Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal

History of Wales / Library / Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Cymru Fu: the tales and traditions of Wales

Nos Nadolig hyd Ffynon Llanddwynen

Nos Nadolig and Ffynon Llanddwynen: from Cymru Fu, Isaac Foulkes’s book of the tales and traditions of Wales (1862), in its own Welsh.

Picture: Llyn Idwal beneath the Idwal Slabs and the cliffs of Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

The Welsh

Nos Nadolig

Disgwyl y Plygain

Drnigain mlynedd i heno, yr oedd hên ŵr briglwyd, gwargam, sydd yn adrodd yr hanes yma wrthychyn llanc ieuanc deunaw oed; ac wrth adgofio digwyddiadau difyrus y Nos Nadolig hono, bron na chreda mai deunaw oed ydyw eto, er fod ei ogwydd ar bedwar ugain mlynedd. Wel, y mae gan adgof ei phleserau. Pleserau gobaith ydynt eich pleserau chwi, fy nghyfeillion ieuainc, — pleserau edrych yn mlaen; fy mhleser inau ydyw edrych yn ol. Edrych yn ol driugain mlynedd trwy niwl amgylchiadau, a chanfod rhyw lecyn dedwydd ar fy mywyd pan ddechreuodd tân cariad gyneu ar allor fy serch, yn ngoleuni yr hwn y gwelais fy huji yn unig a diamddiffjm. Wrth edrych yn ol (ar fan I, yr wyf yn teimlo yn farddonol) y mae’r cryd cymalau yma yn marweiddio yn fy esgyrn, a gwallt cudynog yn ail gyhwfan o gylch fy mhen; irder ieuenctyd yn dychwelyd, a llesgedd yn llesmeirio o’m mewn; bron nad wyf yn amheu a’i fi ydyw fi; a thra y byddwyf tan y gynfaredd wynfydus hon, gadewch imi ddweyd sut y byddem ni, yr hen bobl, yn bwrw rhan o’n Gwyliau heibio.

Yn nghyntaf, byddai pobl dda ein hardal yn cydymgynull i dŷ rhyw gymydog; a chan fod ffermdy yn meddu mwy o gymhwysderau at gynal y fath gwrdd nac un math o dŷ arall, ffermdŷ yn gyffredin a ddewisid; ac ar lawer ystyriaeth, nid oedd ffermdŷ cymhwysach na Bodangharad. Hen dŷ mawr wedi ei adeihidu yn ol y dull hen ffasiwn oedd Bodangharad, ac aelwyd iddo a allai gynwys deugain i eistedd yn gymfforddus o flaen ei thân (y fath dân ag oedd yno, canys yr oedd yno hen foncyff mawr o wreiddyn derwen wedi ei ddarpar tan gamp ar gyfer y Nos Nadolig), a phentanau gymaint â chegin ambell i fan. Yr oedd teulu Bodangharad yn gynwysedig o ŵr a gwraig llawen-fryd a charedig; ac un mab ac un ferch, geneth bropor tros ben. Penderfynodd y ddau genada etholwyd i ddewis lle, ar wahoddiad wresog oddiwrth bobl Bodang harad, mai yno y disgwyliem y plygain am 1804; ac yno yr aethom yn un torllwyth lliosog.

Noson oerddryghinogoeddy noshono — caenendew oeira wedi ei thaenu tros natur farw, a “gwynt traed y meirw” o’r fath oeraf yn sturmantu ei alarnad ar ei hol yn mhob twll a cheubren. “Gwynt traed y meirw,” y galwai yr hen bobl wynt y Dwyrain, am ei fod yn chwythu at draed preswylwyr y mynwentydd; hen bobl farddonol oedd yr hen bobl er’s talwm. Ond waeth i ch-wi be fo nac eira nac amdo, fe ddaeth yno gwmni i Bodangharad nad oeddynt yn malio niewn dim byd ar Nos Nadolig ond am ei threulio hi mor ddifyr ag oedd modd; a barned darllenydd yr adroddiad hwn o’r hyn a gymerth le pa un a Iwyddasant ai peidio.

bechreuwydy Nadoligyn Bodangharadtrwyigyfeiuion ieuainc y fab a’r ferch gyfarfod yno am drio’r gloch prydnawn Rhagfyr 34ain, abuont hwy yn brysur iawn o’r awr hono tan wyth, yn chwareu mwgwd yr ieir, tynu cwtws, brathu afalau crogedig, bwyta cyflaith, &c. Yr oedd yno ugain o honynt oll, a’r hen ŵr gwachel yma sydd yn dweyd yr hanes wrthych yn eu mysg, ac erbjm heddy w efe ydyw’r unig un sydd yn aros o’r ugain. Yr oedd Angharad, merch y tŷ, yn un o’r ugain, ond y maehithau wedi myn’d — wedi myn’d er’s ugain mlynedd. Pan ddaeth wyth o’r gloch i fynu, tor-wyd y cwmni hwnw, ac aeth pawb i’r fan gan ddymuno “Grwyliau llawen, a blwyddyn newydd dda,” a phenderfynu un ac oll bod yn brydlawn yn y Llan am chwech bore dranoeth ar gyfer y plygain. Pa fodd bynag, yr oeddwn I yn gryn law gyda gŵrBodangharad, a thrwy fod fy nhad a’m mam yn aros yno, a minau yr unig blentyn, ac yn gantor lled rigil hefo’r tanau, cefais inau aros hefyd. Mab a merch y tŷ a minau oeddynt yr unig rai a gawsant aros i ddisgwyl y Plygain, o’r ieuenctyd; a gellwch gredu ein bod yn ei hystyried yn ffafr fawr.

Fel y dywedais, yr oedd yno tuag ugain o honom, a gellid rhanu ein cwmni yn naturiol i ddau ddosparth, sef dosparth y glust a dosparth y tafod. Peth pwysig iawn, ’milant I, ydyw i ni ddeall i ba un o’r ddau ddosparth jTna y byddwn ni yn perthjm, canys fel y dy wed Solmon, “y ffol tra tawo a gyfrifir yn gall, ac o’r ochr arall, gallasaiddweyd, “y call tra tawo a gyfrifir yn ffol,” felly pwnc digon anhawdd ei benderfynu ydyw pa un ai i fod yn dafod ynte yn glust y bwriadwyd ni yn y byd yma. Baich drom ar wlad neu gwmni ydyw gormod o dafodau, a rhyw led farwaidd fyddai hi heb yr un hefyd. Tipyn o bob un, ’mhlant I, a’u harfer nhw yn iawn. Beth bynag yr oedd cwmni Bodangharad yn raeddu anhebgorion cwmni da a difyr, sef clust a thafod. Eisteddem oll ar yr aelwyd fel lleuad haner llawn; a’r tân o’n blaenau yn gwasanaethu fel haul. Ar gadair ddwyfraich o dderw yn y gornel yr eisteddai gŵr y tŷ, ac fel y mae’u alarus dweyd, pibell cyhyd â’i fraich yn ei ben — efeoedd cadeirydd y cyfarfod; ar y pentan wrth ei benelin yr oedd Huw Ifan, y telynor dall; ac ar ei ddeheulaw “bardd “y cyfarfod, Ifan “Shibbols” Eoberts o Dyddyn Shibbols — efe oedd y cyntaf a arferodd y dull addurnol o ddodi ei ffugenw rhwng ei ddau enw priod — mewn gwirionedd, “tad y trueiniaid a’r tri enw,” ydoedd. Ar gyfer y cadeirydd, yn y gongl arall, dacw’r hen chwaer ffraethbertCatrinlDayies, neu Cadi Catrin; ac yn union ar gyfer y tân yr oedd y brodyr doniol Robert Cyffin y Gwehydd, Roli Rolant y porthmon, a Huw Bifau yr hen sowldiwr, — galwai y “bardd” y tri hyn “yn drioedd dawn a chwedl,” yr ardal hono. Y rhai hyn oeddynt dafod a cwmni,” ac edrychasid ar y glust bynag a fynasai draws-feddianu eu lle hwynt gyda chryn lawer o eiddigedd. Beth bynag i chwi, wedi cryn lawer o besychu, symud a threfnu cadeiriau a stolion trithroed, ac ambell un yn gorb-wyso ochr ei stol ac yn cael cwymp lled drwstan, er mawr ddifyrwch i’r gwyddfodolion; ac ar ol i’r chwerthin a’r dyhian oherwydd hyny fyned heibio, dyma R. Huws, Yswain, Bodangharad, o’i gadair ddwyfraich yn y gongl yn codi i agor y cyfarfod, ac wedi dodi ei bibell hir o’r neilldu, cymeryd corniad da o’r ddiod griafol oedd ganddo ef fel pawb arall o’i üaen, pesychu cryn’,lawer fel y byddis “wrth deimlo pwysigrwydd sefyllfa, dechreuodd.

“Fy nghymdogion anwyl, — Dydw’ifawrosiaradwr, fel pe tae; ond y mae geny’ feddwl, fel pe tae, taswn I wedi cael dysg fod geny’ feddwl mawr, fel tae; mi fydda yn ceisio perswadio fy hun fod esgid fy nhafod I yn riây fechan i droed fy meddwl I, hyny’ ydi, fel tae, tydeu nhw ddim yn ffitio’u gilydd. Ond mi geisia dynu fy nhroed i mewn a stretsio fy esgid allan goreu gallaf, fel tae, heno. Mi fydda yn meddwl bob amser mai bendith fawr ydi’r Gwyliau yma, rhy w gareg filltir ydi o ini ar ei siwrnai fawr, fel tae; rhyw inn ar fin y ffordd lle byddwn ni yn troi i mewn i gael tipyn o spree (nid wrth feddwi ydwi’n feddwl ychwaith, fel tae) rhyw ben y gwys, fel tae, Na byddwn ni, yr hwsmyn yma, yn chwanog i edrych yn ol ar ein gwaith, a phenderfynu gwneud y gwys nesa’ yn well, felly o gwys i gwys yr ydeu ni yn troi ein grwn i gyd, ac yn cael ein symud i ffwrdd, ac eraill yn cym’ryd ein Ue. Y mae nhw yn deud fod yr hen dad Nadolig yn hen iawn, cyn byued a Christionogaeth os nad yn hŷn; canys ry wbryd tua’r amser ymaar yflwyddynybyddai’rDerwyddion yn tori yr uchelwydd gyda rhwysg a rhialtwch mawr fel tae, ac yn aberthu y ddau darw gwyn dianaf yn offrwm i’w Duw am y gwydd cysegredig, ac yn rhanu’r cangau rhwng y bobl, a’r rheiny, druain, yn eu hogian ar gapan drysau eu tai er dyogelwch rhag anffodion ac ysprydion drwg am y flwyddyn hono. Pan giliodd Derwyddiaeth o flaen Cristionogaeth, ni ddileodd yr olaf mo’r hen wyl arbenig hon, feallai eu bod wedi ei symud ychydig, a pheri i’r hen dad dd’od atom ar amser arall. Nid oedd y Crist- ’nogion ychwaith i gyd o’r un farn ar y pwnc, mynai rhai iddo ddyfod ar y 2ôain o Ragfyr, mynai y lleilliddodd’od ar y 6ed o Ionawr; a bu raid i’r hen wr am beth amser ddwad i’n byd ddwy waith yn y flwyddyn; un tro at eglwys Rhufain, a’r tro arall at eglwys Groeg, fel tase. Beth bynag, fe ddaru Julius I., Esgob Rhufain, tua chanol y 4edd ganrif, benderfynu mai ar y ’2ôain o Ragfyr yr oedd yr hen ŵr i ddwad o hyny allan. A; felly y daeth o hyd y dydd hwn. Yr ydych yn ^rwybod mai i gofio genedigaeth Crist y sefydlwyd yr Wyl hon: a chredai llawer am hir amser mai ar gyfer y diwrnod y ganed ein Harglwydd y cedwir yr wyl, a pheth da ydyw cadw y fath enedigaeth mewn coffhad bendigedig. Fe fydde’n tadau ni, yr hen Gymry er’s talm, yn credu fod creaduriaid direswm hyd yn nod yn talu parch i’r nos yma; byddai’r gwenyn am haner nos yn canu’n braf yn eu cychod; a’r gwarthegyn y beudy yn penlinio fel pe buasent mewn eg- Iwys — taluparch welwch chi, fel tae. Wn i ddim p’run ydych chi yn coeliopethfelhyn. lCatrin Davies: Bob gair, R. Huws, mi gwelais I nhw fy hun]. O’r goreu, Catrin DaYles, well imi beidio myn’d dim pellach ffordd ene, onite mi dyna ddryghin yn y mhen, fel tae. Ond y mae nhw yn deud nad ar y 2ôain o Ragfyr y ganwyd Crist, ac o ganlyniad nad oes dim mwy o rinweddyn y diwrnod na rhyw ddiwrnod arall. [“Mae nhw yn deud yr hyn a ddeudodd eu nain yn yr Eglwys te,” ebai Cat. Bauies’]. Wel, p’run bynag, gwyl jiohie ydy’r Nadolig, a pheth ìioble ydy’r plygain, a’r gwasanaeth, a’r cyflaith, a’r wydd, a’r cwbl. Hen ŵr 7wNe ydy’r Nadolig. Gyfeillion, gadewch i ni ’neyd yn fawr o hono a’i groesawu, ac yfed iechyd da iddo, a llosgi tybacco i’w anrhydedd, a dweyd chwedlau difyr yn ei glustiau, a’i demptio i frysio atom eto, a chan alw ar Mr. Rolant, arglwydd y porthmyn, i ddeud rhyw hanes difyr, yr ydw I yn myn’d yn oi i nghornel tan ewyllysio i chwi ' Wyliau Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.' “Wedi tipyn o rodres dyma’r rhychor porthmonol yn ufuddhau i’r alwad.

Roli Rolant y Porthmon

Pwt 0 ddyn gwridgoch, yrrtynu at ei haner cant oed, oedd Roli, dyddan ei wala, ac ymffrostiwr gwych. Bostiai iddo dalu yn ystod ei fywyd ugain mil o bunau i ffermwyr Cymru am fustachiaid, ac y dylasent hwy beth bynag ei ystyried yn gymwynaswr. ’Dywedai iddo’fod yn Llundain gant o weithiau, ac iddo lawer gwaith gerdded deg milltir a thriugaiu yn y dydd am dridiau yn olynol, neu yr holl flfordd o Lundain i’w dŷ ei hun, y Llwyn Ynn, yn Nyffryn Clwyd. Dechreuai: Byddai yn well genyf ìjob amser gerdded na marchogaeth; laf,’am nad oedd yr un ceffyl a allasai fy nwyn mor gyflym ag y deuwn ar fy neudroed; 2il, am fod y ffyrdd mor ddrwg mewn llawer man er’s talwm fel mai Uawer mwy rhesymol fuasai i mi gario y ceflPyl hyd ochi- clawdd y ìfordd, nag i im truan anifail fy nghario I trwy y Naid dwfn fyddai ar ei gwaelod; 3edd, am fod yn hawddach i mi gael fy nghymeryd am ddyn tlawd diarian ar draed, gan y gwylliaid ysglyfus a wylient ddychweliad y porthmon o’r ffair, i’w yspeilio o’r oll a feddai. Byddai Pero, taid y ci acw sydd genyf yn awr, gyda fi ar fy nhaith bob amser — yn cerdded wrth fy lledol ar hyd y dydd, a’r nos yn cysgu wrth draed fy ngwely. Nid ychydig oedd fy ymddiried ynddo. Ci call oedd o; yr oedd mwy yn mhen Pero nag oedd yn mhen dwsin o gwn cyffredin. Buom ein dau mewn peryglon mynych; ond rywfodd yr oeddwn yn d’od trwyddynt yn well na’m disgwyliad. Mae llawer o honoch yn cofio Pero? _Catrin Dafis:— 0, ydym; nefoedd i’w enaid]. Wel, yr oeddwn yn d’od adref tros Fwlch Penbarras, yr hwn, fel y gwyddoch, sydd ar yr hen ffordd rhwng Wyddgrug a Rhuthyn, un tro; ac yr oedd hi yn berfeddion o’r nos arna’i yn croesi — rhwng un a dau ar fore Sul, os da ’rwy’n cofio. Ychydig islaw Pen y Bwlch, y mae bedd y Gwyddel hwnw a lofruddiwyd gan Wyddel arall pan oedd y ddau ar ev taith o ffair Rhuthyn; ac fel y mae yn gywilyddus dweyd porthmyn oedd y ddau — fe ddylasent hwy, beth bynag, wybod gwell pethau. Wel, byth oddiar amser y gyflafan yma, yr oedd cryn lawer o draddodiadau fod ysprydion yn hoffi ymlithro hyd y fangre hono, yr hyn a barai imi glustfeinio a llygadu fy’ ngoreu bob amser wrth groesi y Bwlch ar y nos. Ac felly yr oeddwn y nos hono.

Gyda fy mod wedi cyrhaedd Pen y Bwlch, dyma Pero yn dechreu chwyrnu, a minau yn dechreu arswydo; sefyll, gwrando, clywed swn siarad. Tan grynu, myned ychydig yn nes; teimlo’n siwr mai lleisiau dynol oedd y swn, beth bynag a’u llefarai. Pero yn cyfarth yn fygythus. minau yn gwrando diachefn, ac yn meddwl am y porthmon ìiwnw, druan, a laddwyd ar y mynydd. G-wrando wed’yn, a deall mai Gwyddelig oed’d yr iaith a siaredid gan y Heisiau. Yna rhuthrodd i’m meddwl y syniad ofnadwy, ai tybed mai y Llofrudd a’r Uofruddiedig oedd yno yn ysprydol ail fyned tros y weithred o un yn lladd y llall '^ Yr wyf yn cyì’addef fod fy ngwaed a’n newrder i lawr yn rhywle tua gwadnau fy nhraed, os nad yn is. Meddyliais am droi yn ol, ond yn mlaen y mynai Pero fyned; ac nid oeddwn am i neb gael dweyd fod creadur o gi yn ddewrach na Roli Rolant y Porthmon. Yn mlaen yr aethum inau, er y buasai yn well genyf gerdded deng milltir o fforddna rhoddi cam yn mlaen y pryd hwnw; ond nid da gan neb gael ei ystyried yn llwfrddyn, chwi wyddoch. Felly, yn mlaen yr eis I; a beth oedd yno debygecli chwi? — dau Wyddel me-wn cymaint dychrjm â finau, a chan ofn wedi sefyll yn y fan yr oeddynt, gan feddwl mai hanshee oedd y ci a minau. Wedi i ni ddeall ein gilydd, cefais allan mai myned yr oeddynt o’r Dyffryn i Dreffynon i ymofyn rhai o’u cydwladwyr i’w cynorthwyyo i gadw gwylnos i rhyw frawd ymadawedig. Canasom “Nos Dda,” ac aeth pawb i’w ffordd, wedi ei ddychrynu ond nid gan ddrychiolaeth. A dyna fu am y tro hwnw.

Ond yn Birmingham y bu hi yn galed arnom pan yn d’od adref o Lundain, un tro. Byddwn I yn bur fanwl gyda fy lletty; ac arferwn lettya bob amser yn y Ffythars pan yn Birmingham, am fod y bobl yn onest, a’r tŷ yn dŷ parchus. Ond y tro hwn, yr oedd y Ffythars yn llawn, a dy wedodd y wraig wrthyf nad oedd yno wely ar fy ngyfer, ond yr ymorolent hwy am un. Tybiwn inau fod yr ateb braidd yn gwtta i ddyn fel fi — dyn a rawy na llon’d ei logell o arian, dyn ag yr oedd cynifer o’r Saeson blonegog yn dibynu arno am gig; teimlais fy holl waed porthmonol yn berwi, a phenderfyiiais y chwiliwn allan am letty troswyf fy hun. Felly, allan yr eis, gau wneud golwg mor ffyrnig fy th ag y mediwn ar bobl y Ffythars. Crwydrais hyd yr heolydd gan edrych ar bob tafarndy gyda llygad dyn parchus yn edrych allan am orphwysfan ddyogel. Gweîais yn fuan fy mod yn un lled anhawdd ei foddloni, ac er mwyn tynu fy hunan o’r cast hwnw, penderfynais gymeryd y tafarndy cyntaf a ddeuai drachefn o’m blaen, neu yn hytrach y deuwn I o’i flaen ef. Ac felly fu. Tŷ bychan digon del oedd o; aethum i mewn, a gofynais i’r wraig lygadgroes oedd yn y bar os oedd yno letty i ddyn diarth. Goiynoddhithau i’w gŵr gwyneb-lawen, yntau a gyflwynodd y gofyniad yn ol, a hithau wedi edrych yn lled fanwl arnaf (yr wyf yn meddwl mai arnaf fi yr oedd hi yn edrych), a ddywedodd y byddai yn dda ganddynt fy ngwneud yn gysurus. Aethum i mewn, a Phero wrth fy ngwt, canys yr oedd o gyda fi y tro hwn hefyd. Ac er fod pob man yn edrych yn lân a gweddus o’m cwmpas eto nid oeddwn wrth fy modd — yr oedd yno rywbeth ar ol, beth bynag oedd hwnw. Yr oedd y bobl yn edrych yn ddigon llawen groesawus arnaf fi, ond am Pero, yr oedd o druan naill ai ar y ffordd neu yn y goleuni o hyd; ac nid oes genyf fi fawr o feddwl o’r bobl hyny sydd bob amser â’u dialedd ar greaduriaid direswm. Chwi a ellwch benderfynu mai cas fuasent wrthych chwithau oni buasai am eich rheswm, ac nid iddynt hwy yr ydych i ddiolch am hyny. Fy egwyddor I ar y pwnc ydyw yr hen ddiareb, “A’m caro I, cared fy nghi.” Yr oedd rhyw bethau eraill o gylch y teulu hwn na waeth imi heb eu henwi, a barent i mi benderfynu mai dyma y tro olaf y llety wn tan y grong- Iwyd hono. Beth bynag fe ddaeth amser gwely, a digiwyd fi yn mhellach. Yr oedd Pero, fel y crybwyllais, er mwyn diogelwch fy arian, yn arfer cysgu wrth draed fy ngwely. Ac fel yr oeddwn yn dringo tuag at fy ystafell, a’r ci wrth fy sawdl, dyma waedd o’r tu ol imi yn gofyn, “Os oedd y bwystfil hwnw i gael rhan o’m gwely?” ac yn dymimo fy hysbysu yn y dull mwyaf moesgar “Nad oedd gwelyau wedi eu bwriadu i gŵn.” Atebais inau yn Ued sychlyd nad oeddwn yn bwriadu i’w gwely gael yr anrhydedd o gynal esgyrn lluddedig y ci; ond fod genyf y fath werth arno fel nas goddefwn iddo fod yn mhellach oddiwrthyf na’r llawr wrth draed fy ngwely. Grwgnachai hithau rywbeth rhwng ei dannedd nas gwyddwn ac nas mahwn lawer pa beth. Wedi cyrhaedd fy ystafell, a dodi fy eiddo mewn man dyogel, sef yn fy hosan a hono wedi ei rhwymo am fy nghanol, ymofynais am gwsg i’m hamrantau; ond yn lle cwsg d’ai meddyliau gwibiog, ac amheuon ac ofnau. Meddyliwn yn nghyntaf nad pobl garedig oedd y bobl yr oeddwn tan eu cronglwyd, meddyliwn yn ail fod rhywbeth yn amheus yn eu hymddygiad at Pero, yn enwedig yn eu gwrthwynebiad iddo ddyfod i’r un ystafell i orphwys â mi; yna daeth i’m cof luaws o chwedlau a glywswn pan yn hogyn am borthmyn mewn tai yn cael eu hyspeilio, eu lladd, eu darnio, ac yn eu claddu mewn calch o tan gareg yr aelwyd. Bum fel hyn yn magu nadrodd yn fy mynwes fy hun, hyd oni chlywais swn y troed olaf yn darfod oddi ar y grisiau, ac hyd oni chredwn beth bynag fy mod yn clywed dau neu dri yn chwyrnu yn braf o’r ystafelloedd eraill. Yna syrthiais yn ddiarwybod i gwsg trwm o ba un ni ddeffroais am rai oriau. Eithr pan ddeffroais, 0 ddeffroad! na byddo imi ddeffro eto byth yn y dull hwnw. Yr oedd Pero wrth y drws, yn cyfarth ac yn awphio fel peth cynddeiriog. Rhuthrais inau tua’r un lle a gwelwn oleuni yn myned heibio ol a blaen, a chlywn swn siarad uchel; ond yr oedd yn anmhosibl deall beth a ddywedid gan mor ffyrnig y cyfarthai’r ci. Wedi cael ganddo ostegu ychydig, clywn rhyw eiriau tebyg i “y mae’r ci mileinig yna wedi ei ddychryn o;” — llusgais i y ddwy gadair at y drws gan wneud hwnw mor gadarn ag oedd modd; gwrandewais drachefn, “y mae yn debygy buasai yn well ganddo fod tieb y ci heno:” llusgais y gwely hefyd at y drws; “rhaid i ni frysio ei ladd o tra byddo y dwr yn boeth,” ebe llais arall cryf treiddgar, gwaedlyd, llais na chlywais I o’r blaen yn y tŷ hwnw. “Aie, ie!” ebe fi, “fylladd ac yna fy ysgaldio!” rheiais at y ffenestr ar fedr agor hono a gwaeddi allan am help, ond er fy mawr siomedigaeth, ac er ychwanegiad dirfawr at fy helbul, nid oedd moddion agor ar gyful hono; felly mi a droais yn ol at y ddôr gan benderfynu cyfarfod fy nhynsred, a phrynu fy angau mor ddrud byth ag y medrwn. Yr oedd y ci yn parhau i gyfarth yn achlysurol, ac yn mhen ychydig, dyma guro trwm ar y drws, “Trowch y ci yna allan i’r buarth,” ebe llais gŵr y tŷ. Atebais inau yn ddewr, “Os gwele fo yn dda y cadwn I y ci ac y gallai yntau gadw ei dafod.” Gyrodd hyn ef yn gaclwm gwyllt, rhuthrodd yn erbyn y drws, nes y tybiaswn y buasai y fath nerth yn dry’llio tri o ddrysau. Yr oedd Pero yn wylltach nag yntau, cyfarthai nes oedd ei dafod allan yn dyheu am anadl. “Y dyn cyntaf a ddaw i mewn i’r room yma,” ebe fi, “mi saetha fo yn farw gorn gelain gegoer, mi dryllia fo yn ddigon mân i fyned trwy ogr rhawn, mi gochaf y muriau â’i waed o, ac mi — mi — mi geiff y ci yma ysu yr hyn a adewir o hono heb fyned i ganlyn y gwynt,” ac yn ddiarwybod i mi fy hun tra yn traddodi yr araith hon yr oeddwn yn dal darn o bren yn lle gŵn, gan anelu at y drws. Ni chlywais air mwyach gan y gŵr, credwn ar y pryd fod y gell-iau mawr a arferais wedi ei bendroni, ac mai iddynt hwy yr oeddwn yn ddyledus amfy mywyd. Yr oedd sŵa mwstwr yn parhau yn y gegin, minau yn parhau i wylio, a Phero yn parhau i gyfarth, er wedi crygu. Yn y cyfamser yr oedd fy ofnau weithian yn cilio, ond yr oeddwn yn arswydo wrth feddwl beth fuasai’r canlyniad o ddyfod gŵr y tŷ a Phero i gyfarfod â’u gllydd, ni buasai ond bŷwyd am fywyd am dani; a dichon ybuasai’r cia minau yn y diwedd yn cyfarfod â’r un dynged. Pa fodd bynag, o’r diwedd, fe wawriodd y bore arnaf i roddi terfyn ar y fath nos ffin adfydus, a dechreuodd fy yspryd ymloni o’m mewn. Ac yn mhen yr hir a’r hwyr, tybiwn ei Lod yn amser i minau droi allan o”m hystafell-wely: ondsut i edrychynngwyneb y fath dylwyth mileinig ag oedd yn y gegin oedd bwnc sobr eto. Beth bynag i lawr yr eis I; ni fwyteais yr un tamaid; gofynais i’r wraig pa faint oedd arnaf am fy lletty annghysurus? Troais gil fy llygaid a gwelwn fochyn newydd ei ladd yn hongian yn y bwtri. Dy wedodd hithau mor ffyrnig fyth ag y medrai mai fy mai i fy hun oedd fod fy lletty ynannghysurus; eubodhwyynlladd mochyn ybore hwnw, a phe buasent yn lladd hyny o focli oedd yn y byd, na buasai raid i’r ci wneud cymaint o stwr; ei fod wedi deffro eu plentyn bychan chwe mis oed a”i ddycbrynu i ffitiau bron; “ac yr oeddym oll yn synu sut y gallech chwithau oddef y fath genaw trystfawr yn yr un ystafell â chwi.” Ar hyn, minau a ddechreuais agor fy lll’gaid, a throi y peth yn fy meddwl, ac ystyried ai nid anmheuon ac ofnau oeddynt achosion fy holl anghaffael y noson cynt; ac ai nid y mochyn a feddylid wrth son am ei “ladd o,” ac ai nid pobl yn cadw trefn dda yn eu tŷ oeddynt pan yn grwgnach am i mi gymeryd Pero gyda fi i’r ystafell-wely. “Hwyrach, ar ol y cwbl,” meddwn I, “fod y bobl yma y bobl lanaf, onestaf, trugarocaf (ond at gŵn) yn holl dref Binninghaml” Daeth y gŵr yn mlaen o rywle tan chwerthin yn braf, a sylwi ei fod yn meddwl imi gredu fy inod wedi disgyn yn mysg lladron; ac addef ei fod ef unwaith yn credu yn ddiysgog mai dyn haner o’i hwyl oeddwn yn cymeryd y ci hwnw gyda fi i’r gwely; ond fod yr araith fygythus hono wedi haner ei ladd ef wrth iddo chwerthin ani ei phen. Lled addefais inau fod genyf un tro feddyliau rhyfedd am y bobl y syrthiaswn i’w plith; — chwarddasom oll yn braf, ac ysgwydasom ddwylaw yn galonog; ac wedi i mi dd’od dipyn ataf fy hun, mi a eisteddais wrth gystal pryd o fwyd ag a ddarparwyd i borthmon erioed. Byth ar ol hyn, yn nhŷ EobertWhiteycanys dyna oedd enw fy llettywr) y llettywn I yn Birmingham. Daeth y teulu yn dra hoff o Pero; ac o hoffi Pero, daethant i hoffi creaduriaid direswm eraill; a byddai y iylant yn crechwenu, a’r wraig lygad-groes yn llygadloni, a llawenydd Robert White yn ymsionci, wrth ddyfodiad Pero a minau byth oddiar hyny; ac ni byddai neb mwy ei groesaw yno na Roli Rolant y Porthmon Cymreig a Phero ei gi brych. A dyna fy hanes I; a’r cnewyliyn ydyw hyn, “Nid yn y bore y mae barnu diwrnod teg,” ac “Ni bydd doeth yn hir mewn llid.”

“Chwedlau da dros ben, fel tae,” ebai’r Cadeirydd, “ac addysg i Uon’d nhw;” ac ymddangosai yr holl gwmni o’r un farn, ond yn unig Catrin Davies. Yr oedd hi yn meddwl fod sylw Roli ar lygaid croesion yn beth hollol groes i’w golwg hi. “Ti ddylset gofio, Roli, fod llygaid Nelw fy chwaer yn edrych naill ar draws y llall, a pheidio brifo fy nheimladau I fel ene; o ran hyny be ddisgwyliech chwi oddiwrth fustachiaid?” “Mi ddeudaf i chwi be na I, Catrin Davies, mi alwaf arnoch chwi i ddweyd y stori nesaf,” ebai Roli tan chwerthin, “gael i chwi wneud yn well;” ac ar hyaj dyma waeddi mawr am i’r hen gares draethu ei chwedl.

Catrin Dayies o Nant yr Htynllef.

Plentyn annghoeth natur oedd hi, yn byw mewn bwthyn unig bychan yn un o’r nentyddmwyaf anghysTiellac anial yn Nghymru; yr hon nant a alwaf Ncuit yr Hunilef, i’w gwahaniaethu oddiwrth “Nantau” afrifed eraill Cymru; ac fe wel y cyfarwydd â’r lle briodoldeb yr enw, canys yn y glyn coediog hwnw y mae natur bob amser yn ymddangos mor lonydd farwaidd, a phe buasai hunllef trwm yn gorwedd arni. Yr oedd yno tua deg cyfair o dir o gwmims y bwthyn, lle y cadwai yr hen chwaer fuwch a mochyn at ei bywiolaeth. Y rhai hyn oeddynt ei chyfeillion arbenicaf — cydofidiai â hwynt yn eu trallod — cydlawenychai â hwynt. “Ydi’r teulu acw yn iach?” ebai ambell i genaw sobr-wedd wrthi ambell dro. “Na wir mae’r mochyn acw wrth hel mês wedi cael pigyn cas iawn yn ei droed,” neu, “Y mae’r fuwch acw wedi cael Dwy’r Braenar,” fyddai ei hatebiad hithau.

Od a fuasai y sawl a ymgymerasai a byw yn y fath le, ac od Yn ddiau y gwnelsai y fath le pwy bynag a el’sai i fyw iddo. Nis gwyddom ar bwy yr oedd y bai, ond nid oes dadl nad oedd Catrin Dayies yn bentwr o hynodrwydd. Yr oedd edrych ar ffurf ddigrifol ei gwyneb yn ddigon â gwneud i’r sobraf chwerthin; ac yr oedd ei dyn oddifewn yn llawer digrifach fyth. Yr oedd hi yn cashau pob peth newydd â chas perffaith — o ddiafol y byddai pob ffasiwn ganddi ond yr hen ffasiwn. Yr oedd hi yn lauwedd iawn 0 gorph, am fod hyny yn hen ffasiwn; ond yroeddgolchi lloriau tai rhagor nag unwaith yn y flwyddyn, a hyny ar Nos Sadwrn y Pasg, yn ei thyb hi yn falchder a rhodres anfaddeuol; am nad oedd hyny yn hen ffasiwn. Llawr pridd chwi gofiwch oedd gan yr hen bobl; ni buasai golchi pridd yn ei wneud ddim glanach, ond ei ysgubo y byddent ag ysgub o ddauadl; ac odid fawr na byddent wedi ysgubo y Uawr i gyd i’r twll lludw erbyn y Pasg, ac yna byddai raid ail lorio, a dyna “olchi’r llawr”gan yr hen bobl. Yr oedd Catrin Davies yn doriaidd iawn; ac y mae’n debyg mai’r egwyddor hon a barodd iddi beidio a phriodi drwy eihoes; er iddi, meddai hi, gael llawer cynyg hardd a theg. Yr oedd ei syniadau ar Briodas fel pobpeth arall yn od. “Priodi yn wir,” ebai hi, “mi wn bedy Cadi, wn 1 ddim bedy neb arall. Gŵrynwirl i ddiogi a meddwi tra byddwn I a’r plant yn ll’w’gu gartre’. Plant! mi ga rywbeth am fagu moch a Uoiau; cha-vm I ddim ond gofid Wtfh fagu plant.” Yr oedd hi cyn dywylled â’r fagddu; ni fedrai ddarllen gair ar lyfr; er hyny, anf ynych y cyfarfyddech â neb yn medru ar dafod leferydd gymaint o waith y beirdd Cymreig hen a diweddar â hi. Gallai adrodd llawer o interhwdiau Twm o’r Nant mor rigil a disgyniad pistyll; ac o bob bardd efe oedd y penaf yn ei thyb hi. Pan ofynid iddi mewn cwmni fel yma adrodd rhy w chwedl ddifyr, er ei bod yn gwybod ugeiniau o’r cyfryw, yn lle chwedl, troi i ganmol ei hoff awdwr a wnai hi, ac o dipyn i beth, dechreu adrodd rhyw ddarn tarawiadol, er mwyn iddynt gael blas ar y peth, a gofyn iddi am ddernyn liirach. Felly y gwnaeth hi y tro hwn, a dyma y darn a adroddodd; ac fel ffafr fawr ’hi a’i hail adroddodd wrthyf fi dranoeth, minau a’i hysgrifenais. Rhoddais arno yr enw

Diwedd Arthur Gybydd

Enter Arthur Gyhydd, yn glaf.
Ärthur. Hai, how heno, ’r cwmni eglur,
Dyma finau, dan erthwch, yr hen Arthur,
Yn edrych am le i eistedd i lawr,
Gan fy ngwaew mawr a’m gwewyr.

Fe’m tarawodd rhyw glefyd chwerw,
’Rwy’n ofni y byddaf farw;

Ow! bobl, bobl, ’does help yn. y byd, l’m tynu o’r ergyd hwnw.

Rwy’n gweled o ben bwy gilydd
Fy mhechod a’m nôd annedwydd;
Cydwybod sydd imi’n edliw’n awr
Fy nghastiau, mae’n fawr fy nghystudd.

Dacw ddefaid a ddygais, mi wn, tros ddeugain,
Yn rhedeg hyd y llethr, a dacw’r pec a’r llathen;
Dacw’r ŷd budr yn ngwaelod y sach,
A dacw’r pwysau bach aflawen.

Dacw’r llaeth tenau, 0! ’r felldith donog,
Werthiasom ganwaith, dau chwart am geiniog;
A’r mân-ŷd yn y brith-ŷd sy’n brathu fy nghalon '
Mi wneis gam dychrynllyd â phobl dlodion.

Ow! oes yma neb a fedr weddio?
Na phregethwr, na dodor, yn hynod actio?
O! nid oes i’m hoedl i fawr o drust,
Ow I physic, ’rwyi Just a phasio.

Enter Dodor.
Dodor. 0, dear heart, you are sick, ’r-wy’n cweled

Arthur. 0, meistr anwyl, ni fu hierioed cyn erwined, Yr ydwyf bron marw’n ddigon siwr, Coeliwcli, mewn cyflwr caled.

Dodor. Lefsfeel i/our lurist, mae puJìs ctii cweitHo. Arthur. Oes rhywbeth yn ateb y byddaf fyw dipyn eto? Dodor. Yes, yes, I hope youlll come o’r core.

Arthur. lecbyd i’r galon os caf fyw tan y Gwyliau. Dodor. Reres drops for you, i lonyddu’ch. ’sprydoedd. Arthur. Os byddaf farw fel’nifel, nidâf byth i’rnefoedd. Dodor. Don’t he afraid, mae Duw’n trugarog.

Arthur. Ni waeth i chwi p’r’un, ’rwy’n ddiffaith gynddeiriog.

Doctor. ril tvarrant you’-D. burion, mi ddof yma’r bore, To hleed you, and hring some more cyffyrie; Cym’rwch nhw, a chadwch ddeiet dda, Yn ddiddychryn hyn yna i ddechre. _Exit.

Arthur. Ŵel, bendith eich mami chwi, meistr anwyl
Oni ddaethum yn well nag oeddwn yn dysgwyl?
Rhaid gyru at y Person i ddwyn ar go’,
A rhoi gweddi, os bydd eisio Ddydd-Sul.

Os fi ga hoedl eto’n weddaidd,
Mi feddyliaf lawer am fy niwedd;
Ni choeiiaf nad ymadawaf ar frys
A’m holl afiachus fuchedd.

Mi âf i bob cymanfa, Ue byddo’r rhai duwiola’,
A rho’f elusen i’r tlawd, heb euiach blawd a bara;

O, hoedl, hoedl eto i ddarllen a gweddio; [groeso.

Ow! ’r amser gwerthfawr ro’is yn gâs heb geisio gras yn

Duwioldeb, duwioldeb, wyneb anwyl,
Tyred i’m dysgu, yr wyf yn dysgwyl
Y- gwnei fy hyfforddi, mae’m h’wyllys yn bur,
’Nol d’ archiad, i wneuthur d’ orchwyl.

Enteb Madain Duwioldeb.
Duwioideh. Pwy sydd yma, caetha’ cwyn,
Yn galw ar dwyn am dana’?

Arthur. Hen bechadur, heb fod yn iach,
Sydd a’i galon fach yn gwla.

Duwioideh. Fel hyn bydd Uawer hen bechadur,
Pan ddelo dwy’ neu ddofur.

Arthur. O, Duwioldeb, nid âf byth i ildio,

, Mi ddeuaf i’th ddilyn, pwy bynag a ddelo.

Dmoioideh. Duw roes glefyd i’th rybuddio,
A barodd i’th gydwybod ddeffro.

Arthur. iechyd i’th galon di, grefydd dyner,
’Rwy’n gweled fy hun wedi gwella llawer.

Duwioldeb. Deui eto iachach nag yr wyd,
Am hyny cwyd o’th gadair.

Arthur. Wel, dyma fi ar fy nhraed yn rhodio,
Y cwmni mwyndeg, ’rwy’n anmheu gwnaf mendio.

Duwioideh. Gwylia’n odiaeth ar dy fynediad,
A chymer ofal mawr trwy brofiad;
Os dy ddwylaw ar yr aradr a roi, fel Paul,
Ni wiw i ti edrych ar dy ol.

Arthur. ’Does dim sydd gryfach na duwiol grefydd,

Pe dysgit ti Gaenor, fy ngwraig, ar gynydd; [mlaena’,

’Rydwyf er’s deugain mlynedd yn myn’d i’m gwely yn
Ac ni ddywedodd hi weddi erioed, mi dynga’.
Mi fyddwn i ’rioed yn gweddio ryw ’chydig.

Wrth fyn’d trwy ddwfr, neu rhyw ffordd ddychrynedig;

Neu ar fellt a tharanau, y cofiwn i am Dduw,
Ond bellach byddaf fyw yn o bwyllig.
Felly, Duwioldeb, mae genyf yrwan,
Ryw chwant ac ’wyllys i roi tro tuag allan.

Duivioîdeh. Cerddwch, a rhoddwch dro ti’wy gred,
Cofiwch eich adduned cyfan. lExit Arthur.

Yn ddrych i bechaduriaid byd,
Ca’dd hwn ei adael am ryw hyd.

Enter Arthur, wedi myned yn iach.
Arthur. O, nid wyf am gynhwys yma dduwiol ganu,
Llawer brafiach clywed lloiau’n brefu?
Ac yn lle darllen a gweddio’r nos ar led,
Mwyneiddiach genyf weled nyddu!

Duwioldeb. Ow, ddyn truenus, gresynus anian,
Mae’n drist yr awel, a drois ti ’rwan!

Arthur. Beth bynag a drois, ni chewch chwi’n drwch
Mo’ch ’wyllys, cerddwch allan.

Duwioldeb. Onid i mi mae’r addewid hynod
O’r byd sy”nawr, a’r byd sy’ i ddyfod?

Arthur. Ni chefais i o fantais wrth dy drin,
Un difyn, dal dy dafod.

Duirioldeh. Wel, beth a ddarfuchwi gyneu addo?

Arthur. Trymder fy’ nolur barodd i mi siarad dan fy nwylo.

Duwioldeb. Och! beth a wnei di, ddyn anraslon,
Pan ddel dy ddiwedd, g-wanaidd gwynion?

Arthur. Beth a wnaf! ond boddloni heb goll,
I’r un digwydd a’m holl gym’dogion.

Duwioideh. Gwae, gwae di, bechadur chwerw,
Ltnwaith yn fyw a dwy waith yn farw;
Ymroi i geulo ar dy sorod,
’Rol deflFro unwaith dy gydwybod.

Ti addunedaist ger bron Duw,
Y gwellhait dy fuchedd, os cait fyw;

Yn awr, troi ’nol i’th hen ffieidd-dra,
Fel hwch i’r dom, neu’r ci i’w chwydfa! _Exill

Arthur. Wel, hawdd ganddi hi b’rablan a b’reblian,
Ni wiw i mi wrando pawb yn lolian;
Rhaid imi bellach flaenllymu’r ddwy big,
A chodi yn o hyllig allan.

Nid oedd ond ff’oledd a gofidcalon,
I mi fyn’d yn dduwiol, yn mysg rhyw luddewon!

’Rwyf yn meddwl nad oes gan neb fel fi,
Gasach llancesi a gweision.

Bu farw dau lo bach yn. sydyn,
Ddim byd ond o ddiogi edrych atyn’;

Ac ni choeliech chwi byth, y cwmni ffraeth,
Mor wachel yr aeth un mochyn.

A bu farw un hesbwrn, ’rwyf fi’n hysbys,
Mewn mieren, yn nghaeau Moris;
Ac ni fu wiw, ’rwy’n siwr, gan Gaenor na Sian,
Pyn’d yno i ymg’leddu na chroen na gwlan.

’Roedd y gweision a’r gweithwyr oll am y gwaetha’,
Heb ronyn o fater, ond am gysgu a bwyta.

’Rwy’n anmheu’n ddigysur y rhoisant hwy gosyn,
I’r hen awph hurtaidd a fyddai’n dweyd fibrtyn’,

Mi a’u clyweis yn siarad ac yn cadw syryrw,
Fod hono’n ymleferydd y byddwn i farw.

Ac nid ydwy ’n anmheu llai mewn difri’,
Nad oeddynt yn erfyn i mi farw i ’ngrogi;

’Roedd fy nghlocs gan un o’r llanciau yn y domen,
A’r llall yn dechreu glynu yn yr hen wasgod wlanen.

Ac mi fu’m cyn ddyled ag addoli,
A hel pregethwyr acw’i floeddio ac i goethi.

Hwy fwytasant beth anaele,
Rhwng hacon,.bee/, acwyau;

Siawns ond hyny deuant i’n tŷ ni,
I goethi eu pregethau.

Yr holl gwmffwrdd calon ge’s i oddiwrthyn’,
Oedd dangos fy nhŷ, a’m stock, a’m tyddyn;
A llawnder fy ŷdlan, wiwlan wedd,
’Roedd hyny’n rhyw rinwedd ronyn.
Ond mae’n debyg fod arnaf eto gyfri’,
Gwmpas haner coron i’r apothecari;
’Rwy’n foddlon i dalu hyny fy hun,
Pe wnaeth y dyn beth d’ioni.

Enter Dodor.

Dodor. How do, ’r hen corph, darf ’ych mendio clyfar. Arthur. ’Rwyf yn abl grymusdeg, bendith Huw i chwi, meistar.

Dodor. Mae’n ta geny’ gweled chi mor hearty.
Arthur. Mi fyddwn yn iachach pe cawn dalu ichwi.

Dodor. Here’s a hill for the whoie cost.
Arthur. Wel, gobeithio nad ydych ddim yn dost.

Doctor. The total suni, one guinea and a-balf.
Arthur. Aroswch, gadewch i mi edrych yn graflf.
Y gini a haner am cyn lleied a hyny!
Ai diafol a welodd etifedd y fagddu?
Dos oddiyma, leidr, gyda dy llediaith,
Onide, mi dalaf i ti am dy hudoliaeth.

Doctor. Wel, mae genyf ffordd i godi’m cyflog,
Mi fyna’u cael nhw ar fyr bob ceiniog.

Arthur. Ni chei monynt o’m bodd i,
Wyneb ci cynddeiriog.
Ni chefais i o’i ddrugs a’i gelfi dygyn,
Erioed werth deunaw, pe b’ai fo wrth denyn;
Mi feddyliais y buasai’n hyn o le,
Haner coron o’r goreu i’r ceryn.
Yn lle hyny, dyma gini a haner
Fydd raid i mi dalu ar fyrder;
Er i mi wylltio a myn’d o’m co’,
Mi w’rautaf myn e’ eto’i fater.
Ond ni choeliaf nad âf tuagadref bellach,
Mi fydda’ o hyn allan am y byd yma’n hyllach;
Mi wna’ i bawb ganlyn ar eu gwaith,
Mi laenia, ac un â’n saith greulonach.
Enter Angau.

Angau. Stop, old man, you are tobe dead.

Arthur. Ni fedra’i fawr Saesneg, be’ ddywed e’, Ned? Angau. Ton have refused to take warning, but now you shail see. [i mi.

Arthur. Wel,inae ganddo rhyw drwbwl ’rwy’n meddwl Angau. Now, it is too lute to prepare yourself. [delff. Arthur. ’Rwy’n ofni mai baili, mewn difri’, ydyw’r Angau. In a very short time, to Death you’ll be debtor. Arthur. Mi wariaf ddeg-punt cyn talaf i’r Doctor.

Angau. Thon shalt soon go to eternal ìife. [hyny geiff.

Arthur. Fyddai’n well i’r gwalch coeglyd gym’ryd
Angau. I II stay no more to keep you company.

Arthur. Wel, garw ydyw’r Saeson am siarad yn sosi.

Angau. I haveput my hand through thy heart and breast.

Arthur. Beth sy’ a fyno’r rôg â fi mwy na’r rest i
O I mae drwg yn ei winedd, fe daflodd ei wenwyn,
’E.wy’n clywed fy hun yn crynu bob gronyn.

Ow! dyma fi yn awr yn fy rhyfyg annuwiol,
Wedi cael fy nharo yn farwol.

O 1 meddyliwch, ddynion, am eich hir gartrau;
Fe fu rhai o honoch chwi mewn clefyd fel finau,
Ac ar ol codi allan, yn pechu’n syth,
Heb deimlo byth mo’r pethau.

Felly, ffarwel i chwi, i gyd ar unwaith,

Chwi wyddoch nad y w hyn ond act neu chwar’yddiaeth; Ond ni bydd gau Axgau ond chwareu prudd, Chwi welwch, ddydd marwolaeth.

Robert Cyffin y Gwehydd

Chwi a glywsoch am Syr John Salsbri o Leweni, neu Syr John y Bodiau, neu “Sanau gleision;” canys adwaenid ef wrth y tri hyn; aui ei fod yn ŵr boneddig mawr; am fod ganddo gymalau dwbl, a dwy fawd ar bob llaw; ac am fod ganddo ffansi ryfedd bob amser at hosanau o liw glas. Chwi a wyddoch hefyd fod dynion a chymalau dwbl yn gryfion iawn, ac felly Syr John. Yr oedd ef mor gryf, fel y byddai cryn benbleth yn mysg ei gymydogion beth mewn gwirionedd oedd ei nerth. A beth a’wnaeth dau neu dri o fyddigions ond ceisio cael allan y dirgelwch. Arfer Syr John bob bore oedd rhoi tro heibio’r Eglwys Wen — heibio’r fynwent er mwyn dwyn ar gof iddo ei hun mai marwol oedd yntau; a beth wnaeth y byddigions hyn ond gosod ar ei Iwybr hen geffyl, a sach yn ìlawn o dywod ar lawr fel pe buasai wedi syrthio oddiar ei gefn, a hogyn yn sefyll gerllaw; a pheri i’r hogyn gymeryd arno grio pan welai Syr John yn dyfod. Hyny a wnaed, a’r byddigions am y gwrych yn dysgwyl pa beth a gymerai le. Yn mtien ychydig, dyma’r boneddwr yn d”od, a’r hogyn yn crio ei oreu glas, “Am be”rwyt ti yn crio, machgen i?” ebai’r barwnig cymwynasgar. “Am na fedraf gaei y sach yma yn ol ar gefn y ceffyl, syr,” ebai’r hogyn. “Wel aros, gâd i mi wel’d os gallaf wneud rhywbeth o honi.” Yna gafaelodd yn hollol ddidaro yn ngheg y sach, a thafl- )dd hi ar gefn yr anifail, a’r fath oedd ei phwysau fel y mawr am ddyfodiad y cerbyd o Lundain i Ddinbych; a phan ddaeth, a’r sypyn gydag ef, brysiodd Syr John i’w agor; a chyn wired a’r pader dyna lle ’roedd rhyw ddau ddwsin o hadau cocliion bychain wedi d’od yr holl ffordd o Jamaica. Dangosodd hwynt i lawer o”i gymydouion, y rhai a synent yn fawr wrth edrych arnynt, er na wyddent fawr am danynt; ac a synent fwy fod pethau bychain moi ddisylw wedi eu danfon mor bell o ffordd. Beth bynag, wrth i Syr John eu trin a’u trosi, a’u dangos i hwn a’r llall, tybiai fod oglau rhyfedd arnynt, ac ammheuai ai nid oglau penwaig ydoedd; synodd yn aruthr at hyn, ond yn ddios oglau penwaig oedd yr oglau; a pha fwyaf ogleuai arnynt, cryfach cryfach oedd ei gred ar y pwnc. Rhoddodd un o honynt yn ei enau, ac yr oedd bhis cryf penoj: coch arno. “Wyddoch chi beth,” meddai, rhwng difri a chwareu, “y mae’r Andros yn Eoi: er yna yn danfon hadau o fol penog coch i mi; ond gadewch iddo, mi dalaf inau y pwyth yn ol.” Yr oedd hyn tua’r Nadolig.

Daeth y Llundeiniwr ar ymweliad yn mis Ebrill drachefn; mis tra phwrpasol i weithredoedd castiog, a disgwyliai gryn lawer o bleser oddiwrth ei waith yn coario Syr John gyda’r hadyd. Yr oedd y barwnig, er mwyn chwareu ei ran yntau, wedi crybwyll yn un o’i llythyrau fod yr hadyd yn y ddaear. Parodd hyn i’r Llundeiniwr gredu fod yr abwyd wedi cymeryd; a phan gyrhaeddodd Leweni, un o’r pethau cyntaf yr holodd efe yn eu cylch oedd yr hadyd o Jamaica. “O, d’od yn mlaen yn gampus,” ebai Syr John, “y maent wedi egino bron i gyd.” “Egino 1” ebai’r Llundeiniwr, “egino 1” ac edrychodd yn graiî yn llygaid ei gyfaill, ac edrychodd drachefn yn graffach; ond nid oedd yno ond y dilysrwydd perffeithiaf i’w weled — dim yr arhw leiaf o ysmaldod. “0 ie egino,” ebai Syr John, ac heb ychwaneg o siarad, efe a wahoddodd ei gyfaill i gael golwg arnynt; a chan gymeryd y bhien, a’r Lluudeiniwr yn ei ddilyn tan fwmian, “Wel, os nad hon ydyw yr wyth’fed rhyfeddod!” daethant at gonfrl neillduedig yn yr ardd; ac yn ddigon siwr dyna lle ’roedd tuag ugain o egin penwaig cochion mewn tair o resi ar ddull rhesi maip, a thua throedfedd rhwng pob un, “er niwyn iddynt,” ebai Syr John, “gael lle i wreiddio a dail-ledu,” Blaen trwyn ambell un o honynt oedd allan o’r ddaear, tra’r oedd llygaidereill yn svlldremio yn llygaid yr edrychydd; “ond y mae y rhai “hyn wedi cael mwy o haul,” ebai Syr John, ac yr oedd tagellau y rhai hyny uwchlaw y pridd. “W’ei, cyn wn-ed a bod mwg yn Llundain,” ebai’r gŵr diarth, “os gwelais I y fath beth erioed!”' ac edrychodd yn llygaid sobr y barwnig, ac edrychodd y barwnig yn ei lygaid synedig yntau, ond nid oedd yr arhw gwanaf o dwyll na hoced yn y sobrwydd na’r syndod. “Tir da ydyw hwn; mi dŷf y peth fynoch chwi ynddo,” ebai Syr John. “’Ddyliwn wir,” ebai’r Llundeiniwr, ac aethant tua’r tŷ yn ol; er mawr ollyngdod i’r pen garddwr, yr hwn oedd yn yr holl gyfrinach, a’r hwn a ymollyngodd i ffit o chwerthin mor fuan ag y cafodd gefll y byddigions. Yr oedd y newydd-beth hwn i’r Lluudeiniwr niewn garddwriaeth wedi troi a’i gwadnau i fynu bob tyb ag oedd ganddo o’r blaen ar y pwnc. “Pysgodyn o benog, yn tyfu fel meipen! hwyrach y tyfai ceryg mewn ' tir da ' fel gardd y Lleweni; hwyrach y tyfai aur ynddo ’i Mae’r darganfyddiad yma yn werth rhywbeth. Y mae geny’ feddwl am roddi gini yn uaear yr ardd yma.” Bwriadodd hefyd am wneud y peth yn destun araith yn ei glwb yn Llundain, ac mi baratodd gryn lawer o feddyliau ati. Ac mi feddyliodd gryn lawer o feddyliau ereill cyffelyb, meddai Robert Cyffiu, gan droi y sylwedd oedd rhwng ei ddeiutle a’i fochgeru; ond welwch chwi ’does gelly’ ddim amser i fyn’d trostyu’ nhw. Digon i mi ydy w dweyd fod yr hyn a welodd efe yn ngardd Lleweni bron wedi synuy boneddwr i farwollieth. _Catrin Davies:— Dyna dwll newydd i’r byd tragwyddol na wyddwn I ddim am dano o’r blaen]. 0, ai ie? (ebai Robert wedi moni braidd). Ond beth bynag i chwi, (gan ail afael yn awenau ei dymher) mae llawer math o angau, Catrin Davies, — augaullaweuydd, ac angau goiid, acangau cariad, ac felly yn y blaen. Ond mi welodd Syr John fod y gŵr yn dihoeni, ac fel gŵr boneddig, mi ddeudodd wrtho fo; ac felly fe ddaeth pobpeth i’w le, ac fe gafwyd ’chwerthin braf uwchben y cast, ac fe gafwyd prawf fod y gwladwr Cymreigllawu cystal cogiwr â’r Sais o brif ddinas Lloegr. A dyna fy chwedl I, Ifan Huws.

Huw Bifan yr Hen Sowldiwr

Pan oeddwn I yn gwasanaethu fy ngwlad a’mbrenin yn y ’Merica, yr oedd genym ŵr ifanc yn gapten mwyaf rhwyddgalon a welsoch chwi erioed. Nid rhyw glepgi oedd o, na rhyw lêch ffals, ac nid rhyw genaw brwut balch; onddyn drwyddo draw, ac yr oedden ni i gyd yn ffoud dros ben o hono. Yr oedd o mor galon dyner tuag at y troseddwr, mor gymwyuasgar i’r claf, mor hawdd ganddo gynorthwyo y tlawd, fel na chyfeiliornwn lawer pe dywedwn ei fod y m’WTaf anwyl gan ei ddynion o holl gapteniaid George III. Yr oedd yr olwg gyntaf arno yn ddigon a pheri i chwi syrthio mewn cariad ag ef. 0 ran coi’ph. nid oedd o ond byr; ond, ’rwy’n siwr na welsoch. chwi erioed neb yn edrych yn well mewn dillad sowldiwr. Ond yr oedd yn hawdd gwybod fod rhywbeth yn pwyso yn drwm ar ei feddwl o; beth oedd y rhywbeth hwnw nid oedd ei gyfeillion mwyaf mynwesol y medru dyfalu. Byddai yn yrmuno yn y cinio misol ag oedd gan ein swyddogion, ond nid yfai ddim, ac yr oedd y gyfeddach bob amser yn ei sobri yn hytrach nag yn ei lawenhau. Unigrwydd oedd ei brif bleser; a mynych y ceid ef yny coed wrtho ei hun ac yn ymgomio ag ef ei hun rywbeth nad allodd neb ddyfod yn ddigon agos ato i wybod beth a ddywedai yn iawn. Yr unig air a gly wyd oedd, “Felly Gwilym 1” ^ỳ’id oedd neb yn gwybod yn iawn yn mha gŵr o’r byd y ganwyd ef; a phan holid ef ar y pwnc dy wedai mai yn Nehebarth Cymru, ond ni ddangosai unrhyw awydd i fyned yn mhellach i fanylion ei haniad. Tybid mai y rheswm tros hyn ydoedd ei fod yn hauu o deulu isel; ond yr oedd ei foes a’i arfer foneddigaidd yn lladd y dybiaeth hon hefyd. Ond y penderfyniad y deuwyd iddo oedd mai wedi ei siômi gyda”i serch yr ydoedd; a bod y geiriau a glywsid o’i hunan-ymddiddan yn cadarnhau y penderfyniad hwn; ac mai rhyw Gwilym oedd ei wrthymgeisydd. Ond pwy oedd y Gwilym hwn, ni wyddai neb. Nid amlygai y capten unrhyw bryder ychwaith ar fater yn y byd — buasai hyny hwyrach yn rhoi rhy w awgrym i ddatguddiu y dirgelwch. Mae’n wir iddo holl unwaith neu ddwy os oedd y âSth foot yn y ’Merica; a phan hysbyswyd ef nad oedd, ymddangosai braidd yn siomedig; a phän atebwyd ef drachefn fod y regi/nent ar ei ffordd o Brydain ymddangosai braidd yn Llawen. Holai y cornol fcoloneij drachefn pa bryd y cyrhaeddai y eSí/i, ac i ba gŵr o’r wlad yr oedd hi i gwartro? Atebai yntau ei bod i gyrhaedd Xew York ar y 6ed o’r mis canlynol; ac yn ol i)ob tebyg y byddai iddi aros am yspaid beth bynag gyda ni yn fltica. Xid oedd y ddadl leiaf na wenodd y capten wrth y newydd hwn un o’r gwenau Llydain, dyfnion, hyny “sydd bob amser a’u tarddiad yn y galon. Ond er hyn oll yr oedd dirgelwch ei fywyd llawn mor ddiesboniaci ag enoed. A oedd ei wrthymgeisydd yn y regiment, ac yntau yn bwriadu dialr eto nid gwên “ffals ddieflig y dialgar oedd ar ei wyneb pan glywsai y newydd. wedi hyn, ar ystorm, ymddangosai mewn pryder dwfn, a mynych holaiei gyfeiflioa os meddylient ei bod yn gymaint ystorm ar y dwr ag ar y tir. O’r diwedd, dyma’r Cornol yn derbyn llythyr yn ei hysbysu fod y -lSth -wedi cyrhaedd yn ddyogel i Xew York; ac y byddent gyda ni tua’r 2ôain. Yr oedd yn dda genym oll glywed hyn; yr oedd gan rai o honom gyfeillion yn y regiment hono; eraill a ddysgwylient fanylion rhyw newydd o’r hen wlad; ac nid wyf ynmeddwl fod yn ddrwi; gan neb glywed ein bod i gael cwmni y iSfh. Ond o bawb, y capten oedd y llawenaf am y newydd hwn; nid oedd dim terfyn ar ei sirioldeb.

Beth bynag i chwi, o’r diwedd fe ddaeth y 25ain o’r mis, a pharatoisom ninau i roddi derbyniad croesawus i’n cydfilwyr; ac yn hyn o beth nid oedd neb prysurach a mwy gwresog na’r capten. Tua haner dydd, dyma ni’n clywed eu seindorf, a ninau yn ymdrefnu mewn dull milwrol i’w chroesawu: dacw nhw a’u haner yn chwifio, a’r wisg goch Brydeinig yn pelydru yn llygad haul; taniwyd y gŷnau. ac wedi gorphen y ddefod filwrol prysurasom at ein gilydd i roddi cyfarchiad llai ffurfiol ond cynesach; cyfarchiadau calon gynes Prydeiuiwr yn cyfarfod Prydeiniwr mewn gwlad íaell. Yr oeddwn I yn gwylio’n ddyfalholl ysgoiadau y capten. Gwelwn ef yn carhimu ar ei farch hyd at gapten y iSth, yn ei gyfarch felmilwr, ac yn ysgwyd Ilaw ag ef yn galonog. Gyda hyn, disgynodd y ddau oddiar eu meirch, gan syrthio ar ydd’fan eu gilydd ac ymgusanu. Aethuui yn nesatyntachlywais ygeiriau, “Gwilyman-wyl, yr oeddwn yn eich disgwyl I” “Lunedl Luned!” ebai’r capten arall, “pwy fuasai yn meddwl aui danoch chwi, a’ch gweled yn sowldiwr!” Bu llawer ychwaneg o siarad o’r un natur, na byddai ond gwastraff ar amser i mi eu hail adrodd. Aethant ymaith gyda’u gilydd, a”r olwg nesaf a gefais I ar fy nghapten oedd mewn gwisg merch; ac os oedd o (neu hi ddylwn I ddweyd) yn edrych yn dda mewn dillad sowldiwr, welais I neb erioed yn edrych yn well yn nillad boneddiges. Gyn pen y mis i ddyfodiad y 48í/i i Utica, cefais y pleser o weled priodas fy’ hen gapten gyda Capten Gwilym Wiiiiams, o’v48th gwŷr traed byddin ei fawrhydi George III.

Gyda fod y gymeradwyaeth i araith Huw Bifan wedi gostegu, dyma yr hen gloc derw mawr yn y gornel yn taro dau o’r gloch y bore; a dyma fwyd o”n blaenau mor sydyn, dystaw a di-ddysgwyliad, a phe buasai rhai o fodau gwlad hud a Lledrith wedi ei ddwyn yno. Ond ni fynai y Cadeirydd son am fwyta, fel tae, cyn gorphen y cyfarfod yn drefnus yn ol y cynlluu a osododd efe o”* flaen; ao yr oedd yn aros eto Anerchiad gan y Bardd; a chanu hefo’r Tannau yn yr hen ddefod o derfynu Nos Nadolig. Yn nghyntaf galwyd ar y Bardd, ac yntau wedi ymsythu a ctiorn-garthu addywedodd:— “Llyma Myfinau, trwy ras ein cadeiriawl gyfaill, yn meddu yr anrhydeddawl bleser o eich anerch. Gwnaf hyny mewn 70 o Englynion Unodl Union.” Taflodd Uawer un olwg hiraethus ar y bwrdd a’r swper. Ac yn wir pwy a garasai eistedd o flaen ei swjjer i wrando ar 70 o Englynion Anerchiadol. Ond yr oedd ein Cadeirydd am drefn,ac yr oedd yn rhaid i’n clustiau ninau fy’ned tan y driniaeth chwerw; eithr o drugaredd fe ddaeth ymwared annisgwyliadwy. Dechreuodd y Bardd:—

Ddoniol ddynion cfor-ddenawl — digrifawl
Dyna grefydd cas gan-ddiawl
Yn cadwY nos Nadoligawl
Tm y’r gwyll hyll, hyd awr gwawr gwawl.

Ar hyn bu mwstwr anghyffredin, pawb yn rhuthro o’i gadair tuag at Catrin Davies yr hon oedd mewn ffit, ac yn ei dau ddwbl weithiau a phryd arall yn ymsythu mor gam a phe buasai am daflu ei chorphyn fel dilledyn dros gefn ei chadair. “Dwr iddi!” ebai un; “gwynt iddi,” ebai’r llall. Yn y cythryfwl, rhedodd Angharad ataf fi a rhoddodd ei phwys ar fy mraich; a dyna yr engraiff’t gyntaf o’i serch tuag ataf; a neidiodd y marworyn serch a lechasai er’s talwm yn fy mynwes I ati hithau yn fham. Evwfodd neu gilydd anghofiais Catrin Davies yn Angharad Huws. Yr oedd ei genau yn llydan agored, a’i breichiau yn ymluchio yn ol a blaen. Yn mhen tua thri mynyd ymlonyddodd. “Ohol Oho! bobl anwyl,” meddai” hi, “wel dyna y brydyddiaeth ddigrifaf a gly wodd fy nwy glust I erioed. Prydyddiaeth y gath,” ebai hi tan chwerthin yn uchel; “wel yr oedd dy Englyn di, Twm, druan, yr un ffunud a phrydyddiaeth Twm y gath acw pan rodd o ei droed yn yr uwd poeth. Paid a deud gair arall, Twm anwyl, onide mi Uaddi fi yn farw gorn.” A dechreuodd pawb chwerthin yn galonog am ben Catrin Davies ac am ben y farddoniaeth. Pawb ond Shibbols; edrychai ef, a’i bapur yn ei law, cyn sobred â sant, athybiai fod rhyw deilyngdod uchel yn ei waith pan y cynyrchai y fâth effeithiau. Daliai yr hen chwaeri ctiwerthin a gwaeddi, “Paid Twm anwyl!” ac yn nghanol yr annhrefn, cododd y Cadeirydd i fynu a dy wedodd er mor dda fuasai ganddo sefyll at ei gynllun, a thrwy hyny glywed holl waith y Bardd Thomas Shibbols Eoberts, fel tae; eto yn ngwynei» y cynliwrf a greasai yr Englyn cyntaf, ei fod yn erfyn arno gadw y 69 Englynion eraill hyd y Nos Nadolig nesaf. “Canu hefo’r Tannau ’rwan. I ddechreu; Hu-w, fara “/S’ercA TTííJo?.”

Y Cadeiiydd:—
Hwda I Roli, ar ol yfed,
Cyffin, caffia’r gerdd i gerdded,
Cadi, codwch, myner mwyniaut,
Huw, a Shibbols, na foed seibiant.

Roh: O’n ngwaith fy hun pan oeddwn yn y byd o’r blaen, ac yn myn’d tan yr enw Huw Morys:—

Caseg wine coesau gwynion,
Croenwen denau carnau duon;
Camau duon croenwen denau,
Coesau gwynion caseg winau.

Robert Cyffin a Huw Bifan yn datganu Hen Beniuion.
Catrin Davaes:—

Caffio ddaru Robert Cyffin
Fod rhyw fferdod anghyffredin—
Cociie’n smelio lle ysmala,
A dyna synu yn nhraed hosana’.

“Shibbols am byth!” ebai hi, '• tyr’d tithau a phill, Twm;” ond yr oedd y Bardd mewn soriant, ac ni ddywedodd air.

Tyr’d dithau Gruflpydd, ebai Ifan Huws wrthyffinau; a chan fy mod I yn dipyn o fardd, mi genais fel hyn:— Bodangharad! boed ’y nghoryn Bodangharad! be ’dy neore Mor wyn a’r barug ar y Berwŷn; By w yn ngolwg mwg ’fy nghartre’, Os ymswnio a wna’m syniad Cael yn wraig a fyddo’m cariad, Nad y’ nghoron Bodangharad. Bydio yn nghyraedd Bodangharad.

Boed Angharad byw dan goron,
Rheded gwin o’i gwenau gwynion;
Boed i minau fy nymuniad —
Bydio yn nghyraedd Budangharad.

Yna tawodd sain y delyn, a dechreuodd sŵn y cyllill a’r ffyrch, ond yr oedd yn amlwg fod fy mhenillion musgrell I wedi cael eu hefîaith, canys edrychai Angharad yn yswil gariadlawn arnaf; am y lleill yr wyf yn meddwl fod eubryd hwy ormod ar y swper i ystyried yn iawn beth a ddywedwn. Buom yn cadw cwmni am bum mlynedd, ac yn briod am yn agos i ddeugain. Ond y mae hi eich nain ch-wi, ’mhlant I, wedi myn’d er’s ugain mlynedd. A dyna, hyd y gallaf fi gofio, fel y cynaliwyd Nos Nadolig, yn Bodangharad yn y flwyddyn 1804. Aethom yn un criw cariadus i’r Plygain, ac ni welais I ddim o olion digrifwch Bodangharad ar y defosiwn yn Nhy Uduw.

Ffynon Llanddwynen

Gan J. Ceiriog Hughes.

Gan Y. Ceiriog Hughes.

Pwy byTiag a fyddai yn glaf o gariad yn yr hen amseroedd, cynghorid y claf, bid fab bid ferch, i fyned ar bererindod at ffynon Llanddwynen,

Sir Fon, ac yfed o’r dwfr hyd oni wellhai ei galon.
Mae flfynon Llanddwynen yn rhedeg o hyd,
Er hyny mae cariad yn by w yn y byd;
Er gwaetha’r ellylloa sy’n byw yn y lli,
’Does dim eill wahanu fy meinwen a mi.

Mi eis i Landdwynen ar ddiwrnod o hâf,
Yn isel fy meddwl, o gariad yn glaf:
Mi yfais o’r ffynon, ond trois yn ddioed,
I garu fy nghariad yn fwy nag erioed.

Gofynais am gynghor, a d’wedai hen ŵr,
Y dylwn ymdrochi yn nghanol y dŵr:

Mi neidiais i’r ffynon, a suddais fel maen,
Ond codais mewn cariad dau fwy nag o’r blaen.

Mi eis i’m priodi ar fore teg hâf,
I eglwys Llanddwynen — helaethu ni wnaf:
Er gwaetha Sant Dwynen, a’r ing imi roed
’Rwyf heddyw mewn cariad mwy pur nag erioed.

Pob parch i Landdwynen a’r ffynon or-ffûl,
Ond cofied y meibion sy’n aros ar ol:
’Does un feddyginiaeth, na dyfais, na dawn,
Eill wella hen glefyd y galon yn iawn.

Hen draddodiad lled ddifyr a diniwed ydyw hwn. a byddai yn resyn iddo farw. O ran hyny, gresyn ydyw colli unrhyw un o’n eoelchwedlau cenedlaethol. Am a wn i, mae celwydd bychan prydferth yn llawn nior ddefnyddiol a’r gwirionedd ei hun, ar rai prydiau. Ysgrifenodd y diweddar Ab Ithel, coffa da am dano, fel y canlyn:— “Dwtnweu was the Yalentine of the Britons, the patron Saint of lovers. In former times,particularly about the middle of the 14th Century, a great number of both 8exes Tisited this well, for the purpose of being cured of! ove-siekness. If its waters ever afforded a remedy in sueh cases, they must indeed have been endowed with miraculous properties.” Cyn bod yr inc Saesnegyna wedi sychuar fy mhapur, daeth merch ifanc o Sir Gaernarfon ar ymweliad a mi. Dywedais wrthyf fy hun mae’n syn os nad wyr Missl. rywbetham ffynon Sant Dwynen. Gyda’r amoan hwnwmewa golwg, ac am ei fod yn bwnc mor bleserus ag un i’w gyffwrdd, trowyd yr ymddyiidan at gariadon— breuddwydion a d’weyd ffortun. Yr oedd fy nghyfeilles yn gwybod y cwbl am rinweddau y ffynon, ac yn adnabofl llancesau fuont yn ceisio meddyginiaeth yn y dwfn nesaf ato, am foâ tywod er’s llawer dydd wedi gôrchuddio y llygedyn dwfr am yr hwn y byddai cariadon yn sychedu gymaint yn yr hen auiser. Gresyn na buasai Ffynon Dwynwen yn llifo eto, a Ffynon Elian yn ei Ue wedi ei chladdu gau dywod.

Where these words come from

Welsh: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), gathered by Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrexham: Hughes and Son, 1862). Scan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Both were printed long ago and are out of copyright. They are printed here as they were printed then, old spellings and all; the introductions are my own.

By Ifan Last updated

Cite this page

Ifan, “Cymru Fu: The Tales and Traditions of Wales: Nos Nadolig to Ffynon Llanddwynen”, History of Wales, last updated 24 November 2026, https://historyofwales.cymru/en/library/cymru-fu-nos-nadolig.