

Hanes Cymru / Llyfrgell / Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Iolo Morganwg hyd Jac y Lantern
Iolo Morganwg, Nos Galangauaf yn y Cwm, Dafydd y Garreg Wen, Ymddiddan rhwng y Bardd a’r Llwynog a darnau eraill: o Cymru Fu, llyfr Isaac Foulkes o chwedlau a thraddodiadau Cymru (1862), yn ei Gymraeg ei hun.
Llun: Print o Iolo Morganwg (Edward Williams) yn eistedd gyda llawysgrif, gan Elijah Waring · Elijah Waring, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Iolo Morganwg
(Gan Cynddelw.)
(Gan Cynddel-w.) Tybiaf na bydd ychydig o nodiadau ar ddyn mor hynod a Iolo Morgaxwg yn anghydweddol ag Tsbrrd ac amcan “Cymell FU.” Un o’r dynion rhyfeddaf a fagodd Cymru erioed ydoedd. Dyn isel yn y byd— dyn yn diystyru cyfoeth, ac yn hollol amddifad, mae’n debyg, o ddoethineb a cbyfrwysdra y byd hwn. Mynai fod yn dlawd, gweitbiai â’i ddwylaw i gadw ei deulu, ac ymroddai i’w swydd, fel Bardd a Derwydd, i gasglu pob math o wybodâu dicbonadwy iddo, yn enwedig gwybodau henafol a Cbymruaidd; a bu farw mewn oedran teg, yn nghanol cyflawnder o ysgriflyfrau gwerthfawr, yn y flwyddyn 1826. Ni bu dyn mwy caredig, dyngarol, a dirodres yn rhodio daear erioed. Nid oedd un aberth yn ormod ganddo i’w gwneuthur er lles eraill; a’i awydd a’i byfrydwcb penaf oedd cyfranu addysg i’r ymgeisydd ieuanc ac atbrylitbgar. Ond o herwydd gwieiddiolder ei olygiadau ar braidd bob peth, annibyniaeth ei farn, hynodrwydd penderfynol ei ddull, ac o herwydd iddo ymddangos mewn oes hynod o ragfamllyd mewn pethau gwladol a cbrefyddol, treuliodd ei oes faith a Uafurus heb ennill y sylw a’r parch a ddylasai gan y cyffredin; yr oedd Uawer yn elynion diacbos iddo, ac ychydig yn ei fawrbau fel pe buasai brophwyd o’r nefoedd.
Dy wedir i Iolo yn more ei oes benderfynu chwillo perfeddwlad America i edrych am y Madogwys; canys credid y pryd hwnw eu bod yn bawdd eu cael, dim ond myned i hela’ am danynt. Yr oedd Iolo yn gerddwr dihafal, a gallai gerdded Uawer ar ychydig iawn o fwyd; ond barnai y byddai raid iddo ar ei hynt Fadogaidd oddef mwy o galedi na cbyff’redin, am hyny bu yn caledu ei hun at y gwaith, yn pori glaswellt, yn cysgu allan, &c., nes i ddiffyg anadl, a pboenau ereill, ei argyboeddi o’i gamsyniadau. Ystyrid Iolo yn dderwydd ymarferol, sef yn fab heddwch, yt hwn na ddynoetbid arf yn ei wyddfod; eto mae cof am dano yn cefnogi y Dr. Dafydd Samwel i ymornestu a Ned Mon yn Llundain; ond barna rhai mai fel dyddiwr y cymerodd Iolo y swydd, yn hytrach nag fel cefnogwr y fath gyflafan. Pa fodd bynag, ni bu yno dywallt gwaed, canys m ddaeth Ned Mon i’r maes. Dyna flfordd hynod y feirdd a llenorion i roddi terfyn ar eu hymrysonau Eis teddfodawl.
Yr oedd bywyd Iolo yn hynod o ddiaddurn a chyntefig, “O Ddawon afon yiai, Ac yn ei nerth canu wnai.”
Dwfr, a Uaeth, a thê oeddynt ei ddiodydd cyffredin; a phelled a hyn y g-wrthbrofir, ynddo ef, yr hen haeriad — “Ni fu ddoeth a yfo ddw’r.”
Yr oedd yr afonig Dawon yn gyrtnydoges hoff ganddo, pan y rhodiai ar ei glenydd, ac yr yfai o honi.
Tybiaf fod Iolo yn fwy o feddyhwr na neb yn ei oes. “Ni chytunai a Burnet, Whiston, Buffon, Whitehurst, na Hutton, yn eu dychymygion yn nghylch ansawdd ein daear, a’r achosion o’r annhrefn, neu yn hytrach y di-efn bresenol o amrywiol osodiadau a sefyllfaoedd y gwelyau a’r colofnau o greigiau a sylweddau ereill yn ei harwynebedd. Yr oedd ganddo gyfundraith o’i eiddo ei hun.” — ■ G. Mechain.
Mae yn anhawdd gwybod yn iawn pa beth oedd ei farn grefyddol. Nid oedd Ŵaring, ei fywgraffydd, yn gwybod chwaith. Yn ei Salmau y gwelir mwyaf o’i syniadau crefyddol. Mae yn amlwg ei fod yn ddyn bucheddol a chymwynasgar, ynfeddyliwrdwfnarbethaudwyfol, fodganddo syniadau goruchela pharchusam Dduw, ac amyr Ysgrythyr Lân fel amlygiad o’i ewyllys. Yr oedd y Diweddar Ddr. Jenkins, o Hengoed, yn gydnabyddus iawn a Iolo, a chlywais ef yn son cryn lawer am dano. Yn ol fel y dywedai ei gyffes wrth Dr. Jenkins, yr oedd efe yn Undodwr mewn rhai pethau, yn Grynwr mewn pethau ereill, yn Fethodist yn nhrefn y weinidogaeth, ac yn Fedyddiwr mewn bedydd. Nid oedd neb yn ei foddio yn mhob peth, ac yr oedd efe yn cymeradwyo rhywbeth yn mhawb. Soniai am ysgrifenu llyfr i ddangos fel yr oedd pawb yn cyfeLflorni, o dan yr enw — “Ymweliad y Diawl ag Eglwysi Cymru.” Ond ni chyflawnodd ei amcan yn hyn fel mil o bethau ereill a fwriadodd. Gwir nad oedd Iolo, er ei holl wybodaeth a’i barodrwydd i gyfranu addysg, ond athraw gwael i’r dysgybl diathrylith. Yr oedd ei olygiadau ef yn wreiddiol braidd ar bob pwnc, a chanddo rywbeth i’w ddywedyd yn erbyn pob plaid a syniad mewn crefydd ac athroniaeth; ond nid allai y dysgybl pendew lyncu dim ond y sjmiadau nacaol, ac felly ni ddysgent nemawr o ddim ond amheu a gwrthddadleu. Yr oedd tuedd naturiol yn hyny i ladd yspryd crefydd, ac i nychu dawn ao athiylith; a’r canlyniad yw, na fagodd Iolo, er ei holl gymli-wysderau cynhenid, cymaint ag un dysgybl gwerth son llawer am dano. Yr oedd awyr farddonoi y Gogledd yn wahanol. Bu D. Ddu, G. Mechain, ac eraill yn fwy ffodus i gynnyrchu beirdd uchelryw ac awenddrud.
Er mai yr Undodiaid, neu y Sociniaid, fel eu gelwir, oedd yn hawlio Iolo fel brawd, eto mae’n debygol na bu efe erioed yn aelod eglwysig gyda bwy. … Ond dywedwn air eto am Iolo fel Emynwr. Cyfansoddodd tua thair mil o emynau, a thua thri chant o Erddyganau i’wcanuarnynt. Dyna dystiolaeth ei fab, Y. ab Iolo. Gan hyny mae 2500 o’i Salmau heb eu cyhoeddi eto; canys tua 500 o honynt sy’n argraffedig yn y ddau Lyfr. Mae ei Emynau yn rhagori mewm nifer ar eiddo Williams Pantycelyn, ac yn rhagori’n ddirfawr mewn cell’yddgarwch hefyd. Wrth ystyried hyn, amledd ei fyfyrdodau ereill, gwaeledd gwastadol ei iechyd, a chyfyngder ei amgylchiadau bydol, yr ydym yn synu at amrywioldeb ei ddoniau, a’i ddiwydrwydd diflino. Wedi’r cwbl, ni ddaw Emynau Iolo byth yn boblogaidd yn Nghymru. Er nad oes ynddynt syniadau tramgwyddus i neb am a wn i, eto maent yn amddifad o’r elfen fywydol hono sy’n gwneud hymn yn flasus ac effeithiol. Nid yw cwymp dyn yn Adda a’i achubiaeth drwy angau Crist, yn unrhan o’i syniadau crefyddol; eto cydnebydd Iesu Grist fel athraw dwyfol wedi dyfod i ddysgu’r ffordd i’r bywyd, a gwynfydedigrwydd y sawl a wrendy amo, ac a’i dilyna. Nid oes yno ddim o’r newyn a’r syched am gyfiawnder sydd yn Emynau Wiuiams. Mae Wiuiams yn canu angen a phrofiad y werin yn eu dull a’u hiaith sathredig hwy eu hunain; a dyna athroniaeth ei boblogrwydd Emynol. Gosodwu rediad y Salmau yn ngeiriau yr hen fardd ei hun, fel diweddglo i’n hysgrif.
Dechreuodd Iolo ei lafur Emynawl ar ol cyhoeddi ei farddoniaeth Seisnig tua 1796, ar anogaeth y Dr. Gregory, y Dr. Kippis, Theophllus Lindsey, ac ereill. Ei amcan oedd “ysgrifenu rhy w faint o Salmau neu Hymnau Cymraeg, o’r cyfryw ag y gallai Cristionogion diragfarn, o’bob enw a phlaid, ymuno ynddynt i folianu’r Un Duw a Thad oll.” “Amcenais gadw mor agos ag y medrai fy neall gwan i, at feddwl yr Tsgrythyrau; cymerais waith y Brenin Dafydd yn rhagddariun imi, amcenais, er cloffed fy neall, ei ddilyn, ac ymgadw, mor agos ag y medrwn, at ei ffordd ef; fy Ngheinmygedau, yn gyffredin, ydynt fal ei rai yntau; mawl i Dduw; rhagoroldeb ei air a’i gyfraith; gwynfydedigrwydd y cyfiawn a rodio yn eu hol; addewidion Duw i’r sawl a’i hofnant, a’i carant, ag a ufuddhânt iddo; gwelir rhai o’m Salmau yn athrawiaethol, yn annog cyfiawnder, cariad, trugareiid, addfwynder, gobaith, a chred yn Nuw; yn annog i lynu yn gadarn wrth y gwir, ei ddilyn i ba le bynag y bo’n harwain, a hyny hyd farw drosto, fle bo achos yn gofyn: i ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddyn.”
Nid ein bwriad oedd ysgrifenu Cofiant Iolo Morganwg, ond cofnodi ychydig o’i hynodrwydd fel dyn a Derwyddfardd
Dilys mai codiad Iolo — a gwnodd
Forganwg o angho’,
A hir y cedwir mewn co’— gan ddoethion
Hen gyfrinion a gofir yno.
Iolo fawr oedd haul i feirdd,
Ac i dorf o gadeirfeirdd
Uthredig Athraw ydoedd,
A’i air clwm eu horacl oedd;
Mewn barddrin a chyfrin chwedl— mae’n amlwg,
ISLO MOBÛAIf WG Hadl mawb y Genedl.
Cyni>dxi.w.
Nos Galangauaf yn y Cwm
Gan Glastnys, Pwy bynnag a chwenycho weled a chlywed dulliau a chwedlau yr hen bobl dda sydd wedi ein gadaeler’s llawer oes, deued hefo ni am noson i Gwm Blaen y Glyn. Beth bynnag, yr y’m ni am fyned yno ’n brydlon fel y caffom ran o ddifyrwch diniwaidpobl wreiddiol y byd, — pobl nad oes ond un argraffiad ystrydebol o honynt i’w gael ar glawr daear. Amser hyfryd i deithio ydyw diwedd Hydref, 08 y bydd hi ’n sych. Bydd y grug yn gochach, y mynyddoedd yn felynach, y goedwig yn fwy rhwd-goch yr adeg hon nag un amser arall, y planhigfeydd yn Llawn dail, er fod Uawer wedi cwympo: a’r llwyni derw tewfrig heb ddynoethi eu caughenau esgyrniog, er fod aml i gorwynt cuchiog beiddgar wedi cynnyg eu hysgrîalu. Bydd yr afonydd erbyn hyn wedi llenwi eu gwelyau, ac yn ffurfio’n fath o linynau arianliw, ar draws, ac ar hyd mynwes y mynydd ban. Ond os bydd yr hin yn ddryghinllydd, bydd yn dywydd enbyd? Bydd y gwynt fei pe bae wedi d’od o’i garchar, ac yn ymruthro, ac yn ysgubo llongau’r môr a choed y maes. (Ys bydd yn gwlawio, pistylla’r cymmylau nes hanner boddi’r byd. Poed hyn fel y bo, amser hyfryd ddigon ydyw mis Hydref; a’r noson olaf o hono ydyw ei brif ogoniaut, sef Nos Galangauaf! Y mae rhyw swyn arbenig y mywyd syml, tawel, a digynhwrf y mynyddoedd; y>- i ceir unigrwydd syn a llawenydd gorhoenus yn cydfywynllaw-lawhefo’ugilydd. Yr hên ŵr a’i gudynau fel yr eira, a’r bachgen gwridgoch, yn cyd-ymddifyru ’n fwyn-lon; — yr hen Neina druan ag amser wedi tynu ei og ddrain dros ei gwynebpryd hirgrwn, a’r eneth ieuangc a dwy-foch fel gwaed, yr hon, braidd, y plyg y babwyren îr o dan ei throed, yn cydfwynhâu yr un campau diniwaid: unent yn yr un floedd chwerthinllyd; ac ymlonent yn gyd-radd pan gaffent gymmorth i chwerthin gan rai o’r plant a fydd yn ben y gamp am chwedl ddigrif, neu ryw ystumiau gwamal. Bywyd hyfryd y w bywyd yn y mynyddoedd. Desgrifir ef fel hyn yn un o Fugeiigerddi * *:— Ryw noson oer dJryghinog yn Hafod Lwyfog lan, 0 dan y sinineu fawr yn glyd yn proll blas y tân: Eisteddai tair cenhedlaeth,— y Plant, — y Tad a’r Fam, A Neina yn ei chadair wellt, — a Theida ’n hen a chani Mewn cadair freichiau dderw, yn trin y tân a’i ffon, — A’r plant oedd yn ymryson bod o dan ei lygaid llon! Hen arfer Hafod LwŶfog erdyddiau “Cymru Fu,” Oedd adrodd chwedlau wrth y plant ar himos gauaf du; Ijn hynod iawn oedd Neina am gofio naw neu ddeg O bethau gly wodd gan ei Nain, am gampau ’r Tylwyth Teg, Wrth gribo gwlan ddechreunos:— a’i merch yn diwyd wan; A’i gŵr yn prsur wneud llwy bren, neu yntau efail gnau; Ond Teida oedd y goreu am hen gofiannau gwlad Y rhai a ddysgodd yn y Cwm wrth gadw piaidd ei dad. Dyna ddarlun o dai’r mynyddwr ar amseroedd cyffredin; ond ar Nos Galangauaf, ni’d un teulu fyddai yn nghyd; ond pawb trwy’r Cwm yn ddiwahân; gwan hen, a gwan ifangc: y Uangciau cryf esgyrniog, a’r lodesi glandeg chwim ar eu troed; y tadau gwybodus, a’r mamau Llawn pryder, a syberwyd. Byddai yr hen langc consetlyd yno, a’r hen ferch wastad ei chwedl, yn anghofio am dro ŵeled bai ar bawb a phob peth. yn dangos ei wyneb. Ym Mlaen y Glyn y byddai pawb yn y Cwm, er cyn cof, yn arfer cadw Nôs Galangauaf. Hen dŷ hir, digon symol yr olwg arno oddiallan, oedd Blaen y Glyn. Yr oedd yno dd’wy neu dair o goed ynn yn tyfu gerllaw iddo, a llwyn o frysgyll tew heb fod yn neppell. Yr oedd yno hefyd bistyll yn y buarth; a t’hipyn yn mhellach draw yr oedd y fuches. O flaen y drws yr oedd lle i’r ysteuau godro, ac wrth y pen deheuol ryw ddwsin a hanner ogychod gwenyn yn rhes. Bellach, beth fyddai i ni fyned i’r tŷ i ro’i tro? Hen ddrws derw mawr heb brofi blas paent erioed: yna hen gul-fan ëang: yllawro gerigllyfnion ynlân. Trown i mewn ar y llaw chwith. Dyma hen simneu fawr anwyl yn ddigon o’i maint i gynwys dau ddwsin ar unwaith: lle i gadw mawn yn y gornel bellaf. Tân ddigon i rostio eidion ar yr aelwyd, a dau neu dri o gŵn yn gorwedd yn hamddenol o’i flaen. Un ochr i’r gegin (oblegid yn y gegin yr ydym; a Ue iawn yw hen gegin lanwaith llawer man rhwng y bryniau) — un ochr y mae bwrdd, a hwnw gyn wyned a’rtalch; nid calch dealler, ond falch; o’r tu draw, ar y silfl’oedd y mae rhesi o drenswriau cyn wyned ac yntau; dippyn yn mhellach y mae’r dressel; hen dressel ddu: coed a dyfodd ar y tir yw ei defnydd. Y mae pedair llythyren ar ei phen uchaf, a’r flwyddyn y gwnaed hi mor amlwg a hyny. Yr oedd y platiau pewter gyn loywed ag y gellid gweled ei gysgod ynddynt. Yr ochr arall yr oedd hen gwpwrdd tri-darn: yr oedd hwnw wedi cael ei wneud yn rhodd brîodas i dad-cu-hen-daid y gŵr!! Dyfaler felly ei oed. Yr oedd yno res o ystolion gwynion: “a chryn lawer o gadeiriau derw da. Yr oedd y llawr cerig yn llyfu ddisglaer, a ffiamau’r tân yn gwenu wrth weled eu llun yn mhob peth o’u deutu. Dyna riaen y Glyn i chwi.
Yn awr i ddechreu ar ein chwedl. Y mae mwy na deugain mlynedd er pan y digwyddodd yr olygfa. Ac fel hyn y cymerth y peth le. Yr oedd hi yn brydnawn heulog;— ond dihangodd yr haul dros gribau y mynyddoedd: a gadawodd ni i gymeryd ein siawns pan yn croesi o’r Griafolen rhyngom a’r Bwthyn Uwydlle trigai’n mam. Pan oedd cysgodion y nos yn ymwasgu am dauom, daeth hen chwedlau a choiion ein maboed i’n meddwl yn dryblith drablith. Brasgamu yr oeddynt yn mlaen, oblegid nid oedd ugain mlynedd wedi llwyr ddileu oddiar y meddwl yr hen Iwybrau a gerddwyd genym pan yn crwydro ar ôl defaid e’in rhieni. Ar ol hir chwysu daethpwyd o’r diwedd i ben gallt serth, a chlywem oddi tanom ryw sŵn siarad; ambell i chwerthiniad Llawen, a sibrwd adseiniol. Eisteddwyd am enyd ar hen faen mwsoglyd. Cyfarthai y cŵn wrth un fan, ac attebid hwy gan gŵn o’r ochr arall i’r Cwm. Rhedai mil-fil o feddyliau ar draws eu gllydd yn yr enaid, fel gwybed bach ar h-wyrnos yn Mehefin. Ond codwyd, ac aed i lâwr o lêch i Iwyn. Weithiau byddem mewn caregle garw, bryd arall ar lecyn mor esmwyth â’r melfed; croeswyd ff’rwd o ddwr, ac odditanodd yr oedd cornant yn trydar ei felusgerdd un-dônol. Ond yn nghesail y bryn gerllaw gwelem oleu. Cofiwyd pa le ydoedd, ac uuiouwyd ato gyn gynted ag y gellid. “Wedi curo wrth y drws: er nad oedd eisiau hyny er mwyn cael gwybod a oedd neb yn y tŷ, oblegyd yr oedd digon o dwrf o’r tu mewn, yn profi hyny yn ddigon amlwg i bawb o’r tu allan. Daeth y ferch i’r drws, ac i mewn a ninau. Yr oedd yno gryn ddwsin o ferched o wahanol oed, a phedwar neu bump o hen bobl yn ymgomio yn ddifyr wrth y tân. Cyfarchwyd gwell; ac yr oedd yno rai oedd yn cofio ein taid yn las-lefnyn: ac un hen wraig wedi bod ganwaith hefo ein nain yn Ngwyl Mabsant y Llau. Yr oedd Blaen y Glyn yr un fath yn union ag oedd pan oeddym wedi bod yno cyn gadael ein hen fro gynhenid. Yr hen gloc, gwyneb du felyn yn y gornel wrth ochr y cwpwrdd tri-darn, &c. Wedi eistedd, erfyniwyd arnom aros yno i gael rhan o’r difyrwch, a phenderiynwyd yn ddigon diseremoni. Yr oedd y bechgyn, meddynt, yn tanio’r coelcerth ar ben y Bryn, ac yr oeddynt oll i dd’od yno yn union deg i godi afalnii o’r div’r; i ro’i cnau yn y tân er mwyn cael gwybod tesni: ac yr oeddynt hefyd yn disgwyl Rhydderch y Crythor yno. Ar ol bod yn y tŷ am ryw ddeng mynyd, a chael cynyg rhywbeth yn fwyd o leiai deirgwaith yn ystod pob mynyd o’r cyfamser, awd allan yn nghwmni tair neu bedair o’r genethod i weled y Coelcerth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei danio, a’i oleu yn gwneyd y Cwm o ben i ben fel un ganghell Eglwys ysplenydd ar fore y Nadolig. Rhoddai wrid i’r afon gordeddog; a grym yn nghochni hydrefol dail y coed. Canai y bechgyn; chwarddai y plant; a chyfarthai y cŵn, a llawenhaem nmau. Ond dyma rywun yn d’od! “Pwy ydyw tybed r” ebai y naill wrth y Llall. “Pwy ydwyf’? ond Rhydderch y Crythor debyg r” ebai Llais dwfn yr hên fachgen. “Wel,” ebe merch Blaen y Glyn, “iechyd i dy galon di Rhydderch, yr oedd fy Nain yn dweyd na fethaist di ddim unwaith a do’d yma er’s mwy na deugain mlynedd.” “Pawb yn iach gobeithio,” meddai yr hen Grythor: “0,” ebe hithau, “pob peth fel arferol. Mifyd’dwn yn dechreu arni gyn gynted ag y daw ’r bechgyn o’ ben y Biyn.” Aethom yn ôl hefo’n gilyddi’rtŷ: a chyn pea ychydig o fynydau yr oedd y rhai oeddynt hefo’r coelcerth; yn bob gradd o honynt, wedi do’d i lawr. Yr oedd yno rai yn edrych araom ni fel pe buasai gyrn ar ein pen. Ni wyddent pa Iwyth, laith, neu genedl oe’ddym. Ond dyma’r Crwc yn llawn dwfr; a Gwen, canys dyna oedd enw merch y tŷ, yn dyfod a llonaid ei ffedog o afalau croendeg, ac yn bwrw rhyw ddwsin o honynt iddo, a’r hogiau yn dechreu arni nesu am y digrifwch. Yr oedd yno un llefnyn digrifach na’r Lleill, ei enw oedd Ifan Dafydd. Efe oedd y cyntaf i benlmio wrth y Crwc; cododd Ifan ddau afal yn lled ddiboen, a rhoes un i hen wraig Blaen y Glyn, a’r llall i ninau. Yr oeddym ni yn llu o gylch y tân, yn chwerthin ac yn siarad; ond dyma linyn yn cael ei grogi wrth fâch dan y Llofft; a phren yn cael ei rwymo wrtho; yna rhoed afal ar un pen iddo, ac yn y pen arall yr oedd hollt, ac yn yr hollt y rho’id darn o ganwyll frwyneu, ac nid ychydig y llonder a geid pan fyddis yn ceisio sugno ’r afal i’r genau, ac os methid, ond odid fawr na thrffai y ganwyll, ac y llosgai fochgern yr ymgeisydd. (Onid oes cryn debygrwydd yn hyn i”r wedd y digwydd i ymgeiswyr aflwyddianus ein Heisteddfodau, nid yn unig collant y wobr, ond llosgir eu bochgernau hefyd yn fynych.) Erbyn hyn yr oedd y ddiod Griafol yn cael ei thy- “wallt, a digonedd o Feth wedi do’d ar y bwrdd. Ar ford vn un gongl, — (nid oedd llian arni, oblegid yr oedd cyn wyned ag un llian a fedd Cymru; ) yr oedd bara ceirch wedi eu troi bron yn grwn, a Iwmp o fenyn a dagrau ar ei olwg-melyn; yn ei ymyl yr oedd clobyn o gosyn iraidd, a phawb yn cael helpu ei hun, heb gymhell yn ychwaneg na “dyma ’r bwyd;” ond nid bwyd oedd y pethau ar Nôs Galangauaf. Yr oedd yno dori cnau; a gwaith difyr y w hyny os y ceid hwy yn Uawnion. Ónd codi yr afalau o’r dwfr oedd y prif beth yn ngolwg y bechgjTL. Pan y codai Rhys Puw un gwelid ef yn ei wthio yn hanner dirgel i gil Uaw Elin y Bryn: a phan y byddai Cydwelyn Lewis yn methu, a rhoi o’r plant direidus yn taro ei ben tan ddw’r, gellid darllen effaith gofid ar ruddiau Lwlan Sion. Ni wyddent hwy etto ddim am garu; ond yroedd rywbeth yno er hyny; a’r rhywbeth hwnw yn gyffredin a lefarai “Gwnaf,” wrth allor yLlan, yn. y pen draw.
Yn un cŵr o’r tŷ yr oedd f’ewyrth Eeinallt Wmffra: hen wryn bach ystwyth ei chwedl; ac mewn gwirionedd yr oedd yn anhawdd gwybod pa’r un oedd y mwyaf diddan ai gwrando arno ef a Morgan Llwyd yn dweyd eu cofion; ai ynte edrych, a rhoi clust i ddy wediadau y rhai ifaugc. Yr oedd yno beth arall hefyd. Yr oedd yno glic parhaus yr hosanau a’r gwëill; o herwydd nid oedd dwylaw ’r merched un mynyd yn llonydd. “Pobl ddiwyd yw pobl y mynyddoedd,” meddem wrthym ein hunain. “Dyma lawer o’r hen Ewyrthod, a’ro/^o’rhen fodraboedd ' yn diwyd wan ' hyd yn nod pan yn ymddifyru.” Ond yn mha le y mae Rhydderch Crythor? Dyma fo! A fyni di, ddarllenydd, glywed neu weled pa fath un oedd? Wel! haf ati ynte.
Y mae ’ndebyg na thynwyd Llun creadur mwy afrosgo erioed, ond na talier hyny, gwnawn ein goreu. Ac os methwn; methwn wrthgeisio. Troedd.ymae’nddiddadl, wedi gweled o leiaf dri-ugain gauaf; felly yr oedd yr ychydig wallt a feddai, wedi troi fel llin wedi ei gânu. Clamp o ddyn tua dwylath o daldra: pur eiddil, a thipyn o wâr ganddo. Gwyneb hir pantiog, a chlobyn o drwyn, a allasai, pe cymerasid gcrfal o’r defnydd, wneyd y tro, o leiaf, rhwng tri: hyny ydyw, pe buasid yn rhyw haner cynil hefo’r cyfryw ddefnyddiau. Yr oedd hwnw hefyd yn troi yn fwäog, a chrwbi mawr yn ar eiganol. Ceg ledgam, ac un wefl yn croes-guddio y Llall; — yr isaf yn darn guddio’r uchaf. Gên hir, a thipyn o dro ynddi. Ei ysgwyddau yn cantio at eu gilydd: a dau lygad; un yn edrych y ffordd yma, a’r llall yn serenu’r ffordd draw. Ryw ysgrifinllyn fel yna oedd Rhydderch; ond yr oedd, er hyny, yn bur siongc ar ei droed, ac yn ffraeth eithaf ar ei dafod. Wedi cael digon ar godi’r afalau, a llosgi’r bochgernau; a’r cnau wedi lleihau cryn lawer yn y fwydor, — oblegyd yn y fwydor y rhoddesidycnau; dyma Gŵeu Llwyd, merch y tŷ at ei mam, ac yn erfyn am d’ro newydd ar y droell. Dylesid sôn cyn hyn, efallai, am un bachgen Llwyd-denau a eisteddai yn nghil y pentan. Nid oedd ef yn cymeryd dim sylw yn y byd o ddim ag oedd yn cymeryd lle. Gwrandawai yn astud ar bawb, ac ambell dro, pan welid ei lygaid, gellid canfod ynddynt ddwysder a threiddgarwch wedi cyd-gymysgu. Yr oeddeigorgi blewog ambell dro yn llyfu ei law. Ond distaw fud oedd efe, yn g wëu ambell bwyth ar hosan Eeinallt Wmffra. Amîwg oedd fod rhywbeth ar ei feddwl. Yr oedd Gwen hithau yn edrych weithiau, a’i llygaid dros ei hysgwydd, tua’r fan yr eisteddai, ond nid oedd dim byd arall yn cymeryd lle rhyngddynt. Priciodd rhywbeth ni er hyny. Pe’th rhyfedd yw y rhywbtth yma, ni waethhynnag’ ychwaneg. Ond dyma’r ganwyll frwyn i lawr, a thacw’r crwc yn caei symud ei borfa. A phawb ar ôl cael eu rhan o’r ddiod Griafol, neu o’r Mtth, ynliwylio am fod yn barodi wrando ar Rhydderch yn rtiwbio ei Grwth. Mymiai f ' ewyrth. Eeinailt niai can? t penn iììion oedd y goreu, ac nid oedd neb a feiddiai,c: roesi yr ben fachsen. Felly dechreuwyd o ddifrif hogi arfau. “Pawb a’i bennill yn ei gwrs,” oedd y drefn, ac nis esgusodid hen nac ieuangc. Dyma ddech.reu rhwbio’r tanau, a’r rhai hyny yn gwichian ar y cyntaf, yn waeth eu sŵn na chant o gywion dallhuanod pan yn ymladd a’u gilydd. Ond chware teg i’r hen law, medrodd o’r diwedd gyweirio ei hen offeryn, a chafwyd llawer darn digon di falc ganddo cyn darfod. Chwareuodd “Serch Hudol,” i ddechreu. a tharodd Hen ŵr Blaen y Glyn y pennill cyntaf o “Forwynion Glân Geirionydd “yn odiaeth dda; dilynwyd ef nes aed dros y Gân. Yn y fan hon, newidiwyd y dôn. Ond y mae’n fwy na thebyg, ernewid y dôn, mai yr un oedd miwsig calon tri neu bedwar o leiaf yn y fan a’r Ue I Aeth y Orythor yn ei flaen, acerbynhyn, yr oedd cllc y gweill wedi tewi, a phawb o Iwyrfryd calon yn gwyllo ei adeg. Ond pan ddaeth amser Twm Pen Camp i ganu, (cenaw ystumddrwg ofnadwy, fel yr oedd yn hawdd gweled wrth ei lygaid, oedd Twm,) — ac fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod efe oedd i ganu yn nesaf, ar ol f’ewyrth Reinallt Wmffra, yr hwn, er bod ei lais yn crynu, a ddatganodd ynbur dda, chwareu teg iddo. — A’thyma Twm yn dechreu ar ei ol ef, a thyma ei bennill:—
’Roedd ci gan Reinallt WmíEia
Yn fiiiad arei fera’,
Ac yn ci fyw ni ddringai riw —
Mor wanod ei gymala”.
“Gyn siwred a mod i yma mi ’th darawaf di Twm,” ebai yr hen Eeinaut, ac yn chwillo am ei ffon mewn ffwdan gwyllt, “Gwna, nid elai byth o’r fan yma,” ebai, a thyna bawb mown Llewygon. “Wel, arhoswch f’ewyrth Eeinaut,” meddai Twm, “y mae ail gynyg i Gymro gael.” Felly, ar ol i bawb ro’i goreu i chwerthin, a’r hen ŵr ddo’d dipyn ato ei hun, dyma’r Crythor yn dechreu rhwbio drachefn: yna daeth Twm allan yr elltro, a chanodd fel hyn:—
Pan oedd y ei ryw noson
Yn ceisio crafu’r crochan,
’Roedd Reinallt Wmttia a Mari Sion
Yn cynal hon ei gynfl’on.
“Os drwg cynt, gwaeth gwedy’n.” Yr oedd Eeinaut am ddarn ladd Twm; chwillai am ei ífon, a bygythiai ei ddwyn o flaen ei well am ei ysgandarleisio. “Ond,”' ebai’r Llangc llonydd, “na hitiwcli, f’ewyrfh Reinallt, mi dalaf fi iddo toc.” Tawelwyd yn lled lew; er y byddai pyíRau o chwerthin yn d’od yrwan ac yn y man, nes y byddai pawb yn ddiwahân yn ymollwng, a f’ewyrth Eeinallt yn dechreu ail fygwth yn waeth nag erioed. Er mwyn cael llonyddwch dyma’r Llangc llonydd yn dweyd y canai ef gerdd newydd. Ac ar ol cael cip ar lygai’d gleision Gwen, dechreuodd ar ei waith:— -
Nos G’langauaf ydyw heno —
Y mae tân yn llygaid Gweno;
Tân a welsom yn y Goelcerth,
Oedd yn adiodd tesni prydferth.
Nos G’langauaf, “cnau” i’w bwyta,
Er fod allan “Hwch ddu Gwta:”
Meth i’w yfed a Iliwenydd,
A Morwynion Glân Meirionydd.
“Dyna fesglyn ar ol,” ebeEeinallt, “thâl o ddim! thâlo ddim haw!” “Wel! aroswch iddo orphen, yn enw dyn,” meddai Morgan Llwyd, “Dos yn dy flaen Huw Bifan,” canys dyna oedd enw y Llangc Llonydd, —
Neithiwr bum yn Neuadd Nannau,
Yno’n tiwinill hefo’r tanau;
Wrth dd’od adref dros y Roballt
Gwelais Gi fy Ewyrth Reinallt.
“Ar fy nghydwybod i! fyna’ i ddim fy ysgandarleisio fel yma; lle y mae fy ffon i, mi âf fi adref, ni waeth genyf beth fo ungwr.” “Aros, aros,” ebai Morgan Llwyd, “hwde! gorniad o iye</i cyn cychwyn.” Ac ar ol caei hwnw i’w law, dyna bob peth heibio, a Thwm Pen Camp ac yntau yn ffrindiau rhag blaen. Yn awr daeth amser rhoi cnau y merched yn y tân. Yr oedd pob geneth i gael dewis ei chneuen, ac i’w rhoddi yn y tân a’i llaw ei hun. Yr oedd yn rhaid i Gwen, merch y tŷ, ddewis y gyntaf, a’i rhoi yn y marwydos. Os y rhoddai y gneuen giec, dyna arwydd dda; ond os rhyw fud-losgi a wnai, dyna argoel ddrwg. Taflodd Gwen un i’r tân, ac yr oedd yn crynu wrth wneyd; ond dyma giec dros y tŷ, aphawb yn chwerthin am yr uchaf. Bychan a wyddent hwy mai’r un fjmyd, ’ie, yr un amrantiad yr oedd ciec arall yn cymeryd lle: yr oedd bwa serch yn rhoi clec yn mynwes un na’sgweloddhimonoerioedo’rblaen,hydynosonhono, a hyny ar yr un amrantiad. Y mae rhywbeth hynod Yajciecian yma. Gan igneuen wisgiGwenwneydyrhyna ddylasai, ac i ddarn o holl neidio o’r tân i wyneb Rhy wun, codwyd y dam i fynu, ac erbyn edrych, yr oedd haner y cnewyllyn yno: cadwasom ef yn ofalus mewn mynyd. Ni fynai’r genethod ereill gynyg am goel. Yr unig un, ar ol hir grefu, a dreiodd, oedd Cadi Eeinallt. Hên lodes ryfedd oedd hon, nad oedd hyd yn oed amser yn gwneyd dim o’i ol arni wrth fyned heibio. Rhyw bwtan fer wedi gwneyd bargen dda yn ffair y trwynau ydoedd; a llawer byd o ysmaldod a hylldod yn perthyn iddi. Ond druan oedd Cadi! ni wnai ei chneuen hi ond mud-losgi, heb un arwydd clec yn agos ati. Yn y cyfamser, yr oedd Rhydderch yn rhydd-ymgomio; a’i hen ffidil a’r bwa, un pen a’i bwys ar ochr ei glun, a’r pen arall ar y llawr. Yr oedd Twm Pen Camp yn bwyta brechdan a chaws heb fod yn neppell oddiwrtho. A thra yr oedd y Crythor wrthi yn adrodd wrthym hanes ryw Fwgan oedd wedi d’od i’w gyfarfod yr wythnos cynt, wrth fyned adref o ry w noswaith lawen; cymerth Twm yrymenyn oddiar eifara, a rhwbiodd y tanau a’r bwa ag ef. O’r diwedd, daeth un o’r cŵn heibio, a dechreuodd lyfu’r ffidil. “Holo!” ebai Cadi Eeinallt, “y mae Mottyn am ro”i tiwn i ni, f’ewyrth Rhydderch.” Cipiodd yr hen fachgen y ffidil ar ei lin, a dyna fu am y tro. Yr oedd hi erbyn hyn wedi tynu yn hwyr; ond yr oedd yn rhaid cael un dôn wed’yncyn cadw noswyl. Felly penderfynwyd, ar gais Morgan Llwyd, cael yrhendôn swynol “Anhawdd ynadael.” Dyma’r hen Rydderch yn hel ei gelfi, ac yn rhoi ei hun mewn ystum deilwng. Ond pan ddechreuodd rygnu nid oedd dim sŵn. Ail-gynyg. Dim gwell. Ceisio wed’yn; ond dim yn tycio; a chafodd Mottyn druan y bai. Yr oedd yr hen Grythor am ladd y ci, a phawb yn ei ddondio yn arswydus. Felly ar ol i’r cymydogion gael corniad o Ft’th bob un, a chanu nos da’wch, aeth pawb adref yn un a chytûn; f ’ewyrth Eeinallt wedi llwyr anghofio pob peth, oddigerth penillion Twm Pen Camp. Huw Bifan yntau ar oi cael un cip-olwg ar lygaid Gwen, a gychwynodd a’i galon yn llawn o serch. Cadi Eeinallt hithau, er gwaethaf anffawd y gneuen, a edrychai mor llon a’r gôg ar frig y ganghen. Yr oedd hi a’i meddwl ganthi. Gwyddai y deuai dydd ar ol nos; ei bod hi eisoes yn dechreu blawrio. Ar ol i bawb ymadael, cawsom ninau hir ymddiddan hofo theulu’r tŷ. A rhywbryd cyn toriad y dydd, aeth pawb i’w hûn a’u heddwch. Ond er i mi fyned i ystafell o’r neilldu, yr oedd pob peth yn ciecian o’m cwmpas. Yr oedd y grisiau wrth i mi fyned i fynu yn clecian. Yr oedd y llofft wrth i ni ei cherdded yn clecian. Yr oedd y gwely wrth i mi orwedd yn clecian. A phob tro a roddais ynddo, yr oedd yn clecian. Ac ni wnaeth hyn nac ychwaneg, yr oedd rhywbeth yn ein calon ninau yn clecian. Pan huneni gysgu, yr oedd y glec yn ein deffro. Pan ddeffroem yr oedd y ylec yn ein sllo yn ol drachefn.
Bore dranoeth, pan aethom i lawr, pwy oedd yn cyfarfod wrth droed y Grisiau ond Gwen Llwyd: dyna gîec eto. Ar ôl boreubryd, fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, aethom allan, a phwy oedd wrth y pistyll yn golchi cunog ond Gwen; goiynwyd iddi’r cwestiwn, ac o dan gwmwl o wrid, daeth y giec i ben. * * ♦ Mae Nôs Galangauaf yn anwyl byth wedi hyn. Ac y mae’r jjlant a Gwen a minnau yn hoäi’r swynol noson, a phob tro y daw ar gylch byddwn yn bwyta cnau, ac yn yfed Meth er côf am y glec gyntaf yn Mlaen y Gijti.
Dafydd y Garreg Wen
Gan Glasynys.
Eywbryd, pan ar fy mhererindod “Yn fy anwyl hen Eifionydd,” fe ddigwyddodd i mi gyfarfod â dyn ar ddamwain; os oes y fath beth a chyfarfod ar ddamwain yn bod? Hyn sydd amlwg, fodd bynag, na wyddai ef ar faes medion y ddaear pwy oeddwn i, ac nad oedd dim peth mwy anfwriadol ar fy rhan inau, na dechreu siarad âg ef; ond fel yr oedd rhywbeth yn??ì2/u bod, i siarad yr aethom, ac ni bu yn edifar genyf ddechreu. Ni wnaf ddesgrifio fy nghydymaith; ond troaf ar fy union yn ei gwmni ifonwent Ynys Cynhaiarn. Beddau aml a cherrig coffhaffl destlus! Pob peth yn lanwaith gryno: ac nid wyf yn meddwl y ceir cymaint o englynion beddargraph da mewn un fonwent yn Nghymru! Wrth rodio yn ol ac yn mlaen o gylch y beddau, daethom o’r diwedd at feddfaen wahanol i’r lleill. Carreg a Llun telyn arni! Dechreuais ddarllen, a chanfum yn ebrwydd mai bedd Dafydd Owen, neu Dafydd y Garreg Wen, ydoedd. Ar ol syllu ennyd ar fan fechan ei fedd, gofynais ychydig o hanes y Telynor. Gan fod yr hin yn lled frwd, aethom ein deuodd i Borth y fonwent, ac yno yr eisteddasom i rydd ymgomio am hwn a’r llall, ac ym mysg y cofianau a roed i mi o’r rhai sydd yno’n huno, dywedodd fy nghyfaill wrthyf mewn dull syml a diseremoni, rywbeth yn debyg i hyn am Dafydd Owen, neu Ddafydd y Oarreg Wen. Yr oedd ei rieni yn byw mewn Tyddyn lledfychaii ymmhlwyf Treflys. Merch lle o’r enw Issallt oedd hi, a’i neuw bedydd oedd Owen. Teulu pur glyfar am feddyga oedd teulu Issallt, a dywedir eu bod yn deilliaw lin o lin o Feddygon Myddfai, sef o Rhiwallon a’i Feibion, (ac y mae teulu Dolffanog hefyd yn deillio o’r unrhyw.) Yr oedd Gwen yn medru prydyddu ambell i bennil siawns, ac yn hoff odiaeth o ganu hefo’r dely’n. Nid ydwyf yn cofio, pe trigwn, pwy na pha beth oedd enw ei gŵr: ond yn y Garreg Wen yr oeddynt yn byw. Bu iddynt amryw o blant, ac yn eu mysg Dafydd. Nis gwyddis pa bryd y dechreuodd gyweirio telyn, ond gellid coelio yn hwylus i hynny gymeryd Ue pan oedd yn bur ieuangc. Gartref yr oedd Dafydd hefo’i dad a’i fam. Aeth Rhys, brawd i’ddo, i ff’wrdd_, a throes allan, ar ol hir grwydro draw ac yma, yn arddwr i ry w ŵr boneddig yn Ysgotland. Byddai Dafydd yn arfer cadw nosweithiau llawen mewn gwahanol fanau yn fynych. Daeth yn. gerddor medrus, ac aeth son am dano ar draws ac ar hyd y wlad. Rywbryd pan oedd yn dyfod adref un bore yn nechreu hâf, ar ol bod yn chwareu mewn palas heb fod yn neppell o’i gartref, eisteddodd ar faen mwsoglyd, a rhoes bwys ei ben ar ei delyn: y mae’n debyg ei fod wedi blino wedi bod wrthi hi trwy gydol y nos. Cododd yr hedydd o’i wely gweiriog yn ei ymyl i achub blaeny wawr, a dechreuodd hidlo cân. l’el y dywedodd rhy wun am dano, — y mae’n debyg y teimlai Dafydd:—
“Fel cwmmwl uwch y ^weunydd, yn hidlo odlau blith
Ymgodai’n syth, a’i esgyll yn wlyb o berlog wlith
Yr Hedydd lafar hudol, a’i gu awenol gan, —
Fe wlawiai yngawodau ei fwyn Emynau mân.”
CyíTelyb, yn ddiddadl, oedd o flaen Dafydd; ac ar amrantiad dyma’r hên orchudd i ff’wrdd oddiam y delyn, a chwarcuodd y Cerddor Godlad Yn Hedydd: un o alawon pereiddiaf, a mwyaf dynwaredol, a fêdd Cymru! Ryw dro arall yr oedd wedi blino gartref, a chychwynodd, a’i delyn ar ei gefn, i chwilio am ei frawd Bhys; ac ar ol hir grwydro, dueth o hyd iddo, draw yn mryniau’r Alban, a bu yno’n aros mewn parch a llawenydd am hir amser. Wedi blino yno, a phan ar gychwyn tuag adref, gofynodd y boneddwr, gyda’r hwn yr oedd ei frawd yn aros, am dôn ganddo fel coffhâd o’i arhosiad yn y fan a’r lle. Pa beth a wnaeth Dafydd ond rhoddi iddo’r dôn oedd newydd -wneyd cyn cychwyn oddicartref, erbyn Gwylmabsant Criccieth, sef, Di/yrwch Qwyr Criccieth, a galwyd hi yn yr Alban yn Fuissun Castie. Ar ol iddo ddyfod yn ol, yr oedd yn amlwg ddigon nad oedd teithio ■^edi gwneyd llawer o ddaioni iddo. Yr oedd yn pesychu yn enbyd. Ei lygaid wedi suddo i eigion ei ben. Ei wyneb dealltwrus a welwai. a gwelid argoelion fod angauyn chwareu alaw leddf ar delyn ei fywyd! Curio wnaeth; ac nid yn hir y bu heb orfod rhoi goreu i dynnu’rtanuau, o herwydd yr oedd ei nerth yn rhy egwan: ond er hynny, bob tro y caffai awr led ddiboen, ymlusgai at ei hen offeryn, a chwareuai rai, — “O’r hen Alawon tjTier Sydd wedi tynnu deigr o lygaid amser.”
Parhâu i wauychu yr oedd, ac o’r diwedd, prin y medrai adael ei wely. Un diwrnod edrychai yn bur gysglyd; gwylid ef yn ddyfalgan ei anwyl fam. Pan yn ei wylio, gwelai fath o wên ar ei wynebpryd, a chanfyddai ei fysedd yn ystumio yn ol ac yn mlaen. Daeth ei wêJd hefyd i edrych fel yr oedd cyn iddo fyned yn sâl. Llenwai’r pantiau, ac ymledai ei foch-gemau! Ofnai Gioen ei fod yn marw! Ond ar fynyd, agorodd ei lygaid, a dywedodd, er yn floesg, “0! mam, mi welais y peth harddaf a welodd neb erioed!” Yna tynnai ei anadl yn hirllaes, a rhoes rhyw haner tro ar ei ben; ac yna aeth yn mlaen, — “Xi chlywais i erioed o’r blaen y fath ganu! Y Miwsig! O! mam, rhowch i mi fy nhelyn! Medraf, mifedaaf chwareu hono!”' Yna syrthiodd i fath o bêr-lewyg esmwyth. A”i fam yn ei wylio; pwy wyr nad oedd hithau yn gweled rhyw oleuni drwy’r dagrau gloywon a ddylifiai o’i dau lygad tyner. Fel ag yr adbelydrir goleu yr haul yn y mânwlith; pa”m nad ad-dywynai dwyfoldeb yn ei heiddo hithau? Deffrodd Dafydd yr eiltro, a gofynai hefo’i olwg yn gystal ag hefo’i lais, “A gaf fi, mam anwyl, fy nhelyn am unwaith eto!'” Pwy fedrai ei ommedd!' Nid Owen: nid y fam. Dygodd y delyn i mewn. ac araf a thyner gododd y Telynor; a rhoes ef i eistedd ar echwyn y gwely. Rhoes glustogau a gobenyddiau i’w gynal nes yr oedd fel mewn cadair. Ac yna — Dechreuodd Dafydd chwareu; — a’i fam gynhaliai ’i ben — O’r tanau mwyn y fynnodd Hex Alaw ’r’GAUREG Wex.
Ar ol cael ei wala ar yr hen delyn, rhoed ef yn ol yn ei wely, a theimlai ei hun yn llawer gwell a mwy diboen. Ar ol gorphwys gronyn, dywedodd wrth ei fam pa fodd y dysgodd y don. Yr oedd, meddai, wedi bod mewn byd arall. Dyma ei eiriau:— “Gwelwn fy hun mewn gwlad goediog: pob deilen yn werddlas: pob brigyn yn îr, a phob canghen yn llawndwf. Y gwrychoedd yn ddail i gyd, a’r dolydd yn Llawn o feillion aroglber. Yr afonydd yn loy won, ac yn araf ddiog lithro, heb sŵn na dadwrdd. Gwelwn fy hun wrth Neuadd hardd; ac o flaeny drws yr oedd gardd lysiau. Mewn deildŷ, yng nghongl yr ardd, clyw-wn rywun yn chwareu ar y delyn; a’r alaw oedd yr hon a chwareuais I, mam. 0 flaen y deildŷ, yr oedd dwy golomen Iwydlas yn gwrando. Aethum yn araf a digon gostyngedig at y fan a’r lle, ac er fy mawr syndod, nid oedd yno na thelyn na pheth. Synnais beth wrth hyn. Und etto, yr oedd y canu yn para; a pha beth oedd ond yr awel yn d’od o”r berllan i’r deildŷ, drwy wiail wedi eu cordeddu! 0 I mam! fel yr oeddwn yn blysio i chwi gael cly wed canu! Ond ni welwn yn fy my w neb ond y ddwy golomen. Ar hyn mi ddeffroais, a gwelais chwi, fy mam anwyl,” Distawodd; ac amlwg oedd ei fod wedi llesgâu, a bod ei “ddaearol dŷ “yn prysur ddadfeilio, — fod ei luesttŷ yn cael ei brysur ddattod. Chwibianai Angau, ei alargerdd, yn ei fonwes ei hun! Bu fyw am ychydig o ddyddiau: a’i fam a ddy wedodd y cyfan a ddywedodd Dafiydd wrth ei chydnabod. Yr oedd hi yn medru yn Alaw hefyd ar dafod leferydd, ac nid oedd dim yn lloni y Telynor yn fwy na chlywed ei fam yn canu’r Alaw Newydd.
Qi hir, fe huuodd! Aeth adref i ardal lonydd yr aurdelynau!
“Claddwyd ef yn yr Ynys yma,” ebai’r Cofiadur; “a thyma’i fedd. Ar ddiwrnod ei ganhebrwng, yr oeddis yn canu’r Alaw, o’r Garreg Wen bob cam i’r Eglwys, ac hefyd ar lân y bedd! Ond y peth rhyfeddaf o gwbl ydoedd, i ddwy’ golomen dd’od at dŷ’r Garreg Wen pan ddygwyd y corph allan i’r drws, ac i’r ddwy ddilyn yr elor o hyd, drwy gydol y ffordd; — iddynt fyned i’r Eglwys, ac aros yn Llonydd yno tra buwyd yn darllen y Gwusuuaeth; a phan aed at lân y bedd yr oeddynt hwythau yn ymy1 yr arch. Ond pan ddywedodd yr OOeiriad “Daear i’r ddaear pridd i’r pridd, lludwi’r Lludw,” ehedodd y ddwy’ ymaith, ac ni’s gwelwyd mo”uynt mwy’!” A thyna gefais I o hanes Dafydd y Garreg Wen.
Pennillion a gant y telynor wrth farw
Fy nhelyn! fy nhelyn! Ga’i nhelyn mam?
Mae’r Angel yn dyfod yn araf ei gam!
Mae sŵn tiagwyddoldeb yn boddi fy mryd, —
Mi gauaf fy marwnad wrth adael y byd.
Fy nhelyn! mae f’enaid yn llenwi pob tant,
A gobaith yn sibrwd y caf fod yn sant,
Rwy’n myned! rwy’n myned i lysoedd y neu
I seinio’r’fwyn Alaw,— yr Hen “Garheg “Wen.
Mi wela’r Golommen, 0! gwelaf y ddwy; —
Hwy’ ddeuant i’m hebrwnf; i fynwent y plwy’:
Gobeithio caf delyn yn ninas yr hedd —
A THELYN i nodi man fechan fy medd!
Ffarwel! Y mae’r Angel yn galw’n ddi daw,
Mae ganddo delynau ddigonedd wrth law:—
’Rwy’n myned yn dawel i lysoedd y neu,
Wrth fyned ’rwy’n canu yr Hen Garreg Wen,
Glasyny».
Ymddiddan rhwng y Bardd a’r Llwynog
Gan Htjw Llwyd o Gynfal.
(O hen ysgrif-lyfr.)
Y Bardd.
Dydd da i’r llwynog o’r ogof,
Gelyn pob aderyn dôf;
Dy waneg a adwaenwn,
Croeso’n wir i’r rhydd-dir hwn,
Mynega fyth mewn gwiw faes
Pa hyd ŵr taerllyd torllaes?
Wyt teg a glân, ti a gei glod,
A lluniaidd bob Ue yuod;
Lliwiwyd ti a lliw tywyll
Melyn a choch mal na chyll;
Dy ’drwyyn eiddil sydd filain,
Dy ddannedd rhyfedd yw’r rhain;
Gefel chwith a gafael chwyrn
Draw a wesgi drwy esgyrn;
A’th lygad mor seliad syn,
Hwn a drois mal hen drawsyn;
Ar dy ben, wrda, beunydd
Rhy w fonion sythion y sydd,
Dy war isel a drwsiwyd
I’r drwyn, dy ystum da wyd.
Bol costog dan banog bais,
Llyna fol llawn o falais;
Troedfyw glew, trwy dewfrig Iwyn,
Trotianwr taer at wanwyn.
Bonllost, neu ysgub unllath,
Rhy lawn fodd, rholyn o fath.
Ffagod hyd frig ceryg carn
Ffagodwas o’i ffau gadarn,
Da yw dull dy dŷ di
A dirgel rhag daeargi.
Bwriad drwg, byw yr wyd draw,
Was boliog, wrth ysbeiliaw;
Chwilena, o chei lonydd,
Ydy w dy waith ’r hyd y dydd;
Myui gig tra fo man i’w gael
Defaid, o d’on yn d’ afael.
Byw yn lân lle bo wân lu
Digam it’ i degymu;
Dwg yn rhad di a gei’n rhydd
Wydd ag iar yn ddigerydd.
Diddwl wyd i ddal adar,
Gallt neu gors, gwylltion a gwâr.
Campus pob modd i’th roddwyd,
Lle bo gas, llew wbywiog wyd;
Ag o daw hynt gyda hwyr,
Oes un mor llawn o synwyr!
Neu neb well mewn dichellion,
Na’th di Iwynog difiog don!
Na lle, mi a wn, mewn llwyn iach
Y caf reswm cyfrwysach.
Minau sydd ddi-ymanerch,
Ddigalon, ddisou, ddi-serch;
Difalais, a didrais draw,
A dirym yn mhob ymdaraw.
Da yr haeddit air heddyw;
Dangos yn rhodd fodd i fy w.
Perhoid im’ gyngor rhagorawl
Gwnaet im’ fyth ganu dy fawl!
Y Llwynog.
Ta-n’ son, ddyn iach, nac ach-wyn,
Na chais na chymhorth na ch’wyn;
Gwel fod, hynod yw hyn,
Ddwy ffbrdd i ddyn amddiffyn, —
Ijn ffordd ia-n-n, gyfiawn a gwedd,
Tjn arall drwy anwiredd;
Oes eisio 11-^yddo a gwellhau,
Myn-wn it’ fyw fel minau.
A fo gwirion, a Llonydd,
Difalais, difantais fydd.
Lladrata, a fentra fyd,
Treia synwyr tros enyd.
Dysg-wylia aur, dysgwyl wall,
Nac eiriach un nac arall;
Cofia wrth wraidd cyf’rwyddyd,
Cofia wrth fawl — cyfraith fud;
Dyfeisia, gwylia gil’wg
I bawb di aw gwybydd bob drwg;
Daioni na wna di yn d’oes,
I’r un dros golli’r einioes.
Pâr d’adnabod lle rhodi,
Rhag ofn gwna d’annhegu di.
Nid haws byw heddyw heb wâd,
Er a geir o wir gariad.
Os myui fyw yma’n faith,
Dos, ac yna dysg weniaith;
Ag ar weniaith bob gronyn
Dysg fedru bradychu dyn.
Dywed yn deg dy neges;
O’th law na ollwng mo’th les;
Dywaid bob geiriau duwiol.
A’th drais, a’th falais i’th fol;
Na âd i un wedi ei eni
Wybod mewn man dy amcan di,
Dyna’r ffbrdd i dreisiwr, ffwl —
Ef a addef ei feddwl.
Treisia’r gwan, nid traws y gwaith,
Trina gadarn trwy weniaith.
Gwna hyn oll ag ni cholli,
Trwy dwyll draw ymdaraw di.
Gwna ddrwg heb ei ddiwygiaw,
Iti, ddyn, byd a ddaw,
Ni chaf ’chwaneg fynegi,
Y ffordd arall deall di.
Ci a welaf i’m ca’lyn,
Nid hawdd im’ siarad ond hyn;
Nac aros yn min gorallt —
Pfarwel, — rhaid im’ íToi i’r allt l
Cywydd arall o wiath yr un Awdwr ar yr ttn testyn.
Y Bardd.
Y Llwynog, a’r lliw anhardd,
O flaen hyn fu lân a hardd;
Ai ti, hwyliwr at helynt,
Is gallt a welais I gynt!
Te’th newidiwyd, wynllwyd wedd,
Dy amheu ’rwyf, dyma ryfedd!
Y Llwynog.
Un ydwyf a newidiwyd,
Myfi heddy w sy’ ar lliw llwyd;
Newidiodd amser wedi,
Ac yn hwn newidiwn ni;
Fy ngwisg ban yn fuan fodd
Dda fawrglod a friglwydodd.
Fy nanedd blin fuchedd fu,
Ffaelio wnaethon’ a phylu;
Rhai yn adwy aeth o’r ên hon,
A rhai heddyw yn rhyddion.
Fy winedd a fu enyd,
Llymion a chryfion uwch rhyd,
Gan gerig o frig y fron
Hyd y fyn y darfuon’.
Bu fy nhraed, buan i rhedynt,
Yn tramwy nos — trymion ŷnt.
Fy ngolwg, gwn fy’ ngwaeledd,
A’m clywed aeth waeth-waeth wedd.
Fy’ amser yn ofer un wedd,
A weriais mewn anwiredd.
ChwimwtlL fum, droed a chymal,
A heddyw’n wir hawdd yw’n nâl:
Pob gŵr, pob bachgen, pob gwas,
Pob dyn o amgylch pob dinas,
Pawb a rydd is glaswydd glyn
Ar f’ol waedd (oerfel iddyn’);
Pob pî a fydd i’m ’spio,
Pob brân o gwmpas pob bro;
Ar dir, pob rhyw aderyn
A’m dengys, hysbys yw hyn.
Mae dialedd i’m dylid;
Er hyn, gwaeth na’r rhain i gyd,
Fy nghydwybod sydd yn codi
Mawr boen waeth i’m herbyn I; —
I’m hir gyhuddo mae hon
Yn dyst fal mil o dystion.
Ni chaf, Och y fi! heno
Un dryll cyntun tremyn tro
Na bwy’n gweled lle rhedwn,
F’aelodau’n garpiau gan gŵn.
Cefaist gynghor, o cofi,
Yna i fy w genyf fi.
0 ystyrio holl ystryw hwn
Llai oedd nag oll a wyddwn.
Ni fynwn â hwn enyd
1 bawb ei wybod o’r byd.
Gwnaethost yn nysg mawrgost maith,
Ganu fy moliant ganwaith.
Cefais air byth fe’m cofir,
A sôn am dana ’mhob sir;
Tjn gair gan inau dan gof
A gei’n wir, o gwnei erof,
Caria i bawb, câr ei bod,
Ddiball, ddilwgr, gydwybod —
Trysor dda i gael ni ff’aelia,
I ddyn yw cydwybod dda.
Fe gaiff lle yr eiff” Uwyr iach
Nis metha hun esmwythach;
Gwell trysor, gwall y w treisiaw,
I ddyn ryw ddiwrnod a ddaw.
Cydwybod lân ddianair.
(Gwae lid ffol a golud ffair)
Nid ofna ryfel gelyn;
Er gwan na chryf gwn na chryn,
Nac a ddêl ysbail. asbriw
Yn ei dai yn enw Duw.
Nac a ofnith mo’i gefnu,
Da ei ffydd yn y dydd du. —
Os anesm-wyth llwyth y’ch Llog
Dau waeth cydwybod euog;
Swmbwl dibwl cydwybod
Sydd ffin ei feithrin a’i fod.
Cna’ oer gwael yn cnoi’r galon,
Heb beidio ond hysio hon.
Ail pryf yn nghanol pren,
Moel dôn yn malu derwen.
Gwna’r tro a weddo i Avr
Na fydd fawr frwydydd fradwr.
Mados bellach ymadael
Oyn ffoi i’r allt, can’ ffarwel;
’Rwyf fi yn ofnog o’m gogylch,
Clywaf sŵn y cŵn o’m cylch.
Einion ap Gwalchmai a Rhian y Glasgoed: Dameg
Einion ap Gwalchmai ap Meilir o Drefeilir yn Mon, a briodes Angharad ferch Ednyfed Fychan; ac efe un bore teg o haf yn rhodio coedydd Trefeilir canfu Eian dlosgain a thra hardd ei thyfiant, a manylbryd ei hwyneb a’i lliw, yn rhagori ar bob coch a gwyn yn ngwawr bore ddydd a manodmynydd, ac ar bob harddliw yn mlodeu coed a maes a mynydd. Ac yna efe a glywai ferw serch anfeidrol yn ei galon, a myned yn nes ati a wnaeth yn foneddigaidd ei foes; a hithau yn nesau ato yntau; ac efe a gyfarches iddi, a hithau a’i hadgyfarches yntau; a gwedi ymgyfarch tra serchogaidd rhyngddynt, efe a weles ei mwynder a’i thremiadau llygadlon, a gwybu y gallai â hi a fynai, a phorthi trachwant. Ac yna efe a edryches ar ei throed ac wele carnau yn Ue traed oedd iddi. Diglloni yn fawr a wnaeth efe, eithr hi a’i hatebes mai ofer oedd iddo ei ddigllondeb, ac ni thalai ronyn iddo. “Rhaid iti,” ebai hi, “fy nilyn i lle hena’r elwyf tra pharwyf i’m blodeu, canys hyny y sydd o’r serch fu rhyngom.” Yna efe a ddeisyfodd arni ro’i cenad iddo fyned i’w dŷ i gymeryd ei genad a “hanu’n iach i Angharad ei wraig, a’i fab Einion. “Myfi.” ebai hi, “a fyddaf gyda thi yn anweledig i bawb onid i ti dy hunan; dos, ym-wel a’th -wraig a’tti fab.” A myned a wnaeth. ef, a’r Ellylles gydag ef, aphan-weloddef Angharad efe a’i gwelai yn wrach mal un wedi gorheneiddio; ond cof dyddiau a fuont oedd ynddo, a thraserch ati fyth, ond nis gallai ymddatod o’r rhwym oedd amo. “Y mae yn rhaid imi ymadael,” ebai ef, “dros amser nas gwn pa hyd â thi, Angharad; ac â thithau, fy mab Einion;” a chydwylaw a Wtiaethant, a thori modrwy aur rhyngddynt a wnaethant — efe a gedwis un haner, ac Angharad y llall — a chydymganu’n iach awnaethant, amyned gyda Rhian y Glasgoed a wnaeth ef, ac ni wyddai i b’le, canys hud gadarn oedd amo; ac ni welai le yn y byd, na dyn o’r byd, na pheth o”r byd, pa bynag, yn ei wir wedd a’i liw, ond yr haner modrwy yn unig. Ac wedi bod yn hir o amser, nis gwyddai pa hyd’, gyda’r Ellylles, sef Rhian y Grlasgoed, efe a fwris olwg un pen bore pan oedd yr haul yn codi ar yr haner modrwy, ac a feddylis ei dodi yn y man anwyylat ganddo yn nghylch ei gorph, ac yna ei dodi tan amrant ei lygad. Ac fel yr oedd efe yn ymegnio gwneuthur hyny, efe a welai ŵr mewn gwisg wen, ac ar farch gwyn manodliw, yn dyfod ato; a’r gwr hwnw a ofynes iddo pa beth yr ydoedd ef yn ei wneuthur yno, ac efe a ddywed wrtho mai adgofio’n glwyfus am ei briod Angharad yr ydoedd. “A chwenychit ti ei gweled,” ebai’r Gwr Gwyn. “Chwenychwn,” ebai Einion, “yn fwyaf o holl bethau a gwynfydau’r byd.” “Os felly,” ebe’r Gŵr Gwyn, “esgyn ar y march hwn wrth fy ysgil.” A hyny a wnaeth Einion; a chan edrych o’i amgylch, ni welai efe drem yn y byd ar Eian y Glasgoed, sef yr Ellylles; eithr ol carnau aruthrol eu maint a’u hanferthwch fel ar daith tua’r Gogledd. “Pa orbwyll sydd arnat?” ebe’r Gŵr Gwyn; ac atebodd Einion ac y dywed oll mal y bu rhyngtho â’r Ellylles. “Cymer y flfon wen hon i’th law,” ebe’r Gŵr Gwyn, ac Einion a’i cymeres. A’r Gmt Gwyn a erchis iddo ddymuno a fynai ac efe a gai ei weled. Y peth cyntaf a ddymunes ef oedd cael gweled Rhian y Glasgoed, canys nid oedd efe hyd yma wedi llwyr ymryddhau o’r hud; ac yna hi a ymddangoses yn widdones, erchyllbryd anferthol eimaint, canmilmwy aflan ei gwedd na’r aflanaf o bethau aflan a welir ar glawr daear. A rhoddi bloedd ofnadwy gan ddychryn a wnaeth Einion. A’r Gŵr Gwyn a fwries ei wisg dros Einion, ac mewn Nai na gwingciad y disgynes Einion fal y dymunes ar Gefn Trefeilir, ar ei dŷ ei hunan, lle nid adnabai ef nemawr o ddyn, na neb yntau.
Yr Ellylles gwedi myned oddiwrth Einion ap Gwalchmai, myned a wnaeth hi hyd yn Nhrefeilir, yn rhith gŵr urddasol o bendefig arglwyddaidd breninol, yn hardd a thi-a chostus ei wisg, ac yn anfeidrol y rhif ar ei aur a’i arian, ac yntau yn mlodeu ei oedran, sef deng mlwydd ar hugain oed; ac efe a ddodes lythyrynllawAnghai’ad, acyn hwnw dywedid fod Einion gwedi marw yn Llychlyn er’s mwy na naw mlynedd, ac yna dangos ei aur a’i urddasoldeb i Angharad a wnaeth; a hithau wedi bwrw Uawer o’i hiraeth ymaith yn nghyfangoll amser, a wrandewis ar ei lafar serchogaidd ef, a’r hud a syrthwys arni, ac o weled y gwnelid hi yn bendefiges urddasol dros ben, hi a enwis ddydd i ymbriodi ag ef. A bu parotoad mawr o bob hardd a chostus wisgoedd, a bwydydd a diodydd, ac o bob ardderchog o wahoddedigion urddasol, a pjiob rhagorgamp cerddorion a thant, a phob darpar ac arwest llawenydd. A gwedi gweled o’r pendefig urddasolbryd a theg rhyw delyn harddwych yn ystafell Angharad, efe a fynai ei chanu; a’rtelynorion oeddyntyno (goreuongwladCymru) a geisiasant ei chy weiriaw, ac nis gallent. A phan ydoedd pob peth mewn parotoad i fyned i’r Eglwys, fe ddaeth Einion i’r tŷ, ac Angharad a’i gwelai ef yn hen gleiriach gwywllyd blorynwallt yn crynu gan oedran, ac yn wisgedig â charpiau; a hi a ofynes iddo a drothai ef y berw tra pobit y cig. “Gwnaf,” ebe ef; ac aethyn nghyd â’r gwaith a’i ffon wen yn ei law, ar wedd gŵr yn dwyn flfon fendigaid. A gwedi paratoi ciniaw, a phawb o’r cerddorion yn ffaelu a chyweiriaw’r delyn i Angharad, y codes Einion ac a’i cymerth yn ei law, ac a’i cyweiriodd, ac a chweris ami gainc a garai Angharad, a synu yn anfeidrol a wnaeth hi, a gofyn iddo pwy ydoedd. Yna yr atebodd ef gân ac englyn fel hyn:—
Einion aur galon y’m gelwir — o gylch
Fab Gwalchidai ap Meilir;
Fy bud ehud, bu ohir,
Drwg y nhyb am drigo’n hir.
Pa le y buost ti?
Yn Ngbent, ac yn Ngwent, yn Ngwydd, — yn Mynwy,
Yn Maenol Gorwenydd;
Ac yn Nyffryn Wynn ap Nudd.
Gwel yr aur, gloey w yw’r arwydd.
A rhoddes iddi’r fodrwy.
Nac edrych, lewyrch goleuwyn — y gwallt
Lle bu gwyllt fy nhremyn;
Llwyd heb gel lle bu felyn —
Blodeu’r bedd— diwedd pob dyn.
Y blaned fu’n hir i’m blino— madwya
I’m ydoedd niweidio;
Ni chad Angharad o ngho’ —
Eingan aeth i ti’n angho’.
Eithr nis gallai hi ei atgofio. Yna y dywed ef wrth y Gwahoddedigion:--
Os collais a gerais, deg eirian — ei nwyf
Merch Ednyfed Fychan,
Ni chollais, ewch chwi allan,
Na’m gwely, na’m tŷ, na’m tân.
Ac yna rhoi’r ffon wen a wnaeth yn llaw Angharad, a H a welai yr Ellyll, a welsai hi o’r blaen yn bendefig urddasol, yn anghenfil anfeidrol ei anferthwch, a llewygu gan ei ofn a wnaeth hi, ac Einion a’i hymgeleddes. A phan agores hi ei llygaid nis gwelai yno na’r Euyll, na neb o’r Gwahoddedigion, na neb o’r cerddorion, na dim yn y byd ond Einion, a’i mab, a’r delyn, a’r tŷ yn ei drefn gartrefol,a’r ciniaw ar y ford ac eistedd i lawr i’w fwyta a wnaethant Einion, ac Angharad, a’u mab Einion, a mawr iawn oedd eu llawenydd, a gwelsant yr hud a roddes yr Euyll cythreulyw arnynt.
Ac oddiwrth hud o ddigwyddgwelirmai serch ar degwch a mwynder rhianaidd yw yr hud mwyaf ar ŵr; a thrachwant urddas a’i rodres a’i gyfoeth yw’r hud mwyaf ar wraig; ac nis anghofia gŵr ei wraig ’briod oni edrycho efe ar degwch merch arall; na gwraig ei gŵr priod onis edrych ar gyfoeth a golud, ac anrhydedd o rodres arglwyddaidd a gwychder balchineb. Ac felly y terfyna.
HojÁ-in a-p Tlwmas o Dir Gwyr ab gwnaeth, ebe’r Iolo MSS.
Jac y Lantern
(^Oddiar Lafar Giulad.J Y PETH a glywais ganwaith, a ysgrifenaf unwaith. Er’s llawer dydd, yr oedd hen ŵr yn by w ar fynyddoedd Arfon aadwaenid wrth yr enw Sion Dafydd, Bwlch y Ddauafaen. Mae y Bwlch hwnw agos i haner y ffordd rhwng Llanbedr ac Abergwyngregin. Ond at yr hen ŵr a’i hanes. Yr oedd Sion Dafydd yn cyfeillachu llawer byd âg un o blant y p-wll diwaelod, nes y byddent yn cyfarfod a’u gilydd yn rhyw fan y naill ddydd ar ol y llall. Pa fodd bynag, yr oedd Sion ryw fore ar ei daith i Lanfair Fechan, a flfust ar ei ysgwydd, gan fod ganddo dir llafur yno. Ond beth a’i cyrfarfyddodd ond ei hen gyfaill o’r pwll diwaelod, a chŵd ar eigefn, a dau o’r tylwyth bach ynddo o’r un rhywogaeth ag ef ei hun. Dechreuasant ymddiddan a’u gilydd am y peth hyn a’rpeth arall, ond cwympasaut allan a’u gilydd, ac o fygwth aed i daro, a tharo a wnaethant na fu erioed fath ymladdfa. Yr oedd Sion yn dyrnu yn ddigydwybod â’r fiFust, a dyrnu a wnaeth nes aeth y cŵd yn yfflon mân ar gefn ei wrthwynebydd; a diangodd y ddau oedd yn y cŵd nerth eu traed, neu eu hadenydd, i Eywgyfylchi, a dyna’r amser y gwnaed y Ue hwnw yn waeth nag un lle arall trwy i blant y tywyllwch fod yno yn trigo.
Yna aeth Sion i’w daith yn llawen; a bu yspaid maith o amser cyn iddo gyfarfod â’i elyn drachefn. Ond cyfarfod a wnaethant, ac ar y cyntaf edrychai’r ddau yn Ued ddigofus ar eu gilydd. Y tro hwn, yr oedd Sion yn myned i hela â dryll (gwn) ar ei fraich. Ond, er y cyfan, gofynodd y diafol beth oedd ganddo ar ei fraich, ac atebodd Sion mai pibell oedd, ac mai’r bai mwyaf arni oedd ei bod yn drom iawn. “A ga’i fygyn o honi?” ebai’r Hen Fachgen. “Cei,” ebai Sion; a chyda’r gair rhoddi ffroen ygwn yn ngheg y diafol, a thynnu’r trigger a wnaethSion; a dyna’r ergyd fwyaf ei thrwst a glywwyd ar wyneb daear erioed. “Àch — tŵ — tŵ! “meddai’r ysmociwr, “mae rhywfrychamelltigedigynddo; acymaith ag ef fel mellten na wyddai neb i b’le; a meddyliodd Sion y cawsai waredigaeth oddiwrtho am byth wedi ei saethu fel hyn.
Ond, yn mhen yspaid maith o amser, cyfarí’yddodd ag ef wed’yn ar ddull gŵr boneddig; ond deallodd Sion mai y Twyllwr ydoedd; ac eto gwnaeth fargen ag ef y pryd hwnw y bu yn edifar ganddo o’r herwydd tra fu byw ar y ddaear, sef gwerthuei hun iddo am ryw swm mawr o arian, a’r rhai hyny ar ei law; ond ar yr amod hefyd, os gallai gael gafael mewn unrhyw beth, y byddai’n rhaid i’r diafol ei ollwng yn rhydd drachefn. A thrwy yr amod hwn gwaredwyd ef lawer tro. Ond unwaith daeth ar warthaf Sion yn ddisymwth, panoeddef yn nghylch eiorchwyl yn garddu. Cipiodd ef i fyny rhwng nef a llawr; ac yr oedd Sion wedi rhoddi pob gobaith o’r neilldu bron, pan feddyliodd am ofyn cenad i droi yn ol er mwyn cael afal i’w Blpian yn ngwlad yr haner nos; ac i hyny cytunwyd, ac yn ol â hwy. Pan ddaethant at y coed afalau’dyna Sion yn lygio’n ffast yn un o’r prenau; a bu raid i Dywysog Llywodraeth yr Awyr ei ollwng yn rhydd drachefn. Ac er ceisio lawer gwaith wed’yn methodd a’i gymeryd oddiar y ddaear hon; a chan ei fod yn rhy ddrwg i fyned i wlad y gwynfyd, a’i wrthwynebydd wedi methu ei gymeryd trwy fodd nac anfodd i wlad y poenau, y fo ydyw Jac y Lantebn; ac os gwir y chwedl, mi a’i gwelais lawer gwaith — er ei fod yn hen, y mae yn hen ŵr sionc eto. Oddiwrth henfrawd oLanbedr y Cenin.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), a gasglwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrecsam: Hughes and Son, 1862). Sgan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Iolo Morganwg, Bardd Rhyddid
Saer maen o Fro Morgannwg na fu erioed mewn ysgol, ac a roddodd i Gymru Orsedd y Beirdd, llyfrgell o lawysgrifau a achubwyd, tair mil o emynau a llais yn erbyn caethwasiaeth.

Y Mabinogi: y llyfrau a gadwodd chwedlau Cymru
Mae Cymru wedi cadw ei straeon mwyaf ers naw can mlynedd. Dyma sut: storïwyr y llysoedd brenhinol, awdur anhysbys y Pedair Cainc, dau lyfr mawr a ysgrifennwyd i ddau uchelwr o Gymro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a merch ifanc o Saesnes yng ngwaith haearn Dowlais a ddysgodd Gymraeg ac a roddodd y chwedlau i’r byd.

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Y Gymru Ddiwydiannol
Haearn, glo, llechi a chapel; gwrthryfeloedd, terfysgoedd a chenedl wedi’i hail-lunio mewn un ganrif.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Iolo Morganwg hyd Jac y Lantern’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/cymru-fu-iolo-morganwg.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (3)
- Tudalen o Lyfr Coch Hergest (Coleg Iesu, Rhydychen, MS 111), a ysgrifennwyd tua 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Cwch camlas yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte Telford, ymhell uwchben dyffryn Dyfrdwy — Adrian Pingstone · Parth cyhoeddus
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth