
Hanes Cymru / Llyfrgell / Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Chwilio am Arian Daear
Chwilio am Arian Daear: o Cymru Fu, llyfr Isaac Foulkes o chwedlau a thraddodiadau Cymru (1862), yn ei Gymraeg ei hun.
Llun: Llyn Idwal dan Slabiau Idwal a chlogwyni Cwm Idwal · Ioanp1, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Chwilio am Arian Daear
Gân Glasynys.
Y MAE chiuilio am arian daear wedi bod yn un o brif ymch-wiliadau rhyw ddosparth o bobl yn yr oesoedd diweddaf. Fyth ar ol i’n gwlad gael mwydo ei dolydd, a gwlychu ei bryniau, â gwaed rhyfelwyr, ac ar ol i ddifrod fod yn ysgubo pob peth o’i flaen am oesoedd; pan y caed heddwch, coeliai’r wlad fod peth wmbreth o drysorau wedi cael eu cuddio yn y ddaear yn yr adegauterfysglyd hyny. Ac yn wir, yr oedd coel arall, hynach a chyffredinach, sef fod rhyw fodau goruwch-naturiol yn meddu cuddfeydd llawnion o drysorau, draw ac yma, yn mysg llawer iawn o genhedloedd heblaw ein cenedl ni, ac y gwnai y rhai hyn, pan ddelai yr un iawn yno i chwillo am danjTit, ddatguddio eu cronfa’n rhwydd a rhad, ac felly wneudycyfi-yw greaduriaid ffodog yn gyfoethog rhag blaen. Nis gwn am un plwyf nad oes arian daear ynddo yn rhy w le; o’r hyn lleiaf, na ddywed rhywun fod yno rai.
Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, yr oedd crefftwr yn byw yn Môn, ac nid oedd dim ar wyneb y ddaear gron, na than ei gwyneb ychwaith, am wn I, a chwenychai yn fwy na chael arian daear. Pan elai ei gyfeillion i edrych am dano ddechreunos, byddai’n bur debyg o dynu ar draws yr hen bwnc, a hwythau yn ei borthi hefyd yn ddigon hwylus, y mae yn fwy na thebyg, Un noson, yr oedd un o’i gyfeillion penaf yn dweyd ei fod wedi cael gweledigaeth ryfedd yn ystod amser cysgu, a pha beth oedd hono, ond fod arian daear yn un o feusydd mawrion y Plas oedd gerllaw. Dywedodd yr hanes yn fanwl wrth y crefftwr, a synai hwnw yn arw at y fath ddatguddiad rhyfedd. “Wy’stti beth, Robin,” ebai, “y mae’nrhaid fodyno rywbeth. Paid ti a son wrth neb, Robin. Mi ddof fi yno hefo thi’r pryd y myui, wy’st ti. Pwy wyr pa faint sydd yno? Piiid ti a deud wrth neb, Robin.” Addawodd Robin gadw’r peth yn ddirgel. Yn mhen rhyw wythnos wed’yn yr oedd Robin wedi breuddwydio drachefn yr un fath bron yn union. Nid oedd ond rhy w ychydig bach o gymhelliadau ychwanegol yn hyuodi y tro hwn oddiwrth y tro’r blaen. Aeth at ei hen gyfaill, y crefftwr, adywedodd wrtho’r hyna fu, a bod gwahoddiad iddo dd’od i’r parc nos dranoeth rhyw dro dro gefn trymeddion y nos, — sef ar ol un-ar-ddeg; a bod arno eisiau cael rymin idd’od gydagef. Yr oedd y crefft’^rr ar dân gwyllt am fyned, ac nid oedd na byw na bywyd i Robin heb addaw iddo gael d’od a bod yn rhanog! Gadawodd yntau iddo gael ar ol tipyn o grefu. Yr oedd ar Robin ofn nad oedd y crefftwr ddim yn ddigon calonog; dyna oedd ei esgus, oblegyd meddai, “Un gwan iawn ydwyf fi: pe gwelwn rywbeth, y mae arnaf ofn na fedrwn ddim dweyd un gair o’m pen. Peth gwael fyddai hyny wedi myned mor agos at y peth!” Sicrheid ef gan ei gyfaill, nad oedd ef yn malio dim mwy yn y nos nag yn y dydd, ac y siaradai ef y cwbl rhag blaen hefo beth bynag fyddai yno. Nos dranoeth a ddaeth, ac yr oedd y ddau wedi rhag-ddarparu pob peth yn eithaf deheuig. Yr oeddynt ill dau yn aros am yr awr benodol yn nhŷ y crefftwr; ond yr oedd ei wi-aig ef, druan, bron a thori ei chalon. Tybiai y gwnai’r yspryd aflan gipio ei gŵr yn ging-gong-gafr a’i slanu ef i ffwrdd i ryw le nas gwelai na migwrnnac asgwrn o hono byth mwy.
Crefai yn galed arno ef beidio myned beth bjmag; ond nid oedd yn waeth ceisio cadw Llanw’r môr yn llonydd na threio cadw’r gŵr yn y tŷ: na, xt oedd yn rhaid i Robin ac yntau fyned: a myned a wnaethant hefyd. Yr oedd hi’n noson ddwl, dywyll, heb ddim chwâ o wynt bron. Yn debyg ddigon o ran hyny, i lawer noson a fu cynt ac wed’yn yn ystod Hydref a Thachwedd: teyrnasai llonyddwch marwol ar bob llaw. Ymaith yr aed, ac at y fan yr oedd Robin wedi breuddwydio gweled ei hun yn cael yr arian. Yr oedd y lle heb fod yn mhell oddiwrth ffŷnon ag oedd yn y cae; a cheisiasant wneud eu tiurdd am hono. Pan oeddynt yn agoshau at y fan, dyna’r Creflftwr yn gofyn iEobin, “A weli di rywbeth, Robin?” “Na welaf ddim,” meddai yntau, “a weli di rywbeth?” “Gwelaf, wel di.” Yn mlaenyr aed, y Crefftwr yngyntaf a Robin yn olaf. “Wel di ddim ’rwan, Robin,” ebai drachefn. “Gwelaf,” meddai yntau, “rhyw oleu glas bach fel canwyll.” Safodd y ddau yn ddistaw yn y fan hono am dipyn; ac ebai’r Crefftwr, “Oes arnat ti ofn, dywed?” “Fawr lai,” ebai Robin: “A glywi di rywbeth?” Ond ar ol sefyll enyd dyma ail-gychwyn at y tân: y Crefftwr yn mlaenaf o hyd, a dilynid ef yn arâf deggan Robin. Pan oeddynt wedi d’od o fewn rhyw ddeugain llath at y tân, diffoddodd yn llwyr am fynyd,’aG nis gwyddent ar groen y ddaear pa beth i’w wneud.
Gofynai y Crefftwr wed’yn, “Oes arnat ti ofn Robin?” “Nac oes ddim rhyw lawer,” meddai yntau, “ond y mae hi’n bur gâs, onid ydy w?” A chyda’r gair yna, dyna’r tân yn d’od i’r amlwg yn fwy o lawer nag o’r blaen, yn un Iwmp coch, ac yn codi oddiar y ddaear yn araf deg ac yna yn gostwng drachefn. Codai wed’yn, a gostyngai, a’r ddau erbyn hyn yn sefyll fel mudanod. “Tyr’cl Robin,” ebai’r Crefftwr, “tyr’d ato fo.” Cychwynodd y ddau, ond ar amrantiad, dyma’r tân yn ymgodi i’r awyr acyuchwrho yn y wybr, a gwreichiou yn ymdaeuu i bob cwr o”r cae. “Tyr’ci i ffwrdd Eobin anwyl,” ebai’r Crefftwr, a’r tân erbyn hyn yn gylch mawr bron-bron uwch eu penau, ac ymaith a hwy nerth eu gwadnau. Rhedodd y ddau nes cyrhaedd tŷ y Crefftwr, a da oedd ganddynt yn eu calonau gael lle llonydd. Yr oedd gwraig y Crefftwr, druan o honi, wedi bod mewn llewygon dros ystod yr adeg yr oeddynt wedi bod allan, a da iawn oedd ganddi hithau gael un golwg ar ei gŵr gwirion wedi d’od yn ol, ac yr oedd yntau yn llawer mwy gwrol yn ei golwg hi, nag oedd yn ngwydd y tân rhyfedd yn y cae. A thyna’r tâl a gafodd y ddau yma wrth fyned allan y nos i chiuillo ain arian daear: ond os hyn fu eu tal hwy y mae eraill wedi cael llawer deng mynyd o chwerthin difyr ar gorn hyn. A dyma fel y bu pethau: Cenaw cyfrwysddrwg, ystumddrwg, a Bawn direidi, oedd Eobin, ac yr oeddgauddo ef bartner Llawn cyn ddihired ag ef ei hun. Hudodd Robin y Crefftwr i chwilio am yr arian, ac yr oedd ei gyfaill Ifan yno’n barod hefo lantern a ff’uneu ganddo am dani, — ffuuen fflam goch; ac felly, yr oedd y cyfryli jS^^y nos, fel olwyn o dân I Yr oedd ganddo hefyd wialen ’bysgya, a pha beth a ddarfu ond rhwymo’r lantern wrth ei ffReu, ac yna ei throi hi yn yr awyr; ac nid dyna’r cwbl, yr oedd ganddo fauweu wedi mwy na haner losgi, a thyna’r peth oedd yn gwreichioui mor ofnadwy: a gwyr pawb mai peth enbyd o wreichioullyd ydyw mawnen linynog, os bydd yn sech. A thyna ddiwedd y chwedl yna, yr hon a adroddir gau ugeiniau yn Môn heddyw.
Clywais hefyd pan yn las-lefnyn am Robert Gruffydd y Fotty a Wil Griffydd Ty Newydd. Yr oedd y ddau hyn wedi bod mewn Festri yn y Llan, ac wedi mwynhau eu hunain yn eithaf da, — os mwynhâd ydyw yfed hyd na’s gwyddent ragor rhwng llidiart a chlawdd ceryg. Rywle wrthdd’odadref daethyumhen Robert i ofyn i Wil cid’od hefogef i’r Muriau, oblegyddyua oedd enw’r lle, i c/iwiiio ain arian daear yn y Parc bach. Eywbryd cyn y bore, medrodd y ddau gyrhaeddyd yno, a dywedai Robert y gwyddai ef o’r goreu yn mha le yr oedd y trysor; oblegy’d pan ryw dro cynt yn pasio’r fan, g-çrelodd yno ddyn Ued fychan a barf wen hir ganddo, ac wedi ymwisgo mewn mantell llaes, — ac heb ddim am ei ben, — yn cerdded yn ol acjTimlaen, agofynoddhwn i Robert a fedrai gadw cyfrinach: dywedodd yntauy medrai; ar hyn, meddai’rhen ŵr gwargam wrtho, “Tyred di yma, wythnos i heno; mi gei di ran o’r trysor sydd yn y fan yma yn cael ei gadw ar dy gyfer; ond cofia di beidio son nac yngan un gair am y peth wrth neb.” Aeth Robert adref y tro hwnw yn falch iawn o’r newydd, a chymerth ddigon o ofal i beidio crybwyllun gair am y peth yn nghorph yr wythnos hono, fei pe buasai ar ei Iŵ. Ond aeth i’r dref ddydd Sadwrn, ac wrth fyned yno, yr oedd mor benderfynol ag y bu dyn erioed, na soniai wrth yr un creadur. Fodd bynag, wrth dd’od adref, tarawodd ar ddau neu dri o’i hen gyfeillion. ac aethant i dŷ tafarn oedd ar eu ffoidd adref, ac yno yfodd Robert fwy na ddylasai. Ac fel y dywed y dditiareb, “Allwedd calon cwrw da,” felly fu hi hefog yntau, druan; dechi-euoddfrollo’r ar/o? i daear oedd i dd’od iddo wrth ei gymdeithion, ac y byddai erbyn nos Sadwrn wed’yn yn globyn o r boneddig. Aeth adref; ac yn hefyd dyma chwedl yr arian daear allan. Yr wythnos wed’yn aeth i’r Parc bach, ond er ei ddirfawr ddychryn, yn Ue gweled yr hen ŵr caredig a welodd y tro cynt, dyma globyn o Ellyn yno, a’i ben o gjTuaint a Llestr dau gyfyuiad, a chloben o geg fel camog troi, “a dannedd ’machgen I, fel danedd cribin doi; a íHamiau gleision yn dwad allan, ’machgen I, o’i geg a’i lygaid o.” Dywedai hefyd fod ganddo dwr o aur yn ei ymyl, ac yn codi rhai hyny yn faweidiau! Nid oedd dim i’w wneud pan welodd hwnw ond ei choesio hi nerth yr esgyrn, ac adi-ef yr aeth fel ci wedi tori ei gynffon y noson hono heb ddim dimeu goch y delyn o’r arian âaear. Yr oedd arno flys o hyd, er hyny, am gael ei ran o’rtrysor, ac yn edifarhau yn enbyd am iddo fod mor ffol a dweyd ei gyfrinach. Dywedai yn aml, mai “dweyd oedd y drwg onite y buasai ef yn ŵr bonheddig.” Y noson dan sylw, sef y pryd yr aeth yno hefo’i frawd o’r Festri, yr oedd am wneud ail gynyg; cyrhaeddodd yno fel y crybwyllwyd, rywbryd cyn y bore; a phan oedd wedi cyrhaedd y Ue y darfu iddo weled yr hen ŵr y tro cyntaf a’r Ellyn anferth yr eillro, gwelai rywbeth gwyn yno. “Dyma fo, Wil,” gwaeddai, “Dyma ’fo.” Daeth Wil yno rhag ei flaen, a dywedodd, “Dyma fo a deud y gŵir. Robin.” Aeth y ddau yn nes at y gornel, a thyma rywbeth yn codi, ac yn d’od ar wib atynt, a thaflodd y ddau nes oeddynt yn pellenu ar lawr; a pha beth oedd ond llwdn dafad, a orweddai yn y cysgod; a thyna hynt yr hen fechgyn hyn wrth chwilio am arian daear y Parc bach.
Cadwaladr Lewis y Crasŵr
Ond nid fel yna yr oedd hi hefo Cadwaladr Lewis yn Meirion. Yr oedd sôn fod arian daear mewn hen furddyn heb fod yn mhell o’r odyn lle’r oedd Cadwaladr yn arfer crasu, a mynych y byddai blys arno fyned i’r Ue i dirio. Ond yr oedd arno arswyd myned i’r fan ei hun, rhag ofn i rywbeth dd’od ato; ond er hyny, yr oedd y blys yn myned yn gryfach bob dydd, a pho amlaf y soniai am y llonaid crochan o aur oedd yno wedi cael ei guddio, cryfaf yn y byd y teimlai ryw ysfa myned i dreio. Gwnaeth gaib gref, a rhoes droed newydd yn y fatog oedd ganddo yn yr odyn, ar fedr llwyr myned yno ryw noson y gauaf hwnw. O’r diwedd gwnaeth ei feddwl i fynu, ac yno’r aeth ryw noson tua haner nos. Dechreuodd geibio, ac wi’thi y bu am yn hir heb weled na chlywed dim. Yr oedd yn gweithio ei oreu glas, a’r chwys yn rhedeg yn ffrydiau dros ei wyneb.
O’r diwedd clywai ryw sŵn gwag odditanodd, a tharawodd ei gaib yn erbyn careg. Wrth dreio’r gaib draw ac yma, yr oedd y gareg yn atsias yn mhob lle. Tybiodd wrth y swn gwag fod yno wagle o danodd, a chwiliodd am ei hymyl; cafodd hyd i hwnw, a rhoes flaen ei gaib o dan yr ymyl a rhoes flaen ei droed ar y pen arall, a phwysodd ei oreu, ond nid oedd yn yswigiad. Daeth i’w ben i roi brisgyn dan ei gaib, ac felly dreio ei hysgwyd, ond nid oedd ddim yn chwimio. Rhoes ail gynyg, dyma hi’n gwyntio, a chyda hyny dyma wynt ofnadwy yn d’od allan, a’r ysgrechfeydd cethinaf i’w clywed i lawr yn rhywle yn nyfnder daear. Ar hyn hefyd, daeth rhyw ysgerbwdannaearol, i fynu o’r ddaear, heb ddim cnawd yn agos ato; dim ond yr esgyrn moelion. Y penlglog heb ond ceudyllau Ue bu’r genau, y llygaid, a’r clustiau! Asenau yn rhes bob ochr, ac esgyrn y breichiau a’r dwylaw heb ddim am danynt! Safodd y drychiolaeth yn syth ar y gareg, ac agorodd ei safn amryw weithiau; a chlywodd Cadwaladr Lewis ryw lais dwfn yn dywedyd “Ni ddaeth yr amser eto.” Ar ol d’oddipyn ato ei hun meddjdiodd am ddianc i ffwrdd, ond ni fedrai symud pe cawsai’r byd am. ei boen. Yr oedd rhy wbeth wedi rhwymo ei draed fel na allasai ysgogi. Yno y bu nes y canodd ceiliog y Felin; ond pan seiniodd mab yr iar y gloch ddydd, diflanodd yr ysgerbwd, a chafodd yntau ei draed yn rhydd, a gellir coelio iddo fyned adref yn nghynt na chynta’ gallai, a thyna fu diwedd cynyg Cadwaladr Lewis wrth chwilio am arian daear.
Y Plas a gythryblid gan rywbeth
Eywbryd yn ystod mis Awst, tua naw mlynedd yn ol, yr oeddwn ar “daith yn nhir y de,” ac ar fy hynt daethum i le o’r enw Pontnewydd, ar y ffordd rhwng Lanfair-yn Muallt a Rhaiadr Gwy. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y fifordd fawr, yr oedd rhyw deimladau trwmbluog yn Llenwi fy mynwes. Yr ydoedd yn nosi’n drwm, a phob peth o’m deutu’u swnio, ac yn edrych yn bruddglwyfus. O’r diwedd, cyrhaeddais y lle a enwyd, ac aethum i’r Gwesty er mwyn cael tamaid o fwyd a llymaid o ddiod; ac os oedd modd, lety noson. Erbyn myned i mewn, yr oedd yno chwech neu saith o ddynion pur barchus yr olwg arnynt yn “difyru uwch ben diferyn” o rywbeth, pe buasai’n waeth o ran hyny pa beth.
Yr oedd yno gegin lanwaith helaeth, a phob peth ynddî yn edrych yn lân a threfnus. Eisteddais i orphwyso yn eu cwmni, a ches lasiad o Sider o dan gamp gan wraig y tŷ yr hon a edrychai yn llawen, fwyn, a charedig. Pan aethum I yno, fel y deallais wed’yn, yr oedd un o’r rhai oedd yn eistedd yn adrodd chwedl oedd wedi ei chlywed yr wythnos cynt, am ddigwyddiad hynod oedd wedi cymeryd lle mewn cŵr o sir Faesyfed, heb fod yn rhyw bell iawn o Fynachlog y Cwmhir. A thyma’r hyn a loffais I o honi. “Ŷr oedd yno Avr a gwraig newydd briodi, ac mewn awydd mawr am gael lle i fyw. Gran fod gan y wraig gynnysgaeth dda, a chan y gŵr lawer o dyddynod yn ei eiddo ei hun, heblaw swm mawr o arian a gafodd ar ol hen ewyrth iddo, yn ol Llythyr cymun ei dad; — felly yr oeddynt yn gyfoethog, ac yn naturiol yn chwilio am le amgen na chyffredin. Bu’r ddau, a’u teuluoedd, yn edrych allan am le cymwys am yn hir, ac yn ffaelu cael eu plesio am dro: ond o’r diwedd cawsant ar ddeall fod Syr Hwn-a-Hwn, (gwellpeidiorhoddi’renw’nllawn.gwnaiff y ffug-enw hwn y tro), am osod hen balas ag oedd wedi bod yn wag er”s amryw flynyddoedd; — yn wag er’s rhai ugeiniau, oddigerth fod yno un hen wreigan yn cysgu ynddo, ac yn cadw tân o’r naill ystafell i’r llall. Ni chysgai yr un o’r gweision yn y tŷ pe blingid hwy: os yr arosent yno am ddwy noson pan ddeuent yno gyntaf, byddent yn sicr o fynu cael myned allan i’r ystablau neu rywle, neu ymadawent oddiyno rhag blaen. Er nad oedd y perchenog yn ei ollwng ef o’i law un amser; oblegyd yr oedd hyny yn ewyllys yr hen lanc a’i rhoddes ef i’r teulu, eef nad oedd y lle fyth i gael ei osod i eraill, ond i gael ei gadwynrhan o leoedd byw Syr Hwn-a-Hwn o oes i oes yn ddiball. Yr oedd o leiaf dair oes wedi myned drosodd er pan oedd wedi d’od yn eiddo’r teulu anrhydeddus, ac yr oedd pob un o’r teulu, rywbryd yn eu hoes, wedi gwneud cais am fyw ynddo, ond ni bu’r un o honynt erioed ynddo fwy na dwy noson olynol, ac nid oedd neb yn medru dyfalu paham ar y cyntaf; ond daeth y peth yn chwedl pen gwlad o dipyn i beth, ac nid oedd dim cyfrinach yn mysg y bobl ag oedd yn byw o gwmpas, paham nad oedd yno neb yn aros yno ddim ond am gyn lleiedag y medrent. Bu’r lle yn wag am hir feithion flynyddoedd, er hyny, cedwid ef yn drefnus; oblegyd yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ol y rhoddiad. Aeth sî ar led fod y palas ar osod, ac nid oedd na byw na bywyd, i’r gŵr ieuanc oedd newydd briodi, gan ei wraig, nad elaiheb atregi chwilio am dano. Myned a wnaeth ryw ddiwrnod hefog ewyrth iddo at y neb a edrychai ar ol y lle, er mwyn cael gwybod a oedd rhyw sail i’r son a wneid, a cha’dd wybod gan hwnw, na osodid mo’r lle, ond ei fod yn meddwl “y cai fyned yno i fyw, heb na threth na degwm, am yr hyd y mynai; yr oedd yr un ag oedd wedi bod yno y rhan oreu o gan’ mlynedd newydd farw, ac nid oedd neb yn tywyllu mo’r fan ond gefn dydd goleu er pan fu hi farw.” Dywedodd y deuai, os ewyllysient, y diwrnod hwnw at yr hwn a’i pioedd, ac y caent felly sicrwydd yn nghylch y peth. Myned a wnaethant, a chawsant Syr Hwn-a-Hwn yn ei lyfr-gell: caed derbyniad croesawus, a phan glywodd eu neges, dywedodd ar unwaith na osodai mo’r palas, ond bod:; yflawn groesaw i’r gŵr ieuanc fyned yno i fyw am yr hyd 1 ddymunai, ac y cai le i gadw ychydig o wartheg a cheffylau am ardreth resymol, yn y dolydd gerllaw iddo. Gwnaed y cytundeb yn dciinac, ac wed’yn cychwyuwyd tua thref yn llawen o herwydd pa mor ffodus a fuant y diwrnod hwnw. Wedi cyrhaedd adref nid oedd yno ddim ond llawenydd, ac nid neb a lawenychai yn fwy na’r wraig ieuanc, pan wybu fod y palas i’w gael. Yr oedd hi ar unwaith yn ei meddwl yn dechreu trefnu pethau ynddo. Yr ystafelloedd a’r dodrefn. Y morwynion a phob peth; a chan eu bod yn cael y lle am ddim yr oedd am dori tipya o gyt er mwyn dangos i’r wlad yn enw dyn, eu bod hwythau yn rhywun. Garw ydyw’r byd am fod yn rhyioun!
Paratowyd i fyned ^mo’n union deg, a lle hynod o dlws ydoedd. Safai’r tŷ ar gwm gwastad lled ëang, drwy ganol hwn yr ymddolenai afon loyw. Ar gyfencyd yr oedd bryniau coediog yn graddol a diog ymgodi: tra o’r ochr arall ymsythai mynydd serth wedi cael ei wisgo’n dewglyd hefo grug a mwsogL Yr oedd y gwastadedd wedi cael ei ranu’n ddolydd mawrion, a’r cloddiau’n Llawn o goed iraidd — gan mwyaf o goedafalau perion. Yn gylch o gwmpas y palas yr oedd derw canghenog, ynn taKrigog, masarn deiliog, a fiinwydd talog: mewn gair, yr oedd yn un o’r Lleoedd prydferthaf a ellid weled yn y rhan hono o’r wlad. Yr oedd yno hefyd bysgodlyn o flaen y drws, ac elyrch cyn wyned ag eu-a yn araf nofio, hefo’u gyddfau bwâog o’u hesgyll ymchwyddog, ar hyd ei wyneb mândonog. Ofer crybwyll am y gwelyau o flodau symudliw, a’r gerddi ff’rwythlon, yn nghyda’r berllan drefnus oedd gerllaw iddo; gan hyny, awn i mewn i edrych pa fath olwg sydd yno, Nid oedd modd fod dodrefn gwell, eu hunig fai a’u prif brydferthwch ydoedd eu bod yn bur hen. Y mae’n wir flld ryw fath o leithder awyrol yn yr ystafelloedd: ond nid oedd hyn ond effaith peidio ag agor y ff’enestri, a diffyg goleu tanau: deuai pethau fel hyn i’w trefn yn bur fuan wedi cael pobl iawn i fyw ynddo. Daeth y pâr ieuanc yno hefo’u gweision a’u morwynion, ac yr oedd pob peth yn addaw hawddfyd iddynt yn eu Ue newydd. Caed pob peth i drefn yn fuan, a choeliai pawb fod Llawenydd a dedwyddyd yn aros ac am fod yn eu plith. Ond, “Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog,” ac nid wrth y diwrnod a’r noson gyntaf yr oeddbarnu pa fodd y digwyddai yn y plas. Tua haner nos, pan oedd pawb yn eu gwelyau y noson gyntaf, clywid y di-ysau yn dechreu cleijian, a swn gwyntmawrynsuodrwy’rcoed Llwyfen oedd yn rhes yr ochr draw i’r pysgodlyn, a rhyw dwrw cerdded hefyd o’r naill fan i’r Llall. Deffroes pawb drwy’r tŷ, ond ni fedrodd neb gael ar ei feddwl godi. Ysgydwai’r muriau fel llong mewn tymhestl, neu’r coed gan gorwyntoedd, ac ynadistewai’n ddisymwth. Tua dau o’r gloch caed heddwch. Sisialai’r gweiuidogion y bore dranoeth, ac yr oedd dau neu dri o honynt wedi cael digon ar eu hoedl yn y fath le, a phenderfynasant fyned at eu meistr a’u meistres mor fuan ag y deuent i lawr i ddweyd na fedrent aros yno am un noson wed’yn. Yn wir yr oedd y cwbl yn hollol o’r un feddwl a theimladau, ond fod rhai o honynt yn fwy tafodog, ac yn haws ganddynt ddweyd yr hyn oedd ar eu calon na’r Lleill. Ar ol i’w meistr godi aed ato, a dywedwyd wrtho nad oedd dim posibl byw yno, — eu bod ganwaith wedi clywed son am y twrw a’r trwst a gedwid gan Bywbeth yn y plas, ond na choeliasant neb tan y noson hono. Na chymerasant yr holl fyd am geisio byw yno. Crefodd yntau arnynt aros am un noson wed’yn. Fod y wraig yn sâl iawn wedi dychryn, ond meddai, hwyrach y daw pethau yn well. Ar ol ystjTled am dipyn a siarad a’u gilydd, acymresymu’rynaillhefo’r llall, gaddawasant aros am y noson nesaf, ac yna’r aed oll at eu gorchwylion, — y naill at y peth yma a’r Llall at y peth arall. Yr oedd y diwrnod hwnw yn myned heibio yn rhy gyflym o’r haner, a chas beth pob un o honynt oedd meddwl am y nos. Yn ystod y dydd ni welodd neb mo’u meistres, a choelid ei bod hi yn sâl iawn, ond pan aeth un o’r merched i’w hystafell nid oedd yno un hanes o honi. Methid a deall i ba le yr aethai!
Daeth eu meistr atynt i’r gegin ac ni soniai air am dani hi. Cafodd pawb ddechreunos digon dyddan, ac yr oedd pawb yn ceisio dangos ei fod ef yn ddi ofn pwy bynag oedd fel arall. Ond fel y gellid gweled galar y weddw yn ei dagrau crynion, er y bydd yn treio gwenu ar ryw ddigwyddiad trwstan diniwaid, felly hefyd yma, hawdd oedd gweled nad ellid galw eu llawenydd ond llygiedyu o haul rhwng dwy gawod o wlaw. Arosasant ar eu traed hyd nes yr oedd “un-ar-ddeg yn agos:” ac yna hwyliwyd am eu gwelyau. Cyn ymadael dywedodd y gŵr ieuanc fod ei wraig wedi dianc adref er y bore, ac y buasai yn dda ganddo gael cwmni un o’r llanciau am y noson hono. Ond ni chai un fyned heb y llall, a’r ddau a aethant er mwyn bod hefo’u gilydd. Prin y cawsant fyned i’w hystafell nad oedd yno rywun yn curo wrth y drws; aeth y tri yno gan feddwl nad oedd yno ddim y pryd hwnw ond y merched yn d’od i’w dychryn; agorwyd y drws ond nid oedd yno neb. Canwyd ef wed’yn yn ddyogel. Tnfuan dyma dri chnoc trwm ar y ddôr drachefn. Ond ni wnaethant ond neidio i’w gwely oddieithr y meistr ieuanc, yr hwn ei hun yn awr a aeth at y drws ac agorodd ef yn llydau, ac fe aeth allan i ben y grisiau a’r ganwyll yn ei law. Pan yno, clywai, dybygai, ryinhefh yn llithro ar hyd y canllaw yn drwm, gan swnio yn bur debyg fol ag y bydd eira’n tyrfu wrth lithro’n araf hyd y tô panfo hiyndadmer. Ar hyn clywai -waedd ddycliryiillyd yn ei ystafell ei hun, a pha beth oedd yno, meddai’r llanciau ar ol hyn, ond dynes heb un pen ganddi yn sefyll wrth y ffenestr. Yr oedd hwnw, sef y pen, yn cael ei droi o gwmpas ei ben ei hun gan ddyn mawr a safai wrth draed y gwely: yr oedd yn gafael yn mlaen y gwallt! Aeth y meistr atynt a’r ganwyll yn ei law; ond pan yn d’od oddiwrth ben y grisiau, clywai rywun yn cerdded o’r tu ol iddo. Troes i edrych, ond ni welai ddim. Pan gyrhaeddodd yr ystafell o’rhon y daethai allan, yr oedd hono’n llawn o ryw darth tew llinynog, ac o’r braidd y cyneuai’r ganwyll ynddo. Yr oedd y llanciau, druain, yn ceisio ymguddio o dan dillad y gwely, ac yn wylo’n dorcalonus. Safodd yntau yn y tawch yn ddiysgog, a dechreuodd groesi ei hun a dywedyd ei Gredo a’i Bader. Pan ddaeth at enw’r Iesit yn y Credo, cliriodd pob peth ar darawiad amrant, a goleuodd y ganwyll fei o’r blaen. Meddyliodd yn awr fod pob peth drosodd, ond nid cynt nag y diffoddodd y ganwyll nad oedd y tŷ drwyddo draw yn ferw cynddyrus drachefn o ben i ben. Tsgydwid y gwelyau: ysgytid y llofftydd, canai ac agorau y drysau, a chlywid ambell dro sŵn cadwyuau yn singl-sanglo yn eu gilydd. Felly ar ol hir oddef, daeth yn blygain, ac ymadawodd pob peth a aflouyddai, a chaed y tŷyn glir a thawel. Pan wawriodd bore dranoeth, cododd y llanciau, ac ni welwyd yr un o honynt yno am fynyd yn hwy nag y medrasant agor y drws a myned allan. Y merched, hwythau, ar ol cael noson ffin aflonydd, a ddechreuasant hel eu dillad yn nghyd cyn gynted ag y daethant dros yr erchwyn, ac nid oedd yno neb yn yn y plas ond y meistr yn unig yn mhen ychyciig ar ol iddi ddyddio. Cododd yntau, ac ar ol arog tipyn yno i edrych o’i gwmpas ac i ryfeddu pa beth a allai fod yr achos o’r cynhwrf dychrynllyd, cychwynodd tuag adref ar ol doi’r drysau. Pan ar y ffordd, cyfarfyddodd â Meddyg ieuanc, yr hwn a adwaeuai er pan oeddynt eu deuoedd yn blant. Gofynodd hwnw iddo, gan wenu, pa fodd yr oedd y pethau yn troi allan y plas? a dy wedodd yntau wrtho’r holl helynt. Tmadawsant y pry’d hwnw heb ddim byd yn neillduol rhyngddynt heblaw fod y Meddyg yn gwrando’n astud ar bob peth a ddywedodd wrtho.
Aeth adref a chafas ei wraig yn drymglaf, a’i theulu mewn syndod dirfawr wrth glywed eu hanes o’r pethau a welsent ac a glywsent yn y plas. Cyn y nos daeth y Meddyg yno i chwilio am y gŵr ieuanc, ac i ddymuno amo dd’od gydag ef am un noson i’r plas, er mwyn cael gweled, os oedd modd, pa beth oedd gwir achos yr holl gynhwrf a’rrhith-ymddangosiadau hyn. Coeliai’r Meddyg nad oedd y cwbl ond effaith rhyw nwy, ac fod yn bosibl rhoi terfyn ar y cyfan. Ar ol cryn ystyried, addawodd fyned, ac felly, hwyliasant eu hunain yn gysui-us gogyfer a’r hyn oedd o’u blaen. Yr oedd gan y Meddyg gostowci milain a chryf gartref, a phenderfynodd fyned a hwnw yn nghyda llaw-ddryll a chleddyf yno, rhag na byddai.dim diffyg arfau, os y byddai galwad am danynt. Aethant i’r plas yn lled gynar, a dechreuasant hwylio gwneud tân mewn un ystafell, — yr ystafellag y bu’r gŵr ieuanc ynddi y ddwy noson cynt; a chan fod yno ddigon o gynud sych wi’th law, nid rhy w hir y buont nad oedd yno ddigon o hono. Yr oedd y ddau yn hapus ddigon yn sôn am y peth yma neu’r peth draw, a’r ci mawr yn gorwedd yn dawel o flaen y tân. Rhwng un-ar-ddeg a haner nos, dyma’r ci yn codi ei glustiau ac yn eu moelio yn enbyd: cododd ar ei golyn; clustfeiniai’n astud. O’r diwedd cododd yn sydyn ar ei draed, ac edrychai at y drws, ac yna at ei feistr. Ni ddywedodd neb yr un gair, ond dyma fo’n dechreu crynu ac yn ymwasgu rhwng coesau’r Meddyg. Nid oeddynt hwy yn gweled nac yn clywed dim. Ar hyn, dyma dwrw cerdded oddiwrth ben y grisiau at ddrws eu hystafell hwy, ac yna dyna dri chnoc ar y ddôr. “Dewch imewn,” ebai’r Meddyg, a gafaelodd yn ei law-ddryll, “Dewch i mewn. Yr oedd arnom eisiau cael cwmni.” Ac at y drws ag ef; ceisiodd ei agor, ond ni fedrai mo’i chwimiad. Ar hyn, gwelai, pan droes at y tân, ddyn yn sefyll a’i gefn at y simneu, ac fel yn rhoi pwys ei gefn ar y fantell, a’i ddwylaw o’r tu ol o dan gynffon ei got. Gofynodd i’w gyfaill nesu oddiar y ffordd y saethai ef beth bynag oedd yno: ond dyma rywbeth yn gafael yn ei ddwy fraich o’r tu’n ol ac yn ei gyffio ar unwaith. Ceisiodd waeddi, ond ni ddeuai ei lais allan. Yr oedd ei gyfaill yn eistedd ar erchwyn y gwely, ac yn gwylied crwydriadau ry w oleu bach gwyrdd a dreiglai hyd y Uawr. O’r diwedd dyma fe’n cynyddu’n bêl goch, ac yn suddo i’r coed. O’r fan yr aeth y tân o’r golwg, dyma law yn d’od allan! Cipiodd yntau y cleddyf oedd ar y bwrdd a cheisiodd i thori. Und er iddo roddi’r cleddyf drwyddi laweroedd o weithiau, dyna lle’r oedd hi o hyd. Edrychodd arni yn gi-aff, a phan oedd yn gwneud hyny, teimlai y llofft o dano fel yn codi bob mymryn. Meddyliodd y pryd hyny am o/ni,” “ond na,” meddai wrtho’i hun, “er fod arnaf arswyd, cadwaf fy meddiul yn lân oddiwrth ofn. Nis gall y pethau rhyfedd hyn wneud dim niwaid i mi, os y medraf gadw fy MEDDWL yn glir.” Ond yn awr dechreuodd pethau edrych yn hyllach o’r haner nag o’r blaen. Daeth cloben o neidr anferth i mewn o dan y drws, ac ymlusgai i’r gwely, a thynna ryw greadur arall anferthach fyth yn ei dilyn, ac un arall ar ol hyny, a danedd ganddo fel danedd ôg, a’r rhai hyny yn dân byw. Ac o gŵr arall i’r ystafell, heb fod yn mhell o’r fan y gwelwyd y Uaw, dyma ryw wreichion mân yn dechreu codi allan, ac yn hedeg o amgylch-o-gylch yr holl le. Rhyw fath o chwysigenod o bob lliw a llun, — rhai gwyrddion, — rhai cochion,— rhai melynion, — rhai glas-gwan, ac eraill rhudd-goch fel tân marwor. Hedent yma ac acw, — i lawr ac i fynu, ac o’r diwedd dechreuasant ymtîurfio yn fath o ddrychfilod anolygus, cyffelyb i’r bwystfilod cethin a welir gyda chwydd-wydr mewn diferyn o ddwfr, ac yna dinystrient a llyncent y naill y Llall. Ond yr oedd yr ystafell yn llawn o honynt: yr oeddynt hyd fy nillad, yn cripio hyd fy ngwyneb: yn llenwi fy ffroenau, ac yn ymlusgo hyd fy nghlustiau I Yr oedd y tân hefyd yn ymddangos fel pe wedi diffodd, a’r ganwyll yn ijallu goleuo. O’r diyedd, dyma’r sarph dorchog oedd wedi dolenu o gwmpas post y gwely, yn llyncu pob trychfil o honynt, ac yn siag-wigio’r ddau beth hyll a ddaeth i mewn ar ei hol, ac yna’n ymchwyddo, nes oedd yn haner llonaid yr ystafell, ac yn trawsffurfio ei hun i fenyw brydferth tua phump ar hugain oed! Yr oedd y ganwyll erbyn hyn wedi d’od i oleuo fel cynt, a’r tân lawn mor siriol ag oedd pan ddaeth y pethau i’n cythryblu. Ond nid oedd yno ddim haneso’r Meddyg. Safai’r ffurf jTio’n ddiysgog. “A minnau,” ebe’r gŵr ieuanc wed’yn yn mhen blynyddoedd, “a geiriau ddigon ar fy nhafod, ond yn fy myw nis medrwn eu hysgwyd aDan.” Diflanodd hon yn araf drwy y ffenestr, ac yna nid oedd ond y gŵr ieuanc yn yr ystafell, a phob peth o’i mewn oedd fel cynt, heb eu rhwygo na’u cyfnewid. Eisteddodd wrth y tân am enyd hir i edrych a ddeuai ei gyfaill ddim o rywle yn ol. Wedi blino’ndisgwyl a phob peth yn Llonydd, aeth at ben y grisiau: ond ni welai ddim arlliw o hono. Aeth yn ei ol, ond pan wrth ddrws ei ystafelldyma ddyn yn sefyll o’i flaen, — dyn Diewn dillad hollol wahanol i ddim a wisgir gan neb sefyllfa yn y dyddiau hyn. Rhoes ei law ar ei ysgwydd, yna diflanodd! Yr oedd y tân erbyn hyn yn dechreu myned yn isel, a’r ganwyll wedi byrhau cryn lawer; aeth yntau i mewn i’r ystafell, ond ni chauodd y drws. Eisteddodd yn V gadair ger hyny o dân oedd yno. Ond cyn cael ha,mâden i /eddwl dim, dyma gorach o hen ŵr wrth ei ffon i mewn, a rhoes dro ar y llawr a dywedodd, — “Mi fum I ymâ’yi byw.” Yna diflanodd gan daro ei phon deirgwaith yn y ddor wrth fyned allan. Daeth un arall ar ei ol, — dyn canol oed, a golwg bruddglwyfus arno; — ei wallt yn llywethau hirion, a’i wyneb rheolaidd a phrydferth fel yn arwyddo dyn o feddwl a threiddgarwch digyffelyb. “Ce/ais inauW lle gan fy nhad, a rhoddais ef i Dduw.” Syn-safodd hwn yno ar ol siarad, ac wrth ymadael ymgrjTnodd yn foneddigaidd. Dywedodd y gwr ieuanc ynawr wrtho’i hun, “Mi ddywedaf finau rywbeth trwy gymorth, wrth bwy bynag a ddaw yma nesaf.” A chyda’r gair, dyma ryw dduwch mawr yn d’od drwy’r drws. Yn wir yr oedd yn ei lenwi, ac yr oedd rhywbeth yn ei ffurf yn debyg i ddyn: yr oedd ganddo lygaid fel dwy bellen werdd, a rhai hyny yn edrych drwy rywun. Ac anadlai arogl brwmstanaidd. Siglai’r tŷ fel rhedynen mewn gwynt yn niwedd y flwyddyn, a thybiai’r dyn druan y melid ef yn eisin sil heb ball nac aros. Ond cyn iddo Iwyr llewygu gan ofn, dyma lais dwfn cras yn dywedyd wrtho, “Buw lle hwn yn eiddo i mi.” Yna bu distawrwydd trwyadl am ronyn. “Y mae trysor allan: ond pwy a’i caiff.” Yna corwyntoedd allan drwy’r drysau, nes oedd pob man yn crjmu ac yn crensian. Yr oedd y gŵr ieuanc bron iawn a darfod am dano: ond yn y cyfamser dyma ddyn ieuanc glandeg a mwyn yn d’od i fynu drwy’r llawr, bron o dan ei draed. “Tyred allun ur frys,” ebai, a gafaelodd yn y gŵr ieuanc. Aeth ag ef allan, a thrwy’r berllan, ac i lawr i ddyryele dreiniog a mieriog. Tarodd ei law wrth fon coeden yno; safodd am fynyd heb chwifliad. “Dymaw fle: doddia yma: cei drysor.'^ Yna gafaelodd ynddo drachefn a chymerth ef i’r ochr bellaf i’r pysgodlyn; ac wedi cyrhaedd cwr y coed, safodd drachefn a dywedodd, “Agor a thiria, yna lurth fôn y goeden cei olwg ar beth gwerth eigael, ac yna ceir Uonyddwch yn y plas.” Yna fel olwyn o dân aeth ymaith gan adael y gŵr ieuanc yn y coed. Ni wyddai yn awr pa un ai yn nghwsg ai yn effro yr oedd, a dechreuai chwys oer ddyfod trosto, a chryndod iasaog ei feddianu. Nid oedd na siw na miw i’w glywed yn un man. Pob man a pheth mor ddistaw a’r bedd llonydd ei hun. Cododd yn mhen tipyn a cheisiodd gerdded, ond gollyngai ei aelodau ef. Ni ddalient mo hono ddim. Dwfn ocheneidiai yn ei galon, a gwaeai weled y nos hon erioed. Aeth i feddwl gweddio, ond yr oedd yn rhy lesy a di-yni at y gwaith. Methai ysgwyd ei dafod, ac ni symudai ei yspryd. Pan yn y trybini hwn, clywodd geiliogod y tai oddeutu yn cyhoeddi plygain; siriolodd hyn beth arno, ac aeth yn araf deg gan afael yn y coed at y plas. Yr oedd yn disgwyl o hyd fod y Meddyg yn rhywle o’r cwmpas. Wedl cyrhaedd yno; (nid oedd dim arswyd mwy, oblegyd yr oedd wedi pasio caniad y ceiliog), aeth i mewn o lech i Iwyn, ondnid oedd yno neb ar ei gyfyl. Rhoes goed ar y marawydos, ac yna gorweddodd ar y gwely: pan oleuodd y tân gwelai’r ci yn un dap wedi ymwthio i ryw gornel fach, ond ni feddyliodd fod dim ond effaith dychryn arno. Erbyn iddi wawrio ac iddo yntau agor y ffenestr, gwelai fod y ci wedi marw yn gelain gegoer, a bodolion mathru a gwasgu arno. Synodd pa beth a allai fod wedi dyfod o’r Meddyg, a dechreuodd fyfyrio pa’r un oedd goreu iddo, ai myned i’r Ue bu gyda’r dijn (os dyn oedd efe hefyd) yn ystod y nos, ai ynte myned adref a pheidio byth wed’yn a d’od ar gyfyl y Ue, na son gair am a welodd ac a glyodd. Bu rhwnir daufeddwl am dipyn; ond o’r diwedd dechreuodd ochri o blaid gwneud cais, poed a fo, i weled a oedd yno rywbeth ai peidio. Yn chwil fore aeth a rhaw bâl ar ei gefn at y lle, yn y sinach, yr ochr bellaf i’r berllan, a daeth o hyd i’r fan a nodwyd iddo heb rhyw lawer o drafferth. Dechreuodd ballu a chloddio, ac ofn erbyn hyn wedi cymeryd lle arswyd; pan yn cloddio, daeth ar draws careg wastad, ac o dan hono dyma grochan pridd Ued fawr, ac yn hwnw yn uchaf peth yr oedd rhol o femrwn. Cododd y memrwn a gwelai bethau eraill digon cymeradwy yr olwg arnynt o dano, ac yn eu mysg ddysy-l wen a dŵr ynddi. Canodd y Ue yn ol, ac ni chymerth ond y memrwn yn unig gydag ef ymaith. Troes ei wyneb tuag adref yn di-a diffygiol; er hyny, erbyn hyn, yr oedd yn fwy ystig nag y buasid yn meddwl; oblegyd yr oedd yr “hyn a gladdodd ar ol ei weled, yn ymyl y berllan, wedi ei fywiogi yn an-wedd. Pan wedi myned gryn encyd oddiwrth y plas, cwrddodd brawd i’w wraig ef mewn cerbyd, ac felly cyrhaeddodd adref; ond heb fwyta un tamaid nag yfed un gyfiiniad aeth i’w wely, a chysgodd; ac yn y cwsg poeth berwedig hwnw y bu am fwy na naw niwrnod yn ddi-dôr! Pan yn y dwymyn boeth, yr oedd yn siarad peth enbyd í,m yr hyn a welodd; a chan ei fod yn anhawdd ar brydiau ei ddal yn ei wely, galwyd am yr hwsmon yno i’w wylled, — yn ei glefyd yr oedd wedi colli arno’i hun, ac yn siarad hefo’r pethau a weles yn ddi-ball. Ac nid oedd dim yn fwy aml ganddo na’r crochan pridd, a’r lle arall yr och.r draw i’r llyn wrth fonyn y goeden, &c. Coelient oll mai wedi dyrysu’r oedd, ac nad oedd y cwbl a draethai ond creadigaethau ffansi, wedi cael ei gollwng yn rhydd oddiwrth ofal rheswm. Bu felly yn y cyflwr gwyllt hwn am yn agos i bythefnos, a phan ddechreuodd droi ar fendio, hir ac anniben fu heb dd’od ato’i hun fel cynt.
Yn awr, pa le’r oedd y meddyg? Bu ef ar goll am ddeuddydd neu dri. A’r pryd y cafwyd ef, yr oedd mewn sefyllfa mor lawn o bob ofnau fel y meddyliodd y rhai a ddaethant ar ei draws mai myned ag ef ar ei union i’r gwallgofdy oedd y peth goreu. Mewn coedwig, ryw ugain milltir oddiwrth ei gartref, yr oedd hen dderwen fawr gafniog. Yr oedd o’rtumewn ynholwy gwag. Ryw ddiwiTLod wrth fyned drwy’r coed, ac ar ddamwain yn pasio’r hen goeden, troes dau ddyn i’w hedrych, ac o’r tu mewn, fel pe buasai wedi marw, cafwyd y Meddyg; yr oedd ganddo law-ddryll llwythog gydag ef, a’i wyneb yn gripiadau dyfnion, a’i ddillad yn llyfreiai gwylltion am dano. Yr oeddynt yn meddwl pan welsent ef gyntaf ei fod wedi marw, ond ar ol nesu ato gwelsant mai cysgu yr oedd; deffi-oisant ef; ond nid oedd ganddo ddim croen ar ei chwedl, a choeliai y dynion hyn mai wedi yfed ar y mwyaf yr oedd, a bod y pethau ghision hyny wedi ymddangos iddo a’i ŷru’n wallgof! Cariasant ef at dŷ tafarn cyfagos, ac yno y cawsant hanes am y “Noson yn y Plas,” &c. Aed ag ef adref, a bu am fisoedd mewn sefyllfa beryglus. Gwellhaodd i raddau, ond nid byth fel cynt. Ni ddilynodd ei waith ar ol hyn, ac yr oedd ei olwg hurt yn dangos ei fod wedi cael ei gynhyrfu gymaint fel nad allai byth dd’od ato’i hun fel ag yr oedd cyn i’r peth mawr yma gymeryd lle. A thyna gafas y Meddyg; ond y gŵr ieuanc ar ol ychydig o wythnosau a wellhäodd rhag blaen, ac aeth at y plas cyn gynted ag y medrodd; ond er ei fawr syndod yr oedd rhywun wedi bod yno, ac wedi cael hyd i’r crochan jjridd, a’i gynwys, chwi a ellwch feddwl. Aeth i’r ochr arall i’r llyn, ac yno dau wraidd hen foncyffo bren mansarn, cafodd goffr derw, acyroedd yn rhaid cael gwif i’w dyuu’n rhydd. Llud tynwyd ef allan, ac aeth y gŵr ieuanc ag ef adref heb ei agor. Ond pan gafodd ei agor yr oedd yn llawn o drysorau gwerthfawr. Chware teg iddo! aeth dranoeth at Syr Hwn-a- Hwn a dywedodd wrtho pa beth oedd wedi digwydd, a dangosodd iddo’r memrwn. Ar ol ei edi-ych yn fanwl gofynodd y boneddwr iddo a welodd ef rywbefh yn y crochan heblaw y peth hwnw. “0! do,” ebai yntau, “yr oedd yno aur laweroedd, ac yr oedd yno hefyd ryw dd’ysgl fach a dwr gloyw ynddi, ac ar y dwr yr oedd cnepyn o bren tri-sgwâr yn nofio yn aflonydd. Mi gymerais l’hwnw allan ac mi deflais y ddysgl, oblegyd yr oedd yn drewi yn arswydus, ac mi dorodd, ac -wed’yn mi a gymerais y memrwm ac a gauais ar y crochan gan feddwl myned yno drachefn, ond gan i mi fod yn sâl iawn, nis gellais fyned yno mewn pryd, oblegyd pan aethum nid oedd yno ddim ond Ue bu’r crochan a’r oll oedd ynddo; ond mi fum yn fwy ffodus hefo choffr a gefais mewn Ue arall, ac yr wyf am i chwi gael gwybod ei gynwys.” “0! na,” meddai Syr Hwn-a-Hwn, “cymer a gefaista dyro’r diolch i Dduw am danynt,” a bu’n Llawen ganddo oherwydd hyn. Cymerth y memrwn, ac ebai’r boneddwr wrtho pan yn cychwyn adref, “Cymer ofal o hwn yna. Cei lonydd i fyw yn y plas mwy. Dos yno’n fuan a gwna yn fawr o’th ddigwyddiad, a deuaf yno cyn hir i ymweled â thi.” Wrth fyned ar hyd y ffordd adref nid oedd dim ond dau beth yn ei flino, sef colli yr hyn oedd yn y crochan, ac afiechyd parhaus ei gyfaill dewr y Meddyg. Am yr olaf nis gallai wneud dim ond cynyg rhan o’r cwbl a gafodd, ond ni fynai hwnw son am y peth. Ac am y blaenaf daeth i’w ben wneud un cynyg am gael y peth allan. Yr oedd yn gwybod erbyn hyn, fod yr hwsmon gydag ef pan oedd yn ei anhwyl, a phriciodd rhywbethef y gallasai ddweyd cymaint am y crochan pan yn ei glefyd nes peri i’r dyn fyned i’r fan a’r lle i chwilio am dano a’i gael. Aeth adref, achymerth y memrwn yn ei law, ac aeth at dŷ’r hwsmon, a thyma fe’n agor y rhôl femrwn, ac yn dweyd mai hwnw a barai’r helynt fwyaf o bob peth. Os y dy wedasai’r hwsmon pa faint a gafas,yrholiaiymemrwn yn y fan: ond os na wnai, fe gai’r hwsmon fyned drwy’r un prawf ag yr aeth ef ei hun drwyddo! Dychrynoddyr hwsmon pan welodd y memrwn a rhedodd dan y gwely, ac yno’r oedd y crochan yn haner llawn. Am iddo fod mor anonest digiodd y gŵr ifanc witho. Er hyny, rhoddodd iddo ddigon i fy w yn dawel am y gweddill o’i oes, ac nid oes dadl nadaeth y gŵr yn gyfoethog iawn, ac fe ddywedir fod ei deulu fel yntau yn gyfoethog o hilgerdd ar ei oL Aeth y gŵr ieuanc i’r plas i fyw, ac ni chlywodd na chynhwrf na chythrwfl yno fyth ar ol y “noson fawr,” a “chlywes fy nhaid ei hun yn doidid pw mor enbid,” ebe’r adro’ddydd, “oiddhi arno fey nosweth hyui.” A thyna ddiwedd y chwedl yna, heblaw crybwyll fod un o deulu cyfoethocaf yn deilliaw o’r gŵr a gafodd yr arian daear.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), a gasglwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrecsam: Hughes and Son, 1862). Sgan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Sut y Toeodd Llechi Cymru’r Byd – a Pham y Cerddodd Bethesda Allan am Dair Blynedd
Prif stori llechi Cymru: hen graig Eryri, y ponciau a’r rheilffyrdd a’i cludodd i’r môr, y llongau a aeth â hi i doeau’r byd, y fargen a’r caban a wnaeth y chwarelwyr yn grefftwyr ac yn ysgolheigion, eu hundeb, a’r tair blynedd pan safodd Bethesda dros yr hawl i siarad drosti ei hun.

Gwynfor, Plaid Cymru a’r sianel a enillwyd drwy ympryd
Plaid a sefydlwyd gan chwech o bobl mewn caffi ym Mhwllheli, cwm a foddwyd, isetholiad a newidiodd bopeth, ac un gŵr a oedd yn barod i lwgu dros sianel deledu Gymraeg.

Y Gymru Ddiwydiannol
Haearn, glo, llechi a chapel; gwrthryfeloedd, terfysgoedd a chenedl wedi’i hail-lunio mewn un ganrif.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Chwilio am Arian Daear’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/cymru-fu-arian-daear.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Chwarel Dinorwig uwchben Llanberis ar fachlud haul, o ddrôn ym mis Tachwedd 2022: mae ei ponciau a’i… — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
- Gwynfor Evans yn annerch rali ‘Cadwch Dryweryn’ Plaid Cymru yn y Bala yn 1956 — Geoff Charles · CC BY-SA 4.0
- Cwch camlas yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte Telford, ymhell uwchben dyffryn Dyfrdwy — Adrian Pingstone · Parth cyhoeddus
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth