydd hefyd y pryd hwn yn ngwasanaeth Iorwerth, yr hwn a’i gwnaeth yn farchog, ac a roddes iddo mewn priodas ferch iarll Derby, Ystafeliyddes i’r frenines; gweddw brydferth newydd gladdu ei gŵr. Gwnaed Dafydd hefyd yn arolygwr yr holl gestyll Seisnig yn Nghymru; a”r brenin a wnaeth anrheg iddo o gestyll Dinbych, a Frodsham yn sir Gaer, gyda thir yn perthyn iddynt gwerth mil o bunau yn y flwyddyn. Fel breintiau i’r tywysog, chwauegwyd y telerau canlynol: Os efe a hawliai diroedd, oddieithr y rhai yn meddiant y brenin, neu yn mliedwar cantref y Perfeddwlad, gweinyddid cyfiawnder yn ol defodau yr ardaloedd yn mha rai y digwyddai y cyfryw diroedd sefyll. Fod camymddygiadau a beiau pob plaid i gael eu dileu a’u Llawn faddeu. Fod i’r deiliaid a ddalient diroedd yn y pedwar cantref, eu dal ar yr un telerau a chyn dechreuad y rhyfel. Fod pob ymrafael a ddigwyddai rhwng y tywysog, os ar y Cyffiniau y digwyddent, gael eu terfynu yn ol deddfau y parthau hyny; os yn Nghymru, yn ol cyfreithiau Cymru. Y byddai pob elw oddiwrth y llong-ddrylliadau a gymerent le ar forlenydd y tywysog yn eiddo iddo ef; yn nghyda phob breintiau eraill cyffelyb a fwynheid gan ei hynafiaid; ac fod pob cweryl i gael ei benderfynu yn yspryd y cytundeb blaenorol. Yr amodau hyn a gadarnhawyd ai ran Llewelyn gan Tudur ab Ednyfed a Gronw ab Heilyn; ac ar yr ochr arall gan wŷr cyfrifol.

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Llewelyn, ein Llyw Olaf, Part 1”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-llewelyn-1.