Hanes Cymru / Llenyddiaeth / Yr hen destunau Cymraeg

Copïwyd yn 1536

Buchedd Collen

Sant Llangollen: ei deithiau, ei frwydr â phencampwr paganaidd, a sut y wynebodd Wyn ap Nudd, brenin Annwfn, ar y bryn yn Glastonbury.

Llun: Afon Dyfrdwy yn rhuthro heibio’r hen bont garreg yn Llangollen · Akke, CC BY-SA 2.0 · Wikimedia Commons

Copïwydyn 1536, yn Llawysgrif Hafod 19, ac fe’i hargraffwyd wedyn yn Y Greal, 1805
SantCollen, a roddodd ei enw i Langollen
LleoeddLlangollen ar Ddyfrdwy, Glastonbury, Rhufain ac Orléans

Rhoddodd Collen ei enw i Langollen, llan Collen, ar afon Dyfrdwy, ac nid oes eglwys arall yng Nghymru wedi’i henwi ar ei ôl. Mae Buchedd Gymraeg Collen, a gopïwyd yn 1536, yn rhoi iddo ach fonheddig o Garadog Freichfras, ac yn adrodd am fywyd o deithio a sancteiddrwydd a ddaeth i ben yn nyffryn Dyfrdwy.

Milwr Crist

Dywed y Fuchedd i Gollen astudio yn Orléans yn Ffrainc, a mynd i Rufain adeg pan oedd y Cristnogion yno’n rhyfela ag ymerawdwr paganaidd. Ymladdodd Collen â phencampwr y paganiaid mewn ymladdfa unigol ac ennill, a chafodd ei anrhydeddu gan y pab. Yn ôl ym Mhrydain daeth yn abad Glastonbury, ac yn ddiweddarach aeth i fyw fel meudwy mewn cell ar y bryn uwch ei ben.

Collen a Gwyn ap Nudd

Un diwrnod yn ei gell clywodd ddau ddyn yn sôn am Wyn ap Nudd, brenin Annwfn a’r Tylwyth Teg. Dywedodd Collen wrthynt am dewi, nad oedd y rheini ond cythreuliaid. Yna daeth negesydd dridiau’n olynol, yn ei alw i siarad â’r brenin ar ben y bryn ganol dydd. Ar y trydydd dydd aeth Collen, gyda chostrel o ddŵr swyn wrth ei ochr.

Ar ben y bryn gwelodd y castell tecaf a welsai erioed, gyda minteioedd o farchogion, cerddorion a phob math o gerdd, a morynion yn eu blodau. Eisteddai Gwyn mewn cadair aur a chynigiodd wledd iddo. ‘Ni fwytâf ddail y coed,’ meddai Collen. Gofynnodd Gwyn a welsai erioed wŷr wedi’u gwisgo’n well na’i wŷr ef, mewn coch a glas. ‘Mae’r coch ar y naill ochr yn golygu llosgi,’ meddai Collen, ‘a’r glas ar y llall yn golygu oerni.’ Yna taflodd y dŵr swyn drostynt, ac aeth popeth: castell, marchogion, cerdd a gwledd, ac nid oedd dim ar ôl ond y twmpathau gleision.

Adref i Ddyfrdwy

Wedi hynny, medd y Fuchedd, daeth Collen i ddyffryn Dyfrdwy a gwneud ei gell yno, a rhyddhau pobl y dyffryn rhag cawres a oedd yn eu lladd. Mae wedi’i gladdu yn Llangollen, lle mae’r eglwys yn dal i ddwyn ei enw.

Pobl y testun

Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf

Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (1)

Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Pob llun ar y wefan