

Hanes Cymru / Llyfrgell / Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Cerddi CLXVI–CCIX
Cerddi CLXVI hyd CCIX o gasgliad 1789, yn ei eiriau a’i orgraff ei hun.
Llun: Cerflun marmor Dafydd ap Gwilym yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd · Seth Whales, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
CLXVI. Henw cariad y bardd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ferch fach dda ei bacheu,
Lawer gwaith a elwir Gwen;
Llysenw serch y ferch fach,
A’r enw mae’n gyfrinach,
Myfi wyf yn ymofyn,
Mwy na dim, am enw’r dyn;
Hwyrach riain addfain-ael,
Rhyw ddydd noi gilydd ei gael.
N sy fry, H hy hoywen,
A thair D ac Y ac N;
Ysbel Mabli, Gwenllian,
Dyddgu, neu Leucu wen lan;
Gwerfyl deg, gwawr fal y dydd,
Elen, Efa, lân Ofydd;
Nest, Gwenhwyfar, a Chari,
Tonwy, merch Gittin a mi;
Siwan, a ludd son o lid,
Wythliw ydyw ond odid,
Morfudd, Hunydd o’i hannerch,
Sioned, neu Farged yw’r ferch.—
Ar hyn fe ddarfu ei henwi,
Un o honynt hwy yw hi.
CLXVII. Yr addaw ar nag
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ferch wyl fawr ei chelwydd,
Feinael deg, fwyn eiliw dydd;
F’enaid nid oedd neb íwynach,
Oni bai yr un bai bach.
Addaw teg ym ydd wyt ti,
Gwydyn, a’m gommedd gwedi:
Gwell oedd naccau ar ddau-air,
Na chael addewid ni chair!
Mi a gawn gan un wendeg,
Neu hudol gwineu hoywdeg,
Roi aur rhudd i’m dyhuddaw,
Er llyn y’ngheuedd fy llaw.—
Ac yn ol egin alaeth,
Y llaw’n wag, a llyna waeth!
CLXVIII. I ferch i’w gwrthod oni chai y bardd hi
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Fun bach fwyna’n y byd,
Fain, a elwir f’anwylyd;
Ni bu’n rhoi cusan yn ber,
Yn fyw undyn un fwynder!
Mynu tan mwyned honno,
A bair ym fyned lle bo,
Ni wn i ddyn mor ddiell,
Na dyn a wyr da yn well.
Och Fair! na chair (oni chad)
A geiriau llyfr o gariad,
Ofyddes, i’m fantes i, —
Ufudda’ dyn wyf iddi.
Hawddamor hon i’r fron fry,
Os hawddamor sydd ymy;
A dyddiau da aed iddi,
Dyddiau ’mun da oedd i mi,
Gan na allaf fi ddial
Ar y dyn, unwedd aur dal!
Oni chaf fi hi, hoywfun,
Ni chaiff hithau finnau, fun!—
Oni chaf fi hi’n ei hoes,
Ni chaiff hi fi yn f’einioes.—
A chan hoedl yw chaneidlun,
A hefyd, hawddfyd i Fun!
CLXIX. Gwraig y crydd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Caru’r wyf, pwy a’i cerydd? i
Gem air groes, gymmar i grydd:
Deuliw’r haul ar y dolydd,
Dyn grair i’w gweled dan grydd.
Canwyll merched y gwledydd;
Cred a roes honno i’r crydd;
Caf esgob, nid cob cybydd
Tor cred, i’w hysgar a’r crydd.
Caiff esgidiau tew newydd,
Modd eiry craig, er maddau’r crydd:
Nid medrus awydd Madrydd,
Ysbiwr crwyn, os byw’r crydd.
Cyd rho ddiofryd prydydd,
Na chymred un o gred grydd;—
Gwell diarchen awenydd,
Na chroen ireiddlyd, a chrydd.
Gwedi dygo ferch gwawdydd
Na chywired gred i grydd.
Mwyn, myn y nef! yw’r grefydd,
Mwyna’ gwraig, oni myn grydd:
Gweled i’m wen cyn trenydd,
Gyda’r crwyn, yn gado’r crydd,
Trwsiaf gerdd fal wtresydd;
Teg, myn Mair! yw crair y crydd;
Rhaid im’ am wen liw ’splenydd,
Ei dwyn o blith crwyn y crydd.
Uwch adfyd, wen na chydfydd
A hen garwden o grydd;—
Bwyf fi bardd was dan laswydd,
Brisiwr crwyn, byr- oes i’r crydd!
CLXX. Y celu
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Gwaith anorphen sydd genyf,
Caru crefft er curio’r cryf;
Gwn frad, ail gariad Geraint,
Gan hwn yr egina haint,
Hanner hun yr aderyn
A gysgaf, o hunaf hyn!
Myned (hir yw’r dynged hon)
Yr wyf a’r gogr i’r afon:
Cerais un dyn cwrs Indeg,
Dan gariad y teirgwlad teg.
Do’n fy swydd lawer blwyddyn,
Del im’ o bap dal am hyn:
Tybied yr wy’ nad diboen
Ei charu byth, — Och! o’r boen!
Aeth yn gur, weithian y gwn,
Pwys yw cariad | pes carwn
Tra fae, trwy faith obeithiaw,
Yr haul yn troi ’r helynt draw
Ni fynai, dilynai hd, *
Wen, ei chael oni chelid!
Gwae fi! na chair deuair deg,
Oni chawn un ychwaneg;
Pei gallwn ni’s mynwn mwy,
Gwen, gael oed ond a gelwy’.
Carwn, dymunwn fy mod
Gan bawb a gawn heb wybod:
Cael un oed ni’s cel annoeth;
O’i gael a dyn a gel — doeth!
Rhai a’i cel draw rhag cael drwg;
Suddas fydd dyn os addef,
Os cel mae’n angel o’r nef,—
A fo doeth efe a dau,
Annoeth ni reol enau:
Da gan Dduw, dygwn ddeall,
Na wypai’r llaw a wnai er Ilall.
Da medrwn, pei gallwn gael,
Da iawn gelu dyn gulael;
Down erddi, nid anurddas,
Duw a wnel in’ dan we las:
Ail Fenws oleu feinael,
Fedru ei chelu a’i chael.
CLXXI. Ymddiddanion rhwng y bardd a’i gysgod
Golygiad modern Abertawe: cerdd 63 ↗
Of’r oeddwn dan oreu-ddail
Yn aros Gwen, Elen ail:
Yn gochel gwlaw dan gochl glas
Y fedwen, fel ynfydwas,—
Nycha gwelwn ryw eulun,
Yn sefyll yn hyll ei hun.
Ysgydigaw, draw ar draws,
O honof, fal gwr hynaws;
A chroesi, rhag echryshaint,
’Y corph mau a swynau saint.
Dywaid! na phaid a’th dewi,
Od wyt wr,— pwy ydwyt ti?”
“Myfi! — gad dy ymofyn;
Dy gysgod, hynod yw hyn:—
Taw er Mair, na lestair les,
I fynegi fy neges.—
Dyfod ydd wyf, defod dda,
I’th ymyl yn noeth yma:
Hoff yw genyf dy ddilin,
Was da, ac ni fydda’ flin,
I ddangos, em addwyn-gwyn,
Rhyw beth wyt, mae rhaib i’th ddwyn.”
Pa achos mor ddiddos ddyn
Cilaidd, i’r wyd i’m calyn:—
A’i cyflog sydd, was gaflhir,
I ti, y drwg hudwg hir,
Am fy ’sbio, enfys bawaidd,
Gan Eiddig, oer floeddig flaidd?“
“* Nage wr hael, anwr hyll,
Nid wyf felly, dwf ellyll!”
“Beth yntau? cenau y cawr,
Hen arthfoel gwyll anferthfawr!
Ond teg o’r widdon gegrwth,
Tebycach wyt, gleiriach glwth,
I ddrychiolaeth hiraethlawn
Nag i ddyn mewn agwedd iawn.
Heufor mewn secr yn cecru,
Llorpau gwrach a’r dudfach du.
Bugail ellyllon bawgoel,
Bwbach ar lun mynach moel:
Grewr y chwarau griors,
Gryr llawn yn pori cawn cors,
Fal gryr llwyd yr wyd ar ia
Fewn canol a fae’n cawna:
Garan yn bwrw ei gweryd,
Garan’r wyll, ar gwr yr yd.
Wyneb Paîmyr, a hurthgen,
Brawttu o wr mewn brat hen;
Drum corph wedi droi mewn carth,—
B’le buost? hen bawl buarth!”?
“Dy galyn ’r wy’ dan gelu,
Erioed, ar hyd y coed cu,
O ddyn a marcio’n eiddil
Dy gastiau, a’th feiau fil:
Llawer dydd yt pe’s Ihwiwn
Gyda thi, gwae di o’th wn!“
Pa anaf arnaf amgen,
A wyddost ti, wddw ystên,
Ond a wyr pob synwyrawl
O’r byd oll? ac it’ haw diawl!
Ni chatgenais fy nghwmwd,
Ni leddais wyn, leddf ysgwd,
Ni theflais ieir a thafl fain,
Ni fw’bechais rai bychain,
Ni rwystrais wraig yr estrawn
Nemmawr waith, na morwyn iawn
“Myn fy nghred pe mynegwn
I’r rhai na wyr hyn a wn,
Dir enyd, cyn tor annog
Y’nghred, y byddit ynghrog!“
“Ymogel, tau ’y magl tost,
Rhag addef y rhai gwyddost,
Mwy na phei bae, tra fae’n fau,
Gawni ar gwr y genau.“
CLXXII. Traethodl y dyn dan y gerwyn
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Fal yr oedd fawr ei hafrad,
Ei hun, yn y ty’n gwarchad—
Gwelai’r mab, mwya’ garai!
I mewn yn dyfod attai:
Ac i’w bwrw ar y gwely,
Gwell y gwnai na gwr y ty.
Ac fal yr oedden’ ill dau
Yn gorwedd dan gwrhdau:
Yna y clywen y Gwr
Yn dweyd wrth ei gyfarwr,—
An 1 Awn i ’redig y tyddyn
Sy’ rhwng y ty a’r odyn.“
Neidiodd y Wraig yn addwyn,
Y’rawodd y Dyn dan gerwyn;
Ac aeth hithau ei hunan
Ar y gwely i ruddfan,
“O Dduw pa beth a glwyfau
V myd, a oedd iach gynau?”
Llawer clwyf, llawer dolur,
Yn ol lludded, a llafur,
A dderfydd i’n cyfryw ni
Heb feiddio ei fynegi;
Dos, a dywaid i’r wraig draw
Y clefyd sydd i’m clwyfaw:
Dywaid fy mod i’n gorwedd,
O’r clwyf y bu hi’r llynedd;
A’m bod mewn perygl angau
O’r clwyf gynt y bu hithau!“
“Arch iddi o fod yn gre’,
Yn y modd y gwneles fine’;
Mi ddeua’ cyn pen hayach,
Ac yna mi a’i gwna’n iach,”
A thra cafas hi gyflwr
Tra ciniawodd y craswr,.
Rhoes hi ffagl yn yr odyn,
Ond aeth hi’n dan ufelyn.
Tra fu’r cymdogion achlan
Yn achubaw y gwyllt-dan,
Codes y Wraig y gerwyn,—
Cafodd y Dyn y coîl-hvyn,
Colles y Wraig ei llymaid,
Cafodd y Dyn ei enaid.
CLXXIII. I’r fiaren
Golygiad modern Abertawe: cerdd 56 ↗
Cwrs digar, cerais degau,
Cwyn cyfar mwyn, cof yw’r mau:
Coflaid lanwaith gyweithas,
Curiad balch, nid cariad bas,
Cefais ym gyngor cyfun,
Cof a bair hir lestair hun.
Dawn myfyr dinam ofeg,
Dwyn taith i garu dyn teg:
Llwybr edifar i garu,
Llesg o daith foreugwaith fu.—
Curiad gwiw, caredig waith,
Cyn gwybod, cain yw gobaith,
O neb cyn dechrau mebyd,
O’m bro lle’r oeddwn a’ m bryd.
Hwyr y cair (aur grair o gred)
Hawl i’r faenawl ar fyned
Y geisio, lle tygaswn,
Hawdd hud o gawdd hyd y gwn;
Gwaeth yw’r sal, gwedd tal y tir,
Golud mwyn, gweled meinir.
Gochelais, pan glywais glod,
Serch gof eurferch gyfarfod:
Dirgel fydd, da’r gelfyddyd,
Dawn o’r bwyll, a dyn o’r byd.
Gadewais a hyntiais hwnt
Priffyrdd y bobl a’r pryffwnt;—
Cerddais ymmysg y cordderw,
Cof oedd, a chaeroedd uwcherw
O gaer y glyn a’i gor glwys,
Goeglwybr rhwng craig ac eglwys.
Goryw treigl gariad traglew,
Gael gwyll y coed, tywyll tew:
Ar draws un yr ymdiois i,
Er morwyn, o’r m’eri.
Rhwystrus oedd, hi a’m briwawdd,
Ysgymun coluddun clawdd:
Hagr dyn, rhyw eirionyn rhus,
Honno drychiolaeth heinus.—
Cyflym awch lun ei dannedd,
Coel gwarth, cyd bo cul ei gwedd,
Dysgodd ym anhoff gloffi,
Dilwydd faint a’m dahodd fi.
Yn nhal i gwr anial goed
Nidrodd y’nghylch fy neudroed,
Cefais, tramgwyddais trwm gawdd,
Gwymp yno, rhugl-gamp anhawdd.
Yn ael y glyn arail glud,
Yn wysg ’y mhen yn esgud,
Un-lll’ gul yn llaw gelyn,
Rhega’ did sy’n rhwygo dyn;
Histengarth ar rostangoed,
Perfedd diawl mewn enguriawl goed!
Carai groen ceir ar y grwn,
Draenog coed coliog, coeliwn
Cas ei gwaith yn cosi gwydd,
Cebystr ar gringae cybydd.
Coes garan ddygn, dan sygn ser,
Cyngasog gangau oser:
Gwarth i’r budr-beth atethol,
Murniai fardd, mae arnaf ol,
Mal y gwnai, ni haeddai hedd,
Mul dyniad mil o’i dannedd.
Ysgor flin, gerwin yw’r gair,
Asgen ar fy nwy esgair!
Llesg ac ysgymun ei llwyth,
Lliw ofer-ffriw, fwyar-ffrwyth:
Gwden rhy-braff ei thrapherth,
Gwyllt poen, a llinyn gwallt perth.
Tant rhwyd a fwriwyd o far,
Telym ar lethr pen talar;
Tytmwy ar adwy ydoedd,
Tant coed ar nant cadarn oedd,
Buan fo tanluman lem
Brid ysgwthrlid ysgythrlem!—
Lluniodd ym anhoff broffid,
A’i llosg a ddial fy Ilid!
CLXXIV. I’r pibonwy rhew
Golygiad modern Abertawe: cerdd 55 ↗
Gar a garodd gwag eiriawl,
Eithr yr haf, mae’n uthr yr hawl,
Ar ol unnos am dlosferch,
A gefais 1 mae’m gof serch.—
Y gauaf, addefaf ddig,
Dulwm wedi’r nadolig,
A’r eira, oer yw’r arwydd,
A’r rhew, a’r pibonwy rhwydd.
Da rwydd hwyl, f’ysgwydd a farn,
Dyfod yn frwysg o’r dafarn,
I geisio’n eglur mur mau:
Gweled serchawgddyn golau
Drwy goed y glyn, ni’m fyn ferch,
Ar y mainfur a mein-ferch,
Drwg fu i mi defni’r don,
Cwsallt a’r bargod cyson;
A phan ddaethum, gwybum ged,
Perygl ym gerllaw’r pared,
Tew oedd dan frig y to oer
Rhyw-lwyd bibonwy rhewloer.
Hyfedr i’m safn y dafna,
Rhwysg oer, chwibanogl rhisg ia;
Disglair gribin ewinrhew,
Dannedd og rhywiog o’r rhew.
Canhwyllau (defnyddiau dig,
Pyrs addail) Parys Eiddig.—
Dagrau oer, da gyrai ia,
Cofus, o ddurew cyfa:
Dug fy ngwar, dig alar don,
Gloes y gwerthydoedd gleision.
Gwneuthum amnaid, dan gnithiaw
Yn llaes o’r ffenestr a’m law;
Cynt y clybu, bryd cyntun
Gerwin fu, y Gwr na’i Fun,
Gohnio rhiain fain-loer
A wnai a’i benelin oer:
Tybiaw fod, rhwydd ammod, rhai
Manwl yn ceisio mwnai.—
Codi wnae’r delff celfîaint
O’i wal ei hun, awel haint,
Llwfr fu ddigwas anrasol,
Llefain o’r milain i’m ol;
Dug am fy mhen daith enbyd,
Dorf o gas y dref i gyd
Rhoi canwyll Fair ddieiroed
Yn ael rhych yn ol ’y nhroed;
A gweiddi o hwn, gwn ganllef—
“Llyma ei ol! llym yw ef!”
Yna ciliais, drais draglew,
Ar hyd dugrin ar y rhew,
I gyrchu ’r bedwlwyn mwynaf
Ar hynt, a’m lloches yr haf.—
Tybiaswn fod, clod clydreg,
Y ty dail, a’r to yn deg,
A mwyn adar a’m carai,
A merch a welswn yn mai;—
Yno nid oedd le unoed,
Llyna gawdd! eithr llwyn o goed
Nag arwydd serch, nag arail,
Na’r dyn a welswn, na rr dail.—
Nithiodd y gauaf noethfawr,
Dyli las, o’r dail i lawr:
Am hyn mae ymofyn mai,
A meiriawl hin ni’m hoerai.—
Dyn wy”ngharchar dan Allaf;
Ar hir, hawddamor i’r Haf!
CLXXV. Yr hiraeth
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Hiraeth syddbobdydd i’m dwyn,
Haint serch, am lasierch lw)sfwyn:
Henw a dyn enw ei dad;
Hiraeth magwriaeth gariad;—
Heno i’m gad dan f adain,
Hiraeth o serch y ferch fain
Heddyw, y gwn, mal hydd gwyllt
Hiraeth magwriaeth gorwyllt:
Hwn a drig dan frig y fron, —
Hiraeth magwriaeth gwirion
Hyn troes id, haint roes ym,
Herod hiraeth, serch hoywrym,
Hwn oedd ddig heddyw i’w ddwyn;
Hiraeth dyn lasfaeth Iwysfwyn,
Hiraeth a bair hwyr iaith boen!
Hi ni’s gwyr hoyw naws goroen
Hwn a weuodd hen wewyr;—
Hai how! hiraeth, ow ni thyr!
Hyn a roes bun yn un-awr,
Hiraeth tramwyaeth tro mawr;
Hwyr ym allael gadael gwaeth,
Herwydd ym gario hiraeth! i
Hwn nid â, er enwi dydd;
Hiraeth sydd boenwaith beunydd! \
Hwnt a rydd haint o’i wreiddin,
Hiraeth led blaened ond blin:
Ilyrddiodd i’m calon hwyrddig,
Hiraeth llym doraeth, lam dig!
Hynod y medraf henwi,
Hiraeth fal mammaeth i mi;
Hwn a’m gyr heno i’m gorwedd:
Hiraeth, myn Mair! a bair bedd.
“Hynaws boen, hyn sy’ benyd;
Hiraeth a’m gyr, byr, o’r byd!
Hiraeth am Wen gymhen-gamp,
Hiraeth gur, hwyr araith gamp.
Hiraeth, rhyw odiaeth ydoedd,
Hai how! gwae fi, hygof oeld '
'• Hon a ddaliodd hen ddolur,
Hiraeth magwriaeth o gur: to
Hon a roes hoen i’m poeni,
Hiraeth, gefyniaeth — gwao fi!
Haint yn fy nhal, gofal-fyd;
Hiraeth heb obaith o’r bvd '
CLXXVI. Yr annerch
Golygiad modern Abertawe: cerdd 42 ↗
An’erch, nac anerch genad,
Mi wn pwy, merch macwy mad.
Arch i’r ferch a aneichais,
Ni wn pa beth rhag treth trais,
Dyfod y foru’n fore,
Pwl wyf, ac ni wn pa le:
Minau A minnau ddof, gof gwiwsyth,
Ni wn pa bryd, o’r byd byth
O gofyn hi, gyfion hawdd,
Poen eirchiad, pwy a’i ’nerchawdd,
Dywaid dithau, dan dewi,
Ysgoywan wyf, nis gwn i!
O gweli deg ei golwg;
Pan gwelych, nid drych drwg:
Ar dy gred na ddywaid ddim.“
CLXXVII. I ferch ni roddai atteb
Golygiad modern Abertawe: cerdd 143 ↗
Fal yr oeddwn yn myned
Dros Fynydd Gwyr, crefydd cred,
A’m hoyw dudded am danaf,
I’m hymdaith mewn hiraeth haf;
Gwelwn gangen ar y rhos,
O forwyn, yn fy aros.—
Cyfarch, meddwl alarch mwyn,
Gwell iddi, ddyn gall addwyn;—
Atteb a wnaeth ei phrydydd,
Atteb serch o’m tyb sydd;
Cyd gerdded mal merched mai,
Ag oerddyn ni chyd gerddai.
Gosod ar gynnyg cusan
I’r fwyn lwys ber- aur- fwyn lan;
Canmol ei llygaid gloywon,
Canmolid prifeirdd heirdd hon.
Gofyn cyn del rhyfeloedd,
Y fynnai fi; fy nef oedd!
“Ni chai fab o ael y fro
Un ateb, — ni wn i etto:
Dos i Lanbadarn Ddywsul,
Neu i’r dafarn, wr diful;”
Ac yno ’n wir 1’Y irgoed,
Mwyn iawn wyt, a ni wnawn oed.
Ni fynwn, rhag cael gogan,
Wybod fy mod mewn un man.”
“Llwfr iawn i’m bernir o’th serch,
A dewrddyn yw dy ordderch:
Nac eiriach dy lediach do,
Er cynnen y wraig honno:—
A wnaid mewn plas o lasgoed,
Yr ail ni’s gwybu erioed.“
“Gwir addef, os gwyr Eiddig,
Ni ad ben ar bren, na brig.
Cym’rodd ei chennad forwyn,
Gwir dduwies, lladrones llwyn,
Ni wnai hocrell afrywiog,
Ni wnaeth a’i gair, nith y gog,
Addo ffol a’m gwnai’n llawen,
Addewid gwir fydd oed Gwen.
CLXXVIII. I ferch anwadal
Golygiad modern Abertawe: cerdd 141 ↗
Y Ferch anllad a’m gwadawdd,
A’ r lliw haul, ar ei llw hawdd;
Cam iawn gwedi’r gymwynas,
A’i geiriau glud, a’r glog las,
Och feirddyn! na chyffyrddawdd
I mi a hi, ammau hawdd!
Eiliw Enid, Hw annoeth,
Elid i nol aelwyd noeth.
Dod dy law, da deuluwas,
Dawn y bardd, da enau bas:
Da ddwyfron yn y fron frad,
Da ddeufraich, nid oedd afrad:
Da bob cyfryw byw o beth,
Digri’ son, da groes eneth.—
Deddyw o’i phen lw diddim,
Do, do ’n wir Djuw! — ai do ddim? i
CLXXIX. I ferch a wrthododd y bardd o eisieu ei fod yn gyfoethog
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Caru dyn ieuangc irwen,
Erioed heb unoed i ben;
A phan oeddwn, gwn gyni,
Mewn gobaith, o’i hafiaeth hi,
Suganai’r ferch a ’nerchais,
Wrthy’, er llysu fy llais,
“Ni charaf ddyn, dremyn dro
Ddiaddwyn, heb dda iddo.
Pan glywais hoyw falais hon,
Tybiais ddeall ei hattebion;
Gwneuthum dy i garu gwen,
Diynfydwaith, dan fedwen:
Trefnais gwmpas urddasawl,
Adeilad mân blethiad mawl;
A’i doi a dail manwiail mwyn,
Mal teylys y’ mol tewlwyn.
Ac yn y ty, mwyngu maith,
Ddau denanî ddiwyd unwaith:
Dau geiliog serchog ei son,
Firain freithwych fronfrithion:
Dau bencerdd y lcywgerdd Iwys,
Pur, o adar paradwys.—
Saith gywydd peunydd o’u pen,
Yn weddus ar winwydden;
Ac o’r saith, yn gywir son,
Mynaf gyfrif mewn gofron.
I’m bun wych y chwenychwn,
Dal y ty a’r *deiliad hwn; 2.8
Oni chaf ddyn wych ieuanc,
O gyfoed, Yr bedwgoed banc;
Rho’ ddiowryd rhyw ddirwy,
Adeiliad serch er merch mwy
CLXXX. Ymddiddan rhwng y bardd a merch
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
B. — DYDD da yt riain serchog!
F. — Croesaw, brydydd gwydd y gog!
B,—Wyd iach a llawen wenddyn?
F,—Wyf, a hoff genyf fi hyn.
B. — Teg i’th welaf, fy nghariad! 1
F. — Llawer oferddyn a’i dywad!
B. — Teg yw dy bryd, wyd weddi.
F.— Teg heb un diolch i ti!
B.— Gwyn yw dy wyneb fun gan.
F.— Gwyn ar fy nghost fy hunan.
B,—A meinion yw dy aeliau.
f.—Yn y modd y maent, mi piau.
B. — Duon yw dy lygaid tirion.
F. — Ba waeth i ti ba liw hon’ i
B — Da iawn y gwyddost atteb!
F. — Gwell im’ fv hun nog i neb.
B. — Dywaid i’m ateb, neu dewi?
F. — Nid hawdd i neb d’atteb di.
B. — Dywaid, ferch, onid wyd fud.'*
F.—Ond ydwyf yn dywedud |!
B. — Oes dâl, ferch, am dy garu?
F. — Nac oes, fab ywch, ofer fu.
B.—A gaf fi ond a gefais.”
F. — Na chei, ac er dim na chais!
B. — Dywaid ar lai na deuair,
A’th gaf, neu ddywaid na’th gair?
#”. — ^Myn Mair! ni’m cair, a mi’m cof,
Ni thyngaf am waith annghof.
B.— Na wrthod dy briodas!
F.—Na phraw fy ngheisiaw, fy nghas!
B. — Mi a’th ddalia’, nith Olwen!
F. Minnau ro’ waedd, myn Mair wen!
B.—Awn ar grair dan law ’ffeiriad.
F. — Ni wnai ddim twyll, ddyn, i’m tad!
B. — Beth weithian a obeithiaf.”
F. — Arwydd ar wydd hirddydd haf.
B. — Gwreicca, fun araf, a wna’.
F. — F’anwyl, gwra wnaf ina’.
CLXXXI. Traethodl y gath a’r llygoden
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Yr wyf fi yn caru dyn
’Grinach ei chred na blewyn;
Fal y bydd rhai o’r merched;
Nid gwiw coelio dim o’u cred,
Mwy na chred y llygoden,
A syrthiodd oddiar nenbren.
Y llygoden a roes naid
Mewn cwrw newydd hidlaid;
Beth a wnaeth cath Iwyd addwyn
Ond neidio ar gwr y gerwyn,
Fel na feiddiai ’r llygoden
O’r cwrw godi ei phen;
Na’r gath lwyd fyned atti,
I’r gerwyn, rhag ei boddi.
Y llygoden a roes lw,
Cyn ei myned o’r cwrw,
Ar ryngu bodd i’r gath Iwyd,
Cyn ei myned i’r gronglwyd.
Pan gafodd y llygoden
Fyned rhwng y ddwy wialen,
A chael gafael yn y to,
Ni ddoi hi ddim oddiyno.
“Llygoden, cywira gred;
Rhy bell yr wyt ti’n myned!””
Y gred a rois ar y llyn,
Na lafur byth ei gofyn:
A’r gred a rois ar feddwdawd
Ni’s cywiraf hyd ddydd-brawd.“”
Ac am hynny, ferch feinwen,
Ni bydd cred i lygoden:
Ac am hynny, Wen, yn wir,
A wnel dwyll, ef a dwyllir.
CLXXXII. I’r llwynog
Golygiad modern Abertawe: cerdd 60 ↗
Oe ’r oeddwn, dioer, eddyl
Dan y gwydd, gwae’r dyn a’i gwyl! \
Yn aros dan bren arael,
Ag aur a main gwrwm ael
Gorsefyll dan gyrs ufydd,
Ac aros gwen goris gwydd.
Fal ’roeddwn anseilwn sail,
Lonyddaf dan lwyn addail,
Gwnaeth ar fy hwyl ym wylaw,
Gwelwn, pan edrychwn draw,
Llun gwrab, lle ni’s carwn,
Llwynog coch, ni char lun cwn,
Yn eiste’ fal dinastwrch,
Ger ei ffau, ar gwr ei ffwrch.
“Anelais rhwng fy nwylaw
Fwa yw drud, a fu draw;
Ar fedr, fel gwr arfodus,
(Ar ael y rhiw arial rhus)
Yrru llem saeth o’r oral’.t,
Benddu, i waedu ei wallt.
Tynais, o oergais ergyd,
Heb y gern heibio i gyd;—
Mae och! aeth fy mwa i
Yn drichnap, anian drychni!
Llidiais, nid arswydais hyn,
Arth ofidus, wrth fadyn,
Gwr yw ef a garai iar,
A choeg edn, a chig adar:
Gwr yw ddilid gyrn ddolef,
Garw ei lais, a’i garol ef.
Gwridog yw yn mlaen grodir,
Gwedd ab, ymhlith y gwydd ir:
Lîuman brain, gerllaw min bryn,
Llamwr erw, lliw marworyn.
Drych nod brain, a phiod ffair,
Draig unwedd daroganair:
Cenau ar fryn, cnowr iar fras,'
Cna’ diarab, cnawd eirias.
Taradr daeargadr dewrgau,
Tanllestr ar gwr ffenestr ffau:
Bwa latwm di drwm draed;
Gefel unwedd gyflinwaed.
Nid hawdd i mi ddilid hwn
I’w dy annedd hyd annwn:
Cyfarth a wnai’r ci efydd,
Byrglust, y bore-glas ddydd.
Deugwae’r talwrn lle digwydd,
Delw ci ’n adolwg gwydd:
Rhodiwr coch, rhydir ei caid,
Rhedai ’mlaen rhawd ymlyniaid;
Llym ei ruthr, llamwr eithin; y
Llewpart a dart yn ei din.
CLXXXIII. Achau y Dylluan
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Tydi Dylluan tudyy^ll,
Teulu a’th wyl, talaith wyll;
Cenau mab cath yn canu,
Cyw gwydd, llai na blwydd o blu:
Iarlles feiniles arthwen,
Ergyd bollt ar gwr dy ben!
Cynnydd anfwyn mewn ceunant,
Cuchicg wyd, cai ochai cant.”
Er da, fab, difai ym wydd,
Yn y Ilwyn, —gad fi’n llonydd
I ddwyn poen o don penyd
A bar holl adar y byd!
Er hyd y nos, rhaid i ni
Godde’ anwyd, a gweiddi;
Gobaith nid oes ond gwibio
Y dydd, ar fy ffydd, a ffo!“”
“Er hyn, pa ’deryn, pa’r haint,
Pwy dy henw, pryd henaint?””
c Bonedd gwell-wedd i’m gelwynt;
Blodeuwedd wrth gyfedd gynt:
Merch i arglwydd, ail Meirchion,
“Hoywfun wen gwawr ei henwi,—
Wyf fi, myn Dewi! o Fon.”
Er trist ion! pwy a’th troes di?”
4 Gwydion fab Don ar Gonwy,
Hudlath, ni bu o’i fath fwy,
A’m hudodd i o’m hoywder,
I’r poen a weli, nid per
Haul dramawr o hil dremynt,
Am heuru ei garu gynt,
Goronwy fab Pers Goronhir,
Arglwydd Penllyn, hoywyn hir.
CLXXXIV. I’r Dylluan
Golygiad modern Abertawe: cerdd 61 ↗
Druan i’r Dylluan deg,
Radd ddystadl, na rydd osdeg
Ni ad ym ganu ’mhader,
Ni thau tra fo sugnau’r Ser;
Ni chaf, och! o’r gwarafun,
Gysgu, na heddychu hun!
Ty o drym yr ystlymod
A geiff, rhag pigwlaw ac ôd;
Beunydd bychan rhaib ynof,
I’m clustiau, ceiniogau cof,
Pan gallwyf”, poen ogyfarch,
Fy llygaid, penaethiaid parch,
Hyn a’m deffry, ni hunais
Gan y Dylluan, a’i llais;
A’i chrochwaedd, aml ei chrechwenj
A’i ffals g’wyddohaeth o’i phen.
A hynny, modd i’r henwyf,
Hyd wawr ddydd, annedwydd wyf!
Canu bydd, annedwydd nad,
“Hw! ddy hw!” hoyw ddyhead.
Ynni mawr, myn gwyrth Anna!
Anos cwn y nos a wna;
Budrog ddienwcg ddynwaedd,
Benfras annghyweithas waedd
«*Lytian-dâl, griafal groth,
Lygod-wraig, hen lygadroth;
Ysdig ddielwig ddiHw,
Wystyn ei llys, ’staen ei lliw.
Uchel ei chrec mewn teccoed;
Och o’r can uwch aerwy coed!
A’i gwedd-wynebpryd dyn gwar,
A’i sud, ellylles adar:
Pob edn o’r byd alitudryw
Ai baedd,—ond rhyfedd ei byw
Ffraethach yw hon mewn bronallt,
Y nos, na’r eos o’r allt:
Ni thyn y dydd, crefydd craff,
Ei phen o geubren gobraff.
Uda’n ffraeth, —adwaen ei ffriw,
Edeu Gwyn ab Nudd ydyw.
Wyll Madr a gan i’r Iladron,
Anffawd i’w thafawd, a’i thon!
Er tarfu o’r Dylluan
Oddiwrthyf, mae genyf gân:—
Rhof tra fwyf yn aros rhew,
Oddaith yn mhob twyn eiddew!
CLXXXV. Traethodl Eiddig a’r toryn
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Nid oes dychymyg y’ Mon
Am wragedd gwyr eiddigion,
Fel y mae mewn gwlad arall,
Am wragedd cyfannedd call.
Eiddig ydoedd yn disgwyl,
Gwaith oedd arno Sul a Gwyl;
Eiddig oedd yn drwg dybio,
Defnydd drwg-dyb oedd iddo.—
R ganfu Eiddig ddeuddyn
Yn myn’d i’r coed yn gyfun:
Eiddig a gerddodd droed-droed
A’r ddeuddyn wyl tua’r coed.
Arganfu Eithig doryn
Ei gymmar yn y rhedyn:
Eiddig a dynodd gyllell,
A thori ael y fantell.
A phan godason’ hwythau,
Drwy garedig barablau,
Ac adnabod caffael siom
Aneiddil gan Eiddig ffrom.—
“Gwnaw’n innau’n dau yn ein dig,
Yn hydda, siom i’n Heid Jig.”
“Gwae fi, fy anwylfçar hy,
A’m byd, na ellym hynny!“
Mae i mi gymydoges,
Oni ddichon hon im’ les,
Nid oes y’ Ngwynedd heno,
Er ei galled, a’i gallo!”
Myned, yn anhyf ofnog,
Tua thy ei chymydog;
Dyfod yn ofnog anhy,
A wnaeth y wraig tua’r ty.
Fal mynodd Nef o gyflwr,
Nid oedd yn ty ddim o’r gwr.
A chael doedyd ei hanes,
I’w hanwyl gymydoges.
'*Oni ddarfu amgenach
It’ na hynny, mi *th wna’n iach.—
Y mae i minnau Doryn,
O’r un frithedd, *r un frethyn;
Yr un bris yn y sylldy,
Yr un draul wedi hynny.—
Hwde di’r Toryn cywair,
Heno i gywiro d’air.—
Moes i minnau d’un dithau,
Er tori un o’r aeliau;
A mi ddeuaf yforu,
Cyn ei godi o’i wely,
F’y siomi ef yn ei wydd,
Ac i ddangos yr arwydd
Ac i ddoedyd mae íyfy,
O gyd wall, a gad felly.“
CLXXXVI. Cyffelybiad tegwch rhiain i’r adarwr
Golygiad modern Abertawe: cerdd 131 ↗
Adarwr o lew dwyrain,
Neu herod eiry gawod gain;
Yn mrysg dydd yn mraisg dioer,
m mron wiwlon allaf-loer.
O daw gwrthlys melgawad
Ganthaw, a’i rhwyddaw yn rhad,
Glud wiail a glydwyan’
Glanau gloyw ffynonau glan,
Pan ddel edn, poen ddeiliadaeth,
I Fon gyfagos dros draeth,
I’r adnebydd, dra-iydd dro,
Dirionwch dyfrdir yno.—
Disgyn a wna, od ysgyg,
Ei blu mewn dwfrllyd a blyg,
Oni ddel, cof ryfel cawdd,
Llawr hwylwydvl a’i llwyr helawdd,
Felly gwnaeth dynoliaeth dad,
Da i’m cur, do a’m cariad;
Mal eiry y rhew lliw Llywy,
Wyneb un, mi a un bwy.
Ffynnonau difas glas-ddaigr,
Yw gloywon olygon aigr:
Aeron glân, darparan ' glod,
Eurychiaeth Mab Mair uchod!
Can’och fi! pan ymcanynr,
Caeau da, nad caead ynt!
Glynodd serch a golmwyf,
Rhwym o glud y rh’om o glwyf,
Drud ofal cariad afael,
Drud a mi ar funud ael:
Pcfrlys pen gytgamus pwyll,
Imeddwdod ei llygaid modd-dwyll,
Mwy nag edn, mynawg ydyw,
Mae’r glud llaes, mawrglod y lliw.
Ar gariad dybrydiad bryd,
Pwyll dirgel, pell yw d’ergyd!
Ei meinion dduon ddwyael,
Yw’r gwiail glud, golud gwael;
Mwy ar ddyd aelblu mwyalch,
Na llinyn saer ar gaer galch.
Breiniawlwedd wybren eilun,
Hydraul bwyll, hyd ar ael bun:
Hualwyd, cadwynwyd cof,
Haul y dawn, hoeîiedynof!
CLXXXVII. Anfon eryr yn llatai
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
2 YR Eryr, hardd arwyrain,
A gar mawl, ac aur a main;
Mireingorph uwch mariangoed,
Milwr cylch ymylau’r coed;.
Ymlyniad wyd yn mlaen dar,
Mewn gwyrdd-goed mai yn gerddgar.
Myn deyrnged o’r gwledydd
Melus y rhan, myn lys rhydd.”
“ Cyrch at lys glan rianedd,
Paradwys, mamwys fy medd,
Lle mae fy nghrair ddisglaer loyw,
Lliw prynhawn eglurwawn gloyw
Disgyn, y dewin diwael,
Ar ei llys hwnt, iarlles hael:
Y mddiddan a’r feingan ferch,
Ar dwyn, ac er Duw annerch,
Dan arwydd nad un wriawg,
A wyr hi wra yrhawg.”
“Ei llaw sydd iarlles heddyw,
Er ei bod mewn gweddwdod gwiw:
A bod arwydd a wyddwn,
Rh’of fi a hi yr haf hwn.
Dywaid euraid aderyn,
Deuliw’r haf, i deccaf dyn,
Fod ei bardd, anwahardd-ryw,
Heb obaith i’anrhaith, i fyw;
A’ m bod hir o’i chariad tau,
Yn yngod ar lun angau!”
“Na tharia, ymdaith wryd,
Oni welych befrddrych byd!
Amgylch awyr y dwyrain,
Ysgwyd y corph esgud cain;
Brysia hyd ei bro, Essyllt,
Brenin adar, gwar a gwyllt!
Maneg dan gel dy helynt,
O withiau gwawd, wrth y gwynt;
Mabmaeth erioed glyn-goed glan,
Mwyn dy gais, myn dau gusan.
Euraid ffriw, at Fair wiwddoeth
Angel yn ddirgel a ddoeth;
Dull angel a ollyngaf
I dramwy serch, dri-mis haf.“
CLXXXVIII. Y serch dirgel
Golygiad modern Abertawe: cerdd 78 ↗
Myfi y sydd, deunydd dig,
Lleidr Serch dirgeledig!
Gwylltion adar, glaear glod
Anian uthr, a wna nythod;
A sef y gwnan’ dan y dail,
Yn mhlethiad gweuad gwiail,
Yn lle diaríTordd rhag llu,
O fygr synwyr i fagu.—:
Yn un sud, yn un ansawdd
A hynny, cywely cawdd,
Cariad a wnaeth, caeth yw’r cof,
Annoethineb nyth ynof!
Am fy nwy-ais, myn Dwynwen
Sy’ gul a gwael, heb gael Gwen!
Gwiail ydynt, hynt hyfriw,
Dau ystlys gwas destlus gwiw:
Canu a wnaf, cyd cwynwyf,
A’m calon fyth yn nyth nwyf!
Ni chair serch y loywferch lan,
Ni thwyllir o’i nyth allan:
Ni fedr Eiddig, anfadwr,
Ar y nyth hwn, arw-noeth wr:
A mi ni’m dawr, gawr garsyth,
Er na’s medro y fo fyth.
Dilys genyf, fardd dilyth,
Yn wir, na wybyddjr byth;
Oni’s pair, drwy anair drwg,
Tom aelaw tirion olwg.
Meddwl calon, a bron brudd,
Drwy amgylch, draw a ymgudd:
P’le bynnag, ddinag ddeu-nwyf,
Fab oedd yn y ty y bwyf;
Ar drem goris ael dramain,
I’m cenfydd, cof hafddydd cain,
Llw beiddiad, o’r lle byddwyf,
Minnau a’i gwyl, engyl wyf.
Er chwerthiniad gariad gael,
A’i munud ar ei meinael;
Newidio drem, ni wadaf,
A’m chwaer, dim amgen ni chaf,
Ef aeth ei threm, Gem Gymry,
A’i chariad, ehediad hy,
Dyn fain wengain ewyn-gorph,
Drwy ’mron, a’m calon, a’m corph!
Mal ydd ai, gwiw ddifai gofl,
Gronsaeth drwy ysgub grinsofl.
Ni ad Beuno, tro tremyn,
Abad hael, fyth wybod hyn;
Gymro dig, heb Gymru dir
Y byddaf, o gwybyddir!
CLXXXIX. I yrru’r biogen yn llatai at wraig o Feirion
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Cyrch yr Edn diaflednais,
Cychwyn, wan benlffyn lais;
Difai yw’r Ferch a’m dyfun,
O’r deau at y fau fun,
Medr wlad Feiriawn, dawn difai,
Medr dy sain mewn eurddrain mai;
Buan dy hynt uwch punt perth,
Marchog bedw cangog cyngerth.
Adain flin-lais ylfin Iwyd,
Edn 0 bedwar Ihw ydwyd,
Gwyrdd, a glas, eurwas arail,
Gwyn, a du, yn gwnio dail,
Cyfaill dynionau ieuainc
Er na bych mawr, cerddawr cainge;
Ysgwl trin a chyfrinach,
Esgud wyd, edn bochlwyd bach.“
Dwg ruthr fal gwynt, helynt hwyl,
I Feirionydd, fro anwyl,
At wiwddyn, yt a wedda;
Dwg i wraig Dafydd dydd da.
Fy mun oedd er fy mwyn i,
Aur ei chuddugl, arch iddi.—
Gorne gwendon Meirionydd,
Nad el na lliw nos na dydd,
(Sail enaid fraisg, euraid frig,
Wyl oedd) ar wely Eiddig.
Hefyd, y/sgwier hoywfalch,
Awdur gwydd a edy’r gwalch,
Didrwch berchenog deudroed
Meinion cymydeithion coed,
Taer fyddid, nid hwyr feddwyl,
Bydd daer ar fy chwaer un chwyl.
Dywaid, edn diwyd awdur,
Dewin coed, wy’ yn dwyn cur,
Fy mod a mydr anerchawd
Y’ mro Deheubarth, fy mrawd
A sain gofal i’m calon,
A saeth o hiraeth am hon!
Wrth weled leisgred leisgroyw,
Mygr o lun, ger magwyr loyw,
Hiraeth am dug am denyw
Er ys mis, — eres fy myw’!“
CXC. I yrru’r alarch yn llatai
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Yr Alarch ar ei wiwlyn,
Abid galch, fel abad gwyn;
Llewych edn y lluwch ydwyd,
Lliw gwr o nef, liawgrwn wyd.
Dwys iawn yw dy wasanaeth,
Hyfryd yw dy febyd faeth:
Duw roes yt yn yr oes hon
Feddiant ar Lyn Safaddon.
Dau feddiant rhag dy fodd’,
Radau teg, a roed i ti;
Cael bod yn ben pysgodwr,
Llyna ddawn, uwch llyn o ddwr;
*Hedeg ymhell a elly,
Uwch law y fron, uchel fry;
Ac edrych, edn gwyn gwych gwar,
I ddeall clawr y ddaear;
A gwilio rh’od a’r gwaelod,
A rhwyfo’r aig rhif yr od,
Gwaith teg yw marchogaeth ton,
I ragod pysg o’r eigion;
Dy enwair, wr dianhardd,
Yn wir, yw’r mwnwgl hir hardd.
Ceidwad goruwch llygaid llyn,
Cyfliwiaidd cofl o ewyn;
Gorwyn wyd uwch geirw y nant,
Mewn crys o liw maen crisiant:
Bwhled fal mil o lili,
Wasgod teg, a wisgid ti;
Siecced o ros gwyn yt sydd,
A gwn o flodau’r gwinwydd.“
Canaid ar adar ydwyd,
Ceiliog o nef, clog wyn wyd,
Gwrando f’ achwyn, addwyn wr,
Wrthyd, a bydd ym nerthwr.—
Merch fonheddig sy’n trigaw,
A gwawr dlos, sy’ gar dy law;
Brysia dithau, gorau gwr’
Wyn ei gesail, negeswr;
Nofia’n ufudd, ni’th luddir,
A dos i Gemaes i dir.
Deled i’th gof ei gofyn,
Deuliw’r lloer o Dal-y-Llyn:
Enw’r Ferch a anerchir,
Hyn yn wawd ei henw’n wir,
N sy fry, H hy hoewen.
A thair D, ac Y, ac N.
Cyrch yn araf ei ’stafell,
Cyfarch o’th ben i wen well:
Addef fy nolur iddi,
A maint yw fy ammwynt i.
Dwg i mi, dig wyf am Wen,
Wr Ihwus, eiriau llawen:
Duw a’th gadw rhag pob adwyth,
Teg ei ben — ti a gai bwyth!“
CXCI. Ymddiddan a gwraig
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ddyn fegis Gwen o’r Ddol,
Rywiog araf ragorol,
Rhinweddol yth ganmolaf,
O flaen neb dy fawl a wnaf!“
Cerais hon, cares Anna,
Llawen o ddyn a’i lliw’n dda:
At hon y daethum i’r ty,
Doe’n un-awr, fal dyn anhy;
O’i serch braidd y medrais i,
Ferch weddus, gyfarch iddi!
Gwen oedd eiliw ei gwaneg,
Gweniad dyn, ganiad deg.
Hon oedd wen, a hyn oedd dda,
Minnau hyfach fum yna:
Dywedais wrthi hi hyn,
Dwyael loyw, dal ewyn,—
Dydd da ’r anhepcor Forwyn!”
Dydd da’d y Mab diriaid mwyn 1
Moes ryw beth masw o’r byd,
Chwedlau, fab gwinau genyd?“
ce Nid oes, deuliw ’r 6d, o’r dydd
Damwain yw, dim o newydd.“
“Dywaid was, da yw dy sud
Mwynaidd, beth a ddymunid i”
“ Dymunwn, riain feinir
Un-lliw ag ôd, yn lle gwir,
(Dy boen a ddygum beunoeth,
Dy gael, ddyn deg oleu goeth!”
“Synwyr yt fab! na sonia,
Cel dy wawd, ag yt gael da!
Can’s mae i mi wr priod!”
Bythawr fyth, beth er ei fod?”
“Rhois fy nghred, llei gweled llw,
Na soniwn, yn oes hwnnw,
Am annerch mab o’m unoed,
Uthr yw, nag am wneuthur oed:
Ond na allaf warafun
I ti, ar dy fwyd dy hun,
Ganu gwawd, fab gwinau gwych,
F^anwyl i’r neb a fynych!”
“Dy garu, deg ei goroen;
Dy gellwair a bair ym boen!
Os fyfi a fynni, ferch,
Nid â unnos heb d’ annerch;
Ac ni chanaf a’m tafod,
Yn neutu glyn, ond dy glod!
I’th ganmol ferch urddolwaed:
Dy wedd! — dos, a dyddiau daed!”
CXCII. Traethodl y ceiliog rhedyn ar grugionyn
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
I a wnaf, ac mi a wnaf,
I’r wraig aeth i daith yr haf,
Fal y gwnaeth y grugionyn
A’r ceiliog rhywiog rhedyn.—
Y ceiliog rhedyn a fu
Yn llemain, ac yn llâmu,
O wyl Ieuan yn yr haf,
Oni ddaeth dyw-c’langauaf.—
Dyw-c’langauaf, y bore
Fe a droes y gwynt o’i le,
1 odi, ac i luchio,
Oddiar lechwedd Moel Eilio.
I luchio, ac i odi
Oddiar ystlys Eryri.
Fal yr oedd y grugionyn
Yn ei esmwyth glyd dyddyn,
Wedi cael yn ei gywair,
Ei gynnyd, a’i yd, a’i wair;
A’i larder i nen ei dy,
A’i farch is traed ei wely;
A’i wraig yn chwilio ei ben,
Yn hyfryd, ac yn llawen;
Fo glywai o gil y ddor
Egwan yn erchi egor,
Nid er d’ofn, nid er d’arswyd,
Ond er gofyn pa un wyd?””
“Myfi sydd redyngar geiliog,
Dy frawd ffydd, a’th gymydog,
A’th gar, a gwr o’th unwlad,
Yn dyfod i west attad. “
“Mae yma y grugionyn,
Dy frawd ffydd, a’th gyd-dyddyn; —
Ple buost ti’r haf hirwyn?
Neidio a llamu rhedyn?
Rhodia etto, llâma’n dda,
Heno ni ddoi di yma!”
“Duw bellach a’m cynghoro!
I ble’r af innau heno?
Os myn’d i barc y glyn,
Lle bum gynt yn feistr rhedyn.
Mi daria’ yma’n agos;
Ni bydd marw march er unnos!”
Yna doedai rai doethion,
Pe bai gorphydd oedd galon:—
Yna doedai rai doethiaid,
Pe bai gorphydd oedd enaid.
Dyna gigle, ni cherddodd
Led yr erw oni rynodd!
Fel dyna’r modd y darfu
I’r ceiliog rhedyn cynta’ fu.—
A phoed felly y darffo
I’r ceiliog rhedyn cynta’ fo.
CXCIII. Amcaniad o ddwyn rhiain
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Caru’r ’r-wyf is cwr yr allt,
Cerais berchenog hirwallt;
Caru un dyn a’m curiodd,
Caru bun ni’s cair o’i bodd,—
O Dduw! ai rhydd yw i wan
Garu dan gaeau arian?
Lliw can addfwyn fwyneidd-falch,
Lliw ’r corph o’r peillwy, a’r calch;
Lliw’r gwin, lliw eira gweunydd,
Gerllaw ei gran yw lliw’r grudd:
A’r graen megis y manod,
A’r ael fal inc ar liw’r ôd;
Delw wen falch dan fain fuchrudd
Du, a roed uwch ei dau rudd.
Ni feiddiaf rhag anfoddion,
Drych yr haf, edrych ar hon;
Ei thad ei ungwaith ydyw
Gadw’r lloer: deged ei lliw |—
Ni ad hwn fyn’d yw hannerch;
Nid da i’w mam gadw ei merch,
Pe bai yn bridd pawb o’n bro,
Ei hunan i’m cadwai honno:
Canwaith myfi amcenais
Dwyn fy nyn, drwglwyn o drais.
Mae’n anhawdd im’ eleni
Dreisiaw hon, medrus yw hi:
Mi a gawn, liw manwydd mai,
Deugain o wyr a’i dygai.
Pe rhon’ bob cynghor morwyn
Ucho’n dau, a chawn ei dwyn;
Dilys ym, myn delw Seimon! I
Y syr rhai o threisir hon.
O Dduw! a’i cair yn ddierbyn!
A ddaw hi o’i bodd ei hun.”
Os daw, hi a’m gwna’n llawen,
Oni chair, —yn iach rr wen!
CXCIV. Trwstaneiddrwydd y bardd ar y ia wrth dy ei gariad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 54 ↗
Deincryd mawr, ar led ancrain,
Fu’r mau gerllaw’r muriau main:
Neithiwyr y’nghanol noethwynt,
A rhew, — och mor oer fu’r hynt!
Gnwd gauaf-rwd, gnawd gofron
Gerllaw fy hoen gorlliw Fon.
Gofyn o glyd gofion glan,
Am y mur, o’m em eirian,—
Ai diddan anwyd oddef:
Ai dyn wyd, er Duw o nef?'
Dyn oeddwn heddyw liw dydd,
Bydawl, wedi cael bedydd;
Ac ni wn o’m pwn poenglwyf,
Weithian byth, eirian, beth wyf!“
Cwympais ar draws, dygn-naws dioer,
Chvydau o ia caled- oer:
Y’ngaer ferw dwfr, y’ngarfoll
Y syrthiais, ysigais oll!
Pan dores f’ael, eres wedd,
Plafs gron-gledr dwyfron dyfredd;
Pell glywid o’r pwll gloyw-ia:
Garm a bloedd, garw mau bla!
Gweau anaelau o nych,
Gleision, mal ’wybr goleu-sych:
Golwg bwl amlwg blym-lawr,
Gwydr-ddrychau marlbyllau mawr
Certh eu Hun, carthenau llaid,
Cleddiwig hthrig lathraid.
Weithian, gwaeth yman ymy,
Nag yn y fron gan ia fry;
Bwgwth mae’r gloywon bigau,
O’r bargawd, y mein-gnawd mau:
Cryn hoelion, diferion farn,
Cyhyd a rhai ôg haearn!
Gwir mai rhaid, garmau rhyddw,
Gochel arfau rhyfel rhew:
Pynau serthau pan syrthynt,
Pob un oll pibonwy ynt.
Synawdd arnaf a’i syniaid
Silldrwm, gwewyr plwm gaer plaid:
Cyllyll, rhew defyll, dioer,
Newydd-hf yn niwedd- loer.
Byrblu rhewedig berwbla, —
Borau oer i’r berau id!
Ys gwae fi! rhewi ar hynt,
Ysgillwayw drwg asgellwynt:
Ys gwn mai gwell, saith-bell sarn,
Ysgidiau rhag ids gadarn,
Nwyf clwyf clai farw ferwinwaed,
Nog na bain’ ar druain draed;
Mi yw’r gwr, mawr a guria,
Mwyn, a ddaeth i’r mynydd ia.
Etto gwelir, hir fy hun,
Olwg dost ar ei eulun;
Oherwydd tranc difangoll,
Yn wyw iawn, ac yn ia oll!
Ysgorn arnaf a gafas,
Ysglem glew o’r crimprew cras:
Ys glyn fal glud, drud y dring,
las greulon faljysgrawling,
Gan na chaf, geinwych ofeg,
Le mewn tŷjiw manod teg.
Yn hwyl ynial yn helynt,
Oedd raid ym, be caid, be cynt,
Tes gloyw teg, twysg liw tywyn,
A Haul a ddatodai hyn.
CXCV. Y serch lledrad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 133 ↗
Dysgais ddwyn cariad esgud,
Diwladaidd ledradaidd drud;
orau modd o’r geiriau mad,
Gael adrodd serch goledrad,
Cyfryw nych cyfrinachwr,
ledrad goreu gariad gwr;
Tra fuom mewn tyrfâau,
Fi a’r ddyn, ofer o ddau,
Heb neb, ddigasineb son,
Yn tybied ein hattebion.—
Cael o herwydd coel hir-hynt
A wnaetham, ymgytgam gynt;
Bellach, modd caethach ei cair
Gyfran drwy ogan drigair:
Difa ar un drwg dafod,
Drwy gwlm nych, a dryglam nod.—
Ni chawn mwy mo’r tramwyo
’R hen Iwybrau goreu o go’;
Yn lle bwrw enllib eiriau
Arnam, enw dinam, ein dau:
Tra balch oedd, tra chaid rhybudd,
Tra caem gyfrinach trwy gudd.
Cerddais, addolais i ddail,
Tref eurddyn, tra fu irddail:
Digrif fu’r hin in’ enyd,
Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.—
Cyd chwerthin ar fin a fu,
Y’ nghoed loches cyd lechu:
Cyd fyhwman marian mor,
Cyd aros mewn coed oror.
Cyd gadw bedw, gwaith dedwydd;
Cyd blanu gweddeiddblu gwydd:
Cyd adrodd serch a’r ferch fain,
Cyd edrych caeau didrain!
Cyd yfed medd ar sedd serch,
Cyd gerdded coed a gordderch;
Cyd wyneb, cyd awenu,
Cyd chwerthin fin- fin a ful—
Cyd ogwyddaw gerllaw’r Ilwyn,
Cyd ochel pobl, cyd achwyn;
Cydfod mwyn, cyd yfed medd,
Cyd arwain serch, cyd orwedd:—
Cyd ddal cariad celadwy
Cywir, ni’s mynegir mwy.
CXCVI. Cyngor y bardd i wraig a briodasai gar iddo, yr hwn oedd afreolus
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
hy 22 DYDD da fo ’r rhagor forwyn,
Y ferch a welais yn fwyn!—
A ffynodd, mewn deufodd da
Gwyn yt air, genyt wra?”
“Na ffynodd, gormodd a’i gWyr!
Nid gwell son, ond gwall synwyr!
Dywaid y fun, lun loywferch,
Ai da genyd dy fyd ferch? i
Nid cystal, trwm ofal trais
Y golau, ag y gwelais!
Diras ydy’r aderyn,
’Sywaeth ysmonaeth ni’s myn — *
Treulio ei dda wna y nos,
A’i guddiaw i wrageddos;
Er nas dygen’ o’i anfodd
Yr eiddo, fo rydd o’i fodd!—
Yn llwyr ddig gwna’n Vawr yn dda,
Heibiaw tyn i buteinia;
Oddiynaw daw, yn ddyn dig,
Pr dafarn fal pendefig:
W tres rhodres gwrhydri
Y’nghas dull ar ’y nghost i;
A chanmol ei wrohaeth,
Maneg ym mwy nag a wnaeth,
Yn Diwedd y gyfeddach,
Y sgeulus wr ysgil fach:
Dyna ddig, a dwyn ei dda,
A’i bilyn yn y Bala.—
Nid hawdd ym gaffael byd da
Diwall am y dwyll yma!—
Pan del ef i’w gynnefin
I gwr ei blas, fel gŵ r blin,
Eiste’n sad yn ei gadair—
Ar d’en nag yngen un gair
O gellwair un gair ag e’,
Amnaid rhywiog, fe’m tr-iwe!
Dafydd! mae yn edifar,
Dig wyf am briodi dy Gâr! — •
Par iddo, mewn pur weddi,
’Mendio, neu mado a mi!”
“Paham fy Ngwen gymenddysg i
Etto ddyn yw iti ddysg;—
Pan ddel a’i ffrost ar osteg,
Rhag d’enaid dywaid yn deg
Oni’s cymmer heb derfysg,
Gwna etto ddull, — Gwen yt ddysg!
Bydd di, oni elli’r naill,
Ddyrus fal gwragedd eraill.—
Dod gwlbren ar nen ei ael,
O lonaid dy law, wen- hael:
A dod chwap, megys clap cledd,
Er da, ar ei war dewedd;
Cur yno fyth, cair y fo
Yn was doeth oni ’stwytho.
CXCVII. Ymddiddanion rhwng y bardd a merch mwy chwanog i olud na serch
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
A Mi ar deg foregwaith,
Aur mal a dal ym y daith, —
Mi a merch dau ordderchael,
Mwyn yw hon, a main ei hael,
Dechreuais wrth lednais- ferch
Draethu son, gwn druthio serch,
“Dywaid i mi, ail riain,
Beth sy’th fryd, gwyn fy myd main
Ferch, ai cymryd gordderchwr,
Pryd gwyn, ai priodi gwr?”
Taw! nid oes, einioes anhun,
I’m bryd, wr ynfyd, yr un!”
O wiwddyn! pa ddyweddi,
F’enaid teg, a fynit ti?”
Perchen o wr a’m parchai,
Parchus mewn daionus dai.”
“Dyn deg wyd, nid am do gallt—
Beth amgen, feinwen fanwallt?“
“Ammaeth arddwr fae wrol,
A’i eilwad, a’i had i’w ol:
(Unig wyf anogyfuwch)
Neu hwsmon neu borthmon buwch.”
Bwriais ine’, nawne noeth
Ffordd driniaid, i ffwrdd dranoeth:
Margen yn lew ddyniewid,
Ac wyn, yr oeddwn i gyd;
A masnach y bustachiaid,
Yn y fair cywair i’m caid;
Tybiaid, wrth ei hattebion,
Y doe’r ferch diwair o Fon.
Hustyng wr, hastyng o air
Yn ei chlust, — anwych lestair!
A doedyd (nid oedd fyd fo
Wrthi drwg fo Duw wrtho)
Nad oedd ym, wiwrym wryd,
Na dyn byw, na da’n y byd;
Ond ’y mod, yn rhagod rhus,
Yn rhodiwr tlawd, yn rheidus.—
I fedd Dwynwen yleni
Y tyngai na fynnai fi,
Oni chai, dan ddifai ddail,
Gan-swllt o aur dan gwnsail l
“Mi a rown bunt yn un-tal,
Er cael serch merch, yn aur mal,”
“Aro fab, difri abwy,
A roi er merch o aur mwy?”
“Rhoddwn, pe meddiaawn dda,
Oerwr wyf, aur Arafia!”
“Ond oes i’th law, cludaw clod,
Trysor — pâr freichiau trosod.“
“Ni chawn i, liw lili lan,
Feichiau am geiniog fechan!”
Rhyfedd yw natur rhuddaur,
Maint yw bryd fy myd am aur;
Ni aned yn ei wyneb,
Dygiad nwyf, da gyda neb;
Ac ni wyl, emyl ammwyll,
Dyn a’i pyrth, da iawn y pwyll.—
Rhoed pob Indeg deg ei dal
Ufudd, ar Dduw ei ofal!
CXCVIII. Cyngor y biogen
Golygiad modern Abertawe: cerdd 36 ↗
A Mi’n glaf er mwyn gloyw ferch,
Mewn llwyn yn prydu swyn serch,
Ar ddiwrnawd pereiddwawd pill
Ddichwerw ’wybr, ddechreu ebrill;
Dolydd, a choed yn deiliaw,
A chog Iwyd, a ’chydig wlaw.—
A’r gog, a’r ysgydogyll
Yn briwo cerdd mewn brig cyll;
A than fy mhen obennydd
O fanblu pebyll gwyll gwydd:
Ac uwch fy mhen fedwen, fau
Gaer loywdeg o gwrhdau.
A’r eos ar ir wiail,
A’r fwyalch deg ar fwlch dail:
A’r fronfraith ddigrifwaith gref,
Ysginllwyth edn ysgawnllef,
Bardd coed, mewn trefgoed y trig,
A bronfraith ar ir brenfrig,
Cyn y gwlaw yn canu’n glau,
Ar lasbanc irlwys byngciau:
A’r hedydd aflonydd ei lais,
Cwcwll-hvyd edn, cu call-lais,
Yn myned, mewn lludded ]lwyr,
A chywydd i entyrch awyr.
Finnau, fardd rhiain feinir,
Yn llawen iawn yn llwyn ir;
A’m calon fradw yn cadw cof,
A’r enaid yn ir ynof!—
O lawened gweled gwydd,
Gwaisg nwyf, yn dwyn gwisg newydd!
Ac egin gwin, a gwenith
Ar ol gwlaw, a niwl, a gwlith;
A dail glas ar dal y glyn,
A’r draenwydd yn ir drwynwyn!
Myn y nef! yr oedd hefyd
Y Bi, ffela edn o’r byd,
Yn adeiliad brad brydferth,
Yn mhengrychedd perfedd perth;
O nyth drain, priddgalch balch borth,
A’i chymhar yn ei chymmorth.—
Syganai’r Bi, cyni cwyn,
Drwynllem falch ar y draenllwyn.—
“Mawr dy ferw, gochwerw gân,
Henwr, wrthyd dy hunan:
Gwell oedd fod draw yn llawen,
Gerllaw tan, y gwr llwyd hen,
Nag yma, ymhlith gwlith, a gwlaw,
Yn yr irlwyn a’r oerwlaw.” as
“Taw a’th son! gad fi’n llonydd
Enyd awr, oni fo dydd:
Traserch i ddewisferch dda
A bair ym y berw yma.—
Y Bi, cyd bo du dy big,
Uffernawl edn tra ffyrnig;
Mae i tithau, gau gofwy,
Swydd falch, a llafur sydd fwy:
Toi nyth, fal twyn o eithin,
Tew o ddraenwydd crynwydd crin.—
Mae’t blu brithdu, cu cyfan;
Mae’c boen a brys, mae’t ben bran;
M-wtlai wyt, mae yt liw teg
Mae’t lys hagr, mae’t lais hygreg,
A phob iaith, bybyriaith bell,
A ddysgud, freithddu asgell,
Dydi Bi, on’d du dy ben, i
Cymhorth fi, od wyd cymmen:
Dyro ym gynghor gorau
Am y pych, a’r mawr-nych mau!“
c Gwyddwn yt gynghor gwiwdda,
Cyn dyddiau mai o gwnai, — gwna;
Henfardd wyt, ni’th gar harddfun;
Nid oes yt gynghor ond un— •
Dwys iawn fyd, dos yn Feudwy,
Och wr mul! ac na char mwy.—
Cais ddillad yn anad neb,
A tha’n cyfuwch a’th wyneb.'*
Aie yr edn, oer rwydus,
Afrywiog liw, friwiog lys!
Dy gyngor o dew gangef,
Draig un waith, drwg iawn yw ef — •
Ni’s gwna’ mo hyn, ddirieid-gyw
Y Bi, cyd y bwyf fi byw!—
Llyma *nghred, gwilied geli,
O gwelaf nyth, byth, i’r Bi,
Na fydd iddi hi o hyn,
Nac wy deor, nac aderyn
CXCIX. Arwyrain morwyn a’i henw ydoedd Cadi
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Far dyn ieuangc ydwyd,
Call ar son, cellweirus wyd
Gwyddost, Gadi deg wiwddyn,
Llyfr Ofydd mewn glaswydd glyn,
Marw fyth yma’r wyf fi,
A’m gwae ydoedd am Gadi!
O’m golwg mae mwg wylaw,
Cadi lan, fal cafod wlaw
Cariad fal plwm trwm y trig,
Cadi, mewn twr cauedig:
Dygum gwynfan am danad,
Cadi, haul goleuni gwlad!
Cerddor wyf mewn cae irddail,
Cadi, down rhwng coed a dail:
Callaidd wyd yn mhob cellwair,
Cadi, da y cedwi d’air.
Canu gwaith accen y gog,
Cadi, mewn gwyrddlwyn coediog.—
Myn y Tad! ni chair, Cadi,
Amgen air o’m genau i:
Cadi, ni chredi, wych rodd,
Canu o’r neb a’i cwynodd.
Yr aur wawd, oreu a wn,
Ar Gadi yr ergydiwn:
Nid ergyd ffraeth saeth seuthydd,—
Ergyd serch ar Gadi sydd.
Cai, Gadi lan, yn d’annerch,
Lrgydion siethyddion serch.
Gwae fi, Cadi, o rhag cyd
D’aros, fal rhoi diowryd!
Colli gwas glan, anian oedd,
Cadi, mwyaf pwngc ydoedd:—
Ni ddoedaf, ni fynnaf fi
Chwedl onid Duw a Chadi!
CC. Ardd wriaeth y bardd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Cefais ddoe, yn mlaen cyfair,
Ymddiddan rhyw gyfran gair
A merch a gerais ermoed,
Meingoff, iarlles y mangoed.
Ddifai sut oddefais i,
Addef fy nghariad iddi:;—
Meddai, ni fynnai, Panwyl
Ddyn lwys, lathrfrain aelfain wyl,
Un bardd, oni bae arddwr,
Neu hwsmon gwirion i’w gwr.
O enw bardd mi a wn beth,
Os mynni, o hwsmonaeth:—
Prif hwsmon ar Feirion wyf,
Prisiwr awdl prysur ydwyf.
Mae i’m bryd, rhag deintcryd dig,
O radau Duw aredig.—
Aradr o serch annerchion
A rof fry ar erw y fron;
A sych o wawd gnawd gnydau,
Cwylldwr mwyn yw’r callder mau;
Penffestr glanwaith, mydriaith mad,
Addail cur a ddeil cariad;
Ieuan o ammodau mad,
A dolau mwyn adeiliad;
A thidau cerdd blethedig,
Gwaith unben dan bren a brig;
Llatai, hwyl difai hael Dad,
Ofydd gwyl, a fydd geilwad:
Am fy hun, em ffrwytblun ffraeth,
O fodd ym, a fydd ammaeth.
Dal a wna’ rhwng dol a nant,
Y borau, aradr beiriant,
Hyd y nos, nid achos dig,
Yr ydym yn aredig,
Wrth gywydd, beunydd i ben,
Er achub gwaith yr ychen.
Braenaru cylch bron eirian,
A chlod teg, ar ar achlan;
A thynu’n hy, fry ar fron,
Cwysau cydweddciidd cyson:
A’m bryd innau i hau had,
A geiriau mwyn o gariad.
F’e2: inodtl fel y Ganon,
Addfwyn faich rhwng braich a bron: »'
A hydwf, mae’n ehedeg,
TY cnŵd hwn yn y cnawd teg
Oriau hwyl dyddiau haul da,
A hawdd-fyd a’i haddfeda.
Pan ddel amser, nifer nwyf
iMawl am yd, mal y medwyf,
Wedi darffo, addo oedd,
Cludo ffrwyth clod y ffrithoedd,
A roes Duw, oreu ei ’stor
O ras gwbl, i w ysgubor,
Mae i’m bryd, enyd annerch,
Wedd haul fau, wahawdd hael i’erch •*
A rhan a gai o’r heiniar,
A’r yd a ddelo o’r ar,
CCI. Arwyrain i’r haf
Golygiad modern Abertawe: cerdd 34 ↗
Gwae ni hil eiddil Addaf,
Fordwy rhad, fyred yr haf!
Rho Duw! gwir mae dyhiraf,
Rhag ei ddarfod, ddyfod haf.
A llednais wybr ewybraf,
A llawen haul, a’i lliw’n haf;
Ac awyr erwyr araf,
A’r byd yn hyfryd yr haf!
Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
O’r ddaear hen a ddaw’r haf:
dyfu glasu glwysaf
Ddail ar goed y rhoed yr haf.
gweled mor hardd y chwardda
Gwallt ar ben hoyw-fed.yen haf.
Paradwys, iddo prydaf;
Pwy ni chwardd pan fo hardd haf.'*
Glod anianol y molaf
Glan fodd, wi! or rhodd yw’r haf
Deune geirw dyn a garaf
Dan frig a rhyfyg îr haf:
Cog yn serchog, os archaf,
A gan ddiwedd huan haf!
Glas gain edn glwys ganiadaf,
Cloch osber am hanner haf;
Bangaw lais eos dlosaf,
Bwyntus hy dan bentus haf;
Ceiliog, o’r frwydr y cilias,
Y fronfraith hoywfabiaith haf!
Dyn a fydd hirddydd harddaf
A draidd gair hyfaidd, yr haf;
Eiddig, gyswyniab Addaf, '
Ni ddaw hwn oni ddaw haf:
Rhoed i’w gy oed y gauaf,
A rhan serchogion yw’r haf!
Minnau dan fedw ni’s mynaf
Mewn tai llwyn ond mentyll haf;—
Gwisgo gwe lan am danaf,
Pybyr gwnsallt harddwallt haf.
I dai dail y didolaf;
Anwyd ni bydd hirddydd haf:
Lledneis-ferch os anerchaf,
Llon yw hwyl hon ar ael haf.
Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf
Gwahardd ar hoyw fardd yr haf;
Gwynt ni ad gwas2; ad gwisgaf
Gwaeddem hwnî, gwae ddoe am haf!
Hiraeth, nid ymddiheuraf,
Dan fy mron am hinon haf!
O daw hydref, ef allaf,
Eiry a rhew i yrru’r haf,
Gwae finnau ddyn!] goiynaf
Os gyr, mor rhyfyr mae’r haf.”
CCII. I’r cusan
Golygiad modern Abertawe: cerdd 83 ↗
n ddeuiawr ddilyth,
Haeddai fawl i heddyw fyth!
Yn rhagorol dwywol daith,
& Rhag doe, neu echdoe wychdaith;
Nid oedd debyg, ffrengig ffriw,
Dyhuddiant doe i heddyw.
Nid un wawd, naid anwadal,
Heddyw a doe, hoywdda dal!
Jen ddiwad, ’e ddaw dydd
Un-lHw a heddyw hoywddydd:
Y Heddyw i cefais hoywddawn,—
Her i ddoe, hwyr yw ei ddawn
Cefais werth, gwnaeth ym chwerthin,
Can-swllt a marc, cwnsallt min;—
Mursen fyth, mawr son fwythau,
Cusan fun, cyson wyf fi!
Cain Luned can oleuni;
Calenig lerw ddierwin,
Clyw, er Mair, clo ar y min!
Ceidw y no serch y ferch fad,
Coel mawr gur, c Im ar gariad;
Cof a ddaw ynof i’w dd wvn,
Curied mawr, cariad morwyn,
Goron am Ganon Genau
Caerfyrddin cylch y min mau.
Ffrwyth Bags min diorwagserch,
Cwlm hardd rhwng n-fardd a merch:
Cynneddf hwn neb ni’s cenyw,
Cynadl dauanadl, — da yw!
Cefais, ac wil! o’r cyfoeth!
Carodyn min dyn mwyn doeth;
Cryf wyf o’i gael yn ael nod,
Crair min disglair mwyn dwysglod!—
Criaf ei wawd, ddidlawd ddadl,
Crynais gan y croyw anadl!
Cwlm cariad mewn tahliad dwhly
Cwmpas gaer min campus-gwbl.
Cyd cefais, ddidrais ddwydrin
Heiniar mawl, hwn ar ei min;
Trysor ym yw, tri-sawr mel:
Teiroch ym os ceiff Tyrrel;
Ac os caiff hefyd, bryd brau,
Ni bu ddiwg, gwg a gaf,
Lai na dwrn Luned arnaf.
Ymseiliodd, a hwyliodd hi,
Mul oeddwn, fy mawl iddi;
Ni ddaw o’m tafawd wawdair
Mwy er merch herwserch a bair,
Eithr a ddel, uthrwedd wylan,
Ar fy nghred i Luned lan.
Eiddun anadl cariadloes!
O Dduw mwy a ddaw i’m oes
Yn rhyw ddydd haul wenddydd wiw,
Am hoywddyn, yma heddyw
CCIII. Prydferthwch deildy y bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 37 ↗
Heirdd feirdd fyrddiwn diledryw;
Hawddamor hoen goror gwiw
I fun lwys a’m cynwysai
Mewn bedw a chyll, mentyll mai!
Llathr daerialch uwch llethr derfyn,
Lle da i hoffi lliw dyn:
Gwerdd haf blas cyweithas-deg.
P’le mae gwell y ’stafell deg.
Gwir ddodrefn ar gaer ddidryf,
Gwell yw ystafell, os tyf:
Nid mal mewn congl dan gronglwyd
Y gwnaeth ’deiliadaeth Duw lwyd!
Un-air wyf fi am unoed,
Yno y cawn yn y coed
Glywed siarad gan adar,
Clerwyr coed, clau wawr ai car,—
Mil o gerddorion melys
Yn swnio’n llawn sy’n y llys,
Cywyddau, gweau gwiail,
Cywion priodoHon dail;—
Cenedl da ei chwedl di-chwerw,
Cywion cerddorion caer dderw.
Neuadd hardd newydd yr haf,
A’i ais yw goglais gwiw-glaf: •;
Daw hin hyf o dewyn ha’,
Dwylo mai a’i hadeilla;
A’i linyn yw’r gog lonydd,
A’i */2wir yw eos y gwydd;
Ac allor serch yw’r gelli,
Yn gall a’i fwyall wyf fi.—
Ni chaf yn nechreu blwyddyn
Yn hwy y ty na hyd hyn. —
Gobrin ym roddi gwobrau
I wrach am hen gilfach gau,
Er dwyn yn rhwydd ff f’ arwyddion,
Coflaid hardd caf weled hon:
Ni cheisiaf, adroddaf drais,
Wrth adail a wrthodais,
CCIV. Y das gwair
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Mi a fedrafystafell,
Dias o wair nid oes ei well;
Cysgod i ddeuddyn unair,
Castell ni bu well o wair.—
Clochdy hardd i fardd yw fo,
Clyd addas, mae clod iddo:
Da genyf, dioganair,
Ymwasgu gwen, yn mysg gwair;
A rhoi cusan ac annerch,
Ar wair hir, i’r feinir ferch.
Dyn ni fudai dan fedwen
O gael gwair a gelai gwen;
To gweunydd, tew ei gynyrch,
Pr ty gwair y cair ein cyrch.—
Gwyrain adail gwern ydoedd,
A gwair mab o gar ym oedd:
A’r mab yn perchen hen-wair, —
Einioes iddo i g’weirio gwair!
Da medrodd, eurodd wryd,
’Y nghar roddi gwair y’nghyd:
Llunio das o feillionwellt,
A gwair yw hwn hwy na gwellt.
Di-hagr wair, da y gwyr hon
Dylofi ar dal afon,
Ffaling gwmpas o laswair,
A gwawn wisg i’m gwen o wair,
Glas fydd perllan y gwanwyn,
Glas fydd coedwig, a brig brwyn,
Glas yw’r ewybr, glwys rubaiiy
Gleision fydd y meillion man;
Mwyn fydd meinwen mewn manwair,
Glas ydyw’r gwas o dy’r gwair.
Gwell gan feinir gywiraw
Oed ar wair glas wedi’r gwlaw,
Na’r berth drwydoll, na’r collwyn:—
Mair ro ym wair er ei mwyn!
CCV. I’r eira
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Ni cherddaf, nid af o dy,
Vm mhoen ydd wyf am hynny:
Nid oes byd, na rhyd, na rhiw,
Na lle rhydd, na llawr heddyw;
Ni’m twyllir o’m ty allan
Ar air merch i’r eira man
Pla yw’r gwaith, plu ar y grwn
A drig fal chwarau dragwn:
Fy esgus yw’r fau wisg fydd
Mal unwisg y melinydd,
Ai celwydd wedi’r calan
Wisgo o bawb wisg o bân i
Mis Ionawr, blaenawr y blaid,
Mae Duw yn gwneud meudwyaid,
ddarfu Dduw’r ddaear ddu,
O gylchoedd, ei gwyngalchu:
Ni bu is coed heb wisg wen,
Ni bu lwyn heb lywionen.
Blawd man yw’r pan ar bob pill,
Blawd wybr fal blodau Ebrill,
Llen argan uwch llwyn irgoed,
Llwyth o’r calch yn llethu’r coed:
Lledrith blawd gwenith a ga’d,
Llurig ystum llawr gwastad,
Grut oer, yw’n gweryd tir ar;
Gweren dew ar groen daear;
Cawod rydew o ewyn;
Cnuau mwyna dyrnau dyn.
Trwy Wynedd y trywenynt,
Gwenyn o nef, gwynion ynt.
Ple cymhaii Duw plu cymaint,
Ple gwedd sawl? plu gwyddau saint.
Gwas unoToth ac eisinffrun:,
Garlwm grys, gwyr lamu grug.
Y llwch aeth yn lluwch weithian,
Lle bu’r Mai uwch llwybrau man;—
Oes un a wyr fis Ionawr,
Pa ryw lu sy’n poeri law;?
Angylion gwynion, nid gwaeth,
Sy’ o’r nef yn saerniaeth.
Gwelwch dynu o’r gw? elawd,
Lifft V blanc o loíTt v blawd.
Arianwisg yr ia enyd,
Arian byw oera’n y byd.
Simwr oer siom yw’r aros,
Siomiant bryn, a phant, a ffos.
Pais durdew pwys daeardor,
Palment rawv na mvnwent môr.
Mawr syrth ar ’y mro sydd,
Mur gwelw o’r mor bwygilydd;
Neu’r ddaear o bedwar ban
Sydd oll ai *mennydd allan, — $2
P’le y taria y pîa forwyn?
Plastr a hyd, pwy a lestair hyn?
Pwy faidd ei dd iwladeiddiaw?
Phvm oer ei glog, — p’ie mae’r gwlaw?
CCVI. Y brithyll yn llatai
Golygiad modern Abertawe: cerdd 160 ↗
O, Frithyll fyfyr ieithydd
A thyst yt fyddaf i’th ddydd;
Pasg a deu-lyn pysg dilwfr,
Pefr Frithyll o defyll dwfr,
Mabmaeth, taer arfaeth terfysg,
Llyn Tegyd, lle pesgyd pysg,
Rhed o ddawn, er hyd ydd wy’,
Eginyn pysg o Gonwy.— -
Nid oes gennad geladwy,
Na chyngor i’r faenor fwy,
Tew frwysg oleuan Tâf fry,
Tadwys i ddwfr, ond tydy.
Dur ni’th ladd, dewredd gladd glan,
Dwfr ni’th fawdd, Deifr ni’th feddwan’;
Ni’th glyw neb yn gohebu,
Ni’th wyl llwfr yn y dwfr du,
Nid rhaid yt, myn dawn y crair! [
Nac anwyd, nac ofn genwair,
Cred fardd croyw awdur o Fon,
Craidd ar ddwfr croyw-rudd afon:
Pysg o drichan-ffrwd, ffrwd ffraeth,
Pell-ferw o ddwfr pebyllfaeth,
Penaig hoyw ar ddwfr croyw cred,
Pwrcas arweddawr perced.
Tro hyd pan doro dwy-rwyd,
Tewfyr creadur cryf wyd;
Duw ren arglwydd rhagod rhwydd,
Ac erof fi dwg arwydd, —
Insel cariad, brofiad braw,
O air om a roi’r arnaw;
Ncfia gyfair llys Grairwy,
Nwyf ym wyd, na nofia mwy.
Di-ddwylaw ar nawf i’r nef,
A di-droed y doi adref:—
Brysia, na hir rodia ryd,
Dwg ein chwedlau da genyd!”
CCVII. Ar waith merched yn ymbincio
Golygiad modern Abertawe: cerdd 138 ↗
Rs Alo ferched y gwledydd,
Ar ddyw-gwyl ffair, ddiwair ddydd,
Rhoi peri a riwbi parloyw,
Ar eu tal yn euraid hoyw.
Gwisgo rhudd, Ilysieuwydd serch,
A gwyrdd, — gwae a fedd gordderch!
Ni welir braich, gofluiich gael,
Na mwnwgl un dyn meinacl
Heb o’i amgylch, taerwlych tes,
Baderau y byd eres! \
Y bwa yw, ni bo iach,
A der dau hanner hayach;
Ag aur y lliwir ei gefn:
Bydd hwn yn ddidwn ddodrefn;
Ac er mawr-werth y gwerthir
Y bwa hwn, gwn mae gwir.
Ni thebygir, gwir gariad,
Mewn peth deg fod breg na brad:
Mair a’i gwaith yw y mur gwyn,
Dan y calch, doniog cylchwyn,
Na phe rhoed, o ceid y gwr,
Punt er dyfod i’r paenliwr,
I baintio’n hardd bwyntiau’n hoyw,
Lle arloes a lliw eurloyw;
A lliwiau glan ychwaneg,
A lluniau tarianau teg.—
Nid rlyeidiach i’m byd rhydeg
Rhoi rhactal am y tal teg.
Dilys, fy nghorph lle delwyf,
Deuliw’r ser, dolurus wyf!
Ti er difrodi dy frawd,
Dynyn danheddwyn haeddwawd,
Nag edrych yn y gwydryn,
Da iawn yw gwedd y dyn gwyn.—
Ai rhaid i’r haul draul dramwy
Lle mae, i geisio lliw mwy? —
Nid gwaeth, wrth hyn, bais wen wiw,
Nag iarlles mewn gwisg eurlliw î
CCVIII. Aflwydd y bardd ar nos dywyll, a mawl i’r ser a oleuodd yn ddiogel
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Rho Duw mawr mae’n i mi
Ohvynau mai yleni,
Rhag cerdded gowared gwiw
Y gelltydd fy nyn gwalltwiw,
Cyn yfed llyn ar fryn fry,
A gweled dan fedw ein gwely.
Drud yw’r serch, mae’n drydar son,
Drudaniaeth a dry dynion:
Dygum, mae gofid digawn,
Draian nos hynt druan iawn!
Ar odde’ cael, hael heulfodd,
Cusan bun, cawswn o’i bodd.
Dros ffordd cyfraeth yr aethum,
Dall y nos ar foel- ros fum;
Neithiwyr hir-ffordd gawr orfu,
Fal trwstan am feingan fu
Llawer cefnfaes gwlyb cefnhir
A gerddais i, gorddwy sir:
Cerddais ar draws naw cardden,
Ac ar hyd moel gaerau hen,
Ac oddiyno i ddinas
Ellyllon, cyfeillion cas:
Cyrchais o’r ddinas glasfawr
Gorfydd ar ael mynydd mawr;
Twyllawdd, ni bu hawdd hyn,
Y morben du i’m herbyn
Fal pettwn, frwydr dal-grwydr frad,
Yn nghanol gcuol gauad.—
Ymgroesais, aflednais floedd,
A rhywyr olJ, rhy oer oedd,
Dysgais, oerais yn aruthr,
Gywydd i gywcithydd uthr;
Canawg wisg mewn eurwisgaen,
Garw fu yn y gerwyn faen:
Minnau yw’r ail, a’m annawn,
Yn y gors wenwynig iawn:
Addaw myned, ged gydfach,
I Landdwyn er ’nwyn yn iach.
Ni chwsg Mab, grair arab gred,
Mair wyryf, pan fo mawr wared!—
Gweles faint poen fardd gwiw-lun,
Gwyl fu Dduw, goleuiodd un!— î
Cefais o ’wybr ddeuddeg sygn
Gafod deg, rhag o-ofid dygn:
Syber fuan ymddangos
Ser i ni, yn seirian nos.
Gloyw fu y goleu-fdint,
Gwreichion goddaith saith o saint:
Eirin Mam o anhoff loer,
Aeron rhylon y rhewloer.
Cylch y lleuad taladwy
Cynhwyllion hinon yw’n hwy:
Llewyrch gorddygnau lleuad,
Lliw bron tes, llwybrau ein Tad.
Arwydd cyffredin hindda
Yr awyr, ardymyr da.
Drych cenllusg haul goleufawr,
Drychau dimeiau Duw mawr.
Glwys ruddaur glasrcw oddef,
Gemau crwper nifer nef.
Cywraint bob ddwy cyweiriwyd,
Cad Gamlan ’wybr lydan lwyd.
Hwyl iawn i ni hoelion ais:
Hyd y nef had a nofiais.
Nis dymchwel awel ewybr
O’n pill dyllau ebill ’wybr.
Maith ei cylch, ni’s gylch gwynt,
Marwydos ’wybr mawr ydynt.
Gwerin ffristial a thawlbwrdd,
Claer eu gwaith, clawr awyr gwrdd.
Nodwyddau, ni a’u diddawr,
Gwisg pen y ffurfafen fawr.
Hyd neithiwyr, bellwyr balloed,
Crwydr, ni wybum i ermoed:
Mawl goleulwys, mal gloyw-wybr,
Meillion ar wynebion ’wybr.
Gwnaeihan’ les o’n hanes hwyr,
Gild y rhew, goldwyr awyr,
Canhwyllau cwyr, cain hollawr,
Ar ober maith yr ’wybr mawr.
Da eu gwedd, baderau Duw gwyn,
Yn ei lanestr, heb linyn.
Dangosasant bant o bwyll,
A bryn i’m obryn ammwyll,
Y ffyrdd i Fon, y ffordd fau,
Y meddwl oll Duw maddau!
Deuthum heb huno hunyn,
Gwawr ddydd, i lys gorau ddyn.
Diwagsaw yw fy nhrafael,
Eithr hyn, ddyn uthr hael:
Taro’r fwyall afallwy
Yn ochr maen, ni chara’ mwy.
CCIX. Traserch y bardd am riain ni’s rhoddai obaith iddo o’i chariad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 144 ↗
Rhoed cas er hyd y ceisiwyf
Hudol ferch, ehudlais wyf,
Herwydd main yw’r arwydd mau,
Hel a dal haul y Deau:
Hardd yw y gaen ar faen fainge,
Hael dduael, hi a ddiainc!
Teg o mewn rhyw i’m llw llon,
Golau dan gangau gwynion;
Ni cha’ir ddyn lan o’i hanfodd,
A bun ni’m cymmer o’i bodd!
Ni thawaf od af heb dâl,
Mwy nag eos mewn gwial!
Mair, a Dewi, a Mordeyrn,
Y rhai a wyl fy chwyl chwyrn,
A wnel, hyn yw’r rhyfehiwyf,
I mi y naill am y nwyf,
Ai buan farw, heb ohir,
Ai cael bun hael a byw’n hir!
Rhy debyg, medd rhai dibwyll,
Na wn pa nad hwn y twyll;
Prydu gair pryd a garwyf,
Eithr yr un, athro oer wyf.—
O ganmawl bun, hun heirdd-ryw,
O gerdd dda, ac arwydd yw
Ni roe ryw borthmon llon llwyd
Er ugein-punt er a ganpwyd:
Ni roed ym o rad ammwyll
Gwerth hyn, onid gwarth a thwyll! 1
Mul anrheg oedd, mal unrhyw
O bai awr bwa yw,
Yn seuthu, lle sathr angor,
Gwylan gerllaw marian mor;
Heb goel budd, heb gael y hyllt,
Na’r edn ewinwedn wenwyllt:
Gwydn wyf, bwrw gwawd yn ofer,
Ai gwaeth ym fwrw saeth i’r ser?
Pei pryd yn, gwn, gan’ englyn:
Er Duw, a brydais er dyn,
Hawdd y gwnai erof, o’r hawl,
Fyw o farw, fwy-fwy eiriawl —
Ni wnae hi erof fi faint
Y mymryn, gwenddyn gwynddaint!
Gwell gan fun, ni’m gad hun hawdd,
Ei henfail clyd, a’i hansawdd,
Na bod ymhlith ger gwlith gwledd,
Gwirfawl gain, Gwerfyl Gwynedd!
Ni newidia iawn wawdair,
Lle mae, o bod ger llaw Mair;
Ni aned merch, dreigl- serch draidd
Felenwallt, mor fileiniaidd
O gwrthyd liw eiry gorthir
Y fau wawd, hon a fu wir,
Gwrthodiad y marchnadoedd
Gwrthodiaeth Panwyl wyl oedd!—
Gwelwyf glwyf gloywaf feinwen,
Phvm ä lTals, — pll am ei phen!
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O grynhoad Owen Jones, a William Owen (Llundain: argraphwyd gan H. Baldwin, 1789). Sganiau: archive.org/details/bim_eighteenth-century_barddoniaeth-dafydd-ab-g_dafydd-ap-gwilym_1789 (llyfr 1789) ac archive.org/details/barddoniaethdafy00dafy (adargraffiad Lerpwl, gol. Cynddelw, I. Foulkes, 1873)
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Mabinogi: y llyfrau a gadwodd chwedlau Cymru
Mae Cymru wedi cadw ei straeon mwyaf ers naw can mlynedd. Dyma sut: storïwyr y llysoedd brenhinol, awdur anhysbys y Pedair Cainc, dau lyfr mawr a ysgrifennwyd i ddau uchelwr o Gymro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a merch ifanc o Saesnes yng ngwaith haearn Dowlais a ddysgodd Gymraeg ac a roddodd y chwedlau i’r byd.

Yr Hen Ogledd: y wlad lle ganed barddoniaeth Gymraeg
O’r Clud a Gwerydd hyd y Pennines, siaradai Brythoniaid y Gogledd yr iaith a drodd yn Gymraeg. Eu teyrnasoedd, Gododdin, Rheged, Ystrad Clud ac Elfed; eu brenhinoedd, Urien, Owain a Rhydderch Hael; y beirdd Aneirin a Thaliesin; Catraeth ac Arfderydd; a Gwŷr y Gogledd nad anghofiodd Cymru erioed.

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Oes y Tywysogion
Cestyll, barddoniaeth a thywysogion Gwynedd a Deheubarth yn erbyn grym y Normaniaid a Lloegr.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Cerddi CLXVI–CCIX’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/barddoniaeth-dafydd-ab-gwilym-cerddi-166-209.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Tudalen o Lyfr Coch Hergest (Coleg Iesu, Rhydychen, MS 111), a ysgrifennwyd tua 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- Craig y Castell yng Nghaeredin, Din Eidyn, cadarnle Mynyddog Mwynfawr a’r Gododdin — Scglossop1 · CC BY-SA 4.0
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Tŵr crwn Castell Dolbadarn dan fynyddoedd Bwlch Llanberis — Tilman2007 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth