Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Robin Ddu Ddewin hyd Mân-gofion

Robin Ddu Ddewin, Traeth yr Oerlefain, Margred uch Ifan and Mân-gofion: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Robin Ddu Ddewin

tfl wyddis ond y nesaf peth i ddim am y bod rhyfedd hwn heblaw yr hyn a drosglwyddir i ni gan draddod’iad a llafar gwlad. Sonir am dano tan yr amrywiol enwau R. Ddtj Ddewin, Robin Ddu o Arfon, a Robin Ddu Hiraddug, a chamgymerir ef weithiau am Robin Ddu o Fon, bardd lled alluog a flodeuai yn y pumthegfed ganrif. Tua haner canrif yn ol, gallesid gweled hen adfail ar ochr Arfon i’r afon Menai a elwid y Tŷ Ceryg, neu Furddijn Tŷ Robin.Ddu. Y mae hefyd luaws o chwedlau am dano yn dwyn ’cysylltiad â’r Faynol a’r Bryn Tirion, palasau ar gyfiiniau y Fenai; ac oddiwrth hyn gellir casglu iddo dreulio rhy w.ysbaid o’i oes yn y parthau hyny; er ei fod yn frawd i Da- fydd Ddu Hiraddug, ac yn enedigol o ry wle tua Hiraddug — moel uchel gerllaw y Rhyl yn perthyn i res-fynyddau Clwyd. Math o glerfardd hir ei ben ydoedd, yn enill ei fywiolaeth wrth ddewinio, brudio, a rhigymu barddoniaeth. Y mae’n ddiau ei fod yn gyfrwys tros ben; canys er fod rhai o’i ddaroganau heb eu cyflawni, y mae eraill,0 honynt wedi “dwad fel yr oedd o yn deyd “i’r llythyi-eu. Y mae yn ddiddadl hefyd fod y wlad wedi tadogi llawer gwrhydri iddo nad oedd y cysylltiad lleiaf rhyngddo âg ef. Pa fodd bynag, nid oes genym ni ond adrodd a glywsom am dano gan hen bobl ddifyr yn nghilfachau mynyddau “Gwyllt Walia.”

Robin Ddu fel Daeoganwy.
Un tro yn mherfedd nos yr oedd efe ar daith rhwng
Capel Curig a Llanrwst, a phan yn dyfod i lawr Nant

Bwioh yr Hgym, goddiweddodd hen amaeth-wT o Ddolyddeien, yn mya*d i farchnad Llanrwst. Yr oedd yr hen âtomwr hwn yn meddwl ei bod yn tynu at “lasiad dydd,” pan mewn gwirionedd nad oedd ond tri o’r gloch y boro gefn y gauaf; nid oedd clociau gan neb y pryd hwnw — cloc yr hall Llanrwst oedd yr unig awrlais yn Nyffryn Conwy. Pa fodd bynag, aeth yn ymgom rhwng Robin a’r gwladwi’, ac yn yr ymgom hono dywedai ein harwr, wrth son am y naill beth a’r llall, “”Wyddost ti beth? pan dyf bedwen ar dalcen tŷ y Gwydr Isaf yn gyfuwch a chorn y simddai, bydd y Gwydr Isaf yn llyn dwfr a’r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid.” Rhyfeddai ac amheuai ei gydymaith y fath ddywediad. “Y mae cyn wired,” ebai yntal, “ag y tery cloc Llanrwst dri o’r gloch pan gyrhaeddwn y farchnad.” Cyn wn-ed a bod dwr yn Nghonwy, dyma’r cloc yn taro tri mor fuan ag y daeth y ddau i’r farchnadle; er fod y gŵr o Ddolyddelen yn disgwyl yn siwr mai saith neu wyth fuasai yn daro. Rhyfeddach fyth; y mae bedwen iachus yn tyfu oddiar dalcen y Gwydr Isaf, a thuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd y pren wedi dringo mor agos i linell derfyn y darogan, nes y tybiwyd yn ddoeth godi y simddai ddwy neu dair llath yn uwch, er mwyn gohirio y trychineb. Felly nid yw Gwydr Isaf yn Llyn dwr na’r Gwydr Ltchaf yn gorlan defaid, eto; hyd oni thyf y fedwen yn gyfuwch a chorn y simddai.

Gyda’r un rhagwybodaeth cyfrin y daroganodd efe hefyd y canlynol:

Codais, ymolchais yn Môn,
Boreubryd yn Nghaerlleon,
Canolbryd yn y Ŵerddon,
A’r prydnawn wrth dân mawn yn Môn.

Gydag agoriad rheilffordd Caer a Chaergybi gall dyn fod yn bersonol yn y manau uchod, fel y bu Robin Ddu yn ddychymygol.

Dyma Ddarogan arall o’i eiddo:
Dwy flynedd cyn aflonydd
Pont dxos Fenai a fydîl.

Agorwyd y Suspensîon tros Fenai yn y flwyddyn 1826; a’r Brllannia yn 1 849; ond ni wyddis fod agoriad yr un o’r ddwy yn rhagflaenu unrhyw aflonyddwch annghyffredin. Ond gwyddai yr hen ddewin cyfrwysgall yn dda mai byd aflonydd ydyw hwn, a pha bryd bjTiag’y cyfla’wnid y fath orcliestwaith, y dilynid Hyny gan ryw aflonydd-wch neu gilydd. Er hyny, y mae y peth rhyfeddaf o’r cwbl yn aros yn ddirgelwch, sef pa fodd y daeth i galon dyn yn yr Oesoedd Tywyll hyny y codid y fath “Uchelgaer uwch y weilgi,” tros grigylloedd enbydus Porthaethwy.

Y Bala aeth, a’r Bala eiff;

A Rhuthyn yn dref harbwr.

Yn nglyn â’r llinellau hyn clywsom y traddodiad hefyd fod y Bala unwaith yn orchuddiedig gan ddwfr; ao hefyd i’r dref gael ei diluwio amryw weithiau pan fyddai gwynt nerthol yn chwythu ar y Llyn. Ond y mae pob ’Ue i gredu na chyflawnir y brophwydoliaeth hon byth,, oni sudda y dref gryn lawer, neu y dysg dwr fel “balch angenus “fyw uwchlaw ei lefel. Y mae tuag ugain milldir rhwng tref Rhuthyn a bod yn “dref harbwr,” ac yn ol pob golwg nid ydyw yn debyg o gael ymweliad gan Dafydd Jones yn oes neb sydd yn fyw yn bresenol. Hwyrach, er hyny, mai “Mi ddown, pan ddown,” a fydd hi gyda Dafydd rywbryd eto.

Chwedlatj oddiar Lafar Gwlad am dano.

“Gosodir ef allan,” ebai Cynddelw, “fel brawd i Daf- ydd Ddu Hiraddug, ac adroddir y chwedl hon am danynt: Yr oedd Robin wedi penderfynu Lladd pwy bynag a ddygai y newydd iddo fod ei fam wedi marw. O’r diwedd, bu farw yr hen wreigan; ond ni anturiai neb â’r newydd i Robin. ' Myfi a fynegaf iddo,' ebai Dafydd ei frawd. Yna Dafydd a gymerth ei ddameg ac a ddy wedodd wrth Robin, ' Syrthiodd y gangen â’n dygodd ni’n dau.” Fu farw fy mam?' ebai Robin mewn cyff’ro. ' Tydi a ddywedodd y newydd gyntaf,' ebai Dafydd. Felly nid oedd gan Robin hawl i ladd neb yn ol ei fygythiad.”

Ystyrid ef hefyd yn ddewin heb ei fath. Yr oedd ei enwogrwydd yn y gangen hon o’r gelfyddyd ddu wedi cyrhaedd hyd i’r Deheudir — i blith mawrion y tir yn gystal a’r werin bobl. Yr oedd gwraig rhyw foneddwr yn Nyffryn Teilo wedi colli tri gem gwerthfawr iawn, na fynasai mor byd yn eu Ue. Chwihwyd am danynt yn mhob ystafell yn y palas, a holwyd yr holl forwynion a’f gweision yn eu cylch, heb y rhithyn lleiaf o obaith am eu. hadferiad. Ymgynghorwyd â dBwiuiaâd a dewinaau yr holl ardaloedd oddiamgylch. ond yr un mor aflwyddianus. Yr oedd y foneddiges yn dihoeni o’u hachos, canys rhodd oeddynt iddi hi gan chwaer drengedig. Pa fodd bynag, daeth i feddwl y boneddwr am Robin Ddu, a thybiodd oddiwrth y son am dano, os byddai rhywTin yn abl i’w cael, mai Robin oedd hwnw. Danfonwyd cenad ar farch ar frys gwyllt i Wynedd i ymofyn y Dewin; ac ufuddhaodd yntau i’r cais. Yr oedd i gael haner cant o bunau os Uwyddai i dd’od o hyd i’r trysorau. Eithr wedi cyrhaedd yno ni ddechreuai ef ar y gwaith o gwbl, os na chai y tâl, Uwyddianus neu beidio. Barnai y gŴT boneddig fod hyn yn ormod o arian i’w rhoi ar antur, a hysbysodd Robin y carasai wneud prawf o’i allu dewinol yn nghyntaf cyn talu. “Boddlon fi,” ebai yntau; er nad oedd ganddo ond ffydd fach nad syrthio trwodd y buasai yn y prawf; “ond,” meddai, “mi gefais fy ngludo yma yn rhad, ac nid peth bach ydyw hyny i gler-fardd.” Felly yr hunan-fyfyriai efe mewn un ystafell, tra yr oedd y boneddwr yn parotoi y prawf mewn ystafell arall. Y prawf a ddewiswyd oedd dodi Robin Goch dôf oedd yn y palas o tan gawgen ar y bwrdd, a pheri i Robin Ddu ddewiuio beth oedd o tan y llestr. O’r diwedd, gwysiodd y boneddwr ef ato, a daeth yntau tan grafu ei lechwedd a gwneud golwg hurt, fel dallhuan yn breuddwydio.

ffeithiau amgylchynol, mai rhai o bobl y tŷ oedd yn euog o’r lladrad, a chael allan y pechadur yn eu mysg oedd testyn ei graffder o hyny allan. Un diwrnod aeth i roi tro trwy yr ardal, ac un o’r gweision gydag ef, er mwyn ei gyfarwyddo. Daethant ar ddamwain at fynwent lle yr oedd y torwr beddau wrth ei waith, a hwnw fel grave-di(jger Shakespeare, yn ddibris ddigon yn taflu esgyrn penglog i fynu o’i weithfa. Wrth edrych ar y gwrthddrych dynol-wawdus hwn, tarawyd y dewin gan ddrychfeddwl o gynllun campus. Cododd y danedd a dododd hwynt yn un o’i logellau. Ni wyddai ei gydymaith ar y ddaear beth i’w feddwl o hyn; edrychodd gydag arswyd ar Robin o hyny allan. Wedi cyrhaedd adi’ef aeth y gwas i’r gegin, a Robin i’w ystafell. Adroddodd y gwas hwn wrth ei gydwasanaethyddion pa fodd y bu’r tua’r fynwent; ac ediychent oll ar eu gilydd yn fudanod dychrynedig. Toc, daeth Robin hefyd i’r gegin, ac archodd mewn modd awdurdodol ar i bob enaid yn y lle ymgynull ger ei fron ef. A phawb a ddaethant. Yna, gan edrych yn sobrddwys a chraíT i’w gwynebau, ebai’r dewin, “Fechgyn a genethod, bydd yn noson erchyll yma heno; yr wyf am alw tair lleng at fy ngwasanaeth, y rhai a ddygant gorwynt yn ei hadenydd, ac a nithiant bawb a phobpeth yn y lle mor fân fel yr â gyda’r gwynt, er mwyn d’od o hyd i’r gemau. Ond ni fynwn er dim i’r dieuog gael ei gospi gyda’r euog, am hyny yr wyf yn rhoddi i bob un ohonoch y papuryn hwn (yn estyn i Toob un bapuryn yn cynwys un o’r danedd crybwylledig), a’r sawl sydd ddieuog ni chospir mohono; eithr y sawl sydd euog, bydd yn ddigon mân erbyn y bore i fyned trwy ogr.” Yr oeddynt yn delwi ger bron y dewin rhag oinì’r corwynt hwnw wneud rhyw gamsyniad. “Ond o ran hyny,” ebai ef yn mhellach, “ni raid wrth gorwyntna pheth, ond i mi gael y gemau yn fy ystafell o hyn i haner nos; ac ni raid i un ohonoch ofni y bydd i mi achwyn; na, cadwaf y dirgelwch yn nghilfach ddyfnaf fy nghalon.” Yna efe a ddychweloddi’r ystafell, gau bryderus ddisgwyl pa effäith a gai’r bygythiad llymdost hwnw arnynt. Pa fodd bynag, cyn pen haner awr dyma guro wrth y drws, a daeth un o’r morwynion i mewn tan grynu a dodi y gemau mewn llian o bali yn llaw y dewin. “Cotiwch yr amod,” ebai hi wrth fyned ymaith. “Ni raid i ti ofni yn nghylchhyny,” ebai yntau. Bu agos iddo hollti ar ei draws gan chwerthin a llawenydd oherwydd ei Iwyddiant. Yr oedd y fath Iwyddiant tu hwnt i’w obeithion disgleiriaf. Ond nid oedd y boneddwr na’i foneddiges yn gwybod dim am yr ymdrafod hwn; ac yr oedd Robin yn penderfynu na byddai iddo dori ei air yn y gegin na datguddio yr euog. Felly yr oedd yn rhaid iddo drethu ei ymenydd drachefn am gynllun a fuasai yn eu dychwelyd i’w perchenog yn ddyogel a diammheuaeth, a fuasai hefyd yn celu y dull y daeth ef o hyd iddynt. ac ar yr un piyd, cynllun a fuasai yn adlewyrchu clod arno ef fel dewin. Ac yn yr olwg ar ei anhawscierau blaenorol nid oedd hwn ond anhawsder bychan. Cyn cysgu y nos hono yr oedd efe yn dyfeisio ei ddyfais. Cododd yn bur fore dranoeth, a gwelai haid o wyddai yn pori ar y maes tu cefn i’r palas; aeth tuag atynt, a’r gemau mewn darn bychan o fara ganddo. Sylwodd yn graff ar un ohonynt a thaflodd y darn bara gerllaw hono, a Uyncwyd ef ganddi yn’ uniongy-rchol. Yna efe a ddychwelodd i’r tŷ, a chyfarfyddwyd ef wrth ddrws yr ystafell gan y boneddwr, yr hwn a ofynai iddo os cawsai efe rhyw awgrym am y gemau eto. Ebai’r dewin, “Deuwch allan gyda fi yn mhen ychydig fynydau, a dangosaf pa un o’ch adar sydd yn cadw eich trysor.” Felly fu; aeth y boneddwr ag yntau i’r maes, a dangosodd Robin iddo yr wydd Iwyd. “Lleddwch hon yna,” ebai ef, “a chewch yn ei choluddion y tri gem a gollasoch.” Rhyfeddodd y gŵ boneddig yn fawr at y fath ddywediad; ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i’r gorchymyn. “Dyma nhw,” ebai Robin, wedi Badd ac agor yr aderyn, “yn gyfan a dianaf. Dyna i chwi ddewin!” gan ymsythu a haner gredu ei fod yn rhywbeth uwchlaw dynion cyffi’edin mewn gwirionedd. “Dyfod yn ddamweiniol yn. mhlith yr ysgubion o’r parlwr i’r domen a wnaethant, a’r wydd hon yn ei rhaib a’u llyncodd.” Wel, ni fu erioed y fath groesaw ag a gafodd ef: yr oedd y foneddiges yn barod i fyned ar ei gliniau i ddioich iddo; cafodd yr anrhydedd o ymborthi wrth yr un bwrdd gyda y boneddwr, a diwrnod neu ddau o hela yn ei gymdeithas; ac nid oedd neb yn fwy ei llawenydd na’r forwynig anonest yr arbedodd efe ei by wyd trwy gelu ei chamwedd.

Wedi aros yno am fis yn mhellach, i wledda ac ymddigoni, daeth i’w fryd ddychwelyd adref; a’r boneddwr llawen a wnaeth anrheg iddo ar ei gychwyniad o farch gwineu ysgafndroed llygadlym, ac ar gefn hwnw, a chanddo haner canpunt yn ei logell, y dychwelodd efe i Arfon.

Dyna’r dull a gymerai Robin Ddu i enill ei fara, ao ai’syhoecldi y werin ei fod yn ddewin, ac mewn cyfathracli â bodau annaearol.

Dyma chwedl y clywais fy nhaid yn ei hadrodd ganwaith gan droi y naill faw’d o amgylch y llall:— Yr oedd Robin pan yn hoglanc yn cael ei damaid ^ti y Faynol, am y gorchwyl safnrwth o ddychryuu brain. Ond yr oedd y gyneddf oruwchnaturiol yn dechreu blaen-darddu ynddo y pryd hwnw; ac un diwrnod yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac yntau yn llawn aspri ac awydd am fod ynddi, ond yr andros o honi ydoedd, nid âi’r brain yno gydag ef. Tra y byddai ef yn y ffair, yr oeddynt hwythau yn lled sicr o ddisgyn yn heidiau ar y maes gwenith. Pa fodd bynag, trwy rym ei gelwyddoneg, penderfynodd wneud o’r goreu â hwynt am yr amser. Cynullodd holl frain y fro yn un Lleng ddu grawclyd i ysgubor y Faynol, a chlodd y drws arnynt, gan brysuro tua’r ffair a’r allwedd yn ei logell.

Dyna fel y byddai yr hen frawd yn trin y teulu duon — go hwylus, onide?

Ond y chwedlau mwyaf rhamanutus yn ei gylch ydynt y rhai hyny sydd yn son am yr ymdrafodaeth fu rhyngddo â’r diafol yn bersonol. Ymddengys fod Eobm a’i gyfaill dieflig mewn math o gyngrair, tebyg i’r un a fodolai.rhwng Faust a Mephistopheles, yn ngwaith Goethe, y bardd Germanaidd rhagorol. Addefa pawb fod y diafol yn un lled graff yn ei fargeinion, ond oddiwrth y chwedlau canlynol gwelir fod Eobin yn rhy dost iddo. Eywdro yn nghanol haf addawodd ei hunan iddo, gorph ac enaid, pan fyddai’r coed yn ddi-ddail; eithr pan ddaeth yr Hydref, a’r diafol yn galw am gyflawni yr adduned, ymesgusododd y cyfrwysgall Robin trwy ddywedyd, — Yr eiddew, a’r celyn, a’r pren yw, Ni cbollaut eu dail tra byddant byw.

Yr oedd ar Robin eisiau myn’d i Lundain ar frys gwyllt i fod yn dyst mewn cynghaws cyfreithiol. Fel y dylai pawb wybod, yr ocdd taith o Arfon i Lundain, bedwar can’ mlynedd yn ol, mor bwysig ac yn cymeryd cymaint o amser a thaith o Lerpwl i Gaerefrog Newydd yn ein dyddiau ni. Ond nid oedd gan Robin, yn nghanol Gwynedd, ond ychydig oriau na byddai ei eisiau yn y Brifddiuas. Trwy rym ei ddewiniaeth galwodd am wasanaeth ei gyfaill, ac ymddangosodd yntau ar ffurf march gwelwlas uchelwaed. Neidiodd y dewin ar gefn y march hwn, ac ymaith ag ef fel pluen ar aden corwynt uwchben nentydd a mynyddau, afonydd a threfydd, y rhai a lithrent heibio iddo fel ffug-olygfeydd mewn breuddwyd gwrach. Cyrhaeddodd ben ei daith yn mhen dwy- awr union i’r amser y cychwynodd. Buasai hyn yn curo pob trên yn deilchion.

Byddai Robin yn cael cymdeithas ei gyfaill yn rhodfeydd cyffredin bywyd; ac yn gwneud iddo trwy ei gyfrwysdra gyflawni Uawer o fân orchwylion yn ei le, a a phob amser yn llwyddo i siomi a thwyllo yr archdwyllwr. Yr oedd y Dewin un diwrnod ar ei daith i godi pytatws. “I b’le yr ei di?” ebai’r diafol. “I gynull cnwd y maes,” oedd yr ateb. “Roddi di yr haner i mi am dy helpio?” “Gwnaf,” ebai Robin; “pa un fyni di ai’r hyn sydd allan o’r ddaear ai’r hyn sydd yn y ddaear?” “Yr hyn sydd allan o’r ddaear,” ebai Apolyon gan dybied mai i fedi yr oeddynt eu dau yn myned. Felly cafodd Robin y pytatws a diafol y gwlydd. Drachefn, yr oedd Robin dro arall yn myned i fedi, a chjTnerodd geiriau cyffelyb le rhyngddynt, a’r diafol y tro hwnw a ddewisodd yr hyn oedd yn y ddaear, gan iddo gael ei siomi o’r blaen. A chafodd Robin frig y gwenith a’r diafol ei wraidd.

Gwarchod ni I onid allem lanw cyfrol drwchus a thraddodiadau anhygoel cyffelyb? Ar gefn Robin Ddu Ddewin y mae pobl y Gogledd yn rhoddi pob cast a hen chwedl ryfedd. Deallwn mai Sion Cent, bardd enwog yn ei ddydd, ydyw bwch diangol gwyr Gwent a Dyfed; a phriodolir ambell un o’r chwedlau hyn i’r naill a’r Llall.

Un ysgub ramantus arall, a dyma ni yn troi pen ar ein mwdwl hwn o chwedlau yn nghylch Robin Ddu. — Efe a addawodd lawer tro y celai y diafol ef ar ol ei farw — pan ar ol dwyn ei goryh trwy ddrws ei fwthyn a thrwy y porth i’r fynwent; a chredai’r bôd uffernol nad oedd modd iddo gael ei siomi yn hyn beth bynag. Pan fyi-haodd ei anadl, ac y gorweddai ar ei wely cystudd diweddaf. gwyliai y diafol yn ddyfal trosto, rhag iddo trwy ry-w ddichell geisio ysgoi cyflawniad yr amod. Ond profodd Robin eto yn rhy dost iddo; yr oedd wedi rhoddi gorchymyn fisoedd yn ol i un o’r cjTnydogion yn mha fodd ac yn mha le yr oeddid i’w gladdu. Yr oeddynt i dori agen yn mur y bwthyn, amyned a’r arch allan trwy hwB-w, er mwyn ysgoi y drws; a gochel porth y fynwent trwy ei gladdu tan wâl y fynwent — haner i mewn jTiddi a haner allan o honi.

Eelly, ni chafodd y diafol na phytatws, na gwenith, na chorph Robin Ddu; ac er cyfrwysed ydoedd, ac ydyw o ran hyny, efe a gyfarfyddodd â’i gyfrwysach yn mherson y Dewin dichellgar o Arfon. Nid oedd ganddo ond gadael y corph yn y fan yr oedd, a dychwelyd yn waglaw a siomedig i rhyw gŵr arall o’i ymherodraeth. Ac oddiar y traddodiad hwn y tarddodd y ddiareb, “Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn byrion;” ac un arall, “Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi.”

Traeth yr Oerlefain

Gaiî Wmffre Dapydd.

Dyna ydyw enw y maes-draeth a ymestyna o Fangor i Gonwy, gyda glanau y Menai ac afon Gonwy. Dywed traddodiad mai yr achos o’r enw ydoedd hyn:— Yn mhen y flwyyddyn ar ol Lladd Elidir Mwynfawr, daeth gwŷr Tstrad Glwyd, yn ngogledd Prydain, i Arfon i ddial ei waed, a llosgasant dref Caernarfon yn ulw. Am hyn, penderfynodd Rhun fab Maelgwyn Gwynedd dalu y pwyth iddynt, ac anfonodd lu mawr goresgynol i’w gwlad hwythau, a mab Indo Hen (un o wŷr y pyst penddu), yn ben arnynt. Bu rhyfel fawr ar lan yr afon Gweryd, yn y Gogledd, ac yn y rhyfel gwyr Arfon a orfuant ac a gaethgludasant lawer o oreuon y wlad. Daethant a hwy i Arfon a godreu mynyddoedd Eryri; ac yr oedd yn eu pHth amryw o dywysogion y wlad hono, yn eurdorchogion bob un Yn eu plith yr oedd un gwr ieuanc o Oais, yr hwn, oblegyd ei ledneisrwydd a’i hynawsedd, a gafodd fifafr neillduol gan Rhun; ond yn benaf oll cafodd ryddid i ddychwelyd i’w wlad gydag aurhegion lawer.

Yr oedd hefyd yn yr amser hwnw foneddiges gyfoethog, yn byw yn maes Tyno Helyg, yr hon oedd ferch i Helyg ab Gwlanog, a’i henw oedd Gwendud, o arferion hynod o anniwair, ac o ymddygiad balch neillduol. Heblaw hi, yr oedd gan yr Helyg hwn amryw feibion a merched, y rhai a droisant i bregethu ffydd yn Nghrist i’r Cymry paganaidd; o ganlyniad, yn hollol wahanol i Gwendud yn eu harferion. Yn y cyfamser, daeth gŵr ieuanc o gymydog ati i ofyn am ei lla w yn wraig briod; dywedodd hithau na roddai ei llaw i neb oni byddai yn eurdorchog, yr hyn oedd prif arwydd tywysog yn yr oesoedd hyny. Ystyrid gwisgo torch o aur o amgylch y gwddf yn anrhydedd uchel, ac mor anhawdd ei chyrhaedd fei y gyrwyd yr ymgeisydd bron i anobaith am gael ei llaw by th. Ond gan mai meddianu torch oedd yr amod, ac nad oedd hyny yn anmhosibl, penderfynodd na orphwysai hyd oni chelai un. Aeth tua Chaer Rhun, gerllaw Bangor, i edrych beth a ddigwyddai. Yno, daeth i wybod am y Sais crybwylledig, a chafodd allan ei fod ar gychwyn i’w wlad yn llwythog o anrhegion lawer. Prysurodd i’r lle yr oedd y gwr ieuanc, a chynygiodd ei hun iddo yn arweinydd o’r gaer hono i’r gaer nesaf, gerllaw Conwy, a derbyniodd y Sais y cynygiad yn ddiolchgar a Llawen.

Ond ei ddyben oedd llofruddio y Sais, a dwyn ei eurdorch oddiarno. Er mwyn ei gael i le digon dirgel, rhag ofn Rhun, denodd ef ar hyd llwybr cul i fynu i’r mynydd, gan ddweyd wrth ei gydymdeithydd diniwaid fod yn rhy beryglus myned ar hyd y gwastaciedd coediog, oherwydd fod yno gynifer o fleiddiaid rheibus. Pan oeddynt ar lan yr afon, a elwid fyth ar ol hyny Afon ìladd Sais, efe a roddes ei fwriad ysgeler mewn gweithrediad, a llofruddiodd ei gydymaith diamddiffyn. Yna tynodd ei dorch oddiam ei wddf, a gwisgodd hi am ei wddf ei hun, ac aeth gyn gynted ag y gallai i’r Maes at Gwendud, a dywedodd wrthi, “Dyma’r dorch, moes i mi dy law.” “Pa le y cefaist hi?” ebaiGwendud. Dywedodd yntau yr holl hanes. “A gleddaist ti y corph?” “Naddo,” ebai yntau. “Wel, rhaid i ti fyned yno heno nesaf a’i gladdu o’r golwg; oherwydd os clyw Rhun am hyn, bydd yn sicr o ddial ei waed, ac ni bydd dy lafur ond ofer.” Dychwelodd yntau i’r fan, a dechreuodd dori bedd i’r corph mewn man a elwir hyd heddyw, Braich y Bedd. Tra yr oedd wrth y gorchwyl hwn, dyma waedd fawr, “Gwaedd uwch adwaedd!” yn llefain uwch ei ben, “Daw dial, daw!” nes yr oedd y graig yr ochr arall i’r cwm yn diaspedain “daw!” lyn y llef dair gwaith, a phob llef yn gryfach na’r llall. Dychrynodd yn fawr; ffbdd o’r fan, a daeth at Gwendud a’i wyneb yn welw; dy wedodd wrthi am yr oll a fu; ac y byddai yn weli ganddo gael y dorch yn ol, a pheidio myn’d yn mlaen hefo’r briodas, na dyoddef y farn ofnadwy a fygythid; ac yr elai efe i rhyw fan i ddwyn ei benyd — yr hyn a ystyrid gynt yn ddigon o iawn am bob pechod. “0 na, nid felly ebai Gwendud, “eithr dos yn hytrach a myn ei gladdu; ac os daw y llef eto, gofyn pa bryd y daw y dial.” Aeth yntau yr ail waith, a dechreuodd yn brysur ar y bedd, a thynodd y corph llofruddiedis idcio, a phan oedd yn rhoddi y rhawiad olaf arno, dyma’r llef yn llawer uwch na’r tro blaen, “Daw dial, daw!” Gofynodd yntau yn wanaidd, pa bryd. Atebai’r Nef, “Yn amser plant, wyrion, agorwyrion, ac oesgynydd.” Aeth yntau yn ddychrynedig ac ar fi-ys mawr at Gwendud, ac hysbysodd hi pa bryd y deuai’r “dial.” “0,” ebe hithau, “byddwn ni cyn hyny yn bridd ac yn lludw.” Pelly priodi a fynai hi, gan nad oedd y farn i ddyfod yn erbyn y weithred ddrwg yn fuan. Buont byw yn hir, ac mewn rhialtwch mawr, a gwelsant o’u plant y bedwaredd genhedlaeth. Y pryd hwnw, ebai y naill wrth y llall, “Ai ni fyddai yn well i ni gael gwledd i ni a’n gwehelyth oll ar ein haelwyd ein hunain cyn ein marw r” Felly fu; gwledd a fynwyd, a chasglwyd y genhedlaeth fawr i’r un aelwyd. Cyrchwyd bardd o Fangor Dunawd i’w difyru. Mynwyd y mêdd goreu yn yr holl wlad, a lladdwyd y carw goreu yn y parc, a gwnaed pobpeth yn y dull mwyaf costfawr, fel rhagarweiniad i ymadawiad y rhiaint oedranus, yr hyn a gymerai ìe wrth gwrs yn fuan mewn heddwch a thawelwch mawr. Ha 1 na choelia I fawr. Pan oedd pobpeth yn barod, a’r wledd ar ddechreu, ebai’r Bardd wrth y forwyn, “Oni wyddost ti mai heddyw y mae Duw yn dwyn dial ar y Ue hwn l’” “Na wn I,” ebai hithau, “ambeth?” “0,” ebai”r Bardd, “am ryw hen dro a wnaed gan yr hen bobl er’s amser maith yn ol;” ac ebai’n mhellach, “yan fyddi yn myned i’r seler i ymofyn mêdd, sylwa’n fanwl os gweli ddwfr yn dyfod i mewn, a hwnw yn Llawn o bysgod mân.” Eywbryd tua chanol y wledd, daeth y forwyn at y Bardd yn ddychrynedig, a dywedodd fod y seler yn haner Llawn o ddwfr, a hwnw yn Llawn o bysgod fel y dywedasai. “Wel, yn awr, ebai’r Bardd, “flfown am ein bywyd, mae yn hen bryd.” Ac ymaith a hwy. A chyn eu bod neppell oddiwrth y palas, clywent sŵn tôn fawr yn taro yn ei erbyn, a chyda hyny waedd erchyll nes peri i’w gwallt sefyll yn syth. Ond nid oedd amser i aros dim, gan fod y môr wrth eu sodlau, ac felly o hyd nes y cyrhaeddasant íihiwgyfylchi. Yno, ar ol dringo i dir uctiel, safasant i ddisgwyl y bore, canys nos oedd hi, a nos pur dywell. Ac erbyn y bore nid oedd dim i’w weled ond môr mawr yn gorchuddio holl faes Tyno Helyg. Dywed traddodiad fbd murddyn y palas i’w weled hyd y dydd hwn. A thyna chwedl Tbaeth yk Oekleeain.

Margred uch Ifan

Gan Wmffre Dafydd.

Yr oedd yr hen fenyw hon yn byw yn Llanberis, tua chant a haner o flynyddau yn ol; a meddai nodweddiad hynod ar lawer ystyriaeth. Gallai wneud telyn a’i chwareu ti o: ampus. Cyfansoddodd naw o dônau, sef '• Megan a gollodd ei gardas,” “Merch Megan,” a saith eraill, y rhai a ystyrid gan hen delynwyr yn dda iawn. Medrai weithio gwaith crydd a theiHwr. Gwnaeth hefyd ddau gwch cryf; a chludai hi a’i morwyn, yr hon oedd o gyfansoddiad cadarn fel hithau, yr hoil gopr a godid yn ngwaith mŵn y Wyddfa hyd lynau Llanberis, trwy gytundeb penodol i hyny. Yr oedd yn meddu llais lyeraidd annghyffredin, ac yn deall nodau peroriaeth yn well na neb yn yr holl wlad. Yr oedd hefyd yn farddones lled wych. ac y mae rhai o’i chaneuon ar gôf a chadw hyd heddy w. Ond ei phrif ddifyrwch oedd mewn cadw cŵn, a’r rhai hyny o’r rhywogaethau goreu, yn filgwn, bytheiadgwn, adaeargwn. Dahai fwy o Iwynogod mewn blwyddyn na holl foneddigion y sir gyda’u gilydd. Yr oedd yn gryfach na’r ddau ddyn cryfaf a ddoi i’r un man â hi. Cafodd lawer cynyg am ei Uaw mewn glân briodas, a bu am ysbaid mawr yn cadw paAb draw. O’r diwedd dewisodd yn gymhar bywyd y mwyaf Uwfr-galon y gwyddai am dano, fel y byddai’r arglwyddiaeth yn ei ìlaw yn gyfangwbL Darfu 1 gi bychan o’r eiddi, o’r enw lanto, un tro fwyta bwyd un o’r mwngloddwyr; ac yntau yn ei gynddaredd a’i lladdodd yn gelain. Pan glybu Megan am hyn, aeth at y cloddiwr i’w lety. Cafodd ef yn ymolchi oddiallan i’r tŷ, a than wneud hyny yn rhyw ruo canu. “Ai canu sydd yma?” ebai hi. “le,” ebai yntau (ac atal dweyd arno), “ca-canu clul la-Iantosyddyma.” “Wel, efallai y bydd rhywun yn canu dy ghil dithau cynbo hir iawn,” ebai Margred. “Nis gwn I pa-prun am hyny,” ebai’r cloddiwr. Ac ar ol rhyw gymaint o eiriau chwerwon o bob tu, hi a ymadawodd gan ddweyd y deuai i edrych am dano drachefn wedi iddo ymlanhau a bwyta. Dywedodd y cloddiwr, yr hwn oedd yn ddyn mawr a nerthol iawn, nad oedd arno ef ddim o’i hofn. Pa fodd bynag, yn mhen ychydig, wele Margred yn llanw ei gair, ac yn sefyll fel cawres ger bron llety y llanc. Cynygiodd delerau heddwch; dy wedodd y talai hi ar ei bedwerydd am y bwyd a gollwyd; ond iddo yntau dalu am y ci. O, aeth y cloddiwr yn bur goeglyd, gan fygwth gyru’r gawres yr un ffordd a’r ci, os rhoddai ychwaneg o dafod iddo ef, ac ymorchestu llawer iawn yn ei nerth. Ond y diwedd fu, beth bynag, i Margred fyned ato a chydag un ergyd ei osod yn gydwastad â’r llawr; a dywedai dau neu dri o’i gydweithwyr a ddigwyddent sefyll gerllaw, pe rhoddasai un arall cyffelyb iddo, na buasai yn syflyd bys na llaw byth.

Cyrhaeddodd Marged Uch Ifan yr oedran teg o 102, a bu farw rywbryd tua’r flwyddyn 1789, heb fod awr yn ei gwely erioed oherwydd afiechyd. Bu ei hoô’ forwyn farw ychydig o’i blaen, wedi ei gwasanaethu am ddeugain a dwy 0 íijTiyddau.

Dyriau

Mae gan Margred mwyn uch Ifan
Dtlyn fawr a thelyn fechan;
Ijn i ganu’n nhre Caernarfon,
A’r Llall i gadw’r gŵr yn foddlon.

Mae gan Margred mwyn uch Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan;
Un i dynu’r cŵn o’r gougol,
A’r Uall i dori esgyrn poboÚ

Mân-gofion

Lìyn y Dywarchen. — Rhwng Bettws Garmon â Drws y Coed, yn nghanol gwylltineb yr Eryri, y mae Neu wastadlefn o ddwfr gloywlas a adwaenir wrth yi- enw Llyn y Dywarchen. Dywed Giraldus Cambrensis fod ar y Llyn hwn yn ei amser ef ynys fechan symudol o ffurfiad afreolaidd ac oddeutu naw hath o hyd. Ymddangosai fel darn o dorlau wedi i’r dwfr weithio o tani a’i rhyddhau oddiwrth y tir, ac yn cael ei chadw wrth ei gilydd gan wraidd y llysiau a’r brysg-goed a dyfent arni. Gyrid hi yn ol a blaen gan y gwynt, ac ar brydiau dechreuai ail-ymgydio wrth y lan; ond yn sydyn drachefn y gwynt a droai o gwmpas, ac, yn ol Giraldus, cyn y celai yr anifeiliaid a ddigwyddai bori arni gyfieusdra i ’fyned ymaith; o ganlyniad ni byddai ganddynt ond ymddiried yn nhi’ugaredd y gwynt am eu dychweliad i dir.

Squire y Oraith. — Yn amser Rhyfeloedd y Rhosynau, yr oedd yr enwog Owen Tudur yn ngharchar yn Nghastell Brynbyga fllskJ, yn Ngwent, am iddo bleidio teulu Lancaster. Yna aeth ei gefnder, Ieuan ab Meredydd, gyda mintai o gant o foneddigion Gwynedd, tuag yno gyda’r bwriad o’i ryddhau. Wedi llwyddo yn eu hamcan, athra yn dychwelyd adref, ymosodwyd arnynt gan fintai luosog o bleidwyr teulu Torc. Cymerodd gornest galed Is rhyngddynt; ac Ieuan ab Meredydd a anerchodd ei gydymdeithion gan eu hadgoff’a o ddewrder eu hynafiaid, ac atolygu arnynt ymddwyn yn deilwng o’u cenedl a’u gwlad; a diweddu gan obeithio na chelai oesau i ddyfod ddim dywedyd am y Ue y sangent arno, “Dyma’r fan y ffodd cant o foneddigion Gwynedd I” ond dweyd yn hytrach “Llyma’r fan y Lladdwyd cant o foneddigion Gwynedd wrth roddi ailfywyd i ddewrder eu cyndadau.” Yna, gan fod rhai o’i gyfeillion wedi dyfod a’u meibion gyda hwynt, dododd y rhai hyny o’r tu cefn i’r fintai;” a’i feibion ei hunan ar y blaen, ac yntau a lywyddai y gâd. Llwyr orchfygwyd y gelynion, a’r Gwyneddwyr ni chollasant yr un bywyd; eithr derbyniodd Ieuan archoll ddofn dost yn ei wyneb, a adawodd ei hol arno tra y bu efe byw, ac am hyny y gelwid ef Squire y Grait/i.

Lleucu Lìu’j/d oedd rian rinweddol, nodedig yn mhlith rhianod digyflelyb Cymru am ei glendid a’i phrydferthwch, yn byw yn Mhennal, ar lan yr afon Dyfi, yn y 14eg ganrif. Cerid hi â chariad pur gan Llywelyn Goch ab Meirig Hen o Nannau, gerllaw Dolgellau. Ond nid oedd ei thad mewn un modd yn foddlon i’r garwriaeth, ac ar bob Cu-fleusdra cymerai fantais i greu annghariad rhyngddynt. Un tro digwyddodd i Llewelyn Goch fyned ar daith i’r Deheubarth, a daeth ei thad at Lleucu gan ddywedyd wrthi er mwyn diddyfnu ei serch oddiwrth y bardd, fod Llewelyn wedi ymbriodi yno â merch arall. Pan glybu Lleucu hyn, y fath oedd ei gofid fel y syrthiodd ar y llawr mewn lle’wyg, ac y bu farw yn y fan. Dychwelodd Llewelyn; eithr efer ceisio darlunio ei deimladau pan ddeallodd fod prydferthwch ei lygaid ac eilun ei enaid wedi huno yn yr angau. Tan ei deimladau cyffrou.s ar y pryd, efe a gyfansoddes gywydd marwnad iddi, yr hwn a arddengys y galar dwysaf.

Oair Mwys. — Dafydd ab y Llosgwrn a aeth at ei Athraw Pencerdd, sef oedd hwnw Einion Offeiriad, ar fedr ymresymu a chael addysg ganddo. A gofyn a orug y Pencerdd iddo a wyddai efe pa fodd i draethu gair mwys. Yntau, gan gwbl anobeithio cael ychwaneg o ymresymu ag ef, achos na wyddai pa fodd i ateb, a ddywedodd rhyngddo ag ef ei hun, ac mewn anobaith gresynol, “Duw a Mair a’m helpo!” Ond ni wyddai eto mai gair mwys oedd a ddywedasai. Eithr yr Athraw Pencerdd a’i croesawodd yn fawr gan ddy wedyd, “Godidog y dy wedaist, dyna air mwys, canys ni wyddis pa un ai ' Duw a Mair a’m helpo,' ynte ' Duw am air a’m helpo,' yw y meddwl.” Cyffelyb chwedl a ddywedir am Sion Tudur, y bardd o Lanelwy, pan gurodd efe hen wraig â pholgae, am iddi ddwyn pys o’i gae. Yr hen wraig a achwynodd wrth yr Esgob; yntau, gan holl Sion, a ofynodd yr achosiddo guro yr hen wraig. Sion a atebodd, “Ni wneis I ond ei churo am bys.” Yr Esgob, gan dybied mai dywedyd yr oedd, “Ni wneis I ond ei churo â’m bys,'” &ei âfy mys, a faddeuodd iddo. Oiuaithfoed. — Gwaithfoed, arglwydd Cilwyr a Cheredigion, oedd yn byw yn amser Edgar Frenin. A’r Edgar hwnw a ddanfones at dywysogion Cyniru yn gorchymyn ■ iddynt ei gyfarfod ef yn Nghaerlleon Gawr, a rhwyfo ei fâd ef ar y Ddyfrdwy. A Gwaithfoed a ddanfones ateb i Edgar gan ddywedyd na fedrai ef rwyfo ysgraff; a phe medrai, na wnelsai ond er gwaredu brenin neu wreng rhag angau. Edgar a ddanfones eilwaith ato, a chyrda hyny gorchymyn caeth; eithr ni roddai Gwaithfoed ateb am enyd i’r genad, a hwnw yn deisyf ateb a jíha beth a ddywedai wrth y brenin. “Dywed fel hyn wrtho,” ebai Gwaithfoed, “Ofiter na ofno angau.” Ac yna y daeth Edgar ato, a rho’i llaw yn garedig iddo, ac ymhŵedd arno fod yn gâr a chyfaill iddo; a hyny a fu. Ac o hyny allan, arwyddair epil Gwaithfoed fu “Ofner na ofno angau.” Lleiuelyn ab Cadwgan. — Yn y flwyddyn 1399, daeth gŵr o Gymro (ac ni soniai o ba dylwyth yr hanai), o Ryfeloedd MAff-GOnON. 251 y Groes, i fyw i Gaerdyf. Ei enw oedd Lletvelyii ab CadTTfran; a chymaint oedd ei haelfrydedd fel y rhoddai i bob tlawd a geisiai ganddo, neu a welai mewn eisio. Efe a wnaeth dŷ wrth yr hen Dŵr Gwyn at gynal cleifion a hen diallu. Efe a roddai’r maint a geisid gantho, nes rhoi’r cwbl; ac wedi hyny efe a roddes ei dŷ mawr a theg, a elwid y Plasnewydd, i’r iMathanaid, a rhoddes ei werth, nes darfu’r cyfan; ac yn y diwedd bu farw o newyn ac eisiau, ac ni roddai neb iddo, gan ddanod iddo ei wastraff ar gyfoeth.

Hen Gyfraith Gymreig. — Tmddengys oddiwrth hen gyfraith un o dywysogion Cymru, fod cath ddof yn greadur gwerthfawr a gwasanaethgar. Yr oedd ceiniog am un fechan cyn iddi agor ei Llygaid; dwy geiniog o’r amser hwnw hyd oni ddaliai lygoden; a chjTnaint â hyny bedair gwaith pan ddeuai i’w chyflawn faintioli. Yr oedd hyny yn brisiau mawr iawn wrth gyferbynu gwerth arian y pryd hwnw a’u swerth yn ein dyddiau ni. Dirwyid pawb a laddai gath y tywysog pan fyddai hi yn gwylied ystordy ŷd fgraaaryj, i dalu mamogiad, a’i chroen, a’ihoen; neu gymaint o wenith ag a fyddai yn ddigon o swm i guddio blaen ei chynffon trwy ei dy wallt ar y gath yn cael ei dal i fynu gerfydd ei chynffon a’i phen yn cyffwrdd y llawr. Diwedd Dafydd ab Llewejyn. — Gwedi i’r Penwyn a’i feibion, am ddeg punt a buarth o wartheg, fradychu Dafydd brawd Llewelyn, Iorwerth brenin Lloegr a ddaeth a’i gŵyn yn ei erbyn, fel yn erbyn un o’i ddeiliaid ei hun. Gorchymynodd un ar ddeg o ieirll a chant o farwniaid y deyrnas i’r frawdle; a’r brenin oedd yn bresenol. Xiä oedd ynddynt deimlad nefolaidd drugaredd; ac yn marn John de Vaus, prif ynad Lloegr, yr oedd rhywbeth agos tu hwnt i ddychymygion trigolion uffern — iddo gael ei lusgo wrth gynfîbnau meirch drwy heolydd Amwythig i fan y dyoddefaint, am iddo geisio bradychu y brenin a’i gwnaeth yn farchog; iddo gael ei grogi am ladd Fulk Trigald a marchogion eraill yn nghastell Hawardin; a’i galon a’i gylla i’w Llosgi, am iddo wneuthur y gelanedd ar ddydd Sul y blodau; a thori ei ben oddiwrth ei gorph, a’i aelodau i’w crogi i fynu, mewn pedwar Ue cyhoeddus, mewn amryw fanau yn Lloegr o achos iddo fwriadu angau y brenin. Celain Dafydd a ddyoddefodd hyn i’r eithaf; a chymaint oedd gorfoledd y Saeson, fel y bu ymryson taer rhwng trigolion Caer Efrog a Chaerwynt am yr anihydedd o gael y fraich ddehau; ond yr anrheg gigyddlyd a farnwyd yn deilwng i Gaer Wynt; a’r aelodau eraill a ddanfonwyd ar frys gwyllt i Gaer Efrog, Bristol, a Northampton; ac er fod trigolion Caer Ludd mewn llawenydd, ei ben a osodwyd ar bawl yn y Twr Gwyn, yn agos i ben ei frawd. — Y Greal.

Âthronddysg:—
Yn y talcen y mae y deall.

Yn y gwegil y mae y côf.
Yn y iad y mae y dosparth.

Yn y deall, a’r côf, a’r dosparth, yn un, y mae y pwyll.

Yn yr ysgyfaint y mae’r anadl.
Yn y ddwyfron y mae y chwant.

Yn yr afu y mae y gwres.
Yn y gwythi y mae y gwaed.

Yn y bustl y mae y digofaint.
Yn y ddueg y mae y llawenydd.

Yn y galon y mae y cariad.
Yn y rhai hyn i gyd y mae y serch.

Yn y serch y mae yr enaid.
Yn yr enaid y mae y meddwl.

Yn y meddwl y mae y ffydd.
Yn y ffydd y mae Mab Duw.

Yn Maî) Duw y mae bywyd didranc.
Yn mywyd didranc y mae gwynfyd anorphen.

A gwyn ei fyd y neb a wnelo yn iawn â’r yniau a ddodea Duw ynddo, er cyrhaeddyd gwynfyd anorphen ]xyâ. byth bythoedd. — Y Bardd Glas o’r Gadair ab dywed.

Chwedl y Mynyddoedd. — Cof genyf wrth groesi gwahanol ranau o fynyddoedd Berwyn, pan yn fachgen, weled olion aredig mewn Uawer o fanau. yn uchel a phell oddiwrth dai; yr oedd y grynau yn wastad ar i fynu yn erbjTi y tir. A oes modd gwybod yn mha oesoedd y bu yr hen Gymry yn aredig y mynyddoedd ■' Tybiwn i fod y lleoedd hyny yn rhy uchel i ddwyn cnwd yn awr; ond a oes rhyw gyfnewidiad yn hinsawdd ein gwlad rhagor yn yr hen oesoedd? Dywed Gutyn Peris, mewn ysgrif ger fy mron: “Yr oedd mynyddoedd Arfon yn goediog i’w cribau uchaf agos, hyd amser Edward y Cyntaf.” Adiau fod Berwyn felly hefyd; caays y mae y mawndir yn llawn o goed, fel y gwyr y trigolion yn dda. Ond yr wyf fi yn cymysgu pethau mi welaf, oblegyd y mae y tymhor y cwynipodd coed y fawnog yn mhellach yn ol na’r hyn y cyfeiria G. Peris ato. — Cynddelw yn y Brython.

Ch iv(dl y Cawri. — Y mae Berwyn hefyd yn hynod am ei Gawri. Mae Pant y Cawr ynagôs i Bistyil Rhaiadr, ond o dan Graig y Ferwyn y trigai y Cawr, meddai y chwedl. Yr oedd y Gawres, y forwyn, ac yntau, unwaith yn cyrchu beichiau o Graig y Mwn i wneud pont dros “Bant y Cawr,” ond cyn iddynt fyned neppell, canodd y ceiliog, â gorfu iddynt ffoi, a gadael “baich y Cawr,” “baich y Gawres.” a “ffedogaid y forwyn.” yn y man y gwelir hwy hyd y dydd hwn. Y mae Gwallter Mechain, yn Hanes Plwyf Llansilin, yn son am Pihuddlwm Gawr, a Chawr Myfyr, sef Cawri y Plwyf hwnw; ond ni wyddai, er ei fod agos a gwybod pob peth, yn mha le y trigai Cawr Berwyn. Dangosir ei wely hyd heddyw yn agos i Langan, rhwng Maen Gwynedd a Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd post careg wrth ei obeuydd, ac o dan hono, meddent hwy, y cadwai ei drysorau; a bu rhai mor hygoelus, yn fy nghof i, a dymchwelyd y golofn, a cheibio yny’ddwfn oddi tani, mewn gobaith am yr hen gist a’r arian. —Fr un.

Yr Ogofau. — Xid wyf yn cofio ond am un chwedl ogofawl mewn cysylltiad â Berwyn; yr oedd hono yn Nghraig y Rhiwarth, ger Llangynog. Nis gwn a oes ogof yn y graig hono, ai nad oes, ond clywais y chwedl fod un yn y cŵr nesaf i Gwm Llanhafan, ac i ddynion ei theithio cyhyd ag y parhaodd pwys o ganwyllau, a bod yno hen wrach yn wastadol yn golchi dillad mewn padell bres 1 Ogof ryfedd y cyfrifid “Ogof Tal Clegir,” sef Ness Cìiff, yn agos i’r Mwythig. I hono yr aeth rhyw Xed Puw dan ganu, ac nis gwelwyd ef mwyach; ond cofiwyd y dôn a ganai, a galwyd hi yn “Ffarwel Nedpuw.” — Yr un. Cyfemoau Cymreig. — Cyn amser y frenhines Elizabeth. yr oedd cyfenwau y Cymry yn cynwys achau hirion, megys Hywel ab Iorwerth ab Ifan, ac felly yn mlaen am saith neu wyth o geuhedlaethau. Yr oedd y cyfreithwyr a’r ustusiaid Seisnig a ddeuent i Gynn-u i w’einyddu y gyfi-aith, yn myned yn gynddeiriog wyllt yn erbyn yr achau hyn, gan na fedrent hwy, drueuiiaid anhymig, dllim seinio yr ch a’r //, na chofio yr enwau pereidd-sain oeddynt yn dolenu y gadwen. Dywedir fod rhyw ustua yn amser Harri VIII., a flinid yn fynych gan yr achau Hyn, wedi apelio at y Cymry am iddynt fabwysiadu rhyw gynllun tuag at gwtogi eu henwau, ac i amryw ufuddhau i’w gais. Ond yn yr Eisteddfod fawr a gynaliwyd yn Nghaerwys, yn 1568, trwy orchymyn a dirprwyaeth y frenhines Elizabeth, rhoddwyd gorchymyn ar y Cymry gymeryd ac ymarfer â chyfenwau teuluaidd, cyffelyb i gyfenwau deiliaid eraill ei Mawrhydi; ac fod i’r Beirdd ’a’r gwŷr wrth gerdd dafod, gynghori a threfnu a gweled hyny; ac o hyny allan y Cymry a gymerasant gyfeuwau gwahanol, rhai herwydd eu tadau, eraill yn ol fel eu gelwid cyn hyny, megys Elis Jones a Sion Wyn; ac eraill oddiwrth y rhanau o’r wlad a drigianent, megys Huw Gonwy, a William Llŷn. A chyn hyaj nid oedd gan y Cymry gyfenwau, eithr dangos âch a bonedd a wnelid; a’r Ue ni cheid y cyfryw, dodid damwain o enw fel,y cydnabyddid ef ynflys y Brenin, ac am hyny y dywedir llysemu. A’r dull cyfreithiol a gymerwyd i gadarnhau yr fcnwau hyn oedd eu rhoddi yn ysgrifenedig ar bapur i glarcod y Sesiynau, a cheiniog gyda hwynt, ac enw y drigfan; yna dodid yr enw ar register y llys, ac o hyny allan adwaenid y person a’i wehelyth tros byth wrth y cyfenw hwnw.

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Robin Ddu Ddewin to Mân-gofion”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-robin-ddu-ddewin.