Caer Rufeinig Tomen y Mur o’r awyr, a’r domen Normanaidd ddiweddarach o fewn ei rhagfuriau

Hanes Cymru / Llyfrgell / Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru

Cymru Fu: chwedlau a thraddodiadau Cymru

Math ab Mathonwy hyd Tudur Aled a’r Bysgodwraig

Math ab Mathonwy, Y Creaduriaid Hirhoedlog, Hen Ddefod Gladdu Gymreig, Edmwnd Prys a Huw Llwyd o Gynfal a darnau eraill: o Cymru Fu, llyfr Isaac Foulkes o chwedlau a thraddodiadau Cymru (1862), yn ei Gymraeg ei hun.

Llun: Caer Rufeinig Tomen y Mur o’r awyr, a’r domen Normanaidd ddiweddarach o fewn ei rhagfuriau · Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0 · Wikimedia Commons

Y Gymraeg

Math ab Mathonwy: Hen Fabinogi Gymreig

fEen Fahinogi Oymreig.J Math AB Mathonwy oedd arglwydd ar “Wynedd; a Phryderi ab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar hugain yn y Dehau, sef oedd y rhai hyny:— Saith cantref Dyfed, a saith cantref Morganwg, pedwar cantref Cerediffion a thri Ystrad Tywi.

Ac yn yr amser hwnw, Math ab Mathonwy ni byddai byw namyn tra fai ei ddeutroed yn mhlyg ar lin morwyn, onibyddai cynhwrf rhyfel yn ei atal; a’r forwyn hono oedd Goewin ferch Pebin, o Ddol Pebin yn Arfon, a hon ydoedd tecaf morwyn ei hoes hyd y gwyddent hwy ’yno. A Math a breswyhai beunydd yn ’Nghaer Dathyl yn Arfon, ac ni allai fyned ei hun oddiamgylch ei gyfoeth, eithr Gilfuethwy ab Don ac Eueyd ab Don, ei neiaint feibion ei chwaer, a amgylchynent y wlad yn ei le ef. _A’r forwyn oedd gyda Math yn wastadoi, ac yntau Gilfaethwy ab Don a ddodes ei fryd arni, ac a’i carodd hyd na wyddai pa beth i’w wneud am dani; ac oherwydd hyny, wele ei liw a’i wedd yn dadfeilio hyd nad oedd hawdd ei adnabod.

Ei frawd Gwydion un diwrnod a sylwodd yn graff arno, “Ha! was,” ebai ef, “pa flinder sydd arnat?” Ebai yntau, “Paham? beth a weli di:-” “Gwelaf i ti golli’th bryd a’th hw; a pha flinder sydd arnat?” “Arglwydd frawd,” ebai yntau, “yr hyn a’m bhna I, ni leshâ im’ ei draethu i un gwr.” “Beth yw hyny, Eueyd?” ebai ef. Ebai yntau, “Ti a wyddost gyneddf Math ai) Mathonwy, sef pa sisial bynag a fo rhwng dynion, os cyffwrdd y gwynt â’r sisial hwnw, Math a’i gwybydd.” “Gwir;” ebai Gwydion, “taw, bellach, mi a wn dy flinder: caru Gíjewin yr ydwyt.”

A phan wybu efe fod ei frawd yn hysbys o’i feddwl, efe a roddodd yr ochenaid drymaf yn y byd. “Taw, Eueyd, â’th ocheneidio,” ebai Gwydion, “nid fel yna y gorfyddir; mi a baraf, gan nad ellir heb hyny, gydymgynull Gwynedd a Phowys a Deheubarth i geisio y forwyn. Cymer di gysur, mi a’u paraf.”

Yna y ddau a aethant at Math ab Mathonwy. “Arg- Iwydd,” ebai Gwydion, “Mi a glywais ddyfod i’r Deheudir rhyw bryfed na ddaeth erioed eu bath i’r Ynys hon.” “Beth y gelwir hwy?” “Hobau, aiglwydd.” “Pa i-yw fath o anifeiliaid ydynt?” “Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion.” “Bychain ydynt?” “le; ac y maent yn newid eu henwau. Weithian, moch y gelwir hwynt.” “Eiddo pwy ydynt?” “Eiddo Pryderi ab Pwyll, yr hwn a’i cafodd o Annwn, gan Arawn brenin Annwn; ac y maent eto yn cadw yr enw o haner hwch, haner bob.” “le,” ebai yntau, “pa fodd y ceffir hwynt oddiarno?” “Mi a âf yn un o ddeg, yn rhith beirdd, i geisio y moch ganddo.” “Efe a eill eich nacau,” ebai Math. “Ni bydd fy ymdaith yn ofer, arglwydd, ni bydd i mi ddychwelyd heb y moch.” “Yn llawen, ynte, dos rhagot,” ebai Math.

Felly Gilfaethwy ac yntau a deg o wyr eraill a aethant, a chyrhaeddasant Geredigion, i’r fan a elwir yn awr Rhuddlan Teiff, lle yr oedd llys Pryderi. Yn rhiíh beirdd yr aethant a derbyuiwyd hwynt yn Llawen. Ai’ ddeheulaw Pryderi y dodwyd Gwydion y noson hono.

“Yn wir,” ebai Pryderi, “da fyddai genym gael chwedl oddiwrth un o’r gwyr ieuainc acw.” “Y mae yn arferiad genym ni arglwydd,” ebai Gwydion, “y nos y delom at wr mawr, fod i’r pencerdd ddweud ei chwedl yn nghyntaf. Yn llawen, mi a adroddaf chwedl.” A Gwydion oedd y chwedleuwr goreu y byd; a’r nos hono, dyddanu y llysa wnai âg ymddiddanau digrif a chwedlau, onid aeth yn ’dda gan bawb am dano, a dyddan gan Pryderi oedd ymddiddan agef.

Ar ddiwedd hyny, “Arglwydd,” ebai Gwydion, “ai gwell y gwna rhywun arall fy neges na myfi fy hun?” “Nid gwell,” ebai yntau, “tafod fîraeth sydd genyt ti.” “Yna, arglwydd, dyma fy neges: Deisyf genyt yr anifeiliaid a anfonwyd i ti o Annwn.” Ebai yntau, “Y peth hawsaf yn y byd fuasaihyny,onibai fod cyfamodrhyngwyf fi a’m gwlad am dany nt; sef nad elont oddiwrthyf hyd oni hiliont eu dau gynifer yn y wlad.” “Arglwydd,” ebai yntau, “gallaf dy ryddhau oddiwrth y cyfamod yna, fel hyn:— Na ddyro y moch i mi heno, ac na nacâ fi otionynt, ac yforu mi a ddangosaf i ti gyfnewid am danynt.”

A’r nos hono, Gwydion a’i gydymdeithion agymerasant gynghor yn eu llety. “Ha! -nyr,” ebai ef, “ni chawn ni y’moch o’u gofyn,” “Aie,” ebymt hwythau, “pa fodd ynte y ceir hwynt?” “Mi a baraf eu cael,” atebai (jwydion.

Yna efe a ddefnyddiodd ei gelfyddyd a’i hud, a pharodd i ddeuddegemys [cadfarch; Saes. chargery ymddangos; a deuddeg milgi bronwynion, a chanddynt ddeuddeg torch a deuddeg cynllyfan, nas gallasai y sawl a’u gwelent wybod nad aui- pur oeddynt. Deuddeg cyfrwy oedd ar y meu-ch, ac ar y manau y dylasai haiarn fod yr oedd aur; a’r fÎTwyni oeddynt yi’ un defnydd. Gyda’r cwû a’r meirch hyn y daeth Gwydion at Pryderi.

“Dydd da i ti, arglwydd,” ebai ef; “Duw a’thlwyddo, â chroesawit’,” ebaiyntau. “Arglwydd,” ebai Gwydion, “wele ryddhad iti oddiwrth y geiriau a ddy wedaist Wtthyf neithiwr am y moch — nas rhoddit ac nas gwerthit. Ti a elli eu cyfnewid am a fo gwell. Rhoddaf it’ y deuddeg meirch hyn,yn nghyda’u cyfrwyau a’u ffrwyni; a’r deuddeg milgi hyn fel eu gweli, gyda’u torchau a”u cynllyfanau; a’r deuddeg tarian euraidd a weli didraw.” Y rhai hyn oll a rithiasai Gwydion o’r madalch [bwyd llyffant; Saes./M?ìŷifs]. “Mi a gymeraf gynghor,” ebai Pryderi. Ac yn y cynghor efe a gafas roddi’r moch iGwydion, a chymeryd y cŵn a’r meirch a’r tarianau yn eu lle. Yna Gwydion a’i wyr a gymerasant eu cenad, ac a deithiasant ymaith gyda’r moch. “Ha! gyfeillion,” ebai Gwydion, “rhaid i ni gerdded yn biysur, canys ni phery y lledrith ond hyd yr un amser yforu.” Y nos hono, cyrhaeddasant hyd warthaf Ceredigion, ac arosasant mewn lle a elwdr o’r herwydd Mochdref. Tranoeth, cymerasant eu hynt trwy Melenydd, a’r nos tariasant mewn tref rhwng Ceri ac Arwysth, a elwir hefyd o’r achos hwnw Mochdref. Oddiyno aethant rhagdciynt ac arosasant y noson nesaf mewn cwmwdynyMhowys, a elwido’rherwydd Mochnant. Yna cerddasant hyd gantref y Rhos, ac yno y buont y noson hono, mewn man a elwir eto Mochdref. “Fy ngwyr,” ebai Gwydion, “rhaid i ni brysur gyi-chu gyda’r anifeiliaid hyn i gadamfeydd Gwynedd, canys y maelluynein hymlid.” Felly y teithiasant yn mlaen hyd y dref uchaf yn Arllechwedd; yno y gwnaethant gren fstyj i’r moch, oherwydd hyny gelwid y Ue Crenwyryon. Wedi gwneuthur y creu, cyrchasant i Gaer Dathyl, at Math ab Mathonwy. Pan aethant yno, cawsant fod y wlad yn derfysg drwyddi. “Pa newydd sydd yma?” ebai Gwydion. Ebynt hwythau, “Pryderi sydd yn casglu un cantref ar hugain i’th ymlid di. Rhyfedd mor araf y cerddasoch. Pa le y mae yr anifeiliaid yr aethoch i’w hymofyn?” “Gwnaethom gren iddynt yn y cantref islaw,” ebai Gwydion.

Ar hyny, Math a’i wyr a glywent sain udgyrn a dygyfor mawr yn y wlad, a gwisgasant amdanynt, ac aethant hyd y Penardd, yn Arfon. A’r noson hono, Gwydion ab Don, a Gilfaethwy ei frawd, a ddychwelasant yn llechwraidd i Gaer Dathyl; a chymerth Gilfaethwy feddiant ar ystafell Math, gan orfodi Goewin i aros a thi-oi y morwynion eraill allan.

Ar lasiad y dydd dranoeth, dychwelasant i’r fan yr oedd Math a’i lu. Pan gyrhaeddasant, yr oedd y gwyr hyny yn ymgynghori pa du yrarhonynt Pryderi agwyry Dehau, ac i’r cynghor yr aethant hwythau. Yn y cynghor, penderfynwyd aros yn nghadernid Arfon, ac yn nghanol dwy Paenor yr arosasant, sef Maenor Penardd a Maenor Coed Alun. Yno ymosododd Pryderi arnynt, ac y bu brwydro caled; a lladdwyd yno laddfa fawr o bob ochr. ond bu raid i wyr y Deheu encilio. Enciliasant i le a elwir eto Nant coll; ymlidiwyd hwynt, ac yno y bu aerfa ddifesur ei maint. Enciliasant oddiyno hyd y lle a elwir Dolbenmaen, ac yno ceisio heddwch a wnaethant.

Er mwyn cael heddwch, rhoddodd Pryderi wystlon, sef Gwrgi Gwastra a thri ar hugain o foneddigion eraill. Yna Pryderi a’i wyr a deithiasant mewn heddwch hyd y Traeth Mawr; ond fel yr elent tua Melenryd, nis gellid atal gwyr y wlad rhag saethu arnynt. Pryderi a ddanfonodd genhadau atMath yn deisyf arno luddias y saethu; â gadael rhyngddo ef a Gwydion ab Don, canys efe a barasai hyn oll. Daeth y genad at Math; “le,” ebai ef “os da gan Wydion ab Don, mi a’i gadawaf yn llawen; ni chymellaf fi ar neb i ymladd.” “Diau,” ebai’r cenhadau, “Pryderi a ddywed mai tecach i’r hwn a wnaeth gymaint o gam ag ef ddyfod i ymladdfa law-law ei hunan, a gadael ei luoedd yn segur.” Ebai Math, “Myn y usfodd, nid archaf fi i wyr Gwynedd ymladd troswyf; os caf ymladd law-law gyda Pryderi, rhwydd y gwnaf hyny.” Dygasant yr ateb hwn at eu harglwydd, “Diau,” ebai ymtau, “nid archaf finau neb i hawlio fy iawn ond fy hunan.”

Y ddau a gyfarfuant mewn arfwisgoedd, ac a ymladdas» ant; a thrwy nerth cadernid a llidiowgrwydd Math, a hud a lledrith Gwydion, lladdwyd Pryderi. Claddwyd ef yn Maen Tyriawc, uwch. Melenryd, ac yno y mae ei fedd. A gwyr y Dehau a gerddasant yn drist tua’u gwlad; ac nid rhyfedd, canys eu harglwydd a gollasent, a llawer o’u goreugwyr, a’u meirch, a’u harfau gan mwyaf.

Gwyr Gwynedd ar ol eu buddugoliaeth a ddychwelasant yn llawen. “Ai’glwydd,” ebai Gwydion wrth Math, “onid iawn i ni ollwng gwystlon gwyr y Dehau, ac a ddylem eu dal yn ngharchar?” “Rhyddhaer hwynt ynte,” ebai Math. Felly y gwr ieuanc hwnw a’r gwystlon oeddynt gydag ef a ryddhawyd.

Yna aeth Math i Gaer Dathyl. A Gilfaethwy ab Don, a’r rhai oeddynt gydag ef, a aethant i amgylchu Gwynedd’ yn ol eu harfer, heb fyned i’r Llys. Math a gyrchodd i’w ystafell, ac a barodd barotoi Ue iddo benlinio, fel y byddai ei draed ar lin y forwyn. “Arglwydd,” ebai Goewin, “cais forwyn arall i gynal dy draed: gwraig wyf fi.” “Pa ystyr sydd i hyn?” “Tmosodwyd amaf,' arglwydd, yn ddirybydd; nid oes yn y llys ar nas gwybydd amdano, canys ni buom I ddystaw. Yr ymosodiad Wn a wnaed arnaf gan dy ddau nai feibion dy chwaer, sef Gilfaethwy a Gwydion ab Don; cam a wnaethant i mi, a chywilydd i tithau.” “Diau,” ebai ef, “yr hyn a allaf mi a’i gwnaf; mi a baraf i ti gael iawn yn nghyntaf, ac yna mjTiaf finau iawn. Ac mi a’th gymeraf yn wraig, a dodaf fy holl gyfoeth yn dy law.

Ni ddaeth Gwydion a Gilfaethwy ar gyful y llys, eithr trigo ar gyffiniau y wlad a wnaethant, onidaethgwaharddiad allan iddynt gael b wyd a diod. Ar y cyntaf ni ddeuent yD. agos at Math, ond o’r diwedd daethant. “Arglwydd,” ebynt hwy, “dydd da it’.” Ebai yntau, “Ai ni roddi iawn im’ y daethoch r” “Arglwydd wrth dy ewyllys yr ydym ni.” “Pe buasech wrth fy ewyllys, ni choliaswn gynifer o wyr ac arfau. Nis gellwch byth roddi iawn i mi am fy nghy wilydd, heb son am angau Pryderi. Eithr gan i chwi ddyfod yma at fy ewyllys, dechreuaf eich cosp yn ddioed.” Yna efe a gymerth ei swynlath, ac a darawodd Gilfaethwy â hi, onid aeth yn ewig yn y fan; ac ymaflodd yn y llall yn ebrwydd rhag iddo ddianc, a chyda’i swynlath efe a’i tarawodd yntau yn garw, gan cfdywedyd, “Gan eich bod mewn rhwymedigaeth, mi a wnaf i chwi fyned yn nghyd a bod yn gydmaredig, a meddu anian y creaduriaid yr ydych ar eu ffurf. Ac yn mhen y flwyddyn, dychwelwch yma ataf fî.”

Yn mhen blwyddyn i’r diwrnod hwnw, dyna dwrf tan ffenestr Math, a chyda’r twrf, cŵn y Llys yn cyfarth. “Edrych,” ebai ef wrth un o’r gweision, “pabeth sydd yna oddiallan.” “Arglwydd, mi a edrycbais, y mae yna garw ac ewig, ac elein (fawnj yn eu canlyn.” Ar hyny, Math a gyfodes ac a aeth allan, ac ef a ganfu y tri anifail. Yna dyrchafodd ei swynlath, “Yr hwn oedd ewig y Uyuedd, bydded faedd coed eleni; a’r hwn oedd garw y llynedd, bydded garnen goed _a wiidsoill’] eleni;” a tharawodd hwynt â’i swynlath. “Yr ieuanc hwn a gymeraf fi i’w feithrin, a pharaf ei fedyddiaw;” a’r enw a roddwyd arno oedd Êydwn. “Ëwch chwithau, a byddwch faedd a garnen goed, ac anian moch fyddo arnoch, a blwyddyn i heddyw byddwch yma tan y pared a’ch etifedd gyda chwi.”

Yn mhen blwyddyn, clywid cyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell, a’r llys a ymgynhyrfodd. Yna Math a aiith allan, a gwelai y tri bwystfil. A’r bwystfilod a welodd oeddynt faedd coed a charnen coed, a llwdn da yn eu dilyn. A mawr ydoedd o’i oed. “Yn wir,” ebai Math, “paraf fedyddio hwn.” Ac efe a’i tarawodd ef gyda’i swymlath, onid aeth yn Llanc teg, gwallt-wineu fauburnj, a galwyd eî Hychdwn. “A chwithau, yr un ohonoch oedd faedd coed y llynedd, bydded fleiddast eleni; a’r hwn oedd, garnen y llynedd, bydded flaidd eleni; a byddwch o anian ' gyffelyb i’r anifeiliaid yr ydych ar eu ffuii, a dychwelwch ’yma yn mhen y flwyddyn.”

Ac yn mhen y flwyddyn, efe a glywai gynhwrf a chyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell. Ac wedi iddo gyfodi a myned allan, canfu flaidd a bleiddast, a cheuaw cryf yn eu canlyn. “Hwn a gymeraf fi,” ebai ef, “a.pharaf ei fedyddiaw; ac y mae’r enw yn barod, sef yw hwnw, Bhiddwn:—

Tri meib Gilfaethwy enwir,
Tri o ryfelwyr cywir,
Sef Bleiddwu, Hydwn, a Hyctidwn hir.

Yna efe a’u tarawodd gyda’i swynlath, onid oeddynt yn eu cnawd eu hunain. “Ha! wyr,” ebai ef, “os gwnaethoch gam â mi, digon o boen a chywilydd mawr a gawsoch. Darperwch yn awr,” ebai ef wrth ei weision, “enaint gwerthfawr i’r gwyr hyn, a golchwch eu penau ac adgyweiriwch hwynt.” A gwnaed hyny.

Wedi Iddynt ymdrwsio, daethant at Math. “Ha! wyr,” ebai ef, “gan i chwi gael fy heddwch, chwi a gewch hefyd fy nghyfeillgarwch. Rhoddwch im’ gynghor pa forwyn a geisiaf.” “Arglwydd,” ebai Gwydion ab Don, “hawdd ydyw dy gynghori; cais Arianrod fercliDon, dy nith ferch dy chwaer.”

Dygpwyd yforwynato. “Ha! ferch,” ebai ef, “ai morwyn ydwyt?” “Nis gwn, arglwy-dd, amgennad wyf.” Yna efea gymerth eiswynlath ac a’i plygodd, “Camadi dros hon,” ebai ef, “ac os morwyn ydwyt mi a gaf wybod.” Yna hi a gamodd tros y swjTilath, ac yn y fan ymddangosodd bachgen teg, ac iddo wallt bras melyn mawr. Ac wrth ddolefain y mab hwn, hi a gyrchodd tuag at y drws. Ar hyny, rhywbeth bychan a welwyd; a chyn y gallai neb gael aiiolwg arno, Gwydion a’i cymerth. a rhoddodd len o bali o’i gylch, ac a’i cuddiodd. A’r lle y cuddiodd efe ef oedd gwaelod cist wrth draed ei wely.

“Yn wir,” ebai Math, “mi a baraf fedyddio y mab hwn, a Dylan ydyw yr enw a roddaf arno.”

Felly y mab a fedyddiwyd; ac fel y bedyddient ef, efe a ymsuddodd i’r môr. Ac mor fuan ac yr aeth i’r môr, anian y môr a gafodd, a chystal y nofiai ag un pysgodyn yn yi- eigion; ac oherwydd hyny, gelwid ef Dylan eil Ton. Ni thores tôn odditano erioed. A’r ergyd trwy ba un y daeth efe i’w angau a roddwyd gan ei ewythr, Gofannion. Hwnw oedd “y trydydd anfad ergyd.”

Fel y gorweddai Gwydion un diwrnod ar ei wely yn effro, efe a glywai sŵn yn y gist wrth ei draed; ac er nad oedd yn uchel, yr oedd er hyny yn hawdd ei gly wed. Cyododd Gwydion ar frys, ac agorodd y gist; ac wele ynddi fab bychan yn rhwyfo ei freichiau o blygiadau y llen, ac yn ei bwrw o’r neilldu. Ac efe a gymerth y ma’b yn ei freichiau, ac a’i cyrchodd i fan y gwyddai fod gwraig a bronau ganddi, a chytuuodd gyda hi i fagu y mab; a magwyd ef y flwyddyn hono.

Ar derfyn blwyddjTi, edrychai yn debyg i blentyn dwy flwydd oed. Yr ail flwyddyn, yr oedd efe yn fab mawr, ac yn gallu myned ei hunani’r Llys. A phan ddaeth i’r llys, Gwydion a sylwodd arno, ac a synodd. A’r mab a ymgynefinodd ag ef, ac a’i carai yn fwy nag ungwr arall. Yna magwyd ef yn y llys, onid oedd yn bedair oed, ac ediychai mor fawr a phe ìjuasai yn wyth mlwydd.

Un diwrnod, Gwydion a gerddodd allan, a’r mab a’i dilyuodd hyd i Gaer Arianrod; a phan aeth Gwydion i’r llys, cyfododd Arianrod i’w groesawu ac i gyfarch gwell iddo. “Duw a roddo dda it’,” ebai ef. “Pwy ydyw y mab sydd gyda thi?” “Y mab hwn, mab i ti ydyŵ ef.” Ebai hithau, “Och! paham y cywilyddi fel hyn? paham y cedwaist fy nghywilydd cyhyd?” “Oni bydd arnat ti gywilydd mwy na meithrin ohonynt fi lanc cystal â hwn, bychan o beth fydd dy gywilydd.” “Pa enw sydd ar y mab?” “Nid oes iddo enw hyd yn hyn.” “Tyngaf ’dynged,” ebai hi, “na chaflFo enw hyd oni chaffo genyf fi.” Ebai yntau, “Dygaf y nefoedd yn dyst, mai gwraig ddiriaid wyt ti; ond y mab a gaiff enw, er dy waethaf; yr jhyn a’th flina di ydyw na’th elwii- mwyach yn forwyn.” ’Ar hyny, efe a ymadawodd yn ei lid, ac a gyrchoddi Gaer Dathyl, ac yno yr arosodd y noson hono.

Tranoeth. cyfododd a chymerth y mab gydag ef, a cherddodd ar hyd glan y môr rhwnghyny ag Aber Menai. Canfu yno hesg a môr-wiail, a gwnaeth fâd ohonynt; ac o’r brigau gwynion a’r hesg y gwnaeth lawer o gordawl Y Cordovan or Turydsh Imiher Y; ac a’u lliwiodd yn y fath fodd, nas gwelsai neb ledr tecach nag ydoedd. Yna efe a wnaeth hwyl ar y bâd, a’r mab ac yntau a gyrchasant ynddo hyd borth Caer Arianrod. Yno efe a ddechreuodd lunio esgidiau a’u gwnio. Sylwyd ar y ddau o’r Gaer; a phan wybu Gwydion hyny, efe a gyfnewidiodd ei wedd a’i ffurffelnad adnabyddid ef. “Pa wyr sydd yn y bâd acw?” ebai Arianrod. “Cryddion ydynt,” ebynt hwy. “Ewch ac edrychwch pa ry w ledr sydd ganddynt, a pha ryw waith a wnant.”

Felly, gwyr Arianrod a ddaethant at yddau; a chawsant ’hwynt yn britho cordawl ac yn ei oreuro. A’r cenhadon a ddychwelasant gan fynegi hyn wrthi. Ebai hithau, “Mesurwch fy nhroed, ac erchwch i’r cryddion wneuthur esgidiau i mi.” Agwydion a wnaeth yr esgidiau, nid yn ’ol y mesur, ond yn fwy’. Dygwyd hwy ati, ac yr oeddynt yn ormod. “Gormod ydynt y rhai hyn,” ebai hi, “talaf iddo amdanynt, a gwnaed eto rai a fo llai na hwynt.” Yna efe a -^^naeth eraill, ac yr oeddyntyn rhy fychain, iac a’u danfonodd iddi; “dywedwch wi’tho nad i mi y mae y rhai hyn.” A dywedwyd hyny wrtho. Ebai yntau, “Yn wir ni wnaf esgidiau iddi oni chaf weled ei throed.” Ebaihithau, “Mi a geddef hyd ato ef.” A phan ddaeth hi at y llong, yr oedd efe yn lluniaw esgidiau, a’r msb yn gwniaw. “Dydddait’, arglwyddes,” ebaief. “Duw a roddo dda it’,” ebai hithau; “y mae yn syn genyf nas gellitwneudesgidiauoddiwrthfesur.” Ebai yntau, “Nia medrwn, ondmedraf yn awr.” Ar hyny, wele ddryw yn sefyll ar ystlys y llong; a’r mab a anelodd ato, ac a’i saethodd yn ei goes, rhwng y gewyn a’r asgwrn. Yna hi a chwarddodd. “Diau,” ebai hi, “gyda Uaw gyffes (steadyj y tarawodd y llewef.” Yna ebaiGwydion, “Na MATH AB MATHOîrmr’ 165 ddiolched y nef it’, eithr yn a-^ y bachgen a gafas enw, ac enw da’ddigon ydyw hefyd. &alwer ef o hyn allan, Llew Llaw Gyffes.”

Ar hvny, diflanodd y s:”waith, yr hesg, a’r môr-wiail; ac efe nis dilynodd ef yn mhellach. Oherwydd hyn y gelwir G^^-âion, y trydydd Eurgrydd. Ebai hi. “Xi bydd dy Iwyddiant yn fwy wrth fy nrygu I.” “Ni buom i ddrwg wi’thyf ti.” Yna efe a droes y mab i’w ffurf briodol ei hun. “Wel,” ebaihi, “mi adyngaf dyngedi’r mabhwn na chafîo arfau byth onis gwisgwyf fi hwynt amdano.” “Rhyngwyf fi a’r nefoedd,” ebai Gwydion, “er gwaethaf dy ddireidi, efe a gaiff arfau.”

Yna aethant tua Dinas Dinllef; ac yno meithrinwyd Llew Llaw Gyffes, onid allai farchogaeth pob march, ac onid ydoedd yn ei lawn ffurf o bryd, nerth, a maint. A chanfu Gwydion ei fod yn gwaethygu o eisiau meirch ac arfau, a galwodd ef ato, “Ha I was,” ebai ef, “ni a awn eia dau ar neges yforu, a bydd dithau lawenach nag wyt.” “Hyny mi wnaf,” ebai y mab.

Ac yn ieuenctyd y dydd dranoeth, cyfodasant, a chymerasanteufforddhydyr arfordir ifynutuag at Bryn Aiyen. Ac ar ben uchaf Cefn Clydno, cymerasant feirch, a daethant at Gaer Arianrod. Tno newidiasant eu pryd, a myned i’r porth a wnaethant yn null dau was ieuainc, eithr fod pruddach pryd ar Gwydion nag ar y gwas. “Y porthor,” ebai ef, “dos, a dywed fod yma feirdd o Forganwg.” Y porthor a aeth. “Croesaw y nef iddynt; gollwng hwynt i mewn,” ebai Arianrod.

Gyda dirfawr lawenydd y croesawyd hwynt; y neuadd a drefnwyd, a’r bwrdd a huliwyd. Wedi darfod bwyta, ymddiddan a wnaeth hi gyda Gwydion am chwedlau a hanesion; chwedleuwr da oedd Gwydion. A phan ddaeth adeg ymadael â’r gyfeddach, ystafell a gyweiriwyd i’r ddau ŵr dyeithr, ac i gysgu yr aethant.

Yn ngwyll y cyfddydd, Gwydion a gyfodes ac a alwodd am gymhorth ei hud; ac erbyn eu bod yn oleu dydd, yr oedd sain udgyrn a thrwst arfau yn diaspedain tros yr holl wlad. Aj hyny clywent guro ar ddrws eu hystafefl, ac Arianrod yn erchi ei agoryd. A’r gwas a’i hagorodd, ac i mewn p- aeth hi a morwyn ieuanc gyda hi. “Hawyr da!” ebai hi, “pa le ddrwg yr ydym ni?” Ebai yntau, “le, mi a glywaf udgym a Llefain, beth debygi di o hyn?” ' ebai hi, “Diau nis gallwn weled lliw y weilgi gan gynifez o longau sydd yn cyniwair ar hyd-ddo; ac y maent oll yn cyrchu i’r tir. A pha beth a wnawn ni?” Ebai Gwydiôn, ' Arglwyddes, nid oes dim i’w wneuthur ond cau y gaer arnom, a’i hamddiffyn hyd y gallom.” “Duw a dalo i chwi,” ebai hi, “cewch yma ddigon o arfau.”

Ar hyny, i nol yr arfau yr aeth hi; a dychwelodd yn ebrwydd a dwy forwyn gyda hi, ac arfau deuwr ganddynt, “Arglwyddes,” ebaiGwydion, “Gwisgadiamygwrhwn, a’r morwynion a wisgant amdanaf finau. Mi a glywaf dwrf gwyr yn dyfod.” “Hyny a wnaf yn Llawen;” a hi a wisgodd am dano yn gyfangwbl. “A ddarfu i ti wisgo y gwr ieuanc?” ebai ef. “Do,” ebai hithau. “Yr wyf finau wedi darfod,” ebai Gwydion; “diosgwn ein harfau weithian, canys ni raid ini wrthynt.” “Paham?” ebai hithau, “wele y mae’r llynges oddiamgylch ytŷ.” “Ha! wraig, nid oes yna lynges.” “Och!” ebai luthau, “0 ba le yr oedd y swn mawr a glywid?” “Hud ydoedd, i dori dy fwriad di, ac i gael arfau i’th fab. Ac yn awr y mae ganddo arfau, ond heb achos diolch i ti am danynt.” “Rhyngwyf fi â Duw,” ebaihithau, “gwr drwg ydwyt. Hawdd fuasai i lawer mab golli ei enaid oblegyd y trwst a wnaethost yn y Cantref hwn heddy w. Eithr mi a dyngaf dynged i’r mab hwn, na chaffo efe wraig byth o’r genedl y eydd ar y ddaear yr awr hon.” “Diau,” ebai yntau, “gwraig ddu-iaid wyt ti erioed, ac ni ddylai neb dy gynorthwyo. Er hyny efe a gaiff wraig.”

Yna, y ddau a ymadawsant â Chaer Arianrod, ac a ddaethant at Math ab Mathonwy, ac a achwynasant wrtho yn chwerw oherwydd Arianrod. Gwydion a’i hysbysodd hefyd pa fodd y cawsai arfau i’r gwr ieuanc. Ebai Math, “Wel, nyni, a tydi a minau, trwy hud a lledrith, a wnawn iddo wraig o flodeu. Bellach y mae ef yn wr llawn maint, a chyn deced ei bryd ag un mab a welais erioed.” Yna, cymerasant flodeu y derw, a blodeu y danadl, a blodeu yr erweni fmeadow-sweetj; ac ohonynt ff’urfiasant, trwy hud a lledrith, y forwyn decaf a theleidiaf a weles dyn erioed. Ac wrth ei bedyddio, galwasant hi Blodeuwedd.

Wedi iddynt briodi, ac i’r wledd fyned heibio, ebai Gwydion, “Nid hawdd i wr heb gyfoeth fyw yn anrhydeddus.” Ebai Math, “Mi a roddaf i’w ddal i’r gwr ieuanc y cantref goreu feddaf.” “Pa un yw hwnw, arglwydd?” ebai Gwydion. “Cantref Dunodig,” ebai yntau. Gelwir y Cantref yn awr Eifionydd ac Ardudwy. A’r lle y cyfaneddodd efe ynddo oedd balas o’i eiddo a elwid Mur y Castell, yn ngwrthdir Ardudwy. Yno y cyfaneddodd ac y gwladychodd efe, a phawb a fuont foddlawn iddo ef ac i’w arglwyddiaeth.

Ac efe a aeth i Gaer Dathyl, i ymweled â Math ab Mathonwy. A’r diwrnod yr aeth efe i Gaer Dathyl, Blodeuwedd a rodiodd o’r llys. A hi a glywai sai corn; ac ar ol sain y corn, wele hydd blinedig yn mjTied heibio iddi, a chwn a helwyr o’i ol; ac ar ol y cwn a’r helwyr, bagad o wyr traed yn eu dihTi. “Danfonwch was,” ebai hi “i ymofyn pwy ydynt y niferacw.” Y gwas a aeth, a gofynodd iddynt pwy oeddynt. “Gronw Pebyr ydyw hwn, y gwT sydd yn arglwydd ar Penllyn,” ebynt hwy. Hyny a ddywedodd y gwas wrthi hithau.

Gronw Pebyr a ymlidiodd yr hydd, a cherllaw yr afon Cynfael goddiweddodd a Lladdodd ef. Ac wrth flingo yr hydd a bwydo ei gŵn, yno y bu hyd onid ymdaenodd y nos o’i ddeutu. A phan oedd y dydd yn adfeilio, a’r nos yn nesau, efe a ddaeth at borth Llys Mur y Castell. Ebai Blodeuwedd, “Diau gogenir ni gan yr arglwydd hwn os gadawn iddo fyned ymaith mor hwyr heb ei wahodd i mewn.” Ebynt hwythau, “Diau, arglwyddes, gweddus i ni ei wahodd.” Yna aeth cenhadon ato i’w wahodd, a chymerth yntau ei wahodd yn Llawen, ac aeth i mewn i’r llys. A Blodeuwedd a gyfarchodd well iddo ac a’i croesawodd. Ebai ef, “Ai’glwyddes, ad-daled y nefoedd it’ dy garedigrwydd.”

Wedi iddo ymddiosg o’i wisg helwTol, myned i eistedd a wnaeth ef a Blodeuwedd. A hi a edrychodd arno, ai. o’r awr yr edrychodd hi arno, hi a lanwyd o’i gariad Tntau a edrychodd arni hithau, a daeth yntau hefyd i’r un meddwl, ac nis gallai gelu ei serch rhagddi, eithr ei fynegi iddi a wnaeth. Hyn a barodd iddi lawenydd mawr; ac o barth y serch a’r cariad a roddasai’r naill ar y llall y bu eu hymddiddan y noson hono. A threuliasant yr hwyr hwnw yn ngwmni eu gilydd.

Tranoeth, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hithau, “Deisyfaf arnat nad elych oddiwrthyf heddyw.” A’r nos hono ef a arosodd; a buont yn ymgynghori pa fodd y gallent fod beunydd yn nghyd. Ebai ef, “Xid oes gynghor ond un, sef fod i ti gael gwybod gan Llew Llaw Gyffes, a hyny yn rhith gofal amdano, trwy ba ddull y daw efe i’w angau.”

Tranoeth drachefn, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hi, “Diau ni chynghoraf di i fyned oddiwrthyf heddyw.” Ebai yntau, “Y mae perygl i arglwydd y llys ddychwelyd adref.” “Tforu caniatâf iti fyned’,” âtebai hithau.

A’r diwrnod nesaf, efe a gychwynodd, ac ni cheisiodd h.ithau ei luddias. “Cofia,” ebai ef, “am yr hyn a ddywedais wrthji;; ac ymddiddan ag ef mewn ysmaldod cariad, ac ymhola pa fodd y daw efe i’w angau.”

Y noson hono, Llew Llaw Gyffes a ddychwelodd, a threulio llawer o amser a wnaethant mewn ymddiddan a cherddau achyfeddach. A’r hwyr aethant i orphwys, ac efe a siaradodd unwaith a dwywaith wrth Blodeuwedd, eithr nid atebodd hi iddo un gair. “Pa beth a ddigwyddodd i ti? a ydwyt iach?” ebai ef.” “Myfyrio yr oeddwn am yr hyn nas myfyriet ti am danaf fi, sef gofalu am dy angau, os elit o’m blaen i.” “Duw a dalo it’ am dy ragofal; eithr hyd oni chymer y nef fi, nid hawdd fydd fy Lladd.” Ebai hithau, “Er mwyn y nef a minau, dy wed wrthyf yn mha wedd y daw dy angau; canys y mae fy nghof Iyn welli’wymogelyd na’r eiddot ti.” “Dywedaf yn Llawen,” ebai ef, “nid hawdd y gellir fy Lladd, oddieithr trwy ergyd; a rhaid i’r waywffbn y’m tarewir ag ef fod flwyddyn yn ei wneuthuriad, heb i neb weithio arni o gwbl ond pryd aberth ddydd Sul.” “Ai gwir hyn?” ebai hithau. “Digongwir; ac nis gellir fy Lladd mewn tŷ nac allan o dŷ, ar farch nac ar droed.” “Yn mha ddull ynte y gellii’ dy ladd?” “Trwy wneud badd imi ar lan afon, a dodi cronglwyd uwchben cerwyn y badd, a thoi hwnw yn dda a diddos; a dwyn bwch a’i ddodi ger Uaw y gerwyn a dodi ohonof finau un troed ar gefn y bwch a’r Nau ar ochr y gerwyn; a phwy bynag a’m tery felly, a bâr fy angau.” “Diolchaf i’r nefoedd,” ebai hithau, “y gelHr osgoi hyny yn hawdd.”

Mor gjTited ag y cafodd hi yr ymadrodd hi a ddanfonodd at Gronw Pebyr. Gronw a lafmiodd yn gwneud y waywffbn, ac yn mhen un dydd a bwyddyn yr oedd yn barod, ac efe a barodd i Blodeuwedd wybod hyny.

“Arglwydd,” ebai hiwrthy Llew, “bumyn myfyrio pa fodd y gall yr hyn a ddywedaist wi’thyf gynt fod yn wir; a ddangosi di i mi pa fodd y gallet sefyll arymyl y gerwyn ac ar y bwch, os darparaf y badd-le?” “Dangosaf,” ebai yntau.

Yna hi a ddanfonodd at Gronw, ac a archodd iddo gad-lechu yn nghysgod y bryn a elwir yn awr Bryn Cyfergyr ar lan yr afon Oynfael. Hi a archodd hefyd gynuil yr holl eifr yn y Cantref, a’u dodi yr ochi’ arall i’r afon, gyferbyn a Bryn Cyfergyr.

A thranoeth, hi a ddywedodd wrth Llew:— “Perais ddarparu y gronglwyd a’r jTudrochle, ac y maent yn tarod.” Ebai Llew, “Awn i edrych arnynt.”

Tranoeth aethant i -weled y fan. “A â fy arglwydd i’r ymdrochle?” ebai hi. “Af yn Llawen ebai yntau, Efe a aeth i’r ymdrochle, ac ymeneiniodd. “Arglwydd,” ebai hi, “wele yr anifeiliaid y dywedaist wrthyf mai bychod oeddynt.” “Pâr ddal un ohonynt a’i ddwyn yma,” ebai “ef. Yna efe a gyfododd o’r ymdrochle, rhoddodd ei lodrau amdano, a dododd un trosd ar ymyl y gerwyn a’r llall ar gefn y bwch.

Yna cododd Gronw i fynu o’i helwrfa, a phwysodd ar ben ei lin; ac efe a daflodd saeth wenwynig, yr hon a darawodd y Llew yn ei ystlys nes y lluchiodd y paladr ymaith, eithr blaen y saeth a lynodd yn y clwyf. Yna y Llew a roddodd waedd galon-rwygol, ac ehedodd i fynu yn ffurf eryr, ac a ddiflanodd yn fuan o’r golwg.

Mor fuan ag y diflanodd Llew, Gronw a Blodeuwedd a aethant ynnghyd i’r llys y noson hono. Tranoeth, Gronw a gymerth feddiant o Ardudwy; ac wedi iddo oresgyn y wlad, efe a wladychodd yno, onid oedd Penllyn ac Ardudwy yn ei arglwyddiaeth.

Dygwyd y newyddion hyd at Math ab Mathonwy; a thrymder a thristwch a ddaeth arno o’u herwydd; a thristach nag yntau ydoedd Gwydion. Ebai ef, “Arglwydd, ni orphwysaf bythoni chaf hysbysrwydd amfy nai.” “Duwa fo nerth it’,” ebai Math. Yna Gwydion a gychwynodd, a cherddodd rhagddo hyd deriynau Gwynedd a Phowys. Wedi darfod hyny, efe a gerddodd Arfon, ac a ddaeth hyd at dŷ aillt fvassaij yn Maenor Penardd. Efe a ddisgynodd wi-th y tŷ, ac a dariodd yno y noson hono. Gwr y tŷ a’i dylwyth a ddaethant i mewn, ac yn ddiweddaf oll y daeth y meichiad. Ebai gwr y tŷ wi-th y meichiad, “Ha! was, a ddaeth dy hwch heno i mewn?” Ebai yntau, “Do; ac yr awi-hon”y daeth hi at y moch.” “Pa ryw gerdded sydd ar yr hwch r” ebai Gwydion, “Bob bore pan agorer y creu yr â hi allan, ac ni cheir craff arni, ac ni wyddis pa ffordd yr â mwy’ na phe suddai i’r ddaear.” “A wnei di gymwynas a mi r” ebai Gwydion, “peidio agoryd dôr y creu oni byddwyf fi yno gyda thi.” “Gwnaf yn Llawen,” ebai ef. I gysgu yr aethant y noson hono. A phan welodd y meichiad liw y dydd, efe a ddeffroes Gwydion. Safasant wi’th y creu; “^agorodd y meichiad y ddôr, a’r hwch a neidiodd allan ac a gerddodd ymaith yn gyflym. Gwydion a’i canlynes; a hi a groesodd afon, gan gyrchu i nant a elwir yn awr Xant y Llew. Yno hî a ymataliodd, ac a ddechreuodd bori o tan goeden fawr. Gwydion a ddaeth o tan y pren, ac a ediychodd pa beth. oedd yr hwch yn fwyta, ac wele bwyta yr oedd gig pwdr cryurhonllyd. Ac efe a edrychodd i ben y pren, ac ar y brig gwelai eryr; aphan ymysgydwaiyr eryr, disgynai oddiwrtho brjŵid a chig pwdr, a’r rhai hyn a ysai yr hwch. Ac efe a dybiodd mai’r Llew oedd yr eryr, a chanodd iddo yr englyn hwn:—

Y dderwen dyf rhwng dwy lan,
Gorddu yw’r awyr a’r bryn;

Onid adwaenaf ef wrth ei archollion,
Mai Llew yw hwn?
Ar hyny yr eryr a ddisgynodd hyd at ganol y pren, a
Gwydion a ganodd iddo englyn arall:—

Y dderwen dyf mewn hardd faes,
Onis gwlych g-wlaw, onis twym gwres?
Onid angherdd naw ugain tymhestl oddefes?
Rhwng ei changau mae Llew Llaw Gyffes.

Yna’r Llew a ddisgynodd onid oedd ar y gainc isaf i’r pren, a thrachefn canodd Gwydion iddo yr englyn hwn:—

Y dderwen dyf tan oriwaered,
Teg a hardd ei llun,

Oni ddywedaf ff y gair?
Disgyn, Llew, i’m harffed.

Yna yr eryr a ddisgynodd ar lin Gwydion. A Gwydion a’i tarawes gyda’i swynlath, nes y trawsffurfiwyd Llew i” w ffurf ei hun. Ni chanfu neb erioed dremyn truenusach nag oedd arno — nid oedd ddim ond croen ac esgyrn. Yna hwy a aethant hyd i Gaer Dathyl, a dygpwyd at Llew feddygon da yn Ngwynedd, ac yr oedd efe yn holl iach cyn diwedd y flwyddyn.

“Arglwydd,” ebai ef wrth Mathab Mathonwy, “y mae yn llawn bryd imi gael iawn gan yr hwn y dioddefais gymaint oddiar ei law.” Ebai Math, “Diaunasgall efc ymgynal mewn meddiant o’th eiddo di.” “Goreu bo’r cyntaf,” ebai yntau, “y caffwyf fi iawn.”

Yna cynullasant holl wyr Gwynedd, a chyrchasant i Ardudwy. Gwydion a gerddodd o’u blaen tua Mur y Castell. A phan glybu Blodeuwedd ei fod yn dyfod, hi a gymerth ei morwyuiyn ac a ffodd i’r mynydd. Wedi croesi yr afon Cynfael, cyrchasant tuag at lys oedd ar y mynj dd; a chan ofn, yr oeddynt yn cerdded drach eu cefnau, oni syrthiasant i lyn yn ddiarwybod; a boddwyd hwynt oll oddieithr Blodeuwedd. Hithau a oddiweddwyd gan Gwydion; ac efe a ddywedodd wrthi, “Ni laddaf dydi, eithr mi a wnaf it’ y sydd waeth na hyny, sef dy drawsfîurfio yn aderyn, am y cywilydd a ddygaist ar Llew Llaw Gyffes: ac ni feiddi byth ddangos dy wyneb liw dydd, a hyny rhag ofn yr holl adar, canys bydd yn eu hanian dy faeddu a’th anmharchu. Ac ni cholli dy enw, eithr gel”wir di drachefn Blodeuwedd.” Dallhuan ydyw Blodeuwedd yn iaith yr oes hon; ac oherwydd hyny, yr holl adar a gashant y ddallhuan.

Yna Gronw Pebyr a ymgiliodd i Penllyn, ac oddiyno danfonodd genhadau. A’r cenadau a ofynasant i Llew Llaw Gyflpes os cymerai efe dir neu ddaear, neu aur neu arian, yn iawn am ei sarhad. “Na chymeraf, myn y nefoedd,” ebai Llew, “a dyma y peth Lleiaf a gymeraf fi ganddo:— Iddo ddyfod i’r man yr oeddwn I pan archollwyd fi gyda saeth ganddo, ac i minau sefyll Ue y y safai yntau, a chyda saeth anelu ato. A dyma’r iawn lleiaf a gymeraf fi ganddo.”

Mynegwyd hyn i Gronw Pebyr. Ebai yntau, “A raid i mi wneud hyn? Fy ngwyr ffyddlon, a’m tylwyth, a’m brodyr maeth, a oes un ohonoch chwi a gjTuer yr ergyd hwn yn fy Ue?” “Nac oes, ynddiau,” ebynt hwythau. Ac oherwydd gomedd ohonynt ddyoddef un ergyd tros eu harglwydd, y gelwir hwynt hyd y dydd hwn, “Y trydydd anniwair deulu.” “Wel,” ebai ef, “mi a”i cymeraf.” Yna daethant eill dau hyd at lan yr afon Cynfael; a Gronw a safai yn y fan y safaiLlew pan ei harchollwyd, a Llew yn y fan y safai Gronw. Ebai Gronw wrth Llew, “Yn gymaint ag imi wneud a wnaethum i ti trwy ystry w gwraig, tyngedaf di yn enw y nefoedd i ganiatau imi roddi rhyngwyf â’r ergyd y llech a welir acw ar lan yr afon.” Ebai Llew, “Diau ni’th omeddaf o hyny.” “Duw a dalo it’,” ebai Gronw; ac efe a gymerth y lleoh, ac a’i dodes rhyngddo a’r ergyd.

Yna Llew a daflodd y saeth, nes y treiddiodd trwy y llech ac i gefn Gronw. Felly y lladdwyd Gronw Pebyr. Ac y mae llech eto ar lan yr afon Cynfael, yn Ardudwy, a thwll ynddi; a gelwir y llech hono, Llechgronw.

Eilwaith, cymerodd Llew Llaw Gyffes feddiant o’i diroedd, a gwladychodd yn Uwyddianus ynddynt. Ac yn ol yr hanes efe a fu. arglwydd wedi hyn ar Wynedd oll. Felly y terfyna y gainc hon o’r Fabinogi.

Y Creaduriaid Hirhoedlog

[Dtfynir y rhamant bychan, prydferth, a chywraiu canlynol o Lyfr Thomas Wiluams o Drefriw. Y. W. a flodeuai tua dau cant a haner o üynyddau yn ol. Yr oedd ei ddys2: eidiaeth yn eang ac amryfal iawn. Heblaw amryw lyfrau ar hanesyddiaeth ac at wasanaeth ei genedl, ysgrifenodd Feddyg-lyÎFr mawr, yr hwn sydd yn bresenol yn meddiant ein cyfaill loan Lleifiad. Yr oedd, er hyny, yn Babydd selog, ac yn hysbys ar holl symudiadau Pabyddion yr oes hono. Dywed traddodiad mai efe a fu yn achlysur i ddadguddio Brad y Powdwr Gwn. Y pryd yma, yr oedd Syr John o “Wydir yn aelod Seneddol, a Thomas Williams, yn gyfaill mawr iddo, a’i rhybuddiodd rhag myned i’r Senedd noson y Frad. Yna Syr John a ddadblygodd y gyfrinach gerbron ei gyd-seneddwyr; a thrwy ei ddiffuantrwydd a”i ddyngarwch canmoladwy, arbedodd y wlad hon rhag syrthio eilwaith i grafangau didosturi Pabyddiaeth, ac agorodd ei llygaid eilwaith i weled mai brad a melldith a dinystr ydyw anian ac amcan a bywyd y Babaeth.

Ymddangosodd rhywbeth tebyg i’r rhamant hwn yn Ystori Cilhwch ac Olwen, a diameu mai yno y cafodd Thomas Wiuiams y rhan fwyaf o’i ddefnyddiau.] Eryb Gwebnab”WT, wedi bod yn hir yn briod â’r Eryres, a bod iddo lawer o blant o honi, a’i marw hi, a bod o hono yntau yn hir yn weddw, a aeth i briodi gyda Dallhuan Cwmcawlyd. Ond rhag iddo blant o honi, a dirywio o’i rywogaeth, efe a aeth yn nghyntaf at Hynafiaid y Byd i ofyn ei hoedran hi. Ac yn nghyntaf, efe a aeth at Garw Rhedynfre, ac a’i cafodd yn gorwedd wrth hen geltfinen o dderwen, ac a ofynodd iddo oedran y Ddallhuan. Y Carw a’i hatebodd, “Mi a welais y dderwen hon yn fesen y sy yr awrhon ar lawr heb na dail na rhisgl arni; ac ni bu arni draul yn y byd, ond fy mod I yn ymrwbio ynddi bob dydd wrth godi, ac ni welais I erioed y Ddallhuan yn hŷn nac iuu nag ydyw heddyw; ond y mae un sydd yn hyn na myfi, a hwnw ydyw Gleisiad Gljm Llifon.”

Aeth yr Eryr at y Gleisiad, a holodd yntau, ac efe a atebodd, “Mi a wn fy mod I yn flwydd oed am bob gem sydd ar fy nghroeu, ac am bob gronyn sydd yn fy mol, ac m welais I erioed mo’r Ddallhuan ond yr un modd I Ónd y mae un sydd hŷn na mi, a hwn-w ydyw Mwyalclien Cilgwri.”

Yr Eryr a aeth i edrych am y Fwyalchen, a chafodd eî yn eistedd ar gareg fechan, ac a roddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ebai y Fwyalchen, “A weli di y gareg yma sydd danaf? — nid ydyw fwy nag a fedr dyn gario yn eillaw, ac mi a’i gwelais yn Llwyth cant o ychain! ac ni bu arni draul erioed, ondfy ngwaith I yn sychu fy mhig arni bob nos, ac yn taro blaen fy adenydd ynddi wrth ymgodi yn y bore, ac nid adnabum I y Ddallhuan na hŷn nac iau nag ydyw hi heddy w. Ond y mae un hŷn na myfi, a hwnw jâYW Llyffant Cors Fochno; ac oni wyr hwnw ei hoedran hi nis gwyr neb.”

Yna aeth yr Eryr at y Llyffant, a rhoddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ac efe a atebodd, “Ni fwyteais I ddim erioed ond a fwyteais o’r ddaear, ac ni fwyteais haner fy nigon o hono, ac a weli di y ddau fryn yna sydd wrth y gors? — mi a welais y fan yna yn dir gwastad, ac ni wnaeth dim hwynt cymaint ond a ddaeth allan o’m corph I, a bwyta cyn Lleied; ac nid adnabum I erioed mo’r Ddaluiuan ond yn hen wrach yn canu ’tw-hw-hw,' ac yn dychrynu plant gyda’i Llais garw, fel y mae heddyw.” Felly Eryr Gwernabwy, a Charw Rhedynfre, a Mwyalchen Cilgwri, a Gleisiad Glyn Lhfon, a Llyffant Corsfochno, a Dallhuan Cwmcawlyd, ydynt y rhai hynaf yn y byd oll.

Hen Ddefod Gladdu Gymreig

Yr oedd yn ddefod yn yramser digrif a diniwed gynt mewn angladdau Cymreig, i bawb ddwyn yn ei law frigyn o Eôs Mari, a’i daflu i’r bedd gyda bod yr offeiriad yn terfynu darllen y gwasanaeth. Yr oedd hefyd ddefod gyffelyb yn ffynu yn mhllth y paganiaid; eithr taflent hwy frigyn o’r gypreswydden. Dewisent o’r pren hwn am na flagm-ai ei frigau yn y ddaear, ond y gwywent yn diliatreg; ac yr oeddynt ìelly yn arwyddîun o’u credmiaeth hwy, na byddai i’r marw adgyfodi. O’r ochr arall, y Cristionogion a daflent Eôs Mari i feddau eu hymadawedig, gau arddangos eu ffydd mewn all-fy wyd ac adgyfodiad.

Edmwnd Prys a Huw Llwyd o Gynfal

(Gan Cynddelw.)

Yr oedd y ddau -wr enwog yma yn gyfeillion mawr yn eu dydd, ac yn meddwl yn uchel iawn am eu gilydd. Mae

Edmwnd Prys yn cyfarch Maentwrog ar farwolaeth Huw
Llwyd yn y modd yma:—

Ni chleddir, ac ni chladdwyd,
Fyth i’r llawr mo fath Huw Llwyd.

Yr oeddynt eill dau, yn ol chwedlau yr hen oesoedd, yn enwog am “godi cythreuliaid,” “hud a lledrith,” a phob arddangos. Un tro, arddy’gwyl ffair Maentwrog, yr oedd Huw Llwyd mewn tafarn yn yfed, a gwelodd yr Archddeon Prys yn cerdded yr heol; yna, rhoddodd ei ben allan trwy y ffenestr, a galwodd arno i mewn i gael rhan o’r gyfeddach. Eithr ni fynai’r gwr eglwysig ymostwng i hyny, a digiodd yn hytrach wrth Huw Llwyd am ei hyfdra; a thrwy rym ei gelwyddoniaeth, parodd i ddau gorn eidion dyfu mewn munud, un o bobtu pen Huw Llwyd, fel na allai dynu ei siol yn ol o’r ffenestr; ac yno y bu efe, yn destun chwerthin i rai, a braw a dychryn mawr i’r lleill, nes y gwelodd Edmwnd Prys yn dda ei ryddhau. Pa fodd bynag, yr oedd dydd gofwy Edmwnd Prys yn agos; oblegyd wrth fyned adref y noson hono i’r Tyddyn Du, talwyd iddo yn ei arian ei hun. Yr oedd ganddo Eelin yn jTuyl ei dŷ, a’r “cafn gwyllt,” yr hwn oedd yn arwain y dwfr tros y fifordd i ben yr olwyn ddw’r yn rhidwll; a’r funyd yr oedd yr Archddeon yn myned o tan y cafn dyferllyd hwnw, dyna un neu ragor o gythreuliaid Huw Llwyd yn ymaflyd yn ei war, ac yn ei ddal dan y dyrferion nes oedd yn wlyb drwyddo! Eelly “yr oedd y naill cystal a’r llall, ac yn well hefyd.”

Huw Llwyd a’r Yspryd

Adboddir chwedl arall am Huw Llwyd. Mae yn nghanol rhaiadi-au rhamantus Cynfal, y gader geryg, yr hon a adwaenii’hyd heddyw fel “Pwlpud Huw Llwyd.” Yno, 1 ganol gordduar a chrygddwndwr byddarlef y rhaiadrau, cyrchai yn y nos wrtho ei hunan i fyfyrio, er mawr ofid i’w wraig, yr hon fyddai yn ymgreinio yn y gwely; ac yn. disgwyl bob munud iddo ddyfod i’r tŷ “cyn oered a llyfant.” Yn ol y chwedl, Huw Llwyd oedd tad Morgan Llwyd o Wynedd, y pregethwr nodedig. Pa fodd oynag, penderfynodd ei wraig dynu’r arferiad o fyned i’r pwlpud ceryg gefn y nos o’i gwr. Anfonodd ei brawd mewn cynfas wen i’w ddyclirynu. Aeth y brawd, gan wneud ystumiau mor fwganllyd ag y medi-ai. “Holo! pwy wyt ti?” ebai Huw Llwyd wrth ei ganfod yn nesu ato, “Ai ysbryd wyt ti? Pa un ai ysbryd da ai ysbryd drwg wyt ti?” Ond ni feddai y ffug-ysbryd air i’w ateb. “Os ysbryd da wyt ti, ni wnei di ddim niwaid i mi er mwyn Morgan fy mab; ac os ysbryd di’wg wyt ti, ni wnei dithau ddim niwaid i mi, ’does bosibl, a minau yn briod â dy chwaer di.” Yr oedd y dyn yn y gynfas yn dechreu crynu erbyn hyn: “yr’wan amdanihi, ’rgwyn,”ebaiH.Llwyd, “gwyliadi’r Du yna sy’n sefyll wrth dy sodlau di!” Dyna’r dyn “yn cymeryd y carnau” tua’r tŷ am ei fywyd, a Huw Llwyd yn bloeddio nerth ei ben, “Hwi, ’r Du! Hwi, ’r Gwyn,” &c., nes oedd ei frawd-yn-nghyfraithbron a Llewygu gan ofn; ac aeth i’w wely ynglaf, oherwydd cael ei hela gan ysbryd!

Diau fod dynion dysgedig a chyfrwys yr hen amseroedd yn hôni y gallent duu ysbrydion, er mwyn amddiffjTi eu hunam rhag gwerin anwar, lygadrwth, a lladronllyd; ac nid yw y gellŷddyd hono ond newydd ddiflanu o’r wlad, canys yr oedd rhai o ddysgedigion yr oes ddiweddaf yn cael y gair o roddi ysbrydion i lawr, dal lladron trwy ddewioiaeth, &c.

Y Tylwyth Teg

(Gan Gtlasynys.) Dyma swp o Draddodiadau a glyw-wyd yn ngwahanol ranau o’r wlad yn nghylch y Tylwyth Teg. Nid wyf am geisio dweyd pa fath rai ydynt, o ba le y daethant, nac i ba le yr ânt: digon yw cymeryd y chwedlau fel ag y traethir hwy mewn llawer parth o’r Dy wysogaeth. Dechreuaf hefo’r gyntaf a gly wais erioed:— Pan oedd pobl y Gors Goch un hwyrnos newydd fyned i’r gwely, dyma dwrf a chythrwfl anafus o gwmpas y tŷ. Methid yn lan loyw landeg a dirnad pa beth a allai fod yn cadw nâd yr amser hono o’r nos. Yr oedd y gwr a’r wraig, y naill a’r llall wedi deffro, ac yn methu’n glir a gwybod pa beth a allai fod yno. Deffroes y plant hefyd. Ond ni fedrai neb yngan gair; yr oedd eu tafodau oll wedi glynu wrth daflod y genau. Ond o’r diwedd, raedrodd y gwr ystwyrian, “Pwysyddyna,” a “Phabeth eydd arnoch eisiau?” Yna atebwyd ef o’r tu allan gan lais main, arianlef, “■ Eisio lle cynes i drwsio plant.”” Agorwyd y drws, a daeth dwsin o ryw fodau bach i mewn, a dechreuasant chwilio am gunnog a dwfr, ac yno y buant am oriau rai yn ymolchi ac yn ymbincio. Ac ar lasiad y dydd, aethant ymaith, gan adael ar eu holau rodd dlos am y tiriondeb a dderbyniasant, Mynych ar ol hyn y cafodd teulu’r Gors Goch gwmrii’r teulu hwn. Ond ryw dro, yr oedd yno yn digwydd bod rolyn o blentyn tlws ac iach. Yr oedd ef yn ei gryd. Daeth y Tylwyth Teg yno; ac oherwydd ei fod heb ei fedyddio, cymerasant eu hyfdra i newid dau blentyn. Cytnerasant y plentyn braf i lFwrdd, a gadawsant ryw ledfegyn gwrthun yn ei le, ac ni wnai hwnw ond crio a nadu holl ddyddiau yr wythnos. Yr oedd y fam bron a thori ei chalon oblegyd yr anffawd, ac ofn arswydus dweyd wrth neb am y peth. Ond daeth pawb drwy’r fro i weled fod rhywbeth allan o’i le yn y Gors Goch; a phrofwyd hyny cyn hu-, drwy i’r wraig farw o hiraeth ar ol ei phlentyn. Bu’r plant eraill fai-w o doriad calon ar ol eu mam, a gadawyd y gwr a’r gwiddon bach heb neb i’w cysuro. Ond dechreuwyd yn fuan tua’r adeg hon ail ddod i “drwsio plant,” ar aelwyd y Gors Goch; a daeth y rhodd, yr hon gynt oedd arian gieision, bellach yn aur pur dilin. A chyn pen ychydig o üynyddoedd, daeth y Gwiddon yn etifedd ar le mawr yn Ngogledd Cymru, a thyna paham y dywedai yrhen bobl, “Fe ddaw gwiddon yn fawr ond ei bedoli âg aur.” Dyna chwedl y Gors Goch.

Eywbryd, yr oedd William Ellis y Gilwern, yn pysgota ar lan Llyn Cwm Silin, ar ddiwrnod niwlog a thywyll. Nid oedd wedi gweled un gwyneb byw bedyddiol er pan ddaeth o waelod Nant y Llef. Ond iyan wrthi yn taflyd yr enwair gydag osgo ddenus, gwelai ar ei gyfer mewn llwyn o frwyn, swp anferth o ddynion, neu bethau ar lun dynion, tua throedfedd o daldra yn neidio ac yn dawnsio. Bu’n edrych arnynt am oriau, ac ni chlywodd yn ei fywyd y fath ganu, meddai. Ond aeth Wifliam yn rhy agos atynt, a thaflasant hwythau ryw fath o Iwch i’w lygaid; a thra bu ef yn sychu’r cyfryw, fe ddiangodd y teulu bach i ry w le o’r golwg, ac nis gwelodd nasiw namiw ohonynt byth wed’yn.

Y mae chwedl go debyg am le o’r enw Llyn y Ffynonau. Yr oedd yno rafio a dawnsio, telynio a fBdlo enbydus, a gwas y Gelli Ffrydau a’i ddau gi yn eu canol yn neidio ac yn prancio mor sionc â neb. Buont wrthi hi felly am dridiau a theirnos, yn ddi-dor-derfyn; ac oni bai bod rhy w WT cyfarwydd yn byw heb fod yn neppell, aci hwnw gael gwyÎDod pa sut yr oedd pethau yn myned yn mlaen, y mae’n ddiddadl y buasai i’r creadur gwirion ddawnsio’i hun i farwolaeth. Ond gwaredwyd ef y tro hwn.

Mi glywais fy mam, pan oeddwn yn lâs-hogyn, yn myned dros yr hanes a ganlyn lawer gwaith. Tdyw, y mae’r geiriau eglur, yr olwg syml, yr ystum prydferth, y llygaid hyny ag y mae’r ceufedd wedi eu mynnu iddo ei hun, yn fyw o flaen fy’ Llygaid! Pan yn gwau ei hosan ar ddechreunos, o flaen tanllwyl; h braf o dân, mi fyddai yn ddiiyr clywed barddoniaeth mewn iaith rydd — clywed adroddiad di-ymgais mam wrth ei hanwyliaid er mwyn eu dyddanu.

Yr oedd unwaith fachgen o fugail wedi myned i’r mynydd, Fel llawer diwi-nod arall, cynt a chwedi hyn, yr oedd hi yn niwliog anarferol. Er ei fod ef yn ’dra chydnabyddus a phob rhan o’r û’o, eto ryw fodd fe gollodd y ffordd, a cherddedy bu ar draws ac ar hyd am lawer o oriau meithion. O’r diwedd, daeth i bantle brwynog, a gwelai o’i flaen auu-yw gylchoedd modrwyog. Cofiodd mewn munud am y lle, a dechreuodd ofni yr hyn a fyddai gwaeth. Yr oedd wedi clywed lawer canwaith am y triiiiaethau chwerwon yr aeth Uawer bugail drwyddynt oherwydd digwydd ohonynt dd’od ar draws dawnsfa neu gylchau y TyIìWTTTH Teg. Brysiodd ei oreu glas fyned oddiyno rhag ofn y sibedid yntau fel y rhelyw; ond er chwysu a thagu, yno yr oedd, ac yno y bu ana hir amser. O’r diwedd, daeth i’w gyfarfod dorpwth o hen ddjTi llygadlas, llygadlon, a gofynodd pa beth yr oedd yn ei wneud. Dywsdodd yntau mai ceisio cael hyd i ben y ffordd i fyned adref yr oedd. “Ho 1” ebai, yntau “tyr’d ar fy oll, a phaid ag yngan gair nes y peraf i ti.” Felly y fu hi. Aeth ar ei ol ef o lech i Iwyn nes y daethant at faen hirgrwn; a thyma yr hen dorpwth yn ei godi, ar ol rhoi tri chnoc hefo’i ffon yn ei ganol, Yr oedd yno Iwybr cul, a grisiau draw ac yma i’w gweled. Yr oedd yno hefydoieuni llwyd-las-wyn i’w ganfodyn tarddu o’r ceryg. “Dilyn fi yn ddiofn,” ebai’r torpwth, “ni wneir dim niwaid i ti.” Yn mlaen yr aeth ybachgen druan, yn wysg ei drwyn, fel ci i’w grogi. Ond toc, dyma wlad dêg, goediog, ffrwythlawn, yn ymledu o’u blaen; a phalasau trefnus yn ei britho, a phob mawredd ymddangosiadol yn rhith-wenu yn eu gwyneb. Yr oedd yr afonydd yn loywdroellog, y ffrydiau yn sidellog, y bryniau yn lasdwf irwelltog, a’r mynyddoedd yn Uyfu-gnuafog. Erbjti cyrhaedd palas y torpwth, yr oedd wedi pensyirdanu gan mor beraidd-oslefol y pynciai yr adar yn y coed-lwyni. Yno di-achefn yr oedd aur yn sereuu’r llygaid, ac arian yn gwawlio’r golygon. Yr oedd yno bob offer cerdd, a phob rhyw erfyn chwareu. Ond ni welai neb yn yr holl fan. Pan aeth i fwyta, yr oedd y pethau oedd ar y bwrdd yn do’d ynoeuhunain, ac yn diflanuhefyd pan ddarfyddid a hwy. Methai’n lân loyw a dirnad hyn. Yr oedd yn clywed pobl yn siarad hefo’u gilydd o’i gwmpas, ac yn ei fyw nis gwelai neb ond ei hen gydymaith. Ebai’r torpwth wrtho o’r diwedd, “Gelli bellach siarad faint y fyd fyw a fynot.” Ond pan geisiodd ysgwyd ei dafod, nis symudai hwnw mwy na thalp o rew. Dychrynodd yn aruthii-o’r plegyd. Ar hyn, dyma globen o hen wreigan raenus a thirion yr olwg arni yn d’od atynt, ac yn cil-wenu ar y bugail. Yna dyma dair o ferched hardd nodedig yn diljTi eu mam. Syllenthwythauhefyd yn rhyw haner chwareus arno. O’r diwedd, dechreuasant siarad hefog ef. Ond ni wnai’r tafod ysgwyd. Ond ar hyn, daeth un o’r lodesi ato, a chan chwareu hefo’i lywethau melyn-grych, tarawodd glamp o gusan ar ei wefusau fflamgoch. Llaciodd hyn y rhwymyn oedd yn dal y tafod, a dechreuodd arni siarad yn rhydd a doniol. Yno yr oedd, o dan swyn y cusan hwnw, mewn hawddfyd hyfrydlawn. A bu y no am un dydd a blwyddynheb wybod iddo aros mwynadiwrnod yn eu mysg. Yr oedd ef wedi myned i wlad Ue nad oedd dim cyfrif amser. Ond ryw bryd, fe gododd tipyn o hiraeth arno y buasai yn dda ganddo gael myned i roi tro i’w hen gynefin, a gofynodd i’r torpwth a gai ef fyned. Diolchodd hefyd yn dra moesgar am y tiriondeb a gafodd. “Arosronyn eto, a chei fyned am swrn,” ebai yntau; ao felly fu hi. Arosodd, ac yr oedd Owtii, oblegyd dyna oedd enw y fun a’i cusanodd, yr oedd hono yn anfoddlawn iawn iddo ymadael. Byddai yn edrych yn drwm bob tro y soniai am fyned ymaith. Ac yr oedd yntau hefyd yn teimlo rhyw ias oer wrth feddwl ymadael â hi.

Ond ar yr amod o dd’od yn ol câdd fyned a digon o aur ac arian, a thlysau a gemau, ganddo. Pan ddaeth adref, ni wyddai neb pwy oedd. Yr oeddis wedi meddiul fod bugail arallwedi ei ladd am annos ei ddefaid; a bu raid i hwnw gymeryd y goes i’r Amerig draw, onide crogesid ef rhag blaen. Ond dyma Einion Las adref, a phawb yn synu. Yn enwedig, wrth wel’d bugail wedi d’od i edrych fel arlwydd cyfoeth. Yr oedd ei foes, ei wisg, eiiaith, a’i eiddo, yn cyfateb i’r dim i’w wneud ef yn ŵr boneddig. Aeth yn ol drachefn rhyw nos lau cynta’r Lleuad, mor ddiswta, yr eil-dro ag yr aeth y waith gyntaf, ac ni wyddai neb pa sut na pha fodd. Yr oedd llawenydd mawr yn y wlad isod pan ddychwelodd Einion yno, ac nid neb a lonodd yn fwy nag Ohuen ei anwylyd. Yr oedd y ddau yn wyllt wibwrn am briodi. Ond yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ddystaw, oblegyd nid oedd dim yn gasach yn ngolwg teulu’r wlad isod na thwrf a sôn. Ac felly, mewn dull haner dirgel, fe unwyd y ddau. Yr oedd ar Einion flys garw myned eto i roi tro hefo’r wraig, na bo ond ei son, adref i fysg ei deulu. Ac ar ol hir ymbil hefo yr henfachgen, cawsantgychwynargefndauferlyn gwyn; yn wir yr oeddynt yn debycach i eira na dim arall o ran. lliw. Felly fe ddaeth ef a’i briod i’w hen gynefin, a bam’ pawb oedd, mai y lânaf a welodd yr haul yn un man oedd gwraig Einion.

Pan adref, ganwyd mab iddynt, a galwyd ei enw yn Daliesin. Yr oedd Einion erbyn hyn yn fawr ei alwad, a’i wi-aig yn derbyn pob parch teilwng. Yr oedd ei golud yn anferth, a buan y daeth ganddynt etifeddiaeth eang. Ond yn lled-agos ihyn, daethpobl iddechreu holl am achmi gwraig Einion. Nid oedd y wlad yn barnu mai peth iawn oedd bod heb achau. Holwyd Einion, ond ni roddai ef un ateb boddhaus. A phenderfynodd y bobl mai un o deulu’r Tylwyth Teg oedd. “le’n wir,” ebai Einion, “nid oes dadl i fod nad un o Dylwyth Teg iawn ydyw; oblegyd y mae iddi ddwy chwaer eto mor lân â hithau; a phe gwelsech hwynt yn nghyd, buasech yn cyduabod fod yr enw yn un iawn.” Â. thyma paham y galwyd y teulu hynod sydd yn nhir Hud a Lledrith yn Dylwyth Teg.

Eiry Mynydd

Eiry Mynydd, blin yrr’r byd.
Ni ŵyr neb ddamwain golud;
Nid â traha i -îreryd;
Ni phery dim ond enyd;
Gna-wd gorfod yn ol adfyd;
Twyllo gwirion sy’ enbyd;
Byth. ni Iwydda un a gwŷd;
Ar Dduw’n unig rhown oglud.

Eiry Mynydd, gwyn corn mŵg,
Hoff gan leidr dywyllwg;
Gnawd galanas o h.ir gilwg;
Gwyn ei fyd a fo diddrwg;
Hawdd cymhell uiriaid i ddrwg;
Nid da digwydd trythyllwg;
Ar benaeth, bai i’ydd amlwg;
Coelia’n llai’r Glust na’r Golwg.

Eiry Mynydd mawr a rôs,
Gofal herwr ar hirnos;
Anaml Nes o rodio’r nos;
Cyn credu myn yr achos;
Cam ffordd i ddieithr na ddangos;
Ka wreicca, ond yn agos;
Nag anifeiliaid ar gefn rhôs
Llywodraeth gwyr sydd anos.

Eiry Mynydd, da yw hedd;
Cyn dechreu, gwêl y diwedd;
Mawr gofal dyn mewn blinedd;
Gnawd adfyd yn ol trawsedd;
Gweddwa un peth yw bonedd,
Oni chanlyn rhyw rinwedd,
I wrthwyneb aruthredd:
Ystyrio dyn sydd ryfedd!

Eiry Mynydd, melus Gwin;
Pwy ŵyr ciranc mab wrth feithrin?

Ni cheir parch ar gysefin;
Nid gwerthfawr y Cyffredin;

Nid rhybarch rhŷ gynefin;
Nid parhaua llywiadwr gwerin;

Am bechodau’r cyffredin,
Y Rhydd Duw annoeth frenin.

Eiry Mynydd, ll-win ŷcli llôg,
Bechan teyrnas i chwanog;
Gnawd yr ieuanc yn ddifiog;
Aml tro ar feddwl serchog;
Na thyn chwareu ar daeog;
Na fydd ry hyf ar rywiog;
Gwae’r neb a fo dyledog,
Lle bo annoeth dywysog.

Eiry Mynydd, hoff yw clod,
Ni waeth digon, na gormod;

Yn ol traha, gnawd gorfod;
Mawr y w codiad aur dafod;

Ar ddim na wna mo’r difrod;
Ni ludd i gael y parod;

Nid llai heiniar* er cerdod; ’cnwd y maes.
Cywira cydymaith, priod.

Eiry Mynydd, Duw fy Nêr,
Trwmaf cwymp o’r uchelder;
Anhardd ar benaeth, balchder;
Gwisg oreu i ferch yw gwylder;
Hardd iawn ar wr yw hyder;
Gwell nag athraw y w arfer;
Gwedi proii ffyrdd “llawer,
Mae’r byd i gŷd yn ofer.

Eiry Mynydd, dail ar onn,
Tryma dim dwyn gofalon;
Cletta clwyf, clefyd calon;
Nid gŵr i’r byd yw’r Cyfion;
Mwyaf cam y dyn union;
Mwyaf ofnir y trawsion;
Trwy filoedd o beryglon
Duw a weryd ei wirion.

Eiry Mynydd, ceir gweled
Nad da mynych nâg am gêd;
Nid cybydd yw pob caled;
Na edliwia i neb ei dynged;
Heb fai nid neb a aned;
O fynych fenter, gnawd colled;

Ni Iwydd a wneir me-wn hoced;
Gwaethaf ’stor oll o’r merched.

Eiry Mynydd, mae’n hysbys
Gnawd edifeirwch o frys;
Drwg fydd lleferydd ffawtus;
Anodd cydfod eiddigus;
Ni fawr gwsg un gofalus;
Mawr gwenwyn y gwenieithus;
Pell amcan y deallua;
Ffola dyn y cenfigenus.

Eiry Mynydd, llydan môr,
Goreu ar Hen ei gynghor;
Dyro i’th well ei ragor;
Gwell celfyddyd na thrysor;
Ffol nwyfus, hawdd ei hepcor;
Tjn fath a Llong ar gefnfor,
Heb raff, heb hwyl, heb angor,
Ydyw’r Ieuanc heb gynghor.

[Llywarch Hen, awdwr y gerdd uchod, oedd dywysog yn mhlith y Prydeiniaid Gogleddol; eithr y llAyyth hwnw yn cael ei orchfygu gan y Saeson, Llywarch a enciliodd i Gymru, ac a wladychodd ar lan Llyntegid. Yn yr ardal hono drachefn bu brwydrau creulon rhyngddo â chydwladwyr Hengist mewn lle a elwir hyd y dydd hwn Rhiwwaedog. Yr oedd iddo bedwar ar hugain o feibion, a ’chollodd yr oll ohonynt yn y rhyfeloedd hyn. Cyfansoddodd farwnad iddynt, yn mha un y sylwai yn effeithiol ar amgylchiadau eu marwolaeth a manau eu bedd. Enw ei fab hynaf oedd Gwên, acymddengysmaihwnoeddanwylyd enaid ei dad. Lladdwyd Gwên a’i farch mewn brwydr; ac yn mhen hir amser ar ol hyny, dodwyd penglog yr olaf yn lle careg mewn sarn ar afon yn agos i’r lle y lladdesid ■ ef. Llywarch ar dramwy a ddamweiniodd ddyfod heibio i’r sarn hono, a’i was a ddangoses y penglog iddo gan fynegi ei helynt. Yna y dywedodd Llywarch:—

MI a welais ddydd i’r march,
Ffriw* hydd, tatiydd tywarch, *wyneb

Na sangai neb ar ei eu
Pan oedd tan Gwên ab Llywarch.

Blodeuai tua’r flwyddyn 590; a dywedir ei fod yn 150 oed pan fu farw, am hyny y gelwid ef yn Llywarch Hen.

Nid yw’r geiriau “Eiry Mynydd,” neu eira mynydd, ond hoel i hongian arni y gwirebau ffraethbert.]

Llwyn y Nef

(Gan Glasynys.)

Yr oeddryu-brydgynt yn Ngôr Beuno yn Nglilynog Fawr yn Arfon, fynach myfyrgar defosiynol, ac aml a diflm y myfyriai am weledigaethau ysplenydd gwlad y tangnef trâgyfyth. Ewyllysiai hefyd beunydd gael un cipol’n’g, pan “yn y cna-nrd, ar y breswylfa dawel. Un diwrnod, ar bryd’Gosper, daeth i’w feddwl nas gallaillawenydd didranc diddarfod Gwynfa barhau fyth fythoedd yn ei felus flas. Hir-ddygn-feddyliai ar y pwnc, a thueddid ei feddwl i goelio y diflasidhyd yn oed ar aur delynau yr ardal lonydd. Aeth o dipyn i beth i draethu ei syniadau wi’th ei frodyr, a dechreuodd wasgu ar feddyliau y rhai ieuangaf ohonynt yr angenrheidrwydd o restru ei syniad ef yn mysg hanau eu ffydd.

Ond un hwymos, ar bryd echwydd, rhodio yr oedd mewn dwysfryd fyfyrdod gyda glanau ffrydig sidellog heb fod yn neppell o’r Fynachlog. Yr oedd anian yn noswylio, a’r adar cerddber caniadlais wedi tewi yn y cysgodlwyn;, yn mlaenyr ymlusgai, a’ifeddwl wedi’iiyncugan fyfyrdod.' Sidellai’r ffrwd “fyth fythoedd ar ei thaith” — wrth frysio am ei chartref yn ngwlad y tonog li; ac elai’r mynach yn mhellach bellach i’r ceulwyn tawelfrig; ond yn ebrwydd, torodd miwsig mwyaf hyfrydlais hyfrydlon ar ei glust a glywsai erioed. Eisteddodd o dan gysgod “pren gwyrdd-, lais,” a syrthiodd i ryw fath o ddideimladwy swynol; canai yr aderyn; ä’i a/nser ynmlaen; niwydda’r mynachy ddim; a bu yn gwrando yn ddedwydd lawenfryd, am ganoedd lawer o flynyddoedd; ond, o’r diwedd, clywai. feluslais meddalfwyn yn galw arno, “Y cysgadirr, cais godi.” A chyfodi awnaeth; ac ar ol crwydro enyd yn y coed. daeth o’r llwyn, ond er ei ddirfawr syndod yr oedd pob peth wedi cyfnewid 1 Y mae yn wir fod yr hen Fynachlog yno; a da oedd hyny’, oblegyd yr oedd pob tŷ, bwth, clawdd, a chamfa, wedi cael ei symud er pan welsai ef y fan o’r blaen. Aeth i’r Fynachlog, ond nid adwaenid ef gan neb, ac ni wyddai yntau ddim ar faes medion y ddaear pa beth a ddaethai o’i frodyr yno. Grwnaed yn fawr ohono. Gofynodd yntau yn bur fuaa am gael lle i orph-wyso. Aeth i’w wely. Ac erbyn i’r brodyr fyned i edrych amdano, ni chaed ohono ond dyrnaid “bach o ludw.” A byth ar ol y di<; wydd hwn, galwyd y lle gerllaw Clynog yn Llwyît t Nef; a dvma hanes yr “Hen Wr o’r Coed,” fel ag y mae yn cael ei hadi’odd gan hen bobl oddeutu’r tân yn Arfon.

O. Y. — Dyma sail, y mae yn debyg, yr hen gerdd awenyddol yr Hen Wr o’r Coed. Pwy oedd awdwr y gân? Y mae’r Seven Sleepers, yn y chwedlau aillt, yn debyg iawn i hon, ac ef allai yn hyn na hi.

Dameg yr Hen Wraig a’r Edafedd

Yr oedd hen wraig unwaith yn cael ar ddeall fod anghydfod paihaus yn mhlith ei phlant a’i hwyrion, yr hyn a barai iddi deimlo yn dra adfydus. Galwodd hwynt oll yn nghyd, ac archodd i bob un ddyfod a phellen o edafedd gydag ef. Cydsynio a wnaethant hwythau a’i chais; a hi a gymerth edafedd oddiar un o’r pelleni ungor, a rhwymes âg ef ddwylaw y gwnaf o’i hwyrion, eithr torwyd hwnw yn ddioed. Rhwymes ei ddwylaw drachefn gydag edefyn ungor cryfach, a hawdd y torwyd hwnw hefyd. Yna parodd yr hen wraig iddynt gyfrodeddu yr holl beleni yn wa. rhaff; ac wedi iddynt wneud hyny, hi a gyraerth o hono, ac a rwymes ddwylaw y cryfaf o’i meibion. “Tôr di hwn yna, os gelli,” ebai hi, eithr nis gallai yntau mewn un modd. Yna yr hen wraig a’u hanerchodd hwynt oll fel hyn; — “Grymaint cadarnach ydyw yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor! Fouy chwithau, fy mhlant a’m ŵyrion, tra byddoch yn anghydfod â’ch gilydd, pob un trosto ei hun, ac heb gysylltiad rhyngoch, hawdd ydy w eich gorfod. Ond os cydymlynwch yn gydgyfrodedd, nis gall gelyn yn y byd eich gorddiwes.” O hyn y tarddodd y ddiareb, “Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor;” a diareb arall, “Nid cadarn, ond cydnerth;” ac un arall, “Hawdd taflu’r mynydd i’r mûr ar ol ei wahanu y naill gareg oddiwrth y llall.”

Tudur Aled a’r Bysgodwraig

G”WB ffraeth ac ysmala iawn oedd Tudur — arferai fyned i farchnad Caerlleon, ac yr.oedd yno Gymraes o bysgodwraig dra enwog am dafodi, a byddai’r bardd yn galw arni bob amser er mwyn digrifwch. Un tro, tra ymlonai uwch dyferyn o fetbeglln yn nghwmni un o’i gydnabyddion, digwyddai siarad am enllib-arferiad y b ySgodwraig: “le,” ebai y cyfaill, “un ffraeth yw hon yna; medr hi hyd yn nod gau pen bardd!” “Felly,” meddai Tudur: “Wel, yn gymaint a’th fod a chyn lleied o gred yn ngallu ffraethinebol bardd, mi ddaliaf alwyn o fegethlin â thi, y bydd i mi osod taw ar ei henllib cyn pen pum mjmyd.” “Purion,” meddaiei gydnabod, a ffwrdd a hwy i’r marchnaddŷ. Wedi dyfod o hyd i’r wraig, gofynodd Tudur bris y mecryll. “Swllt y dwsin,” oecfd yr ateb. “Swllt y dwsin! am ryw erthylod meinion, llygadgoch, tagellrwth, drewllyd fel yna,” meddai yntau. “le, ac y maent yn rhy dda i dy ddanedd di am y pris.” “A wys ti a phwy yr wyt yn siarad, yr hen Hupynt Byr f “Gwn o’r goreu, hefo grigwd o brydydd torsyth, na wyr ddim am fecryll.” ■ “Taw a’th nâd, yr hen Dwyll Synwyr — fe’th welwyd di a dau Broest dan dy gesail o fewn yr wythnos yma, ac yr wyt wedi cuddio dy Gyhydedd Hir ar ben y gwely, yr hen Draethodl”

Gyrodd hyn y wraig, yr hon ni wyddai ddim am ystyr y brawddegau barddol hyn, yn gynddeiriog, a dechreuodd arllwys ar ben y bardd gafod o wawd a blagardiaeth. “Yna,” meddai Tudur, “yr wyt yn meddwl na wn I ddim o dy hanes di? Nid wyt ti ddim ond Unodl Crwca, ac nid yw dy holl deulu o hil gerdd yn ddim ond Cyhydeddau Naiuhan a Thawddgyrchau Cadwynog.” Yr oedd y bysgodwraig erbyn hyn bron wedi llanw llestr ei phwyll. “Os nad ei di oddiyma’r mynyd yma, mi’th gym’raf o flaen dy well, am fy nyfenwi, un na buost di, na neb o’th deubi, ’rioedyn werth dal canwyll i mi; mae’n ffiaidd gan I siarad ady fath!” Aeth yntau yn mlaen: “Ti yfaist yn Mhenerlag, echdoe, dri pheint o Doddeidiau, a goi-fuwyddy gario adref mewn ŵr/ iy^wey’oi, a chafwyd dwy Gystrawen yn nghoryn dy het, ag oedd yn perthyn i Aneurin Gwawdrydd.” “Celwydd ddeudi di,” llefai’r wraig yn groch, “ddygais i ddim ’rioed, y bwbach prydydd tordyn!” “Taw, taw,” ebai Tudur. “Tydi yn wir! yr hen Glogyrnach, yr hen Gyrch a Chwta, yTh.enFannod, yr hen Ddyhrydsain, yr hen Leddf a Thalgron, yv hon Wreiddgoll, yr hen Oynghanedd Gaeth, yr hen Bengoll, yrhen Giynghanedd Groes o gysillllt ewinog, — cymer di ofal peidio tafodi dy well byth ond hyny; yr hen Ragferf, yr hen Gynghanedd Lusg, yr hen Grych a Lìyfn.'” Yr oedd hyn yn llawn ddigon; eisteddodd y wraig i lawr i nadu ac wylo, heb ddweyd gair o’i phen. Ar hyn daeth cyfaill Tudur yn mlaen, ac a sicrhaodd iddi nad oedd dim anmharch yn nim a ddywedodd, ond mai enwau diniwed ar fesurau y prydyddion, a therms ygramadegwyroeddynt. Enillodd Tudur y metheglin, a gwnaeth anrheg o hono i’r bysgodwraig. — Y Brython.

O ble daw’r geiriau hyn

Cymraeg: Cymru Fu: yn cynwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (oddiar lafar gwlad a gweithiau y prif awduron), a gasglwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (Wrecsam: Hughes and Son, 1862). Sgan: archive.org/details/cymrufuyncynwysh00foul

Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Dyfynnu’r dudalen hon

Ifan, ‘Math ab Mathonwy hyd Tudur Aled a’r Bysgodwraig’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/cymru-fu-math-ab-mathonwy.