Hanes Cymru / Llenyddiaeth / Yr hen destunau Cymraeg

Copïwyd tua 1400

Cyssul Addaon

Englynion o gyngor da yn enw Addaon fab Taliesin: mawl i fab Mair, a sut i fyw’n dda, rhoi i’r tlawd a chadw calon lân.

Llun: Darganfod Taliesin, gan F. H. Townsend · F. H. Townsend, Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons

Copïwydtua 1400, yn Llyfr Coch Talgarth
Ffurfenglynion o gyngor crefyddol
Yn enwAddaon, neu Afaon, fab Taliesin

Cofir Afaon fab Taliesin yn y trioedd fel un o dri tharw unben Ynys Prydain, ac yn Englynion y Clywaid fel mab Taliesin gerdd gofion. Mae’r gyfres hon o englynion dan y pennawd Kyssul Adaon, ‘cyngor Addaon’, ac fe’i cedwir yn Llyfr Coch Talgarth, a ysgrifennwyd tua 1400 gan y copïwyr a ysgrifennodd Lyfr Coch Hergest hefyd.

Mab Mair

Mae’r gerdd yn agor â chyfres o englynion yn moli Crist, pob un yn dechrau â Mair yn magu ei mab.

Mab Mair

Meckyt Meir mab yn y bru;Magodd Mair fab yn ei chroth;mat ganet yr a’e kanvu;da y ganed y sawl a’i gwelodd;llwybyr huan llydan y deulu.llydan fel llwybr yr haul yw ei deulu.
Cyssul Addaon, yr englyn cyntaf, Llyfr Coch Talgarth

Y cyngor

Yna daw’r cyngor ei hun. Gofynnodd y bardd i offeiriaid y byd, ei esgobion a’i ynadon, beth sydd orau i’r enaid, a’r ateb yw’r Pader a’r Credo bendigaid. Rho ddillad i’r noeth a bwyd i’r newynog. Paid â bod yn fuan i ddigio na chwennych cynnen; cadw dy bwyll a phaid â chwennych twyll; paid â lladd na niweidio neb. Os na fynni ddrwg, gwna dda.

Pobl y testun

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (1)

Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Pob llun ar y wefan