Y Neuadd, cartref yr Hen Ficer yn Llanymddyfri

Hanes Cymru / Llyfrgell / Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry

Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry

Caniadau CXIV–CXXXV

Caniadau CXIV hyd CXXXV o waith y Ficer, yng ngeiriau ac orgraff argraffiad 1867.

Llun: Y Neuadd, cartref yr Hen Ficer yn Llanymddyfri · W. Rees, CC0 · Wikimedia Commons

Y Gymraeg

CXIV. Gweddi’r claf

Arolwydd cyfion, tad fy iechyd,
Barnwr pawb, a’n helpwr hyfryd,
Gwrandll weddi dyn clafecca,
Er mwyn Crist, ac edrych arna.

Yn glaf mown corph, yn drist mown
enaid,
Yn drwm mewn meddwl ac uchenaid,
’Rwy’n ymlusgo, O! ’Nghroawdwr,
Attud ti i geisio swccwr.
Grasol wyt, a llawn trugaredd,
Hwyr dy lid, a mawr d’ amynedd,
Hawdd i’th gaelmewntost gyfyngdwr;
Er mwyn Crist tosturia ’nghyflwr.

Ti ro’ist iechyd im’ ys dyddiau,
’Nawr ti’i dygaist am fy meiau,
Ac a helaist” boen a nychdod,
I’m cystuddio am fy mhechod.

Duw, mi haeddais, ’rwy’n cyfadde’,
Un oedd drymmach er ys dyddiau;
Yn dra chyfion, Duw goruchaf,
Y rho’ist hyn o nychdod arnaf.

Ti allasid ddanfon clefyd
Immwgc, cas, i ddwyn fy mywyd,
A’m troi i uflFern i’m poenydio,
Heb roi amser im’ repento.

Etto’n fwyn, fel Tad trugarog,
Ti roi’st arnaf glefyd serchog,
I’m rhybuddio am fy niwedd,
A’m cyf’rwyddo i wella ’muchedd.

’Rwy’n ei gym’ryd megis arwydd
O’m mabwysiad” a’th gar’digrwydd;
Yn fy nghospi a’m correcto,
Rhag i’m pechod fy andwyo.-

Da yw’th waith, O Arglwydd cyfion,
Yn cospi’r corph â’r fath drallodion,
Lle’r oedd f’enaid er ys dyddiau,
Yn dra chlaf gan ormod foethau.

Tra ce’s’ iechyd ni che’s weled
O’m pechodau, er eu hamled;
Ond, yn awr, gwae fi, mewn nychdod,
Nid wy’n gweled ond fy mhechod.

O pa nifer o bechodau, [nau;
Wnaethoi’n d’erbyn, Duw, gwae fin-
Maent yn amlach mewn rhifedi,
Nac yw’r ser os ceisia’n cyfri’.

Pa fath elyn gwyllt a fuo,
Yn d’wrthwynebu megis Pharao,
Gynt pan oeddit yn ymhwedd,
Am im’ droi a gwella ’muchedd.

Arglwydd grasol, ’wy’n cydnabod,
Imi hyeddu can’ mwy nychdod,
Ac im’ bechu yn ysgymmun,
O’m mabolaeth yn dy erbyn.

Etto gwn dy fod ti’n rasol,
I bwy bynnay fo’n ’difeiriol,
Ac yn barod iawn i faddeu
I’r galarus eu camweddau.

Er na haeddais ond trallodion,
A dialau, a chlefydion;
Gwna im’ yn ol dy fawr drugaredd,
Ac nac edrych ar f anwiredd.

Cymmer angau Crist a’i ’fudd-dod,
Yn dâl iti am fy mhechod;
Cladd fy meiau yn ei weli;
Er ei fwyn bydd rasol imi.

N’âd im’ farw yn fy mrynti,
Cyn im’ wneuthur dim daioni;
Ond rho amser o’th drugaredd,
Imi etto wella ’muchedd.

Dal dy law, gostega ’nolur,
Llaesas ’mhoen, lleiha fy ngwewyr,
Ac na osod arnai’i boenau,
Rwy nag allo ’nghorph eu godde’.

Er bod f’enaid weithiau’n d’wedyd,
Dere Grist, a deibyn fysbryd;
Mae fy nghnawd er hyn yn ci’ioj
Duw, tro’r cwppan chwerw heibio.

Y mae’r cnawd a’r yspryd etto, Yn amharod i ymado: Duw rho amser im’ i’w trefnu, O bydd d’wyllys yn cennadu. ÇEiod. 34. 5, 7. “^^nfonaîst. Disymmwth. ^Repent, edifarhau. g Pgaim 119. 71. “Yr aiwyddion pennaf o fabwysiad, (hyny yw, o fod wedi ein cymmeryd trwy Grist i fod yn Llanti Dduw), yw ffydd yng ^ghrist, galur am bechod, troad oddiwrth bechod, gwir gariad at y sawl syddyn ofni Duw, ynghyd â chadw ei orchymynion ef; oni fydd dyn mewn rhyw fesur a’r pethau hvn ynddo, ni ddichon efe gasglu oddiwrth ei glefyd a’i gystudd ei fod ef yn blentyn i Dduw. loan 1. l2. Mat. 5. 4. llonn 3.8-10, 14, a 2. 3, 4.”—S. Hughes. iCorrect, ceryddu. Y Dinystrio kY cefais. A wnaethum i. m Psalm 40.12. i. A f um. o Ymbil, erfyn yn daer. i’ Yn dra annuwiol. Qmebyd, ieuengctyd. Clwyf, archoll. sEsmwythdra. i C’ri/, Utfain. N Nid wy’n ceisio gennyd amser, I fyw’n foethus mewn esmwythder, Ond i dannull dy anrhydedd, Ac i -wella peth o’m buchedd.

Duw, o gweli fod yn addas,
Estyn foes fel Ezekias;
Dyro imi ryw gyfrwyddyd,
I’m iachau a thorri ’nghlefyd.

Ond o gweli fod yn oreu,
Etto ’nghospi dros fwy ddyddiau,
Duw, dy ’wyllys di gyflawner;
Ond cyfnertha fi’r cyfamser.

Yn iach ni wnaethum ond dy ddigio,
Yn glaf ni allaf ond och’neidio;
Oni roi dy nefawl Ysbryd,
I’m diddanu yn fy nghlefyd.

Arglwydd, cymhorth fi’n fy mlinder,
Llaesa ’mhoen, a’m hanesmwythder;
D’wed wrth f’enaid yn ei halaeth,
Myfi yw dy iechydwriaeth.

Tydî Crist yw’r mwyn Samariad,
Minnau yw’r claf drafaelwr’ irad;
C’weiria ’nolur, ihwym f’archollion,
Dofa ’mhoen, cryfha fy nghalon.

Mae dy law yn orthrwm- arnaf,
Etto ynod mi ymddiriedaf;
A phe lleddit fi â thrallod,
Duw, mae f holl ymddiried ynod..

Gennyt ti mae’r holl allweddau,
Sydd ar fywyd ac ar angau:
Ni faidd angau edrych arnaf,
Nes danfonech, Crist, ef attaf.

Gwna fi’n barod cyn y delo,
Par i’m ddisgwyl byth am dano;
Fel y gallwyf fyn’d yn addas,
Trwyddo i dy nefawl deyrnas.

N’âd i bethau’r byd anwadal,
N’âth gyfiawnder ddydd y dial,
Nac i ofan angau’m rhwystro
Ymbar’toi i rwydd ymado.

Tynn o’m calon ofan angau,
Par i’m wadu’r byd a’i bethau;
Golch a’th waed fy mhechod ’sgeler,
Cudd fy miynti â’th gyfiawnder.

Rho im’ ffydd yn dy bromeision,
Gobaith cryf am gael y goron,
Dioddefgarwch yn fy Eghlefyd,
Chwant ddo’d attat a dattodyd.

Crist, rho d’ Ysbryd i’m diddanu,
A’th angylion i’m castellu; o
Gwna’r awr olaf fy awr oreu,
Rho imi’r goron ar awr angau.

Crist, fy Mugail, cadw f enaid,
N’ad i”r llew o’th law ei sclitfiaid,
Tydi’i prynaist yn ddrud ddigon,j
Dwg e’ i r nef at dy anghelion.

CXV. Rhybudd i’r claf i alw am weinidog i’w gynghori ef, ac i weddio drosto

Pan glafychech, cais offeiriad,
Yn ddi-aros ddyfod attad,
I weddio dros dy bechod,A
A’th gyf’rwyddo i fod yn barod.

Crist a bwyntiodd” yr offeiriaid,
Yn Bysygwyry doeth i’r enaid,
Ac a roddwys iddynt eli,
I wrtli’nebu pob drygioni.

Adde’th bechod wrth y ’ffeiriad,
Fe ry iti gynghor difrad;
Fel y gallo roi cyf rwyddyd,
Yn ol naws” a rhyw dy glefyd.

Cred beth bynnag dd’wetto’r ’ffeiriad,
O air Duw,” yn brudd am danad,
Can’s Llais Crist ei hun yw hynny,
l’th geryddu” neu’th dchddanu.
Deisyf arno brudd weddio,
Ar i’r Arglwydd dy recyfro,
I roi iti gyflaT^n iechyd,
Neu yn rasol dderbyn d’yspryd.

Mae Duw’n addo gwrando’r ’ffeiriad,
Pan gweddio’n ol ei alwad:
Crist a ddyry ei ganlyniaeth/
Oni phwyntiodd dy farwolaeth.

Deisyf arno dy gyfnerthu,
Rhag i Satan dy orchfygu,
A Uonyddu dy gydwybod,
Pan y’th fliner gan dy bechod.

Goddef chwilio dy gornwydion,
Godde’ i’r gair fraenaru’r galon,
Fel y gallo fwrw ynddi,
Win ac olew gydag Eli.

Gwell it’ adael i’r offeiriad
Ddangos it’ dy ddrwg ymddygiad,
Fel y gallech edifaru,
Nag o’i blegid gael dy ddamnu.

Ti gai gynghor” rhag dy bechod,
I lonyddu dy gydwybod;
Ti gai gomffordd”' gan y ’ffeiriad,
Os mewn pryd ei gelwi attad.

N’âd y ’ffeiriad heb ei alw,
Nes y b’ech yn hanner marw;
Ni afl ’ffeiriad y pryd hynny,
Na neb arall dy ddiddanu.

Oh î pa nifer o Frutanniaid
Sydd yn meirw fel ’nifeiliaid,
Eisiau ceisio nerth y ’ffeiriad,
I gyf’rwyddo eu ’madawiad.

Er bod Duw yn abaP cadw
Sawl a fynno, heb eu galw,
Nid yw’n cadw fawr o enaid,
Ond trwy swydd a gwaith offeiriaid.

Cais gan hynny, gynta’ ag allech,
’Ffeiriad attad pan glafychech;
I roi pwrgy yn erbyn pechod,
’Rhwn yw achos dy holl nychdod.

CXVI. Gwedi cael cynghor physygwr yr enaid, cais gyfarwyddyd physygwr y corph

Yn ol cynghor yr Eglwyswr,
Cais gyf’rwyddyd y Physygwr;
Duw a roes i hwn gelfyddyd,
Pth iachau o lawer clefyd.

Duw ordeiniodd yr offeiriaid,
I iachau doluriau’r enaid;-
A’r physygwr a’r meddygon,
I ymg’leddu cyrph y cleifion.

Llawer dyn sy’n marw’n fudyr,
Eisiau cymhorth y physygwyr,
Gan fyrhau eu hoes a’n hamser,
Yn enbeidus” eisiau eu harfer.

Corph pob dyn yw tŷ ei enaid,
Rhaid reparo hwn a’i drefnaid;
Rhaid i bob-dyn, hyd y gallo,
Gadw ei dŷ ar draed heb gwympo.

Arfer gymhorth physygwriaeth,
Yn dy glefyd trwy Grist’nogaeth;
Duw ordeiniodd hon yn gysur,
I blant dynion rhag pob dolur.

Y neb wrthodo physygwriaeth,
Y roes Duw er iechydwriaeth,
Mae’n gwrth’nebu maeth ei anian,]
Ac yn mwrddro’i’ gorph ei hunan.
Y llysieuyTi salra’ welecli,
Ar gyfrwyddyd waela’ gaffecli,
All roi help- a iechyd iti,
Os rhy Duw ei fendith arni.

Swp o ffigys, os bendithia,
All iachau y cornwyd mwya’:
A’r gyf’rwyddyd ni thal un-rhith,
All roi help, ond cael ei fendith.

Ond pe ceit ti Balm a Nectar,
Cennin Peder, Cerrig Besar,
Olew a Myrrh, a gwin a gwenith,
Ni wnant les heb gael ei fendith.

Cais gan hynny fendith hyfryd,
Gan dy Dduw ar bob gyf rwyddyd;
Heb ei fendith ni wna’r benna’
Ond troi’n wenwyn yn dy gylla.

CXVII. Gweddi’r claf cyn cymmeryd physygwriaeth

Awdwe, iechyd, Lluniwr Llysiau,
Rhoddwr rhinwedd, Rhwymwr angau,
Tywallt fendith, rhad a iechyd,
Ar y metswn wyf fi’n gym’ryd.

Ti ordeiniaist amryw lysiau,
Diod, eli, a chyferddonau,
I ymgeleddu meibion dynion,
Yn eu gwendid a’n clefydon,

Yn ol d’wyllys a’th ordeiniacth,
’Rwyf fi’n cym’ryd physygwriaeth,
I ostegu peth o’m didri;
Rho dy fendith, Arglwydd, arni.

Gwn na ddichon un creadur,
Na chyf’rwyddyd laosu ngwewyr,
Oni byddi di’n bendithio
’Rhyn a roer, a’r hwn a’i cym’ro.

O, gan hynny, prudd fcndithia
Y gyf rwyddyd a gymmora’,
l’el y rhoddo hon im’ gysur,
Ac y llaoso” fy holl wewyr.

Nac ymddiried i’r physygwyr,
Nac un fetswn f ont yn wneuthur,
Rhag dy farw megis Asa,
Eisiau ’mddiried i’r Gorucha’,

Nid oes rhinwedd ar lysieuach,
Grym mewn eli, na diottach,
I leihau o’n cur a’n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia.

Duw sy’n rhoddi rhad ar lysiau,
Grym mewn eli a chyfyrddonau;
Lle bendithio Duw, hwy Iwyddant,
Lle ni fynno Duw, ni thiccianty

Cais gan Dduw roi bendith hyfryd,
Ar bob metswn a chyf rwyddyd;
Heb ei fendith ni wna’r benna’
Ond troi’n wenwyn yn dy gylla.

Peraist gynt i’r ffigys diflas
lachau cornwyd Heyecias;
Par, O Arglwydd, i’r gyf rwyddyd
Hon roi ’minnau gyflawn iechyd.

Ti iachaist olygon Tobi,
Gynt âg afu’r’ Pysg annigri’:
O iacha fy nolur innau,
A’r rhai hyn dy gyfyrddonau.

Fel y peraist i ddw’r Jordan,
Olchi ffwrdd wahanglwyf Naaman,j
Felly par i’r ddiod yma,
Dynu ff’wrdd fy nghur a’m poenfa.

Fel y poraist gynt i’th boeryn
Rhoddi golwg i’r cardottyn:
O pâr, Arg’lwydd, i’r gyf rwyddyd
Hon roi minnau gyflawn iochyd.

Gwn y gelli trwy fath foddion,
Nou hebun, iachau clofydion:
Llaosa ’nolur yn ol d’allu,
Os bydd d’wyllys yn conuadu.
Ond os pwyntiais’ ti fy niwedd,
A’m Uwyr dynnu i’th drugaredd;
Duw, dy ’wyllys di gyflawner,
’Rwy’n ymostwng it’ bob amser.

Ond rho imi ras a phŵer,
Grym a gallu, y cyfamser,
’Ddwyn fy nolur yn ddioddefgar,
Megis Cristion yn ddidrydar.

A rho d’ Ysbryd i’m cyfnerthu,
Yn fy mlinder i’th foliannu,
Ac i ddwyn dy groes a’th wialen,
Yn ’wyllysgar ac yn llawen.

A phar i mi fod yn barod,
’Ddwad attad ac ymddattod,
A rhoi f’enaid yn ’wyllysgar,
Yn dy ddwylo, Arglwydd hygar.

O fy Arglwydd gwn y gelli
Fy iachau yr awr y mynni:
Oni fynni laesu ’mlinder,
Duw, dwg f’enaid i’th esmwythder.

CXVIII. Rhybudd i’r claf i ochelyd ceisio cymhorth swynwyr a dewiniaid

Gochel geisio help gan swynwyr,
Yn dy flinder tost a’th ddolur:
Gado Duw mae’r cyfryw ddynion,
Ac addoli gau-dduw Ecron.

Na chais help i’r corph mor embaid,
Gan y diawl sy’n lladd yr enaid;
Nid oes un physygwr allan
Waeth na’r diawl i helpu’r egwan.

Nid yw swyn ond hug” i’th dwyllo,
Gwedi i Satan ei ddefeisio,
I ddifethu d’enaid gwirion,
Pan y swyner dy glefydion.

Nid yw’r swynwr ond apostol
Ffalst i’r diawl, i dwyllo’r bobol,
Oddiwrth Grist, mewn poen a thra-
I butteinia ar ol y cythraul. [fael,

Twyllo’r corph a lladd yr enaid,
Digio Duw, boddloni diawlaid,
Gwrthod Crist, a’r maint sydd eiddo,
Y mae’r swyn a’r sawl a’i cretto.

Ceisio’r cythraul yn physygwr,
Ydyw ceisio help gan swynwr:
Ceisio’r diawl i ddarllen tesni,
Yw â dewin ymgynghori.

Ceisio gwir gan dad y celwydd,
Yw ymofyn â d’rogenydd:
Ceisio help i ladd yr enaid,
Ydyw ceisio swyn hudoliaid.

Na châr swynwr mwy na cythraul,
Mae’n dy demtio yn dy drafael:
Glyn wrth Grist, er maint yw’th ffin-
Cais ei nerth, ti gei esmwythder. [der,

CXIX. Gweddi fyrach i’r claf i’w harferu yn ei glefyd

Duw trugarog, Tad diddanwch,
Awdwr iechyd, pen dedwyddwch,
Gwrando waedd pechadur nychlyd,
Sydd yn beggian cymhorth gennyd.

Daeth fy mhechod yn dy olwg,
A’m holl fuchedd oedd yn gynddrwg:
A chan gymmaint oedd fy nhraha,
Ti ddanfonaist glefyd arna’.

Haeddais, Arglwydd, drymmach pen-
Tostach twymyn, casach clefyd, [yd,
Blinach dolur, byrrach amser,
Pe’m talasit wrth gyfiawnder.

Di allasit dorri ’ngwddwg,
Am fy muchedd oedd yn gynddrwg,
Neu fy moddi, neu fy mwrddro,
Heb roi amser im’ ym’gweirio.
’Nawr ’rwy’n gweFd dy gariad attaf,
Yn rhoi clefyd c’ruaidd” arnaf,
I’m ceryddu am f’anwiredd,
Ac i’m cyffro i wella ’muchedd.

Nid ’wyllysi, Duw’r holl gysur,
Ddrwg farwolaeth un pechadur;
Ond yn hytrach gwella ei fuchedd,
I gael bywyd a thrugaredd.

Trwy’r fath glefyd blin corphorol,
’Rwyt i’m cofio ’mod yn farwol;
A thrwy flinder tost a thristwch,
’Rwyt i’m gwa’wdd i edifeirwch.-

Er i’m haeddu dy ddigofaint,
A’th lidiawgrwydd tost yn gymmaint,
Arglwydd grasol na cherydda
Fi â’th lid a’th gerydd mwya’.

Mae dy saethau wedi ’nghlwyfo
Mae fy esgyrn gwedi’n briwio,
Mae fy yspryd wedi gryddfu;
Arglwydd, tyred i’m diddanu.

Tydi’m clwyfaist am fy mhechod,
Minnau haeddais hyn o drallod;
Nid oes neb, fy Nuw am hynny,
Ond tydi all fy ngwaredu.

Tydi sy’n lladd ac yn bywhau,
Tydi sy’n clwyfo a iachau,
Yn dwyn i’r bedd, yn adgyfodi,
Yn trugarhau, ac etto’n cospi.

Tydi, 0! Dduw, sy’n danfon clefyd,
Tydi yn unig all roi iechyd;
Nid oes neb all llaesu ’nolur,
Ond tydi, na roi i’m gysur.

Er dy fwynder a’th. drugaredd,
Er dy enw a’th anrhydedd,
Maddeu ’mhechod, Llaesa ’nolur,
Gwared fy enaid, rho im’ gysur.
N.
Oni phwyntiaist fy marwolaeth,
A diweddu fy milwriaeth,
Arglwydd, llaesa ar fy mlinder,
A rho imâ beth esmwythder.

Dymchwel, Arglwydd, i’m diddanu,
O fy Nuw, pa hyd y sorri?
Gwol fy mhoen, a chlyw fy nghwyn-
Tro dy lid, iacha fi weithian. [fan,

C’weiria ’ngwely yn fy nghystudd,
Tro fy nhristwch yn llawenydd,
Rhwyg fy sach,Q a sych fy neigrau,
Llaesa ’mhoen, iacha ’noluriau.

Maddeu ’mhechod, torr fy nghlefyd,
Tynn fi o’r ffos, a rho i’m iechyd,
Fel y gallwyf dy glodfori,
Yn fy mywyd â’m holl allu.

Yn y bedd, 0! Dduw pwy’th goffa?
Yn nhir angau pwy’th glodfora?
Sparia ’mywyd, Arglwydd grasol,
I’th glodfori gyda’r bywiol.

Felly canaf it’ yn hyfryd,
Glod a moliant am fy mywyd:
A thra ynof rym a chwythiant,
Mi ddatganaf dy ogoniant.

CXX. Rhybudd i’r claf i wneuthur ei ewyllys mewn pryd, a dosparthu ei bethau mewn ofn Duw

Oni wnaethost etto d’wyllys,
Dod dy dŷ mewn trefn woddus;
Dosparth’-' d’ olud megis Cristion,
Yn Grist’nogaidd ac yn union.

Cais gan Dduw ei nofawl Yspryd,
I roi iti lawn cyf’rwyddyd,
I gyfranu d’ olud bydol,
Yn ol gwyllys dy Dad nefol.
Rho dy enaid bach i’th Brynwr,
Crist a’i piau, dy lachawdwr:
Rho dy gorph i’r ddae’r llo cafad,
Hyd nes delo’r adgyfodiad.

Tynn, fel Jacob, ddefaid Laban,
A da eraill, o’th dda allan;
Rho i bob-dyn ei iawn eiddo,
Tal dy ddyled cyn ymado.

Na ddod geiniog yn dy ’wyllys,
O dda eraill yn gamweddus,
Rhag eu taflu yn dy ddannedd,
O flaen Duw, ar ddydd dy ddiwedd.

Ac na chytgam, er dy fywyd,
Roi i’th blant anghyfiawn olud:
Ni wna hyny, ond eu hela
I gyrwydro a chardotta.

Er na feddech ond tair anner,
I rhoi rhyngthynt trwy gyfiawnder,
Gwell y llwydda hyn i’th eppil,
Na thrwy gamwedd pe roit dair-mil.

Gwell y Llwyddodd rhandir Abram,
Nag y llwyddodd teyrnas Joram,-
A’r gohilion a ga’s Iago,
Na phraidd Laban gwedi’n hyso.

Fei y bwyttodd gwinllan Naboth
Deyrnas Ahab a’i holl gyfoeth:
Felly bwytty’r geiniog ’sgeler,
Faint a feddech trwy gyfiawnder.

Ceiniog ddrwg, pwy bynna’i caflfo,
Sydd fel gwartheg truain Pharao,
Rhai fwyttasant ei dda tewion,
Heb fod llawnach eu coluddion.

Rho gan hynny’r hyn sydd union,
Rhwng dy blant, a’th ffrins, a’th weis-
Ac na chytgam, er dy fywyd, [ion;
Roi i neb anghyfiawn olud.

Fel y llwyddodd Duw y manna,s
Toes y weddw o Serepta,
Olew’r weddw dlawd a’i meibion,
Felly llwydda’r gronyn cyfion.

Rho i Isaac, dy etifedd,
Ei ’difeddiaeth yn ddi-duedd;
A rho i’r lleill o’th blant o bob-tu,
Fodd i fyw yn ol dy allu.

Rho i’th wraig ei chyflawn draian,
Na ro iddi lai na’i chyfran;
O roi ’chwaneg, mae yn rhugul,
Fod y fath yn nafu’r eppil.

N’âd was ffyddlon heb ei wobar,
Rho i’th gâr tlawd help o’r heiniar -Y
N’âd dy weithiwr heb ei gyflog;
Crîo’n dost a wna’r fath geiniog.

Cofia’r ’fengyl, cofia’r Eglwys,
Goffa’r College a’th fanteiniwys;
Cofia’r wlad a’r dref y’th fager,
Os bydd gennyd fodd a phŵer.

Os goludog wyt heb eppil,
Ac yn caru Crist a’i ’fengyl,
Adaip ysgol rydd yng Nghymru,
Lle mae eisiau: dysg sy’n methu.

Cofia Joseph sy’n y carchar,
Rho beth help i borthi Layar,
Rho yn awr dy rodd tra gallech,
Dyma’r rhodd diwetha’ roddech.

Maint y roech i’th blant a’th drasau,
Dy wraig, a’th blant, a’th ffrins a’i
piau;
Y maint y roech i’r tlawd a’r truan,
Storio’r wyt i ti dy hunan.

Dyro’n ol yr hyn a dreisiaist,
Gwna iawn dâl i’r rhai orthrymmaist,
Tâl dy ddyled cyn dy symmud,
Yn y pwll nid oes dymchwelyd.
Dyro’r badell, dyro’r crochan,
Dyro’r tai, a’r tir a’r arian,
Yn eu hol i’r rhai a’n piau,
Rhag dy fyn’d i’r didrangc boenau.
Nâd i dyddyn y dyn gwirion,
’Rhwn a dreisiaist yn anghyfion,
Beri it’ golli teyrnas nefol:
Rho ei dyddyn yn ei wrthol.

’Nawr di elli megis Zache’,
Wneuthur iawn am dy droseddau,j
Yn y pwll’ ni bydd i’th bwer,
Dalu’r hathng pan gofyner.

Prawf gyttuno â’th wrthnebwr,
Cyn dy fyn’d o flaen y Barnwr,
Rhag dy droi i’r dwnsiwn isaf,
Lle rhaid talu’r hathng eithaf.

’Nawr ni fynny, mwy na phagan,
Ddilyn cynghor Crist ei hunan;
Ond ti fwytty gig dy freichiau,
Eisiau’i ddilyn cyn mawr ddyddiau.

Pa sawl mil sy’n nhân uffernol
Eisiau rhoddi trais yng ngwrtbol,
Rhai a roddent heddyw’r holl-fyd
Yn sarhad i’r tlawd, pes cym’ryd?

Os yn erbyn Duw y pechu,
Ti gei bardwn”' ond ’difaru;
Os yn erbyn dyn, ni faddau
Duw, nes caffo’r tlawd a ddylai.

Os bu farw’r rhai a dreisiaist,
Rho i’w plant y maint a ddygais,
Ac os aethant o’r wlad allan,
Rho eu rhan i’r tlawd a’r truan.

Na ro rhwng dy blant yn anghall,
Y peth a biau un dyn aiall:
Ni wna hynny ond dy ddamnio
A throi d’cppii i gyrwydro.

Na rho rhwng dy blant, trwy ’wyllys,
Ddim ennillaist yn gamweddus,
Trwy usui’iaeth, ti-ais, neu ffalstedd;
Drwg y Uwyddant yn y diwedd.

Craffa blant yr occrwyr mawrion,
A’r gorthrymwyr a’r earn ladron,
Yn ceiniocca mewn eglwysydd,
Ac yn dwyn y waled” beunydd.

Felly tygfydd i’th blant dithau,
O rhoi iddynt dda annifai;
Canys dial Duw yn rhugyl
Drais ar dadau, ac ar eppil.

Dod di ofan Duw, gan hynny,
O flaen dy wyneb wrth ddosparthu;
Rho i bob dyn ei dda cyfion,
Rhanna’r cwbwl lle bo achosion.

Duw a roddo it’ gyf’rwydd-dob,
Ac a’th nertho i wneuthur d’atteb:
Duw a’th ^^adwo rhag camsynied,
Duw fo Ceidwad ar dy enaid.

CXXI. Llythyr yr Anrhydeddus Syr Lewis Mansel, o Fargam, yn sir Forganwg (fel yr ydys yn tybied) at Ficer Prichard

Gwr wyf yn dioddef maefchgon,-
Rhyw bendro dost sy’m talcen,
Ys amsor hir, (yr Arglwydd hael!)
Heb allael cael ei orphen.

Cei’s chynghor, a pharactys
Doctoriaid,”' gwŷr ynwyrus,
I goiffio help; nid llai fy mloodd,
Er myn’d dros foroodd trwblus.

Pan ffaelodd lles corphorol,
’Rwy’n anfon at wŷr duwiol,
Jfglwysig, call, dros dir a môr,
I geisio cynghor hollol.

I ddysgu p’un mae’r Haol-Dad
O ddigdor, nou o gariad,
Yn danfon ar oi bridworth bla,
Rhy w groos neu boonfa irad.

CXXII. Llythyr, addysg, cynghor, a diddanwch at yr Anrhydeddus Syr Lewis Mansel, o Fargam, yn ei glefyd; yr hyn all fod yn fuddiol i bob dyn duwiol yn ei glefyd a’i adfyd

Anwyl Gristion, clywais dd’wedyd
I Dduw anfon arnad glefyd,
Ac na wyddost pu’n ai o gariad,
Ai o gas yr helodd attad.

’Rwy’n dy atteb mewn byrr eiriau,
Ac yn myneg iti’n oleu,
Nad o gerydd, ond o gariad,
Y rhoes Duw wialen arnad.

Nid dy elyn sy’n dy faeddu,
Dy Dad grasol sy’n dy ddysgu,
Trwy ddarostwng dy gnawd diriaid,
Fel y galler cadw d’enaid.

Nid yw’r clefyd hyn ond cennad,
Helodd Crist dy Brynwr attad,
I dreio’th ffydd, a’th hir amynedd,
A’th rybuddio am dy ddiwedd.

Derbyn gennad Duw’n roesawgar,
Ymddwg dano yn ddioddefgar;
A rho ddiolch o wraidd calon,
I’th Dad nefol am ei ddanfon.

Ni wna’r clefyd niwed iti,
Mwy na’r pwrg sy’n carthu’r geri;
Ni wna rwystyr, ond dy buro,
I gael oes o newydd etto.

Ni bu gwin erioed heb waddod,
Ni bu aur erioed heb sorod,
Ni bu gwenith heb ei fasclau,
Ni bu ddyn ond un - heb i’eian.

Yr oedd Adda hen a’i bechod,
Lot a’i losgach, Noah a’i feddwdod,
Moses, Aaron, a’n camweddau,^
Peder, Paul a mil o feiau.
Gwybydd dithau, ’r marchog hyfryd,
Er hawddgared yw dy fywyd,
Nad wyt heb ryw fai i’th ddiblau,
Can’s dyn wyt, er maint yw’th ddoniau

I nithio d’us, i doddi’th sorod,
I wella’th fai, i dynnu’th waddod,
I ddofi’th gnawd, i nerthu d’yspryd,
Y danfonodd Duw dy glefyd.

Nid i’th waethu, ond i’th wella,
Nid i’th faeddu, nac i’th ddifa;
Ond i’th ddysgu a’th gyf rwyddo,
Y mae’r Arglwydd yn dy daro:

Er troi heibio fydol foethau,
A gwir hoffi nefol ddoniau,
Casau’r hjâ a’r maint sydd ynddo,
A dilyn Crist â”th draed a’th ddwylo.

Rho fawr foliant prudd q gan hynny,
I’th Dad nefol am dy ddysgu, [rwydd,
’Rhwn sy’th wneuthur, trwy serchog-
Yn gyirannog o’i sancteiddrwydd.

Y neb a garo Duw, fe’i cospa,
Pob mab anwyl fe’i ffonnodia;
Y dyn ni chospo Duw ei bechod,
Bastardd yw, nid mab o briod.

Mae Duw’n cospi’r rhai anwyla’,
A rhyw groes neu gilydd yma,
Rhag eu myned yn ddamnedig,
Gyda phlant y byd gwrthnysig.

Nid glân gwenith nes y nithier,
Nid gwynn cambric “nes y golcher,
Nid pur aur coch nes ei doddi,
Nid da Cristion nes i gospi.
Ni ry’r grawn wîn nes eu gwasgu,
Ni ry’r thus sent nes ei fygu,
Ni ry’r fflint dân nes y fiFuster,
Na dwyn ffrwyth da nes cystuddier.

Y clofs a ’rogla’n well o’n p-^nian,
Y vine a danna’n well o’i chroppian,
Y palm a dyf yn well o’i blygu,
A’r dyn y fydd yn well o’i faeddu.

Pa fwyaf sanger ar y gammil,
Mwya”rogla’n gwynt yn rhugyl;
Pa fwyaf wasger ar y Cristion,
Mwyaf fydd ei ffydd a’i ofon.

Ystyr, mai er Ueisant iti,
Y mae’r Arglwydd yn dy gospi,
Ni phery’r gosp ond ennyd fychan,
Fe bery’r lles dros hir-oes gyfan.

Na wan-ffyddia yn dy glefyd,
Yn llaw Duw y mae dy fywyd;
Fe ry oes a iechyd etto,
Ac esmwythder, ond ei geisio.

Cymmer cysur, cod dy galon,
Ymwrola, bydd obeithlon,-
Fe ddaw Crist â help ar fyrder,
Ac a laesa d’anesmwythder.

Y Uaw’th drawodd, honno’th helpa,
’R hwn a’th glwyfodd a’th elia,
A’r neb helodd attad glefyd,
Hwnnw a’i tynn, gan roi it’ iechyd.

Galw am help ar Dduw dy Geidwad,
Dy Dâd yw, fe wrendy arnad,
Cais ei gymmorth, ac fe’i dyry,
Llef yn daor ni feder ballu.i.

Pa both bynnag yw dy glefyd,
F’ all ei laesu a’i ddiffoddyd;
Cais ei gyfnerth, ac fo’i Llaesa,
Trusta’ ynddo, ac ni’th dwylla.

Onis llaesa’r awr y mynnech,
Pwylla, aros, dan dy ortroch;
Fe ddaw holp o’r nof yn dambaid,
Pan bo gwell ar les dy enaid.

Ni chei aros awr ym mhellach,
Yn dy glefyd, na myn’d glafach,
Nag y welo Duw’n anghenrhaid,
Er lleshad i’th gorph a’th enaid.

Goddef ronyn bach o gystudd,
Ti gei gwedi’n hir lawenydd;
Bydd ddioddefgar nes y delo,
Ti gei oes o newydd etto.

’Rhwn a nerthodd Job mor hygar,
’Ddwyn ei glefyd yn ddioddefgar,
Nerthed dithau â’i Lân Yspryd,
Mor ddioddefgar ddwyn dy glefyd.

A’r hwn helodd un o’i angylion,
I gymfforddi’i Fab wrth Cedron,
Helo o’r nef ei angel hyfryd,
I’th gymfforddi yn dy glefyd.

Dy ro’ist sampl dda’n dy iechyd,
Ini fyw mewn buchedd hyfryd;
Pho i ni etto siampl hygar,
I ddwyn clefyd yn ddioddefgar.

Godde’th nefawl Dad dy drinio,
Goddef dynnu’r draen sy’n pigio,
Goddef wasgu’r crawn lîosgedig,
Carthu’r clwyf, a sugno’r ysig.

Godde’ i Grist gael tynnu’n gwbwl,
Gol y sarph sydd yn dy sowdol,
Rhag i’r gwenwyn ddyrcha i’r galon,
Ac inffecto’r “enaid gwirion.

Mae Duw’n garcus iawn am danad,
Gwell it’ odde’ loes na bagad,
Mao’n dy bwrgio’n ’nawr trwy gys-
I gael iechyd yn dragywydd. [fudd

Mae’n dy wneuthur yma’n addas,
I gael rhan o’i nefol doyrnas,
Mae e’n carthu’r holl ddrygioni»
Sy’n dy rwystro i wir oleuni.

’Rwyt ti’n un o feini’r demel,
Rhaid dy naddu’i gyd wrth lefol,
Rhaid i’r morthwyl dy Iwyr bario,
Os yn y nof y mynni drigo.
’Rwyt ti’n wemth i’r Gorucha’,
Rhaid dy ddyrnu tra fe’ch yma,
Tynnu’r us a’r col oddi wrthyd,
Cyn be’ch i Grist yn fara hyfryd.

Ti ge’st lawer o felusder,
Ar law Duw er dechreu d’amser;
Rhaid it’ brofi peth o chwerw,
Gyda’th Brynwr cyn dy farw.

Yf o’r cwppan chwerw lymmaid,
Yfodd Cristo’th flaen eilonaid,
F’ orfydd ar bob gwas ei dasto,
Nid yw’r disgybl well na’i Athro.

Cofia i Grist dy Brynwr odde’,
Dros dy bechod ti a minnau,
Fwy o flinder, ing, ac ysig;
O! goddefwn ninnau ’chydig.

Ystyr nad oes sant yn gorphwys,
Mewn gogoniant ym mharadwys,
Na ddioddefodd fwy o gystudd:
Goddef dithau a bydd lonydd.

F’ orfu ar Abel odde’i fraenu,
F’ orfu ar Joseph odde’i werthu,
F’ orfu ar Esay odde’i lifo,
Cyn cael myn’d i’r nef i drigo.

F’ orfu ar Stephan odde’i bwnian,
F’ orfu ar Lawrence odde’i frwlian,
F’ orfu ar Iago odde’i waun,
Cyn cael nefoedd i’w meddiannu.

F’ orfu ar Beder odde’i hoelio,
F’ orfu ar Barth’lom’ odde’i flingo,
F’ orfu ar Kan “odde’i ferwi,
Cyn cael myn’d at Dad goleuni.

Nid oes un yn credu’n gywir,
Yng Nghrist Iesu, hyn sydd siccyr,
Na raid iddo odde’n rhwyfodd,
Gystudd mawr, cyn myn’d i’r nefoedd

Nid eir o’r Aipht i Ganaan hyfryd,
Ond trwy’r môr a’r mynydd tanllyd:
Nid â neb i’r nef i daring,
Ond trwy’r poeth a’rllwybyr cyfyng.

Mae’n rhaid dwyn y groes yn gyntaf,
Cyn cael dwyn y goron benaf;
Ni ddarllenais yn fy oes,
Gael y goron heb y groes.

Dwg y groes fel milwr ffyddlon,
Ti gei gwedi’n ddwyn y goron:
Cyd-ddioddef gyda’r Iesu,
Ti gei gwedi’n gyd-deyrnasu.

Na chais nefoedd ar y ddaear,
Na chais wyn-fyd yn rhy gynnar,
Na chais iechyd di-drangc dewlwys,
Nes y delech i baradwys.

Ni chair melus heb y chwerw,
Ni chair gwynfyd nes in’ farw,
Ni chair coron heb y groes,
Ni chair nefoedd heb ryw loes.

Ni cha’dd un o’r patriarchiaid,
Na’r prophwydi, na’r merthyriaid,
Na’r ’postolion, na’r Messiah,
Fyn’d o’r byd heb lawer gwasgfa.

Na chais dithau, fy anwyl-ddyn,
Gael y peth nas cafas un-dyn;
Ond ymroa, yn ddi-drydar,
Ddwyn dy ddolur yn ddioddefgar.
Cofia i Grist, dy Bryn’wr, odde’
Mwy o flinder am dy feiau;
Cofia ei groeshoelio drosot,
Ti anghofì’r loes sydd ynot.

Ac na feddwl nad o gariad
Y roes Duw y clefyd arnad,
I’th sicrhau dy fod yn un
O’i etholedig blant ei hun.

Cofîa fod pob peth yn gweithio,
Ar y goreu i’r dyn y gretto,
Hyd y nod ei glwyf a’i glefyd,
A’i golledion, a’i holl adfyd.

Cofia hefyd, nos aboreu,
Nad all croes, nac ing, nac angau,
Na dim arall ein gwahanu
Oddiwrth gariad Duw a’r Iesu.

’R hwn a gododd ei ffrynd Lazar,
Yn iach o’r bedd dan y ddaear,
Hwnnw’th gotto yn iawch lawen,
O’th glaf-wely’n wych drachefen.

’R hwn a spariodd “fywyd Tsaac,
Gwedi ’i offrwm ar ben Moriac,c
Hwnnw spario’th fywyd dithau,
Etto ennyd o flynyddau.

’R hwn a helodd gynt Esaias,
I iachau clwyf Hezekias;
Hwnnw helo o’r nef angel,
I iachau Syr Lewis Mansel.

CXXIII. Rhesymau yn cyffroi’r claf i fod yn ddioddefgar

Oni bai fod yn anghenrhaid,
Dofi’r corph i wella’r enaid,
Ki ddanfonai Duw glefydion,
Byth ar un o’i anwyl feibion.

Yr oedd Duw yn gwel’d dy enaid
Yn glaf iawn o bechod diriaid;
Nid oedd lun i gadw’th fywyd,
Nes dy gospi â’r fath glefyd.

Oni ba’sai’r cwppan chwerw,
Fo allasai d’enaid farw,
Yn ddiswmmwth heb repento,
A myn’d dros fyth i boonydio,

Trwy gystudd corph,a chlofyd diriaid,
Y mae Duw’n iachau dy enaid;
Ac yn d’arwain, trwy ddifeirwch,
At dy Orist i gael ei hoddwch.

Trwy glefydion mao Duw’n tynnu
Dyn, i gelHlo cymmorth Iesu,
A gwir iochyd idd ei onaid,
iihag ei fyn’d i uffern embaid.

A chlefydion bach amserol,
Mae’n rhag-achub poon trag’wyddol;
Ac wrth gospi’r corph mor ddiriaid,
Dofi’r cnawd a chadw’r enaid.

Nid clefydion, ond dialau
Blin, a haeddodd dy bechodau;
Dwg gan hynny, yn ddioddefgar,
Y fath glefyd c’ruaidd hygar.

Fe allasai dorri d’wddwg,
Am dy fuchodd oedd yn gynddrwg,
A’th roi i ufforn i boonydio,
Heb roi amser it’ ropeuto.

Rho gan hynny, yn ddiwegi,
Ddiolch iddo am dy gospi,
Llo gallasai dy Iwyr ddifa,
A’th roi i frwlian “yn Gohenna.”

Fo allasai Duw dy roddi
Dan law golyn cas i’th gospi,
Llo mao’n rasul iawn yrŵau,
Yn dy gospi â’i law ei hunan.
Nid yw’r Arglwydd yn dy blago,
Megis gelyn i’th andwyo.
Ond yn dirion yn dy faethdrin,
Megis Tad yn trin ei blentyn.

Er bod d’Arglwydd yn dy faeddu,
Mae er hynny yn dy garu;
Pob gwialennod ag a roddo,
Sydd fel plaster’ i’th elîo.

Ni ry Duw sydd mor ddaionus,
Na’th Dad nefol sydd mor garcus,
Glefyd arnad na chaledi,
Na wnel iti fawr ddaioni.

Fe Avyr Duw beth y w dy ddolur,
Dy rym, dy ryw, dy naws, dy natur;
Fe rydd dy groes yn ol dy gyflwr,
Ni bydd dy hwn uwchlaw dy gryfdwr.

Er bod aloes yn beth chwerw,
Mae e’n achub dyn rhag marw;
Er bod clefyd yn dy flino,
Mae’n dy achub rhag dy ddamnio.

Y mae miloedd yn Gehenna,
Rhai a ddygent fwy o boenfa,
Dros fil-filoedd o flynyddau,
Pe caent rydd-did o’n poenydian.

Rho gan hynny yn ddi-wegi,
Ddiolch i Dduw am dy gospi,
Lle gallasai dy Iwyr ddifa,
A’th roi i frwlian i Gehenna.

Arwydd teg o’i ras a’i ffafar,»
Yw cael cosp trwy glefyd hygar,
Sydd yn gwneuthur dyn yn barod,
Cyn yr el o flaen y Drindod.

Clefyd sydd fel chwip i’th gospi,
Nid fel cleddeu llym i’th dorri;
Swmbwl awchlym i’th ddihuno,
Ac nid bwyall i’th ddistrywio.

Ffust i ddyrnu ffwrdd dy ffwlach,
Ffann i nithio dy holl sothach,
Ffwrn i buro dy amrheyddion,
Chwip i’th gospi yw clefydion.

Nid da mêl i’r Llawn digonol,
Nid da gwynfyd i’r annuwiol;
Nid da gwîa i’r poeth ei goludd,
Nid da iechyd i’r anufudd.

Nid oes arnad gymmaint dolur
Ag a fu ar rai oth frodyr,
Sydd yrŵan mewn esmwythder,
Yn y nefoedd gwedi’r blinder.

Bu ar Lazar glefyd blinach,
Bu ar Job ddoluriau trymach,
Bu ar Grist ei hun fwy blinder,
Maent yrŵan mewn esmwythder.

Ac os tithau fydd ddioddefgar,
Fe ry’ Duw it’ hyn o ffafar:
Fe wna naill a’i llaesu’th flinder,
Ai fe’th gymmer i esmwythder.

CXXIV. Ymddiddanion cysurus rhwng y claf duwiol a’i enaid yn erbyn ofn angau

O FY enaid, pa’m yr ofni,
Fyn’d at Grist, a fu’n dy brynu,
Ac a gollodd waed ei galon,
rth ryddhau o law d’elynion r-^

Pa’m yr ofni fyn’d i’r nefoedd,
Lle mae Crist yr hwn a’th brynodd,
A’th Dad nefol, a’r Glân Ysbryd,
A’r holl saint mewn braint a bywyd?
Mae fy mlaen i yno eisiwys,
A’m lachawdwr, ’r hwn a’m prynwys;
Crist tynn finnau d’ aelod attad,
Er anhawsed gennyf ddwad.

O! fy enaid, cwyn dy galon,
Pa’m yr ofni mor echrysion F
Gwel Fab Duw, a’i waed, a’i weli,^
A dynnodd ffwrdd oedd raid it’ ofni.
O! fy enaid, gwel dy Brynwr,
Gwel dy Geidwad a’th lachawdwr,
Gwel dy bardwn,o gwel dy artre’,
Gwel y nef a’r hwn a’th biau.

O! nac edrych ar dy bechod,
Gwel yr Oen a laddwyd trosod:
Ac nag ofna wedd y Barnwr,
Crist, y Mab, yw dy Ddadleuwr.

Ac nac ofna’r angau melyn,
Crist a dynnodd íTwrdd ei golyn;
Ni all angau ond dy symmud,
O’r byd hwn i dir y bywyd.

Nac arswyda ruthrau Satan,
Gwel angylion Duw i’th waetan,
A Christ îesu, â saith Llygad,
Ddydd a nos bob awr i’th wyliad.

Ac nac ofna’r bedd lludylyd,
Gwely Crist yw hwn, f’anwylyd;
Y mae’r Prynwr gwedi’i dwymo,
I bob Cristion nes cyfotto.

Na wna bris o uffern boenau,
Gwel gan bwy mae’r agoriadau;
Gan dy Grist y mae cadwraeth,
Allwedd uffern a marwolaeth.

O! gan hynny cwyn dy galon,
Pa’m yr ofni mor echryslon?
Gwel Fab Duw, a’i waed, a’i weli,
Fe dynnodd ffŵrdd oedd raid it’ ofni.

Cymmer gysur, cwyn d’olygon,
Dring uwchlaw pob daearolion;
Gwel y nef a brynwyd iti,
A’r ’tiieddiaeth sydd it’ ynddi.

Gwol dy orsedd, gwel dy goron,
Gwel dy balm” a’th wisgoedd gwyn-
Khai a brynodd Mab Duw iti, [ion,
Fry yn nhoyrnaa y goleuni.

Gwel dy Grist a’i holl angylion,
Gwel y saint, a’r holl rai cyfion,
Yn dy ddisgwyl ddyfod attyn’,
Ac yn barod bawb i’th dderbyn.

Gwel dy delyn, gwel dy feiol,
Gwel dy wers a’th ganiad nefol,
Fry yn disgwyl fyn’d i ganu,
rth lachawdwr am dy brynu.

Llef gan hynny am dy ddattod,
I gael myn’d at Grist, dy Briod,
O garchardy’r corph a lygrwys,
I gael trigo ym mharadwys.

Lle mae Duw a’i holl angylion,
Crist, ai saint, a’i Apostolion,
Mewn gogoniant a rhialtwch,
Yn teyrnasu mewn dedwyddwch.

Nid oes yno ddim anghysur,
Poen, na chlefyd, cwrb,' na dolur,
Na marwolaeth, na dim tristwch,
Ond llawenydd a dedwyddwch.

O! hiraetha am gael hedfan,
I’r wlad lawen fry yn fuan,
At dy Brynwr Crist, a’th Briod,
Mae dy neithior ynddi’n burod.

O fy enaid, meddwl dithau
Am ymdrwsio yn dy dlysau,
I fyn’d o flaen Crist yn addas,
Yng ngwisg sanctaidd y briodas.

Golch dy hun yn ffynnon Dafydd,T
Gwaed yr Oon, a deigrau cystudd;^
Ymlanha mewn gwir ’difoirwch, [wch.
Ffydd yng Nghrist, gwiriondeb, hedd-

Gwisg sancteiddrwyddGrist amdanad,
A’i gyfiawnder yn lle trwsiad;
Pleth dy wallt mown gras a gobaith,
Hardda’th frest â churiad porffaith.
Cais dy lamp a ’nynn dy ganwyll,
Dwg i’th lusern olew di-dwyll:
Gwylia, gwarchod. a gweddîa,
Nes del Crist, na chwsg, na slwmbra.

Deffro, disgwyl am dy Briod,
Llef am dano nes ei ddyfod;
Fel yr bydd na orphwys frefad,
Nes del Crist dy Briod attad.
2.5.
Dywed wrtho, Dere weithian,
Dere, Arglwydd, dere’n fuan,
Dere, Iesu Grist, fy Nghariad,
Dere, tynn fy enaid attad.

I’th ddwy ddwylo, Arglwydd hyfryd
Yr wy’n brudd yn offrwm f’ysbryd;
Can’s ti prynaist, Duw’r gwirionedd,
Dwg ef weithian i’th drugaredd.

CXXV. Ymddiddan arall rhwng y claf duwiol a’i enaid am ofni marwolaeth

Holiad.—1

O FS” enaid, dywed imi,
Mewn prysurdeb,- pa’m yr ofni,
Fyn’d at Grist a’i wir angylion,
ü’r byd brwnt a’i holl drallodion?

Atteb.—2

Tost a thrwm yw gorfod gadael
Gwraig, a phlant, a ffryns a chenel,
Tai, a thir, a da, a dodrefn,
Heb eu gweled mwy drachefen.

Claf.—3

O, f’ anwylyd, cymmer gysur,
Ti gai olud mewn mwy mesur,
Suwrach ffryns, a gwell cyfeillion,
Gyda Christ a’i wir angylion.

Os dy blant a ofna’r Arglwydd,
A’i wasnaethu mewn santeiddrwydd,
Ti gei wel’d dy blant drachefen,
Mewn gogoniant yn dra llawen.

Yn Ue ffryns a mwyn gyfeillion,
Ti gei’r saint a’r holl angylion,
I’th fawrhau a’th gywir garu,
A’th blant eilchwaith i’th ddiddanu.

Gâd dy wraig, a’th blant a’th bobol,
I gadwraeth dy Dad nefol;
Rhwyscwy’r weddw, Tad ymddifad,
Yw’r Goruchaf wrth ei alwad.

Na wna bris am dan dy olud,
Nac o’r ddodrefn wael sydd gennyd;
Mae’n y nef fwy ar dy feder,
Nag y feddodd Alexander.

Na wna bris o’th neuadd Iwydlas,
Mae’n y nefoedd dai o Dopaz,
Gwedi i Dduw o berls’ eu gwneuthur,
Yn disgleirio fel y gwydyr.

Na hiraetha am dy diroedd,
Na’th berllannau, na’th winllannoedd,
Mae ’mharadwys dir sydd deccach,
Ffrwyth sydd well, a gardd areulach.

Na wna gownty am aur ac arian,
Mae’n y nefoedd aur i’w ddamsian,
Peris a gemmau’n gweithio’r gwled-
Aur yn pafio’r holl heolydd. [ydd;
IL
Na wna bris am un o’th swyddau,
Mae’n y nefoedd fwy o raddau;
Y mae’r gwaethaf s’ ynddi’n ’ffeiriad,
Ac yn frenhin mawr ei alwad.^

Na wna bris am ddillad gwychion,
Mae ’mharadwys wisgoedd gwynion,
Yn disgleirio ar dy gefen,
Mewn gogoniant fel yr haul-wen.^

Na wna bris o’th fwyd newynllyd,
Mae ’mharadwys bren y bywyd;
Manna yn fwyd, '^ua-Yltoe’n ddod,
Gwledd heb ddiwedd, oes heb ddarfod.
Na wna bris am ddim difyrrwch,
’Rhwn sydd yma’n blaenu tristwch;
Mae’n y nefoedd wir lawenydd,
Sydd yn para yn dragywydd.

Na wna gownt o ddim sydd gennyd,
Ond ymg’weiria am dy fywyd,
Fyn’d yn rhwydd, trwy lawn barod-
rwydd,
I lawenydd Crist, dy Arglwydd.j

Lle mae mwy o wir esmwythder,
A dedwyddwch ar dy feder,
Nag all calon dyn chwennychu,
Nac un tafod ei fynegu.

Dos gan hynny, dos yn llawen,
Dos at Grist, dy Ben, dy Berchen;
Gado’r byd, a’r maint sydd yntho,
Mam a thad, i fyned atto.

Yn lle’r pethau darfodedig,
A ge’ist yma gantho eu benthyg,
Ti gei bethau na ddarfyddant,
I’w meddiannu mewn gogoniant.

Ti gei iechyd heb ddim nychdod,
Ac esmwythder heb ddim trallod,
Gwir lawenydd heb ddim tristwch,
Oes heb ddiwedd mewn dedwyddwch.

Ni chaiff clwyf, na haint, na dolur,
Newyn, syched, nac anghysur,
Trallod, tristwch, ochain, wylo,
Nac un gelyn mwy dy flino.

Ti gei fyw mewn mawr lawenydd,
A dedwyddwch yn dragywydd,
Ym mhlith miloedd o angylion,
I foliannu d’ Arglwydd tirion.

Ti gei eistedd mewn côr auraid,
I glodfori’r Oen bendigaid,
Ac i ganu Aleluia,
Yn dragywydd i’r Gorucha’.

Pwy gan hynny na ’madawai,
A’r byd hwn, a’i boen, a’i bethau,
I I fyn’d at ei Brynwr heddy’,
I 0 bai’r Arglwydd yn cennadu.»

Duw agoro dy ddau lygad,
I wel’d teyrnas Crist, dy Geidwad,
Duw ro’i Yspryd i’th gyf’rwyddo,
Ymbar’ttoi i fyned atto.

CXXVI. Yn erbyn ofn angau; a’r daioni sydd yn dyfod oddiwrth dduwiol farwolaeth

O! NA wyddai dyn pa ddoniau
Sydd yn dyfod oddiwrth angau,
Byth nid ofnai ei ddyfodiad,
Ond fe lofai am ei ddwad.

Y mao angau’n gwnouthur diwedd
Ar cin cystudd a’n hanwiredd;
Ac yn dwyn, o fôr triiflllrthwch,
Ddyn i’r porthladd o ddcdwyddwch.

Y mao anyan’n tannu’n gwoly,
Gwedi’n trullorth i ni gysgu;
Ac yn rhoddi niawr csmwythdor,
Gwedi’r trallod tost a’r bliudor.

Y mae angau’n claddu’n beiau,
Ein clllfydion, a’n doluriau;
Fel na ddichon pochod mwyach,
Nac un clofyd flino ’mhollach.

Y mae angau’n tynnu’r cyfîon,
Lawor pryd rhag gwol’d trallodion,
A ddygwydda yn dra rhugyl,
Ar ou gwlad, ac ar ou hoppil.
G.
Mao o’n tynnu rhai gwirioniaid,
Sydd yn niysg cas bochaduriaid,
lihag i’r rhai’n ou hudo i bochu,
Ac i woithio’r poth nas dyly,
Y mae angau’n diosg dynion,
O’n hen frattiau sarnllyd’ brwnton,
I ddillattu’r rhain ynhelaeth, [iaeth.
Mewn hardd wisgoedd lachawdwr-

Mae’n rhyddhau yr enaid hyfryd,
O’r carchardy ty wyll tomlyd,
I gael gwel’d goleuni’r Arglwydd,
A’i was’naethu mewn prydferthwch.

Y mae angau toc” yn dattod,
Enaid o’r corph caeth i bechod,
Ac heb aros yn cyssylltu
Hwn â’i Briod mawr, Crist Iesu.

Y mae angau’n tynnu dynion,
I’r nef oleu at angylion,
O’n tŷ candryll, sydd y’s dyddiau
Ym mron cwympo ar eu pennau.

Mae e’n tynnu maes o Sodom,
I’r mynydd-dir rhag y storom:
Ac yn myn’d o’r Aipht i Ganaan
A’r rhai duwiol yn ddiofan.

Y mae’r angau’n tynnu dynion,
O’r byd hwn i gael y goron,
A bwrcasodd’ Crist trwy angau,
I’r rhai fipyddlon a’i gwas’naethai.

Y mae’n tynnu dyn o’i ofid,
A’i drueni, a’i drist fywyd,
I ogoniant ac hyfrydwch,
I gael byw mewn gwir ddedwyddwch

Pwy gan hynny ofnai angau,
Sydd yn helpu dyn mor ddeheu,
I fyn’d allan o bob trallod,
A’i drosglwyddo i lys y Drindod?

Gâd i’r pagans di-rinweddau,
Gâd i’r Twrcod’ ofni angau;
Ond nac ofned un gwir Gristion,
Fyn’d trwy angau i gael y goron,

CXXVII. Mawrglod ddydd marwolaeth y cyfiawn

Dydd ein Jubil a’n gollyngdod,
Dydd ein rhydd-dyd o bob trallod,
Dydd sy’n gollwng ein heneidiau
O’r carchardy, yw dydd angau.

Dydd ein neithior a’n priodas,
A Christ Iesu’r gwir Fessias,
Dydd ein gwledd a’n coronasiwn;
Yw’n dydd diwedd, os ystyriwn.
Dydd sy’n gorphen ar ein gyrfa,
Dydd sy’n tynnu o gyfyngdra,
Dydd sy’n talu ein cyflogau,
Dydd y gol’ yw dydd ein angau.
â.
Dydd i’n derbyn i barâdwys,
At fab Duw, yr hwn a’n prynwys;
Dydd sy’n rhoddi’r gyyn” a’r goron,
Yw dydd angau i bob Cristion.

CXXVIII. Gweddi yn cyfarwyddo’r claf am y pethau rheitaf i’w ceisio ac i fyfyrio arnynt mewn clefyd

DuW’r diddanwch, llaesa” ’mlinder,
Tad tosturi, rho imi ’smwythder,
Meddyg pob clwyf, iacha ’nolur,
Iesu, mab Duw rho im’ gysur.

Tynn fi o dywyll deyrnas Satan,
Ac o bob dallineb allan,
Eel y gallwyf wel’d fy mhechod,
A lionyddu fy nghydwybod.
Gwna fel Dafydd i’m repento,
Gwna fel Magd’len” i mi wylo;
Gwna fel Ninif im’ gydnabod,
A ’mofidio am fy mhechod.

Gwna im’ geisio pardwn gennyd,
Fel Manasses yn ei ofid;
Ac ymbilio am drugaredd,
Megis Peder am f’ anwiredd.

Gwna ’mi gredu fod im’ bardwn,
Gwedi’i selu â gwaed dy bassiwn;
A bod f’enaid wedi’i olchi,
Yn dy waed, oddiwrth ei frynti.

Gwna fi hefyd yn ddioddefgar,
Dan fy nolur, megis Lazar;
A rhoi arnat ti fy hyder,
Megis Job,” er maint fy mlinder.

Gwna ’mi geisio ymwared gennyd,
O’m trallodion ac o’m clefyd,
Fel Elias o’i flinderau,
Modd y gwelwch fod yn oreu.

Gwna ’mi megis Hezekias,
Droi’r byd heibio, a’i berthynas,
A throi f’wyneb at y pared,
I roi ’Nghrist fy holl ymddiried.

Gwna im’ feddwl am y cyfri’,
Dydd y farn sydd raid im’ roddi,w
Am y gwaith a’r geiriau ofer,
Oni cheisiaf ras mewn amser.

Gwna im’ wrando ar y ’fengyl,
A’th bromeision ynddi’n rhugyl,
Gwna im’ ddala gafael ffyddlon,
A’r d’addewid a’th bromeision.

Gwna im’ meddwl am y bywyd,
Yr âf iddo ar fyrr ennyd,
Lle mae Sabboth o esmwythder,
Heb na chur, na phoen, na blinder.

Gwna im’ wadu’r byd twyllodrus,
A’i holl wagedd anwireddus:
Ac ymg’weirio i ddwad’ attad,
Yn ddiaros anwyl Geidwad.

Gwna im’ offrwm, heb ddiffygio,
Gorph ac enaid i dy ddwylo,
Ac ymbilio, hyd y diwedd,
Am dy ffafar” a’th drugaredd.

CXXIX. Diddanwch rhagorol i’r enaid galarus yn erbyn gwan-obaith

O FY ENAID, pa’m yr ofni
Faint dy bechod, os ’difari?
Lle bu’r Iesu farw drosot,
I’th ryddhau oddiwrth dy bechod.

Pa’m yr ofni farn y Barnwr?
Crist yw’th Dwrnai a’th Ddadleuwr;
Mab yr Ustus,” trwy farwolaoth,
A’th ryddhaodd o ddamuedigaoth.

Ni chondemnir’ yn drag’wyddol,
Un a gretto i Grist yn fywiol:
Ond hwy bassant” wrth eu symmud,
O farwolaeth i wir fywyd.

O fy enaid, ymlonydda,
Dy Dduw grasol a’th gyfiawna;
Mae Crist drosot gwedi’i hoelio,
Pwy all bellach dy gondemnio?

Grist â’i waed a ylch dy bechod,
Ac a’th wna mor wynn a’rmauod: h
Er dy fod mor goch a’r scarled,
Crist a’th ylch mor wynn a’r foled.j

Yr haul a rwylla’r” cwmmwl tewaf,
Sebon ylch y dillad bryutaf,
Rhinwedd Crist a gudd dy frynti,
Ei waod a’th ylch mor wynn a’r lili!
Duw faddeuodd bechod Peder,
Rhyfyg Dafydd, a’r mab ofer,
Rhwyfm Manasses, a’i holl feiau,
Duw a faddeu’th bechod dithau.
Cvmmer p: ysur, cwyn dy galon,
Lladdwyd Mab Duw ar yr hoelion,
Am dy bechod a’th gamweddau,
Er ei fwyn ti gei eu maddeu.

CXXX. Gweddi brudd am faddeuant pechodau

L
O FY Nuw, yr hwn a’m creaist,
O fy Ngheidwad, ’r hwn a’m prynaist,
O’r Glân Ysbryd; O’r gwir Drindod,
Cadw f’enaid, maddeu ’mhechod.

Er mwyn Iesu, ’r hwn a’m prynodd,
Ac ym mhob peth a’th foddlonodd,
Maddeu imi oll a chwbwl,
Ar a wnaetho i maes o’th feddwL

Golch â’i waed fy mai a’m brynti,
Cladd fy mhechod yn ei weli:
Cudd fy ngw’radwydd â’i gyfiawnder,
Maddeu im’ fy holl ddififeithder.

Gwisg fy enaid o gylch gwmpas,
A gwisg sanctaidd y briodas!
Gwna fi’n barod ddyfod attad,
O fy Nghrist, mewn gweddus drwsiad.

Dod d’angylion i’m castellu,
Nâ’d i Satan fy ngorchfygu!
Gadw f’enaid yn dy ddwylo,
Nâ’d, O Grist, i’r llew fy llarpio.

Pan y delwy’ i’r barr i atteb,
Ger dy fron am f’annuwioldeb,
Gwared f’enaid er mwyn Iesu,
Na ro imi’r farn wy’n haeddu.
Cymmer angau Crist a’i ’fudd-dod,
Yn iawn iti am fy mhechod;
Fe gondemnwyd am fy meiau,
Er ei fwyn na ddamna ’finnau.

Haeddais angau,-' haeddais Dopheth,
Haeddais farn rhagrithiwr diffaith;
Duw na ddyro’r hyn wy’n haeddu,
Rho i mi’r hyn a haeddodd Iesu.

Fe gyflawnodd droswy’r gyfraith,
Fe’th foddlonodd droswy’n berffaith,
Fe groeshoeliwyd am fy mrynti,
Er ei fwyn rho bardwn’ imi.

Nid oes gennyf ddim sancteiddrwydd,
Na chyfiawnder, na pherffeithrwydd,
Nac ymwared, iawn, na swccwr,
Ond sydd gennyd Crist, fy Mhrynwr.
IL
Crist yw ’nghomffordd, Crist yw
’nghysur,
Crist yw ’ngobaith yn fy ngwewyr,
Crist yw f’ Helpwr ar awr angau,
Crist yw ’Ngheidwad ddydd dialau.

Fe fu farw yn anhyfryd,
Er pwrcasu imi fywyd;
Er yr angau a ddioddefwys,
Duw, dwg f’enaid i baradwys.

CXXXI. Gweddiau byrion i’r claf i’w harferu fel y bo achos

Am esmwythder

Duw, rho glust i wrando ’ngweddi,
Duw rho d’ Yspryd i’m comfforddi,
Duw rho olwg ar fy nolur,
A’th law rasol llaesa ’ngwewyr.

Am faddeuant

Oen Duw, maddeu im’ fy mhechod,
Sela bardwn i’m cydwybod,
Cladd fy meiau yn dy weli,
N’âd hwy eilchwaith adgyfodi.
’Rwyf n ofni dy gyfiawnder,
’Rwy’n brawychu rhag dy ddigder;
’Rwyn fy marnu am fy mhechod;
Duw, diddana fy nghydwybod.

Am ddoniau Crist a’i gymhorth

Dod, O Grist, dy angau gwirion,
Rhyngwyf fi a’th farn echryslon;
Dod dy ’fudd-dod rhwng cyfiawnder
Dy Dad cyfiawn, a’m diffeithder.

Am gymmod

Crist, â’th waed gwna heddwch etto,
Rhyngwy’ a’th Dad sydd gwedi digio,
A’th waed diffodd ei ddigofaint,
Fel na byddo ’mlinder cymmaint.

Am gyfnerth

Egwan wyf, O Grist, cryfha fi,
Gwann a chlaf, fy Nuw iacha fi;
Trwm a thrist, ag ofnus ddigon,
Cryfha fy ffydd, a chwyn’ fy nghalon.

Am gysur

Duw’r diddanwch, llaesa ’mlinder,
Tad tosturi, rho im”smwythder:
Meddyg pob clwyf, iacha ’nolur,
Iesu, Mab Duw, rho im’ gysur.

Am hawshad

Llaesa mlinder, dofa ’nolur,
Gwel fy mhoen, a thorr fy ngwewyr,
Trefna ’niwedd, penna ’nhrallod,
Dwg fi attad, rwy’n dy warchod.

Am nerth ysprydol

O fy Nghrist, cerydda Satan,
Cadw f’enaid rhag ei safan,
Cynnal fi â’th hael-wych Yspryd,
Dwg fi attad i’r gwir fywyd.

Am drugaredd

Oen Duw, maddeu im’ fy mhechod,
Oen Duw, pura fy nghydwybod;
Oen Duw, gwylia ar fy niwedd;
Oen Duw, derbyn fi’th drugaredd.

Am wir grediniaeth

Dywed, Arglwydd, wrth fy enaid,
It’ bwrcasu’r nef fendigaid,
A’th waed gwerthfawr, trwy fawr
I’w rhoi imi gwedi angau. [boenau,

Am nefol addewid

Dywed, Arglwydd, wrth f’enaid,
Dywed, Arglwydd, dywed, dywed,
Heddyw cai di’n gynnar orphwys,
Gyda mi, yng ngwlad paradwys.

Am gadwraeth

Crist, fy Mugail, cadw f’enaid,
N’ad i’r llew o’th law ei scliffiaid;
Tydi’m prynaist yn ddrud ddigon,
Dwg fi i’r nefoedd at d’angylion.

Am dderbyniad ei enaid

Derbyn f’enaid, anwyl Geidwad,
Derbyn f’enaid weithian attad;
Digon bellach o’r fath ddyddiau,
Nid wyf well na’r rhest o’m tadau.

Am dduwiol ymadawiad

Rwy’n gwyllysio cael fy nattod,
A dod attad, Crist, fy Mhriod;
Tynn fi weithian, Arglwydd Iesu,
Os yw’th ’wyllys yn cenhadu.

Am gadw ei Yspryd

I’th ddwy ddwylo, Arglwydd hyfryd,
Yr wy’n brudd yn offrwm f’ yspryd;
N’ad ym mhŵer” nob ei scliffio,
Na’i ddwyn mwyach byth o’th dwylo.

CXXXII. Gweddi i’r claf yn erbyn rhuthrau Satan

Crist, fy Mugail, cadw f’enaid,
N’ad i’r llew’ o’th law ei slifffaid,
’R hwn sy’n ceisio fy ngorchfygu,
Yn fy ngwondid, a’m trallyngcu.

Dyma’r pryd y cais ef drechaf,
Fyn’d a’r gol,'-' pan byddwyf gwannaf;
Nertha ’ugwondid, Arglwydd cyfion,
Gadw’r gol” rhag colli’r goron.
Dod dy Yspryd yn fy nghalon,
Dod o bob-tu’m dy angylion,
Dod d’arfogaeth oll am danaf,
N’âd i’r golyn gaol y trochaf.

Northa fi ddiweddu ’ngyrfa,
Gwna f’awr orou’r awr ddiwodda’
Arnad, Arglwydd, mao fy hydor,
Derbyn f’enaid i’th esmwythdor.
01 r*

CXXXIII. Gweddi ferr i’r claf duwiol i’w harfer ar yr awr ddiweddaf

’Nawr, O Arglwydd, y gollyngi
Pi mewn heddwch o’m carchardy
Gwna i’m llygaid, cyn marwolaeth,
Werd dy nerthol iachawdwriaeth.

Daeth y dydd a’r awr a roddaist,
Daeth yr amser a derfynaist,
Daeth y tymmor, daeth y terfyn,
Nid oes lle im’ fyned trostyn’.
Y mae ’nghyrfa ar ei gorphen,
A’m dydd diwedd ar ei ddiben,
Y mae’r terfyn gwedi dwad f
Arglwydd, derbyn f’enaid attad.

Megis Stephan, ’rwyf fì’n d’wedyd,
Arglwydd Iesu, derbyn f’ysbryd;
Dere, Árglwydd, dere”n fuan,
Cymmer fi i’th drugaredd weithian.

CXXXIV. Myfyrdod ar fywyd ac angau

Pa gyntaf bytho marw Cristion,
Cyntaf derbyn hwnnw ei goron:
Pa hwyaf bytho Cristion byw,
Hwyaf bydd heb weled Duw.
Pa hwvaf byddo dyn heb farw,
Mwyaf fydd gofynion hwnnw;
Pa gyntaf tynner dyn o’i wegi,
Lleia’ i gyd a fydd ei gyfri.

CXXXV. Tost gyflwr dyn annuwiol gwedi marw

Gwye, a gwragedd, meibion merched,
Dewch yn nes, rhowch glust i glywed,
Cwyn a chynghor hen ofer-dyn,
Sydd yn gorwedd dan y brethyn.'-

Mi fum gynt fel yr ’ych chwithau,
Yn fawr fy nwyf ymmlith fy nhrasau;
’Nawr heb nwyf, yn noeth, ynisel,
’Rwyf fì’n gorwedd dan y trestel.

Pan oedd fwya ’mryd ar faswedd,
Lleia”meddwl am fy niwedd,
Fe ddaeth angau glas heb wybod,
Ac a roes im’ farwol ddyrnod.

Pan yr oedd y byd yn gwenu,
A phob margain genni’n ffynnu,
Pel y ia fe dorrodd dana’,
Ac a’m troes yn noeth i’r gladdfa.

Pan yr oedd fy nghorph yn iachus,
A phob aelod genny’n rymmus,
Pei ’sten bridd fe aeth yn drefion,
Pan ddaeth angau at fy nghalon.
Gynt ’roedd genny’ aur ac arian,
Tai a thir, a chyfoeth llydan;
’N awr ni feddaf ar un heni,
O’r holl olud gynnau oedd genny’.

Gynt ’r oedd gennyf geraint ddigon,
Gwraig,a phlant, a ffryns, a gweision,
’N awr ’does neb ond angau melyn,
Y ddaw attaf dan y brethyn.

_
Mi gawn lawer gynt i’m helpu,
Ym mhob ffbrdd y bawn yn pechu;
Ni ddaw un yn awr i atteb,
Gyda mi am fy ffolineb.

Y peth a ddaeth i mi mor ’sgeler,
Y ddaw i chwithau bawb ar fyrder:
Byddwch barod cyn del angau,
Ni chewch rybudd mwy na minnau.

Y mae Crist a’i weinidogion,
Yn rhoi rhybudd i chwi ddigon:
Llawer mil sy’n myn’d i boeni,
Eisiau gwrando Llais rhieny.
Y mae llawer rhyw o bechod,
Yn dolurio fy ’nghydwybod:
Nid oes un yn lladd mor rhugyl
A dibrisio geiria’r ’fengyl.

Mi fum benffast” a gwar-galed,
Ni wnawn bris o’r gair, er cystled,
D’weded Crist a’i wyr eu piniwn,
Ni wnawn innau ond a fynnwn.

Gwell oedd gennyf wrando cynghor
Crach dafarnwr nag un doctor;
Er bod hwnnw i’m cyf’rwyddo,
A’r tafarnwr yn f’anrheithio.

Gwell oedd gennyf awr yn llawen,
Yn y tafarn gyda mersen,
Na diwrnod yn y demel,
Gyda Christ a’i anwyl geuel.

Gwell oedd gennyf gas gyfeillach,
Moch a meddwon mewn tafarnach,
Na chyfeillach plant goleuni;
’Nawr mae’n gant edifar genny’.

Gwell oedd gennyf wenydd “aflan,
Nas parhai ond ennyd fechan,
Na gorfoledd teyrnas nefoedd,
Sydd yn para yn oos oesoedd;

Gwell oedd gennyf bridd a cherrig,
Pres, a phlwm, a moch a chesig,
Na pharadwys a’i hangylion,
Na’r Duw mawr a’i holl fendithion.

Gwell oedd genny’r cnawd na’r onaid,
Y drwg na’r da, y moch na’r dofaid,
Y byd na’r nef, y cam na’r cymmwys,
A’r nos na’r dydd, a’r gell na’r Eglwys.

’N awr mae’n ’difar gan fy nghalon,
Fy mod mor ffol, mor ddall, mor lun-
A phob modfedd sydd yn crynu,[illu;
’N awr wrth fyn’d i’r barr “i’m barnu.

Y mae ’nghorph yn myn’d i bydru,
l’r bedd, am fy ngwaith yn pechu;
A’m henaid trist yn myu’d i atteb,
O üaen Duw, am bob ffolineb.

’N awr mi glywaf Grist yn galw,
Rhaid i’m atteb wrth fy enw:
F’ orfydd myn’d i wneuthur cyfrif,
Er anhawsed ydyw gennyf.

O! pa filoedd o bechodau,
Y mae ’nghydwybod yn eu hadde’?
Y rhai a wnaethum mor ddiofon,
Gynt yn erbyn Duw a dynion.

O! pa rol sydd gan fy ngelyn,
C”yd a’r dwyrain a’r gorllewin,
Yn cyhuddo, ac yn traethu
Y man a’r modd y bum yn pechu.

O! pwy glywa’i yn cyhuddo,
Ond y diawl y fu’n fy hudo,
Gynt i bechu yn y dirgel;
Gwae wrandawo ar y cythraul.

Nid oes pechod ag a wnaethum,
Er yn blentyn, na bo’n awchlym '
Yn ei daflu yn fy nannedd:
Gwae fi gynddrwg y fu muchedd.

Mae e’n achwyn mor ddibrofit,
Gynt y treuliais fy holl ie’ngctid,
Mewn oferedd ri phibiaeth,
Heb dduwioldeb na Christ’nogaeth.

Mae e’n claimio mae fe’m piau,
Waith fy ennill fil o weithiau,
Yn fy ie’ngctid, ac na ddichon
Duw roi iddo lai na’i gyfion.

Mae o’n dangos pob ffolineb,
Ag a wnaethll “i mewn gwroldeb,'
A’m holl feddwdod, a’m holl ryfyg,
A’m trachwantau cas Llygredig.

_
Mao o’n dangos fy uigofaiut,
A’m holl gointach yn fy honaint,
A’m cybydd-dod, a’m hauwiredd,
A’m di’mdawrwydd “am fy niwedd.

Mao o’n taeru lod oi safan,
Iddo f’ennill ym nihob oedran;
A mod innau er yn fachgen,
Yn oi was’naothu yn dra llawen.
Mae e’n pledio’ yn ddigwyddYl/
Wrth y Gyfraith a’r Efengyl,
Mai fe’m piau eisiau credu,
Gwella ’muchedd, a ’ddifaru.

A lle tybiais, trwy anwybod,
I Grist farw dros fy mhechod,
Ac na chaffai’r cythraul feddu,
Ar y sawl na bai’n ei wadu.

Y mae’r cythraul yntau’n pledo,
Na thal son am hynny wrtho;
Can’s ni cheidw Crist un Cristion,
Ond a gretto ynddo’n ffyddlon.

Y mae’r diawl yn d’wedyd eilwaith,
Nad oedd gennyf ffydd na gobaith,
Na ’difeirwch, na gwell amcan,
Nag oedd gan y Twrc a’r pagan.M

Mae e’n pledio ac yn taeru,
Nad oes imi uel â’r Iesu,
Eisiau gwrandaw ei leferydd,
A bod yn greadur newydd.

Er imi gael enw Cristion,
A’m bedyddio gyda’r ffyddlon,
Etto nid oedd well fy ’nghrefydd,
Medd y diawl, na dyn di-fedydd.

Mae e’n dywedyd, ’rwy’n ei glywed,
Nad oedd gwell fy ffydd a’m gweith-
Na’m ymddygiad a’m harferion, [red,
Na ryw ethnic anobeithlon.

Mae e’n d’wedyd, na ddilynais,
Air o’r ’fengyl wen a glywais,
Mwy na’r luddew na’s ca’s etto
Ras i’w dilyn na’i chofleidio.

Mae e’n d’wedyd wrth Duw’n amlwg,
Y rhy gennad ’dorri ei wddwg,
Os adroddai iddo’n rhugyl,
Bedwar gair o’r holl efengyL

Mae yn galw Duw ei hunan,
A’i angylion fawr a bychan,
Yn dystiolaeth, nad wy’n d’wedyd,
Ond gwirionedd ar fy mywyd.

Maefy nghonsiens drom, dan chwysu,
Gyda’r diawl, yn tystiolaethu,
Ac yn d’wedyd, mewn gwirionedd,
Felly’n uniawn y bu ’muchedd.

Mae’n dywedyd i mi bilo,
Pobl dlodion, a’n hanrheithio,
Dwyn eu tai a’n tir oddi arnynt,
A sclamenta’r maint oedd ganthynt.

Mae e’n d’wedyd i mi feddwi,
A phutteinia, ac ymlosgi,
Torri’r Sabboth fil o weithiau,
A dibrisio Duw a’i ddeddfau.

Y mae’r diawl gan hynny’n gofyn,
Am i Grist roi’r farn i’m herbyn,
A’m troi i uffern byth i boeni,
Am fy mhechod a’m drygioni.

O! pa grynu, 0! pa gwynfan,
Y mae f’enaid rhag gŵg Satan,
Sydd yn dyfod, a’i wŷr duon,
Idd ei gyrchu at Dduw cyfion.

O! mor chwerw, O! mor ddiflas,
O! mor ÊBaidd ac mor atgas,
Ydyw pechod ganddo’n awr,
Fu e’n garu gynt mor fawr.

O pa g’wilydd s’arnai wrando,
Y cyhuddwr i’m cyhuddo,
Am gan’ peth, na íŷnnai f’ enaid,
Er y byd, i’m mam eu ’styried.

Gwell gan f’enaid, pe cai ddewis,
Fyn’d i uffern, hyn sydd ddilys,
Na myn’d i’r barr at y Drindod,
I roi cyfrif am ei bechod.

Etto f’orfydd arno ymddangos,
O flaen Duw, nid oes Ue aros,
I roi cyfrif llawn, a derbyn
Barn, fel y b’o’r gwaith yn gofyn.-

Nid wy’n cly wed neb yn pledo,
Nac yn chwareu’r twrnai drosto,
Nid wy’n clywed yntau’n atteb
Un o filoedd o’i ffolineb.
’Rwyf fi’n gweled Duw â’i lyfrau,
Yn hyspysu ei droseddau,
Ac yn datgan yn ddigwnsel,
Y pechodau wnaeth e’n ddirgel.

’Rwyf fì’n clywed taflu’i fuchedd
Front, ddi-grefydd, yn ei ddanedd,
A’i gwnawdolrwydd, a’i ’freolaeth,
A’i ddrwg arfer ddi-Grist’nogaeth.

’Rwyf fi’n clywed cyfri’r llwon,
A fu’n dyngu ’mysg y meddwon,
A’i fiaeidd-dra ar y Sabboth,
A’i ddrwg naws a’i eiriau annoeth.

’Rwy’n ei glywed yntau’n tewi,
Ac yn griddfan, ac yn codi,
Heb agoryd dim o’i enau,
Mwy na’r pysg, ond ochain weithiau.

’Rwyf fi’n clywed Crist yn gwysio
’R diawl i glymmu ei draed a’i ddwylo,
A’i daflu i’r tywyllwch eitha’,
Lle nad oes ond cur a phoenfa.

’Rwyf fi’n clywed Crist yn traothu
’R fordid “arno, gan eu farni,
I dân uffern yn dra union,
At y cythraul a’i angylion.

’Rwyf fi’n gweled Satan yntau,
Yn ei rwymo mewn cadwynau,
Ac i uff’em yn ei dwmblo,-
Gwedi clymmu’i draed a’i ddwylo.

’Rwy’n ei glywed yntau’n llefain,
Ac yn bcichad,” ac yn ochain,
Wrth oi dallu mor anfi’afrol,
Llwr’ ei bon “i’r tân ufi’ernol.

’Rwyf fi’n gwoled y cythrouliaid,
Hwyntau’n rhwygo’i gorph a’i onaid,
Fel y rhwygai cwn digasog,
Wrth eu newyn, iwrch neu scwarnog.

’Rwyf fi’n gwrando’i ganlyn yntau,
Yn crio’n dost am gael ei angau:
Ac er tosted y mae’n galw,
Nid yw nes er hynny i farw.

Mae e’n gorwedd mewn tywyllwch,
Yn nhân ufl’em heb lonyddwch,
Rhwng cythreuliaid, lle mae newyn,
A phoenydiau tost di-derfyn.i

Nid oes dim yn torri ’nghalon,
Mor ddi-gysur ac mor greulon,
Ag yw meddwl fel na dderfydd
Dim o’i boenfa yn dragywydd.

Dyma’r man a’r lle y gorfydd,
Arnaf finnau, ’r corph di-grefydd,
Fyn’d i boeni atto’n irad,ü
Yn ol dydd yr adgyfodiad.

A da beth y dylwn fyned,
I dân uff’em, er ei boethed;
O’s myfi a barodd iddo,
Bechu’n fynych heb repento.

Dyna’r lle yr â’r holl bobol
Ddrwg, ddi-grofydd, gas, anneddfol,
Yn ol hehi’r tŷ trwy’r ffenest’,
Byw fel moch, mewn glwth,a gloddest

Mi gyughorwn bawb gan hynny,
Ofni Duw, a’i wir was’naethu,
A byw’n sanctaidd ac yn ddoddfol,
líhag cu troi i’r tân un’eruol.

Byddwch sobor, byddwch sanctaidd,
Byddwch union a Christ’nogaidd;
Oni byddwch, gwn yn sicr,
Mai i ull’ürn y’ch condouinir.

Ofnwch Dduw,gwrandowch y ’fongyl,
Oweglwch droi at holl eich gwogil;
Byddwch fyw fel wir Grist’nogion,
Os chwennychwch gaol y goron.
Ni thal pledo ffydd heb weithred,
Nid plant Duw o’r” libertiniaid,
Nid gwir Gristion dyn di-grefydd,
Plant i’r fall yw’r rhai anufudd.

Ni thal d’wedyd, Yr wy’n Gristion,
Os bydd ffydd heb weithred ffyddlon,
Ni bydd bywiol ffydd heb weithred,
Mwy na’r tân heb wres pan cynned/

Byddwch onest, byddwch union,
Duw ni oddef gam fargeimion;
Os arferwch dwyll neu ffalstedd,
Trwm o’r dial yn y diwedd.R

Beth a ennill dyn wrth dreisio,
Pilo’r tlawd, a’i Iwyr anrheithio,
Os tormentir hwn o’r diwedd,
Yn nhân uffern am ei gamwedd?

Beth y dal i ddyn dros ennyd
Blesio’r cnawd, a chael ei wynfyd,
Os â gwedi’n yn drag’wyddol,
Ar ei ben i’r tân uffernol?

Beth y dâl it’ ddyfal lanw
’R bola dro ar win a chwrw,
Od âi gwedi”n, am dy feddwdod,
I newynu i uffern isod r

Beth a ennill dyn wrth dwyllo,
Torri promais, ac andwyo
Ei gymmydog tlawd trwy gamwedd,
Os â i uffern am ei ffalstedd?

Nadedo neb i’r diawl ei dwyllo,
A wnelo ddrwg fe atteb drosto:
Fel yr hauoch felly medwch,
Fel y gwneloch y derbyniwch.

Mae mor hawdd i’r cythraul ’sgeler,
Fyn’d i’r nef y dydd y barner,
Ag i’r drwg-ddyn, glwth, di-grefydd,
Ddiangc uffern ddydd ei gystudd.

Hir yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y deln;
Am yr echwyn a’r hir boori,u
Fe ry gyflawn ddial itti.

Fe gyd-ddwg â’r bobl waetha’,
Ennyd hir, i geisio eu gwella; t
Gwedi’n, eisiau troi’n ’difeiriol,
Fe’n llwyr dry i’r tan trag’wyddol.

Duw ro ras i bob dyn wella,
Tra fo’r dydd a’r goleu’n para;
Duw a’ch gwnel chwi bawb yn barod,
Cyn del angau roi ’chwi ddyrnod.

O ble daw’r geiriau hyn

Cymraeg: Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry; sef Gwaith Prydyddol y Parch. Rhys Prichard, M.A., gynt Ficer Llanymddyfri; ynghyd a nodiadau eglurhaol, a bywgraphiad yr awdwr, gan y diweddar Barch. Rice Rees, B.D., o Goleg Dewi Sant, Llanbedr; trydydd argraphiad (Wrecsam: Hughes and Son, 56 Hope Street; Llundain: Simpkin, Marshall and Co., 1867). Sgan: archive.org/details/serenforeuneugan00pric

Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Dyfynnu’r dudalen hon

Ifan, ‘Caniadau CXIV–CXXXV’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/seren-foreu-caniadau-114-135.