

Hanes Cymru / Llyfrgell / Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Cerddi XLVII–LXXXVI
Cerddi XLVII hyd LXXXVI o gasgliad 1789, yn ei eiriau a’i orgraff ei hun.
Llun: Cerflun marmor Dafydd ap Gwilym yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd · Seth Whales, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
XLVII. Y banadl-lwyn
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y FUN well ei llun a’i liw
Na’r iarlles. wn o’r eurlliw;
Gwn ddeu-chwedl, gwae ni ddichon,
Gael oed dydd, a gweled hon!
Nid rhydd ym anturio i ddwyn
Liw dydd at leuad addwyn,
Duw ni myn, dinam wyneb,
Dwyn brad nos dan bared neb,
Nid oedd i ddiwladeiddwas
Goed i gael oed o fedw glas,
Nid oedd wilio, hardd eilun,
Yr haf, heb oed rh’of a bun.
Duw i mi a’m dyn diell
A roes goed, un eurwisg well;
Gwiail cystal y gauaf
A dail hoyw fal adail haf.
Gwnaf yno, i hudo hon,
Glos o Fanadl glas feinion;
Modd y gwnaeth, saerniaeth serch,
Myrddin, dy gwydr am ordderch.
Ar Ddyfed, yr addefynt,
Y bu len gel o’r blaen gynt;
Yr awrhon, dan yr irwydd,
Fy llys i felly y sydd.
O daw bun i dy, y bo
Iarlles wen i’r llys yno,
Mae iddi, a mi a’i mawl,
Oes baradwys ysbrydawl. —
Coed wedi eilio pob caingc,
Cynddail o wiail ieuainc;
Pan ddel mai, a’i lifrai las,
Ar irddail i roi’c urddas:
Aur a dyf ar edaiedd,
Ar y llwyn er mwyn a’i medd.
Teg yw’r pren, a gwyrenig
Y tyf yr aur tew o’i frig:
Aur gawod ar y gwiail
Duw a roes, difai yw’r ail,
Bid llawen gwen bod llwyn gwydd,
O baradwys i brydydd;
Blodau goreu a garwn,—
Barug haf ydyw brig hwn.
Mae i minnau, a’m meinir,
Oes ffair maes a saffrwm ir:
Dal y ty, a’i adeiliad da,
Yr wyf o aur Araffa.
Pebyll Naf o’r ffurfafen,
Brethyn aur, brith yw ei nen:
Angel mwyn ’y ngwely mai,
O baradwys, a’i brodiai!
Gwawn yn aur, gwenwyn eres,
Gloynod Duw, gleiniau tes.
Gwynfyd mewn gwinllan bryd bron
Gael euro gwiail irion
A’u brig yn goedwig a gaid,
Fal yn ser Julliwns euraid:
Felly caf, fal lliw cyfan,
Flodau’r mai fal adar man;
Llyna beth llawen yw bod,
Llen angel i’r llwyn yngod.
Gorllwyn y llwyn, a’r llannerch,
Arfer mwyn, yr wyf er merch;—
Daw f amod, nid af ymaith
O’r llwyn fry, a’r eurllen fraith,
O chaf hyd haf yn oed dydd,
Y dyn eurwallt dan irwydd.—
Deled, lle ni’n didolir,
Dyn fain dlos dan Fanadl ir!
XLVIII. Cystudd ac aflwydd y bardd am Forfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 100 ↗
Dy gariad, deg ei gorhoen,
Dygn y sydd heolydd hoen
Ynof, gwas o nwyf a gwedd,
Yn’y mlinaw naw mlynedd!
Ni bu ar les ei dadmaeth,
O hir gymdeithas, was waeth
Moethus o was llias law,
Methedig fabmaeth udaw, —
Llyna Forfudd ddiledryw,
A gaf o dâl — gofid y w!
Pa lan bynag ydd elych,
Na sul, na gwyl, f’anwyl wych,
Cerdded a wnaf, fy mun llwyd,
Ddeudwyn i’r lle ydd oedwyd!
Ac yno, em y genedl,
Goganus, chwareus chwedl,
Tori fy llygaid terwyn
Ar dy hyd, f’ anwylyd fwyn!
Ef a fydd y dydd a’i deg
O nodwyddau, a’i deuddeg,
O’r amrant er ymrwystr fydd,
Bugeiliaeth serch bwygilydd;
Hyd nad ymwasg ddyn doethgall,
Un awr ei llun, ar y llall.
Cyd bwyf dalm o’r salm ar sul
O Fewn glwysgor, ddyn glasgul,
Ni’m gwrthyd, ddeufryd ddifreg,
Neb o’r plwyf er nad wyf deg.
Tra fy llygaid haid hawl,
Yn agored en geiriawl,
Fe ddaw y gwlaw, yn oer glwyd,
O sugn y fron a ’sigwyd;
O ddinau i ddeunant ar led,
Oddiyno fy eidduned!
Meddylia hyn, y fein-ferch,
Imeddyliau, rhesymau serch,
Y daw gwlaw yn ol praw’ prudd
Hyd y farf, hydwy Forfudd!
Cyfraith serch sydd yn erchi,
Cymmer dy hun, yt Fun y fi.
XLIX. Serchawgrwydd Morfudd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Cefais fodd, cofus fydda’,
Heddyw yn y glyn y ddyn dda;
Twf y dyn, tyfiad Enid,
O’m tefyll aur a’m tyf lid:
Fal moeloedd talm o alaw
Teyrnîaidd lariaidd law.
Dyn wyl, dda ei dynoliaeth,
A’i modd, gwell na neb ei maeth
Am gusan, lliw’r wylan wych,
Chwaneg na chawn er chwenych!
Peth nid oeddwn gynnefin,
Sypiau mel, a sipio min!
Gwanfardd gweddeidd-dwf gwinfaeth,
Oeddwn gynt iddi yn gaeth:
A mau bwyll y mae bellach,
A dawn a fu nad yw’n fach!
Rhyw gwlm serch, cyd rhy-gelwyf,
Rh’om oed, gwn, rhwymedig wyf.
Manodliw ddyn munud-loyw,
Morfudd, huan ddeurudd hoyw,
A’m daliawdd, be hawdd, bu hy’,
Dal-dal yn nghongl y deildy:
Daliad cwlwm cariad coeth,
Dan arddwrn dyn diweir-ddoeth,
Da oedd yr haul uwch daear,
Dal i’m cylch dwylaw a’m car;
Dogn oedd ym o’m hylym hwyl,
Dewr goler ferch dirgelwyl,
Nag aur coeth, myn y gwir Ner!
Gwell i’m cofl gall a’m coler,
Am wddw’ bardd, bun harddlun,
Llai na baich oedd befr-fraich bun:
Goris clust goreuwas clod
Gorthrech, na wnaf ei gwrthrod.
Lliw’r calch ar gaer fain íalchwyn, —
Llyna rodd da ar wddw’ dyn,
A roes bun, ac un a’i gwyr,
Am fwnwgl bardd, — Em feinwyr!
Rhydwyll i’m rhwymodd hudawl,
Hoedl i’r fun hudol air fawl!
A geidw ym drefn, erddrym draidd,
Fy mhwythau yn famheuthaidd,
Diofn, dilwfr, eofn dal,
A du wyf a diofal;
A deufraich fy nyn difrad
I’m cylchwyn, yn medwlwyn mad!
Nid serch i neb f’anerchi,
Delw aur, rhwng ei dwylaw hi
Wedi cael ymafael mwy,
Wawl euraid, — wi! o’r aerwy.—
Teg oedd weled mewn rhedyn
Tegau dwf yn tagu dyn!
Meddw oeddym, mau ddioddef.
Meddwaint rhiain groyw- gain gref.
Mynwyd fy myd rhag fy mar,
Mwyn wyn i’m gwnaeth braich meinwar,
Mynwes gylchyniad mad maeth,
Mynwaur fuont ym unwaith
L. I’r ysgyfarnog a ddychrynasai Morfudd, a aethai i’r llwyn i gadw oed a’r bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 75 ↗
Lyma ben lle mae, o bydd
Llyfr canon llafur cynnydd,
Ysgyfarn glas-gerth a hwyliai,
Mawr drafferth o’r berth a bai:
Glusthir Iwyd, gâr glas derw Iwyn,
Gefnfraith, gyflym-daith, lamdwyn.
Gofunaid huaid yw hi,
Gwlm cydgerdd, gelyn coedgi:
Gwnvraig a wnai ar glai glan
Gyhyrwayw i gi hwyr-wan.
Gefnfain, gwtta gegin-fwyd,
Gwn dynghedfen lawdrwen lwyd.
Henwraig ar lain adain yd,
Anferth hir glustiau ynfyd;
Cath hirdaith, gethin-fraith gern,
Cod Iwydwyllt, coedwal adwern.
Cyw hy i fron a ffy ar ffysg,
Craig bwhwman-wraig manwrysg:
Imynyddig wal, benial hyllt,
Mynen aelodwen ledwyllt.
Esgud ei phas ar lasrew,
Ysgwd o’i blaen, esgid blew:
Erlyner hi ar lan hynt,
Ym mlaen gwyr, ymloyn gwynt;
Yn galed, o fan bwygilydd,
O blith y gwlith i bleth gwlydd,
O hynt i hynt i hwntian,
O goed i faes gloywlas glan.
O amal fwriad anwadal,
Ysgwd gwyllt. esgud o’i gwal:
Os gad Duw esgud daear.
Esgair cath, nyth dwmpath nod
Is gardd ddofn, ys gwyr ddyfod
I’r tyddyn lle tywyn tes,
O cai fwyd y cyfodes.
Hon a wnaeth yn nhraeth, y rhyw
Fawrgam a’m fi, ofergyw!—
Llunio ei gwäl yn llwyn y gog
Draw, y gei uach drogenog;
Lle daethai dan gangau’r gwydd,
Aur ’y mywyd i’r manwydd,
Oni bae o’r cae, a’r coed
Neidio o’r fudrog ynfyd-droed,
A’r coesau hydd, casa”rhawg;
Drwy lun y frech ddraig leuawg;
A phan welodd, gwaeddodd gwen,—
Y flewog gyw aflawen!
Dychrynodd a luniodd le,
Drwy sadrwydd, hi droes adre’.
Ofnodd fod, fal y dywod hi,
Gwrthwyneb a gwarth ini.
Oedd gwae fi ddyfod bun
Glwyslais, o goed y glaslyn,
Ac na chefais, yn ais nod
W ych Forfudd, ei chyfarfod!
A wnaeth draw yr annoeth dro
Y ci mawr a’i cymmero,
Oddiar ei gwal, ddioer gelen,
Heb rybudd er budd o’i ben!
Un agwedd o serch rhiain
Wyf beunydd am Forfudd fain,
Annawn am y fun hoywnwyf,
Anfîurff ddysg, unffurf ydd wyf
Fy meddwl pan oedd eiddig,
Fy mwriad tost, fy mryd dig,
Fy nad ddull am f’enaid ddyn,
Fy nwyf fu garu fy nyn.
O gof awdl, hi gyfodes
O’r llwyn lle buasai’r lles.
Heliais ef, helwas ofer,
I hwyliaw serch hoywliw ser,
Swrth deg araith ei digiaw,
A thal, os edrychaf draw:
Ba les ym, ni bu laesach
Boen erioed, heb unawr iach.
O wely serch ddyn wiwloyw,
Addwynfawr ddeheuwawT hoyw,
Rhedodd serch y ddoethferch ddig,
Rhadau da, rhediad ewig;
Led y ddeudroed, lid ddodrefn,
Leidr o’i chof i’w le drachefn,
Nid â o’i bodd lle rhodiwyf,
O’r lle y bu yn c’lymu clwyf;
Ni lechai y’ ngolochwyd,
Nid a’i ’n rhwym mewn dwrn rhwyd;
Ni wyr un ar y llannerch,
A meddwl drud, symud serch,
Heiniar ofn hyn o ryfel,
Hwn nid â o’r henw y del;
Hwyl ynfyd ei fryd, a’i fro,
Hawl y dyn hoehad yno,
Gwlad Wgan, fawr anian faich,
Gleddyfrudd, gloyw ei ddeufraich:
Heno ni chaf, glaf glwyfaw,
Hun fo drom oni fwy’ draw, —
Hyrddiant serch wiwferch yw ef,
Hen-lleidr, unryw a hunllef
LI. Y lleuad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 50 ↗
Wylo’r wyf am liw’r ewyn,
Duw a wyr feddwl pob dyn;
O daw arnaf o’i chariad,
F’enaid glau, fyned i’w gwlad;
Rhy bell yw ym ddirprwyaw
Llattai drud i’w lletty draw,
Na rhoi gwerth y wrach serth swydd,
Oeruwyd taer, er llatteirwydd,
Na dwyn o’m blaen dân-lestri,
Na physt cwyr pan fo hwyr hi:
Dros gysgu y dydd gartref,
A cherdded nos dros y dref,
Ni’m gwyl neb, ni’m adnebydd,
Ynfyd wyf, oni fo dydd.
Mi a gaf yn ddiwarafun,
Rhag didro, heno fy hun,
Canhwyllau’r Gwr biau’r byd,
I’m hebrwng at em hoywbryd.
Bendith tlawd i’r Creawdner,
A wnaeth seironiaeth y ser
Ni liwiodd dim oleuach
Na’r seren gron burwen bach:
Canwyll yr uchel Geli,
Euro maes, sydd orau imi.
Ni ddiflan y lan ganwyll,
A’i dwyn nis gellir o dwyll;
Nis diffydd gwynt hynt hydref,
Afrhaden o nen y nef,
Nis bawdd dyfr llyfr llifeiriaint,
Disgwylwraig desgl saig y saint.
Ni ddeil leidr a’i ddwylaw,
Gwaelawd cawg y Drindawd draw,
Nid gwiw i ddyn o’i gyfair
Ymlid maen mererid Mair:
Gwir fwcled y goleuni,
Gwalabr haul, gloyw-lwybr yw hi!
Goleuad yn mhob ardal,
Goldyn o aur melyn mâl;
Hi a ddengys ym, heb gudd,
Em eurfalch, lle mae Morfudd.
Teg ei lliw, Duw a’i diffyd,
Ac a’i gyr, nid byr y byd,
I’r gogledd a’n gosedd gu,
I gysgod ’wybr i gysgu.
LII. Yr oed
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Lluniais oed ddywllun ys hir,
A dyn a ddywed anwir;
Nid â gwen i dy gwinwydd,
Nag at un i gadw oed dydd.
Adeiliawdd yr hudoles
Dy o ddail, er nid oedd les,
Yr haf o bydd cywir hon
Y cadeiria coed irion,
Yn wir, nos Wener nesaf
Yw nos Wener hanner haf,
Genyf y mae, gwyn fy myd!
Ugain haf ac un hefyd.
Ni wyddwn dwyn i’r ddyn deg,
Ar gariad, mwy na’r garreg:
Gweniaith ni ddaw o’m genau.— -
Gweniaith a wyr Gwen — ni than!
Soniais ni chefais annerch,
Er yn fab, am yr un ferch;
Y dydd y lluniwyd Addaf
Y lluniwyd oed yn Llandaf.
Dan berth, ni wyr dyn o’r byd
Y ma hanner ’y mhenyd:
Mae gwydd, nid oes yma gof
O drais, yn tyfu drosof.
Garwach ydwyf medd gwerin,
Yn Nyffryn Craig, na phren crin,
Y Gwialwr ym galwant,
Yn aros oed, neu ryw Sant;
Mil a’m dyfalant, a mwy,
Ir neb a fu ’Ngwernabwy.
Yn wir, ni byddwn eryr
Ond aros gwen dair oes gwyr:
Cywir fal y carw wyf fi
Am gariad y’ Nghilgwri. •
Un lliw a’m deall yn llwyd,
A’m cywely y’ Nghwm Cawlwyd.
Cariad a dyf, creded wen,
O’m ais fal prenau Moesen.
Marwol gwnaethost im’ orwedd
A pham na bai y nghorph mewn bedd?
Mae celfyddyd i’m claddu
Dan ddail er fy mod yn ddu,
A thoriad pob llythyren,
A chof am haf uwch ’y mhen;
Allun ’y mun uwch ’y medd
I mi garu o’m gorwedd!
LIII. Y nos wlawog dan bared Morfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 98 ↗
25 CLO a roed ar ddrws y ty,
Claf wyf, O ferch cly w fyfi;
Dyred i’th weled wiwlun,
Er Duw hael aro dy hun:
Geirffwg pan y gorffai,
Gorphwyll, myn Mair, a bair bai!
Taro drwy anwyd dyrys
Tair ysbonc, tores y bys:
Cloedig ddrws, clau ydoedd,
Nos clowech ei sain, cloch oedd.“
“Morfudd fy nghrair ddiwair-bwyll,
Mammaeth tywysogaeth twyll!
Mawr yw’r wal am aur-wialen,
Nis clywi, rhaid gweiddi gwen!—
Tosturia wrth anghen-glwyf,
Tywyll yw’r nos, twyllwr nwyf!
Nebydded flined fy nhro,—
Wb! o’r hin o’r wybr heno.
Aml yw rheiydr y bargawd,
Ermig nwyf, ar y mau gnawd;— ■
Nid mwy y gwlaw na’r mau glwyf,
Na’r ôd — danaw yr ydwyf!
Yr ôd sydd, fe yrwyd sen
Ar y war yn oer weren; —
Mi a ryna, mawr yw’r anwyd
Dan dy fargod, llif ôd llwyd!
Nid oes y’ Nghaer-yn-arfon
Heol sy’ waeth na’r heol hon;
Dan ffd-wynt mawr, dyn ydwy’,
Ni bu boen ar farw-groen fwy,
Nag a gefais drwg ofal,
Y Gwr a’m gwnaeth nid gwaeth gwal!”
Ni byddwn allan y nos,
Ni thuchwn ond o’th achos;
Ni ddown i oddef, od gwn,
Beunoeth gur, be na’th garwn!
Ni byddwn dan wlaw ac ôd,
Ennyd awr, onid erod—“”
© Yma’r wy’, mawr o’r anwyd,
Tau ddyn, yn y ty ydd wyd:
Ammau fy lloer, gan oer-glyw,
Y ma fy aur imi fyw!—
Yna y mae fy enaid glan,
A’ m ellyll yma allan
Y maith fy meddwl nid a,
Anmhwyll a’m hettyl yma.
Ammod a mi a wneddwyd,
Yma ydd wy’, ammau ydd wyd?
Yr ammod a rwymid ti,
Cu eirian, nis cywiri!”
LIV. Y niwl a luddiodd y bardd at Forfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 57 ↗
Ty ddifiau dydd i yfed,
Du fu’n goel doe fynu ged;
Coel fawrddysg, cul wyf erddi,
Cof o serch, doe cefais i
Gwrs glwysgerdd goris glas-goed,
Gyda merch i gadw ym oed.
Nid oedd, da- hoyw Dduw Dad!
Dawn iddi, dyn a wyddiad,
Doe ddifiau, cyn dechreu dydd,
Lawned fum o lawenydd!
Myned i’w gweled, gwiwlun,
I dir lle’r oedd feinir fun,
Pan ddaeth yn wir ar hir-ros
Y niwl yn debyg i’r nos;
Toron fawr fu glawr y gwlaw,
Rhestri gleision i’m rhwystraw:
Rhidyll ystaen yn rhydu,
Rhwyd adar y ddaear ddu.
Tywyllwg un tew allardd,
Delli byd i dwyllo bardd.
Cae anghlaer mewn cyfyng-lwybr,
Carthen hyd yn niben wybr:
Cwfl llwyd, cyfliw a llawr,
Cwfert ar bob cwm ceufawr.
Cun tewlwyd, gwynllwyd gwanllaes,
Cyfliw a mwg — cwfl y maes.
Anhardd darth lle cyfarth cwn,
Enaint gwrachiod annwn:
Twyllai wyr, tywyll o wedd,
Toron gwyrddoniog tiredd.
Ghvydau uchel a welir,
Clais mawr uwch garth, tarth y tir.
Tir a gudd ei ddeurudd ddygn,
Torsed yn cuddio tir-sugn:
Mwg sych yn fynych a fydd,
Mygadau y mau-goedydd.
Llwch melin gerwin mewn gwern,
Tost affaith, mal dwst uffern.
I yrau, uchel eu helynt,
Tylwyth cwyn talaith y gwynt.
Tywod män ar hyd mynydd,
I’m boddi, dan doddi y dydd.
Crasu mae, am groes *y mywyd,
Dyna boen, odynau y byd:
Oes tre’ na llan y’ Nglan Gwy,
Oeriom na bo yn arlwy? i
Oes gwraig heno, froch, o’r fro
Bwyllog, na bo yn peiHio?
Ac o’r peiriau, gwawr purwyn,
Agar anhawddgar am hyn?
Gwe-adr-gop, ffriw isop ffrwyth,
Gwan dalar Gwyn a’i dylwyth.
Haws cerdded nos ar rofydd
I daith, nag ar niwl y dydd;
Y ser a ddaw o’r awyr,
Fal Mamau, canhwyllau cwyr.—
Gwladaidd y gwnaeth fy nghaethu
Y niwl, fyth anolau fu:
Lluddiodd ym lwybr dan wybren,
Llattai a ludd, Uwyttu len.
Nadodd y lluwch annedwydd
Feinir gain fynu i’r gwydd;
Ond oedd om ar gyfeiliorni,
Munud hael, ei myned hi?
Rhegaf y bauled rygydd,
Y niwl du yn ael y dydd
Anadl diawl, hynod dioch
Anad mawr fagad o foch.
Lluddiodd ym gyflym gael
Fyned at Forfudd feinael!
LV. Y bardd yn erchi i Forfudd agor y drws ar noswaith oerllyd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
6c GWAE brydydd a gai brwydur,
Ac er ei mwyn na ’gorai’r mur!
Cares haul Caerau Salem,
Cam a wnaid cau drysau’r drem;
A’th fardd, dy gydymaith fo,
Allan ei hunan heno —
Am le clyd, i’th oerllyd ros,
Yr ofnaf yr auafnos:
Mae oed yn gwneuthur meudwy
Im Pais, mi wn am bwy.
Y mae eiry, nid mau oroen,
I’m crys, rhwng ’y mhais a’m croen;
A’r anwyd ar ewinedd,
A’r bais i’m oeri heb wedd:
Iawnach rhag cas neu enwir
Cau’r ty, no rhag cariad hir!“”
Arthur ydwyf wrth rodiaw
Am y drws, oddiyma draw;
Arno bu gyfeiliorni,
Yr un fodd yw arnaf fi.
Ceisio medru cais Madron,
Ar gaer fraith ar gwr y fron;
Oer ym yw’r barug a’r ia,
A’r mentyll i ramanta
A’r poeri rh’of a’r pared
Y lluwch, a’m deufraich ar lled!
Nofiad a wnaeth hen Neifion
O Droia fawr draw i Fon.
Och! nad gwiw uchenaid gwas,
I mi alw am grefft Melwas;
Y lleidr, drwy hud a lledryd,
Aeth a bun i eitha’ byd;
I’r coed ir ai’r hocedydd,
I furiau cainge o frig gwydd:.
A dringo heno, fal hwn,
Yn uchel a chwenychwn.”
Er dy fwyn yr ydwyf fi
Mewn eiry yma’n oeri;
Dyred, fy nhraed a oerais,
Dyro dy ben drwy dy bais,
A’ th law yn un o’th lewys,
Ac a’r llall agor y llys!””
LVI. Mawl i Forfudd, — a’i gystudd am dani, ac yn edliw ei gwyniaith a’i hanwadalrwydd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Fun dawel walltfelen,
Eurwyd y baich ar dy ben:
Gwyn yw dy gorph ac uniawn,
A lluniaidd oll, — llyna ddawn!
Cyd bych, lanwycb oleuni,
Deg a mwyn, er dig imi,—
Gwneuthyd brad yn anad neb,
Em y dynion, mae d’wyneb
Duw a lifodd dy ’lofyn,
Dy wallt aur, i dwyllo dyn:
Dyrcha ael fain d’orchwyl fu
Dristau gwyr, dros dy garu!
Fy nwyais, ni henwais hyn,
A guriodd o’th liw gorwyn:
Gwae fi, gwn boeni beunydd,
Weled erioed liw dy rudd!
Aeth dy wedd, Gwynedd a’i gwyr,
A’m hoes innau, a’m synwyr!
Gwell bedd a gorwedd gwirion,
Na byw’n hir yn y boen hon.
Un drwg fal ewyn o draeth,
Llai a dal lliw hudoliaeth;
Os dy eiriau ystyriaf,
Gruddiau gwin, gorwedd a gaf!
Gweniaith brydferth, a chwerthin
Erioed a fu ar dy hn!
Na wrthod ferch dy herchi,
Na phraw’ ymadaw a mi:
Gelynes, mwy afles maith
Wyt imi od aet ymaith:
Mwynferch na ddos o’m hanfodd,—
Byth nid aet ymaith o’m bodd
LVII. Talaith o blu paun, — anrheg Morfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 134 ↗
Boreuddydd, bu wawr eiddun,
Y bu im’ gyfarfod a bun,
Yn ungof serch iawn angerdd,
Yn ael coed yn eilio cerdd.
Erchais i’m bun, o’m unoed,
Blethu cainge o blith y coed;
Yn gyru heirdd, yn goron hoyw,
Yn ariant ym, yn ir-loyw,
Bid ogylch serch, be digardd,
A bun atebodd i’w bardd, —
“Pur yw dy lais, parod lef,
Pa na wyddyd, poen addef,
Mai truan, anniddan oedd
Noethi bedw ’n eitha” bydoedd.
Nid oes ar fedw, nid edwyn,
O’r dail y fae wiw eu dwyn;
Ni weuaf finnau wiail,
Nid gwiw o’r llwyn dwyn y dail.“
Im’ y rhoes, bid hiroesawg,
Y rhodd a gadwaf yrhawg:
Gerlant cystal ag eurlen,
O wisg paun i wasgu pen.
Blaen talaith bliant hyloyw,
Blodau hardd o blu da hoyw;
Glan wead gloywon wiail,
Gloynau Duw gleiniau dail!
Teyrnedd waith, twm oedd wiw,
Tyrau, trffellau tri-lliw;
Llugyrn clyr, llogaid gwyr gynt,
Lluniau Ileuadau ydynt.
Dawn o chair, diau na chyll,
Drychau o ffeiriau fferyll:
Gwn ras hir, Gwen a roes hon,
Gerlant i’w phrydydd geirlon.
Hoff loywgamp oedd ei phlygu,
A’i phleth o esgyll a phlu;
Rhodd serch meinferch i’r mwyn-fardd,
Rhoes Duw ar hon rhestri hardd,
Bob gwaith, a mwynwaith manaur,
Bob lliw, fal ar bebyll aur!
LVIII. Y bardd yn gofyn tal i Forfudd am hir garu, — hithau yn edliw ei lyfrdra
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
“y Wawr dlos-ferch ry-dlys-fain,
Wrm ael, a wisg aur a main,
Y styr eigr ystor awgrym,
Is dail ir, a oes dal ym?
Ymliw glan o amlwg lais,
Em o bryd, am y brydais
Fth loewîiw, iaith oleulawn,
A’ th lun gwych wytholwyn gwawn?” Ne
“Hir i’th faddeuaf Dafydd,
Hurtiwyd serch, bort iti sydd,
O’th fod, rhyw gydnabod rhus,
Yn rhylwfr, enw rheolus.
Os Hwfr ceiliagwydd, was llwyd,
Llwfr sywaeth odiaeth ydwyd!
Ni’m caiff innau, no diau naf,
“Cwfl manwallt, cyfliw manwawn,
Cam a wnai, ddyn gymmen iawn!
Cyd bwyf was cyweithas coeth,
Llwfr yn nhrin, Hwfr yn nhranoeth;
Nid gwas, lle bo gwyrddlas gwydd,
Llwfr wyf ar waith llyfr Ofydd.
A hefyd, y ddyn hoywfain,
Ystyri gu ystori gain,
Neitio cur, nad da caru
Gwas dewr fyth, gwst oer fu,
Rhag bod, nid cydnabod cain,
Rhyfelwr yn rhy filain.
Rhinwyllt fydd, a rhy anwar,
Rhyfel, ac oerfel a gar.
O chlyw fod, cadorfod tyn,
Brwydr y’ ngwlad Ffrainge, neu Brydyn;
Àntur gwrdd, hwnt ar gerdded,
Yn wr rhwydd yno y rhed.
O daw, pei rhon’, a diangc
Oddiyno, er ffrwyno Ffranc,
Creithiog fydd, seuthydd a’i sathr,
A chreulon ddyn wych rylathr.
Mwy y car aderyn bâr draw,
A’i gledd, — gwae a goel iddaw
A mael dur, ac aml darian,
A march o lu na merch lan!
Ni’th gel pan ddel poen ddolef,
Ni’th gais eithr i drais o’r dref; y
Minnau, a’r geiriau gorhoyw,
Pe’th gawn, liw eglurwawn gloyw,
Da gwn, trwsiwn wawd trasyth,
(Degle loywferch, dy ge’n fyth
Pei rhon’ ym gael gafael gaeth,
Deifr un hoen, dwy frenhiniaeth,
Deune’r haul, nid awn er hyn,
Wyth-Hw-dydd, o’th loyw dyddyn!“
LIX. Ymddyddan rhwng y bardd a Morfudd ar doriad y dydd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 69 ↗
Uchel y bum yn ochi,
Echnos, na bae hirnos hi;
Echnos, dyn goleudlos gwyl,
Wythnos im’ fu unnos, f’ anwyl! 1
A byrnos oedd y beirniad
A gar gwen heb un gair gwad.
Neithwyr y bum mewn uthr b wy 11,
Nwyf gain, gyda nef ganwyll,
Yn mynu tal am anhun,
Mewn aml barch yn ymyl bun;
Pan oedd ffyrfaf fy ngafael,
A goreu im’ hwnt gwiwrym hael,
Nycha o flaen awch aflonydd,
Mawr oedd ym y wawr ddydd.— >
Dywedai’r ferch, nid dedwydd,
Decca o ddyn, “fal dacw ddydd
Cyfod” ebra gwen ben-loyw,
“Cel hyn fal dyn coel-hoyw.—
F’enaid cyfod i fynu,
A chel os myn hyn yn hu.“
“Draig ynial dy garenydd,
Dos i ddiawl, wel’d eisio ddydd,—
Hir-fun dda, hwyr-fain ddiell,
Hyn nid gwiw, hynny nid gwell.
Lleuad a roes Duw Llywydd,
A fer ynei chylch y sydd;
Hynny dywedaf, henw didyb,
Honno y sydd ddydd o dyb,
Ar ogil heno ogawn
Diwedd lloer, fal y dydd llawn.”
“Da’r hunwn pe gwir bynny,—
Paham y can y fran fry?”
“Pryfed y sydd yn profi,
Luiddiaw ei hun, a’i Lladd hi.
Mae cwn ar lef y dref draw,
Ac eraill yn ymguraw: /
O gylch pell ac o agos
Cyni a wna cwn y nos.“”
Paid a’th esgusawd, wawdwas,:
Pell boen a fâg pwyll bâs, —
Cyfod rhag tyst yn ddistaw,
Ac agor y dromddor draw,—
Bras gama di yn ddioed,
Rhydaery cwn, rhed i’r coed,”
“Och! nid yw bell y gelli,
A-chynt wyf finnau na chi:
Oni’m gwyl íTel, ni’m gwelir,.
O ran da ar hyn o dir.“
'* Dywaid ti fardd diwyd das
Er da im’ o dei yma?” i”
“Deuaf, myfi yw d’ eos, —
Diau, ’y nyn, o daw nos!“
LX. Yr anfodd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 123 ↗
Y Feinferch hwde f’anfodd,
Gwedi’r haf gwae di o’r rhodd;
Gofyniaith dygn, gwae finnau,
Riain deg, a’i roi yn dau!
Gwae ddyn a fai’n dyhun dig,
A geryddai’r gwr eiddig!
Gwae a wyr, a gwe fflamgwyr wedd,
Glas ei ddeigr, gloes eiddigedd
Prydu i’th wedd a wneddwyf,
Prid yw’r ferch, pryderus wyf:
Mwy yw ’ngofal, dial dyn,
Na gofal dyn mewn gefyn,
Rhag cael arnad, gwad gwydn gloyw,
Chwedl gwir, forwyn law irloyw.
Y’ nghlwyd o faen, anglod fur,
A laddai’r Pab a’i loyw-ddur.
Y mae modd rhyfedd, medd rhai,
Mab dewr-farch mebyd erfai,
Wyth affaith,” wyf i’th hoffi
Pth ddydd, er ymlwgr a thi,
Cyd boed gwych, cydwybod gwawl,
A boneddfalch, bun haeddfawl,
Del cyn mai gymryd pyd pell
Yn dy gof, un deg afell!
Na oddef, ef wyf ddigllawn,
O wlaw, na gwynt, loywne gwawn,
A oddefais i’th geisiaw,
A maith rwysg yma a thraw!
Nida yn y wanfa wen,
Y nos erod, naws hirwen,
Ar draws aerwyau drysi,
Loyw ddyn, mal ydd awn i!
Ni thrig allan, ledwan lif,
Dan ddagrau tô, dyn ddigrif,
Mewn coed, a minnau a’i cais,
Mula’ treigl, mai y trigais!
Ni ddyry ar ei ddeurudd
O ddwfr brwd, ’ddifar brudd,
Gymaint o loywnaint yleni,
Aigr y serch, ag a roes i!
Ni chan y’ ngwydd arglwyddi,
O wawd y tafawd i ti,
Ganfed ran, eiry ban bais,
O ganiad ag a genais,
Gwydn ydwyd gwedi nodau,
Gwirion yw’r attebion tau;
Os tithau a fydd euawg
O arall, rhygall yrhawg,
Beirddion cred a ddywedant
Wrthyd, mae “caregryd nant.”
Dan grwydr, enaid dyn digrif,
Pan elych, lliw distrych llif,
Fy enaid glwys fain a glan,
Farchwriaeth ddrwg ferch eirian,
Am dy fardd, liw berw hardd his,
A’th ogyioed a’th gafas,
LXI. I ofyn cymmod i Forfudd a ddigiasai am ryw air amryfus
Golygiad modern Abertawe: cerdd 97 ↗
Teg Forfudd, tegau eurfalch,
Tywyn haul daer ar gaer galch! 1
Tal am dy wawd cyn foli,
Twyll y prydyddion wyt ti!
Tyfodd i’m bron, gron o gred,
Dolur, — dy anwadaled!
A rhai a’th eilw y rhiain,
A ddywaid, fy enaid fain,
Na thrig, bar yw oerddig boen,
Dy gariad deg ei goroen,
Mwy nag ewyn, gwyn-ddyn gwiw,
Ar ol dwfr, arial difriw w!
Da fawr fal hoen deifr o f ’rt,
Deuwell fe i’m gwrandewit. —
Gwrandawyd y graen dywyll
O ddyn, a ddyweda o dwyll,
Arei ruthr, air o athrod,
Degau glaer, na deg o glod! i
Nid o’m bodd yr adroddwn
Arnad fawr gariad od gwn;
Dielw o serch, deuliw’r ser,
Dal! dal! 1 dy anwadalder.
Pe’i rhon’ peri ym amhwyll,
Mewn brwysgedd tywylledd twyll,
Ddywedyd gair cellweirus,
Y rhwng ynfydrwydd a rhus,
Gwybydd er buchedd Gybi,
Ddeuliw ton, na ddylit ti,
Gem aur glan gymmar y glod,
Gomedd cusan o gymmod.
Gwen gwybydd, dan freisgwydd fry,
Fy meddwl o’m gomeddi \
Ni chaed o’m pen absenair;
Nid felly gwnaeth Mabmaeth Mair,
Am y dall, diammau don,
Ar ddaear o’r luddewon,
A’i gorug, bu chwedl girad
Glwyfo ei fron a glaif o frad
Swllt hoyw-fardd, syll di hefyd,
A maint fu drugaredd fy myd,
Merch Anna mawr ei chynnydd,
Morwyn wyrf mirain ffyrf ffydd,
Geinwen, pan ei goganwyd,
Eisiau blaid a Sioseb Iwyd:
Ni wnaeth, ni bu annoethair,
Na dal gwg, na dial gair.
Nid oes bechawd methgnawd maith
Marwol, mwy ei oferwaith,
A thrigo, ’mawr uthr ogan,
Yn dy lid, ail Enid lan!
Mwy na llid, o myui, lladd
Dy brydydd glew- rydd gloyw-radd:
Deuliw’r rhaul, da loer yrhawg,
Dilidia’r dyn dyledawg!—
Na bydd, lliw’t gloyw- wydd glau,
. Grynŵraidd am gryn eiriau,
’Y myd, wrth dy brydydd mwy,
: Diwladaidd deoladwy!
Cymmod a’th brydydd cymhwys,
-Om o boen, nad arna’i bwys;
Fy aur, cymmer ddiheurad,
Ac iawn, le ni ellir gwad:
Cynnal faswedd i’ th weddi,—
Cymod, liw manod a mi!
LXII. Arddelwi Morfudd i’r haul
Golygiad modern Abertawe: cerdd 111 ↗
(rs; LLWYN ydd wyf Ddyn geirllaes,
Gorlliw eiry man marian maes
.Gwyl o Dduw, mae goleu ddyn,
Goleuach nog ail ewyn
Goleudon lafardon Hw,
Goleuder haul, gwyl ydyw;
Gwyr obryn serch gair o’m pen,
Goleubryd haul gloyw wybren;
Gwawr y bobl, gwiwra bebyll,
Gwyr hi watwaru gwr hyll.
Gwiw Forfudd, gwae oferfardd
Gwan a’i car, Gwenhwyfar hardd
Gwe o aur llun dyn gwae ef,
Gwiw ei ddelw yn gwaeddolef
Mawr yw ei thwyll a’i hystryw,
Mwy na dim a’m enaid yw!
Y naill wers yr ymddengys
Fy nyn gan, rhwng llan a llys,
A’r llall, ddyn falchgall fylchgaer,
Ymachludd gloyw Forfudd glaer!
Mal haul, ymylau hoywles,
Mammaeth tywysogaeth tes:
Moliannus yw ei syw swydd,
Maeheres mai oleurwydd.
Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair,
Mygr glaerddrych mireinwych Mair;
Hyd y llawr, dirfawr derfyn,
Haul a ddaw mal hoywliw ddyn,
Yn deg, o fewn corph y dydd,
Bugeiles wybr bwygilydd!
Dros ei phen, wybren obraff,
Gwedi del prif ryfel praff,
Gan yr haul gynan ar hon;
Y diangc, y’ mron duaw,
Naws poen ddig y nos pan ddaw;
Dulawn fydd yr wybr dulas,
Delw Elfed, blaned blas!
Pan fo poen fawr a wyddem,
Rhaid wrth yr haul a draul drem;
Ni chaiff llaw yrthiaw wrthi,
Nag ymafael a’i hael hi:
Pell i neb wybod yna,
Pel yw i Dduw, p’le ydd a.
Dranoeth y drychaf hefyd,
’Nynu o bell o nen y byd;
Erlynais nwyf ar lannerch,
Y penrhyn syddyn y serch;
Beunydd y gwelid yno,
Befrddyn goeth, a pheunoeth ffo.
Nid haws ar lawr y neuadd,
Darfaw llaw, deryw fy lladd!—
Morfudd, ddyn gwawdrydd gwiwdraul,
I ddwylo rhai ddal yr haul;
Nid anhebig, ddig ddogni,
Ymachludd Morfudd i mi!
Yr ymachludd mwyn ei gwg
Dan arddrws y dyn oerddrwg.
Nid oes rhagor bryd pefrlon,
Os teg hon, lon oleuni,
Teccaf hwyl Naf yw’n haul ni!
A phan ddel o’r awyr fry
Dan haul wybr dwyn hwyl obry—
Paham eiddingam ddangos?
Pa’m na ddeaill y naill y nos?
A’r Hall yn des ysplennydd,
Oleu da i liwio dydd!—
Pei’r ymddangosai’r ddeubryd,
Ar gylch i bedwar bylch byd;
Rhyfeddod llyfr dolenfyth,
Yn oes Bun, ddyfod nos byth!
LXIII. Taith i weled Morfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 96 ↗
A Gerddodd neb er gordderch,
A gerddais i, gorddwy serch?
Rhew ac eiry, gwr digaredd,
A gwlaw, a gwynt er gloyw ei gwedd!
Ni chefais eithr nych ofwy;
Ni chafas deudroed hoed hwy.
Er ymoed; i Gelli’r Meirch,
Eurdrais elw, ar draws Eleirch;
Yr anial dir, yn uniawn,
Nos a dydd, ac nid nes dawn! I
O Dduw! bum uchel o ddyn
Ei floedd y’ Nghelli Fleddyn.—
Cael ymadrawdd hawdd a hi,
Ymarddehy serch bum erddi,
Maesaleg, iselgreg son;
Berw gau lif Bergul Afon,—
Mynych iawn, er ei mwyn hi,
Y treiddiwn beunydd trwyddi,
I Fwlch, yr awn yn falch rydd —
Mau boen dwfn, Meibion Dafydd;
Ac ymaith draw i’r Gamallt,
Ac i’r Rhiw, er gwiw ei gwallt! I
Ebrwydd y cyrchwn o’r blaen,
Gyfaelfwlch y Gyfylfaen,
I fwrw am forwyn wisg ra
Dremyn ar y dyffryn da.
Ni thry nac yma na thraw,
Hebof yn lledrad heibiaw:
Ystig fum, ac anaraf
Ar hyd Pant Cwcwll yr haf,
Ac ogylch Castell Gwgawn,
Gogwydd cyw gwydd lle cae gawn.— ^
Rhedais heb Adail Heilin,
Rhediad bloesg fytheiad blin;
Deuais goris Llys Ifor,
Fal mynach mewn cilfach cor,
I geisiaw heb addaw budd,
Gyfarfod a gwiw Forfudd.
Nid oes dwyn, na dwys dyno,
Yn neutu glyn Nant y Glo
Nas medrwyf, o’m nwyf am Nudd,
Heb fy llyfr hoywbwyll Ofydd.
Hawdd-fyd wrth geisiaw i’m dwrn
Gwir nod helw Gwern y Talwrn,
Lle cefais weled ged gu
Lloerddyn dan fantell orddu;
Lle gwelir yn dragywydd
Heb dwf gwellt, heb dyfu gwŷdd:-—
Llun ein gwal dan y gwiail da,
Lle briwddail, fal Llwybr Adda.
Gwae yr enaid sydd gwr nid fal,
Rhag blinder, heb gwbl undal;
O thry yr un ffordd ach lan,
Ag y troes y corph truan!
LXIV. Cynghor i ymwrthod a Morfudd gan un o’r brodyr llwydion
Golygiad modern Abertawe: cerdd 147 ↗
Doe, y’ mherigl y ciglef,
Y’ nglyn aur, angel o’r nef,
Wrth ganu araith gynnes,
O’i fin gwell na gwin a ges,— ^
Parod frawd llwyd, yn mhob lle,
O’i gynghor doeth rhag ange’:
Dysgybl Mab Mair a’m dysgawdd,
A hyn a ddywaid yn hawdd.—
Dafydd o beth difeddw bwyll,
Digymhar gerdd digymhwyll,
Dod ar awen d’aur enau
Nawdd Duw, ac na ddywed au;
Nid oes o goed, trioed trwch,
Na dail ond anwadalwch.
Paid a bod gan rianedd,
Cais er Mair a cashau’r medd!
Y mogel draws magl draserch,
A ’mogel mwy magl merch:
Gochel dafarn, difaru don,
A gochel merched gwychion.—
Ni thala ff âen gwyrdd gwydd,
Na thatarn, na iaith Ofydd.
Tri pheth a bair methu,
Fr dyn a’i dilyn o’i dŷ, —
Gwin, merch drwch, a gwychder,
Myn f’enaid gwiw afraid ger!”
Atehais pan gefais gwr,
Ar hyn o eiriau’r henwr,
Pa fodd, gwel, y gochela’
Magl serch yr ordderch dda;
A minnau, y gwr mwyniaith,
Ynddi yn gweiddi yn gaeth?
Myn y Gwr a fedd, heddyw
Mae gwayw i’m pen am wen wiw,
Ac i’m tal mae gofalglwyf;
Am aur o ddyn marw ydd wyf!
Ni chaf och’lyd hefyd hawl,
Gan daered y gwr durawl,
Rhaid rhoi draw, o daw o dal,
Groesaw i ddeuliw’r grisial:
Llenwi mewn gwindy llawen
Siwgr ar win i ddyn segr wen.
Os heibio rho’, glo y gler,
Gwas gwechdon, gwisgo gwychder,
Ni fyn Morfudd ddeurudd dda,
Aelod main, weled mona’! —
Ni thal dy gynghor am forwyn,
Garai i mi, y gwr mwyn!”
LXV. Duchan i’r bugail ddychrynasai Morfudd a rhuglgroen
Golygiad modern Abertawe: cerdd 62 ↗
Fal yr oeddwn, fawl rwyddaf,
Yn y rhiw, ddiwrnod o’r haf
Yn coelio mun, yn cael medd;
Encyd awr yn cyd-orwedd
Dan wydd, rhwng mynydd a maes,
Yn gorllwyn fy nyn geirllaes.—
Dyfod a wnaeth, nid gwaeth gwad,
Lle’r addawodd lloer ddiwad;
Cyd eiste, cu wiw destun,
Ar gader faes gyda’r fun.
Cyd cyn cynhenu hawl,
Geiriau a’m bun ragorawl.
Ani felly, anhy’ oedd,
Yn deall serch ein deuoedd,
Yno y doeth rhyw noeth nych,
Dan gri ryw seistri sistrych,
Llogwrn lled anferth serth sail,
O begor yn rhith bugail.
A chanddo’r ’roedd, gyhoedd gas,
Ruglgroen flin gern-grin gorn-gras.
Canodd felen- gest west- fach
Rhuglgroen, gwarth i’r hegl grach!
Ac yno cyn digoni,
Gwiw fun a wylltiodd, —gwae fi!
A rhag ofn hon, fron fraenglwy’,
(Nith i’r mai) ni thariai mwy.
Dan groes ni bu ddyn o gred,
Cynnar enw, cyn erwined:
Cod ar ben ffon yn sonio,
Cloch sain o gryn-fain a gro:
Cawell teirmil o chwilod;
Callor ddygyfor ddu god:
Crwth cerrig Seisnig yn son,
Crynedig, mewn croen eidion.
Llwfraidd grangc, byr afangc haw:
Ceidwades gwaun codes gwellt,
Gron-ddu feichiog o grin-ddellt,
Cas ei hacen gan heniwTch,
Cloch ddiawl a phawl yn ei ffwrch,
Un annghwrtais yn lleisio,
Yn gareiau byclau bo!
Oerfel i’r carl gwasgarlun,
Amen, am wyllltio fy Nyn!
LXVI. I Forfudd pan oedd y gair ei bod ar briodi y Bwa Bach
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Bun wen lliw Jen ar brenfrig,
Lliw eiry ar fron, lloer aur frig,
Ai gwir dy fod yn gwra,
Ochenaid tost! o chwant da? 4-
I minnau’r aeth hiraethiyd
Os gwir golli’r maes i gyd!
Carl pwdwr, gwedd teiHwr tom,
Carthgwd trwynfîrwd tarian-ffrom;
Twrch bawlyd tra anhyfryd hyn,
Trawsglerddest budr tresglerddyn:
Ci oer-dwrw’ ffrom cor-darw ffrith,
Crinwas haw aelfras bolfrith:
Llawdr gigagl grinfagl groenfaw,
Rhasgal bach corn crach y crydd,
Cuchiad cor crwydrad credrydd,
Gwae fi y ferch anerchael,
Fod rhai ni’th garai i’th gael!
Na bod dyn rheidus, yswallt
Diwych, i dynu dy wallt!
Bywyd yt ferch, draserch dro, %
Bar Suddas, byroes iddo
A boed gathgwd mewn gwden,
Chwithau i minau — Amen!
LXVII. Y diofryd o fyth briodi o achos rhoi Morfudd i arall
Golygiad modern Abertawe: cerdd 140 ↗
Caru ’dd wyf, gwaith hynwyf gwyllt,
Eneth ddiseml, nith Essyllt;
Ilie ydeu wyllten walltaur,
Llawn yw o serch, llinos aur:
Cyfliw fflur ac eglurwawn,
Cangen gethinen, goeth iawn!—
Meddai rai ym, rym rwymferch,
'* Gwra y mae gorau merch
Yleni, ail Eluned,
Orhoen crair, aeryn a’i cred.'*
Ni feiddiaf, anhy feddwl,
Gwae’r bardd a fai gywir bwl!
Deune’r haf, dwyn y rhiain
I drais, unlliw blodau’r drain;
Ei chenedl, feilch gweilch Gwynedd,
A gwarau’n *ngwlad, gwerin gwledd,
A’ m lladdai am ei lluddias
I briodi’r gwr, brwydr gas!
Oni chaf, araf eurair,
Hon i mi, liw hoywne Mair,
Nid oes, mau einioes anhudd,
I’m bryd o gwbl difri brudd,
Myn Delw Gadfan a’i dilyth,
A’i grog, fynu Gwraig fyth!
LXVIII. I wallt morfudd; — a goganu Cynfrig Cynin, sef y bwa Bach, a oedd yn ei chyd garu a’r bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 114 ↗
Dodes Duw, da o dyst wyf,
Deubleth i hudo deublwyf;
O radau serch aur ydyn’,
Aerwyau teg ar iad dyn:
Eurdyrch a chynnyrch anwyl,
O ffrwyth golau iadlwyth gwyl.
Llwyth gwr llowaeth o gariad,
Llathr aur goruwch llethr iad:
Llwyn o gwyr difeiwyr faeth,
Llwyn eurlliw,—llyna iarllaeth!
Llonaid teg o fewn llinyn,
Llaes dwf yn lliasu dyn.
Llin merch, oreuserch rasawl,
Llwyn aur, mal llinynau’r mawl.
Balch y dwg ddyn ddiwg fain
Banadl ysgub, bun dlosgain:
Yn grwn walc, yn goron wiw,
Wyldlos blethiedig oldHw.
Yn gwnsallt, fanwallt fynwaur,
Yn gangog frig eurog aur.
Eirian rodd arwain ruddaur,
Ar ei phen o raffau aur;
1 hudo beirdd penceirddryw,
Yw hyfryd i’r byd ei byw.
Bun a gafas urddas-seg,
Bu ragor dawn briger deg.
Caniad rhag Cynfrig Cynin,
Fab y pengrych flawrfrych flin;
Llwdn anghenfil gwegilgrach,
Llwm yw ei iad le mae iach,
Eiddig gyw sarug go sur,
Lledpen chwysigen segur:
Penglog o’r fedrog fudrach,
Ni bu ’r ben cwch gwenyn bach,
Y fo yn ddreng a fu yn ddrud,
Gael barcio dol y barcud,
Nid tebyg, enydtybiais,
Ei fflech lom i flwch lais:
Anhebig, eiddig addef,
Fulwyllt oedd ei foelwallt ef, —
Llariaidd ddifeth y plethwyd
Y llwyn ar ben Morfudd Llwyd!
LXIX. Y gwynt yn llatai at Forfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 47 ↗
Yr wybrwynt helynt hylaw,
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gwr oerias wyd, garw ei sain,
Drud byd, heb droed, heb adain;
Uthr wyd, mor aruthr i’th roed
O bantri wybr heb untroed,
A buaned yr rhedy,
Yr awr hon, dros y fron fry!”
Dywaid im’, diwyd emyn,
Dy hynt, ryw ogleddwynt y glyn:
Och wr! dos o Uwch Aeron,
Yn glaer deg, yn eglur dôn;
Nag aro di, nac eiriach,
Nag ofna er y Bwa Bach.“
Cyhuddgwyn wenwyn weini,
Caeth yw’r wlad, a’i maeth i mi,
Noethid dwyn, cyd nithid dail,
Ni’th dditia neb, ni’th atail,
Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas, na llif na gwlaw:
Ni’th boddir, ni’th rybuddiwyd,
Nid ai ynglyn, diongl wyd:
Ni’th lladd mab mam o amhwyll,
Ni’th lysg tan, ni’th lesga twyll:
Nid rhaid march buan danad,
Neu bont ar aber, na had;
Ni’th ddeil swyddog, na theulu,
Pth ddydd, nithwydd blaenwydd blu:
Ni’th wyl drem i’th wal dramawr,
R’th glyw mil, nyth y gwlaw mawr! I
Neitiwr wybr, natur ebrwydd,
Neitiwr gwiw dros nawtir gwydd:
Rhad Duw wyd ar hyd daear,
Rhuad blin doriad blaen dar.
Sych natur, creadur craff
Serenawg “wybr, siwrnai gobraff:
Seuthydd ar foreuddydd fry,
Seithug eisingrug son- gry’.
Saer dryghin yn min y mor,
Drythyllfab ar draethellfor:
Hyawdl leidr hudol ydwyd,
Hauwr, dyludwr dail wyd.
Hoywddwr breiniwr, hyrddiwr bryn,
Bydoedd y byd a hedy,
Hin y fron, bydd heno fry.”
Gwae fi pan roddais i serch
Gobrudd ar Forfudd, f’eurferch!
Rhiain a’m gwnaeth yn gaethwlad,
Rhed fry rh’od a thy ei thad,
Cur y ddor,. par agori
Cyn y dydd i’m cennad i;
A chais ffordd atti, o chaid,
A chan lais fy uchenaid.—
Dywaid o’r sugnau diwael,
Dywaid hyn i’m diwyd hael:
Er hyd yn y byd y bwyf
Carodyn cywir ydwyf!
Ys gwae fy wyneb hebddi,
Os gwir nad anghywir hi.“
Dos obry, dewis wybren,
Dos fry tua gwely Gwen;
Dos at Forfudd felenllwyd,
Debre’n iach, da wybren wyd!“
LXX. Chwedl y gog, — o briodi Morfudd a’r Bwa Bach
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
A Mi y’ ngoror gorallt,
Yn aros oed dan goed gallt,
Y bore mai ar bawr maes,
A glanfodd ar lawr glynfaes:
Ag eginaw teg weunydd,
A gerllaw’n blaguraw gwydd.
Minnau i’m ton yn son serch,
I Forfudd,—llyna f’eurferch!
Bwrw golwg lem a’r drem draw,
Am wen, a’i mawr ddymunaw
Golwg o lwybr bwygilydd,
Amun gain ni chawn mewn gwydd.
Nycha clywn gog liosog lais,
Yn geiriaw can a gerais;
Gwiwddestl, i fardd y gwyddallt,
Ei llafar ar war yr allt.
Cyfarchais, yn drylais draw,
Well iddi ’n gân i’w llwyddaw. —
“Dydd da fo i’r Gog serchoglef,
Aderyn wyd o dir nef;
Yn dwyn newyddion yn deg,
A nodau haf iawn adeg;
A haf yn hudaw hoywfun
I goed, a bardd gyda bun:
A llenwi dail i’m llannerch,
A thwg ar ias amlwg serch.
Hoff genyf dy gan landeg,
Yn pan i serch fal gwin seg:
. A thraserch i’th iaith rwysog,
Yn minio gwawd, — fy mwyn gog!
Dywed i’th gan heb dewi,
A mwyn wyd, p’le mae ’mun i?
“Y prydydd! pa ryw adwyth
Sydd arnat ti leni ’n lwyth?
Ni thal porthi gofalon,
Bun iach, ymhellach am hon.—
Gwra wnaeth Gwen gymhen-gall,
Gwiriwyd hi’n wraig i arall:
Ni chai’n gydwedd, clyw heddyw,
Fardd cun, y fun yn dy fyw.“
“* Taw! na’m gwatwor am forwyn,
Y lais ni chredaf i’m llwyn;—
Em rhoddes liw tes hy teg,
Ni chawn gan unferch ’chwaneg,
Lhv a chred, myn y bedydd
I mi dan gangheni gwydd,
A rhwymaw llaw yn y llwyn.—
Yn ddiddig, a’i bardd addwyn,
Myn Mair! a bu’n offeiriad
Madog Benfras, mydrwas mad.
Ni wra wen yleni,
Gwyr hon mi yw ei gwr hi.
Y gog, rhy anwir yw’th gan,
Ni ddiodde neb d’ymddiddan;
Mae syched, a masw achen
Meddwdod, o’th orfod i’th en,
Adyn i’th newydd ydwyd,
Annefod yw, — ynfyd wyd!“
“Ynfyd i’th clywaf Ddafydd,
Ynawr yn siarad dan wydd;
Gwrhäodd ferch a serchid,
Anhirion fu hon i’w hud.—
Ni chai Forfudd werydd wen,
Y fun eglur fynyglwen;
Rhyfig it’ garu hoywfun,
Y Bwa Bach biau Bun!“ 1”
“Am a genaist i’m gwanu,
Yma ’n y gwydd am wen gu,
Deled yt ddyddiau gauaf,
A throi’r haul, a threio’r haf;
A rhew yn dew ar y dail,
A gwywaw coed a gwiail,
A’th ladd gan oerfel i’th lwyn,
Edn ynfyd a’th don anfwyn!”
LXXI. I Forfudd pan briododd y Bwa Bach
Golygiad modern Abertawe: cerdd 107 ↗
S ar ddyn anwadal
A fwriais i ofer sal,
Edifar oedd ym garu
Anghywir ferch, fy nghur fu:
Mawr y cerais lednais-wawr,
Morfudd yn y dydd ni’m dawr.
Ni fynai Forfudd, f’anwyl,
Ei charu’n hwy, och o’r hwyl!
Treuliais dalm, drwy loes dylyn
O gerdd dda i garu’r ddyn:
Treuliais hefyd, nid byd bas,
Tefyrn meddgyrn gormodd-gas.
Treuliais fy nghlod wrth rodio;
Treuhais a gefais o go’:
Treuliais, gwelais yn gywir,
Defyrn gwin, nef a farn gwir,
Treuliais fal ffol fy ngolud,
I’r dafarn, fo’i barn y byd.
Rhois ystffr iddi yn forwyn,
Dlysau mawr o’r mwnai mwyn
Rhoes ermoed rhos aur man
Fodrwyau, gwae fi druan! I
Perais, o iawngais angerdd,
Dysgu, â chanu ei cherdd
I’r gler hyd eithaf Geri,
Eira mân hoen er ei mwyn hi!
Y mddiried ym a ddaroedd,
Er hyn oll fy rhiain oedd;
Ni chefais eithr nych ofal,
Nid ammod i’m ddim o dal,
Eithr ei myned, gweithred gall,
Dyna’r om, dan wr arall,
I’w gwneuthur, nid llafur lles,
Yn feichiog, — fy nyn faches!
Pa fodd bynag i’w noddi,
Ei twyllwyd, neu’r hudwyd hi,
Ai o gariad i’m gadu,
Dyras farn, ai o drais fu,
Yn gwcwallt salw ym galwant,
Wh o’r nad! am wedd berw nant!
Rhai a rydd rhyw arwyddion
I’m law, gormod braw i’m bron,
Llaesgoed, gwell im’ eu llosgi,
O gyll, er na bu i’m gwall i:
Eraill a rydd, defnydd dig,
Am y tal ym het helig;—
Morfudd, ac nid o’m erfyn,
Heb awr serch, a bares hyn:
Duw a rano o’r diwedd
Barn iawn rh’of a gwawn ei gwedd!
LXXII. I yrru y cyffylog yn llatai at Forfudd gwedi iddi briodi y Bwa Bach
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Dydd da i’r ’deryn gwarynlais,
Y cyffylog lidiog lais:
Tydi hyddyf y tewddwfr,
Taer gyffylog íidiog Iwfr. —
Mynag edn, meinwag adain,
Mau dy chwyl, mad wyd, a chain!“ V’
“Ffest a glew y mae’n rhewi,
Ffo ydd wyf, myn fy ffydd i!
Ar hynt, o’r lle bum yr haf,
Gofid, rhag eiry gavas.
Oer a dig yw’r gaua’ du,
A’i luwch ni’m gad i lechu!“
Dyred, na ddywed ddeuair,
Lle mae a garaf, lliw Mair!
i ochel awel allaf,
O ras hir, i aros haf:
Lle gofraisg, gerllaw gofron,
Lle clywir tes, lle claer ton,
Edn yn ei hoedl ni edir,
Aderyn hardd durun hir,
O thry i’th ogylch iaith ddrud,
Treiglwr chwibianwr traglud;
A bollt benfras, a bwa,
A’th weled wr i’th wal da.—
Na chudd er ei lais, na chau
Dy lygad dan dy loywgau:
Heda, brysia rhag brad,
A thwyll ef a’th ddull hoywfad,
O berth i berth, drafferth drwch,
O Iwyn i lwyn anialwch,
Glan dy dro, o glyn dy droed
I mewn magl yn min mei-goed,
Na fydd aflonydd dy lam
Wrth gryngae’r groglath grin-gam:
Tyn yn lew oddiam d’ewin,
A’th ddurun cryf, wyth-rawn Crin.
Trist big h’en goedwig a gar,
Troediaw adwyau dacar;—
Disgyn heddyw yn Rhinwallt,
Is ty gwen, ys teg ei gwallt,
Mynag, edn o’r mynydd,
Fy mraw caeth, fy mriwiau cudd:
Gwybydd, er Delw Gybi,
Ai cywir meinir i mi.
Gwyl ei thro, gwilia a thrig
Yno, aderyn unig;
Ac erod, fab arab, draw
A beiddiaf dy rybuddiaw.
Erod bod lliw’r od, le’r aeth,
Orig, sydd wraig osywaeth, —
Nid llai y cerid ei llun,
A’i glwysfryd ar y glasfryn,
Mwy na phan fu gu ei gwedd
Yn forwyn deg dan fawredd:
Pair i’m lloer, o pur i’m llas,
Garu ei bardd, gwr heb urddas.”
O’i haros bum yn oeri,
Aeth arall, hoywgall, a hi:
Rhyoer fu awel rhewynt,
Pw gwilio hi, gwaela’ hynt!
Gwir a gant, gwarant gwiwras,
Y rhai gynt, er rhyw gâs, —
Pren y’ nghoed,” mawroedyw’r mau,
Arall a bwyall biau!”
LXXIII. Yr hen ddihareb, “trech a gais ac a geidw”, — cywydd i Eiddig
Golygiad modern Abertawe: cerdd 112 ↗
Ceisiaw yn lew heb dewi,
Beunydd fyth, bun ydd wyf i;—
Cadw y mae Eiddig hydwyll
Ei hoywddyn bach, hyddawn bwyll!
Traws ei gwyl trais a golwg,
Trech a gais, trwy awch a gwg,
Nog a geidw, rhag direidsvas,
Ei ddyn gwyn yn ael glyn glas,
Nid hawdd cadw cymmen wen wych,
Rhag lleidr yn rhygall edrych.
Un orchwyl, lle disgwyliwyf,
Unlliw drem a lleidr wyf;
Gwydn yw ef, addef oedd,
Yn ei chadw, anwych ydoedd;
Gwydnach ydwyf, trymglwyf trais,
O amgylch bun yn ymgais.
Serchog o’i radd gyfaddef,
O chais a gar ni chwsg ef;
Mal gyyyliwr pylgeinwr pwl,
Hunaw fydd hyn o feddwl.
Y march a wyl, o’i warchae,
Y ceirch ac ni wyl y cae:
Minnau, heb ochel gelyn,
A welaf, ddiweiriaf ddyn;
Ac ni welaf, heaf hawl,
Ei du gymmar, deg emawl.
Ni welo Duw’r dyn geirfyth,
Ni wyl yntau finnau fyth:
Mwy blyg na bydd mab lygad
Yn mhen gwledig unben gwlad.
Trech, lle’r ymgyrchais glais glas:
Wyf nog ef, ofn a gafas,
Tramwyaf hvyraf loywryw,
Trefi fy aur tra fwyf fyw! 1
Oerfel ym o gochelaf
Eirian orhoen huan haf,
Arfog ferch o ryfyg fal
Er a’i ceidw, eurawg hoyw-dal!
LXXIV. Ymliw a Morfudd am briodi y bwa Bach
Golygiad modern Abertawe: cerdd 118 ↗
Drud yr adwaenwn dy dro,
Gwen cenhinen, cyn heno:
Mae i’m bryd, ennyd ynni,
Aml ei thwyll, ymliw a thi.—
Morfudd merch Fadawg Lawgam,
Myn y Pab! mi wn paham
I’m gadewaist ar y seiston,
Yn wddw’ hyll, yn y wedd hon.
Tra gellais newidiais wawd,
Dirprwyaw dy wr priawd;
Caredd haul, caruaidd hud,
Cerydd fi oni’m cerid.
Bellach myh a ballawdd
O glwyf blin, wyf heb le nawdd!
Ar dy fryd, cadernyd gur,
Ai da sigl y Du Segur?
Symudaist fi, siom ydyw.
Seren oleuwen o liw.
Megis y gwr, gyflwr gau,
Ac iddaw da y gweddau,
Deubar o ychen diball
Wrth yr un aradr, cadr call;
Ardded y’ ngran graenfylch,
Dalar gwydd, ei deil ar gylch,
Heddyw y naill, fy hoyw Naf!
Yforu y llall oferaf.
Fal y gwnair, gurair gerydd,
Chwarau a phel, fy chwaer ffydd!
Hoff wyd dilynwyd dy lun
O law i law, loyw eilun!
Esgwier Gwy a’i ddwywisg,
A’r rhain gan d) ued a rhisg:
Nofiais o’i flaen yn nwyfwydn,
Heb dal gyfnewidial wydn;
A wnel yn dda dan fedwgoed,
O myn y dyn i mewn doed!
Ac a’i gwnaeth, bradwriaeth braw,
Aed allan wedi dwyllaw.
Bid edifar dy garu,
Bwriaist fi, byr o wst fu; —
Os gwir y bwrir baril
Ysgwd pan fo gwag ysgil,
Causwn ymgeledd cyson,
F’enaid wyd, o fin y dôn,
Oni bae fod wyneb adyn,
Moelaidd bach, i’th ymyl bun,
Rhag colli, ynni uniawn,
Ty a gwr mewn lle teg iawn.
Gwydnglv.yf ydd wyf o’i ddeall,
Gwydn wyf fal gwden afall,
A blyg yn hawdd, a gyfwrdd,
Ac ni thyr er un gyr gwrdd,
Mae ynof, gwan-gof gyngen,
Enaid cath anwydog hen;
Briwed, cured coflwydwydd,
Bo a fo arni, byw fydd.—
Minnau er bawdd, meinir, beunydd
Sy’th garu byth, saith gur bydd:
Dydi a’i gorfydd haiach,
Ha! ha! gwraig y Bwa Bach!
LXXV. Yr eog yn llatai at Forfudd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
V Eogwas o’r eigiawn,
A roes Duw o ras a dawn;
Glana’ milyn a luniwyd,
Myn Mair wen, yn y mor wyd!
Ewyn a’ th geidw ar wimon,
Y crug bendefig y don,
Rhag maglau ymylau myr,
Rhag cau rhwydau coredwyr,
Rhag brad ergyd ar hyd bron,
Rhag llaw-dryfer lleidr afon.—
Dithau’r Eogwas, duthiwr eigiawn,
Twrch heli wyd, torch loyw iawn!
Hwylia ar for heli ar frys,
Nofia ddwfr, na fydd afrys;
Nad d’adnabod bysgodyn,
Dos heb ymddangos i ddyn;—
Pan ddelych, pena’ ddwyhw,
Goruwch y rhyd grych a’r rhiw, -
Tra gloyw wydr, treiglia i edrych,
Ti a gai weled tai gwych,
A llennyrch, a pherllanau,
Llyn o ddwr mewn lle neu ddau:
Lle mae’r dyn a’r lliw mor deg
A’r wennol ar y waneg.
Gwilia yno gyHonwr,
Galw o’r gell gywely’r gwr.
O’gweli ddyn ag ael ddu,
Ac wyneb wedi ganu,
Gwilia yno gael annerch,
Cais amnaid ar f’enaid ferch
A deuros yn ei deurudd,
A’r rhain o liw samwin rhudd:
Allaw wych, un lliw a chan,
Fodrwyog — gwae fi druan!
A braich hir fal ’wybr uwch haul,
A bron fal be bai’r wennaul,
Dwy fron mor wynion a’r ôd,
Gloyw wynach na gwylanod!
Dos heb ei llaw, draw ar dro,
A chenyf annerch honno
O daw hon, dan eurdo hed,
I lan dwfr, ail Eluned,
Nesa at fy llinosen,
A bwrw naid gar ei bron wen.
Caf farw o’i chwant cyfarch well
’l I hoywfun, gymhar hwyfell.
Y madrodd chwedl, fal Medrod,
O’r llyn, wrth liw’r llewin ôd;
Dywaid iaith gall, doed i’th gof,
Wrth wen, fod hiraeth ynnof:
Y galon, am nas gwelaf,
Yn gul, ais ym yn glaf!
Y mae’r ddwyais mor ddiwair
Er fu’n ei charu, ni chair,
Addaw a wnai’r winwydden,
Addaw byth ni ddoe i ben.
Ni fynai gwen fawl genyf,
Ac ni chred na gwan, na chryf.
Yr Eog rywiog, ben rhaith,
At Wen dôs etto unwaith,
Gofyn, oedd gyfion iddi,
Ddyn fain deg, ddwyn f’enaid i?
Gwnaed y naill, gwyna dyn yw,
Ddyfr fain, o Ddolr i Fynyw,
Ai dwyn f’enaid, dyn wan fainwr,
Ai meddylio gado ei gwr.
LXXVI. Honaid y difwyna Eiddig wedd Morfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 115 ↗
Y Ferch a elwir fy chwaer,
A’m hanwyl eglur glaer,
Mae i’m bryd, enbyd iawnbwyll,
Drwy nerth Duw, drin o’iwrth bwyll,
Bod i’m cof, byd a’m cyfeirch,
Beidio a hi, bedw ai heirch.
Ba dal ym bum i’w dilyn,
Bod er da beidio a’r dyn:
Llygru a wnaeth, gaeth gerydd!
Lliw’r dyner ys llawer ddydd,
Ni allef nerth ni pherthyn,
Ni ellir dim a lliw’r dyn!
Meddylio’r wyf, mau ddolur,
Myfi a’i gwn, mau fwy gur;
Y chwaen gyda’r ychwaneg,
A ludd ei deurudd yn deg,
Enid leddf, anadl Eiddig,
O’i enau du a wna dig:
Gwedi gollyngo, tro trwch,
Y gwr dygn ail Eigr degwch,
Anadl fal mwg y fawnen
Yn ei chelch, pan nas gelch gwen,
Gofid tost, fal rhwym gefyn,
Yw gado’r delff gyda’r dyn!
Delw o bren gwern dan fernais,
Grin ddiffaith o saerwaith Sais.
Drwg cadwed dygiad agwyr
Llugorn llon, ai llwgr yn Ilwyr!
Y pin Seisnig da ddigawn
A fydd drwg ym mwg y mawn.
Niwl a ddwg yn awyr,
Gan yr haul wiw, ei lliw’n llwyr!
Cadeirgaingc dderw, coed argor,
A fydd crin yn min y mor.
Tramwyais, hopvdrais hydreg,
Trefi y dyn tra fu deg;
Ystiwardaeth gaeth gariad,
Ond tra fo teg nid treftad,
Da gwyr beri digaru
Ei phryd, fy anwylyd fu!
Gorau gan eiddig oeryn,
Dygn du, na bae deg y dyn,—
Llychwinodd Uwch o’i enau
Lliw’r dynyn, mireinwyn mau:
Drwg gan innau, gorau ged,
Yn gulaidd iawn ei gweled!—
Poed cul, poed mul, poed melyn,
Er cur ei lliw, cara’ ei llun,
Rho Duw a Chadfan, rhaid oedd,
Rhad a geidw, rhydeg ydoedd!
LXXVII. Cyffelybu Morfudd o ran cynneddfau ir ysgyfarnog, y wiwair, a’r hydd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 76 ↗
Ysgyfarnog y’ nghartref
A fag rhai oni fo cref;
Dieithr fydd er ei meithring,
I drum yr wrth-allt y dring.
Gwiwair o chae frig gwiail,
Gwaeth oedd i’r tadmaeth y tal.
Brawd hy mewn Lletty Uetollt,
Bradog darf ar belldarf bollt
Astud air os doed erof,
Ystid goch, os da dy gof,
Benod yr hydd gelltydd gil,
Ban oeddid gynt banw eiddil:
Iwrch drythyll, hely deilgyll hawl,
Iyrchwys hydr, iyrchus hudawl:
Rhywylit ei rhuthr mewn rhewynt,
Rhyfain bydd rhy fuan hynt:
Rhydain iwrch, rhedai yn ial,
Rhy diuwyn hvdn rhedynwal.
Edifar fydd eu dofi,
Dan frig gwydd y trig y tri:
Dwfn helynt, a lletcynt lid
Dirmygen’ dir a’i megid,
Felly y gwnaeth gaeth gariad
Ger fy mron, goryw fy mrad!
A myff cywely call,
Unne geirw, neu ac arall.
Haner haul, leufer loywfys,
Bliant uwch y grisiant grys:
A phan wisg aur ei deurudd,
Mair wyl o ystlys mor rudd!
Megais hon, ddirmygus swydd,
Do ’n aml o oed deunawmlwydd:
Lluniais gerdd, a dillynion,
I geisio dyhuddo hon;
Rhin gall er hynny i gyd,
Anolo fu’r anwylyd!
LXXVIII. Y llwyn bedw
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Llwyn Bedw di-annedwydd,
Lle da i aros lliw dydd,
Yn llwybr’wybr glaslwybr glwysliw,
Llen o ddail uwch gwiail gwiw:
Llen gêl merch a’i gordderchwas,
Llawn o glod ydyw’r Ilwyn glas!
Lle cynnes iarlles eurllen,
Lle cyfiaith bronfraith ar bren:
Lle glwys bron, lle golas brig,
Lle deuddyn er llid Eiddig:
Lle daw meinwar a’m gariad,
I dy dail o waith Duw Dad.
Cerais ryw geidwad adail,
Eurllen deg ar y llwyn dail;
Eos glwysgerdd is glasgoed,
Arwydd cyfaneddrwydd coed:
Udfardd erioed mewn coedwig,
Ar ael bron, ac îr lathr brig.
Gwnawn ystafell mewn celli
Gwinwydd o newydd i ni;
A hundy a gwely gwiw,
A glaslofft o fedw glwysliw.
Cwmpas o fedw a gedwir,
Conglau cadeiriau coed ir:
Pair glod ar oror parc glas,
Parlwr o’r irddail purlas.
Hundy a gwely gwiw,
Dihuddygl o dy heddyw;
Capel glwysfrig ni’m digiai
O ddail irgyll mentyll mai,
dy fun y dof innau.
O’m anwychder, a’m nychdawd
Dinllaes eo3 adeinllwyd,
Llattai ddechreu mai ym wyd;
Bydd nerth ar ael corberthi,
Gwna ddydd rhwng Morfudd a mi.”
LXXIX. Ymbil ar Ddwynwen santes wneud llatteiaeth rhyngtho a Morfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 48 ↗
“dwynwen deigr danian degwch,
Da gwyr, o gor fflamgwyr flwch,
Dy ddelw aur diddoluriaw
Digion druein ddynion draw
Dyn a wilio, gloyw dro glan,
Yn dy gor, un deg eirian!
Nid oes glefyd, na bryd brwyn
A el ynddo o Landdwyn!”
“* Dy laesblaid, yn dy lwysblwyf,
Dolurus ofalus wyf!
V mron oer, am yr unferch,
Y sydd yn unchwydd o serch!
Hirwayw o sail gofeiliaint,
Herwydd y gwn hwn yw’r haint,
Oni chaf, o byddaf byw,
Forfudd, — Hyna oferfyw!
Gwna fi’n iach, weddusach wawd,
Cymysg latteiddrwydd flwyddyn,
A rhadau Duw, rh’od a dyn.
Nid rhaid, ddelw euraid ddilyth,
Yr ofn pechawd gnawd syth!
Nid adwna da ei dangnef—
Duw a wnaeth nad ei o nef!
Ni’th wyl mursen yleni
Yn husting yn ing a ni,
Nid eill Eiddig ddyn dig du,
Noeth ddragwm, fyth mo’th ddrygu! y
Ni rydd Eiddig ddig ddygnbwyll
Warffon i ti, wyry’ ei phwyll!
Tyn o’th wobr, — taw l ni thybir
Wrthyd wyry’ gymhlegyd hir.
O Landdwyn, dir gynired,
Y gwn y tro, gem tir cred?
Nef ni’th omeddawdd, hawdd hedd—
Dawn iaith aml, dyn ni’th ommedd!
Diammau weddiau waith,
Duw a’th eilw du ei thalaith! »
Del lid, Duw dy letty wr,
Del i gof dwylaw gwr;
Traws oedd y dyn a’i treisiai,
Tra ddel ym trwy ddail mai,”
“* Dwynwen! 1 pe parid unwaith
Dan wydd mai, a hirddydd maith
Morfudd, lawen-ddyn wen wych,
Dwynwen, ni byddit anwych
Dangos o’th radau dawngoeth
Nad wyd fursen. Ddwynwen ddoeth!
Er a wnaethost, drwy ddanbwys,
O benyd y byd a’i bwys,
Er ffydd, er crefydd croywfyw,
A wnaethost tra fuost fyw —
Er dy eirian leianaeth,
A gwyrfdawd y coethgnawd cacth!
Er enaid, os rhaid yrhawg,
Br) c’ian Yrth, breichiau nerthawg,
Eiriol er dy. grefol gred,
Yr Em wyry’, roi ymwared!
LXXX. Cywydd i Forfudd ar ol ei dwyn oddiar y Bwa Bach
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
“y Fun a elwir f’anwyl,
Seirian wyd fy seren wyl!
Tyred i’r Iwyn, mwyn yw mai,
Dioerder yw’r clyd irdai!”
“Y myd wen, mi yw dy wr,
A’th was, i’th burlas barlwr;
Dy wely yw’r llawr deiliog,
Dy organ a fydd can cog,
Dy loches cynes yw’r coed;— •
Tegan wyt ti mewn tewgoed! i
A’th drws, ail Fenws feinir,
Feddal wisg o’r hafddail ir.
Glwysbryd wisg o ddail glasbren,
A fu wisg i Efa wen;
Cai dithau, wen haulwen ha’,
Olofaidd wisg fal Efa.—
Efa wyd, y ddyn wiw fau,
Adda, Panwyl, ’ddwyf innau,”
«' Awn i’r llwyni arllonaidd,
A thecced tawr y lawr llaidd.
Yno dan bren ni’n cenfydd
Hen eiddig, lo dig, liw dydd.
Pell Panwyl, pwylla f’enaid!
Yw’thwr, wr,—hylla gwr a gaid!—
Yn wr balch, yn oer ei big,
A’i grwydr yn mro Garedig;
N innau dan rin yn min mor,
Hoyw defyll y’ nghoed Ifor.
Gwell yma yw’n noddfa ni
Ar Daf, na goror Dyfi. —
Dilys, ni wyr y dulwyd,
Oer wen, fan o fyd yr wyd.
Deuwell yw’n llys blodeuog,
Ucho ’n y coed, a chan cog,
Na mwnws byd, manus bach!
Na gwaedwrf, a hen gadach,
Yn oer drigfa’r Bwa Bach!”
“Hawddamor beunydd yma
A gawn, gyda phob dawn da,
Llwyn is twyn yn llawn ei ’stor,
A lles hefyd llys Ifor.—
Ifor yw trysor traserch,
A rhyswr, a sawdwr serch,
A gelyn blin, heb gyfrinach,
Yw’r gwrda i’r Bwa Bach!”
LXXXI. Hanes fal y dygodd y bardd Forfudd oddiar y Bwa Bach
Golygiad modern Abertawe: cerdd 70 ↗
En y mewn diras draserch!
Ymanos fum, — mynais ferch:
Llwyr fry i’m parodd lloer fro
Fyfi’n leidr! wyf yn llidio;
Gwanfardd o draserch gwenfun
Gae y lleidr drud am hud hun;
Ar y modd, gwell nag aur mal
A gefais, och rhag gofal!
Nid lleidr march dihafarch-droed,
Na buwch, nag ych gwych o goed,
Nag arian, nag aur gwiriach,
Cefais, dywedaf rhag gohd,
Ddynes fwyn i’r llwyn rhag llid.
Gwedi cael, neud gwawd a’i cwyn,
Gwin a medd gwen em addwyn,
Medd won fuon’, fy meiddwyr,
Mau boen gwych! meibion a gwyr
Cysgu, wedi symlu son,
A wnaethont, bobl annoethion |!
Twrf eirth-grwydr, fal torf wrth-groch
Talm mawr, megis teulu moch.
Mawr fu anmhorth y porthmon,
Meddwon oeddynt o’r hynt hon:
Nid oedd feddw dyn daneddwyn,
Nid wyf lesg, nid yfai lyn.
Os meddw oeddwn gwn gad,
Medd a’i gwyr, meddw o gariad:
Er gostwng, o ddiflwng ddau,
Y ganwyll fflamgwyr gynan,
Hir o chwedl fardd cenedl-loy w,
Ni hunai hoen er trai hoyw!
Y nyn, ni hunwn innau,
Er maint oedd y meddwaint mau,
Ar hyn meddyhais ei cheisiaw,
O’r gwal drwg, i’r gwiail draw;
Cyd bai anhawdd, garw-gawdd gwr,
Ei chael oddiwrth ei chulwr,
Mai degwch! mi a’i dygum,
Myn Delw Fair, dilwrf fum!
Ni wyddiad, bryd lleuad bro,
Ei dynion ei bod yno;
Nid oedd fawr am geinwawr gynt
Ysgipio ’y mhen, pe’s gwypynt.
Od â bun ar ei hanpwynt,
I gydgyfeddach ag hwynt,
Ei rhieni, rhai anhardd,
A geidw bun, rhag oed a’i bardd,
Hir fydd in’ eosydd nos,
Hir hun Faelgwn ei haros! 1
LXXXII. Doe ac echdoe, — dwyn Morfudd oddiar y bwa Bach
Golygiad modern Abertawe: cerdd 110 ↗
Dyddgwaith dibech oedd echdoe!
Da fu Dduw a Dafydd ddoe!
Nid oedd unrhyw ddwy anrheg,
Y dydd echdoe, a doe deg.
Drwg oedd fod, hynod hynoeth,
Echdoe yn frawd i ddoe ddoeth!
O Fair, wychdeg fawr echdoe!
A fydd y rhyw ddydd oedd ddoe?
O Dduw erfai ddiweirfoes!
A ddaw i mi ddoe i’m hoes?
Rhoddi, yn drech nag echdoe,
Y dd wyf, gan- hawddfyd i ddoe:—
Doe dialawdd, cawdd cuddnwyf,
Dafydd hen o newydd nwyf.
Pedestr hwyr, wyf cawddnwyf call,
Ar hyd erw lle rhed arall;
A meistrawl ar fawl wiwlamp,
A’r gost, lle mae goreu’r gamp.
Gwell yn mhell, gar gwayw. llif nwyf,
Pwyll nag aur, pellenig wyf.
Trech llafur, nofiadur nwyf,
Na direidi, dewr ydwyf!
Da fyddai Forfudd i’w dwyn,
O’r diwedd, hoen eiry dywyn
lawn a wneuthum ei chanmawl,
Ond oedd i’m henaid ei hawl?
Nos da i’r ferch anerch-glaer,
A dydd, am nad oedd daer,
Y hi a’m gorfu hayach;
Ha! ha! wraig y Bwa Bach!
LXXXIII. Gwahoddiad Morfudd i’r deildy
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Mwynddyn, tyred i’r man- ddail,
Ac enw’r dyn Gwen o’r dail:
A cherddor, dan wych irddail,
Wyf i’r dyn a ofwy ’r dail,
Gweuais iddi dy gwiail,
Gwedi’i doi i gyd a dail,
Aeron gynt a fu’n arail
Dan bebyll godywyll dail;
Ac Eiddig pan ddel gwiw-ddail,
Dan ei do, a dyn y dail.
Prydydd wyf fi a ddiail
Ar y gwas du dynu’r dail:
Goreu bwriad ar adail,
A wnaeth Duw saerniaeth dail;
Goreu neuadd gron wiail,
Neuadd dda newydd o newydd ddail,
Eos, gannos a gynail
Fwyn ei dy o fewn y dail.
Ceiliog mwyalch, clog miwail,
Coedwr du a ŵyr cadw’r dail.
Bronfraith goedfaith fagad-ddail,
Brenhines hudoles dail,
Cethlydd, lasddydd ar Iwysddail,
Clochyddes a duwies dail!
Cynnydd rhif pob anifail,
Gwyllt a dof, yw gwellt a dail;
Cor bywiog ceirw, a huail,
Caead ar dy coed a’r dail,
Tra fu urddas tref irddail,
Tra fo haf, nid af o’r dail,—'
Gwisgo hug, bod yn fugail
Gyda’r dyn i gadw’r dail:
Myned at Wen, heb atail,
A wnaf, ac nid af o’r dail.
Gwae a gerddo’r gwag irddail,
Gwae oni ddaw gwen i ddail!
Herwr gwlad a phob adail
Wyf fi, nid am dori dail,
Herwr hy’ garwr gwiail,
Herwr ac ardwywr dail;
Ni cheisiaf ddyn wych osail,
Yn rhydd, ond y dydd a’r dail!
LXXXIV. Mawl i’r eos, — a duchan i’r fran am ei g wrlltio, pan oedd y bardd yn y llwyn yn disgwyl Morfudd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 154 ↗
Gwae fi o gariad gwiw fun,
Nad ytwyf y’ Nghoed Eytun!
Lles nifer, ger llys nefawl,
Lle y mae galluau mawl:
Ysgyndwr maen ar gaen galch,
Ysgynfa Eos geinfalch.
Ys gwyr hi, hydr yw ’n gormail,
Ysgwn daith dan ysgin dail,
Main y can prif accen prudd,
Men a threhl mwyn ei thrabludd;
Egwyddor gain fireinfyw
O gor dail i gariad yw:
Cathl wynfyd coeth lawen-ferch,
Canghenddring cain sawdring serch,
Prid yw ei chof gan Ofydd,
Prydyddes, gwehyddes gwydd:
Llon fydd yn nydd ac yn nos,
Llef ddiledlef, dda loywdlos.
Fal yr oeddwn heb ormail,
Cwpl da, o fewn capel dail,
Yn gwarandaw rhif yn ddifreg,
Offeren dan ddeilen deg,
Gan laswyrwraig y cariad,
Ganiadau mydr-Ieisiau mad,
Gan. Eos gain ddiddos gu,
Bab y doludd heb dalu,
Difir mewn doldir ein dau,
Mewn llwyn-gwyrdd a meilliongau
Nycha ’r Fran anwych ar frig,
Lafar ysgyflgar goflgig,
Yn dwyn rhuthr, dan dinrhythu,
I blas yr edn ceinlas cu.
Daeth y Fran o ryw daith fry,
Anmharod gerdd o’i ’mhary;
Glew phwnc, nid gloyw drafferth,—
“* Gwlaw! gwlaw!” medd y haw o’r berth,
Llesteiriodd brif ddigrifwch,
Llaes ei phlu a’i lleisiau Mwch;
Sef gwnaeth, deuluwriaeíh dail,
Gan Eos fygr ar wiail,
Tristau draw a distawu,
Gan bres yr luddewes ddu.
Daeth, ni bu annoeth ynof,
Duw a’i gwyr, nad a o gof
Dychymyg bonheddig bwyll
Rhag irdang bum ragordwyll.
Ffull goluddion, heb don deg,
Ffollach wegilgrach gulgreg.
Edn eiddig, wyd anaddwyn,—
Adref! drwg ei llef o’r {lwyn!
Cerdda at eiddig dy gar,
Cyfliw mwsgl, cofl ymysgar;
Euryches yn oer ochain,
Blowman du a’i blu mewn drain,
Hug dorllaes mudwraig daerllyd,
A dyn bob oen o boen byd:
Bargain cair bob byrgun cul,
Hyn a geiff o hen geffyl.
Ac er maint a gar mentyn,
Nid llai rhanc y grafanc gryn.
Marw fych pan glywych weiddi
Yr ych dwn, nag eiriach di!
Nesa yr edn gylfingrwn,
Na sor gwna ar ei dôr dyn:
Crwydr arnai gicau gechir!”
Credodd fy mod ar y gwir:
Cefais gan lathr-las asgell,
Loyw-swydd wiw, leisiau oedd well.
LXXXV. Yr het fedw a blethodd Morfudd i’r bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 113 ↗
Yr Het Fedw da i’th gedwir,
Ys gwae gan Eiddig os gwir:
Ysbail gwydd cynnydd canoed,
Ysgythrlen frig cangen coed.
Ysbail gwydd dolydd dulas,
I wiw lwyn, coed elyn cas;
Duw a’th gadw y fedw fan,
Gwag remwth, rhag ei gryman! î
Fy mod, pei gwyddai heb gel,
Yn gochel dan dy frig uchel,
Fe ddeuai’r cor i’th dori,
Cyn y nos, er cwyn ini!
Ys dewr wyf ys diryfedd,
Ystyriawl i’th fawl a’th fedd,
“Ystofiad coed, ys difai,
Ysgrin ddail, man wiail mai!
Ys da adail i’th eiliwyd,
A hafdy glasdrym ym wyd;
Mae a’th fawl hawdd ganmawl hir,
Y deildy o fedw doldir.
Gerlant a roes dyn geirloyw,
Cwmpas o’r fedwen las-loyw:
Call a difradw i’th cadwaf,
Coron rhag tra hinon haf!
Culwas a’i dwg cyd ciliai
Cofl ddiell o fantell fai.
Cydfaeth dyffryn glyn gloywlas
Coedfedw gwiw yn cydfod gwas!
Gwrygiant ferch eurferch erfai,
Gwyrthiau a ffrwyth mwynlwyth mai.
Pwyll rhag anghof, a gofal,
Pebyll uwch didywyll dal,
Lle tirion, lle y torir,
Pebyll uwch y didwyll dir!
Mawl dyfiant gwiw foliant gwydd,
Mynwaur o dewfrig manwydd.
Gwawdau dal gwiw-do deulwyn,
Gwyrddgylch a ddiylch ei ddwyn:
Gwawr gelfydd serch, gwir goelfain,
Gwregis gwallt o’r goedwallt gain.
Gwiw adail heb adfeiliaw,
Gwaith wyd Morfudd Llwyd a’i llaw!
ARA tHe Ab A La.
LXXXVI. Cywydd y cusan
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Moes un cusan i’m hannerch,
Moes ddau o gusanau serch;
Moes dri yn y maes draw,
Moes bedwar, na chais beidiaw!
Moes bump, y gangen wenglaer,
Moes chwech i minnau fy chwaer,
Moes saith, er y daith a’m dug,
Moes wyth, nad monwy’n seuthug!
Moes naw imi os myni,
Moes deg, di a’m euraist i.
Moes unarddeg, sy’n awr dda,
Moes deuddeg, mi eistedda’:
Moes ym un wedi deuddeg,
Aur ddyn, moes bedwar ar ddeg;
Moes i’m bymtheg, y deg-ferch,
Moes unarbymtheg o serch:
Moes dau ar bymtheg, os daw
Na’m siom ddyn, moes ym ddeunaw.
Moes am yn un, y fun fain,
Em eigr, moes ym ugain:
Moes ym gusan ychwaneg,
Ar hyn o dal, fy rhiain deg.
Ac ymado’n gymodol,
Mae’r les, a’r neges yn ol.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O grynhoad Owen Jones, a William Owen (Llundain: argraphwyd gan H. Baldwin, 1789). Sganiau: archive.org/details/bim_eighteenth-century_barddoniaeth-dafydd-ab-g_dafydd-ap-gwilym_1789 (llyfr 1789) ac archive.org/details/barddoniaethdafy00dafy (adargraffiad Lerpwl, gol. Cynddelw, I. Foulkes, 1873)
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Yr Hen Ogledd: y wlad lle ganed barddoniaeth Gymraeg
O’r Clud a Gwerydd hyd y Pennines, siaradai Brythoniaid y Gogledd yr iaith a drodd yn Gymraeg. Eu teyrnasoedd, Gododdin, Rheged, Ystrad Clud ac Elfed; eu brenhinoedd, Urien, Owain a Rhydderch Hael; y beirdd Aneirin a Thaliesin; Catraeth ac Arfderydd; a Gwŷr y Gogledd nad anghofiodd Cymru erioed.

Y Mabinogi: y llyfrau a gadwodd chwedlau Cymru
Mae Cymru wedi cadw ei straeon mwyaf ers naw can mlynedd. Dyma sut: storïwyr y llysoedd brenhinol, awdur anhysbys y Pedair Cainc, dau lyfr mawr a ysgrifennwyd i ddau uchelwr o Gymro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a merch ifanc o Saesnes yng ngwaith haearn Dowlais a ddysgodd Gymraeg ac a roddodd y chwedlau i’r byd.

Bythynnod Cymru: y groglofft, y wal glom a’r tŷ unnos
Cartrefi chwarelwyr, bugeiliaid a gweision fferm Cymru: un ystafell a hanner llofft, waliau o gerrig mawr neu glai, a thai a godwyd ar y comin mewn un noson. Ymwelwch â Llainfadyn (1762), Nant Wallter, Bwthyn Penrhos a Thŷ Hyll.

Oes y Tywysogion
Cestyll, barddoniaeth a thywysogion Gwynedd a Deheubarth yn erbyn grym y Normaniaid a Lloegr.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Cerddi XLVII–LXXXVI’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/barddoniaeth-dafydd-ab-gwilym-cerddi-47-86.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Craig y Castell yng Nghaeredin, Din Eidyn, cadarnle Mynyddog Mwynfawr a’r Gododdin — Scglossop1 · CC BY-SA 4.0
- Tudalen o Lyfr Coch Hergest (Coleg Iesu, Rhydychen, MS 111), a ysgrifennwyd tua 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- Nant Wallter, bwthyn gwas fferm o tua 1770 o Daliaris, â waliau clom a tho gwellt, yn Sain Ffagan — David Hallam-Jones · CC BY-SA 2.0
- Tŵr crwn Castell Dolbadarn dan fynyddoedd Bwlch Llanberis — Tilman2007 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth