

Hanes Cymru / Llyfrgell / Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru
Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru
Siroedd y De: Maesyfed i Benfro
Siroedd y De: Maesyfed i Benfro: y penillion hyn, y Gymraeg wrth ochr y Saesneg, o Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru.
Llun: Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda’r tair sir ar ddeg a wnaed dan Ddeddfau Cyfreithiau yng Nghymru · XrysD, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
Sir Faesyfedd. 52 Plwyfydd.
Nesa i hon yw Sir Faesyfaid,
Lle mae llawer jawn o Ddefaid,
Cwlybion Gaeau sychion Fynydd,
Rhywiog yw eu bryniau a'i bronnydd.
Gwair ac ydau Part o Goedydd,
Cryn fagwriaeth aml Fynydd;
O Pont y Clâs i Blwyr Bigeildu,
Y mae'r Gwlân rhywiocca Yng Nghymru.
Pob mâth ar Yd sydd yn hon yma,
Ond Bara Rhŷg yw'r ymborth amla,
Ymenyn Caws sy'n aml ynddi,
A bwyta yn Newyddion rai o'r rheini.
Saisnigaidd jawn yw'r Bobl hwythau,
A digon mwynion ym mhob mannau:
A rhai am ryw fatterion cwmbrus,
Yn mynd yn aml o flaen Ustus.
Rhan o waith y Merched cywrain,
Iw Nyddu peth iw rhaid eu hunain;
Trin eu gwlân i fynd ir Farchnad,
A gwau'r Hossannau oddeutu 'r Rhaid.
Sir Frecheiniog. 61 Plwyfydd.
Wrth ochor hon mae Sir Frecheiniog,
Mynyddoedd mawr ar mannau cribog,
Y Muallt Rhosydd Tiroedd oerllyd,
Rhai Mynyddau a Choedydd hefyd.
Tiroedd da a Choed diogel,
Or Gelli i Dalgarth Cerrig Hywel;
Ac o gwmpas Aberhonddu,
Dyna'r Dref gyfoethocca Yng Nghymru.
Ac yn hon mae Protestanied,
A thair Eglwys iddynt fyned;
Ond hyd eu Gwlad mewn amryw fannau,
Mae rhain Pregethu hyd eu Teiau.
Haidd a Gwenith, part o Rygau,
Caws a Ymenyn sydd mewn mannau;
Purion Bara Ceirch Diogel,
Ynghwmwd Muallt ac yn Llywel.
Gwna'r Merched hyn yn gofus gyfan,
Bob Gwaith Hyswi i mewn ac allan;
Gwau 'r Hossannau drwy'r holl flwyddyn,
O Lan-Fair hyd yn Aber-Gwesyn.
Sir Fynwy. 127 Plwyfydd.
Sir Fynwy ar hon sydd yn Terfynu.
Dy na'r Fro Gyfoethocca yng Nghymru,
Gwenith lawer jawn sydd ynddi,
Dyffrynnoedd têg oddeutu'r Fenni.
Gwair ac ŷd a llawn o Goedydd,
Porfa lâs ar lann afonydd;
Pob gwaith Heiyrn y sydd ynddi,
A llawer jawn yn mynd o honi.
Pob ŷd ond Rhŷg sy'n hon yn tyfu,
Ar Bara Gwenith goreu yng Nghymru,
Ychydig ymenyn a chaws caledion,
Cawl y cenni Diod ddigon.
Calch ir Tir a Glo ydwyw'r Tanwydd,
A hwnnw i spario llosgi'r coedydd,
Pobl weddol têg i ymddygiad,
A rhai'n ddylion am Addoliad.
Gwaith y Merched hyn yn union,
Nyddu rhai Gwlanenni meinion;
Trin sidir o'r Perllannau tewfrith,
A gweithio Heittiâu Gwell y Gwenith?
Sir Forganwg. 118 Plwyfydd.
Nesa i hon mae Sir Forganwg,
Ar Tai gan Galch yn Wynion amlwg,
Ugain castell a fu yno i fynu,
Am Lô a chagch mann llawna yn Nghymru.
Gwartheg mawr yn gôch a Brithion;
A blew crin a phennau crynion;
Glanweithia eglura Tref yng Nghymru,
Gloywa Tai yw Abertawy.
Bara Gwenith amla llafur,
O Dre Caerdyf i flaen Brôwyr,
Caws rhesymmol Ymenin dichlin,
Mewn Piccynnau Cawl y cennin.
Llawen Bobl ddoniol ddeunydd,
Mai Tylynnau ar Barwydydd;
Iddynt ganu wrth eu plesser,
Enw Dôn hîrfwyn dyna eu harfer.
Mae'r Merched hyn yn anian Esmwyth,
Yn trin eu Teiau yn lân iw Tylwyth,
Gwau Hosanau a chludo Glô i'r Llongau,
Gwneud Hettiau Gwellt wrth Abertawy.
Sir Gaerfyrddin. 87 Plwyfydd.
Mae Sir Gaerfyrddin nesã i hynny,
A honno o Dîr yw'r fwya yng Nghymru
Defaid lawer sydd yn bendant,
O amgylch Ystrad ffin a Phumsant.
Têg yw'r Tai sy 'n Nhref Gaerfyrddin,
O Heol Awst i strit y Brenin;
Ar Bag-Pipes sy 'n amla 'n Canu,
I'r Priodasau mwya 'ng Nghymru.
A phump o'i Threfydd ar Lan Tywi,
O Lacharn hyd yn Llanymddyfri:
Gwrychoedd union gwedi eu plannu,
Am hyn yw'r Hwsmyn goreu 'ng Nghymru.
Pob llafur lawer sy'n hon yma,
Bara Haidd a llêch yn amla,
Caws 'Menyn sy'n ei Goror,
A chawl Erfin yn ei dymmor.
Gwaith y Merched hyn yn union,
Brethynnau têg Gwlanenni breision,
Ac yn eu blaen yn gwau 'r Hosanau,
O Gaio hyd Gîl y Cwm ym Middfa.
Sir Aberteifi, 64 Plwyfydd.
Nesa i hon, Sir Aberteifi,
Plwm ac Arian lawer sy ynddi;
Mynyddoedd mawr a gwelltog meithion,
O Glydogau i ben Plumhumon.
Ceffylau a Defaid caledion beunydd,
Sy 'mhob cwrr or môr i'r mynydd;
Maen' hwy'n fuddiol jawn i feddu,
I'r sawl a'u pryno'n orau 'ng Nghymru.
Caws Ymenyn a chawl Erfin,
Ceirwch mân a Haidd a Rhygau dibrin,
Wrth fesur Têl am Fara i'w Tylwyth,
Gwerthu'r llall yn Aberystwyth.
Y Bobl hyn sydd yn rhy-drwm,
Pan ddel cydio ymaflyd codwm;
Hwy 'wnant yn fanwl ddal i fynu,
Ar Boneddigion hardda 'ng Nghymru.
Gwau Hosanau 'r Haf mae'r Merched rheini
At Ffeiriau 'r Rhôs gan lawer Hyswi,
Rhai Gwlanenni at eu pwrpas,
A phawb i'w Dylwyth Frethyn Dulâs.
Sir Benfro, 145 Plwyfydd.
Mae Sir Benfro yn nesa i hynny,
O Fôch ac Yd y lawna 'ng Nghymru,
Meusydd Mawrion sychion llydain,
Plauwydd union o'r Coed Du-ddrain.
Caws a 'Menyn sydd yn brinna,
Bîr a geir a'r Bara garwa;
Ym Mhenfro, Dinbych, Hwlffordd, Dewi,
Y Cig a'r Pyscod sydd i'w pelgi.
Mae 'r rhai'n yn Bobl jachus bybyr,
Heb geisio fawr o'i seigiau'n segur
Gan drin yr Yd yn bennaf beunydd,
A rhai'n ei gludo i lawer Gwledydd.
Mae rhai a'u gyrfa tu ac Arfon.
Hyd gwr y Môr i gaerau Meirion,
Ac Enllyn adre a ddônt ddigonedd,
Am ydau'r Gwanwyn o Dir Gwynedd.
Mae gorchwyl odiaeth y Merchedau,
Yw mynd yn blaid i raid yr ydau,
Gyda'u Hyswiaeth helaeth haelwych,
Ac ir Llîn Fonedd Darllaw 'n fynych.
Dafydd Thomas a'i Cant.
Fy nghyfieithiad Saesneg fy hun
Radnorshire. 52 Parishes.
Next to her is Radnorshire,
Where there are very many Sheep,
Wet Fields, dry Mountain,
Kindly are their hills and hillsides.
Hay and corn, Part Woodland,
Good rearing on many a Mountain;
From Pont y Clâs to the Parish of Bugeildy
Is the kindliest Wool in Wales.
Every kind of Corn is in her here,
But Rye Bread is the commonest food,
Butter and Cheese are plentiful in her,
And some of those eaten fresh.
Very English in their ways are the People there,
And kind enough in every place:
And some, over some troublesome matters,
Go often before a Justice.
Part of the work of the skilful Women
Is Spinning some for their own need;
Dressing their wool to go to Market,
And knitting Stockings around Rhayader.
Brecknockshire. 61 Parishes.
Beside her is Brecknockshire,
Great Mountains and craggy places,
Builth, Moors, cold Lands,
Some Mountains and Woods as well.
Good Lands and sheltered Woods,
From the Hay to Talgarth and Crickhowell;
And around Brecon,
That is the richest Town in Wales.
And in her are Protestants,
And three Churches for them to go to;
But through their Country, in various places,
These Preach about in their Houses.
Barley and Wheat, some Rye,
Cheese and Butter in places;
Very good, sound Oat Bread
In the Commote of Builth and in Llywel.
These Women do, mindful and whole,
Every Housewife's Work, indoors and out;
Knitting Stockings all the year round,
From Llanfair to Abergwesyn.
Monmouthshire. 127 Parishes.
Monmouthshire borders on her,
That is the Richest Vale-land in Wales,
Very much Wheat is in her,
Fair Valleys about Abergavenny.
Hay and corn, and full of Woods,
Green pasture on the banks of rivers;
Every kind of Iron-work is in her,
And a great deal goes out of her.
Every corn but Rye grows in her,
And the best Wheat Bread in Wales,
A little butter and hard cheeses,
Leek broth, Drink enough.
Lime for the Land, and Coal is the Fuel,
And that to spare burning the woods,
A people seemly and fair in conduct,
And some dull about Worship.
The Work of these Women, exactly,
Is Spinning some fine Flannels;
Making cider from the thick-blossomed Orchards,
And making Hats of Wheat Straw.
Glamorgan. 118 Parishes.
Next to her is Glamorgan,
With Houses white with Lime, plain to see,
Twenty castles once stood up there,
For Coal and lime the fullest place in Wales.
Big Cattle, red and Speckled,
With crisp hair and round heads;
The cleanest, brightest Town in Wales,
With the shiniest Houses, is Swansea.
Wheat Bread, the commonest crop,
From the Town of Cardiff to the edge of Gower,
Reasonable Cheese, fine Butter,
Leek broth in Piggins.
A merry People, gifted and good-natured,
Harps hang on their Walls,
For them to play at their pleasure,
A long, gentle Tune, that is their custom.
These Women are gentle by nature,
Keeping their Houses clean for their Households,
Knitting Stockings and carrying Coal to the Ships,
Making Straw Hats by Swansea.
Carmarthenshire. 87 Parishes.
Carmarthenshire is next to that,
And it is the biggest in Land in Wales;
Many Sheep there are, for sure,
Around Ystradffin and Pumsaint.
Fair are the Houses in Carmarthen Town,
From Lammas Street to King Street;
And Bagpipes play most often
For the biggest Weddings in Wales.
And five of its Towns on the Banks of Tywi,
From Laugharne to Llandovery;
Straight Hedges have been planted,
For this they are the best Husbandmen in Wales.
Every crop in plenty is here,
Barley Bread and bakestone bread most often,
Cheese and Butter in its Borders,
And Turnip broth in its season.
The Work of these Women, exactly,
Fair Cloths, thick Flannels,
And above all knitting Stockings,
From Caio to Cil-y-cwm and Myddfai.
Cardiganshire, 64 Parishes.
Next to her, Cardiganshire,
Much Lead and Silver is in her;
Great Mountains, grassy and long,
From Clydogau to the top of Pumlumon.
Horses and Sheep, hardy every day,
In every corner from the sea to the mountain;
They are very profitable to own,
For whoever buys them, the best in Wales.
Cheese, Butter and Turnip broth,
Small Oats and Barley and Rye, not scarce,
Keeping by measure a share for their Household's Bread,
Selling the rest in Aberystwyth.
These People are too heavy
When it comes to grappling in a wrestling bout;
They will carefully hold their own,
And the finest Gentry in Wales.
Those Women knit Summer Stockings
For the Fairs of the Rhos, many a Housewife,
Some Flannels for their purpose,
And for every Household dark-blue Cloth.
Pembrokeshire, 145 Parishes.
Pembrokeshire is next to that,
The fullest of Pigs and Corn in Wales,
Great Fields, dry and broad,
Straight fences of the Blackthorn.
Cheese and Butter are scarcest,
Beer is had, and the coarsest Bread;
In Pembroke, Tenby, Haverfordwest, St Davids,
Meat and Fish are there for the taking.
These are a healthy, lively People,
Not seeking many of their dishes idly,
Working the Corn chiefly every day,
And some carrying it to many Lands.
Some take their course round towards Arfon,
Along the Sea's edge to the strongholds of Meirion,
And bring dairy fare home in plenty
For the Spring corn, from the Land of Gwynedd.
The Women's wonderful task
Is to go as a band to the work of the corn,
With their generous, bountiful Housewifery,
And Brewing often for the Gentry of the line.
Dafydd Thomas sang it.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Dafydd Thomas, Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru … At yr hon y chwanegwyd Tair o Gerddi Dwyfol (Argraphwyd yn y Mwythig gan J. Eddowes, y 1700au), 24 tudalen, wedi’u codi gennyf i o luniau’r tudalennau. Sgan: archive.org/details/hanestairsirardd00thom
Saesneg: Fy nghyfieithiad fy hun, a wnaed i’r dudalen hon
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Diwedd y daith: y tollbyrth, y rheilffyrdd, pla’r gwartheg a’r Gwartheg Duon Cymreig
Sut y daeth y daith hir i ben: y tollbyrth a Beca, rheilffyrdd De Cymru a’r Cambrian, symud Smithfield i feysydd Copenhagen, pla’r gwartheg a gaeodd Dde Cymru yn 1866, a Chymdeithas Gwartheg Duon Cymreig 1904, yr aeth ei gwartheg yn ôl i Smithfield yn bencampwyr.

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Cyfraith ac uno: o Gyfraith Hywel i Ddeddfau Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1543
Chwe chan mlynedd o Gyfraith Hywel, Statud Rhuddlan, y Dywysogaeth a’r Mers, a’r ddwy Ddeddf dan Harri VIII a luniodd y tair sir ar ddeg, a roddodd i Gymru ei haelodau seneddol a’i Sesiwn Fawr ei hun, ac a wnaeth y Saesneg yn iaith y llysoedd, cyn i’r Senedd ei hun orchymyn y Beibl yn Gymraeg.

Oes yr Adfywiad
Ysgolion ym mhob plwyf, deffroad mawr, emynau, ysgolheigion, telynorion a’r eisteddfod wedi’i haileni.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Siroedd y De: Maesyfed i Benfro’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/hanes-tair-sir-south.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (3)
- Gwartheg Duon Cymreig: buchod a’u lloi — Alan Fryer · CC BY-SA 2.0
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Y Bala o’r awyr, a Llyn Tegid yn ymestyn y tu ôl i’r dref — Llywelyn2000 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth