
Hanes Cymru / Llyfrgell / Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Twm Gelwydd Teg hyd Y Derwydd
Twm Gelwydd Teg, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Syr Hywel ab Huw, Syr Lawrence Berkrolles ac Owen Glyndwr a darnau eraill: o Cymru Fu, llyfr Isaac Foulkes o chwedlau a thraddodiadau Cymru (1862), yn ei Gymraeg ei hun.
Llun: Llyn Idwal dan Slabiau Idwal a chlogwyni Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Twm Gelwydd Teg
Tw>r ab Ifan ab Ebys, neu fel y gelwid ef yn gyffredin Twm Gelwydd Teg, ydoedd fab i Ieuan ab Rhys, yr hwn oedd fynach yn Margam, ac a drowyd allan o’r fynachlog oherwydd ei fod yn Lolardaidd ei farn. Nid yn ol ei ystyr presenol y deallid y gair celwydd gynt. Dywed y Dr. Tregelles yn y Briython, tudal. 155, cyf. iv., fod “y gair celwydd yn tarddu oddiwrth celu a ga-ydd, sef gwybodaeth ddirgel, a bod y gair celfydd o’r un tarddiad;” ac felly yr oedd Uysenw Twm ab Ifan yn taflu mwy o glod arno nag anfri. Bu Twm yntau hefj”d yn cyflawni rhyw swydd yn mynachlog Margam; a syrthiodd hefyd i’r un dynged a’i dad. Trowyd ef oddiyno, a bu yn ngharchar amryw weithiau yn nghastell Cynffig, gan Syr Matthew Cradoc, yr hwn a’i rhyddhaodd o’r diwedd, ac a fu haelionus tuag ato. Am ysbaid wedi hyn, bu ein harwi’ yn igwasanaethu yn mhlwf Margam a Llangynwyd, nes iddo syrthio i ryw feddyhau annghyff’redin, yr hyn a barodd i Syr George Herbert eilwaith ei garcharu; ac wedi ei ryddhau y tro hwn, ni wnaeth efe nemawr iawn ond rhodio’r wlad fel cardotyn, dyrnu rhyw ychydig yma ac acw, gwneud cwndidau duwiol, a phroffwydo llawer o bethau hynod, ac am hyn y gelwid ef “Twm Gelwydd Teg.”
’lT oedd Twm wedi dechreu proffwydo cyn iddo gael ei garcharu gan Syr George Herbert, a hyn, meddir, fu yr achos o’i garchariad. Wedi geni etifedd i Syr George, cynaliwyd gwledd a rhialtwch mawr ar ei fedyddiad, gan bedoli y ceffylau âg arian, a Uawer o rwysgfawredd costus cyffelyb. Pan welodd Twm hyn, dywedai:— “Ha! dyma rwysg a balchder mawr wrth fedyddio plentyn a aned i’w grogi wrth linyn ei dalaith.” Cymerwyd ef i fynu yn ddioed, a bwriwyd ef i garchar yn nghastell Cynffig. Rhoddwyd y plentyn yn ngofal mamaeth, a gorchymyn caeth arni i’w wylied yn ddyfal ddydd a nos. Pa fodd bynag, yn mhen amser, cyrhaeddodd y sŵn i glustiau Syr Gíeorge “fod yr ymgrafu ar y Uances, yr hyn a barodd i’w foneddiges ac yntau anfon am dani yn ddioed i’r neuadd, modd y gwypent a oedd y peth yn wir ai peidio. Wedi cael ar ddeall mai celwydd oedd yr ystori, dychwelasant gyda hi i’r ystafell fagu, a’r pethcyntaf a ganfyddent arol myned i mewn ydoedd y plentyn wedi rhoddi ei ddwylaw dan linyn ei dalaith, ac wedi eu hymddyrysu yn y fath fodd, nes tagu a marw o hono mewn canlyniad; neu fel y gellid dywedyd, wedi “ymgrogi wrth linyn ei dalaith.” Yna danfonwyd yn heinif ddigon i ryddhau Twm o’r carchar; ac wrth nad oedd cosp a charchar yn tycio i ladd cyflawniad ei broffwydoliaethau, rhoddodd y barwnig arian iddo a phob croesaw.
Un tro arall yr oedd efe yn dyrnu mewn ysgubor, a daeth rhyw lanc heibio ac a’i cyfarchodd, “Wel, Twm Gelwydd Teg, pa newydd sydd genyt ti heddyw?” “Hyn,” ebai Twn, “ti a fyddi marw o dri angau cyn y nos heno.” “Ha! Ha!” ebai y llanc, “nid all neb farw ond o un angau;” ac ymaith âg ef dan chwerthin. Yn nghorph y dydd, aeth y llanc i ben pren mawr ar geulan afon i dynu nyth barcutan, a phan roddodd ei law yn y nyth., rhwygwyd hi gan neidr a gludwyd yno gan yr aderyn i’w gywion. Parodd hyn iddo golli ei afael a chwympo, yn gyntaf ar gainc fawr o’r iyren, a thori ei wddf; ac oddiyno drachefn syrthiodd i’r afon ddofn islaw. Trwy hyn cyarfyddodd â thri angau, sef ei rwygo gan neidi- tori ei wddf, a boddi.
Gwylliaid Cochion Mawddwy
Tua chanol yr 16eg ganrif, yr oedd haid o ddrelgwn Uadronllyd a llofruddiog yn crwydro ac yn ysglyfaethu yn nghymydogaeth Dinas Mawddwy, a adnabyddid wrth yr enw “Gwylliaid Cochion Mawddwy,” neu “Gwylliaid y Dugoed.” Lladron pen ffordd oeddynt, o’r rhyw fwyaf trwsgl a barbaraidd; dyhirod ysgymunedig o’u bro eu hunain, wedi dewis y lle anial hwn i ddwyn yn mlaen eu gweithredoedd ysgeler. Barnai Pennant mai gwehilion anfad y rhyfel cartrefol rhwng York a Lancaster oeddynt, wedi eu gorfodi, pan wnaed heddwch, i ddewis maes newydd, er mwyn byw ar eiddo pobl eraill. Dysgwyd brodorion y parthau hyny yn fuan i’w hofni a’u ’hymogelyd; dygent arfau gyda hwynt pan elent oddicartref, a gosodent bladuriau, ac offerynau miniog eraill, yn eu simneiau i’w lluddias rhag dyfod i’w haneddau trwy y Uwybr hudduglyd hwnw. Cymaint ydoedd grymusder, rhif, a threfn y “Gwylliaid,” fel yr ymflFiu-fiasent yn gorfforiaeth rheolaidd, a chanddynt ddeddfau yn eu mysg eu hunain, a phenaeth neu arweinydd yn eu llywodraethu, Gyrent ddeadelloedd cyfain o anifeiliaid oddiar faesydd yr amaethwyr i’w llochesfeydd yn y coedydd a’r mynyddau “yn llygad haul ganol dydd; ac os byddai i rhyw ddyn neu ddynes fod mor anffodus a syrthio i’w crafangau, ni ollyngid hwynt yn rhyddion heb dalu llawer iawn o arian, Pa fodd bynag, tyfodd eu hesgelerderau i’r fath raddau nes dwyn dialedd ymarhous y wladwriaeth arnynt, {ymarhous yn yr oes hono,) a phenderfynwyd eu cospi â llaw drom. Apwyntiwyd Syr John Wyn ab Meredydd, o Wydir, a Lewisowen, un o farwniaid trysorlys Gwynedd, i ddwyn hyn oddiamgylch. Y ddau foneddwr a gasglasant fyddin o wŷr arfog, ac ar nos Nadolig Uwyddasant i ddal tua chant o’r “Gwylliaid,” llawer o ba rai a alltudiwyd o’r fangre, ac eraill a grogwyd. Yn mhlith y rhai a dderbyniasant y ddedfryd olaf, yr oedd dau frawd, y rhai a ddeisyfasant yn daer ar Lewis Owen am bardwn. Yntau a’u nacâodd; a’u mam mewn cynddaredd a ddywedodd wi-th y barwn gan noethi ei mynwes, “Y mae y bronau hyn wedi maethu rhai a ddialant waed eu dau frawd, ac a olchant eu dwylaw yn ngwaed dy galon di.”
Yr oedd y giwed mileinig a weddilliwyd o’r ddalfa nos Nadolig wedi penderfynu ar ddialedd, a buan y cawsant gyfleusdra i roddi eu penderfjTiiad cythreulig mewn grjTn. Clywsant fod y barwn i eistedd yn mrawdlys sir Drefaldwjm, ac yr oedd ei ffordd tuag yno yn gul, ac yn arwain trwy goed tywyll a chauadfrig. Bwriasaut araryw brenau 1 lawr nes cau y ffordd i fynu, er mwyn gwneud ei ddiangfa yn anhawddach. Pan ddaeth efe i olwg y rhwystr hwn, ei osgordd-weision a fachogasant yn mlaen er ei symud, eithr cyfarfyddasant â’r fath gawod a saetbau oddiwrth y gelynion a lechent yn y prysglwyni gerllaw, nes y ffoisant yn ol am eu bywydau. Y* Gwylliaid a ymlidiasant y rhai hyn hyd oni ddaethont at y barwn, ac yna ymosodasant ai-no ef a’i fab-yn-nghyfraith, John Wyn o’r Ceiswyn, y rhai a amddiffynasant eu hunain mor lew a gwrol ag yr oedd yn bosibl i ddynion anmharod wneud. Tynodd Lewia Owen un saeth o’i wyneb, a thorodd hi yn ei haner; ond yr oedd y gelynion yn rhy luosog, a’u holl nwydau barbaraidd wedi meddwi ar ddialedd; ac o’r diwedd efe a syrthiodd, a dim llai na deg-ar-ugain o saethau, fel cenadon angau, yn glynu yn ei gorph. Gadawsant ef ar lawr yn farw yn ei waed. Eithr wedi myned o honynt oddeutu chwarter milltir oddiwrth y fan, meibion yr hen wrach gynddeiriog hono a gofiasant fygythiad eu mam, a ddychwelasant at y corph, a golchasant eu dwylaw llofrud’diog yn ngwaed y Barwn Owen.
Bu llofruddiad y Barwn yn achlysur i ìvryr ddinystrio “Gwuiaid Cochion Mawddwy;” gweinyddwyd cyfiawnder llymaf y gyfraith arnynt; llawer o honynt fuont fen’W fel aderyn ar y “pren;” ac eraill a ymlidiwyd o’r wlad, byth i ddychwelyd mwyach; diwreiddiwyd hwy a’u Mliogaeth mor llwyr, fel nad oes un sir yn Mhrydain mor lân oddiwrth ladron a llofruddion a sir onest a rhinweddol Meirionydd — sir y menyg gwynion, a’r dim troseddau.
Syr Hywel ab Huw
(Chwedl oddiar lafar gwlad.)
Yn nghwr eithaf cantref Clwyd y preswyliai gŵr o’r enw Syr Hy wel ab Huw, a chanddo yn ei fedciiant dri o anifeiliaid pyniog. Prif lafur y rhai hyn ydoedd cario tanwydd i gynesu aelwydydd Syr Hywel a’i gymydogion. Gelwid un o honynt, oherwydd cryfder ei ên, yn Derby; a’r Llall yn Hon, am fod blew hirion yn tyfu trosto; a’r olaf a elwid Cwta, am i ryw adyn mewn malais dori’r rhan fwyaf o’i gynflfon ymaith. I Syr Hywel hefyd yr oedd amryw feibion, y rhai a gymerent ofal ei ddâ, ’trwy eu llwytho a’u Uywodraethu â phastwn a hoelen fiaenllem yn “un pen iddo. Na thybied neb fod hon yn swydd ddiraddiol i blant “Syr,” canys credai y Syr yma mai y ddysg werth fawrocaf i blant ydoedd dysgu gweithio.
Yr oedd ystâd Sjt Hywel yn hir iawn. Sicrhaodd “oraclau” yi- ardal ei bod amryw filldiroedd o hyd; dywedai “doethorion “ei bod yn mhell tros gan’ milltir;. ond credai y “wlad” yn ddiysgog ei bod yn cyrhaedd o fôr i fôr; ac er fod y dyb olaf yn swnio braidd yn rhy “gref,” yr ydym yn tueddu i’w chredu o flaen y lleill. Y mae yn ddigon naturiol casglu nad oedd Syr Hywel yn bersonol gyduabyddus ond â rhan fechan iawn o etifeddiaeth mor eang; ac o fawreddigrwydd ei galon, gadawai y gweddill at wasanaeth y cyhoedd. Gweddus i ni, pa fodd bynag, hysbysu nad oedd Ued ei ystâd yn gyfartal â’i hŷd, canys oddeutu deg neu ddeuddeg llath oedd ei lled cyflredinol, ac mewn rhai manau gellid myned ar ei thraws ar bedwar cam. Pan ddygwyddai fod tir yr amaethwyr ’y’n ymylu ar yr etifeddiaeth yma, eu dyledswydd hwy ydoedd cadw y cloddiau a’r gwrychoedd yn gyfain (neu ’gymeryd y canlyniadau), ac fel ad-daliad gymwynasgar am hyny byddai Syr Hywel yn caniatau iddynt hwy’ a’u teuluoedd y rhyddid o Iwybro ar hyd canol yr ystâd, a dwyn gyda hwynt, os mynent, eucerbydau, a’ugwartheg, a’u meirch, a phob rhyw eiddo symudadwy arall. Yr oedd y fraint hon at wasanaeth y cyhoedd yn ddiwahaniaeth, a mawr y cyfleusderau a dderbynient trwyddi.
Bholyn o ddyn byr, llydan, tagellog, oedd Syr Hywel, a chanddo wallt coch, ’tase fo’n waeth o ran hyny, ei drwyn yn nefoedd-gyfeiriol, ac un foch yn dra chwyddedig beunydd oherwydd rhy w ddrwg oedd rhyngddi a’r danedd; ac mor greulon oedd ef fel ysmygwr, nes y sicrhaodd un doethawr “iddo gael ei eni a’i bibell yn ei ben.” Yn ei wisg yr oedd yn hollol ddifalch — brethyn cartref oedd ei deunydd, wedi ei goreuro gyda llaid a Uwch, a thyllau yn y ddau benelin, ac o dan y ddwy gesail, er mwyn i’r awyr ’gael myn’d i mewn. Tyfodd yn llydan, a magodd dagell, wrth fwyta uwd a Uaeth, ac wrth son am gig.
Yr oedd palas Syr Hywel yn sefyll ar lechwedd heulog, a phâr o risiau yn arwain ato, fel pe buasai yn villa ddwyreiniol. O hono ceid y golygfeydd eangaf ar y dyffryn prydferth a ymledai o’i flaen, ac ynddo ceid engraifft gy wir o ddodrefn ein cenedl ddwy ganrif yn ol — yr hen droell fawr a bach, y ’stolion trithroed a’r byrddau derw trymion, o dan eu Uwch cysegredig henafol, a buasai y deuluyddes yn ei ystyried yn bechod mawr symud llychyn o’r cyfryw. Tuhwnt i’r dyffryn, safai y Foel Fama fel cadfridog galluog yn ei wylio, a’r moelydd cylchynol fel is-swyddogion yn disgwyl am ei orchymyn. Mewn cyfeiriad arall, yr oedd yr olygfa yn llawer eangach, ymestynai ganoedd o fìUdiroedd gerbron y llygaid, ac yr ocdd syllu arni yn ddigon i wneud bardd o delpyn o bridd. Heblaw ffenestri yn ystlysau ei balas, yr oedd gan Syr Hywel dyllau hefyd yn y tô, fel y gallai weled y blaned Jupiter oddiar wastad ei gefn yn ei wely.
Eithr yn ffurf meddwl Syr Hywel yr oedd ei brif hynodrwydd yn gorwedd. Yr oedd yn ostyngedig iawn; ymgomiai gyda’r amaethwr distadlaf, a byddai yn iechyd i’r meddwl isel sylwi arno yn mharlwr y “Bedol” ddiwrnodmarchnad yn cysuro yramaethwyr ddygwyddent fod yno, ac yn tywailt olew cydymdeimlad i friwiau calon yr amaethwyr allwyddianus. “Wel, y mae hi yn galed arnom ni y ffarmwrs yn awr; ond hi ddaw yn well toc,” oedd ei eiriau; ac yna efe a gymerai afael yn holl symudiadau y byd gwleidiadol, ac a’u gwasgai fel swp o rawnwin, gan dynu casgliadau cysurlawn (megys gwin) ohonynt. Crybwyllasom am ei gymwynasgarwch yn cauiataui’r cyhoedd Iwybro hyd ei dir, ond yr oedd gwi’thgyferbyniad rhyfedd rhwng hyny a’i ymddygiadau dan amgylchiadau eraill. Xid oes ar gael un traddodiad ddarfod iddo erioed roddi elusen i’r tlawd, eithr yn fynychrf gwgai arno; ac mewn dull arglwyddaidd, perffaith gyson â’i urddas ef, gorchymynai iddo brysuro o’i wyddfod. Y gwir am dani ydoedd, ystyriai efe dlodi yn bechod, ac fel y cyfryw cymerai bob cyfleusdi-a i ysgp-nygu danedd’, arno. Credai yn ddiysgog yn ngallu dyn; mai diogi: ydy w tad tlodi; a’r dyn tlawd yn unig a gyfrifai efe yn bechadurus.
Dyim nodweddiad Syr Hywel fel y mae ar Lafar Gwlad] yn y cwr hwnw, ac oddiar yr un awdurdod yr ydym eto yn croniclo y dygwyddiad anarferol a ganlyn mewn cysylltiad â’i ddâ pyniog:— Yr oedd natur yn swrth ymollwng i freichiau y nos, a holl gôr y goedwig wedi rhoddi heibio eu telynau, oddigerth y ddallhuan, telyn pa un, gyda Uaw, oedd yn warthus allan o gywair, tra y fynai un o weision Sjt Hywel yr ystrodur oddiar gefn cramenllyd Darbi, a gwas arall a ddatodai genglau Cwta, ac ar ol hyny a dynai yffrwy-n o ben ystyfuig Hon, ac yna gollyngasant hwynt i, barc hirfaith eu meistr i bori ac i orphwys tan y bore. Dygwyddai y parc yr adeg yma fod yn Ued Iwm a (Uborfa;, a’r hwsmyn, fel gweision da, yn cydymdeimlo â gwrthddrychau eu gofal, a benderfynasant wneud adwy yn ngwrych cae un o’r cymydogion, modd y gallai yr anlfe’üiaid gael tamaid anmheuthyn y noson hono. Yn y cae hwn yr oedd tas o wair wedi ei thori a’i thori nes myned o honi yn gilcyn. Ni ddibrisiodd yr anifeiHaid y cynyg haelionus a osodwyd ger eu bronau, a phiysurasant i dori eu hangenion.
Bore dranoeth, aeth y ddau was i ymofyn am danynt i’r man y tybient y deuent o hyd iddynt; ac er eu sjTidod a’u gofid, nid oedd eu hanes yn un man. Dych-weiasant yn siomedig at eu borefwyd, a gorfu iddynt ddadblygu yr hanes gerbron Syr Hywel. Gyrodd hyn y meistr yn gynddeiriog -wyllt, ac i fathu rhegfeydd newyddion spon; ’n’id oherwydd adwyo o honynt glawdd ei gymydog, eithr am y tybiai fod gan hyny ryw gysylltiad â diflaniad cyfrin yr anifeiliaid. Ar ol borefwyd, aed at yr un gorchwyl diflas drachefn, a chyda’r un aflwyddiant y dychwelasant yn mrig yr hv! jT. Nid oedd undyn yn unlle wedi g-weled na chlywed dim oddiwrthynt. Yr oedd Ifan, y llanc hynaf, yn darn gi-edu ddarfbd i’r ddaear agor ei safn a’u llyncu yn eu crynswth. Tybient fod yn unmhosibl i neb am foment goleddu y bwriad o’u lladrata; haws na hyny fuasai credu iddynt fagu adenydd, a hedeg ymaith megys dreigiau. Athronwyr clasurol yr ardal a benderfynent fod lau dduw rhyfel, er dwyn brwydr yn mlaen âg un o’i gyd-dduwiau, wedi rhoddi ei frydarnynt, a’u cipio i fynu i gludo adgyfnerthion i’w fyddin; tra y credai eraill iddynt wneud am danynt eu hunain yn rhy w fangre annghysbeil. Ond pwy glywodd erioed am un creadm- oddigerth dyn yn cytiawnihunan-laddiad? Aeth ttri diwrnod heibio a’r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy; a Syr Hywel yn tybio mai oferedd ’chwillo mwyach am y colledigion, a roddodd y bechgyn at ’ryw orchwyl mwy buddiol ac enillfawr.
“Idwal,” ebai yr amaethwr Harri ab Sion wrth ei was, “cymer y drol, a dos i’r Maes Meillion i ’nol y cilcyn gwan- hwnw sydd wedi syrthio, onidê fe’i handwyir gan y dryghin.” Idwal a ifuddhaodd, a ddaeth i’r Maes Meillion, a gafodd y gwair yn Uanastr ar lawr, ac a brysurodd i’w godi i’r drol. Tra yn gwneud hjTiy, synwyd ef yn aruthr wrth weled yr holl swp yn symud ac yn ymrwyfo yn ol a blaen, fel pe buasai bywyd yn mhob gweiryn o hono. Dychrynodd yn ddirfawr, ac ymaith âg ef am ei hoedl, hyd oni chyfarfyddodd rhyw ddyn oerach ei ben nag ef, yr hwn ar ol ymholl yn nghylch ei frys mawr a’i perswadiodd i ddychwelyd, modd y chwilient i wir achos ei ddychryn. “Wedi iddynt chwalu y gwair, beth oedd yno ond y tri anifail colledig. Aethpwyd at y gorchwyl o’u rhyddhau yn ddiymaros; ac er iddynt dderbyn pob cymtiorth i godi i fynu, o’r braidd y gallent sefyll ar eu traed, ar ol bod o honynt cyhyd mewn camystum. Ymddengys iddjTit bori a phori ar y cilcyn hyd oni ddisgjTiodd yn ddisymwth ar eu gwarthaf, gan eu Uwyr lethu i’r llawr. Danfonwyd am Syr Hywel ar frys gwyllt, ac efe a’i fechgyn, mewn teimladau cymysgedig o lawenydd a galar — llawenydd o’u cael, a galar oherwydd eu cael yn y fath gyflwr — a barotoisant i’w gyru tuag adref. Ond yr oedd ediych ar y trueiniaid yn ceisio cerdded y peth digrifaf a welwyd yn y cwr hwnw er’s Uawer dydd; edrychent yn debycach i grancod y môr yn null eu cerddediad nag i un creadur arall. Llusgasanteu haelodau cyffiedig at aber o ddwfr oddeutu haner milldir oddiwrth y lle, ac yno y buont yn drachtio nes llwyr atal melin oedd yn sefyll ychydig islaw iddynt. [Y bobl sydd yn dweyd hyn, cofier.] Dychwelodd Idwal adref wedi i’w ddychryn liniaru, a dywedodd Harri ab Sion wrtho, pe gwybuasai pa beth oedd dan y gwair, na buasai yn ei gythryblu am wythnos neu ddwy yn rhagor; a murmurai rywbeth nad dyna y tro cyntaf iddynt fod yno; ond pe buasai efe yn hollwybodol, mai hwnw fuasai eu tro diweddaf.
Nid oedd Syr Hy wel yn hoffi gweled pobl yn chwerthin wrth fyned heibio iddo ar yr heol, a phlantos yn estyn bys ar ei ol; a phwy all ei feio os ymabsenolodd oddiwrth y cyhoedd am rai wythnosau, ac os oedd ei le yn mharlwr y “Bedol “yn wâg, a’r amaethwyr druain yn colli ei eiriau cysurlawn. Ond cryfach arfer na dysg: yn raddol gwelid ei wyneb eilwaith yn ei rodfeydd; ymwelai âg arwydd y “Bedol “yn achlysurol; ail ymwrolodd i gysuro y gwau ei feddwl, ac i sôn “am danom ni y ffarmwrs yma.” Un diwrnod, tra ya’ oedd Hywel yn adrodd y geiriau hyn wrth un o ffermwyr ceirch godreu mynydd Hiraethog, pwy ddygwyddai fod mewn congl o’r ystafell, ac yn anweledig i Hywel, ond yr amaethwr Harri ab Sion, yr hwn a hiraethasai er’s talm am gyfle i ddweyd ei brofiad wrtho. “Dal dy dafod, Hywel,” ebai o, “y ff’wlach penwan, ai tybied yr ydwyt fod pobl i’w cael mor ffol a thithau, trwy gredu dy gelwyddau dybryd? Yr wyf yn dy adwaen yn rhy dda, Hywel, er’s blynyddau bellach. (Hywel yn cochi.) Carwn wybod yn mh’le mae dy ffei’m di yn sefyll. (Hywel yn glasu.) Y ffordd fawr, debyg gen’ i. Yn mh’le mae dy anifeiliaid di, Hyel? y tri mul hyny sydd wedi byw ar hyd eu hoes ar fy mhorfa i? a dy blant sydd yn’ edrych ar eu holau yn îs anifeiliaid na hwythau — mor ddilbes a diddysg ag un asyn yn y byd. Ni weithi dy hun, eittr gyri dy blant truenus i enill dy fwyd a dy ddiod trosot. (Hywel yn codi i wadu yr haeriad, ac yn cael fod ei dafod yn ’cau gweithio; eistedd i lawr mewn cywilydd.) Y maent yn tyfu i fynu fel mwnciod, yn gorachaidd, dilun, ac anhawddgar. Y maent yn haner rewi ar gefnau y mulod, ac y mae’r gair iddynt roddi gwrychoedd pobl ar dân, er mwyn meirioli tipyn ar fêr eu hesgyrn; pryd y dylasent fod yn yr ysgol, yn darpar at dreuÛo oes niewn rhyw gylch uwch na gyru mulod. Cyn yr ymddygaswn fel tydi, Hywel, at fy mhlant, cawsai fy nwylaw eu gorchuddio â chyrn, a buasai yn well genyf i’r hen freichiau yma wywo wrth fy ystlysau, nag y’r ymddygaswn tuag at fy mhlant fel y gwna yr estrys tuag at ei chywion. (Cymeradwyaeth dirfawr oddiwrth yr holl gwmpeini.) Pe buasai pawb fel ti, Hywel, ni buasai genym fei cenedl na phregethwr, na bardd, nac athronydd, nac ysgolor o un math; ac ni buasem nemawr gwell ein gwareiddiad na bwystlllod yr anialwch. Tafl dy rodres a dy frol i’r gwynt, torcha dy lewys, gweithia am dy damaid, ac anfon dy blant am flwyddyn i ryw ysgol, os oes ysgolfeistr yn y wlad gymer arno y dasg o addysgu barbariaid o’u bath.”
Dyna ddigon. Ymlithi-odd Hywel allan mor ddystaw a phryf genwair, ac ni welwyd ef mwyach yn mharlwr y “Bedol;” ond gellid ei weled am bump yn y bore yn parotoi fel dyn arall at waith. Gwerthwyd yr anifeiliaid am brisiau eu crwyn, a thalwyd am eu blingo allan o hyny, a gwnaeth Syr Hywel anrheg o”i ystad i hen wragedd tlodion alleut fforddio cael buwch, er mwyn enill bywioliaeth oddiwrth ei llaeth a’i hymenyn, ac i’r Uencyn diffrwyth ac amddifad allai enill ei damaid oddiwrth y drol ful. Anfonwyd y plant i’r ysgol, a chynyddasant mewn gwybodaeth a rhinwedd; llanwasant swyddau pwysig, a buont feirw, fel eu tad, mewn oedran teg. Teimlai Hywel yn ddiolchgar byth i Harri ab Sion; oblegyd priodolai ei ddiwygiad i’w gynghorion ffi-aethljTnion ef. Os dygwydd i’r chwedl hon gyfarfod y dyn hunanol ac ymhongar, hyderwn y bydd yn fbddiou i ddysgu iddo y wers semi a gwerthfawr hono, “nad yn ol ein pwysau ein hunain y’n pwysir gan eraill,” ac nad yw gwir yn Nai gwir er ei adrodd mewn geiiiau pigog; ac y gwasga ar rieni y ddyledswydd o roddi addysg i blant, hyd yn nod pe costiai hyny iddynt ambell bryd o fwyd, a Uawer awr o gysgu.
Syr Lawrence Berkrolles ac Owen Glyndwr
Pan oedd Owen Glyndwi* yn ymdaith hyd y wlad ar ddull “boneddwr dyeithr, a chydag ef un cyfaill cywir wedi ymwisgo ar agwedd gwas iddo; a chan fod yn ber yglus y pryd hwnw dwyn arfau o un niath, yr oeddynt eill dau yn anarfog. ac yn myned oddiamgylch er gwybod tueddiadau gwleidyddol y bobl. Daethant hyd at gastell Syr L. Berkroues, a deisyfodd Glyndwr yn Ffrancaeg am lety noson i’w was ac yntau. Caniatawyd hyn yn rhwydd, a goreuon y castell a roddwyd at ei wasanaeth; ac mor fawr ydoedd caredigrwydd Syr Lawrence, fel y deisyfodd ar y rhyfelwr enwog dario gydag ef am ychydig ddyddiau, a chwanegai ei fod yn disgwyl y byddai Owen Glyndwr yno gyda hwynt yn fuan; “canys yr wyf wedi aufoh tenantiaid, a gweision, a Uawer o ddynion ymddiriedus eraill, tan Iŵ, i’w ddal, a’i ddwyn yn ddiogel i’r castell hwn, yn fyw neu yn farw.” “Gorchwyl da iawn fyddai dal y gŵr hwnw,” ebai Owen, “pe bae rhywun yn abl i wneuthur hyny.” Pa fodd bynag, wedi aros o Owen yn y castell am dridiau neu bedwar, tybiodd mai doethineb ydoedd ymadael; ac wrth fîarwelio â Syr Lawrence, efe a’i hanerchodd fel hyn:— “Y mae Owen Glyndwr, fel dyn cywir-galon, heb falais na brâd yn ei fynwes, yn rhoddi ei law i Syr Lawrence Berkrolles, ac yn diolch iddo am y caredigrwydd a’r croesawiad boneddigaidd a dderbyniodd ef a’i gyfaill oddiar ei law yn y castell; ac y mae efe hefyd yn myned ar ei Iŵ, law yn llaw, a llaw ar galon, na bydd iddo byth feddwl dial bwriadau Syr Lawrence Berkroues. ond yr amcana eu dileu oddiar ei gof ei hun, a’u celu oddiwrth ei berthynasau a’i ddilynwyr.” Yna Owen a’i gyfaill a ymadawsant; eithr Syr Lawrence a darawyd yn fud gan syndod, ac ni ddaeth mwyach air dros ei wefusau. — Iolo Manuscriypts.
Ystori Doctor y Bendro
Pel yr oedd lluaws o bobl Llanfair Bont Stephan yn Neheubarth Cymru yn dychwelyd o flFair Talsarngriu tan yyngomio yn nghylch trafferth anfuddiol rhyw oferddynion afradus nad arbedmt gost i fagu a dwyn i fynu yn foethus haid o helgwn barus er mwyn y coegddifyrwch o hela, un a’ienw Gwalchmai a ddywedodd:— “Nid heb achos ynte y cyywais ddarfod i’r brenin Pabo, o wlad Fon, dori agos ar ei draws wrth chwerthin am ben y segurwyr hyn.” Cynhyrfodd y dy wediad hwn gymaint ar chwilfrydedd cydymdeithion Gwalchmai, nes yr atolygasant arno adrodd y chwedl a barasai i ŵr mor enwog a Phabo chwerthin felly.
Ebai Gwalchmai: “Yn y wlad hono yr oedd physigwr nodedig; rhemwth aller o garn Sais, coesgam, annghymroaidd ydoedd, mor ddibris o fywyd djTi ag o fywyd chwanen, a adwaenid wrth yr enw “Doctor y Bendro.” Hwn a gymerai arno wneud pob gwallgof a ddygid ato mewn hyn a hyn o amser yn holl iach. Ei ffordd ef o’u trin oedd fel hyn: Yr oedd ganddo yn un pen i’w dŷ ystafell fawr, ac yn hono yr oedd trochlyn o ddwfr budr, drewedig, ac yn nghanol hwnw y rhwymai efe y rhai gwallgofus|wrth bost yn gwbl noethion; rhai o honynt hyd eu gliniau, rhai hyd eu bogeiliau, a rhai yn ddyfuach fyth, yn ol graddau yr afiechyd. Ni chaent ddim lluniaeth, oddieithr tair llwyaid o gawi erfin, neu botes gwyn bach, unwaith bob wyth awr a deugain. Yn y dwfr hwnw goddefent newyn, rhyndod, a drygsawr, nes adferu iddynt eu cof a’u synwyr, neu farw o honynt tan y driniaeth.
“Yn mysg eraill, dygwyd i’r gwallgofdy un Gwion Gwag Siol, yr hwn a roddes efe yn y pwll hyd haner ei forddwyd; ac wedi bod yno yn darn-fwydo am bythefnos, efe a ddechreuodd wella. Yna efe a ymbiliodd ar y Doctor am genad i ddyfod o’r pwll, a chafodd ei ddymuniad ar yr amod na byddai iddo fyned allan o’r ystafell; ’ymfoddlonodd yntau i hyny yn ddiolchgar iawn dros rai dyddiau. Yna deisyfodd gael rhyddid i fyned hyd y tŷ. Caniatawyd hyny iddo, trwy nad elai allan a’r drysau. “Ryw dro, pan oedd Gwion yn sefyll yn mrig yr hwyr wrth ddrws y tŷ, canfu ŵr ieuanc lled foneddig yn marchogaeth tuag ato ar glamp o geflŷl, a gwalch yn un Uaw, a phastwn hir yn y llall, dan groch floeddio a chwibianu, a îlu o filgwn, cystowgwn, ysbaingwn, corgwn, a mân ddrewgwn eraill ar ei ol; ac o hirbell yn eu dilyn yr oedd tri o wŷr traed — gwehydd, eurych, a chrachuchelwr, wedi i sŵn y corn eu tynu yn y bore oddiwrth eu gorchwylion, yn rhedeg yn fawr eu chwys, a’u traed trwy eu hesgidiau, i gael rhan o’r difyrwch.
“Nid oedd Gwion yn cofîo dim o’r pethau a welsai gynt cyn anmhwyllo, a synai yn aruthr at yr olygfa ryfeddol hono. Galwodd y gŵr ieuanc ato, yr hwn pan neshaodd, ' Gwrando’r glanddyn,' ebai Gwion, ' ac ateb i mi gwestiwn neu ddau. Pa fwystfil ffromwyllt sydd genyt yna yn marchogaeth arno? ac i ba bwrpas yr ydwyt yn ei gadw? ' “' March ydyw,' ebai y gŵr ieuanc, ' ac er mwyn y dyfyrwch rhagorol o helwriaeth yr ydwyf yn ei gadw.' “' Aie mewn difrif!' ebai Gwion, ' a pha fodd y gelwid y tegan yna sy’n dy law di? a pha beth yw ei ddyben?” “' Gwalch ydyw,' meddai y llall, ' defnyddiol iawn at ddal petris, a grugieir coesgochion, a hwyaid gwylltion.' “' Hy!' ebai Gwion, ' ond pa beth yw’r haid creaduriaid bolweigion eraill yna sy’n dy ganlyn di, a rhes o fotymau yn tyfu hyd eu cefnau, a’u hystlysau yn debyg i ochr basged, ac i ba beth y maent hwy’n dda? '
“' Cŵn ydynt,' ebai y llall, “o bob math, ac o’r rhywogaeth oreu yn Nghymru, wedi i mi fy hunan, trwy fawr gôst a gofal, eu dysgu’n rhagorol i oll’hain adar a phryfaid gwylltion, trwy ddwr a thân, gelltydd a choedydd, anialwch a dyrysni. Dyma di-i chwpl o íytheuaid o lin cŵn goreu Brochwel Tsgythrog, tywysog Powys, heb eu gweli yn y wlad at geinach a chadno, dyfrgi a ffwlbart, bronwen a thwrch daear. Dacw ddau gwbl o ddaeargwn o waed digymysg, tu tad-tu fam, o hiliogaeth y cŵn goreu a fu erioed ar helw Rhys ab Tewdwr Mawr o’r Deheubarth. Hen orwyr y milgi acw a gafodd fy nhaid i gau orwyr i un o Avyrion Cadrod Hardd, arglwydd Talebolion, yn Môn. Yr adargi yna a ddanfonwyd i mi o Wlad yr Haf gan Syr.'
“' Ust! Ust!' ebai Gwion, ' digon bellach am achau, bonedd, a gwaedoliaeth dy helgwn. Moes wybod pa faint a dâl yr adar a’r pryfaid hyny yr wyt yn ceisio cynifer o bethau i’w hela, pe bwrit holl helwriaeth y flwyddyn gyda’u gilydd?'
“' Pw!' ebai’r heliwr, ’nis gwn i’n iawn pa faint;' a phan ddywedodd mai prin y cyrhaeddai werth coron o arian, “Gwaed fy nghadach,' ebai Gwion, a pha faint y mae cadwriaeth y march, y gwalch, a’r holl lumangwn gwaucus yna yn ei gostio i ti?'
“' Dim Nai,” ebai’r heliwr, ' na chant a haner o bunau, heblaw ambell bunt am ormes y cŵn pan hiraethont, druain, a damaid anmheuthyn, ac yr elont i wledda ai ddefaid y cymydogion.”
“' Ho! Ho!' ebai Gwion, ' y mae dy goryn di wedi ei glwyfo’n greulon, y cyfaiÚ penchWlban! Os ceri dy hoedl, dos ymaith o’r fangre hon mor gynted fyth ag y gelli, cyn dyfod y Doctor adref; oblegyd os efe a’th ddeil di yma, efe a’th gyfrif y cadffwl ynfataf ar wyneb y ddaear, wedi i’r bendro wibwrn dy bendifadu, a chorddi dy ymenydd yn lasddwr. Oni ddiengi ar frys yma y bydd dy lety, a chadwynir di yn ddiatreg yn y pwll tomlyd, faeiddfrwnt, yn mysg Llaweroedd a boenir yno eisioes; îe, rhoddir di yn ddyfuach yno na hwynt oll, rhwymir di yn ddidrugaredd hyd yr ên yn y ceubwll aflan. Ac os dy dynged fydd cael dy fwrw i mewn, fel yr haeddit yn fwy na neb, efallai y caniatâ y Doctor un ffafr arbenig i ti, trwy dy fod yn ddarn gwr boneddig sef cael o honot gymdeithas dyddan dy gŵn o’th amgylch yn mhwll y caethiwed; ac os marw a wnei, fel y mae yn dra thebygol, cyn adferyd it’ dy synwyrau, nid cysur bychan fydd i ti gael y cyfryw gymdeithion ffyddlon i gyd-byucio dy farwnad, a llafar-udo dy glul pan fyddych yn trengu.'”— Tlysau yr Een Oesoedd.
Chwedl Rhitta Gawr
Datj frenin a fu gynt yn Tnys Prydain, sef oedd eu henwau Nynniaw a Pheibiaw; a’r ddau hyn yn rhodio’r maesydd ar un noswaith oleu, serenog, ebai Nì/ìiniaw:
“Gwel pa ryw faes helaeth a theg sydd genyf fi.”
Peihiaw. “Yn mh’le y mae?”
N. “Yr holl wybren.”
P. “Gwel dithau y maint o ddâ a defaid sydd genyf fi yn pori yn dy faes di.”
N. “Yn mh’le y maent?”
P. “Yr holl sêr a weli di, yn aur tanlliw bob un o honynt, a’r lleuad yn fugail arnynt, ac yn eu harail.” N. “Ni chant ddim aros yn fy maes i.”
P. “Hŵy a gânt.”
“Na chant,” ebai y llall, wers-tra-gwers, onid aeth hi yn. gynhen gwyllt a therfysg rhyngddynt; ac yn y diwedd, o ymryson, myned i ryfel ffyrnig, oni laddwyd gosgordd a gwlad y naill a’r llall yn agos oll yn yr ymladdau.
A chly-wed a -wnaeth Eldtta Gawr, brenin Cymru, maint y galanastra a wnaeth y ddau frenin anmhwyllgar hyny, a bwriadu a wnaeth efe ddwyn cyrch a gosod yn eu herbyn, a gwedi myned wrth farn a rhaid ei wlad a’i osgorddion, cwnnu a wnaethant a myned yn erbyn y ddau frenin anmhwA’llgar a aethant fel y dywespwyd wrth ddifrawd ac anrhaith, gan ddychymygion o wallgof, a’u gorthrechu a wnaethant, ac yna tori ymaith eu harfau a wnaeth Rhitta. A phan glybu y rhai eraill o wyth brenin ar hugain Ynys Prydain y pethau hyn, ymgynull a wnaethant eu holl osgorddion, er dial sarhâd y ddau frenin eraill a ddifarfwyd, a dwyn cyrch a gosod ar Ritta Gawr a’i wŷr, ac ymladd glewdaer a fu o bob tu; ond Rhitta a’i wŷr a gawsant y maes. “Llyma fy mawr inau,” ebai Rhitta”; ac yna difarfu yr holl frenhinoedd eraill a wnaethant ef a’i wŷr.
A breninoedd yr holl wledydd eraill cylch-ogylch a glywsant hyn, ac er sarhâd y breninoedd a ddifarfwyd, ymarfogi yn erbyn Rhitta Gawr a’i wŷr a wnaethant; a thaer a glew y bu yr ymladd, ond Rhitta a’i wŷr yn enill y maes yn bensych. “Llyma’n maes helaeth a theg ninau!” ebai Rhitta; a difarfu yr holl freninoedd hyny hefyd a wnaeth Rhitta a’i wŷr. “Llyma’r anifeiliaid a borasant fy maes i,” ebai Êhitta wrth y breninoedd anmhwyll ’hyny, “ac mi a’u gyrais hwynt allan oll — ni chânt bori fy maes i.” Gwedi hyny y cymerwys Rhitta yr holl farfau hyny, ac a wnaeth o honynt ysgin helaeth o ben hyd sawdl; a gŵr oedd efe gymaint a’r ddeuwr mwyaf a welwyd erioed. A gwedi hyny y gwnaeth efe a’i wlad yn gyntaf a’r a wnaethpwyd erioed o’r fath, drefn a deddf wrth gyfiawnder a phwyll rhwng brenin a brenin, a gwlad a gwlad, yn holl Ynys Prydain, a’r Werddon, a Llychlyn, a’r Almaen, a thir Gâl, a’r Yspaen, a’r Eidal. A hoed’ byth y cadwer y drefn hono er gwrthladd y cyfry w freninoedd y soniwyd am danynt, rhag myned i ryfel mwyach Ue na bo rhaid na chyfiawn achos. Amen. A phoed felly y bo tros byth.
Ac felly y terfyna Chwedl Rhitta Gawr.
Iolo Maiiuscriyt.
Ceubren yr Ellyll
Yn mharc ceirw Nannau, yn sir Feirionydd, y safai hen geubren derwen anierth o faint, adnabyddus trwy holl Gymru wrth yr enw Ceubren yr Euyll. Cafodd yr enw hwn o herwydd fod Llafar Gwlad yn credu ei fod yn nythle ellyllon, bwciod y nos, &c., a’r sawl elent heibio iddo yn y nos a brysurent eu cerddediad, ac a ymdeimlent yn ofnus a chrynedig rhag gweled a theimlo rhai o’i breswylwyr annaearol.
Bu llawer tro ar fyd er pan felldigwyd y pren i fod yn gyfaneddle ysprydion. Tua dechreu y lôfed ganrif, yn amser rhyfeloedd Owen Glyndwr, yr oedd cefnder i’r arwr hwnw yn byw yn Nannau, o’r enw Hywel Sele, yr hwn nid oedd yn teimlo rhyw aiddgarwch mawr tros egwyddorion ei gyfathrachwr, er iddo Iwyddo i gadw hyny yn ddirgelwch. Yn ystod heddwch byr, bwriadodd arglwydd Glyndyfrdwy’ ymadloni ychydig wrth dreulio diwrnod neu ddau i hela ar ystâd ei gefnder. Cymerodd gydag ef gyfaill mynwesol o’r enw Madog, ac un neu ddau o’i wasanaethyddion, ac yr oeddynt yn hela ar eu taith wrth fyned. Wedi iddynt gyrhaedd hyd gyflfiniau ystâd Nannau, pwy gyfariyddodd yn ddamweiniol â hwynt ond Hywel, yntau hefyd yn hela wrtho ei hun. Wedi cyfarch gwell, cyfeiriasant eu camrau tua’r palas; a charw yn dygwydd croesi eu llwybr, darparasant oll at saethu ato. Hywel yn fradwrus, yn Ue anelu at y carw, a drôdd ar ei sawdl, ac a amcanodd saethu ei gefnder, eithr yn ífbdus methodd yn ei amcan diygionus. Arweiniodd hyn i frwydr law-law rhwng y ddau, a chymaint trechach ydoedd Owen na Hywel, fel y lladdodd efe ef yn y fan. Cymerodd y drafodaeth hon le yn agos i’r hen geubren mawr, ac i hwnw y bwriasant y corph. Gosododd Owen ei gydymdeithion dan Iŵ o ffŷddiondeb na ddadguddient y gyfrinach hyd ar ol ei farwolaeth ef, ac yna dychwelasant yn brysur yn ol tua Glyndyfrdwy.
Parodd (ìiflaniad sydyn a dyeithr Hywel Sele y trallod dwysaf yn ei deulu; chwiliwyd llawer am dano ond yn gwbl ofer; a’i foneddiges alarus a ymneillduodd oddiwrth y byd, ac anfynych yr elai allan o’i phreswylfa bruddaidd. Aeth blynyddau lawer heibio a’r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy. Pa fodd bynag, o’r diwedd gwelwyd marchog yn dirgymell ei farch blinedig i fynu yr allt tua Nannau. Madog ydoedd wedi ei ryddhau, trwy farwolaeth Owen, oddiwrth ei Iŵ o ffyddlondeb. Datguddiodd iddynt yr hanes oll, ac arweiniodd hwy at y ceubren, lle cafwyd esgyrn Hywel a’i gleddyf yn ei law ddeall.
Claddwyd ef yn mynachlog gymydogaethol y Cymer, yn ol defodau y grefydd Babaidd, a chyflawnwyd gwasanaeth yr offeren, er mwyn rhoddi gorphwysfa i’w yspryd digofus; ond credai y werin bobl yn gadarn, am ugeiniau o flynyddau ar ol hyn, fod yspryd Hywel Sele, yn nghwmni lluaws o gyffelyb ddigofus ysprydion, yn ddiorphwys, ac yn mynychu Ceubren yr Ellyll, pa bryd bynag y caent gefn yr haul.
Y Derwydd
[Yr ydym yn codi y dernyn canlynol o’r Greal, un o’r lluaws cyhoeddiadau rhagorol a ddygwyd allan dan nawdd, a chydag arian, Cymdeithasau y Grwyneddigion a’r Cymreigyddion yn Llundain. Ymddangosodd y Greal hwn yn y ff. 1805, agos i driugain mlynedd yn ol. Ei olygyddion oeddynt y gwladgarwyr anfarwol Owain Myfyr a’r Dr. Owen Pughe, y rhai a wnaethant fwy nag odid neb ar ran ein llenyddiaeth genedlaethol. Arbedasant rhag difancoll gyuseiliau hanes y genedl fedd yr hen hanes cyfoethocaf o holl genedloedd gogleddbarth Ewrop, trwy gyhoeddiad, o hen law-ysgrifau, y Myyyrian Archaeoiogy. Arian Myfyr, ac athrylith y Dr., fu yn foddion i ddwyn y llyfr anmhrisiadwy hwn trwy y wasg y tro cyntaf. Achlesent eu cyd-genedl ar eu mynediad i’r Brifddinas, a chwilient am sefyllfaoedd cyfaddas iddynt; anfonent arian i gynorthwyo beirdd hen a methiantus yn Xghymi’u; cyhoeddent wobrau ar destunau cenedlaethol, er mwyn adfyo yr awen Gymreig; ac ystyir yr hanesyddiaeth sydd yn eu cyhoeddiadau yn safon gan lenyddion yr oes annghrediniol hon. Maddeuer i ni am droi oddiâr ein llwybr i daflu blodyn ar fedd dynion y dylem anrhydeddu eu coff’adwriaeth — dynion fuasent yn addiu-n i unrhyw genedl dan haul.] “Pan oedd cleddyf anorchfygol y Rhufeiniaid gwedi treiddio i eithafoedd pellaf Prydain, ac wedi gorllifo ei meusydd gleision â gwaed y godidocaf o’i haerwyr, Modi-ed y doeth a chwiliodd am achles rhag gwythlondeb rhyfel. Yr oedd ef yn Dderwydd clodfawr oherwydd ei dduwioldeb a’i ddoethineb; ond, ysywaeth, ei dyng: e’d oedd iddo fyw i weled yr allor sanctaidd yn cael ei thaenellu â gwaed ei duwiol offeiriaid, a’r llwyni cysegredig yn cael eu halogi â thrythyllwch cadgwn creulawn anniwair. Y lloches a ddewisodd oedd ogof eang, wedi ei rhanu gan ddwylaw anian yn ami’ywiol ystafelloedd. Yr oedd y Uwybr tywyll, graddol-estynedig, yn tywys iddi; ac oherwydd ei afrifed ddyrys gylchdroadau, yr oedd yn anhygyrch i bawb ond y sawl yr oedd llaw garedig y Derwydd yn eu harwain; felly, yr oedd y lle dirgel hwn yn noddfa i ddiniweidrwydd a rhinwedd. Yma yr oedd y wyryf ieuanc dyner yn ffoi rhag llathrudd, a’r wraig ddiwair rhag trais y gelynion; ac yma yr oedd y weddw a’r ymddifad yn ceisio diogelwch a chysur; yma hefyd yr oedd yr hen filwr dewrwych yn troi yn archolledig o’r frwydr, ac wedi ei iachau trwy dduwiol ofal y Derwydd, yn dychwelyd i’r ymladdfa gyda nerth a grym adnewyddol. Bob bore a hwyi- y gwelid Modred yn ymgrymedig dan gyssegr-lwyn odderwagoeddyn addurno y fron gerllaw ei drigfan ef: yno yr adeiladodd allor gysegrlan, ac yn ol arfer ei ddoeth a’i ddysgedig hynafiaid, a osododd arno offrwm sanctaidd o flawd. Wele, dyma fel yr oedd yn treulio ei ddyddiau mewn gweddi, myfyrfod, ac elusengarwch; ei ddiod oedd y dwfr o’r ffi-wd ddysglaer ag oedd yn tarddu o’r graig, yn mha un yr oedd anian wedi llunio ei anedd ddiaddm-n; a’i fwyd oedd y llysiau iachus oeddynt yn tyfu oddiamgylch ei breswylfod. Cyfryw a hyn oedd Modred y Derwydd, yn ymddygiad pa un yr oedd 5’n gysylltiedig ddiniweidrwydd mabandod a doethineb henaint.
“Un diwrnod, fel ag yr oedd yn crwydro yn mhellach nagarferol i chwilio am lysiau meddyginiaethol, dygwyddodd iddo sylwi bod y ddaear gwedi ei mannu âg amryw ddefnynau o waed; ac wrth ganfod, ychydig o gamrau yn mhellach, bod y defnynau yn fwy ac yn amlach, ei hynawsedda’icymhelloddi’wdilyn. Hwy a’iharweiniasant ef i fan lle yr oedd dyn mewn arfwisg yn gorwedd yn estynedig ar y llawr. Yr oedd yn edrych fel pe buasai mewn Uewyg; ac fel ag yr oedd ei wyneb yn ddiorchudd, canfu Modred ei fod yn mlodau ei ieuenctyd.
“Yr ocdd y Derwydd yn gwybod wrthei arfwisg ei fod yn perthyn i fyddin y Rhufeiniaid; ond tosturi tuag at y cyflwr gresynus a diymadferth ag yr oedd ef yn ei weled ynddo, a wnaeth iddo annghofio yn union ei holl elyniaeth.; fe a’i cyfododd ef yn ei freichiau, fe dywalltodd idd ei enau sycliedig y meddyglyn adfywiol a oedd yn wastad yn ei ddwyn gydag ef, ychydig ddefnynau o ba un a’i hadfywiodd yn rhyfeddol; ond eto er hyn, yr oedd ef mor d’ra llesg a dirjTU, oherwydd iddo golli cymaint o waed, a bod iddo, er gwaethaf ei holl ymgais, fethu codi ar ei draed. Modred, pan ganfu y dyeithrddyn yn analluog i gyfodi heb ryW gymhorth mwy nag a allai ef weinyddu iddo ei hun, a brysurodd i’w ogof, ac a ddaeth yn ol yn ddiatreg a llanc ieuanc a elwid Gwydyr gydag ef. “Gwydyr oedd y gwi’olaf o holl ieuenctyd Prydain a ddyrchafasant y cleddyf yn eofn a diarswyd i amddiffyn Rhyddid. Yr oedd anian wedi ffurfio ei gorph ef yn ei duíi perffeithiaf, a gwedi rhoddi i’w ymarweddiad y fath foddusrwydd ag y mae celfyddyd yn fynych yn nacau i’w hanwylaf addurnwyr. Yr oedd gwedi rhoddi prawf o’i wroldeb mewn amryw o frwydrau a ymladdodd yn erbyn y gelyn cyffredin; ond yr oedd ei wrhydri bob amser yn unedig â hynawsedd a haelioni. Gyda chymhorth yr arwrwas hwn y dygwyd y dyeithrddyn i ogof Modred; ond oherwydd mai Rhufeinydd oedd, hwy yn gyntaf a gymerasant ofal i roddi mwgwd arno ef, rhag iddo ddysgu y ffordd i’w hymguddia, a bod gwedi hyny yn foddion i’w niweidio.
“Gwedi ei ddwyn ef i’r ogof, hwy a gymerasant y mwgwd oddiar ei lygaid, a dattodasant ei arfwisg, ac a’i gosodasant ar Iwyth o fwswg esmwyth; yna y Derwydd a olygodd ei wellau ef, ac a ganfu y gellid, gydag ychydig o ofal, eu hiachau mewn byr amser; a gwedi gosod arnynt ryw lysiau o rinwedd diballadwj’, efe a’i gadawodd dros ychydig i orphwyso. Ar ol treigliad o gylch awr, ailymwelodd âg ef, ac efe a gafodd y dyeithr gwedi dadebru cymaint trwy y feddyginiaeth a weinyddwyd i’w archollion ef, yn nghyda’r ychydig gwsg esmwyth o ba un deffi’owyd ef ar ddyfodiad Modred i mewn, a’i fod yn gallu gofyn mewn llais isel a llesg i ddwylaw pwy yr oedd gwedi syrthio; ond pan gyntaf y deallodd mai Prydeiniaid oeddynt, fe ddangosodd ei wynebpryd nad oedd yn dysgwyl ond ychydig o drugaredd oddiar eu dwylaw. Y lJerwydd, gan ddyfalu pa beth oedd yn treiglo yn ei feddwl, a ymegniodd i chwalu ymaith ei holl ofalon a’i ddrwg-dybiadau, fel hyn:— “Y gŵr ieuanc,” ebai ef, “yr wyt yn nwylaw y rhai hyny ag y mae dy genedl di yn alw yn ddynion gwylltion; ond er mai dyeithriaid ydynt i’r celiyddydau golygus hyny a arferir gan genedloedd diwylliog i roddi gorc’budd teg dros y d ybenion m-^yaf dicliellgar a drygionus, nid yw y Prydeiuiaid ddini yn anngliydnabyddus â rhinweddau lletygarwcb a hynawsedd; y maent yn caru buddugoliaetb; ond nid’ ydynt byth yn ymbyfrydu yn ngwaed eu cydgreaduriaid; am hyny, gyr ymaith dy anesmwytbder, a chred, tra byddot yn ogof Modred y Derwydd, y byddi yn ddiogel rhag niweci a cham.
“Yr oedd y Ebufeinydd yn sjmu yn ddirfawr wrth weled yr baeboni annisgwyliadwy hyn; eto nid oedd yn medru Nai nag amau y gallai yr ymddygiad hynaws yma fod yn fath o ragritb i gelu dybenion mwy gelyniaetbol; ond fel ag yr oedd ef yn barod, gyda gwroldeb Ebufeinaidd, i gyfarfod ei dyngedfen yn llawen a thysgog, pa un bynag ai gwenu ai gwgu a wnai arno, ni ddyoddefodd i hyny aflonyddu tawelwcb ei feddwl, yr hyn oedd, yn y fath gyflwr ag yr oedd ef ynddo, yn anbebgorol i adferu ei iechyd. Yn y bore, canfu y lJerwydd fod ei westai gwedi gwellau yn rbyfeddol, yrbwn, ypryd hyny, a hysbysodd iddo mai swyddog yn myddin \ Hbufeiniaid oedd ef, a darfod iddo ymadael â’i wersyll, pa un oedd o gwmpas taitb diwrnod oddiwrth y lle hjtiy, gyda phump eraill o’r un fyddin. Eu bamcan oedd, efe a addefodd, ceisio rhyw hysbysiad o sefyllla y geljm; ond ei ddynion, fel ag yr oedd yn tybio, wedi eu cyflogi gan un o’i gydswyddogion, rhyngddo a pha un y dygwyddodd ycbydigo anghydfod, a droisant eu barfau fel Uwyr fradwyr yn ei erbyn ef, ac a’u gadawsant ef megis marw yn y’ fan Ue ei cafwyd gan y Derwydd. Efe a ddiolcbodd o’i galon i’r Derwydd am ei fawr garedigrwydd tuag ato ef, ac yn ol deisyfiad Modred efe a’i dllynodd ef allan o’r ogof, yn mha le yr oedd gwedi ymgynull rifedi mawr o bobl o wahanol iyw ac oedran, newydd ddadymcbwelyd o fod y boregwaitb hwnw yn gwneuthur offrwm.”
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), a gasglwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrecsam: Hughes and Son, 1862). Sgan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Yr Eisteddfod: o Gastell Aberteifi i’r Genedlaethol
Dwy gadair yng Nghastell Aberteifi adeg Nadolig 1176 a ddechreuodd yr hyn sydd heddiw, yn ôl pob tebyg, yr ŵyl deithiol fwyaf o’i bath yn Ewrop. Caerfyrddin a Chaerwys, eisteddfodau’r tafarnau, y Gwyneddigion, Iolo Morganwg a’r Orsedd, y Llwyn Iorwg, Llangollen 1858, y Gadair a’r Goron, yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a phob cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol, flwyddyn wrth flwyddyn, ar fap.

Hywel Dda a chyfraith Cymru
Y brenin a gofia Cymru fel Hywel Dda, a’r gyfraith a ddygodd ei enw am chwe chan mlynedd: teg i fenywod, trugarog wrth y newynog, ac wedi’i hadeiladu ar wneud heddwch.

Y Gymru Ddiwydiannol
Haearn, glo, llechi a chapel; gwrthryfeloedd, terfysgoedd a chenedl wedi’i hail-lunio mewn un ganrif.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Twm Gelwydd Teg hyd Y Derwydd’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/cymru-fu-syr-hywel-ab-huw.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Yr Eisteddfod Genedlaethol o’r awyr, Llŷn ac Eifionydd, 2023 — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
- Y Brenin Hywel Dda ar ei orsedd, ar dudalen o Gyfraith Hywel Dda yn Lladin o’r drydedd ganrif ar ddeg… — Unknown medieval scribe · CC0
- Cwch camlas yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte Telford, ymhell uwchben dyffryn Dyfrdwy — Adrian Pingstone · Parth cyhoeddus
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth