

Hanes Cymru / Llyfrgell / Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry
Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry
Hanes Bywyd y Ficer (1 o 3)
Hanes bywyd y Ficer gan William Rees, o argraffiad 1867, gyda’r weddi o’i flaen.
Llun: Y Neuadd, cartref yr Hen Ficer yn Llanymddyfri · W. Rees, CC0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Gweddi
O Arglwydd grasol, yr îiwn yn dy Air Sanctaidd wyt yn erchi i ni alw arnat yn mhob cyfyngder; ac yn addaw ein gwrando, a’n gwaredu, ond galw arnat mewn flfydd ac edifeirwch; yr ydym yn deisyf arnat, o’th anfeidrol drugaredd, roddi gras a grym i ni gratlu ar dy addewidion, a dal gafael arnynt, fel y gallom lefain arnat am gynnorthwy ym mhob achos, a chael ein nerthu yn ol dy addewid.
A chan na fedr neb o honom weddîo arnat fel y dirper (dylem) heb gyfnerth (ly Yspryd, yr ydym yn canlyn arnat, er mwyn dy fab Iesu Grist, roddi i ni dy nefawl Yspryd, (ac na phallech ddim ag a geisiom,) i gynnorthwyo ein gwendid, ac i gyfarwyddo ein gweddiau, ac i ymbil drosom âg ocheneidiau annhraethadwy, fel y gallom geisio yr hyn wyt yn ei erchi, a derbyn yr hyn wyt yn ei addaw, ac nad elo ein gwediiiau un amser yn ofer; ac i barrotoi ein calonnau, i agoryd ein geneuau, i gyfarwyddo ein tafodau, i eefydlu ein meddyliau, ac i hogi ein hawch, fel y gallom alw arnat yn brudd mown Ysbryd a gwirionedd, a cheiffio gennyt yr hyn wyt yn ei addaw. A chan fod Satan bob amser yn ceisio ein hattal i weddio, ac yn taflu trawsfeddyliau i’n calonnau pan fyddom yn chwounych galw arnat; yr ydym yn deisyf arnat er mwyn Crist ei geryddu, a rhoddi gras i ninnau i’w wrthwynebu, mowu astudrwydd a bywiol Ifydd, fel y gallom wnouthur uy waith yn brudd o ddyfnder calon, fi chuol gennyt Arglwydd, wrando oin gweddi a chynnorthwyo ein gwendid. Ac Un yr wyt yn erchi i ni o íiaen pob dim wrtli woddio, geisio dy deyrnas, n’th gyiiawndor; yr ydym yn oriyn arnat roddi gras i ni dchlyn dy orchymmyn; ac o lialln pob peth, ym mhob achos, geisio dy ogoniant, a Bancteiddiad dy ouw mawr.
Arglwydd, douod dy doyrnas i’n phth, i’ai y galluch di fol lirunhin reoli oiu calunuuu ü’th Air û’th Yspryd nefol; a ninuuu ful duiliaid ufudd yn cymmeryd ein rheoli s-ennyt. Fydd di yn Dduw i ni, a gâd i ninnau fod yn bobl i tithau; bydd di yn Dad a ninnau yn blant, tydi yn Arglwydd a ninnau yn weision, tydi yn erchi a ninnau yn ufuddhau, tydi yn gwahardd, a ninnau yn ymgadw, fei y gwnelom dy ewyllys ar y ddaear fel y mae’r angylion yn gwneuthur yn y nef; nid dros un peth ond ym mhob peth, nid dros dro ond yn dragywydd, nid yn ddiog ond yn ewylh’sgar, fel y gogonedder dy enw ar y ddaear fel yr ydys yn ei ogoneddu yn y nef.
Yn nesaf at dy ogoniant dy hun, yr ydym yn deisyf arnat y pethau a perthynant at iechydwriaeth ein heneidiau, dy heddwch di a’th dangnefedd, yn dy Fab Iesu, i’n cymmodi â thi, a’n cymmeradwyo yn ei waed ef trwy dy Ysprydsanctaidd, a’uhadgenhedlu, a’n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwysiad a gras, a ffydd fywioL i ddal gafael am iechydwriaeth yn haeddedigaethau Crist, a gras i ymddwyn yn Gristionogaidd yn ein galwad, fel y gweddai i’th blant di, gan ddisgleirio mewn gweithredoedd da, ac ymddygiad duwiol, fel y gogoneddor dy enw o’n parthed.
Na âd i ni, mewn enw yn unig, ein galw ein hunain yn blant i ti, ac ymddwyn ein hunain mugis plant y byd hwn; eithr pâr i ni ddisgleirio megis ser ym mhlitu couhedlaeth aughyiiawn, a dwyn dy lun a’th ddoiw yn ein talceuau, gan ymddwyn yn sllbr, ac yn union fol plant i ti. A chan na’d ocs gennym mo’r bara ond y gallbm gennyt, ac na wna ymborth ìes nes bendithiech di ef, yr ydyiu yn deisyf arnat, o’th dragywyddol dilaioni, roi i ni ein bara buunyddiol, a phob puth sydd angourhoidiol i’n cynhaliauth yn ein galwad i’th anrhydedd di, ful y calloni rym a graa, modd a mudr, i’th wasanaothu yn oin galwad yn liyddlou holl ddyddiau ein bywyd, ful pan ddulom gor dy fron i roddi cyfrifo’n gmuchwyliauth, gallom ni wnuuthur gyda chydwyod esmwyth. Amun. l
Hanes Bywyd y Parch. Rhys Prichard, gynt Ficer Llanymddyfri
Dygwyd Cristionogaeth i Brydaîn yn fuan iawn ar ol goresgyniad yr Ynys gan y ühufeiniaid buddugoliaethus; ac er i’r trigolion gael eu dwyn yn gaeth dan iau estronol, gwnaed y golled i fynu drwy sefydliad cyffredinol crefydd bur a sanctaidd yn y wlad. Ond wedi i dymhor y llywodraeth Rufeinig ddarfod, anrheithiwyd y wlad hon yn olynol gan y Pictiaid, y Scotiaid, y Saeson,a’r Daniaid, y rhai yn ddiwahaniaeth a sathrent ar freiniau a chrefydd y Brython. 0 flaen y llifeiriant mawr hwn o adfyd, enciliodd y brodorion i fynyddoedd Cymru, Ue y cadwyd y ffydd am oesoedd, yn wyneb y huthrau cryfion cyfeiliornadau ac erledigaeth Eglwys Rhufain.
Er, yn y seithfed canrif ein bod yn canfod yr Eglwys Gymreig yn gwrthdystio yn erbyn cyîumundeb â’r Pab; eto, o herwydd diffyg o’r Ysgrythyrau yn yr iaith gyffredin, ymlusgodd llygredigaeth i’r ganghen hon o’r Eglwys Apostolaidd; ac yr oedd ymrysonau y Tywysogion Cymreig, yn gystal a goi thrymder y gelynion, yn tueddu i feithrin y llygriad hwn.
Parhaodd ymdrechiadau cyfrwys y Pabyddion i lygru a gwenwyno ffynhonell gwybodaeth ac addysg y Dywysogaeth, fel y darfu i’r Cymry, dan lywodraeth y Normaniaid, gael eu sicrhau yng nghyffion tywyllwch a choel-grefydd. Er hyny, yn oes y caddug hwn, yr oedd rhai tystion ffyddlon a gadwent yn fyw farwor y tân sanctaidd hwnnw, a dorodd allan yn fflam ddisglaer yn amser y Diwygiad. Rhwystrwyd ymdaeniad y goleu hwn am ennyd gan erledigaeth dost; ond eibyn ei fod, dan amgylchiadau gwell, newydd ddechieu llewyrchu ar y Dywysogaeth, gwelodd yr Hollalluog yn dda i godi iddo ei hun weision ffyddlon, i lafurus gariad y rhai y niae Cyniru yn rhwymedig am gyfieithiad o’r Ysgrythyrau i’w hen iaith; ac am bregethiad o’r athrawiaeth iachus a gynnwysir ynddynt. O’r llafurwyr diwyd hyn, a fynegent i’w cydwladwyr ffordd iechydwriaeth, ni chyrhaeddodd un fwy o enwogrwydd yn ei wlad na’r Parch. Rees Prichard, neu, fel y gelwir ef yn fwyaf cyffredin, “Hen Ficer duwiol Llanymddyfri.” Er hynny, nid oes nemawr un y soniwyd mwy yn ei gylch, ac yr ydys yn gwybod cyn lleied am dano yn yr oes hon. Tra y derbynia Mr. Prichard oddiwrth ei genedl barch braidd hyd eilun-addoliaeth, ymdrechir taflu dirniyg ar le ei enedigaeth, a’r lle hefyd y gweinidogaethai ynddo, drwy haeru nad ydyw y trigolion wedi cadw ond ychydig goffadwriaeth o ŵr yr oedd eu hynafiaid dan gynimaint rhwymedigaeth iddo. Amcan yr Hanes presennol yw synimud ymaith y gwarthrudd hwn, cyn belled ag y mae yn awr yn ddichonadwy. Y mae aniryw hyspysiaethau profadwy wedi aros hyd yma, gyda golwg ar y gŵr enwog hwn, er holl esgeulusdod yr oesoedd a aethant heibio’. ac er eu bod yn fwy perthynasol i Hynafiaethydd nag i Hanesydd by wyd etto, hyderir na ystyrir unrhyw hyyspysiaeth gwirion’ddol, ym mhen cymmaint o amser, yn annheilwng o dderbyniad. Gan hyny, gobeithia ysgrifenydd y Cofiaiit hwn, y caitf yr adgofion canlynol ynghyd â’r casgliadau a dynnir oddi wrthynt, eu derbyn yn roesawgar; ac y tueddant mewn rhyw radd at ogoniant yr Bwa a fu yn arweinydd i’w was yn ei daith o ddefnyddioldeb.
Yr unîg gofiant rheolaidd am y Parch. Rhys Prichard, yw yr un a elwir g-an rai yn ' Y’sgerbwd Hanes Anthony Wood,” yn yr Lwn yr ydym yn cael i Mr. Prichaid gael ei eni yn Llanymddyfri, yn swydd Gaei fyrddin, yn neu yn nghylch y flwyddyn 1579, sef y 21 o deyrnasiad y Frenhines Elizabeth. Am ei hynafiaid nid oes nemmawr o hanes, heblaw bod lle i feddwl bod ei dad yn berchen cryn feddiannau yn y gymmydogaeth, ac mai ei enw ydoedd Dafydd ap Richard ap Dafydd ap Rhys ap Dafydd. Ymddengys fod testun y Cotiant hwn yn hynaf o amryw blant, oblegid y mae tri, a ddynodir yn frodyr iddo, wedi ei enwi fel cymmun dderbynwyr yn ei Ewyllys ddiweddaf; ond y mae cryn ddyryswch gyda golwg ar ei enw ei hun; oblegid, er yr argrephir ef yn gyffredin yn Gymraeg Rhys, ac yn Saesonaeg Rees Prichard, mewn dwy o dair ysgrif o’i eiddo ei bun, ag ydynt etto ar glawr, ysgrifenir ef Rice, ac yn y drydedd Jiiceus. Y mae wedi ei enwi mewa hen ysgiifeniadau yn Rees Prichard, ac yn Rice ap Richard; ond yr oeddanghyssondeb o fath hra yn beth tra chyffredin hyd yn Ued ddiweddar.
Mewn perthynas i febyd Mr. Prichard, ni adroddir dim nodedig, oddieithr un hanesyn; yr hwn, os ydyw yn wir, a ellid ei ystyrieii fel enghraifft ychwanegol o yniddygiad grasof Duw at ei bobl, ac a ddangosai y gall ef, pan y mynno, wneuthur y rhai mwyaf anystyriol a halogedig eu bywyd yn llestri trugaredd, ac yn weinidogion cymhwys y Testameiit Newydd, a hynny trwy ffordd neillduol o’i eiddo ei hun. …
Nid oe.H, fel y ciyhwyllw>d yn yr argra{)liiad li.iuuorol o liiineH y Ficcr, hi)lli>l icrwydd yiighvlch yr aniyylchiad hwn yn ei gysHylltlad â r Ficcr Pi ic Imrd: rhoddir yr liiincH fcl y yhooddwyd cf gan ei fywgraphydil, Mr. Jihys Thoiim.s, yn y ffwy Idyn 177U. Yr oedd y chwedl y pryd hynny yn ddicilhr ac ûnghredudwy i lieuafgwŷr tru’ Luuyniddyfri, llawer o ba rai fuont yn ymddiddan a phersonau, tadau pa rai oeddvnt yn ordoesi â’r hen Ficer. Galwyd ein sylw gan Thomas Watts, Ysw., Llyfrgellydd yn y “iJniisu Museum,” at hanes tebyg iawn i chwedl yr Afr, a’r hyn a gymmerodd le tuachan’ mlynedd cyn amser yr hen Ficer, ond nid oedd yn cofîo yn mha lyfr yn oedd yr hanes. Ar ol hynny, digwyddodd Llyfr bychan dd’od i’n llaw, a elwir “An account of the Parish of Aberystruth, Monmouthshire, by Edmund Jones,” argraphedig yn Nhiefecca, yn y flwyddyn 1779,yn yr hwn y rhoddir yr’hanes canhTiol, yn Saesonaeg; ac nid anhebygol mai hwn yw gwreiddyn y chwedl,ac os felly, y mae yn symud ymaith y gwaradwydd o anghymmedrolder a meddwdod oddiar ysgwyddau y Ficer Protestanaidd, a’i osod yn ol ar ben Syr Philip, y Curad Pabaidd.
' Rhyw ysbaid o amser ar ol adeiladu Eglwys Aberystruth, a chyn y Diwygiad, yr oedd un Syr Philip—nid oes rhagor o’i enw ar gllf—efe oedd Curad y Plwyf; ac o herwydd nad oedd caniatâad i Offeiriaid i’abaidd ymbriodi, yr oedd yn trigo wrtho ei hun, mewn tŷ a elwid y Tỳ Llwyd, nid yni mhell oddiwrth yr Eglwys. Derbyniodd Syr Philip, fel y tybir, fynn yn lle degwm, a chan fod unigolrwydd yn ymddangos yn hirfaith a blinedig, ac nid yn wastadol yn dydilanus i un fath o greadur, chwaithach i un o ddynolryw, efe a ddifyrai ci hun û’r inynn, ac a’i niagodd ef i fynu, hyd oni phrifiodd yn Fwoh Gafr, a gadawai ef i orwedd ar redyn neu wellt yn yr un ystafell ag ef ei hun; efallai, mewn rhan, i leihau ei ofn y nos: oddiwrth yr hyn nid yw y dysgedigion na’r mawrion ŷn wastadol yn rhydd. Caniad ni. 7 ac 8. ' ìrele, ei wellj ef, sef yr eidio Solomon; y mae tri ugain o gedyrn o’i amgylch, sefo gedyrn Isratl. lluynt oll a ddaiient gleddyf, wedi eu dysgu i ryftl,pob uti ä’ i gleddyf’ ar ei glun, rhag ofn Uw nos.' Nid ociia yr anifail yn anniolchgar idd ei noddwr, fd y mao dynion i’w creawdwr a’n cynhaliwr. Esay i. 3. Yr ŷch a edwyn ei feddiannydd, â’r asyn breseo ei berchtnnog: ond Israel nid tdicyn, fy mhobl ni ddeall.' Ond yr oedd ganddo hoffder mawr tuag atto, ac yr oedd yn ynihyfiydu i’w ddilyn i ba le bynag yr chu’, hyd y nod i’r Eglwys ar y Suliau. O herwydd nad oedd caniatâiid iddo fyned i mowû i’r Eglwys, arosui yn y port’h, gan gnui ei gil, hyd oni thcrfynai oi Feistr, ac wcdi hyny efe dilynai ef i’r Tafarndy gerllaw. Ond ar un achlysur, yn absennoldob Syr Philip, bu rhai o’r cwnipiiui mor ddrygionus 11 gorfodi’r Jywch (ìtifr i yfcd hyd oni fcddwodd; ac wrth fyned tua chartref cwynipodd oddiiir y bontbicu oedd rhyngddo II thy Syr l’iiilip, i’r afon, lle yr ocdd mewn perygl o foddi, ncu gacl ei friwio ar y cerrig. Ar ol y digwyddiiid hwn, ni dai i’r ’lafarndy fcl o’r blacii niewn un iiindd, ond gorweddiii i liiwr ur ochr aiall yr heol, pa un oodd yn ' myiicd heibio y Tý i ngolwg y drws, i wêlcd oi Feistr jiaii y delai ullun, fcl y t”^^*^! ni ddilyn of tun cbartrof.
Yr oedd yma wers o gymmedroldeb yn ciel ei hamlygu i’r holl blwyf, ac i’r Curad ei hunan, ac i bawb, yn erbyn meddwdod, gan anifail y ddaear, hyd ddiwedd aniser. Yn ddiammeu chwedleuwyd llawer yn ei gylch yn mhell ac yn agos; a gwnaed Syr Philip yn fwy enwog gan y Bwch Gafr, nac a fuasai mewn un modd arall. Ond ni wyddom pa un a daliwyd sylw yn yniarferol ar y wers neu peidio: os na ddo, hi fydd yn dyit yn erbyn y sawl a glywsant am dano, ac a weithiedasant i’r gwrthwyneb iddo, yn y diwrnod pan “datgudchant y nefoedd ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn efmewnbarn.” Job xx. 27.
“Danfonwyd hanes yr amgylchiad hynod hwn i Lundain, gyda ychydig o amrywiaethiad yn y desgnfiad, ac argraphwyd ef yn y ' Royal Magazine,' am 1761. Llyma yroedd peth hynod iawn, haeddianol o’i gyhoeddi ym mhob plwyf, ac yn yr holl fyd; ac i ddal sylw yn ymarferol arno gan bawb, yn enwedig gan bob gweinidog, sef yr hyn a gymerodd le yn mhlwy’ Aberystruth.”
Felly dywed y Parchedig Edmund Jones, yr Lwn … oedd wr geirwir a duwiol; a gellir sylwi bod yr hanes wedi ymddangos yn Saesonaeg yn y Royal Magazine,' ylaw mlynedd cyn i Rhys Thomas ei dadogi a’i daflu ar gefn yr hen Ficer.
Y mae yn drueni o’r mwyaf bod y fath chwedl dda a chymmeradwy yn cael ei distrywio, yn enwedig pan ystyrir bod y chwedl wedi cael ei thraddodi gannoedd, os nid miloedd o weithiau gydag effaith rhagorol o ddefnyddioldeb, trwy y Deyrnas o ben bwy gilydd, ar gân, ac mewn rhyddiaith, gan darlithwyr ac ysgrifenwyr ar Ddirwest a Chymmedroldeb; o herwydd rhaid dal sylw, nad oedd y canlyniad o droedigaeth, edifeirwch, a’r llwyr ymwrthodiad a briodolir i’r hen Ficer, ynghyd a’i dduwioldeb anwadadwy, a’i fri goruchel, i’w gweled ynghyflwr Syr Philip, yr hwn, y mae lle i ofni, ni dderbyniodd un lles ymarferol oddiwrth y digwyddiad hynod. “Y gwir yn erbyn y Byd,” ddylai fod yn arwyddair pob Hanesydd; ac y mae yn dda gennym gael y cyfleu hwn o lanhau cymmeriad y Ficer Prichard, pan oedd yn ddyn ieuangc.
Annichonadwy penderfynu ym mha le y derbyniodd Mr. Prichard ei ddysg. Wood, wedi crybwyll am le ei enedigaeth, a ddywed iddo gael ei ddwyn i fynu “yn y parthau hyny;” yr hwn ddarluniad sydd ddigon ehang i gynnwys holl Ddeheubaith Cymru. Ond tebyffol iddo gael ei egwyddori mewn Lladin a Groeg yn Ysgol leithadurol Aberhonddu; oblegid yr un yng Nghaerfyrddin a gafodd ei sylfaenu ganei gyfaill a’i gyd-oesydd yr Esgob Owen, o Landaf; ac nid yw yn ymddangos, am gan’ mlynedd wedi hyn, fod unrhyw Ysgolion sefydledig yn y rhan hon o’r wlad, heblaw y ddwy a nodwyd. Cyfeiria, Mr. Prichard ei hun at y diffyg hwn o addysg yn ei “Rybudd i’r claf i wneuthur ei ewyllys,” efe a ddywed,—
“Adael ysgol rydd yn Nghymru.
Lle mae eisiau; dysg sy’n pallu.”
Pan oedd Mr. Prichard ynghylch deunaw oed, efe a anfonwyd, yn y flwyddyn 1597, i Goleg Iesu, yn Rhydychen, yr hwn y pryd hynny oedd newydd ei sefydlu, er addasu ei hun i waith y weinidogaeth. Am ei helynt yn y Brif-Ysgol, ni sonir dim gan Wood, na chan neb arall. Dywedwyd gan rai, er na ellir profi gwirionedd yr haeriad, mae aelod ydoedd o Goleg St. loan, ac nid o Goleg Iesu. Ond y mae hyn yn dra anhygoel; oblegid tystia y Coflyfrau Cyhoeddus yn Rhydychen, mai yn aelod o Goleg Iesu y bu, pan y graddwyd ef yn Wyryf yn y Celfyddydau, Mehefin 26, 1602. Cynyramser hwn, yr oedd Mr. Prichard wedi cymmeryd arno yn gyflawn ddyledswyddau ei alwad oruchel. Cymmerodd ei urddiad le, yn ol yr hanes a i-oddir, yn Wittham, neu Wytham,yn Essex, lle yr urddwyd ef yn Offeiriad, gan John, Is- Esgob Colchester,* ar ddydd Sul, Ebrill 25, 1602. Rhy anhawdd yn awr yw cael allan, drwy ba drefniad o eiddo rhagluniaeth yr arweiniwyd Mr. Prichard i’r rhan honno o’r wlad; ond gan nad pa un ai o herwydd ei dduwioldeb, ei dalentau, neu gyfryngaeth ei gyfeillion y bu hyn, y mae yn amlwg fod rhyw reswm dros afreoleiddiwch ei urddiad, cyn cael ei raddio yn Rhydychen, yn gystal a’i ddyrchafiadau cyflym; oblegid dywedir wrthym, ddarfod i fywioliaeth Llanymddyfri gael ei rhoddi iddo ar y chweched o Awst, yn yr un flwyddyn, gan y Dr. Anthony Rudd, Esgob Tỳ-Ddewi. Y fywioliaeth hon, a llefaru yn briodol, oedd Ficeriaeth Llandingad, ynglŷn wrth yr hon y mae Capeliaeth blwyfol Llanfairarybryn. Bu y rhoddiad hwn yn foddion i’w sefydlu yn ei blwyf genedigol, ac yn nghanol ei feddiannau: a hya yw yr achos iddo gael ei alw yn gyffredia “Ficer Llanymddyfri,' yr hon fel y gŵyr y rhan fwyaf o’r darllenwyr, sydd dref ym mhlwyf Llandingad.
Er bod tir ac annedd gysurus yn perthyn i’r fywioliaeth, ymddengys na bu Mr. Prich-
Oddiar y dyb na fu Colchester erioed yn sefyllfa Esgobaeth, mewn rhaî argraphiadau o’r hanes a dynwyd allan o waith Anthony Wood enwir Eochester yn ei le, ond dylid ystyried nad yw Colchester na Withiim yn Esgobaeth Rochester, ond yn un Llundain; a bod Colchester drwy ddeddf yn amstr Harri VIII. wedi ei gwneuthur yn Is-Esgobaeth. Nid yw yn awr, er hynny, ond Archddiaconiaetl» yn Esgobaeth Llundain. ard yn preswylio yn y Ficerdy, onil racwn tŷ o’i eiddo ei hun, yn yr Heol Uchiif, yn Llanymddyfri; ac, wrth ddull yr adeilad, gellir bamu i’r t’ hwn gael ei gryfodi yn ei amser ef. Y mae yr annedd hon etto yn aros. ac yn ei henaint denfrys ei bod wedi ei hardda tu hwnt i un adeilad diweddarich a pyfodwyd yn y dref. Yn nmser y Ficer, adwcinîd y lle hwn wrth }t < uw “Y Neuadd Newydd,” a hynny, y mae yn debyg, o herwydd niai efe ei hun a’i hadeihidodd. Parhaodd y ty hwn i fod yn drigrfa i rai o hiliog-aeth y Ficer hyd o fewn cof llawer sydd yn fyw yn awr; ond pan wasgarwyd y meddiannu, ditiannodd i i wychder yn fuan, ac y mae yn awr wedi ei rannu yn anneddau pobl gyffrdin. Yn perthyn i’r lle hwn yr oedd tyddyn helaeth, a elwid Tir y Neuadd,” a dwy felin; ac y mae gennym lawn sicrwydd fod y Ficer yn berchen ar ddigon o diroedd heblaw hwTi, i beri iddo gael ei gyfrif yn nihlith boneddig: ion pennaf y gymmydogaeth. Gan ei fod fcl hyn yn feddiannol ar gyfoeth mawr, gallwn gasglu, oddiwrth rhediad a thuedd ei ysgrifeniadau, fod Mr. Prichird yn rhagori mewn gweithredoedd o haelioni a charedigrwydd Cristionogol, ac adroddir yn barchus rai traddodiadau am ei ymddygiad, a ddangosant nad oedd efe yn un o’r rhai hyny a ennillant glod drwy gyfranu rhywfaint o’n gweddill er Nes i eraifl, heb wneuthur dini anghyfieusdra na niwed iddynt eu hunain. Yr oedd haelioni y Ficer o natur fwy goruchel, gan nad ystyriai un aberth ^ti orniod i’w wneuthur, nac un perygl yn ormod i’w wynebu, tra yn dih-n camrai Crist wrth fyned oddi amgylch gan wTieuthur daioni.
Yn y flwyddyn 1610, yr ydym yn cacl enw Mr. Prichard, (wedi ei ysgrifenu Jticetts Prichard,) fel Y’nad dros swydd Gaerfyrddin, gydag eiddo Rowland Gwnne, Ysw., o Glanbrân, wrth rol treth ar ìlandiroedd y Fforest, Telych, ac Ystrad Fynys ym mhlwyf Llandingad. Yn yr un rol, y mao yr enw Rees ap Richard, i’w ganfod bedair gwaith inewn gwahanol fannau; onder y gellir profi bod y Ficer yn trin Uawor o dir, nis gellir penderfynu pa faint o’r tyddynod hyn a berthynent iddo ef, gan ein bud yn cael, yn ci Ewyllys, fod ganddogyd-ocswr o’r enw Rccs Prichard, Uchelwr.
Un o blwyfolion mwyaf nodedig y Ficor oedd Syr Gcuige Divfreux, Marchog, yr hwn oedd yn byw yn Llwynybrain, yn agos i Lanyniddyfri. Efe oodd ewythr frawd oi dad i’r enwog llaill Eshci, yr hwn oedd niewn cynfnmint cyninieradwyHcth gun y Frenhincb Eli/.aboth; a phan dorrwyd pcn hwnnw, yn 1001, daoth of yn warchoidwad naturiol i’w fab, y Iarll iouangc, yr hwn hffyd uodd oi otiffdd wrth y f; yfiaith. Syr Geurgo I)ovcroux a biiududii Juan, niorch Syr Juhn I’rico, Maicfiug, n Aborfiunddu, n gweddw Thoninh ap RIíyh up Williani up Ttiuniah, hw., o Yntrudffin; ac wodi niarwulaetii ni hail wr, hi a Liithludd diachofu l Thouiiis Jouoh, Ybw., o’r Fuoiitain Gato, gerllaw Tregaron—yr enwoar Ttrin S.fiort Cafti. Drwy y Syr George Devereux hwn, yn ddiamuieu, y daeth y Ficer yn gydnabyddus âg Iarll ieuansrc Essex, ac y cafodd ei bennodi yn Gaplan iddo; yr hyna’igallnogodd ef i ddorbyn Rectoriaeth Llandi, swydd Gaeifyrddin, yr hon a gyflawnwyd iddo gan y Bronin Iago I. Ar y 28 o Iivdref, 1613, rhoddwyd caniattod gan y Dr. Abbot, Archesgob Caergaint, yr hwn y dydd canlynol a gadarnhawyd â’r Sel Fawr, yn ei awdurdodi ef, fel Caplan Pendofig, i fŵynhau bywioliaethau Llandingad a Llanedi. Mewn canlyniad i hyn. rhoddwyd ef mewn nieddiant o’r fywioliaeth newydd, ar y 19 o Dachwedd, yn yr un flwyddyn. Y’n y niodd hwn helaethwyd cylch ei ddefnyddioldeb 1 radd fawr. Gellir canfod llaw Rhngluniaeth yn amlwg yn y gorchwyl hwn. sef rhoddi y buddioldeb o weinidogaeth rymmus Mr. Prichard i eraill, ar ol i drigolion ei dref enedigol wrando amo am un flynedd ar ddeg, gyda’r fath galedrwydd a difatterwch niawr ag a ddarlunia efe nior ddwys yn ei “Achwjtiiad “amynt. Pan elai y Ficer i Lanedi, dywedir bod trigolion y plwyf gwledig hwnnw yn gwrando arno gyda’r fath awydd a hyfrydwch, fel yr oedd yn gorfod pregethu allan ar y fynwent, o herwydd bod yr Eglwyâ lawer yn rhy fach i gynnwys y Lluoedd a dyrrent yno i’w glywed.
“Dinas ar frjTi nis gellir ei chuddio;” ac felly hefyd, nis gellir cuddio fliwythuu gwir a bywiol ffydd yn y Gwarodwr beiidigodig rhag llygaid y werin, llai o lawer rhag y rhai a osodwyd gan Dduw yn fugeiliaid a golygwyr ar y weinidogaeth. Nis gallai y Dr. Anthony Rudd, Esgob Tỳ Ddewi, fai na gogoneddu Duw, wrth weled goleuni Ficor Llanymddyfri yn llewyrchu mor danbaid ger bron dynion, ac a gymmerodd y cytlousdra cyntaf i’w wobrwyo am ei ddiwydrwydd a’i lafur, drwy roddi iddo, ar y 17 o Fai, 1614, i Berigloiiaolh nou Brebondai iaofli yn E^’lwys
Golegawl Aborhonddu. Nid oodd y sofyllfa hon yn ychwanegu nominawr at ei ddyled- I swyddau; ond tra yr oedd yn dwyn iddo I ragor o gyfuoth ac enwogrwydd, nid oedd yn, ei rwystro i ofalu am ei blwyfocdd, a’n gwas» auaethu fel o’r blaon.
Gan niai hwn yw y dyrchafi id diwoddaf, a’r aiwydd olaf o gyninioradwyaeth, a gyfranwyd i Mr. Prichurd gini yr Esgob Rudd,. fo allai mai nid angiiyniwys fyddai rhoddi I yiiia hanes byr ani y gwr hwnnw. (íanwyd of yn Hwydd Gaerefrog, er oi fod yn portbyn i doulu uchol o’r un onw yn Nolioubarth Cyinru. Efo a ddygwyd i fynn yn Nghaorgiiiwnt; a bu yn aolud o (ìolog y Drindod yn y Brif-Ysglll honnu. Wodi hvny gwuaod of ŷn Ddouu Caerluyw, yn yr íiun sofyllfa y paihaudd uni naw mlyuodd; uc ur farwolaoth y Dr. Middlotuu, yn lôDl, ofo a’i dilynudd of yn Rhgobucth Tý-Ddowi. Adroddir ahi duno of, iddo ruddi tranigwyild inuwr i’r Fioiihinob Eli/.aboth, yn un o’r piogelliau a dittddudodd o’i blaen yn y flwyddyn lll’JC, yn yr hon, fel Gweinidog ffyddlon, y dygrodd i’w chof ei bod yn heneiddio. Maddeuodd y y Frenhines iddo yn fuan am yr awgrym hwn; | ond nid cyn iddi gacl ryfle i borthi ci balch- | der, diwy ddangos iddo nad oedd fawr o arwyddion henaint i’w gweled arni, wrth ddarllen cerfiad ar sêl, ag oedd yn rhy fân i neb o’r cymdeithion gratiu arno â’r llygaid noeth. Efe oedd wr o ddeall cryf a duwioldeb nodedig. yn llawn hynawsedd a charedigrwydd Cristionogol at y rhai a wabaniaethent oddi wrtho ynghyloh jjethau nad ydynt yn hanfodol i grefydd; a’i brif hoffder oedd gweled Cristionogion yn trigo ynghyd mewn heddwch ac undeb, Yr oeud yn bregethwr doniol a dwys, ac ati gyfaill gwresog i bawb a ymdebygent i Ficer Llanymddyfri mewn ymroddiad i wasanaeth yr Arglwydd. Prynôdd yr Esgob Rudd dŷ a thiroedd Aberglasney, yn swydd Gaerfyrddin; ac yno yr arferai fyw yn gyffredin hyd amser ei farwolaeth, yn y ’tiwyddyn l615, pryd y canlynwyd ef yn yr Esgobaeth gan y Dr. Richard Milbome.
Ynghylch yr amser hwn yr oedd agwedd y wlad yn myned }ti lled gymmylog, ac ni roddid ond ychydig barch a chefnogaeth i nT grefydd. Yr oedd hen lefain Pabyddiaeth yn gweithio o hyd yn y deymas; a llawer ü’r rhai a gymnierent arnynt enw Protestaniaid a hiraethent am ryddid i ynibleseru mewn difyrwch a gwagedd ar y Sabboth, yr ìiyn. a ganiatteir i drigolion gwledydd Pabaidd. “Wrth ddychwelyd o’r Alban, yn y flwyddyn 1617, darfu i’r Brenhin Iago I. er niwyn boddio rhai o Babyddion swydd Lancaster, ac hefyd ar yr un pry’d i ddiwallu ei awydd ei hun am ddifyrwch gwageddus, anfon Gorchymmyn allan, na byddai i’rbobl, ar derfyn Gwasanaeth Dwyfol ar y Sabbothau, gael eu hanghefnogi na’n lluddias rhag unrhyw ymarferiadau cyfreithlon er difyrru eu hunain; megis dawnsio, saethu â bwa, neidio, chwareu pel, taflu barr, a chynnal cwrwau bach, neu unrhyw ddigrifwch o’r cyffelyb. Cafodd y Gorchymmjti hwn wedi hynny ei alw yn “Llyfr y Chwariaethau;” C yr oedd amryw weinidogion cnawdol a chanolig eu buchedd yn cynnorthwyo y Brenhin yna i ymosodiad annuwiol ar sancteiddrwydd y Sabboth; ond darfu i’r Dr. Abbot, Archesgob Caergaint, drwy ddwedyd yn bendant na chai byth ei ddarllen yn ei Eglwys ef, fod yn foddion i wneuthûr i’r Brenhin beidio cadarnhau deddf ar fod i’r llyfr hwn gael ei ddarllen ym mhob Eghvys yn y deyrnas. Ar ol cael cefnogrwydd brenhinol yn y wedd hon, yr oedd y werin yn awchus am ymdreiglo yn y pechod o dorri y Sabboth; ac yn mynwent Llandingad, fel y draddodiad yn coffhau, nid yn unig yr oeddynt yn chwareu pel, &c., ar ol diwedd yr addoliad, ond hefyd ar amser y Gwasanaet’h. Yr oedd arferion o’r fath hyn yn arswydus yn ngolwg y Ficer; ond nid oedd wiw iddo droi am gymhorth at gyfreithiau y tir, ac ni wnai y bobl un sylw o’i geryddon na’i gynghorion. 0 herwydd hyn efe a gyfansoddai Gerddi duwiol i’w canu yn yr Eglwy.s, yr hyn a ddeuai y dynion ieuaingc i adael eu campiau, ’ac jangymmysgu â’r gynnulleidfa er mwyn clywed y canu. Felly darfu i’r cynnyg hwn Iwyddo er cyfiawn atteb ei weddiau a’i ddisgwyliadau, a bu ei bregethiad effeithiol yn fo’ddion i attal parhad y troseddiad gwarthus hwn ar y pedwerydd gorchymmyn. At yr amgylchiadau a nodwyd y cyfeiria amryw o’r canau yn y llyfr hwn, yn enwedig y rhai ynghylch y Sabboth, yn y rhai y rhydd efe ddarluniad alaethus o’r modd ddychrynllyd o annuwioly treolid y Sabboth gaû drigolion Cymru:—
“Dydd i feddwi, dydd i fowlian,
Dydd i ddawnsio, dydd i loetran,
Dydd i hwrian a gwylhersu,
Yw’r dydd Sabboth gan y Cymry.
Gellir meddwl i effaith ddaionus Hymnau cyntaf y Ficer, ei galonogi i gyfansoddi rhagor; ac yr oedd amgylchiadau a chyflwr y wlad yn dra manteisiol er eu llwyddiant. Ymddengys, pa fodd bynag, fod ei Garolau Plygain gyda’r blaenaf o’i weithiau prydyddol; oblegid y foreuaf o’i Ganau, yr enwir amser ei chyfansoddiad ynddi, yw y Garol Nadolig yn y tiwyddyn 1616. Fel yr oedd yn ddoethaf iddo, defnyddiodd ddull rhwydd ag eglur o ysgrifenu, yn iaith sathredig y wlad, gan ochelyd yn. ofalus bob cywreinrwydd a gorchestion cynghaneddol, a arferid yn gyffredin gan y Beirdd, rhag ofn colli y synwyr a’r amcan wrth eu dilyn, yr hyn sydd wedi digwyddo lawer tro. Y mae y Ficer ei hun, yn ei Lythyr at y Darllenydd, yn rhoddi rhesymraau pwysig dros ysgrifenu mewn dull rhydd a deailadwyy o herwydd ei fod yn gweled pa mor Lleied defnydd a wneid o’r Cyfieithiad cyngbaneddol ardderchog o Salmau Dafydd i’r Gymraeg gan y Cadben William Middleton, (Gwilym Ganoldref), yr hwn a orphenwyd ganddo, pan ar y môr yng ngwasanaeth ei wlad, yn y flwyddyn 1595; a’r hwn, ar ol ei farwolaeth ef, a gyhoeddwyd gan Mr. Thomas Salisbury; o herwydd yr hyn y geilw y Ficer ef,” Dwfn-waith enwog Salsbri.” Ac yn ei ragymadrodd i Gatechism yr Eglwys ar Gân, y mae yn rhoddi yr unrhyw resjTuau:—
“Ni cheisiais ddim cywreinwaith,
Ond mesur esmwyth perflFaith,
Hawdd i’w ddysgu ar fyr dro,
Gan bawb a’i clywo deirgwaith.
Yr oedd Mr. Prichard bob amser a’i fryd ar wneuthur y defnydd goreu o bob amgylchiad a ddigwyddai yn y gymmydogaeth, er dyrchafu gogoniant yr Arglwydd; a thrwy ei gydymdeimlad tyner â dioddetiadau rhai eraill, a’r cynghorion duwiol a buddiol a roddai iddynt, efe mewn graddau mawr a ysgafnhai flinderau pobl ei ofal. Hyspysa traddodiad i ni, mai yr achos o gyfansoddi y Gân ragorol a elwir Cynghor i wraig beidio tristhau gormlld ar ol marwolaeth plentyn,' ydoedd i wraig dduwiol a fu un amser yn gwasanaethu yn nheulu y Ficer, ond wedi hynny yn byw niewn bwthyn, a elwid Llwyncelyn, wrth y fan y mae y bont grogedig newydd dros yr afon Tywi, golli ei hunig blentyn drwy glefyd disymmwth, yr hyn a’i gyrrodd agos yn wallgof; fond dywedir i Gân serchiadol a thoddedig Mr, Prichard gael y fath effaith ar ei meddwl, nes ei dwyn i ymostwng i ewyllys Duw, ac ymdawelu dan y wialen geryddol.
Rhaid bod Mr. Prichard wedi priodi ym fuan ar ol iddo ddyfod i fyw yn Llanymddyfri, gan ein bod yncanfod wrth y Llythyr canlynol, fod ei fab yn fyfyriwr yn Rhydychen yn y flwyddyn 1623. Gyda golwg ar gydmares bywyd y Ficer, nid oes modd gwybod rhagor nag a hyspysir i ni yn ei Ewyllys; sef mai ei henw ydoedd Gwenllian, ac iddi fyw ar ei ol ef. Nid yw ar gof a chadw fod ganddynt ragor nag un plentyn, enw yr hwn oedd Samuel, ac ymddengys ei fod, fel Samuel gynt, wedi ei gyssegru ganddynt o’r groth i’r Arglwydd. Ond er bod yn hawdd profi y gofal a gymmerwyd ganddynt i addysgu y mab hwn yn dduwiol. nis gellir llai na sylwi iddo ganlyn ffordd hollul wahanol i’r prophwyd enwog o’r un enw âg ef yn Israel. Pan oedd ei fab yn ddeng mlwydd oed, cyfansoddodd ei dad iddo y weddi a welir yn y Llyfr hwn, yn yr hon y mae yn cyfeirio at fuchedd Samuel gynt, ac yn erfyn am ras iddo yntau ddilyn ei gamrau. Gellir canfod hefyd, yn y Gân hon, pa mor llwyryroedd ei dad yn bwriadu ei gyssegru i wasanaeth yr Arglwydd. Y mae yn y Llyfrhefyd Gân arall, yr honsydd un o’i gyfansoddiadau mwyaf ardderchog a chyffrous, yn yr hon y mae y tad duwiol yn tywallt allan ei deimludau tyueiaf a serchoccaf, mewn dull rhwydd a syml, wrth wasgu ar ei fab ieuangc y cynhyräadau cryfaf i arwain buchedd sanctaidd, pan yr oedd yn absennol oddiwrth ei deulu. Dangosir got’al mawr Mr. Prichard drachefn at wneuthur Nes ysprydol i’w fab, yn y cjTighor iachusol i reoli ei ymddygiad a welir yn canlyn y Gân a nodwyd; mewn gair, y mae yn auilwg nad oedd efe yn esgeuluso un cyfleusdra i wasgu ar ei fab yr angenrheidrwydd o arwain bywyd duwiol, mewn ymddibyuiad ar gymhorth y nef; ond er yr holl ofal a’r ymdrech, ymddangosodd Orwythau calon lygredig yn ymddygiad y gwr ieuangc, yr hyn a dynnodd ar ei ben gcryddon llymion y Ficer; mewn canljTiiad i’r rhai yr oedd y mab yn cyfaddef ei feiau, ac yn addaw gwella ei fuchedd, fel y gwelir with y Llythyr “Deare father Whatsoeuer my letters haue promiscd, myself shall performe, and though y pcp courses haue causde soe many stormes of ve.ation, Yet I trust in god my re mono such cheerfulluess of niind, that those gray haires shall reobtain theire, nd what in your letters you haue alledged I Ingeniously confess, but my resolued refoation shall (as I hopefully belieue) recouer your former perfection. You haue no since I came (untill now) which hath caused lue to fall into a iealous susspition, but sc happy receit of this my sences are recreated, and those wholesome praicepts thcren pscribed I shall studie with all Indeavours to performe, My sinns I doo bewnile and dayly prayer I will crave the almightie to forgiue,—I will be lojall and obedieut t y tutors and gouenors, and will conforme my life vnto theire desiro. All the: prcp writteu in your letters I will carefvlly (with y lulpe of god) lndeavuur to practi.. Bowen was in such haste that I coulde not anllwtr euery point in particular but i t you shall finde me to answer euery point agiiine. 1 haue roceiued x token from t and those booltes which you hano written for, my tutor and I haue ben seellig l bookebinders slioppcs and coulll not haue one oi thom, but iigaiust tho next t promised my tutor to haue them, and soo with my prayers to tho almightie o y prospcrily, 1 end and rest Your ohodicnt Sonn,
Samuell Prichard.
Yr oedd y llythyr yma, yn llaw-ysgrifen Samuel Prichard, fel yr anfonodd ef at ei dad, ym m<H]diant yr Hynafiaethydd enwog- y diweddar Barch. J.M.Tralievne,M.A.,F.S.A. &c., O Goedriglan, gerllaw Cai’rdyJd; ac ar gefn y llythyr hyTi y mac pennillion, wedi eu hysgrifenu gan y Ficer ei hun, y rhai a jiodir allan vng nghorph y gwaith, tu dal. 206.
Yr oedd moesoldeh ^fti dra isel yn y wlad yn gyffredin ti yr amser hyyn; … y cynirhorion dwysion a rydd ei dad, yn Y Gân sydd yn dywedyd wrtho; —
“Na phampra’r corph i ladd yr enaid,
Na ddigia üduw i blesio diawllaid:
Na werth y nef 1 brynu daear,
Na phecha mwy rhag bod yn ’difar.
Ymbriododd Mr. S. Prichard â Frances, merch i un Mr. Harding, o Rhydychen. Rhaid bod yr undeb hw-n wedi ei ^yneuthur pan yr oedd efe yn lled ieuangc, fe allai pan yr oedd yn fyfyriwr yn y Brif- Ysgol. Yr oedd ef }Ti Offeiriad; n chau nad oes gennym hanes iddo fod yn byw yn un man ond Llanymddyfri, gallwn gasglu ar sail dda mai Curad i’w dad ydoedd. Arweinir ni yn naturiol i feddwl i’r Ficer, gan fod ganddo gymmaint o ofal am ei fab, ganiattau iddo gymmeryd urddau, ar ei yuiddangosiad o edifeirwch, a’i addewid i wellhau ei foesau; ac iddo ei gadw o hyd iddo, fel, trwy iddo fod dan ei sylw uniongyrchol, ac yn byw yn ei dŷ, y gallai cael cyfle i lethu unrhyw dueddiad a welli ynd’do i ddychwelyd i’r ffjTdd drygionus y bu yn eu cerdded yn ei íeuengctid.
Nid heb achos yr oedd. y Ficer yn edrych â llygad manwl ac eiddigus ar weinidogaeth ei fab, pan yr oedd cynnifer o hudoliaethau ar ei ffordd, i’w ddenu oddiwrth gyflawniad ffyddlon o’i ddyledswyddau cyssegredig, a phan yr oedd y t’ath anghefnogrwydd yn cael ei roddi gan rai mewn sefyllfaoedd uchel i weinidogion onest a bregethent rai o wirioneddau hanfodol Cristionogaeth, yc ymrysonid yn eu cylch y pryd hwnnw. Tua’r amser hwn, yr oedd cyflwr crefydd y fath, fel yr oedd y Brenhin lîol ac anystyriol, Iago I, yr hwn a lywodraethid gan swyddog anfoesol a diegwyddor, sef Duc Buukingham, yn barnu fod ganddo ef hawl i benderfjTiu ar ba destunau y dylai yr OO”eiriaid bregethu. Y rhai hynny a awyddent am anrhydedd a gogoniant Duw, a safent yn wrol dros yr Ysgiythyrau, ac ystyr lythyrenol Erthyglau ein Heglwys, tra yr oedd y lleill, a ddygent fwy o zel dros bethau allanol a gweleiiig crefydd, yn ymlithro o’n bodd gyda’r ffrwd a ddygai iddynt ddyrchafiad ac anrhydedd bydol.
Nid oedd Mr. Rhys Prichard yn un o’r fath a ddarluniwyd olaf, er fod ganddo gydnabyddiaeth a chyfeillion nad oeddynt yn meddu ar ffydd mor wresog âg ef, a’r rhai a gawscnt eu dyrchafu gan y pcrsonau ag oeddynt yr amser hwnnw mewn awdurdoil. Ym mhlith y cyfryw yr oedd y Parch. Morgan Owen, o Lasallt, ger Llanymddyfri, yr hwn oedd yn iau nag ef o rai blynyddau, ond a ddygwyd i fynu yn yr un Coleg âg yntau yn Rhydychen, ym mhen blynyddau wedi i’r Ficer ddyfod i fyw i Llanymddyfri. Gwnaed ef yn Gaplan y Coleg Newydd yn Rhydychen, yn 1613. Yn 1616,graddwyd ef yn Athraw y Celfyddydau, pan yn Aelod o Bart Hall, a chafodd Eglwys yn ei wlad enedigol, lle y dywed Anthony Wood ei fod. yn ŵr tra defnyddiol. Pan ddyrchafwyd Dr. Laud, i Esgobaeth Tỳ-Ddewi, drwy offerynoliaeth yr Esgob Williams, wedi hyiny Arglwydd Ceidwad y Seliau, tyunodd Imr, Owen sylw ei Esgob, yr hwn a’i gwnaeth ef yn un o Ganoniaid Eglwys Gadeiriol Tỳ- Ddewi, yn 1622, fel gwobr am ei zel dros yr Eglwys.
Un arall o gyfeillion mynweysol y Ficer oedd y Parch. Robert Powel, Otì’eiriad Llangattwg, ger Castellnedd, yn swydd Forganwg, yr hon fywioliaeth a gyflwynwyd iddo yn 1620. Yr oedd ef yn bregethwr diwyd, duwiol, a doniol; a dywedir ei fod ef a’r Ficer yn gynnorthwyol iawn i’w gilydd i ddwyn yr achos goreu ym mlaen. Nid yw yn annhebyg mai i’r cyfeillgarwch hwn rhwng y ddau yr ydym yn ddyledus am gadwiaeth yr Ysgrif o amryw o Ganiadau y Ficcr, oedd ym meddiant y diweddar Mr. Tahesin Williams, Cab Ioloj o Ferthyr Tydfil, at yr hv,-n y cyfeirir yn fynych yng nghorph y llyfr hwn.
Darfu i’r Brenhin Iago I., o herwydd ei fod wedi gwastraffu llawer o’i gyfoeth, ffurfio cynllun i wellhau ei amgylchiadau, drwy gaol Tywysoges yr Yspaen yn wraig i’w fab, Tywysog Cymru, er mwyn ei gwaddol, heb ystyried y gorchymmyn ysgrythyrol, “Na ieuer chwi yn anghy)iiarus gyda’r rhai digred — Canys pa gydfod sydd rhwng tenil Dduw ac eilunod?” a dangosodd ei wendid a’i ffolineb yn fawr, trwy ganiattau iddo ei hun a’i deulu gael ei lywodraethu gan Ddug annuwiol Buckinghaui, yn neillduol yn ei waith yn goddef i’r Tywysog fyned drosodd i’r Yspaen, i ymddiddan â’r Dywysoges yn bersonol. Edrychai y geuhedl yn eiddigus ar y gorchwyl h-wn; ac yn enwedig ni allai carwyr y grefydd Brotestanaidd lai na rhagweled y drygai aneirif a ddygid i mewn drwy gyssylitiad mor agos a llys Pabaidd. Aeth y Tywysog, a Duc Buckingham gydag ef o Loegr ym mis Chwefror, a dychwelasant adref ym mis Hydref, 1623, heb gyrhaedd yr amcan oedd ganddynt mewn golwg; pryd y darfu i’r wlad egluro ei llawenydd, drwy bob math o orfoledd cyhoeddus, am ddychweliad diogel y Tywysog, ac yn bennaf am y waredigaeth ddymunol rtag y niweidiau a ofnid oddiwrth y fath gyfathrach â Phabyddion.
Yr oedd y Ficer gyda’r blaenaf i ddangos ei N deimladau gyladgarol ar yr acl)ly? ur yma, fol y gellir canfod wrth y Gân a welir yn lu dal. 258 o’r Llyfr hwn; yr hon a gyfansoddwyd ganâdo, yn ol dull yr oes, ar gynllun cerddi y Beirdd paganaidd. Yn y Gân hon, ym mhlith rhai peunillion tra rhagorol, y niae yn cjTimieryd y cytieusdra i ddangos ei barch i rai enwogion genedigol o’r Dywysogaeth. Ar ol cymhell pob graddau i ddungos llonder eu calonnau drwy bob math o arwyddion gweledig,t y mae yn ciybwyll yn wylaidd am ei benderfyniad ei hun, ac yn roddi esianipl, yr hon sydd bob amser yn fwy effeithiol na chynghor. pan y mae yn dywedyd y byddai iddo ef a’i deulu wasanaethu yr Arglwydd, dan deimlad diolchgar am ddychweliad diogel.
wYsofr:—
“Minnau a’m tylwyth, nos a borau,
A rof ddiolch ar fy ngliniau,
I’r gwir Dduw, am ddwyn o ddeutu,
Yn iach lawen, Brins y Cymry.”
Y mae ei weddi am Iwyddiant dyfodol y Tywysog, yn tarddu oddiar y teitnladau dwys o dduwioldeb, a welir mor amlwg yn ei holl gyfansoddiadau. Gwyddai tiwy bwy y mae Brenhinoedd a Thywysogion yn rheoli; ac am hynny dymuna,—
“Crist â’i esgyll a’i hadeinio,
Crist â’i Yspryd a’i cyf rwyddo,
Crist â’i ras a fyddo ’n nerthu,
Ym mhob achos Brins y Cymry.”
Ym mhen ychydig ddiwmodau wedi marwolaeth y Brenhin Iago I., yr hyn a ddigwyddodd ar y ’2Sain o Fawrth, 1(52.3, ymwelwyd â Lloegr a’r lHangell frawychus honno o eiddo yr Hollalluog, y pla, yr hwn a dorrodd allan yn Wbitcchapel, Llundain; a thra yr oedd hwn yn difrodi trigolion y ddinas, darfu i’r Brenhin Charles I. siommi gobeithion pleidwyr gwTesoccaf Protestaniaeth, drwy briodi chwaer Brenhin Ffraingc, yr hon oedd Babyddes drwyadl; a chyn i’r Frenhines fod dair wythnos yn Lloegr, gweinyddid gwasanaeth eilun-addolgar yr Offeieu yin Mhalas y Brenhin, yn Whitehall. Gwnaeth hyn i’r bobl yn gyŴiedin gashau y Frenhines; ac o herwydd bod y pla yn niyned yn fwy dychrynllyd o ddydd i ddydd, edrychai y Puritaniaid aiTio fel barn uniongyrchol ar y wlad am droi yn ol at ddelw-addoliaeth. Vr oedd y Ficer Prichard, pa fodd bynnag, yn gweled ym mhellach i lygredigaeth calon dyn, fcl nad ystyriai y pla yn gerydd am un bai pennodol; oblegid hynny y mae efe, yn ei Ganau ar yr achlysur pruddaidd hwn, (gwel tu dal. 182,) yn son am dano fel ymweliad Duw digllon am liosngrwydd o droseddau, y rhai a nodir ganddo yn eglur ac hcb dderbyn wyneb. Mewn canlyniad i hyn, y niae efe yn rhybuddio preswylwyr y Dywysogaeth yn ddwys, i edifarhau mewn llwch a lludw, cyn i’r wialen drom gyrhaedd eu gwlad, ac i weddio yn daer am gadw yr haint niweidiol ym mhell oddi wrthynt. Wedi hyn, y mae yn rhoddi darluniad alaethus a thorr-calonnus o ddioddefiad trigolion Llundain; o resynoldeb y rhai y mae traddodiad ei fod ef ei hun yn llygad-dyst, gan ei fod wedi niyned i’r brif-ddinas, i’r diben o weini cysur ysprydol i’r rhai a syrthient i afael y clefyd arswydus; a dywedir ei fod yn ddiwyd iawn yn yinweled â’r cleifion, gan eu haunog i edifeirwch a gweddio gyda hwynt yn feunyddiol.
Er bod y Ficer yng nghanol yr afiechyd heintus, o drugaredd yr Arglwydd cauiattawyd iddo ddychwelyd adref yn ddiogel at ei dylwyth a’i braidd. Y mae wedi gadael ar ei ol Gân, a elwir “Oweddi Eglwyswr wrth yraweled â’r deillon yn amser y Chwarren;” Arglwydd Ceidwad y Seliau, sef yr Archesgob Wilhams: a Wilham Ilerbert, Iarll Penfro. Y blaenaf yn yr hon y dengys fod ci holl ymddiried yn yr Hwn a fedrai ei amddillyn rhag pob peryglon:—
“Duw, ’rhwn a gedwaîst Aaron
Yn iach yn mhlith y cleifion,
Cadw ünnau ’n rasol rhag
Yr haint a’r plâg echryslon.”
Y mae yn dra thebygol i’r Ficer gyfansoddi y Gân hon cyn cychwyn ar ei daith peryglus i Lundain, neu yn amser ei arosiad yno.
Tystia hanesyddiaeth> i’r pla hwn fod yn achos i’r Scnejd ymgynllull yn Rhydychen, yn lle LlumJalD., ac i fwy na phumtheg niil ar hugain o ddynion syrthio yn ebyrth i’w gynddaredd ddifaol; a chyda phiiodoldeb y dywedai y Ficcr,—
“Maen hwy ’n meirw yn ddiaros,
Wrth y miloedd yn yr wythnos.”
Nid anaddas fyddai sylwi fod yr holl bläau a goiilieir mcwn hanes, wedi ymweled â Phrydain at dymhorau nodedig amannuwioldeb gwladol a phersonol. Gall yr anystyriol edrych ar hyn fel ddigwyddiad hynod; ond nid oes modd i’r gwir Gristion lai na chanfod llaw Duw, yn ei waith fel hyn yn tywallt allan phioleidiau ei ddigofaint am bechodau y peuedl; ac yn y goleu hwn yr edrychai y Ficer ar y pla dan sylw, oblegid dywed,—
“Hyn a barodd ein hen draha,
A’n gloddineb, a’n putteindra,
A’n gau-dduwiaeth, a’n cas feddwdod,
A dirmygu ’r gair yn wastod.”
Tra yr oedd y pla yn ei lawn rwysg yn Llundain, cymmerodd yr Esgob Laud y cyfleusdra i ymweled âg Esgobaeth Tỳ-Ddewi, am yr ail waith, ym mis Awst, 1625; wrth yr hwn y gallwn feddwl ei fod ef yn ystyried dau dro mewn pedair blynedd yn ddigon mynych i Esgob Saesonig ymweled âg
Esgobeth Gymreîg, yn enwedig os byddai yn y cyfamser yn cael ymdrafod â matteriou y llys. Ni arosodd ond dau fis yng Nghymru. Pan ddarfu i’r Breuhiu Charles, er mwyn distewi y bobl yn erbyn cynnydd Pabyddiaeth, yrru gorchymmyn allan i ddirwyo yr holl Babyddion, yr hyn a wneid gan yr awdurdodau mewn modd tra hannerog ac anghyfiawn; anfonodd yr Esgob Laud gyfarwyddiadau at swyddogion Eglwysig Tỳ- Ddewi, i geryddu pawb ag oeddynt yn anghydffurfwyr â’r Eglwys, neu yn Babyddion proffesedig. Cafodd flechres o’r cyfryw, yn swyddi Caerfyrddin a Phenfro, ei hanfon iddo yn fuan gan ei Ganghellwr, Richard Bailie, B.D., yr hwn a gawsai ei ddysg yn yr un Coleg â’r Esgob Laud, ac oedd hefyd wedi ymgyfathrachu âg ef drwy briodi ei nith. Effeithiai y weithred hon ar y Puritaniaid yn gystal a’r Pabyddion; a thebygol mai hi oedd yr olaf o eiddo Mr. Bailie, oblegid rhoddodd y Ganghellwriaeth i fynu yn fuan wedi hyn, a chanlynwyd ef ynddi gan Ficer Llanymddyfri, yr hwn o’r blaen oedd wedi cymmeryd ei raddau yn Athraw y Celfyddydau, ar gais ei Esgob, Dr. Laud, i sylw yr hwn y mae yn debyg iddo gael ei ddwyn gan ei gyfaill Morgan Owen, O Lasallt. Er hyspysiaeth i’r Darllenydd, nid anfuddiol fyddai crybwyll fod Canghellwr Tỳ-Ddewi yn ail swyddog yn yr Esgobaeth, er nad oedd hynny yn ol y drefn ddechreuol, ond yn ol trefniad newydd a wnaeth yr Esgob Beck yn y flwyddyn 1287- Yn ol Coflyfrau Eglwys Gadeiriol Tỳ- Ddewi, gwnaed Mr. Prichard yn Ganghellwr ym mis Hydref, 1626; ond rhaid ei fod wedi ei bennodi i’r swydd anrhydeddus yn gynnar yn y flwyddyn honno, gan i Dr. Laud gael ei symmud i Esgobaeth Bath a “Wells ar yr unfed ar bymtheg o Awst, 1626. Dengys y Llythyr canlynol, oddiwrth Syr Marmadufce Lloyd, O Faesyfelin, gerllaw Llanbedr, Ceredigion, yr hwn sydd wedi ei ddyddio Mawrth 21, yn yr un flwyddyn, bod y Ficer wedi cael ei bennodi i’r swydd cyn hynny. “To the worth:*h my yary woorthy frende, mp. Rees Pricharde, Chauncellor of the Cathedrall churche of St d’ds. & canon resident, at his house in Llanymdoyery this be d’d speedily. Worthy mr. Chauncellor. _ I receiued a letter from you this terme in annswere whereof (Si Scriban carpes, sî non scribam triumphabis: At scribam:) I will write an annswere, if but to lett you knowe, howe often I reade it íiterum atque iterum) affectinge the sweete style, & wonderinge at the intention of the penman; when I was a scboller, I wondered at those epistles of Tully, the famous Orator of Itome, at Seneca’s Epistles, at rare Manuscripts, but to this letter & Epistle of yours, I must plainly say, they are base rudiments, eneu the very fragments of learninge; so doe you admirably one way (morere) perswade & another way like a true divine (monere) admonishe a Judge so grauely, that euery letter thereof shall be to me a prsecept leaste I err, (in via pedum, aut in via morum) I must confesse among all the (species) of men, none have more neede of direction then Yu’iges. who doe (portare onera reipublicae) & amonge that honorable fraternity, none needs wise direction more than myself, a yonge Judge; and without good direction, I may be like Bartimseus, blinde, or like Mephiboshethe lame. & unable to V8e the scepter, like the man withe the witbered hande: A heny burden is layde upon me. I ûnde it ratîier to be ^onus) then (honus) god grant I may discharge my duty in my place to the glory of god. & the good of my coantrey, wb as you grationsly dlrect me to doo, so I shall seriously indtn-our, and to those pruyses and favourable graces you bestowe on me, I mist plede (non cul:) no Judge desorves lesse than myself, and for goodness w’h becomes all mea, & especially a Judge, I must say with ffood Augustine, Holl si quid habeo, a deo sumpsi, noa a me praesumpsi, nec in eo quod adhuc non don luit, incredulus, nec ineo quod jam douauit, ingratus: I blesse God for his goodness & hartily wishe that o”” churclie nowe (in senio mundi) when the light of the gospell is growne dimme, may shine gloriously with suche lights, as yourselfe. who are to the people of thosj parts, A lanterne to their feete, & a light to their paths, yo”” good life, & true doctrine so agreeinge, that (quioquid agis, aut loqueris est doctrina populorum) tyme nor my occasioas will permitt me to write muche to you; and to ^riue you an elegant annswere to yo” eloquent letter, I cannot (vicisti galiliee) yo”” golden peo hathe gotten the Ylctory. and I must say (victus), besides in familiar letters, I holJe it the beste rhetoricke to use no rhetoiicke, (carere ftguris figurat epistolam:) to wTlte more plainly (more meo) & as all lawyers vse to doe: Had I come liome this vacation I had called on you at Llandovery, and given you personall thauks for your many curtesies, for w’h you must nowe take literall; with my kinde salutation to yo’solfe & yo”” hopeful Son, (tibi. et suis habe me commendatum) &l I beseeche you number me amoage those whome you call frends: so
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry; sef Gwaith Prydyddol y Parch. Rhys Prichard, M.A., gynt Ficer Llanymddyfri; ynghyd a nodiadau eglurhaol, a bywgraphiad yr awdwr, gan y diweddar Barch. Rice Rees, B.D., o Goleg Dewi Sant, Llanbedr; trydydd argraphiad (Wrecsam: Hughes and Son, 56 Hope Street; Llundain: Simpkin, Marshall and Co., 1867). Sgan: archive.org/details/serenforeuneugan00pric
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Iolo Morganwg, Bardd Rhyddid
Saer maen o Fro Morgannwg na fu erioed mewn ysgol, ac a roddodd i Gymru Orsedd y Beirdd, llyfrgell o lawysgrifau a achubwyd, tair mil o emynau a llais yn erbyn caethwasiaeth.

Cenedl o ddarllenwyr: sut y dysgodd y Beibl Cymraeg Gymru i ddarllen
O Feibl William Morgan yn 1588 a’r Beibl Bach yn 1630 i ysgolion cylchynol Griffith Jones, Madam Bevan, Thomas Charles a’r ysgolion Sul: sut y dysgodd y Cymry ddarllen yn eu hiaith eu hun a dod yn un o bobloedd mwyaf llythrennog Ewrop.

Yr ail ryfel a’r arbrawf Piwritanaidd, 1648–1662
Milwyr Penfro heb eu talu a gwrthryfel 1648, Sain Ffagan a’r Dalar Hir, y coelbrennau yn Llundain, y Ddeddf Taenu’r Efengyl a Llyfr y Tri Aderyn, a Deddf Unffurfiaeth a yrrodd y Piwritaniaid allan i sefydlu’r tai cwrdd.

Cymru’r Tuduriaid a’r Stiwartiaid
Brenin o Gymro, uno â Lloegr, Beibl Cymraeg, rhyfel cartref a’r capeli cyntaf.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Hanes Bywyd y Ficer (1 o 3)’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/seren-foreu-hanes-bywyd-1.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Print o Iolo Morganwg (Edward Williams) yn eistedd gyda llawysgrif, gan Elijah Waring — Elijah Waring · Parth cyhoeddus
- Tŷ Mawr Wybrnant, ger Penmachno, lle ganed William Morgan, cyfieithydd y Beibl Cymraeg — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
- Castell Penfro, a luniwyd gan William Daniell ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg — William Daniell · Parth cyhoeddus
- Porthdy Mawr Castell Rhaglan — Bob McCaffrey · CC BY-SA 2.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth