Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Y Gwiberod hyd Sul Coffa Ifan Delyniwr

Y Gwiberod, Y Forforwyn and Sul Coffa Ifan Delyniwr: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Y Gwiberod

Gan Glasynys.

Gan Glasynys.

1. Gwiber Penhesgyn

Yr oedd mem lle yn Mon a elwir Penhesgyn, yn yr lieu amser, ŵr a gwraig yn byw, ac iddynt bu tin mab, ac efe wrth gwrs oedd yr etifedd; ac os gwir y chwedl, etifeddiaeth fawr oedd iddo. Rhyw ddiwrnod, fodd bynag, fe ddychrynwyd y rhieni gau ddaroganiad rhyw ŵr cyfarwydd. Dywedai ef y codai gwiber ar dir Penhesgyn a fyddai’n sicr o fod yn achos angau’r etifedd; a chyn pen thr, clybuwyd fod yr anghenfil wedi gwneud ei hymddangosiad mewn dyryslwyn gerllaw. Anfonwyd y bachgen yn.ebrwydd yn ddigon pell fel na chaffai’r wiber ddim siawns i wneud ei frâd ef; aethpwyd ag ef i eigion Lloegr. Yn y bryn cyfagos yr oedd y wiber, a mawr oedd ofnad y bobl o’i herwydd, a Uawer fu’r dychymygu pa fodd y lleddid hi. O’r diwedd, daeth un hen fachgen hirbell i’r penderfyniad ’fod ganddo ef Iwybr difai i’w lladd; a thyma’r ffordd a gymerodd. Aeth i gae gerllaw, a thiriodd dwll dwfn yn y ddaear — twll crwn o drawsfesur penodol, ac yna cymerth badell bres fawr, a rhoes hi a’i gwyneb yn isaf ar y twll a gloddiodd. Pan welodd y wiber y pres yn dysgleinio, cyuhyrfodd, ac ymaith a hi ato, a gwnaeth ymosodiadau eguiol ar y badell am hir amser, nes o’r diwedd iddi Iwyr ddiffygio. Yna aed ati, a gorphenwyd ei lladd, a chladdwyd hi gyda llawenydd yn y bryn lle yr arferai fod o’r blaen yn ddychryn i bawb. Ar ol hyn gyrwyd am etifedd Penhesgyn i dd’od adref, gan fod ei elynes wenwyuig wedi ei lladd a’i chladdu; ac adref y daeth yn un cawr, gau fod yr hyn a ofnai wedi darfod am dani. Ar ol bod gartref am dipyn, nid oedd na by w na bywyd i neb 03 na chai ef weled ysgerbwd yr lien wiber, os oedd dim ohoni ar gael, a mynodd gael agor ei bedd. Gwuawd hyny, ac nid oedd yn âros o honi ddim ond asgwni y pen. Pan welodd y dyn ieuanc ei pbenglog, rhoes gic i’r asgwrn, a gwaeddai yn Llawen. “Tydi yn wir fy lladd! yr hen ysgerbwd gwael.” Ond gan nad oedd ganddo am ei draed ond esgidiau pur deneuon, a chan iddo yntau roi cic tra egniol, aeth darn o’r asgwrn trwy gefn ei esgyd, a thorodd friw bychan ar fawd ei droed, medd rhai; ar gefn ei droed, medd eraill; a bu farw’r dyn ieuanc mewn canlyuiad i hyn. Ac felly fe ddaeth geiriau’r gŵr cyfarwydd i ben, sef mai Grwiber fyddai’n angau i etifedd Penhesgyn

2. Gwiber Mowddwy

Ptyw bryd gynt, gerllaw y Dugoed, yr oedd gwiber fawr ddolenog yn cyflawni peth wmbreth o ysgelerderau; a phawb yn ei hofni oherwydd ei maint a’i gwenwyn echrydus. Ond un diwrnod. rhoes un o drigolion hirben y lle ei feddwl ar waith pa fodd i’w dinystrio. a gwnaeth y cynyg canlynol. Canfu fod rhy w gasiueb greddfol rhwng y’Ŵiber â phob peth o liw coch, a pha beth a wnaeth ond gosod i fynu bren wedi ei bicellu yn dda, a thaenodd bais goch yn’ dô drosto. Pan welodd y Wiber y lliw annymuuoi, hi a gythruddodd yn gynddeiriog, ac ato yr aeth heb oedi, gan ymosod arno gyda”i holl nerth; ond pa fwyaf nerthol yr ymosodai’r Wiber, dyfnaf yn y byd yr ai’r picellau i’w chnawd, ac wrth geisio malu y bais goch fe laddodd y Wiber ei hun.

3. Gwiber Coed y Moch

Byddai ar yr hen bobl ofn ddydd a nos yn Nghoed y Moch, a’r achos o hyny sydd amlwg. Yn y nos byddid yn dysgwyl yn ofnus am giy wed swn erchyll ysgrechfeydd’ aflafar cythreuliaid corniog o gwmpas Ceubren yr Euyll, ac yn y dydd drachefn byddai’r Wiber yn gwybetta. ac yn. barod “bob mynyd i dd’od ar draws y neb a ddeuai’n aços i Goed y Moch. Byddai ambell dro yn tor-heulo yn ddiog ar lau Llyn Cynwch, ac ar brydiau eraill gellid ei gweled yn ymlusgo draw ac yma hyd lethrau Moel Othrwm, ac yn bwrw y llysnafedd glafoeriog sydd erbyn hyn yn grug- Iwyth gwenwynig ar leppen y mynydd. Creadur bwytteig ofnadwy oedd y Wiber; byddai yn Uyucu oen yn ei gorpholaeth ar droiau, ac am ffrwythydd, nid oedd digon iddi hi i’w gael. Tybia rhai iddi ladd llawer dafad, ac yna llusgo’r ysgerbwd at goeden, a chylymu ei hun am un gangen, a gosod y ddafad cyd-rhyngddi â’r pren, ac yna dirwyn am dani nes malurio’r esgyrn yn siwtrws mân. Ond yr oedd un hen law yn byw yn y Ganllwyd ag arno flys mawr gwneud pen arni. Bu yn hir iawn yn dyfeisio pa fodd y dygai ei amcan i ben, ac yr oedd ef yn cael ei ystyried yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin yn y parthau hyn; mewn gair efe oedd gŵr cyfarwydd y fro. Yr oedd Arglwydd Nannau wedi cynyg tri ugain muwch i bwy bynag a’i lladdai, ac yr oedd eraill yn cynyg eu rhoddion gwobr am y gamp ofnadwy. Fel yr oedd y Wiber yn myned yn hynach yr oedd ei lladd hi yn beth anhawddach, ac felly’ yr oedd hi yn rhy wyr glas cynllunio rhy w Iwybr ymwared.

Byddai yn gallu hud-ddenu creaduriaid ati. Os edrychai yn Llygaid unrhyw greadur, ni fedrai ddianc o’i gafael. Yr un fath ag y bydd pry’r ganwyll, er gwibio o amgylch-ogylch, ei ddiwedd fydd — fe fyn fyned i fflam y ganwyll, felly yn union pob creadur a welai lygaid y wiber swyn-hudid ef ati rhag blaen. Yr oedd felly yn fil anhawddach ei difrodi o herwydd hyn. Fodd bynag, yr oedd yr hen ddewin Llwyd o’r Ganllwyd wrthi yn parotoi am ei dihenydd. Cynygiodd unwaith am ei gwaed trwy gyflogi cryn ddwsin o wylliaid Cochion Mowddwj’, y rhai a ystyrid y saethwyr cywiraf yn y wlad, ond ni fedrwyd cael un golwg ar yr anghenfil erchyll yr amser hono, ac felly ni ddaethpwyd i ddim gwell pen yn y diwedd. Ond gan fod y tri ugain buwch yn wobr fawr, a Uawer un mewd digon o eisiau’r cyfryw, daeth un o fugeiliaid Cwm Blaen y Grlyn i lawr, ar fedr treio ei law. Nid oedd hwn ond •îlafn o lanc ystwythgryf, prin wedi cyrhaedd ei un ar hugain oed, a chan nad oedd yn foddlon i neb wybod ei hynt rhag ofn iddo fethu yn ei gais, aeth ymaith i chwilio am y Wiber yn ddystaw bach bob ddweyd dim gair wrth neb dyn na dyues, ond wrth Euywmerch yr Hafod-fraith. Yr oedd hono yn y cwnsel. Cychwynodd oddicartref, ar ol cael cuuogiad o faidd, i wylied ei thramwy hefo’i ddau gi. Yr oedd hyn yn beth pur ryfygus, oblegyd yr oedd Dewin y Ganllwyd wedi rbagfynegi mai celain gegoer fyddai pwy bynag a äi yn agos ati heb wisg ddur neu lurig am dano: ond y Bugail o’r Cwm ni faliai fawr yn ei eiriau, oherwydd yr oedd cael y tri ugain buwch i ddechreu byw yn bellaf peth ei feddwl.

Cafodd ei brisg yn lled fuan, heb fod yn mhell o Lyn Cynwch, a dilynodd hwnw’n llechwraidd; ac o’r diwc’dd gwelai’ranghenfil yn cysgu’u dawel o dan berthen o ddrain gTTjmion. Yr oedd y ddraenen -wen yn un gynfas o flodau, a gwyddai’r dyn ieuanc nad oedd dim ar y ddaear las yn well am feddwi’r anghenfil hefo chwsg na sawyr trymllyd y nwy a wasgara’r ddraenen. Aeth yn ol o’i golwg, yn llawn myfyr a chynllun; ond pan yn encilio, tarawodd rhywbeth yn ei ben, os y gallai gael bwyall yn rhywle y medrai ladd y wiber; ac felly gael y tri ugain muwch a phriodi Ellyw, a rhoddi buches iddi yn waddol briodas. (Ac yn wir yr oedd Elly w wedi cadw ei fywyd ef cyn hyn, pan unwaith yr oeddynt yn chwilio ani eu defaid yn y lluwchfeydd, syrthiodd ef i luwchfa, ac ni ddeuasai allan ychwaith oni buasai iddi hi, trwy ei diwydrwydd serchog, dirio i lawr ar ei ol, ac fellyrhoi chwareu teg iddo i anadlu.) Tarawodd yn sydyn yn ei ben mai’r ffordd oreu oedd rhedeg i Fynachlog y Fanner, oblegyd gwyddai y cai yno fwyall iawn, ac hefyd “ollyngdod” rhag ofn digwydd y gwaethaf. Prysurodd yno: cafodd y ddau beth a geisiai, sef “gollyngdod” a bwyall, a dychwelodd yn ei ol gyn gynted ag y medrai: tynodd am ei draed yn mhell cyn d’od at y ddraenen; yna yn mlaen yr aeth gan deimlo awch min ei erfyn hefo’i fawd, a theimlo ambell ias oer hefyd o ofn ond odid.

O’r diwedd daeth i olwg y Wiber, a gwelai hi yn uniondeg fel ag ei gadawodd yn dorchau swrth. Araf nesäodd, a phan oedd yn codi ei fwyall i’w tharo cil-agorodd hi un llygad, ond canodd ef yn ebrwydd, a chyn iddi gael amser i ail-agoryd y naill na’r llall yr oedd min y fwyall wedi treiddio trwy ei phenglog, a’r bugail yn dianc ymaith o gyrhaedd ei llosgwrn: ond cyrhaeddodd ef er hyny yn greulon, nes yr oedd yn ymdreiglo o dan bwys y dyrnod, Pan ar ei hyd gyd, teimlai iasau oerion yn dyfod drosto, ac nis gwyddai yn iawn pa’r un ai by w ai marw ydoedd; ond o dipyn i beth dadebrodd, a gwelai’r anghenfil yn eithaf llonydd. Ar ol gwneud gwyden, cylymodd hono am ei chanol, a llusgodd y wiber tua neuadd Nannau, ond methodd a’i thynu yn mhell, a bu raid iddo fyned tua’r lle hebddi. Hysbyswyd y boneddwr pa beth oedd wedi digwydd, a mawr oedd y llawenydd, aed i’r fan a’r lle, a chaed yr anghenfil yno yn ddigon marw; a mawr oedd llondid pob goppa walltog oddigerth Dewin y Ganllwyd, o herwydd teimlai yr hen law fod dewrder eondra wedi llwyr guro ei ysgil ddewinol ef. Cafodd y bugail ei dri ugain buwch yn rhodd, a rhoes pawb eu hewyllys da yn ol cyfraith cymlaortha. Claddwyd y “Wiber mewn ’bryn gerllaw i’r fan ei lladdwyd, a chodwyd carnedd anferth arni, a galwyd y bryn fyth wedi hyn yn Fryn y “Wiber, a’r garnedd yn Garnedd bedd y Wiber. Aeth y bugail at yr Hafodfraith yn dalog i ddangos ei hun i Ellyw, ond erbyn cyrhaedd yno nid oedd Euyw gartref, yr oedd wedi niyued i edrych am ei chwaer dros y mynydd. Yr oedd hi yn bur niwliog, a thybiai ei rhieni na ddeuai adref y noson hono oherwydd fod yr hin mor anffafriol, ond ymddengys iddi hi, er hyny, fynu cychwyn gyda’r tywyllnos, a cherdded a wnaeth drwy’r nos; collodd y ffordd yn fuan, a cherdded a phystodi drwy fawuogydd a siglenydd y bu hi. Ni wyddai ddim yn mha le yr oedd, er hyny yn mlaen yr ymlwybrai heb un cydymaith byw yn agos ati, nes iddi o’r diwedd dd’od ar draws nyth iâr fynydd. Cododd hono wedi dychryn, a thyna’r unig greadur a welsai, neu yn hytracîi a glywsai, yn ei llwybr diarffordd. Cyn pen ychydig o fynydau aeth wed’yn i ganol siglen neu donnen, ac y’no’r oedd heb allu d’od allan: pob cais a wnai i lawr yr elai, nes o’r diwedd yr oedd wedi suddo hyd at ei cheseiliau. Yn awr dechreuodd adrodd y Pader o ddifrif, a daeth Meredydd i’w meddwl. Ai wedyn i’r Hafodfraith; gwelai ei thad a’i mam, a thorodd allan i wylo, ac yn nyfnder trallod ocheueidiai ei chalon. Pan yn y trybiui meddyliol ofnadwy hwn clywai ryw dwrf, ond coeliai nad oedd y cwbl ond ffansi. Yr oedd yn oeri yn brysur, oblegyd dwfr neillduol o fferllyd ydy w gofer sigleu; a cheisiai wneud ei henaid yn dawel i wynebu’r byd tragwyddol. Pan yn ceisio bloesg lefaru, “01 na fuasai yn bosibl i Bedo wybod lle’r wyf,” dyma rywun yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben, “Ellyw, Euyw,” a phwy oedd yno wedi bod yn crwydro trwy gydol y nos ond Bedo druan, Cychwynodd i fyned i gyfarfod Ellyw o’r Hafodfraith, a phenderfynodd os na ddeuai hi i’w gyfarfod ar y ffordd, ty-ned i dŷ ei chwaer i ddweyd wrthi fod y “Wiber wedi ei lladd, a bod ganddo driugaiu muwch at ddechreu byw, ac yna nid oedd dim bellach yn eisiau ond peunu’r diwrnod priodas. Ac fel y mae pethau yn mynn bod, collodd y ffordd yn glir faes. Ond yn ei fyw nis medrai beidio gwaeddi “Ellyw,” a phan oedd efe fel hyn yn ei ddyryswch, clywai ryw rydwst bloesg, ac adnabu lais main yr hon a garai. Prysurodd at y Ile yr oedd y llais, ac o fedd anamserol — o fbnwes oer y siglen fferllyd, medroddo’r diwedd lusgo allan ei Euyw gariadus. Er ei bod yn haner marw, yr oedd hi iddo ef yn fywyd gwir. Ar ol gwneud ei oreu i’w glanhau a’i chynesu, cludodd hi ymaith ar ei gefn wedi rhoddi o hono ei ddillad ei hun am dani. Cyn pen hir torodd y wawr, a chwalodd y niwl, ac erbyn y plygain yr oedd y ddau wedi cyrhaedd yr Hafodfraith, ac yn ddiddadl mawr oedd y llawenydd yno. Er iddi hi deimlo am ddeuddydd neu dri oddiwrth yr anghaffael, eto, buan y daeth yr coeth galed ac iachus ati ei hun. Priodwyd y ddau, a bu iddynt genhedlaeth gref; ac oherwydd iddo ef wneud y gwrhydri mawr o ladd y Wiber, daeth i sylw’r gwŷr o gyfoeth, ac aeth ei hun yn gyfoethog iawn. Ao fel Mere’dydd neu Bedo’r bugail, yn ddewr ëon a phenderfynol y bu ei dylwyth am oesoedd, a daeth rhai o’i eppil i arfer pais arfau, ac arni yr oedd, “Gwiber, bwyall, a ffon bugail, ar faes glas.” A thyna ddywed traddodiadau’r mynyddoedd am helynt Gwiber Coed y Moch.

4. Gwiber Llechcynfarwy

Yr oedd, rhyw dri-ugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, Wiber yn mhlwyf Llechcynfarwy. Byddai ar y trigolion ei hofn a’i harswyd yn barhaus. Yn wir, yr ydoedd wedi creu dychryn drwy’r rhan hono yn gyffredinol. Llawer a fu’r dyfeisio pa fodd i’w lladd, ond rywfodd nid oedd fawr o Iwydd ar y gwaith. Yno’r oedd y faeden yn torheulo’n dawel. Ond, ryw ddiwrnod daeth i ben llanc o ôf i wneud cais am ei lladd. Gwnaeth bastwn pwrpasol; blaenllymodd ef yn ddeheuig, ac yn y Gwanwyn — tua’r Pasg, penderfynodd roddi ei gais mewn grym. Dydd Sul y Pasg oedd y diwrnod. Aeth i’r Eglwys yn y bore, a chymerodd ei gymun, ac yn y prydnawn aeth i chwilio am y Wiber. Cafodd hyd iddi yn dorchau o gwmpas cricyn o gareg, ac aeth ati yn hyderus. Cynygiodd ddyrnod iddi, ond rywsut ni chyfîyrddodd mohoni, ac fel y bu gwaethaf yr anlwc torodd ei bastwn yn ddau ddarn. Troes y Wiber ato, a fibdd yntau. Lilynai hithau ef; parhau i redeg yn ei flaen yr oedd, a chan arfer y darn pren hefog un llaw oreu y gallai i’w churo yn ei hol, cyrhaeddodd wâl gerig, a medrodd neidio dros hwnw cyn icidi allu ei oddiweddyd. Pan gafodd fod am y clawdd â hi, troes i edrych yn ei ol, a gwelai er ei fawr lawenydd y Wiber yn gwaedu yn ei thôr. Yna ail-feddyliodd am orphen ei waith, ac ati yr aeth hefo’r darn pren, a churodd hi yn ei phen nes y Lladdodd hi.

Ac felly bu diwedd Gwiber Llechcynfarwy. Enw y dyn a wnaeth hyn oedd Owen Tomos Rolant, yr hwn a fu ar ol hyn yn bregethwr hefo’r Methodistiaid Calfinaidd yn Môn, ac y mae crybwylliad am y digwyddiad hwn yn Methodistiaeth Cyinru, gan y diweddar Earch Y. Hughes, Llerpwl

5. Gwiber Glan Hafren

Heb fod yn nepell o Lanidloes, yr oedd Gwiber anferth yn gwneud drygau aneirif, a byddai ei harswyd ar bawb am filltiroedd o gwmpas. Ni fedrai’r pysgodwyr fyned at lan yr i bysgota rhag ei hofn, a gadewid pa greadur bynag a elai i’r cyrau Ue’r oedd yno heb i neb ymofyn dim o’i ol. Ar lan yr afon yn gyffredin y gorweddai, a dywedid y byddai’r dwfr gloyw yn troi’n wyrddlas weithiau pan i’yddai hi yn chwythu arno, neu pan y byddai ar brydiau yn ymdrochi yn rhyw fasle. Yr oedd son am y Wiber yn mhell ac yn agos, a dychryn a braw yn llenwi meddwl y.trigolion. Buwyd yn cynllunio llwybr i’w dyfetha, a’r dull a gymerwyd oedd llosgi’r coed yn oddaith, ond cyn gynted ag y daeth y tân yn agos at ei nyth hi, nofiodd dros yr afon yn dawel i’r ochr arall, a gwnaeth ei hun mor ddedwydd yr ochr arall ag oedd o’r blaen yn y lle a losgwyd. Penderfynwyd llosgi’r ochr arall drachefn yn yr un modd: ac ati yr aethpwyd, ond ni thyciodd hyn, oblegyd nofiodd yn ol i’w hen nyth, ac yno yr arosodd am swm o ddyddiau; gwelid hi yn aml yn amgordeddu o gylch boncyffion golosg y coed, ac yn parotoi ei hesgyll. Cyn hir, collwyd hi yn llwyr, a thybiodd pawb ei bod wedi marw. Aed i dynu y boncyffion yn danwydd, ac i chwilio am ei nhyth hefyd; ond pan yr oeddis un diwrnod wedi bachu dau eidion wrth ddarn o goeden, gwelai’r bobl oedd yno ben rhywbeth yn d’od allan rhwng y gwraidd, ac ni arosasant am amrantiad yno gau faint eu hofn, ac ymaith coesiasant yn ddiatreg. Ymosododd y Wiber ar yr ychain, a Lladdodd y ddau yn fuan. Yr oedd y ddau ŷch, druain, yn beichio’n arswydus, a gelwid y lle fyth wed’yn yn Bant yr Ychaiii. Dechreuodd y Wiber sugno gwaed y ddau ŷch, a gwnaeth hyny gyda’r fath awch nes y chwyddodd yn un rholen. Pan ganfu rhyw hen bysgottwr a ddigwyddai fod ar yr afon yn ei gwrwgl hyn, cymerth ei dryfer ati, a chan na allai symud lladdodd hi rhag blaen; a dywedir fod cymaint o waed wedi d’od o honi nes cochi’r afbn am filltiroedd, ac i’r fan Ue’i claddwyd gael ei alw yn Ldol-goch er cof am y gwaed, ac yn Dir y Wiber er cof am dani hithau. Nid oes dim son am fedd i’r Wiber hon. 6.— Y wiber nant.

Pan oedd yr afanc yn Llyn yr Afanc, yn uwch i fynu, mewn cainc o’r un afon, yr oedd Gwiber yn peri arswyd i’r neb a elai yn agos at ei glenydd, ac a elwid o’r plegyd yn Wiler Nant, neu Nant y Wiber. Yr oedd yr afanc yn greadm- difi’odus enbyd, a pha beth. a wnaed ond bachu yr ychain banog -wrtho, a’i lusgo o’i lyn ei hun yr holl ffordd i Lyn Llydaw yn y Wyddfa, tua’r un ade? gwnaed cais i ddistrywio’rwiber hefyd, oblegyd yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos at y lle. Ni wyddai y trigolion ar fâes medion y ddaear pa fodd y caent ymwared rhagddi, oblegyd blinai hwynt yn ddi-dor-derfyn, ac yr oedd un peth yn perthyn i’r Wiì^er hon na feddai yr un o’r lleill mo hono.

Gallai fyw yn y dwfr fel ar y tir, a phan bwysid arni naill ai gan ddynion neu ry wbeth arall byddai yn hwylus newid ei sefyllfa. Bu felly aui ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd, ebe Edward Llwyd, yn cyflawni direidi. ac yn peri poen a blinder. Ond un o Wylliaid Hiraethog wedi blino clywed pobl yn son ac yn rhuo yn nghylch y Wiber, a benderfynodd fynu ei lladd deued a ddelai. Cyn dechreu ar ei orchwyl anturus, aeth heibio i ryw hen Ddewin, ag oedd yn byw mewn bwthyn unig ar ei ffordd i ofyn tesni ganddo. “Pa fath farwolaeth fydd i mi?” ebai, yn bur geiliogaidd. “Gwiber a’th frath,” ebai’r Dewin. Ofnodd pan glywodd, a rhoes ei antur i fynu. Yn mhen tipyn o amser drachefn aeth at yr un hen Ddewin, mewn gwedd a dull gwahanol, a gofynodd iddo’r un gofyniad. Atebodd yntau, “Torri dy wddf a wnei.” Yntau a aeth ymaith gan gilwenu am ben mor amry w oedd chwedl y Dewin. Cyn pen rhyw lawer iawn aeth yno wed’yn a gofynodd rywbeth i’r un perwyl ag a wnaeth y ddau dro cynt. Cafodd ateb, “Boddi a wnei.” Chwarddodd y Gwylliad dros bob man am ben angbysondeb dywediadau’r Dewin, a dywedodd wrtho, “Pa fodd y mae’n ddichonadwy i mi gael fy lladd gan Wiber, torri fy rtyifddf, a boddi?” “Amser a ddengys, amser a ddengys,” atebai’r Dewin yn bur ddigyffro. Aeth y Gwyfliad ymaith ar Iwyr fedr cael gornest hefo’r Wiber. Aeth i’r Nant ac yna y bu yn dyfal geisio y bwysfil gwenwynig. O’r diwedd ar lethr serth pan yn ymgreinio ynmlaen hyd risyn ar fron clogwyn: uwch ei ben dyma’r Wiber yn nesu ato a brathodd ef yn enbyd yn ei law. Pan yn y bang syrthiodd ry w swm o latheni i lawr, ac yna ar ei ail godwm ymgladdodd mewn corbwll dwfn, ac felly daeth y tri pheth i ben yn ol gair y Dewin. Ar ol i’r si fyned ar led am ydigwyddiad. ffyrnigodd y Gwylliaid fwynag erioedo herwydd y weithred hon, a phenderfynasant wneud cais o’r newydd, ac felly y gwnaed; a saethodd ry wun y Wiber ond nid oedd ddim un mymryn gwaeth. Aeth i’r afon a gwellhaodd ei harchollion yn ebrwydd, ac yno’r arhosodd am lawer o amseroedd meithion ar ol hyn, a daethpwyd i gredu yn ddilys fod rhywbeth yno heblaw Gwiber, a buwyd yn sôn am hir a hwyr am dani. Ond erbyn hyn y mae ei hoes wedi darfod, ac nid oes dim cof am dani oddigerth yr afon fyddarllyd yn neidio hyd y creigleoedd, yr hon a fedr, pe mynai, adrodd y pethau fu yn ddilloesgni wrth y rhai sydd, — nid oes ond yr afon yn gof o Wiber y Nant.

Dyna ddigon o lên y Gwiberod, er fod ugeiniau o chwedlau lled gyffelyb ar hyd a Ued Cymru.

[Fel Attodiad i “Len Y Gwiberod,” dodwn yr hanes canlynol a dderbyniasom oddiwrth Mr. R. Evaus, Cynwyd; diau fod hanes llawer Gwiber yn gorwedd ar gyffelyb sail i hanes y Wiber hon. — Gol.]

7. Gwiber Llandrillo

Eu’s oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyruiou fod Gwiber yn cartrefu mewn Llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derìîynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o ŵyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byriou, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw geu symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhyfygus i wadu y ffaith.

Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwu pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a iyhryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a’u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn; gwirionedd oedd pwnc y dydd, a’r nos hefyd. Yr oeddyn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn.amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i’r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiud cyffrediuol ai y gelyn. Ac wedi hir ddissywl daeth. y diwrnod penod- ediy — diwrnod pwysig oedd liwn ar lawer ystyriaeth. Teimlaillawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon vr oedd yn rhaid i’w mab fyned’ trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a’r gwroldeb hwnw yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar wêithrediadau y dydd hwn.

Yn fore iawn, cyn i”r haul ddyfod yn iawn allan o’i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amry wiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch penwyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-galon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i’r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag y cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd haner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewTL gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus am oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosia’d; a phenderfynodd lly wyddion galluog y gâd, mai y doethaf oedd i bawb fyned i”w fan, a phenu diwrnod arall i ail gynyg am frwydr.

Ond cyn i’r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i’r gymydogaeth oedd wedi gweled mwy o’r byd a’i greaduriaid na’r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain. cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedii, er mawr rvddhad iddvnt, nad oedd y Wiber yn ddim arfgen na CHEILIOG PHEASANT.

Deauwyd wed’yn mai wedi dianc o Wyunstay yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwwdro gan belled â Llandriuo, Ue na welwyd yr un erioed o’r blaen. A dyna’r hanes a’r helynt a fu gyda Gwiber Llandriuo.

Y Forforwyn

Gan Glasynys.

Yr oedd Ifan Morgan yn hoff iawn o fod tua glan y múr Sul. Gwyl, a Gwaith; cyn i’r wawr landeg fritho’r dwyrain, ac adar boreuaf y gwigoedd ddeffro, byddai ef yn hwylio at y feisdon. Yr oedd hon yn hen arfer gan ei dad a’i deidiau, oblegyd, mor bell ag y medrai cof fyned, nid oedd neb yn cofio’r un o’r tylwyth yn gwuead dim ond pysgotta ambell dro, a gwylio’r glanau. Ac nid oedd Ifan Morgan ddim wedi newid dim oddiwrth y rhelyw o’i deulu. Byddai yntau yn awr ac eilwaith yn myned allan i’r môr i ddal mecryll yn eu hamser, neu benwaig jiau ddelent i’r parthau: ond mwy dymunol ganwaith ganddo, er hyny, oedd rhodio ar hyd glan y môr i edrych pa beth a gaffai gan ei ^' Ewyrth Dafydd Jones,” (oblegyd fel yna y galwai ef, a’i deulu o’i flaen, y môr bob amser). Un bore, yr oedd Ifan ar lasiad y dydd yn ymyl ogofau mawrion sydd yn ymledu o dan y bryn sydd ar fin y weilgi fawr, heb weled dim argoel am yr hyn a geisiai. Aeth i mewn yn araf deg i’r ogof, a elwid gan boblglan y môr yn “Ogof Deio,” oblegyd yn hono byddai un o’r hen deulu yn byw a bod y rhan fwyaf o’i amser, ac yr oedd rhyw anmheuaeth rhyfedd yn nghylch y modd yr oedd pethau yn myned yn mlaen yn y gell dan-ddaearol. Byddai’r pysgotwyr yn rhyw sisial hefo’u gilydd fod Deio yn delio hefo rhywun na ddylasai, a’i fod yn cael rhoddion o aur ac arian lawer iawn o rywle nas medrynt hwy% er gwneud eu goreu, wybod o ba le. Coelid yn gyffredin, iddo rywbryd dd’od ar draws Mor-forwjjii yn y fan, ac y bu i’r ddau gyd-fyw hefo’u gilydd, a chael cryn dorllwyth o blant, os gellid galw’r fath gynyrch ar y fath enw. Hyn oedd ddigon amlwg i bawb, y byddai Deio yn aros yn yr ogof am wythnosau heb dd’od ar gyfyl neb; ao er i amry w o’r pysgotwyr fyned yno laweroedd o weithiau, i chwilio am dano ni chlywsant erioed na siw na miw oddiwrtho, ac ni welsant ychwaith un arlliw o hono. Yn ymyl yr ogof hono yr oedd Ifan Morgan mewn tipyn o awydd myned i mewn y bore hwn er niwyn ceisio gwella gronyn ar yr amseroedd drwg hyny; oblegyd nid oedd dim llongddrylliad wedi cymeryd lle er’s dwy flynedd; ieu Y FOR-FOR-WTrii. 435 ragor ar y glanau hyn, ac felly digon gwael oedd yr olwg am gael tamaid y gauaf dyfodol. Yr oedd Ifan wedi myned at enau’r ogof, ac mewn penbleth ofnadwy. Methu’n lân yr oedd a gwneud ei feddwl i fynu pa un a anturiai i mewn ai peidio. Er fod y llanw yn myned allan, ac yntau yn nofiwr da, pe digwyddiasai’r gwaethaf iddo, eto, yn ei fyw ni theimlai ar ei galon fentro i’r fath le. Eisteddodd, ar ol cychwjTi rhyw deirllath iddi, a siaradai hefog ef ei hun fel hyn, “Pe bae Mor-forwyn yn dyfod ataf mi redwn am fy hoedl. Ond beth dalai hynŷ? Dim ar wyneb y ddaear las. Rhaid gafael ynddi, a’i charu hi’n iawn i edrych a wneiff hi fy mhriodi fi. Pe cawn i afael ar dipyn go lew o’i harian hi, mi fyddwn ar ben fy nigon. Diawst I; hyny fyddai’n rhywbethiawn.” Cosai ei ben, ac edrychai draw i bellafoedd y Ue, a phan yn troi ar gip i edrych allan, gwelai ar darawiad amrant ganwyll werdd mewn cllfach uwch ben llyn o ddwfr. Ac ar garreg gerllaw y Llyn, ferch ieuanc dybygasai ef, yn trin ei gwallt. Aeth ati’n araf deg, a dechreuodd siarad hefo’r eneth; ond ni wnai hi ond wylo yn hidl, ac ocheneidio’n drwm. Beth bynag ar a fu, aeth Ifan o’r diwedd i’w hymyl, a chan dynu ei law fawr gyhyrog hyd ei gwallt arafodd dipyn ar ei chri gwylofus. Ond pan afaelodd yn ei Ilaw, ysgrechiai fel ysgafarnog mewn rhwyd; ac er pob ymgais i’w thawelu edrych yn ofnus a gwyllt yr oedd. Ni wyddai Ifan Morgan ar groen y ddaear pa beth i’w wneud: yr oedd yn gweled ei hun wedi d’od yn bur Iwcus; — “cael îiyd i ferch ifanc gyfoethog felly; ac fel pe dae, nid oedd eisio dim ond priodi, na byddai yn hen glwch rhag blaen.” Yr oedd yn gweled yn ei llaw grib aur, a chadwyn o berlau am ei gwddf, ond yr oedd un peth ar ol; yr oedd hi’n noethlymun groen, heb un edefyn yn agos âti. Ond nid oedd Ifan mor Ilwfr ar ol cael hyd iddi. Gafaelodd yn ei dwy law, a cheisiai chware hefo rhei’ny fel y byddai yn gwneud hefo phlant ei frawd, i edrych a ddofai hyny ddim arni. O dipyn i beth, daeth yn well o’rhaner, a cheisiodd Ifan ei chael ar ei lin: ond gwarchod pawb! dyma hi’n gwichian fel haner dwsin o gywion dyllhuan, a chlywai Ifan ryw “fwrhum-hìüriium “yn swnio’n drymllyd gryf yn rhywle draw; “Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd,” ebai, “y mae fy mrawd yn dyfod: brysia, brysia; tyr’d yma foiy,” a chyda’r gair yna, dyma drochion ewynog yn ìluwch Llwyd o’u cwmpas. a’r ganwyll werdd yn diffodd; adfan Morgan, druan, yn cael ei luchio yn ol ac yn mlaen; ond pan yn y crychias, dyma ry wun yn rhoi rhaff am ei ganol 1 Meddyliodd Ifan am ddweyd ei Bader. ond nid oedd hamdden: er hyny, ar darawiad llygad, cafodd ei hun heb frifo dim, er fod yno geryg cas yn y gwaelod, a Uawer darn cyllellog yn tanu allan o och.rau yr ogof; eto i gyd daeth Ifan Morgan allan o hono heb fod ddim criglyn gwaeth, ond ei fod wedi cael dowcfa dda rioL Yr oedd y rhaff o hyd am ei ganol; a phan gafodd ei hun ar y feisdon, nis gwyddai yn iawn pa beth i’w wneud: ofnai weithiau godi cynwrf wrth dynu y rhaff ato, ac er hyny yr oedd arno ei blys, oblegyd gwnai raff angor ragoroL Fodd bynag, deued a ddelai, mentrodd ei thynu i’r lân, ac er ei fawr syndod gwelai yn d’od yn nglyn â hi drwnc lled fawr. Tynodd hwnw hefyd i fynu, ond yr oedd mor drwm fel mai prin y medrai ei rowiio o’r dwfr. Ond ar ol hir fustachu, a fiFaelu, dyma dôn yn dyfod ac yn ei gipio ef a’r trwnc i’r môr; ond cyn i hono eu tynu yn mhell, dyma dôn arall gribog, a’r crib hwnw fel eira, yn d’od ac yn ei gludo ef a’r tru-nc i ben y gorlan, nes yr oedd mewn lle glas, yn hollol ddianaf. Agorodd Ifan y trwnc yn union, a chafodd ynddo drysorau beth anrhaith; a bu wrthi drwy gydol y nos yn cario adref. Erbyn bore dranoeth, yr oedd Ifan Morgan wedi cael y cwbl at ei law, ac ni wyddai yn iawn pa fodd i ymddwyn; yr oedd yn gweled ei hun wedi bod mor hynod o Iwcus, fel y petrusai fyned wed’yn i’r ogof rhag ofn a fyddai gwaeth: tybiai fod ganddo ddiiion i fyw yn ŵr bonheddig, ac felly, i ba ddyben yr âi ef i ymhell hefo’r fath greadur a’r un a welodd yn yr ogof. Ond wed’yn yr oedd peth arall; pwy a wyddai pa faint a gai, os y medrai ef dd’od ynllawhefo’r iyor-/or? cŷíi; oherwydd gwyddai Ifan o’r goreu, mai un o’r rhai hyny oedd y neb a welodd. Ar ol hir gynsidi-o, daeth i’r penderfyniad o fyned; “doed a ddel,'” meddai, mi af yno am unwaith beth bynag,” ac jmo’r aeth. Yr oedd hi’n treio’n gyliym erbyn hyn, ac aeth yntau i’r ogof yn fwy hyderus o lawer y tro hwn, na’r tro cynt. Ond erbyn myned i mewn, nid oedd yno na goleu na ’stwr. Aeth yn ei flaen yn bell bell heb weled na chlywed dim. Bu’n edifar ganddo erbyn hyn na buasai yn d’od a darn o raffgydag ef ermwyncael goleu. Disgwyliodd am gwrs o aniser, ond ni ddaeth neb ar ei gyfyl; troes yn ei ol, a chafodd hyd i geg yr ogof yn Lled rwydd, ac aeth adref rhwng rhyw ddau feddwl. Tybiai ambell dro wrth fyned ar hyd y morlan mai wedi breuddwydio y cyfan yr oedd, ac nad oedd y trysor a gafodd yn y trwnc ond un o ffrwythau diddefnydd a diafael cwsg. Cyrhaeddodd adreffoddbynag, acer eifawr ddywenydd yr oedd pob peth yno fel y darfu iddo ef eu gadael. Ar ol eu trefnu, meddyliodd mai y peth goreu a allasai -wneud yn. awr oedd n’wylio am ei wely, ac felly y gwnaeth. Cysgodd yn hynod o drwm, ond rywdro gefn trymydd y nos, dym’a rywbeth yn d”od ato, ac a dillad llaith yn gafael ynddo. Ceisiodd ymryddhau o’r afael; ond ofer oedd ei waith, oblegyd po mwyaf y treiai, tynaf yn y byd y dir- wasgai ei breichiau gwlybion am dano. O’r diwedd, dyma ryw sisial wrth ei glust, “Cofia di fod yn brydlon fory.” “Aros,” ebai Ifan Morgan, “aros gael i mi oleu canwyll, mi godaf mewn mynyd,” ond cyn iddo ddarfod dweyd hyn, nid oedd yno ddim ond cais lle bu y neb oedd yn siarad ag ef. Methodd yn glir a chysgu ddim un mynydyn wed’yn, a chodi a wnaeth i edrych dros ei drysorau, oblegyd yr oedd wedi cael aur ac arian, gemau a pherlau, cadwyni a thlysau beth aneirif! Pan oedd yr haul yn diog hepian draw yn nhir y dwyrain, yr oedd Ifan wedi cychwyn tua glan y môr; yr oedd amo dipyn o arswyd er hyny, a safai’n syn, yn awr ac eilwaith, gan adfyfyrio dros yr hyn a gymerth le: ofnai weithiau mai dyma’r tro di- weddaf iddo byth gael golwg ar “y tŷ 2: wyn a’r tô gwellt” yn yr hwn y ganed ac y magedef. Waith arall, codai ei galon. a gwelai fyd o hawddfyd o’i flaen. Pan yn nghanol yr adfyfyrion hyn, clywai yn ei ymyl swn rhai o’i hen gydnabod, y pysgotwyr, yn tynu eu rhwyd i’r lan. Rhegai y rheiny’n echrydus am na chawsant gymaint ag un pysgodyn: a chlywai un yn dweyd fod rhyw hen globeu o For-forimjn wedi agor eu rhwydi, ac achub y pysgod braf oedd ynddynt, ac felly rhoddi eu rhyddid i’r cwbl. Ciliodd ef oddiwrth y feisdon, ac unionodd am yr ogof; a phan yn safn hono, pwy a’i cyfarfu ond yr eneth a welsai yn “Ogof Deio” yn trin ei gwallt. Yr oedd erbyn hyn wedi cyfnewid yn fawr. Gwisgai fel boneddiges, ac yn un llaw yr oedd ganddi goron o aur pur, ac yn y llall gap o wneuthuriad rhyfedd. Dywedodd wrtho,” A ddeuaist ti Ifan Morgan? — yr wyf am dd’od i fyw am dro yn mysg dynion y tir: cadw hwn,” ebai, gan’ estyn iddo’r cap; “a chadwaf finau hon,” ebai, gan roddi y goron aur am ei phen,— “merch i frenin ydwyf.” Synai Ifan, druan, oblegyd yr oedd hi wedi cyfnewid yn fawr iawn. Pan welodd ef hi gyntaf yn yr ogof, nid oedd ond rhyw lafnes dan oed, ond yn awr yr oedd yn ddynes brydferth wedi llwyr dyfu. Er hyny, yr oedd yn amlwg mai ŷr un ydoedd drwy’r cwbl. Aethant ymaith pan oedd hi eto ond rhwng dau oleu, ac nis gwyddai Ifan Morgan pa beth i ddweyd. Yr oedd yn fud agos! Ofnai son wrthi am ei fwthyn annhrefnus; ond rhagflaenodd hi’r cyfan. Dywedodd, dan chwerthin, “Gwn dy fod yn awr yn myfyrio pa fodd y medri ddweyd wrthyf am dy gartref: na feddwl ddim am hyny, yr wyf yn ddigon hysbys o hwnw er’s amser maith bellach. Yr wyf wedi cadw golwg arnat er yr adeg pan oeddit yn hogyn gwridgoch yn pysgota yn nghwch. gwyn dy dad: a chlywais di yn canu rhyw gerdd y pryd hwnw, yr hon a beres i mi dy hoffi.

Pan soniais am dy gân ac y ceisiais ei hail adrodd yn llys fy nhad, yr oedd ar bawb eisiau ei chael; bum ar ol hyny lawer gwaith yn clustfeinio am dani, ond ni chlywais air o honi byth wedy’n. Ce’s o’r diwedd ganiatad gan fy anwylion i dd’od i chwilio am danat hefo thrysorau, gau feddwl na ddysget mohoni heb y cyfryw, i mi; a phan gyfarfuaist fi, canfuais nad oedd gobaith ychwaith ond trwy i mi gael fy ngwueyd fel y gweli fi yn awr. Fy enw, pan oeddwn yn fy ngwlad fy hun, yw Nefyn, amerch wyf i Nefydd Naf Neifion, a nith i Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don: y mae genyf lawer byd o geraint yn eich byd chwi, a’m byd inau bellach: na feddwl ddim mwy am dy fwthyu: ond cyflawna yr hyn a ddywedaist, ac yna bydd pob peth er daioni.” Synodd Ifan Morgan fwy yn awr nag erioed ar ol clywed y fath hanes rhyfedd, a’r penderfyniad rhyfeddach fyth. Bloesg-ofynodd o’r diwedd, a wnai hi aros gydag ef “er gwell ac er gwaeth.” Atebodd hithau y giuiun, ar yr amod iddo ef bob amser guddio,y cap o’r golwg, a dysgu’r gân iddi. Nid oes petrusder i fod na chydsyniodd ar unwaith, a phan fwyaf y goleuai’r dydd, mwyaf oll y gwelai Ifan brydferthwch ei ddarpar wraig.

Nid oedd dim ond priodi ar unwaith, ac aed at y gwaith o ddifrif — ac yn wir nid peth i chwarren ag ef y w priodi — ni ddylid gadael iddo ddyfod ar warthaf dyn fel cawodydd Gwyl Grog. Hwyliwyd ati, ac aed y bore hwnw at y neb ag oedd ganddo awdurdod; a’r pryd hwnw nid oedd dim ond un mewn neb rhyw blwyf yn holl’r fath awdurdod. Ond pan yr aeth Ifan Morgan a Nefyn at y neb rhyw un hwnw, yr oedd y chwedl wedi myned ar led mai Morforwyn oedd hi, ac ni fynai ef gymaint a son am eu huno mewn glân briodas. Ond gwyddai Ifan pa beth a wnai’r tro. Y mae un agoriad a egyr bob clo, ond un; ac yr oedd yr agoriad rhyfedd hwnw ganddo ef. Sisialodd rywbeth, a thawelwyd cydwybod yr hen frawd mewn awdurdod rhag blaen. Rhyfedd y fath allu a dylanwad sydd gan yr off”eryn hwn! Gwyr pawb beth y w.

Priodwyd y ddau rhag blaen, a dyna ddiwedd ar yr annghaffael yna. Buont yn cyd-fyw yn dra chysurus yn niwthyn Ifan dros dro, ac yn crwydro gyda glan y môr yn fynych, ac nid oedd neb yn gwybod pa beth a ddeuai i’w rhan bob tro yr aent i mewn i '• Ogof Deio.”

Yn awr trffer am fynyd at hanes Deio. Un oedd yntau a fedrodd dynu sylw un o’r Mûr-foTvji/nio)i, ac aeth ef i fyw i’w gwlad atynt, a galwyd ef yno yn Dylan; ac yno yr arosodd, heb ddyfod byth yn nes i dir ei dadau na’r maen a elwir ar ei enw, sef yw hwnw Maen Dylan, ac yn’ Llaufeuno y mae’r maen hyd heddyw i’w weled.

Ond am Ifan Morgan a Xefyn ei wraig, gwell oedd ganddynthwyanadlu’raw5’r,na Llyncu’rmôr bell, acfelly, gwnaethant anedd gysurus a phrydferth i fyw ynddo heb fod yn mhell o’r Ue y safai’r bwthyn. Xi bu dau erioeJ yn cyd-dynu yn well, ac yn defnyddio cysuronbywyd yn fwy rhinweddol. Bu iddynt amryw blant; dywedir amryw, oblegyd nid cyd-ryw mo’nynt. Bu iddynt bum mab a phum merch, a thyfbdd pob un o honynt i’w maint. Dyud dweyd efallai nad aeth Xefyn gymaint ag unwaith i’w hystafell i orwedd i mewn, heb fodyno fab a merch! Pan fel hyn, yn nghanol eu dedwyddwch, nid anghofient un amser beidio a myned i’r Ogof, ac aml hefyd y loyddent yn myned allan mewn cwch i ymddifyru hyd y môr. Un diwrnod, pan allan yn mhell o dir, a chwech neu saith o”r plant hefog hwjTit, cyfododd tymhestl anniddan. Yr oedd y tonau yn maeddu poer, ac yn glafoerio fel ci cynddeiriog; a chlywyd ryw wichiadau hollol auuaearol. Dychrynai’r plant, ac nid rhyw daweliawn yr edrychaieu mam; ond yn fuan y gwelid hi yn plygu ei phen dros ochr y cwch, ac yn sibrwd rywbeth; ac er eu mawr syndod tawelodd y cwbl yn y fan! Cyrhaeddwyd y lan yn dawel ar ol hyn, ond yr oedd y planthyuaf yn methu’n lan loyw a dirnad pa fodd yr oedd eu mam yn gallu tawelu’r mur. Eywbryd, foddbynag, yn mhen hir a hwyr ar ol hyn, yr oedd plant hynaf Ifan Morgan yn myned heibio i dwr o hen ferched y pentref cyfagos, yn Uoffa mewn cae, a chly went dafodau ffiib-fflab y rhai ’hyny yn cabarlatsio yn ddibaid. Aeth un o’r plant atynt i’r cae, a rhyw fodd lŵ y. gllydd, tynodd un o’r hen ferched yn ei ben, ac ni fuasai yn waeth iddo dynu haid o wenyn meirch neu gacwn geifr yn ei ben na’r rhai hyn. Eduwiasant ddiogi ei dad iddo, a’ifodynperthyni “Deio fawr,” yr hwn a aeth yn was i’r Forwyn-fôr, a chywion Morwyn-fôr y galwasant ef a’i frodyr a’i chwiorydd. Peth cas enbyd fydd am y tro cyntaf glywed rhywlienrinciadau fel hyn yn cael eu taflyd i -wyneb rhywun, ac yntau erioed heb glyweddim son am danynt, na breuddwydio unwaith yn eu cylch o’r blaen! Cafodd llawer un pan na wyddai ef yn flaenoi-ol ddim am y peth, agor ei lygaid yn bur ddisermoni mewn tipyn o ymrafael; felly y bu yma. Cafodd y jilant druain edliw eu mam ac eraill o epil eu tad yn hynod o ddifloesgni gan y giwaid tafotrwg oedd yn y cae yn lloffa. l’arodd hyn i’r bachgen hynaf gymeryd ei feddwl ato, a throi a throsi yn ei fyfyrdod amryw bethau a welodd ef yn digwydd. Cofiai am yr adeg y siaradodd ei fam hefo rywun dros ochr y cwch, ac y tawelodd y tonau creisionog mewn chwiff: hefyd yr oedd rhy w ddirgelwch mawr iddo tuag “Ogof Deio.” Yr oedd yn gwybod na byddai ef byth yn cael myned hefo’i dad a’i fam i’r lle hwnw. Yr oedd, yn wir, wedi bod yn yr Ogof ei hun, ond ni welodd ac ni chlywodd ddim byd yno mwy nag mewn rhy w ogof arall: er hyn i gyd, yr oedd yr edliwiad mai Môr-forwyn oeddei fam yn peri cryn drallod meddwl iddo. Cly wsai ei fam hefyd, ambell dro, yn son am bethau na welodd erioed ddim byd yn debyg iddynt, yn enwedig am “Iys Nefydd Naf Neifion,” ac am “cidyffrynoedd Gwen’hidiw,” a “thiriogaethau Gwyn ab Nudd,” ac yr oedd y tywysog olaf hwn wedi talu A’mweliad a hwynt amryw droion; nid oedd dadl i fod nad teulu cyfoethog iawn oedd pobl ei fam; ond os Mûr-forivyn oedd, dyna bob peth ar ben. Yr oedd y plant yn arw am eu mam, a hithau yn dyner, tawel, a thirion, bob amser. Un diwrnod daeth i balas Ifan Morgan ymwelydd, — -ymwelydd na chai’r phxnt ddim cymaint a’i weled, yr hyn beth ni bu hefo neb o’r blaen. A rhyw ddechreunos, pan oedd y Deuad ieuanc newydd suddo dros orwel y Gorllewin, aeth Ifan a Nefynallanyn ddistaw bach; ac er mor ddidwrf yr aethant, fe anmheuodd rhai o’r plant fod rhywbeth ar droed. Ond yr oeddynt hwy, sef Ifan a’i wraig, wedi dweyd wrth y pen gwas na ddeuent yn ol am dair wythnos neu fis, a chly wodd y bachgen hynaf hyn, a chyfododd ei chwilfrydedd yn fwy nag erioed: aeth ar eu hol hyd at lan y môr, a phan yno, gwelai dôn grychias fel bryn go lew, yn d’od oddi draw yn mhell yn y môr, a gwelai ei fam yn taflu mantell o groen dros ei dad a hithau, ac ill dau yn. ymollwng i fonwes glochog y don fawr; ac ni welodd ddim wed’yn ond y môr fel arferol. Cafodd brawf yn awr mai Murforwyn oedd ei fam, ac aeth adref, ac y mhen y naw diwrnod. druan, yr oedd wedi marw. Torodd eigalon yn deilcliion mân pan wybu pwy oedd ei deulu! Pan welodd ei cliTraer ei brawd wedi marw, aeth hithau i lan y môr a thaflodd ei hun iddo. Ond yn Ue boddi, dyma rvw farchog glandeg ar gefn march ysplenydd yn ei chyfodi hi ar ei farch ato, ac yna yn marchogaeth nerth ga’faelion y traed hyd wyneb y môr gan garlamu dros y tonau mawr fel ag y gwna ceffylau ein gwlad ni wrth hela. Ni wyddai’r gweision a’r morwynion yn y byd pa beth i Traeud, oblegydyroeddNefydd Morgan, sefymab hynaf. yn gorph marw yno; ac yr oedd Eilonwy Morgan wedi taflu ei hun i’r môr. Yr oeddynt mewn penbleth omadwy. “Ond.”' ebai’r ailfab,sefTegidMorgan, a bachtren gwrol a dihitio yn nghoegni neboedd efe, “os na ddaw cenad yma heno, rhaid claddu Nefydd, a thyma’r hyn wnawn; nyni a’i cymerwn i’r feisdon. ac ond odid na ddaw ry wun i”w nol er mwyn iddo gael ei gladdu yn mysg teulu mam.” Ond tua haner nos dyma genad, sef Marchog, yn eu hysbysu y byddai’r angladd y bore hwnw am dri; ond y deuai eu brawd atynt yn ol, am iddynt beidio ag wylo; a bod eu chwaer Eilonwy i gael ei phriodi yn fuan he’fog un o farchogion glanaf a gwronaf Gwerddouau Llion: fod eu tad a’u mam hefo Gwyn ab Kudd yn y Gwaelodion, a bod Gwydion ab Dôn i gyfarfod yr angladd,acidroi’r cwbl yn llawenydd trwy roi calon newydd i Nefydd Morgan, yr hon ni thorai o dan bwysau yr holl fyd crwn cyfa! Yr oedd yr holl bethau hyn yn rhyfedd! Ond tri o’r gloch y bore hwnw aed a’r arch i lan y mor, a rhoed ef yn y fan Ue bydd y tonau yn ymhyfrydu bod, — yn haner y gorlan: nid cynt nag y cyffyrddodd ton â’r arcti nad oedd y catiad yn agor o hono ei hun, a Xefydd yn neidio allan o hono fel Uamhidydd o’r dwfr. Ac yna gwelwyd Gwydion ab Dôn yn rhodio fraich-yn-mraich agefat long oeddyn aros draw. Iddi yr aethant, ac ni chlywodd y rhai oecid ar y lan y fath ganu peraidd erioed. Hwyliodd y Llong ymaith, ac yr oedd yn myned dros y tonau heb gyffwrdd ond a’u brig yn unig.

Rhyfeddai pawb, ac ofnent yngan gair, y naill wrth y Nau hyd yn oed, rhag ofn fod yno rywun o deulu eu meistres yn gwrando! Yn mhen un dydd a blwyddyn gron daeth Ifan Morgan yn ei ol, a phrin yi’ adwaenai ei blant ei hun ef; yr oedd wedi cyfnewid yn fawr nid er gwaeth, fel y mae hi fynychaf; ond yn ddilys er gwell. Ni soniai air am Nefyn, hyd yn oed wrth ei blant; o’r diwedd gofynodd Tegid iddo, “pa le mae’n mam r” “Y mae hi yn Nwfn-gwm Eigion A.nnwn yn chwilio am hynt Eilonwy eich chwaer, yr hon a ddiangodd oddiwrth ei gŵr o Werddonau Llion, ac aeth yn ossymaith hefo Glanfryd ab Gloywfraint. Daw yn ol cyn hir, a chewch yna hanes y rhyfeddodau a welsom ac a glywsom.” Aeth Ifan Morgan i’r wely, ond erbyn bore dranoeth yr oedd wedi marw yn ei wely, a choelid yn gyffredinol nad oedd wedi cael chware teg, oblegyd yr oedd y teulu er’s tro wedi gweled Marchog Du yn d’od i mewn gefn trymydd y nos, ac yn rhoi tro yn y Neuadd, ac yna’n dillanu i’r ffynon oedd yn bwrlwmu mewn cul-gell gerllaw. Aethpwyd ar ei ol lawer gwaith, ond ni cheid dim o’i ol; oblegyd diflanai. Yr oeddis wedi ei weled o ddeutu yn lled ddiweddar, a thybid mai ef a wnaeth ben ar Ifan Morgan. Mawr oedd y twrf yn nghylch y digwyddiad, a chlywid aml un o’i hen gydnabod yn dweyd o dan eu danedd, “O hir ddilyn drwg y mawrddrwg a ddaw,” a “Drwgyw’rdrwg, a gwaethyw’r gwaethaf,” yn nghyda “Llawer bore clir, noswylia yn gymylog.”

Ond claddwyd Ifan Morgan yn barchus, a bore ei gynhebrwng yr oedd Nefyn wedi dychwelyd! Wylai’n hidl am dano, ac ni welwyd mo honi’n llwybro daear ar ol y diwrnod hwnw! Tegid oedd yr etifedd penaf yn awr, a gwnaeth ef drobrawdâ’i frodyr a’i chwiorydd, Dygodd hwynt i fynu yn foneddigaidd, a cheisiodd gadw oddiwrthynt bob chwedl ddrwg yn nghylch eu mam, &c., acfe anfonodd ei chwiorydd i wlad bell i gael eu haddysgu yn y dull goreu; a dygodd ei frodyr i fynu yn y dull costusaf. Yr oedd Tegid hefyd wedi penderfynu, os oedd modd, fwrw dros gof yr hyn a boenai ei frawd gymaint: ei air cyswyn oedd, “dyn yw dyn; ac nid llai dynchwaith.” a chan ei fod ef yn ddyn, ac yn profi hyny yn feunyddiol mewn mwy nag un dull, ni faliai pa beth a sisialld yn îighylch eu deulu. Yr oedd yn gyfoethogiawn, oblegyd po fwyaf a wariai, mwyaf yn y byd a ddeuai i mewn: ac nid oedd un achos da, nad oedd ef yn gymwynaswr iddo. Yr oedd un peth, er hyny, yn ei flinoyn fawr, sefpafodd y daeth ei dad i ben ei daith mor ddisyfyd. Un diwrnod, pan oedd ef a dau frawd iddo yn pysgota yn yr arfor, daethant, wrth fyned o flaen y gwynt, i’r Ue rhyfeddaf a welsent erioed; yr oedd y môr mor lyfn a gwydr, ac mor ddisglaeriaf a’r goleuni cliriaf! Gwelent, heb fod yn mhell iawn oddiwrthynt, faesydd ffrwythlonaf a dolydd mwyaf porfelog: y gwrychoedd a’r cloddiau yn flodeuog arbenig, a’r Llwyni gwyrddleision a’r coedwigoedd ireidd-dŵf yn cyforio’n ddeiliog! Yr afonydd yn ddiog orwedd gan ymlaTrenhau wrth edrych ar eu cysgod eu hun. Draw ao yma yr oedd aneddauprydferthaf. ogywraingynllunatheg adeiladaeth; ac yn y Ue. gwelent bob rhyw fath o lawenydd a gorhoenedd; digrif-n-ch a niwyneidd-dra; ac mewn ambell i le. amlTvg oedd fodyno berori melus gainc awen a cherdd. yn nghyda’r da’wnsio mwyaf ystig. Megis yn y tonau mân gwrymiog yr oedd ad-sŵn yn aros, a phan oeddynt h-n-y wedi blino’n syllu. yr oedd rhyw sŵn yn eu dilyn nes y daethant i’r lan. Wedi myned adref y noson hono, breudd-wydiodd y fr/brawd yr ii.ii peth; sef fod y Mardiog Du yn ymguddio mewn ogof yn nglan y mûr. ac mai efe a lindagodd eu tad. Ar ol adrodd eu breuddwydion y naill wi’th y Llall ^rrth gymeryd eu boreubryd, penderfynwyd myned yno i” w ddal: ond pan ddaethant i’ r ogof. o danluwch U-^yd o ewyntonog, dihangodd, a gweleni ef yn myned ar hyd gwyneb y môr fel pe buasai arweirglodddeg yn marchogaeth er mwyn digrifwch. Y diwrnod hwnw yr oedd eu chwiorydd yn croesi cainc o fôr wrth dd’od adref o’r ysgol, a phan oeddynt tua haner y flPordd cododd yn dymhestl ddychrynllyd, a suddodd y ìlestr a boddwyd” y cwbl, a choeliai’r brodyr mai’r cenaw anhwylus jMarchog Du a wnaeth hyn o ddial arnynt hwy.

Tua’radeghon, cododd cynhwrf mawrynmysg y pysgotwyr oherwydd rhyw fôr-neidr enbyd a welid|yn awr ac eilwaith yn ymdorchi am y creigiau gerllaw yr ogofâu; ac nid oedd na byw na bywyd i Tegid a’i frodyr heb dd’od allan ryw ddiwrnod i’w lladd: allan yr “aethant wedi ymarfogi, ond pan yn ymyl y fan Ue gwelid hi fynychaf, mewn llais dwfn, gwaeddai rywun, “Cymer ofal niweidio (iy chwaer.” Synasant yn ai-w. ac aethant ymaith yn bur üdiswta. Y noson hono aeth Tegid ei hun i lan y môr ac at y lle y meddyliai yi-oedd y for-neidr, a dechreuodd alw arni erbyn ei henw. ond nid oedd neb yn ateb am vn hir. Pan bron a blino’n disgwyl, gwelai hi yn ymlusgo ato, ao yn adrodd iddo mai cosp arni oedd hyn, ac v brddai’n rhaid iddi barhau felly am beth amser wed’yn”; cyfaddefodd pa beth a wnaeth, sef dianc ymaith gydag un na ddylasai. Dywedai iddi hi weled eichwiorydd yn rhodio hefo’u mam, a bod eu tad i dd’od i”r Ogof yn” fuan: ar amrantiad dyma’r Marchog Du atynt, a’^thyma’i gleddyf yr hwn oedd” yn disgleinio fel fHani dân, yn” cael ei daflyd i lawr yn noeth. Yna gydag ef torodd y fffr-neidr i “fil neu fwy o ddarnau; ond’ymiachaihi bob’gafael, felerbvn iddo fyned i un pen yr oe’dd y Nau wedi dyod fel o’r bla”en ac o’r diwedd ymglymodd y neidr am ei wddf, a brathodd ef yn arswydus yn ei ddwyfron. Pan yn y miri hwn dyma’r Marchog Gwyn yno, ac heb seremoni rhedodd ei waywffon drwy gorph y Du a chwympodd ef yn y fan, ac ymaith a’r Gwyn ar darawiada’r fôr-neidr yn dorch am ei wddf. Dihangodd Tegid am ei hoedl, ond nid cyn i ryw angheniil erchyll ei weled a bygwth am ei fywyd ef. Yr oedd hwn yn anferthach na dim a welodd erioed: ac yn gallu byw yn y tir yr un fath ag yn y dwfr. Croch lefai, “Daw dial, dîal daw,” a “Hir yr erys Duw heb daro, llwyr y dial pan y delo.” Trffai o gwmpas Tegid yn mhob ystum a dull. Weithiau byddai fel môr, ond niedrai Tegid nofio: bryd arall fel mynydd o îa, ondgallai Tegid ei ddringo: ambell waith fel ffwrnes o ufel, ond ni fennai y tân ar Tegid: ond fynychaf fel cyd-grynhffad o beth bwystfil ac anifail ysglyfaethus a gwenwynig: eto Tegid oedd dawel a digynwrf; a phan oedd bron a rhoddi ei galon i lawr dyma ddyn ieuanc ato ac yn gafael yn ei fraich, ac yma’n dywedyd wrtho, “Nac ofna; cei nerth.” Ar hyn dyma’r anghenfil yn dianc ymaith gan ysgrechian, a llu mawr o Farchogion mewn dillad ysplenydd ac ar feirch hyweddus yn prancio ac yn ymgodi, ac yn mysg y llu gwelai ei frodyr, ac yntau ei hun hefyd a aeth yn eu gosgordd i wlad ei fam. Ca’dd groesaw arbenig; a chyfarfu a phawb yno’n hapus, ond ei dad. Meddyliodd ani fyned i chwilio am dano i’r byd uchod, a chafodd ganiatad ei daid i’r perwyl hwn. Daeth ef a’i fam a’i frodyr i chwilio am gorjjh Ifan Morgan, a chydag ef yr oedd Gwydion ab Don a Gwyn ab Nudd. Ond ar ol d’od at fedd Ifan Morgan ni fynai ei ddeffro, a pha beth a wnaeth eiailfab, yrhwn a hoffaieidadyn fawr, ondgofyncaniatad i orwedd ar ei fedd nes y dadebrai; ac felly y gwnaeth. Ac ar fedd Ifan Morgan yr erys Tegid hyd y dydd hwn, yn dyst o ffyddlondeb a serch mabaidd. Bydd ei fam yno’n d’od i’w ddyddanu, a’i frodyr hefyd yn anfon anrhegion iddo, ac yntau yn anfon ei roddion i Nefydd Nafneifion ei daid; ac yn byw mewn heddwch a thawelwch a phawb hyd y gall, a dywedir fod eichwaerCeridwen, sef ei gyd-gyfaill ef,îwedi d’odato ifywer’s tro hir, a’u bod yn gwneyd y llawen yn llawenach, y tlws yn dlysach, a’r pur yn burach, ac yn cadw i fynu eu hurddas a’uhanrhydedd mewn heddwch a thangnef, heb doll na mall. Ac felly y terfyn teulu’r Fôr-forwyn.

Sul Coffa Ifan Delyniwr

Yn ein herthygl ar “Gîaddu ynyr Hen Amser,” Cyf. laf, tudal. 91, angliofiasoin grybwyll am yr hen ddefod o Gojfa y marw y Sul cyntaf ar ol yr augiadd. Rhy w hen arfer ysmala ddiniwaid oedd y Coffa yma— un o ddigrif bethau crefydd yr hen bobl. Elai perthynasau y marw i’r lAan y Sul ar ol claddu, ac wedi darfod o”r Gwasanaeth elent at y bedd, penlinient yno, ac wedi treulio tua phum’ mynyd yn yr agwedd hon, ymadawent, a dyna’r Coffa. Ond y mae rhywbeth swynol iawn mewn hen ddefod, hyd yn nod hen ddefod ryfedd fel hon. Edrycher ar y wyryf ieuanc hawddgar acw, lân o bryd a glân o fuchedd, gyda’i gwefusau cwrel, a’i dwy foch fel pe buasai dau rosyn coch tlws wedi eu cusanu a gadael eu hargraff arnynt, ei gwallt du llywethog, a’i ffurf luniaidd gymesurol — pob tlysni yn cyd-gyfarfod i’w gwneud yn un o gywrain brydferthiou natur. Edrycher arni yn dynesu at fedd newydd ei hanwylyd y Sul cyntaf wedi i’r fynwent oer dderbyn ynddo ef glaer obeithion ei serch, ac y mae yn anhawdd canfod golygfa lawnach o deimlad a dyddordeb; canys y mae galar bob amser yn prydferthu prydferthwch fel yr ardderchogir gwyrddlesni Mehefin gan gawod o wlaw. Hi a benlinia tan yr y wen ddu — uwchben gweddillion yr un a garai, a gwlych ei thirion ruddiai; â dagrau, Ueinw adgofion am dano holl ystafellau ei meddwl, a dichon y twng hi yno i’w gwyryfod na rydd ei serch rawyach ar neb ond ar w Hwn ac ar yr hyn sydd uchod. Gwnaeduawer adduned di-dor â phurdeb cyn hyn oddiar y bedd Sul y Coffa. Felly, Mr. Surdrwyn Pharisee, ti a weH mai “Gwell hen arfer na drwg fuchedd.”

Ond â Sul Coffa Ifan Helyniwr y mae a fjmom ni. Un o’r dynion caredicaf a droediodd esgyd erioed oedd Ifan, nis gallai edrych yn ddidostur ar angenoctyd, ac yroedd y fath ffordd fer rhwng ei law a’i galon, fel yr oedd ei logell bob amser yn wag; a’i fysedd bob amser yn brysur yn Ueddfu tylodi a thrueni ei gymydogion. Yv oedd efe yn caru phawb, a pha ryfedd fod piiwb yn ci garu yntau. Nid ydym yn meddwl fod yn yr holl ìyd crwn elyn iddo. Cynauai ei rieni yn eu hen ddyddiau o fethiantwch a Llesgedd. Pan fyddai y weddw dlawd mewn gwasgfa am arian i dalu ei rtient, yr oedd teljTi a thalent Ifan at ei gwasanaeth — dim ond gofyn; a chwyn yr amddifad ni ddiystyrid gan y Telynor calon-lawn. Un felly oedd o; felly y gwnaeth natur o; a buasai yn gymaint cosp amo ei fod yn gybyddlyd ag a fuasai i’r cybydd fod yn hael. Gwnelai hyn ef yn anwylun yr ardal yr oedd yn byw ynddi; a thywelltis llawer bendith galonog ar ei ben. “Dy ewyllys i ti, Ifan bach,” a “chwareuer telyn ar dy fedd,” oeddynt fendithion cyffredin yr oes hono tua Dyffryn Clwyd. “Oscafeich bendith gyntaf, ’wyf yn eiwr o’r olaf,” fyddai ei ateb yntau. A gafodd efe hyny? — ni a gawn weled.

Y pryd hwn, edrychai ein harwr yn ddyn hoenus cryf, yn dynesu at ddeg ar hugain oed; ac fel pe buasai blynyddoedd lawer o hen ddyddiau ar ei gyfer; ond wele angau yn dechreu araf ddatod y llinynau a gysylltant enaid a choriíh, a phob dydd yn d’od a rhyw wendid newydd i’r golwg. Dechreuad ei afiechyd oedd y gwlybaniaeth a gafodd wrth groesi mynydd Hiraethog ar ei ffbrdd o balas Nannau, lle y buasai am bythefnos yn diíŷru y boneddigion â laith y delyn, nyth diliau, A’i mel o hyd yn amlhau.

Pan ar ganol y mynydd diarffordd, daeth yn niwl arno, ac yn y niwl wlaw, ac yn y gwlaw genllysg; collodd yntau ei îwybr; crwydrodd yn y niwl; a churwyd ef mor ddidrugaredd gan y cenllysg nes yr ymollyngoddynlluddedig o tan Iwyn o eithin; ac yno y bu hyd oni thorodd arno wawr dirion y bore. Dyma sylfaen eiafiechyd, a’r afiechyd hwn a derfynodd ei einioes.

Peth digon sobr ydyw angau pob dyn; ond pan fyddo bardd farw, y mae’r achlysur yn cenhedlu yn gyffredin. ddwsin o feirdd i farwnadu ei glodydd; ond iyan y byddo telynor marw, odid fawr y daw neb i lanw ei le, canys y mae ein telynorion Cymreig felëosau ein coedwigoed’d yn prysur ddillanu o’r wlad. Suddo yn raddol i dynged dynolryw yr oedd Ifan; ac fel y gellid tybied cydymdeimlai ei gydnabod yn ddwys ag ef, ac amcan pawb oedd Uiniaru ei gystudd, a llacio gafael angau arno. Yr oedd ei ystafell wely yn un ystorfa o gynyrchion caredigrwydd Berch. Gwelid yno winoedd y boneddwr; ac yno yr oedd “hathng y wraig weddw dlawd,” ar ffurf sypiau o Lun Llygaid, Morwyn y Weirglodd, a llysiau eraill a ystyrid o (.dirfawr leshad rhag y darfodedigaeth; a meddyliai y claf lawn cymaint o sypyn llysiau y tlawd ag o gostrel win y boneddwr, a diolchai am danynt yr un mor galonog. Ond “er gwaedd mil er gweddi mam,” suddo yr oedd o, o ddydd i ddydd. Cefnodd gobaith am fyw oddiwrtho toc, a chyda gobaith am fywyd cefiiodd hefyd ofn marw; dymunodd gael gweled ei brif gyfeillion wrth erchwyn ei “wely; ac me’wn teimladau ffeind iawn ffarweliodd â hwynt oll, tnry ddeisyf ganddynt ei ddeisyfiad olaf. Cod-n-yd ef ar ei led orwedd yn ei wely, a chan gasglu ei ychydig nerth yn nghyd, bloesg lefarodd wrthynt fel hyn:— Yr wyfynmyn’d. Carwn gael fy iN’(7/ìoy«. Ond nid yn yr hen ddull. Yn lle’r hen ddefod, gofynwch i Williams y Merllyn a Richard y Telyniwr, dano’mdysgybliontelynol, dd’od i Eglwys Llanfwrog, a doder fy nwy delyn I iddynt; ac wedi gorphen y Gwasanaeth, cerddant at y bedd; ac eistedded Williams wrth y pen a Richard wrth y traed, a chwareued y ddau saith o hen Alawon Cymreig, gan ddechreu gyda ' Dafydd y Gareg Wen,' a diweddu gyda ’Thoriad y Dydd.' Y mae y gyntaf yn Ueddf fel angau. a’r Llall yn sobr fel dydd brawd.” Yna diffygiodd ei nerth, ac yn ddiochenaid, cymerodd ei yspryd ei aden, ni a obeithiwn, i well byd: a phenderfynwyd cario allan. ddymuniad y Telynor i’r llythyren.

Aeth y gair allan fod rhy wbeth i-hyfedd i gymeryd lle yn Llanfwtog y Sul hwnw; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yno luaws mawr o bobl wedi ymgynuli. Dywedai y Clochydd wrthyf na welodd efe erioed gynifer o bobl ag a welodd yn Llanfwrog y bore sanctaidd hwnw — lawer o honynt wedi dyfod ddeg neu ddeuddeg milltir o ffordd er mwyn clywed y newydd-beth o ddwy delyn yn chwareu deuawdiau wrth Goffa; ac na welodd erioed ond y tro hwnw gynulleidfaaphob Llygad ynddia’i lon’do dda’gran. Bore o Fai oedd hi, a’r adar ar y ^^renau o gwmpas yn caroli’n braf folawd eu Creawdwr; ond pan darawodd y ddau Delynor eu deuawd yr oedd yr acenion galarus yn peri i gor y goedwig ddal eu hanadl, ac yn dryllio teimladau y bobl yn chwillriw mân. Ac y mae yn anhawdd dychymygu Coffa mwy grreddus i Delynor na chyda Ueisiau yr off’erynau cerddyrymddifyraueienaidgymaint yn eu seiniau. Saethir gynan tros fedd y milwr dewr, paham ynte na chwareuer telynau wrth Goffa y Telynor mwyn. Boneddwr uchelwaed oedd “Wiuiams y’MerUŷn,” yn sugno prif ddiddanwch ei fywyd wrth “ddŷsgu gŵaith angylion,” ac wrth “dynu’rmêlo’rtanau mân,” a gresyn na byddai rhagor o’n boneddigion Cymreig yn meddu yn un cyffelyb chwaeth. Dyna a glywsom am Sul Coff’a Ifan Delyniwr; a dyna fel y cyflawnwyd bendithion y tlawd a’r weddw; ag y cafodd yntau ddjTnuniad penaf ac olay ei fywyd, sef chwareu telynau ar ei fedd.

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Y Gwiberod to Sul Coffa Ifan Delyniwr”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-y-gwiberod.