

Hanes Cymru / Llyfrgell / Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789)
Cerddi CCX–CCXLVI
Cerddi CCX hyd CCXLVI o gasgliad 1789, yn ei eiriau a’i orgraff ei hun.
Llun: Cerflun marmor Dafydd ap Gwilym yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd · Seth Whales, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons
Y Gymraeg
CCX. Ymddiddan rhwng y bardd a’r gog a anfonasai ar latteiaeth
Golygiad modern Abertawe: cerdd 164 ↗
“dydd da i’r Gog serchogfwyn
Ei Llais ar ganghen- frig mu
P’le buost edn diwedn-lais,
Pa wlad bell? Plu yw dy bais!“ y”
“* Bum y’nglyn, megis dyn Call,
Bedeir-oes mewn byd arall:
Cla’ fum, a gwan o anhun,
Collais fy harddlais fy hun.—
Sefyll dan’r irgyll yr wyd;
Myn Pedr! ni wn pwy ydwyd!““
“Myfi yw’r Bardd digrifair,
Serchawgfryd, myn mawrbryd Mair!
A’th yrrodd, ni’th gwahoddes,
Wila o’r tir, at eiliw’r les.”
“Henwa, ddyn ffraeth hiraethwych,
Henw’r Gymraes walltlaes wych?“
“* Hawdd y medrwn, gwn gan- elwyf,
Henwi gwen,. dihunawg wyf!—
S, ac R, a llythr hefyd,
N, ag A, dwg bynny gyd.”
Erchis Gwen, eurchwys ei gwallt,
D’anerch dan frig bedwenallt.”
'* Moes arwydd, drwg i’m llwyddwyd,
Madws oedd, — ai mudes wyd!“
Y ddyn lawer annerch ddwg,
Fain oedd wyl fwynaidd olwg:
Hir y bydd hwn, gwn gellwair,
Ar frig Ilwyn yn gorllwyn gair,
Oni ddaeth byd hagr-noeth hyll,
Od tew, a gauaf tywyll:
Euthum gan oerwynt trymnoeth
Gyda’r dail, gwiw awdur doeth,”
“Mae’r arwydd o’r mawr arail,
Y Gog ardymiog o’r dail.“
Cyffylog anserchog-fwyn,
Coch westai, ’ddawsai ei ddwyn;
Pan oead yn arwain pin Ia,
Du-y-dom, yn d’wad yma.”
“* Pa bryd doeth y cyw noeth-frych??
“Gwyl y Grog i gil y gwrych.”
Ynfyd fu ei anfad fer,
Esgeulus edn ysgeler;
Gwn ei ladd, lid ergydnerth,
Gwr a bolld dan gwr y berth,
Dwg ’hediad, deg ei hadain,
Dos eilwaith at f’anrhaith fain!
Dwg hed dan frig coedwig cyll,
Disgyn dan ledu d’esgyll:
Lateies, dwg gae Esyllt,
Loywlais wawd, ferch Hw-las wyllt;
Dyro, a hed ar fedwlwyn,
Lythyr i’r ferch Uthrair fwyn,— ■
Dywaid erchi f’enaid ferch,
O honof fi ei hannerch.
Swn cloch mewn perth, ni’th werthir,
Swyddogcs gwydd hafddydd hir:
Anwybod wyd, Gog Iwydfain,
A nidr wyd yn y twyn drain,—
Hed o fedwen ganghenlas
Ar bren plan, ger bron y plas:
Mwyn o drebl, myn di rybydd
Pr eurloyw deg ar liw’r dydd.—
O berth i berth anferthol
Minnau ddo’ hyd yno’r d’ol;
A dwg wen eurwallt beunoeth
Allan i ’mddyddan, em ddoeth:—
Drwy dy nerth di a’r Rhiain
Dygwn y ferch deg wen fain,”
CCXI. Tadogaeth hiraeth
Golygiad modern Abertawe: cerdd 90 ↗
DlCìWSG fum am ail Degau,
Dihun, hael fun, yw’r hwyl fau!
Deu-fis am dwf yr un-ferch
Ni chysgais i (ni chwsg serch!)
Dros un noswaith hyd neithiwr,
Wiw loer deg, ond wylo’r dwr!
A myh yn ymafael
A chwr fy hun, fy chwaer hael,—
Gofyn a wnaeth ar gyfair,
Gofal cariad irad air,
Mae’r bardd mwyn, loywradd law,
Hynod, phe’i paid a hunaw!
Garw a fydd murn dolurnwyf,
Egor y ddor, agwrdd wyf!“
te Pe rhown, a’i ’gori pe rhaid,
Pa ddyn, neu pwy a ddywaid?”
e Rhai a’m geilw, dfseilw dwys,
Ánmheuwr hun yn Mhowys,
Hiraeth fab cof, fab cyngyd,
Fab gwan fy meddwl, fab gwyd;
Fab ehud-nych, fab hoed-nwyf,
Fab gwayw, fab hud, fab clud clwyf,
Fab deigr digwsg, fab dig byth,
Fab trymfryd, fab hawddfyd fyth,
Fab poen, fab gwenwyn a’i pâr,^
Fab golyg-wlyb, fab galar,
Fab anhun du, fab annerch,
Fab syth, fab Adda fab serch.—
Gwr bonheddig ryddig rhwyf,
Diledach, duwiol ydwyf:
A hefyd meddai hoyw-ferch
Ys pen ser ar seler serch,
Rhaid ym bob awr, drwy fawrloes,
Gyd a thi ymgadw i’th oes.”
CCXII. Pan fuasai y bardd yn cyfwrdd a’i gariad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 41 ↗
Digrif fu fy ngwaith neithiwyr,
Rhwng gras a dawn brydnhawn hwyr;
Cyfliw gwr cael ei garu,
Glew rhwng llen dew a llwyn du:
Ceiliog bronfraith cyweithas
Oedd uwch fy mhen ar len las;
Yn gyrru cynnyrch cyrch cof,
Coel iawn enw, calon ynof.
“Gwyddwn yt gynghor gwiwdda,
Hir ddyddiau mai, os gwnai — gwna,
Ac eistedd dan fedw gastell,
Duw a wyr, na bu dy well!
A than dy ben obennydd
O fanblu gweddeiddbhi gwŷdd,
Ac uwch dy ben fedwen fau,
Gaer loywdeg o gwrlidau.”
Nid wyf glaf, ni feiddiaf fod,
Nid wyf iach, myn nef uchod!
Na marw, myn Pedr diledryw,
A Duw a farn, nid wyf fyw!
Pei cawn un eiddun addef,
Oreu dawn, o radau Nef,
Ai marw yn ddiarw annerch,
Ai byw’n ddyn syw i ddwyn serch! î
R fu amser, neu dderyw,
Och fi! pan oeddwn iach fyw—
Na chai haul uchel Geli
Ledratta haf arnaf ff y
CCXIII. Y bardd a’i gariad yn cyfeddach
Golygiad modern Abertawe: cerdd 126 ↗
Gildiais fal gildiwr ar fin,
Gildio’n lud, Golden Ladin;
Gildiais yn ddinidr ddihaint,
Gildiad mal goleuad saint:
Gildiad, nid chwitasad hallt,
Gildiad ar fy nyn goldwallt.
Gwych y medrais, haeddais hedd,
Gwaith da rwyddfaith di- ryfedd;
Gwiw ddysg wyf, roi gweddus gnwd
Gwinwydd Ffrainge ar gwenwedd ffrwd.
Petaem Ddyw-pasg yn Gwasgwyn
Buan fyd, mi a’m bun fwyn,
Didlawd oedd, pai’n diawdlyn
Er claer dwf, o’r clared yn:
Herwydd barn y tafarnwas,
Hir i’m car, a hwyr i’m cas.
Y pedwerydd mydrddydd mad
Fu heddyw, fai wahoddiad;—
Meddwn innau, gau gerydd,
(Truan, nid oedd traian dydd)
Ef a bair dyn gywair ged
Fy nwy- fore i ddyn yfed.
Gwelit er gwen ar ben bwrdd
(Gwanegu gwin yn agwrdd;
Hir yw’r cylch, cylchwyf didryf,
A hy yw’r cariad ai hyf-:—
Hawdd yfai dibrinaf bryn,
Hawdd yf a wyl ei hoywddyn.
CCXIV. I ferch a anghofiasai y cariad a fuasai rhyngthi a’r bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 121 ↗
Efa fonheddig ddigawn,
Arglwyddes, duwies y dawn,
Gwna’ o flaen tyst, cyn ’r Ystwyll,
Ymliw a thi, aml ei thwyll! î
Tebyg, myn fy enaid dibwyll,
Na’m adwaenost, tost fydd twyll! ■
Och! ai meddw, wych- em, oeddyd
Y llynedd, cyhydedd hyd?
Rhag cam ddeaîlt dy wallt melyn,
Ni ddoedaf mwy, deccaf dyn!
Bun ry haerllug fuddugawl,
Bid i’th fa m, a’r byd a’th fawl;
O bu ymannerch serchbryd,
Na gair rh’om, ne garw rhyd:
Ac o bu gynt, tremynt tro,
Bai ditiwr mawl, bid etto,
Ond ni ddylit ti ddileu
Y rh’om fyth y rhwym a fu;
Na haedd ogan, fal anhael,
Ac na fydd adwerydd wael.—
Ango ni wna dda i ddyn,
O anglod gwilia englyn!
Terfyn annghof y w gofal,
Gwen brydferth ddierth na ddal:
Nid wyf i’th ddeallt, eurwallt dda;
Galw dy gof, gwyldeg Efa,
Nid taerwedd y gwneit erof,
Nid da, deg Efa, dy gof!—
Na fydd anghywir hir-hynt,
Na ad dros go’n wtres gynt.
CCXV. Y bardd yn cyffelybu ei hun mewn cariad i un yn ceisio dal ei gysgod
Golygiad modern Abertawe: cerdd 80 ↗
. Un agwedd, oferedd fu
Oerni cur, arnai’n caru
A’r ffol yn ymlid o ffyrdd
A’t gysgod, drwy goed gwisgwyrdd.
Parabl mab a fydd tra-balch,
Cyd bo cynt no’r gwynt, neu’r gwalch
Naws dig, ni bydd nes i daw;
Barn hen oedd brynhawn iddaw,
Brwysg foddion braisg gyfaddas,
Byr ei glog y borau glas;
Nid ai ei gysgod, od au,
O’i ymyl, myn ei ammau;
Un foddion, anrhyfeddoed,
Wyf a hwn, — mae ofwy hoed.—
Minnau fydd, meinwas oeddwn,
(Mawr o hud, myn Mair, yw hwn!)
Yn nychu, yn wan achul,
O serch ar y feinferch ful.
Hyn a wasg ’y ngrudd glas-grych,
Huno nid oes, hoywnod nych,
Gael meddwl rhiain fain-hir,
Na’r dydd cyntaf o’r haf hir,
Mwy na’r ffol, ar ol yr ôd,
O’i gwsg am’”ddal ei gysgod.
Diomedd i’m gomeddwyd,
Diriaid ym ddiweiried wyd
Ni symud munud meinir,
Na’i gwen er celwydd, na gwir:
Imynawg wedd, mwyn yw a gwiw,
Mwy no delw manod eiliw!
Ni’m cymmer i fy rhiain,
Ni’m gwrthyd f’anwylyd fain;
Ni’m lludd meinwar i’w charu,
Ni’m lladd arunwaith, — em llu! «
Ond o’m gwyl gwen gynhenwaith,
Degau chwimp, yn digio ’chwaith.
Cael a wna’ er celu nwyf,
Cusan yr awr y ceisiwyf;
A glas chwerthin, gwedd hinon
Gwen gain, hawdd, a gawn gan hon!
Ni wn pa un, fun feinir,
Yw hyn, lliw gwyn yn lle gwir,
A’i gwatwor, cynnar ei cad
Am wir gur, a’i mawr gariad,
Deg ddadl, digio ydd ydwyf,
Da bychan i’m dibech nwyf,
Dwyn hirnych, er gwych ei gwedd,
Dwy-oes — a marw o’r diwedd!—
Diamynedd i’m gwneddyw,
Diriaid ym, ddiweiried yw!
CCXVI. I’r awrlais a ddeffroasai y bardd pan ydoedd yn breuddwydio am ei gariad
Golygiad modern Abertawe: cerdd 64 ↗
Cynar fodd cain arfeddyd,
Canu’dd wyf fi can-hawdd-fyd
I’r dref wiw ger Rhiw Rheon,
Ar gvwr y graig, a’r gaer gron.—
Yno gynt fy enw a gad,
Mae dynion a’m adwaeniad:
Hawddamor heddyw yma,
Hy yn nhyddyn y ddyn dda!
Beunoeth, foneddig-ddoeth ferch,
Y mae honno i’m hannerch;
Bryd cwsg, megys brad y caid,
Breuddwyd yw, braidd y dywaid.
Neithiwyr huno a wnaethym,
Braw a’m llas gael breuddwyd llym ye
Gwelwn ddarfod,. mewn gwiwlys
Fry, ei phriodi ar frys;
A fy mhen ar obennydd,
Accw y daw cyn y dydd,
Y’ ngolwg eang eilun,
Angel bach y’ngwely bun.
Tybiaswn o’m tyb isod,
Gan fy mun gynnau fy mod;—
Pell oedd rhyngof, trymgof trais,
A’i hwyneb pan ddihunais!
Och! i’r cloc yn ochr clawdd,
Du ei ffriw, a’m deffroawdd!
Difwyn fo’i ben, a’i dafod,
A’i ddwy raff eiddo, a’i rod,
A’i bwysau, pelenau pwl,
A’i fuarthau, a’i fwrthwl,
A’i hwyaid yn tybiaid dydd,
A’i felinau aflonydd |!
Cioc anfwyn yw’r dec ynfyd,
Cobler brwysg, cabler ei bryd;
Coluddyn ffals celwyddawg,
Cnyciau ci yn cneciaw cawg:
Mynych glep y menach-glos,
Melin wyll yn malu ’nos.
A fu sadler, crwper crach,
Neu deiler anwadalach? i
Oer ddialedd ar ei ddolef,
Am ’y nwyn yma o nef!
Cael ydd oeddwn, coel ddiddos,
Hun o’r nef, am hanner nos;
Yn mhlygiau hir-freichiau hon,
Y’ mhlith deifr, y’ mhleth dwyfron!
A fu erioed afar waeth,
Wlad Eigr, i weledigaeth? i
Etto rhed atti ar hynt,
Freuddwyd, ni’th ddwg afwyddynt.
Gofynir i’m dyn, aur do,
A ddaw hun iddi heno,
I roi golwg, wir galon
Nith yr haul, unwaith ar hon!
CCXVII. I un o’r brodyr llwydion a gynghorasai y bardd i ymadael a’i gariad
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Cosbwr y marwol bechawd,
Casbeth genyf bregeth brawd!—
Pobty y bara peinioel,
Pibl weddi, almari moel;
Gosgedd gryglus, gweddus gwiw,
Gwas baglog mewn gwisg bygliw:
Llwgwr o bys y llygod,
Mair a glyw, nid mawr ei glod!
I bob dyn, dan ei atteb,
Y rhydd nawdd mwy na rhodd neb:
Suganai’r brawd i’m gwahardd
Mygr ddiwair, dan air, dyn hardd
Doedair enfys oedranfoel,
Wrthyf ff — yr hen arth foel î
“ Os bardd ydwyt i feinir,
Ysbas wawd mae’n ysbys wir.
Jawnach, heb gel, gan delyn
Moli Duw na mawlhau dyn,
Ar rinwedd y saith weddi
Pader teg, myn Pedr, i ti!
A phaid, er maint mawr-fraint Imair,
A’th gywydd, —iaith ddigywair!
Pawb a gasul ful foelrhawn,
Pibl iaith yn dwyn pobl i iawn;
Gesail o gylch, a heulrhod,
Geuwedd cloch am gywydd clod.—
Bydd yn un rhol ag Iolo,
Defod hardd, hen fardd y fro;
A wisg y munudiau certh,
Dew rawnbais du eirinberth:
Cais gry’S o’r maelus muloe? t,
Oered ei grefft ar dy groen.
Gwan iawnlon gwawd gwyndawd gwiw,
Gwenyn-llestr, nid gwan un-lliw;
Moel uriad o baradwys,
Morfran yr ysbryd Glan glwys;—
Ac yn rhwydd, dros y flwyddyn,
Cynydda’n gwaith da i ddyn.“
Ffriw dig Sain Dominig fwyn,
- Firwyth mawr un-llwyth meirinllwyn!
Bran ar led yn ehedeg,
A’i bryd ar nef dangnef deg;
Tafod cloch bres yn crefu,
Taer y dysg y toryn du.
Y gwas gwar yn gwarafun,
Cenau’r fall! ganu i’r fun!
Am warafun i’r fun fawl,
O’r brawd du oer-bryd dwyfawl,
Ceiliog i’r doniog dangnef,—
Calon oer i’r cul o nef!
CCXVIII. Y draenllwyn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 165 ↗
i’ Y Draenllwyn glas urddasawl,
Llety mwyn, lle tyfai mawl;
Mewn dail a rhisg i’th wisgwyd,
Mab ìledrithiog arfog wyd:
Mynych y symud maner,
Maith dy sud, anwylyd ner.
Mwyn yw dy gofl yn y mai,
Manod-lliw, gwell na mwnai
Doe yr eurfodd dwr arfau,
Teg floteiaeth yw’r dur tau:
Gweli ryfel gan d’elyn,
Gwae fi! ple’r wyt ti ond hyn?
Nid oes mewn man dy hanner,
Na’th draian, liw seirian ser:
Tores, fy nghrair, d’esgeiriau,
Twin ffyrnig, a’r tew- frig tau!
Dywaid, liw cawod ewyn,
Poen a’th ddug, pwy a wnaeth hyn?“
Ni’s gwn, o achos gwan wyf;
Dig a briwedig ydwyf!—
Onid carnfilain annoeth,
A mi ddoe yma, a ddoeth,
A bwyall droed afall, draw,
O’m cwr i’m lladd, a’m curaw:
A dwyn fy siop, a’m topiau,
A’r pigau cain, a’r main maul
Y fo’n llusgo’r naill esgair,
Gyda’i was,—gwae finau, Fair!“ '*
Tyfu cwrel i’th welais,
Tegach dy dop na siop Sais!—
Taw a’th ddigofaint, f’anwyl,
Ti a gei iawn, tegau wyl;
Lladd y taeog, a’i grogi,
A cherdd, gan farwed a chi!”
CCXIX. Y ceiliog bronfraith
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Mawr yw’r gelfyddyd, a maith,
Ar brenfrig a roi’r bronfraith,
Wybod dattod mydrglod mawl,
Yn y llwyni meillionawl.
Clo mydr, clyw ei ymadrawdd,
A chlo y can ni chlyw cawdd:
Modd y gwyr, medd a garai,
A merch a’i gwrendy yn mai.—
Y ceiliog, serchog ei son,
Bronfraith dilediaith loyw-don,
Dawn fad lun dan fedw, ei lais,
Deg loywiaith, doe a glywais.—
Ba ryw ddim a fu berach,
Blethiad ei chwibaniad bach:
Pylgain y darllain deir-lhth;
Plu yw ei gasul i’n plith.—
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o’i lwyn, a’i loyw floedd;
Prophwyd rhyw praff awdur hoed,
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
Pob llais diwael, yn ael nant,
A gan ef o gu nwyfiant;
Pob caniad mad mydr angerdd,
Pob cainge ar organ, pob cerdd;
Pob cwlm addwyn, er mwyn merch,
Ymryson am oreu-serch.—
Pregethwr, a lluniwr len
Per ewybr, pur ei awen;
Prydydd cerdd Ofydd ddifai,
Prif urddas mwynwas y mai:
Adlais lon o dlos lannerch,
Odlau, a mesurau serch.—
Edn diddan, a gan ar gyll,
Yn ngwisgiad angel esgyll,
Odid ydoedd i adar
Paradwys cyfrwys, a’i car,
O dre iawn-gof drugan-gerdd,.
Adrodd a ganodd o gerdd.—
Adwaen ef, o’i fedw nwyfoed,
Awdur cerdd adar y coed!
CCXX. I ferch a adawsai y bardd, — i’w hail ymofyn
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ddyn a’m newidiodd ddoe,
Wychdeg oedd yn fau echdoe:—
Dywsul hon a’m rhoddes i
Gair mawrsyth, er gramerst
Ni’s rhoddwn innau’n ddioed,
Er merch ni welais ermoed,
Er myned o wr meinwych
A’i benthyg i’r goedwig wych. —
Erchwch iddi, gwedi gwaith
Adolwyn, ddyfod eilwaith:
Ni wnaeth drwg a’i diwygiodd,
Haedded, a myned fy modd.
O’r holl ddrygau diau da,
Gwyr llawer, gorau’r lleia’;
O daw ’r ferch at ei pherchen,
Er dim a wnaeth nid gwaeth gwen:
Oni welant a wnelwyf,
Doed adre’ wen, didra wyf.
Trech a geisiodd o’i fodd fis,
Gwag ydoedd, nag a gedwis:
Ni chair elw, myn y ddelw-fyw,
O esgeulusrwydd, afrwydd yw!
O daw gwen, da oedd y gwaith
Drwy f’anwyl, adref unwaith,
Profwn, a mynwn roi mach,
O gellwn fod yn gallach,
Nid ai byth onid i’w bedd,
F’anwyl. o dan f’ewinedd.—
Ni chai fy myd enyd awr,
Dan ammod, rodio nemmawr,
Oni ddaw Gwen eiddig wyf,
Lliw manod, i’r lle mynwyf.
Ar fy mhen rhodden’ yrhawg
Benlhnyn o ban llwynawg;
Oni ddaw Gwen o ddeuair,
Dwyn tan i’m capan ei cair
A churo cwn a cherrig,
A fron ag amgarn a phig.
Toren’? li /arge? i a fu,
Mae’n fadws ym ynfydu.—
Os hon ni ddaw i’m gras i,
Os haeddodd, andras iddi! '
CCXXI. Yr anhunedd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 124 ↗
Y Ferch borffor ei thoryn,
Hir nid addefir i ddyn;
Annodd ym gysgu un-hun
Be canai Dewi ei hun!
Aeth ulw dros frig wyth aelwyd,
Oia gysgu ddu mau *dd wyd:
Anhunawg wyf, clwyf yw’r clo,
Anhunedd a wn heno
Mi ni ddeil swrn meddyliau,
Byth neud mul am beth nid mau,
Rhag llid, ac ni’s caf rhagllaw,
A gosyml ym ei geisiaw.
Nid amgen gwen a’m gweheirdd,
A Iwydda bun o ladd beirdd?
Dibwyll i’w bardd, hardd heirdd-ryw,
Dybio ei chael, — dibech yw!
Hael yn nhref am hail-win rhwydd,
Hoen gwylan, hunog aelwydd;
Gwyr luddias gwr i Iwydd-oed,
Gwrm ei hael, goryw ym hoed
Yfydd-gamp leddf y feddgell,
Diog i oed, pwyllog pell;
Hael am y parch ni’s archwyf,
Cybyddes am neges nwyf.
Diriaid y deil, heb ystryw,
Olwg ar wr, ail Eigr yw:
Digoll-wawd bardd digellwair,
Da ei chlod, di- uchel air.
Dyfr o bryd em byd o’m barn,
Dirfawr ei brys i dafarn;
Dihoffedd bryd a gwedd gwyr,
Dihustyng, da ei hystyr;
Diddig yn cynyg ciniaw,
Dig wrth y llatai, o daw:
Diddig ei phendeffgwalch
Wrth wyr y byd, bywyd balch,
Ni bu, nid oes i’n hoes ni,
Ni bydd debyg neb iddi;
Nid mor ddihareb neb- un
I’n gwlad ni, a hi ei hun.—
Yn hael iawn, yn hil ynad,
Yn heilio gwledd, yn haul gwlad;
Yn ennill clod yn anwyl,
Yn dda’ ei thwf, yn ddoeth wyl;
Yn rhy ddiwair ei hairioes,
Yn ddyn mwyn dda iawn ei mores!—
Tyfodd ym frad lleddfad llu,
Y wt cocth tawelddoeth aelddu,
Tegau iesin ddoethineb,
Teofach vw hono na neb!
CCXXII. I forwyn garu yn ieuanc
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Ferch mae rh’om annerchion,
Wisg rudd dâl, deurudd y don;
Ni bu’r beril, na’r lili,
Nith haul, gan decced a thi;
Na chalch ar blu mwyalch man,
Na r eiry ar fryn yr Aran! Fo
Ai byddar wyd, fy nghariad,
Ai ysgorn heb geisio gwad?
Os gweniaith y sy’ genyd,
Ni phery felly dy fyd;
Os rhyfig, ryw ffyrnig ffydd,
Er dybryd ar dy brydydd:—
Myn Deifr! mwyn yw dy ofeg,
Megir yn mhob tir ddyn teg.
I)wg urddau ar dy gerddawr,
Ni phery’r byd enyd awr;
Mal asgell gwalch dros ellyn,
Y’styr di ryw ’stori dyn.—
Pan el y gwallt hir-felyn,
A’i frig fal y caprig gwyn
A gorlliw’r aur o’r ddeurudd,
Ac yn grych mwnwgl a grudd, —
Gwrach a fyddi i’th dy tau,
’Och! Panwyl! a chlairch finnau!—
Edrych yn y drych dy dro,
A’th wy neb yn cethino;
Ni’th eilw cerdd, na thelyn,
Ni’th gar ar y ddaear ddyn:
Car y ddyn rhyfedd heddyw,
Tra fych i’th lewych, a’th liw.
Awn i’r goedwig, ewig wych,
A minnau yn garw meinwych:
Myn Lleuddad! o daw dy wr
Ar ffrwst ar ben fitorestwr,
Mae dwy-lys, mai adeiloed,
O daw i’n ceisiaw i’r coed,
Yn olrhain y rhain yr.haf
Y bydd mal Seth ab Addaf.
Herwr wyf yn nhor yr allt,
Berwa a wnaf am hirwallt:
Mae serch yn ’y mynwes i,
Meddyliwn am ei ’ddoli;
Rhag i ffyrnig ysbiaw
Ol y traed, na’u gweled draw.
Mis Ebrill, fal maes wybren,
Ucho yw’n parc uwch ein pen:
R ganodd mai a gwiail,
Y lwybrau yn dyrau dail.
Ofer yn yw dyn heb dad,
Oferach wyf o fwriad;
Aed yn un castell bellach,
Budd lawen, y fedwen fach!
CCXXIII. Traserch y bardd am riain
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Y Fun a wnaeth fwy na neb
O weniaith, do yn f’wyneb!
A’i lliw’n wynach na’r lliain,
A’i llun fal y Lleian fain!—
Od wy’ gul, a digalon,
Pe’i mynnai, fe’m helpai hon:
Ni fyn Gwen leihau ’mhenyd,
Ni âd bun newidio byd! î
Deliais gan ei hudoliaeth
Feddwl fal swmbwl, neu saeth:
Yr ydwyf, byd yr adwaen,
Yn dwyn haint, ni’m gad yn hen.—
Anfwynaidd iawn oedd feinir,
Deg wych, na ddywaid y gwir:
Fe fu ddeg o feddygon
I’m edrych, gwr brych gar bron:
Er hyn ni wyr fy anhun
Na’m haint, onid mi fy hun!
F’anwyl a edn a fynwy’,
Addaw “y myd, ni ddoe mwy:
Gweniaith y mae ’n ei gynnal,
Diweniaith wyf, dawn ei thâl. —
F’anrhaith! oes ym obaith mwy,
F’anwyl, — dywaid a fynwy’—
O chaf oed, iachâ i adwen,
Oni chaf oed, ni chaf wen!
CCXXIV. Ymddiddan a’r brawd ffydd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
A’r rhiain a fydd, ffydd ffals-dduH,
Ar hyd yr holl-fyd yn rhull:
Pwl gwfaint, pobl o gyfoed,
Pob ddau dan yr iau a roed. —
Yna cefais druth atcas
’Gan y Brawd, a’r genau bras;
Yn ceisio, nid cyswllt rhwydd,
Fy llygru â’i haerllugrwydd.
Llyma fal y cynghores
Y Brawd, a’r prudd dafawd pres,
“Ystyr pan welych y dyn,
Ebrwydd yr a yn briddyn;
Yn ddilys yr a ei ddelw
Yn y ddaear yn ddielw.”
“Cyd el y dywarchen Moch,
Yn bridd hagr, y Brawd du-goch,
Nid a llewyrch cnawd mirain,
Pryd balch, ond yn lliw’r calch cain.”
“Dy serch ar y ferch fein- loyw,
Oreu-wallt, a’r hirwallt hoyw,
Hyn a’th bair i’r pair poeth-groen,
Ac byth ni’th gair o’r pair poen!”
Yna dywedais wrthaw,
Y Brawd du ei bryd, bryf taw.
“Twm y w annheilwng i ti
Tristhau y dyn tros Dewi;
Er dy lud, a’th anudon,
A’ ch eiriau certh, a’th serth son.—
Mefl ym, o gwrthyd Dafydd
O rai teg, ddeg yn un dydd!“”
CCXXV. I ferch a roesai gollen i’r bardd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Trymluog oediog ydwyf,
Trwstan o ddyn, tristhau ydd wyf;
Am garu, gwn dynu dig,
I’m nodir yn enwedig!—
Cam oedd i wen, gymmen gu,
Fy nhroi a *nhor i fynu:
Trwsio ym, nid er traserch,
Ddwy gollen o’r feinwen ferch!
Ac eraill, a’m digarai,
Ym a’i rhoes yn mynwes mai:
Collwyni, nid call annerch,
Nid arwyddion mwynion merch
Gwae fi o’r tal am garu,
Ddwy flynedd oferedd fu.—
Dy garu, ddyn deg eirian,
A’th golli yleni ’n lan!
Os er ysgorn, neu fenair.
Y gwnant â^mi, gwae fi, Fair!
Dialedd, drwy fy ngweddi,
A ddel, Gwen, i’th dalcen di!
Os gwra, ddyn wisg euraid,
Yn dy blwyf wrth fodd dy blaid,—
Dilyd, ni wna dy dylwyth,
Ac yn iach yt bellach bwyth!
CCXXVI. Y drych
Golygiad modern Abertawe: cerdd 132 ↗
Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra,
Na bai deg f’wyneb, a da,
Oni syniais yn amlwg
Y drych, — a llyna un drwg!
Ym y dywed, o’r diwedd,
Y Drych, nad wyf wych o wedd:
Melynu am ail Enid,
Y mae’r grudd, nid mawr y gwrid;
Gwydr yw’r grudd, gwedi’r griddfan,
A cblais melynlHw ach lan.
Odid na ellid ellyn
O’r trwyn hir! — pand truan hyn?
Ond diriaid fod llygaid lon
Yn dyllau terydr deillion,
A’r ffluwch bengrech ledechwyrth,
Bob dyrnaid o’i said a syrth!
Mawr arnaf, naid direidi,
Y mae’r naill, ar fy marn i,
Ai bod y grudd yn brudd-frych,
Natur drwg, ai nad da’r drych.—
Os arnaf, drwy naws hirnwyf,
Y mae’r bai, — yn farw y bwyf!—
Os ar y drych, brych o bryd,
Y bu’r bai, — wb! o’r bywyd!
Lleuad las gron gwmpas graen,
Llawn o hud, llun ehedfaen.
Bid freuddwyd, byd afrwydda’,
Breuder yw, a brawd i’r ia:
Hadlyd liw, hudol o dlws,
Hudolion a’i hadeilws,—
Ffalswr, hudolwr dulas,
Fflam fo’r drych mingam meingas Y
Ni’m gwnaeth neb yn wyneb-grych,
Os gwiw coeliaw draw i’r drych,
Ond y ferch fwyn o Wynedd,—
Da y gwyr ddifwyno gwedd!
CCXXVII. Yn dangos i’r bardd heneiddio
Golygiad modern Abertawe: cerdd 82 ↗
Curiodd anwadal galon,
Cariad a wnaeth brad i’m bron!
Gynt yr oeddwn, gwn gan- clwyf,
Yn oed ieuenctyd, a nwyf,
Yn ddilesg, yn ddiddolur,
Yn ddeiliad cariad y cur
Yn ddenwr gwawd, yn ddinych,
Yn dda’r oed, ac yn ddewr wych!
Yn lluniwr berw oferwaith,
Yn llawen iawn, yn lawn iaith;
Yn ddogn o bwynt, yn ddigardd,
Yn ddigri’, yn heini ’n hardd;
Ac weithian, mae’n fuan far,
Edwi *dd wyf,—adwedd afar!
Darfu’r rhyfig a’m digiawdd,
Darfu’r corph, — mae d’arfer cawdd;
Darfu ’n llwyr derfyn y llais,
A’r campau, dygn y cwympais;
Dariu’r awen am wenferch,
Darfu’r son am darfwr serch!
Ni chyfyd ynof cof cerdd,
Cynghyd llawen ac angerdd,
Na son ddiddan am annun,
Na serch byth, oni’s eirch Bun!
CCXXVIII. Awdl o folawd i Ddeon Bangor, sef Hywel ab Tudur ab Ednyfed Fychan
Golygiad modern Abertawe: cerdd 8 ↗
Arglwydd o iawn swydd, un sud More;: n
A Dewi yn ngwlad yr Hud,
Cybi nefol ei olud,
Cymdeithion Seimon a Sud.
Sain Sud un ffunud, ffyniwyd — o genedl
Y Gwinau Dau-freuddwyd;
Sain Silin, Ffransis aelwyd,
Salm Sant Elien, gwr llen llwyd.
Teyrn llwyd, prophwyd o hil Bran, — mae un gwr
Yn Mangor mewn gwn pan;
Ty geirw galch teg, ei organ,
Tant cor, heb attynt a’i can.
Ni chan fy nhaiawd wawd wenieithaidd,
Ni chair llinodr wr yn ochr lluniaidd,
Ni chel i Hywel, loyw garuaidd — hvybr,
O bu’r ddawn ewybr barddoniaidd.
Neirthiad a gefais, didrais dwy-draidd,
Ni’m gad gan ruad gad Gymrffaidd,
Ni’s erfyn o brudd, ac ni’s arfaidd — draw
Naw, o praw’ lidiaw, Ner preladaidd.
Neu’r gaiff y’ Ngwynedd, hoywfedd hafaidd,
Neu’r gar a’i dieingl, ner gwrdâaidd:
Nid byr fawl gwrawl a gyraidd — yn Mon,
Naf beirdd yw’n Neon barddoniaidd,
Nid bas cyweithas gwr urddasaidd,
Neud bardd i neddair, ffyrf-air lîurfaidd:
Nid barn don yw hon, wr henaidd — y’ mryd,
Nid byd heb wendid pryd prydyddaidd.
Nid byw, fal fy llyw gloywryw glew-wraidd;
Nen dan seren a dawn oes wraidd;
Nid un gwalch hoywfalch hyiaidd — llygeidfyw
Ac yw cyw y dryw, caeau a draidd.
Nid un claer araith dyn clerwraidd,
Nid llwybr gwr ewybr yn garuaidd,
Nid un bryn mehyn mabaidd — a hynaif,
Nid un gwenithgnaif a byddaf Haidd.
Nid un gwin noddfin a mynydd-faidd,
Nid un y paun-gnu o blu, a blaidd,
Nid fel Bleddyn, ddyn diburoraidd — ras,
Can eiddilwas ferw Cynddelwaidd,
Ni wyr cymraw llwyr Cymro llariaidd
Rhoddi i eirchiad yn Rhydderchaidd,
Dwysgel, eithr Hywel athrawaidd — Ganon,
Naf Mon, gloyw Ddeon arglwyddiaidd.
CCXXIX. Awdl foliant i Ieuan o Fon
Golygiad modern Abertawe: cerdd 7 ↗
Non mai, neud eriai, dar-feirdd iraeth,
Neud meinwyrdd coedwyrdd, wydd weuyddiaeth,
Neud meinwedn yw gan edn ganiadaeth — hawdd,
Neud mi a’i heurawdd, neud mau hiraeth
Neud er na chafwyf loywnwyf luniaeth
Newyddion roddion ym Mon, a maeth;
Neud eisiau heiliau, hael wasanaeth — byd,
Neud heb anwylyd haelion alaeth!
Neud temlau, byrddau beirdd ysgafaeth;
Nid teulu eirian teuluwriaeth:
Namyn hyn, Duw gwyn, gweinidogaeth — serch
Nad ymannerch merch, mawrchwant nid gwaeth!
Na welaf Ieuan, ddifan ddofaeth,
Na wyl yntau fi, rhi rhywogaeth
Nid ay, anwylaf, o’i alaeth, — er braw,
Nid wyf hyf hebddaw, ddifraw ddofraeth!
Gwyllt wyf, gwelwyf gwalyf maboliaeth,
Gwenwynwys ynof, gwin wasanaeth:
Gwedyf gwydn i’m tryf tref tadogaeth — braw,
O gyhoedd wylaw gywyddoHaeth!
Gwrddgae yw’r llei mae, mi a’i rhydraeth;
Gwarae o feddiant gwir Ofyddiaeth:
Gwir mai cryf llei tyf tafarnwriaeth — hoed,
A gwydr egin coed,—gwiw diriogaeth!
Gwelaf yn benaf ei unbenaeth,
Gwalch o hil Lowdden, — gweilch helyddiaeth!
Gwared-feirdd ydyw, gwirod-faeth — cerddawr,
Gwawr a garodd awr y gerddwriaeth
Gwas diog fyddaf i’m gwesdeiaeth,
Gwastad erbyniad yw’r aur-benaeth:
Gwanwyn gwin ancwyn y fu, caeth — fyddaf
Gauaf, cynhauaf, a haf hyfaeth
Dur grwydr yw dor brwydr ar dir breudraeth — mor,
Da cadwai awdur, deg cadweidiaeth;
Da a fyn i’m gnawd, di-ofn i’m gwnaeth:
Dor difraw ragor, Deifr warogaeth.
Difa ol eiriol arial penaeth;
Di-fedd pob rhai erfai rhydd luniaeth:
Dyfodiad, trwsiad treisiaeth, — a gynail
Defodau hyhael hail ehelaeth
Difwl, difwgwl bendefigiaeth,
Diball, dyn arall nid un wriaeth;
Difai dor erfai, dewr arfaeth — drud chwyrn,
Difar eur-deyrn, a dwfn wrdaaeth,
Da fygylarf gwyr lyr filwriaeth;—
Difygylodd fi, — da fugeiliaeth
Dwbled ym rym rwymedigaeth — lluryg,
Diblyg, mad edmyg yw’r mau dadmaeth
CCXXX. Duchan i Rys Meigen, yr hwn a syrthiodd yn farw pan a’i canodd D. ab Gwilym yn ei wydd, am i Rys ganu yn warthus iddo yn gyff-cler yn llys Llewelyn o Emlyn
Golygiad modern Abertawe: cerdd 31 ↗
Gun lledynfyd, llydanfai— y sydd,
Nid un- swydd a Gwalchmai;
Cwn pob parth ei cyfarthai,
Cymyredd na cherdd ni chai,
Carben Rhys Meigen magai ddigofaint,
Ddu geufab, lle byddai;
Carwden ci a rodiai,
Carodyn cerdd meiddlyn mai.
Cariad lllwy rhuddiad yn lle’i rhoddai — bres,
Nes cyffes ni’s caffai;
Cerdd wermod a ddatodai;
Carn âp claf, ni wnaf a wnai,
Cerdd-dlawyd, brynhugcnawd hacnai — basdynwas
Haw ystynwefl asgai;—
Can-mil chwil a ymchwelai,
Cau was gorflwng rhwng pob rhai:
Carp trwsgl, cwyn cwrwgl, can’ cârai — o’i lawdr
Hen leidryn go íawai!
Cyfraith fudriaith a fedrai,
Coeg ruwr bas, torwr tal,
Gwas cas coesfrith, chwith chwythleidr lledpai — gwan;
Gwyn ei fyd a’i crogai!
Gwasg dasg dysgl-draul cawl cowlai;
Gwar gwrcath, gwydn chwilcath chwai,
Cras enau geiriau ni ragorai — riain;
Y truthain a’i traethai:
Croesanaeth croyw a soniai,
Crys anhardd taer flawdiardd tai.
Cyfrwys diawen cwys, cyd ceisiai — gwrdd
A gwobr, ni’s gallai
Cyfryw damwain, cyfrwy dimai,
Cyfrif ef bob cyfryw fai.
Gwir eilgorph reidus, nid gwrol Gai — Hir
Hwyr yn mrwydr y safai;
Gweren soegnen a sugnai,
Gorwag groenyn lledryn llai.
Gwilliad anwastad westdai, — llifiedig
A llaw fudr a daflai?
Gwellaif diawl, gwae lle delai!
Gwalliawdr llwfr, cloddiwr clai.
Clafaf anllataf latai clafesau,
Yn arfau anerfai;
Ci siettyn yw’r cas attai;
Coes gwylan craig, treiglwraig trai.
Cecrwawd, ci cardlawd cecyrdlai, — cwthrsigl
Hir dreiglest-sigl hwyrdrai
Cafn latys ei nam flotai,
Cafn rhisg gysegrwisg a sai.
Gwirawd o waddawd a weddai — i’r pryf
Anaergryf oen oergrai:
Gwall ball, bell rhwysg cocys ciciai;
Gwyllt hyllt hyllt hoen garw troen trai.
Gwaith ymgeiniaith a ganai — i bawb,
Heb wybod beth a fyddai:
Gwythen llygoden geudai;
Gwaetha’ Ilo bawa’ lle bai,
Glythlyd gwefl esgud gwiw floesgai — gan gwrw,
Poen chwidwrw’ pan chwdai
Gwr a ddettyd gardotai,
Garw blu, ni bu gwr âb lai, Go
Cau reidus bwysdus, bosdiai — â’i dafod
O Deifi hyd Fenai;
Cor oediog, neb ni’s credai,
Cwr adain heb nain, heb nai,
Rhys Meigen! gwden dan gedyrn — grogwŷdd
Fydd dy ddihenydd, hynaif erddyrn;
Rhyfiedig a dig y dym — ei ddannedd,
Rhysedd mehin wledd, wydnwedd wadnwyrn.
Rhygyn a fyn gogoeg gegyrn — rhwth-fol,
Rhuol, rhwd heol, nid rhyw teyrn:
Rhyglfin cynnefin cynhiawfyrn — brynig,
Rhyfig ar faeddgig, nid ar feddgym.
Rhuthrai wer, a mer mawr esgyrn — ceudawd,
Rhythgnawd cyn diawd, myn Cyndeyrn! î
Rhyfedd yw’r cynyw cneyrn — ben gnawdser,
Rhefr goch, gloch y gler, galchwer gilchwyrn.
Rhediad dau lygad di-lugyrn — chwilcath,
Rhys goegfrys gigfrath fapgath fepgyrn:
Euog drwm lleuog drem llewyrn — wydnlwyth
Anwiw ffriw heb ffrwyth, golwyth gelyrn,
Rhwydd lodr anheodr yn heiyrn — rhwym-gnawd
Yn grin o gysgawd groen ac esgyrn 1
Anwr yn sawdwr ansedyrn — yn rhaid
Amnaid delw danbaid, nid ail Dinbyrn!
Er na wypud llud llawdr gachsyrn — osgryn
Nag awd), nag englyn Ueidrddyn lledrddyrn;
Gwddw’ ansyberw chwerw chwyrn — ag afrifed
Y gwyddiad yfed gwaddod tefyrn.
CCXXXI. Arwyrain Llewelyn ab Gwilym Fychan, o Emlyn, a’r Cryngae yn Nyfed, yswain; ewythr ac athro y bardd, — gwr cyfarwydd ar fesurau y ddwy gerdd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 5 ↗
Llyfr dwned Dyfed, dyfyn — ar windai
I randir Llewelyn;
Llannerch, aed annerch pob dyn,
Lle twymlys Un at Emlyn!
Llyn i Barc Emlyn, camlas — hyd Teifi,
A’r tefyrn ym mhob-plas;
Lludded gerdd, lladdiad ei gas,
Lle bo’r orddod, llwybr urddas,
Llwybr urddas bar bras yn bwrw bryn — eglur
O glais Lloegr a Phrydyn;
Llei del yr hollfyd a dyn,
Llaw hael, at henw Llewelyn!
Llewelyn a’i myn o myui, — a grym,
Llawen-fab Gwilym, erddrym wrddri!
Llai cymyrawdd cawdd yn coddi — na chaeth,
Llywodraeth a wnaeth, a maeth i mi.
Llong-lwyth o dylwyth hyd Wyli, — a draidd
Llariaidd, brawdwraidd byd Bryderi;—
Lîafurawdd berthawdd i borthi digeirdd;
Llys Emlyn y beirdd, Ile heirdd yw hi!
Lle y gnawd gwasgawd, a gwisgi ddillad,
Llety anghauad, wastad westi;
Lle cynnefin gwin, a gweini — heilgyrn,
Lle chwyrn llwybr tefyrn, 11 e beirw Teifi.
Lle dichwerWj aeserw o erysi — bryd;
Llei chwerw esbyd byd heb oedi
Lle maith, yn llawnwaith, llenwi — buelin,
Lle mae uiuddwin llym i feddwi,
Lle o’th nerth, Dduw ferth ydd a fi drachefn,
Lle anarloesdrefn llanw aur lestri;
Llys erwyr a wnaeth llu seiri — yn falch,
Lliwgaer yn lasgalch, Ilugyrn losgi.
Lle mae gwin Ffraingc, faner bali, dodrefn
Llawna’ dianaf daioni — mynud
Lluniaeth ffraeth, ffrwyth dud glud glodfori,
Llywiawdr, ymerawdr meiri — hyd Elfed
Llyw yw ar Ddyfed, llawer ddofi;
Llwybreiddwlad, gariad Gwri — wallt-euryn,
Llewelyn drawsdyn a a drosdi.
Llonglwyth i dylwyth, hyd Wyli a draidd,
Llathrlaw osb curaw y{beri weyll,
Llid Pyll, arf dridryll, arfod Rodri.
Llinon- gadr baladr Beli — ynghyngaws,
Llwyr naws Llyr hoywdraws, llew o Rodri;
Llawen-grair a’n pair yn peri — llwydfoeS;
Llawenydd a roes, a moes i mi.
Llewelyn derwyn i dori — aergad,
Llaw fad, aur rhuddiad, a ŵyr rhoddi;
Llwydda, na threia, Un- a-thri, rhagllaw,
Llywiaw, ddawn iddaw, Dduw i’w no(îdi.
CCXXXII. Awdl farwnad Llewelyn ab Gwilym Fychan
Golygiad modern Abertawe: cerdd 6 ↗
D** ED a siomed, o symud — ei mawredd,
Am eryr bro yr Hud;
Doe wiwdymp yn dywedyd.
Hy ddawn fodd, a heddyw *n fud! î
Cyn hyn Llewelyn olud — tiriogaeth
Ty rhagof ni’s caeud;
Agwrdd weydd y gerdd oeddud,
Agor i mi, y gwr mud!
Gwawr nef a llawr, neud llef alltud — yw hon!
Hyn oedd ddygn na’s clywud;
Gwae fi, geli pob golud,
Gwael fy nghyflwr am wr mud!
Pryd glwys, prudd dadwys prydud, — pralT awdur,
Prophwyd aur balch-syth drud;
Prif dda-wawd, prawf ddywedyd —
Prydydd ieithydd, na fydd fud!
Fy ngheinllyw di- fyw, Deifr helcud — baham
(Bwhwman deigr neud glud)
Fy nghanllaw, i’m gadawud.”
Fy nghar am aur, fy ngharw mud!
Pendefig, gwledig gwlad yr Hud — is dwfn,
Ys difai i’m dysgud,
Pob meistrolrwydcl a wyddud,
Poenwyd fi er pan wyd fud!
Neud dwfn yw fy neigr, nid di-fud fy llef
Am fy llyw cadarnddrud;
Nid diboen na’m atebud,
Nid hawdd ymadrawdd a mud!
Gwae fi fod elwglod, a’i glud — ni ballai,
Heb allu dywedud!—
Gwn ofal dalm nad oeddud
Fy ngawr air mawr am wr mud!
Gwae fi, o ddwyn ail brwyn brenhinoedd! lai
Llywodraeth y bobloedd!
Lles tyrfa, llias torfoedd,
Llawen, gorawen gwr oedd!
Gwae fi, Crist Celi! caled — yw rhyfig,
Ond rhy-fawr i’m cosbed.'
(Gwymp oeddym oll cyn colled)
Gwympo crair holl gampau cred?
Gwae fi, weled trwydded drwg
Neuaddau milwr twr teg,
Annawn oes, un yn ysig,
Ar llall, do gwall, yn dy gwag!
Gwae fi, Crist celi! calon doll — yw’r fau,
Wyf fyfyr am ddygn-goll;
Campus eirf, cwmpas arfoll,
Cwympo Nudd y campau’n oll!
Gwae fyfi fy rhi, rhoi darpar — ar Dduw,
Ddwyn cadarn-walch cerddgar;
Nid rhodd gwyl, neud rhwydd galar,
Nad rhydd ym gerydd am Gar!
Dihareb yw hon, dywirir — im’ mro,
“A laddo a lleddir,”
Diben o hwn a dybir,
Di baid, gwae! a Duw boed gwir!
A wnel argae, a gwae, a gwall Deau
A gaiff ddial guall;
A wnel drwg, dreigl wg angall,
A’r llaw, ef a ery’r Llall.
Nid diofal ffurff-dal ffer
I’r gelyn a wnel galar;—
A laddo ddyn a’i loyw-ddur,
I luddias hoedl, fo leddir,
Heilbryn flodeuyn diwyd, — a dderyw
I ddiwedd cadernyd;
Llwyr yr aeth, cyngaeth cyngyd,
Haearn a chof barn y byd!
Gwr ydoedd Llewelyn, gwir ganu prudd,
Cyn rhoi pridd i’w ddeutu;
Pwynt rhyfel, heb ymgelu,—
Penrhaith ar Ddyfed faith fu.
Lles bychan, buan yw bod — yn rhull- falch
Ar hollfyd, fal ffurf-rhod;
Llew syberw, Iiios wybod,
Llas ag arf glas gors y glod!
Gwr, nid gwas a las o loes archoll — I’ir,
A diriaid fu’r dygn-goll!
Gwrawl hawl mewn helm drwydoll,
Gair oer am y goraig oll!
Gwael-íyrn gwawl defyrn, gwyly defawd — gwaith,
Gwaeth bellach fyfyrdawd! î
Gwae ’r cedyrn gwag, a’u ciwdawd,
Gwegru gwyr gwedi gwawr gwawd
Llithr-ddagrau byd mau bod chweg, och allel
A chyllell faeliereg!
Llawer och dost ar osteg,
Llathr erdyrn, Iladd teyrn teg!
Salw a thost am ior cost-rith,
Selerwfn bwrdd-drin beirdd-dreth;
Cwmpas reddf campus roddiaeth,
Cwympo gyd campau byd byth '
Llaw olchwawg farchawg Llewelyn fo’th las
I’th lys deg yn Emlyn!— î —
Llai yw’r dysg, medd lawer dyn,
Llafr i’th ol lyfr a thelyn.
Pand truan oerwan am eur-was — yw hyn,
Honni mawr alanas!
Cair arddelw cyfan urddas,
yrdd a glyw cwyn llyw cyn llas.
Cyfiawnder fu ef, cyfundeb — ceirdd aur,
Cerddwriaeth doethineb;
Cywirdant pob cywirdeb,
Corf clod, — nid un wybod neb!
Os marw f’ ewythr, ys mawr — o ryfig,
Aur aerfa Cymru fawr —
Nad oeddwn, ei nai diddawr,
Nad af y’ngwyllt — -Daw fo ngwawr!
Wylais lle gwelais lle gwely f’ f’arglwydd,
Ond oedd fawrglwy’ hynny?
Gair atteb? Wyf gar ytty,—
Gwr da doeth, agor dy Dy!
Gwae’r nai a garai, ac a ery — gweled
(Gaelod cof a’m deffry)
Y llys fraith yn arlloes fry,
Ar llysdeyrn yn arlloesdy!
Llys gwin ag emys, ddigamoedd — gyllid
O’ th golli, ai gwnaddoedd;
Llys naf aur, lles niferoedd;
Llyw elles, pe byw, — llys pawb oedd!
Dall fydd byd, dull gwyd, gwedy — dwyn llygad
Oedd i Loegr a Chymry:
Dwg i’th wledd, ni’m gomeddy,
Dor gwyr, da freyr Duw fry!
Truan, ac eirian a garo dad],
Aed i Landudoch heno:—
Doethineb, neud aeth yno,
Diwyd grair, dan dywod gro!
Och! Och y Ddol Goch gwedi gwyl — barchus,
Am dy berchen anwyl;—
Och! wedi ’r ddwy och, ddi-wyl,
Och! pe nid och — Pwy nid wyl!
Och! ddwyn Llewelyn ddoeth — a ddyweda
A ddoded o’i gyfoeth:
Och rydd a roddaf dranoeth
Och beunydd! ei ddydd a ddoeth!
CCXXXIII. Cof Angharad Hael o Fuallt, gwraig Ieuan Llwyd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 9 ↗
Didyr deigr deifr a adafael — o’m drem
Am drymed ym gof-gael
Dodiad hoyw Angharad Hael
Dan ddaear,—duon ddwyael
Aelaw yw nad byw, huail — win addfed
Awenyddfeirdd adfail;
Aelaw ar waywsyw wiwsail,
Aelaw fu o’i hoywlaw hail!
Heilwin fu, medd Iu leufer, cain Indeg,
Cyn undydd breuolder;
Hoedl dangnef neb ond nef Ner,
Hudol yw’r hoedl i lawer!
Llawer bron um l.on yn Mhenardd — a hyllt,
Ail Essyllt, wiw Iwyshardd;
Llefain yw bery ofer-fardd;
Llwyr wae ni chwarae, ni chwardd!
Ni chwardd cywir-fardd cywirfad, — cwyn uthr
Can euthyw Angharad;
Neu thyr ’y mron, eithr ’y mrad,
Neud llif geirw; neud llef girad!
Rhy irad ddygiad ddigudd — fu ormod
(Drem fwyar-falch wymrudd,
Rhieiniaidd fun, rhanodd fudd!) l)
Rhwymo derw rh’om a’i deurudd!
Deurudd-las, feinwas wyf yn wael — er Gwen,
Aur ganwyll mewn urael,
Ddarfod dyfod, dwfn ddeigr- gael,
Derfyn hir diweirfun hael!
Haelaf, digrifaf goreu fun y’ Nghaer
Fu Angharad feinllun!—
Hoen ffysg dda ddysg, nid oedd un,
Huan wybr, a hi nebun!
Pwy nad am aur fun, mor fyr — ei hoedlddydd,
Hidl-ddeigr yn oedd Rhagfyr? i
Pall radfaeth pwyll ireid-fyr,
Pefr nith haul, pa fron ni thyr! •
GorhoíTder eurner arnad, — Dduw ddofydd!
Yna ywy ’ngherydd am Angharad!
Gyflawned y rhoest gyfluniad — diwael,
O ddawn gyhawn i gael, wr hael rhad!
Gan yt fynu, bu bwyll wastad — ei dwyn
Yn rhy ebrwydd frwyn, yn rhy-brudd frad;
Gorddugost, rhydost rhediad — ei hoedlddydd,
Gwyr ei charennydd, y Dofydd Dad!
Gares gweilch eurfeilch eurfad, — im’ ys dig,
Gorwyr i Gynfrig, gorf brig bragad;
Gwawr hoen, a gorhoen Eigr gariad — Uthr;
Goruthr yn un rhuthr fu f anrheithiad.
G orfre bron hoywdon ehediad — Gwyndraetb,
Gwyr ei brodyr maeth alaeth eiliad;
Gwrygiant urdduniant, urddoniad — facwy,
Gorugodd Lowy, gwreigiaidd leuad.
Gweddeiddgar gymmar geimiad, — ’y ngarthan
Gwiw awchdan Ieuan, cyflafan cad;
Gwaetgoel saffwy, rhwyf rhwym gwlad, — a’i gafael,
Gwawdgael llwyd gun hael, lledw gynheiliad.
Gwrthwyneb galon garthiniad — gytbar,
Gwrddgar, gwingar ddor, gwen-gerdd uriad;
Gofalus fron, llech gaffaeliad, — a’m cawdd,
I mi a neidiawdd o’i mynediad
Goleu-ddyn a’i hyn o hâd — bonedd-faith;
Goluddiai wagiaith, gwyl ddiwygiad:
Gwaisg i’m clwyfawdd, cawdd coddiad — i’m galwer;
Gwelir ar lawer galar Hwiad.
Gwenynen addien, a wyddiad — ei dawn,
Gwawr Garedigiawn, garw ei dygiad!
Gwrm-ael, fun arael, fain irad,— nid gwiw
Gwawr Eigr unlliw, ar y gaer wenllad
Gwaisg i’m clwyfawdd cawdd coddiad, —
Gwedd eiry frisg wisg wellt, gwawr Fuellt fad!
Gweddig argywedd, ddeigr-gawad a’m gwlych,
Gwyrdd ’ngrudd a chrych, fawrnych farwnad!
Gwenwyn ym ei chwyn, nychiad — i’m ystlys,
Gwanas gywirlys gwn ysgarlad!
Gwaith drwg i’r olwg hir wylad — y’nghaeth —
Gwaith cyfing hiraeth Cof Angharad!
CCXXXIV. Marwnad Rhydderch ab Ieuan Llwyd o’r Gogerddan
Golygiad modern Abertawe: cerdd 10 ↗
Doe clywais, mi geisiais gel,
Dair och ar lethrdir uchel;
■, Ni feddyliwn, gwn gan- och,
Y rhoe fyth wr rhyw fath och!
Ni bu i’n gwlad, rhoddiad rhydd,
^1w»^/ “Na llif cwyn, na llef cynnydd,
Na meingorn uwch llethr mangoed,
Na chloch uwch na’r och a roed!
Pa dwrwf yw hwn, pryderoch?
Pefr loes! Pwy a roes yr och?
Llewelyn, o ^syddyn serch,
A roddes hon am Rydderch
Fychan, gerllaw ei lan lys;
Ffydd-frawd Rhydderch ddiffodd-frysy
r y.(lvni t* ^-^ ^^^ Embin, ei dyddyn dig!
^ ^ * Galaeth mamaeth am emig
Och! gwr a fai’n awch garu
Ei Gar o fawr alar fu!
A’r drydydd och, gloch y glyn,
Oll yw alar Llewelyn!
Pan guddiwyd, syn freuddwyd serch,
Gwin roddiad genau Rydderch
Darfu, gwn i’n dierfir,
Ben Deheubarth wen yn wir!
Darfu’r oes dirfawr o fedd,
Darfu daearu dewredd
Gorwyn alarch y’ ngwarchae,
Gorwedd mewn maenfedd y mae!
Natur o boen, nid hwy’r bedd,
Syth drud-falch, na saith droedfedd!
Pregeth ryfedd oedd weddu
Dan hyn o dywerchyn du,
Gwybodau, synhwyrau serch,
Gwmpas rodd, gampus Rydderch!
A’i giwdawd, digollwawd gall,
A’i gryf-gorph gwyn digrif-gall,
A’i gampau, chwedl doniau dawn,
A’i lwyddiant, a’i oleu-ddawn,
A’i ras gyweithas ieithydd,
A’i glod — Och, ddyfod ei ddydd!
Trwst oedd, oer trist, ddaearu ^*^ cyciy y
Trugarog o farchog fu!—
Trugaredd am symledd serch,
A roddo Duw i Rydderch!
CCXXXV. Marwnad a wnaeth D. ab Gwilym pan glywodd chwedl anwir am farw ei gyfaill Madog Benfras y bardd
Golygiad modern Abertawe: cerdd 20 ↗
Rhidyll hudolaidd rhydwn—
Rhyw fyd ar ei hyd yw hwn
Y macwy llawen heno,
Hyfryd ei fywyd a fo,
Breuddwyd aruthr ebrwyddarw,
A dry yforu yn farwy
Dan amgen awen ewybr,
Pefr orgraff oleu-braff lwybr,
Am Fadawg, fardd-lef efell,
Benfras, ni bu awdl-was well!
Bu ddewr hy, ni bydd yrhawg,
Ormail mydr, wr mal Madawg,
O fedru talm o fydroedd
O gerdd dda, ac arwydd oedd,
O ddwysgwbl gerdd a ddysgaid,
O ddigrifwch Mwch, a phlaid;
O gariad, yn anad neb,
O ddoeth enw, o ddoethineb!
Deng-nyn y’ mlwyddyn ym oedd
Dwyn Madawg, dawn ym ydoedd
Uthr yw gwayw athro gwyr,
Dysgybl o’r beirdd nid esgyr!
Pell eglur benadur bwyll,
Paun da-ddadl, pand oedd ddidwyll? i
Cad taradr, ceidwad tirion,
Canwyr y synwyr a’r son!
Cwplws caniadgerdd Merddin,
Cwpl porthoedd, golygoedd gwin;
A thampr o ddewis mis mai,
A ihrwmph y gerdd, a’i thrimplai;
A chor y ferch, a’i chariad,
Coprys cerdd, a chiprys cad.
Pefr organ, degan digeirdd,
Penaeth barddoniaeth y beirdd!
Dihoyw-fro beirdd, dihyfryd,
Di-gywydd y bydd y byd!
Diaml o aur ni’s talai,
Di-orddail fydd manddail mai
Di-gerdd eos befr-dlos bach,
Dwf acses deigr difocsacli:
Dibarch fydd bedw ni’s edwyn,
Da beth oedd, diobaith in* I
Cwpl ewybr, capel awen,
Cr pawb wrthaw, gwaglaw gwen:
Gwladaidd, oedd gwledydd eiddyw,
Wb i fyd! na bai ef byw!
Gwae fardd-lu gwiw ofer-lef—
Gyda Duw y gadwyd ef!
CCXXXVI. Marwnad Gruffydd ab Adda ab Dafydd y bardd, a las yn Nolgellau; yr hwn a ganodd o gylch B.A. 1290
Golygiad modern Abertawe: cerdd 21 ↗
Wells mawr gaer mur gwyngalch,
Lle bu berllanwydd llu balch,
Bod yn galw is y fal-wŷdd
Eos yn nos, ac yn nydd!
Cethledd-lais edn, coeth loywlef,
Cain nyth, clo cerdd cyw o nef:
Eurwawd-Ief ar fedw loyw fainc,
Orlais goeth ar irlas gaingc!
Gwedi del, gwawd a’i deilym,
Gwyllt seuthydd, llamhidydd lym;
O ddwystraul gwawd i ddistryw,
A bollt bedwar hollt bedw rhiw.
Cyd bai lawn dawn d’ awenydd,
O ber-ffrwyth gweddeidd-Iwyth gwydd,
Ni bu cerdd íydr, dihydr-hoed,
Heb loyw degan blodeu-goed.
Powys, wlad íTraethlys ffrwythlawn,
Per heilgyrn, pefr defyrn dawn,
A oedd berllan gyfannedd
Cyn lladd doethwas a glas gledd!
Bellach y mae, gwae gweddwdawd,
Bowys wydd heb eos wawd:
Adlaw beirdd awdl heb urddas
A ydyw hon, cofion cas.
Och! Oes awch trymoch er’s tri-mis,
Och! ni bu och na bai is!
Am gyffwrdd, llew agwrdd lid,
Awch arf yn lle ni cherid \ —
Gruffydd, gerddber aderyn,
Fab Adda, difeia* dyn!
Pob dyn disalw a’i galwai
Pendefig mirein- frig mai,
Ac organ, dra diddan draidd,
Ac gwawr eos garuaidd
Gwenynen clod barodwir,
Gwanwyn tost Gwenwynwyn dir
Gruffydd ab Adda’b Dafydd
Y* nghor Dolgellau y* nghudd!—
Dyrys fu ei gar ei daraw,
Dewr eo lid, a dur i’w law!
Arf a roes, eirioes orofn,
Ar fy mrawd, gleddyfawd ddofn;
Drwy fanwallt gwalch o falch-Un,
Och fi! ddaed oedd ei fin!
Trawiad un Iladdiad a llif,
Toriad hagr trwy iad digrif:
Troi awch y cledd, pand truan,
Trwy íelynflew dyn glew glan?
Dig wyf o’r lladdiad i’m gwydd,
Deu-ddryll, ond oedd wladeiddrwydd?—
Deurudd loyw angel melyn,
Diriaid aur, daraw y dyn!
CCXXXVII. Marwnad Rhys ab Tudur, telynor
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Tebyg yw Gwynedd meddir,
Trwy naws gwyll truan os gwir,
I grwth, a chloch, dwy och dyn,
O thalbynoedd a thelyn.
Y crwth, lle bo’r mesur cry’,
Carodd osod cerdd Iesu:
Chwerw fydd o’i dydd, a’i dau,
A’i dyniad ar ei dannau.
Y delyn o’r aur deulu,
Dydd a nos, fal eos fu,
Heb ddwylaw, gwyr addaw gwedd,
Heb fiwsig cerdd, heb fysedd:
Er ei noddwaith, er ei naddwydd,
Anniddan, yn f’ amcan, fydd.
Pob cloch plygain, damwain dig,
O glos y gwyr eglwysig,
O thyr, heb nidr ei thidraff,
Na thafawd, proffwydawd praff;
Dyn ni char, ariar oror,
Ei chan rhwng llettring a chor:
Felly mawl a ddyly medd,
Em y gwin, y mae Gwynedd
Heb gyn Mon, heb gan mynych,
Heb glain eglwys Dduw, heb glych;
Heb law, Duw nat! heb dafawd,
Heb gerdd dant, heb ffyniant ffawd;
Heb wledd, heb gyfaneddrwydd,
Heb Rys ior hael, heb ras rhwydd;
Heb oleubryd, heb loywbrim,
Heb ddawn, heb urddas, heb ddim,
Heb ddiwyd, mwy mordwy mawr,
O Risiart, eryr oersawr!
Bryd naid, biler euraid bar,
Frenhin, gwnaeth Eingl yn freinar:
Pand oedd eryrawl mawl Mon,
Ei loywgamp olygon?
Peris ei gof ym ofal,
Pôr chweg, — pand oedd deg ei dal?
Pand oedd ddoeth, wingoeth iawngainc
Ei ffriw gar bron teulu Ffrainge?
Pand oedd ddigrif, a difalch,
Pwynt Elffin, rhoes win, Rhys walch?
Pand oedd wag,
Gwynedd o’r eryr gwinau?
Am Rhys, fab dihareb darf,
Tad aer ochr Tudur crychfarf;
Ceidwad gwiw-fab, gwae fyfi,
modd dinag mau,
Eurwr ceirw’r Yryri.
Ni bydd y’ Ngwynedd, gwedd gwyd,
Dan gwyr, Duw a’n gweryd!
Na nerth, na chariad i ni,
Na gwleddoedd, nag arglwyddi!
Na chyngyd heb wych angerdd,
Na chan ymlyniad, na cherdd,
Na cheisio glan rianedd,
Na charu merch, na chair medd;
Nag oedi gwen i gadw gwydd,
Nag adar y man goedydd,
Na bron yn llawen, na brig,
Na diddan neb ond eiddig!
Gwynedd, fro annedd freiniawl,
Gwrendy hyn, a myn fy mawl;
A llyma ’nghred, win-ged wedd
Wyth-Hw enw, i’th law, Wynedd,—
Gan gwrHd, gwn alarloes,
Nych a thwng, na chai i th oes
A gynllwyn, aer ugein-llef,
“Eurfawl ior, aer fal ef!
CCXXXVIII. Yr Ysbryd
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Dywsulgwaith, dewis wylgamp,
Brynhawn hwyr, loyw-lwyr lamp,
Fal yr oeddwn ar weddfyd
Mewn eglwys, baradwys bryd,
Gwiw ddeall, yn gweddiaw
Ar Dduw nef, a’i urddau naw,
Down y ddaear yn barawd
Yn crynu, cyn gwenu gwawd.—
Gofynais, drud adlais dro
Byth i ddyn, beth oedd yno.
“Yn enw Mab yr Aberth,
A’r Glan Ysbryd, cyngyd certh!— »
Beth sydd isod yn godech
Yn y llawr dan gwr y llech?
Ai byw, ai marw, garw ei gân,
Ai gwr a glywai’n geran?—
Os dyn wyd dianwadal,
Drwg yw dy wedd, sylwedd sal!”
Ysbryd marw, garw gawdd
Bryd tybus, a’m hatebawdd i
'* Aros yr wyf mewn oerni,
Yn ddrwg fy sud mewn cryd cri:
Afraid it’, wr cyflwr cu,
Annwyfawl, fy nyialu.
Bum ieuange ddidranc ddedryd,
A balch yn mhob lle’n y byd;
A hynod yn y glod glau,
Filwr taith, fal ’r wyt tithau,—
Gwelais ym wallt, cwnsallt cu,
Gwinwyddawl serch gwineuddu,
A llygaid cain burafn bas
Amlwg, a golwg gwiwlas,
A thafawd mewn iaith ddifai,
A balchder mewn amser mai:—
Gwelais y ceid, gwiwlwys cain,
Yr haf gusanu rhiain,
A rhodio mewn anrhydedd,
A gweled merched, a medd.—
O’r diwedd gorfu ’m dewi,
Mawr fy mffst, - marw fum i!—
Treuliais fy ngwallt, fal alltud,
Dan y ddaear fyddar fud;
Darfu ’nghnawd, eurwawd oerwas,
Pregeth wyf i’r plwyf a’r plas! [
Pregeth oedd piau’r gwaith hwn;
Pwy a wyddiad pwy oeddwn?—
Darfu fy nhrwyn, a’m hwyneb,
Mud iawn wyf, ni’m edwyn neb!
Nid oes na llygad na dau,
Eithr yn ball, aeth yn byllau;
Nag aelgeth, nag un gulgamp,
Domlyd briddlyd luddlyd lamp!
Pan weler ymhlith cerrig
F’esgyrn yn gegyrn heb gig,
Faith i ddyn, tithau a ddaw
I’r ddaear i’th arddwyaw;
A Duw a ro, diau raid
Yno ’th ddwyn, Nef i’th Enaid!-—
A gar trugaredd heddyw,
I farw byd, ludwlyd liw!“
CCXXXIX. I lun Crist a’r apostolion
Golygiad modern Abertawe: cerdd 4 ↗
Da y lluniwyd, dull iawnwedd,
Dwyfron Mab Duw byw a’n medd!
Rhoed yn lew mewn tahl newydd,
Eilun wawr ar loywon wydd;
Er dangos i’w eurglos ef
Y deuddeg oll, a’r dioddef.
Grasus yw ar groes y sydd
Y dioddefes Duw Ddofydd!
Da lluniwyd Iesu lwyd lon,
O ddysg abl, a’i ddysgyblion:
Tyfiad agwrdd, twf digabl,
Triarddeg, — pand teg y íabl;
Duw cun ydyw y canawl,
Delw fwyn, da iylai fawl;
A’r deuddeg, llawen-deg lu,
A roswyd ynghylch’r Iesu. —
Chwech o ran ar bob hanner,
Deuan’ oll amgylch Duw ner:
Ar yr hanner, muner mwyn,
Deau iddo, Duw addwyn,
Mae Pedr, — da y gwyr edrych,
Ac Ieuan, wiw amcan wych;
A Phylip, oreu-wib ras,
Gwyndroed yw, a gwiw Andras;
Iago hael hoywgae hylwydd,
A Sain Simon, roddion rwydd.—
Lliw aur, ar y llaw aral!
I’r Arglwydd, cain hylwydd call,
Y mae Pawl, weddawl wiwddoeth,
A Thomas, gyweithas goeth;
Mathew a bair im’wTthwawd,
Bartholomeus weddus wawd;
Moethus liw Matheias lin,
A’r ddau Iago ddiogan;
Sain Sud, o fewn sens hoywdeg,—
Llyna ’ntwy yn luniau teg!
Llawn o rad ynt, pellynt pwyll,
Lle’i doded mewn lliw didwyll.
Ystyr dyn ystori deg
Y dydd a roed i’r deuddeg,
I gerdded byd gydag ef,
Cain ddiddan cyn ei ddioddef.—
Gwedi’r loes ar y groes grog,
A gafas Crist ar gyfog;
A’i farw ni bu oferedd,
Hefyd ag o’r byd i’r bedd,
Pan gyfodes Duw Iesu,
Ein gwir gar o’r ddaear ddu,
Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus,
Y deuddeg anrhydeddus.—
Mab Mair yw’r gair o gariad,
Goresgyn dyddyn ei Dad!
CCXL. Rhinweddau ein Iachawdwr
Golygiad modern Abertawe: cerdd 153 ↗
Credaf i Naf y Nefoedd,
Credo gwiw, caredig oedd!
Duw a’n ceidw rhag dirieid-chwaen;
Dawn y blaid, a Duw’n y blaen!
Rhodded o’i nerth, berffaith Bor,
Rhag angen unrhyw gyngor,
I’w foliannu’n gu gywair,
Iesu a gad o’r fad Fair \
lawn i bawb, ar bob awgrym,
Foliannu Duw o flaen dim:
Da yw Iesu dewisiad,
A da oedd ei fam a’i dad;
Gorau tad, llathr di- athrist,
O dadau cred oedd dad Crist:
Gwerin nef a’n cartrefo!
Gorau un mam ei fam lo. —
Gwarant fydd i bob gwirair,
Gorau un mab yw Mab Mair;
Gorau merch, dan aur goron,
Cywiraf harddaf fu hon.
Da fu ddwyn, deddf ddaioni,
Gwr o nef yn gar i ni:
Hwn fu ddewis yr Israel,
Hen fu, ac ieuanc, a hael,
Ganed o’i fodd, er dioddef,
Yn Ddyn yn, ac yn Dduw Nef!
Gwnaeth Iesu ner o’i geraint
Swrn yn Ebystyl a Saint;
Gwnaeth bader, ac offeren,
Gwnaeth oriau, a llyfrau llen;
Rhoes gred i’r bobl gyffredin,
Rhoes i’n plith gwenith a gwin:
Rhoes ei gorph, heb ddim fforffed,
Ar bren croes i brynu cred,
Deugain awr, deg ogonedd
Hael Iesu, y bu’n y bedd!
Gwedi cyfodi o’n car,
I gyrchu pawb o garchar,
Ac yn ol ei farwolaeth,
I nef fry yn fyw yr aeth.
Lle dywetter, medd Sain Sieron,
Croes Duw ar enw Crist lon;
Lle ni ddaw, cyffrydiaw ffrwyth,
Na diawl, nag un o’i dylwyth.
Gair lles yw doedyd Iesu;
Gorau un gair gan Fair fu
Arfer o alw’r eurfab,
Ac ar bob gair Mair ei Mab!—
Gair cariad yw o’r gadair,
A’r Mab Rhad a gad o’r gair:
Duw yw’r ga’r, dioer gariad,
A’r gair yw Duw, a’r gwir Dad!
Duw fo’n porth, a’n cynhorthwy,
Amen, ac nid rhaid yn mwy!
CCXLI. Awdl ar anedigaeth a dioddefaint ein Iachawdwr
Golygiad modern Abertawe: cerdd 152 ↗
Oes-braff wyd Iesu Ysbryd,—gwiw Ddofydd,
Goddefaist fawr benyd,
Archoll arf erchyll wryd,
Ar bren croes, dros bum - oes Byd!
Y Byd a glybu dy wybodus — gael
O Riain feinael ddiwareus;.
Gwedi d’eni, di Deus, yn fore
I’th alwent o’n lle Domino Dominus 8
Diddan dri brenhin anrhydeddus — coeth,
A ddoeth i’r cyfoeth, yn wyr cofus;
Dygan’ dair anrheg, diwgus — roddi
O rym Mair a Thi, aur myr a thus.
Gwirdad, a Mab Rhad prydus, — ac Yspryd,
Gwir llyw i iechyd gwawr liewychus;
Gwae fi fy Nuw Tri! ond trahaus — i neb
Gwerthu dy wyneb, gwyrth daionus.”
Ynfydrwydd Suddas, bu anfedrus — iawn
Dy roi i estrawn, dirwy astrus:
Gormodd fu gwaith rhodd a rhus — anoddau,
Gwyro d’aelodau, gwawr dyledus
Eisteddodd arnat ustus, — cardotai
O fab i flotai fu Beilatus:
Duw ddoeth a’i noeth ddiwenieithus — don
luddewon, lladron rhy dwyllodrus!
Aeth naw i’th rwymaw yn orthrymus — bryd
Er prynu penyd ar bren pinus;
Pan welsom drosom dy rasus — basiwn
Pa nad ystyriwn poen dosturus |!
Dy draed yn llawn gwaed, nid gweddus — ’y nghof,
Dy ddwylo erof, Duw, dolurus;
Arwyddion angau i’th arweiddus — dâl,
A gloes ar wyal, a glasu’r wêus.
A’th rwymiad creulon yn orthrymus — gaeth
Mawr lefain a wnaeth Mair wylofus!—
Eisoes ar y Groes, grasus — fu’r diwedd
Dy ddianc o’r Byd, medd Matheus.
A gwedy hynny, o’th glwy heinus — trwm
Dy alw Sanctum a ddyly Sanctus:
O’th gawdd, pwynt anhawdd, pand dawnus — fuom
Dy ddyfod attom, Duw dyoddefus I
CCXLII. Buchedd a dioddefaint ein Iachawdwr
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Pwy’r gorau piau’r goron,
Y gwr a’i friw gar ei fron:
Crist nefol freiniol frenhin,
A’i bur gorph yw’r bara’r gwin!
Arglwydd yr holl arglwyddi,
A thad a nerth, wyd i ni:
Hwn a ddylem ei henwi,
O’n iaith rwydd, yn Un a Thri —
Tad, a Mab, yn mhob aberth,
Ac Ysbryd cywirbryj certh,
Diammau, mae gorau gwr,
A da oedd ei Fedyddiwr,
Da forwyn, diwair arab,
A fu yn ei fagu’n Fab,
Mewn gofal ynial enyd,
Cyn y loes dros bum-oes byd!
A Suddas, er na’s haeddai,
Am ei werthu fu ar fai:
Suddas ydoedd anraswr
Pan wertha’r hawddjjara’ gwr.—
luddewon a wnaethon’ oll
Amherchi ei bum archoll;
V Rhoi am y tal rhwymiad dig,
Gwmpas o ddrain yn gan- pig;
A gwaedu pob pigoden,
A briwo ais Mab Mair wen;
A’i dynu gwedi einioes,
Yn graff oddiar y groes
Ac am Grist y bu dristedd,
A roed heb oed yn y bedd;
Ac eilwaith pedwar gelyn
Fu yno yn gwyb’o Duw gwyn;
Er hyn (o Fair yr henyw,)
O’i fedd y cododd yn fyw,—
A ninnau pawb yn unnod,
Llawen fyth y gallwn fod!
. Llawen fu i lu’n y wlad
Mor gadarn mawr ei godiad;
Gweled nerth, golud i ni,
Ein Duw gwyn yn digoni!
Mi archa’r Uchel Geli,
Llei purodd ef nef i ni;
Archwn i’r Tad, ceidwad cu
Rasol, a gelwir Iesu,
Dwyn, dan y digllon ddioddef,
Ein hedrych, a’n dwyn adref,
Dan ei nawdd Dob enaid i nef!
CCXLIII. Englyn i hyderu ar Dduw
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Duw’n Tad, Duw’n ceidwad Duw’n cynydd, — Duw’n gwbl,
Duw’n gwbl, Duw’n gobaith tragywydd!
Duw’n lluniaeth, Duw’n llawenydd;
Duw, Duw! ni weddiwn bob dydd!
CCXLIV. Mawl am brynedigaeth dynol anian
Golygiad modern Abertawe: cerdd 3 ↗
Da fu’r Drindod, heb dlodi,
A wnaeth Nef a Byd i ni;
Da fu’r Tad, yn anad neb,
Roi Anna ddiwair wyneb:
Da fu Anna, dwf uniawn,
Ddwyn Mair, morwyn ddinam iawn;
Da fu Fair, ddiwair eiriawl,
Ddwyn Duw i ddifwyno diawl.
Da fu Dduw’r Dofydd oroen,
Ar groes ddwyn pum-oes 0’n poen;—
Da gwnel Mab Mair, air addef,
Ein dwyn oll, bob dyn, i Nef!
CCXLV. Cyfaddefiad y bardd o’i gamweddau
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Wyt Tri cyffredin,
Ac Un cyntefin, —
Dewin diwad!
Atteb a draethaf,
Naf nefol-wlad!
Tangnefedd dangnef,
Ac i holl Saint Nef,—
Nifer difrad:
A*m holl fyfyrdawd,
A’m holl hyawdlwawd,
Ac a’m holl geudawd,
Barawd bwriad
Canys gwn, yn wir,
Mewn byd anghywir
’Y nghyflwr anwir,
Fy mod yn awdur,
Yn fawr bechadur
O natur nad!
A meddwl dybryd,
A gweithred hefyd
I gyd a gad;—
Cenfigen, balchder,
Rhyfig, creulonder,
Gwenwyn, tra-digter,
Fy Ner neirthiad.—
Cybyddiaeth, trais, twyll,
Chwant rhithiau auihwyll, cymwyll drychiad;
Camgerdded, ceisio,
Meddylio yno,
Tro trwy fwriad!
Clod orwag wawdwl, cenfigenu’n bwî,
A chelu’r meddwl,
Methiant, glythineb,
Godineb, cudeb,
Cadarn ledrad,
Traha, camfalchedd,
Diogi, llesgedd,
Maswedd aniawnwedd,—
Moes anynad!
Coelio breuddwydion,
Rhuddo gwaed gwirion, —
Anudon nad!
Gorwag feddyliau,
Cellweirus gredau,
Geiriau girad! bo
Gweithio gwaith diau,
Suliau a gwyliau,—
Gwael y seiliad!
Cymryd dros gynghor bwyd anmhryd ragor,
Por perfìTeilhiad;
Dirmygu heb daw),
O chwant corphoraw),
Gwasanaeth dwyfawl
Bod yn aflawen,
Goganu ’n absen,
Sarhau meibion hên, o’r hen raddiad:
Gosteff ano; hvmwys vm mhlas vr e2:îwvs;
Vm mhlas yr eglwys;
Bod yn anghyfrwys,
Ac iawn gynneddfau,
A gair diammau
Duw diymwad!—
Hynny, Duw, y sydd,
Rhag dirfawr gerydd,
Edifar beunydd, —
Drwy nerth, a phorthair,
Dy fam hvysgrair Fair,
A bechais o’m nwyf,
Am bechod mawr-glwyf,
Ac am a bechwyf, —
Cyn ysgar undawd
Fy enaid a’m cnawd,
A’m rhoi mewn beddfawd, geudawd geidwad
Geudawd geidwad!—
A thori buchedd,
A chyfyngwedd bedd,
Bid ollyngiad!
A gorphen diau,
A gorphwys angau,
A chau y genau
Uchel ganiad!
Fy Nuw goruchaf,
I ti’r archaf, Naf
O gael fy rhyddhau
I oesoedd difrad!
Mab Mair! a’th gyfrgoll,
Drydoll drydiad!
Er poenau trymder
Arfer dawn eur-ner,
Er dyn arnad!
Er dy fawr drym-loes
A’th einioes ar groes, — grasawl bryniad!
Er dy farwolaeth,
Er dy íarwolaelb, a’ih ferthyrolaetb,
A’th gladdedigaeth,
Alaeth wyliad!
Er dy gyfodi,
Er dy gyfodi, yr Un Duw-a-thri!
Er dy fedd celi,
Gwesti gwastad!
Rhyddha fi yn rhydd,
Fy ngwyrthfawr Ddofydd!
O’m pechawd beunydd,
Cyn dwyn fy ysbryd,
A’m Iliw byw o’r byd,
A’m rhoi mewn gweryd,
A’m gadael yma,
Buchedd dibara,
A’m corph mewn gwyddfa
Terra toriad
A chael maddeuaint
O’m ysbrydawl haint,
A chymmod a’r saint,
Braint Brenhin- dad;
A dychlais heddwch,
A llwyr ddigrifwch,
Ac edifeirwch;
Degwch dygiad!
A chymun fy Rhi,
A chymun fy Rhi, a chymhwys weddi,
A chymmod a Thi—
Tri, trwy gariad!
A nerthoedd rhagllaw,
O weithred dwylaw,
Aelaw eiliad!
A diwedd obaith
Dwyfawl nefoliaeth,
A diwedd perffaith, —
Penrhaith pob rhad!
Rhag trais cythreuliaid,
A nef i’m henaid,
Wrth raid, o’th rad!
A rhwydd dangnefedd drwy bren y fuchedd,
Drwy bren y fuchedd,
A rhan trugaredd
O’th wledd, a’th wlad!
Dy rad a’th gariad i’th gaerawg — Nefoedd,
Blith nifer aberthawg,
A gaffwyf, perffeith-nwyf ffawg,
Trwy gur Brenhin trugarawg!
Trugarog Frenhin,
Wyt Tri cyffredin,
Ac Un cyntefin,
Dewin diwad!
Atteb a draethaf,
Naf nefol-yvlad!
CCXLVI. Marwysgafyn y bardd, — englynion a gant ar ei glaf-wely
Nid yw ymhlith cerddi golygiad modern Abertawe.
Ofni gwrthuni gwrthwyneb yr wyf;
Ofni’r awr i atteb!
Ofni hir drin ffolineb:
Ofni ’Nuw yn fwy na neb! î
JL Duw celi meddi, maddau — ym bechod,
A bechais er’s dŷddiau? —
Dydd ing yw diodde’ angau,
’Y nydd i sydd yn neshau!
Byd ffyddlon dynion yw Duw, — byd hyffordd,
Byd diffaith bod heb Dduw;
Byd oerddig bod heb Wir-dduw;—
Byd heb ddim yw bod heb Dduw
Fy einioes pan fo ar fyned — o’r corph,
A gorphen fy ngweithred,
Na ad, f Arglwydd cry-lwydd cred,
Pm gelyn gael mo’m gweled!
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O grynhoad Owen Jones, a William Owen (Llundain: argraphwyd gan H. Baldwin, 1789). Sganiau: archive.org/details/bim_eighteenth-century_barddoniaeth-dafydd-ab-g_dafydd-ap-gwilym_1789 (llyfr 1789) ac archive.org/details/barddoniaethdafy00dafy (adargraffiad Lerpwl, gol. Cynddelw, I. Foulkes, 1873)
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Mabinogi: y llyfrau a gadwodd chwedlau Cymru
Mae Cymru wedi cadw ei straeon mwyaf ers naw can mlynedd. Dyma sut: storïwyr y llysoedd brenhinol, awdur anhysbys y Pedair Cainc, dau lyfr mawr a ysgrifennwyd i ddau uchelwr o Gymro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a merch ifanc o Saesnes yng ngwaith haearn Dowlais a ddysgodd Gymraeg ac a roddodd y chwedlau i’r byd.

Yr Hen Ogledd: y wlad lle ganed barddoniaeth Gymraeg
O’r Clud a Gwerydd hyd y Pennines, siaradai Brythoniaid y Gogledd yr iaith a drodd yn Gymraeg. Eu teyrnasoedd, Gododdin, Rheged, Ystrad Clud ac Elfed; eu brenhinoedd, Urien, Owain a Rhydderch Hael; y beirdd Aneirin a Thaliesin; Catraeth ac Arfderydd; a Gwŷr y Gogledd nad anghofiodd Cymru erioed.

Iolo Morganwg, Bardd Rhyddid
Saer maen o Fro Morgannwg na fu erioed mewn ysgol, ac a roddodd i Gymru Orsedd y Beirdd, llyfrgell o lawysgrifau a achubwyd, tair mil o emynau a llais yn erbyn caethwasiaeth.

Oes y Tywysogion
Cestyll, barddoniaeth a thywysogion Gwynedd a Deheubarth yn erbyn grym y Normaniaid a Lloegr.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Cerddi CCX–CCXLVI’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/barddoniaeth-dafydd-ab-gwilym-cerddi-210-246.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Tudalen o Lyfr Coch Hergest (Coleg Iesu, Rhydychen, MS 111), a ysgrifennwyd tua 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- Craig y Castell yng Nghaeredin, Din Eidyn, cadarnle Mynyddog Mwynfawr a’r Gododdin — Scglossop1 · CC BY-SA 4.0
- Print o Iolo Morganwg (Edward Williams) yn eistedd gyda llawysgrif, gan Elijah Waring — Elijah Waring · Parth cyhoeddus
- Tŵr crwn Castell Dolbadarn dan fynyddoedd Bwlch Llanberis — Tilman2007 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth