

Hanes Cymru / Llyfrgell / Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru
Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru
Llydaw a’r Cyllyll Hirion, a chyngor rhag tyngu
Llydaw a’r Cyllyll Hirion, a chyngor rhag tyngu: y penillion hyn, y Gymraeg wrth ochr y Saesneg, o Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru.
Llun: Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda’r tair sir ar ddeg a wnaed dan Ddeddfau Cyfreithiau yng Nghymru · XrysD, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Dechreu.
Mae Rhai o'r Cymru'n byw yn ddistaw,
Gynt a lediwyd i Dir Llydaw!
Ni wnânt yn filain ddim Rhyfeloedd;
Yno er eitha neb rhyw Jeithoedd.
Mae Gwlad y Cymru'n anian gynwys,
A fu'n rainio dros yr ynys,
Bymtheg Cant o flwyddau hirion,
Cyn dyfodiad neb o'r Saeson:
Er cael o'r Season trwy gyfrwystra,
Olud aml y Wlad yma,
Daw dial cofus gan Dduw cyfion,
Oll o herwydd Cyllill hirion.
Rhoed i ni rybudd Diharebion,
Fod Duw'n gwared y rhai gwirion,
Er iddo eu cospi i'w puro'n rhyfedd,
Hwy a gânt ragoriaeth o'i Drugaredd.
Fe ddywed rhai'r awn mewn amser,
Yn ein hol i fyw i Loeger,
Nis gwyr neb ond Duw'n ddie,
Ein diweddiad rhaid yw adde.
Fel dyna hanes Gwlad ein hyna,
A fu 'n byw yn Lloeger a Chaerdroia,
Rhown Weddi i gyd ar Dduw yn gadarn,
Am Râs a Heddwch fyth hyd Ddydd-farn.
Os Daw gofyn pwy a'i canodd,
Dyn yn fanwl a'i trafaeliodd,
Yn rhoi o arwydd ar ei Eiriau,
Y gwir heb goll yn orau y galleu.
D. T.
Cyngor i Annog Pobl i bedio a Thyngu; ac i gadw'r Sabboth yn well nac y maent yn Nghymru.
Gwrandewch Gynghorion purion parod.
I gyd yn gyson gwedi eu gosod
Rhag Llyfon gwiliwch sydd o'r gwaelod,
Mor ddrwg yn tyfu ar flaen y Tafod.
Rhai'n Tyngu a maldar efo eu medd-dod
A'r llaill yn surion am eu sorod,
Marw ddrwg anial ddyfal Ddefod,
Sydd yn eu bachu ac aml Bechod.
Bydd Ostyngedig ddiddig ddigon,
Ofna heb gilwg Dduw'n dy Galon
Nag arfer lêf ac ofer Lyfon,
Gwna fel doeth-was drwy Fendithion.
Y Doeth a deithia i'r golau gwelwch,
Yn athro i'w Frodyr trwy hyfrydwch
A'r ffôl fel Dall a â i dywyllwch.
Ni wna ddehori oi ddihirwch.
Y rhai sydd ffyddlon Weision Jesu,
Enwog wrol yn ei garu;
Ni arferant angall eiriau Tyngu,
Ond plant y fall sy'n gwneuthur felly.
Araith dda sy'n Euro eu Thylwyth,
Hwy fyddant wedi'n oesi'n Esmwyth,
A'r anudonllyd â yn danllwyth,
Llwm eu rwydau lle y mae'r Adwyth.
Pa ham mewn gwasc y disgwil Dynion;
Ar Dduw eu gwared fel rhai gwirion,
Pan yn ffrom-wyllt yr offrymmon,
I'r Ddraig eu Eneidiau i ddrwg anudon?
Dynion llegis er bôd llygaid,
Heb geisio gwilio i allu gweled,
A rhy glaear chwaith i 'mglywed,
Gyngor Genau Duw Gogoned,
Ni wiw am Gyngor gwn mo 'i Gynnig
Gan wall adwyth i golledig,
Ni waeth curo wrth un or Cerrig,
Na dweud i Nasiwn ry wrthnysig.
Diystyru'r Sabbath mae'n bossibol,
Chware a thyngu ymdeuru dirol,
Heb Edifeirwch i'r Daiarol,
Hynny at ffyrnig wlad Uffernol.
Cadw'r Sabbath yn sancteiddiol,
Na ymyr am Eiriau i wâg ymorol;
Ni wna budr siarad Bydol,
Fyth wasanaeth Defosionol.
Bydd ar Suliau y borau'n barod,
I ddarllain, gwrando ar eiriau'r Drindod,
Dod am y fawr-daith dy Fyfyrdod,
Mewn ufudd awch am Nefoedd uchod
Myfyria'nghyfraith eurglyw'r Arglwydd
Abl hawl y Bibl hylwydd.
Sy'n cyfeirio sŵn cyfarwydd;
Oll a didwyll i le dedwydd.
Cofia'n sad ddiweddiad Dyddiau,
Yn Wr da lanwaith ar dy liniau;
A Gweddi buraidd nôs a Borau.
O ran mor yngwrth y daw'r Angau.
Duw tro ni o gamwedd oll yn gymwys
I rodio Llwybrau golau gwiwlys,
I gael drwy wirffydd fynd i orphwys,
I'r buredig uwch Baradwys.
Dafydd Thomas a'i Cant.
Cariad heb ddim brâd i'n brô, rhwng Dynion,
A Duw a'i danfono,
Gwir heddwch a gyrhaeddo,
Oes gyfan grauan a grô.
Gogoniant Foliant yn filoedd, fyth,
A fytho i Dduw'r Nefoedd;
Trwy fawl râd i'r Tri fel 'roedd,
Naws eusoes yn Oes Oesoedd.
DIWEDD.
Fy nghyfieithiad Saesneg fy hun
The Beginning.
Some of the Welsh live quietly,
Who were led of old to the Land of Brittany!
They make no Wars cruelly,
There, for all the efforts of any Nations.
The Land of the Welsh is by nature roomy,
Who reigned over the island
Fifteen Hundred long years,
Before the coming of any of the Saxons:
Though the Saxons got, through cunning,
The ample Wealth of this Land,
A remembered vengeance will come from just God,
All because of the Long Knives.
We have been given warning in Proverbs
That God delivers the innocent;
Though He punish them to purify them wondrously,
They shall have excellence from His Mercy.
Some say that we shall go, in time,
Back to live in Lloegr;
No one knows but God, surely,
Our end, we must confess.
So that is the story of the Land of our elders,
Who lived in Lloegr and Troy;
Let us all Pray to God steadfastly
For Grace and Peace for ever till Judgement-day.
If anyone asks who sang it,
A Man who travelled it carefully,
Giving a sign in his Words,
The truth without fault, as best he could.
D. T.
Counsel to Urge People not to Swear, and to keep the Sabbath better than they do in Wales.
Hear good and ready Counsels,
All set down in order;
Beware of Oaths, which come from the pit,
Growing so evil on the tip of the Tongue.
Some Swear and babble in their drunkenness,
And the others sour over their dregs,
A deadly, wild, persistent Habit,
That hooks them with many a Sin.
Be Humble and content enough,
Fear God, without a scowl, in your Heart;
Do not use loud cries and vain Oaths,
Do as a wise servant, through Blessings.
The Wise travels to the light, you see,
A teacher to his Brothers through delight,
And the fool, like a Blind man, goes into darkness,
He will not turn from his wickedness.
Those who are faithful Servants of Jesus,
Famed and brave in loving Him,
Use no foolish words of Swearing;
Only the children of the devil do so.
Good speech gilds its Household,
They shall live their lives at Ease,
And the perjurer goes into the blaze,
Bare are their nets where Misfortune is.
Why, in distress, do Men expect
God to deliver them as innocents,
When in hot-headed rage they offer
Their Souls to the Dragon through evil perjury?
Men are blind though they have eyes,
Not seeking to watch so they may see,
And too lukewarm, too, to hear
The Counsel of the Mouth of glorious God.
It is no use, I know, to Offer Counsel
To one lost through harmful fault;
You might as well knock on one of the Stones
As speak to a Nation too stubborn.
Despising the Sabbath, it is possible,
Playing and swearing and earthly vaunting,
Without Repentance, for the Earthly man,
Leads to the fierce land of Hell.
Keep the Sabbath holy,
Do not busy yourself with Words in empty seeking;
Foul Worldly talk will never make
A Devotional service.
Be ready on Sunday mornings
To read, to listen to the words of the Trinity,
Set your Meditation on the great journey,
In obedient longing for Heaven above.
Meditate on the golden-sounding law of the Lord,
The rightful claim of the blessed Bible,
That points the way with a guiding sound,
All the sincere, to a happy place.
Remember steadfastly the end of Days,
A good, clean Man on your knees,
And pure Prayer night and Morning,
Because Death comes so near.
God, turn us all rightly from wrongdoing
To walk bright and worthy Paths,
That by true faith we may go to rest
In the purified high Paradise.
Dafydd Thomas sang it.
Love without any treachery in our land, between Men,
May God send it,
May true peace reach us
For a whole age, every grain of gravel.
Glory and Praise in thousands, ever,
Be to the God of Heaven;
Through gracious praise to the Three, as it was,
In the same spirit, for Ever and Ever.
THE END.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Dafydd Thomas, Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru … At yr hon y chwanegwyd Tair o Gerddi Dwyfol (Argraphwyd yn y Mwythig gan J. Eddowes, y 1700au), 24 tudalen, wedi’u codi gennyf i o luniau’r tudalennau. Sgan: archive.org/details/hanestairsirardd00thom
Saesneg: Fy nghyfieithiad fy hun, a wnaed i’r dudalen hon
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Iolo Morganwg, Bardd Rhyddid
Saer maen o Fro Morgannwg na fu erioed mewn ysgol, ac a roddodd i Gymru Orsedd y Beirdd, llyfrgell o lawysgrifau a achubwyd, tair mil o emynau a llais yn erbyn caethwasiaeth.

Llyfrau Gleision 1847: Brad y Llyfrau Gleision
Yn 1847 barnodd tri bargyfreithiwr o Saeson heb air o Gymraeg ysgolion, capeli, iaith a merched Cymru, ac argraffodd y llywodraeth eu dedfryd mewn tair cyfrol las. Sut yr atebodd Ieuan Gwynedd, Jane Williams, Thomas Phillips ac R. J. Derfel hwy, sut y ganed yr enw Brad y Llyfrau Gleision, a sut y profodd Cymru eu bod yn anghywir gyda’r Gymraes, ysgolion Brutanaidd Hugh Owen a’r brifysgol yn Aberystwyth.

Oes yr Adfywiad
Ysgolion ym mhob plwyf, deffroad mawr, emynau, ysgolheigion, telynorion a’r eisteddfod wedi’i haileni.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Llydaw a’r Cyllyll Hirion, a chyngor rhag tyngu’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/hanes-tair-sir-songs.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Print o Iolo Morganwg (Edward Williams) yn eistedd gyda llawysgrif, gan Elijah Waring — Elijah Waring · Parth cyhoeddus
- Clawr cyfrol gyntaf y Llyfrau Gleision, Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of… — Welsh Department, Ministry of Education (1948) · OGL 3.0
- Y Bala o’r awyr, a Llyn Tegid yn ymestyn y tu ôl i’r dref — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth