

Hanes Cymru / Llyfrgell / Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru
Llewelyn, ein Llyw Olaf, rhan 2, hyd Rhys Grythor
Llewelyn, ein Llyw Olaf, Arwyddion Angau (Ofergoelion) a Rhys Grythor: o Cymru Fu, llyfr Isaac Foulkes o chwedlau a thraddodiadau Cymru (1862), yn ei Gymraeg ei hun.
Llun: Cerflun marmor Henry Pegram o Lywelyn ap Gruffudd yn Neuadd Farmor Neuadd y Ddinas, Caerdydd · 14GTR, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons
Am Llywelyn ap Gruffudd → Cynnwys →
Y Gymraeg
Llewelyn, ein Llyw Olaf: Bywgraffiad (parhad)
Y brenin, o’i ewyllys da, a wrthododd y tâl blynyddol; dwy fil o forciau yn unig a dderbyniodd, a hyny yn Rhuddlan. Yna efe a ddychwelodd yn fuddugoliaethus i Lundain, a derbyniwyd ef yno gyda llongyfarchiadau a Llawenydd mawr. Tybiai fod ei waith yn gyflawn, a’i droed ar annibyniaeth y Cymry. Yn mysg ei osgorddlu, ac yn chwanegu at rwysg ei orymdaith, yr oedd y llew gorchfygiedig, mewn cyflwr diraddiol mae’n wir, ond yn Llew er hyny. Yr oedd y deugain gwystlon hefyd oll yn arglwyddi cyfrifol Cymreig, yn urddasoll yr orymdafth hono ar eu taith i’r Brifddinas gyda’u Tywysog i dalu gwarogaeth yno drachefn, a hwynthwy i aros yno yn sicrwydd am gyflawniad y cytundeb rhag-grybwylledig. Wedi i ddefod y warogaeth fyned heibio, y barwniaid hyn a letyent mewn rhan o Lundain a elwid Isungton, a phentrefydd cyfagos; a chawsant hwy, a’r Uuosog wasanaethyddion a ddygasent gyda hwynt o Gymru, brofi yn fuan o wermod chwerw dibyniaeth. Yr oedd y Uaeth yn brin; ac nid oeddynt hwythau yn hoffi, a diamheu na buasai yn dygymod a’u cyfansoddiad, gwrw a gwinoedd a mwythderau Llundain. Yn chwanegol at hyn, byddai Uuaws o bobl, pa bryd bynag y deuent allan o’u lletai, yn eu dilyn ac yn sylldremio’n ddirmygusarnyntfel pe buaseutgynifer o anwariaid, ac yn gwawdio eu golwg dyeithr, a’u hymddangosiad annghyffredin. Hyn a barai iddynt ystyried y Saeson yn bobl anniwylliedig a digroesaw i ddyeithriaid, a gweled bod yn well dwyn y cledd hyd lechweddau noethlyinion eu gwlad eu hunain, na derbyn moethau yn mhlith estroniaid, ar drugaredd galed gormeswr a’i ddeiliaid gwawdus acerledigaethus. Daethant i’rpenderfyniad o wrthryfela y cyfleusdra cyntaf, a marw yn wŷr rhyddion yn hytrach na byw yn gaethion.
Yr oedd yn amlwg i bawb yn awr mai amcan Iorwerth ar farwolaeth Llywelyn oedd uno Cymru oll a’i goron. Ond efe a wyddai yn eithaf da na byddai dewrder a chariad yr hen genedl Gymreig at ryddid ddim marw gyda ei Thywysog; o ganlyniad, nid arbedai unrhyw drafferth tuag at enill ei hewyllys da, a dileu eu rhagfarnau hyny a fyddent yn sicr o wrthweithio ei fwriadau. Yr oedd yn hysbys iddo fod traddodiad yn ffynu yn eu mysg y byddai i’w hen Frenin Arthur ail-ymddangos i ddial eu camwri, ac adenill iddynt eu hollol annibyniaeth a’u breintiau cyntefig. Gyda’r amcan o ddileu yr ofergoeledd hon, Iorwerth a’i frenhines a gyrchasant i Ynys Afallen f OìastonbiiryJ, ar gyffiniau Gwlad yr Haf, Ue y dywedid fod esgyrn Arthur yn gorwedd; a than yr esgus o anrhydeddu ei weddillion, parodd eu cyfodi a’u harddangos yn gyhoeddus, ac yna dodwyd hwynt i orwedd yn y fynachlog gerbron yrallor; ac yn gerfiedig ar yr arch yr oedd hysbysiad beth oedd ei; hynwysiad, ac i’r esgyrn o’i mewn gael eu gweled gan frenin a brenhines Lloegr, ar y dydd a’r dydd, pan oedd hefyd yn bresenol Iarll Satoy, Esgob Norwich, a lluaws o bendefigion ac arglwyddi.
Yn ystod arosiad y brenin yn Glastonbury, cynaliwyd senedd yno; a gwysiwyd Llewelyn i ymddangos ger ei bron, gyda’r amcan, mae’n ddiamheu, o argraffu ar ei feddwl yntau a’i osgorddlu y sicrwydd am farwolaeth y hen frenin, a’r anmhosiblrwydd o sylweddoli y dychymygion gwagsaw am ei ail-ddyfodiad. Pa fodd bynag, cafodd Iorwerth brawf fod annibyniaeth y Cymry eto yn fyw; ac er ei holl fost o’u gorchfygu, yr oedd eu cariad at ryddid yn anorchfygol; ac fel eu cynrychiolydd, gwelodd Llywelyn yn dda anufuddhau y wys hon o Glastonbury. Nid gŵr i oddef sarhad oedd Iorwerth; ond, er hyny, yr oedd yn ddigon call i wybod nad cosbi Llywelyn oedd y llwybr sicraf iddo gyrhaedd ei amcan mawr, sef darostyngiad y genedl yr oedd Llywelyn yn ben arni. Methasai yn hyn ’trwy ddewrder, yn awr beth fyddai iddo roddi prawf ar ffalsder. Prysurodd, a’i frenhines gydag ef, i Worcester; a thrachefia gwysiodd Llewelyn i ddyfod jmo. Eithr rhag y gwrthodai eilwaith, galwyd y wys hon yn “wahoddiad i wledd,” a meluswyd hono drachefn gan dddeiyid V byddai i’r brenin roddi Eleanor de Montforte yn vrraig iddo. Tarawodd y brenin ar ei lecyn gwan — ei serch; ac yr oedd ymostwng i elyn trahaus yn bris bychan mewn cymbariaeth am gaffaeliad dyweddi mor hawddgar. Llewelyn a aeth i Worcester; a’r brenm a wnaeth y goreu o’i fargen i drymhau yr iau arno. Y mae Gwladgarwch a Dynoliaeth yn troi draw oddiwrth yr olygfa a gymerodd le. Pan ddygwyd ef gerbron Iorwerth, efe a ymostyngodd hyd at draed y traws-feddianwr, gan apelio at ei drugaredd a dodi ei hunan yn gyfangwbl yn ei law. Yna archwyd i’r ymostyngydd gyfodi; ac oherwydd ei ymddangosiad edifeiriol, y brenin a rasusol gymerth drugaredd arno, ac a faddeuodd iddo ei aml gamweddau: eithr tan rybuddion trystfawr os efe a anufuddhai wed’yn nad allai ddisgwyl ond y cospedigaethau llymaf. Dyma y weithred fwyaf darostyngol a gyflawnodd yn ei holl fy wyd: ac nis gall dim ddileu y gwarthrudd hwn oddiar ei gymeriad ond y ffaith ei fod yn gaethwas cariad ar y pryd; ac wrth adfyfyrio arno yr ydym yn barod i ofyn, Ai hwn ydyw’r Llewelyn a wrthsafodd hoil allu a chynilwynion Lloegr am y cyfnod hirfaith o 36 o flynyddau, a ysgydwai ei gleddyf nes y crynai teyrnas Lloegr hyd ei gwraidd, ac a syrthiodd yn y diwedd yn mhlith adfeilion ei wlad yn aberth ar ei iiallor:- Yna’r brenin wedi Uwyddo i iselhau Llewelyn i’r diystyrwch penaf, a roddodd iddo Eleanor de Montforte, yn nghydag etifeddiaeth ei diweddar dad. Ond ar fbre dy’dd y briodas, tra yr oedd ef a”i ddyweddi ar gyrchu i’r offeren, Iorwerth a chwanegodd amodau eraill arno, sef fod iddo ddyfod i dalu gwarogaeth ddwy waith bob blwyddyn; ac na byddai iddo noddi yn ei diriogaeth neb gelynol i frenin Lloegr. Pa fodd bynag, o’r diwedd, cymerodd y briodaa le ar y 13eg o Hydref.
Mor fuan ag yr oedd y ddefod briodas drosodd, Llewelyn a’i briod a brysurasant tua Chymru, yn ddiolchiar iawn, mae”n ddiamheu, am waredigaethografanfrauyrfath ormeswr. Yr oedd sefyllfa wladol y genedl tua”r amser hwn yn isel iawn — eu darostyngiad yn gorwedd fel huulle ar eu hysprydoed 1, a galaru yr oeddynt am eu rhyddid gyda galar chwerw; eithr yn rhy weiniaid i”w adenill. Eto, er ar lawr, nid oeddynt fen wyn; er tan iau yr estron, yr oedd eu cariad at ryddid a’u breintiau cynhenid mor fyw ag erioed, a”r cariad hwn a chwyddai bob gormes bychan yn drosedd anfaddeuol o fawr. Y penaethiaid Cymreig hyny a ddiystyrwyd yn Llundain, ac a ryddhawyd o’u g-wystlaeth ar briodas y Tywysog, pan ddyctwelaeaTit i’w gwlad, a ddechreuasant hau hadau gwrthryfel yn mhlith eu cydgenedl, a’u hanog i anufudd-dod pa bryd bynag y deuai’r amser cyfaddas. Hefyd, yr oedd cynghaws cyfreithiol rhwng Llewelyn a Gruffydd ab (rwenwynwyn yn nghylch ystad a ddaliai gan y brenin ar y Cyffiniau Seisnig. Gwysiwyd Llewelyn, yn groes i’w urdd fel tywysog, i fod yn bresenol yn y cynghaws hwnw. Nid oedd Dafydd, ei frawd, ychwaith er wedi gadael ei wlad ac ymuno â’i gelynion, ddim heb achwynion celyd yn erbyn ei gyfeillion mabwysiedig. Gwysiwyd yntau gan Sais o’r enw Wm. Yenables, yn groes i ddefodau Cymru, ac yspryd yramod rhyngddo â’r brenin, i ymddangos yn nhref Oaerlleon, o achos rhy w gamwri yn mhentref Estyn. Y swyddog hwnw hefyd a gymynasai goedwigoedd ar etifeddiaeth Dafydd yn Lleweni, Dyffryn Clwyd, gan eu cludo i’r Iwerddon, a chadw arian eu gwerthiant iddo ei hun. Eeginald de Grey swyddog Seisnig arall, hefyd a fygythiodd ddwyn oddiarno gastell Hope, a chymeryd ei blant yn wystlon am ei iawn-ymddygiad yn y dyfodol. Llawerobenaethiaid Cymreig ereill a gwynent yn barhaus o herwydd trais anniwall eu goresgynwyr. I goroni y cyfan, Iorwerth a apwyntiodd lysoedd cyfreithiol Seisnig, ac a ranodd Gymru yn siroedd, ar ddull siroedd Lloegr; a chau ddileu hen gyfreithiau doethgain Hywel Dda, sefydlodd y’ rhai Seisnig yn eu lle. Y mae yn sŷn pa fodd y darfu i dejTU mor Iwyuogaidd a Iorwerth erioed feddwl am gyflawni gweithred mor ynfyd. Dylasai wybod fod defodau a chyfreithiau cenedl yn bethau tra anwyl ganddi, a’u diwreiddio tan yr amgylchiadau mwyaf yi’afriol yn orchwyl peryglus. Pa faint mwy’ felly gyda chenedl mor hoff o hynafiaeth, ac mor effro i bob sarhâd, â’r genedl Gymreig? Penderfynasant fel un gŵr na fynent na chyfreithiau na defodau ond eu cyfieithiaua’udefodau henafol eu hunain.
Heblaw trallodion cyhoedd Llewelyn, cyfarfyddodd a thrallod deuluaidd chwerw. Bu farw ei wraig, Eleanor, cyn pen dwy flynedd wedi ei phriodas, ar enedigaeth merch fach. Fei hyn, ar ol disgwyl blynyddau lawer am dani, a’i chael yn y’ diwedd trwy’ waseiddio ei hunan, hyt a darfodedig fu ei fwynhad gyda hi. Trwy ei bod o haniad Seisnig, ac yn berthynas i’r brenin, ymddengys fod ynddi dueddfryd gref atheddychu y ddwy genedl; ac yn ei marwolaeth hi, torwyd y cysylltiad olaf rhyngddynt.
Fel y crybwyllwyd, yr oedd y ddau frawd, Llewelyn a Dafydd, wedi bod ar delerau tra anfrawdol er dechreuad cyngrair y blaenaf gyda Simon de Montforte. Ond yn eu caledi presenol adgymodwyd hwynt, a gwelsant mai yn llwyddiant y naill yr oedd dyogelwcb y llalL Tynwyd cytundeb rbyngidynt, a Dafydd a ymgiliodd yn ddirgel oddiwrth y Saeson, ac a ddaeth i Gymru. Dechreuwyd gwaith y gwrtbrjŵl yn ddiatreg, trwy i Dafydd rutbro yn sydyn ar gastell Hawarden, a’i gymeryd. Roger de Clifford, ceidwad y castell hwn ar y pryd, oedd y prif farnwr Seisnig yn Nghymru; daliwyd ef yn ei wely, a than archoll tost cludwyd ef yn garcharor i Eryri; daliwyd marchog hefyd o’r enw Paen Gamers, a lladdwyd Ffulk Triyold, a lluaws heblaw ef, yn farchogion a gwŷr cyffredin. Cymerodd yr ymosodiad hwn le ar nos Sul y Blodau. Yna y ddau frawd a unasant eu byddinoedd, ac a warcbaeasant ar gestyll Fflint a Rhuddlan; ac yr oedd Cymru benbwygilydd yn dân gwrthryfel. Rhys ab Malgwyn, yn y Deheudir a oresgynodd gastell Penwedig; a Gruffydd ab Meredydd a gymerth gwmwd Mefenydd. Amry w bendefigion ereill a godasant, ac a ymosodasant ar y Cyffiniau Seisnig, gan eu banrbeitbio.
Yr oedd lorwertb yn cynal gwyliau’r Pasg, yn nhref Devizes, pan glybu am y digwyddiadau hyn, a cbanfu ar unwaith mai rbagdraitb i wrtbryfel nerthol oeddynt. Danfonodd adgyfuertbion i’ w gestyll gwarcbaedig, a gwysiodd ei ddeiliaid milwrol i’w gyfarfod ef yn mis Mai, yn nhref Worcester. Cyfododd dreth ar y deyrnas, ecbwynodd arian gan y marsiandwyr a’r gwyr eglwysig, yn ei wlad ei hun a’r Iwerddon. Yr oedd ei ddeiliaid oll yn frwdfrydig tros ei gynorthwyo yn ei amcan o Iwyr ddarostwng y Cymry y tro hwn, a diffodd am byth yr ysprydiaetb terfysglyd hwnw at ryddid yn eu mynwesau. Llêdaenodd y brwdfrydedd hwn byd yn nod i blith y Scotiaid, a cbynygiasant eu help, heb feddwl fawr fod lorwertb ar y pryd yn arfaetbu eu darostyngiad bwytbau, ac y caent bwytbau cyn pen ychydig flynyddau wybod a tbeimlo beth oedd ei egwyddorion rbeibus. Anfonodd at y ddau archesgob hefyd, yn peri iddynt ysgymuno Llewelyn a’i ddilynwyr fel bradwyr a tberfysgwyr heddwch.
Pa fodd bynag. cyn myned i’r eitbafion hyn, John Peckbam, archesgob Canterbury, yn ddiarwybod i’r brenin, meddai e/, a ddaeth i Gymru eilwaith ar fedr heddychu y g’wrthryfel’wyr. Ni chynyrchodd ei ymweliad ond ychydig, os dim Nes. Yn y cyfamser, Iorwerth. a gyclawynodd i’w ymdaith, a chyrhaeddodd Worcester yn niwedd Ebrill. Deallodd y ca’i lawer mwy o waith darostwng ar y gwrthryfel nag a ddychymygasai wrth gychwyn. Oddiyno gwysiodd ei ddeiliaid i’w gyfarfod yn Rhuddlan yn mis Mehefin. Ar ei daith rhwng Worcester a Chaerlleon, pobl y wlad a ymunasant âg ef, y rhai a osododd efe ar waith i agor ffyrdd o’i íiaen yn Nghymru. Ar ol tario yn Nghaer am bumthegnos, i adfywio ei wŷr, efe a ymosododd ar gastell Hope. Y gadarnfa hon, meddiant y tywysog Dafydd, a roddwyd i fynu bron ar ei ddyfodiad. Pan ddynesodd efe hefyd at Ruddlan y tywysogion Cymreig a godasant y gwarchae, ac a enciliasaut tuag Eryri, gan ddewis yn hytrach orchfygu mân finteioedd y brenin, nag anturio brwydr agored gyda’rfathfyddinfawr anghyfartal. Eithr nid oedd yr enciliad hwn ond fîug i faglu eu gelynion; troisant ar eu herlynwyr, adran gref o’r fyddin Seisnig; ac mewn brwydr a gymerodd le rhyngddynt â hi, daliasant bedwar-ar-ddeg o’i swyddogion: Lladdwyd yr arglwydd Audley, ac eraill wŷr o urddas; a chymaint oedd braw y brenin ei hun, o herwydd y gorchfygiad hwn, fel yr ymgiliodd o Ruddlan i gastell Hope er ei ddyogelwch. Ond erbyn canol Gorphenaf yr oedd efe wedi anturio i Ruddlan eilwaith; ac yr oedd yn gynauaf cyn y gallodd ddechreu ar unrhyw symudiad o bwys. O Ruddlan, efe a ddanfonodd wysiadau at siryddion y siroedd cyfagos, yn gorchymyn iddynt ddanfon gwŷr ato i gymynu’r coed, ac arloesi fi’ordd i’w fyddin ymwthio yn mhellach tua’r Gonwy. Ac er mwyn chwanegu sel at ei achos, rhanodd y Pedwar Cantref, y rhandir ag oedd eisoes tan ei awdurdod, rhwng arglwyddi Seisnig.
Yr ydym yn awr yn myned i gyfnod newydd yn mywyd ein harwr — cyfnod y cyflafareddiad farhitrationj, pryd yr amcanai Iorwerth trwy deg gyflawni yr hyn yr ofnai nas gallai ei gyflawni trwy annheg — cyfnod yr ysgrifenu Ih’thyrau, yn mha un y daw ochr d’disglaer ar gymeriad Llewelyn i’r golwg, a’i allu a’iathrylith ynllewyrchu lawer mwy tanbaid ynddo nag wrth garu y cledd. Nid ydym am ddibrisio egwyddor fawr ogoneddus cyflafireddiad (bydd hi yn ben toc, a brysied y dydd!); ond yn olferyn yn Ilaw malais, ffiaidd beth ydyw — drewdod yn nwylaw gwr fel Iorwerth, canys amlwg yw mai llyfu y gareg yr ydoedd am nas gallai yn rhwydd ei chnoi. Tra yn bygwth ar y naill law, deuai ar y llall. Danfonodd archesgob Canterbury i Gymni y drydedd -waith gyda’r amcan o ymresymu y g-nrthryfel i lawr. Ond cafodd y gwr urddasol allan fod ei apeliadau yn wanach na milwriaeth. ei frenin, nad oedd gan ei resymau nemawr gwell traed i sefyll arnynt na hawliau egwein y teyrn Seisnig i ymryson â’r Cymry, a bod y tywysogion Cymreig yn deall logic cystal ag y deallai yntau, er mor “farbaraidd” yr ystyrid hwynt gan eu gelynion. Y mae’r brwydrau papurol hyn ar gael; a chan y daugosant wir sefyllfa pethau ar y pryd, ni a ddifynwn rai o’r Llythyrau dyddorol a phwysig a ysgrifenwyd gan y ddwy ochr.
Ar y cyntaf, yr archesgob a atolygodd ar Llewelyn, Dafydd, a’r Cymiy oll, i ymostwng yn ddiamod; a’r tywysog a atebodd ei fod yn barod i ymostwng i’rbrenin, ond ar yr amod fod iddo gael cadw ei gydwybod yn ddi- Iwgr, trwy yr hon yr oedd yn rhwym i gjmorthwyo ei bobl; a chadw hefyd urddasoldeb ei sefyllfa. Yr Archesgob a ddychwelodd gyda’r ateb hwn at y brenin, ac yntau a atebodd na fynai ddim amodau gan y Cymru oddieithr ymostyngiad llwyr i’w awdurdod ef. Da y gwyddai’r Archesgob na dderbynid hyn gan y blaid arall. Yna efe a ymgynghorodd â’r arglwyddi Seisnig, a chytunwyd ar y telerau canlynol, y rhai a ddygodd yr archesgob, gyda chaniatâd llechwraidd y Brenin, at y Tywysog:— A ganlyn a ddarllenvjyd i Llyweiya yn ngwydd ei gyngor. “Ni dderbyn y brenin ddim amodau o barth y Pedwar Cantref, y rhai a roddes efe i’w bendefigion; nac ychwaith yn nghylch Ynys Mon.
“Am wŷr y cantrefi hyn, os dychwelant i heddwch, efe a ymddwyn tuag atynt fel y gweddo i’w Fawrhydi. Ond credu yr ydym yr ymddwyn efe yn dirionos ymblygant i’w awdurdod; ninau a’n cyfeillion a egniwu ein goreu i ddwyn hy n oddiamgylch, a chredu yr y dym hefyd y byddwn yn llwyddianus.
“Am Llewelyn ei hun, ni allasem gael un ateb arallna bod iddo ymostwng yn ddiamodiad i ewyllys y brenin; a chredwn y bydd i’r brenin ymddwyn yn dirion tuag ato. Ac i ddwyn hyny i ben, bwriadwn gyda’u cyfeillion eralll, lafurio â’n hollegni; ac hyderwn y cawn ein gwrandaw gyda llwyddiant.
A ganlyn a ddywedwyd wrth y Tywysog yn ddirgel. “Yn laf, Fod y pendefigion wedi cytuno ar y dull hwn o’r tiriondeb breninol; sef. ar Tmostyngiad yr arglwydd Llywelyn, y bydd i’w Fawrhydi ddarparu cynlialiaeth anrhydeddus iddi o fil o bunau yn y flwyddyn a rhyw iarllaeth gyfaddas yn Lloejîr; ond ar y tir y byddai i Llewelyn roddi i’r brenin feddiant o Eryri yn gyflawn ac am byth. Y brenin a ddarparai hefyd tros ferch y Tywysog yn weddus megis i’w briod waed ei hun. Ac y maent yn gobeithio llwyddo i dueddu meddwl y brenin at hyn.
“Eto, os digwydd i Llewelyn gymeryd gwraig, a chael o honi blant, y pendefigion a fwriadant erfyn ar y brenin fod i’r hiliogaeth hyny ddilyn Llewelyn yn y du’iogaeth, sef yr iarllaeth, mewn etifecidiaeth fythol.
“Eto, am y bobl dau briodol lywodraeth y Tywysog, yn Eryri cystal ag yn mhobman arall, darperir yn gyflawn am eu dyogelwch a’u hanrhydedd. Ac at hyn y mae tiriondeb y brenin yn ddigon tueddol, gan ddymuno darpar ar gyfer cysur ei bobl.”
A ganlyn a ddarllenwyd wrth Dafydd brawd Llewelyn yn ddirgel.
“Os, er clod i Dduw ac iddo ei hun, y cymer efe y groes ac yr â i’r Tir Sanctaidd, darperir iddo yn anrhydeddus yn ol cyfaddasrwydd ei sefyllfa; ond ar y telerau na ddychwelai oni elwid amo trwy diriondeb y brenin. Ac ni a erfyniwn ar ei Fawrhydi, ac yr ydym yn gobeithio ymwrandawiad llwyddianus, y bydd i’w Fawl-bydi wneud darpariad iddo ef a’i eiyil.
“At y pethau hyn yr ydym o’n hewyllys da einhunain y’n ychwanegu fod pob peryglon yn hongian uwch ben eich cenedl, peryglon llawer trymach nag yr ydym ni wedi son am danynt. Yr ydym yn ysgrifenu pethau celyd, ond Uawer caletach fyddai rhuthro arnoch trwy nerth arfau, ac yn y diwedd eich hollol ddyddimu; ac y mae’r peryglon hyn yn cynyddu yn barhaus.
“Eto, peth anhawdd iawn ydyw bod bob amser mewn rhyfel; byw mewn blinder corph ac yspryd, a beunydd yn ymddigasu mewn dichellion; ac heblaw hyn, byw a marw mewn pechod marwol diderfyn, a chenfigen.
“Eto, bydd ein galar ynfawr os na ddeuwch mewn rhyw fodd i heddwch, canys ofni yr ydym y bydd raid cyhoeddi dedfryd Eglwysig arnoch oherwydd eich troseddau, oddiwrth y rhai nis gellwch ynnesgusodi, ac am y rhai y cewch ryddhad od ymostyngwch. Ac am y pethau hyn rhodder i ni ateb ysgrifenedig.”
Ateb y Tywysog.
“At y Parchedicaf Dad, ec., loan, Archesgob Caer’ g’ünt, &c., Lltiuelyn, tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri, yn anfon anrch.
“Sanctaidd Dad. — Yn unol â’clicynglior, yrydym yn barod i ddyfod i heddwch â’r brenin, ond eto mewn dull diberygl a gweddus i ni ein hunain. Ond gan nad ydyw y dull cynwysedig yn y telerau danfonedig atom ddim yn y lleiaf yn weddus nac yn ddibery’gl, fel ag yr ymddengys i ni a’n cynghor, ac am ba un y mae pawb a’u clywsant yn rhyfeddu yn fawr, am ei fod yn tueddu yn fwy i’n dinystr, a distryw ein pobl a ninau, nac i’n hanrhydedd a’n ’dyogelwch; ni âd ein cynghor i ni mewn un modd gytuno iddo, pe dymunem; a’r pendellgion eraill hefyd, a’r bobl dan ein llywodraeth, ni chydsyniant iddo, oherwydd y diamheuol ddinystr a dilead a ddigwyddent o hyny.
“Ond eto erfyniwn ar eich Tadoldeb, gan eich bod wedi llafurio cymaint hyd yn hyn tuag at ffurfio heddwch dyledus, gweddus, a dyogel, y bydd i chwi barhau hyny, gan ddwys ystyried y telerau y rhai a ddanfonom atoch yn ysgrifenedig. Oherwydd y mae yn fwy anrhydeddus ac yn fwy cyson â chywii’farn, fod i ni, y rhai sydd genym iawn hawl i’r tiroedd, eu dal hwy dan yr arglwydd Frenin, na’n dietifeddu ni a’u traddodi i ddyeithriaid.
“Rhoddwyd yn Ngarthcelyn.”
Atehion y Cymry.
“Ynlaf, Er na fyn y brenin delerau amodiad am y
Pedwar Cantref, a’r tiroedd eraill a ranodd efe rhwn» ei bendefigion, nac am Ynys Mon; eto ni chaniata cynghor y Tywysog iddo ffurfio heddwch oddieithr gydag amodiad am y cyfryw. Oblegyd iawn feddiant y Tywysog ydynt y cantrefi hyn, a berthynent o wir gyfiawnder i’w hynafiaid ty wysogaidd ef er amser Camber mab Brutus, heblaw eu bod yn rhan o’r Dywysogaeth gadarnhaol iddo gan y parchus Ottobonus, cenadwr y Pab yn y wlad hon, trwy gydsyniad yr arglwydd Frenin Iorwerth, a’i dad ef, fel y gwelir oddiwrth eu hysgrifau hwy. Ac hefyd, mwy cyfiawn i’r gwir etifeddion ddal y cantrefi hyny dan yr arglwydd Frenin, am arian a’r arferol warogaethau, na’u rhoddi i ddyeithriaid a dyfodiaid; y rhai pe llywodraethent yn un man a lywodraethent trwy drais a chy wilydd. “Hefyd, deiliaid holl gantrefi Cymru a ddywedant na ac oll na roddant eu hunain ar drugaredd y Brenin yn ol ei ewyllys ef. (1.) Oherwydd na chadwodd yr arglwydd Frenin o’r dechreuad na’r amodau na’r Uwon na’r gweithredoedd ysgrifenedig tuag at eu harglwydd y Ty wysog, na thuag atynt hwythau. (2.) Oherwydd iddo ymddwyn fel y traws-lywodraethwr creulonaf tuag at yrEglwysa’rgwŷr Eglwysig.
“Na chymerent hwy delerau y Brenin, am mai gwŷr y Tywysog oeddynt, yr hwn ei hun oedd yn barod i ufuddhau yn ol y defodau arferol.
“Am yr hyn a ddywedir, ' Fod i’r Tywysog ymostwng yn hollol a diamod i ewyllys y Brenin,' atebant, gan na feiddia yr un o’r cantrefi rhagenwedig ymostwng i’w ewyllys, oherwydd yr achosion rhagenwedig, ni chaniatâ eu cariad at y Tywysog iddo yntau ymostwng mewn un modd.
“Eto, mewn perthynas i’r pendefigion yn darparu fod mil o bunau yn cael eu rhoddi i’r Tywysogmewn rhyw fanyn Lloegr; atebant, na ddylai y cyfryw gynaliaeth gael ei derbyn, oherwydd ei bod yn cael ei darparu gan y pendefigion hyny a ymdrechant ddietifeddu y Tywysog, fel y gallont gael ei diroedd yn Nghymru. Ac nid iawn i’r Tywysog ymadaelâ’ietifeddiaeth efa’i hynafiaid yn Nghymru er amser Brutus, ac hefyd yn gadarnedig iddo ef gan genhadwr y Sedd Ápostolaidd, fel y mynegwyd eisoes; a derbyn tir yn Lloegr, lle y byddai yn anwybodus o’r iaith, a’r moesau, a’r cyfreithiau, a’r defodau: a lle y dichon i rhyw ddadleuon gyffroi y Saeson yneierbyn o hen gasineb, trwy yr hyn y collai efe y tir hwnw tros byth.
“Eto, gan fod y Brenin yn bwriadu ymddifadu y Tywysog o’i gysefin etifeddiaeth, nid ydyw yn debyg y bydd i’r Brenin ganiatau iddo feddianu tir yn Lloegr, ar ba le nid ymddengys fod ganddo unrhy w hawl. Ac os na chaniateir i’r Tywysog feddianu y tir anflFrwythlawn a diffaeth, ei eiddo cynhenid trwy iawnder etifeddol yn Nghymru, pa fodd y caniateir iddo feddianu tir maethedig a ffrwythlawn vn Lloegr?
“Eto, am fod i’r Tywysog roddi i’r arglwydd Frenin feddiant o Eryri yn hollol, yn fythol, ac yn heddychol; atebir gan fod Eryri yn rhan o Dywysogaeth Cymru, yr hon a biau ef a’i flaenafiaid er dyddiau Brutus, fel y dywedwyd eisoes, ni chaniatâ ei gynghor iddo ymadael a’r lle hwnw, a chymeryd lle llai dyledus iddo yn Lloegr. '• Eto, pobl Eryri a ddywedant, er y byddai i’r Tywysog roddi eu rhandiroedd i’r Brenin, eto hwynthwy ni phlygent i unrhyw estron, o iaith, a moesau, a chyfreithiau, yr hwn y byddent yn hollol an-^bodus; oherwydd dichon y dygid hwynt felly i gaethiwed parhaus, a’u trfn gyda chreulonder, megis y trinwyd cantrefi eraill oddiamgylch, gan swyddogion y brenin a”i weision, yn fwy creulon na Saraceniaid, fel ag y gwelir yn yr ysgrifau a ddanfonasant atoch, Sanctaidd Dad.”
Yn ngeiriau y gwladgarol Carnhuanawc, ^ti ei Hanes y Cymry, o ba lyfr y codasom yr ohebiaeth hon, bron air yn ngair, gan fod y cyfieithiad o honi ganddo mor dda fel nas gellir ei well; yn ngeiriau’r athrylithgar Garnhuauawc, “Clod i’ch coS’adwriaeth anrhydeddus, chwi Bobl Eryri. Da y meithriniasoch y wreichionen ddiweddaf o annibyniaeth Cymraeg. N id ymffrost wâg a wnaethpwyd genych, pan lefarasoch y penderfyniad hwn; ond ad-brynasoch eich ymwysthad â gwaed eich calonau — gwaed goreu Ewropa, 5’r hwn affrydioddyn helaethlawn rhwng creigiau Eryri, pan, wedi syrthiad eich Tywysog, yr aberthasoch chwithau eich einioes yn yr un achos gogoneddus. Clod i’ch coffadwi’iaeth; a bydded i”r un yspryd, yr hwn a’ch bywiocaodd chwi, eto weithredn yn ein cenedl pa bryd bynag y goddefont ormes. Couasoch eich bywyd, mae’n wn-; ond enillasoch i’ch plant barch a breintiau, y rhai ni fuasent byth yn eu mwy’uhau ar law y gorthrymydd, oni buasai eich ymarweddiad dihafarch.”
Ateb Dafydd ab Gruffydd.
“Pan elo efe i’r Tir Sanctaidd, efe a â o’i fodd ac o’i galon i Dduw ac nid i ddynion; a thrwy ganiatad Duw nid â yno yn anfoddlawn, canys gwyrfod gwasanaeth trwy drais yn anfoddlawn gan Dduw. Ac os digwydd iddo ar ôl hyn fŷned i”r Tir Sanctaidd o’i wir ewyllys ei hun, ni ddylai ef a’i etifeddion o achos hyny gael eu dietifeddu, ond yn hytrach enill gwobrwy. Heblaw hyn, nid yw y Tywysog a’i bobl yn cynal rhyfel yn erbyn neb o achos dygasedd, neu elw, trwy ymosod ar diroedd eraill; ond er amddiffyn eu hetifeddiaeth a’u breintiau, a’u rhyddid eu hunain; a’r arglwydd Frenin a’i bobl a gynaliant ryfel er mwyn hen ddygasedd ac ysiyeilio ein tiroedd ni. Yr ydym yn credu ein bod yn cynal rhyfel gyfiawn; a gobeithiwn yn hyn y bydd i Dduw ein cynorthwyo, a thrwy Ei ddwyfol ddialedd yn erbyn difrodwyr yr eglwysi, y rhai yn llwyr a ddinystriasant, ac a losgasant, ac a yspeiliasant o’u dodi-efn sanctaidd; a laddasant yr offeiriaid, y crefyddwyr llenyddol, y cloffion, y byddariaid, y mudion, y plant yn sugno bronau, y methedig, a’r cystuddiedig, heb arbed na gwryw na benyw; felly bydded yn mhell oddiwrth eich ffanctaidd Dadoldeb daranu unrhyw ddedfryd yn erbyn neb oddieithr y sawl a gyflawnasant y cyfryw bethau. Canys nyni, y rhai a ddyoddefasom y cyfryw bethau gan swyddogion y brenin, ydym yn gobeithio derbyn eich tadol gysur o’u herwydd, a cheryddu o honoch y cyfryw gysegr-yspeilwyr a’u cefnogwyr, y rhai nid ellir amddiffyn eu gweithredoedd hyn mewn un modd, rhag, o achos eisiau adferyd dyledus gerydd arnynt hwy y bydd i’r drygau rhag-enwedig gael eu gwneud yn gynllun gan eraill.
“Hefyd, y mae llawer yn ein gwlad yn rhyfeddu eich bod yn ein cynghori i adael ein gwlad ein hunain, a thrigo yn mhlith gelynion, canys os nad allwn gael heddwch yn ein cyfiawn wlad gynhenid, pa fodd ycawnheddwch mewn gwlad ddieithr yn mhlith estroniaid? Ac er mai caled yw bywyd rhyfel a’^chynllwynion, eto caletach fyddai cael ein llwyr ddyfetha. Duw a luddias i bobl Gristionogol gael eu diddymu am amddiffyn eu gwlad a’u breintiau. Felly gorfodir ni i hyn gan angenrheidrwydd a chan drachwant ein gelynion; a chwychwi, Sanctaidd Dad, a ddywedasoch yn ein gwydd. eich bod am gyhoeddi dedfryd y rhai, er mwyn dygaseddneu elw, agythryblantyr heddwch; ac y mae yn amlwg i bawb pwy ydynt y cyfryw.
“Gan hyny, cymhellir ni i ryfel gan ofn angau a charchariad, neu ddietifeddiant parhaus, gan ddirmygiad amodau, creulawn ly wodi-aethiad, a llawer o bethau cyiîelyb. A hyn a ddangoswn i chwi, a deisyfwn genych dadol gynorthwy.
“Yn mhellach, sylwn fod llawer eraill yri nheyrnas Lloegr wedi digio y brenin, ond eto ni ddietifeddodd efe neb o honynt am byth, fel y dywedir. Ac os darfu i neb ohonom ninau ei ddigio ef yn annghyfiawn, dylem wneuthur boddlonrwydd iddo hyd y gallom, eithr ni ddylai ef ein dietifeddu. A chan ein bod yn jTnddiried ynoch, erfyniwn arnoch ymdrechu tuag atddwynhynoddi amgylch, Sanctaidd Dad. Haerir yn ein herbyn ein bod wedi tori yr heddwch, eithr hwynthwy yn hytrach a’i torasant a phob amod a chytundeb gydag ef.”
Y mae yn anhawdd dimad am ddim mwy rhesymol, teimladol, ac yn cynwys mwyowladgarwchpuradiragrith, na’r llythyrau hyn; eithr atebwyd hwynt gan Archesgob Canterbury, mewn Llythyr maith, yn cynwys y syniadau mwyaf bustlaidd, cyfrwysgall, a gwawdus. “Diystyrasom,” meddai’r prelad maleisus dduwiol, “anhawsderau a pheryglon y daith, a daethom atoch i ddychwelyd defaid crwydredis:, ac i fynegu i chwi a’n lleferydd ein hunain eich peryglon a’r modd i’w hysgoi.” Yna gan gymeryd enw y Goruchaf yn ofer, a’i alw yn dyst o ddidwylledd y genad, â yr Archesgob yn mlaen mewn dull trahauslyd, mwy gweddus i swyddog Iorwerth 1. nag i ŵr Duw. Yn y rhan olaf hon o’r ohebiaeth y mae’n amlwg fyd y prelad ŵedi colli ei natur dda, ac arwydda ei dymher ddrwg fod ei resymau wedi gwisgo allan. Haera maienciliad oeddynt y Cymry o Troi, ac fod rhan o’r genedl Seisnig yn Mhrydain cyn dyfodiad y Cymry, sef y “Ceiurv y sonia traddodiad am danynt. Edliwiai iddynt wendid y Brutaniaid yn gorfod gwahodd y Saeson trosodd i’w hamddiffyn rhag rhuthriadau y Pictiaid a’r Scotiaid. Galwai hwynt yn llofruddion ac yspeilwyr; a dywedai i Hywel Dda flPurfio ei gyfreithiau trwy awdurdod y diafol. Danodai nad oeddynt yn amddiffyn yr Eglwys yn erbyn Paganiaid trwy filwriaeth [ergyd i Dnfydd ab Grufîydd oedd hon yna]; nac ond ychydig o honynt yn ei haddurnotrwy lenyddiaeth; ond yn treulio eu hamser mewn segurdod “fel braidd y gwyr y byd eich bod yn bobl oddieithr trwy yr ychydig ohonoch a welir yn cardota.”
Bellach, rhoddwyd yr ysgrifbin i dwyllo o’r neilldu, a chymerwyd y bidog yn ei le i drechu. Ac er holl aflwyddiant yr ymdrafodaeth tiaenorol, llwyddodd i ddynoethi bwriadau yr Archesgob, ac i brofi mai blaidd mewn croen dafad oedd efe, ac nad oedd ei holl broff’esiadau o gyfeillgarwch yn nechreu yr ohebiaeth ond twyll a rhagrith. Efe a seliodd y rhagrith hwn yn mhellach trwy felldithio Llewelyn, a thywallt ar ei ben phiolau barnedigaethol EglwA’s Rhufain. Ac ni buasai’r prelad ychwaith mor barod i warthruddo a drwg-liwio ein cenedl, oni buasai fod ei gelynion yn nerthol a Ihiosog. Gwyddai ef yn dda pa blaid oedd y gryfaf, a pharai hyn iddo siarad yn haerllug a hyf. Tra yr oedd Lloegr a’i chyngreiriaid Gwyddelig a Ffrengig yn unol, a’r Cymry, o’rochr arall, yn ymranedig, nid oedd angeu dewin i hysbysu pwy fyddai drechaf. Yn y cyfamser, nid oedai Iorwerth ei ddarpariadau; a chyn bod yr ohebiaeth drosodd, yr oedd wedi gwersyllu ei fyddin ar fin y Gonwy, wrth wadnau Eryri. Yna efe a ddanfonodd lynges o forwyr a gwyr traed i ymosod ar Ynys Mon. Gwaith rhwydd a gafbdd y rhai hyn, canys y rhan luosocaf o arglwyddi yr Ynys oeddynt tan Iŵ o ffyddlondeb i’r brenin er yr heddwch diweddaf; ac felly ychydig o’r ffŷddloniaid a ymgynullasant i wrthsefyll y glaniad, a’r rhai hyny oll bron a ddinystri-wyd. Ar ol cael safle yn Mon, ac ymaeyn rhaid cyfaddef maisaflebwysig ydoedd, bwriad nesaf y gelyn oedd croesi’rFenai, a chael cefn y Cymry i ymosod arnynt yn Arfon. Gwnaethant bont o fadau wrth Moel y Dôn, yr hon oedd yn ddigon llydan i dri ugain o wyr gerdded ochr ynochr ar hyd-ddi. Ond yr oedd llygaid y Cymry ar euhysgogiadau, a dirgel ddarparent ar gyfer eu croesawu trwy godi gwrthgloddiau yn y coedwigoedd gerllaw. Cyn cwblhau’r bont, Syr “William Latimer, gyda lluaws mawr o wyr goreu’r fyddin, ac arglwyddi Gascony a’r milwyr Yspaenaidd, yn gweled dim gelynion yn Arfon, nac yn wir ynmalio dim am danynt wedi ymwroli yn fawr oherwydd eu llwwddiant yn Mon, a ddaethant trosodd abuont amamser yn ymddifyru ac yn gwybetta ar hyd y traeth. Risiart ab Walwyn oedd cadlywydd y Cymry, ac efe ni chythryblodd ar yr ymosodwyr, gan y gwyddai y deuai’r llanw i mewn yn fuan, ac y torid eu llwybr encil. A phan ddaeth yr amser cyfaddas, y Cymry a ruthasant o’u cuddfanau arnynt. Yna y bu mwstwr a ff’rwgwd. Gwaed rhai o honynt a liwiai y traeth, eraill wrth ymgyrhaedd at y bont a gyfarfuant a dyfrllyd fedd; gwaedd angeuol rhai a rybediai yn y clogwyni gwatwarus (yr oedd ceryg ateb Arfon yn wladgarol y pryd hwn), gwaedd ereilla foddid yny weilgi safnrwth; os troent at y dwfr angau oedd yn ei sî, os edrychent i’r tir cleddyfau sychedig am waed eu calonau oedd yno; ac wrth garnau’r cleddyfau hyny ddynion wedi cael cam, wedi eu mathru gan orthrwm i ddyfnderau isaf dialedd, a thrais wedi alltudio o’u mynwesau bob tosturi a chydymdeimlad. Syrthiodd o Saeson y dydd hwnw bumtheg barwn, deuddeg ar hugain o ysweiniaid, a mil o wyr cyfiFredin; ac yn mhlith y lladdedigion yr oedd Syr Lucas de Thany, Syr Wm. Dodingles, a Syr Wm. de la Zouch. Syr Wm. Latimer, eu cadben, yn unig allodd ddianc, a thrwy gryfder ei farch y diangodd ef. I’r amgylchiad uchod canodd rhy w fardd, o’r enw Cadwganffol, yrenglyn bras ond ergydiol a ganlyn; —
Llawer bran sy’n eisiau i’r brenin, — heddyw
Hawdd gallwn chwerthin,
Llawer Sais leubais llibin
A’r gro yn do ar ei
Rhwygid awyr Er yri gan oroian oherwydd y fuddugoliaeth hon. Dychwelodd colomen gobaith eilwaith i blith y Cymry, a gwelent nad oedd byddin fostfawr Iorwerth yn anorchfygadwy. Aethant drachefa i oruwch-ystafelloedd LlEWELYli. 291 eu cof i ’nol daroganau Myrddin, ac o honynt sugnent y grediniaeth y byddai Llewelyn yn ben teyrn yr Ynys hon; a thra y tybient hwy fod gwawl euraidd yn ymdroi arnynt nid oedd y cwbl ddim ond fflachiad mellten cyn ymdoriad y dymhestl. Pa fodd bynag, dychrynwyd y brenin Iorwerth yn aruthr, a chiliodd o Gonwy i Rhuddlan, gan na feiddiasai ymlid ei elynion yn mhellach i’r mynyddoedd, ac nad oedd yn ddyogel iddo aros yn hwy wrth eu godreu. Cyrhaeddodd y newydd am y fuddugoliaeth hon i’r Deheudir, a chalonogodd bleidwyr y tywysog yn fawr. Rhys ab Maelwyn a Gruffydd ab Meredydd, penaethiaid y blaid hon, a enillasant amrai gantrefi oddiar y Saeson yn Ngeredigion a sir Gaerfyrddin; a’r brenin a ddanfones Iarll Gloucester a Syr Edmwnd Mortimer yno i ddarostwng y gwrthryfelwyr. Cymerodd brwydr le ger Llandilo Fawr, yn mha un y gorchfygwyd y Cymry gyda cholled fawr; a’r Saeson a gollasantheblaw Uuaws o wyr cyffredin, bum’ marchog, un o ba rai oedd William de Yalence, cefnder y brenin.
Llewelyn, yn gweled fod Eryri yn ddyogel oherwydd ymgiliad y brenin, a ymddii-iedodd wyliadwriaeth y rhan hono i’w frawd Dafydd, ac a orjTudeithiodd gyda chwe’ mil o wyr tua’r Deheudir, er mwyn calonogi ei gyfeillion yno, a dial ar ei elynion; yn eu plith Rhys ab Meredydd yr hwn a fradychasai ei egwyddorion, ac a droesai at y Saeson. Diffeithiodd Geredigion, cyfoeth y Rhys hwn; ac oddiyno cyfeiriodd ei gamrau tua chantref Buallt, Ue yr oedd wedi addaw cyfarfod gwyr o”r wlad hono er mwyn cyngi-eirio â hwynt. Daeth ei symudiadau i’r Deheudir i glustiau y brenin, ac efe a ddanfonodd orchjTuyn at Ouyer de Dyneham, un o’i swyddogion yn swydd Maesyfed, iddo groesi yr Hafren i sir Gaerfyrddin, a gwyllo pob cyfleusdra i orthrechu’r ty wysog.
Llewelyn, er mwyn cyflawni ei addewid o gyfarfod gwyr Buant, a adawodd gorph ei fyddin ar fryn cyfagos i bentref Mochryd, tua thair milldir oddiwrth yr afon Wy, y rhai oeddynt i wylio a gwrthsefyll ymosodiad Dyneham; a chan nad oedd yn ofni perygl o’r un cyfeiriad arall, ni chymerth ond ychydig o wyr gydag ef. Gyda’i fintai fechan aeth gan belled ag Aberedwy, a rhoddes y gwyr i wylio Pont flrewyn, yr unig bont dros yr afon wy yn yr ardal hono, fel na ddeuai perygl oddiyno ychwaith. Dywed un hanes fod gan y íywysog balas yn Aberedwy, ac mai yn y palas yr oedd y cyfarfod i gymeryd Ue, ond nid ydy w hyny yn rhesymol, gan fod Buant er’s amser maith cyn hyn bron yn gyfangwbl tan lywodraeth y Saeson; dy- wed eraill, yr hyn yn ol pob argoelion sydd gywir, eu bod i gyfarfod mewn llwyn o goed ychydig oddiar nant yr afon Wy, a rhwng y ddwy adran o’r fyddin Gymreig. Ond y mae pob rheswm i gasglu fody cynlhm wedi ei ddatguddio gan yr arglwyddi hyny oeddynt i gyfarfod Llewelyn. Yn mhen ychydig fynydau wedi iddo adael Pont Orewyn, ymosodwyd ar ei gwarchlu gan John Gifford a Ôyr Edmwnd Mortimer, gyda byddin gref, rhan fawr o ba un oeddynt wyr Buallt. O’r Llwyn coed hwnw clybu yswain y Tywysog swn ymladd tua’r bont, a dywedodd wrth ei arglwydd fod y Saeson yn ymosod ar y gwarchlu. “A ydynt yn dal eu tir,” ebai ef. “Ydynt.” “Yna ni syflaf oddiyma pe byddai holl Loegr yr ochr draw;” a diamheu ei fod yn gywir ei farn am ei ddyogelwch oni buasai fod bradwr yn mysg y gelynion. Y fintai a amddiffynodd y bont gyda dewrder dihafal; a’r Saeson yn gweled nad allasent ei chymeryd, un o’r enw Heliaswalwyn, brodor o’r ardal, a ddangosodd iddynt ryd ar yr afon ychydig islaw y bont, yr hwn, er ei fod yn beryglus, a groesasant. Yr oedd yn anmhosibl i’r fintai fechan ddal ymosodiad yn ol a blaen; o ganlyniad, gadawsant y lle a ffoisant. Bellach nid oedd dim rhwng Llewelyn a’i elynion, ac yr oeddynt yn eithaf hysbys, trwy yr arglwyddi bradychus, pa le y deuent o hyd iddo. Amgylchyuasaut y llwyn coed, a thra yr amcauai Llewelyn eucillo at gorph ei fyddin i Mochryd, daeth swyddog Seisnig, o’r enw Adam de Ffrancon, yn mlaen ac a’i trywauodd ef â gwaewff’oll, heb feddwl unwaith nad un o osgorddlu y Tywysog ydoedd. Eithr Efrancou wedi chwiho y llwyn, a chael nad oedd neb ynddo, a ddychwelodd at yr archolledig ac a’i cafodd yn prysur farw, a neb gydag ef ond ei gyfaill yr yswain. Yn mhen ychydig f yuydau, hufarw. Dechreuwyd archwilio ei gorph, a chafwydamrywlythyraupwysigyueifeddiant a’i sêl dywysogaidd. Yna Efrancou a dorodd ben y Ty-,vysog, ac a’idaufonoddi’r brenin yn Rhuddlan, yr hwn 1 dderiayniodd yr anrheg waedlyd gyda llawenydd mawr, ic a’i danfonodd i Lundain i’w arddangos yn gyhoeddus, ile y coronwyd ef a choron o fedw er dirmyg ar y darogan y byddai i Llewelyn wisgo coron yn ninas Llundain. Am y corph, oherwydd fod y Tywysog wedi marw tan ysgymundod, gellir tybied bron i sicrwydd ei fod wedi ei gladdu, mewn croesffordd ar lain o dir a elwir Cefn y Bedd, tua thair milldir o Buallt. Yn ol yr hen ddefodau Cymreig mewn croesflFyrdd y cleddid drwgweithredwyr, ac yr oedd pawb a fyddent farw tan felldith yr Eglwys Babaidd yn dyfod tan y cyfenw hwn.
“Y fyddin Seisnig -wedi lladd a gwasgaru y ddeadell fechan a warchaeai’r bont a ruthrasant tua chorph y fyddin Gymreig arybryngerllawMocbryd. Ymddygoddy Cymry yn ddewr a chanmoladwA’ iawn er nad oedd eu Tywysog ŷno i’w llywyddu. Parhaodd y frwydr yn amheus am dair awr, weithiau’r Saeson yn enill, weithiau’r Cymry. Eithr pan glybu’r olaf am dynged eu llywydd. ymoliwngasant a ffoisant yn annhrefnus, gan adael dwy fil, tua thrydedd ran eunifer, yn feirwon ar y maes. Cymerodd y gâd hon le ar y lOfed o Ragfyr.
Gadawodd Llewelyn ar ei olunferch, a hono ond plentyn dwyfl-wydd oed, a’r brenin a’i dodes hi mewn mynach- ìog Ue y cymerodd hi urddau fel mynaches. Yr oedd iddo hefyd un mab ordderch o’r enw ìtiadawc; sonir am dano yn Cymru Fu, tu dal. 132. Disgynai’r Dywysogaeth i bafydd brawd Llewelyn, ond eriddo efgymerydyrawenau i’w law am yspaid bŷr, yr oedd yspryd y genedl wedi dififygio ac yntau a ddaliwyd mewn coedwig yn y cyflwr truenusaf, danfonwyd ef gyda’i wraig a’i ddau fab a’i saith merch yn garcharorion i Rhuddlan, ac oddiyno i’r Amwythig, lle v dienyddiwyd ef yn y dull creulonaf, (gwel Cymru Fu, tu dal. 25l).
Y ddau berson mwyaf blaenllaw yn yr hanes brysiog a ysgi-ifenasom ydynt Iorwerth I. a Lìewelyn ab Oruffydd, ac y mae arnom awydd dweyd gair hŷr am gymeriad y ddau cyn terfynu. Na chyhudder ni o ragfarn gwladgarol na dallbleidiaeth mympwyol pan ddywedom mai dyn Fals, creulawn, bostiog, a rhyfelgar, oedd Iorwerth, o’r stamp Fonipartaidd waethaf. Sylwer arno yn gwahodd Llewelyn i’r “wledd” yn “Worcester, ac ar ei ymddygiad llechwraidd yn anfon y gor-dduwiol Archesgob Canterbury i ragrithio cyfeillgarwch tuag at y Cymry, er mwyn iddo ef gaei hamd’dem i ddarpar ar gyfer eu gorthrechiad; ac yn eu twyllo yn y diwedd gyda thywysog o’i Iwynau ei hun, ac os na vrëìi ffahder yn hyn, yr wytyn ddall. Creuiaiun! buasai Nero ei hun yn gwrido wrth arddel gweithredoedd cyffelyb i anfoniad y “pen gwaedlyd “i foddio cywreinrwydd y Llundeiniaid gwawdus, a’i waed yn rhedeg yn oer wrth orchymyn llofruddiad barbaraidd Dafydd ab Gruffydd. Edrycher eto arno vn dwyn Llewelyn yn ei orymdaith fuddugoliaethus o ô-ymru, yn rhoddi ystad tad Eleanor de Montforte iddi ar ddydd ei phriodas, ac yn galw Cymru yn eiddo iddo ei hun, tra nad oedd ganddo y rhithyn Lleiaf o hawl ar y wlad hono ond trwy drech a thrais a rhaib anniwall, a dyna o’ch blaen foú wedi ymgnawdoli. Yr oedd fel Gwyddel am ryfel, os na cha’i un gyllawn efe a godai un anghyfiawn — rhyfelasai gyda’i dad a’i fam, ei wraig a’i nain, a phawb aphobpeth, cyn y buasai byw’n heddychol. Gallasai Lloegr a ffcotland, ffrainc a Phalestina, gyddystio â Chymru mai dyn gwaedlyd ydoedd. Dyn nad oedd byth mewn heddwch ag ef ei hun, ond pan mewn rhyfel ag eraill, üs na wylodd ar lan y mor Indiaidd, os na threiddiodd gymyl bol-dduon bwlch St. Bernard, ac os na sathrodd ar adfeilion y Colisseum, dim diolch iddo— hyt oedd ei allu ac nid ei ewyllys. Ni fwriadodd ddaioni erioed; gwnaeth ddaioni efallai, ond yn hollol anfwriadol. Dywed llawer, a’r Saeson yn enwedig, mai daioni oedd uno Cymru a Lloegr,; os felly, ac i Iorwerth fod yn foddion i ddwyn hyny oddiamgylch, mewn camgymeriad y gwnaed y daioni, ac uchelgeisiaeth, rhaib, at ragor o awd- Tirdod, a chasineb greddfol at y Cymry, oeddynt ei amcanion mawr, yn ngheseiliau pa rai y cafwyd y daioni, os cafwyd ef hefyd. Ei uchelgais a’i gwnai yn rhyfelgar, a’i ryfelgarwch a’i gwnai yn greulawn, neu yn ffals, fel y byddai amgylchiadau yn galw. Boddio ei nwyd o uchelgais oedd prif bleser ei fywyd; a than effaith y boddineb hwnw troid gwaedd câd yn beroriaeth yn ei glustiau, a thrueni rhyfel yn olygfa baradwysaidd i’w lygaid.
Nid oedd Llewelyn ychwaithynddifai. Cyfiawn gyhuddir ef o greulonder dialw-amdano tuag at ei frawd Owen, yr hwn a garcharodd efe am yspaid hirfaith yn nghastell Padarn. Mewn gallu milwrol nid oedd i’ w gydmaru am fynyd gyda’i wrthymgeisydd Iorwerth. Fel cadlywydd yr oeddyn ddifi’ygiol mewn rhagolwg, er engraiät, ei esgeulusdra yn darpar ar gyfer ei gydwladwyr uewynog yn Eryri, pan warcheid hwynt gan y Saeson yn y flwyddyn 1277; a’i hyder anoeth yn ymddiried ei hunan yn nwylaw ei fradwyr yn nhir Buallt — ychydig o wyliadwriaetha’illuddiasai i ymadael ag Eryri yn y cyfwng peryglus hwnw. Llinell euraidd ei gymeriad ef oedd ei ffyddlondeb i’w egwyddorion, a’r penaf o’i egwyddorion oedd ei gariad disigl at ei wlad a’i genedl. Ni cheir ond un bwlch yn y linell hon, a hyny pan ddiraddiodd ei hunan yn Worcester er mwyn Eleanor de Montforte. Ei wladgarwch oedd arweinydd ei holl symudiadau; yr oedd ei holl egwyddorion yn eraill yn is-wasanaethgar i hwn, athaneillywodraeth ycyflawnodd efe lawer o amryfuseddau a beiau ei fy wyd. Heddwch ei wlad abaroddiddogarcharueifrawdOwen,llwyddiantei lÄy-WELTnr. 295 hachos oedd ganddo mewn golwg -wrth ymgyngreirio gyda Simon de Montforte; ac ar neges tros ei gydwladwyr yr ydoedd yn Muallt pan blanwyd y waywffon farwol yn ei ìynwes. Bwriadai ddaioni, ac os methodd ei gyflawni bob amser, nid oedd ganddo ef mo’r help am hyny. Dyna Lleiueiyn, yr olaf a’r goraf ar lawer o ystyriaethau o’r ty- wysogion ìuont yn llawio hen deyrnwialen Frutanaidd y Dywysogaeth amsaith can’ mlynedd, canys yn ei angau ef ysguiawyd olion olaf ei hannibyniaeth, dilewyd ei chyfreithiau, ac unwyd hi a theyrnas gyfoethog a galluog Prydain Fawr. Pe rhyfelasai Llewelyn ar feusydd Marathon, neu yn Nghulfor Thermopylce. diau y canmolasid ei ymdrech am gyiiawnder i”w gydwladwyr a’i wrhydri ar ddalenau’r ciassics. Ond dyben Iorwerth oedd dileu pob adgof a chofnod am dano. Pa fodd bynag, dagrau ei gydwladwyr a wlychasant ei fedd, beirdd ei wlad a ganasant ei glodydd, a galerid ei dynged gan bawb a edmygent ddewrder, ffyddlondeb, a chalon gywir a gwladgaroi.
Traddodiadau yn ei gylch
Dywed Traddodiad ddarfod i Llewelyn, trayn gorwedd yn ei waed, ddanfon ei yswain i grefydd-dŷ gerllaw, i ymofyn mynach; ac idd ar gyffes o’i bechodau dderbyn y Sacrament olawy gŵr crefyddol, trwy yr hyn y rhyddheid ef oddiwrth ysgymundod a melldith Eglwys Ëhufain. Defnyddiwyd y traddodiad, gan gyfeillion y diweddar Dy wysog, “fel rheswm tros gael caniatad i gladdu y marw mewn tir cysegredig. Matilda Longspee, Iarlles Salisbuiy ac wyresLlewelyn ab Iorwerth, a Mortimer ei hun, a ddeisyfasant yn daer am hyn o hynawsedd tuag at yr hyn oedd farwol o’u cyfathrachwr, eithr gwrthodwyd hyd yn nod y ff’afr fechan hon.
Y mae Traddodiadarau, ddarfodiLlewelyn gaelrhybydd o ddyfodiad y Saeson, aciddoamcanu ffoi rhagddynt, achan fod eira ar y ddaear ar y pryd, iddo droi i efail gôf o’r enw Madawc Goch Min Mawr, a hwnw a droes bedolau eifarch er mwyn twyllo ei ymlidwyr. A phan ddaeth yr ymlidwyr hyd at efail ygôf hwnw, Madawc a ft’adwrus d’datguddiodd iddynt gyfrinach y pedolau, trwy yr hyn y daliwyd ac y Uofruddiwyd y Tywysog.
Arferai hen bobl Buallt adrodd y Traddodiad canlynol gyda llawn sicrwydd yn ei gywirdeb. Ddarfod iLlewelyn pan yn ymguddio yn y llwyn coed hwnw geisio ymlechu mewn twmpath o fanadl, a chan i’r banadl fethu ei guddio rhag ei elynion, iddo regi y cyû-yw goed fel na thyfodd banadlen byth drachefn yn mhlwyf Llanganten. Wrth bobl y plwyf hwnw, ni raid hysbysu fod y felldith, os bu erioed mewn grym, wedi ei hwyr ddileu er’s llawer blwyddyn.
Arwyddion Angau (Ofergoelion)
Beiir ni, mae’n ddiamheu, gan ddynion bychain crebachlyd eu meddyliau, am roddi ar gof a chadw rhyw Ofergoelion fel y rhai hyn; pan yn anwybodus buasem ninau yn cydweled â hwynt. O’r ochr arall, pe gadawsem y gorgredoau allan, nid ystyriasai y gwybodus a’r deallgar ein Cymru Fu yn gyflawn hebddynt; gan mai y dull goreu i adnabod ansawdd wareiddiol a chymeriad deallol pob oes a chenedl ydyw gwybod pa bethau a gredid ganddynt. Hyd derfyn y ganri’f ddiweddaf, credai tua naw o bob deg o’n cenedl mewn ofergoelion a rhagarwyddion mor gadarn ag y credent yr Efengyl ei hun; ac ystyrient y sawl a amheuai ddilysrwydd y cyfryw bethau yn ddim gwell nag Atheist. Yn wir, ychydig o fljmyddau yn ol, ganddosparth lluosog o’n cydwladwyr, ystyrid pob dyn ychydig callach na’r cyffredin felmewn cyfathrachâ’r diafol, ac yn ddjdedus i’w fawrhydi Satanaidd am eu rhagoriaeth mewn dysg a gwybodau. Felly yr ystyrid y Dr. John Dafydd Êhys Dr. Johncent, yr Archddiacon Prys,HuwLlw_ydoGynfal, ac yn bendifaddeu y Dr. W. Owen Puw; ac ni bu erioed hen fechgyn glanach eu moes, a phurach eu dybenion, tra y chwarddent yn braf ambenmympwyon gwrachodachorachod safnrwth eu hoes. Ond clywsom ddynion gwybodus, dynion diarhebol am eu geirwiredd a’u duwioldeb, yn dweyd yn y dull mwyaf pendant eu bod wedi gweled gweledigaethau, a chlywed clywedigaethau, nad oedd modd eu priodoli i ddim cyff’redin a naturiol. Wrth wrando ar y gwyr geirwir hyn yn dweyd eu profiadau gyda’r rhan ysprydol o’r greadigaeth, ymgodai yn ein meddwl bob amser y cwestiwn. Tybed fod rhy w wyddon gywrain mewn ysprydiaeth nad ydym ni eto yn ei deall? Tybed fod cymundeb cymdeithasol rhwng yspryd âg yspryd dignawd, nad ydy w’r ysprydion mewn cnawd wedl ei chwilio allan? Beth am y cydgyfarfyddiad rhyfedd a gymerant le rhwng meddyliau a meddyliau pan byddo’r corph yn absenol? Beth am freuddwydion?
Gyda hyn o ragymadrodd, ni a awn yn mlaen i gofnodi yr Artuyddion Angau a gredid gan ein cyndadau, heb roddi ein gair tros ddilysrwydd y naill na’r llall o honynt:— 1. Canwyllau Cyrph. Math o oleuni nwyol yn tarddu oddiar leithder a llygredd oedd y “canwyllâu “hyn; fel yr Ellylldan {Jach-a” - Lantern) yn codi oddiar gors afiach. Y mae yn ddirgelwch pa fodd y priodolwyd erioed grwydriadau di-reol y goleuni hwn i ragflaeniad marwolaeth, ac ygalwydhwynt yn “Ganivyilau Cyrph.” Ond dyna’r ffaith. Pobl Dyfed pan ganfyddent y liewyrch (annaturiol, yn eu tyb hwy), yn ymhthro ar hyd rhyw ffordd neulwybr, a benderfynent yn y fan y byddai corph un o’u cymydogion yn myned ar hyd yr unrhy w ffordd neu Iwybr yn bur fuan. Clywsom y chwedlau anhygoelaf a ddisgynasant ar ein clustiau erioed am y Lampau Uedrithiog hyn. Dywedid y byddent yn amrywio yn eu maiutioli yn ol oed a maintioli yr hwn y rhybuddient ei farwolaeth. Fel hyn:— Yr oedd “canwyll “baban yn debycach ifagiennag iganwyll; tra y byddai “canwyll “gŵr yn mlodeu ei ddyddiau yn oynud yn fawr fel fflam o goelcerth anferth. “Canwyll “wen a âi o flaen menyw, ac un goch a ragflaenai wryw. Dy wedid na byddent yn cerdded ar nosweithiau gwlybion; ond ar dywydd sych a thesog, gwelid hwynt mor aml a gwybed min nos yn Ngorphenaf. Canfyddid hwynt ar brydiau yn y fynwent yn tanbeidio uwch ben y bedd a agorid ar fyrder. Y cyfryw oeddynt y rhamantau dyeithr a goelid yn Nyfed, ac mewn manau eraill o ran hyny, hyd ddechreu y ganrif hon, ac nid oedd y cwbl ond natur yn llosgi ei phydredd ei hun — trydan yn d’od i gyffyrddiad a’r nwy anmhur yn y gors a’r fynwent, a hwnw we’di tanio yn aros yn llonydd neu yn cerdded o gwmpas wrth drugaredd y gwynt. Y mae’r “canwyllau “hyn i’w gweled hyd y dydd hwn yn Mon, Dyfed, Dyffrjti Clwyd, ac iseldfroedd Maldwyu; ond o drugaredd, ni frawychir y trigolion ddim mwy wrth edrych arnynt nag wrth edrych ar lewyrn fmefeorj, “syrthiadseren,” yn nhybyrhenbobl. 2. Yr oedd swn, tebyg i sum cloch yn y glust yn arwydd sicr o farwolaeth; a digwyddai’r alaeth bob amser yn y cyfeiriad y digwyddai’r glust fod ar y pryd. Yn yr amser gynt hefyd, byddai cloch y Llan yn dra gwasanaethgar fel rhybuddiwr, dywedai fod amser ymddatodiad rhai o’r plwyfolion parchus a chyfrifol gerllaw trwy roddi tri thinc o honi ei hun, a hyny yn nghefu trymaf y nos. Hynodid cloch Blaenporth, yn Ngheredigion, yn arbenigol yn hyn o beth. {Brython, cyf.v. tudal. 225). Rhywddiaspadprudd, prudd, prudd, oedd y tri chlul hyny, digon a pheri i ffwi haf dori ei galon a marw o’r melancoli.
3. Oillii Annwn, neu Gwn Bendith y Mamau. Barna y Parch. O. Jones, Manchester, mai Uygriad o gwn lledrithiog Pwyll Pendaran Dyfed, y sonir am danynt yn y Mabinogion Cymreig, ydynt y Cwn A nmuyihjn. Ychydig a wyddis am danynt yn y cymeriad o Rybuddion. Dywed y Parch. Edmwnt Jones o’r Transh, (dyna’rdyn mwyaf ysprydol y cawsom ni erioed y fraint o ddarllen ei waith; y mae Swedenborg yn anuhraethol islaw iddo) am y Cwa hyn, mai “Po agosaf i ddyn y byddont, lleiaf a fydd eu Hwn; a pho bellaf, uwchaf a fydd, gan ymchwyddo weithiau fel udfa bytheuad, neu waedgi mawr.” Llafar Gwlad, a dyma’r safon ar bynciau o’r natur yma, a ddywed fodeuhudiadauyn annhraethadwy grasach a chrasach nag oernadau bleiddiaid rheibus. Bydd Vox populi yn son am danynt, wrth y tA u mawn ar hirnos gauaf, fel haid o gwn duon bychain tan lywyddiaeth rhyw lymangi mawr cymaint ag eidion pum’ mlwydd. Udent fynychaf mewn croesffyrdd a’r manau mwyaf cyhoeddus. Yr oedd yn beryglus erchyll sefyll ar eu llwybr, gan y brathent yn gynddeiriog, ac yr oedd eu brathiadau yn angeuol. Weithiau ymgynullent yn un haid gethernus at fedd yr hwn yihagflaenent ei farwolaeth, acwediudo achwynfaa yn y lle am gryn amser ymsuddent i’r ddaear, ac nis gwelid hwy mwy. A dyna Gwti Annwn.
4. Ond yr arch-ddrychiolaeth oedd yr hon a elwid y Teulu. Pobl Dyfed bron yn unig oeddynt wedi eu breintio a llygaid i ganfod hon hefyd. Darlun ysprydol cyfiawn ydoedd o’r angladd a gymerai le. Pawb a phobpeth yn ysprydol yn ei briodol le a’i swydd. Yspryd ceffyl yn tynu yspryd hearse, yn mha un yr oedd yspryd arch ac yspryd y marw: ac yn caul yn yspr ydion anmherffeithiedig y cymydogion wedi bod yn bwyta yn helaeth cyn cychwyn o yspryd y’ bara a’r caws, ac yfed yn helaeth o yspryd y cwrw brwd. Ac wedi i yspryd yr offeiriad ac yspryd y clochydd ddarllen yspryd y gwasanaeth, ac i’r holl ysprydion gydganu salm neu emyn, a rhoddi yspryd y corph yn yspryd y bedd, a’i briddo gydag yspryd o raw, yr holl ysprydion a ddychwelent i’w cartrefleoedd. Ni fynychid y rhybudd hwn, gan ei fod braidd yn drafferthus i ysprydion fyned tr-n’y’r ddefod fwy nag un-waith. Sonid llawer am gosb y sawl trwy ddamwain neu anystyriaeth a ymyrent a’r Teulu ar eu taitLi; ond gan fod y Teulu wedi marw ni byddai’r cyfryw hanesion o unrhyw wasanaeth. i’r oes hon. ' 5. Y Gylnraeth. Nid drychiolaeth mo’r rhybudd hwn, eithr dywolaeth. Rhyw ddolef gras annaturiol ydoedd yn gwibio tua’r awyr yn nyfnder nos; fynychaf, uwchben croesffyrdd, a’r ìlwybrau y dygid y marw ar hyd-ddynt. Byddai’r cryfaf yn delwi wrth ei sŵn, y meddw yn sobri, a’r tyngwr yn syrthio ar ei liniau i weddio. Y mae pob lle i gredu nad ydyw’r Gyrhiraeth wedi ymadael â Chymm hyd y dydd hwn, ond yn aderyn y ceir ef yn bresenol wrth yr enw “Coblin y coed f u’oodpecher Y.
Chwanegwn y rhybuddion canlynol,y rhai, osna chredir hwynt, eto ydynt ar flaen tafod y Wlad hyd yn nod y dydd hwn:— 6. Dailhuanyn ysgrechian.
1. Ci yn udo.
8. Äderyn y corphynymguroynerhyn ystafell welyyclaf, a dyna bobpeth trosodd gyda’r truan hwnw. Yn ol Llafar Gwlad, adeiyn rhyfedd oedd hwn heb blu nac adenydd, yn crwydro drwy’r ffurfafen yn y dull mwyaf cyfrin, ac yn byw, ond pan ar negesau rhybuddiol i’r byd hwn, yn ngwlad Hud a Lledrith.
9. Pren afalau yn blodeuo’n anamserol, — arwydd sicr o farwolaeth ei berchenogyn ystody tymhor hwnw ydoedd. 10. Ceiliog yn nliryinder nos yn canu yn ei glwyd. \\. lar yn canu fel ceiliog.
12. Breuddwydio eich bod yn mhriodas rhyw gyfaill.
Sicrhai hyny y byddwch yn fuan yn ei gynhebrwng.
13. Gauaf glas, mynwent fras.
Pe gallesid rhoddi pwys ar y rhagargoelion hyn, diau mai pobl hapus fuasai’r hen Gymry, trwy y gallaseutfyw mewn rhusedd eu gwala hyd oni ddaethai y “rhybudd,” ac yna iawn dreuho eu hamser gweddill. Ond am danynt oll bron gellir dywedyd mai dychymygion mynachod yr oesoedd tywyll oeddynt wedi eu dyieisio o bwrpas er cyffroi dyDlon i ystyriaeth o’u camweddau, a byrdra eu heinioes.
Rhys Grythor
Rhtw fath 0 gadflFwl gwlad yrystyrid Ellys, ac, fel ffyliaid yn gyffredin yn gall a chyfrwys tros ben; ac yn crwydro hyd y wlad heb yn unman gartref, a’i Grwth (math o fiddle) gydag ef, o dŷ y boneddwr hwn i dŷ y bardd draw, o’r dafarn honi’r dafarn acw, weithiau ar ei fferau ei hun a thro arall ar yspryd o hen geffyl y buasai’n fììtiach ei fod yn y barcdŷ er’s blynyddoedd. Ond byddai drws agored i Rhys yn mhob man; yr oedd ei hyfder gwatwarus yn lladd pob gelyniaeth, a gorfodid y costowcaf ei dymher i ddweyd fel y dywed mam am ei phlentyn, “Mae’n anmhosibledrych yn ddig arno.” Gymaint oedd yr alwad am ei wasanaeth ar adegau fel y byddai beirdd yn cyfansoddi rhimynau hirion o gywyddau i “Ofyn am ei fenthyg.” Cyfansoddodd William Cynwal un felly ar gais Eüs Prys o Blasioljm, i ofyn Rhys gan Sion Tudur o Wigwair; a gwae i’r Crythor byth fyned tan sylw eu hawen,
Nid oedd derfyn ar ei ddawn ymadrodd, a byddai yn
Siarad yn serth draiferthus
H7ff, haff, hwff, baff, rwff raff, Rys.
Y raae dyn yn sadio ac yn sobri cryn lawer fel yr ymestyna cysgodau’r hwyr o’i gylch, ond yn ol Sion Tudur yr oedd Rhys yn eithriad i’r rheol hon:—
Yn neuben ei fyd yn ebol — diriad,
Yn aderyn lledffol,
Yn ifanc, ffiaidd lanc ffol;
Ac yn hen yn gynhwynul.
Ac -wedi marw a chladdu Rhys Grythor nî pheidiodd ef a bod o ddifyrwch mawr i werin bobl Gwynedd. Ymddifyrant yn fynych wrth adrodd y chwedlau canlynol a’r cyffelyb am dano:— Rhys a ddamweiniodd fod ar noson yn Mettws Abergele, yn canu i foneddigion; ac a hwy yn nghanol ei digrifwch deuai i mewn ynounThomas Lewis, o Lanfachraeth yn Mon, gŵr o atebion parod tebyg i Rhys. Wedi myned o honynt yn gydnabyddus o gyneddfau eu gilydd, drwy ymryson crasineb, ebai Rhys, “Pebuasaify nhad erioed ar ei ymdaith yn Mon, dywedaswn dy fod ti yn frawd imi.” “O,” ebaiThomas, “nid anhaws ini fod yn frodyr er hyny, canys byddai fy nhad i yn arferol a dyfod i borthmona i’r whidhon, ac efallai iddo daro wrth dy fam di.” A dyna i Rhys slap yn eifawd. Un ffraeth ei dafod oedd y gŵr hwn o Lanfachraeth. Nid oedd wasanaeth yn eglwys ei blwyf un tro, ac yntau a aeth iFangor 0 “b-wrpas i achwyn wrth yr Esgob o’r herwydd, ac erfy-n arno gymeryd ymaith y pwlpud, gan ei fodyn beth trwsgl diddaioni. A’r Esgob gan ddeall ei feddwl, a ddywed y gyrai ef bregethwr iddynt. A’r Sul cyntaf y deuai, ac wrth esgyn i’r pwlpud, o fod y llawr yn gnyciog ac anwastad, tripiodd y pregethwr. Yna y dywedai Thomas, “Cymerwch ofal, syr, canys y mae ef yn wyllt iawn; ni farchogwyd mono er’s blwyddyn.” Yna’r offeiriad a bregethodd yn tieisnig iddynt, ac wedi dyfod allan o’r eglwys, cyfarch gwell a wnai y gŵr parchedig i Thomas, a gofyn iddo pa fodd yr hoffai ei bregeth; yntau a atebodd, “Yn wir mi a’i tebygwn i iâr yn magu cywion hwyaid.” Nod saethau a direidi Rhys bron bob amser oeddynt ei gyfeillion y tafarnwyr. Un tro bu yn bwyta ac yn diota mewn gwesty yn NyíTryn Clwyd am fis; ac am yspaid, mawr fyddai’r cyrchu at gwrw’r tafarnwr, er mwyn cael gweled Rhys. Tra y cymerai hyn le, yr oedd iddo groesaw mawr gan y publican a’i deulu; a dyna Ue byddai’r Crythor yn chwareu nes llawenhaupob calon; ond y bobl a flinasant toc ar y ddiod sur, yn hytrach nag ar gwmniaeth Rhys. Ac o hyny, chwerwodd tymher y tafarnwr cribddeilgar, a dechreuodd godi yn ddrud ar Rhys am ei fwyd a’i ddiod; ac ni chymerth yntau arno nad eithaf boddlon ydoedd i dalu. Siaradai, yfai, gwawdiai, fel arfer. “Wyddoch chwi beth,” ebai ef wrth ei westywr un diwi-nod, “y mae gan i ddyfais i groywi diod sur.” “Dyna’r very peth oedd gen inau eisio.” “Punt am dani P” ebai Rhys. “Boddlon.” “Wel, fy nyfais ydy w rhoddi rhafî wair undarn o gylch y baril cwrw bedwar tro, gan orchuddio’r barilbob tro, a chroywa’r ddiod suraf yn y wlad mewn dwy awr.” Awd i wneud y rhaff wair — y publican yn un pen iddi yn gollwng y gwair, a’r pechadur yn y pen arall yn troi y droell; a’r dyledwr a’r gofynwr yn myned bellach, bellach, oddiwrth eu gilydd o hyd; a Rhys tan edrych yn sobr an-wedd, yn troi ac yn troi nes y trodd o amgylch congl rhyw adeilad. Yna rhoddodd geiniog i hogyn bychan a safai gerllaw am droi yn ei le — a ffwrdd ag ef ymaith, tan ddywedyd, “Nid twyll twyllo twyllwr,” a gadael y cwrw gan sured ag erioed, a thymher y gofynwr yn lled debyg iddo, ac nid anrhydeddodd y Crythor y lle hwnw mwyach â’i bresenoldeb.
Dro arall, Rhys mewn tafarndŷ bychan yn Mon, yn gofyn am lasiad o gwrw, a gwelai nad oedd nemawr ddim yn y gwydr o’i flaen ond dw’r. “Rhoswch chwi,” ebai ef, gan gymeryd y gwydr i’w law, “beth ydyw enw’r afon yna sy’n myn’d heibio’r tŷ hwn? Chofiwn i yn fyw myw, ac y mae ar Jlaen/y nhafod ih.efyd;” a chyda’r gair cymerth Iwnc o’r ddiod. Bron na laddodd efe ŵr y tŷ gyda’r ergyd. Crybwyllasom y byddai ef weithiau ar ei geffyl. Ceffylau erchyll o deneuon fyddent ei geffylau, nes peri i lawer synu sut na holltasai yn ddau wrth eu marchogaeth. Anrhegion fyddent gan ryw foneddig neu gilydd i Rys, wedi iddynt dori eu gwynt, neu fod yn rhy hen i weithio. Ar un o’r bwystfilod hagr hyn, yr aeth ef un diwrnod i ffair Nefyn, a dodes ef mewn ystabl yn muarth rhyw dafarndŷ; yna aeth i rodio hyd y dref. Yn ei absenohleb, daeth tri o grach-foneddwyr i’r buarth hwnw, hwythau hefyd ar feirch, y rhai a ddodwyd yn yr un ystabl â cheffyl Rhys, ar ba un yr edrychasant gyda gradd helaeth o syndod a digrifwch. “Pwy biau’r rinoseros hwn?” ebynt hwy wrth yr hostler. “Rhys Grythor,” oedd yr ateb. Ac yna direidus gynllwynasant alanas ar y “rinoseros,” chwedl hwythau. Torasant ymaith ei fwng, a blew ei gynffon, ei amrantau, a’i glustiau, nes peri i’r hwn oedd hyll gynt yn awr yn edrych yn saith hyllach; a mawr oedd eu digrifwch a’u llawenydd oblegyd eu direidwaith. Yna aethant hwythau ymaith, a dychwelodd Rhys i’r ystabl. ' Holo! “ebai ef, “pwy wnaeth yr anmharch hwn ar fy Ngharnwenan (canys dyna’r enw a roddai ar ei feirch bob amser er cof am farch yr enwog Arthur)?” “Y boneddwyr biau y ceffylauhyn,” ebai’r hostler. “Mi a wnaf o’i goreu â hwynt,” ebai ef ynddo ei hun; a chymerydei gyllell a rhwygo safnau meirch y crach-foneddigion a wnaeth Rhys. Ar hyn hwythau a ddaethant yn ol, a dechreu edliw a gwatwar i Pthys ei farch anffurfiol a diolwg a wnaethant. “Yn mh’le y cefaist ti yr harddbeth hwn, Rhys?” ebai un, “’Rwyt yn rhoi gormod o fwyar duon iddo,” ebai’r ail; “Y mae pobl Caer wedi mjmed a’i gig oddiarno i’w werthu yn lle cig eidion, a’i rawn i wneud perwigau i’r merched,” ebai’r trydydd. Gwrandawai Rhys arei crasder gyda gwen gyfrwysnasgallasenthwymo’iddeall sutyn y byd. “Wel, mae yn ddigrif,? Hae yn ysmala,” ebai’r tri ar unwaith. “Ydyw,” ebai Rhys, “mae’ch ceffylau chwi yna wedirhwygo eucegauwrthchwerthinam eiben!” Llawer o bethau cyffelyb ellidddweyd amy Crythor, ond digon hyn i brofi ei arabedd a’i fîraethder. Yn Eisteddfod fawrCaerwys 1568, graddiwydef ynDdysgybl Cerdddafod. Diamheu ei fod o gyneddfau cryfion annghylîredin, ond, ysywaeth fel Uawer o feib talentog Cymru, o’i flaen ac o’i ol, yn claddu ei ddefuyddioldeb yn meddau’r blya.
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), a gasglwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrecsam: Hughes and Son, 1862). Sgan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Mabinogi: y llyfrau a gadwodd chwedlau Cymru
Mae Cymru wedi cadw ei straeon mwyaf ers naw can mlynedd. Dyma sut: storïwyr y llysoedd brenhinol, awdur anhysbys y Pedair Cainc, dau lyfr mawr a ysgrifennwyd i ddau uchelwr o Gymro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a merch ifanc o Saesnes yng ngwaith haearn Dowlais a ddysgodd Gymraeg ac a roddodd y chwedlau i’r byd.

Y Welsh Not: sut y ceisiwyd difa ein hiaith, a sut yr ymladdodd Cymru’n ôl
Am bedwar can mlynedd trin y Gymraeg fel rhywbeth i gael gwared arno a wnaeth y rhai a lywodraethai Gymru o Lundain. Caeodd Deddf Seneddol hi allan o’r llysoedd, galwodd adroddiad gan y llywodraeth hi’n ‘anfantais enfawr’, a chrogodd ysgolion flocyn o bren am yddfau plant a’i siaradai. Gwrthododd Cymru ei gollwng.

Llechi, undod a goroesi: darllen anghydfod y Penrhyn
Rhwng 1900 a 1903 safodd chwarelwyr Bethesda yn erbyn perchennog chwarel lechi fwyaf y byd, yn yr anghydfod hwyaf yn hanes diwydiannol Prydain. Adroddir eu hanes yma drwy’r papurau sydd wedi goroesi: hysbysiad rheolwr, naw cais yr undeb, cerdyn mewn ffenestr, y dadleuon yn y Senedd, apêl dros W. J. Parry, a’r archifau lle cedwir y gweddill.

Y Gymru Ddiwydiannol
Haearn, glo, llechi a chapel; gwrthryfeloedd, terfysgoedd a chenedl wedi’i hail-lunio mewn un ganrif.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Llewelyn, ein Llyw Olaf, rhan 2, hyd Rhys Grythor’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/cymru-fu-llewelyn-2.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Tudalen o Lyfr Coch Hergest (Coleg Iesu, Rhydychen, MS 111), a ysgrifennwyd tua 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio dros y Gymraeg y tu allan i Swyddfa’r Post yn Llangefni, 23… — Geoff Charles, National Library of Wales · CC BY-SA 4.0
- Ponciau anferth chwarel lechi’r Penrhyn ym Methesda, mewn print ffotocrom wedi’i liwio â llaw tua 1900 — Photoglob Zürich · Parth cyhoeddus
- Cwch camlas yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte Telford, ymhell uwchben dyffryn Dyfrdwy — Adrian Pingstone · Parth cyhoeddus
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth