

Hanes Cymru / Llyfrgell / Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru
Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru
Y dechrau: sut y daeth y Brytaniaid i’r siroedd hyn
Y dechrau: sut y daeth y Brytaniaid i’r siroedd hyn: y penillion hyn, y Gymraeg wrth ochr y Saesneg, o Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru.
Llun: Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda’r tair sir ar ddeg a wnaed dan Ddeddfau Cyfreithiau yng Nghymru · XrysD, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Dechreu.
Gwrandewch yn bwyllig oll heb pallu,
Cewch glywed Hanes siroedd Cymru,
Rhyw awch alar y rhai a chwaled;
Briwiau tynn ir hên Fryttanied.
Trwy Wraig y Daeth y Pechod Cyntaf,
A Llygredigaeth ir Byd yma;
A hwnnw yn annoeth sydd yn Ennyn,
A hên gilwg yn ei ganlyn.
Am ffiaidd waith Aflendid creulon,
Trachwant trythill Daiarolion;
A wnaeth trwy Wastraff ddyfod dystryw,
I foddi 'r Byd ar Dyfroedd Dilyw.
O achos pechu'n felltigedig,
Yr aeth Sodom yn golledig,
Pan achubwyd Lot ai Dylwyth,
Ar llaill yn cael eu llosci'n danllwyth.
Am Wraig y llygrodd yr hên Reuben
A Juda'n feddw ei Waudd heb amgen,
Lladdfa Sichem o achos Dinah.
Twyllo Sampson y Gwr cryfa.
Am wraig y lladdodd yr Israeliaid,
Ond chwechant y Benjaminiaid.
Ei gwraig gwnai Herod oedd ddihirwr,
Di fri pen St. Joan Fedyddiwr.
Ac felly am Helen y wraig lana,
Y Distrywyd Tref Gaer-Droia,
A gyrru'r Cymru anafu Nifer,
Y gweddill agos i Dir Lloeger.
O waith ein Brenin mewn môdd atcas,
Halogi a thorri glân Briodas;
A chym'ryd Merch i un Hengist Ddistain,
A'naeth y brâd i ynys Brydain.
Pechodau mawrion a wnaeth dramgwydd,
Am i ni'n ddygyn ddigio 'r Arglwydd,
A'n gyrru'n siwr i hyn o Siroedd,
Rhyw draws târ a rhai dros Foroedd.
Terfyn.
Bob amser arfer yrfa yn gyfan,
I gosio Duw'n benna,
Ai Fendithion Doerhion da,
Dewr aml ar Dir yma.
Crêd yn y Duw byw tra by'ch o'r Galon,
A galw arno yn fynych;
Cofia 'daw y Rhaw a'r Rhych,
Oll yn wael lle ni welych.
Y Bêdd yw diwedd pob Dyn i'r Cnawd
Er cnwd o Aur melyn;
Yr Einioes bob yn ronyn,
I own o glai yno glŷn.
Hyd Farn yn Gadarn pan godir, Meirw,
Y Moroedd a holltir;
O'r byd hwn i'r bywyd hir,
A geir yno gwae'r anwir.
D. T.
Fy nghyfieithiad Saesneg fy hun
The Beginning.
Listen calmly, all of you, without fail,
You shall hear the story of the shires of Wales,
The keen grief of those who were scattered;
Sore wounds to the old Britons.
Through a Woman came the First Sin,
And Corruption into this World;
And that, unwisely, still kindles,
With an old scowl following after.
For the loathsome work of cruel Uncleanness,
The lustful greed of earthly folk,
Brought destruction through their Waste,
To drown the World in the Waters of the Flood.
Because of cursed sinning,
Sodom was lost,
When Lot and his Household were saved,
And the others were burnt in a blaze.
Over a Woman old Reuben was corrupted,
And Judah, drunk, with his Daughter-in-law, no less;
The slaughter of Shechem because of Dinah;
The deceiving of Samson, the strongest Man.
Over a woman the Israelites slew
All but six hundred of the Benjamites.
His wife made Herod, the villain,
Take off the head of St John the Baptist.
And so for Helen, the fairest woman,
The Town of Troy was Destroyed,
And the Welsh were driven, a Number wounded,
The remnant to near the Land of Lloegr.
Through our King's deed, in hateful manner,
Defiling and breaking holy Marriage,
And taking the Daughter of one Hengist the Steward,
The treason of the isle of Britain was done.
Great sins caused offence,
Because we sorely angered the Lord,
And we were driven, surely, into these few Shires,
Some across land and some over the Seas.
Conclusion.
At all times make it your whole course
To set God highest,
And His good, generous Blessings
Will be bold and plentiful on this Land.
Believe in the living God, while you live, from the Heart,
And call on Him often;
Remember the Spade and the Furrow will come,
All lowly, where you shall see nothing.
The Grave is the end of every Man in the Flesh,
For all his crop of yellow Gold;
Life, grain by grain,
Clings there in its own clay.
Till the mighty Judgement, when the Dead are raised,
And the Seas are split;
From this world to the long life,
There it shall be found: woe to the false.
D. T.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Dafydd Thomas, Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru … At yr hon y chwanegwyd Tair o Gerddi Dwyfol (Argraphwyd yn y Mwythig gan J. Eddowes, y 1700au), 24 tudalen, wedi’u codi gennyf i o luniau’r tudalennau. Sgan: archive.org/details/hanestairsirardd00thom
Saesneg: Fy nghyfieithiad fy hun, a wnaed i’r dudalen hon
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Y Cymry a Llwythau Coll Israel: Hen Gred Enwog am Ddechreuadau’r Cymry
Am dri chan mlynedd bu ysgolheigion a phregethwyr Cymru’n chwilio am ddechreuadau’r Cymry yn y Beibl: yng Ngomer fab Jaffeth, mewn geiriau Hebraeg a glywent yn y Gymraeg, ac yn y diwedd yn llwythau coll Israel, a gludwyd ymaith gan Asyria. Yr Obelisg Du a thŷ Omri, y Cimeriaid, Charles Edwards, Theophilus Evans, tabl o eiriau Cymraeg a Hebraeg, a gwir ystyr yr enw Cymry.

Cofiwch Epynt: clirio’r mynydd, 1940
Yn haf 1940 cymerodd y Swyddfa Ryfel Fynydd Epynt ym Mrycheiniog yn faes tanio. Gorfodwyd 219 o bobl o 54 o gartrefi, cymuned Gymraeg gyfan gyda’i chapel, ei hysgol a’i thafarn, i adael, ac nid aethant byth yn ôl. Hanes pobl y mynydd, a sut y mae Cymru’n eu cofio.

Oes yr Adfywiad
Ysgolion ym mhob plwyf, deffroad mawr, emynau, ysgolheigion, telynorion a’r eisteddfod wedi’i haileni.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Y dechrau: sut y daeth y Brytaniaid i’r siroedd hyn’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/hanes-tair-sir-opening.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Y Brenin Jehu, ‘mab Omri’, yn penlinio gerbron Shalmaneser III o Asyria, ar yr Obelisg Du o Nimrud, tua 825 CC — Steven G. Johnson (British Museum) · CC BY-SA 3.0
- Tir fferm tonnog ar Fynydd Epynt — Alan Hughes · CC BY-SA 2.0
- Y Bala o’r awyr, a Llyn Tegid yn ymestyn y tu ôl i’r dref — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth