
Hanes Cymru / Llyfrgell / Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Ffrae Farddol yn yr Hen Amser hyd Cae’r Melwr
Ffrae Farddol yn yr Hen Amser, Glyndwr a’i Fardd, Ffowc Ffitzwarren, Idwal o Nant Clwyd a darnau eraill: o Cymru Fu, llyfr Isaac Foulkes o chwedlau a thraddodiadau Cymru (1862), yn ei Gymraeg ei hun.
Llun: Llyn Idwal dan Slabiau Idwal a chlogwyni Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Ffrae Farddol yn yr Hen Amser
Dau lythyr a fu rhwng Sion Mawddwy a Meurig Dafydd oblegid barddoniaeth
fO’r Greal.J Atoch, Meurig Dafydd, hyn o lythyr, i’ch gwybyddu fy mod yn rhyfeddu yn fawr iawn eich bod yn beio ar fy ngberdd cybelled ag y clywaf eich bod. Mi a gaf foneddigion, a chyflfredin Cymru, a ddyweto yn amgenach, heblaw dysgyblion a pbencerddiaid; eto nici mor rhyfedd hyny a’ch bod yn dywedyd bod eich cerdd chwi cystal a’m heiddo i. Os felly, Meurig, chwi a wyddoch iawn farnu ac iawn ddysgu, trwy gyflawn gydgordiadau ymadroddion, niydr, a sillafau, a chyfoetbogrwydd y gerddoriaeth; nid amgen mesurau, cywyddau, awdlau, ao englynion; a chanu y rhai hyny yn awenyddgar yn marn pencerdd, fal y mae yn rhaid iwch, cyn bod yn brydydd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid. Ond myfi a welais ŵr fal chwi, a gafas fenthyg pum’ llyfr barddoniaeth tros ddwy flynedd; ac a fum fy hunan yn ceisio ei ddysgu, pe yd fuasai dysg yn myned yw ben; ond yr oedd ef mor ddwl at ddysg â gŵydd wyllt, mor falch-ffol â Satan, mor genfigenus â Lucifer, can galled â Ieuan Grod Hen, cyhawsed i ddyn ymddiried iddo ag i Iddawc Cam Brydain; a cbantbo ben mawr a synwyr bychan i ddysgu canu cerdd blethedig, gysylltiedig, gyfocbredig, ddiadwyau, a synwyrau godidawg, ystyriaethawl; er hyny yr oedd ef yn gall i gasglu da’r byd, yn Llawn Uoriau fal hen gastell, cymaint ei gywllydd a’r afr, cyn daered a’r âb, un wên a Suddas, cybaeled a’r Llyffant am y pridd, cymaint ei gariad a’r iar at yr halen, a Llawn cymaint ei weniaith â charu putaiu: a mêl ar ei fin a bustyl yn ei galon, a’r wlad o’r bron yn adrodd ei gampau o’i íebyd hyd at henaint; minau a’i hadwaen ef yn awr i’m tyb; nid chwi, Meurig, ydyw hwnw; Ha! ha I ha! he! íie! nage, nage; wrth hyny dau nage a wna un ’ie: byddwch wych, Meurig, oni hoch gwrda. Pfarwel i’th fyw. Sion Mawddwy.
Ateb Meurig Dafydd
Deebyxiwch hyn yn ateb i’ch llythyr, Sion Mawddwy. Rhyfedd iawn y w hefyd genyf inau achwyn o honoch i mi feio ar eich cerdd: ni feiais i fwy na hyn arni, sef beio ar eich celfyddyd a wnaethym; sef achos ei bod ar Ddosbarth Gwynedd; gwell fyddai ei galw Dosbarth Dafydd ab Edmwnd. Beirdd Gwynedd a Deheubarth a’u derbyniant: ond ef a Iwyrymwrthodwyd â hi yn Morganwg. Beirdd gwlad Forgan a gyneiliant yr hen ddosbarth, fel y mae yn llyfrau yr hen ddysgodron godidawg; ac nid canu ffol a ymorchestu, fal chwareu plant bach ar eiriau heb air bychan yn debyg i synwyr. Cymered beirdd Dafydd ab Edmwnd eu celfyddyd atynt i’w cartref, a balchied jîob un ynddi, a chanent y gadwen fer, a gorchest y beirild, yn awenyddgar synwyrawl, yn marn pencerdd, os medrant; ac jTia beirdd Morganwg ni fynant o hyny allan fod yn feirdd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid; ond byddant feirdd wrth fraint a defawd Dafydd ab Edmwnd. Y chwi, Mr. Mawddwy, yn anad neb o feirdd Morganwg, a hoffasoch wagsain yn fwy na synwyr; gwnaed eich cywreinrwydd i chwi wynfyd calon, a Llawenydd i chwi o’ch clod; nid oes fawr, ar a wn i, a genfigeua wrthych; ni allaf lai fy hun na thosturio wrthych. Dyben cywreindeb mesur a chynghanedd oedd cynal y Gymraeg, a’i barddoneg, rhag ei cholli; yr hyn beth ni wna lawer o fesurau Dafydd ab Edmwnd, oni ellir cynal iaith a mydr drwy fwrw allan bob synwyr o’i hansawdd. Chwi a soniasoch am iawn ganu, iawn farnu, ac iawn ddysgu; gorchest yn wir yw pob un o’r tri; ond nid aml yr arferwch un o honynt. Dylai cerdd fod yn aml-bar iaith, yn gyfoethawg synwyr, ac yn gywrain fydraeth. Cadwch at hyn, Sion Mawddwy, dilys y byddwch wrth fraint a defawd hen Fryteiniaid; ac nid heb hyny. Gwir y w i mi gael benthyg eich pum’ Llyfr; ac y mae eu dysgeidiaeth yn fy mhen, pe bae hyny les yn y byd i mi: ond da yw gwybod ffolineb er amiygu callineb, yr hyn a ddengys ôl traed doethineb. Mae genych lawer iawn o sen gelwyddawg yn eich llythyr; ni fyddaf waeth o hyn. Mi adwaenwn Sion y Tmcer o l’aríjam cyn iddo brio’di etifeddes Mawddwy, a chymeryd benthyg enw yn Ngwynedd. Bu hawdd ymddyddan unwaith âg ef; nid felly y mae yn awr. Mi a ddysgaf i chwi bwnc o addysg, ni wyddocfi chwi fawr byd yn hyn am dano. Nid iawn i fardd boffi. cbwaithacb jTDiarfer, â chelwydd; mae defodau yr hen feirdd yn gwahardd y peth hyn. Yr ydych chwi chwyddedig iawn eich llafar: ond nid unwaith na dwywaith y gwelais i lawer peth, a dybygid ei fod yn fawr, yn troi o’r diwedd i maes yn o lliprynaidd a salw. — Sion bach! ni flinaf fy mhen mwyach o’th blegyd: bydd wych, a chais fod yn gall — ryw bryd.
’Meurig Dafydd.
Glyndwr a’i Fardd
Pan” ddienyddwyd Dafydd ab Grufîydd yn yr Amwythig, cymerth y cigydd ei galon ac a”i taflodd i’r tân, a neidiodd y galon o”r tân ac a darawodd y cigydd yn ei lygad, ac a dynodd ei Lygad ymaith.
Harri IY., brenin Lloegr> a ysgrifenodd at Arglwydd Grey o Piutbiu, yn erchi iddo ef trwy ryw ystryw frady’chu Owain Glyndwr. Yna gyrodd Arglwydd”^Grey at Owain i’w hysbysu y byddai yn ciuiawa gydag ef V dydd a’r dydd. Atebodd Owain y byddai roesaw iddo, oni ddygai gydag ef uwchlaw dengwr ar ugain. Daeth yr arglwydd yn yr amser penodedig, ac ychydig o gydymdeithion gydag ef; a gallu mawr arfog yn dyfod yn ddirgel ar ei ol. Pan ddaeth amser ciniawa, gosododd Owain osgordd ar ben bryn i wylio tra y byddai ef ar giniaw. Pan oedd Owain ar ganol ciniaw, yr osgordd a welent lonaid y ddôl o wŷr arfog. a dywedasant with Iolo Goch, bardd Owain, er mwyn iddo ef fyned a rhybuddio eu harglwydd o’i beiygl. Aeth Iolo i mewn ar frys i’r palas, a chanodd ar ddameg yr englyn rhybudd yma ar osteg, rhag i Grey dybied fod twjfl ynddo; canys er ei fod yn deaÚ ti’aetbawd CjTni-eig, nid oedd efe yn deall ein m’ydi’ ni:—
“Coffa ben, a Neu, a llywenig —
A las nos Nadolig
Coffa golwyth Amwythig,
O’r tan a f wriodd naid dig.”
Deallodd Owain y ddameg, a defnyddiodd ei draed i arbed ei ben.
Ffowc Ffitzwarren: Dameg
Yn nghastell Ffowc Ffitswarren, a elwid hefyd Ffowc o Forganwg, a Ffowc, is-iarll Caerdydd, yr oedd y tŵr uwchaf yn holl ynys Prydain. Fel yr oedd Syr Ffowc un Sulgwyn yn adrodd wrth uil’er o bendefigion a marchogion am y caledi a ddyoddefodd wrth ymladd â’i elynion a’r Sarasoniaid, ac am y modd y gorchfygodd hwynt oll, ebai un Marchog, “Gallaswn inau wneud hyny yn hawdd.” “A minau,” ebai un arall; “a minau,” ebai y Dall; a phob un yn bostio ei fod cystal a Ffowc ei hunan. Ebai yntau, “Petharalla wnaethum, ond rhaidaddef fodhyny yn Nai rhyfedd na fy nghampau eraill.” “Beth ydoedd?” ebynt oll ar unwaith. Ebai Ffowc, “Neidiais i ben fy nghastell, a rhaid i chwi oll gyfaddef mai hwnw yw yr uwchaf ^STi y byd.” “Gwir a ddywedi o barth uwchder dy gastell,” ebynt hwythau, “ond am neidio i’w ben ni wna dim ond gweled yr orchest â’n llygaid ein hunain ein hargyhoeddi o wirionedd hyny.” “Da iawn, yn wir,” ebai Syr Ffowc, “ac os caf eich cyfeillach i giniawa ryw ddiwrnod yn fy nghastell, cewch ìy ngweled yn neidio i’w ben.” Pawb a addunedasant fyned, penodwyd y diwrnod. a phan ddaeth, wedi bwyta ac yfed o honynt eu gwala o’r bwyd a’r ddiod oraf. “Ynawr,” ebai Syr Ffowc, “am neidio i ben tŵr y castell: dilynwch fi, modd y gweloch yr orchest yn cael ei chyflawni â”ch llygaid eich hunain.” Daethant oll hyd at waelod y grisiau; a neidiodd 8yr Ffowc ar y ris gyntaf, ac oddiar hono i’r ail ris, ac o hono i’r drydedd, ac yn yr un modd o ris i ris, nes y cyrhaeddodd ben uwchaf y twr. “0 1” ebynt hwythau, “gallasem ninau yn hawdd neidio i ben y castell yn y dull yna.” “Gwy’ddwn y gallasech, a gallwch yn hawdd wedi fy ngweled i yn gwneud hyny, a’r nold y gwnaethum. Diffyg gwybodaeth oedd yr achos nas gallasech cyn hyny, neu o’r hyn Lleiaf ni ddaeth y dull y gallasech ei wneuthur erioed i’ch meddyliau.”
Yr hwn y mae deall ganddo, ystyried y Ddameg, a chymered addysg. 0 ris i ris y mae cja-haedd tŵr gwybodaeth ac ucheledd celf, ac nid oes dim mor yniyd a meddwl eu cyrhaedd ar un naid.
Idwal o Nant Clwyd
fOddiar Lafar Gwladj.
Ye oedd rhieni Idwal yn amaethwyr cyfrifol a pharchus, ac iddynt luaws o blant, yr oll o ba rai oddifcerth ein harwr a fuont feirw yn eu mabandod. Idwal oedd yr ieuengaf, ac fel rhosyn olaf y gwanwyn, yr oedd y deif- wynt dinystriol wedi myned heibio’r teulu, a chyflawni ei alanastra cyn iddo ef wneud ei ymddangosiad. Ni raid hysbysu, gan hyny, ei fod yn anwyl iawn gan ei rieni, gan mai trwyddo ef y disgwylient gadw anfarwoldeb eu natur yn y byd hwn. Nid ydyw dyn byth yn marw yn gysurus, os nad all adael rhywun ar ol i drefnu ei angladd, i eneinio ei fedd â dagrau, ac i’w drwsio â blodau; ac oddiar pwy y gellir disgwyl y cymwynasau hyn, os nad oddiar law plentyn! Y mae dyn yn caru credu y bydd tipyn o alaru ar ei ol wedi iddo symud o fyd o amser; a phwy o’r hil ddynol sydd yn ddigon glan oddiwrth y dyb ddiniwaid hon i daflu careg at y îlall?
Un diwrnod aeth Idwal allan i hela yn nghymdeithas cyfaill cywir-galon, mab y fferm agosaf at Nant Clwyd. Nid oedd cariad Jonathan a Dafydd yn rhagori ar serch y ddau hyn at eu gilydd. Yr oedd y ddau yn cyd-chwareuyn cyd-dyfu, yn cyd-garu, a phriodwyd hwy yn yr un eglwys, gan yr un offeiriad, ar yr un dydd ac awr, gyda dwy chwaer. Pa fodd bynag, wedi bod o honynt yn hela am amryw oriau, daethant hyd at Iwyn o frysglwyni, a choed caeadfrig, lle yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd, ac er pob ymdrech methodd ei gyfaill â dyfod o hyd i Idwal drachefn. Ni chauwyd amrant yn Nant Dwy’d y noson hono— pryderu, ofni, gobeithio y goreu, ac ofni y gwaethaf, yn oedd pob mynwes. Dranoeth y bore aethpwyd i chwiHo o ddifrif am y colledig yn mhob cilfach a Uoches oddeutu y fan ei collwyd, a bu pob ymdrech yn ofer. Er mor gynhes oedd cyfeillgarwch y ddau heliwr, ni bu cenfigen heb gynllunio brad yn erbyn cyfaill Idwal, ond yr oedd ei ddull gonest ac wyneb-agored yn ateb pob holiadau, yn lladd pob anmheuon, ac yn peri i genffgen yfed ei gwaed ei hun. Chwiliwyd yn fanwl am Idwal oddeutu y Llwyn y collwyd ef; ac yr oedd yr ymchwlliad mor wirioneddol a dwys, nes yr ediychai yr holl deulu fel rnfydion yn y fan. Clustfeinient ar y gwynt, eithr ni âdygai hwnw ar eiadenydd yr un lef wan oddiwrth Idwal; a rhugl-drystiad y dail crynedig yn y twyni oeddynt yr unig atebion a dderbynient i’w holiadau enaid-gynhyrfiol. Wedi hir edrych o’u deutu, gwelent gylch Tyiwytit Tey yn ymyl y fan; a phenderfynwyd ar unwaith iddo fod mor anffodus a chael ei swyno gan beroriaeth y bodau bychain dyeithr hyny i’w canlyn i wlad hud a lledrith. Yn raddol diflanodd pob gobaith am weled Idwal o N ant Clwyd yn nhir y rhai byw mwyach; ond cyn i hyny gael ei Iwyr ddwyn oddiamgylch, cymerodd dygwyddiad le a’i haiî ddygodd mewn dull effeithiol iawn gerbron meddyliau ei deulu. Yn mhen tua phedwar mis wedi iddynt ei golli, ganwyd mab iddo, yr hwn ydoedd wir ddelw a phictiwr ei dad. Tyfodd y plentyn hwn i oedran gŵr, a llanwai le ei dad yn serchiadau ei daid a’i nain. Ymgysylltodd mewn glân briodas â merch ieuanc brydferth o’r ardal, ond nid oedd hawddgarwch a haelioni yn mhlith rhinweddau ei thylwyth. Ni welwyd y ddau nodwedd hyn erioed ar wahân — gefeilliaid cariad ydynt, a haelioni ydyw yr hynaf o’r ddau. Pwyy glybu erioed am gybydd hawddgar ':' Cybyddion oeddynt deulu y ferch ieuanc hon, a phob tynerwch a chydymdeimlad wedi eu halltudio o’u calonau; ac fel y mae gwaetha’r modd, dyna’r anrasau a ddysgent gyntaf i’w phxnt. Tjn o’r nodweddiad yna ydoedd merch-yn-nghyfraith y colledig Idwal. Pa fodd bynag, yn nhreigliad amser bu tad a mam a gwraig Idwal feirw.
Yr oedd haner can’ mljmedd o lawenydd a thristwch, o ing a gorfoledd, wedi myned tros ben plant dynion er pan ddifianodd ein harwr mor gyfrin a dirgel — nid oedd un o honynt yn ddigon uchel i allu osgoi y cwpan chwerw, nac un yn rhy isel i allu cyfranogi weithiau o’r gwpan felus, pan ar brydnawn oerllwm yn mis Chwefror y gwelai teulu Nant Clwyd hen ŵr brigwyn, teneu, tal, yn dynesu at y tŷ. Agwedd cardotjm oedd arno, a rhaid ei fod yn ddyeiihr yn y fangre hono, onidê ni chyfeiriasai byth mo’i gamrau at ddrws digardod Naut Clwyd. Yr oedd ei gam yn fyr, a’i wisg yn garpiog; a’r morwynion a’r feistres, wrth sylwi arno yn dyuod a wawdient “yr hen Wyddel.” Synasant ychydig wrth weled gŵr ar y dullwedd hwnw yn cerdded i mewn heb guro y drws nac unrhyw rodres, ac yn gofyn pa le yr oedd ei dad, a’i fam, a’i wraig. Gorchymynodd y’ wraig iddo fyned allan oddiyno mor gynted fyth ag y gallai cyn i’w gŵr ddyfod adref, a rhoddi help iiido gyda blaen ei fotasen. Edrychai yr hen r ymtau erbyn hyn yn lled hurt a ffwdanllyd! yr oedd pob peth oddeutu y tŷ wedi cyfnewid — lle yr hen gadair ddwyfraich dderw fawr yn cael ei lenwi gan esmwythfainc, a’r dysglau pewter floohhig-glasses yr hen hôblj wedi myned i’r wadd a’r ystlumod, &c., ond eto yr oedd digon o bethau amgylchiadol yn aros yr un i sicrhau meddwl yr hen ŵr maf Nant Clwyd ydoedd Nant Clwyd. Traethodd ei hanes: dywedai iddo y dydd blaenorol fyned allan i hela, ac i drymgwsg rhyfedd syrthio arno yn mrig yr hwyr a barodd iddo dreulio y noson hono yn y coed. “Mi a glywais fy ngwr yn dweyd fod y gair i’w dad ef fyned ar goll wrth hela, ond credai pawb mai ei ladd a gafodd.” A gwylltiodd y wraig yn enbyd, a pharodd iddo eilwaith fyned allan: cynhyrfodd nwydau yr hen ŵr yntau hefyd, dywedai mai ei eiddo ef oedd y tŷ, ac y byddai iddo yn ddiymaros weithredu ar ei hawl. Yna ymwelodd â’r fiFerm agosaf, anedd ei hen gyfaill, a gwelodd yno hen aŷt methiantus yn eistedd yn fyfyrgar wrth ochr y tân. Ymddyddanent am ieuenctyd a bore oes, ac ymddangosai y cyfan fel golygfa hafaidd yn y chwareudy. Adnabyddasant y naill y Nau, disgynasant ar yddfau eu gilydd gau ymgofleidio, a’r dagrau gloewon yn dylifo ar hyd eu gruddiau rhychedig. Deauodd Idwal ei wir sefyllfa. Yr oedd y gymdeithas mor gynhes cydrhyngddynt, fel na ddychwelodd ein harwr i’w dŷ i Nant Clwyd. Darparwyd gwledd ar frys, a gwahoddwyd holl hen bobl y gymydogaeth iddi, a threullwyd y noson yn ddyddan iawn. Ac wedi siarad ac adgofio nes y daeth cwsg yn fwy dynnunol nac ymddyddan, aeth y ddau hen ŵr gyda’u gilydd i gysgu yn yr un gwely. Bore dranoeth, wrth eu gweled cyhyd yn codi, aed i ymofyn am danynt, a chafwyd y ddau
Wedi marw
Tybiai y werin bobl mai yspryd Idwal ydoedd yr hen ŵr dyeithr wedi dyfod i ymofyn yspryd ei gydymaith; ac i’r cyfaill mor fuan ag y clywodd y neges ofyn caniatâd Llywodraethwr yr ysprydion i fyned ymaith yn uniongyrchol a dirybudd yn nghanol nos. Pa foddbynag, hyn sydd sicr, disgynodd melldith ar deulu Nant Clwyd hyd y pumed âch — pob peth a gymerent mewn Uaw anffawd a methiant a fyddai, a gwerthwyd y Ue naw gwaith cyn i’r felldith hon gael ei symud.
Cymered y cyfeillion dwrngauad yr amnaid hon o law chwedl:— Nad oes wynfyd i’r sawl a ddirmygont y tlawd, ac na fu bendith erioed ar gybydd-dod.
Priodi a Chladdu yn yr Hen Amser
Wedi i’r pâr ieuanc gydwelevî mai “nid da bod dyn eî hunan,” un o’r pethau cyntaf wrth ragdrefnu y briodas ydoedd dewis “Ov: ahoddwr.^^ Swydd y gwr hwn oedd myned at y cymydogion i’w hysbysu yn nghylch y briodas, yn nghydâ’r dydd a’r lle y bwriedid ei chynal. Yr oedd llawer o deithi prinion y anhebgorol i wneud “Gwahoddwr “da. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn barod a flfraeth ei atebion, yn un dawnus ei jTuadrodd wrth ddweyd ei neges, ac yn gyfaill cywir a diragrith i’r pâr ieuanc, rhag na byddai iddo eu henllibio yn lle eu hamddiffyn yn ngŵydd y cymydogion. Wedi penderfynu ar y gwr cymhwysaf i’r swydd, ac iddo yntau gydsynio, efe a gychwynai ar farch yn y bore i’w daith. Os byddai y gwahoddedigion ychydig uwchlaw y cyffredin, traddodai ei genadwri trwy lythyr; eithr os tlodion ac anllythrenog fyddent, efe a draethai ei len ar dafod leferydd, ac fynychaf ar gân. Yn yr “Hynafion Cymreiy,^' ceir siampl o
Cân y Gwahoddwr
“Dtdd da i chwi, bobl, o’r hynaf i’r baban,
Mae Stephan waboddwr a chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly’ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynhes ar ganiad.
Y mae rhyw greadur trwy’r byd yn grwydredig,
Nl8 gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad
Ar bawb yn goncwerwr, a’i enw yw Cariad.
Yr ifanc >ti awchus wna daro fjmycha’,
A’i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa’;
Ondweithiau a’i fwa fe ddwg yn o fuan
0 dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae’n taro yn lled annaturiol,
Nes byddantyn babwyr yn wir yn hen bobl,
Mi glywais am rywun a gas yn aflawen
Y bendro’n ei wegil yn ol pedwar ugain.
A thyma’r creadur trwy’r byd wrth garwyro
A d’rawodd y ddeu-ddyn wyf trostynt yn teithio,
1 hel eich cynorthwy a’ch nodded i’w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i’ch brathu.
Yr wyf yn atolwg ar holl un o’r teulu
I gofio y neges wyf wedi fynegu,
Rhag i’r gwr ifanc a’i wraig y ptyd hyny,
Os na chan’ hwy ddigon, ddweyd mai fi fu’n diogi.
Chwi gewch yno roeso, ’rwy’n gyybod o’r hawsaf,
A bara chaws ddigon, onide mi a ddigiaf,
Ceiff pawb ci ewyllys, dybacco a phibelli,
A diod hoff ryfedd ’rwyf wedi ei phrofi.”
Ar brydiau byddai y Gwahoddwr yn cyfarfod â gwrthwynebiâdau. Dywedid wrtho nad oedd y Y>kv ieuanc wedi ymddwyn mor gymwynasgar a chymydogol ag i deilyngu unrhyw garedigrwydd oddiar eu llaw; neu fod eu teuluoedd yn euog o weithredoedd anngharedig. Yn ngwyneb hyn ei ddyledswydd yntau ydoedd gwi’thbroii’r cyhuddiad, neu gyfiawuhau yr ymddygiad, a’u hannog i beidio gadael i feiau bychain y mae dynoh-yw yn gyffredinol mor agored iddynt eu lluddias rhag cydymíTurfio â hen ddefod anrhydeddus a ddisgynodd iddynt oddiwrth eu henafiaid doethion. Ond nid oedd y gwrthwynebwyr hyn ond eithriadau, a’r nifer luosocaf o’r cymydogion a falchient yn y cyfleusdra i roddi help Uaw i bobl ieuainc yn dechreu Oherwydd y gwahoddiadau hyn deuai y cyfeillion o ffordd beil i’r neithior yn llwythog gan anrhegion, megys dodrefn tŷ, arian, enllyn o bob math, &c. Yr oedd y Gwahoddwr yn gweithredu fel ysgrifenydd i’r briodas. Rhoddai enwau yr oll oeddynt yn bresenol ar lawr, a’u hanrhegion gogyfer a hyny; y rhai oeddynt i gael eu haddalu, ar amgyichiad cyffelyb, os byddai galw am danynt. Gelwid yr hen ddefod hon “Pwrs a Gwregys,” a”r anrhegion yn “Dalu Pwyddion,” ac oddiwrth hyn, mae ^ti debyg, y deilHodd y gair a ddefnyddir yn yr oes hon “Talu’r Pwyth.” Fel hen ddefod gwlad gellid hawlio ad-dallad y Pwyddion trwy rym cyfraith, ond o ran gweddeidd-dra, anfynych y byddai neb yn defnyddio y moddion hyny i’w hadfeddianu.
Bore dydd y briodas ymgynullai nifer o gyfellUon y priodfab i’w dŷ ef, ac oddiyno elent i dŷ y ferch ieuanc. Ac er y byddai y briocllerch a’i chyfeilllon yn pryderus ddisgwyl am yr osgordd, er mwyn defod a gweddeidd-dra, ffugient eu hanewyllysgarwch iddi fyned i”r ystâd briodasol. Yna cyfeillion y priodfab a ddechreuent ei foll a thraethu ei ragoriaethau mewn prydyddiaeth ramantus a direol, a chanmol cymhwysder yr undeb bwriadedig; tra, ar y Uaw arall, cyfeillion y ferch ieuanc a watwarent y priodfab, ac a ddirmygent y briodas. Ar ol y ffug-ymrysonfa hon, deuai y tad neu rhyw berthynas agos i’r briodferch yn mlaen, ac a’i cyflwynai hi i’r cwnini; croesawid li-wynt oll; ac wedi hyny cyfeirient eu traed tuag eglwys y fylwyf. Ond ar y floidd tuag yno drachefn, cyfarfyddid â rhwystrau; gwnai y ferch ieuanc lawer cais i ddianc, gan ymddangos yn dra hwyrfrydig i newid byd.,Pa fodd bynag, o’r diwedd, ymostyngai i’r drefn, ac wedi cyrhaedd yv eglwys, a myned drwy y seremoni arferedig, yr holl gwmni a ddychwelent i dŷ y briodferch, a dechreuent gadw y neithior gyda gwres ac yni mawr am ddyddiau lawer, hyd oni roddai y Sabbath derfyn ar eu rhialtwch. A’r Sabbath hwnw y “ddeuddyn dedwydd “a eisteddent i dderbyn rhagor o Bwyddion a moesgyíârchiadau cyfeillion.
Dy wed un awdwr y byddai yr anrbegion hyn rai prydiau yn cp-haedd y swm hardd o 40p. i 50p. Byddai tymor y Pwyddion trosodd erbyn yr ail Sul, a’r dydd hwnw elai y bobl ieuainc i’r eglwys am y tro cyntaf i addoli fel gŵr a gwraig, a mawr fyddai yr ysgwyd Uaw ar ol dyfod allan. Nid ydyw yr arferiad hon wedi llwyr farw mewn llawer man yn Nghymru byd y dydd hwn, er ei bod wedi colli llawer o’i nodweddion cyntefig. Rhaid “Cadw’r Briodas “cyn y bydd gweithrediadau y dydd yn gyflawn; ac wrth hyn y meddyllir — Lluaws o gyfeillion yn cydymgynull yn nhŷ y briodferch i ganu, cynygiechyd da y pâr ieuanc, a’i yfed mewn cwrw a metbeglin. Cyn i’r cwmni ymwahanu, cymer rhyw gyfaill ddysgl, ac el o gwmpas i dderbyn ewyllys da y cwmni. Er fod yr oliad hwn, yn gystal a’r Pwyddion ei hunan, yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel peth cardotus ac anfoneddigaidd, eto y mae pob lle i gredu ei bod 0 duedd ddaionus, megys i gynorthwyo angenoctyd, a meithrin teimladau da.
Y mae cangen arall o’r Pwyddion yn aros, sef y ddefod sydd mewn parthau gwledig a elwir, “Myned i edr ych am y wraig ieuanc.” Nifer o gymydogesau calon rwydd yn talu ymweliad caruaidd â’u chwaer ieuanc, gan ddwyn gyda hwynt cwarter o dê, neu bwys o siwgr gwyn, yn anrheg; yna, yfed sudd y tê a’r siwgr cyn dychwelyd, yn nghyda beirniadaeth lem ar y gymydoges hon ac arall nad oedd yn digwydd bod yn bresenol ar y pryd. Byddai y cyfarfod hwn hefyd yn foddion i dderbyn y wraig ieuanc yn aelod o’r “Gymdeithas Dê,” gwyliau pa un â gynelid yn olynol yn nhai y gwahanol aelodau, pryd y pwysid cymeriadau y gwŷr, y cedwid cwrdd enllibio, ac y medrus ymdrinid â holl faterion teuluaidd y gymydogaeth; ac un o’r gwersi cyntaf a dderbyniai y wraig ieuanc oedd dysgu 6ut i gymeryd snisiu. Ymddengys, fel y mae gwaetha’r modd, fod y Cymdeithasfaaii hyn yn marw yn gyfîym, oherwydd fod V wlad yn ymanwareiddio cymaint mewn moes, “dysg, a chrefydd.
Defodau angladdau
Gellir yn hawdd casglu fod gan y bobl a feddent y fath arferion hynod wrth briodi, hen ddefodau rhyfedd yn eu hangladdau hefyd. Yr oedd gan ein hynafiaid fil a myrdd o ragargoelion am angau, — megis canwyllau cyrph, adar y cyrph, y teulu, udiadau annaturiol cŵn, caniadanamserol y ceiliog, &c., am ba rai y sonir yn mhellach yn mlaen; ac wedi i’r rhagargoelion hyn gael eu cyiiawni (i’r llythyren wrth gwrs), gosodid y trengedig yn ei arch, ac addurnid ef yno âg amrywiol flocieu a phwysiau serch.
Y noson cyn yr angladd, cynelid cyfarfod gweddi a elwid Gwyînos. Hen derm Babyddol, mae yn debyg; ond beth bynag am hyny, cyfarfod effeithiol iawn oedd y Wylnos. O ran ei enw a’i dai’ddiad, yr oedd yr un â Wakes y Gwyddel, ond yr oedd anhraethol wahaniaeth rhyngddynt o ran nodwedd ac amcan. Yr oedd defod y Gwyddel yn drewi gan ofergoeledd, ac yn echrydus o anfoesol; ac er fod y galarwyr yn dolefain, “Paham y buost farw ein brawd?” eto, ymddangosai y cyfan yn debycach i loddest feddw nag i alar ar ol y marw. Yn y Wylnos, o’r ochr arall, ceid y teimladau dwysaf a’r gweddiau mwyaf drylliog. Buasent yn ei hystyried yn rhyfyg bod yn llawen yn nhŷ galar; ac yn annuwioldeb gwarthus cellwair tan yr un gronglwyd â’r marw. Cyfeiiient at yr ymadawedig mewn ymadroddion cyffrous, gwnaent bwlpud o’i angau i rybudciio y byw o freuder einioes, a meithder a phwysigrwydd tragwyddoldeb. Apelid at gydwybodau y gwrandawyr, yn enw y Ue cysegredig y sangent arno, i gymeryd y ffeithiau hyn tan eu hystyriaeth ddifrifolaf, a pharotoi ar gyfer angau, modd y gallent ei wynebu yn ddi-gryn a gorfoleddus.
Cyn’i’r orymdaith bruddaidd gychwyn tua’r Llan, y cyfeillion a’r perthynasau agosaf a ymgynullent oddeutu y corph, i ochaineidio a gahiru eu colled ar ei ol; tra y byddai y gweddill o’r cwmni mewn ystafell arall yn yfed “cwi’w brwd,” ac yn mygu eu pibelli; a’r menywod mewn ystafell arall drachefn yn cydyfed tê. Wedi dwyn yr arch allan o’r tŷ, a’i gosod ar yr elor gerllaw y drws, bycidai un o berthynasau y trancedig yn rhoddi bara a chaws tros yr arch i bobl ciylodion, y rhai mewn disgwyliad am y rhodcllon hyn a fuont yn ddiwyd i gasglu blodau a llysiau i’w rhoddi yn yr arch. “Weithiau chwanegid at hyn dorth o fara a dam o arian ynddi. Yna cydymgrymai yr holl alarwyr, a’r offeiriad, os yn bresenol, a adroddai Weddi yr Arglwydd; ac arosai yr orymdaith, ac adroddid yr un weddi, yn mhob croesffordd, hyd oni chyrhaeddent y Llan. Ymddengys y byddent yn yr hen amser yn arfer claddu drwg weithredwyr mewn croesffyrdd, a thrwy eu bod yn credu nad oedd ysprydoedd drygionus y cyfryw ddynion yn niyned nepell oddiwrth y corph, yr oeddynt yn darllen y Ayeddi er mwyn gwrthladd effeithiau niweidiol yr ysprydion hyn ar yr ymadawedig.
Cludid yr arch gan y perthynasau agosaf, hen ddefod trwy ba un y cyflwynid y parch uwchaf i’r ymadawedig. Oddiwrth y Rhufeiniaid, mae yn debyg, y cawsom ni y ddefod hon, oblegyd yr oedd mewn arferiad ganddynt hwy. Dygid arch Meteflus, gorchfygydd Macedon, gau ei bedwar mab. Fel arwydd o barch i’r sawl a haeddent barch gan y Werin-lywodraeth, cludid ef i dŷ ei hir gartref gan Ustusiaid a Seneddwyr; tra y dygid gelynion y bobl gan gaethion a gweision llogedig. Y mae defod gyffelyb hefyd yn Ucheldiroedd yr Alban, a elwir Coranich.
Ond yr arferiad fwyaf swynol mewn cysylltiad âg Angladdau Cymreig ydoedd yr un o c/cuni ar y ffordd tua’r Llan. Yr oedd gwrando ar y canu hwn, yn enwedig mewn manau annghyfanedd a gwledig, yn wir ardderchog. Ilygwyddais fod unwaith yn eistedd ar ben craig fawr a elwir Clogwyn Dinmel, yr hon sydd yn crogi uwchben un o’r nentydd gwylltaf a serthaf yn ngogledd Cymru, sef y Glyn Diphwys, ar y ffordd fawr rhwng Ceryg y Druidion a Chorwen. Yn ngwaelod y Glyn y mae’r afon Ceirw yn ymdywallt dros graig serth, gan ewynu a ffurfio rhaiadr mawreddog a th]-ystfawr. Y mae y ffbrdd wedi ei thori yn y graig rhwng Clogwyn Dinmel a gwaelod y Glyn, ond cuddid hi rhagwyf gan goed deiliog a dyfent ar astellau yn y graig uwch ei phen. Tra yn eistedd fel hyn gan edmygu trwst dibaid y rhaiadr ar y naill law, a chaniadau nwyfus yr adar ar y llall, tarawyd fi â syndod trwy i orymdaith angladdol ddechreu canu “Yr Hen Ganfed “yn y ffordd islaw. Yr oedd yr effaith fel perlewyg, dystawodd pob aderyn yn y fan i wrando ar yr acenion galarus, peidiodd yr awel â chwareu ar ei thelyn y dail, ond yr hen raiadr a bistylliai yn mlaen gan ymunaw a chymeryd y bâs isaf yn y beroriaeth. Wedi iddynt ymsymud ymaith, ac i’r gorddoriaeth raddol ddarfod yn y pellder, nid oedd gan y Glyn unrhyw swynion i mi. Gadewais ef, a’i adar yn fudion, a’i raiadr fel gwallgof yn canu wedi i bawb arall dewi, a pbrysurais ar ol yr orymdaith. Goddiweddais hwynt pan ddaethant at leoedd cyfanedd, ac yr oeddynt yn parhau i ganu. Deuai y gwragedd allan o’u tai a’r hosan haner wauedig yn eu dwylaw diffrwyth, wylent yn hidl, ac ymunent â’r gân wrth iddi fyned heibio. Daliasant i ganu hyd oni ddaethant at borth y fynwent, weithiau newidient y dôn am yr “Hen Gyfamod,” neu “0 fryniau Caersalem;” ond pa dôn bynag a genid, yr oedd teimlad yn mhob nodyn, a galar yn mhob acen, ac nid wyf tu yma i Wynfa yn disgwyl eto clywed canu mor ardderchog. Fel hyn y byddai yr hen bobl yn hebrwng eu meirw i’r bedd, ac y mae yn anmhosibl i ddyn ddymuno angladd parchusach nag yn nghanol acenion pruddglwyfus ei gymydogion a’i anwyliad.
Yr offrwm. — Hen ddefod wedi ei threiglo i ni, a’i chadw yn fyw er cyn y Diwygiad Protestanaidd, ydyw yr un o offrymu mewn angladdau. Wedi i’r offeiriad ddarllen y Gwasanaeth Claddu, efe a arosai wrth fwrdd y cymun hyd oni ddelai y perthynas agosaf i fynu yn gyntaf i roddi ei offrwm ar y bwrdd. Os byddai yn lled gyfoethog, efe a offrymai gmi; os amaethwr neu fasnachwr a fyddai, offrymu coron a wnai; ac os tlawd, chwe’ cheiniog a roddai i lawr. Y sawl a fwriadent offrymu arian, a elent i fynu o un i un, ac a wnaent hyny; yna byddai ychydig seibiant, a’r offrymwyr pres a gymerent eu hoffrwm hwyhau; ond ni offrymid pres mewn angladdau boneddigaidd. Byddai yi- offrymauhyn yn fynych yn cyrhaedd deg neu ugain punt mewn blwyddyn. Y mae yn ddiddadl mai arian i’r offeiriad am weddio tros y marw oedd y ddefod yma o offrymu ar y cyntaf, cyfrandaliad tros ei ryddhâd buan o’r purdan, neu fe allai iawn am unrhyw wall o’i eiddo yn nhaliad y dreth eglwys neu y degwm. Er fod y ddefod yn parhau mewn amryw fanau, nid ystyrir hi ond teyrnged o barch i’r ymadawedig, neu amnaid o serch tuag at offeiriad y plwyf. Y mae hen ddefod brydferth arall, a hon ydyw y caredigrwydd diweddaf a ddangosir tuag at y marw, sef addurno y hedd â blodau, a hythwyrddion. Dywed un ymdeithydd ei fod yn Llanfair, swydd Drefaldwyn, ac yn mynwent y lle, bu yn llygad dyst o’r ddefod. Dygid brigau y pren bocs a’r ywen, a phlenid y rhai hyn, fel amlen oddeutu y bedd, a threfnid blodau amryliw a phrydferth yn y canol, fel y gellid adwaen chwaeth y byw wrth eu dull yn arwisgo trigfanau eu meirw. Dynodid bedd y baban gan ganghenau pedair, — y friallen, a’r erinllys, blodau cynaraf y gwanwyn; y rhosyn coch a blodyn y coed a ddynodent fedd y canol-oedran; a’r rhos Mari, a’r hen ŵr, a arddangosent hen ddyddiau. Ond yr oedd pob un i gynwys dail-bythwyrddion fel arwyddlun hardd, ond gwan, o anfarwoldeb. Ac ar ol gwisgo y bedd, ni adewid ef yn ddiamgeledd, eithr y lle a chwynid bob piydnawn Sadwrn gan ddwylaw gofalus, er parch cysegrfidig i’r un oedd yn gorwedd ynddo. Yn ei Cijnibeiine cyfeiria Shakespeare mewn dull toddiadol at yr arferiad hon:— “A’r blodau tecaf, ferch, Y llonaf dy brudd fedd; ni byddi’n ol O’r blodyn llwyd sydd fel dy wedd, sef y f riallen:
Nac o’r clychau asur* feldy wythi llawn,
Ka dail yr eglantin, y rhai yn ddisarbad
Ki feddant buracb anadl.”
Y mae ysgrifenydd arall yn dweyd iddo ymweled â mynwent Llanfair, yntau hefyd ar brydnawn Sadwrn, a dywed yr hanes fel hyn:— “Gwelwn luaws o bersonau yn brysur wrth y gorchwyl prudd-pleserus o drwsio y beddau. Tybiais mai annynol ynwyf fuasai eu cythrybiu; ac yr oeddwn ar ymgilio yn ol pan y gwelais eu bod wedi sylwi arnaf, ac y gorchfygwyd fy ngwyleidd-di’a gan gywreinrwydd. Wrth ganfod merch ieuanc hawddgar a dirodres, dynesais yn araf tuag ati. Anturiais ofyn iddi beth oedd natur ac ystyr y ddefod; eithr hi a osgôdd fy holiadau, ac a aeth yn mlaen i symud y chwy-n. Wrth i mi ei hail holl, trodd ei phen, a dangosodd wynebpryd hardd anarferol, a thristwch dwfn yn argraffedig arno; treiglai y dagrau i lawr ei ddwy rudd, ac mewn Llais crynedig dywedodd:— ' Yr wj”f yn dyfod yma bob dydd Sadwrn i chwynu y lle, ac i alaru ar ol fy anwyl frawd — nid oedd genyf ond un, ac yr oedd efe yn frawd — rhy dda i aros yma — gwyn fyd pe buaswn farw yn ei le.' Wedi yspaid o ddystawrwydd, hi a chwanegodd:— ' Hwyrach fy mod yn cyfeiliorni, Syr, ond byddaf yn gweddio yn fynych ar fod i fy mrawd flodeuo yn Mharadwys fel y mae’r blodau hyn ar ei fedd. I)ywedwyd wrthyf na ddylwn weddio. tros y marw; ond byddaf yn teimlo yn Uawer gwell ar ol gwneud hyny’, ac awyddfryd cryfach ynwyf i fyw yn dduwiol, fel y byddwyf barotach yn nghynt i fyned ato.” Ychydig nes yn mlaen, yr oedd bedd newydd ei drwsio, a’r cyfaill newydd fyned ymaith. Yr oedd tlysni neillduol cddeutu y beddrod hwn; oddifewn i’r amlen fawr yr oedd un arall fechan, at faint baban ieuanc. Wrth ymholi, cefais mai gwi’aig a gladdwyd yno, yr hon yn y weithred o roddi bywyd i arall a gollodd ei bywyd ei hun. Bu farw ar wely genedigaeth; a chan na fu y plentyn fyw ond ychydig oriau ar ol y fam, rhoddwyd hwy yn yr un arch, a clladdwyd hwy yn yr un bedd. Y lblodau peraroglaidd hyn a gynddrychiolant y baban yn gorwedd ar y fron. Yr oedd y gŵr wedi bod yn cyflawni y gorchwyL trist pleserus o dacluso y fan, gan deimlo yn hapus mae’n ddiddadl ddarfod iddo wneud yr oll a allai i’w ddiweddar gydymaith by wyd y goddefai natur iddo wneuthur; ac yn rhoddi ernes iV gymydogion fod rhinweddau eu hen gyfeilles heb fjmed di’os gof, a’i bod yn fyw yn ei serchiadau.”
Hir y parhao hen ddefodau prydferth o’r fath yma i addurno mynwentydd Gwyllt Walia; a pheth mwy, i lefaru cyfrolau ar dynerwch teimlad, a pharch a charedigrwydd y genedl at ei meirw? Os dirmygir y ddefod fel penwendid paganaidd, nid oes gan neb ond gresynu tros y dirmygydd, oblegyd y mae yn rhaid i deimlad gael llefaru weithiau, onidê f e â y genedl benbaladr i ragrithio bob amser a chyda phob peth; ac y mae yn hawddach o’r haner ddadwreiddio rheswm dyn na dadwreiddio ei deimlad. Yr unig lecyn heb ei Iwyr ddirywio ar y ddynoliaeth ydyw ei theimlad, ac fel y cyfryw djdid rhoddi pob chwareu teg iddo.
Y Pedair Camp ar Hugain, neu Adloniant yr Hen Gymry
O’b pedair ar hugain hyn, deg gwrolgamp sydd; deg mabolgamp, sef campau ieuenctyd; a phedair o’r gogampau, neu fân gampau. O’r deg gwrolgamp, chwech sydd o rym corph: 1, Cryfder; 2, Rhedeg; 3, Neidiaw; 4, Xofiaw; 5, Tmafael; 6, Marchogaeth. Ac o’r chwech hyn, pedair sydd benaf, ac a elwir tadogion gampau, sef Rhedeg, Xeidio, Nofio, Tmafael. A hwy a elwir felly am nad rhaid wrth ddefnydd yn y byd i wneuthur yr un ohonynt ond y dym fal y ganed. Y pedair gwrolgamp o tan arfau ydynt: 1, Saethu; 2, Charweu cleddyf a bwcled; 3, Chwareu cleddyf deuddwrn; 4, Chwareu ffbn ddwybig, O’r deg mabolgamp, tair helwriaeth sydd:— 1, Hely a milgi; 2, Hely pysg; 3, Hely aderyn. A saith. gamp deuluaidd:— 1, Barddoniaeth; 2, Canu telyn; 3, Daiilen Cymraeg; 4, Canu cywydd gan dant; 5, Canu cywydd pedwar ac acenu; 6, Tynu arfau; 7, Herodraeth, neu negeseuaeth.
A’r rhai a elwir Gogampau ydynt:— 1, Chwareu Gwyddbwyll _play at chess]; 2, Chwareu Tawlbwrdd; (nid yw dysgedigion yn cytuno o barth y gamp hon; tebygol mai eilun ohoni ydyw chwareu trensiwr, neu y plât pren, a arferir mewn rhai parthau o Gymru yn bresenol;) 3, Chwareu Ffristial [dice, neu deisiau fel y gelwir ef gan y Cytnry]; 4, Cyweiriaw Telyn.
Y Naw Helwriaeth
0’k naw helwriaeth, taer helfa gyffredin sydd:— 1, Carw; 2, Haid Wenyn; 3, Gleisiaid. A thair helfa gyfarthfa:— 1, Arth; 2, Dringhedydd; 3, Ceiliog coed. A thair helfa ddolef:— l,Llwynog; 2, Ysgyfarnog; 3, Iwrch. Y Carw a ddywedir ei fod yn un o’r tan- helfa cyffredin, yn gyntaf, am ei fbd yn wychaf ac yn wrolaf anifail, y mae helwriaeth arno â bytheiaid ac â milgwn; yn ail, am ei fod yn rhanog rhwng pawb a ddel ato wedi ei ladd, cyn tynu’r croen oddiamdano; oblegyd, os bydd gŵr ar ei daith yn dyfod heibio yr amser hwnw, efe a gaiff ran ohono wrth gyfraith cystal a neb a’i Uaddo. Haid wenyn sydd helfa gyffredin, oblegyd pwy bynag a’i caffo ar ei dir ei hun, neu ar dir arall, y mae yn rhanog pawb o honi ar a ddel ati cyn rhoi ohono wystl, sef yw hyny, rhoi nod wrthi i ddangos mai efe a’i cafas gyntaf; ac onis gwna, pawb a ddelo yno a gaiff ran ohoni, ond bod y bedwerydd yn myned i berchenog y tir. Gleisiad a elwir yn heLa gyffredin; oblegyd pan fydder yn eu hely â rhwyd, neu â thryfer, neu modd arall, pwy bynag a ddel ato cyn ei ranu, y mae iddo ran ohono cystal a’r neb a’i dallo, os bydd mewn dŵr cyffredin.
Yr Arth sydd helfa gyfarthfa, am ei bod yn gig hely o’r penaf, ac am na bydd fawr ymlid arni, am nas gall gerdded ond yn araf, ac ni bydd ond ei baeddu, a’i chyfarth, a’i Lladd.
Dringhedydd yw pob peth a ddringo i frig pren i’w amddiffyn ei hun. Ac ni ddyly heliwr ddywedyd J3ele, neu Gath goed, neu “Wiwair, neu Ffwlbert, ond eu galw Dringhedydd llwyd, Dringhedydd du, neu Dringhedydd coch; ac ani nas gall dringhedydd ddianc yn mhell, ond dringo i’r pren, ac yno ei faeddu a’i gyfartti a Tvneir. Ceiliog coed a elwii- yn helfa gyfarthfa, oblegyd pan ddelo bytheiaid ar ei hynt ef, ei jTnlid a wnant oni gymero bren, ac yno ei gyfarth a’i faeddu a wneir.
Y Cadnaw sydd helfa ddolef, oblegyd er maint fu’r gwaeddi a”r canu cyrn ar ei ol, ef a gynal ei helynt oni flino. Ysgyfarnog sydd helfa ddolef, am ei bod yn cadw ei helynt, er maint fo’r hela arni.
Yr Iwrch a elwir yn helfa ddolef oblegyd yr un achos. Penaf cig hely yw Carw, ac Ysgyfamog, a Baedd Gwyllt, ac Arth.
O’s gollyngir milgwn i garw neu unrhyw anifail arall. a’i ymlid o’r milgwn tros fryn, allan o olwg, a’i ladd, ymilgi blaenaf yn y golwg diweddaf biau y croen. Ond ni chaiff miliast groen, er ei enill, oni bydd hi yn dorog o filgi a enillodd groen, ac yna hi a’i caifî.
Am Ysgyfarnog, pa beth bynag a’i lladdo, y ci neu’r peth arall a’i cotto o’i gwâl a’i piau, os ei cheisio y byddir i’w hymhd.
Y Naw Helwriaeth a ddyly pawb eu gwybod ar a ddyco gom; ac oni fedr roddi ateb am danynt, ef a gyll ei gom. Ac os daw neb i hely, a’i gynllyfan am dano, oni fedr roddi ateb am y Xaw Helwriaeth, ef a gyll ei gynllyfan. Ond ef a all fod a’i gynllyfan am ei fraich yn ddiddial. Xid all neb ollwng na milgi na miliast i un anifail pan fo’r bytheuad yn ei ymlid, oni bydd iddo yntau fytheuad yn ei ymlid; ac oni bydd, fe all y neb a fo yn canlyn y bytheuad dori llinyn gâr ei filgi, os efe a’i gollwng. Nid rhydd i neb saethu anifail y bo helwriaeth arno pan fo yn ei esmwythdi’a, tan boen colli ei fwa a’i saeth i arglwydd y tir. Ond efe a gaiff ei saethu, a’i ladd os gall, pan fo’r huaid ar ei ol; ond ni chaiff saethu yn mysg y cŵn.
Os â neb i hely, a gollwng ar anifail, a chyfarfod o gm segui- âg ef, a’i ladd, y cwn cyntaf biaufydd; onid cŵn y brenin fydd y rhai segur.
Yr aifail a helier fydd arddelw yr heliwr cyntaf, hyd oni ymchwelo ei wyneb parth ei gartref, a’i geíh ar yr hely; ond o bydd ei gŵn ef yn hely, ac yntau wedi ymadael â’i gŵn, ni ddyly ef ddim cyd-Uaddo y cŵn segur ef, ond perchenog y cŵn segur piaufydd.
Ftuy yr oedd y (jyfraîth hely gynt.
Bedd yr Yspeilydd
fHanesyn ac ynddo addysg i bleidwyr Deddf Dienyddiad.J Yn nghyraydogaeth Trefaldwyn, tua’r flwyddyn 1819, yr oedd hen balasdy a elwid Oah’fieid, yr hwn er mwyn rhyw welliautau neu gilydd a drowyd yn ffermdy. Enwtenant y lle y pryd hwnw oedd James Morys, yr hwn oedd ddyn diofal ac afradlon, yn esgeuluso ei fasnach, a’r hwn a fu farw mewn dyled, gau adael ei wraig a’i unig ferch mewn meddiant o’r lle. Yn fuan ar ol marwohieth ei gŵr, cymerodd y wraig i’w gwasanaeth fel hwsmon ddyn ieuanc o’r enw Newton, o Swydd Stafford; yr hwn a gyflawnai ei swydd gyda gonestrwydd a llwyddiaut mawr. Yr oedd efe yn berffaith ddyeithr yn y wlad hono, ac ni chyfeillachai â neb o’r cymydogion, eithr cyflwynai ei holl sylw a’i amser at ei alwedigaeth. Anaml yr ymadawai â chartref, oddieithr i ffeiriau a marchnadoedd, ac i’r EglwyS ar y Sul, lle yr ymddangosai yn ddefosiynol iawn wrth wrando yn astud ar wasanaeth nad oedd yn deall yr un gair ohono. Ymddygai yn weddus bob amser; eto ymgadwai mor neillduedig fel y methodd offeiriad y plwyf, er ei holl ymdrech, ffmfio cyfeillach âg ef. Ond yr oedd y fferm yn gwella tan ei arolygiaeth; a’i phercheuog yn llwyddo yn y byd. Aeth dwy flynedd heibio, ystyriai y weddw ef yn fwy fel cyfaill nag fel gwas; ac yr oedd yn Non ganddi weled ei hanwyl eneth ac yntau yn ymserchu yn eu gilydd. Un prydnawn yn Tachwedd, 1821, daliwyd ef yn hŵy nag arferol yn y Trallwm, ac am chwech o’r gloch cychwyuai ar ei di-aed tuag Ouhfield. Yr oedd yn noswaith dywell iawn; a disgwylid ef yn bryderus adref; ond er disgwyl a phryderu hyd ddau a thri nid oedd yn dyfod; ond cyrhaeddodd y newydd yn y bore ei fod wedi dychwelyd i’r dref yn fuan ar ol ymadael,yn ngofal dau ddjTi o’r enw Parcer a Pirs, y rhai a’i cyhuddent o ladrad penffordd, yr hwn drosedd a gospid â marwyolaeth y pryd hwnw. Profwyd ef yn euog o’r cyhuddiad yn y Sesiwu ddyfodol ar dystiolaeth y ddau gyhuddwyr hyny, yr hon oedd yn eglur a chyson drwyddi, a dedfrydy.’yd ef i gael ei grogi. Jsid oedd ganddo ddadleuydd, ac ni alwodd unrhyw dyst o’i blaid; ond pan ofynodd y barnwr iddo yn y dull arferol, “a oedd ganddo rywbeth i’w ddywedyd paham da ddylai dedfryd angau gael ei chyhoeddi aruo,”efe a anerchodd y llys yn dull rhyfedd a ganlyn:— “Y mae yn eithaf amlwg mai ofer hollol a fuasai unrhy-w amddiffyniad o’m heiddo i yn erbyn y fath dystiolaeth. Y mae fy nghyliuddwyr yn ddynion parchus, ac ymddengys eu tystiolaeth yn eglur a phenderfynol, ac nis gallaf feio y rheithwyr am fy nghael yn euog. Yr wyf yn maddeu o’m calon i’r dynion hyn y condemuir fi ar eu camdystiolaeth. Ond, fy arglwydd, yr wyf yn ardystio yn y modd difrifolaf gerbron y Llys hwn, gerbron eich arglwyddiaeth, a cherbron y Duw cyfiawn y byddaf yn fuan o’i flaen i’m barnu, fy mod yn hollol ddieuog oddiwi’th y trosedd y condemnir fi o’i blegyd. Ni ddygais neb i siarad ar fy rhan. Nid oes ond dwy flynedd er pan y daethum yn ddyeithr i’r wlad hon gyntaf. Ni wnaethum gydnabyddiaeth â neb tu allan i’r teulu a wasanaethwn, acymdrechais gyflawni fy nyledswyddau yn ffyddlon a gonest. Nid wyf yn gobeithio nac yn dymuno i’m bywyd gael ei arbed; ond yr wyf yn gweddio na byddo i’r trosedd hwn orwedd ar fy enw. Yr wyf yn gobeithio yr argyhoeddir fy meistres a’i merch garuaidd, na ddarfu iddynt lochesu oa bod yn garedig wrth yspeilydd penffordd. Gweddiais lawer yn ystod fy ngharchariad am i’r gobaith hwn gael ei sylweddoli; ac yr wyf yn hyderus ddarfod i’m gweddi gael gwi-andawiad. Yr wyf yn beiddio dweyd, os dieuog ydwyf o’r trosedd hwn, na bydd i laswellt dylu ar fy medd am un genedlaeth o leiaf. Fy arglwydd, “derbyniaf eich dedfryd yn ddirwgnach, a gweddiaf yn daer ar fod i bawb eydd yn fy ngwrando gael eu dwyn i edifeii-wch, a’m cyfarfod eto yn y nef.”
Pa fodd bynag, pasiwyd dedfryd eithaf y gyfraith ar y truan anffodus; a chladdwyd ef tu cefn i eglwys Ti’efaldwyn. Dywed un ysgrifenydd ei fod ef wedi ymweled â’r lle yn nghymdeithas Eliott Warburton, yn mhen deng mlynedd ar ugain wedi i Newton gael ei gladdu, ac nad oedd gymaint ag un glaswelltjTi yn tyfu ar y bedd. Nid oedd yr un bedd arall yn agos ato; a thrwy ei fod yn gydwastad â’r Uawr, yr oedd yn wahanol i’r holl feddau ereill. Yr oedd y tir o’i ddeutu yn nodedig o ffrwythlawn — llysiau preiffion a thoreithiog yn tyfu am gryn bellder oddiwrtho. Llawer gwaith y ceisiwyd gan bobl yr ardal gael gan laswellt dyfu ar y llecyn diffrwyth; rhoddwyd pridd newydd drosto, a hauwyd arno amrywiol fathau o lysiau, ond yn gwbl ofer; disgynai y lle yn fuan i’w sefyllfa gyntefig, yn gleidii- oer a chaled.
Mewn perthynas â’r ddau au-dyst annuwiol, ymddengys fod teulu Parcer wedi bod unwaith yn feddianwyr Oakfield; a’i fod ef yn dysgwyl, os ceid ymadael â Newton, y byddai y fîordd yn rhwyddach i’r lle ddyfod i’w feddiant yntau drachefn. Dywedid fod Pirs yn ymgeisio am law y ferch ieuanc tua’r amser y bu Mr. Morys farw, a theimlai fod Newton wedi achub y bhien arno. Ymadawodd â’r gjTnydogaeth yn fuan ar ol collfarniad ei gydymgeisydd, trodd yn adyn meddw a pheryglus, a lladdwyd ef yn y diwedd mewn chwarel geryg calch wrth danio y graig. Surodd natur Parcer yn sarug a diysbryd, ac ymddangosai bywyd yn falch trwm ac anhawdd ei ddwyn iddo, ac yn ’ol tystiolaeth hen glochydd Trefaldwyn, curiodd ei gnawd ’oddiam ei esgyrn, a threngodd mewn sefyllfa hynod o angenus a diamgeledd.
Cyfieithwyd yr hanesyn hwn o’r Manchester Weemy Times, gan un o’r enw Mr. W. Williams. yr hwn a ddeisyfodd ar i ryw un o’r lle daflu ychydig oleuni ar y ffaith, a dwyn eu tystiolaeth i’w chywirdeb. Tmgymerodd boneddwr o blwyf cyfagos â’r cais, ac wele ei dystiolaeth:— “Dymunaf hysbysu fy nghydgenedl nas gallaf ddwyn unrhyw dystiolaeth uniongyrchol am y dyn a gafodd ei ddienyddio; ond yr wyf yn cofio, er yn blentyn, glywed llawer o sôn am y bedd rhyfedd yn mynwent Trefaldwyn — nad oedd dim yn tyfu arno; ac yr oedd y chwedlau a draddodid yn ei gylch gan bobl ofergoelus yn amry wiol ac annghyson â’u gilydd. A thrwy fy mod yn annghredu pob chwedlau o’r fath, gwnaethum ymholiad manwl yn ei gylch pan aethum gyntaf i Drefaldwyn; a phe bawn yn ceisio crynhoi sylwedd yr hanes a gefais gan y dynion mwyaf cyfrifol yn y dref, ni byddai ynddo nemawr o watianiaeth oddiwrth yr hancsyn uchod. Bum yn siarad âg amryw oedd yn collo yr amser yn dda. Dywedent i’r tyst Pirs golli ei synwyrau yn llwyr o’r dydd y gwnaeth efe y llŵ hyd ei fedd. Bellach yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymorau y flwyddyn er’s ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol yr heol, ond nid yw y lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chauad arch — ^rhywbeth fel wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a yhedair neu bump yn y pen a’r traed, ac oddeutu pedair troedfedd a haner o hyd ydyw. Y mae y tir yn mynwent Trefaldwyn yn hynod o fras; a’r gwair sydd yn tyfu arni tua diwedd mis Mehefin yn ddeuddeg neu bymtheg modfedd o hyd; ond y mae tua troedfedd o bob tu i’r bedd yn llawer uwch, ac yn ddu ei liw; yr achos o hyn mae yn debyg ydy w y gwrtaith a roddwyd ar y lle gan y gwahanol cae’e melwr. 101 bersonau a fuont yn ceisio cael gan rywbeth arno. Pan fydd y glaswellt felly wedi tyfu yn uchel, y mae yn naturiol iddo ogwyddo dros y lle noeth, ond y mae pob rhan a ddelo uwchben y bedd yn gwy wo, ac yn syrLhio fel lludw; ac felly y mae y Ue mor Iwm yn nghanol haf ag yn nghanol gauaf. Y mae ei sefyllfa yn mhell oddiwrth y beddau eraill, ar gyfer pen dwyreiniol yr Eglwys. Gelwir ef, “Bedd y dyn a gafodd ei grogi ar gam.” Dichon y bydd llawer yn annghredu hyn, oni bai iddynt weled y iyeth eu hunain; ac nid rhyfedd chwaith, canys y mae cynifer o chwedlau o’r fath yn mhlith y Cymry heb ddim sail iddynt ond mympwy ac ofergoeledd; ac yr wyf yn cyfaddef na chredais hyn fy hunan heb ei weled, a bum am üynyddau lawer yn meddwl fod rhyw rai yn rhoddi cyffeiriau gwenwynig ar y Ue er atal tyfiad y llysiau. Ond y mae yn ymddangos fod y peth yn cael ei achosi gan Awdwr deddfau natur; ond pa un ai yn naturiol neu yn oruwchuaturiol, ni cheisiaf ateb. Barned pawb trosto ei hun. Dymunwn i naturiaethwyr, Uysieuwyr, fferyllwyr, a duwinyddion, roddi eu barn ar y pwnc. Yr wyf yn sicrhau fod y fath beth yn bod mewn gwirionedd; a phwy bynag a gymero’r drafferth i fyned i Drefaldwyn, ni chaiff ei siomi yn y tir diffrwyth. Y mae yr hanes a draddodir am y condemniedig a’r tystion tuhwnt i bob anmheuaeth, canys y mae wedi digwydd mor ddiweddar. Casglwyd yr hanes gan un o weinidogion yr Eglwys; ac argraffwyd a chyhoeddwyd ef yn bamphledyn oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ol, dan yr enw, ' The Highicayman” s Grave’ ac o’r pamphledyn hwn y cafodd y newyddiaduron Seisnig yr hanes, mae yn debyg, yr hwn a gyfieithiwyd yn onest a diduedd gan Mr. W. Williams.”
Cae’r Melwr
[Yr ydym yn dyfynu y chwedl ganlynol o waith yr ysgrifenydd gwir dalentog hwnw Salmon Llwyd, a ymddangosodd yn y cyhoeddiad rhagorol Y Brytiwn, gan deimlo yn hyderus y ca pob Cymro o chwaeth ddywenydd wi-th ei ddarllen. Y chwedloneg oreu a feddwn yn yr iaith Gymraeg ydyw.] Er ys Uawer blwyddyn hirfaith, wrth danllwyth mawr o fawn, ar aelwyd gynhes Ty’n y Ddol, yn Mlaenau 102 cae’b melwr.
Ffestiniog, yn ystod himos gauaf, adroddid chwedlau a chofianau gan hen Gymro syml, a elwid gan ei gydletywyr, Yr Hen Dy’n y Cefn.
Ei chwedl hoffaf bob amser oedd yr un ag yr ydwyf fi yn bwriadu ei gosod o flaen y darllenydd. Nid anfuddiol feallai, fyddai dyweyd pa fath un oedd yr adroddwr. D^’n bychan, caled, gweithgar, a’i fryd yn llawn o’r hen chwedlau dyddanus a glywsai pan yn las hogyn gweini yn Nolwyddelen oedd y dyn; a choeliaf nadoedd dim yn hyfrytach ganddo na chlywed son am y pethau rhyfedd a barddonol hyny — y pethau diniwaid a phleserus a fuont unwaith yn cysegru yr aelwyd fynyddig, ac yn enyn awyddfryd arbenig yn meddyliau y rhai a eisteddent i wrando ar y cyfryw. Byddai, ar ol i lafur ei ddiwTnod ddybenu, yn nghanol mwg cudynog ei bibell, mor ddedwydd, îe, yn llawer mwy dedwydd, yn yr hen gader freichiau o dan fantell simcidai, na’r un tywysog a fedd y byd, ar ei gedau gwych a”i glustogau esmwyth. Ei ddwy goes ar draws eu gilydd, a’i ddwylaw o dan ei gesail, ac yn haner cau ei lygaid, dechreuai fel hyn:— Yr oedd ryw dro er ys talm ŵr a gwraig yn byw mewn lle bychan yn nyffryn Llanrwst, o’r enw Cae’r Melwr. Eu heiddo hwy oedd y fan. Yr oedd ar eu tir amryw fythynod neu “bentai. Byddai son mawr gan bawb y ffordd hono am arian y bobl hyn. Ni bu ganddynt ond Tin ferch ar eu helw, ac nid oedd dim diwedd ar y tynerwch a’r serch anwydgu a ddangosid i obaith eu hyfrydwch. Yr oedd yr eneth hefyd yn un dlos odiaeth, ac yr oedd caredigrwydd hyfwyn a thiriondeb hyweddus, yn addurn iddi, yn gystal a gwynder ei chroen a gwrid ei gruddiau crynion. Yr oedd mewn bwthyn ar y tir wreigan weddw vn byw, ac iddi yx oedd un bachgen bochgoch, bywiog, chwareus. Eyddai’r plant bob dydd efeo’u gilydd, ac nid oedd neb yn fwy ei barch yn Nghaer Melwr na Jack (oblegyd dyna oedd enw mab y wetldw). Aeth amser chwareu heibio, ac yr oedd yn rhaid meddwl am anfon Rhn merch Cae’r Melwr, i’r ysgol i Lanrwst, at ryy hen ferch foneddig oedd wedi myned trwy ei chyfoeth.
Gan fod Elen yn un led ofnus, ac yn hytrach yn foethus hefyd fwy na heb, daeth i feddwl yr hen fachgen wneud lle Juck yn yr Ysgol Rad, fel ag y byddai iddo fod yn gwmni i’r eneth i fyned a dyfod. Anfonwyd y ddau ^Tio, a buant yn cyrchu hefo’u gilydd i’r ysgolion am rai blynyddoedd; ond aeth amser ysgol drosodd ar Jack, dr’llan. Cyflogwyd ef yn was bach gan ŵr Cae’r Melwr, bu yno am laAver blwyddyn, a phob pen tymhor caffai godiad. Daeth o fod yn Was bach i fod yn eilwas, ac erbyn iddo dyfu yn llanc ugain oed, cafodd ei wneud yn hwsmon Cae’r Melrr. Yr oedd ei ben fam weddw yn mawr lawenbau -wrth weled ei phlentyn yn esgyn i fynu mor rhwydd; ac yr oedd ei weled yn hwsmon mor ieuanc, i’w golwg hi, yn gymaint peth a phe buasai wedi enill haner teyrnas. Anfonwyd Elfn i Loegr i ddysgu Saesneg; ac erbyn iddi ddyfod yn ol yn mhen y flwyddyn yr oedd Yach wedi dyfod yn ddyn mawr iawn efo’i thad a’i mam, ac yn cael ei ystyried yn un o’r dynion mwyaf Uygadog a chall yn yr hôll Ddyffryn. Yr oedd yn well am amaethu na neb yn y fro, ac nid peth. hawdd fyddai cael undyn a’i curai am brynu a gwerthu. Gwaith hen ŵr Cae’r Melwr oedd ei ganmol yn mhob cyfryw fan, Sul a Gwyl, a choeliai nad oedd yn y wlad nac ail na chymhar iddo. Yr oedd hithau yr hen wraig hefyd yn hoff hynod o sôn am “Jack ni.” Dywedai yn fynych pan elai i Lanrwst mai efe oedd y bachgen goreu o Gaer i Gonwy.
Edrychai Elen arno fel ei chyfaill anwylaf; ac o’r braidd’ nad ellid ffansio fod rhywbeth rhwng y ddau. Yr oedd gweddw dlawd y bwthyn Llwyd gerllaw yn cael cwmpeini y ferch ieuanc yn bur anil, ac nid anfynych y byddai y chwedl yn disgyn am Jacl:. Dechreuodd pobl y wlad hefyd siarad; a pha beth sydd mor dafodrydd a gwlad pan ddechreu hi ar y gorchwyl? Yr oedd tipyn glew o genfigen yn gymysg a’r cwbl; a pha offeryn Uymach a mwy gwenwynig a fedd uffern? Dechreuwyd yn dew ao yn deneu ddywedyd fod Jach yn caru Elen; a daeth y 6Ŵn i glustiau yr hen bobl. Ni wyddent ar faes medion y ddaear pa beth i’w wneuthur. Nid oeddynt yn foddlawn i’w merch — y brydferthaf a’r dirionaf yn y wlad — briodi y gwas. Yr oeddynt yn rhyw ddirgel ddysgwyl y deuairhywyŷrboneddig, acy gwelai wytl ar eu merch, ac y caent cyn myned i dŷ eu hir gartref yr hyfi-ydwch o weled eu hanwyl Rhn yn wraig fawr. Yr oedd ei glendid a’i chyfoeth, yn nghyda’i challineb, yn rhyw fath o emes hefyd mai felly y troai pethau allan. Mwyfwy oedd y twrf, a gofynid i’r hen ŵr beunydd a oedd ei ferch wedi priodi y gwas? Digiai yr hen fachgen drwyddo pan glywai sôn; a Uawer gwaith, er mwyn ysmaldod, y goiynwyd y gofyniad iddo. Byddai gŵr Cae’r Melwr yn arfer myned i Wydir i giniawa yn lled fynych. Tua’r amser dan sylw digwyddodd fod yn y fle “^ olaf a enwyd ŵr boneddig o Loegr, ac nid oedd na byw na bywyd os na 104 cae’r mewr.
chai hwsmon Cae’r Melwr i fyned gydag ef iV wlady oblegyd yr oedd y deisigwair, a’rcyrneni, a’rmydylauŷd, mor hardd fel ag yr oedd wedi pendroni hefo’u taclusrwydd. Yr oedd wrth hela ryw ddiwrnod hefyd wedi gweled Jack, a thaerai na -welsai yn ei oes lanc mwy golygus a glandeg. Ni fynai ei feistr sôn am adael i’w hwsmon fyned ymaith; ond troai Tsgweier a Barwn Gwydir arno yn ddigydwybod. Addawodd yntau y gwnai siarad efo Jack yn nghylch y peth, ac y ceid ateb dranoeth. Eywbryd yn y nos yr oedd gŵr Cae’r Melwr yn niyned adref, a siaradai wrtho ei hun. Dywedai, “Dyma’r peth oedd arnaf eisieu. Fe aiff Jack i fifwrdd. Mi fedraf weithian dori pob cysylltiad rhyngddo ac Eìen. Gwas da oedd o; ac ydyw hefyd o ran hyny. Colled fawr i mi fydd ei golli; ond beth os ydy w y twrf amdano ef ac Rhn yn wir? Rhaid gwneud rhywbeth.” Fel yna y siaradai ar hyd y ffordd. Cyrhaeddodd Gae’r Melwr. Nid oedd yno ond Jcfcy- ar ei draed. Ar ol canu “Nos da’wch,” aeth i’r tŷ ac i’w wely, i gael dywedyd wrth yr hen wraig yr ymddiddan. Dechreuodd ar ei chwedl cyn cyrhaedd y llofi’t, a mawr fu’r gyfrinach a’r cynllunio. lDywedent wi’th eu gilydd, “Pethgarw fyddcoili’rhwsmongoreuyn y wlad. Beth os mai celwydd noeth ydyw’r cwbl hefog Elen? ond helynt gwyllt fyddai iddo hudo yr eneth. Gwas ydyw.” Penderfynwyd rhoi’r cynyg iddo fore dranoeth; ac felly fu hi. Dywedodd Jack yn ddibetrus fod yn dda ganddo gael y fath gynyg, a diolchodd yn wresog i’w feistr am ei ewyllys da. Aeth yr hen ŵr i Wydir yn ebrwydd i hysbysu y Sais y deuai y llanc. Nid oedd ond deuddydd i wneud parotoadau. Aeth y si ar led ei fod yn myned i ffordd; ac nid oedd gan ei hen fam weddw ond erfyn ara nawdd iddo yn ymbilgar o flaen yr orsedd hono — o flaen yr Un Hwnw a wrendy ochenaid ei ffyddloniaid o ddyfnder ing a chymylog leoedd trallod! Yr oedd ei deimladau yntau yn dadmer. Yr oedd ei wyneb yn foddfa o ddagrau cysegredig cariad pur. Gweai myrdd o bethau o flaen ei lygaid, fel mân wybed Mehefin. Ac yr oedd un arall heb fod yn nepell a’i chalon fel tf’ynon oer yn y gauaf. Gwelir hono yn niygu pan fydd yr eira yn gnwd tew o’i chwmpas; ac ni rewa hon pan fydd y Uynoedd llonydd yn gloedig gan loywddu iâ. Felly calon jE’/en; er bod gauaf cariad wedi dyfod ati, yr oedd Uygedyn byw ei serch mor lân a chlir ac erioed. Aeth Jack i ff’wrdd. Cwjmiid yn fawr ar ei ol; ond ni chlywid merch Cae’r Melwr ar un cyfrif yn sôn gair amdano.
cae’r melwr. 103 Ar ol cyrhaedd pen ei daith, ac ymsefydlu yn ei le newydd, gyrodd lythyr adref at ei fam, a chofiai at ei hen syfeillion “yn faTrr, ond dim cymaint a sill am Elen. ^Ywedai yr hen ŵr Trrth yr hen wraig ryw ddechreunos wì-th y tâìi:— “Nid oedd “dim gwir yn y chwedl fod Jack ac Eìen yn cani, onide nid aethai byth i ffordd fel yr aeth. Rhyw cWiwladi’on oedd yn cenfigenu wrtho ef a minau.” “Nac oedd, 0, nac oedd,” mecidai hithau, “acymae’r plant gwirion wedi ofni cymaint fel na fydd Eìen un amser yn sôn dim amdano ef, ac ni soniodd yntau ddim gair am dani hithau, yn ei lythyr; ac 3T oedd o yn ein henwi m. ill dau.” “Rhyfedd iawn, a rhyfedd iawn fel pe dae,” ebai yr hen ŵr: “cel’frydd digy wilydd oedd o: yr wyf yn siwr “dda ddigon mai Dafydd Sion ’FJìi/s, Pen Isaf y lDref, a ddyfeisiodd y cwbl.”
Aeth amse/ yn ei flaen. Gouyngwyd Jach yn annghof cyn pen hir, oddieithr gan ei fam “weddw a a phwy? Cawn weled cyn y diwedd.
Yn mhen Uawer o flynyddoedd — dyweder saith mlynedd — daeth i Ayydir fab i ìarll Northampton i aros. Yr oedd rhyw giniaw mawr yno un noson, a gwahoddesid holl foneddigicn a boneddigesau y gwledydd yno, ac yn eu mysg E/en, aeres Cae’r Melwr. Dechreuwyd yn yr hwyr ganu a dawnsio; ond nid oedd neb i’w chystadlu â’r rhian brydferth hon. Yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddi a phob un arall yn y Ue, ag sy rhwng afallen sur a phren afalau pêr. Syrthiodd y Sais tros ei ben a’i glustiau i gariad. Cafodd air â hi; ac yr oedd ei geiiiau iddo fel cawodydd maethlawn Mai ar sypiau briallu haner crispiedig. Bod yn agos iddi oedd ei wynfyd; clywed ei llais oedd ei beroriaeth; edrych ar ei hystum lluniaidd oedd ei benaf hyfrydwch. Meddwai ei lygaid ar ei phrydferthion, a gwleddai ei galon ar ei thlysni; nid oedd eisieu bod yn ddewin i ganfod teimladau serchus y boneddwr, ac erbyn haner dydd dranoeth yr oedd sôn dros bob man fod Elen Cae’r Melwr a’r gŵr boneddig mawr yn caru. Tmsythai yr hen ■ŵt, ac ymsioncai yr hen wi-aig wi-th wrando ar eu cymydogion yn cyfarch gwell iddynt ar gom y newydd da. Bob dydd byddai y gŵr ifanc yn unioni am Gae’r Melwr, a phan âi’r hen ŵr i”r dref, yr oedd pawb yn cymeryd gofal dwbl i ddangos eu parch iddo. Dechreuodd y wlad son am ddydd eu priodas, a chyn pen rhyw hiwer o amser daeth y lFug yn fiaith. Yr oedd y diwrnod wedi cael ei benu. Aeth y boneddwr adref i Loegr i ymweled â’i deulu a”i gyfeillion 106 cae’e melwe.
cyn newid ei fyd, ac hefyd i wneuthur y darpariadau gogyfer â’r adeg ddedwydd hono — y diwrnod dysglaer hwnw, pan fyddai Eìtn o Walia yn flodyn têg yn ngardd y Sais uchelfri. Dyrwynodd amser yn mlaen, a phob nos a dydd dynesai yr awr iddynt gael eu — “Huno yn liyfwyn wrth allor y Llan.”
Oblegyd amgylchiadau teuluaidd ni fedrodd y boneddwr gychwyn mor brydlawn ag y dymunasai o’i wlad. Ond anfonodd ei gyfeillion o’i flaen, ac yn Ngwydir yr arosent oll. Nid oedd Elen byth bron yn dyfod allan. Diwrnod cyn dydd y briodas, yr oedd mab Iarll Northampton yn cychwyn o Langouen yn lled fore, a dau was gydag ef ar gefn ceffylau mawrion. Pan newydd adael y Llan, goddiweddasant ŵr boneddig urddasol yn marchogaeth ar hyd yr un ffordd. Ar ol dangos arferion moesgarwch tuag at eu gilydd, gofynai mab yr iarll i’r boneddwr dyeithr, a oedd efe yn myned yn mhell ar hyd y ffordd hono. Atebai yntau ei fod. Gofynodd iddo drachefn, pa mor belled. “Hyd yn Nghapel Garmon, ar bwys Llanrwst.” Pan ganfu hyny, dechreuodd ddywedyd mai i le o’r enw Gwydir yr oedd yntau yn myned, ac y gobeithiai y caent gyd-deithio; ac os byddai galwad, y caent achub cam eu gilydd, “oblegyd,” meddai, “y mae llawer o ladron y ffordd yma.” Àíyned yn mlaen yr oeddynt, ac o’r diwedd dechreuodd y Sais adrodd wrth ei gyd-deithydd helynt ei feddwl — ei fod yn myned i briodi un o’r morwynion glanaf a welodd llygad dyn erioed — fod y briodas i gymeryd lle dranoeth. Nid oecîd dim gair yn dyfod allan o’i enau am hir filldiroedd meithion ond canmoliaethau parhausi’r fun lanwedd o Gae’r Melwr, neu’r friallen ddiwair o Ddyffryn prydferth Llanrwst. Ar ol blino yn canmol, gofynodd o’r diwedd a wnai ei gyd-deithydd ddyweyd tipyn o’i hanes yntau. “Gwnaf, yn union,” ebai, “oblegyd y mae yn ddyledus arnaf wneud hyny tuag at un sydd wedi bod mor galon agored tuag ataf. Saith mlynedd yn ol gadewais rwyd ar fy ol yn nghwr Dyffryn Conwy, ac yr wyf yn myned yno yn awr i edrych a ddeil hi i’w chodi.” Chwarddai mab yr Iarll am ben y fath ynfydrwydd, a lled dybiai fod ei gyfaill yn dechreu gwirioni. Yn mlaen yr aed, a chyrhaeddwyd Capel Garmon yn ngwyll y nos. Ysgydwyd Raw yn serchog, a chauasant yn iach, gan ddymuno llwydd i’w gilydd. Aeth mab yr Iarll yn mlaen i Wydir, ac arosodd yr hwn a drafaeliai gydag ef mewn ty” tafarn bach yn y cae’r melwe. 107 pentref dan sylw. Ar ol bod yno yctiydig fynydau, iiolodd am. yi” oifeiriad, ac aed iV yniofyn ef at y gŵr boneddig yn ddiymdroi. Daeth yntau yno, a bu yn siarad am awr neu ddwy gyda’r gŵr boneddig dyeithr, a dywedodd wrtho am briodas merch Cae’r Melwr, a sffniodd rywbeth am Jach. Dywedodd y gwr boneddig wrtho o’r diwedd fod arno ef eisieu cael ei briodi cyn dydd bore dranoeth. ac y rhoddai iddo ddeg gini melyn cs y gwnai. Xi faliai yr ben offeiriad ddim Uawer mewn na rbeol na pheth; cytunodd i wneud rhag blaen; sef am chwech o’r gloch yn y bore.
Ymadawodd y ddau am y noson hono. Aeth y boneddwr yna allan, a bu o’r tŷ am tuag awr, ond daeth yn ei ol a boneddiges gydag ef. Gadawodd hono yno ei hun drachefn, ac aeth ymaith yr ail waith. Aeth at Gae’r Melwr, a churodd wrth y drws; cyfododd yr hen ŵr yn llawn ffwdan. ^.dnabu lais t/acÄ-. Dywedodd yntau ei neges yn ddiseibiant, sef bod merch ei feistr ganddo yn Nghapel Gai-mon, a’i fod am briodi yn fore iawn y dydd hwnw (oblegyd yr oedd hi erbyn hyn yn dri o’r gloch y bore). Gofynai hefyd a ddeuai yn was priodas i’w hen was bach. O! deuai rhag blaen. ’Rhoes beth amdano ynburddel; ond nid y dillad newydd tanlliwcrai a gaw.sai gogyfer a, phriodas £”/?«. Aethpwyd tua Chapel Garmon; ac wrth fyned, dywedai yr ben ŵr lawer byd o helynt y briodas oedd i fod yno, a gwahoddai Jack a’r wraig yno i dreulio y diwrnod yn llawen a Uon hefo nhw. Cyrhaeddwyd y tŷ tafarn, ac erbyn iddynt fyned i’r tŷ, yr oedd yr offeiiiad a’r clochydd yn disgwyl er ys awr neu chwaneg. Caed cornaid o ddiod dda, ac yna aed rhag blaen i’r eglwys. Merch y dafarn yn forwyn briodas, a’r Person yn sefyll yn lle gwas, a ben ŵr Cae’r Melwr yn rhoddi’r ferch! Priodwyd. Llwyddai yr ben ŵr y ddau mewn Saesneg clapiog o flaen y person hyd yn nod; a dy wedai fod yn rhaid iddo frysio adref. Ond erfyniodd âr Jack fod yn sicr o ddyfod yno i’r briodas. Aeth adref a dywedodd wrth yr hen wi-aig pa fath ddynes bardd oedd gwraig Jaclc. Ond ni welodd mo’i gwyneb unwaith, er iddi roddi cusan iddo wrth borth y fynwent pan oedd o’n d’wad adref. Seisnes oedd hi. Mawr oedd y dwndwr yn Nghae’r Melwr y bore hwnw. Pawb yn llawn ffwdan: pawb yn parotoi. Yr oedd hi’n ddiwrnod braf yn niwedd Hydref, a’r haul yn loew-ddysglaer yn tywallt ei belydron ar fiyn, dyffryn, a dôl. “^Disgwylid i Rhn godi; ond nid oedd dim hanes o honi. Disgwyl y buwyd, ond dim na siw na miw o’i thwrf. O’r diwedd penderfynwyd myned i fynu ati i’w ctiysuro, rhag ofn ei bod yn ddigalon. Uaeth y morwynion priodas yno — chwech o forwynion cyn glysed ag a welwyd yn Ngwynedd er dyddiau Morfudd; ond nid oedd Elen wedi dyfod i lawr. Aed i’w hystafell wely: ond nid oedd yno ond cais lle bu. Yr oedd pawb yn synu, rhai yn gwaeddi, eraill yn tywallt dagrau, a’r hen ŵr a’r hen wraig, un o bob tu’r tân, yn fudanod. “Wel,” ebai’r hen ŵr, “mi welaf sut y mae hi. Mi rois fy merch â’m llaw fy hun heddyw y bore.” “Nafaliwch,” ebai yr hen wraig, “os na chafodd fab Iarll, fe ga’dd ddyn.” Anfonwyd i’w chyrchu adref, a gorfu ar y Sais, druan, fyned i’w wlad heb Elen. Cae’r Melwr, oblegyd yr oedd wedi priodi Jach. Felly yr eglurhâwyd dameg y rhwyd, yr hon a draethodd Jack wrth y Sais, druan, pan yn cyd-deithio y noson cynt. Daethant eu deuoedd yn dalog adref ar ol cael eu gwahodd, ac ni bu neb dedwyddach yn nglân ystad priodas erioed na’r ddeuddyn hyn; ac ni bu edifar gan hen Avr Cae’r
Melwr roddi ei ferch i Jack.
Dyma chwedl Cae’r Melwr, medd
Salmon Llwyd.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), a gasglwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrecsam: Hughes and Son, 1862). Sgan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Yr Eisteddfod: o Gastell Aberteifi i’r Genedlaethol
Dwy gadair yng Nghastell Aberteifi adeg Nadolig 1176 a ddechreuodd yr hyn sydd heddiw, yn ôl pob tebyg, yr ŵyl deithiol fwyaf o’i bath yn Ewrop. Caerfyrddin a Chaerwys, eisteddfodau’r tafarnau, y Gwyneddigion, Iolo Morganwg a’r Orsedd, y Llwyn Iorwg, Llangollen 1858, y Gadair a’r Goron, yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a phob cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol, flwyddyn wrth flwyddyn, ar fap.

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Iolo Morganwg, Bardd Rhyddid
Saer maen o Fro Morgannwg na fu erioed mewn ysgol, ac a roddodd i Gymru Orsedd y Beirdd, llyfrgell o lawysgrifau a achubwyd, tair mil o emynau a llais yn erbyn caethwasiaeth.

Y Gymru Ddiwydiannol
Haearn, glo, llechi a chapel; gwrthryfeloedd, terfysgoedd a chenedl wedi’i hail-lunio mewn un ganrif.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Ffrae Farddol yn yr Hen Amser hyd Cae’r Melwr’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/cymru-fu-priodi-a-chladdu.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Yr Eisteddfod Genedlaethol o’r awyr, Llŷn ac Eifionydd, 2023 — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Print o Iolo Morganwg (Edward Williams) yn eistedd gyda llawysgrif, gan Elijah Waring — Elijah Waring · Parth cyhoeddus
- Cwch camlas yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte Telford, ymhell uwchben dyffryn Dyfrdwy — Adrian Pingstone · Parth cyhoeddus
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth