

Hanes Cymru / Llyfrgell / Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Cerddi CXXVI–CLXV
Cerddi CXXVI hyd CLXV o gasgliad 1789, yn ei eiriau a’i orgraff ei hun.
Llun: Cerflun marmor Dafydd ap Gwilym yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd · Seth Whales, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
CXXVI. Gwrthatteb G. Gryg
Golygiad modern Abertawe: cerdd 29 ↗
Gwerfyl wawr eddy] ryddoeth,
Gwae fi fod cydnabod coeth
Mae’n rhaid ym, yn rhyw dymawr,
Oedi dy wawd,—ydwyd wawr
Aml o’m tafawd dy wawdair,
A maint i’th gerais, myn Mair!
Medrai ganu, mae drwg annel
Yn llestair cerdd, llaester cel,
Dafydd, eiddil, ab Gwilym
Ni ad o anngbariad ym
Dychanu neb anhepcor,
Na phrydu mwy i wen-ffrwd mor!
Na sor, oleuliw naws hardd,
Weriyl er mwyn dy wirfardd! î
Tra cyfan i’m diddanwyf,
Dos yn iach un dison wyf.
Tudur Goch, glawrllyd froch gler,
Yn mhob glyn gelyn y gler;
Cwyno a wnaf rhag cyni
Cenau tom, canu iti!
Nychdawd i’th sarugwawd sur,
Nocht ydwyd, yn iach Dudur!
R haid i Ddafydd, gwehydd gwawd,
Ddial yr hyn a ddywawd.
Cytgerdd:
Cytgerdd eos mewn coetgae
Cytgam ar mawrgaiu y mae,
Nid teg gan neb, nid digam
Myn llaw y Pab fab ei fam;
Am radd y mae ’n ymroddi,
Ymryson yn Mon a mi
Undad nid wy’ tra bwy’ bardd,
Nagunfam â’rgoganfardd!
Y mae saith o gydymeithion
Im’ yn Aberffraw yn Mon,
Aml eu rhoddiad profadwy
Am un i Ddafydd, a mwy,
Mawr eisio cerdd ar glerddyn,
Mal Dafydd awenydd wŷn. —
Herio ymladd, cyn addef
Yn mlaen gwawd ei dafawd ef! I
Da tybiawdd gael gafael gall,
Llusg ongl, ar ddyn llesg angall;—
Diofn i’r bardd o’r Dëau
Fyddaf ni ihawaf, o than!
Fy ngherdd yn erbyn fy nghas
A rof, am na bum ryfas.
A’m cerdd fawr dan fedw laswydr,
A’m callder a’m hoywder hydr.
Am fonedd ym a fenaig,
Am ddyddiant gwrygiant gwraig.—
Gofyner herber, hirbell
Ardudfyl, o Werfyl well;—
Gwyr ymoglyd anudon,
Gwr iddi wyf fi o Fon, —
Cefais serch gan fun serchog,
Llawen ged, yn llwyn y gog;
Nid er bost na thrybestyd,
Ond er adde’ beie’r byd,
Ac ar hon, ddyn gyfion gu,
Enill’ais fab gwan allu;—
A’i henw ydoedd yno
Yn Ddafydd o’i fedydd fo,
Myn’d a wnaeth, yn grach-fachgen,
Ar niwl haw, yn ol i’w ben;
Mawr o’r om ar gyfeiliorni,
Tua’r Deheudir dir du!
Ac ni ches mo hanes hwn,
Oer ellyll, er aallwn.—
Tybio’r wy’, nid wy’ annoeth,
Mae fo tr prydydd newydd noeth,
Gwedi cael, gwedi ’r calan,
Droi GfiíTyn yn Wilyn wan.
Os mab ym oedd, gyhoedd gof,
Ni hanyw ddim o honof;—
A drwg y peirch, er eirchiad,
Y prydydd Dafydd, ei dad
CXXVII. Atteb Dafydd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 30 ↗
Aerblanc yw Gruffydd wyrblyg,
A bwa crefft, cyd bai cryg;
Saethu y mae, wae wahawdd,
Pob nod, nid rhydd i’r Pab nawdd
Ac odid, le unwrid liw,
Un a fedr, anaf ydyw!
Ond dwyn y gerdd wrthwyneb
Y glod yn anglod i neb.
Pettwn hebddo, yngo angerdd,
Aed fyd cof, adfydig cerdd
Llai cywilydd oedd iddaw
Ddial fy llid, ddal fy llaw,
Nag edliw ym, gyflym gawdd,
Fy nrhwydded fan i’r haeddawdd
Pedfai ffyrch, nid Hwyrgyrch llesg,
Dan aeliau dyn anolesg,
Ef all y tafawd wawdar,
Gwan unben, gwenwyn bär!
Dygyfor y digofaint,
Dan ei fron, a dwyn ei fraint.
O chafas y gwas, wg wen,
Radd newydd, ar ddwyn awen
Esgil, etto os gwelwyf,
Ysgeulus nwyfus iawn wyf!
Gallasai, ar drffau draw,
Herchi gwir, eithr i athraw;
Mynai glod o fod i fi,
Diwyd anmorth, yn dad imi!
Gwr iau ydyw mewn gwradwydd,
Mewn difri, na’m fi o flwydd!
Dyna ddyn ynfyd anhael
I’ch gwydd ar gelwydd i’w gael.—
Dyn ydwyf di-anudon,
A fu gan wreigan o Fon;
Yno cad, oerfad yrfa,
Mab cryg, nid mewn diwyg da;
Gruffydd liw deurudd dirwd.
Molld y cwn, fab Malld y cwd.
Gwraig i Gleision Uwch Gonwy,
Gwn, gwn! pam na wypwn pwy?
Haws y’ Ngwynedd oedd weddu
Tad i Fleddyn o’r dyn du,
Nag efo hwylio beli,
O dud Mon, yn dad i mi,
Ef all a chi oer ddufrych,
Croen oer goel, llonaid corn ych:
Ni wnai, oni mynai dwyll,
Bod dygymod, dig amwyll i
To Ihngiirth, tywyll angerdd,
Tudur Goch, taw di a’r gerdd!
Grawys enau groesanaeth,
Graful mefl, a fu wefl waeth?
Rhyfawr gas, rhof argyswr
’R angau gwael, gad rhyngo’r gwr!
CXXVIII. Marwnad Gruffydd Gryg
Golygiad modern Abertawe: cerdd 22 ↗
Trist oedd ddwyn trais cynhwynawl,
Tlws o’n mysg, Taliesyn mawl!
Trwst eres, nid trais diarw,
Trwm oer fal y try y marw!
Treiwyd gwawd, nid rhaid gwadu,
Tros fyd gwladeiddia’ trais fu!
Tros fy ngran ledchwelan lif,
Try deigr am wr tra digrif!
Gruffydd hyawdl ei awdlef,
Gryg ddoeth, myn y Grog oedd ef î
Oes dig am ei ostegion,
Ys gwir mawl, eos gwyr Mon!
Lluniwr pob deall uniawn,
A llyfr cyfraith yr iaith iawn;
Egwyddor y rhai gwiv ddoeth,
A ffynnon cerdd, a phen coeth;
A’i chyweirgorn, ddiorn dda,
A’i chyweirdant, — och wyr-da!
Pwy a gan ar ei lan lyfr,
Prydydd goleuddydd Hwlyfr!
Mel oedd o’i ben awengerdd,
Primas ac urddas y gerdd!
Ni chair son gair o gariad,
Na chan gan ochain a nad,
Er pan aeth, alaeth olud,
Dan ei fedd i dewi’n fud! I
Ni chwardd ud’ardd o adfyd,
Ni bu ddigrifwch o’r byd!
Nid byw edn glan a ganai,
Nid balch ceiliog mwyalch mai;
Ni chynnydd mewn serch annog,
Ni chin na hedydd, na chog,
Na llinos yn agos i ni,
Nag irddail yn y gerddi;
Na bronfraith, ddwblinith ddyblyg,
Ni bydd wedi Gruffydd Gryg!
Na choedydd, dolydd, na dail,
Na cherddi, — yn iach irddail!
Tost o chwedl, gan ddyn edlaes,
Roi’nghor, llawn i nor, Llanfaes,
Gymain’ (dioer, gem a’i deurudd)
O gerdd ac a roed i gudd!
Pwygân, i ddyn lan o liw,
Gywydd dan hcyw-vŷdd heddyw?
Nac anglod, mwy nog englyn
I eiddig (l.wciw, c’dig ddyn
Rhoed serchawgrwydd egwyddor
Mewn cist y’ rygwnelod y cor:
Cist o dderw, cystudd irad!
A gudd gwalch y gerdd falch fad!
O gerdd sain, gywir ddi sal,
Ni chaid un gistiad gystal!
O gerdd euraic! gerddwriaeth
Doe’r y’m i gid yn (/er*; i gaeth!
Llywiwr iawniy.ìiiip llariangerdd,
Llyna gist yn lawn o gerdd!
Och hael grair Fair, uchel Grist!
Na bai agorai ei gist! I
O charai ddyn, wych eirian,
Gan dant glywed moliant glan;
Gweddw y barnaf gerdd dafawd,
Ac weithian gwan ydyw ’n gwawd!
R aeth y brydyddiaeth deg
Mal arwstl. tnul yw’r osieg l
Gwawd grassaf, gwedy Gruffydd
Waeth-waeth, heb Ofyddiaeth fydd!
Edn glwys ei bara(lwslef,
Aderyn yw o dir nef!
O’r nef y daeth goeth ged)lydd
I brydu gwawd i bryd gwydd,
Awenfardd awen wmraeth.
I’r Nef, gwiw oedd ef, ydd aeth!
Caniadau ar amryw destynau
CXXIX. Yr addewid ddywsadwrn
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Ae addo oed, hoed hydr-serch,
I mi Ddywsadwrn a Merch:
Serchog fydd masw dan laswydd
Swrn o Ddywsadwrn y sydd,
Hir yw’r haf ei harofyn,
Hwy hyd Dywsadwrn yw hyn! î
Mae o Ddywsul, gul geli,
Mis i Ddywsadwrn i mi!
Gwnawn ar Ddywllun gain winllan,
Sud glaer, i Ddywsadwrn glan
Neu Ddywmawrth, o wiw ddamwain,
Sud cerdd i Ddywsadwrn cain.
Dywmerchyr mae ’n bybyr bwyll,
Doed yn Ddywsadwrn didwyll!
Difiau dranoeth, er Dofydd,
O Fair! ai Dywsadwrn fydd?
Dywgwener, dydd amser da,
Noswyl Ddywsadwrn nesa’:
Poen triniad, pan nad tranoeth
Y daw y dywsadwrn doeth!
Bob wythnos gynt, hynt hiroed,
Yr oedd Ddywsadwrn erioed.—
Weithian mewn mis, ddewisddyn,
Nid oes ond un Sadwrn in’!
Dysgu rwy’, ddyn wen wiwddoeth,
Disgwyl Dywsadwrn dwysgoeth;
Rhag myned, trwm godded traw,
Hybarch Ddywsadwrn heibiaw.
Nid a chwibaniad o’m dwrn,
Oed dwys-hydr, hyd Dywsadwrn:;—
Dydd y daw rhiain gain-toes
Erioed Ddywsadwrn a roes!
A wyr un heb ddihunaw
A doeth, Dydd Sadwrn a ddaw?
O Fair! a ddaw, braw briwfyth,
Na Bun, na Dywsadwrn byth?—.
Fe cawn i’r fun i’r unoed,
O daw ar Ddywsadwrn, doed!
CXXX. Y ceiliog mwyalch
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
“y Ceiliog mwyalch balch bwyll
Dawn i’th dal a Duw ni’th dwyll!
Cyfion mewn glyn d’emyn di,
Cyson o union ynni:
Crefyddwr wyd anwydawl,
Credi fi, croyw yw dy fawl,
Gwisgaist, enynaist annerch,
Gwisg ddu, nid er selu serch;—
Gwisg a ddanfones Iesu
Is dail it’ o osai du,
A dwbwl gwell na deuban,
Mawr ei glod o’r mwrai glan.
Sidan gapan am gopa,
Yn ddu rhoed yn ddiau ’r ha’,
Dwhled harddgled mewn rhedyn,
Gloyw-ddu glir uwch glandir glyn;
Muchudd dy ddeurudd eirian,
Pig cwrel, gloyw angel glan,”
Prydydd wyt medd prophwydi,
Cywyddol manol i mi
Awdur cerdd adar y coed,
Esgud cyw mwyn-drud meindroed!
Os gwyddost yn osgeiddig
Annerch gwen dan bren a brig;
Os gwn innau o newydd,
Ys gwir gwawd ysgwier gwydd,
Ganu moliant a’i wrantu
I ti y ceiliog wyt du.—
Du yw dy gwfl, da ei don,
A’th gasul, edn iaith gyson!
Mydriwr wyd a brophwydais,
Medrid son uwch Me Iroj S.iis:—
Duw a’th gatwo, tro traserch
Adain syw, byw Edn y Serch!
CXXXI. Ymddiddan a merch dan ei phared
Golygiad modern Abertawe: cerdd 166 ↗
Lien? am na chawn degau
Di-hun, hael fun, fu’r h 1 fau!
Dyfod dan wyrddion defyll
Bid ei chael mewn bedw a chyll;—
Can hawddfyd, ar hyd y rhiw,
I winllan bun ewyn-IHw!
Tuchan yn daer wrth gaer galch,
A gruddfan am Eigr ruddfalch
Pan glybu bun, harddlun hud,
Gwynfan trwstan rhag trislud,
Llariaidd y rhoes, drwy foes fwyn,
Llef aur ar ei llaw,'”urwyii; —
“* Y mae draw, mewn anghyflwr,
Yn y winllan gwynfan gwr!
Myfi af,” mwy o ofal
Morwyn deg a mirain dal,
Drwy wydring draw i edrych
Y truan oer mewn tro o nych!”
“Pa ddrychiolaeth, gaeth geithiw,
Y sydd yn y gwinwydd gwiw?
“Un diriaid enyd oroen
Enaid em honaid ’y mhoen!”
“• Pa un wyd yn penydiaw
Dy glwyf o fewn ffd a gwlaw?”
“” Dy fardd poenedig ddigus,
Dewrfawr wyf, mewn dirfawr rus!”
^' Dos ymaith rhag dy siomi,
Dilwydd daith, neu dy ladd di!“
“* Oernos a welych arnaf,
’Y myd aur, i mi od af!
Oni wypwy’, clydwy clod,
Pwy drechaf, myn Pedr uchod!
Ai ti ai mi o ’mafael,
Ai mi ai ti, fy myd hael!
Glan oedd i’m enaid, o glod
Fy aur eirian, farw erod!
Dillwng dy fardd a dwyllwyd
I mewn ddyn, i’r man ydd wyd!
Neu ddyred, — och na dderwyf!
Yma’n ddyn i’r man ydd wyf.”
oe Ni wnaf, ddyn truan annoeth,
Yr un o’r ddau mewn rhin ddoeth;—
Pa beth a gais gwr o bell,
Geirfas dwf, ger fy *stafell?” al
Ceisia heb gur drwy ’r mur maen
Dy weled loywged hw-gaen!”
c Pa ddysged, neu pa ddisgwyl
I’dd wyd, y gwas gwiwlas gwyl?”
“Dwysgall deall a’m diaur!
Disgwyl Llan dyn, dwysgall aur!”
Paryw orllwyn mewn llwyni,
Yn y dail yna wnaid di?”
“* Gorllwyn dyn mwyn, dawn im’ wyd,— ^
Nid gorllwyn Gwraig y Garllwyd!”?
CXXXII. Y celynllwyn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 40 ↗
Y Celynllwyn cau iawnllwyth
Caer ar ael ffridd, cwrel ffrwyth;
Cor gweddaidd ni’s diwraidd dyn,
Clos tew diddos, ty deuddyn.
Y wr i feinwar i’m arail,
Pigau yspardunau dail:
Pwy mewn gauaf a gafas
Fis mai yn dwyn lifrai las? i
Gwr wyf yn rhodio gar allt
Dan goedydd, mwynwydd manwallt:
Rhoed i gadw rhydeg adail,
Rhodiais wydd, dolydd a dail.
Cof y sydd, cefais heddyw,
Celynllwyn yn nhrwyn y rhiw;
Yn adail serch ym ydoedd,
Un lifrai a mai im’ oedd.
Cyd irgoed lle caid organ,
Cadrblas uwch piler glas glan:
Pantri cerdd, nid paentiwr cawdd
Pentis, Haw Dduw a’i paenliawdd.
Deuwell y gwnaeth Duw diwael
Rhyw barc teg, na Rhobert hael;
Osglau uwch na phenau ffyrdd,
Tew byrwallt was tabarwyrdd.
Hywel Fychan, hael fuchedd
Geirdwys gwawd, gwr dewis gwedd;—
Moli a wnaeth, nid milain,
Angel coed y’ ngwely cain.
Ty adar gwlad Baradwys,
Teml gron o ddail gleision glwys!
Nid fal heniwth lle glwth gwlaw,
Diddos fydd dwy nos danaw,
Dail ni chrinanl, ond antur,
Celyn un derfyn a dur;
Penfar heiyrn, pan fo’ r hirnos,
A rhew ym mhob llwyn, a rhos
Ni phawr gafr hyd yn Hafren,
Un baich o hwn, na bwch hen:
Ni chyll pren teg ei ddegwm
Er llef gwanwynwynt oer llwm.
Capel cywir dail irion,
Cysylltiedig uwch brig bron
CXXXIII. Y pwll mawn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 59 ↗
W AE fardd fai gyfa ei om,
Gofalus ar gyfeiliorn |!
Tywyll yw’r nos ar ros ryn; —
Tywyll, och am y tewyn!
Tywyll draw, ni ddaw ym dda,
Tywyll, mawr ammwyll, yma!
Tywyll heno yw’r fro frad,
Tywyll yw twf y lleuad! I
Gwae fi na wyr Lwyr loywryw,
Da ei llun, mor dywyll yw!
A bod bardd a’i chlod achlan,
Mewn tywyllwg mein-wynt allan!
Nid call i fardd arallwlad,
Ac nid teg mewn breg a brad;
O’m caid mewn un- wlad a’m cas,
A’m daly, mi a’m march dulas
On’d casach, dyrysach draw,
Fy nghael wedi fy nghiHaw i
Yn mawnbwll ar ol mwynbarch,
Gwedi bodd’, mi a’m march!
Pydew rhos, agos eigiawn,
Pwy a all mwy mewn Pwll Mawn?
Pysgodlyn i Wyn, yw ef,
Ab Nudd, a bu ’n ei oddef:
Pydew rhwng gwaun a cheunant,
Plas yr ellyllon a’u plant.
Llyn gwinegr, llanw gwineugocb,
Lloches lle’r ymolches moch.
Llygrais achlan fy ’sanau
Ceri o Gaer, mewn cors gau!
Ni wn paham ond ammarch,
Yr awn i’r pwll mawn a’m march,
Oerfel i’r delff a orfu,
A’i cloddies ar íoeldes fu;—
Hwyr y rhoi, o dof i dir,
’Y mendith yn y mawndir!
CXXXIV. Y cleddyf, gan ddangos ei gampau
Golygiad modern Abertawe: cerdd 71 ↗
Rhyhir wyd, goflwyd gyflun,
Rho Duw gledd ar hyd y glun:—
Ni ad dy lafn, hoyw drafn hy,
Gywilydd i’w gywely.
Cadwa fi di i’m deau,
Cedwid Duw y ceidwad tau!
Mau gorodyn, mygr ydwyd, •
Meistr i’m grymuster wyd:
Gwr fy myd nis car fy myw,
Gwrdd i rwystr gerdd o’r ystryw.
Tawedog enwog anwych,
Tewddrwg mul ei wg, mal ych;
Weithiau y tau, anwyd da,
Ac weithiau i’m bygythia.
Tra ’th feddwyf, angerddrwyf gwrdd,
Er ei fwgwth, arf agwrdd,
Oerfel uwch ben ei wely,
A phoeth fo dy feistr o ffy;
Nac ar farch, dibarch dybiaw,
Nac ar draed er ungwr draw.
Onis pair cas, deuair dig,
Cosb i’ th ddydd, casbeth eiddig!
Catgno i gilio gelyn,
Erchyll gneifiwr, deifiwr dyn;
Coethaf cledren addaf wyd,
Collaist rwd, callestr ydwyd:
Coelfain brain brwydr trwy gr wydr drin
Cilied Deifr, caled deufin,
Cyfylfin cai ufeltrellt,
Cadwa’ dydi i’th dy dellt;
Cwysgar wyd rhag esgar ym,
Cain loywgledd, canolyglym!
Llym aer grym, llyma ar gred,
Lle *th roddaf, llaw a thrwydded, —
Rhag bod y’ nghastell celli
Rhyw gut nos, i’n rhagot ni.
Rhwysg mab a buarth baban,
Rhed y dur fal rhod o dan.
Ni chel ysgwyd Cyhelyn
Ar fy llaw, o daw y dyn;
Glew sidell, gloyw osodiad,
Rhyfel wyd fy metel mad!
Ti a’m ceidw rhag dirieidwyr,
Rheitia cledd, gwyr rhawt y clyr.
Ar berw byddaf ar hirwyl,
Dan y gwydd, mi a’m dyn gwy]l:
Nid ansyber ym- berwa,
Os eirch dyn, nid a serch da:
Talm o’r tylwyth a’m diaur,
Tew fy ol ger tai fy aur,
Ciliawdr, cof nid wyf Ofydd;
Calon serchog syberw sydd.
CXXXV. Y Mwdwl gwair
Golygiad modern Abertawe: cerdd 66 ↗
\ I lai fy rhan o anhun
Na lles a budd, gar Ilys bun?
Nid hawdd godech, na llechu,
A glewed yw y gwlaw du!
Pe rhon’ i’r ddor egori,
Y nos ni lyfaswn i:
Yn gwahawdd bun ar ungair
Ai gwaeth yn y Mwdwl Gwair?
Dawn ym dy fod yn fwdwl,
Diffrifwas pengrychlas pwl:
Da fu’r gribin ewinhir,
Doe a’th gynnullodd ar dir.
Mi’th wisgais a maith wasgawd,
Mal cochi gwyrddlas uwch gwas gwawd:
Ceisiais genyd gael cysellt,
Clomendy y gwely gwellt.
Erfai o un i’th luniwyd,
Un fath llydan-dwmpath llwyd:
Glyd i’th folaf a’m tafawd,
Gnu gwaun, da le i weu gwawd
Un dramgwydd a’th arglwyddi
Teg, ac un artaith wyt ti;
Ef a’th las a dur glas glew,
Fwrdais y weirglodd ferdew!
Y foru sy’ iti fr
O’th lesgedd ef a’th lusgir,
Drenydd, uwch llanw manwair,
Dy grogi, a gwae fi Fair!
Cymunaf dy gorph adref
I’r nen, a’th enaid i’r nef;
Megis angel i’m gwely,
Ddydd brawd, uwch taflawd y ty.—
Yn dyfod i gnocio’r drws,
Y Mwdwl Gwair a’i madws!
CXXXVI. Diweirdeb merched Llanbadarn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 137 ↗
Pa rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Onaddun’ yr un erioed!
Na morwyn fwyn o Fenaig,
Na merch fach na gwrach, na gwraig!
Pa ddrudiant, pa ddireidi,
Pa fethiant, na fynant fi?
Pa ddrwg, y rhiain feinael
Y’nghoed tywylldew ’y nghael?
Ni bu amser na charwn,
Ni bu mor ddrud hud a hwn;
Anad gwr, unoed Garwv.
Yn y dydd, ai un ai dwy!
Ac er hynny, nid oedd nes
Vm gael wen, na’m gelynes
Ni bu sul yn Llanbadarn
Na bawn ac eraill a’m barn,
A’m wyneb at fun gur-goeth,
A’m gwegil at Dduw gwiwgoeth!
A gwedi’r hir edrychwyf
Dros eu plu, ar draws y plwyf,
R ddywed un yn sygr-groyw,
Wrth y llall, hawdd-ddeall hoyw,-
“* Y mab llwyd wyneb mursen,
A gwallt ei chwaer ar ei ben!”
Godinebus fydd golwg,
Gwir y ddrem garu i ddrwg!
“Ai’n rhith hynny yw gantaw?”
Yw gair y llall, ger ei Ilaw:
Ateb ni’s caf tra fo fyd,
Atteb i ddiawl beth ynfyd!“
Tal maith ym reg y Iwys-ferch:
Tal bychan am syfrdan serch!
Rhaid oedd im’ fedru peidiaw
A’r foes hon, freuddwydion fraw!
Goreu ym fyned fal gwr,
Yn feudwy, swydd anfadwr!
O tra disgwylydysgiad certh,
Drach ’y nghefn, drych anghyfnerth;
Fe dderwy ym, gerdd-rym gar,
Bengamu heb un gymmar!
CXXXVII. I’r gaingc symlen
Golygiad modern Abertawe: cerdd 91 ↗
Dysgais ryw baradwysgainc,
A’r dwylaw mau ar dal mainc;
A’r dysgiad diwygiad dyn,
Eurai dalm, ar y delyn.
A hon yw’r gainge ar fainge fau,
O blith oed o blethiadau;
O deilyngfawl edlingferch,
A brydais i a brwyd serch,
Meddant ferched y gwledydd,
Am danaf fi, o’m dawn fydd;
“Symlen, fy newis amlwg
A symlyn yw’r dyn a’i dwg.”
Solffeais a’m salw ffuaint
Salm rwydd, ys aelaw ’y mraint;
Ac erddigan gan y gainge,
Garuaidd medd gwyr ieuainc.
Cael ufuddbwnc celfyddber,
Cael ym glod neud cwlm y gler:
Gwae fi na chlyw, mawr yw’r ainc,
Dyddgu hyn o brydyddgainc!
Os byw, hi a’i clyw is Clwyd,
Ysbyslef eos beislwyd,
Addysg Hildr oedd is eildant,
Gormodd cerdd, gwr meddw a’i cant: =
Llef eurloyw fygr llafarlais,
Lleddf ddatbingllwybrsawdring Sais.
Na phencerdd ryw saffancainc;
Poed anolo fo ei fin,
A’i gywydd, a’i ddeg ewin!
A gano gerdd ogoniant,
Ni cherydd Duw, na cherdd dant,
Gwiw loywglaer ddyn golyglon,J
Ac yn cael canu’r gainge hon.
CXXXVIII. I dref Rhosyr ym Mon
Golygiad modern Abertawe: cerdd 18 ↗
Hawddamawr mireinwawrmaith
Tref Niwbwrch trwy iawn obaith!
A’i glwysdeg deml, a’i glasdyr,
A’i gwin, a’i gwerin, a’i gwyr;
A’i chwrw, a’i medd, a’i chariad,
A’i dynion rhwydd, a’i da’n rhad!
Cornel ddiddos yw Rhosyr,
Coedgae y ’wareu i wyr:
Llwybrau henwyr, He breiniawl,
Llu mawr o bob lle a’i mawL
Lle diofer i glera,
Lle cywir dyn, lle cair da;
Lle rhwydd beirdd, lle rhydd byrddau,
Lle ym yw ar y lle mau!
Pentwr y glod, rhod rhyddfyw,
Pentref dan y nef, dawn yw!
Pantri difrydig digeirdd,
Pentan, buarth-baban beirdd.
Paement i borthi pumoes
Pell ym yw, eu pwyll a’u moes
Coetty ’r wlad rhag ymadaw,
Cyfnither nef yw’r dref draw!
Cor hylwydd, cywir haelion
Cyfannedd, mynwent medd Mon!
Cystedlydd nef o’r trefi,
Castell a meddgell i mi:
Perllan clod y gwirodydd,
Pair Dadeni pob rhi rhydd;
Parch pob cyffredin ddinas,
Penrhyn gloyw feddyglyn glas!
CXXXIX. Y delyn ledr
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Rho Duw hael rhadau helynt
Gwawr rhif, Gymru ddigrif gynt!
Gorau man, gwinllan y gffst,
At fyd, o fywyd fuost,
Tra fu amser i glera,
A d; ^o ) i Leu Gymiy da!
Weithian, dioer! 1 oer addysg,
Y mae cerdd feiniar i’n mvs2:, —
Diflo anghyfan wan-gledr,
Telynau, ihdiardau lledr:
Nid oedd un tant, ffyniant ffydd,
O ddefaid meirw i Ddafydd.—
Ni wnaeth clau ddewiniaeth cler
Ddafydd brophwyd ddiofer
Un delyn, ddiddan angerdd,
Onid o rawn, gyhawn gerdd!
Doeth yw’r ymadrawdd, hawdd hoyw,
Y delyn o rawn du-loyw:
Y delyn rawn, dawn difas,
O rad y Drindod a’i ras,
A ddyfod oll i Ddafydd,
A fu, a rhagllaw a fydd;
O ddechrau ’r byd, bryd breichfawr,
Hyd ddyddbrawd, myfyrdawd mawr!
Nid oes a fyn oes o’n iaith,
O gwybydd gainge, na’i gobaith,
I beri son, wb o’r swydd!
Ond telyn ledr, nid hylwydd;
Ac ewin gorn, dom diswyn,
A gwas, un diras, i’w dwyn.
Anhawdd i brentis, fis fydd,
Ystofi miliast efydd;
Anferth o blu, llun bwa llwm,
Enfys ac echrys gochrwm.
Cywion brain yn ymgreiniaw,
Ciwed yn ymglywed gwlaw
Ni cherais, iawngais angerdd,
Na’i chafn bolymog, na’i cherdd;
Na’i choludd, fain damwain dig,
Na’i rhifwnt liw, na’i rhyfig;
Na’i chwr bergam ddisgamar,
Na’i llorf cam, un llwrf a’i car,
Drwg yw dan bwyth yr wythfys
Llun ei chroth, lliain ei chrys;
Ni luniwyd ei pharwyden,
Na’i chreglais ond i Sais hen.
Gweryriad gwyllt rhuad gau,
Gwilfif felen am gyffylau;
Chwaer undad, hwyrnad hirnos,
I’r oer Fad Felen o Ros.
Sain gwydd gloff, anhoff yn yd,
Sonfawr Wyddeles ynfyd:
Ysgwd melin, lawdgrin lam,
Ysgyfar waeddgar wddwgam.
Cryman pren o fursen fu,
Crimog hen wrach yn crymu,
Ceisied pob prentis cyson,
Hyd o Fars-dir Lloegr i Fon,
Delyn eirian i’w chanu,
I ranu dysg, o rawn du;
Mal yr oedd mau gyhoeddi
Yn oes ein hen deidiau ni:
Na cheisied, ddiged ddeugwyn,
Y dydd brentisiaid i’w dwyn! î
CXL. Y murddyn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 151 ↗
Tydi y Bwth tinrhwth twn,
Rhwng y gweundir a’r gwyndwn,
Gwae a’th weles, dygesynt,
Yn gyfannedd gyntedd gynt!
Ac a’th wyl heddiw ’n friw frig,
Dan dy ais yn dyn yssig!
Ef a fu ddydd, cerydd cur,
A hefyd dan dy hoyw-fur;
Ynod ydd oedd ddiddanach
Nog yr wyd, y gronglwyd grach!
Pan welais, pefr gludais glod,
Yn dy gongl un deg yngod;—
Forwyn fonheddig, fwyn fu,
Hoyw-dwf yn ymgyhydu;
A braich (pob un-gofl fun fydd)
Yn gwlm am gylch eu gilydd.
Braich meinir, briw uwch manod,
Goris clust goreuwas clod;
A’m braich innau, gorau gwawd,
Am fein-gorph yr em fwyn-gnawd!
Yr hawddfyd da i’r hafddydd,
A heddyw nid ydyw’r dydd! I
Ys mau gwyn geirswyn gwersyllt,
Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt;
Ai’r diriaid wynt o’r dwyrain
A wnaeth gur hyd y mur main?
Ynte gwynt, g.irw-hynt gawdd,
Y deau a’i di-doawdd?
Arr gwynt a wnaeth helynt hwyr?
Da nithiodd dy do neithwyr!
Hagr y tores dy essyth,
Hudol enbyd yw’r byd byth!
Yn ddiau mae i’th gongl ddwyoch;
Gwely im’ oedd, nid gwal moch!
Doe ’r oeddud mewn gradd add wyn,
Yn glyd uwchben fy myd mwyn,
Hawdd o ddadl heddyw ’dd ydwyd,
Myn Pedr! heb na chledr na chlwyd.
Amryw bwnc ymwnc ammwyll,
A’i hwn yw’r bwth twn, bath twyll?
Aeth talm o waith y teulu,—
Dafydd ymgroes, da f’ oes fu!
CXLI. I ferch a gollasai ei chydnabod a’r bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 145 ↗
Traserch ar wenferch winfaeth
A rois i, fal yr ae saeth;
Mi a eura’ bob morwyn,
O eiriau mawl er ei mwyn
Och fi! drwg yw ei chof draw,
Am danaf mae ’n difwynaw:
Bum gynt ger wyneb em gain,
Anwyl-fardd i wen aelfain
A phellach er na phallwyf,
I ’sgil ferch, ysgeulus wyf!
Gorweddais ar gwr addail,
Gyda’r ddyn dan goed irddail;
Bum grair, er na bae im’ grefft,
Groengroen a’r ddyn gywrein-grefft.
Ni fynai ’mun er fy mod,
Fyd annibecb, f’adnabod!
Ni chaf mwy, eithr drwy drais,
Wraig ifanc er a gefais:
Ni fyn merch er ei pherchi,
N golud yw, fy ngweled i,
Mwy na phe rhoid mewn fair haf
Barf a chyrn byrfwch arnaf!
CXLII. Trwstaneiddiwch y bardd mewn llety cyffredin yn ceisio myned at ei gariad yn y tywyll
Golygiad modern Abertawe: cerdd 73 ↗
Deuthum i ddinas ddethol,
A’m hardd was ieuanc i’m hol;
Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,—
Cymro i’r byd o febyd fum!
Llety, urddedig ddigawn,
Cyffredin, a gwin a gawn!
Canfod rhiain addfeindeg,
Yn y ty, — fy enaid teg
Bwrw yn llwyr, fal haul dwyrain,
Fy mryd ar wen, fy myd main!
Prynu y rhost er bostiaw,
A gwin drud i liw gwawn draw:
Gwareau a gar gwyr ieuainc
Galw ar fun, ddyn gwyl, i’r fainge.—
Gwedi myned, tynged tyng,
Y rhwystr gwedi yr hustyng,
A gwledd, ac anrhydedd mawr
A wnaethon’, fwy no neithiawr.
Hustyng, bum wr hy astud:
Ddeu- air a hi, ddiweir hud:
A rhyngom ni bu dri- air,
O bu, ni chlybu neb air.
Gwneuthur, ni bu segur serch,
Ammod dyfod at h(yw-ferch,
Gwedi’r elai finteioedd
I gysgu: bun aelddu oedd.
Wedi cysgu, tru tremyn,
O bawb, eithr myfi a bun,
Ceisiais yn hyfedr fedru
Ar wely ’r ferch, alar fu!
Deuthum lle’r oedd mwroedd mawr,
Dri-Sais, mewn gwely drewsawr;
Mewn trafferth am eu tri phac,
Hiccyjt a Sioccyn a Siac:
Suganau ’r delff soeg enau,
Aruthr o ddig, wrth y ddau,
Mae’r Cymro, taer gyffro twyll
Yna’n rhodio ’n y tywyll!
Lleidr yw ef, os goddefwn
“’Mogelwch, cedwch rhag hwn!”
Haws codi drygioni drud
Yn drwsgl, nag yn dra esgud.—
Cefais pan soniais yna,
Gwymp dig, nid oedd gampau da;
Trewais, ysigais, nid iach,
Y grimog, a gwae’r gromach!
Wrth ystlys, och o’r ostler!
Ystol grech ffol, goruwch ffer:
Trewais, drwg fu’r tra-awydd,
Yrhawg ni chefais gam rhwydd.
Mynych dwyll ammwyll ymmwrdd,
Taro ’nhalcen wrth ben y bwrdd!
Syrthiodd y bwrdd, dragwrdd drefn,
A’r ddeu-drestl, a’r holl ddodrefn,
Lle ’r oedd cawg, yrhawg yn rhydd,
A llafar badell efydd.—
Rhoi diaspad o’r badell
O’m hol, fe’i clywid yn mhell.
Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
O’r cawg, a’m cyfarth o’r cwn:
Codi’r osler niferoedd
I gyd, a chwedl dybryd oedd!
Gwgus oeddynt i’m gogyich,
Chwilio i’m ceisio o’m cylch;
A minnau, yn fardd hagr hyll,
Yn tewi yn y tywyll.
Gweddiais, mewn gwedd eofn,
Dan gel, megis dyn ag ofn;
Ac o nerth gweddi gerth gu,
Ac o ras y gwir Iesu,
Coel mwyniarit o’m cwlm anhun,
Gael fy sal hen-wal fy hun.
Diengais i, da myn y Sant;
I’m Naf archaf faddeuant!
CXLIII. Y dewiniaeth
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ferch hygar ruddellen
Eiliw eiry wyl arwyl wen;
Hyd i Gwyr hoyw wyd a gwen,
Hil addaf hael o Lowdden!”
Dewinio’dd wyf, nid â’n ddig
Dewindabaeth dawn debyg;
Dau gur afael deigr Ofydd,
Dy gael ferch, diogel fydd.
Fod e’n hawl feddygawl fyd,
A gynwys ym fod genyd,
Un o radd, mae yno rus,
Dy genedl, rai digonus!
Yr ail gwedi ’r fasnach rwydd
Ar gelu oriog aulwydd:
Hoywliw geirw hael a gerais,
Haul y gwedd, trydedd yw trais:
Nigmars dy fardd ysgar-fyw,
Poed awr dda, pedwerydd yw.“
Ni ddiengy hundy hyd,
Dengoch fai by diengyd!
Nid rhyfedd am y trafael,
Am dy gerdd i mi dy gael:
Nid wyf wladaidd nac eiddil,
Na gwr man, hyn a’i gwyr mil;
Nac anferth o brydferth bryd,
Nac anfonheddig ynfyd;
Na chas, annodd i’w cheisiaw,
Na thlawd — hwde bunt i’th law.”
CXLIV. I’r mis mai
Golygiad modern Abertawe: cerdd 32 ↗
Duw gwyddiad mai da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad mai!
Difeth ir-gyrs a dyfai
Dyw- calan mis mwynlan mai:
Digrin flaengoed a’m hoedai,
Duw mawr a roes doe y mai!
Dillyn beirdd, a’m rhy-dwyllai,
Da fyd ym oedd dyfod mai!
Hardd Was
Hardd- was teg a’m anrhegai,
Hylaw wr mwyn — hael yw’r mai!
Anfones im’ iawn fwnai,
Glas defyll glan mwyngyll mai:
Ffloringod brig ni’m digiai;
Flwr-de-lis gyfoeth mis mai,
Diangol rhag brad y’m cadwai
Dan esgyll dail, mentyll mai:
Llawn wyf o ddig na thrigai,
(Beth yw i mi?) byth y mai!
Dofais ferch a’m hanerchai,
Dyn gwiwryw mwyn dan gor mai:
Tadmaeth beirdd heirdd a’m harddai,
Serchogion mwynion yn mai!
Mab bedydd Dofydd difai,
Mygrlas, mawr yw urddas mai:
O’r nef y doeth a’m coethai,
I’r byd fy mywyd yw mai!
Lle glas gofron, llon llatai,
Neud hir ddydd mewn irwydd mai!
Neud ser nos, nid bernos, nid twm, siwrnai;
Nid heirdd gweilch, ond mwyeilch Mai
Neud golas nid ymgelai
Bronwydd a brig manwydd mai!
Neud llon eos lle trosai,
Llafar yw man adar mai!
Neud esgud nwyf a’m dysgai;
Nid mawr ogoniant ond mai:
Paun asgell-Ias, dinasdai,
Pa un o’r mil, pena’r mai!
Pwy o ddail a’i hadeiliai,
Yn gyd a mis o goed mai?
Magwyr laswyrdd a’i magai,
Mygr irgyll, man defyll mai.
Pwyllo, goreu pwy bellai
Y gauaf, mwynaf yw’r mai!
Dechreu haf llathr a’i sathrai,
Deigr ai mag, di egr yw llai.
Deilgyll gwyrddrisg a’m gwisgai,
Da fyd ym yw dyfod mai!
Duw doeth gadarn a farnai,
A Mair i gynnal y mai!
Mynwn, pe nef ae mynai,
Pe’i deuddeg mis fo mis mai!
CXLV. I’r biogen
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Al ’r oeddwn yn nhrwyn y rhiw
Goedog, p’le bynnag ydyw,
Yn disgwyl y feinwyl ferch,
I gynnal oed ac annerch;
Daeth uwch fy mhen i’m senu,
Ei bwriad fyth o’m brad fu,
Edn dig a’i llembig llymbwyll.—
Egwan Bi a gwyneb gwyll.
' Pa’r oferw pur oierwas,
S’yma ’n llyn, yn y glyn glas,
Dan y dirgel wyddeli,
Heb fod neb yn d’atteb di?“
“Och i’th drwyn! na chais gwyno,
Beth wyddost di Bi na bo.'
Gad lonydd mewn glaswydd glan
I mi aros Em eirian:
Ac i wneuthur mesurau
O bennillion mwynion mau.“
“Rheitiach yt, anwych ytwyt,
Brudd o wr na’r berw ydd wyt,
Arfer a’th bader i’th ben,
A thewi fyth a’th awen.”
“Gwyddwn bader a gweddi,
A’u doedyd, pei tewyd ti —
Gwyddost dithau, gau gylfin,
Biethu manwydd crychwydd crin;
A’i eilio, wrach brudd ruddfain,
A’i gleio, a’i drymio a drain:
Ti a’th adar ni chara’, —
Na bo yt oes, na byd da!””
CXLVI. I’r tafod
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Tafod nid wyt hyfedr,—
Taw druan, fawd lydan ledr!
Pam na cheisi dy diddos,
Pa ddail a wnaid pan ddel nos,
Na fedri, noeth yniydrim,
Yleni dewi er dim?
Mwy na rhegen mewn rhagnyth,
Myn nith Fair, hon ni thaw fyth!
Hon ni than heb y tafawd,
Ni thau gwynt a nithio gwawd.
Modd yr wyd am ddireidi,
Colyn oer, i’m calyn i;
Awr daw heb hyd dalm o’r dydd,
A wyl ferw ymlaferydd;
Ti wnai beth er na wnai neb,
Hoel gwta, holi ac atteb.
Tyfaist yn nghysgod dwy-foch,
Ya! tafell o fara cell coch:
Cliciedyn yn cloi ceudawd,
Ciopren gwern, clap breuan gwawd,
Mae’r naill beth, achreth echrys,
Ai bod braw gyfarfod brys,
Ai hunlle, fodd henllwy faith,
Arnad yn siarad surwaith.
Os bydawl eisiau bedydd
Arnad, yn siad siarad sydd,
Offeiriad meddw, gweddw Gwyddel,
Gynt a’th fedyddiodd dan gel.
Y fed llyn gwerth dan berthi,
Nos a dydd, yw dy naws di;
Ymddyfalu meddw folaid,
Son yn ffraeth am gwrw Sanffraid,
Hynny, myn Mair! a bair bod
Bugunad debyg ynod,
A bloeddio fal pabl Iuddew;
Mi a adwaen flaen dy flew.
Dwg yn wag gwaith o ragor,
Yn llawn aniawn moelrhawn mor;
Pan ddel llanw gwyllt hyllt holltir
Nesai ei flew fal sofl ir:
Rhuo a wnai a rhyw nad,
A briw ferw ab rhyfcrad.
Traian sffr, truan sarug,
Trwn sor ffals, treinsiwr ffug:
Meistr dyfrllyd masw a drig
Mesfris: a min vswr esiii.
Mawr ei angerdd mireingoch,
Cleddau cerdd, celwyddog coch;
Perygl yt y paraf glwyf,
Ag ellyn gynta’ gallwyf
Dynu, myn Delw Deinioel,
O’r gwraidd, lafn mileinwraidd moel!
Coffa mor dda i’m caffyd,
Cyn no hyn o wn can hud;
Doed dy gof diota gynt,
Diodydd medd da ydynt.
Megaist di fal myn magod,
Mefl o mewn, mau ofal fod;
A minnau er na mynwn
O ranau byth i’r neb ei wn,
Er ugein-morc, neu gan-muw,
Gwelit dwyll mewn gwlad Duw!
Hawdd yw adnabod yr hen
Gorflewyn, gwr aflawen
Gau genau y geg annoeth,
Gael attat beth gatyd boeth,
CXLVII. I’r cae bedw a modrwy a gawsai Madog Benfras y bardd gan ei gariad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 19 ↗
Anfon a wnaeth rhieinferch
I Fadog, orseddog ferch,
Dodrefn cariad hyd adref,
O do dail, da dylai ef.
I Dduw, Madog a ddiylch,
Gan ei chwaer hael gael y cylch:
Aml y gwisg ymylau gwydd,
Am ei ben y mae beunydd.
Cae o’r unwedd, cywreinwaith,
Ydyw’r mau, nid o aur maith;
Bagadfedw, bu egwydfodd,
A bun a’i rhoes yn ben rhodd.
Blaenion caingc, blin iawn a’i car,
Blethedig o blith adar:
Bawd a’i lluniodd, bedw lannerch,
Blaguryn o symlyn serch.
Gwell gan Iorwerth gywerthydd
Ei wawd, nog anrheg o wydd;
Trysorer cerdd tros ariant,
Ac aur coeth, fal y gwyr cant,
Rhyw dudded bys rhoed iddaw,
Rhod lan rhag rhydu ei law:
Rhoi wnaeth rhiain fain fynwaur,
Rhwydd yw hi, rhoddi ei haur,
Rhaid bychan oedd gan y gwr
Rhwymo bys cyfan-rhinwr,
Dwy droedfedd, fab da drudfaith,
O dir iach lle mae da’r iaith;
O’i unlle, cariad a’i cur,
A edy Madog awdur,
Ar Iorwerth, gerddgerth gyrddgun,
Ac ar bawb o garu bun,
Ni fyn Madog, mydr ddoethlef,
Aur am wawd ei dafawd ef;
Hael oedd, ac ni hawl iddi
Na’i main na’i haur, namyn hi,
A mab Cyriog yn Mon
A’i cais am gywydd cyson.
Rhagawr mawr, gerddawr gordderch,
Y sydd rhwng golud a serch;
Cae gwiail, er na thalo,
Dda ei barch iddo y bo,
Teilwng seren bedweni,
Talm mawr, ef a’i tal i mi:
Cusan morwyn ddianhael,
Duw a’i gwyr, da yw ei gael!
Nid oedd nes i wtres hen
Ei bry nu ef na brwynen;
Ni cheid ar ei wystleidiaeth
Na medd, na gwin, min a’i maeth:
Unrhyw yw hyn o anrheg
O fedw glas, teuluwas teg;
Aur gan unben a chwenych,
Ei bedw glas a g’as gwas gwych:
Yn dwyn nwyf, nid yn ofeg,
Fy mrodyr teuluwyr teg.—
Maeher y gerdd a’i molawd
Y w Iorwerth, a werth ei wawd.—
A Madog gweinidog gwydd,
Digrifwas, da ei grefydd
Cytgerdd Eos gyw coetgae,
Câr im’ yw — caru y mae
CXLVIII. I Wenhwyfar o Fon a achwynasai ar y bardd wrth ei gwr
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
, DA o beth fydd deubeth fwyn,
Y mai irwydd, a morwyn
Dau gydymaith gyweithas,
Dau olwg leddf, a dail glas.
Dyn a roes, dan yr asau,
Drem gynt na’r adar yn gwau;
Deliais ar yr hudolion,
Dur yw fy mriw drwy fy mron!
Afon a’i llif o fewn llaid,
Mae awch hon i’m uchenaid;
O Dduw gwyn, feddyg einioes,
Nad i ferch newidio #’oes!
Aner wyf fi’n c’weirio ei fedd,
Ond aros myn’d i orwedd;
Oni bai wyneb ewyn,
R fuasai’n hwy foes na hyn
Pe caid a’m dieneidiodd,
Mi gawn fun mewn amgen fodd.
Trist a’m ferch troes Duw ym far;
Mi eiddilgorph meddylgar:
Meddyliais am a ddelai,
Meddwl trwm a ddilid rhai.
Ni wyr y llin ar y llaw
Ba feddwl y bwyf iddaw,
Ni lanwaf fal yr afon,
Ar ei meinhais, er mwyn hon,
Profais fy mhais a’m hosan,
Ni wn i maint yn un man:
Mal nod wydd ym mlaen edau
Y mae lliw hon i’m lleihau.—
Oes un gwr a’m gwelsai gynt,
Yn myw dyn, a’m adwaenynt?
Yr wyf eisoes ar faswedd,
Allan o gwrs, lun a gwedd:
Diried yw ym y daw’r dis,
Dyn a’r og dan ei wregis.
Doeth am ferch adwyth ym fu,
Dwyll disil dillad Iesu;
D’wedais y byd a ydoedd,
le, Fair wen, ofer oedd
Byw fal hyn bum bum’-mlyneddy
Braidd na bum bridd yn y bedd;—
Ni ddorwn i ddoe, er neb,
I ba fan y b’ai f’wyneb!
Un swydd fum y nos heddyw
A nofio mor yn fy myw,
Fal llong foel a ollyngir
I ble tyn, heb weled tir:
Twrch a’i dy dan freichiau dar,
A gae filgwn gataelgar.
A mab i ddwyn ol y ddau
Olli o fewn cynllyfanau;
Ni ddetyd mebyd em ais,
*Y nhrem o’r man ei rhwymais
CXLIX. Ymddyddan rhwng y bardd a’r brawd llwyd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 148 ↗
Gwae fi na wyr y Forwyn,
Glodfrys a’i llys yn y llwyn,
Ymddyddan y Bardd llyg liw
Am dana’ i y dydd heddiw |!
Mi a euthum at y Brawd,
I gyffesu fy mhechawd;
Iddaw’r addefais, hyd gwn,
Mae eilun prydydd oeddwn;
A’m bod erioed yn caru
Rhiain wynebwen aelddu.
Ac na bu im’ o’m llofrudd
Les am unbenes, na budd,
Ond ei charu ’n hir wastad,
A churio’n fawr o’i chariad;
A dwyn ei chlod drwy Gymry,
A bod hebddi er hynny:
I A dymuno
A dymuno ei chlywed
I’m gwely rho’f a’r pared,
Heb y Brawd wrthyf yna,
“Mia rown it’ gynghor da;
0 cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn,
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i’th enaid beidiaw;
A thewi a’th gywyddau,
Ac arfer o’th baderau.—
Nid er cywydd nac englyn
Y prynodd Duw enaid dyn!—
Nid yw’ch cerdd chwi y Gler
Ond truth, a lleisiau ofer,
Ac annog gwyr a gwragedd
I bechod ac anwiredd,
Nid da ’r moliant corphorawl,
A ddycco ’r enaid i ddiawl!””
Minnau atebais i’r Brawd
Am bob gair ar a ddywawd,
“Nid ydyw Duw mor greulon
Ac y dywaid hen ddynion;
Ond celwydd yr Offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid:
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn,
Er caru gwraig, na morwyn,
Tri pheth a gerir trwy’r byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd.—
Merch sydd deccaf blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei hun!
O wraig y ganed pob dyn,
O’r holl bobloedd ond tri-dyn;
Ac am hynny nid rhyfedd
Garu merched a gwragedd.—
O’r nef caed pob digrifwch,
Ac o uffern bob tristwch,
“Cerdd a bair yn llawenach
Hen ac ieuange, claf ac iach;—
Cyn rheitied i mi brydu,
Ac i tithau bregethu;
A chyn iawned imi glera,
Ac i tithau gardotta, —
Pand englynion, ac odlau
Yw’r hymnau a’r secwenstau;
A chywyddau i Dduw Iwyd
Yw Llaswyr Dafydd Brophwyd.—
Nid ar un bwyd ac enllyn
Y mae Duw *n porthi pob dyn,
Amser osoded i fwyd,
Ac amser i olochwyd;
Amser i gynghaneddu,
Ac amser i bregethu.—
“Cerdd a genir yn mhob g wledd,
I ddiddanu rhianedd,
A phader yn yr eglwys,
I geisio tir paradwys.—
Gwir a ddywed Ystudfach,
Gyda’i feirdd yn cyfeddach,—
“Wyneb lawen lawn ei dy,
Wyneb trist drwg a ery.'
Cyd caro rai sancteiddrwydd,
Eraill a gar ganghaneddrwydd;
Anaml a wyr gywydd per,
A phawb a wyr ei bader.—
Ac am hynny’r dwyfawl Frawd,
Nid cerdd sydd fwyaf pechawd.
Pan fo cystal gan bob dyn
Glywed pader ac englyn,
A chan forwynion Gwynedd
Glywed cywydd o faswedd, —
Mi a ganaf, myn fy llaw,
Y pader fyth heb peidiaw!
Hyd hynny, mefl i Ddafydd,
O chan bader ond cywydd!”
B. — Dos o’r byd a’th gywyddau!“
D.—“ Dos dithau ffwrdd i’r poenau!“
B.—“ — Dos di i boen a phenyd!””
B. — “Dos dithau frawd du o’r byd!”
I). — Dos di i boenau uffernawl.”
D. — Dos dithau frawd i law Diawl!”
CL. I ferch
Golygiad modern Abertawe: cerdd 81 ↗
Gwewyr cyfeddachwyr cof
A ymwan trywan trwof,
Am, wrth ei chwrtais geisiaw,
I’r fun drwm warafun draw.
Cynt no hwyl i dan ddwylaw
Y pilwrn drwy ’r brwynswrn draw,
Rhag mor derwyn gynhwynawl
Y gwrthyd fy myd fy mawl!
Saeth awchlem wyllt, fyth awchloes,
Dan ben ei bron gron yn groes;
Drwy na thoro, tro treighys,
Na’r croen, nac unpwyth o’r crys.
Bach haearn, gafaelgarn gael,
Dan ddwyen y dyn dduael:
Diwael gulael, a golwg,
Drwy na chyfarfo dro drwg.
Uchel iawn rho’f fy lawn llef
Och! fwy nag och fi! — nagef.
Taro ei phen, cledren clod,
Ag isarn ar un gosod!
Rhydraws yw eu gwarafun,
Wb gwae fil ai byw gwiw fun?
Os marw fydd, ys mawr wae fi!
Y gwiwddyn bach o’m gweiddi:
Rhag mor anhawdd, drym-gawdd dro,
I ennill hoedl i honno!
Dewisaf, oedd gyhoedd ged,
Ei diangc, rhag ei daned.
CLI. Ymddiddan rhwng y bardd a morwyn serchog
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Lluniais oed mewn mangoed mai,
Dawn Dafydd, a’m dyn difai;
Cywir fun a’m cyfarfu,
Bron deg, goris y bryn du.
Rhoi cusan, rhai a’i ceisiai
I’r fun, ni wn arna’i fai,
Ei gael im’, goleu ’y mun
O em rwydd, ddau am yr un!
Hy fach oedd, wrth gyhoeddi,
’Y mun o lawer na mi!
Pan welais fy llednais ddyn,
Larieiddgu, mor hy’ a hyn,
Ciliais i’m corn fal ornair,
Cael ysgwd celais y gair;
Yn is fy nglap anhapus,
I’m bryd ar beidio a’m rhus.
Dirwyn fy rhan o’r deri
’Y myd a ’mllwiodd â mi!
“Ni ddaethost ddifost Ddafydd,
Wr doeth, i gywiro’r dydd;
Ond ar hyder llawnder lles,
Coel dinag, cael dy neges!”
Nage fy rhiain fain-gu,
Rhan fodd, nid er hynny fu;
Ond o’th gariad ni wadaf,
Annoeth gwyn, mi wn na’th gaf!”
c Diau i’th ol y dolwyn,
Ddafydd wr digelfydd gwyn,
Ni ddown i oed i’r goedfryn
Erod fab, ddiwybod ddyn,
Ond ar hyder o’r rhwyddwy’
’Y myd, fod yn forwyn mwy!“
“Morwyn fyddi, ddiddial,
Erof fi, wedd eiry y fl:
laith irber, del i’th erbyn,
O Fair! os dithau a fyn!
Ni fyna’, ni wedda’n wir,
Faith gwyn, ef a’th ogenir:
Nid heb achos i’th oeda’
Call iawn wyf rhag colli’na:
Ac na fynwn, gwn gynnau,
Afles fwriad i’r tad tau!“
“Taw a’th esgus fedrus-gel,
Er delw Ddewi, del a ddel!
Y mae da diball allan,
Ar faes, neu ryw ysgrubl fan.”
“Pe rhon’, a chael cyfael-wg
Hoen ddudrem, hyn yn ddiddrwg, 4:-iS
Y mae archddiacon mawr,
Rhyged a fyn ei ragawr.
Gweia* nad gwell na gelyn,
O’i fodd ysgymuno a fyn,
Fry oni chaiff yn ei fro,
O ddogn nawdd ddeugain iddo.“
O Och! mor galed fawedig,
Wyd Dafydd dan frcnwyddfrig!
Na fydd hebo’r Cymro cain,
Rhad agos, er rhoi deugain
Beth oni bydd, hafddydd hyf
Yn gynnar, ddeugain genyf i”
“Cael gan i, fab arab gwyn,
Yn uchel a wnai’n echwyn:
Dylwn wawd, a’i dalu’n wych
I minnau pan y mynych!”
Yno nid oedd gyhoeddi,
Un esgus medrus i mi,
Eithr bod oni’m gwrthododd,
Mi a’m lloer fun, o’m llwyr fodd!
CLII. Ymddiddan a merch dan ei ffenestr
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Caru perchen cae arian,
Caru a wnai’r cryf yn wan;
Caru yn dyn, mi a’i cafas,
Caffwyf a gaffwyf o gas:
Caru merch nis cae”r marchog,
A fu rhwng y porth a’r og.
Mae bloyn ia i’m calon i,
A’m pen y sydd i’m poeni;
Am fy mod dan gafodydd
A’r dagrau ia ’r hyd y grudd:
Ar ôd mynych y rhodiwn
Llawer gwaith, lliw eira, gwn.
Rhaid i mi ddysgu neidio
Y nos, drwg yw’r ffos i ffo;
Trwm yw’r pridd, anhawdd troi’r pren,
Braenia unwaith a brwynen.
“Duw a wyr dy fod mor wan
Dy ddull i ddywaid allan;—
Egor y ddor, ddiweirwen,
Sy’ fry uwch dy wely wen!“
“Nid agor hon un gronyn,
Ymddiddan oddi allan ddyn!”
“Mae y ffenestr yn llestair,
Tyn er da ’r pren, wen ddiwair!“”
'* R wich y ddor oddi danawdd,
Fy nhad a ddeffry yn hawdd!”
Mae’n cysgu, un du diddim,.
Myn nef fry, ni ddeffry ddim!”
ce Fei’n clyw fy mam, cam a gaf,
Esgeirwen, os egoraf.“
“Gwlych â’th boer lle y rhoe’r rhestr
Blaen ffyn colyn y ffenestr;
Gwedi hyn, gwada heniaith,
Och ym! pan wichio ychwaith.“
“Yn niwedd dy daeredd di,
O gariad, llyna *gori!'”
“Y fun berffaith i’th luniwyd,
Nos da it’, mor onest wyd!“”
“Croeso fwynwas, myn Asa!
Nos da’d, od oes neges da!”
c“ Cennad i ddywad yn nes
I fynegi fy neges.”
“Anngwrtais wyd o cheisi,
Myn Asa! ni feiddia’ fi.“
Pm bron mae dirfawr ddolur,
Fal blaenau nodwyddau dur;
A’m calon, er a soniant,
Sy’n sefyll ar gyllill gant!
Rhaid im’ ddwyn pridd ar f’wyneb,
Rhag bod i’m hadnabod neb;—
Fy niwedd, chwedl diledwyth,
Yw gorwedd yn y bedd byth!”
CLIII. Cyngor i forwyn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 125 ↗
Cerddais yn gynt, helynt hir,
Na mellden ddeunaw milldir;
Ni chyhwrddawdd, naw gawdd nwyf;
Neithwyr (ym tra a wnaethwyf) )
Blaen ’y nhroed, blin yw fy nhranc,
Ar ddaear, arwydd ieuange!
Un fryd wyf, yn y fro deg,
A Thrystan, eithr ar osdeg,
Ni thyr crinbren, dien dwyll,
Dan droed i’m dyn drud ammwyll.
Ni thrffais, annoeth reol,
Fy wyneb er neb yn ol,
Eithr yn gynt na hynt gwynt gwyllt
I Iys y fun ail Essyllt!
Rhoddais, ac ni henwais hi,
Gain roddiad, gynghor iddi.—
4 Na fydd salw yn syn dalwisg,
Ar dy fryd, hoen eiry dy frisg;
Yn ol hir, y feinir fwyn,
Ymaros yn mraint morwyn,—
Na fyn, dros ymofyn mai,
Fawddyn, drwg yth gydfyddai:
Cenedlog rywiog riain,
Car di a’th gar, dyn doeth gain!”
“Ys gwaeth, medd y famaeth fau,
Vm weithian am fy moethau;
Gwelais amser, fab Gwilym,
Gael gwr a wnelai gelg ym:
Nid celgwr gwr a garo,
Ni thrig mewn gweniaith na thro.”
Ni mynwn, bai gallwn gael,
Dy dwyllaw, du dy ellael!
Nid oeddwn, wr glerwr glan,
I’th dwyllaw o’th dy allan.
Ni’th dwyll dyn byw, nawdd yw Ner,
In lle bwyf, enllib ofer!
Dianair yw dy wyneb,
Dillyn yn, ni’th dwylla neb!”
CLIV. Ymddiddanion rhwng merch a phrelad
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Doe gwelais, arswydais oed,
Dyn Iwysgainc befr dan lasgoed;
Cyfarch o’m bun deg hoywsaeth,
Gwall i’m nwyf, gwell ym a wnaeth;
A chael gafael ogyfarch,
Ar fy nhwng, ym mwng y march;
A dechrau, heb led ochri,
Fal hyn, ymofyn a mi.—
' Rhy dew glain, rho Duw glementy
Rhwydd y gwasgaryd dy rent
Ystyr ym, os da wr wyd,
Yn rhoi oed yn rhi ydwyd
’Y nghred Brelad afradlawn,
Uthr blanc, ydwyd ieuange iawn!”
“Y’nghred mai ieuanc gwr eang crwn,
Wych ryw feddwl! cryf oeddwn,
Pan fedyddiais, drais draserch,
Dy dad, fun, — da doed yd ferch.”
Llyma goed lle mae gwawdydd,
Teg yw hon, pe tygiai hydd.“
Esgud ydd awn dan las goed,
Pan fu, em gu, yma goed;
Fy ngwawr nid oes yr awrhon,
I gyd fry o goed y fron,
Eithr dryll o esgyll ysgordd,
A ffin yn ymyl y ffordd!”
“Pa’m, gytgamwr, sion: iwr serch,
Yw genyd mau ddig annerch,
Fwrw drem las o’th gasul
Arnaf, Bab salwedd, bob Sul?”
“Pŵl oedd fy nhrem hen glementy
Perf-wisg serch sidanwisg dcnt;
Annodd ym, iawnfodd annerch,
Dy adnabod, fwynglod ferch:
Yn anad merch loywferch lwys,
Fain rug], o fewn yr eglwys.”
Pam yw genyd, loywbryd liw,
Dy salw hedd ddywsul heddyw?
Sengi megis gloes angau,
O’th droed ar fy neudroed mau,”
“Gwr arall, liw gwawr euryn,
Gwaith oer, a roddes gwth ym,
Hyd pan aethum fal sym sach,
Aur lliw hoyu’, i’r llawr haiach”
“P’am y mae cas o’th draserch
Genyd son am ganiad serch?“
Ar ganol oriau gwiwnwyf,
Fy mhylgain, riain, yr wyf;
A’r dydd yw fu o’r deuddeg
Diwrnod teilyngdod teg,
Yr erchist nef, didrist daith,
Eu cadw rhag pob cydwaiih.
Ni thyr cryf yn awr crefydd,
Heiniar deg, am hanner dydd.“
Rhyfygus wr, moethus maith,
Byd iawnwych, be baid ymaith,
Pa’m pan roddych, lewych len,
Bob ffurf y bara fferen.—
O’m gwasgod pa’m i’m gwesgi
O’th law fy neheulaw hy?”
^* Fy nghamp rhag ofn fy ngwympaw,
Pebyll oer, gwasgu pob llaw;
Pan welais trefgJais y trai
Am nith Eigr ym na thygiai,
Na gwad, aur fwriad forwyn,'
Nac esgus, ddyn foddus fwyn.
Euthum law-law draw i’r drain,
Dan lasgoed, a’m dyn lwysgain;
Dygum ar hon, wirion wranc,
Gwareau mal gwr ieuanc.
Gwell Gwen, clyw wr hen wr yr haf,
Yn yr ing na’r ieuengaf:
Oroen fydd ei hen eiriau,
Er hyn o fffst aran fau.“
CLV. I ferch
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Gwn ledrith un gain Iwydraf,
O’i hymlid er hyd fo’r haf,
Fal na bo heno i hon
Gyd gyfraith goed, na gofron,
Na chesail bryn taerwyn teg,
Na rhedyn i’m dyn rhydeg;
Nac unlle mewn haue’ byd,
Hoyw fun, i’m gochel hefyd.
Os marchog urddol bogfyth
A gar bun yn ei gair byth,
Mi addefwn, em ddifas,
Yn ei rith, mae yno ym ras,
Os efyj”^z£;/<frarierawl,
A gar y fun o’r gaer fawl,
Gwenddydd, pan ddel hirddydd haf,
Os gwawr fydd, ysgwier fyddaf.
Os ammaeth, gwn amaethud,
A gar hon, heb ungair hud;
Er mwyn gwawr llwyn o garllaw,
Daliwn aradr a’m dwylaw,
Os galwai nid ai o’m dadl
Genyf tra gaffwyf gynnadl,
Dysgwn, a chludwn ei chlod,
Budd iawn elw, byddwn eilwod.
Os dyn dedwydd bob blwyddyn,
O’r gaer ddail, a gar y ddyn;
Gwyn grair yn arwain y gra,
Da feddwl, dedwydd fydda’.
Os gwr ieuange gwareus
A gar hon, heb ungair rhus;
Byddwn, ni chelwn ei chanc,
Gwareus fal gwr ieuangc.
Os diriaid ddyn, fun fwynaf,
Gwr hy’, a garit ti ’r haf;
Bum dra diriaid fy neidiau,
O gariad march y tad tau,
Os gwas march a barcha bun,
A dofi, serch a dyfun;
Beiddiwn hawl, a byddwn hy’,
Etto yn was march iti.
Yr adar bach a rwydid
A’th iaith dwyllodrus, a’th hud;
Mileiniaidd, wen, yw d’anwyd,
Ffagl ir a ffugiol ydwyd.
Er Mair! dod anair arnaf,
A’th gas, — mi a wn na’th gaf!
CLVI. I hen gariad a’i gollyngasai yn angof
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ferch addfwyn o Wynedd,
Sy* ymmysg osai, a medd;
Bonheddig osgeiddig wyd,
Ac anwadal, gwen, ydwyd.
Beth a dal anwadalu,
Gwedi ’r hen fargen a fu?
Os balchder sy’n ei beri,
Hayach, nid anfalchach fi!
Od wyd fonheddig, a doeth,
A gafael yt ar gyfoeth,
Na fydd falch, fy myn galch-liw,
Nid gwaeth na byddych, nid gwiw!
Nid hwyrach ym anturiaw
Un falch, na difalch o daw.
Er athrodion gweision gwych
Na wna goel, oni gwelych:
Na’m gwrthod, lliw manod man,
Mewn gwg, rhag mynu gogan.—
Os edifar fy ngharu,
Fe honir, feinir, a fu;
Er yt, deg wen gymmen gal,
Yr awrhon garu arall.
Er dim a wnel Dewi a Non,
I gael wrth fodd dy galon,
Ac i minnau, gem anwyl,
A fynno Duw, Penaid wyl
Nac ym orfod, rhag bod hir,
Gamu bys ar dy gymmar.
Y dydd a fu, mewn deddf wych,
Em dawel i’m gwrandewych
Llawer cusan, ac annerch,
Llawer amnaid, falchblaid ferch,
Llawer arwydd, lloer eurwallt,
A llawer oed uwchllaw’r allt;
Llawer cae bedw dan fedwgoed,
A llawer rhwym i’m llaw roed;
A heddyw gwn, hoywedd gwir,
’Y myd wen, ni’m adweinir:
Lhdiaist wrth a geraist gwen,
Och ym! od wyd dra chymhen.
Cais o bwyll, wen, cospi llid,
Câr Dduw, cywira ’ddewid;
’Mogel dy farnu megis
Chwerwedd, o dwyllchwareydd dis,
Er ennill mewn awr enyd,
Truan yw’r bai, troi wna’r byd;
Felly gwen-gu, lliw gwyngalch,
Y try byd at y rhai balch,
Os ydych, ddyn wych o wedd,
Yn dilyn anwadaledd;
’Mogel, ferch, er anerchynt,
Dynu i gwrs y dyn gynt:
Colli’r clustiau cau cedyrn,
Cilwg hir, cyn cael y cyrn!
Gan dy fod cyn gwybod gwall,
Dwys air, yn dewis arall;
Cwynaf, riain addfain-ddyn,
Gwn na chaf amgenach hyn
Yn iach fy siomgar gariad,
Mi gela’, Gwen, gael a ga’d;
Er canu ’n iach drwy achwyn,
Annghywir serch, yw’r ferch fwyn! r
Cymmer, wen, rybudd genni,
Er lles, deuliw’r tes, i ti z—
’Mogel gael, gafael gyfell,
Fy ngwaeth, wrth geisio fy ngwell!
CLVII. I ofyn cymmod
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Er un- ferch oer iawn yw f’ais,
A garaf, ac a gerais!
Rhoi ’sywaeth a wnaeth neithwyr,
Ei gwg ym, a gwae a’i gwyr!
O Dduw! a’i gwnel yn ddiwg,
A’i o gas ydyw ei gwg?
Os cas yw, nid oes cwys iach,
Os moethau, mae’n esmwythach;
Os anwes, eisiau synwyr
Ydyw ei gwaith, bedw a’i gwyr.
Ni bydd per llais aderyn,
Os cas oedd esgus y ddyn:
Gweddied yr ehedydd
Llaesa’r gwg, er lies i’r gwydd.
Ni chaf wiail, ni ddeilian’
Y ma, na chog mwy ni chan:
Y hi, olwg a’i haeliau,
A barodd hyn, ym bruddhau.—
Gwnaed bellach fi’n iach, fy nyn,
Ar hyder tyf y rhedyn:
Gwell i’r fun, myn lun fy llaw,
Gymmodi nag ymadaw
Rhown aur i wen, rhif yr of,
Ar ei cham, er ei chymmod!
Nid cymain’” ar y min mau
Blys gwin, a blas ei genau!
Os cymod gyfnod a gaf,
Gwych foddus, ac iach fyddaf;
Ail haf ni byddaf i’r byd,
Na chwe mis, oni chymyd!
CLVIII. Y wrach
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Mi a gerddais wyth milldir
Ar fy hynt, bu yrfa hir,
O anial dir yn uniawn,
Nos na dydd ni bu naws dawn,
Tri pheth ni bydd eu heilryw,
Grymialog, serchog, a syw::
Y fi’n dyfod tua’r ty,
(Am hanner nos oedd hynny)
Lle’r oedd y Fun a garwn,
Ag aur ar wregys ei gyn.
Mi a roddais dri chnipws,
Er ei mwyn, ar drwyn y drws.—
Egori diwyd latai,
A’i ’sguscdion chwithion chwaiĩ;
A’m troi ar y llaw arall,
Is cil y ddor, cynghor call,
Oni threwais gwr fy ngen
Ar ucha’ cor yr ychen;
Lle’r oedd fodryb i Eiddig,
O Wrach ddygyn fantach ddig.—
Suganai’r V rach fantach-fam
O’i nyth, lle chwyth llau a chwain.—
“Beth sydd yna gar dy law,
Hebot yn my ued heibiaw?” i”
Beth a fynit, Wrach, ei fod,
Onid myfi a’m cysgod!”
Beth a wnai’r fantell orwen
Yn dra seth am beth o’i ben?”
“Pelydr y lleuad ydoedd
Ar y ddor, a’i arwydd oedd.“
4 Beth a wnai’r cledd a’r bwcled,
A dau lun ar ei glun gled?”
“Myfi fy hun a lusgws
Ar fy ol drosol y drws.“
Tra fu y Wrach, fantach faw,
A’i morwyn yn ymeiriaw,
Myfi euthum i fynu,
Rhaid yw twyll ar hyd y ty,
Hyd wrth wely bun ddiell,
A’i chern ar riniog ei chell;
Syganai’r Wrach yr eilwaith,
Ei hun er gwarafun gwaith, —
Pa beth sydd yna ’n chwiltath?”
Tyngais i’m cyffais mai cath:
“Rho Dwynwen! gwan yw’r ddichell:
Ai’r gath agorodd y gell?
Nage, myn mair! loyw grair lin,
Clicied y ddôr yn clecian.”
“Nage, myn mair! trymair trist,
Y llygod dan y llawgist.
Och i mi! henw dyrys,
Ond dwyn rhai o’r wyn yr ys!”
Pan oedd orau fy ’nghyflwr,
Erchi egori o’r gwr!
Neidiodd y Wrach afiachus
O’i chrwm, heb gymaint a’i chrys!
Cael i minnau, bradiau braw,
Fy nillad, yn fy neill-law,
Ac i’r drws arall allan:
(Pand diras fydd y gwas gwan?)
A thros gae drain cyfain call,
A thraws oedd, a thros arall;
Hyd i’m gadodd i gysgu,
Farchog trist taeog traws du.—
Pe cawn afiach athrugar
Ar iad cydymaith yr iar,
Mi a wnawn i’r lleidr coessfrach
Na chanai mwy — mab wy bach!
O daw i dir gogyfuwch
Y cadno a gno ei gnuwch!
Oni bai fod yr hedydd
Ar gan yn darogan dydd,
I’m goddiweddfid Nid llu
Ar fy lloches yn llechu.—
Rho Duw iechyd, nos a dydd,
A hoedl a fo i’r hedydd!
CLIX. I’r dylluan
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Llaw’en nos lau lluniais oed,
Lle dirgel gerllaw derwgoed,
A rhyw un o’r rhianedd,
Rhwydd i fil y rhoddai fedd.
Lliw eiry, wych llariaidd wen
Lawhir ebrwydd, liw’r wybren;
Feinwedd Eigr foneddi.syryw,
Fwyn a diwair, — fenaid yw!
Fy Nuwies bert, Fenws ber,
Afal Awst o feluster!
Lliw dydd y daw lle doddyw;
Llewych haul ar y lluwch yw:
Oni ddaw, draw gerllaw’r llwyn,
Ni thrig yno eithr gwanwyn!
F’enaid dlos, ni ddaw nosi
I adail haf y del hi;—
Gwedi, del lygaid y dydd,
Meillion gwynion, a gwinwydd;
Ac nac ofnwy’r gauafnos
Blodau’r haf ar belydr rhos!
O lluniais, mewn lle anial,
Ganwaith oed a gwen ei thal: =
Nith yr haul, ni thorai hon,
Ni thorais a nith Euron,
A mi’n gynnar yn aros
Gwen yn y nant, gan y nos,
Y Dylluan rhag anwyd
A floeddies, —ladrones Iwyd!
Distryw mawr, fal cof trofus,
Yn y trwn, a niwaid rhus
Ni ddoe’r fun, a ddymunais,
Fewn y llwyn rhag ofn ei llais:
Tarfodd y fun, twrf oedd fawr,
Tristeais o’r trwst dwy-awr!
Dirfawr goeth a darfu’r gan,
Del lliwiad i’r Dylluan!
Crechwen oer mewn crochan ia,
Car Eiddiorwg, cyw’r ddera!
Tristlam i’r dihawddamawr,
Talcen moel myharen mawr:
Wyneb budr hen abades,
Neu din âb, — be deuai’n nes!
Rhuad tongraig ’r hyd hengroen,
Rhai a’i geilw, Gwrach y Rhuglgroen.“
Gwasgod lawn chwilod a llau,
Gwrach lygodgoeg lygadgau.
Gwar ab oedd yn gyru bw;
Gwreigan gul greg yn galw:
Gweryriad gregyr aran,
Gwr y god bob gair a gan,
Coriar nos yn caru’r naint.
Croch yw’r llais, crycha yw’r llethr;
Cwthr bran wan-gan ewingethr;
Cloc ellyll, ceiliog gwylliaid,
Cenau diawl — cwyno i’w daid!
Coriar awen vlfin2; orn.
Cenau cath yn canu corn:
Coeg utgorn, cyw gwag atgas,
Cefndedyn croenfelyn cras.
Cyw rhawn fyr acw o’r hen fath;
Cryglais gwiddon mewn cioglath;
Cesur edn, cas yr adar
Crygedd gwydd, crogwydd a gar.
Ni thariaf wrth ddihirog,
Gen oer gul, dan ganu’r gog.—
Aed i ddiawl, gydwedd eulun,
Yn ei byw, am ofni bun!
Claprhew bendew, heb undaint;
CLX. I’r fedwen a wnaed yn bawl haf yn Llanidloes
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y FEDWEN las ynfyd-wallt,
Hir yr wyd ar berw o’r allt!
Llath Her! i’r coed lle th fagwyd
Llen ir draetures Llwyn wyd:.
Llety i mi a’m llatai
Oedd dy glos yn mernos mai!
Aml iawn gynt, mae’n gerynt gas,
(Y cethldy irlrig coethlas)
Pob caniad, ffyrieiddiad ffyrdd,
A glywid o’th oglauwyrdd!
Pob llysiau, rhwng ceingciau cyll,
A dyfodd dan dy defyll,
Pan oedd wrth gynghor morwyn
D’ annedd er llynedd yn llwyn.
Byddar y trig dy frig fry,
Bellach merch nid ymbwylly:
O’th gorpholaeth yr aethost
O’r parc cain, er peri cost,
I dir, nid er braint arwydd,
I dref pl’as cyfnewid plwydd.
Cyd bo da, doeth noddfa dawn,
Tref Idloes, tra fwy’ fodlawn,
Nid a, fy medwen, genyf
Dy lathlud, na’th dud na’th dyf.
Nid dien na’th ogenir,
Di le yn arwain dail ir:
Post dinas garddblas gwyrddblu,
Pand anghymmen fedwen fu
Beri draw dy ddiwreiddiaw di,
Pawl ir ai’r lawr pilwri;
Ynwst dail ynys dilech
Y’ nghanol croes heol sech.
Cyn bo cyfannedd, meddant,
Dy le, bren, gwell nen y nant;
Ni chwsg aderyn, ni chan
Meinlef ar dy frig mwynlan
Gan amled fydd, gwinwydd gwyll,
Trwst y bobl tros dy bebyll.
Gwyllt dy glwyf ni thyf gwellt glas
Danad gan sathr y dinas,
Mwy nag arllwybr, lle ’wybrhynt,
Addaf a’r wraig gyntaf gynt.
Marc porthmonaeth i’th wnaethwyd,
Mul o serch, maeHeres wyd:
Pawb o’r fair, wyr air oroen,
Y ddengys a bys dy boen,
Pth unbais lwyd a’th henban
Ymmysg marsiandiaeth man!
Ni chudd wrth aros y chwaer
Rhedyn, uch o’r bedw rhydaer;
Ni cheh rin a chyfrinach
Pth wasgod is bargod bach:
Ni cheH drem iawn wych draidd,
Fri briallu ebrillaidd!
Ni ddaw cof yt ymofyn
Ai dy glych adar y glyn! •
Llwyr gwae fil wyf gwyni gwad,
Mythl oernych, gael methl arnad!
Dygiad Tegwedd fonheddig,
O doi fry i fwrw dy frig,
Dewis dau, canghenau caeth,
Diserch yw dy fardd disaeth!
Ai cyrchu’n ffyrf-gadr adref,
Ai crinaw draw yn y dref?
CLXI. I’r ffenestr dderw
Golygiad modern Abertawe: cerdd 65 ↗
Cerais o fewn cydleisiau,
Cerdd anial fu’r mwngial mau,
Dan ystlys dyrys diroedd,
Hundy bun, hyn o dyb oedd.
Da arganfod dewr geinferch,
Drwy frig y Ilwyn er mwyn merch;
Ffurf gariad, dygiad agerw,
Ffenestr gadarn o ddarn dderw.
Erchais gusan gweddlanach
I’r fun, drwy’r fifenestr dderw fach;
Gem addwyn, oedd gam iddi,
Gomeddodd; ni fynodd fi!
Astrus fu’r ffenestr oesdraul,
Lle rhoed i ddwyn lleufer haul:
Na bwy’ hen a bu o hud
Ffenestr a hon un ffunud:
Dieithr hwyl, da uthr helynt.
Yr hon o Gaerlleon gynt,
Y doe Felwas o draserch
Drwyddi, heb arswydi serch,
Cur trymhaint cariad tramawr,
Gynt ger ty serch Gogfran Gawr.
Cyd cawn fod, ped fai ’n odi,
Hwyl am y ffenestr a hi;
Ni chefais elw fal Melwas,
Nych i’r grudd yw na cheir gras
Betaem am y dlys-em dlos,
Wyneb yn wyneb nawnos!
Heb wyl sal, heb olau ser,
Heb elw rhwng y ddau biler,
Mwy’r cawdd, o bob tu’r mur calch,
Finfin mi a’m dyn feinfalch:
Ni allem, aur em wryd,
Gael y ddau ylfin i gyd!
Ni all dau enau unoed,
Drwy ffenestr gyfingrestr goed,
Fangau graen fyngau a gred,
Fwngial rhag ei chyfynged! •
Ni phoened neb wrth ffenestr,
Rhwng fianugl nos a rhos rhestr,
Heb hunaw, fal i’m poenwyd
Heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd!
Tored diawl, ffenestrawl ffau,
A phwl arf ei philerau!
Awch lwyr llid, a’i chlawr llydan,
A’i chlo, a’i hallwedd achlan!
Ac a wnaeth, rheolaeth rhus,
Rhestrau, bilerau rhwvstrus!
(Lladd canaid a’m lludd cynif!)
A’r law a’i Lluniodd a llif,
Lladd dihir a’m lludd dihun;
Lluddiodd fi lle dd oedd y fun!
CLXII. Mawl i’r haf ac i’r haul
Golygiad modern Abertawe: cerdd 35 ↗
Tydi’r Haf, tad y rhyfig,
Tadwys coed brwys cauad brig;
Teg wdwart feistr tew goedallt,
Twr pawb wyt, towr pob allt.
Dydi a bair, air wryd
Didwn ben, dadeni byd;
Ac y sydd, berydd barabl,
Tyddyn pob llysewyn pabl:
Ac eli twf, ddwdwf ddadl,
Ac enaint coedydd cynnadl.
Da gwyr, myn Dewi, mai gwir
Dy law cadeiriaw coed ir.
Hoff anian bedwar ban byd,
Uthr y tyf, o’th rad hefyd,
Adar, a chnwd daear deg;
A heidiau ant i hedeg:
Bragwair gweirgloddiau brigwydr,
Bydyau, a heidiau hydr!
Tadmaeth wyd, prophwyd priffyrdd,
Teml daearlwyth, garllwyth gwyrdd:
Impiwr wyd i’m pur adail,
Impiad, gwiw ddeiliad gwe ddail.—
A drwg yw yn dragywydd
Nesed Awst, ei nos a dydd,
Am wybod o’r maethod maith,
Euraid dymor, ’r aid ymaith!”
“Maneg im’ Haf, nid cam hyn,
Myfi a fedr dy ’mofyn,
Pa gyfair, neu pa gyfoeth,
Pa dir ydd a’i, er Pedr ddoeth.?”
’Taw fawlfardd, tau afalfydr,
Taw fffst feistrawl, hydrawl hydr!
Tynghedfen sy’m, rym ramant,
Tywysawg wyf, tes a gant,
Dyfod tri mis i dyfu,
Defnyddiau llafuriau llu;
A phan ddarffo’ do a dail
Dyfu, a gwau y gwiail,
I ochel awel allaf,
Y wlad annwfn ddwfn ydd af.”
“Aed bendithion beirddion byd,
A’u canhawddamor cenyd —
Yn iach Frenin yr Hinon,
Yn iach ein Llywiawdr a’n Ion
Yn iach y cogau ieuange!
Yn iach hin Fehefin sange
Yn iach yr Haul yn uchel,
Ar wybren dew bolwen bel! î
Deyrn byddin, dioer! ni byddy
Yn gyfuwch fryn ’wybr luwch fry,
Oni ddel, diogel degardd,
Eilwaith yr Haf a’i lethr hardd!”
CLXIII. Gau oganu hen Eiddig ai carai
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Fun araf fain eirian,
A’r tal fal yr aur mal man,
A’i chorph megis y porphor,
A’i lliw glan mal marian mor;
A*r anadl oll, a’r wyneb,
Fal aroglau Siopau Sieb! I
Da ddwy- rod yw dy ddeurudd,
Neu blu rhos is? iobl aur rhudd;
Uwch yw’r gwrid dwy-ael sidan,
Ar plethau na’r tonau tan!
F’ adduned, nid tynghedfen,
Yrhawg yt garu gwr hen:
Gwell yt, anrheith obeithiaw,
Dy brydydd, ryw ddydd a ddaw!
Gwell oedd i gleiriach gwrachan,
A thy, a chlydwr, a chan.
Ond Cymro, medd llyfr Ofydd,
“• Pa hynaf ynfytaf fydd.”
Coelia fy rhiain fain-hir,
Y gwyl ddihareb mae gwir,—
Pren hen, heb ddail pryn eilwaith,
Gwae a’i pryn er gofyn gwaith!
Un drwg rhwng merch ac erchwyn
Hen ringyll, nid ennill dyn.
Un ai wellwell dan gelli,
O chaid, fae oreu i chwi.
Iawnach oedd iddo ’mofyn,
Myn Oswallt! a’i wallt yn wyn,
Margen am gael dadeni,
Na cheisio eich hudo chwi!
Neu gael ffynnon lorddonen,
Gwawr haf, i fwrw’r gwr hen;
Ac yno dringo heb dranc,
Naw oes a gaiff, yn ieuanc î
Brenhin serch, a gordderchwr,
Oedd gynt, pan fu fywiog wr:
Bu ddewr, o bu ef ddyrys,
O gael rhan rhwng llan a llys,
Mae yn grwm yn bwhwman,
Mae’n gwest o’r lluest i’r Ilan.
Pa ryw les, onid gresyn,
Er cael o’r henwr hael hyn:
Ond truan ei ddychanu,
Serchoced, a’i fwyned fu;
A maint gweiddi gwrachiod
Ei fyw, ac na ddichon fod
CLXIV. I yrru’r wennol yn llatai at ei gariad
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
yer yw’r nwyf a’m cynail,
Caru ’dd wyf mewn caer o ddail,
Golud gwyr, gwiw leuad gain,
Gwylferch ardderchawg aelfain.
Gweddus yw llun y fun fau,
Garedig ddigar oedau:
Gwn gael (main ei hael yw hi,
Gwawr eirddoeth,) mawr gur erddi! '•
Cyd bo digrif gan brifardd
Garu hon, ddyn gywir hardd,
Gwynfyd oedd ym er gwenferch,
Goris allt, gurio o’i serch!
Ni ddilid man ydd elwyf,
Ni wn pa les, yn un plwyf,
Rhoi fy mryd ar fy rhiain,
I mi dan ragtai a main.'
Yr haf, ni chelaf fy chwyl,
Ni chaf fyned i’w chyfyl,
Na hon ni chaf ei hannerch,
Na chwerthin finfin a’r ferch!
Talm o bryder a’m peris,
Truan ym yw traian mis,
Na bai o ged i neb gael
Fyned at fy nyn feinael;
Na golwg ar fun gulael,
Na son wrth fy Nuwies hael!
“Wrthyn hydyn yn ’hedeg,
Yn ael dydd y Wennol deg;
Adeiniog edn bywiog bach
Wyd imi, main yw d’omach;
Arlwy dadl, erlyd oedau,
Er mwyn a fynych o’r mau.
Dala serchawgrwydd dylyn,
A dos i ymwe.ed â’m dyn,
I’r llys y mae’r iarlles mawl,
Naws dedwydd, yn wastadawl,
I geisio ym ddau gusan,
Gyfnewid ail Enid lan!”
Oni’th edir, nyth odo,
Y’r drws pan ddelych ar dro
Neitia, hyn yw dy natur,
I mewn dros raddau y mur,
Neu’r ffenestr restr ar osteg,
Neu drwy’r nen er Dwynwen deg.
Salw’th gais, swl-iaith gyson,
Saf uwch y dylath a son:
Sym breichledr ar gledr y glwyd,
Sidell gyweithas ydwyd.
Cynghor wyd ym o’m canghell,
Cyfarch o’r nen i Wen well:
A gofyn yn deg ufydd
I Luned, ail i ’leuni dydd,
Pa beth, ddyn felenbleth fwyn,
Yw ei meddwl, em addwyn;
Ai gwra, serch a gerais,
Yn y sir Gymro, neu Sais.
Ai gobeithiaw y daw dydd
Y delom dan fedw dolydd,
Aur ei llorf, er ei llawrodd,
Y*nghyd nghyda’n byd wrth ein bodd.”
“Os ymaros am wra,
Ar fy nawn, erof a wna,
Dyred o’th genadwri
Hyd atta’, nad oeda di.—
Didolc a llym yw d’ adain,
Dy wobr fydd dau gywydd gain,”
CLXV. I hen wrach a gododd o’i gwely i geisio dal y bardd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Wedi dyfod a dofi,
Tewais, ni soniais innau
Ddiweiriad gwas a’r ddor gau.
Gwyhaist am gael y gwely,
Rhediad tost ar hyd y ty,
Gwedi cael gafael gyfun,
A gwilio bod gywely bun:;—
Rhoi fy min heb gyffini,
Main ei hael, wrth ei min hi.—
Dechreu bach gyfrinachau,
Myn dyn! yr oeddem ni’n dau;
Yna y clywn mewn mwnws,
Yn rhuo draw rh’of a’r drws,
Gwrach anhygar ni’m caref,
Ewinog, grafangog gref.
A bras gerdded, a brysiaw,
A’i ffon fach, a’i ffunen faw.
Beth” eb ’y Ngwen dan leni
Oglais deg “ a glywaist di?”
“Peth abrwysg a ddaeth obry,
Heibio, mae’n twyllo’n y ty!“
Dyn feinlas, i’w hoywblas hi,
C Os y cenau ni’s cwynwn,
Glew ei hud, mi glywais hwn;
Mawr ei anffawd yn ymffust,
A’r pry’ yn glynu’n ei glust.“
Tra fu Wen yn ymsenu
A’r Wrach fforchog ddeifiog ddu,
Rhedais, ni pheidiais a ffo,
O’r ty allan, rhag twyllo.
Rhaid yw gochel heb gelu '
Yr hwch o ddyn, y Wrach ddu;
A gwnawn oed mewn mangoed man
Wiw dlos, i aros eirian:
Pob urddas mewn dinas do,
Ufudd enw, a fydd yno:
A phob edn glan a ganai
Wiw gywydd mewn manwydd mai!
Gwedi doe (gwad a’i dyfyn)
Dan len ddail ael-winau ddyn;
Cyd ymddiddan a’m hanwyl,
Cyd eiste’, ddyn gole gwyl: •
Newidio glan gusanau,
Cyd chwerthin yn y min mau!
Wrth weled dan uthr fedwen,
Mor felus yw gwefus Gwen,
Diofryd er hyd fo’r haf,
O’r addysg hwn a roddaf;
Na wnaf gydgam na thramwy,
Drwch ei min, i dŷ’r Wrach mwy »
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O grynhoad Owen Jones, a William Owen (Llundain: argraphwyd gan H. Baldwin, 1789). Sganiau: archive.org/details/bim_eighteenth-century_barddoniaeth-dafydd-ab-g_dafydd-ap-gwilym_1789 (llyfr 1789) ac archive.org/details/barddoniaethdafy00dafy (adargraffiad Lerpwl, gol. Cynddelw, I. Foulkes, 1873)
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Coelbren y Beirdd: y llythrennau a dorrwyd ar bren
Gwyddor y beirdd a gafodd Iolo Morganwg gan hen feirdd Morgannwg, y ffrâm bren y torrwyd hi arni, a’r hyn y mae’r hen feirdd a’r hen air ei hun yn ei ddweud wrthym am ysgrifennu ar bren yng Nghymru.

Cofiwch Epynt: clirio’r mynydd, 1940
Yn haf 1940 cymerodd y Swyddfa Ryfel Fynydd Epynt ym Mrycheiniog yn faes tanio. Gorfodwyd 219 o bobl o 54 o gartrefi, cymuned Gymraeg gyfan gyda’i chapel, ei hysgol a’i thafarn, i adael, ac nid aethant byth yn ôl. Hanes pobl y mynydd, a sut y mae Cymru’n eu cofio.

Arthur, Brenin y Brythoniaid
Y brenin yn siarteri Llandaf, y deuddeg buddugoliaeth a ddaeth i ben ym Maddon, y frwydr olaf yng Nghamlan, a’r ogof yn Eryri lle mae’n cysgu yn ôl traddodiad Cymru.

Oes y Tywysogion
Cestyll, barddoniaeth a thywysogion Gwynedd a Deheubarth yn erbyn grym y Normaniaid a Lloegr.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Cerddi CXXVI–CLXV’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/barddoniaeth-dafydd-ab-gwilym-cerddi-126-165.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (3)
- Tir fferm tonnog ar Fynydd Epynt — Alan Hughes · CC BY-SA 2.0
- Y Brenin Arthur yn un o’r Naw Gwron, manylyn o dapestri tua 1385 yn The Cloisters, Efrog Newydd — Unknown weaver · Parth cyhoeddus
- Tŵr crwn Castell Dolbadarn dan fynyddoedd Bwlch Llanberis — Tilman2007 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth