Y Neuadd, cartref yr Hen Ficer yn Llanymddyfri

Hanes Cymru / Llyfrgell / Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry

Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry

Caniadau CXXXVI–CXLIX

Caniadau CXXXVI hyd CXLIX o waith y Ficer, yng ngeiriau ac orgraff argraffiad 1867.

Llun: Y Neuadd, cartref yr Hen Ficer yn Llanymddyfri · W. Rees, CC0 · Wikimedia Commons

Y Gymraeg

CXXXVI. Cwyn a chynghor Difes i’w bum’ brodyr

Clyillch bawb gwyn a chynghor Difes,
OW fflam boeth, a’r danllyd ffiurneSy
Fw bum brodyr, ab holl drasau,
lihag ei ddyfod lle mae yntau.

O FY mrodyr, clywch fi’n traethu,
Fy nhost gyflwr gwedi ’nghladdu;
Fel y galloch chwithau ddiangc,
Rhag y cyfryw boenau didrangc

M’arnai ddyled i’ch cynghori,
A rhoi rhybudd amlwg i chwi:
Rhag heb wybod i chwi ddwad,
I’r fath garchar di-ddymchweliad.
A phe gwypech faint o’m trallod,
A’m holl boen yn uffern isod,
Chwi wrandawech ar fy ngeiriau,
Rhag ich’ ddyfod i’r fath boenau.

Gwn yn hyspys iawn pe gwypech,
Faint o’m poen, a’m cur, a’m gortrech,
Na chymmerech dda amherod,
Er eu goddef un diwrnod.

O’s’ na ddichon dvn nac angel
Adrodd gymmaint yw fy nhrafael,
Yn y fäam a’r tân uffernol,
Lle’m poenydir yn drag’wyddol.
Bum i gynt yn fawr fy rhyfyg,
Yn y by’d, yn ŵr arbenig;
Yn rheoli fel y mynnwn,
Ac yn gwneuthur faint ’wyllysiwn.

! Bum yng ngolwg llawer un,
Heb ofni Duw, heb barchu dyn,
Mwy nag infidel” neu bagan,
A ddllynai ’i fifansi” ’i hunan.

Can’s mi dybiais, trwy gau grefydd,
Na bawn marw yn dragywydd;
Ac o byddwn marw unwaith,
Na ddoi ’mofvn arnai eilwaith.
Er bod Moesen a’r Prophwydi,
Yn mynegi’n amlwg imi,
Fod fy enaid yn anfarwol,
Ni wnawn bris o’n geiriau grasol.

Er eu bod yn dangos imi,
Y gorfyddai gwneuthur cyfri’
Ger bron Duw, am bob fileindra,Q
Nid â’i hynny yn fy nghloppa.

’Nawr yn uffern rwy’n cael dysgu,
Mai gwir oeddent yn ei draethu,
A bod enaid didrangc genyf,
Yn y fflam yn gwneuthur cyfrif.

Tybiais hefyd tra fu’ra byw,
Nad oedd un nef, nac un Duw,
Nac un ufforn, nac un cythraul,
Na gwell diwedd dyn na ’nifuil.

’N awr yn uffern wrth boonydio,
Y mae’r diawl i’m catecisio,
Ac yn dany’üs yn blaen” imi,
lPoâ Duw, i ddial pob drygioni.

’N awr rwy’n clywed ac yn canfod,
Fod y diawl, ac uffern isod;
A mil nnl()(!(id o gythreuliaid,
Wrth farn Duw yn pooui l’üuaid.

’Rwyf fi’n gwel’d yn eglur hollol,
Fod pob enaid yn anfarwol,
Gwedi marw’r corph a’i gladdu,
Bid drwg, bid da, fo’r enaid hynny.

’N awr y gwn mai gwir yw’r ’Sgryth-
’N awr y gwn fod Crist yn eirwir; [yr,
’N awr y gwn y treulia’r nefoedd,
Cyn el geiriau Crist yn niffodd.

Eisiau credu hon mewn amser
Nid yw ’nghred yn awr ond ofer;
Eisiau’i chredu yn fy mywyd,
Mi fu’m byw fei ’nifail ynfŷd.

Felly byddwch chwithau, ’mrodyr,
Oni chredwch eiriau’r ’Sgrythyr,
Ac amcanu byw yn ddeddfol,^
Yn ei hol fel meibion grasol.

Eisiau dilyn geiriau’r ’Sgrythyr,
Eisiau dofi trachwant natur,
Eisiau byw ’ngoleuni’r ’fengyl,
’Rwyf fi’n awr mor ddrwg fy mhicciL

Eisiau dilyn cynghor Moesen,
Eisiau credu’r ’fengyl lawen,
Eisiau cadw pwyntiau’r gyfraith,
Y bu ’muchedd front yn ddiffaith.

Pan y troes i’r ’fengyl heibio,
Fe ddaeth Satan i’m cyf’rwyddo,
Ac i’m tynnu i bob drygioni,
Y fai ’nhrachwant yn ei hoffi.

Nid oes pochod alla’i draethu,
Na’s dilyuais nos i’m larll,
Nos myn’d bywyd Ifiaidd Difes
Mor dciiareb a Manasses.

Gwnaothum dduw o’m golud bydol,
Rhll’is fy mryd ar buthau cnawdol,
Ym mhob drwy mi aethum rhagof,
A gllllyugais Dduw yn anghof.
Felly, gwedi tost gamsynied,
Llwyr ddibrisiais am fy enaid,
Fel rhyw ’nifail na bai’n coffa’
Dim ond am y byd a’r bola.

Mynnais drwsiad” gwych am danaf,
Porphor gwych bob dydd o’r meinaf;
’N awr ynuffern’wy’n noeth-lymmyn,
Am fy nghoegedd heb un edefyn.

Mynais sindon, lawnd, a chambrig,
Yn fy nghrysau, awr ac orig:
’N awr gwae finnau na bai garthen,
Neu hws ceffyl am fy nghefen.

Minnau fynnwn lanw ’mola,
Ar ddanteithfwyd o’r melusa’,
Bob diwrnod tra fai’r fiwyddyn,
Er bod f’enaid yn dwyn newyn.

Bum mor foethus ac mor ddainti,
Ac na fynnwn unwaith brofi
Dim, ond y fai tra danteithiol,
Bras a melus, drud a manol.

’N awr mi fynnwn pe cawn fwytta,
Soeg y moch i lanw ’mola,
Ac i dorri peth o’r newyn,
Sy’n dolurio pob coluddyn.

Bum yn yfed ac yn whiffio,
Hir a gwin, heb fesur arno;
Ac yn llanw ’mola gan-waith,
Nes ei chwydi fynu eilwaith.

’N awr mi rown y byd yn gyfan,
A’i holl drysor pe cawn ddafan,N
O ddw’r oer i oeri ’nhafod,
Sydd mewn fflam yn Llosgi’n wastod.

Er bod ar fy mord i friwsion,
All’sai borthi swm o dlodion,
Fe gai’r cŵn y cwbl rhyngddyn’,
Cyn cai Lazar un briwsionyn.

’N awr mae Lazar yntau’n talu
Pwyth hyd adref, ac yn pallu
Rhoi o’r ffynnon imi ddafan
O’r dw’r oer, er maint wy’n fegian.

Er bod Moesen a’r Prophwydi
Yn rhoi Uawer rhybudd imi;
Ni wrandawn ar ddim a dd’welent,
Ni wnawn un-rhith” ag a geisient.

’N awr gan hynny ’rwy’n cael crio,
Ddydd a nos, heb gael fy ngwrando;
Ond cael taflu yn fy nannedd,
Mor annuwiol y fu ’muchedd.

Pan pregethid yr Efengyl,
Minnau drown at hon fy ngwegil,
Ac a gysgwn ar fy nyrnau,
Pan bai eraill yn cael gwersau.

’N awr am gysgu yn y demel,
Fe’m tormentir” gan y cythraul,
Fel nad wyf yn abal cysgu,
Na marwinoy mwy ond hynny.

Ac am flino gwrando’r ’fengyl,
Ac athrawiaeth Crist yn rhugyl,
Y mae’n gorfod arna’i wrando,
’Sgrech y cythraul byth tra gantho.

Eisiau gwrando cynghor Moesen,
Eisiau credu’r ’fengyl lawen,
Eisiau dilyn hon a’i dysgu,
Y mae’n uffern fil yn gryddfu.

Minnau dreuliais ddydd yr Arglwydd,
Mewn glothineb ac anlladrwydd,
Yn gan’ waeth, mewn gloddest ’sgym-
mun,
Nag un dydd o ddyddiau’r flwyddyn.

_
Mae ’ma filoedd o rai annoeth,
Am halogi’r sanctaidd Sabboth,
Heb gael Sabboth nag esmwythdra,
Ond eu poeni haf a gaua’.

Cym’rais enw Duw yn ofer,
Fil o weithiau wrth fy mhleser,
Nid oedd blas ar chwedel genny’,
Nes y tyngwn waed yr Iesu.

O! pa boenfa s’ar fy nhafod,
A’m ddirmygu gwaed y cymmod:
A pha dorment sy’n fy ngryddfu,
Am ammharchu enw’r Iesu.
Mi offrymais f’enaid gan-Fraith
Yn y dydd i’r cythraul diffaith:
Am ei roi mor fynych iddo,
F’aeth y diawl a’r enaid gantho.

Mae ’ma larer mil fel finnau,
Yn y pwll mewn irad boenau,
Am roi’n hun i’r diawl dan regu,
Idd eu dwyn i’r poeth carchardy.

Llawer un a fum i’n hela,*”
O dra malais i ryfela,
Er mwyn tywallt gwaed y gwirion,G
A’i ddifetha heb achosion.

’N awr mae gwaed y rhai’n yn llefain,
Am ddialau arna’r ülain,
Ac yn crîo ar y cythraul,
Dalu imi am fy nhrafael.

Bum yn gwest’ ar fywyd ganwaith,
Heb nac ofn Duw na’r gyfraith,
Yn condemnio”' llawer gwirion,
Ac yn cadw llofrudd, Lladron.

’N awr mae’r mwrddwyr dan eu helw,
A drwg-ddynion fu’m i’n gadw,
Yn y pwll yn llarpio f’enaid,
Mor ddi-ffafar a’r cythreuliaid.

’Lariais ar fy ngwraig fy hunan,
Cym’rais fenthyg gwragedd aflan;
Llu o’r rhai’n sy’n awr i’m pwyo,
Ym mhwll uffern am eu hudo.

Mae’r bastardiaid fu’m i’n ennill,
O’r rhai atian hyn fel perchill,
011 yn lleiaiu ac yn cno
Am i’r cythraul fy nhormento.

Mi orthrymmais blant ymddifaid,
i’an bai farw un o’m deiliaid,
Awn a’r ddau ŷch fawr o’r arad’,
Bhag i’r naill o’r ychen frefad.'-

’N awr ani droisio’r fath wirioniaid,
Fe’m tost ffustir” gan gythrouliaid,
Yn gau’ gwaoth nag y bydd tauuor,
A’r pawl mawr yn ffusto’r iledllr.

Bum yn hurio anwir ddynion,
Lawer gwaith idyngu ’nudon,
Ac yn peri’r rhei’ny dyn2: u,
Beth o fynnwn, ond eu dysgu.

Y mae rhai’n fel haid o nadredd,
Ddydd a nos yn cnoi fy mherfedd,
Ac yn rhwygo’n dost fy nghalon,
Am eu dysgu ’dyngu ’nudon.

Minnau elwais bobl wirion, [lladron,
Weithiau’n fyrddrwyr, weithiau’n
Ac enllibais wŷr a gwragedd,
Heb ddim achos ond fy ’nhrawsedd.

Cedwais hur a Uawer cyflog,
Ar fy ngwas a’r tlawd auffodiog,
Ac y berais i’r tlawd fedi
Fy holl heiniars heb un heni.

’N awr mae gwaed y rhei’ny’n crio,
Ar y drwg-ŵr am fy mhwyo,
Am i’m gadw hur y rhei’ni,
Ac andwyo’r cyfryw dlodi.

Rhoddais f’ariant gynt ar occor,
I’r dyn tlawd fel cybydd angor,
Nes i’m lyngcu leddai’r tlodion,
A’n handwyo â’m bargeniou.

’N awr mae llawer un o rhei’ny
Yma yn uffern yn. fy mhoeni,
Am eu gyrru i ledratta,
Gwedi i l’occor brwnt eu difa.

Rhoddais i’r cyfreithwyr duon
Wobor fawr um droisio’r tlodion:
Mao’r cyfreithwyr yu fy Uethu,
Yma yn uffcru am ou llygru.
(yl.
Rhoddais gonnad i’m holl weision,
Flino pawb o’m cymmydogiou:
’N awr mao’r gweision, am ou godde’,
Yn blino’n dost fy onaid innau.

i’ryuais dir dau briff gan fagad,
Cedwaiti both ar bawb o’n taiiad;
’N awr mown carchar ’rwyf am hynny,
Bob flld gonnyf rôt i dalu.
Pe bai ddimmai’n abal prynu,
Rhydd-did, imi o’m carchardy,
A’m dwyn o’r pwll i’r nef oleu,
Nid wy’n abal cael o’r ddimmai.

Cefais rybudd fil o weithiau,
Am roi ’dreisiais eilwaith adre’,
Minnau awn i’r tân ufiFernol,
Cyn rhown ddimmai yn ei gwrthoL

Pan y gwerthwn wlan a Llafur,
Rhown gam bwysau,rhown gam fesur;
Yn yr ŷd mi werthwn raban, c
Yr un bris a’r gwenithpurhin.

Ac, yn erbyn Duw a’i ddeddfau,
Cedwais amryw fath o bwysau;
Pwys rhy fawr, pan fawn yn prynu,
Pwys rhy fach, pan fawn yn gwerthu.

’N awr fe’m curir ar fy nghloppa,
Gan y diawl â’r pwysau mwya’;
A phawb eraill, megis minnau,
Y f’o’n arfer anwir bwysau.

Ni adawais pwngc o’r gyfraith,
Heb ei dorri lawer can-waith:
Mi ymdro’is ym mhob ryw bechod,
Nes i’r angau roi im’ ddyrnod.

Yr ail ran

Ml fynegais iwch’ yn oleu,
Pa wedd y bum i byw hyd angau;
Mi fynegaf i chwi weithian,
Pa wedd y’m poenir dan law Satan.

Y mae’r pwll Ue ’rwyf fi’n trigo,
Yn ddwfn iawn, heb waelod iddo,
A’i holl welydd cyn ucheled,
Nad oes gobaith cael ymwared.

Y mae’r pwll dros fyth yn llosgi,
O dan poeth, fel môr yn berwi;
Y mae ana’l Duw ei hunan,
Yn ei drin fel môr o frwmstan.

Gwsdi ’nynnu’r tân hyn unwaith,
Byth ni ddiffydd hwn yr eilwaith;
Nid rhaid chwythu dim o hano,
Mae e’n cynnen heb ei gyffro.

Y mae’r tân dros fyth yn llosgi,
Yn dra ffyrnig, ac yn poeni;
Ac er hyn nid yw e’n treulio,
Nac yn difa dim el iddo.

Mae’r un tân yn poeni’r bobol,
Ond mewn dull a modd neillduol;
Rhai yn fwy neu lai o ronyn,
Pel y bytho’n beiau’n gofyn.

Yr haul a lysg y mŵr o’r Tndia,
Yn fwy na’r rhai a drig yn Ewssia
Uffern boeth a lysg yn boethach,
Bechod mawr na phechod byrrach.

Nid oes yn y pwll yn trigo
Un heb rwym ar draed a dwylo,-
Mewn cadwynau trag’wyddoldeb
Am eu pechod a’n ffolineb.

Mae tywyllwch hefyd ynddo,
All pob rhai yn hawdd ei deimlo:
Ar er dechreu’r byd ni welad,
Ynddo oleu’r haul na’r lleuad.

Mae e’n drewi cyn ffyrnicced,
Nad oes dim all ddrewi gased;
Er bod miloedd yn ei ’nurddo,
Ni lanhaw’d erioed mo honno.

Y mae pryfed ynddo’n bwytta
Consiens dyn, heb gael eu gwala,
Dydd a nos yn fawr eu hawydd,
Ac heb farw yn dragywydd.

Y mae gwedi mil o filoedd
O gythreuliaid, megis Lluoedd,
Yn tormento’r rhai damnedig,
Ac heb orphwys awr nac orig,
Maent yn dyrnu ac yn pwyo
Rhai damnedig heb ddiffygio,
Ac er maint y f ont yn ddial,
Byth ni chymmer un ei ana’l.

Y mae’r torment yn drag’wyddol,
Ac ar bawb yn gyffredinol,
Yn tormento pawb ar neilldu,
Ym mhob aelod a fu’n pechu.

Y mae’r Llygaid heb gael gweled
Ond cythreuliaid, er eu cased,
Ac eneidiau rhai damnedig,
Yn y pwll yn wylo’n ffyrnig.

Y mae’r genau yntau’n bwytta
Bustyl lindys,” bwyd o’r chwerwa’;
Ac heb yfed dim ond gwaddod,
O ddigofaint tost y Drindod.

Y mae’r clustiau hwythau’n gwrando,
’Sgrech y diawl a’i blant yn crio;
A thost ochain rhai damnedig,
Yn ’sgyrnygu dannedd ffyrnig.

Y mae’r tafod yntau’n llosgi,
Ac mewn brwmstan poeth yn berwi;
Heb gael cymmaint ag un dafan,
O ddwr oer y ddoli’r llosgfan.

Y mae’r ffroenau yn arogli
Gwynt y brwmstan o’r carchardy,
Sydd heb garthu etto er Adda,
Ac yn drewi o’r ffyrnicca’.

Y mae’r traed a’r dwylo hwythau
Gwedi’n clymmu mewn cadwyuau;
Ac heb allael troi na threiglo,
O’r lle’r ydys yn eu brwylio.

Y mae dannedd pawb yn rhingcian,
Yn ’sgyruygu â’r fath dwrddau,
Ag y bydd echrydus genuwu,
AYrando’n Llais, na gwel’d eu ffasiwn.

Y mae pryfod cas anfarwol,
Yn cnoi cousions pob uuuuwiol,
Ac yn bwytta’n llym esgymmun,
Etto by th heb dorri’n newyn.

Fel y pechodd pob rhyw aelod,
Ag oedd gennyf, ’nod fy nhafod;
Felly poenir fy aelodau,
Bob yr un âg amryw boenau.

Mae pob aelod yn poenydio,
Mae pob mann a dial arno;
Mae pob dial yn dragywydd,
Yn poenydio heb ddim llonydd.

Ni bydd marw byth o’r pryfyn,
Byth ni ddiffydd tân yr odŷn;
Ni ddaw angau, er a geisiaf,
Byth i wneuthur diwedd arnaf.

Ni bu’r diluw ond blwydd hynod,
Na thân Sodom ond diwrnod;
Newyn Egypt ond saith mlynedd,
Mae ’mhoen innau byth heb ddiwedd I

Pe cawn rydd-did o’m holl boenau,
Am ben can-mil o flynyddau,
Byddai hynny gynffordd imi;
Ond dros fyth mae’n rhaid im’ boeni.

Y gair byth sy’n torri ’nghalon,
Y gair byth sy’n cnoi ’ngholudâion,
Y gair byth sy’n peri imi
Fwytta ’mreichiau, a gwallgofi.

Tost yw goddef hyn o gystudd,
I)an law Satan yn dragywydd;
Y mae etto beth sydd dostach,
Colli’r Iesu a’i gyfeillach.

Colli’r bywyd, colli’r goron,
Colli’r Iesu a’i angylion;
Colli’r nefoedd a’i rhialtwch,
Colli Duw a phllb dedwyddwch.

Melldith Duw i’r dydd y’m ganed,
Auhap ddrwg i’r awr y’m Uuuiod,
Ulforn booth i’m mani na bu’sai
Yn dwyn llyffant yn fy nghyflo.

Owao fi oriood na thor’sai ’ngwddwg,
Ar y ploccyu prou a bilwg,
Cyn roi bron i fab anwadal,
I ddigill Duw, i ddwyn oi ddial.
Nid oes cythraul, na dyn ’sgymmun,
Yma’n uffern a’i holl derfyn,
Na bont ar eu cylch, yn gynghan,
Yn fy mhwyo fawr a bychan.

Nid oes enaid dyn er Adda,
Yn mhwll uffern mewn mwy poenfa;

Dyma ’nghystudd, dyma ’mhoenfa,
Dyma ’ngwewyr, dyma ’ngwasgfa;
Dyma’r cyflwr yr wyf ynddo,
Bob yr awr yn tost boenydio.

O, gan hynny, fy mhum’ brodyr, A phawb eraill sydd mewn synwyr. Mewn mwy trallod, mewnmwy eisiau, \ Cym’rwch rybudd cyn del angau, Nag y mae fy enaid innau. I Rhag ich’ ddyfod lle ’rwyf finnau.

Oni byddwch edifeiriol,
Ffyddlon, ufudd, a Christ’nogol;
Gwn na ddengys Duw’r dialau,
Iwch’ fwy ffafar nag i minnau.

CXXXVII. Atteb i gwestiwn ynghylch gweddio dros y marw, lle y dangosir anghyfreithlonded gweddio dros y cyfryw

Y
l.
Fy nghar a’m gwir anwylyd,
Gofyn’soch gwestiwn hyfryd:
Mae’n weddus im’, ym mhlaid y ffydd,
Roi atteb prudd o’i blegid.

Hyn yma yw’ch gofyniad,
A’i gweddus i offeiriad
Weddio dros y marw’n brudd,
Yn ol y dydd departiad?

’Rhwy’n atteb i chwi’n groyw,
Na ddiodde’r ’Sgrythyr alw,
Na gweddio, na dydd, na nos,
Yn ofer dros y marw.

Mae Duw yn barnu’r enaid,
I’r nef neu uffern dambaid,
Yr awr yr el o’r corph i ma’s,
Yn ol ei gas a’i weithred.

Mae enaid y dyn ffyddlon
Yn myn’d o’i gorph yn union,
I’r nefoedd,' at angylion gwâr,
Pel enaid Lazar wirion.
Mae enaid yr annuwiol,
Yn myn’d i’r pwll uffernol,
Pan el o’r corph i’r tân a’r rhes,
Fel enaid Difes fydoL

Mae’r duwiol mewn dedwyddwch,
Gogoniant a rhialtwch;°
Y fath nid rhaid iwch’ geisio mwy,
Gadawn ni hwy mewn heddwch.

Nid rhaid gweddio drostynt,
Gan gystal yw eu helynt;
Maent hwy gyda’r Oen bob awr,
A swpper fawr sydd ganddynt.*

Mae’r enaid anwir yntau,
Yn griddfan yn y poenau,
Ni ddaw hwn o’i boen a’i blâg,
Er gweddîo ac offrymau.

Yn ol i undyn farw,
A chael y farn yn groyw,
Ofer yw i’r wlad a’r plwy’
Weddio mwy dros hwnnw.

_
Pg ceisiau Job neu Ddaniel,
Neu Abram, Moesen, Samuel,
Laesu’r” poenau yn y fflam,
Ni chaent ddim am eu trafael.w

Pe delai ’ffeiriaid holl-fyd,
I grio drosto’n daerhyd,
A’n haberthau o bob rhyw,
Ni altrai Duw ’mo’i ferdyd.^

Pe delai’r byd yn gyfan,
A gwaeddi am laesu’r boenfan;
Ni chaeu’, gwedi marw’r gwr,
O’r droppyn dw’r i’w safan.

Y farn a saif yn ddilys,
Lle cwympo’r pren yr erys;
Ni newid Duw o’r farn y roes;
Erioed ni throes o’i ’wyllys.

Mae Duw yn ddianwadal,
Y farn a roes fe’i cynnal;
Ni all y byd, â’n hymbil taer,
Na’r nef, na’r ddae’r ei hattal,

Yr amser i weddîo,
Sydd cyn i ddyn ddepartio;
Gweddi gwedi marw neb,
Sydd weddi heb brefailio.

Gan hynny ’rwy’n cynghori,
I bawb a garo weddi,
I geisio hon tra yntho wros,
Os cais ef les oddi wrthi.

Cais wisg, cais oil,i cais oleu,
Cais ras cyn delo’r angau;-
Ni chair, gwedi pasio’r dydd,
O’r dw’r os bydd e’n eisiau.

Gan hynny, cyn departo,
Ni ddylem bawb woddio;
Dyna’r pryd, heb ddim o’r ffail,
Mao ini gaol ein gwrando.

Cyn marw, y mao ini
Ennill nef nou’i chllUi;
Gwodi marw, ni cluiiir Ifol
Ond barn yn ol ei frynti.

Cyn marw mae repento,
Tra’i’n ddydd y mae ymg’weirio;
Pan el hi’n nos, medd Crist ei hun,
Ni all un dyn mo’r gweithio.^

Mae Crist yn erchi’r treisiwr
Gyttuno câ’i wrth’nebwr,
Tra ar y ffordd, cyn delo ’mlaen,
Rhag myn’d. o flaen y barnwr.

Rhag rhwymo’i draed a’i ddwylo,
A’i daflu i gael ei frwylio -Y
O eisiau gwneuthur iawn mewn pryd,
Ni’s tynn y byd oddi yno.

Fe wyddai Dafydd frenhin,
Pan ddarfu am ei blontyn,
Mai ofer oedd gweddio mwy,
Dros hwnnw, trwy hir ganlyn.

I ddangos hyn, mor ofer
I unrhyw ddyn i arfer
Gweddi gwedi marw’r ffryndjw
Yn ol ei fyn’di ’smwythder.

Am hyn nid oes gweddîo,
Dros ffrynd yn ol departo,
Os yw’n credu’i fyn’d yn noeth,
I utfern boeth i darrio.

Nid oes i neb ond deu-le,
I fyned gwedi angau,
Nef ac utfern, medd gair Duw,
Tân pur nid y w ond chwedlau.

Nid rhaid i uch Wüddi’o,
Dros un â i’r nef i drigo;
Os yn uffern y gwna’i nyth,
Ni ddaw ef byth oddi-yno.

Nid oodd ond gweithred ofer,
A wnueth i’r ’lleiriaid arfor,
Gweddi (Iros y murw mud,
I dwyllll’r byd di-brydor.

Nid ydyw’r ’ffoiiiaid goreu,
Yn goildll’r fath Wüdduiu:
Nis gwna ond rhyw ’ffoiriodyn ffol,
Sy’n serchu yn ol y ddimmai.
Mae dyled ar bob ’fiFeiriad,
Roi diolch am ’madawiad
Pob dyn duwiol yn ddiddoi,
Mewn gobaith o’i gyfodiad.

Ond am weddîo trostyn’,
Yn ol eu claddy a’n terfyn,
Peth di-les a gwar’ddedig yw,
Nis gwna ond rhyw ofer-ddyn.

Wel dyma i chwi atteb,
O’ch cwestiwn mewn ffyddlondeb;
üuw ro cynnydd ar eich ffydd,
A gras yn brudd i’ch hwyneb.

CXXXVIII. Cynghor Mr. Prichard i’w fab

Sami bach, er cariad Duw,
Cofia byth, tra fyddech byw,
Foli Grist ar ben dy liniau,
Yr’ech o’m golwg oddi gartre’.

Galw’n brudd, o ddyfnder calon,
Ar dy Dad a’th Brynwr tirion,
Am d’amddiffyn nos a bore,
Rhag pob drwg tr’ech oddi gartre’.

Plyg dy ddeu-lin, cod dy ddwylo,
Dal yn graff dy lygaid arno,
Cais ei rym, a’i ras a’i oreu,
Ym mhob dim tr’ech oddi gartre’.

Felly ceidw Duw di’n wastad,D
Rhag pob niwed a drwg anffod;
Ac ni edy ddim yn eisiau,
Ar Sam bach tr’o oddi gartre’.

Cria ar Dduw am helpo i ddysgu
’Nabod Crist a’i wir was’naethu,
Tre’ch yn blentyn yn dy foethau;
Dyma’th swydd tr’ech oddi gartre’.

Arfer ofni Duw a’i ganlyn,
Yn dy ie’ngctid, tr’ech yn blentyn;
Felly byddi siwr, mewn graddau,
Foli Duw yn hen-wr gartre’.

Dos yn llawen at dy lyfyr,
Dysg yn glicc ac na fydd segur;
Nid wy’n gw’ardd er hyn it’ weithiau,
Chwareu peth tr’ech oddi gartre’.

Cyn b’ech segur, taro’r delyn,
Cân y Salmau sy’n ei chanlyn;
Fe fydd hynny hyfryd weithiau,
I Sam bach tr’o oddi gartre’.

Cân fel cricced” ar bob cam,
Gochel wylo am dy fam:
Duw fydd fam a thad o’r goreu,
I Sam bach tr’o oddi gartre’.

Duw ro’i ras a’i fendith iti,
Duw’th gyf’rwyddo i’w addoli:
Duw fo’n Geidwad nos a bore,
Ar Sam bach tr’o oddigartre’.

CXXXIX. Cynghor arall Mr. Prichard i’w fab

3.
Cod y bore ar y wawr-ddydd
Am y cyntaf a’r uchedydd;
Hyn a’th helpa’ i gael hir iechyd,
Dysg, a dawn, a chyfoeth hefyd.

Gwisg yn esgyd’ dy holl ddillad,
Dod y rhai’n yn gryno am danad,
N’ad fod bwttwn heb ei ganed,
Cyn y caffo neb dy weled.
Golch dy wyneb, crib dy ben,
A’th gwff yn lân, a’th fond yn wen,
A’th drwsiad oll yn dra threfnus;
O flaen Duw mae hynny’n weddus.

Gwedi ymdrwsio, dos i’th weddi,
Yn ddiaros, gochel oedi;
Cwymp o flaen Duw ar dy liniau,
Cyn y gwlychech di dy enau.
Pan y delech o flaen Duw,
Meddwl, Sam, mai Brenhin yw,
O flaen pwy mae’r holl angylion
Yn ymostwng mewn mawr ofon/

Dere dithau ar dy ddeulin,
Sami bach o flaen dy Frenhin,
Ác na chydgam wrtho yngan,^
Heb anrhydedd, parch, ac ofan.

Ar dy liniau’ cod d’olygon,
At dy nefol Dad yn eon:
Ac nac ofna ofyn iddo
Bob peth ag sydd raid it’ wrtho.

Er bod Duw yn frenhin grymmus,
Holl-alluog, anrhydeddus,
Etto er hyn mae Crist yn d’wedyd,
Fod Duw mawr yn Dad it’ hefyd.-

Galw dithau ar dy Dad,
Am roi iti ddawn a rhad;
Ac ni phall ef ond ei geisio,
Ddim ag y fo rhaid it’ wrtho.

Os bydd arnat ddim ar wall,
Cais yn daer, ac na fynn ball;
Hoff gan Dduw y dyn a geisio,
Yn daer bob awr gymhorth gantho.

Cais ei gymhorth, ac fe ddyry,
G-alw arno, ac fe’th wrendy;
Rho di ynddo dy ymddiried,
Ac fe’th geidw rhag pob ’niwed.

Cofia Dduw, fe’th goffa dithau,
Ac ni edy arnat eisiau;
Ei was’naethwyr fe’n gwas’naetha,
A’i ddirmygwyr fe’n dirmyga.

Os gwas’naethi Dduw yn wastad,
Ee gymmer gymmaint carc<3 amdanad,
A phyt fai» ef heb un plentyn,
Ond tydi i garcu drostyn’.

Meddwl dithau Sami bach,
Yn gefnog,s pu’n ai claf ai iach,
Am was’naethu Duw bob amser,
Dydd a nos, wrth gwrsy ac arfer.o

Os arferu’n awr, yn blentyn,
Was’naethu Duw yn brudd a’i gan-
Yn ŵr hen ni elli beidio N-J^»
Ei was’naethu byth tra gantho.^

Duw r’o iti rym a gras,
I fod iddo byth yn was,
Nos y caffech yn y diwodd
Yn y nefoedd ’fod yn ’tifedd.

CXL. Gweddi Samuel Prichard

Aeglwydd, Rhoddwr pob daioni,
Brenhin Nef, a Thâd goleuni,
Gwel a gwrando weddi egwan
Plentyn bach o ddeng mlwydd oedran.

’Bwyf fi’n dyfod ar fy nau-lin
O’th flaen di, fy ughrasol Fronhin,
I fegian” arch ar dy ddwylo,
Er mwyn Crist na phall im’ hono.

Ti orch’myuaist imi ofyn,
Ti uddowaist roi ond canlyn,
Cuulyu ’rwyf, na phalla imi,
O’r un arch ag wyf ü’n erchi.

Solomon gynt, y brenhin hyfryd,
Geisiai un arch, doethiuob, gennyd;
Ac ti roddaist ei arch iddo,
A llawer mwy nag oedd e’n goisio.

Jacob yntau geisiodd gennyd,
Fwyd a dillad nos dychwelid;
Ac ti roddaist hynny iddo,
A Uawor mwy nag oodd e’n geisio.

Minnau sydd yn dyfod attad,
Ar fy llall-liu, anwyl Geidwad,
’Goisio glluuyd arch trwy weddi;
Er mwyn Crist na phall hi imi.
Nid wy’n ceisio golud bydol,
Uchel fraint, na phleser” cnawdol;
Ond yn unig gras a gallu,
Byth fel Cristion i’th was’naethu.

Dyro ras a grym i minnau,
’Nawr yn blentyn gwympo i ddechreu
Dy was’naethu mewn gwir grefydd,
A’i arferu yn dragywydd.

N’âd im’ dreulio dyddiau’m ie’ngctid,
Mewn oferedd, rhwyf a rhydd-did;
Ond pâr imi yn fy ngryfdwr,
Dy addoli, fy Nghreawdwr.

Agor drysor dy ddaioni,
Dyro ras a deall imi,
Yn ddyn bach i’th wir gydnabod,
Megis Daniel gynt a’i gyfo’d/

Jeremi y Prophwyd yntau,
Yn fab bach a’th wir addolai;
Dyro ras fel Jerem’ imi
Yn fab bach i’th wir addoli.

’Rwy’n fy offrwm i’th was’naethu,
Yn fy ie’ngctid, yn ddi-hiraethu:
Arglwydd grasol derbyn finnau,
rth was’naethu yn ddiamau.

Ti dderbyniaist Samuel gyntaf
I’th was’naethu ar y ia’ngaf,
Pan yr oedd ef yn ei siacced,
Yn fab bach yn dechreu cerdded.

Derbyn finnau, Arglwydd grasol,
Pth was’naethu mor naturiol,
Ac eglura dy hun imi,
Pel y gallwy’n fach d’addoli.

O, cyflawna fì’n ddigonol,
A phob dawn sy’n anghenrheidiol,
Imi gaffael bod yn enwog,
Yn was iti’r Holl-alluog.

Agor lygaid fy ngwybodaeth,
Rho im’ ras a deall helaeth,
Fel ystyriwyf, yn dra pherffaith,
Bethau dirgel yn dy gyfraith.

’Nynn fy nghalon a gwreichionen
O’th wir ras, tra fyddwy’n fachgen,
Fel y llosgo hi byth yn wresog,
Yn dwyn ^el i’r Holl-alluog.

Cwrdd â’m calon â marworyn,
Oddiar d’allor tra fwy’n blentyn,
Fel y gallwyf draethu i’r goleu
Dy fawr glod, tr’o chwyth i’m genau.

Rho im’ bŵer i ddeallu
Dy wir air, a’i iawn ddosparthu,
Fel y gallwyf iawn ystyned
Beth sydd dda ar les fy enaid.

Gwna fi byth yn batrwn” duwiol,
Yn f’ymddygiad i’th holl bobol,
Gan fyw’n sanctaidd yn fy muchedd,
Ym mhob pwynt o’m dechreu i’m
diwedd.

Dyma f’arch, a thyma nghanlyn,
Dyma’r rhoddiad wy’n ei ofyn:
Er mwyn Crist na phall di imi,
Ras yn blentyn i’th addoli.

N’âd im’ dreulio dim o’m hamser,
O hyn allan byth yn ofer;
Ond pâr imi ’i dreulio’n wastad
’Nghylch y peth y berthyn attad.

Tywallt fendith ar fy nhrafael,
Pâr im’ ddysgu yn ddiogel;
Rho im’ gymhorth i ddeallu,
Ac i gofio’r peth wy’n ddysgu.

Tanna droswyf d’aden rasol,
Cudd fi deni yn wastadol;
N’âd un gelyn wneuthur niwed,
Mewnun modd i’m corph na’m henaid.
Cadw fi rhag cwrp a thramgwydd,
C’wilydd, colled, anhap, aflwydd,
Nychdod, niwed, a’r fath hynny,
0« bydd d’wyllys yn ceuhadu.

Bid dy lygaid i’m diwallu,
Bid d’angylion i’m castellu;«
Bid dy Yspryd i’m cyf’rwyddo,
Bid dy ras i’m cynnorthwyo.

Clod i ti, a gras i minnau,
Mawl i’m Brenhin nos a boreu;
Gwir ogoniant. yn dragywvdd,
A fo i’m Harglwydd a’m Hachubydd.

CXLI. Cynghor arall Mr. Prichard (medd rhai) i’w fab

Na phampra’i- corph i ladd yr enaid,
Na ddigia Duw i blesio diawlaid,
Na werth y nef i brynu daear,
Na phecha mwy rhag bod yn ’difar.

Pe cait beunydd fwytta manna,
Ar felus-fwyd Llanw’th fola;
Beth dal iti yn ol hynny,
A myn’d i uifern i newynu.

Pe cait yfed gwin yn ddiod,
Gwisgo porphor” ff’ein’ yn wastod,
Rhoi dy droed ar warr brenhinoedd,
Beth wyt nes o colli’r nefoedd Y
Pe bait berchen aur yr India,
Da’r” holl fyd, a’r tiroedd tecca’,
Both y dal it’ hyn o wagedd,
A cholli d’enaid yn y diwedd.
Pe cait orwedd gyda Fenus,
Plesio’th gorph o’r lana’ gerddws,
Beth yw d’ennill am dy drafael,
A myn’d d’enaid gan y cythraul?

Pe ceit bawb i ffusto’th gefen,^
Plant y byd i’th sirio’n’- llawen;
Beth y dal,i’r rhain dy flattro,
A Duw wrthyt wedi digio?

Gwell gwas’naethu Duw na’r byd,
Gwell ffrwyno’r corph na’th ddamnio i
gyd, [ol,
Gwelltrafael byrrnaphoen trag’wydd-
Gwell bara a dwr na gwledd uffernol.

Gwas’naetha Grist, rhyfela â’r cyth-
Ti gei goron am dy drafael; [raul,
Cospa’r cnawd i gadw d’enaid,
Ti gei ran o’r wledd fondigaid.

CXLII. Achwyn Mr. Prichard ynghylch tref Llanymddyfri; a’i rybudd a’i gynghor ef iddi

Mene Tocel,” Tro’ Llau’ddyfri,
l’wysodd Duw di yn dy frynti;
Ni cha’dd ynot ond y sorrod;
Gochel weithian rhag ei ddyrnod.
Gwialen dost sydd barod iti,
Er ys dydduiu am dy frynti;
A’th anwirodd sy’n cynyddu;
Gochol weithiau gaol dy faeddu.
fflr yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn ar hir scori,
Och! fe dal ar un-waith iti.

Mae’n rhoi amser iti wella,
Mae’n rhoi rhybudd o”r helaetha’;
Cymmer rybudd tra fo’r amser,
Onidê fe bryn dy grwpper/

Pa hwyaf mae Duw’n aros wrthyd,
Am’difeirwchagwellbywyd,[fuchedd;
Waeth-waeth, waeth-waeth yw dy
Ond gwae di pan ddel y diwedd.

Lle b’o Duw yn hir yn oedi,
Heb roi dial am ddrygioni,
Trymmaf oll y fydd ei ddyrnod,
Pan y del i ddial pechod.

Gochel dithau ddial Duw,
Pe ddaw ar frys, er llaesed yw;
A’i draed o wlan, a’i ddwrn o blwm,
Lle delo’n llaes” fe dery’n drwm.

Tebyg ydwyt i Gomorra,
Sodom boeth, a thref Samaria,
Rhai na fynnent wella hyd farw,
Nes eu troi yn llwch a lludw.
. ^-
Tebyg ydwyt ti i Pharao,
Oedd a’i galon gwedi’i sero,
’B, hwn nafynnai wella’i fuchedd,
Nes ei blago yn y diwedd.

Cefaist rybudd lawer pryd,
Nid yw cynghor ’moethyn id’,
Nid oes lun it’ wneuthur esgus;
O! gwae di, y dref anhappus.

Bore codais gyda’r ceiliog,
Hir ddilynais yn dy annog
Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.

Cenais iti’r udgorn aethlyd,
O farn Duw a’i lid anhyfryd,
I’th ddihuno o drwm gwsg pechod,
Hwrnu er hyn’r wyt ti yn wastod.

Minnau’th lithiais â di-sigyl
Addewidion yr Efengyl,
Yn fwyn i’th wa’wdd i edifeirwch;
Ond ni chefais ond y tristwch.

Mi’th fygythais dithau â’r gyfraith,
A dialau Duw ar un-waith,
’Geisio ffrwyno d’eu rhag pechu;
Ffrom a ffoi wyt ti er hynny.
15._
Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg, a thrwy hagar,
Ni chawn gennyd ond y gwatwar.

Beth a allaf wneuthur weithian,
Ond ei thynnu i ochr ceulan,
I wylo’r deigrau gwaed pe gallwn,
Wel’d dy arwain tua’r dwngiwn r

Pwy na wylai weled Satan,
Yn dy dynnu wrth edef sidan,
I bwll uffern yn drag’wyddol,
A’r bach, a’r bait” o bleser cnawdol?
_ 18.
Esau werthai ei ’difeddiaeth,
Am y phiolaid gawl ysywaith;
Tithau werthaist deyrnas nefoedd,
Am gawl brag, do, do o’mhanfodd.

Dyma’r peth sy’n torri ’nghalon,
Wrth dy weled di’n awr mor ffinion,
Orfod prwfio hyn yn d’erbyn,
Ddydd y farn, heb gelu gronyn.

Tost yw gorfod ar y tad,
Ddydd y farn, heb ddim o’r gwâd,
Dystiolaethu, o led ’saian,
Yn erbyn brynti’i blant ei hunan.
Hyn a fydd, a hyn a ddaw,
Oni welli maes o law;
Er mwyn Crist gan hynny gwella,
Rhag i ddial Duw dy ddala.

Gwisga len a sach am danad,
Wyla nesbo’th wely’n nofiad!
Ac na fwytta fwyd na diod,
Nes cael pardwn” am dy bechod.

Cur dy ddwy-fron tynn dy wallt,
Wyla’r deigrau dwr yn hallt;
Cria’n “ddyfal iawn Pecayi,'
Arglwydd maddeu ’meiau imi.

Bwrw ymaith dy ddiffeithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phutteindra,
Gad dy feddwdod, cladd dy frynti,
Mae Duw’n gwel’d dy holl ddrygioni.*

Mae dy farn wrth edef wen,
Yn crogi beunydd uwch dv ben
Mae dy blant â phob ei reffyn,
Yn ei thynnu ar dy gobyn.

Gochel bellach dal dy law,
Dial Duw fel bolf a dd iw:
Rhoi it’ rybudd prudd sydd raid,
Oni chym’ri rybudd, paid.

CXLIII. Achwyn Eglwyswr

Dttw, gwel drymmed yw fy nghalon,
Weled faint peng’ledrwydd dynion,
Ceisio eu harwain tua’r neioedd,
Hwyntau ant i’r tân heb ddiffodd.

Golchi’r Moyrys du trwy sebon,
Troi’r Torddonen i ben Hermon,
Yw cynghori’r dyn pen-galed
Ofni Duw, a charcu’i” enaid.

Cais trwy deg, a chais trwy hagar,
Oi’er canu i’r neidyr fyddar:
Trinia fynnech ar bren pwdwr,
Byth ni ry ’ti tfrwyth na swccwr.

Dysg, a dangos, gwa’wdd, ymhwedd,
Mab y fall ni wella o”i fuchedd: [yl,
Lladd â’r gyfraith, gwa’wdd â’r ’feng-
Ni thry attad ond ei wegil.

Gollwng arno’r holl Brophwydi,
A’r Tostolion i’w gynghori;
Nid gwaeth ffusto” pen wrth bentan,
Ni wna ond y fynno ei hunan.

Gwae fy nghalon drom gan hynny,
Na buasai Duw’n gwyllysu,
Fy rhoi’n fugail ar dda gwylltion,
Cyn rhoi i’m siars Y y cyfryw ddynion.

Y corr a dynn y gwenwyn lindys.
O’r blodeuyn goreu ei relys;
A’r dyn drwg a dyn ryw accan,
O bur eiriau Duw ei hunan.

Waith i Grist ein Prynwr tirion,
Golli drosom waed ei galon,
A’i roi’n bridwerth dros ein pechod,
Fe fynn llawer bechu’n wastod.

Waith bod Noe a Lot yn feddw,
Wuith bod Jonas hon yn chwerw,
Fo fyn llawer droedio eu llwybrau,
Heb ddilyn un o’n holl nnweddau.

Pob gwas gwych yn awr a feder,
Dyngu a rhogu gyda Phedor:
Pa’m na wela’i rai yn medru
Gyda Phoder edifaru r
Swm” sy’n dilyn Dafydd Broplawyd,
Mewn godineb, Ue gw’radwyddwyd:
Ond ni wela’i i neb yn dilyn
Edifeirwch Dafydd frenhin.

Un a dd’wed, mi adawaf,
Fy meiau’i gyd y flwyddyn nesaf,
Beth, medd Crist, os aiff dy enaid,
Heno nesaf gan gythreuliaid?

Llall y ddywed, helwn heddy’,
Ni wellawn ein beiau foru;
Heno lladd y gwr yn feddw,
Duw, b’le’r aeth “’difeirwch hwnnw?

Yn ol hwn y d’wed y trydydd,
Pe bai fy mai yn fwy na’r mynydd,
Mae Duw mawr yn fwy’i drugaredd;
Mi gaf bardwn ar fy niwedd.

Pelly, waith bod Duw yn rasol,
Ac yn dirion i’r ’difeiriol,
Llawer dyn sy’n pechu’n ’sgeler,
Heb ystyried ei gyfiawnder.

Er bod Duw yn llawn trugaredd,
Yn hwyr ei lid, yn dda ei amynedd;
Etto er hyn mae Crist yn d’wedyd,
Fod Duw mawr yn gyfiawn hefyd.

Duw sydd rasol, Duw sydd gyfion,
Duw sydd fwyn, a Duw sydd ddigllon,
Duw sydd ddof, a Duw sydd danllyd,
Duw sydd hael, a chynnil hefyd

_
Mae e’n maddeu’r mil talentau,
Etto’n pallu’r hathng weithiau:
Mae’n rhoi’r nef yn rhwydd i ryw-un,
Etto i’r llall yn pallu’r droppyn.

I’r rhai ffyddlon edifeiriol,
Mae Duw’n ffyddlon ac yn rasol,
Ond i’r cyndyn, cas, gwrthnysig,
Mae Duw’n greulon ac yn ffyrnig.

O herwydd hyn ’rwy’n cynghori
Na ddilyner hir ddrygioni,
Ond i bawb, tra fyddont byw,
Dreulio eu hoes mewn ofn Duw.

CXLIV. Rhaid glynu wrth Crist, heb adael i ddim ein troi oddi wrtho

Os tâd, os mam,
Os mab, os merch,
Os tai, os tir,
Os gwraig trwy serch,
Y gais dy droi,
Yn draws neu’n drist,
Oddiwrth dy gred
A’th serch at Crist.
Gâd dad i droi,
Gâd fam, i wylo,
Gâd wraig i ’sgoi,
Gâd blant i grîo,
Gâd dai, gâd dir,
Gâd faeth, gâd fywyd,
Cyn gado Crist,
Gâd faint sydd gennyd.
3 Bydd Crist yn Dad,
Yn Fam, yn Frawd,
Yn graig, yn gaer,
Yn ffrŷnd, yn ffawd,
Yn gyfoeth mawr,
Yn lles, yn Uwyddiant,
Yn bob peth cu g
I bawb a’i carant.
4 Heb Crist, heb gred,
Heb faeth, heb fywyd,
Heb dull, heb ddawn,
Heb nerth, heb iechyd,
Heb bop, heb help,
Heb ras, heb rym,
Heb ddysg, heb dda,
Heb Dduw, heb ddim.

CXLV. Gwell Duw na dim

G^TELL Duw na’r nef, na dim sydd
ynddi, [arni,
Gwell na’r ddae’r na’r maint sydd
Gwell na’r byd, na’i olud in’,
Gwell, a dau-well Duw na dim.

Gwellnathad,namam,na’mammaetTi,
Gwell na chyfoeth, na ’thifeddiaeth,
Gwell na Mari, gwell na Martha,
Gwell na dim, yw Duw gorucha’.

Os Duw ddewisiaist yn dy ran,
Cei Grist i’th gynnal ym mhob man,
Cei’r saint i’th gylch, cei’r byd i’th
beri,
Cei’r nef i’th ran, cei’r fall i’th ofni.

Ti ddewisiaist y rhan bennaf,
Pan ddewisiaist Dduw goruchaf;
Rhan na ddygir byth odd’ arnad/
Tra parhao’r haul a’r lleuad.

Pan duo’r haul, pan wrido’r lleuad,
Pan syrthio’r ser, pan ofno bagad,
Pan Uosgo’n boeth y byd a’i bŵer/
Bydd dy ran di yn ddibryder.

Owyny dy galon, na fydd wan,
Cadw d’afael ar dy ran;
Ti ddewisiaist y rhan oreu,
Gochel newid hyd at angau.

CXLVI. Crist yw pren y bywyd

4.
Mae’i ffrwyth e’n ber, mae’i ddail yn
iachus,
Mae’i flas yn well na’r manna melus;
Ni all newyn byth nac angau,
Flino’r dyn a fwytty ei ffrwythau.

Crist yw’r pren, O dewch bawb atto,
Y ffrwyth yw’r bywyd y sydd ynddo;
Y dail yw’r gair a’i gynghor iachus,
Sy’n bywhau yr enaid clwyfus-

Dewch bob rhai sy’n flm eu cyflwr,
Dewch at Grist, ein gwir lachawdwr,
Dewch i ddorbyn gras ac iechyd,[fyd.
Cymhorth, cynffordd” bawb o’r holl
Dewch bob rhai at Bren y Bywyd,
Dewch at Grist ein Prynwr hyfryd,
Mwynhewch y ffrwyth, a chredwch
yntho,
Chwi gewch ras a bywyd gantho.

Dyma’r pren a dynn y dingcod,
A’r newyn du, a’r poen a’r pechod;
A’r melldith Dduw, a’r loes wenwynig,
A ddueth o fwytta’r pren gwa’rddedig.

Os bwyttewch o’r pren yn rhad,
O’r nef y daoth oddiwrth y Tad:
I’n gyrru’n iach i gadw’n bywyd,
I dorri’n chwant, i roi in’ iechyd.
De’wn at y pren, bwyttawn ei ffrwythau,
Cryuhown ei ddail, rhown wrth ein clwyfau,
Fe’n gwir iacha, fo dyrr oin newyn,
Fe bair i’n fyw dros ìyth heb derfyn.

CXLVII. Crist a arwyddoccawyd wrth Oen y pasg

Crtst yw Oon y Pasg, a’n haborth,
Criat yw’n lloen a’n offrwm prydforth,
Oon Duw, Oüu da, Oen gwynn i gyd
Sy’n tynnu ffwrdd bochodau’rhyd.

Crist yw’r Oon a laddwyd drosom,
Crist a archollwyd am a wuaothom \
A’i waod gworthfawr pan groeshoel-
Am oiu beiau a dy walltwyd.” [iwyd.
Blin, a thost, a thrwm, ac irad,
Poeni’r oen am feiau’r ddafad;
Lladd Mab Duw, ar flaeniau’rhoelion,
Am bechodau meibion dynion.

Adda’n bwytta’r ’falau pechod,
Dannedd Crist yn godde’r dingcod;
Dyn yn pechu, Crist yn marw;
B’le bu cariad o’r fath hwnnw?
Och! pa galon na thosturia,
Chwippio Crist am bechod Adda;
Lladd y Bugail am fai’r ddefaid;
Crogi’r Prins i gadw’r deiliaid?

Gwerthu’r Meistr i brynu’r gweision,
Lladd y Mab i gadw ei ’lynion;
Mwrddro’r’ Meddyg, brathu’i ystlys,
’Gael ei waed i helpu’r clwyfus.

CXLVIII. Crist a arwyddoccawyd wrth y sarph bres

Y SAWL a frathwyd gan y ddraig,
Dewch at Grist Iesu, hâd y wraig,
Fe drin y brath, fe dynn y colyn,
Pe rwym y ddraig, fe ’siga’i chobyn.--

’Ey’m ni bob rhai gwedi’n brathu,
Mae col c pechod gwedi’n gryddfu;
Ni all neb ond Crist ein helio,
Fe yw’r sarff bres, craffwn arno.

Craffwn ar Grist a groeshoeliwyd,
Fel y craffai’r rhai a frathwyd
Ar y sarph bres yn y diffaith,
Fe â’r loes a’r gwenwyn ymaith.
Os edrychwn arno yn brudd,
A chalon donn,” a llygad ffydd,
Er i’r sarph â’i chol ein clwyfo,
Fe’n iacha ond edrych arno.

Oni ddewn at Grist ar fyrder,
I gael help rhag frath y wiber,
Nid oes meddyg yn yr holl-fyd,
Ond Mab Duw all gadw ein by wyd.

y Dewn gan hynny yn gyfan atto k
Ceisiwn help a chymhorth gantho;
Os dangoswn ein harchollion,
Fe’n iacha â gwaed ei galon.

CXLIX. Hymn ar ddydd Nadolig

POB Cristion ag sy’n clywed,
A’m llais yn medru ystyried,
Cenwch foliant gyda mi,
I’r Un Duw Tri gogoned.

Derchefwch eich calonnau,
Cyd-genwch Salms a Hymnau,
Er clod a mawl i’n Prynwr cu,
Y anned heddy’r boreu.

Er c dyma’r dydd y dylen,
Ymroi i fod yn llawen,
I glodfori, bob rhyw awr,
Ein ceidwad mawr a’n cefen.
O’s dyma’r dydd y ganed,
Crist, Ceidwad, cynffordd holl-gred,
Unig helpwr yr holl fyd
A gwyn ein byd ei weled.

Dyma’r dydd y cafas,
Holl gred eu gwyn a’n hurddas,
Dyma’r dydd y torrwyd pen
Y sarph a’r fflen-' atcas.

Dyma’r dydd y cawsom
Y gwyn’fyd gynt y goll’som,
Trwy wall Adda, ein tad cu,
Pan ddaeth Crist Iesu attom.
Dyma’r dydd y dorrodd
Y fagl gynt a’n rhwydodd;
Dyma’r dydd y barodd och
I”r wiber goch a’n hudodd.

Os dyma’r dydd y eaned
Mab Duw, yr had bendigaid,
Addawsid gynt o hil y wraig,
I sathru’r ddraig oedd embaid.

O moeswch in’ gan hynny,
Sancteiddio’r dwthwn heddy’,
Er cof am Brynwr yr holl fyd,
A ddaeth mor drud i’n helpu.

A nedwch in’ anghofio
Yn ddyfal ei fendithio,
Am y cymhorth mawr i gyd,
Y ga’dd y byd oddiwrtho.

Ond moeswch in’ glodfori
Ei enw, a’i foliannu,
Ddydd a nos, tr’o ynnom chwyth,
A’r eithaf byth o’n gallu.

A heddyw yn enwedig,
Yn gyfan ddydd Nadolig,*
Cenwch nes dadseinio’r nef,
Gan lais eich llef caredig.

O’r caniad cynta’ i’r ceiliog,
Ymrowch i godi yn gefnog,
I glodfori, hyd y wawr,
Eich Prynwr mawr trugarog.

A phan y torro’r wawr-ddydd,
Cyd-genwch â’r uchedydd,
Eoliaut am eich tynnu i ma’s,
N’r tywyllwch» cas tnigywydd.

A chanol dydd heb orphen,
Fel ceiliog y fwyalchen,
Cenwch Sahnau iddo’n glos,T
Nes dycco’r nos y seron.
lll.
A chwedi’n, o’r decnrou-nos,
Yn ddyfal fol yr eos,
Cmiwch, conwch, na orphwyswch,
Nüti goriìLcno’r hir-nos.

Ac felly nos a borau,
A chanol dydd yn ddiau,
Treuliwch y Nadolig ddydd
Mewn diolch prudd a Salmau.

Can’s dyma’r dydd y’n prynwyd,
A’r dydd y’n reconseiliwyd,
Yn ffryns i Dduw ein Barnwr prudd,
A dyma’r dydd y’n helpwyd.

Dyma’r dydd a’n cododd,
O uffern hyd y nefoedd,
A’r dy dd a’n gwnaeth yn blant i Dduw,
On’d hyfryd yw’r gweithredoedd I

Dyma’r dydd sy’n rhwygo
Ein sach,T a’r dydd sy’n datro,»
Ein tristwch i lawenydd trwch,
O gorfoleddwch ynddo.

O’s dyma’r dydd y ganed
Oen Duw, yr Ilad bendiged,
I dynnu ffwrdd bechodau’r byd,
Oedd goch i gyd fel sgarled.

Dyma’r dydd gan hynny,
Y mae in’ orfoleddu,
A myn’d i lysoedd Duw yn lân,
Dan c ddiolch a than ganu.

Dyma’r dydd sydd ini,
Yn ddyfal i’w addoli,
A’i fendithio, bob rhyw awr,
Am dan ei fawr ddaioni.

A chofio’r modd y’n prynodd
Trwy’r gwerthfawr waod a gollodd,
O dan ei fron ar grogbren croes,
A’r chworw loes a gafodd.

Fol pelican d cariadus,
Tuag at ei adar clwyfus,
Fil rodd waed ei galon bur,
I helpu ei frodyr ’nafus.s

F’ adawodd yr angylion,
I ddwad at luddowon,
I brynu onaid dyn yn rhad.o
A gworthfawr wa’d ei galon.
O’r gadair ym mharadwys,
I’r ddae’ren fe ddisgynnwys,
I gym’ryd cnawd o Fair wen dlos,
I farw dros ei eglwys.

Fe gym’rodd arno’n tlodi,
A’n gwaeledd a’n gofidi,
A’r holl ddial arno’i hun,
A haeddai dyn am frynti.

Fe wanwyd am ein beiau,
F’ archollwyd am gamweddau;
Ond trwy’i gleisiau fe iachaws
Holl haws ein pechodau.

Fe gollodd waed ei galon,
Ar grogbren hefyd droson,
Ac fe’n gwnaeth yn blant i Dduw,
“Pan’ oeddem yn elynion.

Fe’n golchodd o’n pechodau,
Fe brynodd ein heneidiau,
Ac fe’n dug i deyrnas nef,
Er maint yw Nef ein beiau.

O moeswch in’, gan hynny,
Yn gefnog ei glodfori,
Ddydd a nos, chwi welwch pa’m
Mor rasol am ein prynu.

A moeswch ini gadw
Y gwyliau sy’ ar ei enw;
Mewn duwiolder, rhinwedd, rhad,
C’redigrwydd, cariad croyw.

A moeswch ini dreulio
Yn sanctaidd heb ei ’nurddo,
Mewn oferedd yn y byd,
Ond pawb i gyd- sancteiddio.

Trown heibio afreolaeth,
Ameddwdod a phibyddiaeth,
Ac awn ynghyd i deml Duw,
Can’s hynny yw Crist’nogaeth.

Nid gweddaidd i Grist’nogion,
Ymdroi mewn beiau bryntion,
Ar wyliau Crist, ein Prynwr prudd,
Y modd y bydd luddewon.

Ond treulio’ rhia’n yn sanctaidd,
Yn sobor, ac yn weddaidd,
Megis plant i’n nefol Dad,
Mewn gras a chariad perffaidd.

Ac arfer bob diwrnod
Yn ddyfal iawn i ddyfod
I deml Dduw a’i sanctaidd dŷ,
Bob rhai dan ganu mawr-glod.

Nid edrych ar ein dwylo,
Am roi un aberth iddo,
Ond clod a mawl tu fewn ei lys;
Can’s hyn sydd felus gantho.^

O dewch i’w byrth gan hynny,
Dan ddiolch a than ganu,
Fach a mawr, ar foreu a hwyr,
Yn brudd i’w Iwyr foliannu.

O dewch i’w deml sanctaidd,
Yn drefnus ac yn weddaidd;
I glodfori enw Duw,
Can’s hyfryd yw a gweddaidd.

Tra gweddaidd a pherth’nasol,
I bob rhyw Gristion duwiol,
Foli ein Prynwr ddydd a nos,
Am farw dros ei bobol.

Dyma gyd y taliad,
Y diolch, a’r aberthiad,
Y mae’n ddisgwyl ar law’r gwŷr,
Am dan ei gur a’i gariad.

Gan hynny curwch ddwylo,
A rhoddwch loliant iddo,
Yn ei demel fawr a’i lys,
Can’s hyn sydd felus gantho.

A nedwch i ni’n un-lle
Ei gablu â’n geneuau,
Rhag ein myn’d yn waeth ein cas
Na íSuddas a’i bradychai.

I’r Tad, i’r Mab, i’r Yspryd,
I’r Drindod, Undod hylryd,
Y bo clod a moliant mawr,
Bob dydd, bob awr, bob ennyd.

O ble daw’r geiriau hyn

Cymraeg: Seren Foreu neu Ganwyll y Cymry; sef Gwaith Prydyddol y Parch. Rhys Prichard, M.A., gynt Ficer Llanymddyfri; ynghyd a nodiadau eglurhaol, a bywgraphiad yr awdwr, gan y diweddar Barch. Rice Rees, B.D., o Goleg Dewi Sant, Llanbedr; trydydd argraphiad (Wrecsam: Hughes and Son, 56 Hope Street; Llundain: Simpkin, Marshall and Co., 1867). Sgan: archive.org/details/serenforeuneugan00pric

Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Dyfynnu’r dudalen hon

Ifan, ‘Caniadau CXXXVI–CXLIX’, Hanes Cymru, diweddarwyd 24 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/seren-foreu-caniadau-136-149.