Twm Siôn Cati

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Noson yn yr Hafod hyd Y Diwyd a’r Diog

Noson yn yr Hafod, Cant o Hen Bennillion Cymreig, Twm Sion Catti, Mân-gofion and Y Diwyd a’r Diog: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Twm Siôn Cati · Eirian Evans, CC BY-SA 2.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Noson yn yr Hafod

Gan Glasynys.

O! Diriondeb! pa beth sydd ar wyneb y ddaear mor gu ac anwyl a thydi? Yn enwedig felly, pan y ceíBr gafael amat yn nghei-fannau’r mynyddoedd, lle’r wyt heb gael llychwino dy ddillad glân gan anfoesacannhrefii. I’rmynyddoedd ynte, o ganol dwndwr byddarllyd y trefydd, — o ganol trybestod cibddall gwag-ymhonwyr coegfalch, — o blith teulu torrog Cenfigen, a phlant ufudd bwriad drwg ac anghariadoldeb! I’r mynyddoedd, i wrando chwiban dolefus y gwynt rhwng dannedd ysgythrog y creigiau; i glywed crawc oer-grasy gigfran; brefgwynfanusyddafad, bloedd gyd-seiniol y bugail, a chyfarthiad cleplyd y cŵn wrth annos! I’r mynyddoedd i gysgu ein heinioes allan mewn unigoldeb gwyryfol, — mewntawelwchgwastadol, — ym mysg ceinion morwynol anian, — a’r rhai hynny yn gweini fel cyûyngau pennodol, yn cyf-uno’r amserol a’r Tragwyddol a’u gilydd. Fel ag y mae cribau y mynyddoedd yn ymsuddo i eigion gwyrdd-lesni’r ffurfafen, ac fel yn ymgolli yng ngwawl disglaer-wyn y nefoedd, felly yn imion y cyfunir yno fy wyd pur, tawel, a digynhwrf, hefo’r bywyd parhaol hwnw na wêl anfarwoldeb deriyn amo. Ani hynny i’r mynyddoedd, Ddarllenydd.

_Wel, i ba le y cawn ni fyned? Pa un fydd fwyaf difyr a’i cilfechydd Eryri, ai ymguddleoedd y Berwyn? Pa’r Uû yw’r Ue hyfryttaf, ai gwaelodion Nant Conwy a’i uthredd Cadair Idris? Pa’r un yw’r lle tawelaf, rhwng bryniau glasgroen Maldwyn, a’i yng nghanol gwytlliueb Ystrad Yw, neu Ystrad Towy? Cyttunwn i íHaied i Gwm Cowarch. Sut le ydyw hwnw? Yn mha le “y mae? Na falier, awn i Gowrach, ac arhoswn yn yr Hafod noson gyfan. Yn mha le y cawn damaid a Ih’mmaid, neu “wlyb a gwely,” chwedl pobl chwarelydd? ’Pob peth yn iawn, dim ond myned i Gowrach? Cwm ydyw Cowrach tua dwy filltir o hyd, afon wrth gwrs yn rhedeg drwy ei ganol, a digon o frithylliaid ynddi bob amser. Tai bob ochr i’r Cwm; rhai a’u talceni i’r allt, ac ambell un a’i gefn yno. Math 0 wtra, nid ffordd na llwybr sydd yno, yn dirwyn ar draws ac ar hyd, nes ein dwyn i le gwastad a fu unwaith yn fawnog, ond erbyn hyn sydd gyttir gwastadlyfn. Ym mhen uchaf y Cwm saif craig anferth felmewn blys syrthio bob munud. Y mae ganddi hên wyneb hagr-bygythiol! Ond o dan ei gên, y mae’r Hafod. Hên dŷ hir-groes, heb weled erioed galch ond o bell yw’r Ue: ond awn i mewn. Mae yno groeso calon i bob gwyneb byw bedyddiol. Y mae hynny yn rhywbeth onidydyw? Nid ofnem na chaem weled peth newydd — mae pob peth i’r teithydd yn newydd pan y mae yn y mynyddoedd. Sut le yw’r Hafod? Y mae yno globen ogeginfawr, a simneu gymmaintapharlwr go lew: a thwll mawn ddigon o faint i roi gwely ynddo pe buasai angen. Pan gurasom yn y drws fe’nhattebwyd yn gyfarthiadol gan ryw haner dwsin o gorgwn blewog, a dau ddaear-gi neu dri. Ond daeth rywun at y drws, a chawsom wrth ysgwyd llaw ysgwyd calon hefyd: nid ryw hên ddefodlugoer moni hi yma; ond y mae y galon i’w theimlo yn curo yn y bysedd ac yng nghledr y Uaw. Wedi cael maidd a brechdan fara ceirch teneu, yr ydym am drin y byd ei helyntion a’i gofion. Y mae’r tân yn olwyth, a’r fflammau yn chwyrnu wrth ymryson esgyn! Ninnau, ddau o honom, yn eistedd mewn dwy gadair freichiau; un o dderw du, a’r llall o fasarn gwyn. Gyferbyn a ni, sef yw hynny am y tân, yr oedd f’ewyrth Rolant, yn siarad ac ar yr un pryd yn trin ei ysturmant. Y mae modryb Gwen a’i golwglawen tua’r cwppwrdd tri-darn yn chwilio am gwyr i rwbio bŵa ei fffdil; ac y mae’r mab hynaf yn cy weirio ei delyn yn ymyl y bwrdd mawr. Er mai pur debyg i hên wyddyn clegaram geiliogwydd y byddwnyn ystyried nâd annifyr y Glarioned bob amser; etto yn yr Hafod, — yng nghesail y mynyddoedd, yr oeddyra yn foddlon i ddigymmod hefog unrhy w fath o offer cerdd. Wedi dodi’r canwyllau yn eu lleoedd priodol, a thacla’rtân a rhoi pob peth yn ddel ac yn deidi, cafwyd unawd ar yr ysturmant gan ẃ y ty. Er fod y pren almon “wedi blodeuo ar ei ben er’s llawer blwyddyn, ac ôl ewinedd miniog amser ar ei ruddiau; etto cbwareuai ei oflFeryn bach yn dda-ddigrifol. “Twt Roli,” ebe Modryb Gwen, “dyro’r goreuiddi hi bellach; tyr’d am Ddifyrwch Owyr jyyji,” ebai wrth y Telynor, a deuawd cywrain a gawsom; ac ar ol hyn caed Cyd-gân: yr ysturmant a’r delyn y crwtb 2iV(jlarioned: y ffeiffa tbwmbarîn gan Deio Wmffra! Yr oedd y tŷ yn dadsain, a phawb yn gwneyd ei waitbfel y dylasai. Ar hyn dyma ry wun yn curo yn drws, a phwy oedd yno ond Deio Puw. Hên law digrif iawn. Byddai yn d’od i’r Hafod bob rhyw dair wythnos yn gylch er’s cryn ddeugain mlynedd, ac ben fachgen doniol Lxwen oedd efe hefyd. Medrai adrodd holl chwedlau ysprydion y fro, a chwareu ffidil yn bylaw. Wedi cael tôn ar y ffeiff, — un wyllt-siongc-nwyfus, — dyma modryb Gwen yn gwaeddi yr eiltro, “Roli tyr’d i’r ìlawr,” a’r hên ŵr yn ufuddhau i’r alwad mewn munud; er dangbos hyn, dyna fo yn taflu ei ddwy glocsan, ac yn piccio atti hi i agory ddawns! Yr oedd yno o lQla.i saith o honynt wrthi hi yn ysgwyd eu berrau yn hwylus beinyf! Hên ac ieuangc yn ymddifyru gyda’r un ynni ac awydd a’u gilydd! Ar ol cael eu gwala o glettsio eu traed: eisteddwyd wed’yn a chaed cystal dysglaid o dê, ac a dywalltwyd erioed drwy big y tebot! Yn wir yr oedd tê’r Hafod yn dda! Pawb yn un a cbytiun heb air garw na golwg sarug! Ar ol hyn caed canu hefo’r tannau. Pawb yn byddysg a’r gwaith o’r ieuengaf hyd yr hynaf, ac nid oedd fawr o berygl cael mesglyn allan o’i le yn eu gwaith. Holwyd hwy a fyddent yn arfer cael noson felly yn fynych, a chaed ar ddeall mai dim ond ryw deirgwaith yn yr wythnos! Pel hyn yn swn awen, cân, a thelyn, y mae’r teulu yma’n treubo eu hoes. A thyma beth arall, pan ddaw hi yn amser cadiu dyJedswydd nid oes neb dwysach a thaerachywth. orseddgrasnaf ewyrth Rolant pan fydd ar ei bniau; — nac un sydd ryddach ei chalon, burach ei moes, a glanach ei thafod, na modryb Gwen. Ni ddaw cardottyn byth i’r drws heb gael ei ddiwallu, ni ddaw’r un o blant tlodion y mân deios yno heb gael am ddim caniad o laeth tew a chlewtan o frechdan; yn y gwybau, llawer dafad dda a rennir yno, a thrwy gydol y flwyddyn, gelHr dweydamyr Hafod hefo’r anfarwol Ieuan

Beydydd Hir, pan dorres allan fel hyn:—
Agor dy drysor dod ran — yn gallwycli
Trageîli i’r truan:
Gwell ryw awr golli’r arian,
Na chau’r god, a nychu’r gwan.

Ydyw; ac fel, yn unol a’r hyn a ddysg yr Englyn, y mae’r teulu da yma yn hoffi danghos caredigrwydd ac nid son am dano: ac yn bennaf oll, nid ydys un amser, erioed, wedi cly wed son am ddim ystori gelwyddog wedi myned allan o’r Hafod. Yn Ue byw ar enllih, cenfigen, ac atiirod; y maent hwy yn diangc i fyd y gân. Nid oes yn y cwmpasodd neb mor ddison am danynt a’r teulu hwn drwyddo draw, ac er nad ydynt yn rhyw gyfoethog iawn o ran pethaur byd: etto nid oes dim plas boneddwr, os ydyw yn Oymro, yn y sir na bu rhai o’r teulu yno rywbryd yn aroa, nid oes ychwaith, neb yn y wlad, na wnai bob peth iddynt, pe bae arnynt eisiau. Ond beth yw’r ergyd? Hyn; /od hên fywyd Cymreig fel eiddo pobl yr Hafod yn well, — yn ddiniweittiach, — yn onestach, — ac felly yn dduiuiolach, na surni a chelwydd, balchder ac afrad, y wlad yn yr oea bresenol!

Cant o Hen Bennillion Cymreig

Clywais ddadwrdd, clywais ddwndro,
Clywais bart o’r byd yn beio;
Ond ni chlywais neb yn dadgan
Fawr o’i hynod feiau’i hunan.

Pan fo seren yn rhagori,
Fe fydd pawb a’i olwg arni;
Pan ddaw unwaith gwmwl drosti,
Ni fydd mwy o son am dani.

Dacw Iwyn o fedw gleision,
Dacw’r llwyn sy’n torri’m calon;
Nid am y llwyn yr wy’n och’neidio,
Ond am y ferch a welais ynddo,

Tros y môr y mae fy nghalon;
Tros y môr y mae f ’och’neidion;
Tros y môs y mae f’anwylyd,
Sy’n fy meddwl i bob mynyd.

Hawdd y~w d’wedyd, “Daccw’r Wyddfa;”
Nid eir drosti ond yn ara’;
Hawdd i’r iach, a fo’n ddiddolur,
Beri i’r claf gymmeryd cysur.

Dod dy law, ond wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia’m briwo;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Swn y galon fach yn tori.

Ow, fy nghalon! tor os tori,
Pa ham yr wyd yn dyfal boeni,
Ac yn darfod bob yn ’chydig,
Fal ia glas ar lechwedd liithrig.

Trwm y plwm, a thrwm y ceryg,
Trwm y w calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu’n iach lle byddo cariad.

Da gan adar mân y coedydd;
Da gan ŵyn feillionog ddolydd:
Da gan i brydyddu’r hafddŷdd
Yn y llwyn, a bod yn llonydd.

Nid oes rhyngof ag ef heno
Onid pridd, ar arch, ar amdo:
Mi fum lawer gwaith yn mhellach,
Ond nid erioed â chalon drymach.

Hiraeth mawr, a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn tori’m dalon:
Pan f ’wyf dryma’r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth, ac a’m deflary.

Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechreu crygu;
Dechreu cân heb ddiwedd arni;
Harddach fyddai iti dewi.

Brith yw’r ser ar noswaith oleu,
Brith yw meillion Mai a blodau;
Brith yw dillad y merchedau,
A brith gywir ydynt hwythau.

Rhois fy mryd ar garu glanddyn;
Fe roes hwn ei serch ar rywun;
Hono roes ei serch ar arafl:
Dyna dri yn caru’n anghall.

Yn Hafod Elwy’r gog ni chân,
Ond llais y frân sydd amla’;

Pan fo hi decaf ym mhob tir,
Mae hi yno yn wir yn eira.

Llun y delyn, Llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droiau;
Tan ei fysedd, 0, na fuasai
Llun fy nghalon union inau!

Awel iachus sy’n mhen Berwyn,
Lle i weled llawer dyffryn;
Ac oni bai’r Arenig dditfaeth,
Gwelwn wlad fy ngenedigaeth.

Ni chân cog ddim amser gaua’,
Na chân telyn heb ddim tanna’;
Ni chân calon, hawdd iwch wybod,
Pan fo galar ar ei gwaelod.

Sawl a feio arnaf beied,
Heb fai arno, nac arbeded;
Sawl sy’ dan eu beiau beunydd,
Fe eill rhei’ny fod yn llonydd.

Dacw’r llong a’r hwyliau gwjmioa,
Ar y môr yn myu’d i’r Werddon:
Duw o’r nef, rho Iwyddiant iddi,
Er mwyn y Cymro glân sydd ynddi!

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt i’yn’d i’r fan a fynon’ —
Weithiau i’r môr, a weithiau i’r mynydd,
A d’od adref yn ddigerydd.

Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cyDghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion
Sy’n y nef ym mhlith angylion.

Yr un ni charo dôn a chaniad,
Ni cheir ynddo naws o gariad;
Fe welir hwn, tra byddo byw,
Yn gas gau ddyn, yn gas gan Dduw.

Cleddwch fi, pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw;
Chwi gewch weled llanc penfelyn.
Ai’ fy medd yn canu’r delyn.

A mi’n rhodio mynwent eglwys,
Lle’r oedd amryw gyrph yn gorphwys,
Trawn fy uhroed wrth. fedd f’anwylyd,
Clywn fy nghalon yn dymchwelyd.

Gwedwch, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo,
Nas darfyddai wrth ei wisgo?

Blodau’r flwyddyn yw f’anwylyd,
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd;
Llewyrch haul yn t’wynu ar gysgod,
A gwenithen y genethod.

Geiriau mwyn gan fab a gerais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais;
Geiriau mwyn ynt dda tros amser,
Ond y fath a siomodd lawer.

Mwyn, a mwyn, a mwyn yw merch,
A mwyn iawn lle rhoddo’i serch;
Lle rho merch ei serch yn gynta’,
Dyna gariad byth nid oera.

Tro dy wyneb ata’i ’n union;
Gyda’r wyneb tro dy galon;
Gyda’r galon tro d’ewyllys;
Ystyria beth wrth garwr clwyfus.

Lle bo cariad y canmolir
Y rhyw ddyn yn fwy na ddylir;
Ond, lle byddo digter creulon,
Fe fydd beiau mwy na digon.

Tros y mor mae’r adar duon;
Tros y mor mae’r dynion mwynion;
Tros y mor mae pob rhinweddau;
Tros y mor ma’m cariad inau.

Melys iawn yw llais aderyn
Fore haf ar ben y brigyn;
Ond melusach cael gan Gweno
Eiriau heddwch wecH digio.

Mae cyn amled yn y farchnad
Groen yr oen a chroen y ddafad,
A chyn amled yn y Ban,
Gladdu’r ferch a chladdu’r fam.

Ond ydyw yn rhyfeddod
Bod danedd merch yn darfod;
Ond, tra yn eu geneu chwyth,
Ni dderfydd byth ei thafod,

Robin goch sydd ar yr hiniog,
A’i ddwy aden yn anwydog;
A ddyweda mor ysmala,
“Mae hi’n oer, fe ddaw yn eira.”

Called pawb ei ddrws yn sydyn
Mae’r eira’n barod ür ben Berwyn;
Hilyn gwyn i hulio’n Gwanwyn
Ddaw i lawr a rhew i’w ganlyn.

Yn y môr y byddo’r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionydd:
Na chawn unwaith olwg arni,
Cyn i’m calon dirion dori.

Rhywun sydd, a Rhywun eto,
Ac am Rywun ’rwy’n myfyrio;
Pan f ’wyf dryma’r nos yn cysgu,
Fe ddaw Rhywun ac a’m deffry.

Bum yn claddu hen gydymaith,
A gododd yn fy mhen i ganwaith;
Ac yr wy’n anmheu, er ei briddo,
Y cyfyd yn fy mhen i eto.

Blin yw caru yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnw;
Ond o’r blinderau blinaf blinder,
Cur annifyr caru’n ofer.

Mi ddarllenais dd’od yn rhywfodd
I’r byd hwn wyth ran ymadrodd;
Ac i’r gwragedd (mawr lles iddynt)
Fyn’d â saith o’r wyth-ran rhyngddynt.

Lle bo cariad y canmolir
Mwy, ond odid, nag a ddylir;
A chenfigen a wŷl feion
Lle na byddo dim achosion.

Medi gwenith yn ei egin
Yw priodi glas fachgenyn;
“Wedi ei hau, ei gau, a’i gadw,
Dichon droi’n gynauaf garw.

Gwae a gario faicli o gwrw
Yn ei fol i fod yn feddw:
Trymaf baich yW hyn o’r beichiau,
A baich ydyw o bechodau.

Hwn yw mam y cam a’r celwydd,
Lladd, a lladrad, ac anlladrwydd:
Gwna gryf yn wan, a gwan yn wanach,
Y ffel yn ffol, a ffol yn ffolach.

Tebyg ydyw morwyn serchog
I fachgen drwg mewn tŷ cymmydog:
“A fyni fwyd?” “Na fynaf mono”—
Eto er hyny yn marw am dano.

Canu wnaf a bod yn llawen,
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynag ddaw i’m blino,
Canu wnaf a gadael iddo.

Llawn yw’r môr o heli a chregyn;
Llawn yw’r ŵy o wyn a melyn;
Llawn y w’r coed o ddail a blodau;
Llawn o gariad merch wyf finnau.

Yn nglan y môr mae ceryg gleision;
Yn nglan y môr mae blodau’r meibion;
Yn nglan y môr mae pob rhinweddau;
Yn nglan y môr ma’m cariad mnau.

Dacw f’anwyl siriol seren,
Hon yw blodau plwyf Llangeinwen;
Dan ei throed ni phlyg y blewyn,
Mwy na’r graig dan droed aderyn.

Ni thoraf fi mo’m calon lawen,
O drymder gwaith a wnaeth un bachgen:
Trech yw natur na dysgeidiaeth;
Rhodiaf beth, — nid wyf ond geneth.

Mi feddyliais ond priodi
Na chawn ddim ond dawnsio a chanu;

Ond beth a ges ar ol priodi,
Ond siglo’r cryd a sio’r babi.

Siglo’r cryd â’m troed wrth bobi,
Siglo’r cryd â’m troed wrth olchi,
Siglo’r cryd yn mhob hysywaeth,
Siglo’r cryd sy’ raid i famaeth.

Gochel neidr mewn gardd lysiau,
Gochel fab a’i fwynion eiriau;
Os caiff hwnw’n llwyr dy feddwl,
Cilio wna fel haul dan gwmwl.

Tri pheth sydd hawdd ei siglo;
Llong ar fôr pan fo hi yn nofio,
Llidiart newydd ar glawdd ceryg,
A het ar goryn merch foneddig.

Mi fûm yn rhodio glan môr heli,
Gwelwn wylan wen Lliw’r lili
Ar y traeth yn sychu ei godrau,
Wedi ei gwlychu gan y tonau.

Mi rois fy mhen i lawr i wylo,
Fe ddaeth y wylan ataf yno;
Mi rois lythyr dan ei haden
I fyn’d at f’anwyl siriol seren.

Pa ham mae’n rhaid i chwi mo’r digio
Am fod arall yn fy leicio?

Er fod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Mae’n rhaid cael caib i godi’r gwreiddyn.

Mi rois fy llaw mewn cwlwm dyrys;
Deliais fodrwy rhwng fy neu-fys;
Dywedais wers ar ol y person, —
Y mae’n edifar gan fy nghalon.

Mi rois goron am briodi:
Ni rof ffyrling byth ond hyny:

Mi rown lawer i ryw berson,
Pe cawn i’m traed a’m dwylaw’n rhyddion.

Pe bai gwallt fy mhen yn felyn,
Fe wnai dannau i’w rhoi’n eich telyn;
Ond am nad yw fy ngwallt ond gwinau,
Rhaid i’ch telyn fod íieb dannau.

Yn sir Fon mae sio’r tannau;
Yn Nyffryn Clwyd mae coed afalau;
Yn sir Fflint mae tân i ymdwymo,
A lodes henweu i’w chofleidio.

Tebyg iawn wyt i’r ddyllhuan,
O bren i bren bydd hono’i hunan.
A phob ’deryn yn ei churo;
Tebyg iawn wyt ti i hono.

Bum yn cani dau’r un enw,
Un yn lân a’r llall yn salw;
Gyda’r salw y mae’r moddion; —
Bachgen glân a gâr fy nghalon.

Mari lân, a Mari lon,
A Mari dirion doriad;
Mariydyw’r fwyna’n fyw,

A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari’n lâa

Ni wiw i Sian mo’r siarad.
Mae yn y Bala flawd ar werth,

A Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Teuid ddw’r a gro,

A gefail go’ i bedoli;
Ac yng Nghastell DinasBrân

Ddwy ffyunon lân i ’molchi.
Mi âf odd yma i Aberdaron,
Lle mae tyrfa o bobl ffolion;
Os oes cymhar imi ar gerdded,
Dyma’r fan lle caf ei weled.

Fe ellir rhodio Iliwer ffair,
A cherdded tair o oriau,
A charu merch o lawer plwy’,

Heb wybod pwv svdd oreu:
Mae’n anhawdd dewis derwen deg,

Heb arni frêg yn rhywle.
Aelwyd serch sy rhwng: fy nwyfron,
Tanwydd cariad ydvw’r s’alon;
A’r tân hwnw byth ni dderfydd,
Tra parnao dim o’r tanwydd;

A ffyddlondeb vw meginau,
Sydd yn chwythu’r tân i gyneu;
A, maint y gwips. nid rhyfedd gweled
Y dw’r yn berwi diDS fy llygaid.

Dwy wefus, Bpssi bêr,
Sydd iraidd dviier neron;
Ac mor felfedaifld, fremwedd, gu,

Fal gweunvdd blu dy ddwyfron;
On’d yw ryfedd terr dy liw,

Mor galed y w dv gaion!
HEN Bianrailion.

Mi af oddiyma i’r Hafod Lom,
Er bod yn drom fy si-wmai;

Mi gaf yno ganu cainc,
Ac eiste’ ar fainc y simne’;

Ac ond odid dyna’r fan
Y byddaf dan y bore.

Gwedd holl anian a gyfhe’wid
Cyn y gwelwyf fy anwylyd,
Bydd y meillion ar y meusydd,
Cân yr adar yn y coedydd:
Ond un peth ni all gyfnewid,
Sef fy nghalon i, f’anwylyd.

Yma a thraw y maent yn son,
A minnau’n cyson wrando,

Nas gŵyr undyn yn y wlad
Pwy ydyw’m cariad eto;

Ac nis gwn yn dda fy hun
A oes im’ un ai peidio.

Rhaid i bawb newidio byd,
Fe wyr bob ehud anghall;

Pa waeth marw o gariad pur
Na marw o ddolur aralî?

Bu’n edifar, fil o weithiau,
Am lefaru gormod eiriau;
Ond ni bu gymaint o helyntioa

0 lefaru llai na digon.
1 ba beth y byddaf brudd,

A throi llawenydd heibio?
Tra b’wyf ieuanc ac yn llon,

Rho’f hwb i’r galon eto;
Hwb i’r galon, doed a ddêl,

Mae rhai na welant ddigon;
Ni waeth punt na chant mewn côd,

Os medrir bod yn foddlon.
Tro yma d’wyneb, f’enaid fwyn,
A gŵrando gŵyn dy gariad;
Gwn nad oes un mab yn fyw
Na sercha liw dy lygaid.

Mi “wyf yma, fal y gweli,
Heb na chyfoeth na thylodi;
Os meiddi gyda mi gydfydio,
Di gei ran o’r fuchedd hono.

Mae llawer afal ar frig pren
A melyn donen iddo,
Na thâl y mwydion tan ei groen

Mo’r cym’ryd poen i ddringo —
Hwnw fydd cyn diwedd ha’

Debyca’ a siwra’ i snro.
Mwyn yw llun a main yw Uaia

Y delyn fernais newydd,
Haeddai glod am fod yn fwyn—

Hi ydyw Llwyn Llawenydd:
Fe ddaw’r adar yn y man

I diwnio dan ei ’denydd.
Daw ydyw’r gwaith, rhaid dweyd y gwir,

Ar fryniau sir Feirionydd:
Golwg oer o’r gwaelaf gawn,

Mae hi eto’n llawn llawenydd:
Pwy ddysgwyliai canai cog

Mewn mawnog yn y mynydd.
Er melyned gwallt ei phen,
Gwybydded Gwen Lliw’r ewyn,

Fod Uawer gwreiddyn chwerw’r ardd
Ac arno hardd flodeuyn.

Mi ddymunais fil o weithiau
Fod fy mron yn wydr goleu,
Fel y gallai’m cariad weled
Fod y galon mewn caethiwed.

Tra bo Mon â mor o’i deutu,
Tra bo dw’r yn afon Gonwy,
Tra bo mari dan Graig y Dibyn,
Cadwaf galon bur i rywun.

Meddwch chwi pa oreu im’ eto,
Yw bod yn glaf o serch ai peidio?
Nes cael gwybod pwy ennllla,
Ai hi a ga’, ai mi a golla*.

Maent hwy yn dywedyd mai lle iachus
Tw glau y môr i eneth glwyfus:
Minau sydd yn glaf o’r achos;
Mi âf i lân y môr i aros.

Mi fum gynt yn caru glanddyn,
Ac yn gwrthod pob dyn gwrthyn:
Ond gwel’d ’rydwyf ar bob adeg,
Mai sadia’r mur po garwa’r gareg.

Maent hwy’n d’weyd na chaf edrych
Ar eich cudyn melyn manwych;
Ni wnaeth Duw mo’r byd cyn dosted
Ni chaiffpawb a’i olwg weled.

Derfydd rhew a derfydd gauaf,
Fe ddaw’r hâf a’i wên dirionaf:
Ond ni ddaw un pêr ddyddanwch
Byth i mi sy’n llawn o dristwch.

Drwg am garu, drwg am beidio,
Drwg am droi fy nghariad heibio;
Drwg am godi’r nos i’r ffenest’:
Da y w bod yn eneth onest.

Cwlwm caled yw priodi,
Gorchwyl blin gofalus ydi;

Y sawl nis gwnaeth nis gŵyr oddiwrtho,
Ond caiff wybod pan ei gwnelo.

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;

Lodes wen a’m hudodd innau
O’r uniawn ffordd i’w cheimion Iwybrau.

Nid cymhwys dan un iau y tyn
Ych glân ac asyn atgas;
Dwy natur groes mewn tŷ wrth dân

Ni harddant lân briodas.
Cais i ti ddyn o natur dda

Mewn gweithred a chymdeithas,
Fo’n dilyn ffyrdd gwir deulu’r ffydd,
Cei ddedwydd ddydd priodas.

Twm Sion Catti

Gwr boneddig, ac yspeiliwr; iiynafiaetlaTâd, a clinaf diriaidus; haelionus i’r tlawd, galluog fel ysgolaig, a dychryn pawb yn perchen eiddo. Dyna y cymeriad a rydd traddodiad i Twm Sion Catti, ac er mor wrthgyferbyniol yr ymddengys ar yr olwg gyntaf, nid ydym ni yn myned i wadu ei wirionedd. Ni buasai mwy o son ani y Twm hwn mwy na rhyw Dwm arall oni bai fod neillduolrwydd yn perthyn iddo, a dylid cofio nad ydyw hynodrwydd ond esgus gwan dros annghrediniaeth, er fod yn natui-iol i’r farn o’i herwydd fod yn fwy gochelgar.

Dywedir mai mab ydoedd Twm Sion Catti i Syr John Wynn, o Wydir; mai ei enw priodol oedd Thomas Jones, ac i’w ffugenw darddu o Twm, mab Sion a Chatti neu Catherine. Blodeuodd tua’r flwyddyn 1590 hyd 1630. Preswyliai mewn lle o’r enw Porth y Ffynon, yn agos i Dregaron, a gelwir y tŷ hwnw hyd y dydd heddyw gan. bobl yr ardal yn Blas Twm Sion Catti. Ystyrid ef yn brydydd a hynafiaethydd mor ragorol fel y dywedodd yr enwog Dr. John Dafydd Rhys, ei gyd-oeswr, am dano:— “A phenaf a pherpheithiaf, a hynny yn ddiamheu, y bernir Thomas Sion, o Borth y Phynnon, yn ymyl Tref Garon. Aphan ddarpho am dano, ef a fydd ’ddigon petrus y ddamwain allu o hono yr bawc adu yn ei ol un cymhar iddo: na chwaith neb ryw achwr a ddichon, o ran bod mor gyphredin ag ef ynn yr wybodaeth honn, wneuthur cymeiut a phwyso parth ac atto.”

Ond er mor bwysig y dichon y deyrnged hon o barch iddo fel hynafiaethydd fod oddiwrth awdurdod mor uchel eto adwaenirTwm Sioncatti yn well ar gyfrif ei ystrauciau a”i ladradau. Mor fawr ydoedd ei ddyianwad ar y wlad yn y cymeriadau hyn fel y dynododd rhywun ef gyda y

Uinellau hyn:
“Mae llefiin mawr a gwaeddi,
Yn Ystraclffin eleni;
Mae’r ceryt; nadd yn toddi’n blwm
Rhag üfn Twin Sion Catti.”

Yn awr rhoddwn engraiflft neu ddwy o’i ddiriaidau:— Cyfarfyddodd a dyn yn myned i brynu crochan, ac addawodd gael un rhad iddo. Yna hwy a aethant tua masnachdy, a phan oeddynt yn gofyn pris rhai dywedodd Twm wrth y masnachydd fod twll yn un o honynt, yr hyn a wadodd y dyn yn benderfynol. Er mwyn profi yr liyn a ddywedai, dymunodd Twm ar i’r siopwr roddi ei ben ynddo, ac yna y caffai weled, a thra yr oedd pen y masnachydd yn y crochan, arwyddodd ar i’r dyn tlawd gymeryd crochan arall ymaith. Wedi i’r truan graffu ei oreu, tynodd ei benglog gan sicrhau nad oedd yr un twll yn y crochan. “Yna,” meddai Twm, “pa fodd y gallit ti roddi dy ben ynddo?”

Dro arall, efe a ganfu hen wraig yn y farchnad, a rholyn o frethyn wrth ei hochr, ac efe a gydiodd un pen iddo wrth ei ddillad ei hunan; a thrwy roddi tro cyflym efe a gymerodd y brethyn oddiamgylch i’w gorph. Wedi i’r wraig wybod ei golli, hi a edrychodd o’i hamgylch yn graflF, a phan welodd Twm hi yn syllu yn ammheus ar y brethyn oedd ganddo ef, efe o ddynesodd ati ac a ffugiodd gydofidio â hi, a gresynu fod cynifer o ddyhirod yn dyfod i ffeiriau, a rhyfeddu iddi fod mor esgeulus, a dywedyd ei fod ef bob amser er mwyn diogelwch yn rholio ei frethyn o’i amgylch ac yn ei wnio wrth ei ddillad.

Un tro arall, efe a gafodd wybod fod lleidr pen ffordd nodedig yn y gymydogaeth, ac efe a benderfynodd roddi cais teg ar ei yspeilio. Tuag at ddwyn hyny oddiamgylch, efe a farchogodd ar hen geffyl gwael druenus i’w gyfarfod, gan gymeryd gydag ef gôd ledr yn llawn o hoelion. Gorchymynodd y lleidr iddo aros, a rhoddi ei arian i fynu. Tmddangosai Twm yn hytrach yn anewyllysgar i wneud hyn, eithr pan fygythiodd y lleidr ei saethu efe a’i taflodd dros y gwrych. Y Neidr dan ei regi a barodd iddo ddal pen ei geffyl; ond tra y bu efe yn myned dros y clawdd Twm a newidiodd ddau geffyl, ac a garlamodd ymaith nes oedd y ffordd yn gwreichioni o tano.

Ac nid rhyw greadur calon oer, caled, ac amddifad o nwyfiant, ydoedd Twm, a’i ddichellion wedi llwyr fogi ei deimladau caruaidd, ond dygai ei gyfrwysdra gydag ef hyd yn nod i awyr gysegredig serch. Efe a syrthiodd mewn cariadag etifeddes Ystradfffn, yn swydd Gaerfyrddin, ond gydag ychydig o obaith am Iwyddiant, a’r gobaith hwnw yn treiddio i’w feddwl trwy ei gynllwynion. Efe a ymwelai â’i anwylyd yn yr hwyr, ac nid allai mewn un modd ei pherswadio i ddyfodallan ato, a hynyo ddiffyg cydsyniad ei rhieni. Un noson hi a wrthododd yn deg wrando arno, ac er o’i hanfodd, gorchymynodd iddo beidio dyfod byth yn agos i’r tŷ drachefn. “Wel, os rhaid iddi fod felly,”ebeTwm, “yr ydwyf yndeisyf arnoch roddiimieich llaw unwaithcyn yr ymadawom am byth.” Y foneddiges a estynoddeillaw drwy y ffenestr, a Thwm yn uniongyrchola afaelodd ynddi, ac yn lle ei chusanu yn awyddus, tymgodd y torai efe ei flaw hi ymaith, os na phriodai hi ef yn ddiatreg. Yr oedd offeiriad gerlla-w, y fodrwy a roddwyd am ei bys, a’r seremoni a gyflawnwyd. Ni wyddom pa beth a ddilynodd briodas mor swta ac annaturiol, ond os oes coel ar dyb gyffiredin dynolryw am flaenafiaid priodas, nid ellir casglu i’r ddau fwynhau llawer o hapusrwydd oddiwrth eu gllydd. Pa foddbynag, dywedir fod cyfnewidiad hollol wedy. cymeryd lle yn muchedd Twm Sion Catti ar ol hyn; iddo adael Llwybrau helbulus lladrad, a chynghori ei hen gymdeithion i wneud yr un modd. Y mae oçof mewn craig yn agos i Ystradffin, a elwir “Ogof Twm Sion Catti,” dywedir mai yno y trigai ein harwr cyn iddo briodi.

Mân-gofion

Outô’r Olyn. — Guto’r Glyn wedi heneiddio a golles ei gljny a’i olwg; ac yna y cymerth Abad Llanegwestl ef i’r Pynachlog i dario tra fai byw. Ac ychydig cyn ei farw efe a gysgodd hyd ar ol haner dydd, ac yna y deffroes, ac y gofynodd i’r llanc oedd yn ei wasanaethu, beth oedd hi o’r dydd; ac y dywed yntau ei bod hi wedi haner dydd a bod yr Abad ar ddybenu ei ginio. Yna y dywed Guto “Pa’m na chlywswn I y clychau yn canu? pa’m na chlywswn I ganu yr organ?” “Fe ganwyd y clychau a’r organ hefyd, a dylasech eu clywed,” ebe’r llanc. Yna Guto a gânt yr Englyn hwn:—

Gwae’r gwan rhan oedran nid edrych, — ni chyfardd
Ni cherdda led y rhych;
Gwae ni wyl yn gŷnilwych,
Gwae ni chlyw organ n’a chylch.

Argraffu Cymraeg. — Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn Llundain, yn y flwyddyn 1546. Rhedai ei deitl fel hyn, “Yn y Llyryr hwn traethyr y Gwyddor Cymraeg. Kalendyr. Y Gredo neu Bynceu yr Ffy’dd Gatholic. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y Deng air Deddyf. Saith rinwedd yr Eglwys. Y Campay arferadwy a’r gweddiau gocheladwy ae Keingeu.” Ei faint oedd pedwar Îlyg. Gwaith William Salisbury, cyfieithydd galluog y ’estament Newydd, ydoedd. Y Llyfr a argraffwyd gyntaf yn Ngh.ymru oedd, “Eglurhad o Gatecism Byraf y Gymanfa, o waith Thomas Ŷincent, ac o gyfieithiad Y. P. a Y. P.” Argraffwyd ef yn Castell-newydd Emlyn, yn y flwyddyn 1719. Am tua thri ugain mlynedd ar ol hyn, Almanaciau oeddynt brif gyfryngau gwybodaeth y Cymro yn ei iaith ei hun. Argreflid y rhai hyn gan mwyaf yn Nghroesoswallt ac Amwythig. Yr oedd Sion Tudur, o Lanelwy, yn llawn mor adnabyddus fel Almanaciwr ag n’doedd fel Bardd. Ond un tro bu agos i un bachgenyn add ei Almanaciaeth yn farw gelain. Ar foreu tesog “wybren glir yn nghanol haf, yr oedd Sion yn rhodio flfordd gerllaw ei dŷ, a daeth i’w gyfarfod yr hogyn dywededig, a chanddo wlawlen fawr tan ei fraich. “I beth ’rwyt ti ’n cario y wlawlen fawr yna ar fore mor braf a hwn?” ebai’r Almanaciwr. “Am fod Almanac Sion Tudur yn d’weyd mai diwrnod braf a gawn ni heddyw, ac felly y mae hi yn sicr o wlawio cyn y nos,” a flfwrdd a’r bychan pert i’w daith gan adael Sion i sŷn gilgnoi ei damaid chwerw.

Damheg. — Yr oedd unwaith yn Eifionydd hen -ŵt hen iawn yn by w gyda’i fab a’i ferch yn nghyfraith, i ba rai yr oedd plentyn penfelyn Uonbryd. O’r bron y gallai yr hen ŵr godi y llwy wrth fwyta at ei ben gan fel y crynai ei fraich, a cholli y byddai yn fynych ei wlyb hyd y bwrdd. Yna ei fab a’i ferch yn nghyfraith a’i dodasant mewn congl wrtho’i hun; a rhag y torai y llestr pridd, gwneud llestr pren iddo a wnaethant. Dyna lle byddai yn och’neidio’n brudd, ac yn bwrw trwy ei ddagrau aml gip-edrychiad athrist tua’r ford, heb gael haner digon i dori ei angen. Pan yn bwyta yn ei gongl un tro, yr oedd ei ŵyr bach yn chwareu gyda darnau o goed ar y llawr. “Beth wyt ti yn ei wneud, machgen i? “ebai’r tad. “Gwneud cafn bach i’m tad a’m mam fwyta o hono pan elwyf fi yn ddyn.” Teimlwyd yr awgrym; dygwyd yr hen ŵr yn ol at y ford, ymddygwyd yn dirion tuag ato ’hyd oni pheidiodd y llaw gryuedig a chrynu, a’r galon ag ocheneidio. Ac oddiar hyn y tarddodd y ddiareb “Tra gwir, ^wir gwirion.” Ac arall “A fo brwnt wrth hen boed hen ei hun.”

Y Diwyd a’r Diog

Gan Gwilym Hiraethog.

Coftts iawn genym y dydd hwn, am ddau a adwaenem yn ida pan yn ieuanc gartref, o’r gwahanol nodweddau hyn. Yv oedd preswylfa y diwyd am lawer o flynyddau gerllaw trigle ein rhieni. Os digwyddai iddo fod allan o waith, byddai yn anesmwyth ac annedwydd i’r eithaf iddo ei hun a’i deulu. Siaradai rhyngddo ag ef ei hunan, prociai y tân, ysgytiai y plant, ciciai y gath, a byddai rywyr i Begws, y wraig, hel y carnau o’i olwg. Ond os byddai ganddo olwg ar ddigon o waith o’i flaen, byddai mor llawen a’r oôg, ac mor chwarellus a’r ebol. Byddai yn llonaid ff’ordd ■> ddyn wrth fyned at ei waith y bore a dychwelyd adref yr hwyr. Gosodai ei freichiau yn mhleth, a’i het ar lechwedd ei ben, gan ganu fel y medrai:—

“Fe dyngai madyn eger
Pe H’w’gai brenin Lloeger
Mi fyna ddafad ag oen gwyn,
Os hapia, erbyn swpor.”

Gweithio oedd dedwyddwch ei fywyd, ac yr oedd bod allan o waith yn chwerwach nag angau iddo. Cof genym i’n tad ein hanfon i ymofyn am dano at ryw waith ar adeg led segur arno, ac yr oedd yn bur ddrwg ei anwydau, fel yr arferai fod ar y tymhorau hyny: ond pan grybwyllasom ein neges, newidiai ei wedd, a dechreuai chwibanu yn fawreddus ryfeddol; “Ond,” meddai yn y man, “ni wn I beth i ddweyd wrthat ti. Y mae Robert y Wern yna, eisio i mi fyn’d yno — a Richard y Cae Coed hefyd; ond aros di, dywed wrth dy dad mai acw y do I.” Ni byddai yr hen walch yn foddlawn i addef byth ei fod allan o waith.

Bu yr hen greadur diwyd hwn fyw i oedran teg. Wedi iddo fyned yn rhy wan gan henaint i weithio am gyflog fel cynt, nid ymollyngodd ar y plwyf fel y cyffredin. Yr oedd yspryd gweithio mor fyw a ntfrthol ynddo ag erioed. Treuliodd flynyddau olaf ei oes ar hyd mynydd Hiraethog; efe oedd arglwydd darn mawr o’r mynydd hwnw. Adwaenid ef yn dda gan filoedd o ddefaid, a merlynod, a chornchwiglod yno. Yn yr haf, byddai yn tori ac yn 376 Y DIWYfl a’r diog.

cynauafu mawn i’w gwerthu. Efe oedd Eothchild mawi y byd yn y farchnadyddiaeth fawnog. Yn hâf gwresog y flwyddyn 1826 cafodd golledion dirfawr drwy i ran fawr o’r mynydd gymeryd tân, yr hwn a losgodd ugeiniau o Iwythi o’i fawn. Mawr oedd gofid a phrofedigaeth yr hen ŵr ar yr achlysur hwn. Yr oedd i’w weled yn fore iawn bob dydd yn myned i fyny i’r mynydd, ac ofnid y gwnaethai llosg-aberth o hono ei hun yn nghanol ei fawn. Llawer brwydr galed a fu rhyngddo â’r elfen ddinystriol. Llosgodd ei haiarn gwthio, ei glustog, a’i raw fawn, yn golsion; a haner rostiodd yr hen ŵr ei hun yn y gwres lawer gwaith. Yn y gauaf, byddai hyd y mynydd yn tynu pabwyr, a’r nos ar ol dyfod adref yn eu pilio, ac elai Begws ar hyd y wlad i’w gwerthu hwy a’r ysgubau a wneid ganddo o’r pilion. Fel hyn y bu fyw hyd nes y daeth pilionen ei fywyd i’r pen.

Adwaenem gymydog a chyfoed i’r hen ŵr uchol, yr hwn yntau hefyd oedd yn nodedig ar gjfúi ei weithgarwch, ei ddiwydrwydd, a’i onestrwydd; hen Gymro o’r hen ffasiwn oedd efe: pur afry wiog ei dymher, druan; a iphan y cyffroid hono, yr hyn a ddigwyddai yn fynych, celai darn fawr o wlad wybod hyny, canys treiddiai ei floeddiadau uchel ac egrddigofus fel taranau trwy y fro. Yr oedd ganddo lais fä udgom cryf, a gollyngai ef allan yn ei lawn nerth, pa bryd bynag y cynhyrfid ei natur. Yr oedd ar ei anifeiliaid ei ofti fel y gŵr drwg: rhedai y moch i ymguddio am eu bywyd pan ddelai i’w golwg. Llechai’r ieir a’r gwyddau mewn distawrwydd, pan glywent ei lais. Ciliai’r gwartheg rhagddo mewn dychryn pan y’i gwelent; canys >t: oedd y creaduriaid oll wedi profi angerdd ei soriant lawer tro, pan wedi troseddu trwy dori i fanau annghyfreithlawn. Efe, bob amser, fyddai y cyntaf i fynu yn y fro. Byddai Dafydd wedi gweithio darn da o ddiwrnod, cyn i neb arall yn mron ddechreu ar ei orchwyl: a daliai wrthi hyd gan hwyred a’r hwyraf.

Yr oedd yr hen greadur hynod hwn yn nodedig am ei gywirdeb a’i onestrwydd hefyd, a mawi’ berchid ef ar y cyfrif hwnw. Yr oedd ganddo geffyl unwaith yn ei feddiant ag oedd yn peri mawr flinder iddo oblegyd ei fariaeth; torai dros bob clawdd, a gwnai ddifrod mawr ar ydau yr hen ŵr, ac ni allai ei feistroli â llyffetheiriau nac mewn un modd arall. Penderfynodd Dafydd ei werthu, os gallai; a bore ddiwrnod ffair, yn y pentref cyfagos, clymodd y llyffethair am wddf Sharper, ac Y Dlwyi) a’b diog. 377 arweiniodd ef yno. Yn mhen enyd daeth prynwr heibio, ac wedi dal sylw ar y ceffyl, a barnu y gwnaethai ei dro, ymofynodd yn nghylch y pris. “Ond beth sydd genych am ei wddf?” ebe fe. “Llyffethair i roi am ei draed o, debyg,” meddai Dafydd; “os ydych yn meddwl ei brynu o, rhaid i chwi roi hon am ei goesau fo, — mi na’ Iw nad oes genych yr un clawdd ar eich helw a’i deil o.” “Ond sut yr ydych mor ffol ac amlygu y peth am dano, a chwithau eisio ei werthu?” ebe y llall. “Oes y mae amafeisioei werthu i’w grogi,” meddai Dafydd; “ond y mae arnaf eisio i’r neb a’i pryno gael gwybod y gwir am yr hen ellyll.” “Mi a roddaf i chwi eich pris am y ceffyl,” ebai y gŵr; ond gellwch chwi gadw y llyffethair; gwnawn y tro yn burion, oblegyd ni chaiff gyfleusdra i dori clod’diau gyda mi; caiff ei gadw o’r ystabl i’r tresi, ac o’r tresi i’r ystabl.” Y mae gwir brydferthwch mewn troion symlion a gonest o’r fath yma; ac y mae Dafydd o’r Gilfach yn deilwng o gael ei gadw mewn coffadwriaeth o’i herwydd.

Y mae addewidion twyllodrus cryddion, gwehyddion, a theilwriaid, wedi peri llawer o boen a theimladau drwg mewn teuluoedd yn Nghymru; ac nid anfynych y cyfyd y ddadl yn nghylch pa un ai gŵr y myuawyd, y nodwydd, neu y wenol, ydyw y mwyaf celwyddog o’r tri boneddwr. Tyr y crydd gynifer o addewidiou’ am bâr o esgidiau ag a fydd o hwythau ynddo cyn dechreu ar ei waith, a chwyra esgusion anwii’eddus drachefn mor barod a deheuig ag y cwyra ei edef. Addawa y teiliwr wasanaeth ei nodwydd ddeng waith i wneuthur pâr o ddillad i’r gŵr ieuanc, cyn y cyflawna; a bydd hwnw o herwydd y siomedigaethau yn ei ddirgel felldithio. Addawa y gwehydd well corn o wlanen i haner cant o wragedd ar yr un pryd mor rhwydd ac mor rhigl ag y rhed ei wenol; a bydd y rhai hyny drachefn yn ei gablu ac yn gollwng eu tafodau arno fel y llifeii-iant, oherwydd iddo eu twyllo âg addewidion gau. Brawd cyfan i’r lleill yw y panwr yntau. Y mae y drwg a’r niwed o gelwyddau o’r fath hyn wedi ei guddio o’r golwg i raddau helaeth gan gyffrediuolrwydd yr arferiad o honynt. Ni feddylia y naill na’r llall bod dim allan o le yn y peth, ond y rhaid iddynt ei arfer i gadw eu cwsmeriaid, a’u cadw yn ddiddig; pan mewn gwirionedd y maent yn achosi cynheu ac yn cynyrchu teimladau digofus fwy na mwy.

Yn y teulu, ar yr aelwyd -wrth fagu y plant — dyma feithriiifa gyntaf y drwg. Rhieni, drwy fân-gelwyddau a olygant yn ddiniwed— addaw a bygwth heb byth gyflawni— addygant eu plant i fynu yn ygelfyddyd ddu o’u mabandod. Megir hwy fel hyn yn nghymdeithas cel wydd; ymgynefinant â’r gwenwyn o’r bru, yr hwn a wenwyna ei holl gyfansoddiad moesol. Y mae cymdeithas fel hyn yn cael ei gwenwyno yn ei ffynonelL Y rhai a ddysgwyd fel hyn i gellwair âg anwiredd o’u mebyd, ac a feithriniwyd o’r groth yn ei gwmpeini, a syrthiant dan ei ddylanwad o angenrheidrwydd; ac anhawdd iawn fydd eu deffro i ystyriaeth a theimlad o’r drwg, a’u cael i ymadael ag ef. Os yn mhen fibrdd celwydd yr hyfi’orddir plentyn gan ei rieni gartref, nid at wirionedd yr ymgryfhâ hwnw ar y ddaear: odid fawr nad myned yn mlaen ar hyd-ddi a wna ar hyd ei oes. Yr unig feddyginiaeth i’r pla mawr yn ei holl raddau ydyw GWIRIONEDD.

Y llall, sef y Diog, nid oedd chwaith yn neppell oddiwrthym. Yr oedd y gŵr hwn yn enwog mewn diogi — yr olwg arno yn wir ddelw o’r peth. Yr oedd yn ddyn corff’ol, cryf, ac iachus; ond ni fynai weithio. Arferai y diwyd a ddysgrifiwyd o’r blaen ddywedyd am dano, “Y mae diogi wedi myn’d i asgwrn mawr Ned.” Credem yn ddilys y buasai yn dyoddef merthyrdod dros egwyddorion diogi a seguryd. Os ceid ganddo wneud diwrnod o waith, drwy ddirfawr ymdrech byddai yn chwythu ac yn tagu, yn tuchan ac yn gruddfan, nes y byddai yn hoenus i fod o fewn lled cae iddo. Ymddangosai y diwrnod gweithio gyhyd a deng mlynedd yn ei olwg, a byddai gweithio un diwrnod mewn deng mlynedd yn orchest fawr iawn iddo ei chyflawni. Cenedlodd haws o blant, oll yn ferched, ar ei wir lun a’i ddelw ei hun. Twmpathau mawrion, afrosgo, annghymalog, anystwyth, cyffelyb i sachau cynfas wedi eu llenwi â manus, a diog i beríTeithrwydd ystyr y gair, oeddynt bob un. Nid oedd yn y tŷ, o ddodrefn, ond hen gwpwrdd tri-darn, a math o fwrdd, a stol i bob un eistedd, a gwalanod o wellt neu o fanus, a chydau cardota. Unwaith yr ymollyngent i’r gwellt, yn iach godi o hono, nes y byddai i eisio bwyd gnoi yn eu coluddion. Yna gwelid y tad a’i fintai ferched yn cymeryd bob un ei gŵd, ac yn troi allan i lusgo eu heglau ar draws y wlad o dŷ i dŷ. Nodai y tad, fel blaenor y fyddin, ei chylch cardotëig i bob un o’r merched am y dydd, gan gymeryd y tai agosaf a m-wyaf cyfleus dan ei ofal ei hun. Byddai ymladdfeydd dychrynllyd yn tori allan weithiau rhyngddynt, os digwyd’dai i rai eydau fod yn Ued weigion, oblegyd di’Wgdybid perchenogion y eydau hyny gan y lleill, o fod yn euog o ddiogi ac esgeulusdra yn nghyflawniad gwaith y dydd. Yr oedd eu diogi yn felldith drom iawn ar y teulu annedwydd hwn. Gwrthddrychau dirmyg ac adgasrwydd yr holl blwyf oeddynt. Y dialedd trymaf a allai y naill fachgen ieuanc feddwl am dano i’w roddi ar y llall, pan wedi digio, fyddai danod un o ferched Ned yn gariad iddo; byddai hyny bob amser yn sicr o gyrhaedd i’r byw. Llawer ymladdfa ff’yrniga fu rhwng hoglanciau â’u gilydd oblegyd hyn. Pan fyddai yr holl ystôr o dafod drwg wedi ei dreulio, hon oedd yr olaf a’r benaf; ac nid oedd ond y dyrnau am dani wed’yn. “Gwelais hyn, a mi ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gysgu; felly y daw dy dlodi arnat fel ymdeithydd, a’th anghen fel gŵr arfog.”

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Noson yn yr Hafod to Y Diwyd A’r Diog”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-noson-yn-yr-hafod.