Hanes Cymru / Llenyddiaeth / Yr hen destunau Cymraeg

Rhan o’r llyfrau cyfraith o’r 1200au

Llyfr Prawf Ynad

Yr hyn yr oedd yn rhaid i ŵr ei wybod cyn y gallai eistedd yn ynad yng Ngwynedd: Tair Colofn Cyfraith, ar alanas, lladrad a thân, a gwerth gwyllt a dof.

Llun: Ynad y llys a’r hebogydd â’i hebog, wedi’u tynnu ar ymylon Peniarth 28 · Medieval scribe; National Library of Wales (Peniarth MS 28), CC0 · Wikimedia Commons

I’w gael ynLlyfr Iorwerth, ac mewn ffurfiau eraill yn y llyfrau cyfraith eraill
CynnwysTair Colofn Cyfraith, a gwerth gwyllt a dof
Iy cyfreithiwr ifanc a fynnai fod yn ynad

Yng Ngwynedd roedd yr ynad yn gyfreithiwr wedi’i hyfforddi, ac mae Llyfr Iorwerth yn nodi’r hyn yr oedd yn rhaid iddo’i wybod. Rhaid i’r neb a fynnai fod yn ynad ddysgu’r llyfr hwn yn gyntaf. Pan dybiai ei athro ei fod yn barod, fe’i holid gan ynad y llys, yna fe’i cyflwynid i’r arglwydd, a roddai iddo ei awdurdod, a thalai bedair ceiniog ar hugain i ynad y llys yn dâl. Y llyfr yr oedd yn rhaid iddo ei feistroli oedd y Llyfr Prawf.

Y Llyfr Prawf

A’r llyvyr hwn a elwyr e Llyvyr Prawf,A’r llyfr hwn a elwir y Llyfr Prawf,sef yw hynny, teyr kolovyn kyvreythsef yw hynny, tair colofn cyfraitha gwerth gwyllt a dofa gwerth gwyllt a dofac a perthyn ar hynny.a’r hyn a berthyn iddynt.
Llyfr Iorwerth, Llyfr Prawf Ynad

Tair Colofn Cyfraith

Tair Colofn Cyfraith yw naw affaith galanas, naw affaith lladrad a naw affaith tân. Affaith yw unrhyw ran yn y weithred, o’i chynllunio hyd at sefyll gerllaw tra gwnaed hi, ac roedd pris ar bob un. Roedd trefnu’r gyfraith fesul tri, a thri naw, yn ei gwneud yn haws ei dysgu a’i chofio, fel y dysgai’r beirdd eu trioedd.

Y tafod rhudd

Nau afeyth galanas.Naw affaith galanas.Kyntaw yw onadunt, menegi y dyn a ladherY cyntaf ohonynt yw dangos y dyn a leddiryr dyn a’y lladho;i’r dyn a’i lladd;a hwnnw a elwyr yn tavawt rud.a gelwir hynny yn dafod rhudd.
Llyfr Iorwerth, colofn gyntaf y gyfraith

Melltith ar yr ynad heb ei hyfforddi

Dywed rhagair y Llyfr Prawf i’r gynulleidfa yn y Tŷ Gwyn osod melltith ar unrhyw arglwydd a roddai awdurdod barnu i ŵr, ac ar unrhyw ŵr a’i cymerai, heb wybod tair colofn cyfraith a gwerth gwyllt a dof. Gallai ynad a roddai farn anghyfiawn golli ei dafod, oni thalai ei werth yn ôl y gyfraith. Roedd cyfraith Cymru o ddifrif am ei hynadon.

Gwerth gwyllt a dof

Mae ail hanner y Llyfr Prawf yn gosod pris ar bob anifail, gwyllt a dof, ac ar goed, arfau a rhannau tŷ. Mae ganddo dudalen ei hun ar y wefan hon.

Pobl y testun

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (1)

Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Pob llun ar y wefan