

Hanes Cymru / Llyfrgell / Hanesion y Llyfr Coch: Troea a’r Saeson
Hanesion y Llyfr Coch: Troea a’r Saeson
Proffwydoliaeth yr Eryr
Proffwydoliaeth yr Eryr: y cyfan, yng Nghymraeg y Myvyrian Archaiology o 1870, a argraffwyd o lawysgrif o’r Brut yn Llundain.
Llun: Cadwallon mewn llawysgrif Gymraeg ganoloesol · Parth cyhoeddus · Wikimedia Commons
Am Brut y Brenhinedd → Cynnwys →
Y Gymraeg
PROFFWYDOLIAETH YR ERYR
Megis y gwrthlat ywen ydreic coch, velly ybwrw y dywyll ywen. Dreic aruthyr waethaf athecca ac ochwythat y geneu oflamawl dan alysc yr holl ynys gan y llyuu. O arennev hwnnw ydaa maharen man ygnv, adiwyllya dymodieu ygyrn yny dwyrein. Odyna ydaa ystlum gwenwynic y olwc ac ar y edrychiat ydechryn fyd achreuyd. Odena ydaa llew anessa yr ystlum lluchyadenawc, ac adan ylywodraeth yllygryr sychet gwirioned. Crang or mor anessa yr llew ac adan y vediant ydivlanna rydit o rydit. gwedy y trosser y keibieu yn waywyr. Baed danhedawc anessa yr crang ac awalhaa yny mieri tew ac alymhaa y danned yngkedernyt ydeyrnas. Ochwant y baed y kynnyd kenev er hwn a ryd am agheu y dad megis am angheu ki. Gwaet ytat agynyd y meibion ar kyntaf onadunt aesgyn yoruchelder ydeyrnas yn defnyd hagen val blodeuyn gwaenwyn kyn noe frwyth y gwywa. O bechawt yr hen ypecha ymeibion wrth eu tat, ar caret cyntaf a vyd devnyd yr rei ol. Meibion agyuodant yn erbyn eu tat ac amdial pechawt, emysgaroed a a gyffroant yn erbyn y groth. Gwaet agyuyt yn erbyn eu gwaet yny daruo yr alban wylaw penyt yperheryn ac anobeithus boen avyd.
Yna ydaw kynhwrf kadarn owynt dwyrein, ac aruthra yr gorllewin ac adiwreida holl gedernyt iwerdon. Rac bron hwnnw ygostwng twysogion agwedy y kyngreirier tagneued yd ymgarant. Dolur adrossir yn llewenyd, pan drychont ytat yngkallon y vam. Ef anessa luir adisgynno ohat y llew ae lymder adylla kedernyt haearnawl ac un elechawl. ymynediat hwnnw ygedeu normandi ydwy ynys. ac odiruawr vod symudedigaeth ygwehenir ykledyf yrwrth ygoron. Oachaws anvhvndep y brodyr ygwledycha vn adelei ole arall. Kerbyt ypymet adreiglir yr petweryd agwedy y dyrehauer ylluneu priawt ysarret aetiaug asathyr yrteyrnassoed, yn dydyev diwethaf ydreic wen ygwesgerir yhetivet yn deir ran, ran adyn yr pwyl odwyreiniawl swllt ykyuoethogir, ran adisgin y iwerdon, o orllewiniawl ardymyr ydifrifheir, ydryded ran adric yn ywlat dielw agorwac ykeffir. Tanawl beleu adisgin ordwyrein a llydaw yny kylch ogylch alynga. Wrth ylluver yd ehetta adar yr ynys, arrei mwyaf onadunt wedy yd ennynner eu hesgyll adigwydaat yn dalyedigaeth. Or tan hwnnw ygenir gwreichionen; ac oe chynwrf y dechrynant yr ynyssed, yngwyd yrei mwisi ygwelir yr absent; ar eil mynedyat avyd gwaeth nor kyntaf.
Gwedy bo marw llew ywirioned, ykyvyt ybrenhyn gwyn bonhedic yn ynys brydein yn gyntaf yn ehedec, odena yn marchogaeth, odena yn disgynnu, ac yny disgynyat hwnnw ykeir ef yny glad. Odena ydygir ac adangossir abys ac ydywedir mae ybrenhin gwyn bonhedic Yna y kynullir y vydin ev agwystyl drostaw agymerir, ac yna ybyd porthmanyaeth ydynyon megys am eidion neu am dauat, ymendaat hynny ageisir ac ny byd yr un; onyt pen dros pen. Ac yna y kyuyt ygwyn ac ydaa yr lle ykyuyt yr heul, ar lle digwyd heul arall, yna ydywedir yn ynys brydein brenhin na vrenhin. Gwedy hynny ydyrcheif yben ac ydengis yuot yn vrenhin ar lawer o weithredoed dybryt, ac nyd arun elwedic. Gwedy torrer llawer ny byd atkyweirdeb, yna ybyd byt ybarcuttanot; adycko pawb ydreis avyd eidaw ehun ahynny abery seith mlyned.
Ac yna ybyd treis agordineu gwaet, ar fyrnev agyfflybir yr eglwiseu, ar hyn aheo un arall ay met, ac ar y uuched druan ygoruyd angheu ac yn ychydic odynyon ybyd kariat kyuan. Ar hyn agyngreirier ar osber ybore yllygrir. Odena ydaw or deheu ar veirch pren ar ewyn mor kyw eryr ac ymordwya ac ydaw y ynys brydein yr tir, ac yny lle ef asaetha y dy yr eryr, ac aygoresgyn, ac yna ybyd ryuel yn ynys brydein blwydyn ahanner, ac yna ny thal dym dwyn kyfnewit, namyn pawb abrydera pa furyf ykattwo yr eidiaw ehun ac ykeisio da arall. Odena ydaa ybrenhin gwyn bonhedic tu argorllewin ay vydin yny gylch yr henn lle gar llaw ydwfyr redegauc, ac yna yda y elynion yny erbyn, ac y lluniethir pawb yny le yny gylch ef. Allu y elynion afurfheir ar bon taryan.
Yna yd ymledir oc eu taleu ac eu hystlysseu, ac yna y llithyr ybrenhin gwyn bonhedic yr awel. Odena y nytha kyw yr erir yngoruchelder kreigeu holl ynys brydein, ny digwid yn ieuang, ny daw ynteu ar heneint, yna gogonyanua fynniant ny odef amreint na sarhaet idaw. agwedy ytagnauetter ydeyrnas ydigwyd,
O ble daw’r geiriau hyn
Cymraeg: Ystorya Dared, Brut y Saesson ac ‘O oes Gwrtheyrn Gwrtheneu’ o The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest, golygwyd gan John Rhys a J. Gwenogvryn Evans (Rhydychen, 1890), tt. 1–39 a 385–406
Cymraeg: Proffwydoliaeth yr Eryr o The Myvyrian Archaiology of Wales (Dinbych: Thomas Gee, 1870), t. 561
Argraffwyd y ddau amser maith yn ôl ac maent y tu hwnt i hawlfraint. Fe’u hargreffir yma fel yr argraffwyd hwy bryd hynny, gyda’r hen sillafu a’r cyfan; fy rhai i yw’r cyflwyniadau.
Darllen nesaf ar y pwnc hwn

Y Brutiau: croniclau Cymru
Brut y Brenhinedd, o Frutus hyd Gadwaladr, a Brut y Tywysogion, o Gadwaladr hyd y tywysog olaf: y croniclau mawr lle ysgrifennodd y Cymry eu hanes fel un stori hir, a sut y daethant i lawr atom.

Yr awduron a gofnododd Gymru gynnar
O Gildas yn Llanilltud Fawr hyd Gerallt Gymro ar y ffordd yn 1188: y mynachod, yr ysgolheigion a’r storïwyr a ysgrifennodd hanes y Brythoniaid, bucheddau’r saint, gweithredoedd y brenhinoedd a’r chwedlau cyntaf am Arthur, a’r copïwyr a gadwodd y cwbl.

Y Mabinogi: y llyfrau a gadwodd chwedlau Cymru
Mae Cymru wedi cadw ei straeon mwyaf ers naw can mlynedd. Dyma sut: storïwyr y llysoedd brenhinol, awdur anhysbys y Pedair Cainc, dau lyfr mawr a ysgrifennwyd i ddau uchelwr o Gymro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a merch ifanc o Saesnes yng ngwaith haearn Dowlais a ddysgodd Gymraeg ac a roddodd y chwedlau i’r byd.

Oes y Tywysogion
Cestyll, barddoniaeth a thywysogion Gwynedd a Deheubarth yn erbyn grym y Normaniaid a Lloegr.
Gan Ifan Diweddarwyd ddiwethaf
Wedi gweld camgymeriad? Rhowch wybodAm y wefan hon
Dyfynnu’r dudalen hon
Ifan, ‘Proffwydoliaeth yr Eryr’, Hanes Cymru, diweddarwyd 23 Tachwedd 2026, https://historyofwales.cymru/cy/llyfrgell/red-book-histories-eryr.
Cydnabod y lluniau ar y dudalen hon (4)
- Cronicl y tywysogion yn Llyfr Coch Hergest, a ysgrifennwyd tua 1400 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others; Jesus College, Oxford · CC BY 4.0
- Dechrau Salm 1 yn Sallwyr Rhygyfarch, a wnaed yn Llanbadarn Fawr tua 1080 — Ithael and Ieuan ap Sulien, Llanbadarn Fawr; Trinity College Dublin · Parth cyhoeddus
- Tudalen o Lyfr Coch Hergest (Coleg Iesu, Rhydychen, MS 111), a ysgrifennwyd tua 1382–1410 — Hywel Fychan ap Hywel Goch and others · CC BY 4.0
- Tŵr crwn Castell Dolbadarn dan fynyddoedd Bwlch Llanberis — Tilman2007 · CC BY-SA 4.0
Gwnaed y lluniau gan y bobl a enwir, ac fe’u defnyddir dan y trwyddedau a ddangosir. Gweld pob llun ar y wefan a’i gydnabyddiaeth