Cerflun marmor Dafydd ap Gwilym yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Hanes Cymru / Llyfrgell / Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)

Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)

Yr Ychwanegiad

Y cerddi ychwanegol ar ddiwedd casgliad 1789, yn ei eiriau a’i orgraff ei hun.

Llun: Cerflun marmor Dafydd ap Gwilym yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd · Seth Whales, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons

Y Gymraeg

Ychwanegiad I. Arwyrain Morfudd, — yn ymbil iddi dosturio

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

“y Mun gain, hoyw emen goeth,
Y cyfan wyd o’m cyfoeth;
Goreu meinir a garaf,
Gwymp yw’th wen fal heulwen haf! I
Gwae o’m planed annedwydd,
Weled erioed liw dy rudd!—
Dy wyneb teg ei donen,
Wyth-lug-dydd, a’th lygaid, wen,
A fu saeth yn fy ais i,
A ’ngwanas,—gwae fy ngeni!
Dy wddwg, amlwg emhw,
Un herddyll wyd, hardd ei lliw,
A’ m troes yn brudd i’m lludd Ilwyr,
Was anial, ac o’m synwyr
Dy ddwyfron, lliw berwdon balch,
A’n canfod i’w pryd ceinfalch,
Mawr ganfod rhyfeddod fu,
Mun fadiain, i’m ynfydu:
A’ th dal, lliw manod baloedd,
’Y ngwen wyl, ’ngwenwyn oedd’!
Segr o ddyn, siwgraidd enau,
Sant fy ffydd, cain Forfudd fau!— I —
Byroes, a’m serch yn berwi,
’Y mun! î a beraist i mi —
Na ladd dy fardd, na chwardd chwaith
Am ei gur, em gyweiriaith
A thyn y gwas a’th annerch,
A golwg hedd o fedd, ferch
Par wared o’m caledi,
Ag un gair, er Mair, i mi! I

Ychwanegiad II. Mawl i Forfudd, a thraserch y bardd am dani

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Prydydd i Forfudd, feurferch,
I’m oes wyf a mawr yw’m serch;
Mi a’i cerais i’m cerydd,
Hoyw-loer deg, er’s lawer dydd;
Er yn fab, bryd eirian ferch,
Y trosais iddi’m traserch;
Gorne berw, ac o’i herwydd,
Yn ffol, ydd euthum o’m fifydd!
Llawer gwaith, er lliw ewyn,
Y cerddais, yn ddewrgais ddyn,
Hyd nos i’m hoed yn yssig,
Hyddred I’w gweled mewn gwig.—
Addoli ’mun dan ddail mai,
A dirfaint cariad erfai;
Adwaenwn, gwn yn gynnil,
Ei throedlam brysg ymmysg mil
Un yw a dyngwn ei nod,
Wych osgedd, wrth ei chysgod;
A’i hadnabod, ddirfod ddadl,
Hoyw eneth, wrth ei hanadl,—
Cerdd eos a’m dangosai,
’Y mun bert, y man y bai;
Gan hoywed gloywed mewn glyn,
O’i dori caid ’r aderyn.
Un ydwyf, ban bwyf heb wen,
Afrywiog, heb fawr awen,
Ag ernych tost i’m gornwyf,
O flaen neb aflawen wyf,—
Heb gof heb ynof enaid,
Na rhith o’r synwyr fo rhaid;—
Gyda Gwen wy’n ddibenyd;
Gwna hon fi ’n calon i gyd!
A’m can yn rhedeg i’m cof
Yn winaidd awen ynof;
A synwyr llwyr ar bob llaw,
Ebrwyddiaith, i’m ]hvybrciddiaw;
Ac ni ddaw im’ awr lawen,
I’m bywyd, meyn byd heb Wen!

Ychwanegiad III. Aflwyddiant am golli Morfudd, a oedd yn cael ei rhoi yn briod i’r Bwa Bach

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

A Mi neithwyr, hwyr fy hynt,
Mewn eithin rhag min noethwynt,
Gorweddai?, hunais unawr,
Goris llwyn ar grys y llawr
Gwelwn rhyw olwg aele,
Gwelw afon, draw gerllaw rr lle,
A’i ffrydiau fal tonau Taf,
Ornais, yn curo arnaf;
Geirw a grym teirw i’m taraw;
Gyr o gan-cwm; bum drwm draw.—
Syrthiais yn y don serthwyllt,
Swrth gwymp i grych serth a gwyllt:
Ymdrech a’r don greulon gref,
Ymoerlais, a rhoi mawrlef;
Ymbil ar Grist, yn drist draw,
Am nwyfiant im’ i’w nofiaw.
Llawer a phraff y trafferth,
Lludd y nwyf, yn lladd y nerth:
Llawer claig yn yr aigion,
Llu’r geirw draw’n briwiaw’m bron;
Gwelwn ddarfod y golau,
A. nos hyll arnai ’n neshau,
A’r gwynt yn daer ei gyntwrdd,
A llef gerth gan y llif gwrdd,
Ar fron y don ymdynwn,
A baich o’r dyfroedd yn hwn;
Ac o’m anfodd yn soddi,
Y dydd oer fu’m diwedd i:
Yno *n ol deíTfo’n ael dydd,
O ’mhoen a gwŷn fymenydd,
Ystyriais, nodais yn awr,
Y freuddwyd i’m afrwyddawr;
A gwn i’m gaffael o’i gwedd,
Wr annoeth, y gwirionedd:—
Yr wyf i’m swydd er’s blwyddyn,
Neu ddwy, yn meddwl am ddyn,
Ac nid nes i’m cyffes ced,
Hoyw-dduw gwyr hedd a gwared.—
Ni chwardd meinwen yleni,
Ni chair tal o’i chariad hi;
O chysgai’r nos un gosod,
Mi wn p’le mynwn fy mod—
Mynwn fod gyda meinir,
Mewn lle a wnawn mewn llwyn ir;
A chael y feinael fanwallt
Yn brysio troed i goed gallt,
Heb un-nag, yn troi beunydd
Gyda ’i gwas i goed gwydd,
Er canu, ac er cwynaw,
A gwanu ’mron gan y ’mraw,
Ni chaf Forfudd, och f’eurferch!
Na son wrth y fun fy serch,
Arall sy’n chwenych irwen;
Un cyfoethog, heiniog hen:
A gwen a’i myn, henddyn hyll,
Abar dwrch, a bryd erchyll.—
Ac anfwyn geraint gwenferch
I’m lluddiaw sydd,—e’m lladd serch
Y rhain o’n bron yw’r tonau,
A’r Llif oedd drwm o’r cwm cau:
Llyma ’r nofiaw fu draw’n drais,
A’r olwg oer a welais.—
Nofiedydd wyf, ynfydwr,
Yn dyn yn erbyn y dwr:
Rhodio ’r wyf ffrwd yr afon,
A dyn a’i daith dan y don;
A llyma ’r modd y boddaf,
Eilpai’n ffrydiau tonau Taf.

Ychwanegiad IV. I dirionwch y llwyn

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Moddus galanmai addwyn,
Yn las a roes ddail ar lwyn,
A hin-falch dymhor hoenfwyn,
Yn wych ymlewych am lwyn;
Gwisg-wyrdd yw dol, a gwasgwyn,
A’r lliw yn wyrdd ar y llwyn;
A choglef iach y wiglwyn,
Ac adar llafar mewn llwyn:—
Bore ’n dwyn serch i’w erchwyn,
Bann les, sydd ar ben y llwyn;
Gwawdlais mwyalch ar goedlwyn,
Ac eos ar linos lwyn.
Y ma pand cel, er amwyn
Mab a merch, yw llannerch llwyn?
Eginawdd yma ’r gwanwyn,
Yn wiail dillyn-ddail llwyn,
Yn goflaid serch, yn gyflwyn,
Gorlas lawr ar gyrlwys lwyn:
Dofwyd y gauaf difwyn,
A thes a wnaeth les i lwyn:
Gwae afiach, o rhaid achwyn,
Gwae lef doluriawg i’w lwyn!—
Gwynu ynof mae gwenwyn,
Gwyn serch, i’m llannerch a’m llwyn:—
Gweirlawd, a than frig irlwyn
Yw ’nghartrey, cell ystref Ilwyn.
Gwae fi! am wendor forwyn,
Gwall yw na’s caf dan frig llwyn—
Morfudd oedd gynt em eirfwyn,
Mwys oedd yn llysoedd y llwyn:
Ac yman, cyd bo gwanwyn,
Bun ni ddaw gerllaw i’r llwyn,
I’r dail, er mawr adolwyn,
Ni chaf hi ’leni dan lwyn!
Mae’r hafyn dymhor hyiwyn,
Mireinffriw da’i liw hyd Iwyn;
Ag ebrwydd gwaebryd annwyn,
Y ffy o’m Lletty a’m llwyn.
Mae achos yma i achwyn,
Mae ’m llais yn boendrwm i’m llwyn:—
Meudwy, heb un a’m edwyn,
Yn dwyn ei loes wyf dan lwyn.

Ychwanegiad V. Arwyrain y celli, — hyfrydwch bod efo Morfudd yno

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Mae adail manddail i mi,
Llannerch ymmysg y llwyni;
Celdy dan frig coed cildwyn,
Cywair y lle, caer y llwyn:
Clas y prydyddwasdyddan,
Clos oed dydd, mewn ’glaswydd glan’;
Dan frig bedw, yn le dedwydd,
Dien a gwymp dan y gwydd,
Dyna fan i wendon ferch
Wrtresa ’nghudd y traserch,
A gwenu ’ngolwg gweunydd,
A chlywed can gwiwlan gwydd;
Ac aros y nos yn iach,
Y m mon celfa, mewn cilfach
Gyda ’i bardd, a gado byd
I’r Bwa ’n gwatwor bywyd.
O chaf wen, dan bren a brig,
I geudod yn y goedwig,
Llyna fardd trallon ei fin,
Llew’r oes, yn dwyn lloer iesin;
Lluyddwr,. treisiwr traserch,
Llyfwr gwefus melus merch:
Teimlwr, a phalfalwr fydd
Em wenawg dan y manwydd;
Teimlwr bol, gwibiol gwiwber,
Teimlwr coes bun eirioes ber;
Teimlwr ffolen ail Enid,
A gwen web lawen, heb hd.
Ac ucho, a’i phig awchus,
Bronfraith aur araith, ni rus,
Yn canu ’n diddanu dyn,
Jaith addwymp, yn ei thyddyn.
Pand hardd gyda bardd y bydd
Y mai irfwyn, a Morfudd?—
Bardd coedlwyn yn gorllwyn gwawd,
A mwynder i’w gymhendawd;
A’i serch, i’w ordderch eurddyn,
Yn llawn fal y dwr mewn llyn:
A’i wely ’n y Celdy cain,
A’i rewydd gyda ’i riain;
A’i fyd dihenyd beunydd
Bydd gan ddyn wenlan dan wydd:
A rhwydded Gwen yn rhoddi,
I’w gwych fardd, ei chorph hardd hi.

Ychwanegiad VI. Mawl i’r clos neu’r deildy, — gwahodd Morfudd yno

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Clos a gefais, clas gwiwfardd,
Coedbill hoyw called-bell hardd;
Clasgell dan dew- frig glasgoed,
Clos yn nhor llwyn, cudd-lwyn coed;
Man ucho ’mhell mewn achel,
Mewn y llwyn coed, man llawn cel;
Mwyn-fan i fardd a mein-ferch,
Meudwyfan, plas eirian serch,
Mwyn ar gryndwyn gwyrandardd,
Y myd yw’r man hyfryd hardd;
Yno’r awn, yn yr ynial,
Forfudd deg ysplennydd dal;
Mae adar gwlad baradwys,
A’n ton glaer, ar y twyn glwys,
A’n cydgainc yn gwae coedgerdd,
Hyd y coed yn hudo cerdd;
Mae cog, annifioi? ei nad,
I’n sirio y mae’n siarad,
Ceiliog mwyalch, a balchiaith,
A min yn son iesin iaith,
A gwawd llinosod mewn gwig,
A bronfraith ffraeth ar brenfrig,
Awn Forfudd yno, f’eurferch!
I’r llwyn cel, plas argel serch:
Cawn sedd li can i’n ’syddyn,
Cain wiail, a glasddail glyn;
Cawn wely fry ’nghoed y fron
Wiwloer, o’r cynddail irion,
Cariad yw’n swydd, rhwydd i’n rhan,
Iawn garu yn y gwyran:—
O’th ga’ nghariad i’m adail,
Tra bo’r haf, nid af o’r dail,

Ychwanegiad VII. Trwstaneiddiwch y bardd yn myned i ymweled a Morfudd

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Eee fardd oierddysg edlym,
Afrwydded fu’r dynged ym!
Ym min nos, a mi’n nawswyllt,
Ar gyrch dros y bryndir gwyllt,
Yn dyfod o dafarn gwin,
Lle arosai’ lloer iesin,
Ag eiry yn anferth gerynt,
Yn flina gyr o flaen gwynt;
Lluwch ar fre, a godre gallt,
A brig yn dwyn barugwallt;
A dall bardd, gwn ni chwarddai,
O gwnae dan lwyn mwyn yn mai.— MA
Bry sio i’m ffordd yn brysur,
Brys ymlyngwn, neud gwn gur;
A draw ni welwn y drwg,
A gwelwed tir i’m golwg,
Onid oeddwn, neidiwn i,
Yn y dolur yn delwi!—
Caseg Eiry a’m cas gurawdd,
Yn hwyr ni’s gwelid yn hawdd;
Tori fy nghrimp, cael chwimp chwith,
Yn folldaidd— llyna felldith!
Syrthio dan siarad serthedd,
A du hv mawr — diawl a’i medd!
Boncyff ar fardd yn bencwd,
Brawd ffydd hen gybydd a’i gwd;
Yn belen wen, bilain oedd—
Annoelhwas a’i rhywnaethoedd l.—
Gorchest Eiddig i’m gwarchae,
Anniddan y man y mae;
Torth ynfyd, taerwaith anfoes,
Twr y carl yn tori coes;
Pill o liw gorwyn peilliaid,
Pwmp gwyn ar y bryn heb raid;
Post oer, anhapused oedd
Rhodio ’n y man yr ydoedd!
Cronell a wnaeth y crinwas,
Cyff draw yn dygwyddaw gwas
Celffaint yn lluddias culíTordd,
Cywely ffwl yn cloi ffordd;
Twmpath taeog yn glogwyn,
Tyn waed o draed, ac o drwyn;
Sob yn dymcwyddaw pobun,
Siol arth, rhy atgas’ei lun;
Tin cythraul— bid haul a’i tawdd,
Twra — bid crcg a’i tyrawdd!
Oerfel ’c taeog melyn,
Anoetha’ hwrdd, a wnaeth hyn!
Och! î o*r ffwdan i’m annerch,
Vn tori trwyn er mwyn merch!

Ychwanegiad VIII. Duchan i Eiddig, sef y bwa Bach, am briodi Morfudd

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Y Ferch a fum i’w herchi,
Gwrhäodd o’i hanfodd hi:
Pand truan, penyd trioch,
Ei bod yn briod a broch?
Ag i oeryn ei gwra;
A’i rhoi i wr unrhyw’r ia;
Rhoi’r ferch rhyddo a’r erchwyn;
Rhoi’r goddol i ffol y ffyn!
I ddiail, er ei goddoli,
A gar hon ddim o’i gwr hi!
Gorau gwaith am y gwr gwag,
Ei laindio ger ei lindag,
O’r lle’r oedd gyda lliw’r od.
I dynu da wydenod.
Delw gidws, da le gwyden,
Da le’r praff ar dule’r pren!
Del i minnau, geiriau gwir,
Dwyn gwraig y dyn a grogir!
O gwnaeth, gyhyraeth gerynt,
Briodas ag oerwas gynt,
Ysgared, hoen blaned haf,
A’i gwr oer, liw gwawr araf,.
Anfoned Lluned a’i law,
Haul ei gwedd, helig iddaw:
A’i dwyn fal ei hadwaenir,
A’i droi’n hed am ei drwyn hir.
Os gwriog ni ysgarwn,
Ruddiau haul, ruddi a hwn:
Dilaith drwg drwy alaeth dro,
Yr awr hyn, ar wr honno.
Mawr-daer yw ’mryd ar awen,
Melen ei gwallt, moliannu gwen:
Rheged, a minnau rhegaf,
Rhegi’r gwr, a’m rheg a gaf! i
Gwr durfin, gwryd oerfel,
Ein gelyn ni’n gelain el;
A gen y gwr gan ei gi,
A’i gorph el i Gaerffili;
Angau i hwn, iangwr hyll,
A’i neidrwydd el yn waedryll;
Dwr a’i bawdd, neu dori” ei ben,
Yn symwth Iesu, amen!

Ychwanegiad IX. Y bardd mewn henaint yn dwyn i gof fal y bu gynt

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Y Fun alaw- lun liwlwys,
Morfudd bryd goleuddydd glwys!
Mawr yw fy nghan am danad,
Y ferch a welir yn fad,—
A mi neithwyr, hwyr bu hyn,
Yn d’aros, liwbryd erwyn,.
Yn y man lle’i caid annerch
Rh’om gyntaf fis haf o’n serch,
Syllwn, ac edrychwn dro,
I’m hamgylch, ac i’m hymgo’ —
Cyntaf dan gel pan welais
Dy lun, a chlywed dy lais;
Yr oedd ein llwyn ar ei fwyn sange,
Yn wiail, ac yn ieuange,
Ac uwch ben y fedwen fau,
Bregus nid oedd y brigau;
Yn nwyfus, ac yn hafaidd,
A gwryg ieuenctyd i’w gwraidd,
Teml oedd ir, ty aml ei ddail,
Tyddyn dan gapan tew ddail,
Tŵr gwych capan-grych pengrwn,
A chryf ei gangau, a chrwn;
Ag adar, a’u dysgeidiaeth,
Acw”n ffridd a’n can ffraeth.—
Mwyalchen, i’n bedwen ber,
A’n doniai a chan dyner;
Gwyddost i’n lwyn mwyn yn mai
Yn firain e lafarai;
Y nos caid eos i’n dail,
Yn fywus, ag iaith fiwail;
A ninnau yn iawn annerch
Ei salm, ar gynghanedd serch,
Aethus yw’r henaint weithian
Yn dal meth ar y dail man,
A’r cyff crinfrig yn trigaw
Dan auafnych, a gwlych gwlaw:
Oedran sy’n gadarn arno,
A dug y llosgwynt ei do;
A mwy nid balch mwyalchen,
Ag eurwe bwnc ar ei ben;
Nag eos ni wna gywydd,
Ar ei bwys, rhy oer y bydd,
Mae cof ynof o’m ynni,
A’m serch, oedd wenferch, i ti;
A’m cerydd mawr i’m cariad,
Ac ni’th gawn yn llawn benllad.
Hir oedio ’m serch a’m ihydawdd,
A byw o hyd ni bu hawdd,
Dan fy swydd lawer blwyddyn,
Gorfod bod hebod er hyn:
A maith yw ’m dolur i’m iad,
A dunych bron am danad;
A heiniais i’m anhunedd;
Imi ar bar y mae’r bedd!

Ychwanegiad X. Mawl i ferch

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Y Ferch wen fawr ei chynnydd,
O liw a’r dawn, oleu’r dydd;
Tegau y wlad i’th adwyd,
Oleuni tir, alawnt wyd;
Dewis-dyn wych dan osteg.
O bryd grisial, a’r tal teg:
Gwn ailfodd ferch ganol-fain,
A garaf fi, liw Eigr fain!
Duw ni eiddioedd, dawn iddi,
Merch i’th oes mor wych a thi!
Main yw d’ael man y delyd,
Gwen yw dy fodd, gwyn dy fyd!
Ni chair y loyw grair o gred,
Duw ni luniodd dyn laned!
Er na’th annerch, na’th erchi,
Byddi fwyn, ni beiddiaf fi;
Nid a’n rhin ar y min mau,
Gwen addfwyn, dy gynneddfau,
Pa ddyn call a ddeallai,
Ar dy fod, na wyr Duw fai;
Pwy o’r dynion, par d’enwi
Nith gwawr deg, na’th garai di?
Ar bob gwenferch anerchbryd,
Ar ddyn syw yn byw’n y byd.
Ti a henwir, ty hunan,
Yn dwyn y gloch fal dyn glan!
Gwybydd, da gof arofyn
O liw, nid oes lana’ dyn;
Yn gynnil deg, ganol dydd,
Debre i oedi dy brydydd:
I neb ni bu wyneb Non,
Ond dy ddawn t’wnt i ddynion!
Ni phair y byd hyfryd hwn
Na phurdan im’ na phardwn,
Na chlefyd blin, na min merch,
Na bod un- awer heb d’annerch;
Er bod y pryd, fy myd main,
Yn degach, gwen, na deugain,
Gostwng galon dan fron fry,
Cofia unwaith cyfiawnu;
Dyn irddawn wyt dan urddas,
Gwyn yw dy rudd, gwen dy ras!
Mal y dyn am ol ei dad,
Gwn wyth gur, gwen, o’th gariad! f
Och! ni ada’i ochneidiaw,
Hun i’r drem ei hanner draw:
Mi yw gwr am a gerais,
A dyn a’i boen dan ei bais
Mor ing i mi yw’r angau,
O nwyf a serch y ferch fau;
Dyn wyf o glwyf yn dwyn gloes,
Os dyn fwyn, estyn f* einioes!

Ychwanegiad XI. Duchan i Eiddig

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Y Ddyn a wisg addwyn wen,
Fwnwgl eiry, fain glaerwen!
Eiddig wyddelig ddolur,
Hwn a’th gar heno i’th gur;
Ni bu ddydd iach na bai ddig,
Ni wyddiad a wnai eiddig! î
Ni char dy wr chwarau dyn,
Ni beiddi yn oes bawddyn;
Ni fyn yr hyn a fo raid, —
Ni fynno nef i’w enaid
Ni char eiddig, ddig ddogni,
I’w chwaer ymddiddan a chwi;
Ni chredai, be bai’n y byd
Feudwy gwyn, heb fod genyd,
Eilwaith pan a’i o’i olwg,
Fe ddeily draw feddwl drwg
Er ei son a’i ddigllffni,
Fe wna hon a fynno hi.—
R oedd im’ fy hun fun un fai,
Ag i eiddig y gweddai,
Da ei gwyr, wedi dy guraw,
Droi enw drwg druan draw;
Dy liwio, deuliw ewyn,
A dala gwg i dal gwyn!
Dau- beth yd, a debygais,
A wnawn, be bawn yn dy bais,
Ysgar a hwn, os cai ’rhawg,
A gwra un trugarawg.
Fo wnai Dduw *fewn i ddwy-awr,
Hyn o raid yn hanner awr;
Angau y’nghornel gwely,
O’r tu y cwsg gwr y ty:
O’m treftad y caniadwn
Ei hyd o’r ddaear i hwn
A gweled, yn ddig’wilydd,
Dy wr, wen, ar farch pren prudd;
Ag amwisg am dy gymmar,
A’th gael o’r dyn mwya’th gar!

Ychwanegiad XII. Mawl i’r haf, — cwyn o’i golli

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Yr Haf bendefig rhyfalch,
P’le ’r aethost? i ti fuost falch!
Per oeddyd, y byd a’i barn,
Penaig coed, fel paun cadarn;
Plethiwr, ir-gauwr gwiail,
Peiriad hardd yn peri dail;
Pefr farchog glan a llannerch,
Per drs’siwr llwyn er mwyn merch
Pand oeddych yn wych dy wedd,
Por glwysliw ’n porio glaswedd:
Pwyntus dy fir ar diroedd,
Paentiwr Mwch pob harddwch hoedd
Periadur fflur ar hoff Iwyn,
Purlas drwsiadur perlwyn.
Gwnai fwyalch hygarialch gerdd,
A glyn-goed yn llawn glan-gerdd,
A hoywdon gainge ehediad,
I’th ddydd yn y gwydd a gaid:
Yr eos ar ir wiail,
Rhion, prydyddion y dail;
’Deryn oedd ’min dwr y nant
Yn dysgu beirdd a descant.
Mwyna cerdd yn min gwerddon,
Y* mysg llu’n gwau miwsig Non;
A merch i’m annerch yn mai,
Dyn dlosdeg dan dy lasdai;
Bun wen, ag awen ar gof,
A’r enaid yn daer ynof.—
Weithian o’n gwlad yr aethost,
A daeth bar hyd daear dost;
Mae pob llwyn ar dwyn a dol,
Ysdyddiau, yn gystuddiol;
Nid oes gel fan min llannerch,
Im’ i gynnal oed a merch;
Na llatai, ddifai ddwyfol,
A gaf fi mewn deri dol,—
Gauaf sy’n lladd y gwiail,
A dug o goedydd y dail;
A’i chwithig wynt yn chwythu,
A’i ruad arth, a’i rew du;
Mawr ei sain yn darmain dig —
Ffai arnaw, Juddew ffyrnig! I
Ni ddaw gwen yn hawdd i goed,
Ni myn nythgell mewn noethgoed;
Ni chaf i wen bren a brig,
Unrhyw gudd in’ rhag eiddig:
O theru droed mewn coedydd,
Ef a’n gwel o fewn y gwydd,
Ein parlwryglas cwmpasawg
Aeth yn fwth rhy rwth yrhawg;
Y llennyrch lle’dd oedd llonydd,
Wers oer, yn luddiawr y sydd!
Nid oes babell mewn celli,
Na man fal bu gynt i mi;
Na merch wen dan fedwen fawr,
Na dani gael oed unawr!
Yr Haf hynaws, rhwyf hinon,
O’m serch am danad mae’m son —
Dychwel yn ol i’r dolydd,
Yn drum draw er gwisgaw gwŷ dd;
Rho ddail, a gwiail ar goed,
A’th degwch i berth dew-goed,
A doldir yn llawn deildai,
A thrydar min adar mai,
Pth irlas bais a’th erlawnt,
Yn llawen rhull, yn Llawn rhawnt.
Rho ym oed dydd, a gwydd gallt,
Yn gaer i’m dyn deg eurwallt,
A’ th glod achlan a ganaf—
Can-hawddfyd hyfryd br Haf!

Ychwanegiad XIII. I yrru’r fwyalchen at Ifor Hael i Faesaleg

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Y Fwyalchen awenawl,
Ymlyni gerdd yn mlaen gwawl! I
Ceiliog wyd yn y celydd,
Y’ ngoror do] y’ngwawr dydd;
Cyw’n y dail yn canu’n deg,
Caniadur accen hoywdeg;
Cyw a’r hoff lef cywair flwch,
Cyfeilydd can cof elwch;
Toniadur pen twyn ydwyd,
Tan y gaer wen tongar wyd;
Trydon dy fan ar lannerch,
Trydar syw, trawiadur serch:
Tref wanwyn yw’r tewlwyn tau,
Twr adail y trawiadau,—
Tyn o goed a’r ton gwiwdeg,
Yn geiniad doeth mewn gwn teg;
Du serchog yw’th glog mewn glyn,
A myfi sy’n d’ymofyn.—
Dos o dir Gwynedd ar daith,
Yn dirion iawn dy araith;
Hed erof, a bydd daerfalch,
A’r gan i Wlad-forgan falch:
Hed yn bres i wlad Essyllt,
Hedwr i’th oed hyd goed gwyllt.—
Gweli wlad olygiad lwys
I brydydd mae’n baradwys!—
Morganwg wyn olwg nyt;
Ag anwyl ydyw genyf,
R gar bardd y wlad hardd hon,
A’i gwinoedd, a’i thai gwynion.
Gweli dri-phlas urddasawl
Ifor mau, nifer a’i mawl!
Ifor Hael, un fawr helynt
A’r tri haelion gwychion gynt:
.Nid hael Nudd yn rhoi rhuddaur,
Wrth Ifor, deg anrheg aur;
Os mawrdeg y rhoes Mordaf,
Aur gwell gan Ifor a gaf;
A rhoddwr gwell na Rhydderch
Yw Ifor, Iwys ior y serch.
Gwych Ifor dewr-bor lle del,
Gwr yngod a gair angel:
Goreu un gwr a garaf,
Gwrdd ion ym; ei gerdd a wnaf:
Mi a gauaf a’m genau
Mwynair mawl i’r muner mau!
Penaig gwlad yw’n paun glewdaer,
Praff erlyn, llyw terwyn taer;
Por y tir yn peri twg
Ar y gwin yn Morganwg!
Fy myd! gwyn ei fyd a fai
Yn ei windorf i’w wyndai!
Dwg hyn yn falch, fwyalch fau,
Yn gariad i’r dyn gorau;
Gorau dyn, yn ei gaer deg,
Yw’m Selyf ym Maesaleg.

Ychwanegiad XIV. I yrru yr haf i annerch Morganwg

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Tydi’r Haf, tad y rhwys,
A’th goedfrig berth gaeadfrwys,
Tywysog gleiniog y glyn,
Tesog draw’n deffraw dyffryn!
Praff yw dy frisg i’n priffyrdd,
Prophwyd penial gwial gwyrdd;
Panelog, pwy un eiHw,
Pwyntiwr dedwydd y gwydd gwiw? 1
Peraist deganau purion,;
Percwe brwys mewn parc a bron; ';
Pawr ar glawr y glasîawr glwys,
Per ydyw ail paradwys.
Rhoddaist flodau, a rhyddail,
Rhesau gwych ar deiau dail:
Cawn nodiau cywion adar
Can wanwyn ar dwyn a dar;
A’i gwrandaw’r gerdd fangaw falch
Ym mywyll, lle can mwyalch;
Cawn genyd y byd o’i ben,
A lluoedd bawb yn llawen! i
Clyw fi Haf! o chaf i’m chwant,
Yn gennad ti’n d’ogoniant,
Hed drosof i dir Essyllt,
O berfedd gwlad Wynedd wyllt—
Gyr oni’s b’och i’m goror,
Anwyla’ man, yn ael mor.
^ F’anerchion yn dirion dwg,
Ugein-waith i Forganwg;
Fy mendith, a llith y lles
Dau-gan-waith, i’r wlad gynnes!
Dymgais a’m gwlad o’i hamgylch,
Damred a cherdded ei chylch;
Gwlad dan gaead yn gywair,
Lle nod gwych, llawn yd a gwair;
Llynoedd pysg, gwinllanoedd per,
A maendaj, 11 e mae mwynder;
Arglwyddi yn rhoi gwleddoedd,
Haelioni cun heilwin c’oedd.
Ei gwelir fyth, deg lawr fau,
Yn llwynaidd gan berllânau;
Llawn adar a gar y gwydd;
A dail, a blodau dolydd;
Coed osglog, caeau disglair,
Wyth ryw yd, a thri o wair;
Perlawr parlas, mewn glas glog,
Yn llanaidd, a meillionog!
Yno mae gwychion fonedd
A dal im’ aur mil a medd;
Ac aml gor y cerddorion,
A ganant a thant, a thôn:
Ymborth, amred i’r gwledydd,
A dardd o honi bob dydd;
A’i blith, a’i gwenith ar g’oedd,
Yn doraeth i’r pell diroedd
Morganwg yn mrig ynys
A byrth bob man, Ilan a llys!
O’th gaf yr Haf i’th awr hardd,
A’ th geindwf, a’th egindardd;
Dy hinon yn dirion dwg,
Aur-genad, i Forganwg,
Tesog fore, gwna’r lle’n lon,
Ag annerch y tai gwynion:
Rho dwf, rho gynhwf, gwanwyn,
A chynnull dy wull i dwyn;
Tywyna’n falch ar galch gaer,
Yn luglawn, yn oleuglaer;
Dod yno ’n y fro dy frisg,
Yn wyrain bawr, yn irwisg;
Ysgwyd Iwyth o ber ffrwythydd,
Yn rad gwrs, ar hyd ei gwydd;
Rho’th gnwd, fal ffrwd ar bob ffrith,
A’r gweunydd, a’r tir gwenith;
Gwisg berllan, gwinllan, a gardd
A’th lawnder, a’th ffrwythiondardd:
Gwasgar hyd ei daear deg,
Gu nodau dy gain adeg!—
Ac y’nghyfnod dy flodau,
A’r miwail frig tewddail tau,
Casglaf y rhos o’r closydd,
Gwnn dolau, a gemau gwydd:
Hoyw feillion, dillynion llawr,
A glwysbert fflur y glasbawr,
I’w rhoi’n gof aur-enwog ior,
Ufudd wyf, ar fedd Ifor

Ychwanegiad XV. Y mabolaeth, xv. ly wc dd: mabolaeth

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Y Bilain o fabolaeth
O Dduw! pa dremynt a ddaeth;
Bu bwl fy nghado, bu bai
Dywaid im’ na’m gadawai!
Llwyr y gwnaeth, draeturiaeth dro,
Fy ngadwyll cyn fy ngado
Unwedd a thair o gairos,
Hyd yr awr, neu hed o ros,
Ac yn y man diflanu —
Hudoliaeth fabolaeth fu!
Tra chefais, ni fernais fai,
Dyn loywfryd, dwyn ei lifrai;
Dieiddil, a da oeddwn,
A chryf a gorwyllt, a chrwn,
Rhud, esgud, ac ysgawn,
I ben ’r allt buan yr awn:
At y bel, a phob helynt,
A rhedeg, fal gwaneg gwynt:
Caru morwyn addfwynwych,
Er nas cawn, wronwas gwych,
Amnaid a’m llygaid yn lon,
Mor ynial ar ’morwynion:
Neidio, a seuthu nodyn.
Nofio’n sad llygad y llyn!
Heddiw os i riw yr af,
O arfeddyd, hwyr fyddaf;
Dirfawr ei son, darfu’r serch,
A mwynfawr gerdd am wenferch:
Ni chyfyd ynof cof cerdd,
O gynghyd serch ac angerdd! I
Ef aeth mabolaeth o’r byd,
A droes ynof dros ennyd,
A’r galon, feddal-gron faeth,
A garodd ei fagwriaeth,
Henaint a ddaw, fal hoenyn,
A’i dwyll i efryddu dyn;
Nid ery, anwyd oeryn,
I’enctyd yn ei ddylyd ddyn;
Onid ennyd, lledfryd lu,
Bychan, cyn ei fwbachu,—
Ei draed efryddlawn a drig,
I’w wradwydd, yn wyredig,
A’i freichiau fal ffustiau ffyn,
A gwayw yn mhob giewyn;
Anaf llesg yn ei wTesgyn,
A blew, a gwallt yn blu gwyn;
A’i ddannedd, a salwedd son,
Afluniaidd, yn íelynion;
A’i olwg, ddiwg ddeall,
Druan o ddyn, a dry’n ddall;
A’r tafod, erioed diloes,
A’r en yn treulio, a’r oes;
O synir ei asenau,
Annysglair gyfair ei gau,
Prin yw ystod pren wystyn,
Prinach fydd diwedd dydd dyn!
Pan ddel encil, a chilio,
Y traed ni’m dygant un tro,
Lle bo’r gamfa íera’ fach
Llymsi fyddaf yn llamsach.
Hyn a rof, ni honna’ rin,
Ystod fal y gwnai Awstin,
I bawb o’r hyder y bu,
Bryd aruthr, i bryderu.
O Fair! er hyd ymgwairiwyf,
Ofni o ddifri ydd wyf,
Mabolaeth, gelyniaeth gwr,
O’i said oll y sy’ dwyllwr;
Nid oes nen, er a genyw,
1 ddyn — ony trugaredd Dduw!

Ychwanegiad XVI. Y cywydd diweddaf a gant y bardd

Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.

Ga.lar ar ol mabolaeth
Y sydd i’m gwanu fal saeth!
Gwaefyd yw mywyd i mi;
Galwaf am nerth ar Geli!
Darfu’r ieuenctyd dirfawr,
O dewr fu ’nydd, darfu’n ’nawr!
Darfu’r pen a’r ymenydd,
Dial serch i’m dal y sydd
Bwriwyd awen o’m genau,
Bu hir â chan i’m bywhau!
Mae Ifor a’m cynghorawdd,
Mae Nest, oedd unwaith i’m nawdd;
Mae dan wydd Morfudd fy myd,
Gorwedd ynt oll mewn gweryd
A minnau ’n drwm i’m einioes,
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes!
Ni chanaf gerdd, na’i chynnyg
I goed mwy na chwyn a gwyg;
Ni ddoraf y’ngwydd eirian,
Na chog, nag eos a’i chan
Na chusan merch a serchais,
Bun war! na’i llafar, na’i llais!
Mae gwayw i’m pen o henaint,
Mwy nid serch harddferch yw’r haint!
Aeth cariad a’m had o’m llaw,
A gofid yw ei gofiaw!
Usyn wyf, ac eisiaw nerth,
Ac angau yn o gyngerth:
Y Bedd sydd imi ar bar,
^ A diwedd oes, a dacar!—
Crist fo’m porth, a’m cynorthwy,
Amen! ac nid achos mwy I

O ble daw’r geiriau hyn

Cymraeg: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O grynhoad Owen Jones, a William Owen (Llundain: argraphwyd gan H. Baldwin, 1789). Sganiau: archive.org/details/bim_eighteenth-century_barddoniaeth-dafydd-ab-g_dafydd-ap-gwilym_1789 (llyfr 1789) ac archive.org/details/barddoniaethdafy00dafy (adargraffiad Lerpwl, gol. Cynddelw, I. Foulkes, 1873)

Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Dyfynnu’r dudalen hon

Ifan, ‘Yr Ychwanegiad’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/barddoniaeth-dafydd-ab-gwilym-ychwanegiad.

Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (3)

Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth